Noder os gwelwch yn dda: mae deunydd ategol ar gyfer y cynllun gweithdy yma i’w gael yn new Cyfnod Allweddol 3. Cynllun Gweithdy Cyfnod Allweddol 3: Dyddiad: Gwers: Blwyddyn: Nifer yn y dosbarth: Cyfnod Allweddol: 3 Gallu: Cymysg Ffocws: Drama/Disg Adnoddau: PowerPoint Bwrdd gwyn rhyngweithiol Taflen gymeriadau Teitl y gweithdy: ‘Dan y Wenallt’ Gweithgaredd Cynhesu: Dangos y PowerPoint ar Dylan Thomas, hyd at y dudalen wag, a son ychyd amdano e.e. ganwyd yn Abertawe/ysbrydolwyd Dylan Thomas i ysgrifennu D Wenallt yng Nghei Newydd. Bydd rhai o’r dosbarth wedi bod yn yr ardalo e.e. Abertawe, Cei Newydd a Talacharn. Efallai bydd rhai yn cefnogi tî pel-droed Abertawe. Nodau ac Amcanion y gweithdy: Erbyn diwedd y wers bydd y grwpiau i gyd wedi ystyried pwysigrwydd y synhwyrau, ac wedi ystyried nodweddion gwahanol gymeriadau i fynd ati greu dramateiddiad. Prif Ddigwyddiadau: Unigolion o’r dosbarth i ddarllen y detholiad o ‘Dan y Wenall flaen y dosbarth. Gwneud gweithgaredd rhyngweithiol 1 – synhwyrau. Gwneud gweithgaredd rhyngweithiol 2 – cymeriadau. Rhannu’r dosbarth yn ddau – y rhai a fwynheuodd weithgaredd 1 rhai a fwynheuodd weithgaredd 2. Dosbarthu’r daflen cymeriadau i’r grwpiau (gweithgaredd 1), a cael i feddwl am nodweddion y cymeriadau. Llunio dramateiddiad byrfyfyr sy’n seiliedig ar y cymeriadau. Gwahodd y gweddill i edrych ar dudalen olaf y PowerPoint, a’u i ysgrifennu agoriad i’r ddramateiddiad, sy’n seiliedig ar y synhwyrau.