Top Banner
CLEBERCLEF Rhifyn: Haf 2015 Y CYLCHLYTHYR GAN DÎM Y CELFYDDYDAU A’R DIWYDIANNAU CREADIGOL YN RHONDDA CYNON TAF CROESO I… Cystadleuaeth Ffotograffiaeth i Ysgolion yn Llwyddiant Ysgubol ynhaliodd y prosiect Celfyddydau Ieuenctid gystadleuaeth ffotograffiaeth yn ddiweddar ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd yn ardal Taf Elái yn Rhondda Cynon Taf, yn cynnwys Ysgol Uwchradd Pontypridd, Ysgol Gyfun Bryncelynnog, Ysgol Uwchradd Hawthorn, Ysgol Cardinal Newman ac Ysgol y Pant ymhlith eraill yn y fro. Thema’r gystadleuaeth eleni oedd “Eich Cymuned Drwy Eich Llygaid Chi” a gwahoddwyd ymgeiswyr i gyflwyno ffotograffau sy’n dathlu’r hyn sy’n gwneud lle maen nhw’n byw yn agos at eu calon. Daeth mwy na 25 o geisiadau i law gan ymgeiswyr oedd wedi’u hysbrydoli ac yn teimlo’n angerddol am eu milltir sgwâr ac roedd y delweddau a gyflwynwyd o safon uchel tu hwnt. Dathlwyd y gystadleuaeth gydag arddangosfa yn Oriel Lefel Un ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda, Trehafod ym mis Gorffennaf. Beirniad y gystadleuaeth oedd Graham Harries, ffotograffydd proffesiynol o Lanelli sydd â deng mlynedd ar hugain a mwy o brofiad proffesiynol. Mae ei gleientiaid yn cynnwys: papur newydd The Independent, Orchard Entertainment, Yahoo ac Yswiriant Admiral ymysg eraill. “The work was of a very high standard & it was refreshing to see that most had not been manipulated in any way, this is the kind of photography that will stand the test of time” said Graham Yr enillydd oedd Roman Ahearn, sy’n 15 oed ac yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Pontypridd gyda’i ffotograff “Glaw Drwy Ffenestri”, sef y brif ddelwedd sydd i’w gweld uchod. “Dwi’n hynod o falch fy mod i wedi ennill” meddai Roman. “Dwi wrth fy modd yn tynnu lluniau ac yn edrych ymlaen at gymryd llawer mwy gyda fy nghamera newydd hefyd". Gan i’r gystadleuaeth fod yn gymaint o lwyddiant rydyn ni eisoes wedi dechrau trefnu un arall ar gyfer y flwyddyn nesaf, felly cofiwch gadw llygad am enillydd a chystadleuwyr flwyddyn nesaf! Croeso’r Golygydd gan Caroline O’Neill, Rheolwr y Celfyddydau a Diwydiannau Creadigol Croeso i rifyn cyntaf cylchlythyr Tîm y Celfyddydau a’r Diwydiannau Creadigol yng Ngwasanaethau Celfyddydau Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf! Rydyn ni’n edrych ymlaen at allu rhannu gwaith ein rhaglen Celfyddydau Ieuenctid a Diwydiant Cerddoriaeth Ieuenctid SONIG gyda chi; rhoi blas ar yr hyn rydyn ni’n ei wneud; a dangos i chi sut mae cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau plant, pobl ifanc a’u teuluoedd. Yn y rhifyn hwn, bydd aelodau’r tîm yn cyflwyno’r holl waith amrywiol sydd ar y gweill gyda’r unigolion dawnus rydyn ni’n eu cefnogi. Diolch i fenter Teuluoedd yn Gyntaf am gomisiynu ein gwaith, ac i bawb sy’n ein cefnogi i’w wneud yn brofiad cyffrous llawn hwyl i bawb! C Eich Cymuned Drwy Eich Llygaid Chi gan Liz Driscoll, Cydlynydd Celfyddydau Ieuenctid Ennillydd: Glaw trwy Ffenestr gan Roman Ahearn, Ysgol Uwchradd Pontypridd Wedi'i wneud yn bosib gan:
6

CleberClef (Haf 2015)

Jul 23, 2016

Download

Documents

Richard Samuel

Y clylchythyr gan dîm Y celfyddyau a'r diwydiannau credigol yn Rhondda Cynon Taff.
Welcome message from author
This document is posted to help you gain knowledge. Please leave a comment to let me know what you think about it! Share it to your friends and learn new things together.
Transcript
Page 1: CleberClef (Haf 2015)

