Newsletter 7 Spring 2015 Cylchlythyr 7 Gwanwyn 2015 Mae newid enwau yn broblem ers blynyddoedd ar hyd a lled Cymru. Colli enwau hanesyddol oedd un o’r rhesymau pam yr aethpwyd ati i ddechrau Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru. Un o amcanion y Gymdeithas yw gwarchod enwau lleoedd Cymru, ac wrth gwrs, Gwarchod yw enw prosiect loteri’r Gymdeithas. Un o dri chynllun cenedlaethol y prosiect hwnnw yw casglu enwau sydd ar fin eu colli. Ond mae’r Gymdeithas yn ceisio bod yn rhagweithiol hefyd drwy gasglu enghreifftiau o newid enwau hanesyddol gan obeithio y bydd pob corff cyhoeddus yn cydnabod eu cyfrifoldeb am enwau lleoedd. Dyma rai enghreifftiau o newid enwau sydd wedi dod i law yn ddiweddar: Draenen Ddu wedi newid i Black Thorn (Buan, Pen Llŷn) Tuhwnt-i’r-bwlch wedi newid i Twnti Hall (Porthmadog) Tan yr Onnen wedi newid i Tudor Lodge (Porthmadog) (Mynydd) Cribarth wedi newid i Sleeping Giant (Brycheiniog) Lôn Gwydryn wedi newid i Beach Road (Morfa Bychan) Fferm Tan y Mynydd wedi newid i Forget me Not (Llanbedrog) Lôn Cil Llidiart wedi newid i Honey Pot Lane (Llangwnnadl) Ffynnon-wen wedi newid i Bluebell Cottage (Rhydlewis) Heddfryn wedi newid i Vale View (Horeb, Llandysul) Hafod y Garth wedi newid i Sunset Lodge (Llanilar) Arwel wedi newid i Monster House (Pont-hirwaun). Da felly oedd deall bod Cyngor Sir Ceredigion wedi cytuno ar bolisi newydd ynglŷn â cheisiadau i ailenwi tai: ‘Os yw’r enw presennol yn un gwreiddiol a hanesyddol, yn enwedig felly os yw’n enw Cymraeg hanesyddol, yna dylid anfon llythyr safonol at y cwsmer yn gofyn iddynt ailystyried, a chadw’r enw presennol (hyd yn oed os yw’r enw newydd a gynigir yn un Cymraeg). Mae’r llythyr safonol yn rhoi 10 diwrnod i’r cwsmer ailystyried y penderfyniad. Fodd bynnag, y cwsmer sydd â’r hawl i benderfynu yn y pen draw (nid oes awdurdod gan Gyngor Sir Ceredigion yn hyn o beth).’ Yr awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am gynnal y Rhestr Tir ac Eiddo Genedlaethol, y gronfa ddata safonol sy’n cofnodi cyfeiriadau Cymru a Lloegr, ond nid am benderfynu ar yr enw. Rydym yn cael ar ddeall mai ynglŷn â newid enwau Cymraeg yn unig y bydd llythyr yn cael ei anfon. Mae’r Gymdeithas wedi ysgrifennu at y Cyngor i’w llongyfarch ar y polisi newydd, ac i ddatgan bod enwau hanesyddol nad ydynt yn Gymraeg y mae angen eu gwarchod hefyd, e.e. enwau tai yn nhrefi a phentrefi glan môr y sir sydd wedi eu henwi ar ôl llongau. Rydym yn gofyn i’r Cyngor gadw hynny mewn cof wrth weithredu’r polisi, ond yn pwysleisio ein bod wrth reswm yn croesawu unrhyw ymdrech i rwystro enwau lleoedd hanesyddol Cymru rhag cael eu disodli. Name change has been a problem for years throughout Wales. The loss of historical names was one of the reasons why the Welsh Place-name Society was established. One of the Society’s aims is to protect the place-names of Wales, and, of course, Gwarchod (Preservation) is the name of the Society’s lottery project. One of the project’s three strands nationally is to collect names that are in danger of being lost. But the Society is also trying to be proactive by collecting examples of changes to historical names in the hope that all public bodies acknowledge their responsibility for place-names. Here are some examples of name change that have been noticed recently: Draenen Ddu changed to Black Thorn (Buan, Pen Llŷn) Tuhwnt-i’r-bwlch changed to Twnti Hall (Porthmadog) Tan yr Onnen changed to Tudor Lodge (Porthmadog) (Mynydd) Cribarth changed to Sleeping Giant (Brecknockshire) Lôn Gwydryn changed to Beach Road (Morfa Bychan) Fferm Tan y Mynydd changed to Forget me Not (Llanbedrog) Lôn Cil Llidiart changed to Honey Pot Lane (Llangwnnadl) Ffynnon-wen changed to Bluebell Cottage (Rhydlewis) Heddfryn changed to Vale View (Horeb, Llandysul) Hafod y Garth changed to Sunset Lodge (Llanilar) Arwel changed to Monster House (Pont-hirwaun). It is gratifying to learn that Ceredigion County Council have adopted a new policy regarding applications to rename houses: ‘Should the current name be original and historic, especially a historic Welsh name, then a standard letter should be sent to the customer asking them to reconsider and keep the current name (even if the proposed new name is a Welsh name). The standard letter gives the customer 10 working days to reconsider their decision. However the final decision does lie with the customer (Ceredigion County Council has no jurisdiction).’ Local Authorities are responsible for maintaining the National Land & Property Gazetteer, the definitive address database for England and Wales, but not for deciding what names are to be used. We understand that letters will only be sent in the case of applications to change Welsh names. The Society has written to the Council to congratulate them on the new policy, and to point out that there are also non-Welsh historic names which need to be protected, e.g. houses in the county’s seaside towns and villages named after ships. We are asking the Council to bear this in mind when implementing the policy, but stress that we obviously welcome every effort to prevent the loss of historical place-names in Wales. Newid enwau Name change CYMDEITHAS ENWAU LLEOEDD CYMRU WELSH PLACE-NAME SOCIETY
12
Embed
CYMDEITHAS WELSH ENWAU LLEOEDD PLACE-NAME SOCIETY · 2019. 6. 13. · The sense ’ since the was constructed the 1830s e Boughrood Boat (OS map 1832) and connected the Bridge End
This document is posted to help you gain knowledge. Please leave a comment to let me know what you think about it! Share it to your friends and learn new things together.
Transcript
Newsletter 7 Spring 2015Cylchlythyr 7 Gwanwyn 2015
Mae newid enwau yn broblem ers blynyddoedd ar hyd a lled Cymru.
Colli enwau hanesyddol oedd un o’r rhesymau pam yr aethpwyd ati i
ddechrau Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru. Un o amcanion y
Gymdeithas yw gwarchod enwau lleoedd Cymru, ac wrth gwrs,
Gwarchod yw enw prosiect loteri’r Gymdeithas. Un o dri chynllun
cenedlaethol y prosiect hwnnw yw casglu enwau sydd ar fin eu colli.
