Page 1
TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu
www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 1
Cynnwys Cynnwys 1
Pwnc 1 – Natur sylweddau ac adweithiau
cemegol 2
Atomau 2
Cynrychioli atomau 3
Elfennau 3
Cyfansoddion 3
Defnyddio fformiwlâu cemegol 4
Adweithiau Cemegol 4
Cyfansoddion ïonig 5
Isotopau 6
Màs atomig cymharol (Ar) 6
Màs moleciwlaidd (fformiwla) cymharol (Mr) 6
Cyfansoddiad canrannol (%) cyfansoddion 7
Hafaliadau Cemegol 7
Molau 9
Cyfrifiadau 10
Cymysgeddau 12
Adweithiau cemegol 14
Pwnc 2 - Adeiledd atomig a'r Tabl Cyfnodol 15
Atomau – i'ch atgoffa 15
Y Tabl Cyfnodol 16
Adeiledd Electronig 18
Grŵp 1 – Y Metelau Alcalïaidd 19
Grŵp 7 – Yr Halogenau 20
Adnabod nwy hydrogen 22
Adnabod Ïonau 23
Grŵp 0 – Y Nwyon Nobl 24
Pwnc 3 – Dŵr 25
Beth sydd yn ein dŵr? 25
Cyflenwad dŵr cynaliadwy 25
Trin dŵr cyhoeddus 26
Dihalwyno dŵr môr 26
Fflworideiddio 27
Hydoddedd 28
Dŵr caled a meddal 29
Buddion dŵr caled i iechyd a'i effeithiau
anffafriol 30
Pwnc 4 – Y Ddaear sy'n newid 31
Adeiledd y Ddaear 31
Tectoneg Platiau 31
Yr Atmosffer 33
Materion amgylcheddol 34
Nwyon 35
Pwnc 5 – Cyfradd Newid Cemegol 36
Cyfraddau Adweithiau 36
Casglu Data/Mesur yr Adwaith 37
Damcaniaeth Gronynnau/Gwrthdrawiadau 38
Pwnc 6 – Calchfaen (TGAU Cemeg YN UNIG) 40
Dadelfeniad Thermol 40
Y Gylchred Calchfaen 42
Defnydd Calchfaen 44
Fersiwn 2.0 – Paul Greene, 2017
Page 2
TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu
www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 2
Pwnc 1 – Natur sylweddau ac adweithiau cemegol
Atomau Ym mhob atom, mae electronau â gwefr negatif mewn orbit o gwmpas niwclews â gwefr bositif.
Mae atomau'n cynnwys niwclews ac orbitau (plisg).
Y niwclews Mae'n cynnwys protonau a niwtronau.
Mae gan y protonau wefr positif (+).
Mae gan y niwtronau wefr niwtral (0) (dim gwefr).
Felly... ar y cyfan mae gan y niwclews wefr bositif.
Yr orbitau (plisg) Mae'r rhain yn cynnwys electronau.
Mae gwefr negatif (-) ar electronau.
Mae'r electronau'n symud o gwmpas y niwclews yn eu horbitau (plisg).
Mae'r electronau'n fach iawn ond mae eu horbitau'n cymryd llawer o le.
Does dim gwefr gyffredinol ar atomau. Mae nifer yr electronau yn hafal i nifer y protonau.
Ïon Os yw atom yn ennill neu'n colli electron mae'n troi'n ïon.
Ennill electron Ïon negatif
Colli electron Ïon positif
Symbolau Gallwn ni gynrychioli atomau â symbolau. Mae symbol cemegol yn cynrychioli
atomau pob elfen. Mae hwn fel rheol yn un neu ddwy o lythrennau, ond
weithiau rydyn ni'n defnyddio tair llythyren ar gyfer elfennau sydd newydd
gael eu darganfod.
Mae llythyren gyntaf symbol cemegol bob amser yn BRIFLYTHYREN, ac mae'r llythrennau eraill bob amser
yn llythrennau bach. Felly, symbol atom magnesiwm yw Mg ac nid mg, MG na mG.
GRONYN MÀS CYMHAROL GWEFR
Proton - Niwclews 1 +1
Niwtron - Niwclews 1 0
Electron - Orbit 0.0005 -1
O = ocsigen Na = sodiwm C = carbon Ag = arian Au = aur W = twngsten
Page 3
TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu
www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 3
Cynrychioli atomau
Rhif màs Nifer y protonau a'r niwtronau yn y niwclews.
Rhif atomig Nifer y protonau yn y niwclews.
Mae hwn hefyd yn hafal i nifer yr electronau yn yr orbitau.
Elfennau Elfennau yw sylweddau nad ydyn ni'n gallu eu torri'n sylweddau symlach â dulliau
cemegol; nhw yw blociau adeiladu sylfaenol pob sylwedd.
Elfennau yw sylweddau sydd wedi’u gwneud o un math o atom yn unig. Nifer y
protonau yn y niwclews sy'n pennu pa fath o atom ydyw.
Gwifren gopr - Mae'r atomau i gyd yn atomau copr
Diemwnt - Mae'r atomau i gyd yn atomau carbon
Nwy clorin - Mae'r atomau i gyd yn atomau
clorin
Cyfansoddion Sylweddau sy'n cynnwys dwy neu fwy o elfennau wedi’u cysylltu’n gemegol.
Mae gan gyfansoddion briodweddau cemegol gwahanol i'r elfennau sydd ynddynt.
Halen Bwrdd Fformiwla - NaCl
Elfennau Sodiwm Clorin
2 Elfen
Atomau 1 x Sodiwm 1 x Clorin
2 Atom
Na
Cl Na
Na
Cl Cl
Dŵr Fformiwla - H2O
Elfennau Hydrogen Ocsigen
2 Elfen
Atomau 2 x Hydrogen 1 x Ocsigen
3 Atom
O
H H
C C C
C C C
Asid Sylffwrig Fformiwla - H2SO4
Elfennau Hydrogen Sylffwr Ocsigen
3 Elfen
Atomau 2 x Hydrogen 1 x Sylffwr 4 x Ocsigen
7 Atom
Page 4
TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu
www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 4
Defnyddio fformiwlâu cemegol Rydyn ni'n ysgrifennu cyfansoddion drwy ddefnyddio fformiwla o symbolau yr elfennau ynddynt.
Cwestiwn Enghreifftiol wedi'i Gyfrifo
Beth yw cyfanswm nifer yr atomau yn y fformiwla hon (NH4)2SO4, amoniwm sylffad?
(NH4)2 SO4
2 x NH4 = (2 x N) + (2 x H4) = (2 x N) + (8 x H) 1 x SO4 = (1 x S) + (1 x O4) = (1 x S) + (4 x O)
Felly… (2 x N) + (8 x H) + (1 x S) + (4 x O)
CYFANSWM = 15 Atom
Adweithiau Cemegol Mae atomau'n cael eu haildrefnu yn ystod adwaith cemegol. Does dim atomau'n cael eu creu na'u dinistrio.
Defnyddio diagram ac allwedd i gynrychioli moleciwlau syml Weithiau mae hi'n anodd delweddu beth sy'n digwydd yn ystod adwaith, felly byddwn ni'n defnyddio
diagram i gynrychioli moleciwlau syml:
Gallwn ni hefyd ei gynrychioli â’r hafaliad diagram:
Page 5
TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu
www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 5
Cyfansoddion ïonig Pan mae adwaith cemegol yn digwydd, mae bondiau newydd yn ffurfio.
Mae cyfansoddion ïonig yn ffurfio drwy drosglwyddo electronau o atom metel i atom anfetel. Mae hyn yn
ffurfio gronynnau â gwefr, sef ïonau.
e.e. Pan mae sodiwm clorid (NaCl) yn ffurfio, mae un
electron yn cael ei drosglwyddo o orbit (plisgyn) allanol yr
atom sodiwm i mewn i orbit allanol yr atom clorin.
Bydd hyn yn ffurfio orbit allanol sefydlog llawn (neu
blisgyn) i'r ddau ronyn.
Mae'r atom sodiwm yn troi'n ïon sodiwm positif (Na+).
Mae'r atom clorin yn troi'n ïon clorid negatif (Cl-).
Yr atyniad electrostatig cryf rhwng y ddwy wefr sy'n dal
cyfansoddion ïonig at ei gilydd.
Ar y cyfan does dim gwefr oherwydd mae'r gwefrau positif a negatif yn canslo ei gilydd.
Defnyddio ïonau i greu fformiwlâu
Mae gan gyfansoddion briodweddau hollol wahanol i'r elfennau sydd ynddynt
Na+ Cl- Ïonau'n
canslo
NaCl
Mg2+ O2- Ïonau'n
canslo MgO
O2- Ïonau'n
canslo Li2O Li+ Li+
OH- Ïonau'n
canslo
Ca(OH)2 Ca2+ OH-
Fe S FeS
Metel
magnetig
gloyw
Powdr anfetel
melyn llachar
Lwmp o solid
anfagnetig
llwyd afloyw
Page 6
TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu
www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 6
Isotopau Isotopau yw ffurfiau atomig gwahanol o'r un elfen, sy'n
cynnwys yr un nifer o brotonau (ac electronau) ond nifer
gwahanol o niwtronau.
Màs atomig cymharol (Ar) Mae'r màs atomig cymharol (Ar) yn defnyddio màs cyfartalog
isotopau elfen. Mae'n rhaid iddo ganiatáu ar gyfer màs cymharol
pob isotop a'i gyflenwad cymharol.
Mae cyflenwad cymharol yn golygu faint sydd o bob isotop o'i
gymharu â chyfanswm yr elfen yn y byd.
e.e. Mae hyn yn golygu bod 2 isotop clorin.
Mae màs cymharol un yn 35 (35Cl) a'r llall yn
37 (37Cl).
Cymhareb 35Cl : 37Cl = 3:1
Màs moleciwlaidd (fformiwla) cymharol (Mr) Màs fformiwla cymharol yw cyfanswm màs cyfansoddyn. I gyfrifo hwn, rydyn ni'n adio Ar unigol pob atom
sydd yn y cyfansoddyn.
Elfen Màs cymharol yr
isotop Cyflenwad cymharol
Clorin (Cl) 35 3
37 1
1. Lluoswch fàs pob isotop â'i
gyflenwad cymharol.
2. Adiwch y rhain at ei gilydd.
3. Rhannwch â chyfanswm y
cyflenwadau cymharol.
𝐴𝑟 = (35 × 3) + (37 × 1)
3 + 1
= 𝟑𝟓. 𝟓
e.e. Cyfrifwch fàs moleciwlaidd cymharol (Mr) Fe2O3.
Ar Fe = 56 Nifer yr atomau Fe = 2 (2 x 56) = 112
Ar O = 16 Nifer yr atomau O = 3 (3 x 16) = 48
Cyfanswm = 160
Page 7
TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu
www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 7
Cyfansoddiad canrannol (%) cyfansoddion Ar ôl cyfrifo'r Mr gallwn ni gyfrifo'r canran o elfen sydd mewn cyfansoddyn gan ddefnyddio'r fformiwla:
Y ffordd orau o ddangos hyn yw drwy roi enghraifft:
Hafaliadau Cemegol Dydy atomau ddim yn cael eu gwneud na'u colli yn ystod adwaith cemegol – dim ond eu haildrefnu.
Gallwn ni ddefnyddio hafaliadau geiriau, symbolau neu ddiagramau i ddangos yr adweithiau.
e.e.
% 𝑀à𝑠 𝑐𝑎𝑛𝑟𝑎𝑛𝑛𝑜𝑙 = 𝐴𝑟 × 𝑁𝑖𝑓𝑒𝑟 𝑦𝑟 𝑎𝑡𝑜𝑚𝑎𝑢 (𝑜′𝑟 𝑒𝑙𝑓𝑒𝑛 ℎ𝑜𝑛𝑛𝑜)
𝑀𝑟 (𝑦 𝑐𝑦𝑓𝑎𝑛𝑠𝑜𝑑𝑑𝑦𝑛 𝑐𝑦𝑓𝑎𝑛)× 100
Cyfrifwch fàs canrannol y magnesiwm mewn magnesiwm carbonad, MgCO3.
Ar Mg = 24 Ar C = 12 Ar O = 16
Mr MgCO3 = 24 + 12 + (3 x 16) = 84
Nawr:
% 𝑚à𝑠 = 𝐴𝑟 × 𝑁
𝑀𝑟 × 100 =
24 × 1
84× 100 = 28.6%
Mae hyn yn dweud wrthyn ni bod 28.6% (yn ôl màs) o MgCO3 yn fagnesiwm.
