-
Deil Tymor Diolchgarwch i fod yn hollbwysig i’n hardaloedd
gwledig,amaethyddol, er na fyddwn yn medrucadw’r fiyl fel yr hoffem
eleni.
Fel arfer, pan na fydd clo ar ein bröyddyn ein rhwystro rhag
cwrdd, gwelircynnydd yn niferoedd yr addolwyr yn eincyrddau. A’r
peth da yw eubod yn dod i’r gwasanaethhwn, nid oherwydd bod ynrhaid
iddynt, ond oherwyddeu bod am wneud hynny.
Mae’n bwynt teg. Nid oesun rheol yn dweud bodrhaid i unrhyw un
ohonomfynychu gwasanaethDiolchgarwch. Rwy’n sifirbod gan bobl lawer
obethau eraill i’w gwneud –teithio i weld teulu, coginio,gosod
byrddau. Yn yr oesbresennol, mae gemau pêl-droed i’w gwylio a gemau
XBox i’w chwarae. Yngnghanol bwrlwm bywyd,‘does dim angen i
unrhywun fynd i wasanaeth diolchgarwch. Nidyw’n ddiwrnod o
rwymedigaeth.
Ond, mae’n ddiwrnod o gyfle.
Cyfle i feddwl am yr hyn a dderbyniasoma rhoi rhywbeth yn ôl:
sef ein diolch.Dyma’n cyfle i anrhydeddu Duw, allawenhau ym mhopeth
a wnaeth Duwdrosom a gwneud hynny â chalonnaudiolchgar.
Wrth inni weddïo, treuliwn amser yn amlyn gofyn am bethau, yn
pledio. ‘Duw,helpa fi i brynu’r tractor newydd ‘na.’Neu, ‘cadw fi
rhag gorfod terfynu gwaithfy ngweithiwr...’ Neu, ‘helpa mi i ddod
ohyd i swydd’, ac yn arbennig ‘diogela fynheulu yn ystod yr
argyfwng ‘ma.’
Dywed yr Ysgrythur wrthym, ‘Gofynnwcha chwi a gewch, curwch ac
fe agorir ichwi.’ Felly, gofynnwn a churwn.
Ond beth sy’n digwydd felly?
Yn efengyl Luc cawn hanes Iesu ynglanhau deg o wahangleifion. Er
iddolanhau deg, dim ond un a ddaeth yn ôl iddiolch iddo ac nid
Iddew ydoedd. Ac nid
Iddew oedd Luc chwaith. Ef yw’r unig uno’r efengylwyr nad oedd
yn Iddew.Ysgrifennwyd ei efengyl ar gyfer ycenedl-ddynion, y rhai,
fel ef ei hun,oedd y tu allan i’r gymdeithas Iddewig,yn estroniaid.
Dywed Luc fod neges Cristi bawb.
Yn yr hanes hwn, nid pawb addychwelodd i gydnabod eu hiachâd.Dim
ond un, Samariad, sy’n dychwelyd iroi gogoniant i Dduw. Ni wyddom
bethddigwyddodd i’r naw arall. Efallai bodganddynt bethau gwell i’w
gwneud,gwylio gêm pêl droed neu chwaraegemau X Box!
Ymhlyg â’r bennod hon mae’r syniad bodrhywbeth ar goll. Hynny
yw, bod rhoidiolch yn rhan hanfodol ac angenrheidiolo’n perthynas â
Duw.
Cafodd deg o wahangleifion eu glanhau.Dim ond un, yr un a
ddychwelodd ac addiolchodd, a achubwyd, a hynnyoherwydd bod
diolchgarwch yn fesur offydd. Mae’n fesur o’n dibyniaeth arDduw,
a’n gostyngeiddrwydd.
Weithiau mae’n anodd mynegi eindiolch.
Diau fod y rhan fwyaf ohonom ynadnabod rhywun sy’n ei chael hi’n
anodddros gyfnod y Diolchgarwch hwn. Y wraigsy’n treulio’i thymor
cyntaf fel gweddw. Ydyn a gollodd ei swydd ac sy’n poeni am
o ble y daw’r arian i dalu am anrhegionNadolig i’w blant. Y
ffrindiau, ycymdogion sydd mewn ing neu’n unig.
Ble mae’r bendithion iddynt hwy ac eraillsy’n teimlo’n feichus,
yn gystuddiol neu’nfelltigedig?
Anghofiwn yn aml fod pobanadl, pob codiad haul aphob cwymp eira
ynfendith. ‘Ac yn awr,bendithiwch Dduw’rcyfanfyd,’ ebe Sirach,
‘sy’ncyflawni ei fawrionweithredoedd ymmhobman.’ Anhygoel, ywcredu
ein bod yn rhan o’rrhyfeddod hwnnw, yn rhano greadigaeth barhausDuw
yn y byd. Onid yw’nfendith gallu dweud hynny?
Yn ôl y diwinydd a’rathronydd Almaeneg,Meistr Eckhert, ‘Os
mai“diolch” yw’r unig weddi addywedwch erioed trwygydol eich bywyd,
bydd
hynny’n ddigon.’
Dyna’r hyn a ddylwn wneud: gweddïo’rgeiriau hynny, a’u gwneud o
bwys.
Felly, wrth ddilyn awgrym Meistr Eckhert,gadewch inni wneud
TymorDiolchgarwch yn rhywbeth mwy na’rarferol.
Gwnewch yn dymor o weddi sy’ndechrau yma, nawr.
Wrth i’r tymor fynd yn ei blaen, cariwch yweddi honno gyda chi,
a’i fyw.Rhannwch ef ag eraill. Tymor o roi diolchydyw, wedi’r
cyfan. Nid oes rhaid iddoddod i ben, chwaith – yn sicr ni
ddawrhoddion Duw i ben. Mae pob curiad o’ncalon yn ein hatgoffa bod
Duw wedi rhoibywyd i ni. Bywyd afradlon, rhyfeddol,poenus a
heriol.
Gadewch inni geisio atgoffa’n hunain ofendithion di-rif Duw, ble
bynnag y downo hyd iddynt, sut bynnag y dônt atom. Aci ddiolch yn
feunyddiol amdanynt.
Parch Ian SimsLlywydd y Gymdeithasfa yn y De
CYFROL CXLVIII RHIF 42 DYDD GWENER, HYDREF 16, 2020 Pris 50c
yn calonogi
yn ysbrydoli
yn adeiladu
yGOLEUADE G LW Y S B R E S B Y T E R A I D D C Y M R U
Sylw o’r seidin … t. 2 • Y silff lyfrau … t. 7 • Dyma gyfarfod
hyfryd iawn … t. 8
Pwy sy’n ddiolchgar?
Llun
pix
abay
.com
gan
Ber
ns W
aelz-
-
Ar foncyffion
Wedi sefyllian yno ar draeth Llanddwyn,a sylwi ar foncyffion a
chelfyddyd ytwmpathau ar lan y môr ychydig yn fwy,trois fy ngolygon
at y bonyn arall ar ymylgweddill y gwaith. Hon hefyd wedi eidaearu
yn y traeth, ac yn dal i sefyll ergwaetha erydiad y tir, er gwaetha
cryfdery gwynt. Nid yn unig yr oedd wedi dali sefyll ond roedd
hefyd wedi dal12 carreg yn gwbl ddiogel drwy’r cyfan.
Gwelais ddarlun o’r Iesu yn y bonyn acyntau wedi addo bod gyda’i
ddisgyblionymhob peth a thrwy bob peth. Gwelais12 carreg wedi eu
balansio’n gelfydd ary bonyn, a’r cerrig yn
cynrychioli’rdisgyblion, pob un yn wahanol o ranmaintioli, a dawn a
gallu, ac eto achyfraniad i’w wneud yng ngwaith ydeyrnas
heddiw.
