Top Banner
C YMDEITHAS E DWARD L LWYD Y Naturiaethwr Cyfres 2 Rhif 10 Gorffennaf 2002
51

CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · Lladdfa yng Nghyprus 12 Iolo Williams Chwarae hap yn helpu amgylchedd Cymru 14 Elinor Gwyn John Price (1803-1887) 19 ... y rhifyn hwn o’r

Jan 27, 2021

Download

Documents

dariahiddleston
Welcome message from author
This document is posted to help you gain knowledge. Please leave a comment to let me know what you think about it! Share it to your friends and learn new things together.
Transcript
  • CYMDEITHAS EDWARD LLWYD

    Y NaturiaethwrCyfres 2 Rhif 10 Gorffennaf 2002

    Dosberthir yn rhad i aelodauCymdeithas Edward LlwydPris i’r cyhoedd £2.50

    Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannoltrwy gymhorthdal gan Gyngor CefnGwlad Cymru

  • Cymdeithas Edward LlwydSefydlwyd Cymdeithas Edward Llwyd yn 1978 a hi yw Cymdeithas Genedlaethol Naturiaethwyr Cymru.Enwir y Gymdeithas ar ôl Edward Llwyd, a anwyd yn 1660 ac a alwyd yn ei gyfnod “y naturiaethwr gorauyn awr yn Ewrop”.Cymraeg yw iaith y Gymdeithas, ac y mae dros 1,200 o aelodau led-led Cymru a thu hwnt. Prifddibenion y Gymdeithas yw astudio byd natur, yn cynnwys planhigion, anifeiliaid a chreigiau, ganhyrwyddo ymwybyddiaeth o amgylchedd a threftadaeth naturiol Cymru ac ymgyrchu dros eu gwarchod.Mae’r Gymdeithas yn:

    • trefnu cyfarfodydd awyr-agored ym mhob rhan o Gymru, i astudio ac i gerdded• cynnal cyfarfodydd gwaith cadwriaethol• trefnu darlithoedd a chyfarfodydd cymdeithasol• cynnal pabell ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol• cyhoeddi Y Naturiaethwr ddwywaith y flwyddyn• cyhoeddi Cylchlythyr ddwywaith y flwyddyn• cyhoeddi llyfrau ar enwau Cymraeg creaduriaid a phlanhigion• cynnig grantiau (£600) bob blwyddyn am waith gwreiddiol ym myd natur• lleisio barn gyhoeddus ar faterion amgylcheddol• trefnu pris gostyngol gyda nifer o siopau dillad ac offer awyr agored

    Mae aelodaeth yn agored i bawb o bob oed sydd â diddordeb ym myd natur.Dyma’r tâl blynyddol:Unigolyn - £10Teulu - £12Myfyrwyr, pensiynwr, di-waith - £6I ymaelodi neu am ragor o fanylion cysylltwch â’r Ysgrifennydd Aelodaeth:Iwan Roberts, 3 Rhes y Rheilffordd, Rhuthun, Sir Ddinbych LL15 4LJ.

    Diploma/MAÔl-Radd/ÔI-Brofiad mewn

    Rheolaeth Cefn GwladChwilio am waith ym myd cadwraeth?

    Angen hwb i’ch gyrfa?Os oes gennych radd neu brofiad perthnasol mewn gwaith cefn gwlad neu ym myd yr amgylchedd,hwyrach mai’r cwrs hwn yw’r union beth sydd ei angen arnoch!

    • Cwrs blwyddyn llawn amser neu rhan amser dros ddwy flynedd• Cyfuno profiadau theoretig ac ymarferol• Astudiaethau perswyl yn Eryri• Hyfforddiant o ansawdd ardderchog• Uchel ei fri ymysg darpar gyflogwyrRhoddir hyfforddiant arbenigol mewn partneriaeth â Chyngor Cefn Gwlad Cymru, Y CyngorAstudiaethau Maes, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a’r Cyngor Chwaraeon.

    Cefnogir y cwrs gan y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd. Os ydych dros 25 oed, yn ddi-waith ac â’r cymwysterau perthnasol, rydych yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol sy’ntalu’r ffÏoedd hyfforddi ac yn cyfrannu tuag at gostau cynnal.Am wybodaeth bellach, ffurflenni cais neu sgwrs anffurfiol, cysylltwch â:Geraint George, Rheolaeth Cefn Gwlad,Ysgol Astudiaethau Cymuned, Rhanbarth a Chyfathrebu,Prifysgol Cymru Bangor, BANGOR,Gwynedd LL57 2DG.

    Ffon: (01248) 383649/383231 • Ffacs: (01248) 382189

    Clawr blaen:Y pâl ar ynys Sgomer. Llun: Alun WilliamsClawr ôl: Bysedd y Cŵn yn Nant Peris. Llun: Goronwy Wynne

    Lluniau’r Clawr

  • Golygydd: Goronwy Wynne, “Gwylfa”,Licswm, Treffynnon, Sir Fflint CH8 8NQ.

    Cymdeithas Edward Llwyd 2001 – 02

    Llywydd: Dafydd Davies

    Cadeirydd: Goronwy Wynne

    Is-gadeirydd: Harri Williams

    Trysorydd: Ifor Griffiths

    Ysgrifennydd: Megan Bevan, “Y BlewynGlas”, Porthyrhyd, Sir GaerfyrddinSA32 8PR.

    Ysgrifennydd Aelodaeth: Iwan Roberts,3 Rhes y Rheilffordd, Rhuthun,Sir Ddinbych LL15 1BT.

    Y Naturiaethwr, Cyfres 2, Rhif 10, 2002.

    Cyhoeddir Y Naturiaethwr gan GymdeithasEdward Llwyd.

    Dyluniwyd gan: MicroGraphics

    Argraffwyd gan: Gwasg Dwyfor

    Mae hawlfraint pob erthygl yn eiddo i’r awdur.

    Y Naturiaethwr

    Cynnwystudalen

    Gair gan y Golygydd 3Goronwy Wynne

    Llwch yn Rhagweld Hinsawdd y Dyfodol? 5Siwan Manon Davies

    Mynediad i Gefn Gwlad 9Alun Price

    Lladdfa yng Nghyprus 12Iolo Williams

    Chwarae hap yn helpu amgylchedd Cymru 14Elinor Gwyn

    John Price (1803-1887) 19R. Elwyn Hughes

    Gwarchod y Godiroedd 21Geraint Jones

    Gwibdaith y Gwarchodfeydd 24Paul Williams

    Byd Natur a’r Bardd 27Lun Roberts

    Dyfodol i’r albatross? 28Dafydd Roberts

    Llên y Llysiau 32Sîan Evans

    Wyddoch chi? 34

    Dod i Nabod ein Gilydd 35

    Llun Pwy? 36

    Nodiadau Natur 37

    Anrhydedd ddau Gymro 39

    Llythyr 40

    Coffad 41

    Adolygiadau 43

    Cyfres 2 Rhif 10 Gorffennaf 2002

  • 3

    Gair gan y GolygyddGoronwy Wynne, Gwylfa, Licswm,Treffynnon,

    Sir y Fflint, CH8 8NQ.

    Tel.: 01352 780689

    Mae mwy nagarfer oamrywiaeth yny rhifyn hwn o’rNaturiaethwr, ahoffwn ddiolchyn fawr iawn i’rholl gyfranwyr.Mae’r mwyafrifmawr ohonyntyn ymateb ynllawen (am wni!) i’m cais amerthygl, ac

    erbyn hyn mae ambell gyfraniad yncyrraedd ‘ohono’i hun’ a dyna sy’n codicalon y golygydd.

    Os mai adar yw eich pethau fe gewchflas ar fynd i ynys Cyprus yng nghwmniIolo Williams, ac i’r Antarctig gyda DafyddRoberts, ac os am aros yng Nghymrucewch grwydro’r gwarchodfeydd neuganolbwyntio ar arfordir Sir Benfro.

    Mae dwy gystadleuaeth ar eich cyfer, –nabod y llun yw un a nabod y gerdd yw’rllall. Cofiwch anfon ataf cyn diwedd Medi.

    *******************

    Mae’r ddadl ynglŷn â’r cysylltiad rhwngmoch daear a’r ddarfodedigaeth neu’r TBmewn gwartheg yn dal i rygnu ymlaen, a’rarbenigwyr yn methu rhoi sicrwydd unffordd na’r llall. Mae’r broblem wedi caelsylw ers o leiaf ddeng mlynedd ar hugainbellach, a’r ffermwyr a’r cadwraethwyr felei gilydd yn mynnu fod y gwirionedd o’utu. Gobeithio’n wir na fydd cyflafan arallym myd amaeth cyn y daw cytundebynglŷn â’r sefyllfa.

    *******************

    Tua chanol mis Medi eleni rydw i’ngobeithio mynd i Erddi Kew. Trefnircyfarfod i lansio’r llyfr pwysicaf ers deugainmlynedd ym myd botaneg, sef yr Atlasnewydd fydd yn cofnodi dosbarthiad pobblodyn a rhedynen yn yr ynysoedd hyn.Cyhoeddwyd yr Atlas gwreiddiol yn 1962,ac ers chwe blynedd mae tîm enfawr ofotanegwyr wedi bod wrthi’n chwilio pobtwll a chornel er mwyn darganfoddosbarthiad presennol pob planhigyn. Panewidiadau fydd wedi digwydd tybed? Bu’rdasg yn enfawr, ac fe fydd y llyfr hefyd ynun enfawr. Dechreuwch gynilo’chceiniogau os ydych am ei brynu!

    *******************

    Cofiwch am Gynhadledd FlynyddolCymdeithas Edward Llwyd yng Ngwesty’rHand yn Llangollen ar 27–29 Medi.Cawsoch y manylion a’r ffurglen gais ymmis Chwefror. Mae nifer helaeth wediarchebu llety ond y mae lle i ragor.Ytrefnydd yw Heulwen Bott (01928)723351. Cofiwch baratoi rhywbeth ynglŷnâ byd natur ar gyfer yr arddangosfa.Diolch.

  • 4

    Am aros yn sir Benfro?Glyn View

    Mae Glyn View wedi’i leoli ym mhentrefDinas Cross, hanner ffordd rhwngAbergwaun a Threfdraeth ar arfordirgogledd Sir Benfro. Y tŷcanol mewn rheso dri ydy Glyn View. Mae ynddo le i 2 i4 o bobl gyda’r adnoddau sylfaenol. Ar yllawr mae lolfa (ynddi mae soffa y gellirei throi yn wely) cegin a chawod yn ycefn. Ar y llofft mae un ystafell welydwbl. Caiff y tŷ ei wresogi gan stôf sy’nllosgi glo a choed ac mae’r dŵr yn caelei dwymo’n drydanol.

    Y tu ôl mae patio ac o flaen y tŷ mae tir comin.Dyma dŷ delfrydol i chi er mwyn cerdded, gwylio adar a chael cyfle i fwynhaugolygfeydd hyfryd arfordir Penfro.

    Rhent £100 yr wythnos.

    Cysylltwch â S. Jones-Davies: 01970 624658

  • 5

    Llwch yn Rhagweld Hinsawdd y Dyfodol?Siwan Manon Davies

    Adran Ddaearyddiaeth, Royal Holloway, Prifysgol Llundain

    Llifogydd, stormydd eira, corwyntoedd aglaw, glaw, glaw! Does dim rhyfedd mai’rtywydd yw hoff destun siarad pobl Cymru!Ond pam ein bod yn dioddef o dywyddmor eithafol yn ddiweddar? Tybed aigweithredoedd Duw sy’n gyfrifol, neu aidyma ganlyniadau effaith tŷ gwydr?

    Er mwyn ateb cwestiynau fel hyn rhaidedrych ar yr hinsawdd mewn perspectif hirdymor. Tua 15,000–10,000 o flynyddoeddyn ôl roedd Gogledd Orllewin Ewrop yndioddef o newidiadau hinsoddol sydyn achyflym iawn – o gyfnod pan oeddrhewlifau yn ucheldir Gogledd Cymru igyfnodau mor gynnes neu ychydig yngynhesach nag yw hi heddiw – a hyn i gydmewn amser byr iawn. Cred llawer y byddgwell dealltwriaeth o newidiadau naturiol ycyfnod hwn (heb effaith pobl) yn gymorth i

    ddeall beth sy’n rheoli amrywiadauhinsoddol Prydain ac Ewrop ar hyn o bryd.Gellir defnyddio’r dull radiocarbon iddyddio amseriad y newidiadau yma, ondpan fo’r hinsawdd yn gwrthdroi mor sydyn,o fewn ychydig ddegawdau, mae’r dull hwnyn annigonol i ddyddio’r ansefydlogrwyddyma i’r manylder anghenrheidiol. Sut fellyy gellir cymharu newidiadau ar drawscyfandir Ewrop heb ddull dyddio addas? Aidefnyddio llwch o losgfynyddoedd yw’rateb?

    Ychydig flynyddoedd yn ôl, trwy hap adamwain cafwyd dargynfyddiad cyffrous ynRoyal Holloway. Darganfyddodd fyarolygwr – Dr Chris Turney – haenenfeicroscopig o lwch o losgfynydd yngNgwlad yr Iâ mewn dyddodion o waelodllyn yn yr Alban. Dangosodd astudiaeth o’rcyfansoddiad cemegol mai llwch a elwir ynVedde o losgfynydd Katla, a ffrwydrodd11,000 o flynyddoedd yn ôl, oedd hwn.Roedd nifer o ddaearegwyr wedi nodi bodhaenau tew iawn o’r llwch wedi eu dyddodiyn agos i’r llosgfynydd ond doedd neb yntybio i’r llwch gael ei wasgaru dros ardalmor eang.

    Haenen o lwch Vedde o fewn craidd o ddyddodionmeddal o Lyn Ashik ar Ynys Hir,(Skye) yr Alban.Lluniau o wahanol fathau o lwch llosgfynyddol.

    A. Llwch balastig brown,B. Llwch andesitig â cheudodauC. Llwch clir gwastadD. Llwch â cheudodau

  • 6

    Yn ystod ffrwydriad llosgfynydd caiffdarnau amrywiol eu maint (o flociau abomiau mor fawr â thai i lwch neu ludwsy’n llai na 2mm) eu chwythu i’r atmosffera’u gwasgaru mewn amser cymharol fyrdros yr ardal gyfagos. Mae’n siŵr bod niferyn cofio gweld y lluniau erchyll offrwydriadau sydyn Mynydd St Helens,Feswfiws ac yn fwy diweddar yn y Congo.Fel rheol, y lludw sy’n cael ei gario bellafoherwydd ei ysgafnder, ac yn aml yn cael eiddyddodi yn y glawiad. Mae gan bob matho ludw gyfansoddiad cemegol unigryw,braidd fel olion bysedd, felly gellir adnabodpob haenen trwy edrych ar gyfanswm y prifelfennau megis silica, aliwminiwm,titaniwm a sodiwm. Mae’n bosib fellydefnyddio haeanau o lwch olosgfynyddoedd fel mannau cyswllt igysylltu dyddodion daearegol o’rcefnforoedd, llynnoedd, corsydd mawn a’rpegwn iâ ar draws cyfandir Ewrop mewngwell manylder. Tybir bod cynifer â 30 offrwydradau mawr o losgfynyddoedd ynFfrainc (Massif Central), yr Almaen(Eifel), Gwlad yr Iâ a’r Eidal wedi digwyddrhwng 15,000 a 10,000 o flynyddoedd ynôl. Ond hyd yn hyn mae dosbarthiad yllwch o’r ffrwydradau wedi ei selio arhaenau gweladwy o fewn dyddodion yngngyffiniau’r llosgfynyddoedd.