Ond mae’r Gymdeithas yn ceisio bod yn rhagweithiol hefyd drwy gasglu
enghreifftiau o newid enwau hanesyddol gan obeithio y bydd pob corff
cyhoeddus yn cydnabod eu cyfrifoldeb am enwau lleoedd.
Dyma rai enghreifftiau o newid enwau sydd wedi dod i law yn
ddiweddar:
Draenen Ddu wedi newid i Black Thorn (Buan, Pen Llŷn)
Tuhwnt-i’r-bwlch wedi newid i Twnti Hall (Porthmadog)
Tan yr Onnen wedi newid i Tudor Lodge (Porthmadog)
(Mynydd) Cribarth wedi newid i Sleeping Giant (Brycheiniog)
Lôn Gwydryn wedi newid i Beach Road (Morfa Bychan)
Fferm Tan y Mynydd wedi newid i Forget me Not (Llanbedrog)
Lôn Cil Llidiart wedi newid i Honey Pot Lane (Llangwnnadl)
Ffynnon-wen wedi newid i Bluebell Cottage (Rhydlewis)
Heddfryn wedi newid i Vale View (Horeb, Llandysul)
Hafod y Garth wedi newid i Sunset Lodge (Llanilar)
Arwel wedi newid i Monster House (Pont-hirwaun).
Da felly oedd deall bod Cyngor Sir Ceredigion wedi cytuno ar bolisi
newydd ynglŷn â cheisiadau i ailenwi tai:
‘Os yw’r enw presennol yn un gwreiddiol a hanesyddol, yn enwedig felly
os yw’n enw Cymraeg hanesyddol, yna dylid anfon llythyr safonol at y
cwsmer yn gofyn iddynt ailystyried, a chadw’r enw presennol (hyd yn
oed os yw’r enw newydd a gynigir yn un Cymraeg). Mae’r llythyr safonol
yn rhoi 10 diwrnod i’r cwsmer ailystyried y penderfyniad. Fodd bynnag, y
cwsmer sydd â’r hawl i benderfynu yn y pen draw (nid oes awdurdod
gan Gyngor Sir Ceredigion yn hyn o beth).’
Yr awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am gynnal y
Rhestr Tir ac Eiddo Genedlaethol, y gronfa ddata
safonol sy’n cofnodi cyfeiriadau Cymru a Lloegr,
ond nid am benderfynu ar yr enw.
Rydym yn cael ar ddeall mai ynglŷn â newid
enwau Cymraeg yn unig y bydd llythyr yn cael ei
anfon. Mae’r Gymdeithas wedi ysgrifennu at y
Cyngor i’w llongyfarch ar y polisi newydd, ac i
ddatgan bod enwau hanesyddol nad ydynt yn
Gymraeg y mae angen eu gwarchod hefyd, e.e.
enwau tai yn nhrefi a phentrefi glan môr y sir sydd
wedi eu henwi ar ôl llongau. Rydym yn gofyn i’r
Cyngor gadw hynny mewn cof wrth weithredu’r
polisi, ond yn pwysleisio ein bod wrth reswm yn
croesawu unrhyw ymdrech i rwystro enwau
lleoedd hanesyddol Cymru rhag cael eu disodli.
Name change has been a problem for years throughout Wales. The loss
of historical names was one of the reasons why the Welsh Place-name
Society was established. One of the Society’s aims is to protect the
place-names of Wales, and, of course, Gwarchod (Preservation) is the
name of the Society’s lottery project. One of the project’s three strands
nationally is to collect names that are in danger of being lost. But the
Society is also trying to be proactive by collecting examples of changes
to historical names in the hope that all public bodies acknowledge their
responsibility for place-names.
Here are some examples of name change that have been noticed
recently:
Draenen Ddu changed to Black Thorn (Buan, Pen Llŷn)
Tuhwnt-i’r-bwlch changed to Twnti Hall (Porthmadog)
Tan yr Onnen changed to Tudor Lodge (Porthmadog)
(Mynydd) Cribarth changed to Sleeping Giant (Brecknockshire)
Lôn Gwydryn changed to Beach Road (Morfa Bychan)
Fferm Tan y Mynydd changed to Forget me Not (Llanbedrog)
Lôn Cil Llidiart changed to Honey Pot Lane (Llangwnnadl)
Ffynnon-wen changed to Bluebell Cottage (Rhydlewis)
Heddfryn changed to Vale View (Horeb, Llandysul)
Hafod y Garth changed to Sunset Lodge (Llanilar)
Arwel changed to Monster House (Pont-hirwaun).
It is gratifying to learn that Ceredigion County Council have adopted a
new policy regarding applications to rename houses:
‘Should the current name be original and historic, especially a historic
Welsh name, then a standard letter should be sent to the customer
asking them to reconsider and keep the current name (even if the
proposed new name is a Welsh name). The standard letter gives the
customer 10 working days to reconsider their decision. However the final
decision does lie with the customer (Ceredigion County Council has no
jurisdiction).’
Local Authorities are responsible for maintaining
the National Land & Property Gazetteer, the
definitive address database for England and
Wales, but not for deciding what names are to be
used.
We understand that letters will only be sent in the
case of applications to change Welsh names. The
Society has written to the Council to congratulate
them on the new policy, and to point out that
there are also non-Welsh historic names which
need to be protected, e.g. houses in the county’s
seaside towns and villages named after ships.
We are asking the Council to bear this in mind
when implementing the policy, but stress that we
obviously welcome every effort to prevent the
loss of historical place-names in Wales.
Newid enwau Name change
CYMDEITHAS
ENWAU LLEOEDD
CYMRU
WELSH
PLACE-NAME
SOCIETY
2
Daliwn ymlaen i gofnodi enwau pyllau afonydd ac enwau nodweddion y glannau drwy Gymru. Trefnwyd gweithdy braf a buddiol gan Ifor Williams
gyda chydweithrediad parod iawn swyddogion a chyfeillion Amgueddfa Morwrol Llŷn, yn Nefyn ar 6 Ionawr. Roedd yn gyfle ardderchog i wahodd
atom aelodau lleol o’r Gymdeithas: John Cyril Jones, Twm Roberts, ac
Elfed Gruffydd i fwynhau prynhawn a rhannu sgwrs ddifyr dros baned.
Dangosodd Ifor sut i fynd ati i osod enw ar y map ac i gofnodi ffynonellau a
sylwadau perthnasol. Mae’r wybodaeth i gyd yn mynd yn syth i gronfa ddata
genedlaethol y Gymdeithas sydd yn gwneud y cofnodi yn hynod o
werthfawr. Yn y man, bydd yr wybodaeth ar gael i’r cyhoedd. Braf oedd
clywed hanesion am rai o’r enwau. Diolch i dechnoleg mae nifer am fynd ati
i gofnodi o gartref. Gobeithiwn ddychwelyd i Nefyn er mwyn rhannu
canlyniadau casglu’r enwau lleol ymhen blwyddyn. Bwriedir hefyd drefnu
gweithdy tebyg yn Uwchmynydd cyn bo hir. Diolch i Jamie a Meinir am
hwyluso’r trefniadau.