Gwelais y bonyn fel Iesu, sylfaen yrEglwys yma yng Nghymru yn
dal hollenwadau Cristnogol yn ei law, ac er eubod megis pentwr y
byddent hwythaurhyw ddiwrnod ar yr un gwastad gerbronDuw yn gorfod
cyfiawnhau eugwahaniaethau diwinyddol a’u trefniadaugwahanol a’u
methiant i ganfod ffyrdd ogydweithio, a chyd-genhadu a chydaddoli.
Gwelais y cerrig hefyd fel rhywraifyddai’n dewis gwarchod rhyw
bethau nafyddai’r rhelyw ohonom yn deall eu
harwyddocâd bellach i ffydd a chredpobl. Tybiais y gallai’r
cerrig hyn fod ynfeini rhwystr ar y ffordd i’r deyrnas ac nidfel
cerrig camu ar y ffordd tuag at Dduw.
‘Stone Stacking’ neu ‘Twmpathu’ ydy’rterm neu enw a ddefnyddir
am y grefft oosod un garreg ar ben y llall fel hyn. Ganamlaf ceir y
pethau hyn gerllaw rhyw lynneu afon neu lan y môr. Bydd rhai
wrthiam ddeng munud yn gwneud hyn trabydd eraill yn treulio oriau
bwy’i gilydd ynmeddwl, yn edrych, yn cysidro, ac yngosod, a’r cyfan
yn ffordd o glirio’rmeddwl a thawelu’r ysbryd a cheisio’rtangnefedd
na fiyr y byd amdano. Mae’nsgìl sy’n gofyn am amynedd ac
ymdrechcorfforol arbennig. Does dim bydartiffisial yn dal y cyfan
gyda’i gilydd –dim ond sylfaen dda, a gwybod lle gellirgosod un i
bwyso yn erbyn y llall, fel body cyfan yn dal y cyfan i fyny.
Daearu’nhunain yn y Cread, nes bod nerth pobun yn dod yn gryfder i
bawb.Gwelais y tystion ar y traeth yn cynnalrhyw genhadaeth a’r byd
weithiau yn
oedi i fyfyrio, dro arall yn brysio heibio’nddifeddwl.
Beth fydd yn digwydd wedi’r Corona eingadael fel pobl Dduw?
Fyddwn ni’nbarod i fod yn dystion ar draeth y byd,neu byddwn ni am
gilio’n ôl i’n bocsyscrefyddol cyfleus er mwyn gwarchod ygorffennol
a gwastraffu’n dyfodol? Dwiam obeithio na fyddwn ni’n gwneudhynny
beth bynnag.
Cwpled ar ddechrau emyn Pantycelynsy’n dod i’r cof wrth feddwl
amdwmpathau traeth Llanddwyn ac am yrEglwys O.C. (Ôl-Corona ac nid
Ôl Crist!)yw’r emyn sy’n dechrau gyda’r geiriau,‘Dal fi fy Nuw, dal
fi i’r lan, dal fi i’r lan.’N enwedig dal fi lle rwy’n wan....
Mae nerth Duw i’w weld yn y bonion sy’ndal y cyfan, ond y mae
nerth pobl Dduwi’w weld yn wendid sy’n troi’n gryfder, a’rcryfder
fydd yn troi yn wasanaeth, nid i’nsefydliadau na’n trefniadau, ond
i’n poblni pwy bynnag y bônt.
A dyma fi yn diweddu gyda’r un rhybudda gafwyd yng nghyfnod
Joseia – rhaidinni beidio ag eilun addoli’n trefniadauna’n
treftadaeth grefyddol wedi hyn neurith yn unig fydd hanes
CristnogaethCymru.
Rwy’n hoff iawn o emyn MorganD Jones o adran emynau am yr
eglwysyng Nghaneuon Ffydd. Mae’n emynhynod sy’n weddi arbennig dros
yreglwys a’i gwaith heddiw. Geilw amgrynhoi diadelloedd Duw i un
gorlanglyd yn ‘unfryd’, wedi difa mwy eingwahaniaethau mân, fel y
cawn ein troiyn ‘feini bywiol’, cytûn er mwyn i ni ‘godiSeion eto i
Ti dy hun!’ Roedd rhai yngweld o bell ryw ddydd yn dod, ondbydd
angen i ninnau fod yn amyneddgar,a sylwi beth sydd wrth ein traed,
adefnyddio’n cryfder mewn gwendid i ailgodi Seion mewn ffordd fydd
yn symudyr hen rwystrau ac yn adeiladu rhywbethnewydd.
(Gol. Diau y bydd eraill ohonom wediadnabod ‘damhegion’ mewn
tirlun neu ardaith. Beth am eu rhannu’ch myfyrdodaugyda’n
darllenwyr?)
2 Y Goleuad Hydref 16, 2020
Sylw o’rSEIDIN
(parhad)
(Buom ar daith yr wythnos diwethafyng nghwmni’r Parch Jim Clarke
idraeth Llanddwyn. Cawsom ein tywysi adnabod celfyddyd a
chreadigrwyddar hen foncyffion coed. Felly,gwisgwch eich sgidiau
cerdded. Mae’rdaith yn parhau.)
Gweddi o DdiolchgarwchArglwydd da a charedig, down atat yn
nhymor y Diolchgarwcheto eleni i gydnabod dy ddaioni, i ymateb i’th
haelioni a diolch i tiâ chalonnau llawen. Er i’n bröydd fod o dan
glo diolch nad oesball nac atalfa ar dy haelioni. Bob dydd daw dy
fendithion atomo’r newydd. Diolchwn i ti am bawb sy’n gweithio i
gynnal cefngwlad, y rhai sy’n amaethu’r tir, sy’n tyfu cnydau ac
sy’n maguanifeiliaid. Cyflwynwn i ti’r teuluoedd rheiny sy’n
ffyniannus, achyflwynwn i ti’r teuluoedd rheiny sy’n wynebu heriau
oherwyddCofid 19 a bygythiadau colli eu marchnadoedd. Gweddïwn
drosy bobl sy’n prosesu ac yn dosbarthu bwydydd i’n marchnadoedda’n
siopau. Gweddïwn dros amaethwyr ar draws y byd sy’nceisio pris teg
i’w cynnyrch. Gweddïwn dros fudiadau sy’n ceisiosicrhau’r
cyfiawnder hwnnw sy’n galluogi pobl i weithio gydagurddas mewn byd
lle bydd tlodi’n cael ei ddileu, mewn byd llebydd y ddaear yn cael
ei iacháu ac yn rhoi o’i ffrwyth.
Diolch i ti am yr Arglwydd Iesu Grist a’i gariad trosom ar y
groes.Gweddïwn y caiff weld o ‘lafur ei enaid’ a’i ddiwallu.
DirionArglwydd tywallt dy Ysbryd Glân ar dy eglwys i fywhau’r
egingrawn a blennir.
Arglwydd derbyn y clod i gyd i ti dy hun. Amen.
-
Gwers 15
Pedr
Gweddi Arglwydd Iesu, deuwn o’th flaen yngofyn am dy fendith
wrth baratoi einhunain i fyfyrio ar dy air. Helpa ni o’rnewydd i
sylweddoli dy fod yn galwpobl i weithio yn dy winllan, ac i
dystioi’th berson a’th bwrpas di. Wrth innifeddwl am Seimon Pedr
heddiw,diolchwn am y fraint o fod wedi clyweddy lais a derbyn dy
wahoddiad i’thwasanaethu. Amen.
Darllen Luc 9:28–36
CyflwyniadBu Seimon Pedr yn un o brifgymeriadau’r Eglwys Fore
ers ydechrau. Roedd yn gymeriad cryf, acyn arweinydd wrth reddf.
