Dydd Mawrth 25ain Ebrill 6pm-7pm yn Archifau Sir Ddinbych, Yr Hen Garchar, Rhuthun Cost £2 (i ddim aelodau), te a choffi ar gael i archebu lle ffoniwch 01824 708250 neu ebostiwch [email protected] CYFEILLION ARCHIFAU CLWYD - DARLITH “Rhentu ceiliogod, llestri arian a seddi Eglwys a oedd yn hyrwyddo statws parch ac awdurdod yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, tua 1500-1700 - cipolwg ar Archif Teulu Mostyn”. Gan Dr. Shaun Evans, BA (Caerefrog), PhD (Bangor). Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn Mhrifysgol Bangor a Cadei- rydd Fforwm treftadaeth Gogledd Dwyrain Cymru O ddiwedd y cyfnod canoloesol hyd at ddechrau’r ugeinfed ganrif roedd y rhan fwyaf o dir Gogledd Ddwyrain Cymru yn eiddo i ystadau megis Y Waun, Hanmer, Cinmel, Lleweni, Plas-y-Ward, Trefalun ac Wynnstay. Tra bu’r ystadau hyn yn weithredol llwyddodd y mwyafrif o ystadau i gadw casgliadau helaeth o gofnodion, yn manylu ar y dylanwadau yr oedd ganddynt o fewn ystod eang o feysydd gwahanol, megis gwleidyddiaeth, crefydd, rhyfel a diwylliant, yn ogystal â phensaernïaeth, diwylliant, ffermio a llenyddiaeth. Cedwir y mwyafrif o’r casgliadau hyn bellach mewn archifdai cyhoeddus ac maent yn adnodd gwych ar gyfer ymchwilio i hanes Cymru. Bydd y ddarlith hon yn trafod cofnodion o archif Mostyn i arddangos rhai o’r dulliau mwyaf arloesol i foneddigion Gogledd Ddwyrain Cymru eu defnyddio i geisio hyrwyddo eu statws, parch ac awdurdod yn ystod yr 16 ac 17 gan- rif.