Cyfansoddiad UMCA (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth) Hydref 2012
Cyfansoddiad UMCA Hydref 2012
1
Cynnwys:
1. Cyffredinol
2. Amcanion
3. Strwythyr Cyfansoddiad
4. Iaith
5. Aelodaeth
6. Hawliau‟r Aelod
7. Cyfarfodydd Cyffredinol
8. Dogfen Bolisi
9. Swyddogion Gweithredol
10. Is-bwyllgorau UMCA
11. Cyhoeddiadau UMCA
12. Pwyllgorau‟r Brifysgol 13. Datgysylltu
Rheolau:
Rheol 1: (tudalen 5)
1. Cyfarfodydd Cyffredinol
2. Hysbysiad ac Agenda
3. Cworwm
4. Cyfarfodydd Cyffredinol Brys
Rheol 2: (tudalen 7)
1. Pwyllgor Gwaith
2. Pwyllgor Gwaith – swyddogaethau a chyfrifoldebau
Rheol 3: (tudalen 8)
1. Etholiadau
2. Hysbysu‟r Etholiadau
3. Ymgeiswyr
4. Hystingau
5. Pledleisio
6. Cwynion
7. Isetholiad
Rheol 4: (tudalen 10)
1. Cymdeithasau
Rheol 5: (tudalen 11)
1. Rheolau Sefydlog (Cyfarfod Cyffredinol)
2. Agenda
3. Cynigion
4. Mater o Wybodaeth
5. Pledleisio
Cyfansoddiad UMCA Hydref 2012
2
1 Cyffredinol 1.1 Dyma gyfansoddiad Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) a thrwy hyn
diddymir holl gyfansoddiadau blaenorol UMCA.
1.2 Mae UMCA yn uned gyswllt o Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth (UMPA).
2 Amcanion
2.1 Amcanion UMCA yw:
2.1.1 Hyrwyddo cydweithrediad rhwng yr aelodau
2.1.2 Diogelu a hyrwyddo buddiannau academaidd, diwylliannol, cymdeithasol ac
athletaidd yr aelodau
2.1.3 Darparu cymorth a chyngor i les yr aelodau
2.1.4 Cynrychioli‟r aelodau mewn unrhyw fater sy‟n effeithio eu profiad
academaidd.
3 Strwythur y Cyfansoddiad
3.1 Cyfansoddiad
Mae‟r rhan hon yn cynnwys hawliau a chyfrifoldebau UMCA a gellir gwneud
newidiadau trwy‟r Cyfarfodydd Cyffredinol
3.2 Rheolau
Mae‟r rhan hon yn gosod y rheolau o sut i weithredu prosesau a strwythur
democrataidd UMCA. Gwneir newidiadau gan Bwyllgor Gwaith UMCA, yn amodol
ar gadarnhad y Cyfarfod Cyffredinol.
3.3 Adolygiad
Mi fydd y Llywydd yn taro golwg ar y cyfansoddiad o leiaf unwaith y flwyddyn i
adolygu‟r cyfansoddiad a chynnig newidiadau i‟r Pwyllgor Gwaith ac aelodau.
4 Iaith
4.1 Cymraeg fydd iaith weinyddol yr Undeb.
4.2 Lle mae‟n rhaid gohebu mewn iaith arall, dylid gofalu fod y llythyr yn ddwyieithog
gyda‟r Gymraeg yn cael blaenoriaeth.
4.3 Darparir gwasanaeth cyfieithu i‟r Saesneg i aelodau yn ystod cyfarfodydd UMCA os
gwneir cais o flaen llaw.
5 Aelodaeth
5.1 Mae‟r holl fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan gynnwys
swyddogion sabothol UMPA, neu Goleg Ceredigion yn gymwys i ymaelodi ag
UMCA.
5.2 Mi fydd yna ffi aelodaeth yn daladwy pob blwyddyn a phenderfynir ar faint y ffi gan
Lywydd UMCA.
6 Hawliau’r Aelodau
6.1 Dim ond aelodau sy‟n cael:
6.1.1 mynychu cyfarfodydd UMCA;
6.1.2 pleidleisio yng Nghyfarfodydd Cyffredinol UMCA;
6.1.3 cyflwyno cynigion neu faterion i Gyfarfodydd Cyffredinol UMCA;
6.1.4 sefyll mewn etholiad ar gyfer sedd ar Bwyllgor Gwaith UMCA;
6.1.5 pleidleisio yn Etholiadau UMCA;
6.1.6 cymryd rhan mewn achlysuron a drefnir gan UMCA.
