-
CROESO I GAERDYDD mR aRLYWYDD
Barack Obama, Arlywydd Cyntaf America i droedio tir Cymru yn
cael ei groesawu gan
Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, a Stephen Crabb, Ysgrifennydd
Gwladol Cymru.
Llun: Llywodraeth Cymru
Karl Jenkins yn 70 oed – gyda Merched Côr Caerdydd
(gweler tud. 5)
-
2
Gigs Bach y Fro! Menter Bro Morgannwg a
Chlwb Ifor Bach yn cyflwyno...
AL LEWIS KIZZY CRAWFORD
Tafarn y Windsor, Penarth Nos Wener, 24 Hydref, 8yh
Tocynnau: £8
Ar gael o flaen llaw trwy gysylltu â:
[email protected]
029 20689888
Dyma’r noson gyntaf mewn cyfres o nosweithiau Cymraeg
cymdeithasol yn y Fro fydd yn cael eu
cynnal ym Mhenarth, y Bontfaen a’r Barri am yn ail.
Cydnabyddir cefnogaeth
Cyngor Celfyddydau Cymru.
Aelodau o Uwchgynhadledd NATO ar eu hymweliad â Chastell
Caerdydd Llun: Llywodraeth Cymru
-
3
18 Medi 2014
T eitl traethawd hanes y cofiaf ei ysgrifennu yn y chweched
dosbarth ers talwm oedd ‘1848 – the turning point at which history
failed to turn’ (cyn dyfodiad addysg chweched dosbarth cyfrwng
Cymraeg!). Daeth y teitl hwnnw i gof wrth
wrando ar ganlyniadau Refferendwm yr Alban ar 19 Medi.
Er na phleidleisiodd mwyfrif yr Albanwyr o blaid annibyniaeth,
ni ellir gwadu fod hanes wedi cyrraedd rhyw drobwynt, serch hynny.
Ni fydd perthynas cenhedloedd cyfansoddol y Deryrnas Gyfunol â’i
gilydd fyth yr un fath wedi’r Refferendwm. O safbwynt Unoliaethwyr,
roedd cyfartaledd y pleidleisiau dros ‘ie’ a ‘na’ yn anghyfforddus
o
agos. Mae llwyddiant ymgyrch ‘na’ wedi gosod y pleidiau
Unoliaethol ar eu prawf. Nhw sydd yn gorfod cymryd y cam nesaf, ond
mae eu hundod Unoliaethol yn fregus, a
disgwyliadau yn yr Alban yn uchel.
Nid yr Alban yn unig gafodd ei deffro gan y Refferendwm, ond
Lloegr yn ogystal. Os yw ‘Adduned’ y pleidiau Unoliaethol i roddi
mwy o alluoedd i Senedd yr Alban i gael ei gwireddu,
bydd yn rhaid mynd i’r afael â hawliau cyfansoddiadol
Lloegr.
Canlyniad anochel hynny fydd edrych eto ar y patrwm o ddatganoli
a osodwyd ar Gymru. Eisoes mae’r Ysgrifennydd Gwladol presennol yn
sôn am ddiwygiadau go sylfaenol i’r
patrwm hwnnw. Bellach, mae newid yn anochel.
Ac i bwy mae’r diolch am hyn? I un dyn yn fwy na neb – Alex
Salmond. Saif ben ac ysgwydd yn uwch na thrwch gwleidyddion yr oes.
Bu ei weledigaeth, ei strategaeth, ei ddyfalbarhad, ei egni a’i
bersonoliaeth garismataidd yn fodd i ddeffro cymdeithas gyfan.
Rhoddodd i filoedd o’i gyd-ddinasyddion difreintiedig a esgeuluswyd
neu a gymerwyd yn ganiataol gan y peiriant gwleidyddol yr hunan
hyder i gredu yn eu gallu i fynnu newid. Mae’r hunan hyder hwnnw ar
gerdded y tu hwnt i’r Alban bellach yn Catalonia a Fflandrys –
a
Chymru?
GM
Golygyddion mis Tachwedd: Alun a Mair Treharne
Cyfraniadau erbyn 27 Hydref i: [email protected]
91 Windermere Avenue, Parc y Rhath, Caerdydd, CF23 5PS Ffôn: 029
20754436
Y Digwyddiadur: Yr Athro E Wyn James
[email protected] 16 Kelston Road, Caerdydd, CF14 2AJ
029 20628754
Hysbysebion: Bryan James
[email protected] 52 Highfields, Caerdydd, CF5 2QB
029 20566731
Dosbarthu copïau: Huw Jones,
[email protected] 22 Blaen-y-coed, Radur,
Caerdydd, CF15 8RL 029 20842811 07985 174997
www.dinesydd.com
Cyhoeddir gan Bwyllgor y Dinesydd. Nodir hawl y golygyddion i
gwtogi
ar erthyglau yn ôl y gofyn.
Argraffwyr:
Gwasg Morgannwg, Mynachlog Nedd.
Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru
Siopau sy’n gwerthu’r Dinesydd
CABAN, Pontcanna CHAPTER, Treganna DERI STORES, Rhiwbeina
FOOD FOR THOUGHT, Y Barri HALLS, Llandaf PAPERWEIGHT, 22
Wellfield Rd, Y Rhath SIOP LYFRAU WINDSOR, Penarth SIOP PRIFYSGOL
CYMRU, 12 Stryd Fawr SIOP Y FELIN, Yr Eglwys Newydd
THE LAZY DUCK, Cowbridge Road East VICTORIA FEARN GALLERY,
Rhiwbeina
Golygydd:
Gwynn Matthews
Cymdeithas y Beibl
A r nos Fercher Medi 17 cynhaliwyd gwasanaeth, ffair a noson
goffi yn Salem Treganna gan Adran y Chwiorydd, Caerdydd, o
Gymdeithas y Beibl. Roedd y gwasanaeth yng ngofal gweinidog Salem,
Y Parchedig T. Evan Morgan. Cafwyd anerchiad gan bennaeth
Cymdeithas y Beibl Cymru. Dywedodd pa mor bwysig yw gwaith y
Gymdeithas. Er fod y Beibl ar gael mewn llawer o ieithoedd, mae
nifer fawr heb
Feibl yn eu hiaith.
Wedi’r gwasanaeth cafwyd awr o gymdeithasu yn y festri dros
gwpaned, a diflannodd y cynnyrch cartref, y tuniau a photeli a’r
nwyddau melyn (oddi ar stondin o nwyddau melyn
eu lliw) yn reit sydyn a chodwyd dros £800 at waith y
Gymdeithas. Diolch i bawb a gefnogodd y noson.
Mair Morgan
mailto:[email protected]
-
4
M ae eleni yn pasio fel trên a buan iawn y byddwn ynghanol
paratoi i ddathlu’r Nadolig! Mae’r holl firi a sylw i’r ymgyrch yn
arwain at y refferendwm yn yr Alban yn hanes bellach a Phrydain yn
wynebu cyfnod cyffrous a hanesyddol a Chymru o bosib yn mynd i elwa
ar y
trefniadau newydd i lywodraethu’r ynysoedd hyn.
Yn ystod Mis Medi bues i yn Aberystwyth
ddwywaith – i ginio ymddeol Hywel Jones, Prifweithredwr Mudiad
Meithrin am ugain mlynedd, ac i gyfarfod o Bwyllgor Cymdeithas
Cymru Ariannin. Mae teithio ar draws gwlad i gyrraedd Aberystwyth
wastod yn ennyn fy edmygedd gan fod y golygfeydd mor ysblennydd.
Does dim dwywaith fod Cymru yn wlad tu hwnt o
hardd.
Cyn mynd i’r cinio odd amser gen i i gerdded ar hyd y prom ar ei
newydd wedd ers y chwalad gafodd hi yn ystod stormydd y Gaeaf
diwethaf a bues i’n hel meddyliau gan gofio am y flwyddyn
dreuliais i yng Nghyfadran Addysg y Brifysgol. Yr arfer y pryd
hynny ymhlith y myfyrwyr odd cerdded hyd y prom i gicio’r bar cyn
troi a cherdded nôl gan gyfarch hwn a’r llall ar y ffordd.
Flynyddoedd wedyn clywais si fod myfyrwyr o Brifysgol Abertawe wedi
dod i Aber liw nos a llifio’r bar a mynd â hi nôl i Abertawe! Tybed
ydy’r arfer
o gicio’r bar yn dal mewn bri?
Odd amser hefyd i mi gerdded draw at y castell sy’n sefyll ar
fryncyn y tu ôl i’r Hen Goleg. Fe’i hadeiladwyd yn y drydedd ganrif
ar ddeg gan y Brenin Iorwerth y Cyntaf a bu sawl brwydr o’i gwmpas
dros y blynyddoedd. On i heb fod yn y castell ers blynyddoedd lawer
ac on i wedi anghofio am y golygfeydd hyfryd oddi yno yn edrych
dros Fae Ceredigion. Y tro nesa byddwch
yn Aberystwyth mynnwch amser i bicio draw at y
castell a chewch chi mo’ch siomi dwi’n siwr.
I bobl sy’n gwirioni ar rygbi mae gwledd yn eu haros ym Mis
Tachwedd gan fod Tîm Rygbi Cymru yn chwarae nifer o gemau yn erbyn
Awstralia, Fiji, Seland Newydd a De Affrig. Bydd angen ffortiwn
arnoch i weld pob gêm a felly diolch am deledu! Mae pymtheng
mlynedd wedi pasio ers i’r Stadiwm agor ar y 26 Mehefin 1999 ac
erbyn hyn mae pob cefnogwr rygbi gwerth ei halen o dros y byd i gyd
wedi ymweld â’r lle neu yn gwybod am y stadiwm iconig hon. Mae lle
i
74,500 ynddi ac mae 12,000 tunnell o ddur wedi ei ddefnyddio i’w
hadeiladu! Y tro cyntaf i mi fynd i’r Stadiwm odd i weld gêm bêl
droed yn hytrach na gêm rygbi a thîm pêl droed Cymru yn chwarae
hefo Ryan Giggs yn un o’r sêr. Es yno yng nghwmni hogyn o’r Wladfa
odd ar ei ymweliad cyntaf â Chymru. Lwc dda i dîm Cymru y mis
nesa
– ymlaen bo’r nôd!
“ Tybed ydy’r arfer o gicio’r bar
ymhlith myfyrwyr Aberystwyth yn
dal mewn bri? “
Colofn G.R.
Ar ôl blwyddyn yn y swydd mae Betsan Powys, Golygydd Radio
Cymru, wedi gwneud
cyfweliad estynedig gyda Pobl Caerdydd – mae’n amddiffyn y
defnydd o recordiau Saesneg ar Radio Cymru ac yn trafod yr her
o apelio at bawb yng Nghymru, gan gynnwys
trigolion Caerdydd.
Mae nifer o wynebau newydd a chyfarwydd
yn ein cyfres Clebran Da, gan gynnwys cyfarwyddwr newydd y Tŷ
Cerdd, Gwyn Williams, a swyddog cyfathrebu newydd
Chapter, Mair Jones.
Ceir adolygiad gan Rhidian Dafydd o dŷ bwyta newydd Francis
Dupuy, gynt o Le
Gallois.
Mae na ddirgelwch sy’n rhoi penbleth i’r
heddlu – pwy sy’n dwyn cerrig palmant ar hyd
a lled y brifddinas?
