Top Banner
Cynllun corfforaethol 2016–17 i 2020–21 HC 10
49

Cynllun Corfforaethol 2016-17 i 2020-21 - Electoral Commission...ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau roi gwybod am unrhyw roddion neu fenthyciadau dros £7,500. At ei gilydd, cyhoeddwyd

Feb 15, 2021

Download

Documents

dariahiddleston
Welcome message from author
This document is posted to help you gain knowledge. Please leave a comment to let me know what you think about it! Share it to your friends and learn new things together.
Transcript
  • Cynllun corfforaethol 2016–17 i 2020–21HC 10

    Y Comisiwn Etholiadol3 Bunhill RowLondon EC1Y 8YZFfôn 0333 103 1929gwybodaeth@comisiwnetholiadol.org.ukwww.comisiwnetholiadol.org.uk

    Rydym yn gorff annibynnol a grëwyd ganSenedd y DU. Rydym yn rheoleiddio cyllidpleidiau ac etholiadau ac yn gosod safonauar gyfer etholiadau a gynhelir yn dda. Rydymyn gweithio i gefnogi democratiaeth iach, llemae etholiadau a refferenda yn seiliedig arein hegwyddorion o ymddiriedaeth,cyfranogiad, a dim dylanwad gormodol.

    Rhoi pleidleiswyr yn gyntaf

  • Cynllun Corfforaethol 2016-17 i 2020-21

    Cyflwynwyd i Dŷ’r Cyffredin yn unol â Pharagraff 15(4) o

    Atodlen 1 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.

    Gorchmynnwyd gan Dyˆ’r Cyffredin i’w argraffu 26 Mai 2016.

    HC 10

  • ii

    © Y Comisiwn Etholiadol (2016)

    Gellir atgynhyrchu testun y ddogfen hon (mae hyn yn eithrio, lle y bo’n bresennol, yr Arfau Brenhinol a’r holl logos adrannol ac asiantaethol) am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng ar yr amod y caiff ei atgynhyrchu’n gywir ac nad yw mewn cyd-destun camarweiniol.

    Rhaid cydnabod y deunydd fel hawlfraint y Comisiwn Etholiadol a nodi teitl y ddogfen. Lle y nodwyd deunydd trydydd parti, rhaid ceisio caniatâd gan briod ddeiliad yr hawlfraint.

    Dylai unrhyw ymholiadau ynghylch y cyhoeddiad hwn gael ei anfon i:

    3 Bunhill Row, Llundain EC1Y 8YZ

    Mae’r cyhoeddiad hwn ar gael yn www.comisiwnetholiadol.org.uk

    Argraffiad ISBN: 9781474132497

    Gwefan ISBN: 9781474132503

    ID SGD0012051 05/16

    Argraffwyd ar bapur sy’n cynnwys o leiaf 75% o gynnwys ffibr wedi ei ailgylchu

    Argraffwyd yn y DU gan y Williams Lea Group ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi

  • iii

    Rhagair 1

    Ein diben, rôl ac egwyddorion 5

    Edrych ymlaen i 2021 7

    Heriau, blaenoriaethau, cynlluniau a mesur 10

    Llywodraethu 20

    Rheolaeth ariannol 22

    Costau cyflawni’r cynllun hwn 23

    Pobl 25

    Gwybodaeth a Seilwaith 26

    Atodiadau 27

    Cyfieithiadau a fformatau eraill

    I gael gwybodaeth am sut i gael y cyhoeddiad hwn mewn iaith arall, neu mewn print bras neu Braille, cysylltwch â’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 0333 103 1929 neu e-bostio [email protected]

    Cynnwys

  • 1

    Rhagair

    Y Comisiwn Etholiadol yw’r corff gwarchod annibynnol ar gyfer etholiadau yn y Deyrnas Unedig. Mae’r cynllun hwn yn nodi ein blaenoriaethau dros y pum mlynedd nesaf. Rydym yn gweithio i roi pleidleiswyr yn gyntaf ac i sicrhau ymddiriedaeth, cyfranogiad a dim unrhyw ddylanwad gormodol mewn etholiadau a chyllid gwleidyddol ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

    Mae 15 mlynedd bellach ers i’r Comisiwn Etholiadol gael ei sefydlu gan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000. Fel sefydliad, rydym yn gyson wedi gweithio i addasu i natur newidiol gwleidyddiaeth ac ymgyrchu, y ffordd y mae etholwyr yn disgwyl ymgysylltu â’r broses wleidyddol a’r angen i sicrhau arbedion cyllidebol. Fodd bynnag, mae’n iawn i ni bwyso a mesur yn awr er mwyn sicrhau ein bod mor barod ag y gallwn fod i ymateb i’r genhedlaeth nesaf o newid a’i harwain.

    Felly bwriadwn gynnal adolygiad strategol llawn o’r hyn a wnawn, pam y gwnawn hynny a sut rydym yn gwneud ein gwaith fel y gallwn gyflawni hyn. Byddwn yn defnyddio’r adolygiad i sicrhau ein bod yn ymdrechu, drwy’r amser, i fod yn sefydliad sector cyhoeddus o’r radd flaenaf sy’n arloesi, yn arwain ac yn cyflawni ac y cawn ein hystyried felly. Drwy gyflawni hyn, gallwn sicrhau bod pleidleiswyr yn parhau i ymddiried yn ein prosesau etholiadol a’n cyfundrefn ariannu plaid am y 15 mlynedd nesaf a thu hwnt a’u bod yn hyderus ynghylch hynny.

    Edrych yn ôl: 2015 – 16Mae ein cyflawniadau sylweddol dros y 12 mis diwethaf wedi cynnwys:

    • Ebrill – Mai 2015: Gwnaethom gyhoeddi chwe adroddiad ar roddion a benthyciadau cyn y bleidlais yn Etholiad Cyffredinol Seneddol y DU lle roedd yn rhaid i bleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau roi gwybod am unrhyw roddion neu fenthyciadau dros £7,500. At ei gilydd, cyhoeddwyd manylion am roddion a oedd yn werth bron £14.4 miliwn i bleidiau gwleidyddol. Mae cronfa ddata Cyllid Etholiadau Pleidiau y Comisiwn wedi ei gwneud hyd yn oed yn haws i chwilio am roddion ac rydym wedi parhau i ymdrechu dros fwy o dryloywder yn ein cyhoeddiadau drwy ddefnyddio adnoddau newydd er mwyn rhannu gwybodaeth yn well ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol.

    • Mai 2015: Yn dilyn cyhoeddi ein cyfres gynhwysfawr o ganllawiau, cefnogodd staff y Comisiwn hyn drwy ymateb i nifer sylweddol o ymholiadau gan Swyddogion Canlyniadau, aelodau o’r cyhoedd, ymgeiswyr, pleidiau ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn y cyfnod cyn y diwrnod pleidleisio ac ar y diwrnod hwnnw yn Etholiad Cyffredinol Seneddol y DU. Gwnaethom gyd-weithio â Facebook a drefnodd fotwm ‘I’m a Voter’ lle gallai pleidleiswyr rannu’r ffaith eu bod wedi pleidleisio yn yr etholiad gyda’u ffrindiau a’u teulu. Arweiniodd y bartneriaeth hon at dros 600,000 o ymweliadau â’n gwefan ar gyfer pleidleiswyr fymhleidlaisi.co.uk, lle gallai pleidleiswyr gael mwy o wybodaeth am yr etholiad.

    • Mehefin 2015: Gwnaethom gyhoeddi ein dadansoddiad o gofrestrau etholiadol Mai 2015 lle y canfuwyd bod cynnydd o 1% wedi bod ers cofrestrau Chwefror/Mawrth 2014 – yr un olaf a gyhoeddwyd o dan yr hen system aelwydydd. Ffurfiodd dadansoddiad o gofrestrau Mai 2015 ran

  • 2

    o argymhelliad y Comisiwn i’r Senedd ynghylch p’un a ddylid cyflwyno diwedd y newid i Gofrestriad Etholiadol Unigol yn gynt, sef ym mis Rhagfyr 2015, neu a ddylai barhau i fod yn fis Rhagfyr 2016 fel y deddfwyd yn wreiddiol ar ei gyfer. Argymhellwyd y dylai diwedd y newid barhau i fod ym mis Rhagfyr 2016, yn rhannol oherwydd yr amrywiaeth o etholiadau pwysig yr oedd disgwyl iddynt gael eu cynnal ym mis Mai 2016. Fodd bynnag, penderfynodd y Llywodraeth a’r Senedd y dylid cyflwyno’r newid yn gynt, ym mis Rhagfyr 2015.

    • Mehefin 2015: Gwnaethom gyhoeddi ein hadroddiad ar reoleiddio ymgyrchwyr yn Refferendwm Annibyniaeth yr Alban. Canfuwyd bod y fframwaith rheoleiddiol yn gweithio’n dda ar y cyfan a sicrhawyd bod ein briffiadau i’r Senedd ar Fil Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd (Deddf bellach) yn cynnwys yr argymhellion o’n hadroddiad.

    • Gorffennaf 2015: Gwnaethom gyflwyno adroddiad i Senedd y DU ar Etholiad Cyffredinol Seneddol y DU. Dywedodd naw o bob 10 person a arolygwyd fod yr etholiadau yn cael eu rhedeg yn dda. Gwnaethom gyhoeddi adolygiad hefyd o weithgarwch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd a gynhaliwyd gan y Comisiwn a sefydliadau eraill cyn yr etholiadau. Nodwyd bod 2.6 miliwn o geisiadau i gofrestru i bleidleisio wedi dod i law yn ystod yr ymgyrch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd a drefnwyd gan y Comisiwn a barodd chwe wythnos ac a arweiniodd at fwy nag 1.5 miliwn o ychwanegiadau i’r cofrestrau. Nodwyd hefyd fod 106,000 o etholwyr tramor ar y cofrestrau ym mis Mai 2015, tair gwaith yn fwy na’r nifer a oedd ar y cofrestrau cyn Etholiad Cyffredinol 2010. Cynhaliwyd Cynhadledd y Pedair Gwlad hefyd a wnaeth ddwyn ynghyd ein swyddogion cyfatebol o Ganada, Seland Newydd ac Awstralia i rannu dysgu, arfer gorau, dealltwriaeth ac arbenigedd, ac a edrychodd ar y cyfleoedd a’r heriau yn y blynyddoedd i ddod.

    • Gorffennaf – Rhagfyr 2015: Sefydlodd y Bwrdd grŵp o Gomisiynwyr i edrych ar y goblygiadau i etholiadau yng Nghymru a’r Alban yn sgîl datganoli rhagor o bwerau. Yn dilyn y gwaith hwn, cytunodd y Bwrdd i gynyddu hawl Penaethiaid y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon i wneud penderfyniadau, ac i sefydlu grwpiau cynghori newydd yng Nghymru ac yn yr Alban.

    • Awst 2015: Lansiwyd ymgyrch yn yr Alban i annog pobl ifanc rhwng 15 a 17 oed i gofrestru i bleidleisio cyn etholiad Senedd yr Alban ym mis Mai 2016, yn dilyn ymestyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 a 17 oed ar gyfer yr etholiadau hyn am y tro cyntaf. Yn dilyn dadansoddi etholiadau mis Mai 2015, gwnaethom gyflwyno tystiolaeth bellach i ymgynghoriad Comisiynau’r Gyfraith o gyfraith etholiadol, gan adeiladu ar ein hymateb gwreiddiol ym mis Mawrth 2015.

    • Medi – Rhagfyr 2015: Gwnaethom roi ein cyngor statudol i’r Senedd ar gwestiwn arfaethedig y refferendwm ym Mil Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd. Argymhellwyd y dylid diwygio’r cwestiwn gwreiddiol a geir yn y Bil a chytunodd Llywodraeth a Senedd y DU â’n hargymhelliad. Gwnaethom friffio Senedd y DU ar hynt y Bil ar bob cam, gan helpu’r Senedd i wneud newidiadau pwysig i’r ddeddfwriaeth derfynol a fydd yn ein helpu i gynnal y bleidlais hanesyddol hon yn effeithiol. Pan dderbyniodd Ddeddf Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd Gydsyniad Brenhinol ym mis Rhagfyr, cyhoeddwyd datganiad o barodrwydd i’r Senedd yn mynegi ein barn ar y paratoadau ar gyfer y bleidlais. Ym mis Medi, cyhoeddwyd papur ar faterion deddfwriaethol a gododd yn ein gwaith yn ymwneud ag etholiadau Mai 2015 er mwyn bwydo i mewn i adolygiad Comisiynau’r Gyfraith o gyfraith etholiadol.

    • Hydref – Rhagfyr 2015: Cyhoeddwyd canllawiau i bleidiau, ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ac ymgeiswyr yn barod ar gyfer etholiadau mis Mai 2016, a chanllawiau i Swyddogion Canlyniadau ar gynllunio ar gyfer etholiadau mis Mai a’u cynnal.

    • Tachwedd 2015: Yn dilyn cyfnod o ymgynghori, cadarnhawyd dull y Prif Swyddog Cyfrif o reoli’r refferendwm. Roedd hyn yn cynnwys cadarnhau bod y prosesau cyfrif yn gorfod cael eu cynnal dros nos, na ddylid neilltuo mwy na 2,500 o etholwyr i bob gorsaf bleidleisio, a bod yn rhaid cael trefniadau ar waith i sicrhau yr anfonir pecynnau pleidleisio drwy’r post yn y DU a thramor mewn da bryd.

  • 3

    • Rhagfyr 2015: Cyhoeddwyd cynigion manwl ar gyfer sut y gallai system weithio yn ymarferol, lle mae’n ofynnol i bleidleiswyr ym Mhrydain Fawr gyflwyno rhyw fath o brawf adnabod ar ffurf ffotograff mewn gorsafoedd pleidleisio.

    • Ionawr 2016: Lansiwyd ein Hadolygiad Strategol sy’n canolbwyntio ar yr hyn y dylai ein rôl ei olygu, neu yr hyn y gallai ei olygu, erbyn 2020. Rydym wedi dechrau siarad â rhanddeiliaid allanol – gan gynnwys pleidiau gwleidyddol, gweinyddwyr etholiadol a llawer o rai eraill – ynghyd â staff a Chomisiynwyr. Ein nod yw dod â’n hymgynghoriad i ben yn ystod hydref 2016, gyda’r nod o lunio adroddiad yn ddiweddarach yn 2016. Cyhoeddwyd cam cyntaf ein canllawiau i ymgyrchwyr hefyd a chanllawiau’r Prif Swyddog Cyfrif i Swyddogion Cyfrif ar gyfer y Refferendwm ar aelodaeth y DU o’r UE.