    Ond beth am yr haenau meicroscopighyn sy’n anweledig i’r lygad noeth? A oesposib darganfod llwch mewn dyddodionsydd filoedd o filltiroedd oddi wrth unrhywlosgfynydd? Dyma’r gwaith caled, a dyna fyrhan i yn yr ymchwil yma – chwilio amddarnau bychan o lwch mewn clai a mwdorganig o waelod llynoedd ar draws Ewrop!Wedi darganfyddiad Turney yn yr Alban,rhaid oedd troi tuag at ardaloedd eraillmegis yr Iseldiroedd, de Sweden, deFfrainc, de Cymru, gogledd yr Eidal aphegwn iâ yr Ynys Las (Greenland).

    Defnyddir techneg i wahanu’r llwch oddiwrth y clai a’r mwd gyda hylif y gellirpenodi’i ddwysedd yn fanwl. Technegnewydd a ddyfeisiwyd yn ddiweddar ynRoyal Holloway yw hon ac mae’r dull wediei gofnodi mewn gweithdy ar y wê fel y gallpobl dros y byd ddefnyddio’r adnoddau.Adnabyddir y llwch trwy waith hir ablinedig gyda’r meicrosgôp a rhaid chwilioam ddarnau tebyg i’r lluniau isod/uchod.Yn aml bydd ochrau syth a miniog achrwm i’r llwch, ac weithiau ceir ceudodautu mewn i’r darnau. Bydd rhai yn glir,gwastad a thenau ac eraill yn frown ar ffurfblociau oherwydd y cyfanswm uwch ohaearn. Ond yn bennaf byddaf yn gwneuddefnydd o’r cyfanswm cemegol fel allweddi adnabod y llwch.

    Ers defnyddio’r dechneg yma, mae’namlwg bod nifer o ffrwydradau wedigwasgaru llwch yn llawer mwy eang drosEwrop nag a feddyliwyd yn wreiddiol.Erbyn hyn mae haenau microsgopig o’rLlwch Vedde wedi eu darganfod yn neSweden, gorllewin Rwsia a gogledd yrIseldiroedd yn ogystal â haenau gweladwyo fewn dyddodion o Gefnfor yr Iwerydd,a’r iâ yn yr Ynys Las. Mae’n bosib, felly,cysylltu’r dyddodion yma at ei gilydd yn ôllleoliad stratigraffeg Llwch Vedde er mwyncymharu’r gwahanol dystiolaeth hinsoddolsydd wedi ei gofnodi o fewn y dyddodion.

    Ond nid wyf yn canolbwyntio yn gyfangwbwl ar yr haenau microscopig yma. Trwyhap a damwain fe ddeuthum i ar drawshaenen o lwch Vedde, 1cm o dewdra,mewn colofn o waelod llyn ar yr Ynys Hir

    Haenen o lwch o fewn craidd o begwn iâ ar yr YnysLas. Llun S. Jøhnsen.

  • Llosgfynydd Grimsvötn, Gwlad yr IâLlun: Freysteinn SigmundssonNordic Volcanological Institute

    (Skye), yn yr Alban! Nid oes haenenweladwy erioed wedi ei darganfod ymMhrydain o’r blaen – dim ond haenaumeicroscopig! Roedd hi’n amlwg ynglawio’n drwm dros yr ynys 11,000 oflynyddoedd yn ol! Mae’n bosib bod ylleoliad yma yn unigryw, neu efallai bodnifer fawr o haenau gweladwy eraill i’wdarganfod mewn gwahanol ddyddodion ymMhrydain yn y dyfodol.Yn ogystal, fel rhano’m hymchwil rwyf wedi darganfod dwyhaenen ficroscopig o lwch o Wlad yr Iâ ynne Sweden na wyddai neb amdanynt hydyma. Felly pwy a ŵyr pa sawl ffrwydriadarall sydd heb eu darganfod?

    ’Dyw’r gwaith hwn ond megis dechrau,ac mae’r engrheifftiau uchod yn dangosllwyddiant y dechneg hyd yn hyn. Gwaith ydyfodol ymysg y tîm yn Royal Holloway ywdatblygu fframwaith, tebyg i we corryn igysylltu’r gwahanol leoliadau yn Ewrop ganddefnyddio’r llwch o losgfynyddoedd.Dyna’r nôd yn y pen draw. Wrth wneud

    hyn gellir edrych ar gyflymder a graddau’rnewidiadau hinsoddol o fewn Ewrop ynogystal ag edrych ar ymateb yr amgylchfyd.Gobeithir y bydd hyn yn gymorth i wellaein dealltwriaeth o weithrediad y systemhinsawdd ym Mhrydain er mwyn daroganhinsawdd y dyfodol.

    Am fwy o wybodaeth cysylltwch âSiwan Manon DaviesAdran DdaearyddiaethRoyal HollowayPrifysgol LlundainEghamSurreyTW20 [email protected]

    7

  • 8

    Yr Arlunydd RhyngwladolKathy Gittins ©

    Casgliad 2002Oriel Tŷ Cornel, Meifod, Sir

    Drefaldwyn, Canolbarth CymruSY22 6BZ.

    Ffôn 01938 500600 Ffacs 01938 500700

    Lluniau dyfrlliwLlestri gleision

    Cardiau NadoligPrintiau

    Gemwaith

    Beth am hysbysebu?Mae’r Naturiaethwr yn cyrraedd oddeutu 3,000 o ddarllenwyr ddwywaith yflwyddyn.

    Tudalen lawn £1001/2 tudalen £501/4 tudalen £25

    Cysylltwch â’r swyddog hysbysebion: Mrs. Heulwen Bott, Orchard Croft, HillRoad North, Helsby, Cheshire WA6 9AF (01928) 723351neu â’r Golygydd.

  • 9

    Cyn i’r rhifyn hwn o’r Naturiaethwr weldgolau dydd bydd Cyngor Cefn GwladCymru (CCGC) wedi cyhoeddi y mapiaucyntaf sy’n dangos tir agored a thir cominyn ardal y Berwyn, Llantysilio a Rhiwabon.Dyma’r ardal gyntaf yng Nghymru i’wmapio.Ymhen dwy flynedd bydd y gwaithar gyfer Cymru gyfan wedi ei gwblhau.Ymapiau yma fydd yn dangos ble bydd gany cyhoedd hawl i gerdded, o dan y ddeddfCefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.

    Tiroedd o ddiddordeb mawr i’rNaturiaethwr sydd yma, gyda mynyddoeddy Berwyn yn enghraifft o Safle oDdiddordeb Gwyddonol Arbennig (neuSSSI). Ond rhaid pwysleisio nad yw’r hawli gerdded wedi dod i fodolaeth eto. Daw’rgorchymyn gan y llywodraeth pan fyddmapiau wedi eu cwblhau ar gyfer Cymrugyfan. Dyma felly gyfle i esbonio’r brosesac i roi mwy o wybodaeth ynglŷn â sut i roieich barn am y mapiau.

    Y mannau cychwyn sy’n arwain at greu’rmapiau yw (i) y gallu i adnabod ycynefinoedd llysieuol sef mynydd, rhostir,gweundir a ‘down’ a (ii) Tir Comin sydd

    wedi ei gofrestru. Gall y Cyngor wneudhyn i raddau helaeth drwy ddefnyddiogwybodaeth a gasglwyd eisoes fel rhan o’rcofnod cyntaf (Phase 1) sy’n dangos ycynefinoedd hyn.Yn ogystal, ceir crynfanylder ar awyrluniau.

    Y cyfarwyddyd dan y ddeddf yw bod TirComin i’w fapio fel Tir Mynediad os yw’ncael ei ddangos ar gofrestrau Tir Comin yrAwdurdod Lleol.Yn aml iawn gall hyn godinifer o gwestiynau. Wrth fynd heibio felpetai, dyma ychydig o gefndir ar dir comin.A wyddoch chi, er enghraifft:

    • fod perchennog i bob darn o dir comin.

    • mai tir gwastraff ydoedd yn wreiddiol ynperthyn i Arglwydd y faenor yn y CanolOesoedd.

    • bod nifer o ffermydd yn cael rhannu’rhawl ar y tir boed yn hawl i bori neu igasglu mawn.

    • y dangosir ffiniau’r tir comin ac enwau’rrhai hynny a’r hawl arno yngnghofrestrau’r Cyngor Sir.

    • wrth ddylunio’r map drafft mae’rCyngor Cefn Gwlad wedi copïo’rcofrestrau hyn yn union fel y maent acnid oes hawl gan y CCGC i newid yffiniau mewn unrhyw fodd.

    Mae hyn felly yn arwain at y dull y gall yCyngor ei ddefnyddio er mwyn dangos ar ymap y ffiniau amlwg ar y ddaear, ffiniau afydd yn glir i bawb. Defnyddir waliau da,nentydd, ffyrdd a weithiau ffens i ddangosy ffiniau hyn. Drwy wneud hyn mae moddi’r Cyngor ddewis symud ymlaen at ffinwell hyd yn oed os golyga hyn bod peth tirsydd heb fod yn fynydd, gweundir neurostir yn cael ei gynnwys. Bydd y

    Mynediad i Gefn Gwlad Alun Price

    Swyddog Mynediad a Hamdden, Cyngor Cefn Gwlad Cymru.

    Rhostir

  • 10

    gwrthwyneb hefyd yn wir o dro i dro,hynny yw, symud yn ôl i ffin ‘gadarnach’ acholli darn o dir o’r map. Os nad yw’r tirdan sylw yn cynnwys mwyafrif o fynydd-dir, gweundir neu rostir ni fydd ynymddangos ar y map. Bydd unrhywdiroedd sydd yn llai na 5 hectar (12.3 erw)hefyd yn debygol o gael eu tynnu o’r maponi bai eu bod yn fanteisiol yn nhermaumynediad e.e. drwy gysylltu un darn ofynydd ag un arall.

    Fel yr awgrymwyd eisoes ni fydd yCyngor yn mapio cynefinoedd eraill megistir wedi ei wella nac ychwaith goedlannau,oni bai eu bod yn gynwysedig mewn darno dir ehangach.

    Yn fras, bydd y broses ymgynghorol yndilyn y camau canlynol;

    • Cynhyrchu map drafft• Derbyn sylwadau a chynhyrchu map

    ‘dros dro’• Cyfle i unrhyw un â diddordeb yn y tir i

    apelio i’r Cynulliad Cenedlaethol.• Cyhoeddi’r map terfynnol.Bydd yr ymgynghoriad ym mhob ardal yncychwyn wedi cyhoeddi’r manylion mewnpapur newydd lleol.Yn ogystal bydd ymapiau drafft ar gael i’w harchwilio ymmhrif swyddfa’r Cynghorau Sir,Swyddfeydd y Cyngor Cefn Gwlad ac ar yWê. Bydd y Cyngor hefyd yn arddangos ymapiau wrth iddynt ‘fynd ar daith’ o le i leo fewn yr ardal, e.e. mewn neuadd bentref.Os yn ffermwr neu’n dir-feddiannwrbyddwch yn gallu rhoi sylwadau ar y

    mapiau hyn. Wedi ystyried unrhywsylwadau gall y Cyngor wneud newidiadaui’r map os oes camgymeriadau wedi bod yny dull o fapio e.e. bod y map yn dangos tirfel tir comin nad yw yn dir comin neu bodcynefinoedd eraill wedi eu cynnwys syddddim yn ‘fynydd, rhosdir neu weundir’.

    Wedi i’r cyfnodau ymgynghorol ddod iben bydd CCGC yn ystyried y sylwadau adderbyniwyd ac yn cynhyrchu’r map neasafsef y map ‘dros dro’. Bydd cyfle yma i’rrhai sy’n dal tir i apelio yn erbyn ypenderfyniad i ddangos tir ar y map.Y camolaf wedi clywed pob apêl fydd cynhyrchu’rmap terfynnol. Dyma’r map a fydd yndangos yn union ble y caiff pobl gerdded ardir comin a thir agored fel ei gilydd.

    Felly, ymhen dwy flynedd daw hawlnewydd i fodolaeth yn caniatau i boblgerdded oddi ar y llwybrau cyhoeddus.Ond rhaid cofio gyda phob hawl dawcyfrifoldebau newydd hefyd. Bydd cryn heryn deillio o’r agwedd yma yn enwedig oaddysgu pobl am gefn gwlad.Yn wir hawl igerdded yn unig sydd yma ac mae’r ddeddfyn rhestru’r gweithgareddau nad oes hawleu dilyn ar y tir. Bydd y Cyngor yncynhyrchu canllawiau i bobl wrth ymweld âchefn gwlad. Dyma felly amcan yllywodraeth i roi cyfleoedd ychwanegol ifwynhau cefn gwlad, i hybu’r economi leolac i wella cyflwr iechyd ar yr un pryd.

    Beth felly am fywyd gwyllt o fewn yrardaloedd hyn? A fydd anifeiliaid aplanhigion, rhai ohonynt yn brin, yn cael

    Mynydd-dir

    Mawnog

  • 11

    eu haflonyddu neu eu dinistrio? Dan yddeddf mae modd cau tir os rhagweliranhawsterau o’r fath. Bydd gan bobperchennog tir yr hawl i gau’r tir am 28niwrnod. Gallant hefyd wneud cais i’r‘awdurdodau perthnasol’ i gau amgyfnodau hwy a gall yr awdurdodbenderfynu cau tir oherwydd rhesymaucadwraethol.

    Ym mhob sir bydd Fforwm Mynediadyn cael ei greu i drin a thrafod y dulliau owella cyfleoedd mynediad. Os am gau tiram fwy na chwe mis rhaid ei ystyried gan yfforwm. Rhoi barn ar y mapiau fydd gwaithcyntaf y fforwm. Dyma gyfle felly iunigolion roi o’u profiad gan fodAwdurdodau lleol yn edrych am unigolioni eistedd ar y fforwm lleol ar hyn o bryd.

    Gwelir felly bod dull newydd o feddwlam fynediad i gefn gwlad yn dod i

    fodolaeth. Mae her yma i weld y mesurau’nllwyddo yn eich milltir sgwâr boed i chwifod yn berchennog tir neu’n gerddwr.

    Os am ragor o wybodaeth cysylltwchâ’ch swyddfa leol am fanylion neu gallwchgysylltu â’r Cyngor Cefn Gwlad ar 0845130 6229 sef llinell wybodaeth y Cyngor.Dangosir y mapiau yn ogystal ar safle We’rCyngor sef www.ccw.gov.uk.