PETHAU BYCHAIN
Mae’r Llywodraeth wedi creu bathodyn newydd i’n helpu i weld
cyfleoedd i siarad Cymraeg bob dydd. Mae hyn yn rhan o ymgyrch
newydd o’r enw ‘PethauBychain’ (sydd wedi cael ei ysbrydoli gan
ymadrodd enwog ein nawddsant, Dewi Sant, "Gwnewch y pethau
bychain."). Nod yr ymgyrch
yw annog pobl ar draws y wlad i rannu awgrymiadau ar sut y
gallwn ni oll wneud newidiadau bach er mwyn cynyddu'r defnydd o’r
Gymraeg yn ein bywyd bob dydd.
-
5
CAERDYDD YN CHWARAE
Y n amgueddfa Stori Caerdydd, yn yr Ais, y mae ar hyn o bryd
(tan mis Tachwedd) arddangosfa ar y thema, ‘Caerdydd yn Chwarae’,
sef casgliad o eitemau o bob math sydd yn adlewyrchu’r modd mae
dinasyddion Caerdydd wedi bod yn treulio eu horiau hamdden dros y
ganrif a hanner ddiwethaf. I gynrychioli gweithgareddau
cymdeithasau Cymraeg y ddinas mae Cadwyn Llywydd y Cymrodorion yn
cael ei
harddangos.
Cymrodorion Caerdydd yw cymdeithas Gymraeg hynaf y ddinas: fe’i
sefydlwyd yn 1885. Adroddir hanes y gymdeithas rhwng 1885 a 1985 yn
Y Ganrif Gyntaf – Hanes Cymrodorion Caerdydd 1885-1985 gan yr Athro
John Gwynfor Jones,
Llywydd Anrhydeddus y Cymrodorion. Derbyniodd y gymdeithas
Gadwyn y Llywydd yn rhodd gan Syr David Richard Llewelyn
(1879-1940) yn 1928. Fe’i cynlluniwyd gan Isaac J. Williams,
Ceidwad Celfyddyd yn yr Amgueddfa Genedlaethol.
Perchennog glofeydd oedd Syr David a brodor o Aberdâr. Meddai’r
Bywgraffiadur amdano, ‘Yr
oedd yn ffigur dylanwadol yn y Coalowners Association ... a
chydnabyddid ef yn arweinydd cymedrol ei safbwynt. Trôi ef a’i
frawd William Morgan Llewelyn ymhlith eu gweithwyr a chadwyd
y cyswllt personol a lleol’.
Mae bathodyn y gadwyn yn arddangos
symbolau herodrol sy’n cynrychioli Caerdydd ynghyd â’r arwyddair
‘Deffro mae’n ddydd’. Fe’i defnyddir unwaith y flwyddyn i arwisgo
Llywydd
newydd.
Côr Caerdydd - tymor newydd,
aelodau newydd
(parhad o dud. 1)
M ae Côr Caerdydd wedi ailgydio yn ei weithgareddau ar ôl toriad
byr yn yr haf, a gyda sawl aelod newydd wedi ymuno, mae’n brysur yn
ymarfer ar gyfer cyfres o
ymddangosiadau yn ystod yr hydref.
Ddydd Sul, 2 Tachwedd bydd y côr yn cynnal
Cyngerdd Cysegredig yn Eglwys y Tabernacl, Yr Ais am bedwar o’r
gloch y prynhawn. Bydd cyfle i glywed Offeren Schubert yn G, ynghyd
â
gweithiau cysegredig eraill.
Mae’r cyngerdd am ddim, felly dewch draw am awr o gerddoriaeth
ar ôl bod yn siopa neu’n
ciniawa a dewch â’ch ffrindiau!
Mae mis Tachwedd yn fis prysur i’n tîm rygbi
cenedlaethol ac mae hynny’n golygu cyfle arall i’r
côr i ddysgu anthem genedlaethol newydd.
Gwahoddiad i ganu cyn gêm Cymru yn erbyn Fiji
yn Stadiwm y Mileniwm sydd wedi dod y tro hwn -
mae’r côr eisoes wedi canu mewn
gemau yn erbyn Awstralia, Seland
Newydd a De Affrica. I goroni mis
prysur i’r côr yn ogystal, bydd yn
ymuno â Cherddorfa Genedlaethol
Gymreig y BBC yn Neuadd Dewi Sant
ar 21 Tachwedd i ddathlu pen-blwydd
Karl Jenkins yn 70 oed. Bydd y
cyngerdd yn cynnwys perfformiad o’r
‘Armed Man’ fydd yn nodi
canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, a
bydd y cyfan yn cael ei ddarlledu ar
BBC Radio 3.
Karl Jenkins gyda Chôr Caerdydd yng Nghapel Bethel Penclawdd
lle
roedd ei dad yn organydd
Llun: Stori Caerdydd
-
6
Cymdeithas Wyddonol Cylch Caerdydd
D echreuodd tymor 2014-15 ar Fedi 10fed yn Festri Minny Street,
Y Waun Ddyfal, â nifer dda o aelodau newydd wedi ymuno. Etholwyd
swyddogion:- Cadeirydd - Y Parchedig Haydn Thomas, Is-gadeirydd - Y
Parchedig Allan
Pickard, Ysgrifennydd - Menna Brown (Ffôn 029 2025 4679),
Is-ysgrifennydd - Beth Killen, Trysorydd - Robin Brown,
Is-drysorydd - Rhian Ruddock a nifer o aelodau i'r Pwyllgor.
Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad y Cadeirydd, yr Ysgrifennydd a'r
Trysorydd. Diolchwyd i bawb am eu cefnogaeth llynedd, yn arbennig i
wragedd y gegin am eu gweini llon. Atgoffwyd pawb gan Haydn Thomas
am y digwyddiadau diddorol yn ystod y flwyddyn, ac am gefnogaeth
Arian i Bawb
Cymru at dreuliau rhai o weithgareddau'r Aelwyd.
Ar brynhawn Mercher, Medi 24ain,
croesawyd Mr Gareth Rhys Davies, y canwr opera enwog o Gaerdydd,
i'n tywys trwy ei yrfa ddisglair gyda Cwmni Opera Cymru. Mae pawb
yng Nghaerdydd yn ei adnabod fel aelod a blaenor ffyddlon dros y
blynyddoedd yn Eglwys y Crwys. Fe'i ganed a'i fagu yn Nyffryn
Conwy, a chafodd ei addysg gynnar yn ysgolion ardal Llanrwst. Aeth
ymlaen i Goleg Cerdd a Drama Caerdydd ac yna i Goleg Brenhinol,
Llundain, a llwyddo'n anhygoel. Agorodd ei ddarlith - ar y
testun ‘Clera’ - trwy ganu "Cân yr Arad Goch" oedd
i d d o e f y n adlewyrchu e i ddatblygiad o fod yn fab fferm i
fyd e a n g o p e r a .
Eglurodd mai ystyr ‘Clera’ yw teithio f e l c e r d d o r
crwydrol. Soniodd am ei yrfa o adeg
e n n i l l y n y r E i s t e d d f o d Genedlaethol i
lwyfannau mawr opera a chanu gyda chantorion enwog eraill. Bu'n
fraint gwrando arno yn sôn am ei brofiad o gyd-weithio gyda rhai
fel Arthur Rubenstein ac yn canu rhannau cymeriadau allan o William
Tell, Carmen, Cosi Van Tutti, a llu eraill
o weithiau mawr. Cafwyd prynhawn wrth fodd pawb yng nghwmni
cyfathrebwr arbennig a'r gŵr
direidus hwn - da oedd bod yno.
Y cyfarfod nesaf fydd taith i Dyndeyrn ar Hydref 8fed. Os ydych
am ymuno â'r Aelwyd, gweler rhaglen y flwyddyn yng nghalendr y
Dinesydd. Croeso cynnes i bawb.
C ynhaliwyd cyfarfod cyntaf ein blwyddyn newydd ar 15 Medi. Da
oedd gweld Robin yn bresennol, yntau wedi bod dan faich salwch
ers
tro, a hefyd glywed newyddion calonogol parthed Elwyn ac Arwyn.
Llongyfarchwn Arwyn ar gael ei ddyrchafu’n Athro yn Adran
Fferylliaeth Prifysgol
Caerdydd.
Ymhlith eitemau o newyddion cyffredinol a gyflwynwyd gan y
cadeirydd oedd un o adroddiad yn Y Cymro (27 Mehefin) yn honni ‘ar
sail ymchwil
a phrofion DNA a wnaed gan y genetegwr….Steve Jones…’ bod
hen-deidiau brodorion bro Waldo yn y Preselau yn hannu o
Siberia.
Ein siaradwraig wadd oedd Dr. Sian Griffiths,
Adran y Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd a’r Coleg Cymraeg
Cenedlaethol. Derbyniodd ei haddysg ysgol yn Sir Benfro cyn mynd i
Aberystwyth i ddilyn cwrs gradd mewn bywydeg forol. Cyflawnodd
ymchwil yn yr un maes, gan ennill gradd Ph.D. mewn prifysgolion yn
Lloegr a’r Alban cyn dychwelyd i’w swydd bresennol un
mlynedd ar ddeg o flynyddoedd yn ôl.
Testun ei sgwrs oedd Effaith Newid Hinsawdd ar Bysgod Gwerthfawr
Afonydd Cymru. Cawsom olwg ddifyr ar ystyron ‘gwerthfawr’ yn y
cyswllt hwn, gan nodi’r tensiynau sy’n codi rhwng, ar un llaw, y
rheidrwydd i ddarpau dŵr glân i bob cartref ac, ar y llaw arall, y
gofyn i warchod buddiannau creaduriaid sy’n byw mewn afonydd, er
enghraifft,
eog a brithyll. Soniwyd, ynghyd-destun newid hinsawdd gyda’i
nodweddion o sychder a llifogydd, am effeithiau llif a thymheredd
afon ar
arferion bywyd pysgod.
Mae’r maes ymchwil hwn yn heriol oherwydd bod cynifer o
ffactorau yn cyd-ddylanwadu. Ystyriaeth arall i ymchwilwyr yw sut i
ennill nawdd i’w gwaith, yn enwedig gan wleidyddion, oherwydd nid
yw amserlen byd natur yn cyd-daro’n gyfleus
gyda’r cyfnod rhwng etholiadau cyffredinol.
Hydref 20fed yw dyddiad ein cyfarfod nesaf
pan fydd Angharad Davies, Prifysgol Abertawe, yn
mynd â ni ar Drywydd y Diciâu. Cynhelir ein
cyfarfodydd am 7.30 yr hwyr yn ystafell G.77 ym
Mhrif Adeilad Prifysgol Caerdydd, oddiar Park
Place. Dewch yn llu; mae digonedd o lefydd
parcio gerllaw.
Aelwyd Hamdden
Gareth Rhys Davies yn annerch Aelwyd Hamdden
-
7
Merched y Wawr Bro Radur
L owri Cooke o Ben-y-lan roddodd gwch tymor newydd y gangen i’r
dŵr nos Fawrth, 9 Medi. Aeth â’r dyrfa niferus, sy’n cwrdd yng
Nghapel y Methodistiaid, Cyncoed, ar daith gyffrous drwy fariau
coffi, tai bwyta a delis ei dinas hoff, gan
gyflwyno’r cymeriadau y bydd hi’n dod ar eu traws yno. Wrth
fynd, bu’n sôn hefyd am y rhai a fu, ac sydd, yn ysgrifennu cerddi
a nofelau, â’r ddinas yn ganolog iddyn nhw. Rhoddodd ddarlun byw
o’i gyrfa a’i her gan ei bod bellach yn gweithio ar ei liwt ei
hunan. Bu’n un o feirniaid Llyfr y Flwyddyn eleni a chafwyd ganddi
gipolwg o’r modd y daeth
y tri beirniad i’w penderfyniad a hefyd ei barn bersonol hi ar y
cyfrolau a ddaeth i’r brig. Mae newydd orffen paratoi llyfr sy’n
dathlu deugain mlynedd Pobol y Cwm ac yn gobeithio y caiff fynd ati
cyn bo hir i gwblhau casgliad o gant caffi gorau Cymru! Carol
Williams, hefyd o Ben-y-lan, yw
cadeirydd y gangen eleni.
