Top Banner
Cam 2.5 Tudalen 1 o 53 Contents: Page: Rural Payments Wales Online Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i ddefnyddio RPW Ar-lein
53

Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Jul 30, 2020

Download

Documents

dariahiddleston
Welcome message from author
This document is posted to help you gain knowledge. Please leave a comment to let me know what you think about it! Share it to your friends and learn new things together.
Transcript
Page 1: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Cam 2.5 Tudalen 1 o 53

Contents: Page:

A Staff Guide on how to use

Rural Payments Wales Online Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i

ddefnyddio RPW Ar-lein

Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i

ddefnyddio RPW Ar-lein

Page 2: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Cam 2.5 Tudalen 2 o 53

SSuutt ii ddddeeffnnyyddddiioo TTaalliiaaddaauu GGwwlleeddiigg CCyymmrruu AArr--lleeiinn Pwrpas y ddogfen hon yw rhoi cyfarwyddiadau gam wrth gam i chi ar sut i ddefnyddio RPW Ar-lein. Isod, fe welwch dudalen gynnwys â dolenni arni y gallwch glicio arnynt i’w gwneud yn haws i chi. Hefyd, fel welwch ddolenni ‘Yn ôl i’r Cynnwys’ ar ddiwedd pob adran fel y gallwch symud yn rhwydd o un cyfarwyddyd i’r llall. Am fod y ddogfen hon mor fanwl, mae hi wedi’i chreu ichi ei defnyddio ar-lein. Er mwyn bodloni amodau Cynllun Iaith Llywodraeth Cymru, mae’r Canllaw hwn yn cael ei gyhoeddi yn Gymraeg a Saesneg. Os hoffech chi gael copi o’r Canllaw yn yr iaith arall, ewch i www.cymru.gov.uk/rpwarlein a chlicio ar y newidydd iaith sydd ar frig y dudalen ac ail-agor y ddogfen. Os ydych chi’n cael problemau neu’n methu cael at y wefan, cysylltwch â Desg Gymorth RPW Ar-lein – 0300 062 5004 neu e-bostiwch [email protected].

Cynnwys: Tudalen:

RPW Ar-lein 4

Tudalen ‘Fy Fferm’ 4

‘Map Rhyngweithiol’ - Cyffredinol 4

Gweld eich Map 11

Clystyru 11

Chwyddo 13

Pellhau 17

Panio 20

Dewis Haenau 21

Haen Llun o’r Awyr 21

Haen y Map 24

Haen y Nodweddion Parhaol 25

Haen Ardaloedd â Ffocws Ecolegol 28

Labeli Caeau 30

Tabl Allwedd 32

Eiconau Rhyngweithiol 33

Chwyddo ar Daliad 34

Erfyn Mesur 35

Gosod pwyntiau ar y Map Rhyngweithiol 37

Mesur un pwynt 39

Mesur mwy nag un pwynt 40

Page 3: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Cam 2.5 Tudalen 3 o 53

Mesur hyd ac arwynebedd polygon 42

Printio’r Map 44

Printio Mapiau – prosesau ar gyfer Porwyr a gefnogir 45

o Internet Explorer 45

o Mozilla Firefox 46

o Google Chrome 47

Cwestiynau Cyffredin am y Map Rhyngweithiol 49

Dolenni defnyddiol

Gwasanaethau sydd ar gael drwy Borth y Llywodraeth 52

Gwasanaethau eraill 53

Ymwadiad Pwrpas y canllaw hwn yw’ch helpu i ddefnyddio gwasanaeth Ar-lein Taliadau Gwledig Cymru (RPW Ar-lein). Mae’r Canllaw hwn wedi cael ei rannu’n adrannau gyda chyfarwyddiadau gam wrth gam. Wrth i gyfleusterau Taliadau Gwledig Cymru Ar-lein (RPW Ar-lein) gael eu datblygu bob yn gam, bydd y Canllaw hwn yn newid o dro i dro. Cynhyrchwyd gan Lywodraeth Cymru

