Top Banner
Y Casgliadau Casgliad Cregyn Melvill-Tomlin tudalen 6 Ar y clawr Gwirfoddoli yn y Glannau! – tudalen 4 cymer ran Cylchgrawn Gwirfoddolwyr Amgueddfa Cymru Haf 2016
12

Cymer Ran - Haf 2016

Aug 02, 2016

Download

Documents

Amgueddfa Cymru

 
Welcome message from author
This document is posted to help you gain knowledge. Please leave a comment to let me know what you think about it! Share it to your friends and learn new things together.
Transcript
Page 1: Cymer Ran - Haf 2016

Y CasgliadauCasgliad CregynMelvill-Tomlin –tudalen 6

Ar yclawrGwirfoddoli yny Glannau! –tudalen 4

cymerranCylchgrawn Gwirfoddolwyr Amgueddfa Cymru

Haf 2016

Page 2: Cymer Ran - Haf 2016

2

Croeso! Welcome!Yn y rhifyn hwn o Cymer Ran rydym eisiau diolch yn fawr i’r hollwirfoddolwyr sy’n ein helpu mewn digwyddiadau ar hyd a lledAmgueddfa Cymru. Rydym yn gofyn yn aml i wirfoddolwyr ein helpumewn digwyddiadau fel yr Eisteddfod a’r Wyl Fwyd. Yn ddiweddar,bu gwirfoddolwyr yn rhoi help llaw i ni ym Mrwydr Sain Ffagan –gan roi cyfle hefyd i bedwar o’n myfyrwyr ar leoliad gwaith gaelprofiad o reoli gwirfoddolwyr. Felly diolch yn fawr i bawb syddwedi cyfrannu at wneud ein digwyddiadau yn rhai arbennig!

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau cysylltwchâ’r Cydlynydd Gwirfoddolwyr drwy [email protected]

Cyflwyniad

Page 3: Cymer Ran - Haf 2016

3

Prif Stori 4 Gwirfoddoli yn y Glannau!

Cip ar y Casgliadau6 Casgliad Cregyn Melvill-Tomlin

7 Tu ôl i’r Llenni

8 Cwrdd â’r Staff – Carys Davies

9 Cwrdd â’r Gwirfoddolwyr –

Rebecca Chapman

10 Fforwm Ieuenctid

Amgueddfa Wlân Cymru

11 Gwirfoddolwyr ar Waith

12 Newyddion Diweddaraf

Cynnwys

4

10

6

9

7

Cyfraniadau gan:

Kaylee, David a June, GwirfoddolwyrCasgliadau CyffwrddCal James, Gwirfoddolwr Archif TomlinLiz Atter, Gwirfoddolwr AddysgAlex ac Ella, Lleoliad Gwaith DigwyddiadauRebecca Chapman, Gwirfoddolwr TrysorauFforwm Ieuenctid Amgueddfa Wlân CymruGolygwyd gan Ffion Davies, CydlynyddGwirfoddolwyrDiolch hefyd i Carys Davies a Zoe Gealy am eucyfraniadau.

Page 4: Cymer Ran - Haf 2016

4

Prif Stori

Yn 2015 dechreuodd

Amgueddfa Genedlaethol y

Glannau chwilio am

wirfoddolwyr. Erbyn hyn mae

gennym grwp o wirfoddolwyr

gwych sy’n helpu ymwelwyr ac

yn arddangos gwrthrychau trin

a thrafod o’n casgliadau. Dyma

eu profiadau:

KayleeI mi, mae gwirfoddoli yn AmgueddfaGenedlaethol y Glannau yn gyfle igwrdd â phobl newydd a chael trin athrafod pob math o wrthrychau.Rwy’n caru amgueddfeydd, ond ynsiomedig yn aml nid oes cyfle i migyffwrdd yr eitemau. Rwy’n ddysgwrcinesthetig, ac mae cyffwrdd atheimlo pethau’n bwysig i mi. Dynapam fod trin a thrafod y gwrthrychauyn gymaint o hwyl.

Mae hefyd yn gyfle i mi ddysgupethau newydd bob wythnos,oherwydd mae yna wastad rywbethnewydd i’w weld. Mae gan bawb eiddiddordebau, ac mae pawb ynwahanol, ond mae trin a thrafodgwrthrychau yn ein galluogi i dyfu adysgu pethau cwbl newydd.