    Eich Cylchgrawn ar gyfer Cymru a’r Gororau

    Country QuestSefydlwyd Country Quest yn 1960 ac ystyrir ef y cylchgrawn ar gyfer Cymru a’rGororau. Mae gan ei ddarllenwyr ffyddlon a deallus ddiddordeb yn hanes Cymru, eichefngwlad, cymeriadau, traddodiadau, tai o gymeriad, ac yn wir, popeth sydd yngwneud Cymru a’r tiroedd sydd ar y ffin, mor ddiddorol.Yn ogystal a’r erthyglau nodwedd niferus ar Gymru a’r Gororau, mae gan y cylchgrawnbedair tudalen ar hen bethau, adran eiddo, colofn foduro, gwybodaeth amddigwyddiadau ac adran arddio.Erthyglau nodwedd yw un o arbenigeddau Country Quest a rhoddir sylw cyson i drefi,gwyliau a sioeau, priodasau, tu mewn i adeiladau a’r Eisteddfod Genedlaethol.Cyhoeddir Country Quest yn fisol a phrynir ef yn bennaf gan ddarllenwyr sydd ynaelodau o grwp darllenwyr ABC1 ac sydd yn edrych am safon. Mae llawer o bobl yncadw hen rifynnau er mwyn ail edrych arnynt neu eu trosglwyddo i’w ffrindiau.Gwerthir Country Quest led led Cymru ac yn Swydd Gaer, Swydd Amwythig, SwyddHenffordd, Swydd Gaerwrangon a Swydd Gaerloyw. Tanysgrifiadau yw trydedd rhan owerthiant Country Quest sy’n mynd i bob rhan o Brydain a thramor.

    7 Parc Gwyddoniaeth,Aberystwyth, Ceredigion SY23 3AH

    Ffôn: 01970 611611 Ffacs: 01970 624699

  • 12

    Mae Ynys Cyprus yn enwog am ei haul,hwyl, môr a thywod, ac mae’n gyfarwyddiawn i filiynau o dwristiaid sy’n hedfanyno’n flynyddol am eu gwyliau haf. Mae’rynys wedi’i lleoli ar ochr ddwyreiniol Môr yCanoldir ac yn ffurfio pont o dir rhwngdwyrain Ewrop a gogledd Affrica. Bobhydref, wedi ymadawiad y rhan fwyaf o’rtwristiaid, bydd can miliwn a hanner o adaryn glanio yma ar y daith hir o ddwyrainEwrop i aeafu yn Ne Affrica.Yn anffodus,’does fawr o groeso iddynt.

    Ym mis Hydref 2001, cefais wahoddiadgan yr RSPB i fynd allan i’r ynys er mwynffilmio hynt a helynt yr adar mudol ar gyfery rhaglen gylchgrawn ‘Countryfile’ ar yBBC. Cyrhaeddais fy ngwesty ger Larnakaar ochr ddwyreiniol yr ynys am un o’rgloch y bore. Ddwy awr yn ddiweddarach,roeddwn yn cwrdd â’r heddlu lleol a’rmilwyr ar ddechrau ‘Operation Blackcap’.Ycynllun oedd ymweld â phenrhyn lle’r oeddllawer o’r trapio’n digwydd cyn i’r wawrdorri, gan obeithio rhyddhau cannoedd oadar a dal rhai o’r troseddwyr. Er mwyngwneud hyn, roedd y tîm o’r RSPB ynymuno â rhyw 40 o filwyr a’r heddlu.

    Cyn i’r ymgyrch ddechrau, esboniodd uno swyddogion yr RSPB imi bod trapio’nbroblem aruthrol ar dir y Llu AwyrBrenhinol, sef tir Prydeinig. Mae’r tir ymawedi’i leoli ar ddau benrhyn amlwg, a chanmai’r rhain sy’n denu’r adar, maent hefydyn denu’r trapwyr anghyfreithlon. Ac i uno’r safleoedd yma roeddym ni a’r heddlu’nmynd i ganolbwyntio ein hymdrechion.

    Mae trapio adar wedi bod yn ffordd ofyw mewn llawer o’r gwledydd sy’n ffinioMôr y Canoldir ers canrifoedd ac yn yr henddyddiau, roedd yr adar yn fwyd pwysig.Heddiw, mae’r adar bach yn cael eu

    gwerthu am bunt yr un ac o feddwl bodtua 15 miliwn o’r 150 miliwn o adar mudolyn cael eu dal a’u gwerthu’n anghyfreithloni’r bwytai, mae arian mawr i’w wneud yma.Yn ystod Hydref 2000, lladdwyd pennaethy wardeniaid gan drapwyr ac mae llawer orai eraill, a’u teuluoedd, wedi cael eubygwth, ac felly roeddem yn ofalus iawn igadw’n agos at aelodau’r heddlu arfog.

    Roedd hi’n dywyll fel y fagddu wrthgyrraedd y safle ond cawsom wisgosbienddrych arbennig i weld yn ytywyllwch. Fel hyn, gwelais y llystyfiant tala’r coed isel lle’r oedd y trapwyr yn gosodeu rhwydi i ddal yr adar. O fewn dim,roeddem wedi dod o hyd i lathenni o rwydillawn adar a chwaraewr tapiau caneuonadar a oedd yn denu’r teloriaid i’w tranc.Cerddais ar hyd y rhwyd yn rhyddhau’r

    adar ond roedd dros hanner wedi’u lladdyn barod.Yn anffodus, roedd y trapwyrwedi ffoi wrth inni gyrraedd ond roedd yncodi’r galon i rwygo’r rhwydi i lawr.

    Awr yn ddiweddarach, wrth i’r wawrdorri, roeddem wedi darganfod dros 400

    Lladdfa yng NghyprusIolo Williams

    Brodor o Lanwddyn yw Iolo Williams, sy’n awr yn byw yn Y Drenewydd. Adar yw ei bethau, abu’n gweithio am rai blynyddoedd i’r RSPCA. Bellach mae’n gweithio’n annibynnol ar y

    cyfryngau fel dehonglwr byd natur a chyfathrebwr campus yn y ddwy iaith.

    Telor penddu yn y rhwyd

  • 13

    llath o rwydi, wedi rhyddhau 1200 o adar,teloriaid penddu yn bennaf, a chladdu dros2000 o rai marw.Yn ogystal â hynny, roeddyr heddlu wedi darganfod hanner dwsin oynnau anghyfreithlon ac wedi cludopedwar o drapwyr i’r ddalfa.Yn bwysicachfyth, roedd ‘Operation Blackcap’ wedi dalsylw’r wasg a chael cefnogaeth llawer o’rbobl leol, rhywbeth sy’n holl bwysig os oesdiwedd i fod ar y trapio.

    Dim ond rhan o’r stori oedd ffilmio’rtrapio. Roedd hi’n bwysig hefyd inni weldlle’r oedd yr adar bach yn cael eu gwerthu,fel pryd traddodiadol o’r enw‘ambellopoulia’. Er mwyn gwneud hyn,cawsom gwmni un o aelodau grŵp adar yrynys a aeth â ni i westy anghysbell i fyny yny mynyddoedd. Gyda chamera cudd, roeddyn bosib ffilmio grwpiau o bobl lleol ynprynu miloedd o adar dros bedair awr.Yn

    eu mysg roedd aelod o lywodraeth yr ynysyn gwledda ar gannoedd o deloriaidpenddu gyda’i deulu er gwaetha’r ffaithbod bwyta’r adar, yn ogystal â’u lladd, ynhollol anghyfreithlon.Yn wir, wrth innieistedd yn y bwyty, daeth pedwar aelod o’rheddlu i mewn i’w bwyta!

    Mae’r tymor trapio adar yn dechrau aryr ynys ym mis Awst gydag adar mudol felgwybedog y gwenyn, yna daw rhai o’rbronfreithiaid, yn cynnwys y robin goch, acym mis Hydref daw miliynau o deloriaid.Er bod y rhan fwyaf yn adar sy’n nythu ynnwyrain Ewrop a Rwsia, mae rhai, fel y

    llwydfron fach yn mudo cyn belled âPhrydain.Yn anffodus, mae trapio asaethu’n gyffredin mewn llawer o’rgwledydd sy’n holl bwysig i’r adar mudol,gwledydd fel yr Eidal a Malta. Er bodagweddau’n newid, mae’n gwella’n boenuso araf ac yn y cyfamser, mae miliynau oadar yn cael eu lladd yn flynyddol.

    Dim ond pedwar diwrnod a gefais arYnys Cyprus ond hyd yn oed yn yr amserbyr hynny, roeddwn yn gallugwerthfawrogi’r tirlun anhygoel, y bobolgyfeillgar a’r amrywiaeth eang o fywydgwyllt. Serch hynny, ni fyddaf yndychwelyd o achos y lladdfa flynyddol abuaswn yn pledio gydag unrhyw âchydwybod i wneud yr un peth.

    Heddwas yn rhyddhau aderynTeloriaid penddu a fu farw yn y rhwyd

  • 14

    £93 miliwn o bunnoedd. Clamp o swm. Adyma, yn fras, gyfanswm yr arian syddwedi llifo o Gronfa Dreftadaeth y Loteri igynorthwyo treftadaeth Cymru ers 1994.Tua 20% o’r cyfanswm hwn sydd wedi eiddefnyddio ar brosiectau sy’n gwarchodcynefinoedd a bywyd gwyllt, neu ar wellaparciau a gerddi. Adeiladau hanesyddol,tirluniau trefol, amgueddfeydd ac orielauyw’r categorïau sydd wedi hawlio’r gyfranhelaethaf o arian y Gronfa hyd yma.

    Prif nod y Gronfa Dreftadaeth yw gwellaansawdd bywyd trwy ddiogelu a gwellacyflwr gwahanol elfennau o’n treftadaeth,boed rheini yn nodweddion naturiol neu’nrhai a grewyd gan ddyn, ac hefyd trwyhyrwyddo mynediad neu welladealltwriaeth a mwynhad o’r dreftadaethhonno. Ni allai neb ddadlau bod grantiau’rGronfa Dreftadaeth yn gymorth hawdd i’wgael mewn cyfyngder – mae llenwi’rffurflenni astrus yn gofyn am gryn ymlafnioa dyfalbarhad ar ran yr ymgeiswyr!

    Ond er hyn, mae yna nifer fawr ogynlluniau diddorol wedi llwyddo dros yblynyddoedd: ymhlith y ceisiadau‘cadwraethol’ sydd wedi eu cyflwyno hydyma, cynlluniau i brynu darnau o dir sydd,efallai, wedi bod yn fwyaf poblogaidd. Erenghraifft, ‘nôl yn 2000, prynoddCymdeithas Bywyd Gwyllt Trefaldwynddarn 2km o hyd o’r afon Hafren ynLlandinam. Mae hon yn un o gyfres osafleoedd bywyd gwyllt gwerthfawr syddwedi cael eu clustnodi ar hyd yr afon ganbartneriaeth o gyrff cadwraethol – ‘perlau’rAfon Hafren’. Dyma’r pedwerydd ‘perl’ i’rGymdeithas hon ei ddiogleu, a’r seithfedyn y strategaeth ar gyfer yr afon gyfan.Mae’r afon yn y llecyn hwn yn ansefydlogiawn – gyda’i gwely gro symudol, mae’narddangos amrywiaeth o nodweddion

    erydu a gwaddodi, gan gynnwys pyllau,ystumiau ac ystumllynnoedd. Dyma un orenghreifftiau pwysicaf o’r math yma o afonsydd yn dal mewn bodolaeth ar iseldirPrydain ac yn ogystal â bod yn nodweddddaearyddol bwysig mae hefyd yn gynefinpwysig i fywyd gwyllt – trychfilodanghyffredin, dyfrgwn, pysgod ac hefydadar nodweddiadol fel y cwtiad torchogbach, gwennol y glennydd, glas y dorlan,pibydd y dorlan a’r hwyaden ddanheddog.Mae’r afon Hafren rhwng Llanidloes a’rDrenewydd wedi dioddef yn enbyd yn ygorffennol – mae darnau ohoni wedi caeleu sythu a’u carthu, sychwyd pyllau acystumiau a chliriwyd gwrychoedd a choedar y dorlan. Da o beth, felly, yw gweld undarn bach ohoni, o leiaf, mewn dwylodiogel.

    Gweirgloddiau sydd wedi bod ar frigrhestr siopa Cymdeithas Byd Natur Gwentyn ddiweddar.Yn 1996, gyda chymorth yGronfa Dreftadaeth, prynodd yGymdeithas rhyw 2.5ha o dir GelliNewydd (‘New Grove’) tua 6km i’r de oDrefynwy ar lethrau uchaf llwyfandirTrelech. Ar y caeau hyn y ceir y boblogaeth

    Chwarae hap yn helpuamgylchedd Cymru

    Elinor GwynCyngor Cefn Gwlad Cymru

    Gwarchodfa Natur Llandinam, Un or ‘berlau’r AfonHafren’Llun: J. Sadler, Prifysgol Birmingham.

  • 15

    fwyaf yng Ngwent o degeirian y waun(Orchis morio).Yn tyfu yma hefyd maelloer-redynen (Botrychium lunularia)crydwellt (Briza media), melynog y waun(Genista tinctoria) a’r tegeirian rhuddgoch(Dactylorhiza traunsteineri). Flwyddyn ynddiweddarach llwyddwyd i ychwanegu daugae arall atynt – Caeau’r Waren, 3.08 ha odir yn union ar ymyl gorllewinol y B4293rhwng Casgwent a Threfynwy, gyda’ugwrychoedd yn ychwanegu at y diddordebbywyd gwyllt gan eu bod yn gynefin i’rpathew.Yn y ddau achos yma cyfrannodd yGronfa oddeutu 90% o’r gost i helpu’rGymdeithas i ddiogelu’r safleoedd hyn.

    Ond roedd rhagor i ddod! Ar ddiwedd2000 daeth cyfle i’r Gymdeithas brynu tirfferm Springdale a New Court, ar lethrau’rbryniau i’r gorllewin o’r A449 gerCasgwent. Bron i 50 hectar o weirgloddiaua choetir – gwarchodfa fwyaf y Gymdeithashyd yma ac un sy’n cynnal yr ail ardalfwyaf o laswelltir niwtral (16.1 ha) heb eiwella yng Ngwent.

    Mae’r safleoedd hyn yn ne ddwyrainCymru yn swnio’n fendigedig ac os nad ywaelodau lleol Cymdeithas Edward Llwydwedi ymweld â’r gwarchodfeydd hyn etoefallai byddai’n werth cysylltu âChymdeithas Bywyd Gwyllt Gwent ermwyn trefnu taith yn ystod y blynyddoeddnesaf, yn enwedig gan ei bod yn fwriad gany Gymdeithas i annog mynediad ac iddefnyddio’r tiroedd hyn fel enghreifftiau oymarfer da ac i arddangos dulliau arbrofol

    o adfer cynefinoedd, yn enwedigglaswelltir.

    Mae coedwigoedd wedi bod yn destunsawl cais llwyddiannus am grantiau o’rGronfa: i lawr eto yn ne ddwyrain Cymru,derbyniodd Coed Cadw gymorth yn 2001 ibrynu a rheoli Coedwig Beaulieu, ynNyffryn yr afon Gwy ger Trefynwy.Arferai’r safle 17 ha yma fod yn goedwiggollddail hynafol ond plannwyd 75% ohoniâ choed coniffer ‘nôl yn y 1950’au. BwriadCoed Cadw yw troi y safle yn ôl yngoedwig gollddail, gan ychwanegu at werthcadwraethol y brithwaith o goedwigoeddhynafol sy’n rhan mor bwysig o’r tirlun ynnyffryn afon Gwy.Ymhlith y rhywogaethaupwysicaf sy’n gysylltiedig â’r coedwigoeddhyn y mae’r pathew a’r ystlum pedol lleiaf.

    Clirio coed llarwydd ac adfer coedwigcollddail yw bwriad Coed Cadw hefyd yngNghoed Nant Gwernol, rhyw 10 milltir i’rgogledd ddwyrain o Fachynlleth, ar derfynlein fach Talyllyn – safle a brynwydganddynt gyda grant y Gronfa Dreftadaethyn 1997.