Andreas, eifrawd, dywysodd Pedr at Iesu’nwreiddiol, ac roedd y ddau
ohonynt ynaelodau o’r cylch agosaf at Iesu. Yn yradroddiad am
brofiad Mynydd yGweddnewidiad, yng NghesareaPhilipi, dim ond Ioan,
Iago a SeimonPedr aeth i’r oedfa anhygoel ar lethrau’rmynydd. Yn
ddiddorol, nid yw Ioan
wedi cynnwys yr hanes yn ei Efengylyntau. Efallai fod hynny
ohewydd eifod wedi darllen tystiolaeth y tairEfengyl gyntaf, ond
nid oes sicrwydd ohynny chwaith.Mae hanes y Gweddnewidiad yn
arbennig, ac yn sail i’r ffaith fod Pedrwedi cael ei ystyried yn
arweinydd i’reglwys yn Rhufain, a’i alw’n ‘esgob’.Cyfieithodd yr
Eglwys Gatholig hynnyi olygu mai Pedr oedd y Pab cyntaf,
asylweddolwn fod y cyn-bysgotwr ar fôrGalilea wedi newid mwy na’i
enw arlethrau’r mynydd. Cofiwn mai ef oeddy siaradwr byrbwyll, a
ymddangosai’nhyderus ac eofn. Sut bynnag oedd ypysgotwr yn ei gwch
mewn storm,roedd Pedr, fel gweddill y criw yn ycwch adeg y storm ar
fôr Tiberias (Luc8), yn llawn ofn ac yn ofni ei fod arfarw. Ef
hefyd, ar noswyl y croeshoelio,a wadodd Iesu ar gyhuddiad
merchifanc ei fod yn un o gwmni’r Iesu.
MyfyrdodSut bobl fydd Iesu yn eu galw i arwainyn yr eglwys? Ai’r
sawl sydd yn gryf acyn eofn, y sawl a gafodd hyfforddiantarbenigol,
neu’r sawl sydd yn agored iwneud camgymeriadau, yr amherffaitha’r
annisgwyl?* Pwy feddyliai ybyddai’r Cristnogion yn Rhufain
wediderbyn cyn-bysgotwr o wlad dlawd arymyl ddwyreiniol yr
YmerodraethRufeinig fel eu harweinydd? Efallainad cymeriad a
phersonoliaeth Pedroedd yr hyn a achosodd i Iesu ddweudwrtho ar
lethrau’r mynydd ei fod yn eiberson yn graig, ond bod y ffydd
asylweddolai fod gfir y gweddnewidiadyn Fab Duw yn sail ac yn graig
i’rgymuned y daeth hanes i’w chydnabodfel Eglwys Dduw. Pwy ohonom
all feddwl am bobl
wantan fel ni yn greigiau cadarn mewnunrhyw gymuned? Byddwn
ynrhyfeddu at amrywiaeth yr eglwys, ynlleol ac yn genedlaethol, a
diolch fodrhan i ni wrth estyn terfynau’r deyrnas.Er ein beiau,
cawn gyfle i wneud eincyfraniad a thystio i ryfeddod Iesu
acehangder cariad Duw. Wrth feddwl amamrywiaeth yr eglwys yn y
gorffennol,ni allwn ond ymddiried bod gan Gristgynlluniau tu hwnt
i’n dychymyg argyfer yr eglwys i’r dyfodol. Efallai fod
y sawl y byddwn ni’n ei dywys at ymylIesu, fel y gwnaeth Andreas
gynt, ynrhan o weithlu’r eglwys i’r dyfodol, pawedd bynnag fydd
arni yn yr yfory addaw.
GweddiDiolchwn, Iesu, am bawb rwyt wedi eugalw i dystio i ti, ac
am dystiolaeth pobun ar draws y canrifoedd a ledled y byd.Galw pobl
o’r newydd yng Nghymruwrth i ni synhwyro’r newid sydd yndigwydd
nawr, a boed i’r rhai rwyt ynamlygu dy hun iddynt wybod dy fod
yncynnal dy bobl, ac yn wir arweinydd ibob diadell. Amen.
Trafod ac ymateb
• Trafodwch y cwestiynau sy’n arwainat * yn y myfyrdod.
• Pam, dybiwch chi, i Iesu roi cyfenwnewydd – y Graig (Petra) –
i SeimonPedr (Mathew 17:16)?
• Pwy rydych chi’n meddwl amdanyntfel rhai cadarn yn eich
cymuned neueich eglwys? Fyddai yna le i un moranwadal a byrbwyll â
Pedr?
• A gawsoch chi’r fraint, fel Andreas,o gyfeirio rhywun at Iesu
a gweld yrArglwydd yn eu codi i’w wasanaethuyn y man? Diolchwch i’r
Arglwyddam eich defnyddio neu gofynnwchiddo eich helpu i gyfeirio
rhai ato.
Hydref 16, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 3Y PEDAIR
TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t
Adnabod Cymeriadau’r Testament Newydd –Yr Efengylau
Cyfres o astudiaethau Beiblaidd ar gyfer y cartref neu grfipgan
y Parch. Denzil I. John
Mae testun a chyflwyniad fideo o’r deunydd hwn ar gael ar wefany
Cyngor Ysgolion Sul: https://www.ysgolsul.com/?page_id=804
LlythyrAnnwyl ddarllenwyr neu ddarparddarllenwyr Gair y
Dydd,
Rhag creu drwgdeimlad rhwngPenderyn a Chaerdydd, fe hoffem,gyda
ymddiheuriad am ycamgymeriad, gywiro’r wybodaethyn y rhifyn
cyfredol o Gair y Dydd.Nid yw Gwynfryn/Gwyn Morganyn ddinesydd yn y
brifddinas ondyn hytrach yn fir sy’n weithgar acyn falch o’i fro ym
Mhenderyn.Mae’n ddiacon yn Eglwys yBedyddwyr, Siloam, Penderyn,
ynathro cyn ei ymddeoliad ac ynbregethwr cynorthwyol.
Pryderi Llwyd Jones(Ysg. Gair y Dydd)
Sul, 18 Hydref
Dechrau Canu Dechrau Canmolnos Sul, am 7:30yh
Yr athrawes a’r gyfansoddwraig MeinirRichards sydd yn rhannu ei
phrofiad oalaru gyda Nia, a sut mae cerddoriaetha’r piano wedi bod
yn ddihangfa iddi arhyd y blynyddoedd. Meinir hefyd fyddyn arwain y
canu mawl o Eglwys SantPedr, Caerfyrddin, a chawn berfformiadgan
Rhian Mair Roberts o gân fuddugolCân i Gymru a gyfansoddwyd
ganMeinir a Tudur Dylan yn 2004,‘Y Dagrau Tawel’.
–––––––––––––––––––––––––––––
Oedfa Radio Cymru18 Hydref am 12:00yp
yng ngofal Delyth Morgans-Phillips(Oedfa Ddiolchgarwch),
Bwlch-llan
-
Malagasi ydw i, yn byw yng Nghymruers bron i ddegawd bellach, a
gallafddweud fy mod i’n teimlo’n gartrefolyma. Mae Cymru’n gweddu’n
naturiol ify ngwraig, Rebecca, a minnau fel ein tircyffredin
oherwydd ein gwreiddiaugwahanol: Mizoram a Madagascar. Maeein dwy
ferch, Hannah a Seren, yn fwy o“Gymry” na’r ddau ohonom ni.