Gwirfoddoli yn yGlannau

Page 5: Cymer Ran - Haf 2016

5

DavidRwy’n frwd dros weithio gydagAmgueddfa Genedlaethol y Glannau.Rwy’n mwynhau cyfarfod poblnewydd a thrafod gwrthrychauhanesyddol gyda nhw. Rwy’ncanolbwyntio ar Abertawe a’r môr.Byddaf yn tueddu i ddangosgwrthrychau copr, cyn ac ar ôl smeltio,ynghyd ag eitemau o longau. Mae’rAmgueddfa wedi caniatáu i miymchwilio i hanes morwrol Abertawe,ac rwyf wedi darganfod lluniau yndangos yr ardal o gwmpas yrAmgueddfa fel ag yr oedd.

Mae llawer o hanes yn yr ardal hon,ac rwy’n falch o allu rhannu fyngwybodaeth â phobl eraill. Maehwyl i’w gael wrth ddangosgwrthrychau a gadael i bobl ddyfalubeth ydynt. Mae rhai gwrthrychau ynachosi cryn benbleth! Rwy’n hapus ifod yma, yn helpu i ledaenugwybodaeth.

Yn ddiweddar, bûm yn ymweld â’rGanolfan Gasgliadau Genedlaetholoedd yn arbennig o ddiddorol. Roeddhyn yn brofiad gwych i mi felgwirfoddolwr a thaniodd fwy fyth oddiddordeb ynof.

JuneRoeddwn am roi rhywbeth yn ôl – nidoes gen i wyrion na wyresau, fellymae gen i ddigon o amser. Mae’rAmgueddfa yn ddiddorol iawn, ondfyddwn i ddim wedi meddwlgwirfoddoli cyn i mi fynd ar gwrsgwnïo yno, ar ôl cael gwybod amdanodrwy Cymunedau’n Gyntaf.

Mae trin a thrafod gwrthrychau ynwych gan fy mod yn mwynhau cwrddâ phobl newydd a sgwrsio. Maeamrywiaeth fawr o bobl, ynwirfoddolwyr eraill, staff ac aelodau’rcyhoedd.

Rwy’n mwynhau pethau newydd agosod her i fi’n hun.

Mae fy rôl gwirfoddoli wedi tanio fyniddordeb yn Abertawe fel dinas, acers hynny rwyf wedi benthyg llyfraullyfrgell ar hanes lleol.

Page 6: Cymer Ran - Haf 2016

Cip ar y Casgliadau

6

Casgliad Cregyn Melvill-Tomlin

Gyda fy nghyd wirfoddolwyr,Elin a Talia, rwyf ar hyn o brydyn gwirfoddoli yn AdranGwyddorau Naturiol yrAmgueddfa, yn helpu iddigideiddio llythyrau sy’ngysylltiedig â Chasgliad CregynMelvill-Tomlin.

Cafodd y casgliad enfawr hwn ogregyn ei gasglu gan J. C. Melvill a J.R. le B. Tomlin dros gyfnod oddegawdau yn y 19eg a’r 20fedganrif, ac mae’n gyfran go helaeth oholl gasgliadau cregyn yr Amgueddfa.Yn ogystal â’r sbesimenau eu hunain,mae’r Amgueddfa yn berchen argasgliad Tomlin o’i ohebiaeth âgwyddonwyr eraill yn y maes. Ein rôl fel gwirfoddolwyr yw helpu i

drawsgrifio, catalogio a digideiddio’rllythyrau hyn, a’r bwriad yw rhoi’rcasgliad ar-lein.

Mae’r amrywiaeth o fewn y llythyrauyn hynod o ddiddorol. Yn ogystal âcheisiadau i gyfnewid sbesimenau arhestrau rhywogaethau, a chwestiynaugwyddonol, mae’r casgliad yn gipolwggwych ar hanes cymdeithasol y cyfnod.Mae llythyrau cyfeillgar yn rhannunewyddion, diolchiadau, cydymdeimlad,a hyd yn oed gardiau Nadolig!

Mae fy nghefndir i yn y gwyddoraunaturiol, tra mae’r gwirfoddolwyreraill yn astudio hanes. Mae’rcasgliadau hyn yn enghraifft wych o’rcysylltiad rhwng y ddau bwnc, agobeithio y byddant yn cael eudefnyddio mewn nifer o feysydd panfyddant ar-lein.

Gan Cal James, Gwirfoddolwr Archif Tomlin

Page 7: Cymer Ran - Haf 2016

7

Tu ôl i’r Llenni

Cafodd y sesiwn matio rhacsgyntaf ei chynnal fis Mehefinllynedd mewn ystafell gynnesyn Sefydliad GweithwyrOakdale, gyda grwp bychan ofenywod. Cawsom gynfasgwag, bagiau o ffabrig gorauSaville Row, ac offer matio.

Mae teimlad cymunedol braf wrth i niweithio a sgwrsio (ac yfed gormodeddo de!) – fel cwrdd gwnïo o’r oes a fu.Gallwch ddod draw pan mae’n gyfleus ichi, a gwneud faint bynnag yr hoffwcho waith ar eich mat.