Merched y Wawr Caerdydd
B raf oedd dod at ein gilydd Nos Fercher, Medi 3ydd ar ddechrau
tymor newydd wedi seibiant dros yr haf. Fe’n croesawyd yn gynnes
gan ein Llywydd, Carys Puw Williams, a da gweld
fod cymaint wedi ail-ymaelodi yn ogystal â phedair aelod o’r
newydd. Hyfryd gweld sawl un wedi gwella ar ôl cyfnod o anhwylder
ac anfonwyd cofion at Glenys Thomas, un o’n haelodau mwyaf
gweithgar sy’n Ysbyty Llandochau. Dymunwyd yn dda i Rhiannon, Nia a
Shirley fyddai’n cymryd rhan yn nrama fuddugol y mudiad, ‘A
Chalonnau’, yn y Penwythnos Preswyl yn Llanbedr Pont Steffan.
Diolchwyd i Carys Tudor Williams am ei chynhyrchu
clodwiw.
Pleser i’r Llywydd oedd cyflwyno’r siaradwraig wadd, Olwen Rees,
y ddiddanwraig a’r actores amryddawn. Cafwyd sgwrs hwyliog ganddi
yn adrodd ei hanes wrth iddi ddangos i ni sut ‘Mae bywyd yn braf!’
Fe’i ganwyd yng Nghaernarfon yn
ferch i Glyn a’r enwog Sassie Rees. Mynychodd ysgolion y dref a
Choleg y Normal, Bangor. Bu’n athrawes yn Llandudno cyn mentro i
fyd perfformio. Mae’n lais cyfarwydd ers ei phlentyndod ar radio,
teledu a theatr gyda’i pherfformiadau graenus a chofiadwy. Cafodd
hefyd gyfle i rannu llwyfan gyda’i gŵr, y canwr adnabyddus Johnny
Tudor. Menter cymharol
ddiweddar iddi yw bod yn un o sefydlwyr cwmni Theatr Peña,
menter heriol a chyffrous. Diolchodd y Llywydd i Olwen Rees am
noson arbennig gan
wraig ddiymhongar a “seren” yn wir.
Edrychwn ymlaen at Arddangosfa Gosod Blodau gydag Ann Mears ar
Hydref 1af. Croeso i
aelodau newydd.
Elsbeth Edwards
Jean Salisbury (Trysorydd), Meri Griffiths (Ysgrifenyddes),
Olwen Rees a Carys Puw Williams (Llywydd)
Lowri Cooke a Llewela Morris
-
8
Falmai Griffiths yn holi Dafydd Jones
Ble cawsoch chi’ch geni a ble aethoch i’r
ysgol?
Bachgen o Gaerdydd ydw i, ac wedi byw yn Yr Eglwys Newydd tan
rhyw bedair mlynedd yn ôl a nawr dwi’n byw yn y Waun Ddyfal. Es i
Ysgol Gynradd Melin Gruffydd ac yna i Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf.
Roedd y ddwy ysgol megis
tafliad carreg o’m cartref.
Ar ôl gorffen yng Nglantaf, beth wedyn?
Es i i Goleg Imperial Llundain ac yna i Brifysgol Manceinion ac
ennill gradd dosbarth cyntaf mewn Deallusrwydd Artiffisial
(Artificial Intelligence), cangen o gyfrifiadureg sydd yn ymdrin ȃ
phynciau megis cyfieithu peirianyddol ac adnabod lleferydd. Ar ôl
graddio ces i swydd yng Nghaergrawnt yn gweithio i Gwmni Autonomy
ar feddalwedd
Search Engine yn debyg i Google. Ar ôl bod yno am flwyddyn a
hanner teimlais fy mod eisiau dysgu mwy am y pwnc ac arweiniodd
hynny fi i Brifysgol Saaland yn Saabrucken yng ngorllewin Yr
Almaen, prifysgol sy’n arbenigo mewn Peirianneg. Bum yno am ddwy
flynedd yn astudio Technoleg Iaith a mwynhau’r cwrs yn fawr iawn ac
yna dychwelais i Gaerdydd i weithio ar fy liwt fy hun yn cynnig
gwasanaeth cyfrifiadurol i gwmniau ac i bobl yn eu cartrefi. Dwi’n
mwynhau cwrdd ȃ phob math o
bobl sydd wedi troi at y byd electroneg a delio gyda phob
math
o broblemau cyfrifiadurol.
Beth ydy eich diddordebau?
Pan es i Lundain i’r brifysgol ymunais ȃ chlwb dringo a dwi wedi
cael fy nghyfareddu gan y gamp yma. Dwi wedi teithio’n helaeth
i
ddringo mewn amryw o wledydd megis America, Canada a Sbaen. Dwi
wedi bod yn California yn Yosemite, dyffryn gyda chlogwyni anferth,
yn wir, gyda’r mwyaf yn y byd. Dwi wedi teithio i Sbaen nifer o
weithiau i ddringo yn ardal Malaga ac hefyd mewn ardal i’r gogledd
o Barcelona. Yng Nghanada, bum yn Squamish, tref fynyddig rhwng
Vancouver a Whistler. Profiad bythgofiadwy! Dw
i’n dringo creigiau yn hytrach na
mynyddoedd. Mae gen i hoffter o sialens i’r corff ac i’r
ymennydd ac i weithio mewn partneriaeth agos. Wrth fynd i’r llefydd
yma i ddringo dwi’n cael gweld y llefydd prydfertha yn y byd. Dwi
hefyd yn cadw’n heini gyda ‘Cross Fit’, rhaglen i gryfhau’r corff.
Dwi’n aelod o Glwb Dringo De Cymru sy’n cwrdd yn Boulders, sef
canolfan ddringo dan dô yng Nghaerdydd, neu yn Dynamic Rock yng
Nghlydach. Dwi wedi rhedeg hanner marathon Caerdydd ddwywaith ac
yn gobeithio gwneud hynny eto. Hefyd hoffwn fynd ’nôl i Vancouver
a
California i wneud rhagor o ddringo.
Oes yna rywbeth ’dych chi’n hoff ohono am Gaerdydd ac oes yna
bethau ’dych chi’n eu
casau?
Mae Caerdydd yn hyfryd ac hefyd mewn lleoliad
delfrydol i ddianc er mwyn mynd i ddringo, fel dringo Craig Taf
ger Ffynnon Taf neu glogwyni Gŵyr megis Three Cliffs. Dwi ddim yn
casau unrhyw beth am Gaerdydd ond dwi’n hiraethu am y sîn
Cerddoriaeth Electroneg oedd ym Manceinion a Llundain ac yn
gobeithio y bydd hyn
yn datblygu yng Nghaerdydd.
Pa fath o bobl ’dych chi’n eu hedmygu?
Does gen i ddim un arwr achos dwi’n edmygu pawb sy’ wedi
gweithio’n galed i gyrraedd y nod uchaf yn eu bywydau, boed yn
athletwyr, yn
ddringwyr, neu yn wyddonwyr.
NABOD EIN POBOL
-
9
Mae Arwel Huw Jones, sy’n 43 oed, yn bennaeth adran gydag
asiantaeth hysbysebu rhyngwladol Media Edge ac yn byw yn Vers Chez
le Blanc ger dinas Lausanne yn rhanbarth Ffrenig y Swisdir. Mae e’n
byw yno gyda’i wraig Joanna, a’u dau
blentyn, sef Megan sy’n 6 oed, a Harri, sy’n 3 oed.
Un o ble ydych chi'n wreiddiol yng
Nghaerdydd?
Hyd at 18 oed roeddwn i’n byw yng Nghyncoed, Caerdydd. Tra’n byw
yno, fe es i Ysgol Glantaf cyn mynd i Brifysgol Caerdydd, gan symud
prin 3
milltir i lawr tuag at y dref.
Tra’n byw yng Nghaerdydd, roeddwn i’n treulio llawer o amser yn
rasio sgïo, yn enwedig ar lethrau sgïo Caerdydd a Phontypŵl. Roedd
sgïo yn thema gyson yn ystod fy amser yng
Nghaerdydd.
Sut lanioch chi ger Lausanne a beth ydych
chi'n ei wneud yno?
Creu swyddfa newydd i’r cwmni yn Swistir oedd y rheswm swyddogol
am symud, ond i fod yn agosach at y llethrau sgïo oedd y rheswm
go
iawn!
Roeddwn i eisiau treulio amser yn byw dramor ac fe ddaeth y
cyfle i fynd i’r Swistir trwy’r gwaith. Roedd y cyfle i fod yn agos
i’r llethrau sgïo yn ddeniadol iawn, yn enwedig ar ôl treulio bron
14
mlynedd yn gweithio yn Llundain.
Disgrifiwch eich diwrnod delfrydol yn
Lausanne a'r cyffiniau.
Diwrnod ar y llethrau sgïo gyda’r plant yw fy niwrnod delfrydol.
Mae ein dau blentyn yn sgïo ers eu bod yn ddwyflwydd oed, ac ers y
tymor sgïo diwethaf, mae’r pedwar ohonon ni yn gallu sgïo fel teulu
gyda’n gilydd. Mae Megan yn helpu ei brawd (weithiau!), ac mae
Harri yn dysgu’n gyflym.
Mae’n anhygoel gweld pa mor gyflym mae plant bach yn gallu dysgu
sgïo. Pan nad ydw i’n sgïo, dwi wedi ymuno â’r clwb MAMILs - dynion
canol oed yn mynd ar eu beiciau i’r Alpau yn gwisgo lycra ac yn
ceisio bod
y Bradley Wiggins nesaf!!
Pa dri lle yn Lausanne y byddech chi'n annog unrhyw un o
Gaerdydd i ymweld â nhw, i gael
blas go dda o'r ddinas?
Atyniad enwocaf Lausanne yw ei fod yn gartref i’r mudiad
Olympaidd. Mae eu pencadlys nhw yno ac mae’r amgueddfa Olympaidd yn
ddiddorol iawn. Nid yw’n debyg i amgueddfa draddodiadol - mae’n
ddathliad o ganmlwyddiant a mwy o
chwaraeon yn y gemau Olympaidd.
Mae’r amgueddfa’n agos at Lyn Leman, ac mae’r trip ar y cwch
draw i Ffrainc yn llawer o hwyl, ac mae yna fonws ychwanegol pan
allwn ni i ddod â gwin neis (a rhad!)
yn ôl gartref!
Y peth olaf, a mwyaf amlwg, yw’r llethrau sgïo. Nid yw’r
llethrau agosaf ond 25 munud i ffwrdd, ac nid yw’r ‘Portes du
Soleil’ a Verbier
ddim llawer pellach. Mae yna ddigon
o ddewis.
Beth ydych chi'n ei golli fwyaf am Gaerdydd?
Ers cael y plant, mae’n nhw wedi cael eu magu mewn tair iaith
(Cymraeg a Saesneg gartref gyda’r teulu a Ffrangeg yn yr ysgol).