Trefnodd Pierino Aligieri i ni gynnal gweithdy bychan yn Nolwyddelan a
chawsom gyfle gwych i gofnodi enwau pyllau afon Lledr efo Eurwyn a
Pierino, yn hel atgofion a rhannu gwybodaeth amhrisiadwy. Cawsom daith
gam wrth gam i lawr yr afon, gan gofnodi lle bu hen sarn, pont a chawell
dal eog drwy hawl hynafol; lle’r oedd pysgod yn hel at ei gilydd a sut y
newidiwyd y pyllau ar lif mawr. Cofnodwyd enwau pyllau afon Lledr o
Ddolwyddelan i’w tharddiad ac enwau pyllau afon Conwy o’i tharddiad yn
Llyn Conwy i lawr at yr hen ffordd bost, yr A5, yng nghwmni difyr Gruff
Ellis, Ysbyty Ifan. Diolch i Pierino am drefnu.
Parhaodd Ifor Williams i nodi enwau pyllau Afon Teifi ar y map a
derbyniwyd nifer o enwau yn ddiweddar gan Alun Jones, Glan-rhyd,
Pencarreg. Mae’r rhain hefyd wedi eu hychwanegu at y map erbyn hyn.
Mae cynlluniau ar y gweill i gofnodi enwau pyllau afon Ogwen efo Ieuan
Wyn a chyfeillion a hefyd enwau llwybrau a chreigiau ym mlaen Ogwen efo
Bedwyr ap Gwyn a Guto Roberts. Braf iawn hefyd yw deall fod Bedwyr Rees yn cofnodi enwau arfordir Môn i’r map. Gwahoddwyd nifer o aelodau i
gyfrannu at ei gyfres ddifyr, Arfordir Penfro.
Gwahoddir aelodau i awgrymu lleoliadau ar gyfer gweithdai i gofnodi
enwau pyllau pysgota afonydd Cymru. Bydd Ifor Willams a Rhian Parry yn
lleol hyn, at ei gilydd mewn ystafell hwylus lle bo modd cysylltu â’r we.
Byddwn yn talu am yr ystafell. Eisoes rydym wedi cyfarfod i gofnodi enwau
ar Afon Conwy. Cysylltwch gyda Rhian (01341)423144 os medrwch
hwyluso gweithdy.
Ar ben hyn bu nifer o aelodau’r Gymdeithas yn rhoi darlithoedd a sgyrsiau i
gymdeithasau amrywiol. Bu David Thorne yn darlithio i Gymdeithas
Hynafiaethau Sir Gaerfyrddin ar ‘Rhai Enwau Cyffredin, Anghyffredin a
Rhyfeddol yn sir Gaerfyrddin’ yn Ionawr eleni ymysg nifer o gymdeithasau
eraill, gan gynnwys cyflwyniad yng nghynhadledd Mynyddoedd Pawb ym mis Chwefror. Cymerodd ran hefyd mewn cyfweliadau ar Radio Cymru,
gan gynnwys Taro’r Post yn ddiweddar. Bu Rhian Parry, Richard Morgan, a
Gareth Bevan yn darlithio hefyd. Mae Angharad Fychan, David Thorne, a
Deric John yn gyfrifol am golofnau mewn papurau bro sy’n trafod enwau’n
ddifyr.
Brynhawn Sul olaf Medi y llynedd, yn dilyn sgwrs ar enwau lleoedd gan
David Parsons yn Oriel Nwy Aberystwyth, cynhaliwyd taith gerdded yn
ardal llynnoedd Trefeurig dan arweiniad Angharad Fychan, yn
canolbwyntio ar enwau lleoedd. Daeth 55 ar y daith, a chafwyd cyfle i
glywed peth o hanes lluestai’r ardal yn ogystal ag ystyron rhai o’r enwau.
Aeth y daith â ni o Lyn Pantyrebolion, heibio i lynnoedd Blaen Melindwr a
Syfydrin, at lethrau Disgwylfa Fawr (lle manteisiwyd ar y tywydd braf i gael
golygfa ehangach o’r ardal), cyn disgyn i luest Wenffrwd, a dychwelyd
heibio i feini Y Fuwch a’r Llo a Maen Tarw. Trefnwyd y daith fel rhan o’r
gyfres Mapio/Creu (sgyrsiau a theithiau cerdded yn ymateb i dirweddau Ceredigion trwy fapiau) gan y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd
mewn partneriaeth â phrosiect Gwarchod ac Oriel Nwy Aberystwyth.
Gwarchod yn Pysgota am Enwau!
Gwydir
Nefyn
Trefeurig
Arberth
Arweiniodd Angharad daith yn dilyn yr un llwybr eto ddiwedd Mawrth eleni, ond y tro hyn, Cymdeithas Edward Llwyd oedd y trefnydd, eto mewn
cydweithrediad â’r Gymdeithas. Yn anffodus doedd y tywydd ddim mor garedig y tro hwn, ond mentrodd 14 ar y daith drwy’r niwl, y gwynt, a’r glaw!
Bu Hywel Wyn Owen yn darlithio hefyd ac mae ef newydd gyhoeddi diweddariad o The Place-Names of Wales yn y gyfres Pocket Guide.
Dangoswyd cyfres newydd Caeau Cymru am chwe wythnos a nifer o aelodau’n cyfrannu. Erbyn hyn mae’n rhy hwyr i’w gwylio ar Clic, ond ceir
gwybodaeth ddiddorol am gynnwys y rhaglenni ar y wefan: http://www.s4c.cymru/caeaucymru/c_programmes2.shtml
Cychwynnwyd grŵp yng Nglynebwy i greu nifer o weithgareddau. Byddwn yn gweithio gyda Choleg Gwent, Archifau Gwent, Ymddiriedolaeth
Archifau Gweithfeydd Glynebwy, Cynefin, ac eraill i godi ymwybyddiaeth y gymuned o’i hanes lleol. Ynghlwm â hyn mae gwaith sydd yn edrych ar
hanes amaethyddol y cwm yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac ar enwau caeau. Gobeithiwn weithio gyda’r Comisiwn Henebion a Chasgliad y
Werin i greu map digidol GIS o’r cwm er mwyn ehangu’r wybodaeth. Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni yn cynnig cyfle gwych i ni
arddangos gwaith y grŵp. Bydd y coleg yn datblygu uned hanes lleol i’w gosod yn y cwricwlwm.
Ond cyn hynny, edrychwn ymlaen at Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau pan fyddwn ym mhafiliwn Y Lle Hanes. Diolch i Carrie White a’i
phrosiect am ein gwahodd yno i gyfrannu. Dewch draw am sgwrs ac i gofnodi enwau.
3
A Village with a Framed Etymology
How many villages in Wales have a framed copy of the etymology of their name in a local hall? At least one:
Banwen. One of our newest members, Ena Niedergang, relates how this came about.