Bydd y matiau yn cael eu defnyddio yny tai sydd â thân glo agored er mwyndal rhywfaint o’r llwch glo fyddai felarall yn aros yn yr aer neu’n syrthio arddodrefn. Nid yw tarddiad y grefft yn

glir, ond byddai pobl yn creu’r matiauyn aml gan roi’r rhai newydd yn yrystafell wely a’u symud i’r gegin wediiddynt wisgo.

Fel nifer o bethau a wnawn wrthwirfoddoli, mae diben i fatio rhacs ganei fod yn trwsio neu’n creu eitemaunewydd ar gyfer Sain Ffagan, ond hefydyn rhoi sgil newydd i ni ei datblygu.

Clwb Matiau Rhacs

Salisbury Cathedral from the Meadows 1831John Constable (1776 – 1837)© Tate, London 2013

Gan Liz Atter, Gwirfoddolwr Addysg

Caiff y Clwb MatiauRhacs ei gynnal ar yr21ain bob mis yn SainFfagan AmgueddfaWerin Cymru.

Page 8: Cymer Ran - Haf 2016

8

Beth yw eich rôl?Rwy’n swyddog gweinyddol yn yradran wirfoddoli a’r uned adeiladauhanesyddol, ac yn gweithio rhywfaintar y project ailddatblygu. Mae fymhrif dasgau’n cynnwys gofalu amgyllidebau, mewnbynnu data, atebymholiadau ac e-byst, a thasgau eraillsy’n unigryw i’r gwahanol adrannau.Roeddwn i’n arfer bod yn Ofalwraig ynyr Amgueddfa, ac rwyf wedi bod yngwneud y swydd hon ers tua 18 mis.

Beth fyddwch chi’n eiwneud ar ddiwrnod arferol?Heddiw, er enghraifft, rwyf wedi bodyn ateb yr holl e-byst a gwneudrhywfaint o waith ar y wefan. Hefydprynais rholiwr ar gyfer projectailddatblygu Sain Ffagan, a dwr argyfer y gwirfoddolwyr sy’n gweithioyn nigwyddiad brwydr Sain Ffagandros y penwythnos.

Beth yw eich hoff beth amweithio yn Sain Ffagan?I fod yn onest, mae’n hawddanghofio lle mor arbennig yw SainFfagan. Fy hoff ran yw siarad gyda’rgwirfoddolwyr a gweld beth maeSain Ffagan yn ei olygu iddyn nhw, igael f’atgoffa pa mor wych yw’r lle.

Os byddech chi’ngwirfoddoli yn Sain Ffagan,pa rôl hoffech chi?Byddai’n braf bod yn y gerddi, ynmwynhau’r tywydd!

Cwrdd â’r Staff: Carys DaviesSwyddog Gweinyddol yn yr Adran Gwirfoddolwyr

Gan Ella a Alex, Lleoliadau Gwaith Digwyddiadau

Carys Davies

Page 9: Cymer Ran - Haf 2016

9

Fy AnturiaethauArchaeolegol!

Cwrdd â’r Gwirfoddolwr:

Dyma fy mhrofiad cyntaf owirfoddoli yn AmgueddfaGenedlaethol Caerdydd; anturgo iawn! Fel mam i ddau oblant chwilfrydig a chreadigol,mae ymweliadau (niferus!) â’rAmgueddfa wedi bod ynfendith i mi. Rydym yn nabodpob twll a chornel ac wedimynychu sawl gweithdy difyr ahwyliog. Dros y ddeg mlyneddddiwethaf, mae fy ngwybodaetha fy nghariad tuag at yradeilad wedi tyfu heb ddimymdrech ar fy rhan i, acroeddwn i am ddweud diolch.

Gan fod gen i rywfaint o amserrhydd, penderfynais wirfoddoli argyfer arddangosfa Trysorau, ac rwy’nfalch iawn fy mod wedi gwneud!Mae’n fraint cael treulio amser ymysgy fath gyfoeth o wrthrychauhanesyddol, ond rwyf hefyd wedicael cymaint o fudd o gyfarfod a

rhannu gwybodaeth a safbwyntiaugyda’r amrywiaeth o ymwelwyr.Rydym wedi croesawu plant ysgolifanc brwdfrydig, i gyd yn siarad ardraws ei gilydd wrth geisiodarganfod mwy, ac ymwelwyr hynsy’n awyddus i sgwrsio am naturarchaeoleg a’i effaith ar y byd. Roeddwythnos hanner tymor yn uchafbwynt– mae gweld teuluoedd yn mwynhau’rarddangosfa gyda’i gilydd yn bleserpur, yn enwedig wrth i’r plant drin athrafod gwrthrychau a chwilio amgliwiau ynghylch y cyfnod a’upwrpas. Nawr, sawl ceiniog Rufeinigoedd yma ar ddechrau’r dydd?!

