Croeso i’r Cylch Meithrin MYM Croeso i'r Cylch Meithrin2.indd 1 17/3/10 12:07:52
Croeso i’r Cylch Meithrin
MYM Croeso i'r Cylch Meithrin2.indd 1 17/3/10 12:07:52
Croeso i deulu’r cylch meithrin. Mae’r cylch yn rhan o Mudiad Ysgolion Meithrin. Nod y Mudiad yw rhoi cyfl e i bob plentyn ifanc yng Nghymru fanteisio ar brofi adau blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd y dafl en yma yn rhoi syniad i chi o’r hyn sy’n digwydd yn y cylch a’r manteision a gaiff eich plentyn trwy ddod i’r cylch yn rheolaidd.
MYM Croeso i'r Cylch Meithrin2.indd 2 17/3/10 12:07:54
Pwy all ddod i’r cylch?Plant dwy a hanner oed fel rheol, ond mewn ambell ■
gylch mae plant yn gallu dechrau yn ddwy oed, hyd nes y byddant yn mynd i’r ysgol
Mae croeso i blant o bob cefndir waeth beth fo’u lliw, ■
iaith, hil neu anabledd
Dylech gofrestru eich plentyn yn y cylch mor fuan â ■
phosib er mwyn sicrhau lle i’ch plentyn
Beth fydd eich plentyn yn ei wneud yn y cylch?
Chwarae a chymdeithasu â phlant eraill ■
Dysgu trwy chwarae tu mewn ac yn yr awyr agored ■
Chwarae â thywod, d∑r, toes, t¥ bach twt, jig-sos, ■
teganau, gemau bwrdd, beiciau, a.y.b.
Gweithgareddau creadigol ■
Gwrando ar storïau ■
Canu a dawnsio ■
Cael amser llaeth a thost/ffrwyth ■
Setlo eich plentyn yn y cylchGall eich plentyn ddechrau yn y cylch pan fydd yn ■
barod i fod yn annibynnol oddi wrthych am amser byr
Mae croeso i chi aros efo’ch plentyn ar y dechrau i’w ■
helpu i setlo
Cyrhaeddwch yr un pryd â’r plant eraill – bydd eich ■
plentyn yn setlo’n well wrth gyrraedd gyda’i ffrindiau
Dysgwch enwau’r arweinydd a’r staff i’ch plentyn cyn ■
iddo ddechrau
Peidiwch â’i anfon i’r cylch yn ei ‘ddillad gorau’ – ■
bydd yn si∑r o wneud llanast yn ystod y sesiynau peintio (mae dillad sbâr ar gael yn y cylch hefyd – rhag ofn unrhyw ddamweiniau)
Bydd staff y cylch yn gwneud yn si∑r y bydd eich ■
plentyn yn setlo’n fuan ac yn mwynhau ei hun yn y cylch
Iaith y cylch meithrinCymraeg yw iaith y cylch meithrin ■
Mae’r un croeso i blant di-Gymraeg ag sydd i blant ■
Cymraeg eu hiaith
Mae pwyslais yn cael ei roi ar gynnig cyfl e i bob ■
plentyn ddysgu ystod eang o sgiliau iaith Gymraeg
Mae ymchwil gan yr Athro Colin Baker ac Elen Lloyd ■
Roberts o Brifysgol Bangor yn nodi pwysigrwydd cylchoedd meithrin Mudiad Ysgolion Meithrin i ddyfodol yr iaith Gymraeg:
‘Dangosodd yr ymchwil fod plant sy’n mynychu cylchoedd Mudiad Ysgolion Meithrin yn datblygu’n sylweddol dros ystod eang o sgiliau iaith Gymraeg.’Yr Athro Colin Baker
3
MYM Croeso i'r Cylch Meithrin2.indd 3 17/3/10 12:07:55
Sut allwch chi helpu yn y cylch?Bydd cyfl e i helpu gyda rhai gweithgareddau penodol ■
yn y cylch e.e. tripiau
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn arweinydd ■
neu’n gynorthwy-ydd mewn cylch, mae Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol y Mudiad (Cam wrth Gam) yn cynnig hyfforddiant sy’n arwain at gymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig
Dewch â’r teulu i gyd i weithgareddau codi arian ■
y cylch – rydym yn croesawu help gan rieni gyda threfniadau digwyddiadau cymdeithasol/codi arian
Dewch i’r Cyfarfod Blynyddol a chynigiwch syniadau a ■
chefnogaeth i weithgareddau’r cylch