Pan rydyn ni nôl yng Nghymru, rydyn ni’n gweld llawer o glybiau
Cymraeg i blant yma, a dyma’r peth dwi’n ei golli fwyaf. Gobeithio
rhywbryd y byddwn ni’n cwrdd â theulu arall sy’n siarad Cymraeg yn
lleol, ond am ‘nawr, pan rydyn ni’n siarad gyda’n gilydd yn Gymraeg
‘rydyn ni’n chwerthin wrth edrych ar
wynebau pobl eraill yn ceisio dyfalu pa iaith yw hi!!
Yn olaf - diolch enfawr i griw Cyw - yn swyddogol, mae nhw’n sêr
rhyngwladol! Dwi ddim yn siŵr os yw’n gyfreithlon i dderbyn S4C tu
allan i Gymru, ond ta waeth, mae Cyw wedi bod o gymorth mawr i mi
drosglwyddo’r Gymraeg i’r plant. Diolch o
galon i chi!
Lowri Haf Cooke yn holi Arwel Huw Jones
CERDYN POST O LAUSANNE
Arwel Huw Jones a’i deulu
-
10
NEWYDDION O’R EGLWYSI SALEM, TREGANNA
Diwrnod a noson nawdd y bobl ifanc Cynhaliwyd diwrnod a noson
nawdd gan y bobl ifanc dros yr haf i godi arian tuag at Gymorth
Cristnogol. Yn ystod y prynhawn fe wnaethon nhw olchi ceir yn y
maes parcio, ac ar ôl swper o sglods fe lwyddon nhw i seiclo
pellter o tua 180 milltir. Cysgodd nifer ar lawr yn Salem dros nos
er mwyn uniaethu â’r digartref sy’n cysgu ar y strydoedd.
Llongyfarchiadau mawr i chi i gyd am eich ymdrech anhygoel.
Codwyd £1,067. Camp yn wir!
Trochfa iâ! Doniol oedd gweld Evan a’r blaenoriaid yn gwneud yr
‘Ice Bucket Challenge’ ym mis Medi! Diolch i bawb am eich
cyfraniadau tuag at elusen ac i’r blaenoriaid am fod mor barod i
gymryd rhan! Cawsom i gyd
lawer o hwyl yn gwylio!
Adran yr Urdd, Salem Mae’r adran wedi dechrau cwrdd i blant oed
cynradd rhwng 6 a 7
am yn ail nos Iau.
Clwb Llyfrau Trafodwyd ‘Ad Astra’ gan Manon
Rhys yn ystod mis Medi.
Grŵp Canu Mae’r grŵp wedi ail ddechrau ac
yn cwrdd ddwywaith y mis.
Gwibdaith i Abertawe
Trefnwyd gwibdaith i Abertawe a chael cinio yn Morgans ar 27
Medi.
Clwb Cerdded Cyfarfu’r clwb i gerdded Mur y Môr rhwng Dwyrain
Caerdydd a Chasnewydd fore Gwener 26
Medi. Nona Angharad
BETHEL, PENARTH
Cydlawenhawn gyda phobl ifanc yr eglwys a enillodd
lwyddiannau
yn eu harholiadau eleni. Cydymdeinlwn gyda’r rhai a brofodd
siom. Cofier, bawb, nad
y cam hwn yw’r cyfan o’r daith.
Taith o fath arall a brofwyd gan y rheini a ddilynodd John
Thomas i’r Fro i gyfeiriad Larnwg wedi oedfa’r bore Sul Medi 14eg.
Pob
dim i godi calon mewn cwmni da. Daeth y daith i ben mewn oedfa
awyr agored ar dir yr eglwys leol, dan ofal ein gweinidog. (Gweler
y
llun.)
Dathliad o gychwyn taith, mewn oedfa fedydd a gawsom ar Sul y
28ain o Fedi, pan fuom yn
croesawu Nia Elena, merch Ruth ac Ian a wyres Betsan a Howard.
Braf iawn oedd cael cwmni llu o deulu’r fechan, gyda’n gweinidog,
Kevin, yn amlygu’i ddoniau theatrig yn addurn
pwrpasol i’r cyfan.
Yn ein harwain fore Sul yr 21ain o Fedi oedd Y Parchedig
Jeff
Williams, fu gynt yn swyddog gyda Cymorth Cristnogol. Seiliwyd
ei genadwri ar hanesyn ym Mhennod 2 o Efengyl Marc lle sonnir am
bobl yn goresgyn
a n a w s t e r a u trwy ddycnwch yn deillio o’u f f y d d .
Goleuwyd y ne g es g an atgofion Jeff o’i
brofiadau wrth ymweld â phobl dlawd dramor. Sôn am droeon yr
yrfa! A yw ein taith ni yma yn
rhy hawdd?
EGLWYS EBENESER
Bedydd a Chroesawu Ar fore Sul, 21 Medi, daeth tyrfa fawr i’r
gwasanaeth boreol yng Nghanolfan yr Eglwys Newydd i dystio i fedydd
Tora Beti, merch Tim a Lisa Thomas-Ayres, ac wyres fach i Roger a
Lorenza
Thomas. Roedd yn wasanaeth arbennig a bendithiol. Roedd yna
gyfieithu ar y pryd gan fod teulu Tim a rhai o’r ffrindiau yn
ddi-Gymraeg. Braf hefyd oedd cael croesawu’n swyddogol Gwion
Dafydd, o Rhyl, fydd yn dechrau ar ‘flwyddyn medrau'. Pob dymuniad
da iddo ar y cwrs ‘Vocate’ dan ofal Eglwys Glenwood. Edrychwn
ymlaen at ei gwmni yn ein plith wrth weld
gwireddu’r weledigaeth a gawsom fel eglwys i ddarparu
hyfforddiant i Gristion ifanc.
Cymdeithas y Beibl Llawenydd yw nodi fod Vikki Tudur a Gill
Lewis wedi gwirfoddoli i gynrychioli Ebeneser ar bwyllgor Chwiorydd
Cymdeithas y Beibl. Derbyniwyd
llythyr gan y Gymdeithas yn diolch am £600 a roddwyd er cof am
yr annwyl Nansi Evans fu’n ei
gwasanaethu am flynyddoedd.
Elusen 2014/2015 Eleni byddwn yn codi arian ar gyfer elusen
‘Maggie’s Centre’. Mae’r elusen wedi cael caniatâd i
godi canolfan newydd bwrpasol ar dir Ysbyty Felindre. Mae angen
£4.5 miliwn. Dros y flwyddyn nesaf byddwn yn cynnal nifer o
weithgareddau i
gefnogi’r achos teilwng hwn.
Pob dymuniad da... i aelodau a ffrindiau Ebeneser
sydd yn cychwyn ar swyddi newydd. Mae Liz Decaro wedi cael swydd
prifathrawes, Melfyn Hopkins yn cychwyn yn Ysgol Coed y Gof, Gwilym
Jeffs yn Ysgol y Cymer a Rachel Llwyd yn Ysgol Gartholwg. Hefyd pob
dymuniad da i Esyllt Jones, Rhiannon Williams, Dafydd Thomas a
Williams Morgan sy’n
cychwyn yn y Brifysgol. Rhai o aelodau Gofalaeth Bro
Morgannwg
ar Daith Gerdded
-
11
BETHEL, RHIWBEINA
Dros y Sulgwyn bedyddiwyd un o ffyddloniaid yr Ysgol Sul sef
Lois, 7 oed, merch Dyfan a Sioned Evans, gan ein gweinidog. Yna, ym
mis Gorffennaf ffarweliwyd â Margaret Turner, 90 oed, un o aelodau
hynaf y capel a
bedyddiwyd Mimi Alaw, merch fach Trystan a Siân Francis. Ym mis
Medi bedyddiwyd un arall o ffyddloniaid yr Ysgol Sul sef Rhys, 8
oed, mab Gethin a Rachel Mathews, gan ein
gweinidog.
Yn ystod mis Medi hefyd
trefnwyd taith gerdded o gwmpas Rhiwbeina fel rhan o raglen
gymdeithasol y capel ac yna ymunodd rhai o’r aelodau llai
heini am ginio yn ‘Y Deri’.
Ar 22 Medi ffarweliwyd ag un o aelodau hynaf a ffyddlonaf y
capel, sef Tom Edwards, oedd
yn 89 oed. Gwelir ei eisiau yn
fawr gan y teulu a’r capel.
Ar 9 Tachwedd cynhelir cinio i ddathlu’r ffaith fod ein
gweinidog y Parch Evan Morgan wedi bod yn y weinidogaeth ers pum
mlynedd ar hugain. Llongyfarchiadau iddo fe a phob
bendith yn y dyfodol.
EGLWYS MINNY STREET
Cydymdeimlo Cofiwn yn annwyl iawn ac yn ddiolchgar hefyd am
Tegwen Evans. Cydymdeimlwn yn ddiffuant iawn â’r teulu. Cynhaliwyd
gwasanaeth i ddiolch am ei bywyd a’i chyfraniad yng
Nghapel Minny Street.
Y Byd a’r Betws Y flwyddyn waith hon mae’r Gweinidog yn ystyried
digwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol ar ddechrau pob gwasanaeth.
Y mis yma rhoddodd ystyriaeth i NATO, yr
ymladd yn Irac, Syria, Gaza, Wcráin, De Swdan, Yemen, Somalia,
Ethiopia a Phacistan, y Dalaith Islamaidd, yr Ebola yn Sierra Leone
a Liberia, y llifogydd yn Jammu a Kashmir, seiclon Kalmaegi,
corwynt Odile a’r bleidlais yn yr Alban. Llawer iawn o bynciau sy’n
creu ofn,
tristwch a gofid i gymaint o bobl.
PIMS (Pobl Ifanc Minny Street) Roedd yr 19 PIMSwyr yn falch o
gyfarfod eto ar ôl yr haf ac yn barod am weithgareddau’r
flwyddyn newydd. Y thema fydd lliwiau’r enfys a coch oedd y lliw
cyntaf. Hefyd fe fu trafodaeth
frwd ar ‘faddeuant’.
Croesawu Minnie’r Planhigyn Palmwydd mewn pot yw Minnie ac fe
fydd rhaid i ni i gyd edrych ar ei hôl fel mae’n rhaid i ni
edrych ar ôl Eglwys Minny Street
– sef rhoi dŵr, haul a bwyd iddi.
Pregethau’r Gweinidog Geiriau Pedr “Arglwydd, at bwy yr awn ni
?”, galw’r disgyblion cyntaf a llythyr Paul at Philemon
oedd y testunau.
O’r Bwrdd i’r Bwrdd Trafodaeth ar “Beth yw Sacrament?” – gweler
ein gwefan www.minnystreet.org am
yr atebion.
Y Banc Bwyd
Fe dderbyniwyd 95.3Kg o fwyd yn ystod y mis a nod yr eglwys yw
gallu trosglwyddo tunnell (1000Kg) i Fanc Bwyd Caerdydd yn ystod y
flwyddyn a ddaw. Mae wyth o’n haelodau yn barod yn gwirfoddoli i
helpu’r Banc
Bwyd yng Nghanolfan Woodville.
Munudau i feddwl, Myfyrdod y Mis ... ac Ati Eto nifer fawr o
bynciau amrywiol iawn sef NATO, Cyfieithu’n ffydd, Dewrder a
doethineb, Rosh Hashanah – Egwyl i feddwl a phwyllo, Twngsten yn y
Tabl Cyfnodol ac “Wele, yr wyf yn
sefyll wrth y drws ac yn curo....”