Fesymudon ni yma pan oedd Hannah ynddwyflwydd oed ac mae hi bellach
yn12 oed, a ganwyd Seren yn YsbytyBrenhinol Morgannwg. I’r merched,
hebos, Cymru yw eu cartref ac mae unrhywle arall yn fan gwyliau.Er
y dylwn fod wedi arfer erbyn hyn,
mae’r tywydd oer a gwlyb yn dal i fod ynher i mi. Ac mae nifer y
cwpaneidiau o dey mae pobl yn eu hyfed bob dydd yn fysynnu o
hyd!Rwy’n aml yn cymharu bywyd yma
yng Nghymru â’r bywyd ym Madagascar.Gan roi’r tywydd digymar o’r
neilltu,rwy’n aml yn cael fy nharo gan ygwahaniaethau hyd yn oed yn
y pethaubychain fel pris tomatos tun. YmMadagascar, mae tomatos tun
ynfoethusrwydd ac yn ddrud, a chefais siocpan gyrhaeddais Gymru
gyntaf a chaelbod tomatos tun yn rhatach na thomatosffres. Ym
Madagascar, gallwch gaelbasged yn llawn o domatos ffres am brisun
tun o domatos.Cymhariaeth arall a wnaf yn aml yw
rhwng cynulleidfaoedd eglwysig ymayn y Deyrnas Unedig a’r rhai
ymMadagascar. Rwyf wedi arfer gweldeglwysi yn llawn dop ym
Madagascargyda phobl fel sardîns ynddynt. Y trocyntaf imi fynd i
wasanaeth yngNghymru, roeddwn yn meddwl tybedpam bod pobl yn hwyr
yn dod i’r capel,ond pan ddechreuodd y gwasanaeth,sylweddolais mai
ychydig o bobl sy’nmynd i’r eglwys yma. Rwy’n sifir ybyddai gan y
cenhadon dewr o Gymru aaeth i Fadagascar a Mizoram yn y 19egganrif
deimladau cymysg am hyn.Mae cymharu’r Deyrnas Unedig a
Madagascar yn swnio’n wirion am fodcymaint o bethau’n wahanol,
ond dyna’rfrwydr o gael dau gartref, neu hyd yn oeddri os ydw i’n
cynnwys Mizoram. Mae’rgyntaf ymhlith y deg gwlad gyfoethocafyn y
byd ac mae’r ail ymhlith y deggwlad dlotaf yn y byd. Mae Cymru
aMadagascar yn llefydd prydferth, ondmae’r gwahaniaethau rhyngddynt
ynsyfrdanol mewn sawl ffordd.Mae pandemig y Coronafeirws wedi
tynnu sylw hyd yn oed yn fwy at ygwahaniaethau rhwng y ddwy
wlad.Rhyfeddais at yr ymateb y mae
llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi’i roiar waith i helpu pobl yn
ystod y cyfnodclo, gan gynnwys talu cyflogau drosfiliwn o bobl, y
cynllun bwyta allan ihelpu busnesau, a llawer mwy. Anogirpobl i
weithio gartref a defnyddiotechnoleg fel Zoom i gwrdd ac
igyfathrebu. Pan gaewyd ysgolion,anfonodd yr ysgol waith gartref
gyda’rplant fel nad oeddent yn colli cael eudysgu. Y peth mwyaf
calonogol oeddgweld yr ymdrechion anhygoel a wnaedgan staff y GIG,
meddygon a nyrsys wrthymladd y feirws. Ac mae niferanghredadwy o
welyau ysbyty wedi caeleu rhoi ar waith mewn cyfnod byr i
geisioosgoi llethu’r gwasanaeth yn y pen drawgan nifer yr achosion
heintiedig.
Er gwaethaf y pandemig, yma yn yDerynas Unedig, mae digonedd o
fwyd ohyd; nid amherir ar ddfir a thrydan; maeoffer ar gael yn yr
ysbyty; gall poblgyfathrebu o hyd trwy gyfrwng technolega llawer
mwy. Mae’n galonogol gweldpawb yn ceisio gofalu am ei gilydd yn
eucymuned. I Malagasi sy’n byw yma yngNghymru, mae’r help a’r
gefnogaeth ymae pobl yn parhau i’w derbyn yn ystody pandemig hwn yn
anghredadwy. Mae’rbobl yn y wlad hon wedi eu bendithiocymaint, ac
ni allwn ond gobeithio’u bodyn gwerthfawrogi hynny.Yn ôl adref ym
Madagascar, mae’n
stori wahanol neu, a ddyliwn i ddweud,mae’n drasiedi wahanol.
Mae pandemigy coronafeirws wedi effeithio’n ddwfn ary Malagasi ac
wedi bod yn drychineb i’nheconomi bregus iawn lle mae dros 80%
o’r boblogaeth yn byw o dan y llinelldlodi o $1.90 y dydd.Mae
llywodraeth Madagascar fel
llywodraethau eraill wedi gosod cyfyng -iadau llym er mwyn
cyfyngu ar y feirws.Fe weithredwyd Cyfnod Clo, a gallaipwy bynnag a
droseddai yn erbyn yrheolau wynebu cosb ddifrifol.Mae’r bwriad yn
dda iawn i gyfyngu ar
ledaeniad y feirws ond mae’r rhan fwyafo’r boblogaeth yn byw o’r
llaw i’r genauar incwm o ddydd i ddydd. Golyga hynfod gan fwyafrif
y boblogaeth y dewisofnadwy o aros gartref a llwgu neu fentromynd
allan i weithio i gael bwyd a bod ârisg uchel o ddal y feirws.
Ychydig iawno gefnogaeth y mae’r llywodraeth wedi’idarparu ar gyfer
angenrheidiaubeunyddiol, a hynny i ganran fechan o’rboblogaeth ac
yn para am ychydigddyddiau yn unig.Ym Madagascar, nid oes nawdd
cymdeithasol i’w gael, dim gofal iechydam ddim, dim addysg am
ddim; dim ond40% o’r boblogaeth sydd â mynediad atddfir glân a dim
ond 15% sydd âmynediad at drydan. Mae Madagascarymhlith y gwledydd
yr effeithir arnyntfwyaf gan newid yn yr hinsawdd, ac maesychder yn
fater difrifol yn neMadagascar. Yn ôl UNICEF, cyn i’rpandemig
Covid-19 daro, amcan -gyfrifwyd bod amlder diffyg maethcronig yn
42%, h.y. bron i 1.9 miliwn oblant Malagasi o dan bum mlwydd
oedledled y wlad.Ers y pandemig mae llawer o bobl
wedi colli eu swyddi, mae trafnidiaethgyhoeddus wedi ei
chyfyngu, ysgolionar gau, ac mae hediadau masnacholrhyngwladol yn
cael eu hatal.Mae dros 80% o’r boblogaeth ym
Madagascar yn ffermwyr. Dywedodd fyrhieni, sy’n byw 15 km y tu
allan i’rbrifddinas, Antanarivo, fod llawer o boblo’r pentrefi yn
cerdded bob dydd gydallwythi trymion ar eu pennau ac yn
myndheibio’u tª am 2 o’r gloch y bore ermwyn mynd i’r ddinas i
werthunwyddau. Rwyf wedi clywed cymaint o hanesion
dirdynnol o Fadagascar yn ystod ypandemig sy’n fy nhristáu ac yn
gwneudimi deimlo’n ddiymadferth iawn. Rwy’nffodus mai yng Nghymru
yr ydw i ar hyno bryd, ond rwy’n teimlo’n euog wrthrannu unrhyw
newyddion am yr hollgymorth y mae pobl yn y wlad hon yn ei
tudalen 4 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Hydref 16, 2020Y PEDAIR
TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t
Dwy wlad fechan, dau ymateb i bandemigy Coronafeirws
Cofio ‘ffrwyth gweddïau’r Cymry’ ym Madagascar
(parhad ar y dudalen nesaf)
-
dderbyn gyda fy ffrindiau a nheulu ymMadagascar. Fydd dim modd i
bobl ymMadagascar ddeall byth am absenoldebffyrlo’r Cynllun Cadw
Swyddi, gan fodgwaith yn golygu incwm ac incwm yngolygu byw. Mae
gweithio yn fater ofywyd a marwolaeth.Bu pandemig y Coronafeirws
yn
drasiedi i lawer ac yn gyfle i ychydig. Felllawer o wledydd
tlawd eraill sydd yndatblygu, derbyniodd Madagascargannoedd o
filoedd o ddoleri felbenthyciadau gan sefydliadau
ariannolrhyngwladol a banciau, ond mae’n rhaidi’r rhain gael eu
talu ’nôl gyda llogarnynt. Sut y gall gwlad lle mae 80%
o’iphoblogaeth yn byw ar lai na $1.90 ydydd fyth lwyddo i ad-dalu’r
ddyledenfawr hon yn ôl ar ben y ddyled enfawrsydd yno eisoes? Yn
anffodus, ychydigiawn o effaith y mae benthyciadau felhyn yn ei
chael ar fywyd cymdeithasol acariannol y boblogaeth leol yn y
gwledyddtlawd.Mae Madagascar yn wlad brydferth,
yn llawn bioamrywiaeth, ac mae ganddilawer o rywogaethau cwbl
unigryw
(gwyliwch raglen David Attenborough arMadagascar i wybod mwy).