Several years ago I started to research my family history. As both my parents had died when I was a teenager,
questions that needed to be asked when starting this kind of research had to be left unanswered. It was time to
open the ‘family papers’ that had been boxed-up for years. I always promised myself that time would be devoted
to reading them but life always seem to get in the way! I came across references to my late father’s MA Thesis.
My father, Cyril BH Lewis, died in 1961 at the age of 54 years – far too young! His thesis brought back memories
of the times the family used to drive past the National Library of Wales on the way to North Wales, and my sister
and I would chant in unison ‘Daddy’s thesis is in there!’ ... at a time when I was too young to know what a thesis
was!
The family papers contained information about his 1932 MA thesis on ‘The Dialect of the Old Parish of Llangatwg,
Neath’. Henry Lewis, former Professor of Welsh at the University of Wales, Swansea wrote of him in 1932, ‘His
thesis is a valuable contribution to Welsh dialect studies. I am pleased to say that one discovery of his has been accepted by Professor Ifor Williams
for publication in the forthcoming edition of the Bulletin of the Board of Celtic Studies ... Mr. Lewis has proved conclusively that the late Principal Sir
John Rhys’s interpretation of the name ‘Banwen’ is wrong, and he has given the correct meaning of the word! It is a distinct achievement for such a
young student’. Having read what Professor Henry Lewis had written about my father’s research, I began to realise that my father had something to
contribute to the present interest in the study of Welsh place names.
I was brought up in Dyffryn Cellwen/Banwen in the Dulais Valley and I know how proud people are of both communities. On visits, over the years, to
the D.O.V.E. Workshop Community Education Centre in Banwen,
a number of people asked me about my father’s research. One
evening the idea came to me about presenting part of his research
relating to Banwen back to the village. Lesley Smith at the
D.O.V.E. Workshop enthusiastically organized a special event at
which a framed extract of my father’s research was presented to
the people of Banwen. It was a wonderful evening and the
presentation is now on display at the Workshop. I am so delighted
to have brought his research to life again in the 21st Century. I
think he would also have been pleased!
[Cyril BH Lewis MA (1907 – 1961) became acting principal of
the former Pontardawe Technical College and was the first
Head of the Pontardawe County Secondary School. His note on
Y Banwen (Bulletin of the Board of Celtic Studies vi. 152),
explains the name as a mutated form of panwaun, from pân
‘bog cotton’ and gwaun ‘moor, peat bog’.]
4
This website (http://www.saintsplaces.gla.ac.uk/index.php )is the result of a project, ‘Commemorations of Saints in Scottish Place-Names’, funded by
the Leverhulme Trust and undertaken by staff in the University of Glasgow’s School of Humanities. Scotland’s landscape is rich in place-names
incorporating names of saints, mostly of medieval origin. These names span Scotland’s historical linguistic range, including names in Northern
British (Ecclesmachan), Gaelic (Kilmacolm, Tobermory), Norse (Barra) and Scots (St Quivox, Ladykirk). The project aimed to collect these names,
identify the saints commemorated in them, and present them in a public, searchable database.
The database is based on the Ordnance Survey 1st Edition 6” maps (1843–1882), earlier maps, monastic cartularies, the Register of the Great Seal,
and antiquarian accounts. It contains over 5,000 places and 13,000 place-names linked to the current map forms. Some 750 saints are potentially
commemorated in these names.
Mae Cofnodion Cyfarfodydd y Pwyllgor Llywio ar gael i
Pwy a ŵyr, efallai yn y dyfodol bydd esgeiriau Cwm Tywi yn glir o’r coed unwaith eto, a braf yw gwybod y bydd yr hen enwau yn ddiogel i ymuno
gyda’r tir bryd hynny.
Aled Williams
5
Enwau Lleoedd Ucheldiroedd Cymru
Members of the Society will have seen the short description (‘Trysor Cenedlaethol Anghyffredin’) in the Society’s Newsletter no.4 (Autumn 2013) relating
to the remarkable illustrated map of the pools of the lower Teifi by Idris Mathias. Those who attended the annual conference in Bangor on 5 October
2013 also had the opportunity to hear a description of the map given by Twm Elias and Dai Thorne. One name in particular, viz. Cafan Twm Bach (see
inset), is worth particular attention. The name is applied to a southerly projection of an island in the middle of Afon Teifi, a mile upriver from
Cardigan/Aberteifi, but properly refers to the adjoining river channel. A small stream Afon Twm is located above this channel. Ordnance Survey maps
from 1888 describe the island as Rosehill Marsh from its proximity to the farm Rose Hill (Rosehill 1810), known respectively as Cors and Fferm Rhoshill
to Idris Mathias.
Part of Afon Teifi showing Cafan Twm Bach (courtesy of Idris Mathias and Professor David Thorne)
Cafan Twm Bach finds an interesting match in the former name of a house, Glan yr Afon (SO 091437) located on the east side of the River Wye in
Llandeilo Graban, Radnorshire, immediately below Erwood Bridge. The house – or rather its predecessor - is almost certainly that recorded in an
award (National Library of Wales, Skreen and Velin Newydd Collection, no. 582) made in 1578 following a dispute between two local men, Roger
Williams and William ap Howell, concerning lands known as Tyre Tom bach and a boat and river passage called Cavan Tome bache. The same
collection also refers to the house as Tyr Tum bach in 1597 and 1616 and the passage or ferry as Cavan Dum bach in 1666 (nos. 506, 359, 478)
with similar forms down to the nineteenth century. The first definite evidence of an inn here appears in a lease dated 1694 (no. 74) from Henry
Williams to Arnold George, innkeeper, of the dwelling-house, land and ferry – somewhat oddly spelt as havann ginn bach and, more recognisably, as
Kavan dum bach in an incompletely dated lease (no. 535) of the same period. The ferry was evidently abandoned soon after the construction of
Erwood Bridge (constructed by 1861 according to Hobbs or 1876 according to Hills and Sunny Pastures: Life in Erwood (Erwood Women’s Institute,
2003) and, as a name, Cafn Twm Bach became confined on OS maps to the area on the west bank of the Wye near Bridge House, dropping off the
maps after 1964. Cafn Twm Bach Inn subsequently appears on OS maps from 1889 to 1964 as the ‘Boat Inn’ but when Ffransis Payne came here in
1958, the publican was of the opinion ‘that the place should properly be called Cafn Twm Bach’, though Payne noted that the sign above the door
read ‘Caban Twm Bach’ (Crwydro sir Faesyfed i, p.103). Only one instance of this form has so far been found in historical sources before 1941: by
Theophilus Jones in his History of Brecknockshire (1805). The sign can no longer be located and there is no mention of it in sale particulars
compiled by Woosnam & Tyler of Builth and Savills of Hereford in 1985 (my thanks to Anna Skarzynska of the Royal Commission on the Ancient and
Historical Monuments of Wales for supplying a copy). The sign – possibly of no great antiquity - may well have been removed when the house was
rearranged (and renamed) after the Skreen Estate sold the property in 1965. The recent history of the Boat Inn/Glan yr Afon down to 2006 is given
by Tony Hobbs (The Pubs of Radnorshire, pp.274-5) supplemented by information kindly supplied by the present owners.