    • Chwefror 2016: Cyhoeddwyd ein hadroddiad ar gofrestrau etholiadol ym Mhrydain Fawr a ddarparodd ddadansoddiad yn dilyn cyhoeddi’r cofrestrau etholiadol ar 1 Rhagfyr 2015. Canfu ein dadansoddiad mai maint yr etholaeth seneddol ym Mhrydain Fawr ar 1 Rhagfyr 2015 oedd 43,478,635. Cyhoeddwyd manylion hefyd am wariant gan bleidiau gwleidyddol yn Etholiad Cyffredinol y DU yn 2015.

    • Chwefror 2016: Ynghyd ag arweiniad Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu (NPCC) ar droseddau sy’n gysylltiedig ag etholiadau, gwnaethom gyd-gynnal y seminar blynyddol ar gyfer Swyddogion Pwynt Cyswllt Unigol yr heddluoedd (SPOCs). Darparodd hyn ddeunydd briffio a hyfforddiant ar weithdrefnau ar gyfer canfod ac atal twyll etholiadol. Cynhaliwyd Bord Gron Uniondeb Etholiadol cyn etholiadau i drafod materion cyfredol ynghylch atal, canfod ac ymdrin â thwyll etholiadol ac adolygiad Comisiynau’r Gyfraith o gyfraith etholiadol.

    • Drwy gydol 2016 – Rydym wedi derbyn, dadansoddi a chyhoeddi gwybodaeth am roddion pleidiau a gwariant ar ymgyrchu mewn etholiadau.

    • Rydym wedi rhoi cyngor i’r rheini a reoleiddiwn ar sut i gydymffurfio â’r gyfraith a beth mae’r rheolau yn ei olygu ar gyfer eu cynlluniau ymgyrchu, ac wedi monitro cydymffurfiaeth â’r gyfraith ac wedi delio ag achosion posibl o dorri’r rheolau.

    • Cyfarfu Bwrdd Cynghori Etholiadol y DU yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn. Darparodd fewnbwn a chyngor ar amrywiaeth o faterion etholiadol, gan gynnwys adolygiad Comisiynau’r Gyfraith o gyfraith etholiadol, cofrestriad etholiadol unigol, rheolaeth etholiadol (gan gynnwys y potensial ar gyfer mwy o ddefnydd o dechnoleg), a safonau perfformio. Ym mis Mawrth 2016, cytunodd y Bwrdd Cynghori Etholiadol i uno â’r Grŵp Polisi a Chydlynu Etholiadol i greu’r Grŵp Cydgysylltu a Chynghori Etholiadol (ECAG) er mwyn lleihau dyblygu a rhannu arfer gorau.

    • Er mwyn paratoi ar gyfer refferendwm yr UE, sefydlodd y Prif Swyddog Cyfrif (Cadeirydd y Comisiwn) Fwrdd Rheoli Refferendwm yr UE, a oedd yn cynnwys swyddogion cyfrif rhanbarthol, a gyfarfu ochr yn ochr â’r Bwrdd Cynghori Etholiadol.

    • Cyhoeddwyd manylion, bob chwarter, am gyfanswm o £66.9 miliwn a dderbyniwyd gan bleidiau gwleidyddol mewn rhoddion yn ystod 2015 (2014: £66 miliwn). Gwnaethom barhau i hyrwyddo’r defnydd o CPD Ar-lein (ein cronfa ddata ar-lein ar gyfer pleidiau gwleidyddol ac incwm a gwariant ymgyrchwyr eraill) gyda phleidiau gwleidyddol.

    Edrych Ymlaen: 2016-17 i 2020-21Yn ystod y Cynllun Corfforaethol hwn, cynhelir nifer o ddigwyddiadau allweddol fel etholiadau llywodraeth leol, etholiadau’r Cynulliad a’r Senedd a Refferendwm yr UE. Mae ein prosiectau â blaenoriaeth dros y pum mlynedd nesaf yn cynnwys:

    • Refferendwm ar aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd ac etholiadau’r Senedd a’r Cynulliad Cynhelir y refferendwm ar aelodaeth y DU o’r Undeb Ewropeaidd ar 23 Mehefin 2016. Mae ein gwaith cynllunio ar gyfer cynnal pleidlais yn mynd rhagddo’n dda, ond bydd hwn yn nodwedd bwysig ar ein gwaith yn ystod y flwyddyn nesaf a thu hwnt. Nodir manylion pellach ar dudalen 20.

  • 4

    • Adolygiad Comisiynau’r Gyfraith o gyfraith etholiadol Rydym yn disgwyl i’r adolygiad o gyfraith etholiadol a gwblheir gan Gomisiynau’r Gyfraith yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon arwain at weithredu argymhellion gan lywodraethau a fydd, yn y bôn, yn rhesymoli ac yn moderneiddio cyfraith etholiadol ac a fydd yn sicrhau buddiannau democrataidd ac economaidd. Nodir manylion pellach ar dudalen 28.

    • Gweledigaeth ar gyfer cofrestriad etholiadol Rhaid i ni gydnabod ein bod yn bodoli mewn byd cynyddol ddigidol. Yn dilyn yr Etholiad Cyffredinol, lansiodd y Gweinidog dros Ddiwygio Cyfansoddiadol ei weledigaeth ar gyfer cofrestru etholiadol a sut y gellir ei foderneiddio fel ei fod yn bodloni gofynion a disgwyliadau pleidleiswyr yn yr 21ain ganrif. Cefnogwn ymrwymiad y Gweinidog ac rydym eisoes wedi gwneud ein hargymhellion ein hunain i wella’r broses gofrestru etholiadol, ond rydym yn parhau i ystyried ffyrdd eraill o gefnogi’r gwaith hwn. Yn yr Alban, caiff cofrestriad etholiadol ei ddatganoli i Senedd yr Alban a llywodraeth leol ac fel y cyfryw, byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth yr Alban i foderneiddio’r broses gofrestru. Yn y cyfamser, bydd ein gwaith yn ystod y Cynllun Corfforaethol hwn yn parhau i ganolbwyntio ar gywirdeb a chyflawnrwydd y cofrestrau. Yn ystod haf 2016 byddwn yn cyhoeddi dadansoddiad trwyadl o gofrestru Rhagfyr 2015. Bydd ein hymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth y cyhoedd yn canolbwyntio ar grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol gan gynnwys myfyrwyr, perchnogion tai a dinasyddion y DU sy’n byw dramor.

    • Twyll Etholiadol Byddwn yn parhau i weithio gyda Swyddogion Cofrestru Etholiadol, Swyddogion Canlyniadau a heddluoedd, i wella hyder o ran uniondeb etholiadau, ac edrychwn ymlaen at gyhoeddi’r adolygiad o dwyll etholiadol dan arweiniad hyrwyddwr gwrthlygredd Llywodraeth y DU, Syr Eric Pickles. Nodir manylion pellach ar dudalen 25.

    • Adolygiad Strategol Byddwn yn cwblhau ein hadolygiad strategol o’r hyn a wnawn, pam y gwnawn hynny a sut y byddwn yn gwneud ein gwaith. Bwriadwn lunio adroddiad gydag argymhellion allweddol, wedi ei ategu gan gynllun gwaith strategol, yn 2016.

    Daw daliadaeth wyth mlynedd ein Cadeirydd presennol i ben ym mis Rhagfyr 2016. Ar gyfer gweddill y Cynllun Corfforaethol hwn, bydd gennym Gadeirydd newydd ar waith felly i arwain ein blaenoriaethau strategol a gweithredol.

    Rydym wedi nodi ar dudalennau 18-33 o’r cynllun hwn wybodaeth bellach am sut y byddwn yn cyflawni’r blaenoriaethau allweddol hyn, ynghyd â meysydd eraill rydym yn disgwyl canolbwyntio arnynt rhwng nawr a 2021. Yn unol â chyrff eraill a ariennir yn gyhoeddus, rydym wedi cyflawni arbedion effeithlonrwydd sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf gan gynnwys gostyngiad mewn termau real o 34% (£5.4m) yn y gyllideb graidd ers 2010. Byddwn yn parhau i ystyried cyfleoedd ar gyfer gostyngiadau pellach yn ein cynlluniau a’n gweithrediadau yn y dyfodol.

    Ni fyddem wedi cyflawni llwyddiannau’r flwyddyn a fu, ac ni fyddwn ychwaith yn gallu cyflawni’r hyn a geir yn y cynllun hwn, heb gymorth y staff a gyflogwn a’r sefydliadau eraill rydym yn gweithio gyda hwy. Rydym yn falch bod ein staff, a’n cydweithwyr yn y gymuned etholiadol, wedi ymateb yn gadarnhaol i’r heriau hyd yma ac edrychwn ymlaen at wynebu’r heriau a’r cyfleoedd sydd i ddod.

    Claire Bassett Jenny Watson Prif Weithredwr Cadeirydd

  • 5

    Ein diben, rôl ac egwyddorion

    Ein rôlMae gennym rôl allweddol mewn etholiadau a refferenda a gynhelir ledled Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban. Fel rhan o’n rôl, rydym:

    • yn cynnal ymgyrchoedd cofrestru etholiadol

    • yn darparu cyngor a chanllawiau i bleidiau gwleidyddol, trydydd partïon, ymgeiswyr ac asiantiaid, Swyddogion Canlyniadau, Swyddogion Cofrestru Etholiadol a heddluoedd*

    • yn pennu a monitro safonau perfformiad ar gyfer Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban

    • yn cyhoeddi ffurflenni yn ymwneud ag ariannu pleidiau a’u gwariant yn ystod etholiadau

    • yn ymchwilio i honiadau o ddiffyg cydymffurfio â’r blaid a rheolau cyllid etholiadau

    • yn adrodd ar weinyddu etholiadau

    • yn rhoi cyngor i seneddau’r Deyrnas Unedig a chynulliadau deddfwriaethol ar ddeddfwriaeth yn ymwneud ag etholiadau a refferenda

    • yn awdurdodi pobl a sefydliadau i arsylwi etholiadau

    • yn gyfrifol am weinyddu a chynnal refferenda

    • yn adolygu ein strwythurau llywodraethu’n gyson o ystyried bod rhagor o bwerau ar etholiadau wedi’u datganoli i Senedd yr Alban a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.

    Ein dull gweithreduRydym yn ymrwymedig i draddodiad cryf y Deyrnas Unedig o etholiadau rhydd, sy’n rhan hanfodol o ddemocratiaeth iach.

    Rydym:

    • yn gweithio i wasanaethu pobl y Deyrnas Unedig

    • yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo democratiaeth

    • yn rhoi pleidleiswyr yn gyntaf

    Byddwn yn ceisio newid os bydd y dystiolaeth yn dangos bod ei hangen i wasanaethu pobl y Deyrnas Unedig, a’u democratiaeth, yn well.

    * Nid yw’r Comisiwn yn darparu cyngor na chanllawiau ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yng Ngogledd Iwerddon.

  • 6

    Ein hegwyddorion ar gyfer etholiadau rhydd sy’n ategu democratiaeth iach• Ymddiriedaeth: dylai fod modd i bobl ymddiried yn y ffordd y mae ein hetholiadau yn gweithio a’r

    ffordd y mae ein system cyllid gwleidyddol yn gweithio

    • Cyfranogi: dylai fod yn syml i bobl gymryd rhan yn ein hetholiadau a’n system cyllid gwleidyddol, p’un a ydynt yn pleidleisio neu’n ymgyrchu: a dylai pobl fod yn hyderus bod eu pleidlais yn cyfrif

    • Dim dylanwad gormodol: ni ddylai fod dim dylanwad gormodol o ran y ffordd y mae ein hetholiadau a’n system cyllid gwleidyddol yn gweithio

    Ein hamcanion ar gyfer etholiadau rhydd sy’n ategu democratiaeth iach1) Etholiadau, refferenda a system gofrestru etholiadol a gaiff eu cynnal yn ddaRydym am i bobl ledled Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban fod yn hyderus ynghylch y canlynol:

    • bod cofrestru i bleidleisio a chymryd rhan mewn etholiadau yn syml, hygyrch a diogel

    • y cânt wasanaeth o ansawdd uchel yn gyson, lle bynnag maent yn byw, ni waeth pa etholiadau neu refferenda a gynhelir.

    2) Tryloywder o ran cyllid pleidiau ac etholiadau, gyda lefelau uchel o gydymffurfioRydym am i bobl ledled y Deyrnas Unedig fod yn hyderus ynghylch y canlynol:

    • bod tryloywder ynghylch cyllid pleidiau ac etholiadau, fel bod pobl yn gwybod o ble y daw’r arian a sut y caiff ei wario

    • bod pobl sydd am sefyll etholiad, a phobl a sefydliadau sydd am ymgyrchu mewn etholiadau, yn gallu canfod yn hawdd sut i gymryd rhan, beth yw’r rheolau a beth sydd angen iddynt ei wneud i gydymffurfio â’r rheolau hynny

    • y dilynir y rheolau ar gyllid pleidiau ac etholiadau, ac yr ymdrinnir â’r rhai nad ydynt yn eu dilyn yn briodol ac effeithiol

    • y gall pleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr ac ymgyrchwyr gymryd rhan mewn etholiadau heb rwystrau diangen

  • 7

    Edrych ymlaen at 2021

    Yn y cyfnod a gwmpesir gan y Cynllun Corfforaethol hwn hyd at 2021, rydym yn disgwyl gweld nifer o newidiadau pwysig y bydd pleidleiswyr yn elwa arnynt ac a fydd yn gwella gweithrediad ein democratiaeth, yn dilyn gwaith gennym ni ein hunain a chan ein partneriaid.

    Etholiadau, refferenda a system gofrestru etholiadol a gaiff eu cynnal yn ddaWrth gyflawni ein hamcan o gynnal etholiadau, refferenda a system gofrestru etholiadol yn dda, rhagwelwn y bydd llawer o newidiadau wedi bod yn yr amgylchedd etholiadol erbyn 2012, ac ymhlith y rhai mwyaf sylweddol bydd y canlynol:

    • byddwn wedi cyflawni refferendwm ar aelodaeth y DU o’r Undeb Ewropeaidd.