CLEBERCLEF Rhifyn: Haf 2015 : Summ: Sum

Y CYLCHLYTHYR GAN DÎM Y CELFYDDYDAU A’R DIWYDIANNAU CREADIGOL YN RHONDDA CYNON TAF CROESO I…

Cystadleuaeth Ffotograffiaeth i Ysgolion yn Llwyddiant Ysgubol

ynhaliodd y prosiect Celfyddydau Ieuenctid gystadleuaeth ffotograffiaeth yn ddiweddar ar gyfer

disgyblion ysgolion uwchradd yn ardal Taf Elái yn Rhondda Cynon Taf, yn cynnwys Ysgol Uwchradd Pontypridd, Ysgol Gyfun Bryncelynnog, Ysgol Uwchradd Hawthorn, Ysgol Cardinal Newman ac Ysgol y Pant ymhlith eraill yn y fro. Thema’r gystadleuaeth eleni oedd “Eich Cymuned Drwy Eich Llygaid Chi” a gwahoddwyd ymgeiswyr i gyflwyno ffotograffau sy’n dathlu’r hyn sy’n gwneud lle maen nhw’n byw yn agos at eu calon.

Daeth mwy na 25 o geisiadau i law gan ymgeiswyr oedd wedi’u hysbrydoli ac yn teimlo’n angerddol am eu milltir sgwâr ac roedd y delweddau a gyflwynwyd o safon uchel tu hwnt. Dathlwyd y gystadleuaeth gydag arddangosfa yn Oriel Lefel Un ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda, Trehafod ym mis Gorffennaf.

Beirniad y gystadleuaeth oedd Graham Harries, ffotograffydd proffesiynol o Lanelli sydd â deng mlynedd ar hugain a mwy o

brofiad proffesiynol. Mae ei gleientiaid yn cynnwys: papur newydd The Independent, Orchard Entertainment, Yahoo ac Yswiriant Admiral ymysg eraill. “The work was of a very high standard & it was refreshing to see that most had not been manipulated in any way, this is the kind of photography that will stand the test of time” said Graham

Yr enillydd oedd Roman Ahearn, sy’n 15 oed ac yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Pontypridd gyda’i ffotograff “Glaw Drwy Ffenestri”, sef y brif ddelwedd sydd i’w gweld uchod. “Dwi’n hynod o falch fy mod i wedi ennill” meddai Roman. “Dwi wrth fy modd yn tynnu lluniau ac yn edrych ymlaen at gymryd llawer mwy gyda fy nghamera newydd hefyd".

Gan i’r gystadleuaeth fod yn gymaint o lwyddiant rydyn ni eisoes wedi dechrau trefnu un arall ar gyfer y flwyddyn nesaf, felly cofiwch gadw llygad am enillydd a chystadleuwyr flwyddyn nesaf!

Croeso’r Golygydd gan Caroline O’Neill, Rheolwr y Celfyddydau a Diwydiannau Creadigol

Croeso i rifyn cyntaf cylchlythyr Tîm y Celfyddydau a’r Diwydiannau Creadigol yng Ngwasanaethau Celfyddydau Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf! Rydyn ni’n edrych ymlaen at allu rhannu gwaith ein rhaglen Celfyddydau Ieuenctid a Diwydiant Cerddoriaeth Ieuenctid SONIG gyda chi; rhoi blas ar yr hyn rydyn ni’n ei wneud; a dangos i chi sut mae cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau plant, pobl ifanc a’u teuluoedd.

Yn y rhifyn hwn, bydd aelodau’r tîm yn cyflwyno’r holl waith amrywiol sydd ar y gweill gyda’r unigolion dawnus rydyn ni’n eu cefnogi.

Diolch i fenter Teuluoedd yn Gyntaf am gomisiynu ein gwaith, ac i bawb sy’n ein cefnogi i’w wneud yn brofiad cyffrous llawn hwyl i bawb!

C

Eich Cymuned Drwy Eich Llygaid Chi gan Liz Driscoll, Cydlynydd Celfyddydau Ieuenctid

Ennillydd: Glaw trwy Ffenestr gan Roman Ahearn, Ysgol Uwchradd Pontypridd

Wedi'i wneud yn bosib gan:

Page 2: CleberClef (Haf 2015)

CleberCLEF | Rhifyn: Haf 2015 2

Gofalwyr ifanc Rhondda Cynon Taf yn mynegi eu hunain

Mae dwsinau o ofalwyr ifanc sy’n rhoi o’u hamser i ofalu am rywun annwyl wedi bod yn destun dathlu mewn noson arbennig i roi cydnabyddiaeth iddynt. Mae gofalwyr ifanc yn blant a phobl ifanc sy’n brif ofalwyr i riant neu frawd neu chwaer sy’n sâl neu’n anabl.