7 Cyfarfodydd Cyffredinol
7.1 Y Cyfarfodydd Cyffredinol yw corff llywodraethol UMCA.
7.2 Mi fydd y Cyfarfodydd Cyffredinol yn sefydlu a ffurfio polisïau UMCA.
7.2 Dim ond aelodau sydd â‟r hawl i fynychu cyfarfodydd, oni bai y cytunir ar hawliau
presenoldeb a/neu siarad i unigolion eraill gan y cyfarfod.
Cyfansoddiad UMCA Hydref 2012
3
7.4 Gall unrhyw aelod o UMCA godi mater mewn Cyfarfod Cyffredinol ar gyfer
ystyriaeth.
7.5 Rhaid cynnal Cyfarfod Cyffredinol o leiaf unwaith gwaith y flwyddyn gydag o leiaf un
yn y semester cyntaf.
8 Dogfen Bolisi
8.1 Dalir holl bolisïau UMCA mewn un Ddogfen Bolisi.
8.2 Cyflwynir y Ddogfen Bolisi i gyfarfod cyffredinol cyntaf y flwyddyn academaidd er
mwyn ei hadolygu.
8.2.1 Mi fydd polisïau yn darfod ar ôl y drydedd flwyddyn ers eu derbyniad
gwreiddiol. Mi fydd yr holl bolisïau sydd wedi darfod ers yr adolygiad
diwethaf yn cael eu cyflwyno i‟r Cyfarfod Cyffredinol. Dylai‟r rhain fod ar
gael i aelodau o leiaf 24 awr cyn dechrau‟r cyfarfod.
8.2.2 Os nad oes cynnig i arbed y polisi mi fydd yr holl bolisïau sydd wedi darfod
yn cael eu dileu ar ddiwedd y Cyfarfod Cyffredinol.
8.2.3 I arbed polisi, rhaid cyflwyno cynnig (ar lafar) yn ystod y cyfarfod yn cefnogi
parhad y polisi.
8.2.4 Gellir cael un araith o blaid y polisi ac un araith yn erbyn y polisi cyn i‟r
Cyfarfod Cyffredinol bleidleisio ar y mater.
8.2.5 Mae angen mwyafrif syml i gadw polisi am dair blynedd ychwanegol.
8.3 Mae‟r Pwyllgor Gwaith yn gyfrifol am sicrhau fod y ddogfen yn cael ei diweddaru yn
dilyn pob Cyfarfod Cyffredinol.
9 Is-bwyllgorau UMCA
9.1 Mi fydd yna is-bwyllgorau i ddelio â materion penodol o gyfrifoldeb fel y diffinnir gan
Gyfarfod Cyffredinol UMCA.
9.2 Is-bwyllgorau Cyfarfod Cyffredinol UMCA fydd:
10.2.1 Pwyllgor Gwaith UMCA
11 Cyhoeddiadau UMCA
11.1 Mi fydd yna gyhoeddiadau UMCA gan gynnwys:
11.1.1 Yr Utgorn – cyfnodolyn UMCA wedi‟i gynhyrchu yn ystod tymor
11.1.2 Llais y Lli – cyhoeddiad blynyddol ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol
Nid yw‟r rhestr hon yn holl gynhwysfawr
11.2 Mae Golygydd Yr Utgorn, a fydd yn eistedd ar Bwyllgor Gwaith UMCA, yn gyfrifol
am sicrhau fod pob cyhoeddiad yn cyrraedd safon dderbyniol.
11.3 Mae angen i‟r Llywydd darllen trwy‟r cyhoeddiadau‟n ddrylwyr cyn iddynt gael ei
brintio. Mae hawl gan y Llywydd newid/dileu unrhyw beth sydd yn anaddas, neu sy‟n
torri un o bolisïau UMCA neu UMPA.