    • mae cyfraith etholiadol wedi cael ei symleiddio’n sylweddol yn dilyn gwaith Comisiynau’r Gyfraith

    • mae ffocws parhaus ar gywirdeb a chyflawnrwydd cofrestrau etholiadol, a gaiff eu hwyluso gan gofrestriad ar-lein a chamau eraill i sicrhau hygyrchedd o fewn system fwy diogel

    • bydd ECAG, a’r Comisiwn, erbyn etholiad Seneddol nesaf y DU, wedi datblygu gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau etholiadol sy’n cwmpasu:

    - proses gofrestru a phleidleisio fodern wedi’i chynllunio o amgylch y pleidleisiwr, yn taro’r cydbwysedd cywir rhwng hygyrchedd a diogelwch

    - y defnydd o dechnoleg wrth weinyddu system gofrestru etholiadol ac etholiadau

    - cost gweinyddu etholiadau

    - hyfforddiant, canllawiau, cefnogaeth a monitro perfformiad ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol, Swyddogion Canlyniadau a’u timau

    Er mwyn cefnogi’r broses o gynnal etholiadau, refferenda a system gofrestru etholiadol yn dda yn y cyfnod hyd at 2021, rydym yn bwriadu:

    • Parhau i adrodd ar:

    - y broses o weinyddu pleidleisiau mawr

    - gwariant ymgyrchu ar bleidleisiau mawr

    - cywirdeb a chyflawnrwydd cofrestrau etholiadol

    - honiadau ac achosion o dwyll etholiadol

    • Bod yn barod i weithredu mewn refferendwm yn unol â’r Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda pryd bynnag y’u cynhelir ledled y Deyrnas Unedig.

    • Parhau i graffu ar ddeddfwriaeth etholiadol newydd a darparu briffiadau arbenigol i lywodraethau a Seneddau/Cynulliadau ar gynigion deddfwriaethol.

  • 8

    • Rhoi canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol a Swyddogion Canlyniadau a’u timau. Dros amser, rydym yn disgwyl i’r rhan fwyaf o ddefnyddwyr canllawiau’r Comisiwn eu gweld ar sgrîn, a chânt eu llunio a’u darparu mewn fformat gwe ac ar gyfer ffonau symudol. Byddwn hefyd yn parhau i gynnig cyngor wedi’i deilwra lle y bo’n briodol.

    • Pennu safonau perfformiad ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol a Swyddogion Canlyniadau sy’n canolbwyntio ar y canlyniadau a gyflawnwyd yn hytrach na manylion am sut y dylid eu cyflwyno, gan gydnabod pwysigrwydd gwybodaeth a phrofiad lleol tra’n sicrhau y cyrhaeddir y safonau gofynnol y cytunwyd arnynt.

    • Monitro perfformiad yn erbyn y safonau gan ddefnyddio dull cymesur, ar sail risg, sy’n canolbwyntio ar helpu Swyddogion Cofrestru Etholiadol a Swyddogion Canlyniadau i gyrraedd y safonau.

    • Gweithio gydag ECAG a phartneriaid eraill i roi mwy o gefnogaeth i Swyddogion Cofrestru Etholiadol, Swyddogion Canlyniadau, Swyddogion Canlyniadau Ardal yr Heddlu, Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol newydd ac i bob Pwynt Cyswllt Unigol newydd yn yr Heddlu.

    • Darparu canllawiau integredig, hawdd eu defnyddio i ymgeiswyr ac asiantiaid, y byddwn yn eu datblygu ar y cyd â phleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr yn fwy cyffredinol, a chyda Swyddogion Cofrestru Etholiadol/Swyddogion Canlyniadau a’r heddlu.

    • Parhau i hwyluso gwaith cydgysylltiedig rhwng Swyddogion Cofrestru Etholiadol a Swyddogion Canlyniadau a’r heddlu i atal a chanfod unrhyw ymgais i gyflawni twyll etholiadol.

    • Cyflawni ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth y cyhoedd, gwerth am arian, arloesol a rhagorol a darparu adnoddau ar eu cyfer i eraill eu defnyddio. Bydd ein hymgyrchoedd yn canolbwyntio ar annog pobl i gofrestru i bleidleisio a sicrhau eu bod yn gwybod sut i fwrw eu pleidlais. Byddwn yn parhau i gymryd goblygiadau niferoedd lleihaol/isel o bobl mewn etholiadau neu refferenda o ddifrif, a chynyddu’r gwaith a wnawn i gefnogi sefydliadau ac unigolion sydd yn y sefyllfa orau i fynd i’r afael â’r cyhoedd sydd wedi ymddieithrio.

    • Defnyddio ymchwil gadarn fel sail ein gwaith codi ymwybyddiaeth y cyhoedd ac ar gyfer deunyddiau hygyrch a hawdd eu defnyddio i’r pleidleisiwr o ran cofrestru etholiadol ac wrth bleidleisio. Wrth wneud hyn byddwn yn cymhwyso ‘dealltwriaeth ymddygiadol’ yn gynyddol at ein dulliau cyfathrebu allanol i brofi pa ddeunydd sy’n sicrhau’r ymateb gorau.

    • Parhau i ymgysylltu’n helaeth ag eraill, ym mhob rhan o’n gwaith, gan gynnwys y Panel Pleidiau Seneddol/Panel Pleidiau’r Cynulliad, ECAG a’r Gweithgor, Y Bwrdd Rheoli Etholiadol ar gyfer yr Alban, Seneddwyr, ymgyrchwyr, Cymdeithas Prif Weithredwyr Awdurdodau Lleol ac Uwch Reolwyr (SOLACE), Cymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol, Cymdeithas Aseswyr yr Alban, Confensiwn Awdurdodau Lleol yr Alban, Cymdeithas Llywodraeth leol Cymru, Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon, y Gymdeithas Llywodraeth Leol, Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, Police Scotland, Gwasanaeth yr Heddlu yng Ngogledd Iwerddon, Gwasanaeth Erlyn y Goron, Gwasanaeth Swyddfa’r Goron a’r Procuradur Ffisgal a’r Gwasanaeth Erlyn Cyhoeddus ar gyfer Gogledd Iwerddon.

    Tryloywder o ran cyllid pleidiau ac etholiadau, gyda lefelau uchel o gydymffurfioWrth gyflawni ein hamcan o dryloywder yng nghyllid pleidiau ac etholiadau, gyda lefelau uchel o gydymffurfio, mae’r gymuned a reoleiddiwn mewn perthynas â chyllid pleidiau ac etholiadau yn fwy bellach, yn dilyn y newidiadau yn 2014 i’r rheolau ynghylch rheoleiddio ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau cyn yr etholiadau. Rhagwelwn y bydd graddfa a natur y gymuned a reoleiddir yn ail hanner y degawd hwn yn cwmpasu’r canlynol:

  • 9

    • tua 450 o bleidiau gwleidyddol cofrestredig (treulir y rhan fwyaf o’r amser a reoleiddir ar y pleidiau mwy o faint, a fydd, rhyngddynt, yn parhau i dderbyn a gwario’r rhan fwyaf o’r arian yng ngwleidyddiaeth y DU; yn ystod y cyfnod gall rhai pleidiau canolig eu maint ddod yn bwysicach yn wleidyddol)

    • ymgyrchwyr o bob maint, y rhai sy’n perthyn i blaid a’r rhai nad ydynt yn perthyn i blaid, a fydd yn parhau i ddibynnu’n drwm ar wirfoddolwyr

    • nifer gynyddol o ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau

    Hefyd, rydym yn disgwyl:

    • yn amodol ar gefnogaeth Seneddol, i sawl plaid wleidyddol symleiddio gofynion adrodd a chydymffurfio yn dilyn gweithredu argymhellion Adolygiad Rheoliadol Cyllid Pleidiau ac Etholiadau’r Comisiwn.

    Er mwyn cefnogi’r broses o gyflawni tryloywder mewn cyllid i bleidiau ac etholiadau, gyda lefelau uchel o gydymffurfio yn y cyfnod hyd at 2012, bwriadwn wneud y canlynol:

    • Cadw dogfennau canllaw ar gyfer y gymuned gyfan a reoleiddir, a chynnig cyngor wedi’i deilwra lle y bo’n briodol. Bwriadwn ddechrau ymchwilio i’r gofynion ar gyfer gweithredu canllawiau ar-lein sy’n ymateb i anghenion rhanddeiliaid ac sy’n gwneud y gorau o’n dulliau cyfathrebu allanol, gan gynnwys adroddiadau digidol i bleidiau ac Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau.

    • Rheoleiddio’n gynyddol yn ystod cyfnodau etholiadol a refferenda drwy fonitro dulliau ymgyrchu ac ymyrryd ‘mewn amser real’ i sicrhau cydymffurfiaeth â’r rheolau.

    • Rhoi cyhoeddusrwydd clir i lefelau camau gweithredu rheoliadol a darparu manylion cynyddol am y modd y cynhelir ymchwiliadau unigol a’u casgliadau lle y gallai hyn rwystro neu atal diffyg cydymffurfiaeth.

    • Sicrhau bod data ar gyllid pleidiau ac etholiadau ar gael yn hawdd mewn fformatau y gall defnyddwyr eu dehongli’n hawdd, a’u bod yn cael eu cyflwyno’n glir i aelodau o’r cyhoedd a’r cyfryngau.

    • Cynnal y gwaith o adrodd yn rheolaidd ar roddion a gwariant, a datganiadau blynyddol o gyfrifon, gan y rhai a reoleiddiwn. Bydd y broses adrodd ar-lein, gymaint â phosibl, a’n nod fydd lleihau’r gost a’r fiwrocratiaeth sy’n gysylltiedig â gwneud y gwiriadau angenrheidiol er mwyn sicrhau cywirdeb yr hyn yr adroddir arno ac a gyhoeddir gan y Comisiwn.

    • Cael rhaglen ragweithredol o archwilio gweithdrefnau ac arferion pleidiau ac ymgyrchwyr er mwyn eu helpu i gydymffurfio’n hawdd â’r rheolau ar gyllid pleidiau ac etholiadau.

    • Argymell gwelliannau i’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer cyllid pleidiau ac etholiadau yn seiliedig ar ein profiad ac ar ddatblygiadau ehangach. Er nad ydym yn bwriadu cychwyn adolygiadau sylweddol o newidiadau ehangach o bosibl i’r system, byddwn yn nodi egwyddorion ar gyfer cyllid pleidiau a fframwaith rheoliadol y DU y gallwn graffu ar ddeddfwriaeth arfaethedig yn ei erbyn. Byddwn hefyd yn cynnig briffio llywodraethau a Seneddau neu Gynulliadau ar y cynigion a’u goblygiadau i waith rheoliadol y Comisiwn.

    Er mwyn galluogi hyn i gyd, byddwn yn sicrhau’r canlynol:

    • byddwn yn manteisio i’r eithaf ar y defnydd o dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) a byddwn yn rheoli ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth yn effeithiol

    • bydd y gwasanaethau cefnogi ar draws y Comisiwn yn fodern ac effeithlon ac yn canolbwyntio ar helpu staff i wneud eu gwaith mor effeithiol â phosibl

    • byddwn yn paratoi ein rheolwyr er mwyn cael y gorau o bawb yn y Comisiwn a pharhau i annog ac ysbrydoli staff i gyflawni gweledigaeth y Comisiwn ar gyfer 2020.

  • 10

    Heriau, blaenoriaethau, cynlluniau a mesur

    Mae’r adran hon yn tynnu sylw at yr heriau allweddol a wynebwn yn ystod cyfnod y cynllun hwn ac yn nodi’r cyd-destun allanol a’r amgylchedd y gweithiwn ynddynt.

    Ym mhob adran, nodwn ein blaenoriaethau ar gyfer y cyfnod nesaf o bum mlynedd. Datblygwyd y blaenoriaethau hyn a chytunwyd arnynt o fewn cyd-destun y cyfyngiadau adnoddau presennol a’r rhai a ddisgwylir yn y dyfodol – her sylweddol ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.

    Rydym hefyd wedi datblygu targedau i’n helpu i gyflawni ein blaenoriaethau. Mae atodiadau 1-3 yn darparu gwybodaeth ychwanegol am dargedau, mesur a rhwystrau posibl i gyflawni.

    Cymryd rhan mewn etholiadau a refferendaMae etholiadau a refferenda ledled y Deyrnas Unedig yn cael eu cynnal yn ddidrafferth. Os bydd problemau’n codi, rhai unigol fyddant fel arfer a chânt eu hystyried o ddifrif, caiff gwersi eu dysgu a chamau gweithredu eu cymryd. Tynnwn sylw at unrhyw broblemau o bwys sydd wedi codi yn ein hadroddiadau ar ôl digwyddiadau, ynghyd ag unrhyw argymhellion priodol ar gyfer newid. Mae ein dull gweithredu o gynnig cymorth ac ymyrraeth barhaus i’r rhai sy’n cynnal etholiadau yn helpu i sicrhau mai problemau bach ydynt. Yn ein harolwg diweddaraf dywedodd 66% o aelodau o’r cyhoedd yn y DU eu bod yn hyderus bod etholiadau’n cael eu cynnal yn dda. Holwyd unrhyw un nad oeddent yn hyderus am yr hyn a fyddai’n ei helpu i wella ei hyder. Y gwelliant mwyaf poblogaidd oedd “Gofyn i bobl ddangos rhyw fath o brawf adnabod ar ffurf ffotograff yn eu gorsaf bleidleisio” gyda 69% o’r ymatebwyr (ym Mhrydain Fawr) yn dweud y byddai hynny’n helpu i wella eu hyder llawer neu ychydig.*

    Holwyd hefyd am foddhad y cyhoedd â’r broses bleidleisio a dywedodd 63% eu bod yn fodlon. O blith y rhai nad oeddent yn fodlon gwnaethom holi pam, ac mae’n amlwg nad yw llawer o’r rhesymau yn ymwneud yn uniongyrchol â materion gweinyddol ac yn cynnwys anfoddhad â’r system bleidleisio a chanfyddiadau negyddol am wleidyddiaeth a gwleidyddion.

    Fodd bynnag, bydd yr heriau sy’n wynebu pawb sy’n gysylltiedig â chyflawni etholiadau llwyddiannus yn y blynyddoedd i ddod yn rhai sylweddol, ac ni ddylid eu diystyru.