Geiriau: Magnesiwm + Ocsigen Magnesiwm Ocsid
Symbolau Cytbwys: 2Mg + O2 2MgO
Diagramau:
Rhaid rhoi'r un nifer o atomau ar y ddwy ochr i'r hafaliad bob amser – fel eu bod nhw'n hafal.
Ochr chwith: Ochr dde:
Mg = 2 O = 2 Mg = 2 O = 2
Mg Mg O O
O Mg
O Mg
Page 8
TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu
www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 8
Cydbwyso hafaliadau Rydyn ni'n cydbwyso hafaliadau drwy roi rhifau o flaen y fformiwlâu lle mae eu hangen.
e.e.
Màs cytbwys Gallwn ni weld uchod bod nifer yr atomau sy'n mynd i mewn i adwaith yn hafal i nifer yr atomau sy'n dod
allan o adwaith.
Mae hyn yn wir am y màs hefyd.
Adwaith ffwrnais chwyth:
Haearn ocsid + Carbon monocsid Haearn + Carbon deuocsid
1. Fe2O3 + CO Fe + CO2
Chwith: Fe = 2 O = 4 C = 1 Dde: Fe = 1 O = 2 C = 1
2. Fe2O3 + CO 2Fe + CO2
Chwith: Fe = 2 O = 4 C = 1 Dde: Fe = 2 O = 2 C = 1
3. Fe2O3 + CO 2Fe + 3CO2
Chwith: Fe = 2 O = 4 C = 1 Dde: Fe = 2 O = 6 C = 3
4. Fe2O3 + 3CO 2Fe + 3CO2
Chwith: Fe = 2 O = 6 C = 3 Dde: Fe = 2 O = 6 C = 3
Mae nifer yr atomau nawr yn cydbwyso!
Adwaith ffwrnais chwyth:
Haearn ocsid + Carbon monocsid Haearn + Carbon deuocsid
Fe2O3 + CO Fe + CO2
Mr Fe2O3 = 160 Mr CO = 28 Ar Fe = 56 Mr CO2 = 44
Cyfanswm Mr ar y chwith = 188 Cyfanswm Mr ar y dde = 100
Gallwn ni weld yma bod y màs sy'n mynd i mewn yn anhafal i'r màs sy'n dod allan.
Fe2O3 + 3CO 2Fe + 3CO2
Mr Fe2O3 = 160 Mr CO = 84 Ar Fe = 112 Mr CO2 = 132
Cyfanswm Mr ar y chwith = 244 Cyfanswm Mr ar y dde = 244
Mae'r màs nawr yn cydbwyso!
Page 9
TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu
www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 9
Molau Haen Uwch
Mae'r môl yn derm sy'n disgrifio rhif penodol – fel mae'r gair ‘dwsin’ yn cynrychioli'r rhif 12. Fodd bynnag,
mae'r môl yn rhif llawer mwy: 6.02 x 1023 o atomau. (6 ac wedyn 23 sero).
Enwau eraill ar y rhif hwn yw cysonyn Avogadro neu rif Avogadro.
Rydyn ni'n diffinio môl fel nifer yr atomau mewn 12 gram yn union o Carbon-12 (12C). 12 yw rhif màs carbon,
felly mae màs un môl o atomau carbon yn 12 gram.
Felly… rydyn ni'n galw Ar neu Mr sylwedd mewn gramau yn un môl o'r sylwedd hwnnw.
e.e.
i gyfrifo nifer y molau, rydyn ni'n defnyddio'r hafaliad hwn:
𝑁𝑖𝑓𝑒𝑟 𝑦 𝑚𝑜𝑙𝑎𝑢 =𝑀à𝑠 𝑚𝑒𝑤𝑛 𝑔 (𝑦𝑟 𝑒𝑙𝑓𝑒𝑛 𝑛𝑒𝑢′𝑟 𝑐𝑦𝑓𝑎𝑛𝑠𝑜𝑑𝑑𝑦𝑛)
𝑀𝑟(𝑦𝑟 𝑒𝑙𝑓𝑒𝑛 𝑛𝑒𝑢′𝑟 𝑐𝑦𝑓𝑎𝑛𝑠𝑜𝑑𝑑𝑦𝑛)
Trawsnewid molau yn fàs
Gallwch chi aildrefnu’r hafaliad i ffurfio: 𝑚à𝑠 = 𝑚𝑜𝑙𝑎𝑢 × 𝑀𝑟
Cyfrifo'r Mr o folau a màs
Gallwch chi aildrefnu’r hafaliad i ffurfio:
𝑀𝑟 =𝑚à𝑠
𝑚𝑜𝑙𝑎𝑢
Mae gan haearn Ar o 56. Felly, mae màs un môl o haearn yn 56g.
Mae gan nwy nitrogen Mr o 28 (2 x 14). Felly, mae màs un môl o nwy nitrogen yn 28g.
Mae gan galsiwm carbonad (CaCO3) Mr o 100. Felly, mae màs un môl o CaCO3 yn 100g.
(40 + 12 + (16 x 3)) = 100
Enghraifft 1:
Sawl môl o atomau sydd mewn 4.8 g o
garbon?
𝑚𝑜𝑙𝑎𝑢 = 𝑚à𝑠
𝐴𝑟=
4.8𝑔
12= 0.4 𝑚ô𝑙
Ar C = 12
Enghraifft 2:
Sawl môl sydd mewn 640 g o ocsigen (O2)?
𝑚𝑜𝑙𝑎𝑢 = 𝑚à𝑠
𝑀𝑟=
640𝑔
32= 20 𝑚ô𝑙
Ar O = 16 Mr O2 = 16 x 2 = 32
Enghraifft 3:
Beth yw màs 0.6 môl o foleciwlau clorin (Cl2)?
𝑚à𝑠 = 𝑚𝑜𝑙𝑎𝑢 × 𝑀𝑟 = 0.6 × 71 = 42.6𝑔
Ar Cl = 35.5 Mr Cl2 = 35.5 x 2 = 71
Enghraifft 4:
Beth yw màs 0.1 môl o galsiwm carbonad
(CaCO3)?
𝑚à𝑠 = 𝑚𝑜𝑙𝑎𝑢 × 𝑀𝑟 = 0.1 × 100 = 10.0𝑔
Mr CaCO3 = 40 + 12 + (16 x 3) = 100
Enghraifft 5:
Mae 0.5 môl o gyfansoddyn yn pwyso 80g, cyfrifwch ei Mr.
𝑀𝑟 =𝑚à𝑠
𝑚𝑜𝑙𝑎𝑢=
80
0.5= 160
Page 10
TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu
www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 10
Cyfrifiadau
Cyfrifo cynnyrch canrannol (%) adwaith cemegol Y cynnyrch yw faint o gynhyrchion rydyn ni'n eu cael o adwaith cemegol. Y mwyaf o adweithyddion rydyn
ni'n eu rhoi i mewn, y mwyaf fydd y cynnyrch gwirioneddol.
Mae'r cynnyrch canrannol (%) yn dweud wrthyn ni faint o lwyddiant oedd yr arbrawf ar y cyfan. Mae'n
cymharu'r cynnyrch wedi'i ragfynegi (beth ddylen ni ei gael) â'r cynnyrch gwirioneddol (beth rydyn ni'n ei
gael yn ymarferol mewn gwirionedd).
𝐶𝑦𝑛𝑛𝑦𝑟𝑐ℎ 𝑐𝑎𝑛𝑟𝑎𝑛𝑛𝑜𝑙 (%) = 𝑐𝑦𝑛𝑛𝑦𝑟𝑐ℎ 𝑔𝑤𝑖𝑟𝑖𝑜𝑛𝑒𝑑𝑑𝑜𝑙 (𝑚𝑒𝑤𝑛 𝑔)
𝑐𝑦𝑛𝑛𝑦𝑟𝑐ℎ 𝑤𝑒𝑑𝑖′𝑖 𝑟𝑎𝑔𝑓𝑦𝑛𝑒𝑔𝑖 (𝑚𝑒𝑤𝑛 𝑔) × 100
Cyfrifo masau adweithyddion neu gynhyrchion o hafaliad cemegol cytbwys Haen Uwch
Drwy ddefnyddio masau atomig cymharol (Ar) a masau moleciwlaidd cymharol (Mr) mae'n bosibl cyfrifo faint
o gynnyrch sy'n ffurfio neu faint o adweithyddion sydd eu hangen.
e.e. Mewn proses weithgynhyrchu, rydyn ni'n rhagfynegi 12 tunnell o
gynnyrch, ond dim ond 10 tunnell rydyn ni'n ei gael. Beth yw’r cynnyrch
canrannol?
𝐶𝑦𝑛𝑛𝑦𝑟𝑐ℎ 𝑐𝑎𝑛𝑟𝑎𝑛𝑛𝑜𝑙 (%) = 𝟏𝟎
𝟏𝟐 × 100 = 83.33 %
Cyfrifo’r cynnyrch Pa FÀS O FAGNESIWM OCSID sy'n cael ei gynhyrchu wrth losgi 60g o fagnesiwm mewn aer?
Hafaliad Symbolau: 2𝑀𝑔 + 𝑂2 → 2𝑀𝑔𝑂
Mr: 2x24 2 (24+16)
48 80
Felly bydd 48g (neu dunnell) yn cynhyrchu 80g
Felly, ar gyfer pob 1g... 1g 80 ÷ 48 = 1.67g
Felly... Bydd 60g yn cynhyrchu 60 x 1.67 = 100.2g
Cyfrifo'r adweithyddion (gweithio am yn ôl) Beth yw MÀS Y MAGNESIWM sydd ei angen i gynhyrchu 90g o fagnesiwm ocsid?
Hafaliad Symbolau: 2𝑀𝑔 + 𝑂2 → 2𝑀𝑔𝑂
Mr: 2x24 2 (24+16)
48 80
Felly bydd 48g (neu dunnell) yn cynhyrchu 80g
Felly, ar gyfer pob 1g... 1g 48 ÷ 80 = 0.6g
Felly... i gynhyrchu 90g bydd angen 90 x 0.6 = 54g
𝑪𝒚𝒏𝒏𝒚𝒓𝒄𝒉
𝑨𝒅𝒘𝒆𝒊𝒕𝒉𝒚𝒅𝒅
𝑨𝒅𝒘𝒆𝒊𝒕𝒉𝒚𝒅𝒅
𝑪𝒚𝒏𝒏𝒚𝒓𝒄𝒉
Page 11
TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu
www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 11
Cyfrifo fformiwla cyfansoddyn o ddata'r masau sy'n adweithio (Fformiwla Empirig) Haen Uwch
Enghraifft 1 Pan mae 4 g o gopr ocsid yn cael ei rydwytho mewn ager hydrogen, mae'n gadael 3.2 g o gopr.
Cyfrifwch faint o ocsigen oedd wedi'i gynnwys yn y copr ocsid.
1. Cam cyntaf Darganfod y gwahaniaeth màs
4 – 3.2 = 0.8 g
Felly, ar gyfer pob copr ocsid:
Cu O
Màs 3.2 0.8
2. Rhannu ag Ar ÷ 64 (Ar Cu) ÷ 16 (Ar O)
= 0.05 = 0.05
3. Rhannu â'r lleiaf ÷ 0.05 ÷ 0.05
= 1 = 1
Felly y gymhareb yw 1 Cu : 1 O
Ar gyfer pob 1 Cu mae 1 O Fformiwla = CuO
Enghraifft 2 Beth yw fformiwla'r haearn ocsid sy'n cael ei gynhyrchu wrth i 44.8g o haearn adweithio ag 19.2g of
ocsigen?
Felly, ar gyfer pob haearn ocsid:
Fe O
Màs 44.8 19.2
Rhannu ag Ar ÷ 56 (Ar Fe) ÷ 16 (Ar O)
= 0.8 = 1.2
Rhannu â'r gwerth lleiaf 0.8 ÷ 0.8 1.2 ÷ 0.8
= 1 = 1.5
Rhaid i fformiwla gynnwys rhifau cyfan felly y gymhareb yw:
2 Fe : 3 O
Ar gyfer pob 2 Fe mae 3 O Fformiwla = Fe2O3
Page 12
TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu
www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 12
Cymysgeddau Mae cymysgedd wedi'i wneud o sylweddau gwahanol sydd heb eu cysylltu'n gemegol.