DisgrifioddDavid Griffiths, un o genhadon arloesolCymru i
Fadagascar dros 200 mlyneddyn ôl, Madagascar fel “gwlad o laeth
amêl”. Ac mae’n annirnadwy fod uno’r gwledydd cyfoethocaf
mewnbioamrywiaeth ac adnoddau yn y bydhefyd yn un o’r gwledydd
tlotaf yn y byd.Efallai fod y 70 mlynedd a dreuliwydym meddiannaeth
Ffrainc yn rhywbethi’w wneud â hyn. Yn anffodus, dydyhon ddim yn
sefyllfa unigryw iFadagascar.Mewn cyfnod o argyfwng byd-eang
fel
hwn, mae pobl yn aml yn canolbwyntioar y broblem sydd ganddyn
nhw yn eugwlad eu hunain. Mae’n hawdd anghofiogwledydd tlawd fel
Madagascar syddbyth yn llwyddo i gyrraedd penawdau’rnewyddion.Mae’n
anodd imi beidio â chymharu
Cymru a Madagascar oherwydd i’r ddwywlad hyn fod yn gartref i
mi, ac maentmor wahanol. Mae gan Gymru aMadagascar gyswllt
hanesyddol cryfsy’n eu clymu â’i gilydd oherwydd
gwaith llwyddiannus y cenhadon oGymru a aeth i Fadagascar dros
200mlynedd yn ôl. Rwy’n aml yn atgoffapobl yma yng Nghymru mai eich
haneschi yw ein hanes ni, a’n hanes ni yw eichhanes chi.I orffen,
byddaf yn benthyg geiriau
tanbaid David Griffiths pan adawoddMadagascar am Fachynlleth ym
1843:‘Pwy bynnag sydd â’i galon yn dristoherwydd yr hyn a ddigwydd
ymMadagascar ... haeddant ein consýrn ...hwy yw ein brodyr ... A
yw’r Cymrywedi anghofio trugaredd – bod ganddyntchwaer fechan yn
agos i Affrica o’r enwMadagascar? Yn sicr ddim! Ffrwyth eugweddïau
yw Madagascar: felly, frodyr,peidiwch â’i hanghofio.’
Miara Rabearisoa
(Ar ôl treulio rhai blynyddoedd yn rhano’r prosiect cydenwadol
ym Mhen-rhysyn y Rhondda, mae Miara a’i wraig,Rebecca, yn gweithio
ar hyn o bryd felgalluogwyr cenhadol yn HenaduriaethCanol Cymry a’r
Gororau, EglwysBresbyteraidd Cymru.)
Hydref 16, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 5Y PEDAIR
TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t
Dwy wlad fechan, dau ymateb i bandemig y Coronafeirws
(parhad)
Rhestr Gwylio’r Byd: Y 50 Uchaf yw’rcanllaw angenrheidiol i
astudio’r eglwyssy’n cael ei herlid. Ydych chi eisiaugweddïo’n fwy
penodol a phwrpasol drosein brodyr a’n chwiorydd ledled y bydsy’n
cael eu herlid achos eu ffydd yn Iesu... ond angen mwy o
wybodaeth?Ers rhai blynyddoedd bellach, mae’r
mudiad Open Doors yn cynhyrchu adnoddyn y Gymraeg o’r enw Rhestr
Gwylio’rByd – y 50 Uchaf. Mae’n cynnwysstraeon, lluniau a
gwybodaeth am y 50gwlad yn y byd lle mae’n fwyaf anoddbod yn
Gristion. Mae rhifyn eleni, sy’n seiliedig ar
ymchwil ddibynadwy gan Open Doors, ynfwy nag erioed—gyda chwe
deg tudalen owybodaeth ac ysbrydoliaeth i’ch helpu iweddïo, i
gefnogi ac i siarad ar ran yreglwys sy’n cael ei herlid.Yn ogystal
â gwybodaeth a phwyntiau
gweddi ar gyfer pob un o’r 50 gwlad arfrig y rhestr, mae’n
cynnwys nifer oelfennau eraill, yn erthyglau, straeon,ffotograffau
a’r wybodaeth gefndirangenrheidiol. Mae’r rhifyn hefyd yncynnwys
map rhyngweithiol, gydag unochr ar gyfer oedolion a’r ochr arall
argyfer y teulu cyfan.Mae Rhestr Gwylio’r Byd: Y 50 Uchaf
yn adnodd delfrydol ar gyfer unrhyw unsydd eisiau gwybod rhagor
am y pwysauy mae Cristnogion yn eu hwynebu am
ddilyn Iesu a sut mae’ch cefnogaeth yndod â gobaith iddyn
nhw.
Mae’n cynnwys:
• map rhyngweithiol Rhestr Gwylio’rByd ar gyfer plant ac
oedolion
• gwybodaeth am Gristnogion sy’n caeleu herlid trwy’r byd
• cyflwyniad i Restr Gwylio’r Byd sy’negluro pam ei fod yn
adnodd pwysig
• syniadau ynglªn â beth y gallwn
ei ddysgu gan yr eglwys sy’n cael eiherlid
• gwybodaeth fanwl a phwyntiau gweddipenodol ar gyfer pob un o’r
50 gwlad arfrig y rhestr
• straeon ysbrydoledig a thystiolaeth ganGristnogion sy’n cael
eu herlid
• pedair erthygl fanwl sy’n dod â byd yreglwys sy’n cael ei
herlid yn fyw inni.
Cafodd yr adnodd ei baratoi yn nechrau2020 ond, o ganlyniad i
Covid-19 a’rcyfnod clo, mae gennym ni lawer o gopïauar ôl heb eu
dosbarthu eleni. Os oesgennych ddiddordeb (yn bersonol neu yneich
eglwys / capel) i’w dosbarthu,cysylltwch â mi yn y cyfeiriad isod
gannodi faint yr hoffech eu derbyn a rhoicyfeiriad ar gyfer anfon y
copïau.Nid oes unrhyw gost. Gallwch hefydfynd i’r wefan i archebu
copïau: a gweldfideo byr yn y Gymraeg am y pum gwladar frig y
rhestr.