12 Pwyllgorau’r Brifysgol
12.1 Mi fydd Llywydd UMCA yn cynrychioli‟r aelodau ar nifer o bwyllgorau‟r Brifysgol. Er
mae‟r pwyllgorau‟n amrywio o flwyddyn i flwyddyn, annatod o bwysig yw
presenoldeb Llywydd UMCA ar y canlynol:
12.1.1 Cyngor
12.1.2 Senedd
12.1.3 Pwyllgor Cyllid ac Amcanion Cyffredinol
12.1.4 Pwyllgor Strategol Y Gymraeg
12.1.5 Pwyllgor Y Gangen (CCC)
Cyfansoddiad UMCA Hydref 2012
4
13 Datgysylltu
13.1 Os ar unrhyw adeg mae aelodau UMCA yn anhapus am eu cysylltiad ag UMPA yna
gellir gwneud penderfyniad i ddatgysylltu gyda mwyafrif syml mewn dau Gyfarfod
Cyffredinol UMCA yn olynol gyda chworwm.
13.2 Os gwneir penderfyniad i ddatgysylltu fel y disgrifir yn 13.1 mi fydd Llywydd UMCA
yn gofyn am gyngor Cofrestrydd y Brifysgol ar y sefyllfa.
13.3 Yn dilyn datgysylltiad:
13.3.1 mi fydd yn rhaid i UMCA gyllido ei hun
13.3.2 ni fydd UMCA yn gallu defnyddio adnoddau UMPA
13.3.3 ni fydd UMCA yn cael ei gynrychioli gan swyddog sabothol
13.4 Gall unrhyw aelod UMCA gynnig mesur datgysylltiad.
Cyfansoddiad UMCA Hydref 2012
5
RHEOL 1 Cyfarfodydd Cyffredinol
1 Cyffredinol
1.1 Gellir galw Cyfarfod Cyffredinol gyda:
1.1.1 mwyafrif syml ymysg Pwyllgor Gwaith UMCA
1.1.2 deiseb wedi‟i arwyddo gan 15% o aelodau UMCA.
2 Hysbysiad ac Agenda
2.1 Mi fydd hysbysiad o‟r Cyfarfod Cyffredinol yn cael ei arddangos pum diwrnod llawn
cyn y cyfarfod.
2.2 Mi fydd yr hysbysiad yn cynnwys amser, dyddiad a lleoliad y cyfarfod yn ogystal â
dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cynigion.
2.3 Dylid cyflwyno cynigion i unrhyw aelod o Bwyllgor Gwaith UMCA o leiaf 48 awr cyn
dechrau‟r cyfarfod.
2.4 Mi fydd Agenda‟r cyfarfod yn cael ei gyhoeddi o leiaf 24 awr cyn dechrau‟r cyfarfod
ac mi fydd yn cynnwys rhestr lawn o‟r cynigion i‟w hystyried yn ogystal â chrynodeb
o bob cynnig.
2.5 Mi fydd yr Hysbysiad a‟r Agenda i bob Cyfarfod Cyffredinol yn cael eu hysbysebu a‟u
harddangos yn eang er mwyn sicrhau fod pob aelod yn ymwybodol o‟r cyfarfod a‟r
cynigion sydd i‟w hystyried.
3 Cynigion
3.1 Gall unrhyw aelod UMCA gyflwyno cynnig mewn Cyfarfod Cyffredinol.
3.2 Rhaid i bob cynnig cael cynigydd a chefnogwr, sy‟n gorfod arwyddo‟r ffurflen
gyflwyno a chynnwys rhif eu Haelodaeth UMCA.
3.3 Addasiadau Cyfansoddiadol
3.3.1 Rhaid cyflwyno cynnig a fydd yn achosi newid yn y cyfansoddiad i Gyfarfod
Cyffredinol fel “Addasiad Cyfansoddiadol” a dylai gyfeirio at y rhan benodol
a‟r geiriad yn y cyfansoddiad y mae‟n ceisio‟i addasu.
3.3.2 Rhaid cyflwyno addasiad cyfansoddiadol cyn y cyfarfod ac ymddangos ar yr
Agenda fel addasiad.
3.3.3 Cyn y gellir rhoi addasiad cyfansoddiadol ar waith rhaid ei basio gan fwyafrif
o ddau draean mewn un Cyfarfod Cyffredinol UMCA yn olynol gyda
chworwm.
3.4 Cynnig o Ddiffyg Hyder
3.4.1 Rhaid i gynnig o ddiffyg hyder mewn aelod o Bwyllgor Gwaith UMCA gael
mwyafrif o ddau draean mewn dau Gyfarfod Cyffredinol UMCA yn olynol
gyda chworwm.
3.4.2 Caiff aelod o Bwyllgor Gwaith UMCA sydd wedi derbyn cynnig o ddiffyg
hyder eu diswyddo o‟u swydd ar ddiwedd yr ail Gyfarfod Cyffredinol a
chychwynnir proses yr isetholiad fel y disgrifir yn Rheol 3. Gall y swyddog
sydd wedi‟i diswyddo ail-sefyll yn yr isetholiad.