Er enghraifft, drwy gymysgu powdr haearn a phowdr sylffwr â’i gilydd, cewch chi gymysgedd o haearn a
sylffwr. Gallwch chi eu gwahanu nhw oddi wrth ei gilydd heb adwaith cemegol, yn union fel dewis melysion
lliw gwahanol o becyn cymysg a’u rhoi nhw mewn pentyrrau ar wahân.
Elfen Cyfansoddyn Cymysgedd o elfennau Cymysgedd o elfennau a
chyfansoddion
Mae hi'n hawdd gwahanu atomau/moleciwlau mewn cymysgeddau â phrosesau ffisegol fel:
1. Hidlo
2. Anweddu
3. Cromatograffaeth
4. Distyllu
Hidlo SOLID ANHYDAWDD O HYLIF
Mae hidlo’n ffordd dda o wahanu solid anhydawdd oddi
wrth hylif. (Sylwedd anhydawdd yw un sydd ddim yn
hydoddi.)
Er enghraifft, gallwn ni ddefnyddio hidlo i wahanu tywod o
gymysgedd o dywod a dŵr. Mae hyn yn gweithio oherwydd
dydy tywod ddim yn hydoddi mewn dŵr.
Page 13
TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu
www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 13
Anweddu SOLID HYDAWDD O HYLIF
Mae hyn yn ffordd dda o wahanu solid hydawdd oddi wrth hylif
(mae sylwedd hydawdd yn hydoddi, i ffurfio hydoddiant).
Er enghraifft, gallwn ni ddefnyddio anweddu i wahanu grisialau
copr sylffad o hydoddiant copr sylffad. Cofiwch mai’r dŵr sy’n
anweddu, nid yr hydoddiant.
Cromatograffaeth GWAHANU HYLIFAU OHERWYDD MÀS
Gallwn ni ddefnyddio cromatograffaeth i wahanu
cymysgeddau o gyfansoddion lliw. Mae cymysgeddau
sy'n addas i'w gwahanu â chromatograffaeth yn
cynnwys inciau, llifynnau a chyfryngau lliwio mewn
bwyd.
Rydyn ni'n gwneud cromatograffaeth syml ar bapur.
Rydyn ni'n rhoi smotyn o'r cymysgedd yn agos at
waelod darn o bapur cromatograffaeth ac yna'n rhoi'r
papur ar i fyny mewn hydoddydd addas, e.e. dŵr.
Wrth i'r hydoddydd fwydo i fyny'r papur, mae'n cludo'r cymysgeddau gydag ef. Bydd gwahanol gydrannau
o'r cymysgedd yn symud ar wahanol gyfraddau. Mae hyn yn gwahanu'r cymysgedd.
Gwerthoedd Rf
Gallwn ni adnabod gwahanol gromatogramau a chydrannau'r cymysgeddau wedi'u gwahanu drwy gyfrifo'r
gwerth Rf gan ddefnyddio'r hafaliad:
𝑅𝑓 =pellter mae′r cyfansoddyn yn ei symud
pellter mae′r hydoddydd yn ei symud
Mae gwerth Rf cyfansoddyn penodol yr un fath bob amser - os yw'r gromatograffaeth wedi'i gwneud yn yr
un ffordd. Mae hyn yn galluogi diwydiannau i ddefnyddio cromatograffaeth i adnabod cyfansoddion mewn
cymysgeddau.
e.e. Yn y diagram uchod, mae'r smotyn glas wedi codi 4 cm ac mae'r hydoddydd wedi codi 10cm. Felly,
gwerth Rf y smotyn glas yw:
𝑅𝑓 =pellter mae′r cyfansoddyn yn ei symud
pellter mae′r hydoddydd yn ei symud=
4
10= 𝟎. 𝟒
Ceisiwch gyfrifo gwerthoedd Rf y cyfansoddion glas,
porffor a melyn ar y chwith.
Page 14
TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu
www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 14
Distyllu GWAHANU HYLIFAU OHERWYDD BERWBWYNT
Distyllu – Gwahanu dŵr a hylifau cymysgadwy.
Mae gan hylifau pur ferwbwyntiau
penodol, e.e. mae dŵr yn berwi ar
100°C. Mae ethanol yn berwi ar
78°C. Mae dŵr ac ethanol yn
gymysgadwy (pan mae dau hylif yn
cymysgu â'i gilydd yn rhwydd heb
wahanu'n haenau).
Mae’r dull hwn yn gweithio
oherwydd mae berwbwyntiau’r
hylifau yn y cymysgedd yn
wahanol. Pan mae'r cymysgedd yn
cael ei wresogi, mae un hylif yn
anweddu cyn y llall.
Adweithiau cemegol Sut rydyn ni'n gwybod os oes adwaith cemegol wedi digwydd?
Efallai na fyddwch chi'n gallu gweld bod unrhyw sylweddau newydd wedi
ffurfio yn ystod newid. Isod mae rhai arwyddion y gallai fod newid cemegol
wedi digwydd.
Newid Tymheredd Yn aml, mae newid tymheredd yn digwydd gyda newid cemegol. Efallai y
byddwch chi wedi sylwi bod y tymheredd yn uwch wrth foncyffion sy'n llosgi
mewn coelcerth.
Ecsothermig – Rhyddhau gwres.
Endothermig – Amsugno gwres.
Newid Lliw Mae newid lliw yn aml yn arwydd o newid cemegol.
Meddyliwch am haearn yn rhydu...
Ffurfio Nwy (Eferwad) Mae ffurfio nwy neu swigod yn arwydd arall y gallai fod newid
cemegol wedi digwydd.
Mae'r adwaith ar y chwith yn rhyddhau CO2.
Ffurfio Solid Wrth gyfuno dau hylif, mae solid o'r enw gwaddod yn gallu ffurfio. Gwaddodion yw cregyn anifeiliaid fel
cregyn bylchog a chregyn gleision. Maen nhw'n ffurfio o ganlyniad i newid cemegol lle mae sylweddau mewn
dŵr môr yn cyfuno â sylweddau o'r creaduriaid.
Page 15
TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu
www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 15
Pwnc 2 - Adeiledd atomig a'r Tabl Cyfnodol
Atomau – i'ch atgoffa Gweler Pwnc 1 am fwy o fanylion.
Does dim gwefr ar atomau. (Cyffredinol = Niwtral)
Mae nifer y protonau (yn y niwclews) bob amser yr un
fath â nifer yr electronau (mewn plisg)
Mae gan y protonau wefr positif. (+)
Mae gwefr negatif (-) ar electronau.
Does dim gwefr ar niwtronau (0) – maen
nhw'n niwtral
GRONYN MÀS
CYMHAROL GWEFR
Proton - Niwclews
1 +1
Niwtron - Niwclews
1 0
Electron - Orbit
0.0005 -1
Sut i ysgrifennu mewn nodiant cywir:
Tri isotop hydrogen Yr un nifer o brotonau ac electronau Nifer gwahanol o niwtronau
Mae ïonau yn ffurfio wrth i atom ennill neu golli electron
Atom
Ïon
positif
Ïon negatif
Page 16
TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu
www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 16
Y Tabl Cyfnodol Caiff yr holl wahanol elfennau eu trefnu mewn siart, sef y tabl cyfnodol. Gwyddonydd o Rwsia, Dmitri Mendeleev, gynhyrchodd un o'r tablau cyfnodol
ymarferol cyntaf yn y 19eg ganrif. Mae'r tabl cyfnodol modern yn seiliedig yn bennaf ar ei syniadau ef:
mae'r elfennau wedi'u trefnu yn nhrefn rhif atomig, o'r lleiaf i'r mwyaf
enw’r rhesi llorweddol yw cyfnodau
enw’r colofnau fertigol yw grwpiau
mae gan elfennau yn yr un grŵp briodweddau tebyg i’w gilydd
mae metelau ar ochr chwith y tabl, ac anfetelau ar y dde
Cyfnod 1
Cyfnod 2
Cyfnod 3
Cyfnod 4
Cyfnod 5
P e r i o d 1
Cyfnod 6
P e r i o d 5
P e r i o d 1
Cyfnod 7
P e r i o d 1
Grŵ
p 1
Grŵ
p 2
Grŵ
p 3
Grŵ
p 4
Grŵ
p 5
Grŵ
p 6
Grŵ
p 7
Grŵ
p 0
Metelau
trosiannol
Yn aml, mae gan elfennau
sy'n ymddangos yn agos
at y rhaniad rhwng y
metelau a'r anfetelau
briodweddau rhyngol.
Hynny yw, maen nhw
weithiau'n gallu ymddwyn
fel metelau a/neu
anfetelau.
Page 17
TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu
www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 17
Metelau Mae haearn, magnesiwm ac aur yn enghreifftiau o elfennau metel. Mae metelau'n rhannu priodweddau.
Maen nhw:
yn sgleiniog, yn enwedig yn syth ar ôl cael eu torri
yn dargludo gwres a thrydan yn dda
yn hydrin (gallwn ni eu plygu a'u siapio nhw heb
iddyn nhw dorri)
Mae'r rhan fwyaf o fetelau hefyd yn rhannu priodweddau
eraill. Maen nhw:
yn solid ar dymheredd ystafell, heblaw mercwri
yn galed ac yn gryf
mae ganddyn nhw ddwysedd uchel
maen nhw'n soniarus
Mae tri metel (haearn, cobalt a nicel) yn fagnetig. Mae dur yn gymysgedd o elfennau, ond haearn gan fwyaf,
felly mae hefyd yn fagnetig. Dydy'r elfennau metel eraill ddim yn fagnetig.
Anfetelau Mae ocsigen, carbon, sylffwr a chlorin yn enghreifftiau o elfennau
anfetel. Mae anfetelau'n rhannu priodweddau. Maen nhw:
yn bŵl (ddim yn sgleiniog)
yn wael am ddargludo gwres a thrydan (maen nhw’n
ynysyddion)
yn wan ac yn frau (maen nhw’n torri neu’n dryllio'n hawdd
pan maen nhw'n solid)
Mae’r rhan fwyaf o anfetelau hefyd yn rhannu’r priodweddau canlynol:
mae ganddyn nhw ddwysedd isel (maen nhw’n teimlo’n ysgafn am eu maint)
Dydyn nhw DDIM yn soniarus (ddim yn diasbedain wrth gael eu taro)
Mae un ar ddeg o anfetelau’n nwyon ar dymheredd ystafell, gan gynnwys ocsigen a chlorin. Mae un anfetel,
bromin, yn hylif ar dymheredd ystafell. Mae’r anfetelau eraill yn solidau ar dymheredd ystafell, gan gynnwys
carbon a sylffwr.
Page 18
TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu
www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 18
Adeiledd Electronig Mae'r electronau mewn atom yn llenwi lefelau egni. Rydyn ni hefyd yn galw'r rhain yn blisg neu orbitau.
Mae pob electron mewn atom yn bodoli mewn lefel egni benodol. Y lefel egni isaf (plisg mewnol) sy'n llenwi
ag electronau gyntaf. Dim ond nifer penodol o electronau mae pob lefel egni yn gallu ei ddal cyn llenwi.
Mae’r lefel egni gyntaf yn gallu dal hyd at ddau electron, mae'r ail lefel egni'n gallu dal hyd at wyth, ac yn y
blaen.
Electronau yn y tair lefel egni gyntaf ar gyfer yr elfennau â rhifau atomig 1 i 20:
Lefel egni neu blisgyn Uchafswm nifer yr electronau
Cyntaf 2
Ail 8
Trydydd 8
Mae angen i chi allu ysgrifennu adeiledd electronig unrhyw un o'r ugain elfen gyntaf.
Ysgrifennu adeiledd electronig Rydyn ni'n ysgrifennu adeiledd electronig atom gan ddefnyddio rhifau i
gynrychioli'r electronau ym mhob lefel egni. Er enghraifft, ar gyfer sodiwm mae
hyn yn 2,8,1 – sy'n dangos bod:
2 electron yn y lefel egni gyntaf
8 electron yn yr ail lefel egni
1 electron yn y drydedd lefel egni.
Gallwch chi ddarganfod adeiledd electronig atom o'i rif atomig neu ei safle yn y
tabl cyfnodol. Dechreuwch â hydrogen, H, a chyfri'r elfennau sydd eu hangen i gyrraedd yr elfen dan sylw. Ar
gyfer sodiwm, mae'n cymryd:
2 elfen i gyrraedd pen y cyfnod (rhes) cyntaf
8 elfen i gyrraedd pen yr ail gyfnod
1 elfen i gyrraedd sodiwm yn y trydydd cyfnod.
Mae’r diagram o'r tabl cyfnodol yn dangos sut mae hyn yn gweithio.