Despite local opinion, the first element is clearly not caban ‘small cottage, cabin’ but cafn, defined in Geiriadur Prifysgol Cymru as (1) ‘vat; trough;
gutter’ and as (2) ‘small primitive boat, dug-out canoe, ferry-boat’ but the precise meaning of this element in individual place-names is best examined
case by case. ‘Ferry-boat’ is the best interpretation of, for example, Tal-y-cafn, in Denbighshire (Dictionary of the Place-Names of Wales, p.455) but
‘channel’ is more appropriate to Cafn Twm Bach on the Teifi raising the possibility that the same meaning applied to the identical name on the Wye.
The existence of a ferry here need not automatically demand acceptance of the definition ‘ferry-boat’. The sense ‘channel’ is equally possible because
the Wye flows through a series of pools and rocky channels above and below Erwood Bridge (cf. cafn dŵr ‘channel or conduit for water, gutter, water-
6
Cafn Twm Bach
7
OS 1:2500 map (1889) (courtesy of Old-Maps.co.uk)
trough’). Cafn was used in the Wye valley to describe fishermen’s perches or ‘catches’, some of them adjoining river channels. The historian John Lloyd,
best known for his Historical Memoranda of Breconshire (1903), printed a short essay on ‘The Angling Waters of the Wye’ (1871), which mentions several
of these ‘catches’ including the Cavan near the junction of the rivers Wye and Irfon (SO 034515), the Church-house Cabin, or Cavan, which means a
gutter or channel at Builth (Church House Farm, SO 067507), Cavan Hir, the “Boat Cavan,” just under the Skiog farm (Ysgïog, SO 065489 opposite
Boatside), Cavan Shon Lewis and Cavan Llwyfen. The element cafn is also found in field-names near Bochrwyd Bridge (SO 129384), four miles
downriver from Glan yr Afon in the parish of Llys-wen. The sense ‘ferry’ is more likely here since the bridge was constructed in the 1830s to replace
Boughrood Boat (OS map 1832) and connected the Bridge End Inn on the Llys-wen to Builth road with the Boat Inn (recorded in 1815), in
Bochrwyd/Boughrood, Radnorshire. According to Hobbs (pp. 249-250), there was a similar arrangement to that at Cafn Twm Bach where horses and
cattle used a ford while people used the ferry-boat. Boat recurs lower down the river in the names of Boatside Farm (SO 227432) and Boatside 1832
(Boatside Fm 1814, later known as Wyecliff) near Clyro and Hay.
Richard Morgan
12 Mai, 14.00. David Thorne: ‘Dyrnaid o enwau’, Gwesty’r
Porth, Llandysul
7 Mehefin, 14.00. Ifor Williams a Tony Lovell: Taith
gerdded enwau lleoedd Afon Seiont. Cwrdd ger Clwb
Rygbi Caernarfon
13 Mehefin, 14.30. Dewi Evans: ‘Enwau Lleoedd
Patagonia’, Neuadd Bentref Llanelltud ger Dolgellau
3 Hydref. Cynhadledd a Chyfarfod Blynyddol CELlC. Maes
y Sioe, Llanelwedd
12 May, 14.00. David Thorne: ‘A handful of names’, Porth
Hotel, Llandysul
7 June, 14.00. Ifor Williams & Tony Lovell: Guided place-
name walk along the Seiont. Meet by Clwb Rygbi
Caernarfon
3 October. WPNS Annual Conference and General
Meeting. Royal Welsh Showground, Llanelwedd
The Journal of Scottish Name Studies is a refereed scholarly journal publishing articles and reviews on place and personal names relating to
Scotland, its history and languages. It is edited by Dr Simon Taylor and Professor Richard AV Cox, and is available on line
(http://www.clanntuirc.co.uk/JSNS/contents.html). The current issue contains an article by Alan G James, of the Scottish Place-Name Society,
entitled ‘Elements of Latin Origin in P-Celtic Place-names between the Walls’ (http://www.clanntuirc.co.uk/JSNS/V8/JSNS8%20James.pdf).
The Journal of Scottish Name Studies
I’ch Dyddiadur Save the date
8
Mae prosiect Cynefin yn brosiect i ddigido holl fapiau degwm Cymru sy’n cael ei arwain gan Gyngor Archifau Cymru. Mae’n cael ei ariannu yn
bennaf gan gronfa treftadaeth y Loteri, gyda’r rhan fwyaf o’r gwaith yn cael ei wneud yn y Llyfrgell Genedlaethol. Bwriad y prosiect yw digido holl
fapiau degwm Cymru – dros 1100 ohonyn nhw, ynghyd â’r holl fynegeion cysylltiedig, ac mae tua 36,000 o dudalennau o’r rheini.
Fel sy’n nodweddu unrhyw brosiect treftadaeth cyfoes, mae yna elfennau o gadwraeth, mynediad a chymryd rhan yn gysylltiedig â’r prosiect. Mae’r
ymdrech gadwriaethol yn sylweddol, mae llawer o’r mapiau mewn cyflwr difrifol ar ôl blynyddoedd o draul. Rhaid diolch i ymrwymiad a gwaith caled
tîm cadwraeth galluog iawn y Llyfrgell Genedlaethol am ymgymryd â’r gwaith sylweddol yma. Buasai’r dasg yn ormod i’r rhan fwyaf o ganolfannau
cadwraeth, ond mae’r tîm yma newydd groesi hanner ffordd drwy’r gwaith.
Cynefin
Y ffordd o sicrhau mynediad i bawb i’r mapiau yma yw eu digido, a’u rhoi ar y we. Tra bo sganwyr safonol yn gallu delio gyda tua 400 o’r mapiau,
mae 700 ohonynt yn rhy fawr i hyn ac rydym yn defnyddio wal fagnetig wedi ei hadeiladu’n arbennig ar gyfer y gwaith. Trwy ddefnyddio darnau bach
magnetig i ddal y mapiau i fyny ar y wal grom yma mae modd tynnu nifer o luniau mewn manylder uchel ac yna eu clymu at ei gilydd yn awtomatig i
greu’r ddelwedd derfynol.
Y brif ffordd sydd gan bobl i gysylltu â’r prosiect ydy defnyddio’r wefan gyfrannu torfol sydd wedi cael ei datblygu gan gwmni Klokantech o’r Swistir.
Mae’n llawn nodweddion deniadol, yn bleser i’w defnyddio, ac yn ffordd dda o ddod â hanes yn agosach at bobl.
Ar y wefan hon mae’n bosib trawsgrifio’r mapiau ac hefyd yr wybodaeth sydd ar y atodlenni. Mae’r holl atodlenni eisoes ar y wefan, wedi eu derbyn
gan yr Archifau Gwladol. Y rhain sy’n cynnwys enwau pawb oedd yn talu’r degwm, ac yn y rhan fwyaf o achosion enwau eu ffermydd a’u caeau. Y
fantais o’u trawsgrifio yw ei bod wedyn yn bosibl eu chwilio, ac mae eisoes yn bosib chwilio nifer o’r tudalennau sydd wedi cael eu trawsgrifio. Y
datblygiad nesaf ydy sefydlu panel adolygu i sicrhau safon y trawsgrifiadau cyn eu bod yn cael eu derbyn yn derfynol.