    Ac mae gwaith clirio coed mawr ar ygweill yng ngogledd Sir Benfro ers iAwdurdod y Parc Cenedlaethol, yn 1997,dderbyn £80,000 i brynu coedwigoeddSychpant a Phenlan – 68 hectar o goedconiffer uwchben Cwm Gwaun. Trosgyfnod o 10 mlynedd y bwriad yw caelgwared â’r coed yma yn llwyr a throi’rcynefin yn ôl yn weundir, ac ar yr un pryd

    Gwarchodfa Springdale ger Casgwent a brynwyd ganGymdeithas Byd Natur Gwent yn 2000.

    Peth o ogoniant glaswelltir y ‘Gelli Newydd’ abrynwyd yn ddiweddar gan Gymdeithas Byd Natur Gwent

  • 16

    creu llwybrau cerdded newydd ar y safle afydd yn rhoi cyfle i bobl fwynhau’rgolygfeydd godidog o’r wlad o gwmpas ac iddilyn hynt a helynt y gwaith o adfer un ogynefinoedd prinnaf Ewrop.

    Mae gweundiroedd llawr gwlad wedicael cryn dipyn o sylw gan y GronfaDreftadaeth yn ystod y 5 mlyneddddiwethaf, gan fod hwn yn un o’rcynefinoedd a ystyrir yn flaenoriaeth yn yCynllun Gweithredu Bioamrywiaeth.Crewyd cynllun grant arbennig i annogprosiectau uchelgeisiol ar gyfer rheoli acadfer safleoedd gweundirol dros ardaloeddcyfan trwy Brydain. Llwyddodd Bro Gŵyra Sir Benfro i fanteisio ar y cyfle hwn.YmMro Gŵyr, er enghraifft, bwriedir gwellarheolaeth ac adfer 2,035 ha o weundir, ynbennaf o diroedd comin y penrhyn fel CefnBryn a Rhosili. Mae’r rhaglen waith 5mlynedd yn cynnwys elfennau fel gosodgridiau gwartheg, creu lleiniau atal tân,rheoli prysgwydd a rhedyn, dehongli agweithgareddau addysgol, arolwgarchaeolegol, mesurau tawelu traffig,gwelliannau i’r cydbwysedd stocio a chreullwybrau cylchol.

    Mae gwlyptir hefyd wedi bod yn destunceisiadau uchelgeisiol am arian o’r gronfa.Y prosiect mwyaf i dderbyn nawdd yGronfa hyd yma yw cynllun ‘Gwlyptiroeddi Gymru’, sy’n cwmpasu nifer o safleoeddgwahanol yng ngogledd Cymru ac sy’ntynnu ynghyd nifer o bartneriaid gwahanol,fel yr RSPB, Cyngor Cefn Gwlad Cymruac Asiantaeth yr Amgylchedd. Mae’r

    prosiect hwn eto yn cynnwys prynu tiroeddallweddol ac ymgymryd â gwaith rheolaether mwyn ymestyn a gwella cyflwr ycynefinoedd gwahanol. Mae gwelyau cyrs,glaswelltir gwlyb ac aderyn y bwn oll ynflaenoriaethau yn y Cynllun GweithreduBioamrywiaeth.Ar gors Malltraeth, bwriadyr RSPB yw ymestyn y gwelyau cyrs, yn ygobaith o ddenu aderyn y bwn i nythuynddynt. Ar y Ddyfi, mae gwaith rheolaethar dir sydd newydd ei brynu gerllawgwarchodfa Ynys Hir eisoes yn denu mwyo adar rhydiol, hwyaid a gwyddau.

    Ond nid prynu a rheoli darnau o gefngwlad Cymru yw’r unig brosiectau syddwedi elwa o arian y Gronfa Dreftadaeth.Mae parciau dinesig a gerddi ffurfiol eraillhefyd wedi derbyn arian sylweddol yngNghymru dros y 5 mlynedd ddiwethaf – acmae’r rhain yn aml yn werthfawr tu hwnt oran eu tirlun, eu bywyd gwyllt, eu hanes achefyd o ran y cyfleoedd y maen nhw’n eucynnig i bobl fwynhau a gwerthfawrogillecynnau gwyrdd ac awyr iach.YmMhontypŵl mae gwaith wedi cychwyn iadfer cymeriad a chynllun hanesyddol parcsy’n gysylltiedig â datblygiad y diwydianthaearn yn y dref. Bydd y gwaith yma yncynnwys ail greu y gerddi Eidalaidd, ailosod lawntiau, ail greu parc ceirw, gwellacyflwr y nentydd a’r camlesi, y pyllau dŵra’r coedwigoedd o fewn y parc.

    Prosiect diddorol a gwahanol iawn agyflwynwyd gan Fenter Coedwigaeth yn1996. Nod hwn oedd cofnodi a mapio’rholl safleoedd archaeolegol o fewn y125,000 hectar sy’n eiddo i FenterCoedwigaeth yng Nghymru, gyda’r bwriado’u gwarchod yn well, eu hadfer lle byddaihynny’n briodol ac i gynyddu mynediad irai ohonynt. Cwblhawyd y gwaith yn 2000.Cofnodwyd 7302 o safleoedd archaeolegol,gyda 654 o’r rhain o bwysigrwyddcenedlaethol.Y safle a ddaliai’r mwyaf oolion archaeolegol trwy Gymru oedd Coedy Parc, yn ardal Castell Penrhys ar FroGŵyr. Mae’r gwaith o baratoi cynlluniau argyfer y safleoedd hyn bellach ar y gweill.Eisoes dechreuwyd ar y gwaith o agor rhaisafleoedd newydd i’r cyhoedd.Cynlluniwyd paneli gwybodaeth a llwybrau

    Coetir yn nyffryn yr Afon Gwy a brynwyd gan GoedCadw gyda chymorth arian y Loteri.

  • 17

    cysylltiedig ar gyfer fforestydd y MynyddDu a Thalybont ym Mharc BannauBrycheiniog a Choedwig Hafren yngNghanolbarth Cymru.Yng nghoedwigNant Gwernol, y cyfeiriwyd ati’ngynharach, mae cynllun ar y cyd rhwngMenter Coedwigaeth, Coed Cadw aRheilffordd Talyllyn wedi arwain at greunifer o gylchdeithiau o orsaf Nant Gwernolfel y gall ymwelwyr weld olion gwaithchwarel Bryn Eglwys gan gynnwys y tŷcapstro (‘drumhouse’) ar inclein Alltwylltsydd wedi cael ei adfer yn ddiweddar.

    Mae prosiectau’n ymwneud âthreftadaeth ddiwydiannol Cymru ynboblogaidd. Er mai at olion gweithfeydd yDe y mae’r arian mawr wedi mynd hyd ynhyn, mae safleoedd llai ar hyd a lledCymru wedi bod ar eu hennill hefyd. Uno’r rhain yw safle parc Maes Glas ynNhreffynnon, Sir Flint, canolfanddiwydiannol bwysig yn y 18fed a’r 19fedganrif a ddibynnai ar ynni dŵr o’r ffynnonrymus leol i brosesu plwm, copor, haearn,papur a chotwm. Derbyniodd yrymddiriedolaeth sy’n gofalu am y safle dros

    £350,000 o’r Gronfa Dreftadaeth i adfertair melin ac i wella mynediad a dehongliar y safle.

    Cynyddu dealltwriaeth ymwelwyr addaw i Eryri yw nod canolfan ddehongliParc Cenedlaethol Eryri yn stablaugwesty’r Royal Oak ym Metws y Coed.Bwriedir adnewyddu’r ddarpariaeth ymagyda chymorth £43,000 o’r GronfaDreftadaeth. Cludiant fydd un o’r prifthemau yn y ganolfan ond bydd yr adeiladhefyd yn cynnwys theatr lle caiff rhaglenniynglyn â’r tirlun, hanes diwylliannol, bywydgwyllt a phynciau llosg cyfredol yn Eryri eudangos. Bydd cyfle hefyd i ymwelwyrfwynhau, trwy gyfrwng fideo, y profiad ohedfan dros y Parc Cenedlaethol.

    ‘Balchder Bro’ yw enw cynllun newydddiweddar sydd wedi derbyn grant o bron i£260,000 ac a fydd o ddiddordeb mae’nsiŵr i aelodau Cymdeithas Edward Llwyd.Nod y cynllun hwn a gyflwynwyd ar y cydrhwng Cyngor Cefn Gwlad Cymru a’rCyngor Gweithredu Gwirfoddol yngNghymru yw i gynorthwyo cymunedau iddiffinio ac i warchod elfennau pwysig o’utreftadaeth lleol – yr elfennau hynny sy’nnodweddu eu milltir sgwâr ac sy’ncyfrannu at eu hunaniaeth fel cymunedau.Gall y rhain fod yn elfennau naturiol,neu’n adeiladau, yn olion archaeolegolneu’n nodweddion tirlun mwy diweddar,yn arferion, elfennau ieithyddol neu’ndraddodiadau. Mae’r cynllun hwn ynrhedeg fel peilot mewn 5 ardal am ddwyflynedd a’r gobaith wedyn yw ei ymestyn iweddill Cymru

    Bydd grwpiau a mudiadau gwirfoddol,fel Cymdeithas Edward Llwyd, yn siŵr ogroesawu hefyd y cynllun newydd‘Gwobrau i Bawb’ (ar gyfer grantiau rhwng£500 a £5,000) a chynllun ‘EichTreftadaeth’ (ar gyfer grantiau rhwng£5,000 a £50,000) a lawnsiwyd yngNghymru y llynedd. Mae’r ddau gynllunyma yn cynnig pecynnau cais llawersymlach ac amserlen ymateb llawercyflymach na’r prif raglen grantiau. Maeyna waith eisoes wedi digwydd o dan faner‘Gwobrau i Bawb’: yng Ngresffordd ger

    Mae Cymdeithasau Byd Natur ar hyd a lled Cymruwedi elwa o gymorth y Gronfa i godi safon rheolaethymarferol a chyfleusterau ar eu gwarchodfeydd.Derbyniodd Cymdeithas Byd Natur Morgannwg, erenghraifft, dros £600,000 yn 1997 ar gyfer rhaglentair blynedd i wella rheolaeth ar 35 o’ugwarchodfeydd, i hybu gweithgaredd gwirfoddol ac igynyddu mwynhad y cyhoedd o’u safleoedd trwyddehongli

    Gwaith o glirio coed yn mynd rhagddo yn Sychpant aPhenlan, uwchben Cwm Gwaun, gyda’r bwriad oadfer gweundir.

  • 18

    Wrecsam, penderfynodd y CyngorCymuned lleol i baratoi map yn dangosansawdd y dreftadaeth ddiwydiannol,bensaernïol a naturiol yn yr ardal ac ymMracla, ger Pen y Bont ar Ogwr,defnyddiodd cymdeithas y trigolion euharian hwythau i gynnwys pobl ifanc yn ygwaith o gofnodi hanes lleol trwy gyfrwngfideo a ffotograffiaeth.

    Yn olaf, rhaid sôn am elfen arall aphwysig o waith y Gronfa, sef gwaithymchwil. Mae’r ymchwil yma yn allweddoler mwyn creu a ffurfio polisïau sy’nsynhwyrol, yn ymarferol ac yn gyfredol.Ynddiweddar, cwblhawyd gwaith ymchwilnewydd er mwyn helpu creu canllawiau argyfer ariannu prosiectau’n gysylltiedig âieithoedd Celtiadd a rhai lleiafrifol erailltrwy Brydain, ac ar ddiwedd 2001cyhoeddwyd darn pwysig o waith, ar y cydgyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol,Awdurdod Datblygu Cymru, BwrddCroeso Cymru, Asiantaeth AmgylcheddCymru, yr RSPB, Cyngor Cefn GwladCymru a CADW, a edrychai ar wertheconomaidd yr amgylchedd yng Nghymru.Dangosodd y gwaith newydd hwn bod169,000 o swyddi yng Nghymru yn

    dibynnu’n uniongyrchol neu’nanuniongyrchol ar yr amgylchedd – hyn yngyfystyr ag un o bob 6 o weithwyr Cymru.Dangosodd hefyd bod rheolaeth a defnyddyr amgylchedd yn werth oddeutu £9 biliwni Gymru bob blwyddyn ac yn cyfrannu tua£1.8 biliwn mewn cyflogau. Ffigyrausyfrdanol, ond nid annisgwyl efallai. Achwyrach y byddai rhai ohonoch, felaelodau brwd o Gymdeithas EdwardLlwyd, yn barod i ddadlau bod yramgylchedd arbennig sydd gennym ymayng Nghymru yn werth hyn a llawer iawnmwy – yn wir, yn werth mwy nag y gallarian fyth ei fesur!

    Y fran goesgoch, y sgwarnog a’r ehedydd yw rhai o’rrhywogaethau pwysicaf sy’n defnyddio tir Nant Bachyn Nhrefor, fferm arfordirol a brynwyd gan yrYmddiriedolaeth Genedlaethol gyda chymorth yGronfa nol yn 1997.Y bwriad yma yw cynnal patrwmamaethu sy’n cynnal y diddordeb presennol ond idalu sylw penodol hefyd i warchod ac adfernodweddion tirlun traddodiadol ,fel yr hen gloddiau ogwmpas y caeau, gwella cyfleoedd mynediad ac ailgreu ambell gynefin pwysig, fel gweundir arfordirol

    Celtica, Y Plas, Machynlleth, Powys01654 702702 www.celticawales.com

    yn agored yn ddyddiol am 10.00am

  • 19

    John Price (1803-1887)R. Elwyn Hughes

    Roedd y deunydd amCharles Darwin a GilbertWhite yn y rhifyn cyfredolo Y Naturiaethwr yn dwyn igof enw Cymro a oedd, ynei ddydd, â lle reitarwyddocaol yn ffurfafennaturiaetheg ei gyfnod.Ganed John Price (‘OldPrice’) ym Mhwll-y-crochan (ger ein BaeColwyn presennol) yn1803, yn fab i’r ParchedigJames Price/Pryce, offeiriadyn Eglwys Loegr. Cymraegoedd iaith gyntaf John Priceond yn y Clasuron ydisgleiriai yn Ysgol FoneddAmwythig lle bu’n ddisgyblam nifer o flynyddoedd.Hefyd yn ddisgybl yn Amwythig ar yr unpryd (ond yn iau na Price o chwe blynedd)oedd Charles Darwin. Daeth y ddau ynbennaf cyfeillion a pharhaodd ycyfeillgarwch hyd farw Darwin yn 1882.Bu peth gohebu rhwng y ddau acymddengys mai gan Price y cafodd Darwinei ychydig eiriau o Gymraeg; er enghraifft,deuir o hyd i’r gair ‘cwrw’ yn yr ohebiaethgynnar rhyngddo ef a Price.1

    Byddai Darwin yn aros gyda Price yngngogledd Cymru yn y 1820au; erbynhynny roedd Price wedi magu crynddiddordeb yn y byd naturiaethegol a diauiddo fod yn gryn ddylanwad ar y Darwinifanc.Yn niwedd 1828 cyflwynodd i’rAmgueddfa Brydeinig sbesimen o‘extremely rare bird, y creyr melyn’(squacco heron – Ardeola ralloides) asaethwyd gan gymydog iddo yng

    Ngorffennaf 1828.2 Yn eilyfr Llandudno and How toEnjoy it (1876) ceir ganddoddisgrifiad o Darwin acyntau’n hel sbesimenauyno, yn bennaf ar lan ymôr. Buont yn casglu,ymhlith pethau eraill,samplau o gorn carw’r môr(Crithmum maritimum)drwy, a defnyddio geiriauPrice ei hunan, ‘shooting itdown’ oddi ar yclogwynni.3 DalioddDarwin i ohebu’nachlysurol â Price hyd atRagfyr 1881 (bu Darwinfarw yn Ebrill 1882).Cyflwynodd Darwin gopïaucyfarch o’i lyfrau i Price; yn

    1925 cynhwysai catalog llyfrau Harry Jones(Caer) ddau o’r rhain – yr Origin ofSpecies (1873) ac Insectivorous Plants(1875), a’r ddau yn dwyn yr arysgrifiad‘From the author’; £2 yr un oedd y pris! 4

    Gan ‘ei gyfaill’ Price y cafodd RobertWilliams beth o’r deunydd naturiaethegolyn ei lyfr The history and antiquities of thetown of Aberconwy ac mae’n cydnabodhynny mewn troednodyn.5 Bu’n fwriadgan Price gyhoeddi gwaith swolegolsylweddol Birkenhead shore ac i’r perwylyna bu’n casglu enwau tanysgrifwyr;cafodd grant o £10 i hyrwyddo’r gwaithgan y Gymdeithasfa Brydeinig ond yn1847 – adeg y cyhoeddi arfaethedig –cafodd Price bwl o ddysentri a bu raididdo roi’r holl gynlluniau o’r neilltu.

