1 Cyngor Tref Criccieth Cofnodion cyfarfod y Cyngor Tref a gynhaliwyd am 7.00 o’r gloch, nos Lun, 12 Medi 2016 yn Siambr y Cyngor, Stryd Fawr, Criccieth. _______________________________________________ Gweddi agoriadol 109/16: Presennol Cadeirydd Cyng. R Cadwalader IsGadeirydd Cyng. Sian Williams Cyng. Wayne Roberts; Cyng. Elizabeth Regan; Cyng. Dr E Tudor Jones; Cyng. R T Price; Cyng. W A Evans; Cyng. Phil Jones 209/16: Ymddiheuriadau Cyng. Henry Jones; Cyng. Eirwyn Williams; Cyng. Dafydd Lloyd; Cyng. Elizabeth George 309/16: Datgan diddordeb Cyng. Elizabeth Regan (eitem 14 – llyfrgell Criccieth) Cyng. Wayne Roberts (eitem 8 – cais cynllunio) 409/16: Cadarnhau cofnodion mis Gorffennaf Cadarnhawyd a llofnodwyd y cyfrifon yn unol â’r gyfraith. 509/16: Cyflwyniad gan Daniel Parry, Cartrefi Cymunedol Gwynedd (CCG) – datblygiad ger Waun Helyg Cyflwynodd Mr Parry y cynlluniau i adeiladu 10 tŷ newydd yn Waun Helyg. Eglurodd bod yna angen am dai cymdeithasol yn yr ardal a bod yna 93 o bobl ar y gofrestr aros ar hyn o bryd. Yr oedd CCG yn ymwybodol bod y darn tir dan sylw yn fan chwarae gwarchodedig, ond nid oedd bellach yn debygol y byddai’r cae yn cael ei ddatblygu fel maes chwarae pwrpasol. Roedd yr aelodau yn teimlo’n gryf y bydd yna fwy o angen maes chwarae penodol ar Waun Helyg pe byddai mwy o dai yn cael eu hadeiladu yno, ac felly mwy o deuluoedd â phlant yn symud yno. Nid oedd y man chwarae gyferbyn i’r ffordd yn Nhy’n Rhos yn barod yn ddigon mawr. Eglurodd Mr Parry nad oedd gan CCG yr adnoddau i gynnwys man chwarae newydd fel rhan o’r cynllun. Roedd yr aelodau am danlinellu bod y sefyllfa fel y mae ar hyn o bryd yn tu hwnt o beryglus, gan fod rhaid i blant groesi ffordd brysur i gyrraedd y man chwarae presennol. Nid oedd yr aelodau yn teimlo bod y cynlluniau diogelwch ar y ffordd ar hyn o bryd yn ddigon derbyniol. Roedd angen gweld bod gan y datblygwyr gynlluniau gwell i arafu’r traffig yn yr ardal ac i sicrhau croesfan mwy diogel. Nid oedd yr aelodau yn gwrthwynebu’r tai newydd eu hun, ond bydd eu cefnogaeth o’r cynllun llawn yn amodol ar gynlluniau a fydd yn cynnwys mesurau diogelwch mwy cadarn. Gofynnwyd i CCG felly i ddiwygio’r cynlluniau trwy gymryd y pwyntiau yma mewn i ystyriaeth, ac i ddarparu’r Cyngor Tref â manylion o’r cynlluniau diwygiedig hynny. Gofynnwyd i’r Clerc i ddanfon ymatebion y Cyngor Tref i adran gynllunio Cyngor Gwynedd. Roedd yr aelodau yn teimlo y gall y Cyngor Tref edrych ar y posibilrwydd o sefydlu/datblygu man chwarae yn yr ardal yn y dyfodol, ac ar yr opsiwn o wneud cais am grant ar gyfer hyn. Roedd gan CCG ei hun, er enghraifft, gronfa ar gyfer prosiectau cymunedol. Gwnaeth yr aelodau ddiolch i Mr Parry am ei gyflwyniad a’r cyfle i drafod yr agwedd bwysig yma o’r cynlluniau.
This document is posted to help you gain knowledge. Please leave a comment to let me know what you think about it! Share it to your friends and learn new things together.
Transcript
1
Cyngor Tref Criccieth
Cofnodion cyfarfod y Cyngor Tref a gynhaliwyd am 7.00 o’r gloch, nos Lun, 12 Medi 2016 yn Siambr y Cyngor, Stryd Fawr, Criccieth.