Page 19
TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu
www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 19
Grŵp 1 – Y Metelau Alcalïaidd
Priodweddau ffisegol a chemegol
Mae gan bob metel grŵp 1 1 electron yn y plisgyn allanol.
Mae hyn yn eu gwneud nhw'n adweithiol iawn, gan eu bod
nhw'n bondio drwy golli electron.
Mae adweithedd yn cynyddu i lawr y grŵp gan ei bod hi'n
haws colli'r 1 electron allanol, am ei fod yn bellach oddi wrth
y niwclews.
Priodweddau cemegol
Li Lithiwm
Na Sodiwm
K Potasiwm
Rb Rwbidiwm
Cs Cesiwm
Fr Ffranciwm
Priodweddau ffisegol
Mae'r metelau i gyd yn edrych yn bŵl ar y tu
allan
Dros gyfnod byr, mae haen o ocsid yn gwneud
i'r metel edrych yn bŵl
Mae tu mewn pob metel yn sgleiniog
Gallwn ni dorri pob metel â chyllell
Rydyn ni'n eu cadw nhw mewn olew i'w hatal
nhw rhag adweithio ag ocsigen a lleithder yn
yr aer.
Mae eu dwysedd yn isel felly mae'r rhan
fwyaf yn arnofio
Mae'r berwbwynt a'r ymdoddbwynt yn is na
llawer o fetelau eraill
Ad
weith
edd
yn C
YN
YD
DU
Dw
ysedd
yn C
YN
YD
DU
Ymd
od
db
wyn
t yn LLEIH
AU
Berw
bw
ynt yn
LLEIHA
U
Adweithio â dŵr i ffurfio hydrocsidau (alcalïau)
𝒎𝒆𝒕𝒆𝒍 + 𝒅ŵ𝒓 → 𝒎𝒆𝒕𝒆𝒍 𝒉𝒚𝒅𝒓𝒐𝒄𝒔𝒊𝒅 + 𝒉𝒚𝒅𝒓𝒐𝒈𝒆𝒏
e.e. lithiwm
𝑙𝑖𝑡ℎ𝑖𝑤𝑚 + 𝑑ŵ𝑟 → 𝑙𝑖𝑡ℎ𝑖𝑤𝑚 ℎ𝑦𝑑𝑟𝑜𝑐𝑠𝑖𝑑 + ℎ𝑦𝑑𝑟𝑜𝑔𝑒𝑛
2𝐿𝑖(𝑠) + 2𝐻2𝑂(𝑙) → 2𝐿𝑖𝑂𝐻(𝑎𝑞) + 𝐻2 (𝑔)
Mae'r metelau'n creu alcali wrth adweithio â dŵr (porffor gyda dangosydd
cyffredinol) Mae adwaith y metel â dŵr yn creu hydrogen
Mae'r metel yn arnofio, yn symud ac yn hisian.
Sodiwm - Mae hefyd yn symud yn gyflymach ac mae'n ffurfio siâp pêl.
Potasiwm - Mae hefyd yn symud yn gyflym ac mae'n ffurfio fflam lelog.
Adweithio ag ocsigen i ffurfio ocsidau
𝒎𝒆𝒕𝒆𝒍 + 𝒐𝒄𝒔𝒊𝒈𝒆𝒏 → 𝒎𝒆𝒕𝒆𝒍 𝒐𝒄𝒔𝒊𝒅
e.e. potasiwm
𝑝𝑜𝑡𝑎𝑠𝑖𝑤𝑚 + 𝑜𝑐𝑠𝑖𝑔𝑒𝑛 → 𝑝𝑜𝑡𝑎𝑠𝑖𝑤𝑚 𝑜𝑐𝑠𝑖𝑑
4𝐾(𝑠) + 𝑂2 (𝑔) → 2𝐾2𝑂(𝑠)
Mae'r haen ocsid, sy'n gwneud i'r metel edrych yn bŵl, yn ffurfio'n gyflymach wrth i ni fynd i lawr y grŵp.
Page 20
TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu
www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 20
Grŵp 7 – Yr Halogenau Priodweddau ffisegol a chemegol
Mae gan bob elfen grŵp 7 7 electron yn y plisgyn allanol. Mae hyn yn eu gwneud nhw'n adweithiol iawn,
gan eu bod nhw'n bondio drwy ennill electron, i ffurfio plisgyn allanol llawn sy'n sefydlog iawn.
Mae adweithedd yn lleihau i lawr y grŵp gan fod y 7 electron allanol yn bellach oddi wrth y niwclews. Mae
llai o atyniad, felly mae hi'n anoddach ennill electron.
Priodweddau cemegol
Priodweddau ffisegol
Clorin – Nwy melynwyrdd
Bromin – Hylif oren-goch – anwedd oren
Ïodin - Solid llwyd sgleiniog – anwedd
porffor
Mae'r halogenau'n mynd yn llai
adweithiol wrth fynd i lawr y grŵp
Anweddau gwenwynig
F
Fflworin
Cl
Clorin
Br
Bromin
I
Ïodin
At
Astatin
Ad
weith
edd
yn LLEIH
AU
Ymd
od
db
wyn
t yn C
YN
YD
DU
Berw
bw
ynt yn
CY
NY
DD
U
Tue
dd
dd
irgroes i grŵ
p 1
Adweithiau halogenau â metelau alcalïaidd
𝒎𝒆𝒕𝒆𝒍 + 𝒉𝒂𝒍𝒐𝒈𝒆𝒏 → 𝒎𝒆𝒕𝒆𝒍 𝒉𝒂𝒍𝒊𝒅
e.e. potasiwm a chlorin
𝑝𝑜𝑡𝑎𝑠𝑖𝑤𝑚 + 𝑐𝑙𝑜𝑟𝑖𝑛 → 𝑝𝑜𝑡𝑎𝑠𝑖𝑤𝑚 𝑐𝑙𝑜𝑟𝑖𝑑
2𝐾(𝑠) + 𝐶𝑙2 (𝑔) → 2𝐾𝐶𝑙(𝑠)
Mae pob metel halid (halwyn) sy'n ffurfio yn solid gwyn.
Adweithiau halogenau â haearn
Halogenau a'u hadweithiau â gwlân haearn
Fflworin - Adweithio â bron unrhyw beth ar unwaith. Ychydig iawn
o wyddonwyr sy'n gweithio â fflworin am ei fod mor beryglus.
Clorin - Adweithio â gwlân haearn wedi'i wresogi yn gyflym iawn.
Bromin – Rhaid ei gynhesu a gwresogi'r gwlân haearn. Mae'r
adwaith yn gyflymach.
Ïodin – Rhaid ei wresogi'n gryf yn ogystal â'r gwlân haearn. Mae'r
adwaith yn araf.
Page 21
TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu
www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 21
Priodweddau halogenau a halidau a sut rydyn ni'n eu defnyddio nhw
Rydyn ni'n defnyddio'r halogenau fel elfennau ac fel cyfansoddion.
Clorin
1. Mae clorin yn ddiheintydd - mae'n lladd bacteria (gweler ïodin isod). Rydyn ni'n ei
ddefnyddio i ladd bacteria mewn dŵr yfed ac mewn pyllau nofio.
2. Clorin wedi'i hydoddi mewn hydoddiant sodiwm hydrocsid yw cannydd. Mae'n ffurfio
sodiwm clorad(I) - NaOCl. Mae cannydd domestig yn cynnwys tua 5% NaOCl(d).
3. Mae clorin yn hydoddi mewn dŵr i ffurfio:
asid clorig(I) (HOCl(d)) + asid hydroclorig (HCl(d))
Mae asid clorig(I) hefyd yn gannydd.
4. Rydyn ni'n defnyddio clorin wrth gynhyrchu llawer o gemegion gan gynnwys pryfleiddiaid, CFCau a'r
polymer PVC.
Ïodin
1. Gallwn ni ddefnyddio ïodin hefyd fel antiseptig i ladd bacteria. Mae gwahaniaeth
rhwng antiseptig a diheintydd. Mae'r ddau'n lladd germau, ond mae diheintydd yn
gryfach nag antiseptig. Mae antiseptig yn ddiogel i'w ddefnyddio ar y croen i helpu i
atal haint, ond bydd diheintydd yn niweidio celloedd y croen.
2. Roedd ïodin wedi'i hydoddi mewn alcohol (ethanol) yn antiseptig cyffredin yn y
gorffennol. "Tintur ïodin" oedd ei enw.
3. Mae ïodin yn chwarae rhan bwysig yn y corff (gweler potasiwm ïodid isod).
Fflworidau
Rydyn ni'n ychwanegu fflworidau at bast dannedd ac mewn rhai mannau yn ei
ychwanegu at ddŵr yfed. Rydyn ni wedi dangos bod fflworidau yn gallu lleihau
pydredd dannedd (niwed i ddannedd) yn enwedig mewn plant ifanc.
Bromidau ac Ïodidau
Mae arian bromid ac arian ïodid yn sensitif i olau ac rydyn ni'n eu defnyddio nhw
mewn ffilm ffotograffig. Mae arian bromid bron yn wyn, a phan mae golau'n ei daro,
mae'n rhannu'n fetel arian a bromin.
Mae'r metel arian yn edrych fel marc du ar y ffilm, sy'n cynhyrchu negatif du a gwyn
(monocrom).
Potasiwm Ïodid
Rydyn ni'n ychwanegu potasiwm ïodid (KI) at sodiwm clorid (halen cyffredin - gweler isod) i atal diffyg ïodin
yn y deiet.
Sodiwm Clorid
Halen cyffredin yw sodiwm clorid (NaCl).
1. Rydyn ni'n defnyddio halen yn y diwydiant bwyd fel cyflasyn ac fel cyffeithydd.
2. Rydyn ni hefyd yn cymysgu halen â graean ac yn ei daenu ar ffyrdd i atal ffyrdd
rhag rhewi mewn tywydd oer.
3. Rydyn ni'n defnyddio hydoddiant sodiwm clorid mewn meddalydd dŵr i
adnewyddu’r golofn cyfnewid ïonau.
4. Rydyn ni'n defnyddio electrolysis hydoddiant sodiwm clorid i wneud nwy clorin, nwy hydrogen a
sodiwm hydrocsid.
Page 22
TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu
www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 22
Adweithiau dadleoli Haen Uwch
Bydd halogenau mwy adweithiol yn dadleoli rhai llai
adweithiol.
Os yw elfen adweithiol yn dod i gysylltiad â chyfansoddyn
elfen lai adweithiol, mae adwaith cemegol yn gallu
digwydd. Mae'r elfen lai adweithiol yn cael ei thynnu o'r
cyfansoddyn ac mae'r elfen fwy adweithiol yn cymryd ei
lle.
Er enghraifft, os ydyn ni'n ychwanegu clorin at hydoddiant
sodiwm bromid, mae'r clorin yn cymryd lle'r bromin gan
ffurfio sodiwm clorid. Mae bromin yn ffurfio ar yr un pryd
a gallwn ni ei adnabod oherwydd ei liw.
Enghreifftiau o adweithiau dadleoliad:
1. clorin + sodiwm bromid sodiwm clorid + bromin
clorin yn fwy adweithiol na bromin
2. clorin + sodiwm ïodid sodiwm clorid + ïodin
clorin yn fwy adweithiol nag ïodin
3. bromin + sodiwm clorid dim adwaith
bromin yn llai adweithiol na chlorin
4. bromin + sodiwm ïodid sodiwm bromid + ïodin
bromin yn fwy adweithiol nag ïodin
5. ïodin + sodiwm clorid dim adwaith
ïodin yn llai adweithiol na chlorin
6. ïodin + sodiwm bromid dim adwaith ïodin yn llai adweithiol na bromin
Adnabod nwy hydrogen
Prawf am nwy hydrogen
Mae sblint yn cael ei gynnau a'i ddal yn agos at agoriad y
tiwb, yna mae'r caead yn cael ei dynnu fel bod y sblint yn
dod i gysylltiad â'r nwy. Os yw'r nwy'n fflamadwy, mae'r
cymysgedd yn tanio. Mae’r prawf hwn yn cael ei
ddefnyddio amlaf i adnabod hydrogen, sy’n tanio â sŵn
'pop gwichlyd' nodweddiadol.
Page 23
TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu
www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 23
Adnabod Ïonau
Prawf fflam - catïonau Rydyn ni'n defnyddio profion fflam i ganfod
presenoldeb rhai ïonau metel mewn cyfansoddyn.