Trefnwyd y digwyddiad gan Wasanaeth Gofalwyr Ifanc Cyngor Rhondda Cynon Taf, sy’n rhoi cymorth i bobl ifanc i’w galluogi i barhau i roi gofal hanfodol yn ogystal â’u helpu gyda’u hanghenion personol yr un pryd.

Roedd yn gyfle i frolio’u cyflawniadau personol, cymdeithasol ac addysgol ac yn gyfle iddynt ddod at ei gilydd, gyda’u rhieni a’u brodyr a’u chwiorydd, mewn noson o hwyl a chydnabyddiaeth.

Cafwyd perfformiadau gwadd gan ofalwyr ifanc, gan gynnwys Kyle John, a berfformiodd Just Being Me; un o’r caneuon a gyfansoddwyd yn ystod gweithdy canu/ysgrifennu caneuon i ofalwyr ifanc a

gydlynwyd gan Brosiect Celfyddydau Ieuenctid Rhondda Cynon Taf.

Penllanw’r digwyddiad oedd perfformiad o Behind Closed Doors, un arall o’r caneuon a gyfansoddwyd yn ystod y prosiect ysgrifennu caneuon a ariennir gan y Prosiect Celfyddydau Ieuenctid a gomisiynwyd gan Teuluoedd yn Gyntaf. Cyflwynwyd y sesiynau gan Jess Jenkins a Matthew Frederick, dau ganwr-gyfansoddwr. Os ydych am wrando ar

Behind Closed Doors holwch Liz Driscoll am gopi.

OEDDECH CHI’N GWYBOD?

Yn ôl Cyfrifiad 2011, mae bron i 200,000 o ofalwyr ifanc yn y DU.

Dechrau Gorffennaf, adfywiodd y Rhwydwaith Hyrwyddwyr Ifanc eu sgyrsiau seminar ar y diwydiant cerddoriaeth, sef y Sesiynau Salon gyda John Hywel Morris (Cymdeithas Hawliau Perfformio (PRS) - cerddoriaeth) a Paul Gray (Undeb y Cerddorion). Sesiwn i gerddorion oedd hon a’i nod oedd gwarchod yr hyn y maen nhw’n ei greu. Yn ystod y sesiynau, cafwyd cyngor ac arweiniad buddiol gan gynrychiolwyr Undeb y Cerddorion (Paul) a PRS - cerddoriaeth (John).

Cynhaliwyd y sesiwn yn Redhouse Cymru, Merthyr Tudful a daeth 12 o gerddorion ifanc a darpar gerddorion ynghyd. Yn sgil y sesiwn roedd pob un yn teimlo’n fwy gwybodus am y ddau sefydliad ac yn hyderus wrth symud ymlaen gyda’u gyrfaoedd. “Mae gen i lawer mwy o wybodaeth am hawliau cerddorion ar ôl heddiw. Roedd gan John a Paul gymorth a

chyngor gwych ar bob pwnc a chwestiwn” meddai Lydia Evans sy’n chwarae’r drymiau gyda Mixalydia, band roc indie amgen yng nghwm Rhondda; ac meddai ei chyd-aelod, y canwr Jesse Mehmet, “Clywais lawer o gyngor gwych am beth i’w wneud mewn rhai sefyllfaoedd a byddai’n fuddiol iawn i mi ymuno ag Undeb y Cerddorion”.

I gael gwybod mwy am PRS - cerddoriaeth ac Undeb y Cerddorion ewch i’w gwefannau: www.musiciansunion.org.uk http://www.prsformusic.com

I gael gwybod am y sesiynau salon nesaf dilynwch y Rhwydwaith Hyrwyddwyr Ifanc @The_YPN, ein hoffi ni ar Facebook neu ewch i’n gwefan www.youngpromotersnetwork.com

Cân Gofalwyr Ifanc gan Liz Driscoll, Cydlynydd Celfyddydau Ieuenctid

Cyfansoddwyr Cerddoriaeth - Gwybod Eu Hawliau gan Spike Griffiths, Cydlynydd SONIG

John Hywel Morris yn rhoi’r don nesaf o ddoniau cerddorol y De ar ben ffordd ynglŷn â’u u hawliau a ffrydiau incwm

“Ar ôl heddiw dwi’n teimlo y byddai’n sicr yn werth i fi fod yn aelod o Undeb y Cerddorion” Jesse Mehmet, Mixalydia

Page 3: CleberClef (Haf 2015)

CleberCLEF | Rhifyn: Haf 2015 3

Mae Delyth Mclean yn 22 oed ac yn gantores-gyfansoddwraig werin amgen sy’n cyfuno’r grefft draddodiadol o adrodd straeon gwerin gyda rhai elfennau trymach o genres gwahanol gan ddewis a dethol elfennau gorau jazz, indie, soul, blues a llawer mwy. Mae’n creu plethwaith o rythmau ac mae ganddi glust dda am alawon gwerin bachog, hwyliog, wrth iddi rannu straeon am y llon a’r lleddf yn ei llais melfedaidd cynnes.