Taith Gerdded I Barc Cosmeston mewn haul braf yr aeth y criw
ymroddedig ar eu taith gerdded fisol.
EGLWYS Y CRWYS
Cydymdeimlo Gyda thristwch y derbyniwyd y newydd am farwolaeth
sydyn Mrs. Delyth (Tudwal) Jones,
gwraig ein cyn-Weinidog, y Parch Glyn Tudwal Jones, mam Menna ac
Alun, a mam-gu Magdalen a Noah. Mae ein meddyliau a’n gweddiau
gyda’r teulu oll yn eu galar o golli gwraig, mam a mam-gu arbennig
iawn. Dymunwn pob nerth a bendith iddynt yn y cyfnod anodd
yma.
Cyfarchion Ein dymuniadau gorau i bob un o’r aelodau sydd heb
fod yn dda eu hiechyd dros yr wythnosau
diwethaf.
Llongyfarchiadau Llongyfarchiadau cynnes i Mrs.
Beryl Cattell, Mrs. Sally Davies a Mrs. Margaret Cox ar gyrraedd
penblwydd arbennig yn ystod y misoedd diwethaf. Dymunwn iechyd a
hapusrwydd iddynt fel y gallant dderbyn y teligram ymhen
deg mlynedd!
Ieuenctid
Nos Sul, Medi’r 28ain, mewn gwasanaeth hyfryd o dan arweiniad y
Parch Lona Roberts, derbyniwyd Buddug James, Rhian Melluish, a
Hannah Roberts yn gyflawn aelodau o’r
Eglwys. Mae’r tair wedi bod yn
(parhad ar dud.12)
Taith Gerdded Bethel, Rhiwbeina
http://www.minnystreet.org
-
12
MWY O NEWYDDION O’R EGLWYSI (parhad o dud.11)
ffyddlon iawn i’r Ysgol Sul ar hyd y blynyddoedd a dymunwn
pob
bendith iddynt i’r dyfodol.
Y Cymdeithasau Sgwrs gan Lowri Cooke a gafwyd i agor tymor y
Grŵp Merched ar Hydref 6ed. Hanes ei bywyd a’i gwaith oedd y testun
a mwynhawyd y prynhawn yn fawr iawn yn ei chwmni. Mae’r Gorlan yn
agor eu tymor
hwy gyda thaith i Gaerffili a Senghennydd ar Hydref 15fed. Mae’r
Gymdeithas Ddrama yn brysur yn ymarfer ar gyfer eu Panto
‘Sinderela’ o waith y Dr. Alun Tiplady. Mae llawer o hwyl a
chwerthin o dan gyfarwyddyd Betsan Evans. Gobeithir perfformio’r
Panto ddechrau’r flwyddyn newydd.
EGLWYS DEWI SANT
Gwibdaith Roedd y tywydd yn braf ar gyfer ein gwibdaith i
Lanerchaeron ddiwedd Awst. Cawsom groeso cynnes gan y Ficer, y
Canon Eileen Davies a`r plwyfolion, cyn i ni ymuno â nhw mewn
gwasanaeth o`r Cymun Bendigaid. Ar ôl cinio, buom yn ymweld â`r
plasty a`r gerddi, ac ambell un yn ein plith yn cofio`r aelod olaf
o`r teulu yn byw yno. Cyn
dychwelyd adre, aethom am swper i`r Plough yn Rhosmaen. Diolch i
Gwenda Williams am drefnu diwrnod
llwyddiannus dros ben.
Drysau Agored Agorwyd yr eglwys i`r cyhoedd fel rhan o`r cynllun
“Drysau
Agored” a rhoddwyd anerchiad diddorol gan Dr. Stuart Owen-Jones
ar hanes yr eglwys Anglicanaidd Gymraeg yng Nghaerdydd o`r cychwyn
yn Tyndall St. lle agorodd Eglwys yr Holl Saint yn 1856. Codwyd yr
eglwys o ganlyniad i rodd ariannol gan Sophia, Ardalyddes Bute.
Parhaodd y gynulleidfa
Gymraeg i addoli yno am 20 mlynedd, ond yn 1888 gosodwyd carreg
sylfaen Eglwys Dewi Sant yng Ngerddi Howard ac yno bu`r eglwys
Gymraeg tan 1941, pan ddinistriwyd yr adeilad gan fom. Yn neuadd yr
eglwys bu`r
gynulleidfa`n addoli tan ganol y 50au pan symudon nhw i`w
cartref presennol yng Nghilgant Sant Andreas. Daeth yr achlysur i
ben drwy wrando ar ddatganiad medrus Ieuan
Jones ein horganydd.
Cwis
Cynhaliwyd cwis blynyddol Cymdeithas Nos Iau yn y Mochyn Du. Y
cwis feistri oedd Gerallt Hughes a Wyn Mears. Cafwyd noson hwyliog
wrth i ni ymdrechu i ateb cwestiynau
o feysydd amrywiol iawn!
Athrylith William Salesbury
Cafwyd cynulliad da o nifer o eglwysi i’r gyntaf yn y gyfres o
ddarlithoedd ar ‘Athrylith William Salesbury’ fore Mercher 24 Medi.
Dilyniant yw’r gyfres hon i’r seminar gafwyd y llynedd ar Ddeddf
Cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg (1563). Y tiwtor eleni eto yw Gwynn
Matthews. Uchafbwynt y cyfarfod oedd cael gweld copi o argraffiad
gwreiddiol Testament Newydd Cymraeg
Salesbury (1567).
Bedydd Bedyddiwyd Mari Eirlys, merch Arwel a Michelle Lewis a
chwaer Ianto Meilyr ar Fedi 21ain. Dymunwn bob bendith
i`r teulu.
Genedigaeth Llongyfarchiadau i Simon a Beth Livsey ar enedigaeth
Alys Catrin, chwaer fach i Elin ac wyres i John a Chris Livsey.
EGLWYS Y TABERNACL
Yr Ysgol Sul Mae’r Ysgol Sul wedi ail-gydio ddechrau mis Medi a
diolchwn i
Luned Jones a Wendy Owen am gytuno i weithredu fel arolygwyr
ar y cyd.
Drws Agored Diolch i Rob Nicholls a Wil Morgan am recordio tâp
i’w chwarae ar foreau Sadwrn pan fydd y diwrnodau Drws Agored
yn digwydd. Golyga hyn nad oes gofyn i’r sawl a fydd yn
stiwardio ar y boreau hynny orfod annerch
yn ffurfiol y rhai fydd yn galw
heibio.
Banc bwyd Wrth i weithgareddau tymor yr Hydref ail-gydio, roedd
yn braf i weld y cyfraniadau i’r Banc Bwyd yn ail-ddechrau hefyd.
Diolch am a gafwyd, a boed i’r arfer barhau
yn ein plith.
Llwyddiant Eisteddfodol. Mwynhawyd Eisteddfod Genedlaethol
lwyddiannus yn Llanelli eleni, a chafodd amryw o drigolion Caerdydd
a’r Fro achos i ddathlu. Cafodd nifer o aelodau’r Tabernacl
brofiadau da
fel unawdwyr, aelodau o gorau, partïon adrodd neu grwpiau dawns.
Rhaid cydnabod llwyddiant unigol Rob Nicholls pan gododd fel y sawl
a enillodd gystadleuaeth cyfansoddi emyn-dôn newydd eleni.
Gobeithio y bydd llawer o ganu arni i’r
dyfodol.
Datganiad Organ Terence Gilmore-James Pleser oedd croesawu’r
organydd hwn yn ôl i’r Tabernacl ar Fehefin 24 eleni pan gyflwynodd
raglen oedd wedi’i saernïo yn grefftus a’i
pherfformio yn feistrolgar.
Lesotho.
Dychwelodd Non a Gwenallt Rees adre’n ddiogel ac maent yn
awyddus i rannu eu profiadau gyda ni. Anfonodd yr eglwys yn Sefika
ei chyfarchion cynnes atom, ynghyd â rhodd o blât er mwyn dathlu 50
mlwyddiant yr
eglwys yno.
Bore Coffi Diolch i Eluned Rook am ei chroeso i ni yn ystod mis
Awst ac i Helen a Rhys Jones am ein derbyn i’w haelwyd ddechrau
Medi.
-
13
O’R YSGOLION
Ymweliad ag Abercraf
Ar ddydd Mercher, y 10fed o Fedi aeth blwyddyn 5 Ysgol Gymraeg
Pwll Coch i Fferm Maes-y-Fron am dridiau o weithgareddau heriol
dros ben! Y gweithgareddau a wnaethom oedd dringo, cerdded ceunant,
gweithgareddau adeiladu tîm, adeiladu rafft, canwio a caiacio. Fy
hoff ran i o’r trip oedd neidio oddi ar y rhaeadr oherwydd roedd yn
fentrus iawn a dydw i ddim yn gwneud pethau
fel yna bob dydd!
Dyma gerdd acrostig a ysgrifennais am yr afon:
Afonydd anferth, hir, diddiwedd, Fel neidr yn y jwngl. Oer
ofnadwy maen’ nhw weithiau, Nid yn boeth fel ffwrn.
Lowri Owen, 5B
Gweithgareddau Garddio
Mae grwpiau bach o blant blwyddyn 3 wedi cael y cyfle i fynd i
Erddi Cymunedol Chapter i gael blas ar arddio go iawn gyda chymorth
Roger. Dysgwyd am gadw gwenyn ac hefyd cawsant gyfle i flasu
mêl, diolch i’r haid o wenyn sydd yno!
Fel gwobr am ein Cystadleuaeth Ailgylchu yn Nhymor yr Haf, aeth
criw o blant i Barc y Rhath am y dydd. Cawsant ddiwrnod i’r brenin
gan ddysgu llawer am arddio mewn modd anffurfiol. Aethant o gwmpas
y Tŷ Gwydr cyn symud ymlaen i ddilyn y Llwybrau Natur a bwydo’r
hwyaid ac elyrch. Ond, digon posib, uchafbwynt y dydd oedd y
sglodion yn y caffi!
Cymdeithas Gymraeg Rhiwbeina
Ysgol Pwll Coch
Blwyddyn 5 yn canwio yn Fferm Maes y Fron
Blwyddyn 3 yng Ngerddi Cymunedol Chapter
A lun Wyn Bevan, y cyn brifathro a sylwebydd rygbi a chriced, o
Gastell Nedd, ddaeth atom i agor y tymor newydd ar 15 Medi. Gwenda
Morgan a’i croesawodd, un o’r nifer y noson honno oedd yn hanu, fel
Alun ei hunan, o’r Gwter
Fawr, sef Brynaman. Dywedodd Alun mai’r Gwter Fawr oedd ffug enw
Watcyn Wyn yn Eisteddfod Chicago ym 1892 a bod Hwfa Môn wedi cynnig
The Grand Canyon fel cyfieithiad! Rhoddodd
amlinelliad o dwf yr ardal wledig honno i fod yn un o gymoedd
diwydiannol mwyaf cynhyrchiol y de. Un o’i arwyr yw Henry Folland a
fu’n allweddol yn
natblygiad y gwaith tun yn y fro honno, tun a ddefnyddiai cwmni
Nestlé. Ymysg ei arwyr eraill
mae Frank Lloyd Wright, y pensaer a oedd yn ŵyr i Gymry o
Lanwnnen, Sir Gaerfyrddin, Ted Breeze Jones, yr adarwr, Irene
Steer, y ferch gyntaf o Gymru i ennill medal aur am nofio yn y
Gemau Olympaidd a hynny yn Stockholm ym 1912, a John Arlott, y
sylwebydd oedd mor hoff o gae
criced Sant Helen, Abertawe. Swynodd Alun y dyrfa luosog gyda’i
stôr o straeon o sawl maes.