Lithiwm Li+ - coch
Sodiwm Na+ - oren
Potasiwm K+ - lelog (pinc)
Calsiwm Ca2+ - oren-goch
Bariwm Ba2+ - gwyrdd golau
Gweithdrefn:
1. Dipiwch ddolen prawf fflam lân yn yr hydoddiant
sampl
2. Daliwch y ddolen prawf fflam ar ymyl fflam llosgydd
Bunsen
3. Edrychwch ar y newid i liw'r fflam, a phenderfynwch
pa fetel mae'n ei ddynodi
4. Glanhewch y ddolen mewn asid a rinsiwch hi â dŵr,
yna ailadroddwch gamau 1 i 3 â sampl newydd
Hydoddiant arian nitrad - halidau Gallwch chi brofi i weld a yw hydoddiant yn cynnwys ïonau clorid, bromid neu ïodid drwy ddefnyddio arian
nitrad. Os caiff hydoddiant arian nitrad ei ychwanegu at sampl dŵr sy'n cynnwys ïonau halid, mae'r arian
halid yn gwaddodi. Mae hyn oherwydd bod halidau arian i gyd yn anhydawdd mewn dŵr.
Mae'r canlyniadau’n edrych fel hyn:
Mae arian clorid yn waddod gwyn
𝐴𝑔(𝑑)+ + 𝐶𝑙(𝑑)
− → 𝐴𝑔𝐶𝑙(𝑠)
Mae arian bromid yn waddod lliw hufen
𝐴𝑔(𝑑)+ + 𝐵𝑟(𝑑)
− → 𝐴𝑔𝐵𝑟(𝑠)
Mae arian ïodid yn waddod melyn golau
𝐴𝑔(𝑑)+ + 𝐼(𝑑)
− → 𝐴𝑔𝐼(𝑠)
AgCl
AgBr
AgI
Page 24
TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu
www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 24
Grŵp 0 – Y Nwyon Nobl Mae'r rhain i gyd yn nwyon monatomig di-liw. Mae monatomig yn golygu bod y nwyon yn bodoli fei atomau
sengl heb ddim bondiau. Mae eu hymdoddbwyntiau a'u dwysedd yn cynyddu wrth i ni fynd i lawr y grŵp.
Defnyddio’r nwyon nobl
Dyma rai o’r prif ffyrdd o ddefnyddio'r nwyon nobl:
Rydyn ni'n defnyddio heliwm:
mewn balwnau
yn y cymysgedd o nwyon mae plymwyr yn ei anadlu'n ddwfn yn y môr
yn ei gyflwr hylifol, i oeri'r magnetau uwchddargludol mewn peiriannau i
sganio'r corff
Rydyn ni'n defnyddio neon:
mewn tiwbiau dadwefru trydanol (i'w defnyddio mewn arwyddion hysbysebu)
Rydyn ni'n defnyddio argon:
mewn bylbiau golau
wrth weldio, i atal y metel poeth rhag ocsidio
Rydyn ni'n defnyddio crypton:
mewn laserau i wneud llawdriniaeth ar lygaid
Rydyn ni'n defnyddio radon:
i drin canserau (mae ei atomau ymbelydrol yn dinistrio celloedd)
Pam mae’r nwyon nobl mor anadweithiol?
Yr enw gwreiddiol ar y nwyon nobl oedd y nwyon anadweithiol. Roedd hyn yn awgrymu nad oedden nhw'n
gallu cymryd rhan mewn unrhyw adweithiau. Fodd bynnag, yn 1962 cafodd cyfansoddyn oedd yn cynnwys
nwy nobl ei wneud am y tro cyntaf, ac wedi hynny cafodd y grŵp enw newydd!
Edrychwch ar adeileddau electronig y nwyon nobl:
Y lefel egni uchaf gyflawn (plisgyn allanol llawn) sy'n gwneud atomau nwy nobl mor sefydlog ac annhebygol o
adweithio. Dim ond rhai cyfansoddion sy'n cynnwys nwyon nobl, ac mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn ffurfio gyda'r
elfennau adweithiol fflworin ac ocsigen, a dim ond y nwyon nobl mwyaf sy'n gallu gwneud hyn hyd yn oed.
Page 25
TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu
www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 25
Pwnc 3 – Dŵr
Beth sydd yn ein dŵr? Mae angen dŵr er mwyn i fywyd fodoli. Mae ansawdd bywyd yn dibynnu ar argaeledd dŵr
glân. Rydyn ni'n gwneud dŵr yn y wlad hon yn yfadwy drwy drin dŵr glaw.
Mae pawb yn gwybod mai fformiwla dŵr yw H2O, ond mae'r dŵr rydyn ni'n ei ddefnyddio
bob dydd yn cynnwys mwy na dim ond hydrogen ac ocsigen.
Mae dŵr yn hydoddydd ardderchog; mae'n hydoddi dau brif fath o hydoddyn:
- Ïonau – Wrth i ddŵr lifo dros y ddaear, mae'n casglu amrywiaeth o ïonau o fwynau, e.e. Mg2+, Ca2+,
Na+ a K+
- Nwyon – Wrth i ddŵr ddisgyn fel glaw, mae ocsigen (hanfodol i fywyd morol) a charbon deuocsid
(hanfodol i fywyd planhigol, gostwng pH y dŵr) yn hydoddi yn y dŵr.
Mae dŵr yn casglu pethau eraill ar ei daith, fel micro-organebau, sy'n llygryddion naturiol ac yn cynnwys
bacteria a firysau, a llygryddion artiffisial gan gynnwys gwrteithiau, plaleiddiaid a gwastraff o gartrefi a
gwastraff diwydiannol.
Cyflenwad dŵr cynaliadwy Er bod digonedd o ddŵr ar y Ddaear, dim ond ffracsiwn bach iawn sy'n ddiogel i'w yfed. Mae ein
poblogaeth yn cynyddu a diwydiant yn datblygu, felly mae angen mwy o ddŵr nag erioed arnom ni.
Pam mae angen dŵr arnom ni?
Mae angen dŵr mewn ffatrïoedd i oeri peiriannau
Hylendid – Mae angen dŵr arnom ni i gadw'n lân a golchi dillad
Mae angen dŵr yfed arnom ni Mae angen dŵr ar ffermydd i dyfu bwyd
Rydyn ni'n defnyddio 150 litr o ddŵr yr un ar gyfartaledd bob dydd. Mae'r
dŵr yn dod o storfeydd tanddaearol naturiol, afonydd a gwahanol
gronfeydd dŵr. Yn ystod tywydd sych pan does dim digon o law bydd y
cyflenwad dŵr dan straen – bydd rhai ardaloedd yn profi sychder.
Mae problemau â phrinder dŵr yn ymddangos pan mae mwy o alw na'r
cyflenwad am ddŵr, sy'n bygwth bywyd a'r amgylchedd. Gallai dŵr fynd yn
ddrutach os yw newidiadau i'r hinsawdd yn y dyfodol yn achosi prinder dŵr
yn y Deyrnas Unedig. Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n defnyddio llai o ddŵr
yn y dyfodol. Dyma rai ffyrdd o ddefnyddio llai o ddŵr.
Peidio â defnyddio peiriannau golchi dillad a llestri nes eu bod
nhw’n llawn Cael cawod yn lle baddon
Defnyddio dŵr gwastraff i'w roi i blanhigion ac i olchi'r car
Trwsio tapiau sy'n diferu
Peidio â gadael i'r dŵr redeg gormod (e.e. wrth frwsio eich
dannedd)
Page 26
TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu
www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 26
Trin dŵr cyhoeddus Mae angen i ni wybod am y broses rydyn ni'n ei defnyddio i wneud dŵr yn ddiogel i'w yfed:
1. Dŵr i mewn – dŵr daear ac afonydd yn darparu dŵr i'r gronfa ddŵr
2. Hidlydd bras – cael gwared ar y gronynnau mwyaf
3. Gwaddodi – mewn cronfeydd/tanciau dŵr, mae gronynnau solid mwy yn setlo dan ddisgyrchiant.
4. Hidlo mân – drwy haenau o dywod a gro, i gael gwared ar ronynnau anhydawdd llai.
5. Clorineiddio – ychwanegu clorin i ladd bacteria, atal clefydau/ei wneud yn ddiogel i'w yfed.
Dihalwyno dŵr môr Y dull symlaf o ddihalwyno dŵr môr yw ei ddistyllu. Mae hyn yn golygu berwi dŵr môr sy'n defnyddio
symiau mawr o egni costus, felly dydy'r broses hon ddim yn ddichonadwy mewn llawer o rannau o'r byd.
Mae angen i chi wybod bod dulliau eraill
hefyd yn cael eu defnyddio, e.e.
defnyddio systemau pilenni.
Os yw gwlad yn bwriadu defnyddio
dihalwyno, mae angen iddynt sicrhau:
• ffordd adnewyddadwy o greu egni
gwres sydd ddim yn creu carbon
deuocsid (effaith tŷ gwydr)
• bod môr gerllaw
Dylech chi hefyd allu trafod potensial dihalwyno fel ffynhonnell dŵr yfed mewn gwahanol rannau o'r byd yn
nhermau pa mor agos ydynt at y môr, argaeledd egni ‘rhad’ a chyfoeth y wlad.
Page 27
TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu
www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 27
Fflworideiddio Mae symiau amrywiol o ïonau fflworid yn bodoli'n naturiol mewn dŵr, gan ddibynnu ble yn y Deyrnas
Unedig rydych chi'n byw.
Mae angen i chi allu cyflwyno'r dadleuon o blaid ac yn erbyn y broses ac mae disgwyl i chi wybod bod
fflworideiddio cyflenwadau dŵr yn fater dadleuol.
Mae'n gallu helpu i atal pydredd dannedd, a dyna pam mae'n cael ei ychwanegu at lawer o frandiau past
dannedd ac, mewn rhai ardaloedd, at y cyflenwad dŵr mewn proses o'r enw fflworideiddio.
Fflworideiddio dŵr cymunedol Mae'r rhan fwyaf o gyflenwadau dŵr yn cynnwys rhywfaint o fflworid
ac ar ddechrau'r 20fed ganrif, gwelwyd bod cysylltiad rhwng lefelau
pydredd dannedd a lefelau fflworid mewn dŵr yfed. Arweiniodd hyn at
gyflwyno cynlluniau fflworideiddio dŵr i ychwanegu fflworid at
gyflenwadau dŵr i wella iechyd deintyddol.
Mae cynlluniau fflworideiddio dŵr cymunedol wedi bod ar waith ers
dros 70 mlynedd; cyflwynwyd y cynllun fflworideiddio cyntaf yn Unol
Daleithiau America yn 1945. Sefydlwyd y cynllun mawr cyntaf yn y
Deyrnas Unedig yn Birmingham yn 1964.
Awdurdodau lleol unigol sy'n penderfynu ychwanegu fflworid at y
cyflenwad dŵr neu beidio.
Ydy fflworid yn ddiogel?
Mae rhai pryderon wedi'u mynegi y gallai fod cysylltiad rhwng fflworid ac amrywiaeth o gyflyrau iechyd.
Cafodd y cysylltiad rhwng ïonau fflworid a llai o achosion o bydredd dannedd ei sefydlu drwy arolygu plant
ysgol o wahanol oedrannau, ac mae'r data yn ddibynadwy oherwydd roedd yr arolwg yn cynnwys pob
plentyn ysgol heblaw'r rhai oedd yn digwydd bod yn absennol ar y diwrnod.
Mae llawer o bobl yn gwrthwynebu cynigion i fflworideiddio cyflenwadau dŵr am amryw o resymau:
Mae crynodiadau uchel o fflworid yn gallu bod yn niweidiol, e.e. gan achosi dadliwio neu bydredd
dannedd (fflworosis).
Mae yfed llawer o fflworid hefyd wedi cael ei gysylltu â chanserau'r stumog ac esgyrn ac ag
anffrwythlondeb.
Mae rhai pobl yn dadlau yn erbyn fflworid am ei fod yn ‘feddyginiaeth dorfol’ ac na ddylid gorfodi
neb i yfed fflworid.
Materion moesegol
Mae'n bwysig i chi sylwi nad yw gwyddoniaeth yn gallu datrys
materion moesegol ac felly nad yw'n gallu ateb y cwestiwn a yw
hi'n gywir fflworideiddio cyflenwadau dŵr. Yr unig beth y gall
gwyddoniaeth ei wneud yw darparu'r ffeithiau a'r dystiolaeth sydd
eu hangen ar bobl i ffurfio eu barn eu hunain. Dylech chi hefyd
gofio bod gwybodaeth am fflworideiddio cyflenwadau dŵr yn dod
o lawer o wahanol ffynonellau a bod rhai o'r rhain yn gallu bod yn
dueddol ac yn ceisio dylanwadu ar farn.