Mae wedi rhyddhau ei deunydd proffesiynol cyntaf ar ei liwt ei hun yn ddiweddar ar ffurf sengl dwy ochr A ‘Lost in Sound/Tad a Mab’ sydd wedi cael cryn sylw yn genedlaethol ar S4C, Radio Wales a Radio Cymru a thu hwnt yn y DU ar Amazing Radio. Mae wedi cael ymateb cadarnhaol anhygoel i’r naill gân a’r llall hyd yma, a gwnaeth gryn argraff ar Adam Walton BBC Wales, “Mae llais Delyth yn odidog, mae’r gân yn odidog, mor naturiol”.

Mae Delyth wedi bod yn ymwneud â rhaglen gerddoriaeth Ieuenctid SONIG ers ychydig dros flwyddyn ac mae eisoes wedi gwneud cynnydd rhyfeddol gyda Tanya a Spike:

Sut mae’r sesiynau datblygu gyda Tanya wedi helpu i dy ddatblygu di fel artist?

Mae Tanya wedi fy helpu cymaint, pan es i’w gweld gyntaf, doedd gen i fawr ddim hyder ar y llwyfan na hunan-barch. Ers y sesiynau gyda hi mae fy hyder wedi tyfu cymaint, yn fy ngherddoriaeth ac ynof fi fy hun. Mae hi wedi dysgu cymaint i mi am fod yn gyfforddus gyda fy nelwedd a’m cerddoriaeth, a bod yn hyderus gyda’r hyn sydd gen i i’w gynnig. Roedd y cyngor yn golygu cymaint mwy oherwydd ei bod wedi bod drwy’r cyfan ei hun ac yn gwybod yn union sut beth yw hynny. Cyn cyfarfod Tanya roeddwn i’n poeni a fyddwn i’n gallu gwneud fy marc yn y diwydiant cerddoriaeth, ond dwi’n teimlo bod ei chefnogaeth hi wedi gweddnewid fy mywyd a dwi’n credu bod popeth yn bosib nawr.

Sut mae’r sesiynau datblygu gyda Spike wedi dy helpu i ddatblygu fel artist?

Mae Spike yn fy nghadw i ar y trywydd iawn bob amser, trwy greu llinellau amser a nodau i mi a rhoi’r newyddion diweddaraf i mi am unrhyw gyfleoedd posib. Mae gen i ffydd artistig anhygoel yn Spike, mae yn llygad ei le bob amser gyda cherddoriaeth a chelf ac mae ganddo weledigaeth wych. Mae’n f’atgoffa’n gyson pa mor bwysig yw hi i fod yn broffesiynol, peidio â cholli golwg ar dy weledigaeth bersonol a gwneud yr hyn rwyt ti am ei wneud bob amser. Mae’r sesiynau wedi dysgu llawer i mi am yr ochr fusnes pethau, fy nysgu nad oes dim yn dod yn hawdd a bod popeth yn bosib gyda gwaith caled a dyfalbarhad.

Pa mor ddefnyddiol fu’r sesiynau hyn o ran dy ddatblygiad artistig? Oes unrhyw beth wedi deillio o’r sesiynau sy’n gwneud i ti feddwl yn wahanol?

Mae’r sesiynau wedi bod o gymorth mawr! Yn bendant! Fyddwn i ddim wedi gallu cyrraedd lle ydw i nawr hebddyn nhw. Wnes i erioed feddwl y byddwn i’n gallu cyflawni beth rydw i wedi’i gyflawni eleni, a dwi’n ysu i weld beth ddaw nesaf. Doeddwn i ddim yn credu mod i’n ddigon da o bell ffordd cyn cyfarfod tîm SONIG, ond nawr dwi’n teimlo bod unrhyw beth yn bosib!

Wyt ti’n meddwl fod y sesiynau datblygu artist wedi dy helpu i ddringo’r ysgol yn dy yrfa?

Ydyn, maen nhw wedi bod yn allweddol yn fy natblygiad i; heb y sesiynau fyddwn i ddim ble rydw i nawr. Dwi wedi cyflawni llawer iawn eleni – mwy nag y byddwn i byth wedi breuddwydio oedd yn bosib mewn dim ond blwyddyn. Maen nhw wedi rhoi’r hyder i mi droi fy llaw at unrhyw beth, sesiynau byw, gigs, sesiynau tynnu lluniau, fideos, cyfweliadau.

Yn olaf, llongyfarchiadau ar fod yn un o artistiaid Gorwelion 12 2015 Cyngor Celfyddydau Cymru a'r BBC.Faint o gyflawniad yw hwn?

