Canllawiau rheoli perfformiad
Jan 19, 2016
Canllawiau rheoli perfformiad
Rheoli perfformiadRhan A: trosolwg
Cyflwyniad i’r rheoliadau rheoli perfformiad diwygiedig
Ionawr 2011(i’w rhoi ar waith erbyn 1 Ionawr 2013)
Amcanion y sesiwn• Deall gofynion y rheoliadau diwygiedig a sut i’w
rhoi ar waith yn effeithiol.• Adolygu rôl rheoli perfformiad wrth godi safonau
yn eich ysgol.• Adolygu sut mae rheoli perfformiad wedi’i
wreiddio yng nghyd-destun ehangach prosesau gwella’r ysgol.
• Adolygu gweithredu’r broses rheoli perfformiad, gan gynnwys rolau a chyfrifoldebau'r rhai sy’n rhan ohoni.
Gofynion diwygiedigAmserlen• Rheoliadau diwygiedig a gyflwynwyd ym mis Ionawr 2012.• Defnyddio'r trefniadau diwygiedig erbyn 31 Rhagfyr 2012.
Diwygiadau• Mae gan reoli perfformiad gysylltiad clir â:
– safonau ac ymarfer proffesiynol – blaenoriaethau ysgol gyfan a chenedlaethol– data perfformiad dysgwyr– cynnydd tâl.
• Mae ymarferwyr yn cynnal a chadw cofnod ymarfer, adolygu a datblygu.
• Mwy o gyfranogiad gan yr awdurdod lleol ym mhroses rheoli perfformiad ysgolion.
• Mae gan Estyn fynediad i amcanion perfformiad penaethiaid.• Dylech gadw dogfennau rheoli perfformiad am o leiaf tair blynedd.
Diben rheoli perfformiad
‘Mae rheoli perfformiad yn helpu ysgolion i wella drwy gefnogi a gwella gwaith penaethiaid fel unigolion ac fel arweinwyr timau ysgol. Mae’n gosod fframwaith i athrawon ac arweinwyr gytuno ar flaenoriaethau ac amcanion a’u hadolygu yng nghyd-destun cynlluniau gwella’r ysgol. Mae’n canolbwyntio sylw ar wneud addysgu ac arwain yn fwy effeithiol er budd disgyblion, athrawon ac ysgolion.’
Rheoli perfformiad i benaethiaid (Llywodraeth Cymru, 2012)
Rôl rheoli perfformiad yn y broses gwella’r ysgol
Mae rheoli perfformiad yn cefnogi:• ysgolion i wella drwy gefnogi a gwella gwaith ymarferwyr fel unigolion ac mewn timau• athrawon i ddiwallu anghenion dysgwyr a gwella safonau.
Mae rheoli perfformiad yn arddangos ymrwymiad yr ysgol i:• ddatblygu’r holl ymarferwyr yn effeithiol • sicrhau boddhad yn y swydd• lefelau uchel o arbenigedd • dilyniant ymarferwyr yn eu galwedigaeth ddewisol.
Y cylch gwerthuso
Adolygu CynllunioHunanfyfyrio Gwerthuswr HunanddadansoddiCyfarfod adolygu a gwerthusai Dadansoddiad Datganiad gwerthuso strategol
Gosod amcanionCytuno ar ddatblygiad
Monitro proffesiynol parhaus Adolygiadau anffurfiol
yn ystod y flwyddyn Arsylwad addysgu
Ffynonellau cytunedig eraill o dystiolaeth sy’n briodol i rôl yr athro/athrawes
Rolau a chyfrifoldebau
Rolau a chyfrifoldebau yn y broses rheoli perfformiad
Partneriaid allweddol• Corff llywodraethu/corff perthnasol.• Pennaeth.• Gwerthuswr(gwerthuswyr).• Gwerthusai(gwerthuseion).• Awdurdod lleol.• Llywodraeth Cymru.