3.4.3 Rhaid cyflwyno‟r cynnig o ddiffyg hyder cyn y cyfarfod ac ymddangos ar yr
Agenda.
3.5 Cynnig o Gerydd
3.5.1 Rhaid i gynnig o gerydd mewn aelod o Bwyllgor Gwaith UMCA yn y cyfarfod
cyffredinol gael mwyafrif o ddau draean mewn un Cyfarfod Cyffredinol.
3.5.2 Mi fydd yr aelod o Bwyllgor Gwaith UMCA sydd wedi derbyn cynnig o
gerydd yn rhoi ymddiheuriad cyn y Cyfarfod Cyffredinol neu bydd disgwyl
iddynt ymddiswyddo.
3.5.2 Rhaid cyflwyno‟r cynnig o gerydd cyn y cyfarfod ac ymddangos ar yr Agenda.
Cyfansoddiad UMCA Hydref 2012
6
4 Cworwm
4.1 Cworwm y Cyfarfodydd Cyffredinol yw 30% o aelodaeth UMCA
4.2 Mi fydd y Pwyllgor Gwaith yn cyfrif faint sy‟n bresennol ar ddechrau‟r cyfarfod.
5 Cyfarfodydd Cyffredinol Brys
5.1 Gellir galw Cyfarfod Cyffredinol Brys trwy roi rhybudd o 24 awr. Gellir galw CCB
fel y disgrifir yn Rheol 1 (1.1).
5.2 Gall CCB ond ystyried y materion y cafodd y cyfarfod ei alw i‟w hystyried. Ni fydd
unrhyw gynigion na materion eraill yn cael eu trafod.
5.3 Ni all CCB addasu‟r Cyfansoddiad.
Cyfansoddiad UMCA Hydref 2012
7
RHEOL 2 – Pwyllgor Gwaith
1.1 Mi fydd gan UMCA Bwyllgor Gwaith ac mi fydd yn:
1.1.1 cynrychioli a gwasanaethu buddiannau‟r aelodau;
1.1.2 gweithredu polisi UMCA;
1.1.3 cael eu dal yn gyfrifol gan y Cyfarfod Cyffredinol;
1.1.4 dal grym y Cyfarfod Cyffredinol dros dro (ond ni allai ddileu nag addasu
unrhyw benderfyniad a wneir gan y Cyfarfod Cyffredinol).
1.2 Caiff pob swydd ar y Pwyllgor Gwaith ei dal am flwyddyn academaidd, gan ddechrau
ym mis Medi.
1.3 Cynhelir cyfarfodydd pob pythefnos yn ystod y tymor.
1.4 Cworwm y cyfarfodydd yw dau draean o‟r Pwyllgor Gwaith.
1.5 Os fydd aelod o‟r PG yn methu tri chyfarfod yn olynol heb eglurhad ystyrir eu bod
wedi ymddiswyddo o‟r Pwyllgor.
2 Pwyllgor Gwaith – swyddogaethau a chyfrifoldebau
Mi fydd y Pwyllgor Gwaith yn cynnwys y canlynol
2.1 Llywydd UMCA
Wedi’i ethol gan aelodau UMPA yn ôl Erthyglau Cymdeithasiad a Rheol 2 UMPA.
2.2 Is- Lywydd
Mae‟r Is-lywydd yn cynorthwyo‟r llywydd gyda gweithred cyffredinol yr Undeb
Yn absenoldeb y Llywydd mi fydd yr Is-Lywydd yn Cadeirio unrhyw Gyfarfodydd
Cyffredinol neu gyfarfodydd y Pwyllgor Gwaith a gynhelir.
2.3 Swyddog Yr Iaith Gymraeg
Mi fydd Swyddog yr Iaith Gymraeg Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn aelod
o Bwyllgor Gwaith UMCA gyda hawliau siarad a phleidleisio llawn.
2.4 Swyddog RAG
Yn gyfrifol am drefnu gweithgareddau elusennol UMCA gan gynnwys wythnos
RAG. Mi fydd yn cynghori‟r Llywydd a‟r Pwyllgor Gwaith ar y ffordd orau o
ddosbarthu‟r arian a gasglwyd. Mi fydd deiliad y swydd yn Cadeirio‟r pwyllgor RAG
a chyfathrebu gyda phwyllgor RAG UMPA.