Hyfryd oedd gweld Carol O’Donnell a Sally Lewis yn bresennol ar
ôl cyfnod o salwch. Yn Ysbyty Llandochau mae Glenys Thomas ar ôl ei
tharo’n wael yn Wrecsam. Llongyfarchwyd Beryl Cattell a Sally
Davies ar gyrraedd eu pen-blwydd yn 90. Hefyd yn y gynulleidfa
’roedd seren Llyfr y Flwyddyn, Ioan Kidd.
-
14
www.mentercaerdydd.org
029 2068 9888
Fi a Fy Mabi Ydych chi’n feichiog neu’n nabod rhywun sy’n
feichiog? Fi a Fy Mabi yw’r cwrs perffaith i ddarpar famau sydd
eisiau cyfarfod â mamau newydd, cymdeithasu a chael cyngor
defnyddiol yn barod
ar gyfer genedigaeth y babi newydd! Bydd y sesiynau’n cynnwys
ymweliad gan fydwraig, deitegydd, yoga, tylino babi ac aciwbigo.
Bydd cwrs 6 wythnos newydd yn dechrau nos Iau, Tachwedd y 6ed. Bydd
yn cael ei gynnal rhwng 7yh a 8.30yh yng Nghanolfan Chapter,
Treganna. Cost y cwrs yw £42. I gofrestru neu am fwy o wybodaeth,
cysylltwch gyda [email protected] / 029 20689 888.
Gweithgareddau Hanner Tymor yr Hydref
Cynlluniau Gofal
Byddwn yn cynnal 2 Gynllun Gofal yn ystod hanner tymor yr Hydref
yn Ysgol Treganna ac Ysgol Melin Gruffydd. Y gost yw £20 y diwrnod.
Rhaid cofrestru o flaen llaw, a gallwch wneud drwy’r wefan.
www.mentercaerdydd.org Sesiynau chwarae agored Bwrlwm! Ydych chi
wedi bod i un o sesiynau chwarae’r Fenter o’r blaen? Mae’r sesiynau
2 awr yn rhad ac am ddim ac yn cael eu cynnal mewn 6 ysgol yn ystod
hanner tymor mis Hydref – Ysgol Mynydd Bychan, Ysgol y Berllan Deg,
Ysgol Coed y Gof, Ysgol Nant Caerau, Ysgol Glan
Ceubal ac Ysgol Pen y Pil. Does dim angen cofrestru o flaen
llaw, dim ond troi lan ac arwyddo. Ewch i’r wefan am fwy o
wybodaeth ac amserlen yr wythnos! Gweithdai Gwyliau Bydd digon o
gyfle am hwyl a sbri i blant rhwng dosbarth derbyn a blwyddyn 6
dros hanner tymor mewn rhaglen o weithdai arbennig gan gynnwys -
Pobi, Gymnasteg, Anturiaethau Dŵr, Dringo, Crefft Calan Gaeaf,
Ffotograffiaeth, Rygbi a Phel-Rwyd. Am wybodaeth pellach ac i
gofrestru, ewch i’r wefan neu cysylltwch â
[email protected]
Trip Siopa i Birmingham Dydd Sadwrn, Rhagfyr 6. £20. Cyfle gwych
i grwydo siopau Canolfan y Bullring a Marchnad Nadolig Frankfurt y
ddinas. Bws yn gadael Gerddi Soffia (tu allan i’r Mochyn Du) am
7.30yb ac yn dychwelyd o Birmingham am 6.30yh Gallwch archebu
drwy’r wefan neu cysylltwch ag [email protected]
Rhai o gyrsiau newydd i oedolion sydd wedi
dechrau’r tymor hwn:
Cerddorfa Ukelele, Zumba, Canfod Hanes y Gymraeg
yng Nghaerdydd
CF1 yn Rownd Gynderfynol
‘BBC Choir of the Year Radio 3’
M ae toriad yr haf ar ein gwarthau ac mae gan y Côr CF1 ddigon o
hanesion difyr ac atgofion wedi blwyddyn brysur arall. Coronwyd y
cyfan ychydig wythnosau’n ôl wrth i Noah Stuart, y tenor o Harlem,
ymuno â ni i godi’r to yn y Tabernacl yn y cyngerdd Ysbryd
Llangollen. Hoffai’r côr ddiolch i Noah a phwyllgor Eisteddfod
Llangollen am drefnu noson wirioneddol fythgofiadwy. Carem estyn
diolch arbennig i aelodau’r gynulleidfa am eu cefnogaeth ac am
roi
croeso gwresog Cymreig i Noah.
Mae’r côr wrthi’n brysur yn rhoi sglein derfynol
ar ddarnau cystadleuaeth Eisteddfod Genedlaethol Llanelli, cyn
cael cyfle i fwynhau toriad haeddiannol dros yr haf. Wedi dweud
hynny, toriad byr iawn fydd hwnnw gan i’r côr gael y newydd yn
ddiweddar ein bod wedi llwyddo i gyrraedd rownd gynderfynol ‘BBC
Choir Of The Year’ fydd ar Radio 3. ‘Roedd safon y rownd gyntaf yn
uchel iawn a bu’n frwydr galed iawn ym Mryste, lle rhoddwyd y wobr
‘Choir of the Day’ i’r
côr.
Mae mwy o waith o’n blaen cyn inni gerdded ar lwyfan y ‘Royal
Festival Hall’ ar 19 Hydref am
7yh i frwydro am le yn y rownd derfynol ym mis Rhagfyr. Byddwn
yn cystadlu yn erbyn Côr Meibion Rhosllannerchrugog, Northen Spirit
o
Durham a Salva Costa o Dorset.
mailto:[email protected]:[email protected]
-
15
Elvey MacDonald Cymdeithas Cymru-Ariannin 1939-2014 Cymdeithas
Cymru-Ariannin, 2014.
56t. £5
Eleni mae Cymdeithas Cymru-Ariannin yn dathlu ei phen blwydd yn
75 oed, ac i gyd-fynd â’r garreg filltir hon mae’r gymdeithas wedi
cyhoeddi cyfrol arbennig sy’n bwrw golwg yn ôl dros dri chwarter
canrif o’i gweithgarwch. Ceir yn Cymdeithas
Cymru-Ariannin 1939-2014 ddetholiad o ysgrifau
a gyhoeddwyd yn 1989 yn wreiddiol, yn ogystal ag ambell
gyfraniad ychwanegol. Dyma gyfrol werthfawr sy'n rhoi trosolwg i'r
darllenydd o fwrlwm gweithgarwch Cymdeithas Cymru-Ariannin
dros y 75 mlynedd diwethaf, boed gan y darllenydd hwnnw
gysylltiad personol â'r Wladfa a'r gymdeithas ai peidio. Trwy
gyfres o ysgrifau gafaelgar ac adran luniau fywiog, dyma gyflwyniad
gwerthfawr i’r berthynas dra phwysig honno sy’n parhau rhwng Cymru
a'r Wladfa. Mae'n rhaid ystyried a fyddai'r berthynas honno cyn
gryfed ag y mae hi heddiw oni bai am waith
parod a diflino'r gymdeithas hon. Boed iddi barhau felly, fel y
gallwn ymhen 25 mlynedd ddarllen am
lwyddiannau pellach Cymdeithas Cymru-Ariannin.
Lois Dafydd
Y SILFF LYFRAU
Y Drwg, y Da a’r Duwiol. Gol. E.G. Matthews, Y
Lolfa, £6.95.
‘Hon yw’r drydedd gyfrol yn y gyfres ‘Astudiaethau Athronyddol’.
Unwaith eto, mae awduron blaengar yn llwyddo i drafod athroniaeth
mewn modd sy’n hygyrch i’r sawl sydd heb gefndir academaidd yn y
maes, yn ogystal â thrafod pynciau a fydd o ddiddordeb i’r
arbenigwyr. Ceir trafodaeth ar adfer
y natur ddynol o safbwyntiau moesol, gwleidyddol
a chrefyddol ac agweddau ar drin y sawl a
gollfarnwyd.’
Mae tri o’r awduron gyda chysylltiad â Chaerdydd, sef Dr Huw
Williams, darlithydd gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol (lleolwyd ym
Mhrifysgol Caerdydd), Dr Carwyn R. Jones, darlithydd gyda’r Coleg
Cymraeg Cenedlaethol (lleolwyd ym Mhrifysgol Fetropolitan
Caerdydd), a
Gwynn Matthews, golygydd y gyfrol.
Crefydd, Cenedlgarwch a’r Wladwriaeth: John Penry (1563 – 1593)
a Phiwritaniaeth Gynnar. John Gwynfor Jones, Gwasg Prifysgol
Cymru,
£24.99.
Cyfrol yw hon ar hanes John Penry a’i gyfraniad i dwf
Piwritaniaeth yn Lloegr. Ysgrifennodd draethodau brwd yn pwyso am
sicrhau gweinidogaeth bregethu yn iaith y bobl yma yng
Nghymru. Gwrthwynebai’r eglwys sefydledig a gwnaeth elyn
peryglus o’r Archesgob John
Whitgift. Ymunodd â’r Presbyteriaid yn Lloegr a bu
â rhan yng ngweithgareddau gwasg ddirgel yno. Gwasg oedd hon a
gyhoeddai bamffledi yn
beirniadu’r llywodraeth a’r eglwys wladol.
Wedi cyfnod yn yr Alban dychwelodd i Loegr, fel Ymwahanwr
bellach. Fe’i bradychwyd i’r awdurdodau a’i ddedfrydu i farwolaeth
ar gyhuddiad o deyrnfradwriaeth. Cafodd ei grogi yn Llundain yn
1593 ac mae iddo le o anrhydedd fel arwr a merthyr Ymneilltuol.
-
16
Y
DIGWYDDIADUR
Hydref Mawrth, 14 Hydref Merched y Wawr, Caerdydd. Sgwrs gan
Eurwen Richards am ‘Fugeiliaid y Stryd’, yn neuadd Eglwys F e t h o
d i s t a i d d C y n c o e d ,
Westminster Crescent, am 7.30pm. Croeso cynnes i bawb.
Manylion
pellach: 029-2075-4379.
Gwener, 17 Hydref
Cylch Llyfryddol Caerdydd. ‘Dathlu Cyfoeth Diwylliant Gwerin
Cymru: 1964–2014.’ Sgwrs gan Dr Robin Gwyndaf, yn Ystafell 0.31,
Adeilad John Percival (sef Adeilad y Dyniaethau), Safle Rhodfa
Colum,
Prifysgol Caerdydd, CF10 3EU, am
7.00pm. Croeso cynnes i bawb.
Sadwrn, 18 Hydref Bore coffi rhwng 10.30 a 12.00 ar
gyfer rhai sy’n dysgu Cymraeg. Sgwrs am 11.00am gan Lynne Davies
ar y testun ‘Y Wenhwyseg’, yn adeilad yr Eglwys Efengylaidd
Gymraeg, Harriet St, Cathays, CF24
4DX. Croeso cynnes i bawb.
Llun, 20 Hydref Cymdeithas Gymraeg Rhiwbina. Noson yng nghwmni
Kevin Davies, Y Barri. yng nghapel Bethany, Heol
Llanisien Fach, am 7.30pm.