©Hawlfraint y Goron 2013

Page 4: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Phase 4.5 Page 4 of 53

RPW Ar-lein

‘Fy Fferm’

Y Map Rhyngweithiol – Cyffredinol Cyfleuster newydd yw’r Map Rhyngweithiol sy’n gadael ichi weld eich tir drwy’ch cyfrif RPW Ar-lein. Mae’r map rhyngweithiol yn dangos Ardaloedd â Ffocws Ecolegol yn ogystal â nodweddion parhaol sydd ar eich daliad. Byddwch yn gallu mesur nodweddion fel perthi/gwrychoedd neu waliau cerrig. Er mwyn gallu manteisio’n llawn ar y Map Rhyngweithiol, dylech ddefnyddio cyfrifiadur neu liniadur sy’n defnyddio un o’r porwyr canlynol:

1. Internet Explorer – fersiynau 9 neu 11

2. Google Chrome – fersiwn 39

3. Mozilla Firefox – fersiwn 33

4. Safari – fersiwn 9

Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen fersiwn ddiweddaraf Adobe Reader arnoch hefyd er mwyn printio ac arbed copi o’r map PDF rydych wedi’i greu. I gael y fersiwn ddiweddaraf o Adobe Reader, ewch i www.cymru.gov.uk, dewiswch ‘Gofynion ar gyfer RPW Ar-lein’ ar y ddewislen ar y chwith.

Mae dewislen ‘Fy Fferm’ yn cynnwys pedwar opsiwn ar hyn o bryd:

Manylion y Cwmser

Manylion unigolyn

Mapiau

Map Rhyngweithiol

Page 5: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Phase 4.5 Page 5 of 53

Pan fyddwch chi’n dewis ‘Map Rhyngweithiol’ o ddewislen ‘Fy Fferm’, fe welwch y dudalen ‘Lwytho’ ganlynol:

Ar ôl ei lwytho, bydd eich Map Rhyngweithiol yn edrych yn debyg i hyn. Bydd yn dangos y daliad cyfan bob tro.

Page 6: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Phase 4.5 Page 6 of 53

Bydd unrhyw dir ar y map sy’n perthyn ichi wedi’i amlinellu’n Goch.

Byddwn yn dangos y nodweddion parhaol bob tro. Bydd croeslinellau coch neu symbol yn cael eu defnyddio i ddangos y nodweddion parhaol hyn. Ewch i dudalen 24 i weld rhestr o’r Nodweddion Parhaol.

Page 7: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Phase 4.5 Page 7 of 53

Os bydd y bar graddfa yn dangos 1000m neu fwy pan fydd eich tudalen ar y Map Rhyngweithiol wedi llwytho, bydd eich caeau’n cael eu grwpio gyda’i gilydd mewn clystyrau a’u dangos fel cylch coch.

Os bydd y bar graddfa yn dangos 1000m neu fwy, bydd y caeau’n cael eu grwpio gyda'i gilydd mewn clystyrau

Page 8: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Phase 4.5 Page 8 of 53

Ar ochr chwith y dudalen, fe welwch ‘flwch chwilio’.

Gallwch ffiltro’ch caeau drwy ddefnyddio’r bocs ‘Chwilio’. Rhowch Gyfeirnod neu Rif neu Enw’r Cae ac wrth i chi deipio bydd y system yn dechrau chwilio am y cae dan sylw. I glirio’r bar ‘Chwilio’, rhaid dileu’r wybodaeth rydych wedi’i rhoi ynddo.

Bydd eich map yn pellhau i ddangos eich daliad yn gyfan.

Rhestrir y pum cae cyntaf sy’n cyfateb.

Y rhif isaf fydd yn ymddangos gyntaf.

Os bydd mwy na phum cae yn cyfateb, byddwch yn gweld y neges hon sy’n dangos faint yn fwy sy’n cyfateb i’ch

chwiliad.