2.5 Swyddogion Ail Iaith
Yn gyfrifol am drefnu dosbarthiadau a gweithgareddau dysgu Cymraeg yn ystod y
flwyddyn academaidd. Rôl y swyddogion unigol yw sicrhau bod cynnwys y gwersi
Cymraeg yn addas i‟r lefel o ddysgwr sy‟n mynychu‟r gwersi.
2.6 Swyddog Addysg
Yn gyfrifol am ddelio a materion Addysg ar gyfer aelodau UMCA. Dylid cydweithio
gyda Llywydd UMCA a Swyddog Addysg yr Undeb Myfyrwyr i sicrhau cysylltiad cryf
gyda‟r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
2.7 Golygydd Yr Utgorn
Yn gyfrifol am olygu‟r cyhoeddiad a sicrhau bod o leiaf un rhifyn yn cael ei gyhoeddi
ym mhob tymor academaidd, ac yn cynorthwyo‟r Llywydd wrth iddi/o greu „Llais y
Lli‟. Pwysig yw cofio fod y Llywydd sydd yn cael y prif hawliau golygu dros yr Utgorn
ac mae hawl iddi/o newid unrhyw beth yn y rhifyn cyn i‟r rhifyn cael ei gyhoeddi.
2.8 Swyddog Gweithgareddau Amgen
Yn sicrhau fod gweithgareddau amrywiol yn cael ei gynnal o fewn UMCA sydd yn
apelio at bob aelod o UMCA boed yn byw ym Mhantycelyn neu yn rhan o‟n
gymuned ail iaith/rhyngwladol. Blaenoriaeth y swyddog yma fydd i gynrychioli a
thargedi'r aelodau yma yn benodol, a sicrhau gweithgareddau di-alcohol i bawb fel
bod modd i UMCA dyfu fel undeb aeddfed a chyflawn.
2.9 Cynrychiolydd y Flwyddyn Gyntaf
Etholir gan fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf ar ddechrau‟r flwyddyn academaidd ac yn eu
cynrychioli ar y Pwyllgor Gwaith. Rhaid i ddeiliad y swydd fod yn aelod yn eu
blwyddyn gyntaf.
Cyfansoddiad UMCA Hydref 2012
8
RHEOL 3 – Etholiadau
1 Etholiadau
1.1 Mae‟r Pwyllgor Etholiadau yn gyfrifol am weithrediad cywir holl etholiadau UMCA.
2 Hysbysebu’r Etholiadau
2.1 Rhaid arddangos hysbysebion o etholiad a galw am enwebiadau o leiaf diwrnod cyn
dyddiad cau enwebiadau.
2.2 Rhaid i ddyddiad cau enwebiadau fod o leiaf 2 ddiwrnod cyn Hystings.
2.3 Rhaid hysbysebu enwau‟r ymgeiswyr ar gyfer pob swydd a dyddiad yr etholiad o leiaf
1 diwrnod cyn Hystings.
2.4 Dim ond yn ystod tymor y dylid cynnal etholiadau a ni ellir eu cynnal ar ddydd
Sadwrn neu ddydd Sul.
3 Ymgeiswyr
3.1 Dim ond aelodau UMCA sy‟n gallu sefyll am swydd ar y Pwyllgor Gwaith.
3.2 Nid oes gan unrhyw un yr hawl i ddal mwy nag un swydd ar Bwyllgor Gwaith UMCA
ar yr un pryd.
3.3 Mae‟n rhaid i ymgeiswyr pob swydd gymryd rhan yn Hystings UMCA.
3.4 Mi fydd Ailagor Enwebiadau (AE) yn cael ei gynnwys ym mhob etholiad
3.5 Os ni dderbynnir enwebiadau ar gyfer rhai o‟r swyddi erbyn dyddiad cau enwebiadau
yna gall y Pwyllgor Gwaith ymestyn y cyfnod enwebiadau am ddim mwy na 48 awr
cyn belled nad yw estyniad o‟r fath yn oedi‟r dyddiad a hysbysebwyd ar gyfer yr
etholiad.
4 Hystings
4.1 Caiff pob ymgeisydd draddodi araith nad yw‟n hirach na 3 munud.
4.2 Rhaid i gwestiynau i‟r ymgeiswyr fod ar bapur ac wedi‟u cyflwyno i‟r Pwyllgor Gwaith
i‟w cymeradwyo, ond bod yr ymgeiswyr yn hapus i gymryd cwestiynau yn y fan a‟r
lle.