    Yn 1863 a 1864, fodd bynnag,llwyddodd i gyhoeddi, yn ddeuddeg rhan

    Cafodd R. Elwyn Hughes ei eni a’i addysgu yn Rhaeadr Gwy, Maesyfed. Bu’n dal swyddi ymMhrifysgolion Caergrawnt a Chymru. Awdur cofiannau Cymraeg i Darwin (1981) a Wallace(1997) ac awdur llu o erthyglau gwyddonol a naturiaethegol yn y cylchgronau Cymraeg. Ef adraddododd ddarlith Cymdeithas Edward Llwyd yn 1993 ar Henry Rowlands.

    John Price

  • 20

    fisol, ei Old Price’s Remains – bellach ynllyfr prin iawn. Ei amcan, mae’n debyg,oedd llunio casgliad o ysgrifau abarddoniaeth wreiddiol yn nhraddodiadffraethebau deallusol y cyfnod. At eigilydd, tipyn o siprys oedd Old Price’sRemains, yn bur gyfyngedig ei apêl a hebfod yn rhyw ystyrlon iawn ond i’r rhai aoedd â chryn wybodaeth o’r Clasuron a’rGymraeg. Cynhwysai’r rhifyn cyntaf daircerdd – un Ffrangeg (‘Le Glanneur’), unGymraeg (‘a ysgrifenwyd ar Tachwedd 25,h.y. Dydd gŵyl ’Styphant’) ac un Saesneg‘Another Bridgewater Treatise’.Cyflwynwyd y gerdd Saesneg i ‘C.D.,F.E.G., W.D.F., the Writer’s Self … and DrGuthrie’ 6. Rwy’n tybio mai CharlesDarwin oedd ‘C.D.’ ac mae’n bur debygmai’r Parchedig W.D.Fox, cefnder iDarwin, oedd ‘W.D.F.’ Roedd Fox ynoffeiriad yng Nghaer ar y pryd – lle yr oeddPrice hefyd bellach yn byw.

    Ond yn gymysg â’r barddoni a’r ysgrifauuchel-ael, cynhwysai pob rhifyn o OldPrice’s Remains gyfran sylweddol oddeunydd naturiaethegol megis nodiadauar fotaneg ardal Llandudno, ymdriniaethfotanegol â blodau dwbl, disgrifiad o’rCydippidea a phynciau cyffelyb.Ynbresennol hefyd, a hyn yn fisol, oedd‘calendr natur’ yn null a thraddodiadGilbert White yn Lloegr a Linnaeus ynSweden. 7 Roedd calendr Price yn cofnodiei sylwadau yn ardal Caer ond cynhwysaihefyd gyfeiriadau at ddigwyddiadau yngngogledd Cymru, Glannau Dyfrdwy aPhenbedw. Dyma enghreifftiau o sylwadauPrice:

    Jan. 3.Serious floods, with heavy Northerlygales. Shotwich marsh, on the DeeEstuary, robbed of an immense quantityof sheep dung.

    Feb. 3.Coltsfoot budding. Honey suckle in leaf.Flock of 12 snipes at a pit near Hooton.

    March 9.Scotch fir cones on the ground allclosed, after being wide open (Good

    Hygrometer). Very cold. Snow onFlintshire hills.

    May 25.Found a dead viper. Droppings ofgrouse? Melampyrum,Vaccin. vit. Id. andmyrtillus, Lab. Alb. Drosera in leaf...

    June 1st.Dyers Broom and Common Honesty(Pwy a feddyliasai?) by LlysfaenStation...

    June 26.By train to Colwyn station... Pearlsandwort, Sea spurges... Tutsane.Teafight against time at Bron-y-Wendon.

    Cafwyd tinc cyfoes mewn nodyn ar gyferAwst 28:Agaricus procerus (edible). N.B. TheRoodeye fungus gathered by mistake byE.S., produced happy visions, likeopium symptoms, in a young personwho but tasted the ketchup.

    Bu ‘Old Price’ farw ar Hydref 14 1887 a’igladdu yng Nghaer – lle yr oedd ef aCharles Kingsley wedi cydweithredu isefydlu Cymdeithas Naturiaetheg rywbymtheng mlynedd ynghynt. Priodol fellyoedd fod y Gymdeithas honno wedi taluteyrnged neilltuol iddo adeg ei farwolaeth –‘yr hynaf, y doethaf a’r caredicaf o’nsylfaenwyr’ a dyfynnu o’r deyrnged.

    Cyfeiriadaeth

    1. Burkhardt, F. a Smith, S. (gol.) The correspondence of Charles Darwin(Caergrawnt, 1985 ac yn parhau) passim

    2. Robert Williams The history and antiquities of the town of Aberconwy(Dinbych, 1835) t. 151. Gweler hefyd H.E.Forrest The vertebratefauna of North Wales (Llundain, 1907) t. 257.

    3. John Price Llandudno and how to enjoy it (Llundain, c. 1875) t. 58

    4. T. Llechid Jones Studies in Welsh book-land. 1. Old Price Journal ofthe Welsh Bibliographical Society 3 (1925) 104 – 111.

    5. Williams (1835) t. 151. Ond anghywir yw honiad R.T.Jenkins yn yBywgraffiadur Cymreig mai Price oedd yn gyfrifol am y cyfan o’r‘bennod ar natur’ yn llyfr Williams. Roedd Williams ei hunan yn grynnaturiaethwr (â chryn wybodaeth o adareg ac y mae tystiolaeth mai eiwaith ef ei hunan oedd y rhan fwyaf o’r bennod. [Gweler hefydR.Elwyn Hughes ‘‘Corvinius’ a ‘Llywelyn Conwy’; juvenilia Cymraegdau naturiaethwr’ Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru 23 (1984)366 – 376]

    6. John Price Old Price’s remains (Llundain/Lerpwl/Caer, 1864) t. 20

    7. B.J. Stillingfleet Miscellaneous tracts relating to natural history(Llundain, 1762) tt. 259 – 286 [calendr Linnaeus]; 287 – 317;Walter Johnson Gilbert White’s journals (Llundain, 1931) passim.

  • 21

    Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yndathlu ei benblwydd yn hanner cant oedeleni. Mae’n destun balchder fod miloeddo bobl yn parhau i fwynhau eibrydferthwch yn flynyddol er gwaetha’rholl newidiadau chwyldroadol yng nghefngwlad ers dyddiad ei ddynodiad ar y 29aino Chwefror 1952.

    Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfroyn ymestyn dros 240 milltir sgwâr (620cilomedr sgwâr) sef tua traean o SirBenfro.Yr arfordir byd enwog 186 milltir ohyd yw prif nodwedd y Parc sydd hefyd yncynnwys aber y ddau Gleddau a bryniauPreseli.

    Ynghyd â dynodi’r ardal ei hunan,crëwyd Awdurdod Parc CenedlaetholArfordir Penfro. O dan y ddeddfwriaethwreiddiol (Deddf Parciau Cenedlaethol aMynediad i Gefn Gwlad 1949), rhoddwyddwy swyddogaeth sylfaenol i’r Awdurdodsef :

    • Cadw prydferthwch naturiol yr ardal• Hybu mwynhâd y cyhoedd ohonoMae geiriad gwreiddiol y cyfrifoldebaudeublyg hyn yn ddiddorol a dadlennol.Mae’r gair ‘naturiol’ yn gamarweiniol gannad yw rhan helaethaf y parc yn naturiol ogwbl. Cyfres o dirweddau a chynefinoeddlled-naturiol sydd gennym heddiw, ynmeddu ar nodweddion y byd naturiol, ondwedi eu haddasu dros filawdau gan yddynoliaeth – amaethyddiaeth yn bennaf.

    Dros y degawdau diwethafsylweddolwyd yn gynyddol fod y cysylltiadrhwng dyn a’i amgylchedd yn allweddol.Er mwyn gwarchod yr amgylchedd rhaidgwarchod y systemau a’i creodd –gwarchod y gwarchodwyr.

    Adlewyrchwyd y newid pwyslais hwn ynadolygiad y llywodraeth o swyddogaethau’r

    parciau yn y nawdegau. Mae DeddfAmgylchedd 1995 yn rhoi i Awdurdod yParc y cyfrifoldebau canlynnol :

    • Gwarchod prydferthwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal

    • Hybu cyfleodd i’r cyhoedd i ddeall a mwynhau rhagoriaethau yr ardal

    Daeth cynaladwyedd yn air cyfarwydd i niyn y blynyddoedd diweddar. Sylweddolwydfod ‘Cadw i’r oesoedd a ddêl y glendid afu’ yn allweddol i ddyfodol y blaned. Maedegawd ers cynhadledd Rio lle’rymdynghedodd gwledydd ledled y byd iwarchod amrywiaeth biolegol neu‘fioamrywiaeth’ y blaned. Ar lefelaurhyngwladol a lleol felly daethgwarchodaeth ymarferol yn gynyddolbwysig.

    Gyda hyn yn gefndir, sylweddoloddAwdurdod y Parc fod angen edrych o’rnewydd ar reolaeth cynefinoedd llednaturiol gan adeiladu ar brofiad a gwaithda cyrff eraill fel yr YmddiriedolaethGenedlaethol a Chyngor Cefn Gwlad

    Gwarchod y GodiroeddGeraint Jones

    Swyddog Cyswllt AmaethyddolAwdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

    Môr o redyn i’r gogledd o Ben Strwmbwl. Cleisir yrhedyn yn flynyddol er mwyn ei leihau gan ganiatáu irywogaethau eraill ail afael a gwneud y safle’n addasi’w bori.

  • 22

    Cymru. Penderfynwyd canolbwyntio iddechrau ar gopaon clogwyni yr arfordir –‘godiroedd’ yw’r enw a roddir ar y tiroeddyma yn lleol – y go-dir neu’r tir ar yr ymyl.Mae Godir Rhug, Godir Goch a GodirTudur i gyd yn enwau sy’n adlewyrchuagweddau o’r tirwedd neu hanes yr ardal.

    Gydag arian o gronfa amaethyddol yrUndeb Ewropeaidd sefydlwyd cynllunGwarchod y Godiroedd. Prosiect tairblynedd gyda’r nod o:

    • hybu dulliau cynaladwy ac integredig o reoli’r tir ar yr arfordir

    • helpu i gyfoethogi cynefinoedd,rhywogaethau a’r tirwedd hanesyddol

    • cynnig cyfle i ffermwyr a thifeddianwyr i barhau i ennill bywoliaeth

    Mae’r elfen o reolaeth integredig ynallweddol. Dros yr hanner canrif diwethafcanolbwyntiwyd ar agweddau unigol.Cymhellwyd y ffermwr i ddwysáu eiddulliau o amaethu lle’r oedd moddgwneud hynny gan hepgor y tir oedd ynrhy anodd i’w drin trwy ddulliau cyfoes.Bu Awdurdod y Parc ar y llaw arall yncanolbwyntio’n bennaf ar yr elfen o

    fwynhad y cyhoedd. Crëwyd LlwybrArfordir Sir Benfro a gerddir erbyn hyngan filoedd yn flynyddol. Yn sgîl hyn maecopaon y clogwyni wedi newid llawer iawn.Mewn rhai mannau, ffermiwyd y caeau ynddwys hyd at ymyl y clogwyn. Mewn

    mannau eraill mae’r dulliau traddodiadol oreoli – fel pori a llosgi llystyfiant wedidarfod a’r clogwyni wedi cael euhesgeuluso. Digwyddodd hyn yn rhannolam fod perchnogion tir yn amharod i droianifeiliaid pori i dir a groesir gan Lwybr yrArfordir. Achosodd hyn i redyn aphrysgwydd i ledaenu ac arwain iddirywiad mewn planhigion ac anifeiliaidpwysig.

    Mae lle anifeiliaid pori yn sylfaenol iddyfodol cynefinoedd lled-naturiol. Diffyganifeiliaid fel gwartheg, merlod a defaid fugynt yn pori’r godiroedd sydd yn bennafgyfrifol am y dirywiad a welwyd ar yrarfordir dros y degawdau diwethaf. Fellydros y tair blynedd diwethaf mae’r prosiectwedi buddsoddi mewn :

    Gwariant CyfalafGwaith ffensio, codi gatiau a mathau eraillo waith megis darparu cafnau dŵr sy’nangenrheidiol i baratoi safle ar gyfer pori.Gwnaed hyn drwy gymorth grant.

    Help Ymarferol gan Staff Awdurdod y ParcBu staff Awdurdod y Parc yn gweithio ynymarferol i ail gyflwyno rheolaethdraddodiadol i’r godiroedd trwy dorri neulosgi’r prysgwydd er mwyn galluogianifeiliaid i fentro i’r tiroedd hyn unwaitheto i gyfoethogi’r cynefin. Bu’r agwedd ynahefyd yn fodd i integreiddio rheolaeth

    Llystyfiant lled-naturiol gan gynnwys Clustog Fair ynail afael ar dir wedi ei amaethu’n ddwys drosddegawdau ar benrhyn ger Marloes

    Datblygu technegau arloesol o waredu tyfiant – yrHoover porfa! – Skrinkle ger Maenorbyr

  • 23

    gwarchodaeth a hamdden. Sicrhawyd bodsafleoedd yn addas ar gyfer eu pori gananifeiliaid a’u mwynhau gan y cyhoedd.Cafwyd rhai enghreifftiau lle bu ailgyflwyno anifeiliaid pori hefyd yn fodd owella’r ddarpariaeth ar gyfer cerddwyr.

    Cytundebau RheolaethCynigiwyd cytundebau tymor byr iberchnogion tir i helpu gyda’r gwaith oreoli’r arfordir – naill ai ar y godiroedd euhunain neu dir amaethyddol dwys gerllaw.