1-‐09/16: Presennol Cadeirydd Cyng. R Cadwalader Is-‐Gadeirydd Cyng. Sian Williams Cyng. Wayne Roberts; Cyng. Elizabeth Regan; Cyng. Dr E Tudor Jones; Cyng. R T Price; Cyng. W A Evans; Cyng. Phil Jones
2-‐09/16: Ymddiheuriadau Cyng. Henry Jones; Cyng. Eirwyn Williams; Cyng. Dafydd Lloyd; Cyng. Elizabeth George 3-‐09/16: Datgan diddordeb Cyng. Elizabeth Regan (eitem 14 – llyfrgell Criccieth) Cyng. Wayne Roberts (eitem 8 – cais cynllunio) 4-‐09/16: Cadarnhau cofnodion mis Gorffennaf Cadarnhawyd a llofnodwyd y cyfrifon yn unol â’r gyfraith.
5-‐09/16: Cyflwyniad gan Daniel Parry, Cartrefi Cymunedol Gwynedd (CCG) – datblygiad ger Waun Helyg Cyflwynodd Mr Parry y cynlluniau i adeiladu 10 tŷ newydd yn Waun Helyg. Eglurodd bod yna angen am dai cymdeithasol yn yr ardal a bod yna 93 o bobl ar y gofrestr aros ar hyn o bryd. Yr oedd CCG yn ymwybodol bod y darn tir dan sylw yn fan chwarae gwarchodedig, ond nid oedd bellach yn debygol y byddai’r cae yn cael ei ddatblygu fel maes chwarae pwrpasol.
Roedd yr aelodau yn teimlo’n gryf y bydd yna fwy o angen maes chwarae penodol ar Waun Helyg pe byddai mwy o dai yn cael eu hadeiladu yno, ac felly mwy o deuluoedd â phlant yn symud yno. Nid oedd y man chwarae gyferbyn i’r ffordd yn Nhy’n Rhos yn barod yn ddigon mawr. Eglurodd Mr Parry nad oedd gan CCG yr adnoddau i gynnwys man chwarae newydd fel rhan o’r cynllun.
Roedd yr aelodau am danlinellu bod y sefyllfa fel y mae ar hyn o bryd yn tu hwnt o beryglus, gan fod rhaid i blant groesi ffordd brysur i gyrraedd y man chwarae presennol. Nid oedd yr aelodau yn teimlo bod y cynlluniau diogelwch ar y ffordd ar hyn o bryd yn ddigon derbyniol. Roedd angen gweld bod gan y datblygwyr gynlluniau gwell i arafu’r traffig yn yr ardal ac i sicrhau croesfan mwy diogel.
Nid oedd yr aelodau yn gwrthwynebu’r tai newydd eu hun, ond bydd eu cefnogaeth o’r cynllun llawn yn amodol ar gynlluniau a fydd yn cynnwys mesurau diogelwch mwy cadarn. Gofynnwyd i CCG felly i ddiwygio’r cynlluniau trwy gymryd y pwyntiau yma mewn i ystyriaeth, ac i ddarparu’r Cyngor Tref â manylion o’r cynlluniau diwygiedig hynny. Gofynnwyd i’r Clerc i ddanfon ymatebion y Cyngor Tref i adran gynllunio Cyngor Gwynedd.
Roedd yr aelodau yn teimlo y gall y Cyngor Tref edrych ar y posibilrwydd o sefydlu/datblygu man chwarae yn yr ardal yn y dyfodol, ac ar yr opsiwn o wneud cais am grant ar gyfer hyn. Roedd gan CCG ei hun, er enghraifft, gronfa ar gyfer prosiectau cymunedol.
Gwnaeth yr aelodau ddiolch i Mr Parry am ei gyflwyniad a’r cyfle i drafod yr agwedd bwysig yma o’r cynlluniau.
2
6-‐09/16: Eitemau brys ac er gwybodaeth
• Toiledau: Nid oedd Cyngor Gwynedd eto wedi darparu gwybodaeth bellach yn dilyn penderfyniad y Cyngor Tref i gyfrannu yn ariannol at eu cynnal. Disgwylir mwy o fanylion yn yr wythnosau nesaf.
7-‐09/16: Gohebiaeth
a. Cyfarfod pwyllgor ardal Arfon/Dwyfor Dwyfor 14 Medi 2016. Derbyniwyd yr wybodaeth.
b. Grid Cenedlaethol Derbyniwyd lythyr oddi wrth ‘National Grid’ yn sôn am y gwaith uwchraddio arfaethedig i’r rhwydwaith trydan cenedlaethol ac y bydd yna mwy o wybodaeth am y gwaith ar gael yn yr
hydref. Ni fydd yn effeithio’n uniongyrchol ar Griccieth. Derbyniwyd yr wybodaeth.