Pob bendith,
Jim StewartRheolwr Cysylltiadau Eglwys, Cymru
Open Doors UK & IrelandFfôn 01993 460 015E-bost
[email protected] www.opendoorsuk.org
Gweddïo dros yr eglwys sy’n cael ei herlidMentro dilyn Iesu,
beth bynnag fo’r gost
-
Y TraethodyddRhifyn Hydref 2020
A ninnau’n wynebu gaeaf hir danamodau Covid-19, gobeithio y
byddrhifyn cyfredol Y Traethodydd yn eichdiddori a’ch diddanu.
Cerddi trawiadol Derec Llwyd
Morgan yw’r pethau cyntaf yn y rhifynhwn, cerddi serch yn dathlu
bywydpriodasol hir a dedwydd, a chariad ybardd at ei wraig yr un
mor gadarn nawrag erioed. Mae rhywbeth hyfryd yn‘Y Bardd Cwsg,
2020’ a ‘Jane yn Hen’,y ddwy’n clymu argyfwng y Covid agawen Dafydd
ap Gwilym, ac yn dathludedwyddwch priodasol yng nghanolamodau
caethiwus y cyfnod clo. Os oesrhywbeth difyrrus o risqué
ynddynt,gwn y bydd darllenwyr Y Traethodyddyn eu gwerthfawrogi’n
fawr.Gan droi at yr ysgrifau rhyddiaith,
dyma Ceri Davies yn dathlu campBeibl Richard Parry ar
achlysurpedwarcanmlwyddiant ei gyhoeddi, acyn dadansoddi ei gynnwys
yn olau, yngynhwysfawr ac yn hynod afaelgar, trabo Goronwy Wyn
Owen, ein prifarbenigwr ar fywyd a gwaith y Piwritaneirias o
Gynfal, yn trafod ‘MorganLlwyd y Bardd’. Fel rhyddieithwr yrydym yn
meddwl am Morgan Llwyd
fwyaf, awdur y campweithiau Gwaeddyng Nghymru, Llythyr i’r
CymryCariadus a Llyfr y Tri Aderyn, ond cawnddadansoddiad yma o’i
awen ynogystal. Yn dilyn hynny, ceir ail ranysgrif Llion Wigley,
‘Rhyfeddu at yCread: Llenyddiaeth Taith yn yGymraeg, c. 1931–1975’,
sy’n parhaui’n tywys i’r gwledydd Sgandinafaidd,i’r Swistir ac i
fannau eraill. A llawerwedi gorfod hepgor eu gwyliau tramoreleni,
mae’n braf cael teithio i fannaupellennig yng nghwmni
amrywiaethcyfoethog o lenorion ddoe. ‘Gweddi’r Terfyn’ yw un o
gerddi
mwyaf ysgytwol Saunders Lewis, abydd rhai ohonom yn cofio’i
darllen amy tro cyntaf ar dudalennau’rTraethodydd yn 1974, ac yn
cofio hefydy drafodaeth ingol a sbardunodd, gydagAneirin Talfan
Davies, Dewi Z. Phillipsa Bobi Jones, ymhlith eraill, yn
ymatebiddi. Gyda deugain mlynedd a mwywedi mynd heibio, yn ei
ysgrif‘Sylwadau ar “Gweddi’r Terfyn”Saunders Lewis’, mae’r
athronydd a’rdiwinydd John Heywood Thomas yngosod y gerdd yn ei
chyd-destunsyniadol ac yn ein hatgoffa fod eimawredd yn parhau.
Ceir hefyd ysgrifgan y golygydd ar y berthynas rhwngffydd a
diwylliant, pwnc sydd wedi bodo ddiddordeb i ddarllenwyr
ycylchgrawn erioed.
Hyfryd o beth hefyd yw cynnwysadolygiad Richard Owen o
gyfrolDafydd Glyn Jones, Wele Wlad:Ysgrifau ar bethau yng Nghymru,
acymateb D. Hugh Matthews i gampwaithdiweddar John Tudno
Williams,Diwinyddiaeth Paul. Diolchwn eto i staff ymroddgar
Gwasg Gomer am sicrhau bodY Traethodydd yn dal i gael
eigynhyrchu er gwaethaf pwysaurhyfedd y cyfnod Covid. Os
hoffecharchebu copi, gallwch wneudhynny trwy gyfrwng y
wefanwww.ytraethodydd.cymru. Dilynwch nihefyd ar Drydar ac ar
Facebook.Y golygydd yw’r Dr D. Densil
Morgan([email protected]), Y Gilfach,Ffordd y Gogledd,
Llanbedr PontSteffan, SA48 7AJ. Am wybodaethychwanegol gellwch
gysylltu agAlice Williams ([email protected]),Swyddfa Eglwys
Bresbyteraidd Cymru,81 Heol Merthyr, Yr Eglwys Newydd,Caerdydd,
CF14 1DD.
tudalen 6 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Hydref 16, 2020Y PEDAIR
TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t
Mae Cymdeithas y Beibl wedidarparu adnoddau dwyieithog at
eichdefnydd ar gyfer Sul y Beibl –gwasanaeth cyfan, ar gael am
ddimi’w lawrlwytho o’n gwefan:
Mae’r adnoddau yn cynnwyspregeth, adnoddau ieuenctid / plantiau,
gweddïau a fideo. Yn ogystal,efallai y byddech yn mwynhaudarllen
straeon ysbrydoledig o
Tsieina, y Dwyrain Canol, Affrica,Cymru a Lloegr, gan glywed
ffeithiaudiddorol am fywydau pobl adylanwad y Beibl arnynt. Lle
bynnagrydych yn addoli, pa un ai dros y weneu mewn capel neu
eglwys, taflwchgip ar yr adnoddau a’u defnyddio ar‘Sul y
Beibl’.
Sul y Beibl – 25 Hydref!
Cyfeiriad Golygydd Y PEDAIR TUDALEN
Huw Powell-Davies
neu Llifor, 60 Ffordd Rhuthun,Yr Wyddgrug, CH7 1QH
Anfonwch eich erthyglau, hysbysebiona.y.y.b. i’r cyfeiriad
uchod.
Mae’r Pedair Tudalen Gydenwadol yncael eu cynnwys yn rhan o
bapurauwythnosol tri enwad, sef Y Goleuad(Eglwys Bresbyteraidd
Cymru), SerenCymru (Undeb Bedyddwyr Cymru) a’rTyst (Undeb yr
Annibynwyr Cymraeg).
[email protected]
-
Ddechrau Medi bob blwyddyn ers deugainmlynedd bûm yn mynychu
CynhadleddFlynyddol Cymdeithas Brydeinig yTestament Newydd. Nid
oedd moddcynnnal y gynhadledd arfaethedig ynDurham eleni, wrth
gwrs, ac yn lle hynnycafwyd cynhadledd rithiol dros dri
diwrnod.
Tradoddodwyd un o’r prif ddarlithau gan yrAthro Hugh Houghton o
BrifysgolBirmingham a drafododd hanes achynnwys llawysgrif hynafol
o ran o’rTestament Newydd. Palimpsest ydyw, sefllawysgrif sy’n
cynnwys dwy ddogfen, ynaill wedi’i hysgrifennu dros ben y llall.
Ynarferol ceisiwyd dileu’r un gyntaf acychwanegwyd yr ail ar ei
draws yn hytrachnag i gyd-redeg ag ef o’r top i waelod yddalen
wreiddiol.
Enw’r ddogfen dan sylw oedd y CodexZacynthius, wedi’i henwi ar
ôl ynys oddiar arfordir gorllewin Gwlad Groeg.(Fe gofiwch yr helynt
a fu’n ddiweddar pandeithiodd awyren i Gaerdydd oddi yno –enw arall
ar yr ynys yw Zante – a bod rhaio’r teithwyr yn dioddef o’r feirws
cofid 19.)Trosglwyddwyd y ddogfen hon gan uchelwrar yr ynys, y
Tywysog Antoni Comuto, iGadfridog Prydeinig o’r enw ColinMacauley
yn 1820: gfir oedd yntau afeddyliai’r byd o’r Feibl Gymdeithas ac
fe’itrosglwyddodd i’r Gymdeithas honno yflwyddyn ddilynol.