Page 28
TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu
www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 28
Hydoddedd Weithiau, wrth i chi ychwanegu solid at hylif, mae'r bondiau rhwng y gronynnau solid yn torri ac mae'r
gronynnau'n cymysgu â'r hylif – gan ffurfio hydoddiant. Enw’r broses hon yw hydoddi.
Term Diffiniad
Hydoddiant Cymysgedd o solid (hydoddyn) a hylif (hydoddydd) sydd ddim yn gwahanu e.e. heli
Hydoddyn Solid (neu sylwedd) sy'n cael ei hydoddi e.e. halen
Hydoddydd Yr hylif mae'n cael ei hydoddi i mewn iddo e.e. dŵr
Hydawdd Mae hyn yn golygu y bydd yn hydoddi
Anhydawdd Fydd hwn ddim yn hydoddi
Hydoddedd Faint o'r hydoddyn fydd yn hydoddi yn yr hydoddydd
Mae solidau hydawdd yn hydoddi'n haws os ydyn nhw wedi'u gwresogi. Mae gan bob solid gyfradd
hydoddedd wahanol.
Mae angen i chi fod yn gyfarwydd â'r dulliau canlynol:
• Ychwanegu màs hysbys o hydoddyn (e.e. amoniwm clorid) at gyfaint wedi'i fesur o ddŵr, fel mai dim ond
cyfran o'r hydoddyn sy'n hydoddi; drwy hidlo, sychu a phwyso'r gormodedd hydoddyn, gallwch chi fesur yr
hydoddedd.
• Ychwanegu ychydig bach mwy o hydoddyn wedi'i bwyso (e.e.
potasiwm clorad) nag a fydd yn hydoddi at gyfaint wedi'i fesur o
ddŵr ar dymheredd ystafell; os ydyn ni yna'n gwresogi'r hydoddiant
nes bod yr hydoddyn i gyd yn hydoddi ac yna'n gadael iddo oeri a
chofnodi'r tymheredd pan mae grisialau'n dechrau ymddangos,
gallwn ni ganfod yr hydoddedd ar bob tymheredd drwy ailadrodd
lawer gwaith gan gynyddu cyfaint y dŵr bob tro; o'r data hyn,
gallwn ni blotio cromlin hydoddedd.
Cromliniau hydoddedd Mae gan bob solid gyfradd hydoddedd wahanol.
Gallwn ni weld hyn drwy ddarllen a dehongli gwybodaeth o
graff.
e.e. I ffurfio casgliad ar gyfer cromliniau hydoddedd
potasiwm nitrad a sodiwm clorid, rydyn ni'n gweld bod
potasiwm nitrad yn llai hydawdd na sodiwm clorid hyd at
bwynt, yna bod ei hydoddedd yn cynyddu'n fawr, mewn
ffordd aflinol.
Dim ond ar un pwynt mae hydoddedd potasiwm nitrad a
sodiwm clorid yn union yr un fath (lle mae'r ddwy gromlin yn
croesi).
Mae hydoddedd sodiwm clorid yn cynyddu'n llinol ac yn
raddol wrth i'r tymheredd gynyddu.
Page 29
TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu
www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 29
Dŵr caled a meddal Gan ddibynnu ar y math o greigiau sydd mewn ardal, mae dŵr yn
gallu bod yn un o ddau fath - Dŵr caled a Dŵr meddal.
Dŵr Caled Os yw dŵr glaw yn llifo dros greigiau calchfaen (calsiwm
carbonad) ar ei ffordd i gronfa ddŵr, bydd ïonau calsiwm Ca2+ yn
casglu yn y dŵr. Mae ïonau eraill fel ïonau magnesiwm Mg2+
hefyd yn gallu casglu mewn dŵr. Mae’r ïonau ychwanegol hyn
yn gwneud y dŵr yn galed.
Dydy sebon mewn dŵr caled ddim yn ffurfio trochion yn rhwydd;
mae'n ffurfio llysnafedd
Rydyn ni'n diffinio caledwch mewn dŵr fel anhawster i
gynhyrchu trochion gyda sebon.
Mae dau fath o ddŵr caled:
• Dŵr caled dros dro
• Dŵr caled parhaol
Dŵr caled dros dro
Mae calsiwm hydrogen carbonadau (Ca(HCO3)2) a magnesiwm
hydrogen carbonadau (Mg(HCO3)2) yn ffurfio dŵr caled dros dro
oherwydd mae berwi'r dŵr hwn yn cael gwared ar y caledwch
wrth i'r hydrogen carbonadau ddadelfennu.
𝐶𝑎(𝐻𝐶𝑂3)2 (𝑑) → 𝐶𝑎𝐶𝑂3 (𝑠) + 𝐻2𝑂(ℎ) + 𝐶𝑂2 (𝑛)
Mae'r broses hon yn ffurfio magnesiwm carbonad a chalsiwm carbonad, sy'n anhydawdd. Mae hyn yn ffurfio
calch sy'n casglu ar degelli fel 'ffwr'.
Dŵr caled parhaol
Pan mae sylffadau calsiwm a/neu fagnesiwm, sy'n anhydawdd, yn bodoli mewn dŵr, rydyn ni'n dweud ei fod
yn ddŵr caled parhaol.
Trin dŵr caled parhaol
1. Soda golchi
Mae sodiwm carbonad (Na2CO3), sef soda golchi, yn gallu meddalu
dŵr caled dros dro a pharhaol. Mae'n hydawdd mewn dŵr ac yn
ychwanegu swm mawr o ïonau carbonad at y dŵr. Mae'r rhain yn
adweithio â’r ïonau calsiwm sydd wedi hydoddi, gan ffurfio
gwaddod calsiwm carbonad:
𝐶𝑎(𝑑)2+ + 𝐶𝑂3 (𝑑)
2− → 𝐶𝑎𝐶𝑂3 (𝑠)
Cofiwch: mae'r ïonau calsiwm yn dod o'r dŵr caled ac mae'r ïonau
carbonad yn dod o'r soda golchi.
Page 30
TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu
www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 30
2. Cyfnewid ïonau
Mae resin cyfnewid ïonau hefyd yn gallu meddalu dŵr caled
dros dro a pharhaol. Mae'r resin yn cael ei wneud yn beli
bach â diamedr tua 1–2 mm, sy'n llenwi tiwb neu ‘golofn’. I
ddechrau, mae ïonau sodiwm yn sownd wrth y resin
cyfnewid ïonau.
Wrth i'r dŵr caled lifo drwy'r golofn, mae ïonau sodiwm yn
dod oddi ar y resin ac yn mynd i mewn i'r dŵr, ac mae ïonau
calsiwm yn dod allan o'r dŵr ac yn glynu wrth y resin. Yr
effaith yw bod ïonau sodiwm, sydd ddim yn achosi caledwch,
yn cymryd lle ïonau calsiwm, sydd yn achosi caledwch.
Mae peiriannau golchi llestri'n cynnwys resin cyfnewid ïonau
i feddalu'r dŵr sy'n cael ei ddefnyddio i olchi'r llestri. Mae
angen defnyddio halen peiriant golchi llestri (sodiwm clorid)
i adnewyddu'r resin pan mae'n llawn ïonau calsiwm.
Arbrawf i ganfod a yw dŵr yn feddal, yn galed yn barhaol
neu'n galed dros dro
Mae hydoddiant sebon yn cael ei ychwanegu fesul 1 cm3 at y dŵr, a'r fflasg yn cael ei hysgwyd i geisio ffurfio
trochion (swigod). Pan mae trochion yn dechrau ffurfio, mae'r hydoddiant sebon yn cael ei ychwanegu fesul
0.5 cm3 nes bod y trochion yn aros yn barhaol.
Gallwch chi ddefnyddio bwred i fesur yr hydoddiant sebon. Mae dŵr meddal yn ffurfio trochion yn hawdd,
felly does dim angen llawer o hydoddiant sebon. Mae dŵr caled yn ffurfio trochion yn arafach, felly mae
angen mwy o hydoddiant sebon.
Os yw'n ymddangos bod dau sampl o ddŵr yn ddŵr caled, gallech chi ferwi
samplau o'r ddau fath o ddŵr. Yna, gallech chi gynnal yr un arbrawf â'r uchod.
Os yw hi'n dal i fod yn anodd ffurfio trochion yn y dŵr, mae'n ddŵr caled parhaol.
Buddion dŵr caled i iechyd a'i effeithiau anffafriol
Manteision
1. Cryfhau dannedd
2. Lleihau'r risg o glefyd y galon
3. Mae'n well gan rai pobl flas dŵr caled
Anfanteision
1. Mae calch ar degelli yn eu gwneud nhw'n llai effeithlon wrth ferwi dŵr, ac felly'n gwastraffu egni.
Mae calch hefyd yn gallu blocio pibellau dŵr poeth
2. Mae cael gwared ar y calch yn gallu bod yn ddrud
3. Mae angen mwy o sebon gyda dŵr caled
4. Mae meddalyddion dŵr sy'n cyfnewid ïonau yn rhyddhau ïonau sodiwm, sy'n gallu bod yn anaddas i
rai dibenion
5. Mae angen 'glanhau' ïonau magnesiwm a chalsiwm o unedau cyfnewid ïonau ar ôl iddyn nhw lenwi
(fel rheol â sodiwm clorid (halen))
Page 31
TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu
www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 31
Pwnc 4 – Y Ddaear sy'n newid
Adeiledd y Ddaear
Y Craidd Mewnol Y rhan boethaf o'r Ddaear, tymheredd hyd at
5,500 ⁰C wedi'i gwneud yn bennaf o haearn a
rhywfaint o nicel.
Y Craidd Allanol Haen hylifol sydd hefyd wedi'i gwneud o haearn
a nicel, bron mor boeth â'r craidd mewnol.
Y Fantell Mae'r rhan fwyaf trwchus o'r Ddaear yn cynnwys craig rannol dawdd, yn fwy solid tuag at ymyl allanol y
fantell ac yn fwy tawdd tuag at y craidd.
Y Gramen Y rhan deneuaf o'r Ddaear, mae ei thrwch yn amrywio ond mae'n gallu bod hyd at 70 km.
Tectoneg Platiau
Y Ddaear sy'n Newid Dros biliynau o flynyddoedd, mae’r Ddaear wedi newid yn gyson. Mae'r newidiadau hyn yn aml yn araf.
Ddwy filiwn o flynyddoedd yn ôl, roedd cyfandiroedd y Ddaear yn un bloc o'r enw Pangaea.
Rydyn ni nawr yn gwybod bod y gramen a rhan uchaf y fantell wedi'u darnio yn ddarnau mawr o’r enw
platiau tectonig. Mae’r platiau hyn yn "arnofio" ar y fantell. Dydyn nhw ddim yn aros mewn un lle; mae
ceryntau darfudiad yn achosi i'r platiau ddrifftio. Mae'r platiau hyn yn symud ar fuanedd o rai centimetrau y
flwyddyn. Weithiau, mae platiau'n gallu symud yn gyflym gan achosi daeargrynfeydd. Mae llosgfynyddoedd a
daeargrynfeydd yn aml yn digwydd rhwng ffiniau dau blât.
Mae angen i chi wybod bod haen allanol y Ddaear, sef y lithosffer (y gramen a rhan galed y fantell) wedi'i
thorri'n 7-8 o blatiau mawr a llawer o rai bach.
Alfred Wegener
Doedd dim modd esbonio rhai arsylwadau am y ddaear, ac yn
1914 cyflwynodd Alfred Wegener y rhagdybiaeth bod Affrica a
De America yn arfer bod yn un cyfandir oedd yna wedi rhannu'n
ddau. Aeth ati i chwilio am dystiolaeth i ategu ei ragdybiaeth.
Roedd y dystiolaeth hon yn cynnwys:
Haenau o'r un creigiau ar y ddau gyfandir
Pryfed genwair tebyg yn byw yn Ne America a De Affrica
Ffosiliau tebyg iawn ar y ddwy ochr i'r Môr Iwerydd
Planhigion ac anifeiliaid tebyg iawn â chyd-hynafiaid
Hefyd, roedd yn ymddangos bod arfordir Affrica a De America yn ffitio at ei gilydd fel jig-so
Doedd Damcaniaeth Wegener ddim yn cynnwys unrhyw ymdrech i egluro sut mae'r cyfandiroedd yn symud,
a chafodd y ddamcaniaeth wreiddiol ei gwrthod gan wyddonwyr ar y pryd.