Wrth gwrs, rwyf hefyd wedi dysgumwy am ochr ymarferol cynnalarddangosfa – mae rhai elfennau sy’nllai o hwyl, fel brysio i roi min arbenseli ac estyn mwy o bapur cyn i’rcriw nesaf o archaeolegwyr brwdymddangos o’r tu ôl i’r rhaeadr!

Gan Rebecca Chapman,Gwirfoddolwr Trysorau

Page 10: Cymer Ran - Haf 2016

Mae pedwar aelod i’r FforwmIeuenctid, pawb â’i rôl ei hun.Anna yw’r cadeirydd, Ella yw’rIs-gadeirydd, Edward yw’rYsgrifennydd a PhennaethCyfathrebu a Joseph yw’rTrysorydd.

Fel grwp, ein prif ysgogiad drosymuno â’r fforwm oedd i helpu yn ygymuned. Rydym yn mwynhaugwneud gweithgareddau gyda phlantiau a gweld yr hyn ydym yn eigyflawni. Rydym hefyd yn gwirfoddolifel rhan o’n Gwobr Dug Caeredin.Wrth wneud hyn, rydym yn teimlo einbod yn gwneud cyfraniad dros einhardal ac yn rhoi creadigrwydd i’rplant sy’n dod i’n digwyddiadau.

Mae gennym sgiliau newydd o rancyfathrebu â phlant iau, trefnu ahysbysebu digwyddiadau a sgiliau mwypenodol i’n gwahanol swyddogaethau.Ymysg ein digwyddiadau llwyddiannusmae diwrnod meddiannu amgueddfaar gyfer dwy ysgol gynradd, nosongarolau Nadolig a diwrnod o hwyl i’rteulu. Dros wyliau’r Pasg bu rhai o’rysgolion lleol yn cymryd rhan mewnproject animeiddio, gan greuanimeiddiadau yn seiliedig ar Gymru a’rdiwydiant gwlân. Ein nod yn y dyfodolyw cynnal mwy o ddigwyddiadauhwyliog fel hyn a dysgu sgiliaunewydd fydd yn ein helpu yn y dyfodol.

10

Cwrdd â’r Gwirfoddolwr:

Fforwm Ieuenctid Amgueddfa Wlân Cymru Gan y Fforwm Ieuenctid

Page 11: Cymer Ran - Haf 2016

11

1. Gwirfoddolwyr Cadwraeth

2. Gwirfoddolwyr Cadwraeth

3. Liz yn helpu gyda DiwrnodAgor Cadwraeth

4. Gwirfoddolwyr ynAmgueddfa Wlan Cymru

5. Y Wallich yn helpu gyda’rgardd ym Mryn Eryr

1.2.

3.4.

5.

Gwirfoddolwyr ar Waith

Page 12: Cymer Ran - Haf 2016

12

• Byddwn yn lansio ein RhaglenGwirfoddoli mewnDigwyddiadau yn 2016. Os oesgennych ddiddordeb mewnhelpu gyda digwyddiadau agweithgareddau ar drawsAmgueddfa Cymru, beth amgofrestru? Bydd y rhaglen honyn berffaith ar gyfer pobl syddag ychydig o oriau o bryd i’wgilydd, neu wirfoddolwyr sy’ndymuno gwneud mwy fyth!

• Rydym yn chwilio amwirfoddolwyr newydd yn Big PitAmgueddfa Lofaol Cymru acAmgueddfa Lleng RufeinigCymru – beth am ymuno â ni abod yn rhan o hanes!

• Mae mynediad am ddim iarddangosfa Trysorau:Anturiaethau Archaeolegol gydacherdyn gostyngiad dilys.

Os oes gennych ddiddordeb mewngwirfoddoli yn Amgueddfa Cymru,edrychwch ar ein gwefan neu cysylltwchâ’n Cydlynydd Gwirfoddolwyr i ddysguam leoliadau a chyfleon newydd. Rydynni’n hysbysebu pob rôl wirfoddol yngyhoeddus er tegwch i bawb.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynauam unrhywbeth yn y cylchlythyr,cysylltwch â’r Cydlynydd Gwirfoddolwyrdrwy [email protected] ffonio (029) 2057 3419.

b @amgueddfavols

W www.facebook.com/amgueddfavols

I glywed y newyddion a’r cyfleondiweddaraf, dilynwch ni ar

Newyddiondiweddaraf