Llun, 20 Hydref Cymdei thas Wyddonol Cy lch Caerdydd. ‘Ar
Drywydd y Dycáu.’
Sgwrs gan Angharad P. Davies (Prifysgol Abertawe), yn Ystafell
G77 ym Mhrif Adeilad Prifysgol Caerdydd, Parc Cathays, am 7.30pm.
Croeso i bobl nad ydynt yn
‘arbenigwyr’ gwyddonol.
Mawrth, 21 Hydref Cymdeithas Ddiwylliannol Minny St. ‘Fy hoff
emyn/ddarn o farddoniaeth/drysor’, yng nghwmni Iolo Walters,
Elizabeth Gilpin a Joye Parry. yn
festri Capel Minny St am 7.30pm.
Mercher, 22 Hydref Aelwyd Hamdden Cymry Caerdydd.
Sgwrs gan Allan Cook ar y testun, ‘Huw Ceredig a Fi – Pobol y
Cwm yn 40 Oed’, yn festri Capel Minny
Street am 2.00pm.
Mercher 22 Hydref Cylch Cadwgan.YrAthro Gareth Ffowc Roberts yn
siarad ar y testun, ‘Mae Pawb yn Cyfrif’, yn Y Ganolfan, Tabernacl,
Yr Efail Isaf, am 8.00pm.
Tachwedd
Mawrth, 4 Tachwedd Cymdeithas Ddiwylliannol Minny Street.
‘Ysgrifennu Rhwng y Llinellau.’ Sgwrs gan Archdderwydd Cymru, yr
Athro Christine James, yn festri Capel Minny Street am
7.30pm.
Mercher, 5 Tachwedd Aelwyd Hamdden Cymry Caerdydd. Sgwrs gan
Eurwen Richards ar y
testun ‘Caws’, yn festri Capel Minny
Street am 2.00pm.
Mercher, 5 Tachwedd Cymdeithas Chrysanthemums a
Dahlias Caerdydd a’r Cylch. Sioe Flodau Chrysanthemums/Ffarwel
Haf, yn Neuadd y Sgowtiaid, Heol y Bont, Rhiwbina,
2.30pm–5.00pm.
Mynediad am ddim.
Mercher, 5 Tachwedd Merched y Wawr, Bro Radur. Dathlu
llwyddiannau 10 mlynedd Canolfan y Mileniwm gyda Bet Davies yn
neuadd Capel y Methodistiaid,
Ffordd Windsor, Radur, am 7.30pm.
Gwener, 7 Tachwedd Cymrodorion Caerdydd. ‘O Bwll-coch i Efail y
Dwst: Hanes y
Gymraeg yn Nhrelái.’ Sgwrs gan Dr Dylan Foster Evans, yn Eglwys
y Crwys, Heol Richmond, am 7.30pm.
Croeso cynnes i bawb.
Gwener, 7 Tachwedd Cylch Cinio Cymraeg Caerdydd ar y cyd â
Chymdeithas Carnhuanawc, yng Ngwesty Churchills am 7.30pm. Prif
Westai: Parch. Ddr R. Alun Evans. Manylion pellach gan Glyn
Hughes ([email protected]).
Mawrth, 11 Tachwedd Merched y Wawr, Caerdydd. Sgwrs gan Caryl
Roese am y arlunydd
Joseph Herman, yn neuadd Eglwys F e t h o d i s t a i d d C y n
c o e d , Westminster Crescent, am 7.30pm. Croeso cynnes i bawb.
Manylion
pellach: 029-2075-4379.
Sadwrn, 15 Tachwedd Bore coffi rhwng 10.30 a 12.00 ar gyfer rhai
sy’n dysgu Cymraeg. Sgwrs am 11.00am gan y Parch. Gwynn Williams ar
y testun ‘Thomas
Charles a’r Geiriadur’ yn adeilad yr Eglwys Efengylaidd Gymraeg,
Harriet St, Cathays, CF24 4DX.
Croeso cynnes.
Llun, 17 Tachwedd Cymdeithas Gymraeg Rhiwbina. Dr Joan Williams
yn trafod colesterol yng nghapel Bethany, Heol Llanisien
Fach, am 7.30pm.
Llun, 17 Tachwedd Cymdei thas Wyddonol Cy lch Caerdydd.
‘Defnyddio Gronynnau Niwclear Positif i Drin Cancr:
Manteision ac Anfanteision.’ Sgwrs gan Bleddyn Jones (Prifysgol
Rhydychen), yn Ystafell G77 ym Mhrif Adeilad Prifysgol Caerdydd,
Parc Cathays, am 7.30pm. Croeso i bobl nad ydynt yn
‘arbenigwyr’
gwyddonol.
Mawrth, 18 Tachwedd Cymdeithas Ddiwylliannol Minny Street.
‘Cyfrinachau Cyfarwyddwr.’
Sgwrs gan Rhys Powys, yn festri
Capel Minny Street am 7.30pm.
Mercher, 19 Tachwedd Aelwyd Hamdden Cymry Caerdydd.
Sgwrs gan Elen James ar y testun ‘Masnach Deg a’i Hanes’, yn
festri
Capel Minny Street am 2.00pm.
Gwener, 21 Tachwedd
Cylch Llyfryddol Caerdydd. ‘Dewis a Dylanwadau.’ Sgwrs gan Ioan
Kidd, enillydd gwobr Llyfr y Flwyddyn 2014, yn Ystafell 0.31,
Adeilad John Percival (sef Adeilad y Dyniaethau), Safle Rhodfa
Colum, Prifysgol
Caerdydd, CF10 3EU, am 7.00pm. Cydnabyddir nawdd
Llenyddiaeth
Cymru. Croeso cynnes i bawb.
Gwener, 21 Tachwedd
Cylch Cadwgan. Noson yng nghwmni Catrin Dafydd, yn festri
Bethlehem, Gwaelod-y-garth, am 8.00pm. Cydnabyddir cefnogaeth
Llenyddiaeth Cymru.
Sadwrn, 29 Tachwedd Tabernacl, Yr Ais. Datganiad Organ gan Huw
Tregelles Williams. Casgliad ar y diwedd i Gronfa’r
Organ.
Rhagfyr
Mawrth, 2 Rhagfyr Cymdeithas Ddiwylliannol Minny Street. ‘Ar Ben
Stôl.’ Sgwrs gan Rhian Morgan (Llandeilo), yn festri
Capel Minny Street am 7.30pm.
Mercher, 3 Rhagfyr Aelwyd Hamdden Cymry Caerdydd. Gwasanaeth a
The Parti Nadolig, yn
festri Capel Minny Street am 1.00pm. Anerchiad gan yr Is-
Gadeirydd, y Parch. Allan Pickard.
Anfonwch fanylion ar gyfer
Y Digwyddiadur at
Yr Athro Wyn James, 16 Kelston Rd., Yr Eglwys Newydd, Caerdydd
CF14 2AJ
Ffôn: 029-2062-8754; ebost:[email protected]
mailto:[email protected]:[email protected]
-
17
Rhif: 146
Ar Draws
2.’---- sŵn efengyl bur ar led Trwy barthau’r byd o’r bron’ (MJ)
(3) 5. Hanner Bryste yn cael hanner y cennin a darn o gig (6) 7. Yn
gysurus mewn gwres mwy therapiwtig (6) 9.’Cefais yn eu plith allor
ac arni’n ysgrifenedig ‘I
Dduw ------- -------‘(Actau) (3, 8) 10.’Gwyn eu byd y rhai sy’n
------‘(Mathew) (6) 11. Ofn torri y drych cyn Ionawr 3ydd (6) 13. O
Grymych daw ymgais i ennill cefnogaeth(6) 16. ‘Mae ------ hwyr y
ddinas yn fy neffro (HG) (6) 18. Cymorth i groeseirwyr! ((11) 19.
Ond Mei all dorri a thrwsio (6) 20.’Mae’n dawel yn awr yn -----
Llyn Lle gynt y bum yn dysgu cân y byd’ (DI) (6) 21. Gweithiwr yn
dechrau glanhau oriel fawr (3)
I Lawr 1.Rhywbeth sy’n denu at y fan arbennig (6) 2. Tynnu awyr
a flaen llawer(6)
3. A dweud rywsut gydag un arall (6) 4, Sedd ar bedair coes (6)
6. Addefiad y bydd Dic a Dan yn newid (11) 8.’------ ----- ----- yr
hwyr a mi yn unig Daw hiraeth am eich ‘nabod chwi bob un’ (5, 2, 4)
10. Gwasgu’r gweladwy i’r afon (3) 12. A wrthodir hon yn Ffrainc?
(3) 14. Gwn yn ymddangos ar i fyny mewn ffuglen gamarweiniol
(6)
15 A oes golch i’w wneud yma? (6) 16.’Yr ----- hael a roes Ei
eurwe ar y bryn’(TJT)(6) 17. Arwydd am sbonc (6)
Atebion Croesair Rhif 144
Ar Draws: 1. Gwangalondid 7. Almaenwr 8. Abba 9.
Ahab 12. Glaslanc 13. Credyd 15. Uncorn 17. Cyfarchol
20. Llawn 22. Stên 23. Melodaidd 25. Golwg o dan y dŵr
I Lawr: 1. Gwala 2. Nia 3. Annog 4.Oernadu 5. Diawl 6. Dibendraw
10. Hirwyntog 11. Byd 14. Dychymyg 16. Coll 18. Annel 19. Lolfa 21.
Nyddwr 24. Dwy
A
D I N E S
R
1 2 3 4
5 6 7 8
9
10 11 12
13 14 15 16 17
18
19 20
21
Enillydd Croesair Rhif 144 Buddug Roberts, Yr Eglwys Newydd
Danfonwch eich atebion at Rhian Williams erbyn 5 Tachwedd ,
2014.
22 Heol Cae Rhys, Rhiwbeina, Caerdydd, CF14 6AN
Gair o Ddiolch
Diolch yn fawr iawn i bawb a gefnogodd y bore coffi yn Deli a go
go, yr Eglwys Newydd, ar ddydd Mercher 3 Medi er mwyn codi arian ar
gyfer gwaith ymchwil y galon, sef ‘Mending Broken
Hearts’.
Roedd y lle yn orlawn a diolch i Beverly a’i gweithwyr yn Deli
am roi benthyg y caffi ac am weithio mor ddiwyd i godi arian i’r
elusen. Diolch
hefyd i Lyn a Margaret, Maggie a Julie o Fanc Barclays ac i fy
wyresau, Hannah, Rachel a Loti
am eu gwaith diflino.
Codwyd £2,240 – diolch i bawb ac i Fanc
Barclays am eu cyfraniad hael.
Anne Innes.
Enwau Cymraeg cynhenid ardaloedd Caerdydd
Mae Cyngor Caerdydd am geisio adfer enwau Cymraeg cynhenid
gwahanol leoedd yn y ddinas. Cydnabyddir mai cyfieithiad Cymraeg o
enwau Saesneg a osodwyd gan fewnfudwyr di-Gymraeg ar wahanol
safleoedd o fewn Caerdydd yw rhai o’r enwau Cymraeg a ddefnyddir
heddiw. Y canlyniad yw fod peryg i’r enwau brodorol gael eu colli
am
byth. Enghraifft drawiadol o’r ffenomen hon yw galw ‘North Road’
yn ‘Ffordd y Gogledd’ gan anwybyddu’r enw Cymraeg gwreiddiol, sef
‘Sarn
Fid Foel’.
Hoffai’r Cyngor wybod am unrhyw enghreifftiau o enwau Cymraeg
gwreiddiol a ddisodlwyd gan gyfieithiad o enw Saesneg diweddarach.