    Yn y cyfnod a gwmpesir gan y cynllun hwn cynhelir sawl pleidlais bwysig:

    • 2016 (Mai) – Etholiadau’r Cynulliad/Seneddol yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, Etholiadau Cynulliad a Maerol Llundain, etholiadau llywodraeth leol yn Lloegr ac etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr

    • 2016 (Mehefin) – Refferendwm ar aelodaeth y DU o’r Undeb Ewropeaidd

    • 2017 – etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, etholiad ar gyfer Maer a etholir yn uniongyrchol ar gyfer Manceinion Fwyaf

    • 2018 – etholiadau llywodraeth leol yn Lloegr

    * Am ragor o wybodaeth, gweler data Traciwr y Gaeaf ar ein gwefan yn: www.electoralcommission.org.uk/our-work/our-research/public-opinion-surveys

  • 11

    • 2019 – Etholiadau Senedd Ewrop, llywodraeth leol Lloegr a llywodraeth leol Gogledd Iwerddon

    • 2020 – Etholiad Seneddol y DU, etholiadau Cynulliad a Maerol Llundain, etholiadau llywodraeth leol yn Lloegr ac etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr

    Hefyd, rhoddwyd y newidiadau mawr i’r system gofrestru ym Mhrydain Fawr, a ddechreuodd yn 2014 ac a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2015 ar waith, ac fe’u cyflawnwyd yng nghyd-destun pwysau sylweddol ar gyllidebau llywodraeth ganolog a lleol a chynhelir unrhyw waith cofrestru etholiadol yn y dyfodol, ynghyd â chynnal etholiadau, yn yr un cyd-destun ariannol heriol.

    Er bod pleidleisiau’n cael eu cynnal yn dda, nid yw cyfran sylweddol o bobl yn pleidleisio, er bod hyn yn amrywio o un etholiad i’r llall ac mae’r nifer a bleidleisiodd yn y refferendwm ar annibyniaeth yr Alban yn dangos yr hyn a all ddigwydd pan fydd pobl yn ymgysylltu â rhywbeth. Mae angen mwy o drafodaeth am y rhesymau dros y gostyngiad hirdymor yn nifer y bobl sy’n pleidleisio a’r hyn y gellir ei wneud i fynd i’r afael â’r broblem. Bydd y Comisiwn yn cymryd rhan yn y ddadl hon ac yn parhau i ddefnyddio ei ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth er mwyn sicrhau bod pobl wedi’u cofrestru i bleidleisio a bod ganddynt ddigon o wybodaeth i fwrw eu pleidlais gyda hyder.

    Rydym am sicrhau’r canlynol:

    • bod etholiadau a refferenda yn cael eu cynnal yn dda, a bod pobl yn hyderus eu bod yn gwybod beth yw diben y bleidlais, a sut i fwrw eu pleidlais yn llwyddiannus

    • bod pobl yn hyderus y caiff eu pleidlais bost ei derbyn mewn pryd gan y Swyddog Canlyniadau ac y caiff ei chynnwys yn y cyfrif

    • bod y deunyddiau a ddefnyddir gan yr etholwyr er mwyn cofrestru i bleidleisio, neu i fwrw eu pleidlais, yn cael eu dylunio i safon uchel yn gyson

    • bod dealltwriaeth ynghylch pam fod rhai pobl yn bwrw eu pleidlais a rhai ddim, a pha newidiadau y gellid eu gwneud i ddileu unrhyw rwystrau ymarferol neu o ran gwybodaeth i gymryd rhan mewn etholiadau

    Gweithgarwch allweddol 2016-17 i 2020-21Refferendwm yr UE – Cynhelir refferendwm yr UE ar 23 Mehefin 2016. Mae gennym gyfrifoldebau penodol am refferenda sy’n cynnwys:

    • Gwneud sylwadau ar eglurder geiriad cwestiwn y refferendwm (adroddwyd ar hyn ym mis Medi 2015)

    • Cynnal ymgyrch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd er mwyn sicrhau bod gan bawb y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i gymryd rhan

    • Cofrestru sefydliadau neu unigolion sydd am ymgyrchu yn y refferendwm

    • Ystyried a chymeradwyo ceisiadau am ddynodiad fel y grŵp ymgyrchu arweiniol ar gyfer y naill ganlyniad a’r llall yn y refferendwm

    • Talu grantiau i’r sefydliadau dynodedig cymeradwy

    • Monitro gwariant ar ymgyrch y refferendwm, yn unol â therfynau gwariant y refferendwm

    • Rhoi cyngor a chanllawiau ar y rheolau i ymgyrchwyr

    • Monitro a sicrhau cydymffurfiaeth â rhoddion, benthyciadau a rheolaethau gwariant ymgyrchoedd

    • Cyflwyno adroddiad ar weinyddu’r refferendwm a rheoleiddio ymgyrch y refferendwm

    Cadeirydd y Comisiwn fydd y Prif Swyddog Cyfrif ar gyfer y refferendwm a bydd yn gyfrifol am ardystio canlyniad y refferendwm. Caiff refferendwm a gaiff ei gynnal yn dda sy’n arwain at ganlyniad y gall pleidleiswyr ac ymgyrchwyr fod yn ffyddiog ynddo ei ategu gan fframwaith

  • 12

    cyfreithiol clir a phendant. Mae deddfwriaeth dda yn darparu eglurder ynghylch rolau a chyfrifoldebau’r rheini sy’n gweinyddu’r refferendwm ac yn nodi rheolau teg sy’n llywodraethu gwariant ar ymgyrchu a gweithgareddau codi arian.

    Rydym yn falch bod Llywodraeth y DU wedi cynnwys llawer o’n hargymhellion blaenorol ar gyfer newidiadau i’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer refferenda yn Neddf Refferendwm yr UE 2015, yn seiliedig ar ein hadroddiadau ar refferenda a gynhaliwyd yn 2011 a 2014.

    Mae’r trefniadau ar gyfer sicrhau refferendwm a gaiff ei gynnal yn dda ar aelodaeth y DU o’r Undeb Ewropeaidd yn mynd rhagddynt yn dda, ac rydym yn barod i gynnal refferendwm llwyddiannus.

    Gan fod Refferendwm yr UE yn brosiect mawr i ni yn ystod blynyddoedd cynnar y Cynllun Corfforaethol hwn, rydym wedi datblygu Mesurau Perfformiad Allweddol penodol i dracio ein gweithgarwch a’n cynnydd. Mae’r Mesurau hyn yn canolbwyntio ar feysydd allweddol o weithgarwch fel cynyddu nifer yr etholwyr tramor ar y gofrestr a chynnal refferendwm da.

    Etholiadau – Mae’r Comisiwn yn gweithio i sicrhau y caiff etholiadau eu cynnal yn dda ledled y Deyrnas Unedig. Fel rhan o’r rhaglen hon darparwn ganllawiau a chefnogaeth i Swyddogion Canlyniadau ac ymgeiswyr ac asiantiaid; datblygu a monitro safonau perfformiad ar gyfer Swyddogion Canlyniadau; monitro gwaith er mwyn sicrhau uniondeb y broses etholiadol; cynnal ymgyrchoedd er mwyn sicrhau bod pobl yn gwybod sut i gofrestru a bwrw eu pleidlais; ac adrodd ar y broses o weinyddu etholiadau a refferenda. Rydym hefyd yn sicrhau cydymffurfiaeth â’r rheolau ar wariant gan ymgeiswyr, pleidiau ac ymgyrchwyr eraill. Mae ein rhaglen etholiadau hefyd yn ymgorffori’r gwaith a wnawn mewn unrhyw flwyddyn benodol ar unrhyw ddigwyddiadau newydd neu ddigwyddiadau sy’n datblygu.

    Rydym hefyd yn cynnal gwaith er mwyn sicrhau hygyrchedd i bawb mewn pob etholiad. Rydym am i bawb allu cymryd rhan mewn etholiadau heb wynebu unrhyw rwystrau diangen.

    Canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid – Mae ein gwaith parhaus yn anelu at sicrhau bod canllawiau cyhoeddedig ar gael o leiaf chwe wythnos cyn dechrau’r cyfnod a reoleiddir ar gyfer yr etholiadau perthnasol. Rydym am sicrhau bod ymgeiswyr ac asiantiaid yn gallu cael gafael ar ganllawiau clir a defnyddiol i’w helpu i ddeall y rheolau ar sefyll etholiad a gwariant a rhoddion etholiadol.

    Cofrestru etholiadolDechreuodd y cam, ym Mhrydain Fawr, o newid o gofrestriad aelwyd i gofrestriad etholiadol unigol – y newid mwyaf i’n system etholiadol ers cyflwyno’r etholfraint gyffredinol – yn ystod haf 2014 a daeth i ben ym mis Rhagfyr 2015. Cyflwynwyd adroddiad ym mis Hydref a mis Tachwedd 2014 ar ganlyniadau’r ymarfer byw cadarnhau – cam cyntaf y newid ac unwaith eto ym mis Chwefror 2015 ac yna ym mis Mehefin 2015, gan roi ein hasesiad o’r cynnydd cyffredinol wrth gyflawni’r newid i’w pwyntiau hynny. Ym mis Chwefror 2016 cyhoeddwyd adroddiad ar y newid ac asesiad yn erbyn ein safonau perfformiad ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol, a roddwyd ar waith i gefnogi’r newid hwn, a chaiff adroddiad manylach ar gywirdeb a chyflawnrwydd ei gyhoeddi yn 2016.

    Y nod pwysicaf i’r Comisiwn Etholiadol yw y bydd cofrestrau etholiadol y DU yn cefnogi ac yn galluogi cyfranogiad effeithiol mewn etholiadau a refferenda gan bawb sydd am gymryd rhan. Fodd bynnag, cydnabyddwn y gall cofrestrau etholiadol barhau i gael eu defnyddio at ddibenion eraill, gan gynnwys pennu dosbarthiad a ffiniau etholaethau seneddol ac ardaloedd etholiadol eraill. Byddwn yn parhau i gyhoeddi amcangyfrifon cadarn o gywirdeb a chyflawnrwydd cofrestrau etholiadol y DU, ond cyfrifoldeb llywodraethau a deddfwrfeydd fyddai ystyried y ffordd orau o ddefnyddio data mewn unrhyw ymarfer diwygio ffiniau yn y dyfodol.

    Byddwn yn parhau i fonitro’r gofrestr etholiadol yng Ngogledd Iwerddon yn dilyn y canfasio llwyddiannus i raddau helaeth yn 2013.

  • 13

    Rydym am sicrhau’r canlynol:

    • Bod pobl sydd am gymryd rhan mewn etholiadau yn gallu cofrestru i bleidleisio neu ddiweddaru eu manylion cofrestru mor hawdd â phosibl

    • Bod cofrestru etholiadol yn parhau i gael ei gyflawni mewn ffordd sy’n golygu cyfranogiad effeithiol mewn etholiadau a refferenda

    • Bod cywirdeb a chyflawnrwydd y cofrestrau etholiadol ledled y DU yn gwella, yn enwedig yn union cyn pleidleisio

    • Rhennir ymarfer da o ran cofrestru etholiadol ar draws y gymuned etholiadol

    Ar draws y gymuned etholiadol mae nod cyffredinol o alluogi pob person cymwys i gymryd rhan mewn etholiadau ac felly ein nod yw sicrhau bod pob cofrestr etholiadol yn y DU yn cael ei chwblhau’n gywir ac yn gyflawn. Fodd bynnag, gan gydnabod y bydd symudiadau o ran y boblogaeth rhwng cofrestrau ar unrhyw adeg, mae’n anodd rhagweld y gellir sicrhau mwy na 98% o gywirdeb a chyflawnrwydd.

    Nid ydym wedi pennu mesur perfformiad penodol i’r Comisiwn o gynnydd tuag at darged o’r fath, gan gydnabod bod nifer o rwystrau strwythurol ac ymddygiadol ar hyn o bryd i gofrestrau etholiadol cywir a chyflawn sy’n debygol o fod y tu hwnt i reolaeth uniongyrchol y Comisiwn. Bwriadwn weithio gyda’r gymuned etholiadol ehangach, gan gynnwys Swyddogion Cofrestru Etholiadol, llywodraethau a deddfwrfeydd, ac ymgyrchwyr, er mwyn sicrhau y deellir y rhwystrau hyn ac er mwyn nodi’r camau gweithredu sy’n ofynnol i’w dileu.

    Gweithgarwch allweddol 2016-17 i 2020-2021Cofrestru Etholiadol – Byddwn yn parhau i gefnogi’r 363* o Swyddogion Cofrestru Etholiadol a’u timau gyda’u gweithgarwch cofrestru etholiadol. Byddwn yn gweithio gyda Swyddogion Cofrestru Etholiadol a rhanddeiliaid eraill i nodi a rhannu enghreifftiau o arfer da ac yn adlewyrchu’r rhain yn ein pecyn canllawiau a chefnogaeth i Swyddogion Cofrestru Etholiadol.

    Gosodwyd set newydd o safonau perfformiad ger bron y Senedd ym mis Mawrth 2016 a byddwn yn monitro perfformiad y Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn erbyn y safonau hyn, gan ddarparu cymorth wedi’i dargedu lle y bo’n ofynnol i helpu Swyddogion Cofrestru Etholiadol i allu cyflawni’r canlyniadau a nodir yn y safonau.

    Mae’r amrywiaeth o bleidleisiau a drefnwyd ar gyfer 2016 yn golygu y bydd pob man yn y DU yn cynnal etholiadau ar 5 Mai 2016 a byddem am fod yn fodlon bod y gwaith cofrestru yn cael ei reoli er mwyn sicrhau’r cyfranogiad mwyaf yn yr etholiadau hyn.

    Sicrhau bod y nifer fwyaf yn cofrestru – Canfu’r adroddiadau diweddaraf a gyhoeddwyd, ym mis Gorffennaf 2014, ar gywirdeb a chyflawnrwydd y cofrestrau etholiadol fod cofrestrau etholiadol Prydain Fawr tua 85-86% yn gyflawn. Roedd ymchwil faenorol gan y Comisiwn wedi amcangyfrif bod y cofrestrau yng Nghymru a Lloegr yn 2000 rhwng 91% a 92% yn gyflawn a bod y cofrestrau ym Mhrydain Fawr yn 2010 85% yn gyflawn. Felly, yn dilyn lleihad yn y nifer sy’n cofrestru rhwng 2001 a 2010, mae lefelau cofrestru wedi sefydlogi ers 2011.

    Yn seiliedig ar yr ymchwil hon, mae’r Comisiwn wedi amcangyfrif nad oedd tua 7.5 miliwn o unigolion wedi cofrestru’n gywir yn eu cyfeiriad cyfredol ym Mhrydain Fawr ar adeg yr ymchwil.