    HyfforddiantGwelwyd yn fuan fod hyfforddiant,addysgu a chefnogaeth yn allweddol ilwyddiant y cynllun. Ar y naill law, doesgan nifer o’r genhedlaeth bresennol offermwyr yr hunan hyder i reoli’r tiroeddlled naturiol yn eu perchnogaeth gan nadydyw wedi bod o fewn eu profiad dros ydegawdau diweddar, ac ar y llaw arall gwêlnifer o’r cyhoedd yr anifeiliaid fferm felbygythiad i’w mwynhad o gefn gwlad achafwyd ymateb digon chwyrn gan ambellun i’r gwaith a wnaed fel rhan o gynllunGwarchod y Godiroedd.

    Cynllun adfer yw Gwarchod yGodiroedd, y cam cyntaf yn y broses o ailgyflwyno rheolaeth integredig achynaladwy i arfordir Penfro.Yr allwedd ilwyddiant tymor hir yw sicrhau fodrheolaeth y tiroedd hyn yn dod yn rhanunwaith eto o waith beunyddiol y ffermwyrsydd yn berchen y tiroedd. Trwy uno tairelfen sylfaenol gweithredu cynaladwy, nifydd yn rhaid dibynnu ar gynlluniaucyhoeddus yn unig i sicrhau ffyniant.Yrelfen economaidd fydd yn sicrhau incwm iberchennog y tir ac yn gymhelliad i barhaurheolaeth gytbwys. Bydd hyn yn sicrhaugwarchod yr elfen amgylcheddol a’r ddwyelfen hynny yn eu tro yn hybu’r agweddgymdeithasol.

    Mae pethau’n argoeli’n dda ar gyfer ydyfodol. Dros y cyfnod cychwynol hwndaeth dros hanner cant o safleoedd yn ôl ireolaeth gynaladwy. Mae’r gymunedamaethyddol wedi ymateb yn dda i’rcynllun ac mae mwy eisiau ymuno nagsydd o adnoddau i’w helpu. Mae nifer o

    ffermwyr wedi cael blas ar y gwaith trwy’rcynllun hwn ac wedi mynd ymlaen iymuno â chynlluniau amaeth/amgylcheddolcenedlaethol megis Tir Gofal.

    Ar hyn o bryd mae Awdurdod y Parc yngweithio gyda phartneriaid eraill i sicrhauarian o gronfa Amcan 1 y GynunedEwropeaidd er mwyn ehangu’r gwaith igynefinoedd lled-naturiol ledled sir Benfro.

    Y frân goesgoch. Aderyn sydd wedi dioddefoherwydd diffyg rheolaeth ar yr arfordir. Mae eidyfodol yn sicrach o ganlyniad i wella’i chynefin

    Rheoli tyfiant er mwyn ail gyflwyno anifeiliaid poriger Abergwaun

  • 24

    Ar warchodfa Hafod Garegog, i’r de oFeddgelert, sy’n glytwaith o goedlannau arhostir gwlyb, pery’r gwaith o geisioymestyn cynefin y glöyn byw arbennig, yglesyn serennog, Plebeius argus. Mae’r is-rywogaeth a geir yma yn dibynnu arbonciau grugog sych, di-gysgod, a throsfisoedd y gaeaf, gwasgarwyd hadau grug,Calluna vulgaris (a gasglwyd ar y safle) arlecynnau addas i gynyddu’r cynefin ar eucyfer. Os yn llwyddiannus, fe ddylaigynyddu poblogaeth y glöyn prin yma asicrhau fod y niferoedd yn cael eu cynnalyn y dyfodol. Mae’r berthynas rhwng yglesyn yma a’r morgrugyn Lasius niger ynun rhyfeddol: yn dâl am loches yn y nyth,mae’r lindysyn yn gwobrwyo’r morgrug âhylif melys. Cludir y lindysyn yn ei dro atei fwyd, sef y grug.

    Ar ôl cyfnod hir heb bori, i ganiatauatgynhyrchiad naturiol o goed arwarchodfa Coed Cymerau, Ffestiniog,ailgyflwynwyd ychydig o ddefaid. Maeangen pori rhannau o’r safle bellach ganfod tyfiant trwchus o fieri a glaswellt yndebyg o dagu’r cyfoeth sylweddol ofwsogau a geir yno.

    Mae’r gwaith o fôn-dorri coed argylchdro yng Nghwarchodfa CoedyddAber, ger Bangor, wedi cyrraedd eiwythfed flwyddyn. Wrth fynd am dro iweld y Rhaeadr Fawr, cewch weld y gwaitho gynhyrchu golosg yn mynd yn ei flaendrwy’r flwyddyn, y torri, yr hollti, y llosgimewn odynnau mawr haearn myglyd, acmae’r ail dwf yn cynnig cyfleon newydd ibob math o fywyd gwyllt.

    Bu’r wardeiniaid gwirfoddol ar ywarchodfa yn brysur iawn dros y pedairblynedd diwethaf yn mapio tiriogaethauteuluoedd o foch daear yn y dyffryn. Iwneud hyn maent yn taenu pelenni bachplastig o liw arbennig, wedi’u cymysgu efosirop a chnau mwnci, o gwmpas y wâl. Arôl i’r anifeiliaid gael eu gwala ar ydanteithion annisgwyl, mae’r wardeiniaidyn crwydro o gwmpas eu cynefin ynchwilio a mapio eu baw. Mae’r baw yncynnwys y pelenni lliw yn perthyn i’r wâldan sylw – ac wele, map o diriogaeth yteulu o foch daear!

    Ers yr hydref mae gweithwyr gwarchodfa3,238 hectar Y Berwyn wedi bod ynbrysur yn torri grug er budd y grugieir, acyn manteisio ar yr ychydig ddyddiau braf iosod llwybr troed ar draws darnau mawnogy gorgors. Edrychwn ymlaen at y cyflecyntaf ers gwanwyn 2000 i ganfod hynt a

    Gwibdaith y GwarchodfeyddPaul Williams

    Warden de Eryri, Cyngor Cefn Gwlad Cymru

    Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn rheoli neu gyd-reoli dros 60 o Warchodfeydd NaturCenedlaethol. Dyma gipolwg o’r hyn sydd wedi digwydd ar rai ohonynt yn ystod y misoedddiwethaf.

    Cwm Cau, Cadair Idris

  • 25

    helynt poblogaeth y grugieir duon.Methwyd â chyfri’r adar yma – fel arsafleoedd eraill – y llynedd oherwyddclwy’r traed a’r genau. Rydym yn gobeithioam newyddion da eleni, a chynnydd ynnifer y ceiliogod sy’n arddangos. Edrychirymlaen at weld yr ymfudwyr eraill yn ôl ynyr ucheldir, fel mwyalchen y mynydd athinwen y garn.

    Ar Gadair Idris, llwyddwyd o’r diweddi gludo dros filltir o hen bolion a ffensusoddi ar Fynydd Moel a Mynydd Pencoedar derfynnau’r warchodfa, trwy ddefnyddiohofrennydd. Mae gwaith atgyweirio yPartneriaeth Llwybrau Ucheldir yn myndrhagddo, a bydd y tîm yn symud yn uwchar y mynydd gyda gwelliant yn y tywyddeto eleni. Cynhaliwyd arolwg y warchodfa,gan gadarnhau presenoldeb yn y coed ac ary mynydd, gyda’r amrywiaeth fel y gelliddisgwyl yn lleihau gydag uchder. Mae’rfrwydr yn erbyn Rhododendron ponticum ynparhau gyda chontract i ddifa’r llwyn arglogwyni a cheunant serth Nant Cadairtrwy weithio ar raffau.

    Archwiliwyd rhan o warchodfa yRhinog a chadarnhau bod poblogaeth ycaineirian fechan Listera cordata, yn fwyniferus nag y tybiwyd a’i bod i’w chaeldros ardal ehangach na’r hyn a nodwyd yny gorffennol. Cynhelir arolygon Prydeinig orugieir duon a’r hebog tramor eleni a byddarolygon blynyddol y Rhinog yn cyfrannuatynt. Cwblhawyd nifer o brosiectau ar y

    terfynnau, a bydd atgyweirio pellach ar ywaliau cerrig sych eleni ynghyd â gosodgatiau, camfeydd ac arwyddion newydd.Manteisiwyd ar y tywydd braf ddechrau’rgaeaf i geisio cael rheolaeth ar y prysgwyddtrwchus ar Gors Crymlyn ger Abertawe,ac i ddifa rhafnwydd y môr ym MerthyrMawr, ger Penybont. Rhaid oedd ailddechrau pori ar dwyni Oxwich wedi codicyfyngiadau’r clwyf traed a’r genau agwella mynediad i’r safle. Atgyweiriwydllwybrau trwy’r coed a thros y gwlyptir ganddefnyddio plastig wedi’i ail-gylchu ynhytrach na choed meddal wedi ei drin, ganarwain at orfod datblygu a dysgu dulliaunewydd o greu llwybrau. Gwelwyd seren ycreigiau, Gagea bohemica yn blodeuo etoeleni ar warchodfa Creigiau Stanner, ynnwyrain Maesyfed. Hyd y gwyddom, dymaunig safle’r blodyn yma ar ynys Prydain, acmae nifer yn tyfu ar hyd y safle, ondcymharol ychydig sy’n blodeuo, a hynnyrhwng Ionawr a Mawrth. Mae ymwelwyryn dod o bell ac agos i’w gweld danarweiniad warden y safle, AndrewFerguson. Ffoniwch o (01874 730751) ynIonawr os hoffech ymweld â’r safle, ac fegysylltith â chi pan mae’r seren wediblodeuo i drefnu ymweliad i grwpiau bach.Gall roi hanes manwl y safle a’r planhigyn,a disgrifiad o’r gwaith rheoli prysgwydd amonitro, sydd wedi gweld cynnyddboddhaol yn y niferoedd a’r lledaeniad.

    Nant y Gadair, Cadair Idris

    Glesyn Serennog

  • 26

    Mae’r Gymdeithas Gwarchod Adar – yrRSPB hefyd yn rheoli nifer helaeth osafleoedd a llawer o waith wedi digwydddros y gaeaf wrth baratoi am dymor nythuarall eleni.

    Addaswyd offer rheoli lefel y dŵr arwarchodfa Gwlyptiroedd y Fali ar YnysMôn yn barod at y gwanwyn a bydd arolwga gwaith rheoli ar gyfer llygoden pengron ydŵr yn ystod y flwyddyn. Gwnaed gwaithar y terfynnau yma ac ar Ynys Lawd, llegwelwyd dychwelyd y brain coesgoch o’usafleoedd gaeafu. Ar Gors Ddyga,

    Malltraeth, porwyd y caeau cornchwiglodmewn da bryd i groesawu nifer dda o’radar yno eto, a chynhaliwyd y rhwydi sy’namddiffyn y cyrs a blannwyd yno.

    Ar warchodfa Llyn Llanwddyn, butorri a llosgi llystyfiant ar y rhostir a bucasglu hadau grug i’w sychu a’u mygu argyfer hadu ac adfer ardaloedd newydd orug. Gwelwyd grifft llyffant ganolChwefror, ac uchafbwyntiau o ran adaroedd gweld pedwar bras yr eira a thros fil oddrudwyon.

    Cynhaliwyd llawer o waith ar ffosydd acoffer rheoli dŵr yn Ynys Hir i greu caeaugwlyb ychwanegol. Rheolwyd tyfiantrhododendron yn y goedwig a helyg ar ygors orllewinol.

    Llwyddwyd i ddifa llawer o’rrhododendron yng Nghoed Garth Gella’r Gribin yn Nyffryn y Fawddach hefyd.Bydd y ganolfan ymwelwyr ym MhwllPenmaen ger Dolgellau ar agor eto elenigyda rhaglen o weithgareddau.

    Bu’r gaeaf yn un prysur hefyd iYmddiriedolaeth Natur Gogledd Cymrugyda Gwaith Powdwr, eu gwarchodfa arsafle hen ffatri ffrwydron ymMhenrhyndeudraeth yn cael llawer o’rsylw. Gobeithir adfer rhostir grug ar lawero’r safle 28 hectar a fu’n gartref i 120 oadeiladau. Casglwyd hadau grug yno a’utyfu yn y Coleg ym Mangor cyn euplannu’n ôl ar ardaloedd diwydiannol ywarchodfa. Amgaewyd nifer o leiniaunewydd er mwyn amddiffyn y planhigionifanc rhag defaid. Llwyddwyd i barhaugyda’r gwaith o reoli prysgwydd arrostiroedd y safle cyn dyfodiad y troellwrmawr i fagu eto. Bu grwpiau ysgol ar ysafle i weld y gwaith a chwilio am bryfetachyn un o’r pyllau a gobeithir adeiladullwyfan pwrpasol eleni. Bydd taflenni ynymddangos yn fuan, a gosodir mwy obaneli gwybodaeth yno hefyd. Draw yn ydwyrain, ar warchodfa Coed Pwll Mawrger Prestatyn, bu llawer o waith rheolihelyg er mwyn adfer y gwlyptir. Mae llawermwy o ddŵr agored ar y safle bellach a’rgorsen gyffredin yn twchu yno. Ar hyn obryd, mae contractwyr yn gosod llwybrstyllod i greu taith gylchol i’r cyhoedd ar ysafle, a chyda nawdd grant coedwigoedd,bu’r ymddiriedolaeth wrthi’n bôn-dociocoed, gan greu llennyrch agored eto argyfer planhigion, adar a phryfetach ywarchodfa. Cynhyrchwyd taflen newydd ynddiweddar a gellir cael copi neu unrhywwybodaeth trwy ffonio’r pencadlys ymMangor, 01248 351541.

    Helygen Leiaf Salix herbaceaPlanhigyn prin iawn yng Nghymru ger y copa, Pen yGadair

  • 27

    Byd Natur a’r BarddMae byd natur wedi ysgogi’n beirdd, ac wedi swyno Lun Roberts, Penmaenmawr a anfonodd y

    detholiad hwn i’r Naturiaethwr.

    1. Eisteddant yn rhesAr wifren y telegraff:Mae rhywbeth yn galw – Crynant, edrychant yn graff.

    2. Daeth cysgod sydyn dros y waun,A chri a chyffro lle’r oedd cerdd,A chwiban gwyllt aderyn duA thrydar ofnus llinos werdd,Ac uwch fy mhen ddwy adain hirYn hongian yn yr awyr glir.

    3. Hyfryted yw gwrandoAr doriad y wawrAr gân y pigfelynO’r hen dderwen fawr.

    Efe ydyw breninCantorion y wig,Ac mae’r aur yn ei nodynMor felyn â’i big.

    4. Mi welais innau un prynhawnDy hela yn y dyffryn bras,Gan ŵyr a merched, cŵn a meirchY lledach dlawd a’r uchel dras;Gwibiaist o’m gŵydd fel mellten gochA’th dafod crasboeth ar dy foch.

    5. Dan goed y goriwaeredYn nwfn ystlysau’r glogAr ddôl a chlawdd a llechwedd,Ond llechwedd lom yr og,Y tyf y blodau gleisionA dyf yn sŵn y gog.

    6. Fe’th welais di ar lawnt y plas,A gwyntoedd Mawrth yn oer eu min;Ar feysydd llwyd a gweirglodd las,Ac awel Ebrill fel y gwin;Ni welwyd un erioed mor llonA’th fantell werdd a’th euraid rudd,Yn dawnsio yn y gwynt a’r glawI bibau pêr rhyw gerddor cudd.