Dros y ddau fis diwethaf yr wyf wedi bod yn hynod o brysur. O'r eiliad i mi ddarganfod fy mod yn un o'r deuddeg, mae'r ffon wedi bod yn canu di stop. Rwyf wedi gweithio ar gymaint o berfformiadau yn ddiweddar gan gynnwys BBC Radio 2 Gwobr Gwerin, Ffocws Cymru, a Gŵyl Gerdd X i enwi ychydig.

DARGANFOD MWY!

Hoffi:facebook.com/delythmcleanmusician

Dilyn: @Delythmclean

Gwrando: soundcloud.com/delyth-mclean

Rising Talent- Delyth Mclean gan Spike Griffiths, Cydlynydd SONIG

Tua’r dyfodol: Mae bod yn un o 12 artist Gorwelion yn llywio dyfodol cerddoriaeth yng Nghymru.

Sŵn mawr: Delyth yn perfformio yng ngŵyl Sŵn eleni i gynulleidfa lawn

Ar Goll mewn Swn: Yn cael ei chyfweld gan Cerys Matthews BBC Radio , a Bethan Elfyn BBC Radio Cymru yng Ngwobrau Gwerin BBC 2.

CAREER HIGHLIGHTS

Rhyddhau EP Gair y Gwir

Dechrau gweithio gyda Cerddoriaeth Ieuenctid SONIG

Dechrau gweithio gydag Amy Wadge (Cyd-gyfansoddwr Ed Sheeran)

Sesiwn fyw ar BBC Radio Wales ar sioe Jamie Owens

Rhyddhau Lost in Sound (Sengl)

Rhyddhau Tad a Mab (Sengl)

Perfformio yng ngŵyl Sŵn

Cefnogi Gruff Rhys (Super Furry Animals)

Dewiswyd fel un o artistiaid Gorwelion 12 2015 Cyngor Celfyddydau Cymru a'r BBC.

“Mae llais Delyth yn odidog, mae’r gân yn odidog, mor naturiol” Adam Walton

Page 4: CleberClef (Haf 2015)

CleberCLEF | Rhifyn: Haf 2015 4

I ddathlu diwedd tymor yr haf, cynhaliodd Academi Dimensions eu sioe diwedd tymor dros dair noson yng Ngholeg y Cymoedd, Nantgarw yn ddiweddar.

Bu 100 a mwy o bobl ifanc yn cymryd rhan yn y sioe a oedd yn cynnwys aelodau o academïau Llwyfan a Dawns Dimensions sy’n cael eu rhedeg gan Bridie Smith, un o gyn-fyfyrwyr Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Gwerthwyd pob tocyn i bob un o’r tair sioe ac roedd y perfformwyr wrth eu bodd yn perfformio o flaen ffrindiau, teulu ac aelodau’r cyhoedd. Roedd y sioe’n goron ar yr holl waith caled roedd y bobl ifanc wedi ei wneud yn eu hamser hamdden ac roedd yn llwyddiant ysgubol.

Ers pryd wyt ti wedi bod yn gweithio gyda cherddoriaeth Ieuenctid SONIG?

Roeddwn yn ddigon ffodus i weithio gyda’r Rhwydwaith Hyrwyddwyr Ifanc (YPN) gyntaf ym mis Chwefror, a hynny heb unrhyw brofiad byw neu wybodaeth am y sin leol i adeiladu arno. Dwi’n gerddor, fodd bynnag, ac yn ddiweddar, rydyn ni wedi dod o hyd i ffyrdd o gydweithio gyda’r wynebau niferus sy’n sbarduno gwaith y rhwydwaith. Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys fideo cerddoriaeth ar gyfer sengl ddiweddaraf MIXALYDIA Woman Inside a sesiynau ysgrifennu caneuon cyffrous iawn gydag Evan Gardner. Cefais wahoddiad i arwain y prosiectau hyn gan fod y rhwydwaith yn awyddus i arbrofi gyda chreadigrwydd a gweld sut maen nhw’n gallu defnyddio hyn er budd pawb.

Beth wyt ti wedi’i ddysgu yn ystod dy amser byr gyda cherddoriaeth Ieuenctid SONIG?

Er mai cyfnod byr oedd e, prin y byddai fy amser gyda’r rhwydwaith wedi ymddangos felly ar bapur. Wythnosau’n unig ar ôl fy nghyfarfod cyntaf gyda’r tîm roeddwn i ar lwyfan yn cefnogi Man Without Country. Eto, rai wythnosau’n ddiweddarach cefais help gan y rhwydwaith i gael lle yn Dim Sŵn. Yn sgil hyn bu modd i mi rwydweithio gydag artistiaid a dysgu am y sîn, ac rydw i wedi

Os hoffech chi gymryd rhan yn Academi Dimensions, ffoniwch Bridie Smith ar 07790 602207.

parhau i fynegi fy hun drwy’r rhwydwaith, eto trwy’r artistiaid dwi wedi’u cyfarfod. Mae gen i lawer iawn mwy o hyder nawr, diolch i’r rhwydwaith.