Page 9: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Phase 4.5 Page 9 of 53

I weld gwybodaeth am gae, dewiswch gae o’r rhestr chwilio (bydd y cae yn troi’n las wedi ichi ei

ddewis).

Bydd amlinell glas golau’n ymddangos ar y map o gwmpas y cae rydych wedi’i ddewis

Page 10: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Phase 4.5 Page 10 of 53

Fe welwch grynodeb o fanylion y cae rydych wedi’i

ddewis.

Bydd manylion y cae’n cael eu dangos o dan y tab ‘Manylion Caeau’.

Bydd manylion y nodwedd parhaol yn cael eu dangos i chi o dan y tab ‘Nodweddion’

Bydd gwybodaeth am yr ardaloedd â ffocws ecolegol ar gael ichi o dan y tab ‘AFfE’ (‘EFA’).

Page 11: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Phase 4.5 Page 11 of 53

Gweld eich Map Clystyru Bydd y Map Rhyngweithiol yn agor gan ddangos eich daliad eich cwsmer yn ei gyfanrwydd. Os bydd y bar graddfa yn dangos 1000m neu fwy, bydd y caeau’n cael eu grwpio gyda’i gilydd mewn clystyrau a’u dangos fel cylch coch.

Bydd hyn yn digwydd hefyd os yw maint daliad cyfan eich cwsmer yn llai na 1000m a chithau’n pellhau neu’n chwyddo allan (zoom out) i bwynt lle bydd y bar graddfa yn fwy na hyn. Bydd nifer y cylchoedd coch sy’n cael eu defnyddio i ddangos y clystyrau yn lleihau wrth ichi bellhau neu chwyddo allan.

Os bydd y bar graddfa yn dangos 1000m neu fwy, bydd y caeau’n cael eu grwpio gyda’i gilydd mewn clystyrau

Wrth ichi chwyddo allan, bydd nifer y cylchoedd coch a ddefnyddir i ddangos y clystyrau

yn lleihau

Page 12: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Phase 4.5 Page 12 of 53

Pan fydd clystyrau’n cael eu dangos ar y map, bydd yr holl haenau eraill, heblaw am haen Llun o’r Awyr neu Haen y Map, yn cael eu diffodd.

Os byddwch yn dewis un o’r clystyrau, bydd y map yn chwyddo mewn i’r caeau ac yn ail-ddangos unrhyw haenau a oedd wedi’u dewis yn flaenorol (gyhyd â bod y raddfa'n briodol i'w dangos. Ewch i Dewis Haenau ar dudalen 18 am arweiniad)

Bydd yr holl haenau yn cael eu diffodd pan fydd lefel y chwyddo yn 1000m neu fwy

Bydd unrhyw haenau a oedd yn cael eu dangos yn flaenorol yn

cael eu dangos eto Pan ddewisir clwstwr, bydd y map yn chwyddo mewn i’r caeau.

Page 13: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Phase 4.5 Page 13 of 53

Chwyddo Mae pedair ffordd wahanol o chwyddo Map Rhyngweithiol. Bydd yr un y dylech ei ddewis yn dibynnu ar beth rydych am ei wneud. 1. I chwyddo cae unigol yn gyflym ac yn rhwydd:

I gael gwybod sut mae pellhau o fap, darllenwch dudalen 14. 2. Dwbl-gliciwch fotwm chwith eich llygoden ar y cae rydych am ei weld a bydd y system yn ei chwyddo’n raddol. Edrychwch ar yr enghreifftiau isod sut mae chwyddo o’r daliad cyfan i gae unigol. Bydd modd ichi hefyd weld y tir sydd o gwmpas y cae.

I chwyddo cae unigol, dewiswch y cae o’r rhestr a chlicio ‘Gweld’.

Bydd y system yn dangos y cae, wedi’i amlinellu â llinell glas golau.

Page 14: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Phase 4.5 Page 14 of 53

Llun A – y daliad cyfan cyn ichi chwyddo’r llun.