Os bydd swydd yn wag ar y pwyllgor rheoli, gallwch ■
sefyll i gael eich ethol yn un o’r swyddogion e.e. cadeirydd, trysorydd, ysgrifennydd. Y pwyllgor sy’n rheoli materion y cylch meithrin – felly cysylltwch â nhw os am drafod materion rheolaeth y cylch
Y cam nesa:Llenwch ffurfl en gofrestru’ch plentyn yn y cylch a’i ■
dychwelyd i’r arweinydd cyn gynted â phosib
Bydd nifer o ffurfl enni eraill i’w llenwi yn ystod ■
cyfnod eich plentyn yn y cylch e.e. ffurfl en caniatâd i fynd allan am dro, ffurfl en iechyd, ffurfl en caniatâd tynnu lluniau a.y.b. Mae pob ffurfl en yn cael ei chadw dan glo
Polisïau a Gweithdrefnau’r Cylch MeithrinMae gan y cylch meithrin nifer o bolisïau penodol ■
yngl¥n â threfn a gweithgareddau’r cylch
Mae’r cylch yn aelod o Mudiad Ysgolion Meithrin ac ■
wedi’i yswirio trwy’r Mudiad
IaithCymraeg yw iaith yr holl weithgareddau yn y cylch ■
Darperir llythyrau a ffurfl enni yn ddwyieithog ■
Bydd pwyllgor y cylch yn sicrhau bod cyfl eusterau ■
digonol ar gael fel bod cyfl e i bob rhiant/gofalwr gyfrannu at weithgareddau’r cylch
Cyfl e cyfartalCeisiwn sicrhau fod ein gweithgareddau yn rhoi cyfl e ■
cyfartal i bob unigolyn beth bynnag fo’i genedl, lliw, rhyw, anabledd, crefydd neu ddiwylliant
Staffi oMae trefniadau staffi o’r cylch yn cydymffurfi o â ■
gofynion cofrestru Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru
Pwyllgor rheoli’r cylch sy’n gyfrifol am benodi, cyfl ogi ■
a diswyddo staff y cylch
Mae Swyddog Datblygu lleol y Mudiad yn cynghori’r ■
cylch ar faterion staffi o
4
MYM Croeso i'r Cylch Meithrin2.indd 4 17/3/10 12:07:59
Rhaglenni a gweithgareddau addysgolMae’r cylch yn cynllunio a darparu ystod o ■
weithgareddau a phrofi adau o fewn Fframwaith y Cyfnod Sylfaen 3 – 7 oed – sef y cwricwlwm newydd ar gyfer plant ifanc yng Nghymru
Bydd eich plentyn yn dysgu trwy chwarae ac yn cael ■
profi adau yn y meysydd canlynol sy’n rhan o’r Cyfnod Sylfaen:
Datblygiad personol a chymdeithasol, lles ac • amrywiaeth ddiwylliannol
Sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu•
Datblygiad mathemategol•
Gwybodaeth a dealltwriaeth o’r byd•
Datblygiad corfforol•
Datblygiad creadigol•
Cofnodion ac adroddiadauCyfrinachedd – bydd unrhyw wybodaeth a roddir ■
gennych am eich plentyn yn cael ei gadw dan glo yn y cylch, a dim ond staff/gwirfoddolwyr sydd wedi eu hawdurdodi, fydd â’r hawl i gael mynediad i ddogfennau/ffurfl enni cyfrinachol
Mae cynnydd pob plentyn yn y cylch yn cael ei ■
gofnodi a bydd adroddiadau rheolaidd yn cael eu cyfl wyno i chi
Iechyd a diogelwchMae’r cylch yn cydymffurfi o â gofynion deddfwriaeth ■
iechyd a diogelwch gan wneud popeth sy’n rhesymol ymarferol i sicrhau iechyd a diogelwch pawb yn y cylch
Amddiffyn rhag yr haul ■
Mae’r cylch yn rhoi pwyslais ar gynnig cyfl eoedd i • blant chwarae yn ddiogel yn yr awyr agored trwy sicrhau bod mannau cysgodol ar gael pan mae’r tywydd yn heulog
Byddwn yn sicrhau bod eich plentyn yn gwisgo het • haul pan fydd yn chwarae tu allan yn ystod yr haf, a gofynnwn i chi ddod â photel o eli haul ffactor 15+ i’r cylch, wedi ei labelu’n glir gydag enw eich plentyn
Asthma ■