Alli di ddweud mwy am dy interniaeth ddiweddar yn Llundain?

Ar hyn o bryd dwi’n astudio Effeithiau Gweledol a Graffeg Symudiad ym Mhrifysgol De Cymru. Cafodd fy nosbarth wybod am gyfle unwaith mewn oes ar gyfer myfyrwyr ail flwyddyn gyda’r cawr ym maes effeithiau gweledol, MPC (Motion Picture Company) y criw dawnus y tu ôl i’r effeithiau gweledol ar gyfer Harry Potter, stiwdios Marvel a llawer mwy. Fe wnes o gyflwyno cais a chlywed bod fy ngwaith i’n rhy 2D ond yn ddigon creadigol er nad yn ddigon technegol.

Diolch i’m tiwtoriaid cefais wybod am interniaeth sydd ar gael gyda Potion Pictures yn Llundain. Roedd yn gam pendant i’r cyfeiriad iawn heb os ac yn gyfle roedd rhaid i mi ei fachu. Cefais ateb o fewn dim a gwahoddiad am gyfweliad yn y stiwdio yn Southwark, Llundain. Hwn oedd fy nhro cyntaf yn Llundain ac roeddwn yn awyddus iawn i fanteisio ar y cyfle anhygoel hwn.

Beth oedd dy rôl, a beth fuest ti’n ei wneud yn ystod y cyfnod hwn?

A minnau’n meddwl y byddwn yn intern traddodiadol, perffeithiais y grefft o wneud paned a chyrraedd yno ar y diwrnod cyntaf gyda f’esgidiau rhedeg! Ond roeddwn wedi camddeall y sefyllfa’n llwyr a chyn pen dim roeddwn yn casglu ffilm archif, yn golygu showreels ac yn gwneud gwaith rotoscopio hyd yn oed, a phob un ohonom, (y staff i gyd) yn gwneud paned i’n gilydd. Roeddwn i’n gweithio ar brosiectau nad ydw i’n cael siarad amdanyn nhw hyd heddiw ac yn teimlo gydol yr amser fel pe baen nhw fy angen i yno i helpu.

Roedd Potion Pictures newydd orffen gweithio ar gynyrchiadau teledu llwyddiannus fel Britain’s Got Talent (tafluniau llwyfan), Love Island (graffeg), The Mercury Music Prize a’r Brit Awards (tafluniau llwyfan), Joanna Lumley's Trans-Siberian Express a llawer mwy cyn i mi gyrraedd yno, felly doedd hi ddim mor brysur ag arfer yno. Ond fe wnes i lwyddo i wneud rhywfaint o waith ar Sean Conway: Running Britain (Graffeg), perfformiad ‘Jack Pack’ ar Lorraine ITV (tafluniau llwyfan), BBQ Champ (teitlau agoriadol, pytiau cerddorol) ac un neu o raglenni peilot sydd ar brawf ar Sky a’r BBC.

DARGANFOD MWY!

Cael y newyddion diweddaraf am Academi Ddawns Dimensions drwy:

Hoffi: facebook.com/DimensionsDanceAcademy Dilyn: @DimensionsDA

Sioe Cymryd Rhan gan Liz Driscoll, Cydlynydd Celfyddydau Ieuenctid

Lukas Beynon, 18, Quakers Yard

Cyflwyno: Lukas Beynon gan Spike Griffiths, Cydlynydd SONIG

Page 5: CleberClef (Haf 2015)

CleberCLEF | Rhifyn: Haf 2015 5

Yn ystod wythnos hanner tymor y Sulgwyn ym mis Mai, cynhaliwyd BWT-CAMP HYFFORDDI SONIG ar gyfer cantorion-gyfansoddwyr sefydledig a newydd 16-25 oed rhwng dydd Mawrth 26 Mai a dydd Gwener 29 Mai yn Theatr y Park & Dare, Treorci.

Roedd yn gyfle i bawb oedd yno ddatblygu eu sgiliau cyfansoddi, a dysgu oddi wrth weithwyr proffesiynol hynod brofiadol ac uchel eu parch, yn ogystal â gwneud cysylltiadau newydd gydag artistiaid o’r un anian! Roedd y cwrs hyfforddi wedi’i rannu’n weithdai strwythuredig gydol yr wythnos a’r uchafbwynt oedd y sioe gerbron cynulleidfa ar y diwedd.