5 Pleidleisio
5.1 Mi fydd etholiadau UMCA yn defnyddio system y bleidlais sengl drosglwyddadwy
(PSD).
5.2 Mae PSD yn gweithio fel a ganlyn:
5.2.1 Mae‟r pleidleiswyr yn gosod yr ymgeiswyr mewn trefn yn ôl blaenoriaeth,
gan ddefnyddio 1 ar gyfer eu dewis cyntaf, 2 am yr ail ac yn y blaen.
5.2.2 Cyfrifir y cwota yn ôl Cyfanswm Pleidleisiau Dilys wedi‟i rannu (gyda‟r
Nifer o Swyddi Sydd ar Gael (fel arfer 1 ar gyfer etholiadau UMCA) adio
1) adio 1
5.2.3 Wrth gyfrif y pleidleisiau dylai‟r Pwyllgor Etholiadau gyfrif y nifer o
ddewisiadau cyntaf a dderbyniodd pob ymgeisydd.
5.2.4 Os oes unrhyw ymgeisydd yn cyrraedd y Cwota yna cyhoeddir y person
yna‟n fuddugol.
5.2.5 Os nad oes unrhyw ymgeisydd yn cyrraedd Cwota, caiff yr ymgeisydd gyda‟r
nifer lleiaf o bleidleisiau ei ddileu a throsglwyddir eu pleidleisiau hwy i‟r
dewis nesaf ar y papur pleidleisio.
5.2.6 Os mai dim ond dau ymgeisydd sydd ar ôl ac nid yw‟r un o‟r ddau wedi
cyrraedd Cwota, etholir yr ymgeisydd gyda‟r nifer fwyaf o bleidleisiau.
5.2.7 Os yw dau ymgeisydd yn derbyn yr un nifer o bleidleisiau ar unrhyw adeg, mi
fydd yr ymgeisydd gyda‟r nifer lleiaf o bleidleisiau dewis cyntaf yn cael ei
ddileu. Os yw‟n gyfartal, dylid cynnal ail etholiad.
5.3 Mae gan bob ymgeisydd neu gynrychiolydd ymgeisydd yr hawl i fod yn bresennol yn
ystod y broses o gyfrif y pleidleisiau ar gyfer eu hetholiad.
Cyfansoddiad UMCA Hydref 2012
9
5.4 Cyhoeddir canlyniadau‟r etholiad o fewn 48 awr i‟r pleidleisio.
5.5 Cyhoeddir canlyniadau llawn yr etholiad gan y Pwyllgor Etholiadau yn dilyn y
cyhoeddiad yn 6.4.
6 Cwynion
6.1 Dylai holl gwynion am yr etholiadau fod ar bapur a‟u cyflwyno i‟r Pwyllgor Gwaith
cyn cyhoeddiad y canlyniadau.
6.2 Rhaid i‟r gwyn gynnwys enw llawn, enw llawn a chyfeiriad e-bost myfyriwr yr
achwynydd. Ni fydd cwynion dienw yn cael eu hystyried.
6.3 Mi fydd y Pwyllgor Gwaith yn gwrando ar unrhyw gwyn a dderbyniwyd a gall y
pwyllgor benderfynu galw ymgeisydd i ateb cyhuddiadau.
6.4 Gall y Pwyllgor Gwaith benderfynu dweud y drefn wrth ymgeisydd, diarddel
ymgeisydd neu annilysu‟r etholiad perthnasol ac ail gynnal yr etholiad cyn gynted ag y
bo modd.
6.5 Os yw‟r gwyn yn cyfeirio at benderfyniad neu weithred gan y Pwyllgor Gwaith yna
caiff y gwyn ei phasio ymlaen i Lywydd UMCA a fydd yn cyflwyno‟r gwyn i gyfarfod
brys o Bwyllgor Gwaith UMCA. Gall y Pwyllgor benderfynu gwrthod y gwyn neu
annilysu‟r etholiad perthnasol a gwneud cais i ail gynnal yr etholiad cyn gynted ag y
bo modd.
7.0 Is-etholiad
7.1 Os fydd sedd ar Bwyllgor Gwaith UMCA yn dod yn wag o ganlyniad i ymddiswyddiad
neu i dderbyn Cynnig o Ddiffyg Hyder yna cynhelir isetholiad cyn gynted ag y bo
modd.