Cyfrol o daflenni o femrwn wedi’u gwauwrth ei gilydd yw codex a
cheir bron i ddaugant ohonynt yn yr enghraifft hon.Cynnwys
gwreiddiol y llawysgrif yw testuny rhan fwyaf o Efengyl Luc
1.1-11.33. Saify testun hwn yng nghanol pob tudalengyda’r hyn a
elwir yn catena (cadwyn), sefdetholion o esboniadau rhai o’r
TadauEglwysig wedi eu hatodi ar dair ochr testunyr Efengyl. Fe’i
dyddir i’r flwyddyn 700.Dyma’r enghraifft gynharaf sy’n wybyddus
i
ni o’r fath gyfuniad ac mae’n unigryw am eibod wedi’i
hysgrifennu mewn priflythrennau, sef yr hyn a elwir yn
unsial.Disodlwyd y dull hwn o gopïo’r TestamentNewydd tua’r ddegfed
ganrif gan yr arfer ogopïo’r testun mewn mân lythrennau tebygi’r
rhai sy’n gyfarwydd i ni heddiw yn eincopïau argraffedig o’n
Beiblau Groeg.Nodwedd arall eithriadol o’r testun hwn ywei sustem o
rannu’r testun i baragraffau fel
yn un o’n llawysgrifauhynaf a phwysicaf, sef yCodex Vaticanus
o’rbedwaredd ganrif.
Llithiadur a gopïwyd yny ddeuddegfed ganrif aorchuddiodd y
testungwreiddiol, ac er pobymdrech dros y ddwyganrif ddiwethaf,
ynarbennig gan yrymchwiliwr testunol gorauym Mhrydain yn
OesFictoria, Samuel PrideauxTregelles o Gernyw (ungyda llaw, a
ddysgodd yGymraeg ochr yn ochrâ’r tair iaith Feiblaiddpan yn
ifanc,) i geisio
dadorchuddio’r testun gwreiddiol yn gyfan,dim ond yn ddiweddar y
llwyddwyd i wneudhynny yn achos y catena.
Pan oedd y Feibl Gymdeithas am godiswm sylweddol o arian i
ariannu CanolfanMari Jones ger Y Bala penderfynwydgwerthu’r ddogfen
bwysig hon, ac erbyn2014 llwyddwyd i gasglu’r £1.1 miliwn yroedd ei
angen i’w ddiogelu yn yr Ynysoeddhyn, ac felly deil yn Llyfrgell
PrifysgolCaergrawnt gyda thrysorau eraill adrosglwyddwyd yno wedi i
Gymdeithas yBeibl adael ei phencadlys yn Llundain yn1985.
Derbyniodd y Sefydliad YsgolheictodTestunol a Golygu Electronig
ymMhrifysgol Birmingham grant o drosdraean o filiwn o bunnoedd i
archwilio achyhoeddi’r ‘r ddwy ran o’r CodexZacynthius, a
chyflogwyd deg i gyflawni’rgwaith dros gyfnod o ddwy
flynedd.Defnyddiwyd technegau diweddarafmultispectral images wrth
dynnu lluniaubob tudalen bron i hanner cant o weithiau,ac mae
llwyddiant eu gwaithi’w weld ar y
we yn y Cambridge Digital Library().
Yn ogystal ceir cyflwyniad iddo ar YouTube. Darlith wedi’i
thraddodi‘n feistrolgargyda thechneg Power Point gan un o’r rhaia
fu’n arolygu’r gwaith oedd hwn, ac i mi hioedd uchafbwynt y
Gynhadledd eleni.
Cyn imi ddiweddu’r tro hwn efallai y byddrhywrai ohonoch am
wybod rhywbeth amgyfraniad y codex dan sylw i’ndealltwriaeth o
destun Efengyl Luc. Felly,cynigiaf enghraifft o hynny’n awr:
arddiwedd y nawfed bennod, adnodau 54 –56, mae Iago ac Ioan yn
gofyn yn ôl y BeiblCymraeg (1620):
‘Arglwydd, a fynni ddywedyd ohonom amddyfod tân i lawr o’r nef,
megis y gwnaethEleias? Ac efe a drodd, ac a’u ceryddoddhwynt; ac a
ddywedodd, Ni wyddoch o baysbryd yr ydych chwi. Canys ni ddaethMab
y dyn i ddistrywio eneidiau dynion,ond i’w cadw’. Nid yw’r
cyfeiriad at Eleiasyn y codex hwn na’r holl o ymateb Iesusy’n
dechrau gyda’r geiriau ‘Ni wyddoch’.Dyma enghraifft hefyd o’r
cysylltiad agosrhwng testun y Codex Vaticanus â’r CodexZacynthius.
Dilyn arweiniad y llawysgrifauhynafol hyn a wnaeth y Beibl
CymraegNewydd hefyd yn yr achos hwn.
John Tudno Williams
Hydref 16, 2020 Y Goleuad 7
Y Silff Lyfrau
Llun: CODEX ZAKYNTHIUS (Hawlfraint Llyfrgell Prifysgol
Caergrawnt)
Llun: Samuel Prideaux Tregelles.Hawlfraint: The Box, Plymouth
City Council
-
8 Y Goleuad Hydref 16, 2020
• Wythnos nesaf – Hanes rhyfeddol Cymry Lerpwl •
Cesar a Christ
EMYN 255: Saif Brenhiniaeth fawr yr Iesu
Drwy gydol ei weinidogaeth gyhoeddussynnwyd ei wrandawyr gan
‘ddoethineb’Iesu. (Math 7:28-29) Wedi iddo ostegu’rstorm ‘synnodd y
bobl a dweud, “Pa fathddyn yw hwn?”’ (8:27) Wedi iachau clafo’r
parlys ‘daeth ofn arnynt, a rhoesantogoniant i Dduw.’ (9:7) Dro
arallrhyfeddodd y tyrfaoedd gan ddweud‘“Ni welwyd erioed y fath
beth yn Israel.”’(9:33) Yn awr, wrth i’r gwrthwynebiadgynyddu ac
wrth i’w elynion gynllwynio,a methu, er eu dichell, i’w faglu,
fe’igadawyd yn gegrwth gan eiriau Iesu.‘Pan glywsant hyn
rhyfeddasant...’(22:22) Yn ddiweddarach roedd ytyrfaoedd yn ‘synnu
at yr hyn yr oedd ynei ddysgu.’ (22:33) Mor ddoeth aphellgyrhaeddol
oedd ei ddysgeidiaethnes iddo daro’i wrthwynebwyr yn fud.‘O’r
diwrnod hwnnw ni feiddiodd neb eiholi ddim mwy.’ (22:46)
GWEDDI
Arglwydd Iesu Grist, ti yw bara’r bywyd.Caniatâ i ni ymborthi
arnat drwy ffydd fely caiff ein heneidiau eu digoni. Ti ywgoleuni’r
byd. Caniatâ i ni adnabod dylewyrch a’th ganlyn o dywyllwch i
oleuni.Ti yw’r drws. Caniatâ i ni nesáu at y Taddrwot ti. Arglwydd,
ti yw’r bugail da.Caniatâ i ni gael ein harwain gennytgerllaw y
dyfroedd tawel, drwy lyncysgod angau, i breswylio gyda thi ambyth.
Arglwydd, ti yw’r atgyfodiad a’rbywyd. Caniatâ i ni ganfod bywyd
allawnder tragwyddol ynot ti. Arglwydd, tiyw’r ffordd a’r
gwirionedd a’r bywyd.Caniatâ i ni rodio dy lwybrau, adnaboddy
wirionedd, profi bywyd dy YsbrydGlân, er mwyn a thrwy Iesu
Grist.Amen.