Cafodd y syniad o geryntau darfudiad o dan y gramen ei ymchwilio mor bell yn ôl â'r 1930au, cafodd hyn ei
ddatblygu yn yr 1960au, ac yn y diwedd cafodd ei dderbyn fel gwir fecanwaith tectoneg platiau.
Page 32
TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu
www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 32
Ffiniau'r Platiau Yn ogystal ag esbonio pam mae cyfandiroedd yn symud, mae tectoneg platiau hefyd yn achosi
llosgfynyddoedd a daeargrynfeydd.
Mae 3 math o symudiad rhwng platiau: distrywiol, adeiladol a chadwrol.
Ffin Platiau Ddistrywiol
Wrth y ffin hon, mae un plât yn cael ei wthio i lawr i mewn
i'r fantell ac yn toddi i ffurfio magma. Mae hwn yna'n gallu
creu llosgfynyddoedd ffrwydrol.
Mae'r gramen ar wely'r môr yn fwy dwys nag o dan y
cyfandir. Dyma pam mae cramen y môr yn suddo o dan
gramen y cyfandir. Enw’r broses hon yw tansugno.
Mae mynyddoedd plyg hefyd yn aml yn ffurfio ar hyd y ffin
hon.
Mae craig igneaidd yn ffurfio wrth i graig dawdd o
losgfynyddoedd oeri ac ymsolido.
Ffin Platiau Adeiladol
Mae platiau'n gallu symud oddi wrth ei gilydd. Pan mae hyn yn
digwydd, mae craig dawdd (magma) o islaw'r arwyneb yn cael
ei rhyddhau.
Mae hon yn gallu oeri a ffurfio craig igneaidd newydd.
Os yw hyn yn digwydd dan wasgedd, mae ffrwydrad folcanig yn
gallu digwydd.
Os yw hyn yn digwydd ar grib yn y cefnfor, mae ynysoedd
newydd yn gallu ffurfio. Dyma sut cafodd Gwlad yr Iâ ei ffurfio.
Ffin Platiau Gadwrol
Wrth ffin platiau gadwrol, mae platiau'n llithro heibio i'w
gilydd.
Dyma lle mae daeargrynfeydd pwerus yn gallu digwydd.
Does dim llosgfynyddoedd yn digwydd oherwydd does
dim craig wedi toddi.
Mae Ffawt San Andreas yn California yn enghraifft o'r
math hwn o ffin. Rhaid i lawer o waith pensaernïaeth
gynnwys y gallu i wrthsefyll daeargrynfeydd.
Page 33
TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu
www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 33
Yr Atmosffer
Creu'r Atmosffer Roedd yr aer yn wahanol iawn 4,000 miliwn o
flynyddoedd yn ôl. Mae'r rhan fwyaf o wyddonwyr yn
cytuno bod yr atmosffer cyntaf wedi dod o
losgfynyddoedd.
1. Roedd y llosgfynyddoedd yn rhyddhau carbon
deuocsid, amonia ac anwedd dŵr (ager), gan
greu'r atmosffer cyntaf.
2. Wrth i'r Ddaear oeri, mae'r ager yn cyddwyso i
ffurfio cefnforoedd. Digwyddodd hyn yn gyflym
iawn. Roedd y newidiadau eraill i gyd yn cymryd
llawer mwy o amser.
3. Mae bacteria sy'n cyflawni ffotosynthesis yn ffurfio
yn y cefnforoedd. Wrth i'r bacteria ddefnyddio CO2,,
mae'r lefelau yn yr atmosffer yn gostwng.
4. Mae’r bacteria hyn yn rhyddhau ocsigen i'r
atmosffer. Mae lefelau O2 yn cynyddu.
5. Mae ocsigen yn adweithio ag amonia – gan ffurfio nitrogen. N2
yw'r nwy mwyaf cyffredin yn yr atmosffer.
6. Mae O2 yn cyfuno i ffurfio O3 (oson). Mae oson yn atal golau
uwchfioled rhag cyrraedd y Ddaear ac yn ffurfio haen
amddiffynnol sy'n helpu i atal canser y croen.
Cyfansoddiad Presennol Wrth i blanhigion gwyrdd esblygu, mae ffotosynthesis wedi bod yn
defnyddio'r carbon deuocsid gwreiddiol o'r atmosffer cyntaf.
Mae esblygiad anifeiliaid morol wedi cloi carbon deuocsid mewn calchfaen a sialc o'u cregyn.
Cafodd mwy o garbon deuocsid ei gloi mewn tanwyddau ffosil
o weddillion organebau morol a phlanhigion mawr ar y tir.
Cyfansoddiad presennol:
Nitrogen 78%
Ocsigen 21%
Argon (a nwyon nobl eraill) 0.9%
Carbon deuocsid 0.04%
CO2
NH3 H2O
Page 34
TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu
www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 34
Resbiradaeth, Hylosgiad a Ffotosynthesis Mae cyfansoddiad yr atmosffer wedi aros yn sefydlog am filiynau lawer o flynyddoedd.
Yn y can mlynedd diwethaf, mae bodau dynol wedi cynyddu hylosgiad drwy losgi tanwyddau ffosil ac wedi
lleihau ffotosynthesis oherwydd datgoedwigo.
Materion amgylcheddol
Carbon deuocsid Mae allyrru mwy o garbon deuocsid wedi arwain at dymheredd uwch ar y Ddaear, sef cynhesu byd-eang.
Mae carbon deuocsid yn gweithredu fel "clustog" o gwmpas y blaned, gan atal gwres rhag dianc.
Mae cynhesu byd-eang yn gallu achosi:
1. Newidiadau i batrymau tywydd e.e. hafau
sychach, poethach mewn rhai rhannau o’r byd
sy'n arwain at sychder
2. Llifogydd oherwydd mwy o law mewn rhai
ardaloedd
3. Capiau iâ a rhewlifoedd yn toddi'n gyflymach
4. Lefel y môr yn codi
Dal carbon
Mae gwyddonwyr yn meddwl am storio'r CO2 sy'n cael ei gynhyrchu drwy losgi tanwyddau ffosil o dan y môr
neu o dan ddaear mewn ffurfiadau daearegol. Does dim datrysiadau syml i'r problemau amgylcheddol sy'n
gysylltiedig â llosgi tanwyddau ffosil. Y ffordd orau o leihau allyriadau CO2 yw defnyddio egni'n gyfrifol a
defnyddio ffynonellau egni amgen.
Ffotosynthesis
CO2 i mewn O2 allan
Resbiradaeth a Hylosgiad
O2 i mewn CO2 allan
Ffotosynthesis
CO2 i mewn O2 allan
Resbiradaeth a Hylosgiad
O2 i mewn CO2 allan
Page 35
TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu
www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 35
Sylffwr deuocsid Mae sylffwr deuocsid yn ffurfio drwy losgi
amhureddau mewn tanwyddau ffosil. Mae
sylffwr deuocsid yn yr atmosffer yn ffurfio
asid sylffwrig wrth ddod i gysylltiad â dŵr (h.y.
glaw asid).
Mae pH “glaw glân” ≈ 5.5 ac mae pH glaw asid
yn yr amrediad 2-4.
Mae glaw asid yn gostwng pH llynnoedd,
afonydd a phyllau ac ati, gan achosi niwed i
fywyd dyfrol a difrodi coedwigoedd a
llystyfiant. Mae adeiladau sydd wedi'u
gwneud o galchfaen yn gallu cael eu difrodi
gan law asid. Mae glaw asid hefyd yn cynyddu cyfradd cyrydu adeileddau metel fel pontydd a cherfluniau.
Sgrwbio sylffwr
Rydyn ni'n hidlo nwyon tanwyddau ffosil o ffliwiau gwacáu ac mae'r broses o dynnu sylffwr deuocsid yn
digwydd yn y simneiau.
Nwyon Gallwn ni ddefnyddio'r profion canlynol i brofi am rai o'r prif nwyon sydd yn yr atmosffer:
Nwy Prawf Canlyniad positif
Ocsigen Prennyn yn mudlosgi
Bydd y prennyn yn ailgynnau
Carbon deuocsid Gyrru swigod drwy ddŵr calch
Bydd y dŵr calch yn troi'n llaethog
Hydrogen Prennyn ar dân
“Pop gwichlyd” a bydd y nwy'n llosgi
Page 36
TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu
www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 36
Pwnc 5 – Cyfradd Newid Cemegol
Cyfraddau Adweithiau Mae cyfradd adwaith yn golygu buanedd adwaith. Mae 4 ffordd o gynyddu cyfradd yr adwaith.
1. Tymheredd
2. Crynodiad (gwasgedd)
3. Arwynebedd arwyneb (maint)
4. Catalydd
Yn gyffredinol, mae adwaith cyflymach yn adwaith mwy proffidiol, ond mae angen ystyried rhai ffactorau
eraill; gofynion egni, argaeledd, arwynebedd gweithio a'r farchnad, ymysg eraill.
Mae cyfradd adwaith yn golygu faint o gynnyrch sy'n cael ei gynhyrchu mewn cyfnod penodol.
Gallwn ni fesur y gyfradd drwy fesur faint o gynnyrch sy'n cael ei gynhyrchu (màs neu gyfaint) mewn cyfnod
penodol. Drwy edrych ar raddiant graff, gallwn ni gyfrifo'r gyfradd.
𝒎𝒂𝒈𝒏𝒆𝒔𝒊𝒘𝒎 + 𝒂𝒔𝒊𝒅 𝒉𝒚𝒅𝒓𝒐𝒄𝒍𝒐𝒓𝒊𝒈 → 𝒎𝒂𝒈𝒏𝒆𝒔𝒊𝒘𝒎 𝒄𝒍𝒐𝒓𝒊𝒅 + 𝒉𝒚𝒅𝒓𝒐𝒈𝒆𝒏
Y mwyaf serth yw'r graddiant, y cyflymaf yw'r adwaith. Mae llinell fflat yn dangos bod yr adwaith wedi
stopio.
Gallwn ni ddefnyddio'r fformiwla ganlynol i gyfrifo'r gyfradd:
𝑐𝑦𝑓𝑟𝑎𝑑𝑑 𝑎𝑑𝑤𝑎𝑖𝑡ℎ
=𝑓𝑎𝑖𝑛𝑡 𝑜 𝑎𝑑𝑤𝑒𝑖𝑡ℎ𝑦𝑑𝑑 𝑠𝑦𝑑𝑑 𝑤𝑒𝑑𝑖′𝑖 𝑑𝑑𝑒𝑓𝑛𝑦𝑑𝑑𝑖𝑜 𝑛𝑒𝑢 𝑓𝑎𝑖𝑛𝑡 𝑜 𝑔𝑦𝑛𝑛𝑦𝑟𝑐ℎ 𝑠𝑦𝑑𝑑 𝑤𝑒𝑑𝑖 𝑓𝑓𝑢𝑟𝑓𝑖𝑜
𝑎𝑚𝑠𝑒𝑟
Adweithyddion Cynhyrchion
Page 37
TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu
www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 37
Casglu Data/Mesur yr Adwaith Y tri phrif ddull o gasglu'r data hyn yw:
1. Casglu nwy a mesur ei gyfaint Defnyddio chwistrell nwy i fesur y cyfaint.
Mae hwn yn gallu bod yn fesuriad manwl
gywir oherwydd cydraniad y chwistrell.
Defnyddio stopwatsh i fesur yr amser,
ond mae ymateb bod dynol yn gallu
lleihau'r manwl gywirdeb.
Os yw'r adwaith yn rhy gyflym, gallai
chwythu'r plymiwr allan drwy ben y
chwistrell.
2. Mesur newid màs yn ystod adwaith (rhyddhau nwy) Cynnal yr adwaith ar glorian màs Wrth i nwy gael ei ryddhau, gallwch chi
ddarllen y màs sy'n “diflannu”
Hwn yw'r mwyaf manwl gywir o'r tri dull
oherwydd mae cloriannau'n tueddu i fod â
chydraniad uchel.
Anfantais: mae'r nwy'n cael ei ryddhau'n
syth i'r ystafell.
3. Mesur dyddodiad Mae gwaddodion yn achosi
"cymylogrwydd" mewn hydoddiant.
Gallwn ni edrych ar farc drwy'r
hydoddiant ac amseru pa mor hir mae'n
ei gymryd iddo ddiflannu.
Mae angen i'r hydoddiant cychwynnol
fod yn dryloyw er mwyn i hyn weithio.
