Cystadleuaeth Straeon Difyr Dahl AMCANION DYSGU: • Deall strwythur stori. • Ystyried elfennau gwahanol stori antur. • Datblygu braslun o stori ADNODDAU: • Taflenni gwaith: • Taflen Weithgaredd Antur Roald Dahl • Cynllun Stori Antur GWEITHGAREDDAU ADDYSGU: Gwaith Grw ˆ p/Dosbarth 1. Gan weithio mewn parau/grwpiau, gofynnwch i’r plant a allant feddwl am unrhyw anturiaethau sy’n digwydd yn straeon Roald Dahl. Pwy yw’r arwyr/enillwyr yn y straeon hyn? 2. Trafodwch bob enghraifft/stori fel dosbarth. Pa fath o anturiaethau sy’n digwydd? Pa fath o gymeriadau a geir? Sut y cânt eu cyflwyno? Pa fath o ddigwyddiadau sy’n digwydd yn ystod y stori? Sut mae Roald Dahl yn creu cyffro? 3. Gan adeiladu ar y drafodaeth hon, gofynnwch i’r plant ystyried cynhwysion stori antur/Ailedrych ar strwythur y stori, cynllun stori a fframwaith cynllunio stori. Gofynnwch i’r plant beth maent yn ei gofio am bob un o gamau gwahanol y cynllun stori. Ble a sut mae’r awduron yn disgrifio’r cymeriad a’r lleoliad ac yn gosod y naws ar gyfer y stori? Gwaith Dosbarth Unigol 1. Gofynnwch i’r plant gynllunio stori gan ddefnyddio’r Daflen Waith Cynllunio Antur. 2. Eglurwch fod angen iddynt ystyried y lleoliad a’r cymeriadau, ac ystyriwch sut y gallant greu tensiwn a chyffro yn y stori. Sesiwn Lawn 1. Rhannwch â’r dosbarth rai o’r cynlluniau stori a grëwyd gan y plant. GWAITH CARTREF Gofynnwch i’r plant gwblhau eu straeon antur fel y gellir eu cyflwyno i Gystadleuaeth Straeon Difyr Dahl. CYNLLUN GWERS STORI ANTUR ROALD DAHL :