    7.“ Oll yn eu gynau gwynionAc ar eu newydd weddYn debyg idd eu HarglwyddYn dod i’r lan o’r bedd.”

    8. Rhyfeddais, sefais yn syn – i’w wylioRhwng yr helyg melyn,

    Yna’r lliw yn croesi’r llyn, – Oedais, ond ni ddaeth wedyn.

    9. I degwch ein cymdogaeth – dau nodynYdoedd ei cherddoriaeth,

    Ond yn ei hôl mynd a wnaethAderyn codi hiraeth.

    10. Tlws eu tw’, liaws tawel, – gemau tegGwmwd haul ac awel,

    Crog glychau’r creigle uchel,Fflur y main, ffiolau’r mêl.

    11. Hen wyliwr godre’r geulan, – a’i olwgYn ddyrchiolaeth syfrdan:

    Ei war crwm fel tro crymanA’i bwysau ar goesau gwan.

    12. Morwyn brydferth y perthi – a’igwenwisg

    Fel gŵn ddydd priodi;Å’n filain os gafaeliA chwarae ffŵl â’i chorff hi.

    13. Ym mis Ionawr mae’n gawres – ynherio’r

    Hen oerwynt â rhodres;Yn y gwanwyn mae’n gynnesA gwên mam yn geni mês.

    14. Bu’n hir â’i ben i waered – yn gwisgo’iEsgyll megis blanced;

    Ac o’i bendro heno hedI wyll fel un â cholled.

    Fedrwch chi adnabod y GWRTHRYCH a’r BARDD ym mhob un? Anfonwch eich atebion at yGolygydd (gweler y cyfeiriad ar y dudalen flaen) a bydd gwobr neu ddwy ar gael i’r goreuon.Dyddiad cau – Hydref 1af, 2002.

  • Siwr gen i fod gan bob plentyn freuddwyd.Isio mynd yn ffarmwr jest fel dad, awyddmynd i’r gofod, neu chwarae rygbi i’r timcenedlaethol efallai. Byth ers gwylio’rteledu yn hogyn bach a gweld rhywun arynys bellennig yn gweithio hefo’r albatros,doedd dim ond un peth amdani. Cael cyflei wneud gwyddoniaeth ar ynys brydferthhefo aderyn mor hudolus â’r albatros, acyn bwysicach, cael y cyfle i gyfrannu i’wgadwraeth.

    Braidd yn annisgwyl, fe ddaeth fynghyfle ym 1999 ym mlwyddyn ola’r colegpan gefais gynnig swydd fel ymchwilyddswolegol gydag Arolygaeth AntarcticaPrydeinig (British Antarctic Survey neuBAS) i weithio ar yr albatros. Roeddderbyn y swydd yn golygu byw ar Ynys yrAdar, De Georgia yng nghanol y DeIwerydd am gyfnod o ddwy flynedd ahanner, a dyma lle rwyf yn treulio fy amsergyda chriw o naw o rai eraill yn yr haf, adim ond dau arall yn y gaeaf.Yn ynysfechan o fil acar ac yn gartref i dros200,000 o forloi, 150,000 o bengwins, a

    pheth wmbreth o dros dau filiwn o adar ymôr eraill, mae hi’n noddfa i fywyd gwylltymysg y mwyaf syfrdanol yn y byd.

    Gair a’i darddiad o “alcatraz” ydialbatros – hen air a ddefnyddiwyd ganforwyr o Bortiwgal a ddaeth ar draws yradar rhyfeddol a chyfrinachol yma dros500 mlynedd yn ôl ar eu teithiau drosforoedd y byd. Rhan o fy ngwaith fyddaiceisio datod rhywfaint ar rai o’rcyfrinachau yma.

    Mae 24 rhywogaeth o albatros yn y byd,gyda’r niferoedd mwyaf yn y Galapagos,Hawaii, ac yn enwedig ar ynysoedd SelandNewydd a’r Is-Antarctig. Mae pedwarrhywogaeth ar Ynys yr Adar – pob un ynrhan annatod a phwysig o ecosystemau DeIwerydd a Chefnfor y De. Efallai y mwyafcofiadwy o’r rhain i lawer yw’r AlbatrosCrwydrol neu’r Wandering Albatros,

    Diomedea exulans gyda lled ei adennyddhyd at 12 troedfedd!

    Gan fod yr adar yma yn treulio dros90% o’u bywyd ar y môr, mae hi wedi bodyn anodd iawn hyd yn ddiweddar i ddilyn

    28

    Dyfodol i’r Albatros?Dafydd Roberts

    Tir Helyg, Bont Garreg, Llanrhaeadr, Dinbych, Sir Ddinbych, LL16 4PE

    Bachyn pysgota trwy droed yr Albatros

    Albatros ar y nyth

  • 29

    eu bywydau preifat.Yr unig adeg maenhw’n dod i’r tir ydi er mwyn cael magucyw, a hynny dim ond unwaith bob dwyflynedd. Ond gyda’r chwyldro technolegoldiweddar, gellir glynu ar gefnau’r anifeiliaiddrosglwyddyddion ysgafn (dim ond 20g)sydd wedi eu datblygu ac sy’n “siarad” â’rlloerenau. Mae’r trosglwyddwyr bachgwyrthiol yma, ymysg eraill, wedi eingalluogi i ddarganfod llawer mwy am rin yralbatros.

    Mae’r albatros wedi dioddef pob math ogam yn hanesyddol. Arferai llongwyr eusaethu am “sbort”, byddai troseddwyr addedfrydwyd i Awstralia yn eu bachugydag abwyd a gwialen er mwyn lleddfurhywfaint ar eu diflastod yn ystod yfordaith faith i bendraw’r byd, ac hefyd i

    wneud pethau megis defnyddio’r webin felcwd tobacco, ac asgwrn yr adain fel clampo getyn smocio. Os yn lwcus, mi fyddai’rmorwyr yn dal benyw ar fin dodwy, acyna’n mwynhau clamp o omled (mae’r ŵyyn pwyso dros hanner kilogram) –danteithyn heb ei ail ar ôl tri mis ar y môr.Yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif bu i’rfasnach blu bron a difa am byth raipoblogaethau o’r albatros yn y Môr Tawel.Wrth gwrs mae cathod a llygod mawrestron, yn ogystal â datblygiadau ar lawer oynysoedd, yn fygythiad sylweddol arall hydheddiw. Ond yn ystod yr ugain mlynedddiwethaf mae bygythiad tipyn mwy sinistr adifrifol wedi codi ei ben.

    Yn ystod y 1960’au arferai dros 1600par o’r Albatros Crwydrol nythu’nflynyddol ar Ynys Yr Adar, ond erbynheddiw dim ond 1000 par sy’n dychwelyd inythu (10% o boblogaeth y byd), a’r niferhwnnw yn lleihau bob blwyddyn – patrwmsy’n gyffredin ar hyd holl ynysoedd yr Is-Antarctig. Mae modrwyo wedi dangos ynddi-os mai’r prif reswm am hyn yw bod yradar yn cael eu boddi yn eu miloedd arfachau sy’n cael ei gosod gan longau sy’npysgota am bob math o bysgod fel tuna,dantbysgodyn Patagonia (PatagonianToothfish, Dissostichus eleginoides) a’rcleddyfbysgodyn (swordfish).Amcangyfrifwyd ym 1998 bod dros 60,000o’r albatros yn cael eu lladd yn flynyddolyn yr Is-Antarctig yn unig. Gall un cwchosod dros filiwn o fachau ar un daithbysgota, pob un o’r rhain gydag abwydarno. Gwel albatros yr abwyd a phlymia’nfarus ar ei ôl.Yn amlach na pheidio mae’ncael ei gipio i’r dyfnderoedd gan y bachynac yn boddi mewn modd mor ddisymwth athrist.

    Ymysg llawer o bysgodfeydd swyddogola thrwyddedig y byd, mae mesurau wedi eudatblygu yn ddiweddar iawn yn sgilymdrechion gan fudiadau cadwraethol felBird Life International i geisio lleihaurhywfaint ar y gyflafan erchyll acannesgusodol yma. Erbyn hyn, rhaid ilawer o’r cychod fabwysiadu trwy gyfraith ydulliau newydd yma sy’n lleihau ynsylweddol y nifer o adar sy’n cael eu lladd.Ymysg y rhain yw’r rheol o osod y bachaugyda’r nos pan fydd yr albatros yn fwytebygol o orffwys, ac o waelod y cwch feleu bod yn plymio ar amrantiad, yn hytrachna’u gosod dros ochr y cwch pan ybyddent yn arnofio ar yr wyneb am raimunudau ac yn denu sylw’r adar eiddgar.Hefyd, mae abwyd sydd wedi ei feirioli ynhytrach nag wedi ei rewi yn plymio o olwgyr adar yn gynt.

    O’r diwedd, mae defnyddio cyfuniad o’rmesurau yma i’w weld yn gweithio, gyda’rniferoedd o adar sy’n cael eu bachu ar ycychod trwyddedig yma wedi lleihau ynaruthrol yn yr ychydig flynyddoedddiwethaf. Ond mae un broblem arall sydd

    Gydag offer electronig gellir dilyn hynt a helynt yrAlbatros am filoedd o gilomedrau.

  • 30

    efallai yn dipyn anoddach ei datrys. Ganfod y busnes pysgota yn creu arian mawr(e.e. gall un tuna fod yn werth £100,000 arfarchnadoedd gwamal Siapan!), mae hynyn temptio cychod anrhwyddedig,anghyfreithlon a di-reol i fynd ati i geisiogwneud eu ffortiwn. Dydi’r cychod yma ynpoeni dim am ddinistrio stociau pysgod (abywoliaeth rheini sy’n pysgota mewn moddcyfrifol), ac yn sicr yn poeni dim am dranc

    yr albatros. A gan fod parthau anferthol agweigion y De Iwerydd a Chefnfor y Demor anghysbell ac mor anodd eu plismona,mae’r môrladron cyfoes yma yn fwy napharod i gymryd eu siawns. Mae rhai ynamcangyfrif fod gan rai pysgodfeydd ddeggwaith yn fwy o gychod angyfreithlon nachychod cyfreithlon a thrwyddedig.

    Felly sut mae cychwyn mynd ati iddatrys y broblem? Gyda chyllid gan yllongau trwyddedig a’r diwydianttwristiaeth ffyniannus, mae LlywodraethDe Georgia ac Ynysoedd y De Sandwichyn ddiweddar wedi medru pwrcasu daugwch patrol i geisio cadw golwg manwl ar ydyfroedd o amgylch De Georgia. Maenthefyd yn gallu cyd-weithio gyda’r AwyrluPrydeinig ar Ynysoedd y Falklands i gadwgolwg am gychod amheus o’r awyr. Camaupositif iawn, ond yn aml mae albatrosiaidDe Georgia yn mynd dipyn ymhellach na’rdyfroedd o amgylch yr ynys...

    Rhan bwysig o’n gwaith yw ceisio mesurfaint o bysgod, krill a sgwid (a pha

    rywogaethau ohonynt) mae’r adar a’rmorloi eu hangen i oroesi ac i fagu’nllwyddiannus, ac yna amcangyfrif faint sy’nweddill ar gyfer anghenion dyn. Yn ymodd yma y gellir cael man cychwyn ifynd ati i geisio gosod rhyw fath o gwotâusynhwyrol a chynaladwy ar y pysgodfeyddtrwyddedig sy’n gorgyffwrdd rhai o’rardaloedd sy’n cael eu defnyddio gangreaduriaid De Georgia. Dengys Ffig. 1daith nodweddiadol o 10,000km drosddeng niwrnod gan Grwydryn (addilynwyd gyda throsglwyddydd lloeren) ermwyn canfod 1kg o fwyd i’w chyw. Feffilmwyd ‘Cerys’ (ar ol Cerys Catatonia) yr

    albatros yma gan y BBC yn ddiweddar abydd yn ymddangos ar raglen y milfeddygSteve Leonard (Steve Leonard’s ExtremeAnimals) yn ystod Hydref 2002. Mae’rtrosglwyddwyr lloeren wedi dangos bodalbatrosiaid De Georgia yn treulio llawer oamser yn hedfan ar hyd Silff Patagonia(tra’n magu cywion) a Silffoedd De Affricaac Awstralasia (rhwng magu cywion) yncanfod bwyd – ardaloedd o fioamrywiaethrhagorol a digyffelyb o’u cymharu â llawero wacteroedd moroedd dros ddŵr dyfn.Oherwydd yr holl fywyd yma mae dwsinauo gychod pysgota yn gweithredu yn yrunion ardaloedd yma hefyd, a dyma llemae albatrosiaid De Georgia a mannaueraill yn y perygl mwyaf. Does ondgobeithio y gall llywodraethau gwledyddcymharol dlawd De America ac Affrica gaely gefnogaeth a’r ewyllys i fynd ati i

    Cyw yn ei gynefin ar Ynys yr Adar

    Dafydd gydag un o’r cywion

  • 31

    ymgodymu â’r broblem gyda’r un grym aphenderfyniad â rhai o genhedloeddcyfoethocach y byd. Gyda rhywogaethau felyr albatros a diwydiannau fel pysgota sy’nbodoli ar raddfeydd mor eang, mae’nhanfodol cael cydweithrediad rhyngwladol isicrhau fod pawb yn cael chwarae teg.

    Yn nes adref, gallwn gyfrannu rhywfainttrwy gefnogi mudiadau fel yr RSPB a BirdLife International sy’n brwydro dros achosyr albatros. Hefyd gellir cefnogi nifercynyddol o siopwyr ac archfarchnadoeddhynny sy’n dechrau cario tystysgrif ar raio’u pysgod i ddweud eu bod wedi eu dalmewn modd mwy cyfeillgar â’r albatros a’ramgylchedd.Yn sgil hyn a mesurau ganfwy-fwy o lywodraethau a chyrffcadwraethol a llywodraethol ar draws ybyd, mae yna deimlad gan lawer fod yllanw yn dechrau troi o’r diwedd. Mawrobeithiwn fod hyn yn wir, er mwyn i eraillgael profi’r wefr o weld yr albatros ynffynnu ar foroedd yn llawn o bysgod aphob math arall o fywyd gwyllt amflynyddoedd i ddod.

    Os methwn, byddwn nid yn unig ynbygwth goroesiad yr albatrosiaid – gwireneidiau’r moroedd, ond byddwn wedimethu â chyd-weithio’n rhyngwladol iamddiffyn adnodd sy’n gyffredin i ni oll ardraws y byd – y môr. Mae tynged yralbatros wedi ei glymu’n annatod â dyfodoly cefnfor.

    Ac os methwn ag arbed yr albatros,byddwn wedi methu arbed y môr yr ydymoll yn dibynnu arno.

    Os am fwy o wybodaeth am yralbatrosiaid a’r problemau sy’n euhwynebu, maewww.uct.ac.za/depts/stats/adu/seabirds yn fan cychwyn da..