    Yn ein hymchwil flaenorol ar gofrestrau etholiadol mis Rhagfyr 2010 dywedwyd nad oedd rhwng 13-15% wedi’u cofrestru’n gywir, sef o leiaf chwe miliwn o bobl yn ôl ein hamcangyfrif ni. Roedd y data o’r cyfrifiad yn ein galluogi i wneud amcangyfrif mwy cywir o’r lefelau cofrestru yn 2011. Dangosodd hyn fod lefelau cofrestru ar ben isaf yr amrediad a nodwyd gennym yn y gorffennol ac nad oedd 15% o bobl – neu tua 7.5 miliwn – wedi’u cofrestru’n gywir ym mis Rhagfyr 2010.

    * Y ffigur yn gywir ym mis Chwefror 2016.

  • 14

    Cadarnhaodd yr ymchwil hefyd ein canfyddiadau cynharach ynghylch y grwpiau o bobl oedd leiaf tebygol o fod wedi cofrestru ac atgyfnerthodd yr angen i Swyddogion Cofrestru Etholiadol dargedu eu hymdrechion at bobl oedd wedi symud cartref yn ddiweddar, pobl ifanc a rhai cymunedau o Bobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig penodol. Byddwn yn cynnal ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth y cyhoedd arloesol, wedi’u gwerthuso’n llawn a fydd wedi’u targedu at y grwpiau hyn cyn bob prif gyfres o bleidleisiau. Byddwn hefyd yn parhau i weithio gyda sefydliadau, grwpiau ac unigolion sydd eisoes yn gweithio’n galed i hyrwyddo cofrestriad pleidleiswyr a rhoi cefnogaeth a chymorth iddynt. Cyn cynnal pleidleisiau mis Mai 2016 rydym wedi atgyfnerthu ein cynlluniau i ganolbwyntio hyd yn oed yn fwy nag o’r blaen ar fyfyrwyr a rhai sydd wedi symud cartref oherwydd diwedd cynnar y newid i Gofrestriad Etholiadol Unigol. Ar sail ein hymchwil, rydym yn ymwybodol mai’r ddau grŵp hyn oedd y rhai yr oedd diwedd y newid i Gofrestriad Etholiadol Unigol yn fwyaf tebygol o fod wedi effeithio arnynt.

    Byddwn yn cyhoeddi adroddiad ym mis Gorffennaf 2016 ar gywirdeb a chyflawnrwydd y cofrestru ym Mhrydain Fawr ar ôl y newid i Gofrestriad Etholiadol Unigol. Bydd yr adroddiad hwn hefyd yn cynnwys asesiad o’r gofrestr yng Ngogledd Iwerddon.

    Pleidleiswyr o’r Lluoedd Arfog – Byddwn yn parhau i weithio gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn i sicrhau bod pleidleiswyr o’r lluoedd arfog wedi’u cofrestru ac y gallant gymryd rhan ym mhob cyfres o etholiadau a refferenda.

    Etholwyr tramor – Byddwn yn parhau â’n gwaith i annog etholwyr tramor** i gofrestru drwy ddefnyddio ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth y cyhoedd cyn Refferendwm yr UE, etholiad Senedd Ewrop yn 2019 ac etholiad cyffredinol y DU yn 2020. Byddwn hefyd yn gweithio gyda’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad, swyddfeydd tramor pleidiau gwleidyddol, ystod o bartneriaid â chysylltiadau â’r gymuned alltud ac eraill er mwyn helpu i annog cofrestru.

    Newidiadau i’r etholfraint ar gyfer etholiadau neu refferenda – Byddwn yn parhau i gynghori a chefnogi llywodraethau a deddfwrfeydd ledled y DU wrth ystyried cynigion i newid yr etholfraint ar gyfer etholiadau a refferenda yn y dyfodol. Cyn etholiadau mis Mai 2016, rydym wedi cynnal gwaith codi ymwybyddiaeth y cyhoedd ychwanegol yn yr Alban wedi’i anelu at bobl ifanc 15-17 oed, gan mai hwn fydd y tro cyntaf y byddant yn gymwys i bleidleisio yn etholiad Senedd yr Alban. Rydym wedi gweithio gyda llywodraethau’r Alban a’r DU a Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn yr Alban er mwyn helpu i nodi a datrys yr heriau ymarferol o weithredu newid er mwyn caniatáu i bobl ifanc 16 a 17 oed i gofrestru a phleidleisio yn etholiad Senedd yr Alban ym mis Mai 2016. Byddwn hefyd yn monitro ymrwymiad y Llywodraeth i gyflwyno deddfwriaeth ar bleidleisio am oes ar gyfer etholwyr tramor.

    Moderneiddio a gwelliannau pellach i’r system gofrestru etholiadol – Rydym wedi croesawu’r datblygiad gan y Gweinidog dros Ddiwygio Cyfansoddiadol o weledigaeth ar gyfer dyfodol cofrestriad etholiadol, a byddwn yn parhau i nodi a thynnu sylw at ffyrdd newydd o wella’r gwasanaeth a ddarperir i etholwyr.

    Byddwn yn gwerthuso unrhyw gynlluniau peilot ar gofrestru etholiadol a gynhelir yn 2016 a 2017, ac yn nodi unrhyw beth a ddysgwyd y gellir ei ddefnyddio i lywio gwelliannau i’r system gofrestru ymhellach. Byddwn yn parhau i nodi cyfleoedd am newidiadau mwy sylweddol a fydd yn cefnogi gwasanaethau gwell i bobl sydd am gofrestru i bleidleisio mor hawdd a syml â phosibl. Byddwn yn manteisio ar brofiad democratiaethau tebyg mewn rhannau eraill o’r byd sy’n wynebu heriau tebyg, gan ddysgu a rhannu arfer gorau. Byddwn hefyd yn nodi gwersi a ddaw yn sgîl moderneiddio gwasanaethau cyhoeddus mewn mannau eraill yn y DU y gellid eu cymhwyso i wella’r system gofrestru etholiadol.

    Byddwn yn parhau i weithio gyda’r Prif Swyddog Etholiadol ar gyfer Gogledd Iwerddon i gefnogi’r nod o gyflwyno cofrestriad ar-lein i etholwyr yng Ngogledd Iwerddon erbyn hydref 2016.

    ** Mae etholwyr tramor yn cyfeirio at ddinasyddion Prydeinig sy’n byw dramor sy’n bodloni rhai amodau ac sy’n gymwys i gofrestru i bleidleisio yn y Deyrnas Unedig.

  • 15

    Twyll etholiadolMae twyll etholiadol yn fater difrifol pan fydd achos ohono’n codi, a byddwn yn parhau i weithio gyda Swyddogion Canlyniadau, Swyddogion Cofrestru Etholiadol, heddluoedd ac ymgyrchwyr i sicrhau bod trefniadau cadarn ac effeithiol ar waith i atal, canfod ac ymdrin â thwyll etholiadol, yn enwedig mewn ardaloedd lle bu hanes o honiadau o dwyll etholiadol a lle y gall fod risg uwch o honiadau yn y dyfodol.

    Rydym am sicrhau yr eir i’r afael â phryderon pobl am beryglon o ran y modd y cynhelir ein hetholiadau, gan gynnwys sicrhau bod mesurau effeithiol i atal twyll etholiadol ar waith ynghyd â chynlluniau cadarn ar gyfer canfod a delio ag ymdrechion i ffugio canlyniadau etholiadau.

    Er nad oes tystiolaeth fod twyll etholiadol yn gyffredin yn y Deyrnas Unedig, ac er bod nifer yr achosion o dwyll etholiadol honedig y rhoddir gwybod i’r heddlu amdanynt yn gymharol fach o gymharu â nifer yr etholiadau a ymleddir a nifer y bobl sy’n pleidleisio mewn etholiadau bob blwyddyn, mae lefel gyson o bryder ymhlith y cyhoedd ynghylch twyll etholiadol. Dengys ein hymchwil ar farn gyhoeddus fod tua thraean o bobl o’r farn fod twyll etholiadol yn broblem.*

    Yn sgîl cyflwyno Cofrestriad Etholiadol Unigol yn llwyddiannus yn 2014 mae diogelwch ac uniondeb y gofrestr etholiadol wedi gwella, ond erys elfennau allweddol eraill y broses etholiadol yn ddibynnol iawn ar ymddiriedaeth. Nododd ein hadolygiad o dwyll etholiadol yr angen i fynd i’r afael â pha mor agored yw pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio i dwyll drwy gyfrwng cam-bersonadu. Argymhellwn y dylai fod yn ofynnol i etholwyr yn y dyfodol ddangos prawf adnabod cyn cael papur pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio ar gyfer etholiadau a refferenda ym Mhrydain Fawr, fel y gwneir eisoes yng Ngogledd Iwerddon a llawer o wledydd eraill.

    Er nad yw Llywodraeth y DU na Llywodraeth yr Alban wedi ymateb eto i’n hargymhelliad ym mis Ionawr 2014 ar gyfer cynllun prawf adnabod i bleidleiswyr mewn gorsafoedd pleidleisio, gwnaethom gyhoeddi ein cynigion a’n costau ar gyfer model gweithredu ym mis Rhagfyr 2015. Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban i ddatblygu cynigion deddfwriaethol ar gyfer cynllun y gellid ei gyflwyno i’w gymeradwyo gan Senedd y DU a Senedd yr Alban mewn pryd i’w ddefnyddio erbyn etholiadau Mai 2019 fan bellaf.

    Gweithgarwch allweddol 2016-17 i 2020-21Twyll etholiadol – Croesawn yr adolygiad o dwyll etholiadol a gyhoeddwyd ym mis Awst 2015 dan arweiniad Syr Eric Pickles, hyrwyddwr gwrth-lygredd Llywodraeth y DU. Byddwn yn parhau i weithio gyda Swyddogion Cofrestru Etholiadol, Swyddogion Canlyniadau a heddluoedd, i wella hyder o ran uniondeb etholiadau, ac edrychwn ymlaen at gyhoeddi’r adolygiad o dwyll etholiadol.

    Byddwn yn parhau i sicrhau bod strategaethau cadarn ar waith i atal twyll etholiadol, yn ogystal â delio’n effeithiol ag achosion o dwyll etholiadol honedig os cânt eu gwneud. Byddwn yn targedu ein gwaith er mwyn sicrhau y gwneir pob ymdrech i leihau cyfleoedd ar gyfer twyll etholiadol mewn ardaloedd lle mae hanes o honiadau o dwyll etholiadol a lle y gall fod risg uwch o honiadau yn y dyfodol. Byddwn yn parhau i annog ymgyrchwyr i ddilyn y Cod Ymddygiad ar gyfer Ymgyrchwyr ym Mhrydain Fawr, yr ydym wedi ei ddatblygu ar y cyd â phartneriaid gwleidyddol, Swyddogion Canlyniadau a heddluoedd.

    Fframwaith etholiadolMae pobl ledled y Deyrnas Unedig yn disgwyl ac yn haeddu gwasanaeth cyson o ran system gofrestru etholiadol, etholiadau a refferenda. Er y cytunir yn gyffredinol ar y safonau y dylai pawb

    * Am ragor o wybodaeth, gweler data Traciwr y Gaeaf ar ein gwefan yn: www.electoralcommission.org.uk/our-work/our-research/public-opinion-surveys

  • 16

    sy’n gyfrifol am ddarparu’r gwasanaethau hyn eu cyrraedd, mae atebolrwydd yn dameidiog ac mewn llawer o achosion ni all neb ymyrryd er mwyn sicrhau y cyrhaeddir y safonau hyn. Mae angen mynd i’r afael â’r mater hwn o ran cofrestru etholiadol, refferenda a phob math o etholiad ledled y Deyrnas Unedig, a byddwn yn parhau i weithio gydag ECAG i gynnal dealltwriaeth gyffredin o’r hyn sy’n gyfystyr â rheolaeth etholiadol dda. Cymeradwywyd ein safonau perfformiad gan y Bwrdd Cynghori Etholiadol a byddwn yn parhau â’n gwaith o nodi, cydnabod a rhannu arfer da.

    Mae deddfwriaeth etholiadol y Deyrnas Unedig yn dameidiog ac yn anghyson ac nid yw’n gyfredol. Byddwn yn gweithio gyda Chomisiynau’r Gyfraith i gefnogi eu prosiect i adolygu a moderneiddio strwythur y fframwaith deddfwriaethol. Mae anghysondeb sylweddol hefyd yn y rheolau ynghylch sefyll fel ymgeisydd ar gyfer etholiadau gwahanol (ernesau, tanysgrifwyr, anghymhwyso).

    Rydym am sicrhau’r canlynol:

    • Bod pleidleiswyr ac ymgeiswyr yn hyderus y caiff prosesau cyfrif eu llunio a’u rheoli i sicrhau canlyniadau cywir, yn gyflym a thryloyw.

    • Ei bod yn syml i bobl sefyll fel ymgeisydd mewn etholiadau a bod y rheolau ar gyfer hyn yn ennyn hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd.

    • Bod atebolrwydd clir o ran sut y caiff yr etholiadau eu cynnal, p’un a yw’r atebolrwydd hwnnw yn cael ei gyflawni gan un unigolyn (e.e. Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol yn etholiadau Senedd Ewrop neu Swyddog Canlyniadau Llundain Fwyaf) neu drwy fframwaith safonau perfformiad y Comisiwn.

    • Bod ymrwymiad a rennir ar draws y gymuned etholiadol i egwyddorion allweddol cynnal ymddiriedaeth, cefnogi cyfranogiad a sicrhau nad oes unrhyw ddylanwad gormodol.

    • Bod Comisiynau’r Gyfraith yn gwneud cynnydd da o ran adolygu deddfwriaeth etholiadau.

    Gweithgarwch allweddol 2016-17 i 2020-21Adolygiad Comisiynau’r Gyfraith o brosiect cyfraith etholiadol – Mae Comisiynau’r Gyfraith wedi cyhoeddi eu hadolygiad interim yn nodi eu hargymhellion ar gyfer diwygio cyfraith etholiadol. Mae hwn yn gam allweddol yn y broses adolygu a byddwn yn rhoi dadl dros hyn er mwyn sicrhau bod yr adolygiad yn parhau hyd at y cam nesaf ac yn arwain at fframwaith cyfreithiol symlach a chliriach. Bydd hyn yn cynnwys gwaith i ddangos buddiannau gwirioneddol fframwaith cyfreithiol symlach. Byddwn yn parhau i ddarparu arweiniad a chymorth i Gomisiynau’r Gyfraith wrth iddynt ddatblygu deddfwriaeth ddrafft, y disgwyliwn iddi gael ei chyhoeddi yn 2017. Mae datblygiad a gweithrediad y ffurf ddrafft yn dibynnu ar gymeradwyaethau gan lywodraethau. Os digwydd hyn, bydd yn arwain at newidiadau, gan gynnwys yr angen am adolygiad cyflawn o’r canllawiau a ddarparwn a nodi’r ffordd orau o sicrhau yr ymgorfforir y newidiadau.