Cyfrifoldebau’r corff llywodraethu/corff perthnasol
Rhaid i’r corff llywodraethu/corff perthnasol:• adolygu a chytuno ar y polisi rheoli perfformiad yn
flynyddol• monitro effeithiolrwydd ac effaith y broses rheoli
perfformiad• adolygu rheoli perfformiad y pennaeth drwy banel
gwerthuso• rhoi unrhyw broses apelio ar waith• cadw copi o ddatganiadau’r pennaeth am o leiaf tair
blynedd• anfon copi o ddatganiad y pennaeth at y Prif Swyddog
Addysg (PSA).
Myfyrio a thrafod – hunanwerthuso
A. Ym mha ffordd y mae’r corff llywodraethu’n:• adolygu ac yn cytuno ar y polisi rheoli perfformiad?• monitro effeithiolrwydd ac effaith y broses rheoli perfformiad?• adolygu rheoli perfformiad y pennaeth drwy banel gwerthuso?• rhoi unrhyw broses apelio ar waith?
B. Sut mae rheoli perfformiad wedi’i wreiddio ym mhrosesau gwella’r ysgol?C. Oes unrhyw agweddau y gellir eu gwella?
(Defnyddiwch daflen ysgogi 1 i hwyluso’r drafodaeth.)
Cyfrifoldebau’r pennaeth o fewn y broses rheoli
perfformiadRhaid i benaethiaid:• adolygu a chytuno ar bolisi rheoli perfformiad gyda’r corff
llywodraethu a’r awdurdod lleol • pennu amseru cylch gwerthuso’r ysgol• penodi gwerthuswr ar gyfer pob athro/athrawes yn yr ysgol a
sicrhau bod gwerthuswyr yn cynnal eu cyfrifoldebau • sicrhau monitro addysgu ac adborth datblygu• sicrhau bod gan athrawon gynlluniau unigol a datblygiad
proffesiynol a dargedir sy’n cefnogi gwella’r ysgol gyfan• adrodd am weithrediad ac effeithiolrwydd gweithdrefnau rheoli
perfformiad yn flynyddol i’r corff llywodraethu, gan gynnwys anghenion hyfforddi a datblygu athrawon a’r pennaeth
• cadw copi o’r holl ddatganiadau gwerthuso am o leiaf tair blynedd.
Myfyrio a thrafod – hunanwerthuso
A. Ym mha ffordd y mae’r pennaeth yn:• adolygu’r polisi rheoli perfformiad ac yn cytuno arno gyda’r
corff llywodraethu a’r awdurdod lleol?• pennu amseru cylch gwerthuso’r ysgol?• penodi gwerthuswr ar gyfer pob athro/athrawes yn yr ysgol a
sicrhau bod y gwerthuswyr yn cynnal eu cyfrifoldebau?• sicrhau monitro addysgu ac adborth datblygu?• sicrhau bod gan yr athro/athrawes gynlluniau unigol a
datblygiad proffesiynol a dargedir sy’n cefnogi gwella’r ysgol gyfan?
• adrodd am effeithiolrwydd gweithdrefnau rheoli perfformiad yr ysgol yn flynyddol i’r corff llywodraethu?
B. Sut mae rheoli perfformiad wedi’i wreiddio ym mhrosesau gwella’r ysgol?
C. A oes unrhyw agweddau y gellir eu gwella?(Defnyddiwch daflen ysgogi 2 i hwyluso’r drafodaeth.)
Rôl y gwerthuswr(gwerthuswyr) (athro/athrawes, pennaeth, llywodraethwr, enwebai’r
awdurdod lleol)Rhaid i werthuswyr:• gytuno a chofnodi amcanion gyda’r gwerthusai• monitro ac adolygu perfformiad y gwerthusai trwy gydol
y cylch• trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol y
gwerthusai• paratoi’r datganiad gwerthuso blynyddol• gwneud argymhellion ysgrifenedig lle mae’r gwerthusai’n
gymwys am gynnydd cyflog yn unol â Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol, lle bo’n addas.
Cyfrifoldebau’r gwerthuswr(gwerthuswyr)
• gynllunio’r cylch gwerthuso gyda’r gwerthusai: – gosod yr amcanion drwy ystyried adolygiad perfformiad
y cylch blaenorol – trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol – parhau i adolygu cynnydd a monitro perfformiad yn
erbyn amcanion yn rheolaidd trwy gydol y cylch rheoli perfformiad (adolygiad ffurfiannol)
– cynnal adolygiad blynyddol o berfformiad gyda’r gwerthusai (adolygiad crynodol gan gynnwys llunio barn)
• gweithredu’n briodol a hwyluso cefnogaeth pan geir tanberfformiad
• trefnu bod datganiad gwerthuso llawn ac atodiad i’r datganiad gwerthuso ar gael i’r personél priodol.