Anfonwch eich sylwadau at:
[email protected]
mailto:[email protected]
-
18
H elo, fy enw i yw Glyn Wise, Swyddog Lled Ffurfiol newydd
Canolfan Cymraeg i Oedolion, Caerdydd a’r Fro. Mae wedi bod yn
bythefnos ers i mi ddechrau a rwy’n caru’r swydd yn barod. Mae’r
Gymraeg yn golygu cymaint i mi. Mae’n iaith gyfoethog llawn urddas
gyda llenyddiaeth anhygoel i’w chlodfori. Mae’r iaith yn rhan
ohonof, yn fy ngwneud yn Gymro ac mae’r
swydd yn fy siwtio i’r dim. Ynghlwm â hyn, rwy’n dysgu Cymraeg i
oedolion fel tiwtor yn stadiwm pêl droed Dinas Caerdydd. Mae’n
wych! Mae’r flwyddyn nesaf yn mynd i fod yn fythgofiadwy
rwy’n siŵr.
Ond, yn gyntaf mae’n bwysig fy mod yn cyflwyno fy hunan. Rwy’n
dod o Flaenau Ffestiniog yn wreiddiol ond nawr rwy’n byw yng
Nghaerdydd ers 8 mlynedd. Ni ddychmygais y byddwn yn byw yn y
ddinas fawr ddrwg pan oeddwn yn blentyn. Daeth y dyhead am newid
pan oeddwn yn y chweched dosbarth. Wrth
astudio’r Tŵr gan Gwenlyn Parry, sylweddolais fod bywyd â rhestr
fawr o oblygiadau; gwneud yn dda yn yr ysgol, mynd i’r Brifysgol,
cael swydd, priodi, cael plant a marw. Roedd gen i ofn hynny.
Felly, cymerais y cyfle i fynychu tŷ ‘Big Brother’, sioe deledu yn
seiliedig ar nofel George Orwell ble roedd camerâu mewn tŷ yn dilyn
pob symudiad. Roedd rhaid goroesi byw gyda 14 o wallgofiaid am 13
wythnos, gydag un ohonom, bob penwythnos, yn cael ei daflu allan
o’r tŷ nes fod un ar ôl i gael ei wobrwyo â £100,000. Des i’n
ail
yn anffodus.
Agorodd y sioe gymaint o gyfleoedd i ledaenu fy
Ngymreictod a fy ngwladgarwch i bobl na fyddai erioed yn
crybwyll pwysigrwydd yr iaith a’i diwylliant. Roedd yn braf gweld y
Gymraeg yn cael ei defnyddio ar sianeli Saesneg a phapurau Llundain
yn ei thrafod. Roedd hynny’n wych. Yna, es ymlaen i weithio gyda
Bwrdd yr Iaith i wneud taith ysgolion yn pwysleisio pwysigrwydd yr
iaith. Yn y cyfamser roeddwn yn cyflwyno Planed Plant ar S4C,
cyflwyno ar BBC Radio Cymru a gweithio mewn clybiau nos led-led
Prydain. Fe wnes i ddysgu Cymraeg i feddwon ymhob clwb nos, hyd yn
oed yn Ayr yn yr Alban, ble doedd y bobl ddim
yn deall fy Saesneg heb sôn am y Gymraeg!
Roedd gweithio yn y cyfryngau’n wych, ond
ymhen dwy flynedd, teimlais fy mod wedi gwneud popeth yr oeddwn
i eisiau ei wneud. Edrychais am sialens newydd. Wrth grwydro maes
yr Eisteddfod yn 2008, gwelais stondin Prifysgol Caerdydd. Yn
ffodus iawn, cefais i le i astudio BA yn y Gymraeg, y dewis gorau
erioed! Roedd y cwrs yn wych - astudio’r Mabinogi, bywyd a
gweithiau Saunders Lewis, hanes y ddrama
Gymraeg, nofelau modern a’r clasuron ac ysgrifennu creadigol.
Roedd y 3 blynedd yn
anhygoel ac enillais 2.1 ar ben hynny!
Yn dilyn graddio cefais 2 flynedd o weithio fel athro Cymraeg
iaith gyntaf. Ond, nid oedd addysg yr hyn yr oeddwn yn ei ddisgwyl
(ac fe wnawn ni ei gadael hi ar hynny!) Ond nawr rydw i wedi glanio
ar fy nhraed ac edrychaf ymlaen i gydweithio a chwrdd â phawb yn y
gweithgareddau Cymraeg yng Nghaerdydd a’r
Fro.
Digwyddiadau
Cymaint yn digwydd. Am fwy o fanylion: dilynwch ein trydar
@learningwelsh, facebook learn welsh, e.bost: [email protected]
neu ffoniwch
02920879318
Sadwrn Siarad – 18 Hydref, Palmerston, Cadog
Crescent, Y Barri (£20, £25 ar ôl dyddiad cau)
Sadwrn Siarad - 22 Tachwedd, Chapter,
Treganna (£20, £25 ar ôl dyddiad cau)
Clonc yn y Cwtch – Bob nos Lun 6.30-8 –
Chapter, Treganna.
Bore Coffi a Chlonc Menter Caerdydd – Bob
bore dydd Mawrth 11-12 Mochyn Du, Caerdydd.
Clinig Iaith – 12-1, Prifysgol Caerdydd
Coffi Cymraeg – 12-1 Bob dydd Iau, PrifysgoL
Caerdydd
Bore Coffi – 10-12, Bob dydd Sadwrn, Llyfrgell Y
Barri
Clwb Sgrabl Cymraeg – 4 Hydref, 1 Tachwedd,
6 Rhagfyr am 2yp yn Llyfrgell Ganolog Caerdydd.
Noson Gymdeithasol yn Yr Eglwys Newydd –
18 Hydref, 15 Tachwedd yn Nhafarn y Malsters,
CF14 1DD
Cwis Y Mochyn Du – 26 Hydref, 30 Tachwedd
am 8yh. £1 y pen
Dysgwyr y Ddinas
Cyflwyno Glyn Wise -
ein colofnydd newydd
Glyn Wise
mailto:[email protected]
-
19
Lowri Haf Cooke
Bwytai Merch y Ddinas
“Rwy’n hapus i argymell Chez Francis
dros fisoedd yr Hydref a thu hwnt, wrth
gynnig gwasanaeth Cymraeg a bwydlen
o ffefrynnau Ffrengig.”
Y n ystod mis Medi ges i wahoddiad gan raglen Heno i adolygu
bwyty ar S4C. A minnau newydd fynychu noson agoriadol Chez
Francis,
awgrymais y bwyty hwnnw fel lleoliad delfrydol. Dyma fenter
newydd sbon y Ffrancwr Francis
Dupuy, a sefydlodd Le Gallois ym Mhontcanna yn
1999. Enillodd y bwyty dair rhosyn AA, wrth gyfuno seigiau
cyfoes o Ffrainc a chynnyrch
Cymreig. Agorodd Elen, gwraig Francis, y deli delfrydol Chez
Soi, ac ‘roedd ei fwyty bwyd-cyflym Boof yng Nghanolfan Dewi Sant
yn ffefryn mawr
gen i. Yna yn 2012 daeth newid mawr wrth sefydlu bwyty Pier 64
ger Pier Penarth. Yn
ddiweddar, prynwyd y busnes llwyddiannus hwnnw gan y
pêl-droediwr Craig Bellamy, a phenderfynwyd agor bistro Ffrengig
traddodiadol yn Nhreganna.
Mae Chez Francis wedi’i leoli’n berffaith o dan y Purple
Poppadom – bwyty Indiaidd chwaethus
Chef Anand George. Ceir bar tra dymunol ym
mhen blaen y bistro, lle cewch wylio trigolion Treganna yn
cerdded heibio. Ges i lasied dymunol o win gwyn y cartref,
Sauvignon Blanc Lachteau o ddyffryn y Loire, sydd yn llawn blasau
ffrwythau siarp fel eirin Mair am £16.95 y botel, sydd yn bris
rhesymol i Gaerdydd.
Yn dilyn hynny ces fy arwain at y bwyty dymunol, sydd yn
adleisio bistros traddodiadol Paris a Provence. Dodrefnwyd Chez
Francis gan
Beti Biggs â chyffyrddiadau pren sy’n cyfosod y
waliau gwyrddlas cyfoethog; crewyd naws gynnes i asio â’r
awyrgylch teuluol.
Ar y noson agoriadol, yn hytrach nag archebu pryd tri chwrs,
dewisais ganolbwyntio ar bedwar platiad bach i gael blas o brif
seigiau’r bwyty, a rhaid dweud na chefais fy siomi. Roedd y selsig
Toulouse yn flasus tu hwnt ac yn berffaith â’r mwstard Ffrengig,
a’r confit hwyaden wedi’i weini
â ffa haricot yn toddi’n felfedaidd ar dafod. Gofynnais i’r
gweinyddwyr, Ifan a Marianne,
beth oedd eu hoff saig nhw ar y fwydlen. Er mai afu cyw iâr mewn
hufen oedd eu hymateb, archebais blât, ac roedd yn gwbl ragorol; y
cig yn llawn blas, a’r dwyster deniadol yn cydbwyso ysgafnder y
tatws parmentière i’r dim.
Ar gyfer y ffilmio, dros wythnos yn ddiweddarach, dewisais bryd
bwyd tri chwrs i ginio, gan ddechrau ag un o’m hoff seigiau o fwyty
cyflym Boof. Yr oedd y cawl nionyn Ffrengig
cystal, os nad gwell, na’r fersiwn gynharach
hwnnw, gyda melyster y nionod yn gweddu’n berffaith i’r bara a
chaws Gruyere. I ddilyn, dewisais y saig a saethodd i’r brig yn
ystod y noson agoriadol - y clasur cefn-gwlad, Coq au Vin.
Ystwythwyd y cyw iâr am oriau mewn gwin, a llysiau’r pridd ar y cyd
â thatws stwnsh. Fel yn achos y cawl, roedd brathiad ohono fel
derbyn
cwtch mawr gan Mam.
Roedd y pwdin - clafoutis - yn brofiad newydd i mi; sbwng ysgafn
llawn ceirios siarp, oedd yn berffaith wedi pryd bwyd cymharol
drwm. Rwy’n hapus i argymell Chez
Francis dros fisoedd yr Hydref a thu hwnt, wrth gynnig
gwasanaeth Cymraeg a bwydlen o ffefrynnau Ffrengig. Mae gan y tîm
afael cadarn ar seigiau eiconig y byddwch yn ysu i’w
blasu dro ar ôl tro.
Chez Francis, 185 Heol Ddwyreiniol y Bontfaen,
Treganna, CF11 9AJ; 029 2022 4959 Canllaw Bach Caerdydd gan
Lowri Haf Cooke, £9.99 (Gwasg Gomer)
Rhai seigiau blasus Chez Francis
-
20
YMGYRCH S4C ‘EICH DEWIS CHI’
YN YR AIS
Kai Fermandel gyda’i dad Mathew
Champion yn cwrdd â
Sali Mali
Sara Davies ac Ellis o Gaerdydd yn
cwrdd â Sali Mali a Geraint
Hardy
Charlotte Fulthorpe o Gaerdydd gyda
Sali Mali a Geraint Hardy
Dydd Sadwrn 20 Medi bu ymgyrch S4C
‘Eich Dewis Chi’ yn ymweld â’r Ais.
Tynnwyd y lluniau isod gan
Glenn Edwards ar y stondin.