7.2 Y Pwyllgor Gwaith fydd yn penderfynu dyddiad yr is-etholiad.
7.3 Mi fydd holl reolau etholiadau fel y disgrifir yn Rheol 3 yn berthnasol i‟r isetholiad ac
eithrio:
8.3.1 Arddangosir hysbysiadau a‟r galwad am enwebiadau o leiaf 3 diwrnod cyn
dyddiad cau enwebiadau.
Cyfansoddiad UMCA Hydref 2012
10
RHEOL 4 – Cymdeithasau
1.1 Nid oes modd i unrhyw cymdeithas/clwb sydd yn ymwneud ag UMCA defnyddio
enw, adnoddau neu gyllid UMCA heb ganiatâd y llywydd oherwydd nid oes unrhyw
gymdeithas/clwb yn gyswllt ffurfiol ag UMCA.
Cyfansoddiad UMCA Hydref 2012
11
RHEOL 5 – Rheolau Sefydlog (Cyfarfodydd Cyffredinol)
5.1 Cadeirydd
5.1.1 Gall y Cadeirydd:
a) Gyfyngu amser unrhyw ran o‟r agenda
b) Gyfyngu amser unrhyw araith neu drafodaeth ar unrhyw eitem benodol
5.1.2 Gall unrhyw aelod sy‟n bresennol gyflwyno cynnig o ddiffyg hyder yn y Cadeirydd.
Mae angen pleidlais fwyafrifol er mwyn i‟r cynnig basio.
5.1.3 Os pasir cynnig o ddiffyg hyder yn y Cadeirydd mi fydd y Cadeirydd yn gadael y
gadair ac mi fydd Cadeirydd Gweithredol yn cymryd yr awenau am weddill y
cyfarfod.
5.1.4 Os hoffai‟r Cadeirydd siarad ar unrhyw fater, ar wahân i‟w cyfrifoldeb fel Cadeirydd,
rhaid iddynt i ddechrau adael y gadair. Cymerir yr awenau gan Gadeirydd
Gweithredol am weddill y drafodaeth ar y mater hwnnw.
5.2 Agenda (trefn busnes)
5.2.1 Ymddiheuriadau am Absenoldeb
5.2.2 Cofnodion o‟r cyfarfod blaenorol
5.2.3 Gohebiaeth a chyhoeddiadau
5.2.4 Cynigion
5.2.5 Cwestiynau i‟r Llywydd a Swyddogion
5.2.6 Unrhyw faterion eraill
5.3 Cynigion
a) Os nad yw cyflwynydd y cynnig yn bresennol mae‟r cynnig yn cael ei ddileu yn
awtomatig.
b) Mi fydd y Cadeirydd yn gwneud cais am araith yn cyflwyno‟r cynnig.
c) Mi fydd y Cadeirydd yn gwneud cais am araith yn gwrthwynebu‟r cynnig.
d) Gellir galw am addasu cynnig ar unrhyw adeg yn ystod cyfnod dadlau‟r cynnig ond
gellir ond dadlau un addasiad ar y tro.
e) Gall gyflwynydd y cynnig dderbyn unrhyw addasiad os dymunent a‟r cynnig gyda‟r
addasiad fydd y cynnig perthnasol.
f) Os na dderbynnir yr addasiad gan y cyflwynydd mi fydd y Cyfarfod Cyffredinol yn
symud i ddadlau a phleidleisio ar yr addasiad cyn dychwelyd at y ddadl ar y cynnig
gwreiddiol.
g) Os yw cyflwynydd y cynnig yn gwrthod derbyn yr addasiad cytunedig yna cyflwynydd
addasiad y cynnig yw‟r cyflwynydd perthnasol.
5.4 Mater o Wybodaeth
a) Gellir cyfeirio Mater o Wybodaeth at y llefarydd trwy‟r Cadeirydd ar unrhyw adeg
yn ystod araith. Rhaid i Fater o Wybodaeth fod yn gwestiwn i‟r llefarydd neu i
gywiro mater o ffaith.
b) Gall y llefarydd neu‟r Cadeirydd ddewis i wrthod Mater o Wybodaeth.
c) Nid yw‟n bosib codi Mater o Wybodaeth yn ystod araith agoriadol.
5.5 Pleidleisio
a) Pleidleisir trwy godi dwylo. Ni all aelodau bleidleisio ar ran aelod arall.