Mae yna ffwythiant deniadol iawn hefyd ar y wefan i gysylltu lleoliadau ar y mapiau degwm gyda lleoliadau ar fapiau cyfoes. Mae modd hefyd clipio’r
wybodaeth ddaearyddol er mwyn ei gwneud yn bosib i uno’r mapiau fel jig-so i wneud un map degwm mawr o Gymru – camp uchelgeisiol iawn o
ystyried safon amrywiol y mapiau degwm.
Y bwriad ydy gorffen y gwaith yma erbyn Medi 2016 ond mae nifer o amcanion eraill hefyd. Bydd rhaid darparu’r wybodaeth orffenedig i’r cyhoedd, a
chydweithio gyda phartneriaid fel Casgliad y Werin i sicrhau hyn. Mae diddordeb amlwg iawn yn y maes, gyda nifer fawr o gymdeithasau hanes a
chyfresi teledu yn ymddiddori yng ngwybodaeth y degwm. Mae maes ehangach enwau lleoedd hefyd yn fyrlymus, yn cynnwys nifer o gymdeithasau
gweithgar a llyfrau a chronfeydd data i’w defnyddio. Does dim modd osgoi’r amrywiadau sydd i enwau lleoedd; mae amrywiadau hyd yn oed o fewn
dogfennau’r degwm. Mae’r cymhlethdod yma wrth gwrs yn gyfle gwych a bydd y Llyfrgell Genedlaethol yn gweithio’n galed i ddod â’r diddordebau
yma at ei gilydd. Bwriad prosiect Cynefin yw cysylltu gyda’r holl bobl sydd â diddordeb yn enwau lleoedd a’r degwm, a chydweithio er mwyn dod â
phobl yn agosach at eu hanes.
Rydym angen help, dewch i’n gweld ar http://cynefin.archiveswales.org.uk/cy Einion Gruffudd
9
Ym mhob pen mae piniwn. Beth yw’r piniwn yn eich pen CHI?
Opinions expressed in this newsletter are not necessarily
those of the Society or of the Editor.
EditorialGolygyddol
Cysodi / Typeset by: Ifor Williams Golygydd / Editor: Gareth A Bevan
10
Ystyrir Aberhonddu yn aml yn dref Seisnigaidd iawn, ac mae’n syndod i lawer sylweddoli bod 10% o drigolion y dref yn siarad Cymraeg – ychydig yn
fwy na mil. Mae enwau strydoedd y dref yn adlewyrchu’r Cymreigrwydd hwn, ac yn agoriad llygad i lawer.
Mae’r cofnod cynharaf oll o enw Cymraeg ar stryd yn Aberhonddu yn y cywyddau o hanner olaf y 15 ganrif sy’n canu mawl i’r Grog Aur, y ddelw
wyrthiol a safai uwchben corff eglwys Sant Ioan – Cadeirlan Aberhonddu bellach – hyd at y Diwygiad. Cyfeirir at ‘Iesu draw yn Ystrywaid’ yng
nghywydd Crog Aberhonddu gan Huw Cae Llwyd (neu o bosibl Ieuan Brydydd Hir). Ystrywaid bellach yw enw’r stryd islaw’r eglwys sydd yn rhedeg
o ganol y dref i gyfeiriad y Gelli Gandryll, ond ymddengys o gyd-destun y cywyddau mai at y dref gyn-Normanaidd yr oedd yr enw yn cyfeirio,
ychydig i’r gogledd o ganol y dref bresennol: mae bodolaeth y dref Gymreig wreiddiol yn esbonio lleoliad yr eglwys y tu allan i waliau tref a chastell
newydd Bernard de Neufmarché, a oedd mor beryglus i’r boblogaeth Normanaidd a Seisnig ei chyrraedd fel y bu rhaid adeiladu Eglwys Fair
ddiogelach ei chyrraedd yng nghanol y dref. Mae’r enw’n gysylltiedig ag ystryw, yn yr ystyr wreiddiol o fedrusrwydd, diwydrwydd, gan fynegi
rhywbeth fel Tref y Crefftwyr, gan mai yma y ceir Melin y Prior, yr hen ffwrnais, a’r felin wlân, yn ogystal â’r Deintur (cf Cnwc y Dintir yn Aberteifi, lle a
ddefnyddiwyd i sychu ac estyn defnydd gwlân). Y fersiwn Saesneg o Ystrywaid yw The Struet, enghraifft o awydd pobl y dref i ddefnyddio’r fannod
mewn enwau: ceir hefyd The Watton, The Bulwark, The Dainter ,The Gwrra, The Gwtws, ac, y tu allan i’r dref, The Login a The Rhiddins.
Ceir cyfeiriad at yr arglwydd Normanaidd yn Rhydbernard, sydd y arwain at ryd ar draws Wysg, a chofnodir rhydiau eraill yn Y Rhyd, a Rhyd yr Eryr,
ar lannau’r gamlas, yr ail â’r cyfieithiad rhyfedd Eyrie Oaks.
Mae nifer o enwau traddodiadol wedi cael eu ‘jimo’ neu eu crandio dros y blynyddoedd, gydag enwau ‘parchus’ Saesneg yn disodli’r rhai Cymraeg.
Enghraifft o hyn yw Beili Glas, yn ymyl y castell, ardal oedd gynt ag enw drwg am orboblogi ac afiechyd – ond sydd bellach â’r enw parchus The
Avenue, tynged tebyg i’r ardal a adweinir ar lafar fel Rhosfferig yn Gymraeg ac yn Saesneg, ond lle mae’r arwyddion yn mynnu mai dyma Belle Vue.
Ychydig i lawr Cerrig Cochion, (heibio’r ysbyty), mae Clawdd y Gaer – bellach Alexandra Road, ar y dde wrth y gyffordd, ac, ar y chwith, Heol y
Lladron, Camden Road ers canrif, gyda phreswylwyr y tai urddasol yn anfodlon i dderbyn yr hen gysylltiad â throseddwyr. Mae Dan-y-Gaer, islaw’r
Amgueddfa, hefyd yn atgof o furiau’r dref.
Kensington bellach yw Glanyrafon gynt, enw a fenthyciwyd o gapel y Bedyddwyr, mewn tref lle mae gan y capeli enwau rhyfeddol: Walnut Square,
Glamorgan Street, The Plough, Watergate, Dr Coke’s, Lady Huntingdon’s a Watton Chapel: Bethel yw’r unig enw crefyddol, er i’r capel hwnnw golli
ei swyddogaeth a throi yn Fferyllfa Boots.