    Byddai deddfwriaeth ddiwygiedig yn fuddiol i bawb sydd ynghlwm wrth weinyddu etholiadau, y rhai sy’n sefyll etholiad ac, yn bwysicaf oll, y rhai sydd am fwrw eu pleidlais. Mae pob ymatebydd i ymgynghoriad Comisiwn y Gyfraith, gan gynnwys ni ein hunain, wedi cytuno bod angen adolygu a diweddaru’r gyfraith sy’n ymwneud ag etholiadau. Nid yw’n ddigon i atgyfnerthu’r gwahanol ddarnau o gyfraith etholiadol, rhaid hefyd eu moderneiddio a’u symleiddio. Mae gan yr adolygiad y potensial i wir wella profiad y pleidleiswyr yn wirioneddol, gan helpu i gynnal etholiadau mewn ffordd sy’n addas ar gyfer democratiaeth yn yr 21ain ganrif.

    Sefyll etholiad – Ym mis Ionawr 2015 adroddwyd ar ein prosiect i ystyried y ddadl dros foderneiddio a symleiddio’r rheolau ar sefyll etholiad er budd ymgeiswyr a Swyddogion Canlyniadau fel ei gilydd, ac i gyflawni set gyffredin gytûn o egwyddorion sy’n sicrhau triniaeth deg a chyfartal ymhlith y rhai sy’n sefyll etholiad. Yn y dyfodol byddwn yn gweithio i sicrhau bod ein hargymhellion ar gyfer newid yn denu cefnogaeth drawsbleidiol, a bod cynlluniau ar gyfer gweithredu’r argymhellion yn cael eu cyflawni, gan gynnal ymgynghoriad neu ymchwil bellach lle bo angen.

  • 17

    Safonau perfformiad – Byddwn yn adolygu ein dull monitro sy’n seiliedig ar risg yn barhaus, lle bydd llai o bwyslais ar gadarnhau bod pob Swyddog Canlyniadau yn cyflawni lefel ofynnol benodol o berfformiad os nad oes rheswm gennym i gredu nad felly y byddai, a ffocws ar weithio gyda Swyddogion Canlyniadau unigol er mwyn sicrhau y gellir rhoi cymorth lle bo ei angen er mwyn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel i bleidleiswyr a’r rhai sy’n sefyll etholiad.

    Ar gyfer etholiadau a gynhelir yn 2016, byddwn yn monitro pob deiliad swydd statudol sydd â phŵer i gyfarwyddo o dan safon perfformiad 3 (Cydgysylltu a rheoli’r bleidlais). Os na fydd rôl deiliad swydd statudol o’r fath byddwn yn monitro perfformiad swyddogion canlyniadau lleol yn erbyn safonau 1 a 2.

    Cyfrif Pleidleisiau Sengl Trosglwyddadwy yng Ngogledd Iwerddon – Yn ystod 2015-16 gwnaethom arwain prosiect i asesu ffyrdd o wneud y broses o gyfrif Pleidleisiau Sengl Trosglwyddadwy yng Ngogledd Iwerddon yn fwy effeithlon. Gwnaethom gyhoeddi set o argymhellion ym mis Chwefror 2016. Byddwn yn gweithio gyda’r Prif Swyddog Etholiadol ar gyfer Gogledd Iwerddon i fyfyrio ar yr argymhellion hyn wrth gyfrif Pleidleisiau Sengl Trosglwyddadwy yn y dyfodol.

    Sicrhau y gall pleidleiswyr weld sut mae gwleidyddion ac ymgyrchwyr yn codi arian ac yn ei warioDylai pleidleiswyr fod yn gallu gweld sut y caiff pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr eu hariannu a’r hyn a wariant ar ymgyrchu. Er mwyn cyflawni’r nod hwn, rhaid cael rheolau clir, cymesur ac effeithiol ar gyllid gwleidyddol, gan gynnwys rheolau ar gyfer etholiadau a refferenda newydd a gynhelir yn ystod cyfnod y cynllun hwn.

    Rydym am sicrhau’r canlynol:

    • ei bod yn hawdd i bobl ddysgu sut y caiff y system wleidyddol ei hariannu

    • ei bod mor hawdd â phosibl i bobl gydymffurfio â’r rheolau, drwy ganllawiau a systemau da

    • bod dealltwriaeth well o gyllid a gwariant pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau, gan fanteisio ar wybodaeth gymaradwy o ddatganiadau cyfrifon blynyddol pleidiau

    • bod mwy o dryloywder ynghylch ffynonellau rhoddion a benthyciadau i bleidiau gwleidyddol, derbynwyr rheoledig ac ymgyrchwyr eraill yng Ngogledd Iwerddon

    Gweithgarwch allweddol 2016-17 i 2020-21Cyflawni tryloywder – Mae ein gwaith parhaus i gyflawni tryloywder yn cynnwys cyhoeddi pob ffurflen statudol mewn modd amserol a chywir.

    Byddwn yn cyhoeddi’r canlynol yn rheolaidd:

    • adroddiadau chwarterol gan bleidiau gwleidyddol ar eu rhoddion a’u benthyciadau

    • datganiadau blynyddol o gyfrifon pleidiau gwleidyddol

    • datganiadau blynyddol o gyfrifon ar gyfer unedau cyfrifyddu pleidiau gwleidyddol yr oedd eu hincwm gros neu gyfanswm eu gwariant yn fwy na £25,000

    • adroddiadau misol ar roddion a benthyciadau gan dderbynwyr rheoledig

    Hefyd, byddwn yn cyhoeddi’r canlynol fel y bo’n briodol:

    • adroddiadau wythnosol ar roddion a benthyciadau gan bleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr yn ystod y cyfnod cyn etholiad cyffredinol yn y DU

    • adroddiadau chwarterol ar roddion a benthyciadau gan ymgyrchwyr yn y cyfnod cyn etholiad cyffredinol yn y DU

  • 18

    • manylion am wariant gan bleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr yn yr etholiadau a gynhelir ym mis Mai 2016

    • manylion y gwariant gan ymgyrchwyr refferendwm

    Byddwn hefyd yn cyhoeddi manylion am ein gweithrediadau rheoleiddio yn unol â’n polisi datgelu.

    Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ar gynnwys deddfwriaeth i weithio tuag at gyflawni mwy o dryloywder o ran rhoddion a benthyciadau yng Ngogledd Iwerddon.

    Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau – Ein nod yw sicrhau bod pawb a all gael ei reoleiddio yn deall y gyfraith ac yn cael cymorth i gydymffurfio â’r gyfraith. Penodwyd yr Arglwydd Hodgson gan Lywodraeth y DU i gynnal adolygiad statudol, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2016, er mwyn gweld pa mor dda yr oedd y system reoleiddio ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn gweithio. Rydym wrthi’n ystyried y materion a’r cynigion allweddol a ddeilliodd o’r adolygiad ac yn edrych ymlaen at fynegi ein barn maes o law.

    Grantiau datblygu polisi effeithiol ac effeithlon – Byddwn yn parhau i fireinio ein dull o reoli’r arian cyhoeddus a ddyfernir er mwyn helpu pleidiau i ddatblygu polisïau i’w cynnwys mewn maniffestos ar gyfer etholiadau. Byddwn yn parhau i sicrhau bod rheolaethau priodol ynghylch dosbarthu a defnyddio arian cyhoeddus heb greu beichiau gweinyddol diangen.

    Safoni prosiect datganiadau cyfrifon – Yn dilyn gofynion deddfwriaethol newydd a gyflwynwyd gyda Deddf Tryloywder Lobïo, Ymgyrchwyr Nad Ydynt yn Bleidiau a Gweinyddu Undebau Llafur 2014 sy’n ymdrin â datganiadau cyfrifon ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau, byddwn yn gweithredu dull o safoni datganiadau cyfrifon ar gyfer pleidiau gwleidyddol.

    Sicrhau bod y wybodaeth sydd gennym ar gael yn haws – Mae cyflwyno Cyllid Pleidiau ac Etholiadau Ar-lein yn golygu bod gwybodaeth am gyllid pleidiau ac etholiadau ar gael bellach mewn fformat mwy hygyrch. Mae hyn yn golygu bod y rhai sy’n defnyddio ein gwybodaeth yn gallu craffu fwy arni. Byddwn yn parhau i ddarparu rhagor o wybodaeth drwy sicrhau bod data hanesyddol ar gael.

    Rheoleiddio daRhaid i’r rhai a reoleiddiwn, pleidiau ac ymgyrchwyr sefydledig, a newydd-ddyfodiaid, fod yn glir ynghylch eu cyfrifoldebau o dan y system cyllid gwleidyddol.

    Byddwn yn gwneud y canlynol:

    • cefnogi pleidiau, ymgeiswyr ac ymgyrchwyr sy’n ceisio cydymffurfio â’u dyletswyddau statudol

    • mynd i’r afael ag enghreifftiau o ddiffyg cydymffurfio, a defnyddio ein pwerau ar sail gymesur i sicrhau cydymffurfiaeth

    • sicrhau y caiff cyllid gwleidyddol ei reoleiddio’n effeithiol mewn etholiadau a refferenda (rhyngddynt) drwy:

    – gofrestru pleidiau ac ymgyrchwyr, a rhoi cyngor ac arweiniad iddynt

    – cadarnhau a chyhoeddi gwybodaeth am gyllid a gwariant

    – delio â phryderon bod y rheolau wedi’u torri

    • canolbwyntio ein hymdrechion rheoleiddio ar y meysydd lle mae’r risg fwyaf, wedi’u llywio gan ein hasesiadau risg cyhoeddedig ac egwyddorion rheoleiddio da

    Gweithgarwch allweddol 2016-17 i 2020-21Sicrhau cydymffurfiaeth – Mae ein gwaith i annog cydymffurfiaeth yn cynnwys cofrestru pleidiau, cyhoeddi canllawiau sy’n egluro sut i gydymffurfio â’r rheolau, cynnig cyngor mewn ymateb i

  • 19

    ymholiadau, a pharhau i ganfod ffyrdd o gysylltu â’r rhai a reoleiddiwn i’w hysbysu’n gyson am y rheolau a sut i gydymffurfio â hwy.

    Ymchwilio a delio â diffyg cydymffurfiaeth – Rydym yn dwyn y rhai sy’n methu â chydymffurfio â’r rheolau i gyfrif. Mae ein gwaith yn cynnwys delio â honiadau o droseddau yn ymwneud â chyllid a gwariant gan bleidiau ac ymgyrchwyr, gan gymryd camau cadarn a chymesur a phennu cosbau lle y bo’n briodol. Rydym hefyd yn cyhoeddi gwybodaeth am ganlyniadau achosion ac adroddiadau ar achosion yn dilyn ymchwiliadau priodol. Ar ddiwedd 2015 gwnaethom ymgynghori ar Bolisi Gorfodi diwygiedig. Mae’r polisi diwygiedig yn adlewyrchu ein datblygiad yn y maes hwn ers 2010 ac yn pennu fframwaith newydd ar gyfer ein hymchwiliadau yn y dyfodol. Caiff ei gyhoeddi yn ystod gwanwyn 2016.

    Cyflwyno rheoliadau – Bydd y Comisiwn yn defnyddio ei bwerau gwneud rheoliadau i bennu safonau cyffredin ar gyfer cyfrifon pleidiau.

    Cyflwyno canllawiau ar-lein – Rydym am ddefnyddio technoleg a dulliau cyfathrebu modern er mwyn bod mor effeithlon â phosibl. Mae 82% o boblogaeth y DU ar-lein ac mae ganddynt ddisgwyliadau mawr o’r hyn sy’n gwneud gwasanaeth digidol da ac mae angen i ni fodloni’r disgwyliadau hynny. Byddwn yn dechrau cyhoeddi ein canllawiau yn ddigidol ac yn ei gwneud yn bosibl i adroddiadau ar gyfer pleidiau ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau gael eu cyflwyno’n ddigidol.

    Gwella’r fframwaith deddfwriaethol ar gyllid pleidiau ac etholiadauEr mwyn sicrhau bod y rheolau’n ateb y diben, rhaid cael rheolau clir, cymesur ac effeithiol ar gyllid gwleidyddol.

    Yn 2013, gwnaethom gyhoeddi adolygiad o’r rheolau cyfredol ar roddion a gwariant ymgyrchu, a chwiliodd am gyfleoedd i wneud y fframwaith a bennwyd gan Senedd y DU yn 2000 yn fwy effeithiol, a lleihau beichiau gweinyddol. Mae rhai o’r argymhellion wedi cael eu cyflwyno ers hynny drwy ddeddfwriaeth etholiadau a refferenda gan Lywodraethau’r DU a’r Alban, ac rydym wedi gweithio i gefnogi’r broses o’u rhoi ar waith.

    Mae ein hamcanion fel a ganlyn:

    • Dylai newidiadau i’r rheolau cyfredol ar roddion a gwariant, a rheolau ar gyfer etholiadau a refferenda newydd, fod er budd pleidleiswyr, gan adlewyrchu ein profiad o reoleiddio’r gyfundrefn bresennol ers dros 10 mlynedd.

    • Ymdrinnir â phroblemau hysbys â’r rheolau cyfredol mewn da bryd ar gyfer etholiadau sydd ar droed ac mae unrhyw newidiadau ehangach yn ddichonadwy ac yn cael eu cyflwyno drwy amserlen glir a realistig.

    Gweithgarwch allweddol 2016-17 i 2020-21Newidiadau deddfwriaethol – byddwn yn parhau i gefnogi a thrafod yn feirniadol y gwaith o gyflwyno deddfwriaeth newydd ar etholiadau, refferenda neu ddigwyddiadau etholiadol newydd eraill.

    Adolygiad rheoleiddio – Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ac eraill i barhau i hyrwyddo’r gwaith o fabwysiadu’r 50 o argymhellion i wella’r rheolau a gyhoeddwyd gennym ym mis Mehefin 2013:

    • Lle y gallwn wneud newidiadau ein hunain, byddwn yn lleihau cymhlethdod a beichiau tra’n cynnal camau diogelu priodol.