Mae'r dull hwn yn oddrychol ac yn gallu
bod yn wallus. Bydd llawer o bobl yn
anghytuno ynglŷn â'r union adeg pan
mae'r marc yn "diflannu".
Page 38
TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu
www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 38
Damcaniaeth Gronynnau/Gwrthdrawiadau Rhaid i ronynnau wrthdaro â digon o egni i adweithio – rydyn ni'n galw'r rhain yn wrthdrawiadau
llwyddiannus.
Tymheredd Pan mae'r tymheredd yn cynyddu, mae'r gronynnau i gyd
yn symud yn gyflymach, h.y. mae ganddyn nhw fwy o egni
cinetig. Os ydyn nhw'n symud yn gyflymach, byddan nhw'n
achosi mwy o wrthdrawiadau llwyddiannus.
Crynodiad (Gwasgedd) Os ydyn ni'n gwneud hydoddiant yn fwy crynodedig, mae hynny'n golygu bod mwy o ronynnau o'r
adweithydd rhwng y moleciwlau dŵr ac yn gwneud gwrthdrawiad llwyddiannus yn fwy tebygol.
Mewn nwy, mae cynyddu'r gwasgedd yn golygu bod y gronynnau'n agosach at ei gilydd ac felly bydd
gwrthdrawiad llwyddiannus yn fwy tebygol.
Arwynebedd Arwyneb (Maint) Bydd torri solid yn ddarnau llai yn cynyddu cyfanswm yr arwynebedd arwyneb. Mae hyn yn golygu bod gan
y gronynnau yn yr hydoddiant fwy o arwynebedd i adweithio ag ef, ac felly mwy o wrthdrawiadau
llwyddiannus.
Oer – llai o egni Oer – llai o egni Poeth - mwy o egni
Crynodiad uchel Crynodiad isel
Arwynebedd
arwyneb bach Arwynebedd
arwyneb mawr
Page 39
TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu
www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 39
Catalyddion Catalydd yw sylwedd sy'n cynyddu buanedd adwaith heb gael ei newid yn gemegol na'i ddefnyddio yn y
broses.
Mae catalydd yn gweithio drwy roi arwyneb i'r adweithyddion lynu ato lle maen nhw'n gallu “taro” i
mewn i'w gilydd. Dydy cyfanswm nifer y gwrthdrawiadau ddim yn cynyddu ond mae nifer y
gwrthdrawiadau llwyddiannus yn cynyddu.
Mae datblygu catalyddion gwell yn bwysig iawn mewn diwydiant oherwydd mae'n gallu arwain at
ffyrdd newydd o wneud defnyddiau a allai ddefnyddio llai o egni, defnyddio defnyddiau crai
adnewyddadwy neu ddefnyddio llai o gamau.
Mae catalyddion yn caniatáu i adweithiau weithio ar dymheredd llawer is, sy'n golygu defnyddio llai
o egni.
Mae angen gwahanol gatalyddion ar gyfer gwahanol adweithiau.
Mae catalyddion yn gallu bod yn ddrud, mae angen eu tynnu nhw o'r adwaith ac mae amhureddau'n
gallu eu “gwenwyno” nhw.
Catalyddion biolegol yw ensymau.
Yn yr enghraifft hon, mae
platinwm yn gweithredu fel
catalydd i'r adweithyddion.
Egni Actifadu
Yr egni actifadu yw'r isafswm egni sydd ei angen ar yr
adweithyddion i dorri eu bondiau.
Mae catalydd yn lleihau’r egni actifadu. Mae'n
darparu llwybr gwahanol ar gyfer yr adwaith.
Mae cyfanswm newid egni (ΔH) yr adwaith yn aros yr
un fath.
Trosglwyddo egni mewn adweithiau
Δ H
Mewn adwaith ecsothermig, mae
egni'n cael ei drosglwyddo i'r
amgylchoedd, fel arfer ar ffurf
gwres, sy'n achosi cynnydd yn y
tymheredd.
Mewn adwaith endothermig, mae
egni'n cael ei gymryd o'r
amgylchoedd, fel arfer ar ffurf
gwres, sy'n achosi gostyngiad yn y
tymheredd.
Page 40
TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu
www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 40
Pwnc 6 – Calchfaen (TGAU Cemeg YN UNIG)
Dadelfeniad Thermol Mae carbonadau metel fel calsiwm carbonad neu copr carbonad yn torri i lawr pan gaiff ei gynhesu'n gryf.
Pan fo cyfansawdd yn rhannu'n ddwy neu fwy trwy wres, cyfeirir ato fel dadelfeniad thermol.
e.e.
Mae dadelfeniad thermol yn cynhyrchu metel ocsid a charbon deuocsid.
Gwaith Ymarferol Penodol Dylech allu disgrifio manylion ymarferol arbrawf i ddangos dadelfeniad thermol o garbonadau.
“Gellir gwneud i garbonadau metel ymddatod (dadelfennu) pan gânt eu gwresogi. Po galetaf yw hi i'w
dadelfennu, y mwyaf sefydlog yw'r metelau hyn. Yn yr arbrawf hwn, caiff tri charbonad eu gwresogi ar
dymheredd uchel er mwyn gweld pa mor hawdd y maent yn dadelfennu. Drwy gynnal yr arbrawf hwn,
gallwch roi'r carbonadau yn nhrefn eu sefydlogrwydd thermol.” CBAC Arbrawf Penodedig
Arbrawf:
Gellir mesur cyflymder dadelfennu trwy:
1. Amseru newid lliw y carbonad metel.
2. Amseru newid lliw y dŵr galch - Mae'n troi o glir i fod yn “laethog” ym mhresenoldeb carbon
deuocsid.
Carbonadau metel cyffredin a ddefnyddir yn yr arbrawf hwn:
1. calsiwm carbonad (CaCO3)
2. copr (II) carbonad (CuCO3)
3. sodiwm carbonad (Na2CO3)
calsiwm carbonad calsiwm ocsid + carbon deuocsid
CaCO3 (s) CaO (s) + CO2 (n)
metel carbonad metel ocsid + carbon deuocsid
XCO3 (s) XO (s) + CO2 (n)
Page 41
TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu
www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 41
Canlyniadau:
Metel carbonad
sodiwm carbonad Na2CO3
calsiwm carbonad CaCO3
copr(II) carbonad CuCO3
Lliw cyn gwresogi gwyn gwyn gwyrdd
Lliw ar ôl gwresogi gwyn gwyn du
Nwy sy’n cael ei ryddhau dim carbon
deuocsid carbon
deuocsid
Hawdd i ddadelfennu?? Anodd Eithaf hawdd Hawdd
Casgliadau:
• Ni welir unrhyw adwaith gyda sodiwm carbonad, gan y fwyaf adweithiol yw’r metel, y mwyaf
sefydlog yw’r carbonad.
• Mae calsiwm yn llai adweithiol na sodiwm, felly mae gwres yn gallu dadelfennu calsiwm carbonad yn
weddol hawdd.
• Copr yw'r metel lleiaf adweithiol ac mae'n dadelfennu'n gyflym ac yn hawdd.
Felly…
Po fwyaf adweithiol yw'r metel, y mwyaf sefydlog yw’r carbonad.
Page 42
TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu
www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 42
Y Gylchred Calchfaen Mae angen dysgu y wybodaeth yma:
Enw cyffredin Enw cemegol Fformiwla
Calchfaen Calsiwm carbonad CaCO3 (s)
Calch brwd Calsiwm ocsid CaO (s)
Calch tawdd Calsiwm hydrocsid Ca(OH)2 (s)
Dŵr calch Calsiwm hydrocsid (dyfrllyd) Ca(OH)2 (aq)
Gellir defnyddio calchfaen i greu dŵr calch, sy'n gemegyn diwydiannol pwysig (gweler yn ddiweddarach yn yr
pwnc yma). Mae tri cham i'w ffurfio:
Cam 1: Rhostio am 20 munud
Cynhesu’r calsiwm carbonad (calchfaen) am 20 munud. Mae calchfaen yn
tywynnu ac yn briwsionllyd . Dyma'r dadelfeniad i galsiwm ocsid (calch brwd).
Hafaliad:
calsiwm carbonad calsiwm ocsid + carbon deuocsid
(calchfaen) (calch brwd)
CaCO3 (s) CaO (s) + CO2 (n)
Cam 2: Ychwanegwch ychydig o ddiferion o ddŵr
Mae ychydig ddiferion o ddŵr yn cael eu hychwanegu at y calsiwm ocsid (calch brwd).
Mae hyn yn achosi'r cyfansawdd i sïo a rhyddhau stêm. Mae hyn yn ffurfio calsiwm
hydrocsid (calch tawdd). Mae'r adwaith yn ecsothermig.
Hafaliad:
calsiwm ocsid + dŵr calsiwm hydrocsid
(calch brwd) (calch tawdd)
CaO (s) + H2O (h) Ca(OH)2 (s)
Cam 3: Ychwanegu gormodedd o ddŵr
Mae calsiwm hydrocsid (calch tawdd) yn hydoddi ychydig mewn dŵr. Mae
gormodedd o ddŵr yn cael ei ychwanegu er mwyn ffurfio hydoddiant alcalïaidd o'r
enw dŵr calch.
Hafaliad:
calsiwm hydrocsid + dŵr calsiwm hydrocsid
(calch tawdd) (dŵr calch)
Ca(OH)2 (s) + H2O (h) Ca(OH)2 (d)
Page 43
TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu
www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 43
Cylchred: Mae angen i chi allu disgrifio'r arsylwadau a wnaed yn ystod yr holl adweithiau hyn:
Adwaith dŵr calch gyda charbon deuocsid
Mae carbon deuocsid sy'n cael ei byrlymu trwy dŵr calch yn achosi iddo droi’n “llaethog”, oherwydd bod
calsiwm carbonad anhydawdd yn ffurfio.
Y prawf ar gyfer nwy carbon deuocsid yw ei fod yn troi dŵr calch yn “llaethog”
Hafaliad:
calsiwm hydrocsid + carbon deuocsid calsiwm carbonad + dŵr
Ca(OH)2 (d) + CO2 (n) CaCO3 (s) + H2O (h)
Calchfaen
CaCO3 (s)
Calch brwd
CaO(s)
Calch tawdd
Ca(OH)2 (s)
Dŵr calch
Ca(OH)2 (aq) Cam 1:
Rhostio’r calchfaen
Rhyddhau CO2
Cam 2:
Ychwanegwch ychydig o
ddiferion o ddŵr
Ecsothermig
Cam 3:
Ychwannegu gormodedd o
ddŵr
Page 44
TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu
www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 44
Defnydd Calchfaen Mae calchfaen yn ddeunydd crai pwysig a geir drwy chwarelu. Mae yna lawer o fanteision o ddefnyddio
calchfaen ond mae anfanteision hefyd ynglŷn ag effeithiau chwareli.
Defnydd deunydd crai
• Defnyddir wrth gynhyrchu dur a haearn. Caiff ei ychwanegu at fwyn haearn a golosg yn y ffwrnais chwyth i
cael gwared o amhureddau.
• Defnyddir i greu ffyrdd wrth ei gymysgu â bitwmen gan ei fod yn gryf.
• Mae posib ei ddefnyddio i greu sment pan gaiff ei gymysgu â chlai neu dywodfaen. Yna gellir ei agregu
(cymysgedd o greigiau adeiladu) i ffurfio concrit.
• Defnyddir calchfaen i niwtralu a chodi pH pridd asidig (sydd fel arfer yn llai na pH 6.5).
• Mae calch cyflym a chalch yn cael ei ychwanegu at lynnoedd asidig i wella amrywiaeth bywyd dyfrol.
• Defnyddir calchfaen i amsugno nwyon gwastraff asidig fel sylffwr deuocsid mewn simneiau gorsafoedd
pŵer. Cyfeirir at y rhain fel 'prysgwyr sylffwr'.
• Gallu cael ei ddefnyddio i greu gwydr
• Wedi'i ddefnyddio wrth gynhyrchu gwrth-asidau meddygol
• Cael ei ddefnyddio mewn past dannedd fel sgraffinydd
Effeithiau chwarelu Calchfaen
Mae anfanteision hefyd yn gysylltiedig â chwareli calchfaen.
Mae'r prif anfanteision yn cynnwys:
• ffurfio llwch
• sŵn oherwydd ffrwydro’r graig
• mwy o draffig, gyda lorïau trwm
• mae'r tirwedd yn cael ei effeithio
• yn dinistrio bywyd gwyllt