Mae gwerthuswr(gwerthuswyr) yn cynnal eu cyfrifoldebau drwy:
A. Ym mha ffordd y mae gwerthuswr(gwerthuswyr) yn:• cynllunio’r cylch gwerthuso gyda’r gwerthusai?• gosod yr amcanion drwy ystyried adolygiad perfformiad y cylch
blaenorol?• trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol? • parhau i adolygu cynnydd a monitro perfformiad yn erbyn
amcanion yn rheolaidd trwy gydol y cylch rheoli perfformiad (adolygiad ffurfiannol)?
• gweithredu’n briodol a hwyluso cefnogaeth pan geir tanberfformiad?
• cynnal adolygiad blynyddol o berfformiad gyda’r gwerthusai (adolygiad crynodol gan gynnwys llunio barn)?
• trefnu bod datganiad gwerthuso ar gael i’r personél priodol?
Myfyrio a thrafod – hunanwerthuso
B. Sut mae rheoli perfformiad wedi’i wreiddio ym mhrosesau gwella’r ysgol? C. A oes unrhyw agweddau y gellir eu gwella?
(Defnyddiwch daflen ysgogi 3 i hwyluso’r drafodaeth.)
Rôl y gwerthusai (athro/athrawes a phennaeth)
Rhaid i werthuseion:• drafod, cynllunio a gosod amcanion gyda’u
gwerthuswr(gwerthuswyr) • cymryd rhan mewn trefniadau monitro ac adolygu• trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol i gefnogi
ymarfer proffesiynol.
Cyfrifoldebau’r gwerthusai (athro/athrawes a phennaeth)
Rhaid i’r gwerthuseion:• drafod gosod amcanion gyda’r gwerthuswr(gwerthuswyr),
o fewn cyd-destun yr ysgol, y disgrifiad swydd a’r safonau proffesiynol priodol
• hwyluso’r broses drwy nodi a darparu data perthnasol a thystiolaeth o berfformiad
• cymryd rhan mewn trefniadau monitro • cynnal a chadw cofnod ymarfer, adolygu a datblygu
cyfredol • cyfrannu at yr adolygiad blynyddol yn erbyn amcanion a
pherfformiad cyffredinol• trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol i gefnogi
ymarfer proffesiynol.
A. Ym mha ffordd y mae’r gwerthuseion yn:• trafod gosod amcanion gyda’u gwerthuswr o fewn
cyd-destun yr ysgol, y disgrifiad swydd a’r safonau proffesiynol priodol?
• hwyluso’r broses drwy nodi a darparu data a thystiolaeth perthnasol?
• cymryd rhan mewn trefniadau monitro a chynnal a chadw cofnod ymarfer, adolygu a datblygu cyfredol?
• cyfrannu at yr adolygiad blynyddol yn erbyn amcanion a pherfformiad cyffredinol?
• trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol i gefnogi ymarfer proffesiynol?
B. Sut mae rheoli perfformiad wedi’i wreiddio ym mhrosesau gwella’r ysgol?
C. A oes unrhyw agweddau y gellir eu gwella?(Defnyddiwch daflen ysgogi 4 i hwyluso’r drafodaeth.)
Myfyrio a thrafod – hunanwerthuso
Yr awdurdod lleolRhaid i’r awdurdod lleol:• gymeradwyo polisi rheoli perfformiad yr ysgol • enwebu un neu ddau werthuswr yr awdurdod lleol i
wasanaethu fel gwerthuswyr ar banel gwerthuso’r pennaeth
• ymgynghori â’r pennaeth ar enwebai(enwebeion) yr awdurdod lleol
• darparu enwebeion ar gyfer y broses apeliadau• derbyn, a chadw am dair blynedd, datganiad
gwerthuso’r pennaeth wedi’i lofnodi a’i dyddio• sicrhau bod gweithdrefnau gwerthuso yn eu lle i
athrawon digyswllt.