DARLLEN: Mathew 22:15-22)Talu trethi i Gesar
Nid yw pob un sy’n dod at Iesu mewngwirionedd am ddysgu ganddo.
Methiantfu ymdrech y Prif Offeiriaid a’r Henuriaidi’w faglu. Yn
wir, yn dâl am eu hymdrech iganfod ei fesur, clywsant dair
damegoedd yn eu disgrifio fel meibionamharod, fel tenantiaid
anonest athreisgar, fel gwahoddedigion i’r wledd aamharchodd eu
meistr. A’u hymateb ieiriau Iesu oedd eu bod am ‘geisio eiddal, ond
yr oedd arnynt ofn.’
Methiant ymdrechion y Phariseaid i’wfaglu sydd i’w weld yma. A
chânthwythau eu cystwyo’r un mor rasol-llym
a’r Sadwceaid. Oedd, roedd y Phariseaidyn bobl oedd yn cymryd eu
crefydd a’rysgrythurau o ddifri; eu hawydd oeddceisio bod yn bur,
ac roeddynt ynneilltuol yn eu sêl dros Dduw. (23:1-36)Dyhead yr
Herodianiaid oedd i weld‘Israel Rydd’ dan lywodraeth un o linacha
thras Herod.
A’r grachen a ddewiswyd i’w grafu ermwyn dal Iesu oedd yr angen
i dalutrethi i Rufain. Gallwn eu dychmygu’nclosio at Iesu’n wên i
gyd, yn fêl i gyd acyn llawn ffalster. Os nad oedd modd eiddal drwy
rym statws ac awdurdod yrArchoffeiriad efallai bod modd ei
ddaldrwy’r drws cefn. (22:16)
Lle methodd bygythiad beth am dipynbach o olew ffalster i iro’r
sgwrs?
Dangosir yn yr adnodau bod agwedd yPhariseaid a’r Herodianiaid
yn gwblgroes i’r hyn yr oeddynt yn canmol Iesuamdano. Yn wahanol i
Iesu nid oeddyntyn ‘gwbl eirwir wrth ddysgu ffordd Duwyn unol â’r
gwirionedd.’ Onid oeddyntwedi gosod ‘traddodiad yr hynafiaid’
oflaen ufudd-dod i Dduw? Nid oeddynt ynddi-dderbyn-wyneb ac yn sicr
roeddarnynt ofn y bobl!
Am ei fod yn adnabod yr hyn sydd mewnpobl deallodd Iesu ar un
waith beth oeddamcan eu hymweliad a’u cwestiynucyhoeddus. Deallodd
mai bwriadpysgotwyr neu helwyr medrus oedd yngyrru eu ‘cynllwynio
sut i’w rwydo ar air.’(ad 16) Deallodd mai ‘rhoi prawf’ arnooedd eu
bwriad ac mai mewn rhagrith ydaethant ato. (ad 18)
Mae ateb Iesu i’r cwestiwn am dalu trethii Gesar nid yn unig yn
cynnig atebpellgyrhaeddol yn wleidyddol ond hefydyn cynnig agwedd
meddwl a disgwyliadsy’n chwyldroi gwerthoedd a moes
acymddygiad.
Wedi edrych ar y darn arian gofynnoddIesu iddynt, ‘“Llun ac
arysgrif pwy syddyma?” Dywedasant wrtho “Cesar.”Yna meddai wrthynt
“Talwch bethauCesar i Gesar, a phethau Duw i Dduw.”’
Oes mae gan ‘Gesar’, sy’n cynrychioliteyrnasoedd y byd, hawliau
gwleidyddol.
Ond nid digon yw ateb yn slic bod ganDduw ei hawliau hefyd. Nid
digon yw talugwrogaeth â’n gwefusau, na chadwgofynion allanol rhith
grefydda. Mewnanerchiad yn Llundain clywais ycyn-Archesgob Rowan
Williams yn gofyni Aelodau Seneddol a llywodraethwyr iystyried
hyn.
Ar y darn arian a gyflwynwyd iddo roedd
‘delw’ Cesar yn cyhoeddi ei lywodraetha’i arglwyddiaeth a’i
hawl.
Ymhle mae gweled ‘delw Duw’ ond yn yddynoliaeth a grëwyd ar ei
lun a’i ddelwei hun? Ymhle ond yn y bod rhyfeddolhwn a grëwyd
‘ychydig is na’r angylion’ond sy’n fynych yn ymddwyn ynfwystfilaidd
anwar?
Y mae ystyriaethau pellgyrhaeddol i’rgosodiad syml hwn am dalu
pethau Duwi Dduw. Yn wleidyddol golyga bod ganlywodraethau fandad i
lywodraethu. Ondmae gan lywodraethwyr gyfrifoldeb hefydi
anrhydeddu’r rhai sy’n dwyn delw Duw.Llywodraethu gerbron Duw fel
rhai sy’natebol i Dduw a wnânt. Ac y maehynny’n effeithio’n
polisïau rhyngwladol,cenedlaethol a lleol. Nid cyfleustra ondurddas
y bobl y maent yn eugwasanaethu yw’r gwerthoedd sylfaenolddylai ei
gyrru.
Mae’r un peth yn wir am gyflogwyr ac amy rhai a gyflogir. Nid
peiriant economaidddi-wyneb yw polisïau economaidd ondgrym sydd
naill ai’n anrhydeddu delwDuw neu’n ei ddianrhydeddu, yn rhoiurddas
neu’n ei sarhau. A gellir datblyguhyn i gynnwys unrhyw sefydliad
mewnunrhyw faes a ddewiswn.
Yn wyddonol, yn dechnolegol ac ynfeddygol pobl ar lun a delw Duw
yrydym yn ymdrin â nhw nid algorithmaudifywyd. Ac y mae cyfrifoldeb
arnom ibarchu ac i anrhydeddu pob un o’rmwyaf diymadferth ar
ddechrau bywydhyd y mwyaf bregus ar ddiweddoes. Haedda pob un ei
barchu a’iamddiffyn.
Ac yn bersonol, wrth i ni ymwneud ageraill nid oes unrhyw le i
drais corfforolna geiriol wrth i ni drin gfir neu wraig,blentyn neu
riant. Gwadu bwriadaugrasol y crëwr yw ymagweddu treisiol.Yn ein
disgwrs gyfoes rhwydd yw llithro idon o gynddaredd wrth ymdrin â
phoblyr ydym yn llwyr anghytuno â nhw.A ydych yn cytuno bod lle i
ofni bod yffordd y defnyddir geiriau i dwyllo,camarwain, neu
ddiraddio’rgwrthwynebydd ar gynnydd a dicter yntorri llyffetheiriau
cwrteisi ac urddasiaith?
Na. ‘Talwch bethau Cesar i Gesar aphethau Duw i Dduw.’
Ystyriwn beth yw oblygiadau hynny ynein bywydau ni heddiw?
Gweddi a myfyrdod tawel
EMYN 103: Ti, Arglwydd, a greodd ybydoedd
Dyma gyfarfod hyfryd iawn…
Os na nodir yn wahanol nid yw barn y cyfranwyr o angenrheidrwydd
yn farn y golygydd na’r Gymanfa Gyffredinol.Anfoner pob gohebiaeth,
newyddion, ysgrifau, a.y.y.b. at y Parch. Ddr. R. Watcyn James,
Eryl, Capel Bangor, Aberystwyth SY23 3LZ. e-bost:
[email protected]
Cyhoeddwyd gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac argraffwyd gan Wasg
y Bwthyn, Caernarfon.