8-‐09/16: Ceisiadau Cynllunio
C16/0941/35/LL Diwygiad i ganiatad C15/0711/35/LL ar gyfer codi tŷ newydd Ynys Hir, Morannedd, Criccieth LL52 0PP Penderfyniad: Gwrthwynebu yn unfrydol.
Lleolir y datblygiad yma yng nghanol anheddau ag edrychiad sy’n cynnwys agweddau mwy confensiynol, fel toeau llechi, ac o ganlyniad mae’r aelodau yn teimlo bod y cynllun yma felly allan o gymeriad yn llwyr â’r hyn sydd yn yr ardal honno yn barod.
9-‐09/16: Archwiliad Cyfrifon 2015-‐16 a diweddariad ar gyfrifon/cyllideb 2016-‐17
Adroddodd y Clerc bod yr archwilwyr allanol, BDO, bellach wedi cwblhau’r broses archwilio, ond nid oedd eu hadroddiad wedi cyrraedd hyd yma.
Eglurodd y bu rhaid, yn y ystod y broses archwilio, i ddarparu gwybodaeth i’r archwilwyr am y gronfa wrth gefn a’r prosiectau sydd wedi eu clustnodi gan y Cyngor Tref – prosiectau a drafodwyd ac a benderfynwyd arnynt yn ystod y dair blynedd diwethaf, gan gynnwys arhosfan Caerdyni, gwelliannau i’r
promenad, cynnal a chadw’r cysgodfannau, gwaith traenio ar lwybr drwy’r parc i Benaber, a.y.y.b., ond sydd heb eu gweithredu eto. Adroddodd y Clerc bod yna ddigon o arian wrth gefn erbyn hyn i ystyried ariannu cynllun cynhwysfawr gall gwmpasu’r prosiectau yma i gyd fel rhan o gynllun gweithdredu
strategol. Mae £30,379 yn y gronfa wrth gefn ar hyn o bryd a, gyda phraesept 2016-‐17 bellach wedi ei dderbyn yn llawn erbyn hyn (£34,000) yn ogystal â’r cyfrif cyfredol (£58,057), mae modd yn awr felly i glustnodi swm pwrpasol i ariannu cynllun o’r fath.
Derbynioddd yr aelodau y diweddariad yma ar gyfrifon 2016-‐17 a phenderfynwyd y dylid bwrw ymlaen yn awr a chychwyn creu cynllun gweithredu.
10-‐09/16: Cynllun gweithredu a phrosiectau
Ar ôl cyflwyno diweddariad o gronfa ariannol y Cyngor (pwynt 9-‐09/16), ac yn dilyn y drafodaeth o grantiau a chynllun gweithredu yng nghyfarfod mis Ionawr o’r Cyngor Tref, gwnaeth y Clerc ail-‐
amlinellu’r manteision o sefydlu cynllun gweithredu ac i ymgynghori gyda’r gymuned ar brosiectau potensial. Tanlinellodd y Clerc bod cynllun gweithredu yn ffordd dda i fynd i’r afael, mewn modd strategol, â’r gyfres o brosiectau sydd eisoes wedi eu clustnodi, ac y gellir ei ddefnyddio fel sail gadarn i
unrhyw geisiadau grant yn y dyfodol.
3
Gan fod darlun ychydig mwy llawn ar gael erbyn hyn o doriadau Cyngor Gwynedd a’u heffaith ar y dref,
gwnaeth y Clerc gynghori’r aelodau ei fod yn awr yn amser da i ddechrau ar y broses. I’r perwyl hwn, awgrymodd y Clerc y dylai’r Cyngor Tref wahodd arbenigwr ar ymgynghoriadau a datblygu cymunedol i wneud cyflwyniad yng nghyfarfod mis hydref. Derbyniwyd fanylion am arbenigwr perthnasol (Cerys
Thomas) gan Unllais Cymru.
Penderfyniad: Roedd yr aelodau yn gefnogol iawn o greu cynllun gweithredu a phenderfynwyd felly i wahodd Cerys Thomas i gyfarfod mis hydref fel y gall y Cyngor ddechrau ar y broses cyn gynted ag sy’n
bosib.