Sylwch fod amlinell las o gwmpas y cae rydych wedi

dwbl-glicio arno

Llun B – Ar ôl dwbl-glicio unwaith ar fotwm chwith eich llygoden, bydd crynodeb o’r cae a’r tab Manylion Caeau a Nodweddion Parhaol yn ymddangos ar gyfer y cae rydych wedi clicio arno. Bydd y map yn chwyddo ychydig. Daliwch ati i ddwbl-glicio a chwyddo’r llun nes

ichi gael y manylder sydd ei angen arnoch.

Page 15: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Phase 4.5 Page 15 of 53

Os ydych am weld grŵp o gaeau, mae sawl ffordd o wneud hynny: 3. Os oes gennych chi lygoden gydag olwyn rolio, bydd yr olwyn rolio yn eich galluogi i chwyddo i mewn.

Daliwch ati i chwyddo’r llun nes bod y map yn dangos y manylder sydd ei angen arnoch.

Llun A – Y daliad cyfan cyn

chwyddo’r llun.

Llun B – Ar ôl defnyddio’r olwyn

rolio a chwyddo’r llun

Page 16: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Phase 4.5 Page 16 of 53

4. Ffordd arall o chwyddo’r llun yw trwy ddefnyddio’r botwm Plws (+) ar y bar chwyddo.

Y daliad llawn cyn

chwyddo’r llun

Cliciwch y botwm Plws (+) i

chwyddo’r map

Ar waelod y map, fe welwch y raddfa rydych yn ei defnyddio y funud honno. Wrth ichi chwyddo neu bellhau, bydd

y raddfa’n newid.

Page 17: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Phase 4.5 Page 17 of 53

Pellhau (Zoomio Allan) 1. Y ffordd gyflymaf a hawsaf i bellhau o’r map yw trwy ddefnyddio’r botwm ‘Chwyddo ar y daliad’

Ar ôl dewis y botwm ‘chwyddo ar y daliad’, bydd y system yn pellhau i ddangos eich daliad cyfan a bydd eich map yn edrych fel hyn.

Daliwch y cyrchwr ar y botwm oren. Bydd ffenest naid yn ymddangos i ddweud bod

y botwm yn ‘Chwyddo ar y daliad’.

Page 18: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Phase 4.5 Page 18 of 53

2. Os oes olwyn rolio ar eich llygoden, gallwch ei ddefnyddio i bellhau o’r map.

Gallwch ddal ati i bellhau fel hyn nes ei fod yn dangos y manylder sydd ei angen arnoch.

Llun A – Map wedi’i chwyddo

Llun B – ar ôl defnyddio’r olwyn rolio, y map ar ôl ichi ‘bellhau’ neu chwyddo allan

Page 19: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Phase 4.5 Page 19 of 53

5. Ffordd arall o bellhau yw trwy ddefnyddio’r botwm Minws (-) ar y bar chwyddo.

Map wedi’i chwyddo

Cliciwch ar y botwm Minws (-) i bellhau

Ar waelod y map, fe welwch y raddfa rydych yn ei defnyddio y funud honno. Wrth ichi chwyddo neu bellhau, bydd y raddfa’n newid.

Page 20: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Phase 4.5 Page 20 of 53

Panio

Mae ‘Panio’ yn cyfeirio at symud llun o gwmpas er mwyn ei weld o wahanol safbwyntiau. Er mwyn panio’r map, daliwch fotwm chwith eich llygoden i lawr, llusgwch y llygoden i fyny, i lawr, i’r dde ac i’r chwith. Er enghraifft: gweler Llun A isod, ac yna gweler llun B. Llun A

Llun B

Mae’r cae a ddewiswyd ar ochr chwith y llun.

Mae’r llun a ddewiswyd wedi’i ‘banio’ i ochr dde y llun.

Page 21: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Phase 4.5 Page 21 of 53

Dewis Haenau Pan fyddwch chi’n agor eich ‘Map Rhyngweithiol’ am y to cyntaf, bydd y map yn dangos yr haen Llun o’r Awyr a bydd haen y Nodweddion Parhaol hefyd yn y golwg.