    • Lle bo angen deddfwriaeth ar newidiadau, byddwn yn gweithio gyda Seneddau a llywodraethau, a chyda’r rhai a reoleiddiwn ac eraill i hyrwyddo rheolau newydd dichonadwy ac effeithiol.

  • 20

    Llywodraethu

    Ers 31 Mawrth 2016 mae Bwrdd y Comisiwn yn cynnwys 10 Comisiynydd, y mae un ohonynt yn Gadeirydd. Penodir pob Comisiynydd gan Ei Mawrhydi y Frenhines. Mae’r Comisiwn yn atebol i Senedd y DU, ac yn benodol i bwyllgor a gadeirir gan Lefarydd Tŷ’r Cyffredin.

    Mae annibyniaeth yn hollbwysig i hyder y cyhoedd yn ein heffeithiolrwydd. Ein nod yw sicrhau model o lywodraethu corfforaethol rhagorol.

    Diwygiodd Deddf Dadreoleiddio 2015 y sail cyflwyno dros Gynlluniau Corfforaethol y Comisiwn. O dan y ddeddfwriaeth newydd, mae’n ofynnol i’r Comisiwn lunio cynllun pum mlynedd ym mlwyddyn gyntaf Senedd newydd ac wedi hynny yn ôl gofynion Pwyllgor y Llefarydd.

    Mae Pwyllgor y Llefarydd yn archwilio ein cynllun pum mlynedd, ac amcangyfrifon adnoddau ariannol ac amcanol blynyddol. Mae un o’i aelodau hefyd yn ymateb i gwestiynau yn Nhŷ’r Cyffredin ar faterion sy’n ymwneud â’n gwaith. Mae Pwyllgor y Llefarydd yn gyfrifol am recriwtio Comisiynwyr. Mae aelodau Pwyllgor y Llefarydd fel a ganlyn: Gwir Anrh John Bercow AS (Llefarydd, Cadeirydd Pwyllgor y Llefarydd), Mr Bernard Jenkin AS (Cadeirydd y Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol), Gwir Anrh Oliver Letwin AS (Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn), Gwir Anrh Mark Francois AS (Gweinidog Gwladol dros Gymunedau a Chydnerthedd a’r Gweinidog yn yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol), Gwir Anrh Syr Gerald Kaufman AS, Bridget Phillipson AS, Mr Gary Streeter AS, Jessica Morden AS and Pete Wishart AS.

    Y Comisiynwyr Etholiadol presennol yw: Jenny Watson (Cadeirydd), Anna Carragher, Gareth Halliwell, Tony Hobman, John Horam, David Howarth, John McCormick, Alasdair Morgan, Bridget Prentice a Rob Vincent CBE.

    Maent yn gyfrifol am waith y sefydliad ac yn pennu ein cyfeiriad strategol. Daw deiliadaethau ein Cadeirydd presennol, Jenny Watson, a Chomisiynydd Etholiadol, yr Alban, John McCormick i ben ar 31 Rhagfyr 2016.

    Mae’r tîm gweithredol yn cefnogi’r Comisiynwyr drwy ddarparu arweinyddiaeth o ddydd i ddydd i weithredu ein cynllun corfforaethol. Aelodau tîm gweithredol y Comisiwn yw: Claire Bassett (Prif Weithredwr), Carolyn Hughes (Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol), Bob Posner (Cyfarwyddwr Cyllid Pleidiau ac Etholiadau a Chwnsler Cyfreithiol), Alex Robertson (Cyfarwyddwr Cyfathrebu) ac Andrew Scallan CBE (Cyfarwyddwr Gweinyddiaeth Etholiadol).

    Goblygiadau datganoli pellach yng Nghymru a’r AlbanMae cyfrifoldeb am etholiadau Senedd yr Alban yn trosglwyddo i Senedd yr Alban (mae eisoes yn gyfrifol am etholiadau llywodraeth leol) ac mae Bil drafft Cymru wedi cynnig y dylai cymhwysedd deddfwriaethol ar gyfer llywodraeth leol ac etholiadau’r Cynulliad gael ei drosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’r Comisiwn wedi nodi’n glir ein bod yn awyddus i fod yn atebol am yr agweddau hyn ar ein gwaith i Senedd yr Alban a Chynulliad Cenedlaethol Cymru a byddwn yn trafod y ffordd orau o gyflawni hyn gyda’r cyrff hynny.

  • 21

    Byddwn hefyd yn adolygu ein strwythur llywodraethu yn gyson yn ystod y cyfnod a gwmpesir gan y cynllun corfforaethol hwn, ac yn 2016-17 byddwn yn sefydlu grwpiau cynghori newydd yng Nghymru a’r Alban. Ar yr un pryd rydym yn rhoi mwy o awdurdod gwneud penderfyniadau i Benaethiaid y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban a byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar y materion hyn wrth i bwerau drosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd yr Alban.

    Rydym yn cyhoeddi manylion llawn am ein perfformiad bob blwyddyn yn ein hadroddiad blynyddol (y gellir ei weld ar ein gwefan yn www.comisiwnetholiadol.org.uk).

  • 22

    Rheolaeth ariannol

    Mae Pwyllgor y Llefarydd wedi dynodi’r Prif Weithredwr fel Swyddog Cyfrifyddu’r Comisiwn, ac mae’n gyfrifol am briodoldeb a rheoleidd-dra gwariant, gan sicrhau y cedwir cofnodion cyfrifyddu priodol ac y diogelir asedau. Mae dyletswyddau’r Swyddog Cyfrifyddu hefyd yn ymestyn i reoli’r costau heb bleidlais sy’n gysylltiedig â chynnal Refferendwm yr UE.

    Fe’i cefnogir yn y rôl hon gan y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol a, thrwy system o reolaeth gyllidebol ddirprwyedig, gan ei chyfarwyddwyr ac uwch reolwyr.*

    Mae’r Pwyllgor Archwilio, gyda chyngor gan yr uned archwilio fewnol ac allanol, yn helpu’r Swyddog Cyfrifyddu i gyflawni ei chyfrifoldebau.

    Mae gweithdrefnau rheolaeth ariannol yn cynnwys adroddiadau misol ar wariant yn erbyn cynlluniau a rhagolygon ariannol i’r Tîm Gweithredol, adolygiad cyson o gyllidebau gan gyfarwyddwyr a’u huwch reolwyr a phroses graffu bwrdd y rhaglen a’r gwaith o fonitro cyllidebau’r rhaglen. Rheolir gwariant cyfalaf drwy Fwrdd Seilwaith a Phrosiectau Corfforaethol.

    Mae rheolaeth ariannol effeithiol yn hollbwysig i gyflawni amcanion gweithredol o fewn y Comisiwn. Ein nod yw cefnogi proses effeithiol o wneud penderfyniadau drwy ddarparu gwybodaeth reoli amserol a chadarn, gan sicrhau’r defnydd mwyaf posibl o adnoddau i fodloni nodau ac amcanion y sefydliad. Rydym hefyd yn gobeithio lleihau gorbenion rheolaeth ariannol drwy ddefnydd effeithlon o dechnoleg a data ariannol un ffynhonnell.

    * Mae ein fframwaith llywodraethu corfforaethol ar gael yn: www.electoralcommission.org.uk/about-us/how-we-are-run/governance.

  • 23

    Costau cyflawni’r cynllun hwn

    Mae gofynion adnoddau ar gyfer y cyfnod y cynllun hwn wedi’u paratoi yn unol â’r egwyddorion a sefydlwyd mewn blynyddoedd blaenorol. Mae’r Comisiwn eisoes wedi gwneud arbedion effeithlonrwydd sylweddol o ran pobl a chostau gorbenion a bydd yn parhau i ymdopi ag effaith pwysau chwyddiant o fewn ei gyllidebau craidd. Bydd ein cynlluniau gwariant craidd yn lleihau 10.4% arall mewn termau real yn ystod cyfnod y cynllun sy’n golygu y bydd y Comisiwn wedi sicrhau arbedion o fwy na £7.3m neu 41% yn ei gostau cynnal sylfaenol yn ystod cyfnod y cyfyngiad ar wariant cyhoeddus ers 2010-11. Yn ogystal â gostyngiadau mewn costau craidd rydym hefyd wedi nodi arbedion effeithlonrwydd, yn enwedig wrth gynnal ein hymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth y cyhoedd, sydd wedi ein galluogi i wneud gostyngiadau cyfatebol yn ein gwariant sy’n gysylltiedig â digwyddiadau am y flwyddyn.

    Ceir crynodeb o wariant rhagamcanol ar gyfer cyfnod y cynllun hwn yn nhabl 1. Dangosir ein gwariant disgwyliedig ar gynnal y Refferendwm Ewropeaidd yn fanylach yn nhabl 2. Mae’r rhagamcanion yn adlewyrchu’r cylch etholiadol hysbys a’n hymrwymiad i gynnal rheolaeth dynn dros ein gwariant craidd.

    Tabl 1: Gwariant y Comisiwn Etholiadol 2016-2017 i 2020-2021

    Y Comisiwn Etholiadol 2016-17 2017-18 2018-19 2019-20 2020-21£m Gwariant craiff 10.683 10.641 10.682 10.642 10.681Gwariant digwyddiadau 4.290 2.068 2.486 3.382 3.520Refferendwm yr UE 8.750 0.510 Incwm (1.010) (0.666) (0.016) (0.019) (0.019)Cyfanswm y costau rhedeg 22.713 12.553 13.152 14.005 14.182Grantiau Datblygu Polisi 2.000 2.000 2.000 2.000 2.000Gwariant cyfalaf 0.310 0.370 0.250 0.250 0.250Cyfanswm y cynlluniau gwario 25.023 14.923 15.402 16.255 16.432

    Adroddir ar y gyllideb adnoddau mewn pedwar prif gategori – costau craidd gan gynnwys dibrisiant, costau sy’n gysylltiedig â digwyddiadau, grantiau datblygu polisi a gwariant cyfalaf i bleidiau gwleidyddol.

    Mae costau craidd yn ariannu’r gweithgareddau a gyflawnwn ni waeth beth fo’r cylch etholiadol; mae hyn yn cynnwys cofrestru a monitro’r broses o ariannu pleidiau gwleidyddol, cefnogi gweinyddiaeth etholiadol a dadansoddi safonau perfformiad a rhai elfennau o’n gwaith ymchwil. Mae costau craidd yn cynnwys gwariant gweinyddol ar swyddogaethau sy’n cefnogi’r Comisiwn gan gynnwys adeiladau, TGCh a theleffoni.

    Yn ogystal â’n costau craidd awn i gostau sy’n gysylltiedig â digwyddiadau bob blwyddyn, sy’n amrywio yn ôl y cylch etholiadol a gweithgareddau eraill nad ydynt yn rhai rheolaidd. Ar gyfer 2016-

  • 24

    17 mae’r costau sy’n gysylltiedig â digwyddiadau yn y tabl uchod wedi cael eu cynyddu’n sylweddol o ganlyniad i Refferendwm yr UE (gweler tabl 2). Mae’r gwariant ar ddigwyddiadau yn cynnwys cost gweithgareddau a gynhaliwyd ar etholiadau llywodraeth leol yr Alban a ailgodir ar Lywodraeth yr Alban ac a wrthbwysir yn erbyn incwm.

    Rydym yn parhau i weinyddu’r cynllun grant datblygu polisi sy’n darparu ar gyfer talu grantiau i bleidiau gwleidyddol cymwys er mwyn helpu i ddatblygu polisïau i’w cynnwys yn eu maniffestos. Yn ystod gwanwyn 2015, gwnaethom adolygu’r cynllun ac ymgynghori â phleidiau gwleidyddol a daethom i’r casgliad ei fod yn dal i fodloni ei ddiben gwreiddiol.

    Mae ein gwariant cyfalaf yn ymwneud â gweithredu a gwella systemau a seilwaith presennol y Comisiwn. Lle y nodir anghenion cyfalaf sy’n fwy na’r symiau hyn, byddem yn cynnig y dylid trosglwyddo cyllid o unrhyw arbedion mewn gwariant adnoddau. Daw’r brydles ar ein safle presennol i ben ym mis Hydref 2020 a byddwn yn ystyried opsiynau i ddiwallu anghenion yn y dyfodol o ran adeiladau yn dilyn yr adolygiad strategol.

    Nid yw gwariant pellach o tua £0.25 miliwn mewn Ffioedd Comisiynydd a threuliau cysylltiedig yn ei gwneud yn ofynnol i gael awdurdod Seneddol blynyddol ac fe’i hariennir yn lle hynny yn uniongyrchol o’r gronfa gyfunol. Ni chaiff y swm hwn ei gynnwys yn y ffigurau uchod.

    Tabl 2: Gwariant y Comisiwn Etholiadol ar gynnal Refferendwm yr UE (£m)

    Refferendwm ar yr UE 2015-16 2016-17 2017-18 Cyfanswm£mYmwybyddiaeth y Cyhoedd 1.068 5.434 6.502Grantiau Ymgyrchwyr Arweiniol 1.200 1.200Costau’r Prif Swyddog Cyfrif a digwyddiad y cyfrif 0.245 0.405 0.650

    Costau cyflawni eraill 0.337 1.711 0.510 2.558Cyfanswm 1.650 8.750 0.510 10.910

    Dangosir gwariant am y cyfnod llawn o dair blynedd o weithgarwch disgwyliedig. Amcangyfrif gorau o amseriad gwariant o reidrwydd yw’r dadansoddiad o ofynion rhwng y blynyddoedd, sy’n adlewyrchu pleidlais a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2016.

    Yn ogystal â’r gwariant yn nhabl 2 uchod, caiff y costau heb bleidlais yr eir iddynt gan Swyddogion Cyfrif a Swyddogion Cyfrif Rhanbarthol wrth gynnal Refferendwm yr UE eu cynnwys yng nghyfrifon y Comisiwn. Darperir y cyllid ar gyfer y gweithgarwch hwn mewn deddfwriaeth ac ni chaiff ei gymeradwyo drwy’r broses Amcangyfrifon.

  • 25

    Pobl

    Drwy ein pobl y byddwn yn llwyddo. Er mwyn cefnogi hyn, rydym wedi datblygu ein Cynllun Adnoddau Dynol sy’n darparu fframwaith i’n galluogi i fodloni ein hamcanion allweddol yn llwyddiannus.