Llwybr o Benaber i’r parc. Roedd y Clerc wedi bod mewn cysylltiad â Steffan Jones, Cyngor Gwynedd, a oedd yn cynnig cyfarfod maes yn y man dan sylw ar fore Gwener, 16 Medi am 9 o’r gloch.
Penderfyniad: bydd y Clerc a’r Cyng. W A Evans, Phil Jones a Wayne Roberts yn mynychu’r cyfarfod.
Llwybrau’r parc. Adroddodd y Clerc bod yr aelod lleol wedi dechrau ar drafodaethau gyda Chyngor Gwynedd i arwynebu holl lwybrau’r parc gan fod nifer o fannau wedi dirywio, ac roedd yn aros am benderfyniad. Roedd pennaeth Ysgol Treferthyr hefyd wedi ysgrifennu i Gyngor Gwynedd gan fod y llwybr o flaen yr ysgol yn benodol mewn cyflwr gwael. Roedd yr aelod lleol yn awgrymu y dylid gwneud y gwaith ar yr un pryd â’r gwaith ar lwybr Penaber.
Peintio’r cysgodfannau. Roedd y Clerc wedi derbyn pris ar gyfer gwneud y gwaith, ond hefyd wedi bod mewn cysylltiad â Chyngor Gwynedd a wnaeth yna fynd ati i archwilio’r cysgodfannau. Daethpwyd i ganlyniad bod angen trwsio’r gwaith coed yn gyntaf gan fod yna ddifrod, a bydd Cyngor Gwynedd yn ymgymryd â’r gwaith yma ar ôl yr haf.
11-‐09/16: Torri gwair
Roedd nifer fawr o gwynion wedi dod i law eleni am drefn torri gwair Cyngor Gwynedd, a bod yna or-‐dyfiant yn arbennig wedi bod yn y parc. Adroddodd y Clerc bod yr aelod lleol wedi rhoi pwysau sylweddol ar Gyngor Gwynedd drwy gydol yr haf ac roedd y gwair yn y parc wedi cael ei dorri o’r diwedd wythnos ddiwethaf.
Penderfyniad: I wahodd swyddog o Gyngor Gwynedd i ddod i gyfarfod o’r Cyngor Tref er mwyn trafod y sefyllfa ac i drafod y posibilrwydd y gall y Cyngor Tref ei hun ymgymryd ag unrhyw agwedd o’r gwaith.
12-‐09/16: Parcio yng Nghriccieth
Adroddodd y Cyng. Dr E Tudor Jones bod y drafnidiaeth drwy’r dref wedi bod lawer drymach haf yma a bod y sefyllfa parcio yn mynd o ddrwg i waeth. Ategwyd hyn gan nifer o aelodau eraill a thynnwyd sylw at wahanol rannau o’r dref lle’r oedd parcio yn broblem cynyddol, gan gynnwys yr ardal ger y Lion a Salem Terrace ac hefyd cyffiniau Min y Môr. Nid oedd Cyngor Gwynedd eto wedi gosod y llinellau melyn ger y Lion gan fod rhaglen waith yr adran berthnasol wedi llithro a bydd yn ddiwedd y flwyddyn cyn i’r broses ddechrau yn yr achos arbennig hwn.
Yn ogystal â hyn, derbyniwyd luniau gan breswylwyr o Queens Road yn dangos ceir yn parcio ar y palmant, parcio ar y llinellau melyn dwbl a pharcio mewn modd a oedd yn culhau y stryd i’r fath lefel y gallant atal lorïau sbwriel a cherbydau gwasanaethau argyfwng rhag gael mynediad i’r stryd.
Tynnwyd sylw at y ffaith mai, ar y mwyaf, ond tua 20 o geir a oedd yn parcio ym mhrif maes parcio’r dref yn ystod yr haf. Nid oedd yr aelodau yn teimlo bod yr arwyddion i gyfeirio pobl i barcio yno yn ddigon amlwg. Roedd angen sefydlu ffyrdd o gael mwy o ymwelwyr i ddefnyddio’r maes parcio yma.
4
Tynnwyd sylw hefyd i’r ffaith bod ceir yn parcio ar y linell felen sengl gyferbyn â’r orsaf bâd achub. Roedd hyn yn gorfodi ceir i yrru ar yr ochr anghywir o’r ffordd ar droad peryglus. Roedd angen llinellau dwbl yn y man yma.
Penderfyniad: cytunwyd mai gwaethygu oedd y sefyllfa yn gyffredinol trwy’r dref ac ei fod yn datblygu i fod yn fater difrifol. Penderfynwyd i wahodd swyddog o Gyngor Gwynedd i ddod i gyfarfod o’r Cyngor Tref i drafod y sefyllfa ac unrhyw ddatrusiad. Cytunwyd i drafod cysylltu â’r wasg ar ôl y drafodaeth yma.