    Yr Albatros Crwydrol

    '''''''''''''

    '

    '''

    '''''

    '''''

    ''''''

    ''''''' ''

    ''''''''''''''''''''''''''

    ''''''''''''''''' '''''''''''''''''''''

    '' '' '' ''' '''' '''''

    Antarctica

    De Georgia

    Brasil

    Fig 1. Taith yr albatros wrth chwilio am fwyd i’r cyw

  • 32

    Enw safonol Cymraeg Blodyn y gwynt

    Enw Lladin Anemone nemorosa

    DisgrifiadPlanhigyn sy’n perthyn i’r Ranunculaceae,sef teulu’r blodyn ymenyn, yw’r blodyngwynt. Mae ymhlith y cynharaf iymddangos ar ôl y gaeaf. Tyf yn fintai gwynar gloddiau ac ar lawr coedwigoeddcollddail yn garpedi eang, cwmpasog yn ygwanwyn a dechrau’r haf ledled Ewrop.Fe’i hystyrir yn blanhigyn delicét,gosgeiddig, annwyl, a hudolus tu hwnt.Mae ganddo flodyn unigol gwyn gydallinellau pinc ar y sepalau. Mae tua 51cm odaldra a phob blodyn ar goesyn ar wahânac fe ymddengys yn rhy fregus i’w cynnalgan fod y blagur yn ymddangos ynbendrwm. Pan fo’r haul yn eu goleuobyddant yn codi eu pennau sidanaidd iwenu a gwerthfawrogi’r cynhesrwydd. Aceto, pan fo’r gwynt yn chwythu trostyntbyddant yn crymu’u pennau gan gyfleurhyw swildod, sy’n eich swyno ac yn eichannog i’w hanwesu’n dyner â’ch llaw. Panyn nosi hefyd byddant yn gwyro’u pennau.Credir na fyddai’r blodau yn agor o gwbloni bai fod y gwynt yn chwythu arnynt.Mae’n blanhigyn lluosflwydd gydagymledyddion o dan wyneb y ddaear ac amli goesyn talsyth yn tyfu ohonynt gyda thairneu bedair o ddail tair-llabedog tua’i ganol.

    Tarddiad yr enw CymraegYn 1773 cafwyd cyfeiriad yng ngeiriadur J.Walters at ‘blodyn y gwynt’. Ai dyma’rcyfeiriad cyntaf yn yr iaith?

    Enwau Cymraeg eraillbara caws, brithlys, brithogen y goedwig,gwyntai (1830); llys y gwynt; rhosyn bach ygwynt; brithogen y goedwig’1, blodauArthur; pali gwyllt, anemoni’r coed

    Enwau eraillAnemone: enw ar ferch duw y gwynt yn

    chwedloniaeth GroegWood anemoneWind Flower. Cyfieithiad o’r Roeg ydyw

    ‘blodyn y gwynt’.Mae W.T. Stern yn tybied nad o’r gairGroeg am wynt, sef anemos, y tarddaanemoni ond yn hytrach o lygriad o airbenthyg Groeg o’r Semiteg sy’n cyfeirio atalarnad Naman, dafnau o waed, yr hwndrodd yn Anemone coronaria, sy’n goch felgwaed.

    Ystyriaethau ecolegolYn y gwanwyn, mewn mannau lle torwydcoed, ddau aeaf yn ôl, daw twf syfrdanol ofriallu Mair di-sawr Prilmula elatior,blodau’r gwynt, fioledau Viola o wahanolrywogaeth, mapgoll glan y dŵr, Geumrivale, a llaethlys y coed Euphorbia

    Llên y LlysiauY prosiect sy’n cloddio am yr aur o dan y rhedyn

    Sian Evans, gyda chyfraniadau oddi wrth aelodau eraill Panel Llên y Llysiau

    Blodyn y gwynt.Llun: Duncan Brown.

  • 33

    amygdaloides.1 Mae blodau’r gwynt ynarwydd o goed hynafol, o leiaf mewn rhaiardaloedd, a phan yn tyfu mewn clawdd,gallant awgrymu mai rhan o goedwighynafol ydoedd y clawdd.2

    Elfennau cemegolYnghyd â rhywogaethau eraill ei deulu,mae blodau’r gwynt yn cynnwys y tocsinprotoanemonin. Oherwydd ei flas chwerwmae anifeiliaid fferm yn ei osgoi, ac eithriopan na fydd dewis ar gael yn y borfa yn ygwanwyn cynnar, neu os bydd yr anifeiliaidyn ieuanc a dibrofiad.Y mae’r elfen docsigyn datgymalu wrth i’r planhigyn gael eisychu i wneud gwair.3 Gwyddys fod rhaianifeiliaid gwyllt, megis iyrchod Capreolacapreola a llygod pengrwn y gwairClethrionomys glareolus, yn ei fwyta hebniwed amlwg.4

    Cyfeiriad llenyddolDywed O.M. Edwards, yn Clych Atgof,tra’n sôn am ei dad, “Ymhyfrydai ynnhlysni creadigaeth Duw. Rhodiai’r caeaugyda’r gwanwyn a dygai flodeuyn cyntaf eiryw i ni – llygad y dydd, clust yr arth, dôry fagl, cynffon y gath, blodau’r taranau, ygoesgoch, hosan Siwsan, clychau’r gog,anemoni’r coed, blodyn cof – a phobblodyn a dyfai hyd lechweddau agweirgloddiau ein cartref mynyddig.”

    Eto yn Tro Trwy’r Wig “ … wrth ei ochrmae blodyn gwyn tyner yr Anemoni ynedrych ym myw llygad yr haul.”

    Tybed ai am flodyn y gwynt mae Crwysyn sôn yn “Hon yw fy Olwen i” – dyfynnafgwpled:

    Ond beth tase dwylo f’anwylyd mor wynAg anemoni ffynnon y coed.

    Mae I.D. Hooson hefyd â cherdd i“Blodau’r Gwynt”:

    O ddu leiandy’r gaeafY dônt, yn dyrfa wen,A gwyntoedd Mawrth yn gyrru,A’r brigau llwm uwchben.Yn unigfeydd y goedlanYr oedant ar eu hynt,A thegwch eu gwyryfodA ddena serch y gwynt.

    Rhinweddau meddyginiaethol apheryglonYn ôl y ffisegwr astrolegol NicholasCulpepper (1616–1654) gwnaed defnyddhelaeth o ddail blodau’r gwynt trwydrwytho’r dail yn ferw i olchi clefydau’rcroen tebyg i’r gwahanglwyf; trwy falu’rdail yn fân a rhoi’r sudd yn y trwyn clirir ypen. Defnyddiwyd ef i drin llygad clwyfus,llosgiadau, y parlys a hyd yn oed pylni’rgornbilen (opacity of the cornea). Gwnaedtrwyth o’r dail a’u cymysgu gyda saimmochyn i wneud eli a fyddai’n iachusol ilanhau wlser llidus. Byddai cnoi’rgwreiddyn yn peri i glaf boeri a chaelgwared o’r annwyd; ond gocheler, gallgormodedd o’r ffisig achosi marwolaeth.

    Yn ôl Hugh Davies, Welsh Botanology(1813), “pob rhan o’r llysieuyn hwn syddlymsyr”.5

    Roedd yr Albanwyr yn credu’n gryf ygallent beri salwch drwy achosi nam ar yrarennau ar wartheg.

    GerddiMae o leiaf ddeunaw o wahanolamrywiadau o’r blodyn gwyllt yma yn caeleu gwerthfawrogi mewn gerddi. Maent ynamrywio o flodau sengl i ddwbl, o ran eumaint ac o ran eu lliw (o wyn, trwy lelog aphinc, i las pur). Cafodd rhai ohonynt eudarganfod yng Nghymru, yn ôl A.T.Johnson a oedd â’i ardd ym Metws y Coed(A Garden in Wales 1927). Un o’rffefrynnau yw A. nemorosa Robinsoniana aenwyd ar ôl y Gwyddel William Robinson,gwrthwynebydd brwd i arddio ffurfiol oesVictoria (awdur The Wild Garden 1870).

    Chwedloniaeth, hanes a symbolaeth

    Nid yw pob cyfeiriad at flodyn y gwyntmor ddiniwed â’i olwg gan y’u cymherir âpheisiau llaes merched (chemises).Ynogystal cymherir yr enw ag arferion y gwcwa hefyd â nadroedd. Sonia Grigson am thesharp, rather unpleasant, if faint smell ofAnemone nemorosa.6

    Roedd yn arferiad gan y Tsieneaidaddurno’r beddau â blodau’r gwynt ahefyd roedd y Groegiaid yn gwneud

  • 34

    torchau ohonynt ac yn eu gwisgo oamgylch eu gyddfau.

    Yn A Dictionary of Plant Lore gan RoyVickery dywedir am flodyn y gwynt fod ytrigolion o gwmpas Stanton yn SwyddStafford yn ei alw’n taranfollt (thunderbolt)ac eglurwyd nad ar un cyfri’ oedd neb idynnu na thorri’r blodyn neu byddai’n siŵr

    o fod yn storm o fellt a tharanau ac ytrewir unrhyw un a’i tynno gan fellten. “Undydd wrth i mi ymweld â fferm gyfagos, aheb yn wybod i mi fod neithior yn cael eigynnal yn y tŷ, agorwyd y drws i mi ganberson a gwên lydan, ond yn sydyn daethdychryn i’w gwedd, a deallais y rheswm.Roeddwn yn gwisgo blodyn y gwynt yn fynghot a hyn yn darogan gwae i’r pâr priodar ddiwrnod eu priodas.” (Deacon, 1930).7

    Ffansi poblogaidd arall am flodyn ygwynt yw’r syniad y byddwch yn deffro’rdylwythen deg fydd yn cysgu ymysg yblodau oni chymerwch ofal wrth fyndheibio iddi!

    Ffynonellau

    (yn nhrefn eu hymddangosiad yn yr ysgrif)

    1 David D. & Jones A, Enwau Cymraeg ar Blanhigion. AmgueddfaGenedlaethol Cymru. 1995.

    2. Rackham, O, The History of the Countryside. 1986.

    3. Cooper & Johnson, Poisonous Plants of Britain and their Effects onAnimals and Man. HMSO

    4. Chapman and Hall, The Ecology and Management of CoppiceWoodlands. 1992.

    5. Davies, Hugh,Welsh Botanology. 1813.

    6. Grigson, Geoffrey, The Englishman’s Flora. 1958.

    7. Vickery, Roy, A Dictionary of Plant Lore. Oxford 1995.

    Y Dylwythen Deg. Wind-Flower Fairy

    Wyddoch chi?• fod yr ardd fotaneg gyntaf yn y byd

    wedi’i sefydlu yn ninas Padua yn yrEidal yn 1545. Erbyn canol yr unfedganrif ar bymtheg roedd tair gardd fellyyn Ewrop, – heddiw y mae cannoeddled-led y byd.

    • fod rhai glöynod byw yn ymfudo i’r wladhon o’r Cyfandir a gogledd Affrica bobblwyddyn.Yr enwocaf yw’r Iâr FachDramor (S. Painted Lady) sy’n burgyffredin yma erbyn mis Mehefin.

    • fod y fasnach bwydo adar gwyllt ymMhrydain yn werth mwy na £120miliwn y flwyddyn.

    • fod yna 35 rhywogaeth o degeiriannaugwyllt yn tyfu yng Nghymru. Maeoddeutu 25,000 yn y byd!

    • fod gwyfynnod gwryw yn dod o hyd i’rfenyw drwy eu harogli, gan ddefnyddioeu teimlyddion (S. antennae).

    • fod llygaid y twrch daear (gwahadden)yn fach iawn, ond nid yw’n hollol ddall.Mae’n debyg y gall wahaniaethu rhwnggolau gwan a golau cryf, ond fawr ddimmwy.

    • fod yna oddeutu 250,000 o wahanolrywogaethau o blanhigion blodeuol yn ybyd, ond fod 20 ohonynt yn unig yncyflenwi 90% o holl fwyd y ddynoliaeth.

  • 35

    Mae’n debyg mai fiyw’r unig aelod oGymdeithasEdward Llwyd fedrhonni ei bod ynadnabod Iwan erspan oedd yn eigrud! Tybed ai dynapam y gofynnodd yGolygydd i mi‘ddeud yr hanes’?

    Gan ein bod ynperthyn, byddem yn gweld ein gilydd ynaml. Byddai Iwan yn dod o Bwllglas gerRhuthun ar ei ‘wyliau’ atom ni i Lanelidan,rhyw dair milltir i fyny’r dyffryn; ond ar ôlnoson neu ddwy byddai Iwan yn barod ifynd adref! Erbyn hyn mae’n hoffi teithioac wedi mwynhau mynd dramor sawl trogydag aelodau eraill y Gymdeithas, ondtybiaf ei fod yn parhau i fod yn reit falch ofynd adref i’w wreiddiau yn NyffrynClwyd.

    Symudodd y teulu o Bwllglas i Ruthunpan oedd Iwan yn unarddeg oed. Cafoddfagwraeth ar aelwyd Gymraeg gyda’udiddordebau yn y ‘pethe’. Roedd ei dad yngerddorol ac mae ei fam yn llengar. Cafoddei addysg gynradd yn Ysgol LlanfairDyffryn Clwyd ac yna trwy gyfrwng yGymraeg yn Ysgol Maes Garmon, yrWyddgrug.

    Ar ôl gadael yr ysgol cafodd swydd gydachwmni Meirion Davies, Prion yndosbarthu nwyddau fferm, ac yna symud iweithio gyda Llyfrgell Clwyd yn dosbarthullyfrau i’r ysgolion. Rhoddodd y ddwyswydd gyfle iddo grwydro’r wlad,mwynhau’r tirwedd ac adnabod y bywydgwyllt. Gwelodd ambell le a’i symbylodd idrefnu taith ar gyfer y Gymdeithas.

    Mae ganddo ddiddordeb brwd mewnnatur, ac efallai i’r hedyn gael ei hau panddaeth yn ffrindiau â chymydog o Sais o’run oed a oedd â diddordeb mewn adar.Parhaodd y diddordeb yn Iwan, ond panaeth i’r Burren yn Iwerddon gydaChymdeithas Edward Llwyd yn yrwythdegau meddwodd yn lân ar y blodaugwyllt. Bellach mae ganddo wybodaetheang yn y pwnc a dawn arbennig i gofio euhenwau Cymraeg.Y mae hefyd ynymddiddori o ddifrif yn y ffyngau, ac wediarwain sawl cyfarfod maes i astudio’rmadarch.Yn ogystal â hyn y mae nifer ogreaduriaid yn mynd â’i fryd, ac mae’ntreulio llawer awr yn mwynhau’rgwyfynnod, y glöynnod byw a gwas y neidr.Mae hefyd yn ffotograffydd da gyda’rbrwdfrydedd a’r amynedd i gadw cofnodcywir o’r hyn y mae’n ei weld, gan rannu eiddiddordebau mewn cymdeithasau lleol.

    Ymaelododd â Chymdeithas EdwardLlwyd yn 1984 – yn un o’r aelodauieuengaf ar y pryd, ac mae wedi bod yndrefnydd teithiau yng Nghlwyd ers 1991 acyn ysgrifennydd aelodaeth er 1995, gan roiei holl amser i’r gwaith yn ystod yrEisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn.

    Cefais i fy nghyflwyno i GymdeithasEdward Llwyd gan Iwan pan aeth â mi ardaith i Glogwyn Du’r Arddu o danarweiniad Twm Elias yng Ngorffennaf1984, a chefais y wefr o weld Lili’r Wyddfaam y tro cyntaf. Dyna ail gynnau fyniddordeb innau ym myd natur ac ershynny cefais fwynhad mawr o gyd-gerddeda chyd-ddysgu ar lawer taith. Diolch Iwan!

    Dod i Nabod ein GilyddPor