Adolygu’r broses rheoli perfformiad
Y polisi rheoli perfformiad
‘Dylai’r polisi sefydlu fframwaith sy’n galluogi’r holl staff i gytuno ac adolygu blaenoriaethau ac amcanion o fewn cyd-destun cynllun datblygu’r ysgol a’u hanghenion datblygu proffesiynol eu hunain. Bydd yn gymorth yn y gwaith o ddatblygu’r holl staff ac yn helpu i godi safonau cyflawniadau disgyblion lle bo’n briodol.’
Rheoli perfformiad i athrawon (Llywodraeth Cymru,
2012)
Y polisi rheoli perfformiad
Rhaid bod y polisi rheoli perfformiad yn glir ynghylch:
• gweithredu
• gweithdrefnau
• disgwyliadau
• blaenoriaethau
• monitro ac asesu
• adolygu.
Elfennau allweddol polisi rheoli perfformiad
• Cyflwyniad: yr hyn y mae’r polisi’n ceisio gyflawni.
• Rolau a chyfrifoldebau.
• Amserlen ar gyfer adolygiadau.
• Y cylch rheoli perfformiad.
• Y weithdrefn apelio.
• Cyfrinachedd.
• Mynediad i ddeilliannau.
Y broses rheoli perfformiad
Nodir arfer gorau rheoli perfformiad drwy:
• ymrwymiad i gyrhaeddiad a lles dysgwyr
• gwerthfawrogi’r rôl hanfodol sydd gan athrawon
• ymrwymiad i berfformiad a lles staff
• meithrin naws o ymddiriedaeth rhwng yr athro/athrawes a’r gwerthuswr, sy’n caniatáu gwerthuso cryfderau a nodi meysydd i’w datblygu’n drwyadl
• annog rhannu arfer da
• integreiddio rheoli perfformiad yn yr ymagwedd gyffredinol at arwain a rheoli’r ysgol.
A. Ym mha ffordd y mae’r broses rheoli perfformiad yn:• cefnogi gweledigaeth yr ysgol?• cyfrannu at wella cyrhaeddiad a lles dysgwyr? • cynorthwyo datblygiad proffesiynol yr holl staff? • meithrin naws o ymddiriedaeth rhwng y gwerthuswr a’r
gwerthusai, sy’n caniatáu gwerthuso cryfderau a nodi meysydd i’w datblygu’n drwyadl?
• annog rhannu arfer da?• ategu’r ymagwedd gyffredinol at arwain a rheoli’r ysgol?
B. Sut mae rheoli perfformiad wedi’i wreiddio ym mhrosesau gwella’r ysgol?
C. A oes unrhyw agweddau y gellir eu gwella?
(Defnyddiwch daflen ysgogi 5 i hwyluso’r drafodaeth.)
Myfyrio a thrafod – hunanwerthuso
A. Ym mha ffordd y mae’r polisi a gweithdrefnau rheoli perfformiad yn:• integreiddio’r broses rheoli perfformiad ym ymagwedd
gyffredinol at arwain a rheoli’r ysgol? • hyrwyddo eglurder ar:
– weithredu’r broses?– rolau, cyfrifoldebau a disgwyliadau’r polisi? – gwerthuso effeithiolrwydd y polisi?
• creu awyrgylch o barch ac ymddiriedaeth proffesiynol?• annog lledaenu arfer da? • nodi anghenion datblygiad proffesiynol i gefnogi ymarfer
proffesiynol? B. Sut mae rheoli perfformiad wedi’i wreiddio ym mhrosesau
gwella’r ysgol?C. A oes unrhyw agweddau y gellir eu gwella?
(Defnyddiwch daflen ysgogi 5 i hwyluso’r drafodaeth.)
Myfyrio a thrafod – hunanwerthuso
Ac yn olaf . . .
‘Mae rheoli perfformiad yn canolbwyntio sylw ar wneud addysgu ac arwain mwy effeithiol er budd disgyblion, athrawon
ac ysgolion.’
Rheoli perfformiad i athrawon (Llywodraeth Cymru,
2012)