Enwau Cymraeg Strydoedd Aberhonddu
11
Un o Borthmadog oedd Ken ond wedi treulio’r rhan fwyaf o’i oes yn yr Wyddgrug. Bu’n athro ac yn
ddirprwy brifathro yn Ysgol y Bryn, Mynyddisa (rhwng yr Wyddgrug a Bwcle). Roedd yn gyfuniad
unigryw o addysgwr, hanesydd lleol ac ysgolhaig. Cyhoeddodd gyfrol Eglwys y Plwyf (1976) i hybu
diddordeb plant ysgol mewn hanes lleol, enillodd wobr Beatrice Grenfell yn Eisteddfod Genedlaethol y
Fflint (1969) am ei waith ar hanes diwydiannol y sir, ac MA (Bangor) am draethawd ar hanes
diwydiant glo’r sir cyn 1740. Sefydlodd gymdeithas hanes lleol Bwcle a golygu ei chylchgrawn am
flynyddoedd, yn ogystal ag Ystrad Alun, cylchgrawn Cymdeithas Ddinesig yr Wyddgrug. Cyhoeddodd
erthyglau lu yn nghylchgronau hanes sir y Fflint a’r hen Glwyd ac yn Cymru a’r Môr. Yn wir fe fydd ei
gyfrol ar hanes morwrol Cymru yn yr Oesoedd Canol yn ymddangos cyn bo hir.
Roedd ei ddawn artistig yn hysbys i bawb. Ef oedd yn gyfrifol am ugeiniau o ddarluniau a chartwnau
mewn llyfrau a chylchgronau. Cynorthwyodd Gerallt Lloyd Owen i sefydlu Hebog a bu’n beirniadu ac
yn hybu cystadlaethau arlunio drwy ei oes.
Ers bron i hanner can mlynedd bu Ken a finnau yn cyfnewid syniadau a deunydd ar enwau lleoedd sir
y Fflint. Fe ŵyr aelodau CELlC bod casglu ffurfiau hanesyddol yn greiddiol i fethodoleg astudio enwau
lleoedd, ond yn broses lafurus, hirfaith. Ers blynyddoedd fe fyddai Ken yn anfon miloedd o ffurfiau
ataf, ffurfiau y daeth ef ar eu traws yn ystod ei waith ymchwil ef ei hun, ‘rhag ofn nad ydy rhain gen ti’.
Ni wn am ysgolhaig mor barod i rannu, mor hael gyda’i ddysg. Yn wir, pan benderfynais wedi ymddeol
ysgrifennu llyfr ar enwau sir y Fflint, mynnais ein bod yn ffurfioli’r berthynas. Fe fyddai Ken yn darparu
ffurfiau hanesyddol a fyddai’n graidd wedyn i’r dadansoddi ieithyddol a’r dehongli tirweddol a hanesyddol a fyddai’n gyfrifoldeb i mi. Roedd y gyfrol ar
ei drafft olaf ddiwedd 2014 a Ken wedi ei blesio’n fawr. Felly, yn ystod 2016, disgwylir cyhoeddi Hywel Wyn Owen a Ken Lloyd Gruffydd: The Place-
Names of Flintshire. Mae’n bwysig dweud nid yn unig y byddai’r gyfrol wedi cymryd dair gwaith gymaint o amser i’w chwblhau heb gronfa Ken ond
hefyd bod cymaint mwy o ddeunydd yn ei gronfa ef o ffurfiau hanesyddol nad oes lle iddynt yn y gyfrol. O’r herwydd, dymuniad Ken oedd i’w gronfa
ddigidol fod ar gael ym Mangor, Aberystwyth, a Phenarlâg.
Roedd yn aelod selog o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru a’r Society for Name Studies in Britain and Ireland. Braint oedd cael talu teyrnged iddo
ddydd ei angladd yng nghapel gorlawn Bethesda, yr Wyddgrug.
Hywel Wyn Owen
Diddorol yw hanes Free Street ychydig i’r dwyrain o ganol y dref: ymddengys fel Rewredd ar fap Speed o 1610 - a gall y camsillafiad Saesneg
awgrymu tri pheth: Rhiw Rhyd, Rhiw Rydd a Rhiw Rudd. Y tuedd yw dewis ‘Rhydd’ i gyfiawnhau camgyfieithiad o’r enw i’r Saesneg i stryd sydd y tu
allan i furiau’r dref a dynnwyd i lawr gan y trigolion yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr er mwy osgoi’r math o warchae a gostiodd mor ddrud i bobl
Caerfyrddin. Mae estyniad i’r de yn arwain yn wirioneddol at ryd, ond gan mai Cerrig Cochion yw’r estyniad serth i’r gogledd, hwyrach bod Rhiw
Rudd yn adlewyrchu lliw pridd a chreigiau cochion Aberhonddu. Ar waelod y rhiw ceir Little Free Street, ffordd fach gul yn arwain at Sarn Helyg - The
Watton, ond dengys Rholiau Trethi’r dref o’r 17 ganrif mai Croes Hywel oedd yr enw gwreiddiol: mae’ r term Croes + enw personol am lwybr tarw yn
gyffredin iawn ym Merthyr Tudful, yn enwedig yn Nowlais. Mae’n gyd-ddigwyddiad ffodus iawn fod rhes o 24 o goed helyg wedi eu plannu ar hyd
Sarn Helyg, i gofnodi’r 24ain Gatrawd, sef Cyffinwyr De Cymru oedd â’u pencadlys yma.
Enwir dau fryn ar ôl anifeiliaid: Bryn Defaid, Ship Street bellach, a Bryn Llygod, Mount Street nawr, ond Mouse Street yn gynharach oherwydd
presenoldeb stordai grawn yn y cyffiniau.
Mae Lôn yn elfen annisgwyl ond cyffredin yma: Lôn y Popty ar fap Speed yw St Michael’s Street erbyn hyn, a cheir Lôn Slwch hefyd. O bosibl mae’n
ffodus bod Lôn Baw Cŵn wedi ildio i Lôn Pegasus, ac mai Chapel Street bellach yw Lôn y Baw, stryd gul y tu allan i furiau’r dre lle y lluchid lludw a
gwastraff.
Ar wahân i sgwâr fawr y dref, Y Beili, The Bulwark yn Saesneg, mae enwau Cymraeg ar glawr am y ddwy stryd gyfochrog, sef Cantre Selyf, Lion
Street, ar yr ochr ogleddol a Heol Morgannwg, Glamorgan Street, i’r de.
Pen-dre yw’r stryd sydd yn mynd heibio’r Eglwys Gadeiriol i gyfeiriad Llanfihangel Fechan (a gamenwir yn Gymraeg fel Capel Isaf) a Llanfair-ym-
Muallt, ac mae’n ddiddorol nodi bod y Gymraeg, yn groes i’r arfer Saesneg yn y dref, yn gollwng y fannod yn aml mewn enwau lleoedd: Pen-Lan yw
safle’r ysgolion, a cheir hefyd Pen-Pont, maenordy ar y ffordd i Bontsenni, a Phen-Bryn, ystâd o dai.