Y cyfansoddwyr proffesiynol oedd wrth y llyw oedd Matthew Evans a Richard Parfitt. Mae Matthew Evans wedi ysgrifennu caneuon mewn sawl arddull wahanol gan gynnwys rockabilly, reggae, soul, roc a phop. Mae albwm gyntaf Matthew wedi derbyn clod a bri a chryn ganmoliaeth feirniadol, ac mae wedi cael cymorth gan y DJs Steve Lamacq a John Peel ar BBC 1, a chafodd recordio tair sesiwn Peel. Ar hyn o bryd mae Matthew yn aelod o fand o’r enw The Keys. Mae Matthew wedi gweld ei waith yn cael ei gyhoeddi mewn ymgyrchoedd hysbysebu teledu ar gyfer Peacocks, ar gyfer cwmni ffasiwn yn Awstralia ac mae traciau ganddo i’w clywed mewn ffilmiau ac ar y teledu. Ar hyn o bryd mae’n darlithio ar y cwrs gradd ysgrifennu caneuon yn yr Atrium, Prifysgol De Cymru.

Richard Parfitt oedd un o aelodau allweddol y band Britpop The 60ft Dolls, a oedd yn rhan o’r un brand Cool Cymru â’r Stereophonics, y Manic Street Preachers a Catatonia. Mae wedi cefnogi Oasis, Elastica a’r Sex Pistols. Mae Richard wedi teithio’n helaeth ledled y DU, Ewrop a Japan a chafodd rywfaint o lwyddiant yn yr Unol Daleithiau. Ar ôl i’r band ddod i ben, aeth Richard ymlaen i weithio gyda’r gantores Soul-Pop o’r Gogledd, Duffy, gan gyd-ysgrifennu ar ei halbwm gyntaf

Rockferry sydd wedi gwerthu dros 6.5 miliwn o gopïau ym mhedwar ban byd hyd yma.

Yn y sesiynau, bu pawb yn dysgu am ‘ffurfiau caneuon a dulliau’ gan gyfeirio at strwythur sylfaenol caneuon a sut i ysgrifennu alaw ar ei ffurf symlaf. Yna aeth pawb ati i bwyso a mesur eu caneuon nhw, dadansoddi caneuon pobl eraill, ystyried sut i ysgrifennu’r trydydd pennill anodd hwnnw a oedd yn cynnwys gofyn cwestiynau fel “pwy, beth, pryd, ble, pam” er mwyn helpu i ddod dros yr atalfa

gyfansoddi, hynny yw pan fo rhywbeth yn rhwystro pobl ifanc rhag ysgrifennu unrhyw air na nodyn. Yn olaf cawsant eu rhannu’n grwpiau bach er mwyn gweithio ar rywbeth mwy anghyfarwydd gyda cherddorion eraill.

Cafwyd ymateb gwych gan y bobl ifanc a oedd yn rhan o’r cwrs a’r arweinwyr. Dywedodd un person ifanc, “Dwi wedi dysgu cymaint mwy am ysgrifennu caneuon yr wythnos hon nag y gwnes i feddwl y byddwn i. Nawr fe alla i fynd ati i ddatblygu fy nghaneuon gyda rhywbeth i feddwl amdano”, tra daeth un arall i ffwrdd yn teimlo’n ysbrydoledig a llawn egni esbonio," Y prif beth dwi wedi’i ddysgu’r wythnos hon yw mai cael un syniad gwych a mynd i’r afael â hwnnw yw’r ffordd orau o ysgrifennu cân.” Yn olaf, yn ôl un aelod o’r cwrs wrth bwyso a mesur y sesiwn, “Cawsom sesiwn o’r enw ‘y cylch’ lle roedden ni i gyd yn dod at ein gilydd, yn beirniadu gwaith ein gilydd, yn ysgrifennu nodiadau, yn ogystal ag arddangos caneuon a syniadau newydd roeddem ni newydd eu hysgrifennu a gwneud ffrindiau.”

Gwnaeth cyfathrebu gwych, proffesiynoldeb tîm SONIG a safon y caneuon a gyfansoddwyd gan y bobl ifanc ar y cwrs gryn argraff ar Matthew Evans, arweinydd y cwrs.

Os hoffech chi wybod mwy neu gael gwybod pryd fydd bwt-camp nesaf SONIG, yna anfonwch e-bost at Tanya Walker-Brown: [email protected]

PARTICIPANTS REVIEW

Laura Power, 16, Trealaw

Georgia Williams, 18, Treorchy

BWT-CAMP CERDDORIAETH IEUENCTID SONIG gan Tanya Walker-Brown, Cydlynydd SONIG

“Fe wnes i fwynhau cael cyngor gan gyfansoddwyr caneuon proffesiynol a chwrdd â phobl eraill sy’n rhannu’r un diddordebau â mi. Roeddwn yn synnu cymaint haws yw hi i ysgrifennu cân wrth gydweithio â rhywun arall; gan roi cyfle i mi rannu a chael syniadau. Byddwn i bendant yn argymell hyn i unrhyw un sy’n awyddus i gael gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth gan ei fod yn gyfle i rannu syniadau ac ennill sgiliau fel gwaith tîm a chreadigrwydd.”