    Bydd yr adolygiad strategol yn sail i fanylion penderfyniadau yn y dyfodol ynghylch y sefydliad a’r bobl a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni ein huchelgais. Ar yr adeg hon, cyn cyflwyno adroddiad ar yr adolygiad strategol, gellir crynhoi’r nod cyffredinol drwy ddweud mai’r nod yw creu sefydliad sydd:

    • Yn flaengar; gydag ymwybyddiaeth glir o’r hyn sy’n digwydd o’n cwmpas, yn enwedig ymhlith ein rhanddeiliaid allweddol

    • Ag arbenigwyr sy’n defnyddio ein harbenigedd i wella a datblygu ac sy’n hygyrch (yn fewnol ac i’n rhanddeiliaid)

    • Yn gymesur

    • Â’r bobl a’r seilwaith ar waith er mwyn helpu i gyflawni ein cynlluniau - mae hyn yn cynnwys bod yn dda iawn am reoli perfformiad sy’n datblygu pobl a’u sgiliau ac sy’n cyfeirio’r rhain tuag at y nodau cyffredin cywir.

    Er mwyn gwneud y pethau hyn bydd angen i ni ddatblygu ymhellach ein dull cyfathrebu mewnol, a’n sgiliau arwain a rheoli. Byddwn yn cwblhau ein Strategaeth Pobl i gyflawni casgliadau’r adolygiad strategol ac ar yr un pryd byddwn yn rheoli ein huchelgais o fewn ein paramedrau ariannol cyffredinol.

    Bydd lefelau staffio craidd yn parhau yn weddol gyson yn ystod cyfnod y cynllun hwn gyda chynnydd tymor byr yn nifer y staff er mwyn cyflawni’r gofynion a grëwyd gan bleidleisiau mawr, er enghraifft, Refferendwm yr UE.

    Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â’r undeb Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol i adeiladu ar ein cydberthynas bresennol, adeiladol. Mae cynnal cysylltiadau cyflogeion da yn greiddiol i feithrin dull ymgysylltu a sicrhau llwyddiant.

  • 26

    Gwybodaeth a Seilwaith

    Mae ein strategaethau adeiladau, TG a rheoli gwybodaeth yn sicrhau amgylchedd gwaith cost-effeithiol, diogel a chynhyrchiol i bob aelod o staff.

    Mae gwybodaeth a dealltwriaeth yn asedau sefydliadol hollbwysig ac rydym yn gweithio’n gyson i gynyddu eu gwerth i bob aelod o staff drwy wella’r systemau a’r protocolau a ddefnyddiwn i’w rheoli. Cydnabyddwn hefyd werth y wybodaeth a’r data sydd gennym i’n rhanddeiliaid ac rydym yn gweithio i sicrhau eu bod ar gael drwy amrywiaeth o sianelau i wella tryloywder ymhellach. Byddwn yn parhau i fuddsoddi’n sylweddol mewn systemau a seilwaith i wella’r cyfleusterau a’r adnoddau a ddarparwn i’n staff ac i’n cwsmeriaid. Rhoddwyd pwyslais penodol ar wella ein dull o reoli cysylltiadau â rhanddeiliaid.

    Dros y pum mlynedd diwethaf, rydym wedi gwneud newidiadau sylweddol i’n hystâd sydd wedi darparu amgylcheddau gwaith gwell i’n staff gan sicrhau arbedion blynyddol parhaus o fwy na £0.7 miliwn y flwyddyn. Byddwn yn parhau i geisio arbedion effeithlonrwydd a gwelliannau ond ni ragwelwn unrhyw newidiadau mawr pellach yn ein hystâd tan 2020 pan fyddwn yn adolygu ein hadeiladau yn Llundain. Fodd bynnag, byddwn yn parhau i wella cyfleusterau i gefnogi gweithio hyblyg er mwyn rhoi opsiynau i staff a fydd o fudd iddynt hwy a’r sefydliad.

    Dros y pum mlynedd nesaf byddwn yn parhau i fuddsoddi er mwyn gwella ein systemau a’n prosesau gwybodaeth gyda phwyslais penodol ar wella’r sianelau digidol sydd ar gael ar gyfer rhyngweithio â’n cwsmeriaid. Bwriedir cynnal sawl prosiect mawr i wella systemau ar-lein ar gyfer rheoleiddio pleidiau a darparu canllawiau. Byddwn hefyd yn ceisio gwella ein systemau mewnol yn barhaus er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu diweddaru’n gyson a’u bod yn addas at y diben. Byddwn yn buddsoddi i gynnal seilwaith cydnerth a diogel a all warantu parhad busnes. Rydym yn parhau i fod yn llwyr ymwybodol o’n cyfrifoldebau amgylcheddol a byddwn yn gweithio i fynd i’r afael â hwy gyda chefnogaeth grŵp cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol gweithredol.

  • 27

    AtodiadauAtodiad 1: Systemau etholiadol yn y Deyrnas Unedig Etholiad i System bleidleisio Pwy sy’n gyfrifol am y fframwaith

    cyfreithiol?Pwy a gaiff ei ethol?

    Pryd mae’r etholiad nesaf?

    Etholaeth7

    Senedd y DU System y cyntaf i’r felin

    Llywodraeth y DU (Swyddfa’r Cabinet)

    650 o Aelodau Seneddol (AS)

    Mai 2020 46,353,871

    Senedd Ewrop Rhestr o gynrychiolaeth gyfrannol ym Mhrydain Fawr (Pleidlais sengl drosglwyddadwy yng Ngogledd Iwerddon)

    Llywodraeth y DU (Swyddfa’r Cabinet)

    73 o Aelodau’r DU yn Senedd Ewrop (ASE)

    Mai 2019 46,359,108

    Cynulliad Gogledd Iwerddon

    Pleidlais sengl drosglwyddadwy

    Llywodraeth y DU (Swyddfa Gogledd Iwerddon)

    108 o Aelodau o’r Cynulliad Deddfwriaethol

    Mai 2016 1,247,293

    Senedd yr Alban System aelodau ychwanegol

    Llywodraeth y DU (Swyddfa’r Alban)8 129 o Aelodau o Senedd yr Alban

    Mai 2016 4,063,206

    Cynulliad Cenedlaethol Cymru

    System aelodau ychwanegol

    UK Government (Wales Office) 60 o Aelodau Cynulliad (AC)

    Mai 2016 2,328,335

    Cynulliad Llundain System aelodau ychwanegol

    Llywodraeth y DU (Swyddfa’r Cabinet)

    25 o Aelodau Cynulliad

    Mai 2016 5,839,495

    Maer Llundain Pleidlais atodol Llywodraeth y DU (Swyddfa’r Cabinet)

    Maer Mai 2016 5,839,495

    * Mae’r holl ffigurau etholiadol ar gyfer 1 Rhagfyr 2012, ac maent yn seiliedig ar ffigurau a gasglwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol oddi wrth Swyddogion Canlyniadau unigol, Cofnodion Cenedlaethol yr Alban a Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon.

    ** Mae Bil yr Alban yn cynnwys darpariaethau i drosglwyddo cymhwysedd deddfwriaethol ar gyfer Senedd yr Alban.*** Mae Bil drafft Cymru (a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2015) yn cynnwys darpariaethau i drosglwyddo cymhwysedd deddfwriaethol ar gyfer etholiadau’r Cynulliad a

    llywodraeth leol yng Nghymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Caiff y darpariaethau hyn eu cynnwys ym Mil Cymru, y disgwylir iddo gael ei gyhoeddi ar ddechrau 2016.

  • 28

    Etholiad i System bleidleisio Pwy sy’n gyfrifol am y fframwaith cyfreithiol?

    Pwy a gaiff ei ethol?

    Pryd mae’r etholiad nesaf?

    Etholaeth7

    Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (Cymru a Lloegr, ac eithrio Llundain)

    Pleidlais atodol Llywodraeth y DU (Swyddfa Gartref) 41 o Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

    Mai 2016 36,598,876

    Cynghorau Lleol System y cyntaf i’r felin (Cymru a Lloegr)Pleidlais sengl drosglwyddadwy (Gogledd Iwerddon a’r Alban)

    Llywodraeth y DU (Swyddfa’r Cabinet) ar gyfer etholiadau lleol yng Nghymru a Lloegr; Llywodraeth y DU (Swyddfa Gogledd Iwerddon) ar gyfer etholiadau lleol yng Ngogledd Iwerddon; Llywodraeth yr Alban ar gyfer etholiadau lleol yn yr Alban

    Mwy na 20,000 o gynghorwyr

    Yn dibynnu ar yr ardal leol

    47,748,870

    Meiri Awdurdodau Lleol (Lloegr yn unig)

    Pleidlais Atodol Llywodraeth y DU (Yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol)

    Maer Yn dibynnu ar yr ardal leol

    Amrywiol (etholfraint llywodraeth leol)

    Refferenda (e.e. refferenda ar gynnydd yn y dreth gyngor neu gynllunio cymdogaeth) (Lloegr yn unig)

    Fel arfer yn fwyafrif syml o’r rhai a bleidleisiodd

    Llywodraeth y DU (Yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol)

    Dd/G Yn dibynnu ar yr ardal leol

    Amrywiol

  • 29

    Atodiad 2: Etholiadau a Refferenda dros gyfnod y cynllun hwn2016-17 2017-18 2018-19 2019-20 2020-21Mai 2016

    Cynulliad Gogledd Iwerddon

    Senedd yr Alban

    Cynulliad Cenedlaethol Cymru

    Cynulliad Llundain

    Maer Llundain

    Llywodraeth leol yn Lloegr

    Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (Cymru a Lloegr)

    Mehefin 2016

    Refferendwm ar aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd

    Mai 2017

    Llywodraeth leol yn Lloegr

    Llywodraeth leol yn yr Alban

    Llywodraeth Leol yng Nghymru

    Mai 2018

    Llywodraeth leol yn Lloegr

    Mai 2019

    Senedd Ewrop

    Llywodraeth leol yn Lloegr

    Llywodraeth leol yng Ngogledd Iwerddon

    Mai 2020

    Senedd y DU

    Cynulliad Llundain

    Maer Llundain

    Llywodraeth leol yn Lloegr

    Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

    (Cymru a Lloegr)

  • 30

    Atodiad 3.1: Mesurau Perfformiad Allweddol

    Mesur Perfformiad a tharged Mesur

    Pryd y gellir asesu’r mesur dros gyfnod y Cynllun Corfforaethol

    Rhwystrau posibl i gyflawni’r Mesur Perfformiad a’r camau lliniaru cysylltiedig

    1 Cofrestrau Etholiadol 1a Lloegr (ac eithrio

    Awdurdodau Llundain Fwyaf)

    585,000 o ychwanegiadau i gofrestrau etholiadol iyn Lloegr (ac eithrio Awdurdodau Llundain Fwyaf) o ganlyniad i’r ymgyrch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd (yn ystod cyfnod yr ymgyrch ym mis Mawrth a mis Ebrill 2016).

    Allbwn data o systemau EMS Swyddogion Cofrestru Etholiadol i nodi nifer yr etholwyr a ychwanegwyd at y cofrestrau yn ystod mis Ebrill 2016.

    Dangosydd ychwanegol o lwyddiant yr ymgyrch fydd nifer y ceisiadau cofrestru ar-lein a gyflwynwyd drwy gov.uk/register-to-vote yn ystod y cyfnod ymgyrchu.

    Mae rhwystrau posibl yn cynnwys:

    • Lefel yr ymgysylltu â’r cyhoedd a’r diddordeb yn yr etholiad.

    • Os bydd unrhyw weithgarwch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd arall wedi bod yn llwyddiannus, efallai y bydd nifer sylweddol o bobl wedi cael eu hychwanegu at y gofrestr cyn dechrau ein hymgyrch.

    • Hon yw’r ail ymgyrch ers cyflwyno Cofrestriad Etholiadol Unigol, sy’n golygu mai dim ond un ymgyrch sydd ar gyfer meincnodau cofrestru ar-lein.

    • Gall 2016 hefyd olygu llai o ddiddordeb cyhoeddus nag Etholiad Cyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig yn 2015, a bydd y diddordeb hwn yn amrywio’n sylweddol ledled y DU yn dibynnu ar yr etholiadau a gynhelir mewn ardal benodol.

    A G J J A S O N D J G GCaiff data o systemau EMS eu coladu ym mis Awst 2016 a bydd y Comisiwn yn adrodd arnynt erbyn mis Medi 2016.

    Bydd nifer y ceisiadau cofrestru ar-lein ar gael o GDS ym mis Mai 2016.

    1b Greater London Authorities

    195,000 additions to electoral registers across Greater London Authorities as a result of the public awareness campaign (during the campaign period in March and April 2016).

    2016 - 17

    2017 - 18

    2018 - 19

    2019 - 20

    2020 - 21

  • 31

    Mesur Perfformiad a tharged Mesur

    Pryd y gellir asesu’r mesur dros gyfnod y Cynllun Corfforaethol

    Rhwystrau posibl i gyflawni’r Mesur Perfformiad a’r camau lliniaru cysylltiedig

    1c Yr Alban

    82,000 o ychwanegiadau at gofrestrau etholiadol ledled yr Alban o ganlyniad i’r ymgyrch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd (yn ystod cyfnod yr ymgyrch ym mis Mawrth a mis Ebrill 2016).

    Allbwn data o systemau EMS Swyddogion Cofrestru Etholiadol i nodi nifer yr etholwyr a ychwanegwyd at y cofrestrau yn ystod mis Ebrill 2016.

    Dangosydd ychwanegol o lwyddiant yr ymgyrch fydd nifer y ceisiadau cofrestru ar-lein a gyflwynwyd drwy gov.uk/register-to-vote yn ystod y cyfnod ymgyrchu

    Caiff data o systemau EMS eu coladu ym mis Awst 2016 a bydd y Comisiwn yn adrodd arnynt erbyn mis Medi 2016.

    Bydd nifer y ceisiadau cofrestru ar-lein ar gael o GDS ym mis Mai 2016.

    • Cyn yr etholiadau, byddwn yn cynnal ymgyrch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd sy’n adeiladu ar y gwersi a ddysgwyd o ymgyrch Etholiad Cyffredinol 2015. Caiff yr ymgyrch ei theilwra hefyd ar gyfer rhannau penodol o’r DU.

    1d Cymru

    43,500 o ychwanegiadau at gofrestrau etholiadol ledled Cymru o ganlyniad i’r ymgyrch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd (yn ystod cyfnod yr ymgyrch ym mis Mawrth a mis Ebrill 2016).

    1e Gogledd Iwerddon

    7,500 o ychwanegiadau at y gofrestr etholiad