Da yw nodi bod nifer fawr o enwau diweddar yn Gymraeg: ceir Ffynnon Dewi, Glan Tarell, Trenewydd, Ffrwd-grech, Penpentre a Maes Halam, y tu
hwnt i’r bont yn Llan-faes, Bryn de Winton a Dan y Crug uwchben y dref a Rhodfa Eluned, Maes Glas, Pen-bryn a Bryn Glas yn nwyrain y dref.
Enwyd y ffordd osgoi fewnol – Heol Gouesnou - ar ôl efeilltref Aberhonddu ger Brest yn Llydaw.
Brynach Parri
Ken Lloyd Gruffydd (1939-2015)
12
Hywel Wyn Owen (ISBN: 9781783161645; University of Wales Press, 2015; £11.99)
This is a welcome new edition of a work originally published in 1998 and reissued in 2005 in the Pocket Guide
series. Many readers will own a (perhaps by now dog-eared) copy of a previous edition, and even more will
know of it. The fact of its reissue demonstrates its popularity. It goes without saying that the name of Hywel
Wyn Owen will be well-known to all members of the Society, and indeed to anyone taking an interest in Welsh
place-name studies, and that his name as author guarantees the reliability of the book’s contents. It is good to
have a relatively small-scale work which can be recommended to the non-Welsh speaker (and the Welsh
speaker alike) as a standard introduction to the study of our place-names.
The University of Wales Press gives the following description of its contents:
The entry for each place-name provides details of historical forms and dates, analyses each name into
its component linguistic elements with meaning, tracks the later linguistic development of the name and
the influences upon it particularly within a bilingual society, compares the name with similar names
elsewhere and interprets that meaning within the history of Wales and in the local context having
regard for the landscape and changing land-use. The introduction, as well as explaining the link
between place-names and language, history and landscape, has a section on the significance of place-
name study, and a short section to allow non-Welsh speakers to understand some relevant sound-
changes.
The first edition was described by Reference Reviews as:
A model of concise presentation of relevant information ... it is a mine of fascinating information which will illuminate any visit to
Wales or many questions of Welsh place names and is warmly welcomed and recommended.
This is of course true of the current edition, which adds some 30 places. As one would expect of the author, the articles have been completely
updated. A new generation will benefit from using it.
gol. Mererid Jones (ISBN 9781845275112; Gwasg Carreg Gwalch, 2014; £4.99)
Yn ystod 2010, bu tua chant o ganghennau Merched y Wawr ym mhob rhan o Gymru’n casglu enwau – enwau nentydd a ffynhonnau, tai, strydoedd,a siopau, ffermydd a chaeau. Fel mae’r teitl yn awgrymu, mae’r gyfrol hon yn canolbwyntio ar enwau caeau. Roedd y gwaith yn deillio o sylwadaugan Alun Ffred Jones, AC, yng Ngŵyl Haf y mudiad ‘fod angen gwneud casgliad o enwau caeau Cymru, gan fod yr arfer yn prinhau a’r hen enwaumewn perygl o ddiflannu’. Da gwybod y bydd y casgliad cyflawn ar wefannau Casgliad Gwerin Cymru a Merched y Wawr.
Dyma rif 85 yn y gyfres Llyfrau Llafar Gwlad, sy’n glod i’r gyfres ac yn awgrym o ansawdd y llyfr. Dywed y cyhoeddwr ‘mae brwdfrydedd y casglwyri’w glywed yn y trysorau sydd wedi’u canfod a’u cofnodi.’ Mae hynny’n sicr yn wir. Mae yma drysorau: enwau caeau ... a mwy.
Diddorol gweld (drwy hidl y golygydd) sut roedd gwahanol ganghennau’n ymateb i’r gwaith o gasglu enwau: rhai, mae’n amlwg, yn casglu enwaucyfoes; rhai eraill yn mynd yn ôl i’r degwm neu i fapiau ystâd; sut roedden nhw cyflwyno’r enwau: rhai’n foel, rhai wedi eu rhestru bob yn fferm, rhai ânodiadau ynglŷn â lleoliad y caeau, rhai eraill â nodiadau eglurhaol neu hanesyddol, cangen Bargoed Teifi wedyn yn rhannu’r caeau i bedwarcategori: perchnogaeth, lleoliad, daearyddiaeth leol, ac amaethyddiaeth. Cyflwynir enwau ar fapiau: rhai llaw rydd, rhai ar ben llun o’r awyr, ar benmap Arolwg Ordnans, neu ar ben map degwm, ac yn achos caeau Croesoswallt, mae’r gangen wedi codi un o fapiau George Foxall oddi ar y we.Ceir pedwar map lliw hyfryd sy’n gynnyrch cystadleuaeth celf a chrefft.
Hyd yma y caeau; ond yn eu plith ceir rhestr bedwar tudalen a hanner o siopau ym mhlwyf Dolwyddelan, tudalen o hanes diddorol am ffermBodchwil ger Llanfair Talhaearn, a nodyn sy’n addo trafod caeau fferm Pantdwfn, San Clêr, nad yw’n crybwyll cae o gwbl, ond sy’n ddisgrifiadtelynegol o’r ffermdy, sy’n dechrau ‘Enw rhyfedd yw Pantdwfn ... oherwydd nid mewn pant ... y saif, ond ar gnwc’. (Mae’n ymddangos bod y tŷ
presennol wedi ei godi tua 1856 ar dir uwch na’r tŷ gwreiddiol.). Ar ddiwedd y gyfrol ceir detholiad o gyfansoddiadaullenyddol yn seiliedig ar enwau, ffrwyth gweithdy cyfansoddi yng Nghanolfan Tŷ Newydd, Llanystumdwy.
Mae’r gyfrol yn llawn amrywiaeth: melys gybolfa o dameidiau blasus – llyfr erchwyn gwely neu lyfr i’w gadw yn y tŷbach, nid llyfr i’w ddarllen o’i gwr. Wedi dweud hynny, dyna wneuthum i: treulio cwpl o oriau difyr yn ei ddarllen yn yrardd yn heulwen diwedd Ebrill a glasaid neu ddau o win yn gwmni; dysgu geiriau newydd megis snodiog ‘llawn mândwmpathau’; gweld bod caeau’n cynnwys yr elfen (g)weirglodd yn y ffurf wrglo yn sir Benfro, wrlodd yn sir Gâr, acwrlod ym Morgannwg; dotio at enwau caeau megis Cae Jeriw, Cae Plant Amddifad, Cae Cwilt (gyda darnau gwlyb asych bob yn ail), Nofaskosha, a Chae Wardrope (ar ôl Mr a Mrs Wardrope, a oedd yn byw mewn tŷ cyfagos); a synnubod ‘1595 OB’ (Oed y Byd) ar garreg tŷ Pantycreuddyn, a adeiladwyd ar ddiwedd y 19 ganrif.
Rwy’n sylweddoli nad yw pawb yn gwirioni’r un fath, ond mae’n siŵr y bydd rhywbeth yma at ddant pawb o ddarllenwyry Cylchlythyr.