“Fe wnes i fwynhau cwrdd â phawb gan gynnwys Spike a Tanya, ysgrifennu gyda gwahanol artistiaid a chreu traciau gwahanol. Roeddwn wrth fy modd gyda’r croeso ges i hefyd. Mae’n wych oherwydd eich bod yn dysgu, yn cyfarfod cymaint o bobl, yn meistroli sgiliau newydd ac yn gwella fel artist.”

Page 6: CleberClef (Haf 2015)

CleberCLEF | Rhifyn: Haf 2015 6

Ym mis Mehefin, fe wnaethom ni ddathlu’n hoffter o glasur llenyddiaeth y plant: Where The Wild Things Are; drwy gymryd rhan mewn digwyddiad a ddathlwyd ym mhob cwr o’r DU o’r enw The Big Wild Rumpus 2015. Cafodd y llyfr ei ddarllen i gyfeiliant hynod swnllyd wrth i bawb fwynhau fel pethau gwyllt yn y digwyddiad yn Llyfrgell Aberdâr, a oedd yn cysylltu â digwyddiadau eraill ar hyd a lled y DU am 11am.

Dechreuodd y dydd gyda gweithdy swnllyd a chael plant i fod yn greadigol wrth wneud eu hofferynnau cerdd eu hunain. Yna arweiniodd y bardd Mike Church orymdaith y Big Wild Rumpus o amgylch Aberdâr – cyfle i’r hen a’r ifanc fel ei gilydd droi o’r gwâr i’r gwyllt, gan rincian dannedd dychrynllyd, rholio llygaid rheibus a dangos eu crafangau ofnadwy.

I gloi’r gweithgareddau, buont yn creu eu pypedau bys gwyllt a gwallgof eu hunain, gan ddefnyddio’r mynychwyr fel ysbrydoliaeth. Roedd Wendy Cole, Uwch Lyfrgellydd a’r Gwasanaethau Ieuenctid a Phlant yn llawn canmoliaeth i’r digwyddiad, “Roedd y Big

Wild Rumpus yn jamborî swnllyd, dros ben llestri i ddathlu clasur Maurice Sendak, a daeth i benllanw wrth i’r stori gael ei hadrodd yn rhyngweithiol, a rhieni a phlant fel ei gilydd yn troi’n bethau gwyllt. Roedd Sgwâr y Llyfrgell dan ei sang ac yn llawn twrw wrth i ni ymlwybro i’i gwmpas yn y glaw gyda’r bardd Mike Church wrth y llyw.” Mae’r digwyddiadau mae Wild Rumpus yn eu trefnu yn tywys teuluoedd i fyd o straeon hudolus ymhell o bryderon bywyd bob dydd. Mae Wild Rumpus Gwyllt yn credu yng ngrym eiliad o ryfeddod i agor llygaid teuluoedd i’r hyn sy’n hudol mewn bywyd bob dydd. Mae’r Big Wild Rumpus yn rhan o Wythnos Gelf Plant 2015 - dathliad o gelfyddydau gweledol i blant a phobl ifanc ledled y DU, a gynhaliwyd rhwng dydd Sadwrn 13 a dydd Sul 21 Mehefin. Cewch wybod mwy yn http://engage.org/childrens-art-week.aspx

The Big Wild Rumpus gan Caroline O’Neill, Rheolwr y Celfyddydau a Diwydiannau Creadigol

RHUO MAWR: Plant yn datguddio eu dannedd dychrynllyd, yn rholio’u llygaid rheibus ac yn dangos eu crafangau ofnadwy!

Gadael Fynd: Mike Church yn rhyddhau’r pethau gwyllt yng nghanol cynulleidfa ddiniwed Aberdâr

Pethau Gwyllt: Plant ifanc yn edrych ymlaen at weithgareddau’r dydd

Amser Stori: Mike Church yn troi’n un o’r cymeriadau wrth i’r gynulleidfa wrando’n astud ar bob gair.

Dwlu ar y darllen? Eisiau gwybod mwy? Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych, cysylltwch â ni drwy ein ffonio neu ysgrifennu atom

01443 682036 Tim y Celfyddydau a Diwydiannau Creadigol, Glofa Lewis Merthyr, Heol Coed Cae, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf, CF37 2NP

Caroline.A.O'[email protected] [email protected]