Mae’r cylch yn gwneud yn si∑r bod pob plentyn • sy’n dioddef o asthma yn gallu cymryd rhan lawn yn yr holl weithgareddau
Os yw eich plentyn yn dioddef o • asthma, byddwn yn cadw cofnod yn y cylch o’r moddion mae’n ei gymryd, a bydd staff y cylch yn gallu cynnig cymorth
5
MYM Croeso i'r Cylch Meithrin2.indd 5 17/3/10 12:08:03
Y safl e a’r offerMae gan y cylch amrywiaeth o offer pwrpasol o safon ■
uchel i hyrwyddo dysgu trwy chwarae
Anogwn chi i alw yn y cylch i weld yr adnoddau a’r ■
cyfl eusterau sydd ar gael – ond rhowch wybod ymlaen llaw
Mae amgylchedd pob cylch yn gartrefol a chroesawgar ■
ac wedi’i gynllunio i hybu datblygiad y plant
MynediadMae’r cylch yn cydymffurfi o ag amodau cofrestru ■
Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yngl¥n ag oed y plant a’r nifer a allwn dderbyn yn y cylch
Cysylltwch ag arweinydd y cylch i dderbyn ■
gwybodaeth am oriau a dyddiau agor y cylch, ac am y tâl sy’n cael ei godi am y gwasanaeth
Trefn gadael a chasglu plantBydd y cylch yn cadw cofnod manwl a llun o bob ■
unigolyn fydd yn debygol o gasglu eich plentyn
Rhaid rhoi gwybod i’r cylch ar unwaith os oes newid ■
yn nhrefniadau casglu eich plentyn, neu os nad ydych yn gallu casglu eich plentyn yn brydlon am unrhyw reswm
Anghenion ychwanegolRydym yn sicrhau fod y cylch yn rhoi sylw priodol i ■
bob plentyn gydag anghenion ychwanegol
Cydweithiwn â’r Cynllun Cyfeirio lleol ac asiantaethau ■
eraill er mwyn sicrhau fod cymorth a chefnogaeth ar gael i’r plentyn a’i deulu. Gall hyn gynnwys aelod o staff ychwanegol yn y cylch, offer arbenigol a chymorth gyda chludiant
Mae un aelod o’r staff yn gyfrifol am sicrhau bod y ■
cylch yn gofalu am anghenion y plentyn a bydd ar gael i drafod unrhyw faterion gyda rhieni
Amddiffyn plantMae hapusrwydd, diogelwch a ffyniant pob plentyn yn ■
holl bwysig inni yn y cylch
Bydd gweithdrefnau Pwyllgor Amddiffyn Plant Lleol ■
yn cael eu dilyn mewn achosion o amheuaeth o gamdriniaeth
Os bydd staff yn amau fod plentyn yn cael ei gam- ■
drin, byddant yn cysylltu ag adran y Gwasanaethau Cymdeithasol neu’r NSPCC
Tynnu lluniau – bydd y cylch yn gofyn am ganiatâd ■
ysgrifenedig gan rieni cyn tynnu llun o blant at unrhyw ddefnydd
6
MYM Croeso i'r Cylch Meithrin2.indd 6 17/3/10 12:08:10
7
MYM Croeso i'r Cylch Meithrin2.indd 7 17/3/10 12:08:14
Cefnogir ein gwaith gan:
Am ragor o wybodaeth ffoniwch:
neu
01970 639639
neu ymwelwch â’n gwefan
www.mym.co.uk
Annog ymddygiad cadarnhaolRydym yn gweithredu dulliau cadarnhaol o reoli ■
ymddygiad – ni ddefnyddir dull corfforol o gosbi plant o dan unrhyw amgylchiad
Os bydd ymddygiad eich plentyn yn achosi gofi d, ■
byddwn yn datblygu cynllun gweithredu ar y cyd â chi i’w ddefnyddio yn y cylch ac yn y cartref
Trefn canmol a chwyno Rydym yn croesawu eich sylwadau am ein ■
gwasanaethau fel y gallwn eu gwella yn ôl yr angen
Os ydych am gwyno am unrhyw agwedd o’n gwaith, ■
dylech ddweud wrth Gadeirydd y cylch ar lafar i ddechrau, ac yna’n ffurfi ol trwy ysgrifennu at bwyllgor rheoli’r cylch
Os na ellir datrys y broblem trwy’r pwyllgor rheoli ■
yna dylech gysylltu â Swyddog Datblygu lleol Mudiad Ysgolion Meithrin
www.bilingualfrombirth.com
MYM Croeso i'r Cylch Meithrin2.indd 8 17/3/10 12:08:15