13-‐09/16: Llwybrau cyhoeddus
Yr oedd Cyng. Wayne Roberts wedi cysylltu â Chymdeithas y Cerddwyr am y sefyllfa ddiweddaraf ynghylch y broses gyfreithiol parthed Llwybr 11. Ceir copi o’r llythyr a dderbyniwyd ynghlwm. Mae’r
mater wedi cael ei drosglwyddo gan y Gymdeithas i fargyfreithiwr am gyngor. Penderfyniad: i gadw’r mater yma ar y rhaglen bob mis.
14-‐09/16: Llyfrgell Criccieth
Roedd yr opsiwn ffafredig o sefydlu llyfrgell gymunedol yng Nghriccieth ac i’w throsglwyddo i adeilad Encil y Coed yn mynd i gael ei gyflwyno i Gabinet Cyngor Gwynedd ar 13 Medi 2016. Cyflwynwyd cynllun
arfaethedig ar gyfer y llyfrgell yn yr adeilad hwnnw a nodwyd bod y cynllun yn cynnwys mwy o gyfrifiaduron nag sydd ar hyn o bryd (4 yn lle 2), sy’n elfen gadarnhaol iawn. Derbyniwyd wybodaeth oddi wrth y swyddogion a oedd yn cadarnhau – pe bai’r Cabinet yn rhoi sêl bendith i’r cynlluniau – y bydd y
llyfrgell yn cael ei sefydlu yn Encil y Coed ym Mawrth 2017.
Roedd hyn yn rhan o strategaeth ar gyfer 2017-‐20, ond yn ôl llythyr i’r aelod lleol a ddanfonwyd gan y
swyddogion, nid oes sicrwydd ar hyn o bryd y bydd y strategaeth yma dal yn weithredol ar ôl 2020. Nid oedd y swyddogion yn medru dweud ar hyn o bryd os y bydd yna ddisgwyliadau ar y Cyngor Tref o ran y drefniant newydd yma. Hefyd, nid oes unrhyw wybodaeth parthed beth a fydd yn digwydd i adeilad
presennol y llyfrgell a’r offer, fel y byrddau billiards, a gedwir yn yr adeilad. Mae’n bosib y gellid gwerthu’r byrddau yma.
Derbyniwyd yr wybodaeth a phenderfynwyd i roi’r byrddau biliards ar raglen mis Hydref. 15-‐09/16: Swydd y Clerc
Adroddodd y Clerc bod yna nifer wedi gofyn am fwy o fanylion parthed y swydd, bod yna ddau gais eisoes wedi cyrraedd a bod yna bosiblrwydd y bydd yna geisiadau eraill yn cyrraedd cyn y dyddiad cau.
Dyddiad y cyfweliadau – nos Lun, 26 Medi. Bydd y Clerc yn danfon copïau o’r ceisiadau i’r panel cyfweld yn syth ar ôl y dyddiad cau.
16-‐09/16: Derbyniadau Praesept 2016-‐2017 (Cyngor Gwynedd) – ail daliad £17,000.00
14-‐09/16: Taliadau
• Cyllid y Wlad (PAYE) Gorffennaf £76.60 (siec 101014) • Cyllid y Wlad (PAYE) Awst £76.60 (siec 101015) • Cyflog y Clerc (Gorffennaf) £306.74 (siec 101016) • Cyflog y Clerc (Awst) £306.74 (siec 101017) • Atkin Groundworks (Torri gwair llwybrau/barbio mynwent) £392.66 (siec 101018) • Dream Internet Solutions (gwaith ar y safle we, taliad blwyddyn) £240.00 (siec 101019) • Rhent ystafell, blynyddol (Cyngor Gwynedd) £50.00 (siec 101020) • Costau parcio cynghorwyr (cyfarfod adran gynllunio Cyngor Gwynedd) £4.00 (siec 101021)
Cynhelir y cyfarfod nesaf o’r Cyngor Tref ar nos Lun, 10 Hydref 2016, ***noder – i ddechrau am 6.30 o’r gloch er mwyn neilltuo amser ar gyfer y cyflwyniad ar gynllun gweithredu
** Bydd y rhaglen yma yn cau 1 Hydref 2016 **
____________________________________
6
Llythyr i Gyng. Wayne Roberts oddi wrth Cymdeithas y Cerddwyr