Gallwch ddefnyddio’r Map Rhyngweithiol i weld eich daliad trwy haenau gwahanol. Mae haenau’n golygu union fel mae’r gair yn ei awgrymu - haenau o wybodaeth wahanol, un ar ben y llall ar lun sylfaenol. Bydd dewis a gwrthod haenau gwahanol yn creu effeithiau gwahanol.

Rhestrir yr haenau sydd wedi’u dewis yn y blwch

‘Gweld Opsiynau’

Cewch weld rhestr o’r haenau sydd ar gael trwy edrych yn y blwch Gweld Opsiynau.

Page 22: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Phase 4.5 Page 22 of 53

Graddfa Dangos Haenau

Dim ond ar lefel benodol o chwyddo y gellir gweld rhai o’r haenau. Gweler y tabl isod: Haen Graddfa a welir ar y bar graddfa

Llun o’r Awyr Caiff ei dangos ar bob graddfa

Haen y Map Caiff ei dangos ar bob graddfa

Nodweddion Parhaol 500m ac agosach

Ardaloedd â Ffocws Ecolegol 500m ac agosach

Labeli Caeau 50m ac agosach

Llun o’r Awyr – Ichi allu gweld eich map fel

Llun o’r Awyr

Haen Map – Ichi allu newid i edrych ar Haen

y Map

Nodweddion Parhaol – Ichi allu gweld manylion y Nodweddion Parhaol

Labeli Caeau – Ichi allu gweld Labeli’r Caeau

yn eich daliad

Os ydych wedi dewis gweld haen, bydd wedi’i liwio’n

wyrdd.

Os nad ydych wedi dewis gweld haen, bydd wedi’i liwio’n llwyd.

Bydd y map yn chwyddo’n awtomatig i'r maint gofynnol pan gaiff ei droi ymlaen on

Ardal A Ffocws Ecolegol - Caniatáu ichi weld Ardaloedd â Ffocws Ecolegol o fewn eich daliad.

Page 23: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Phase 4.5 Page 23 of 53

Haen Llun o’r Awyr

Wedi ichi estyn y blwch ‘Gweld Opsiynau’, cewch yr opsiwn i ddewis haen y llun o’r awyr. Pan fyddwch yn agor y map rhyngweithiol, hon fydd yr haen fydd yn ymddangos yn awtomatig.

Os byddwch yn dewis yr haen hon,

bydd yn edrych fel hyn.

Page 24: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Phase 4.5 Page 24 of 53

Haen y Map Os ydych yn dewis ‘Haen y Map’, bydd y system yn dileu haen y llun o’r awyr. Pan fyddwch yn ‘gwrthod’ haen y map, bydd yn dychwelyd yn awtomatig i haen y llun o’r awyr.

O chwyddo’r map, bydd ‘haen y map’ yn edrych fel hyn. Rhaid pellhau i weld y map ei hun.

Os byddwch yn dewis Haen y Map,

bydd eich map yn edrych fel hyn.

Page 25: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Phase 4.5 Page 25 of 53

Haen y Nodweddion Parhaol

Nodweddion parhaol yw’r darnau hynny o dir mewn cae na fyddan nhw’n newid o flwyddyn i flwyddyn. Mae’r Nodweddion Parhaol yn cael eu rhoi ar y map gan ddefnyddio’r ffurflen Cynnal Caeau (FM).

Os yw’r olwg o ddaliad cyfan eich cwsmer yn 500m neu agosach, bydd yr haen Nodweddion Parhaol wedi’i dewis yn awtomatig pan fyddwch yn edrych ar eich map rhyngweithiol am y tro cyntaf. Os yw lefel y chwyddo yn fwy na hyn, bydd y map, pan fyddwch yn dewis yr haen, yn chwyddo'n awtomatig i'r lefel chwyddo ofynnol.

Mae gennych yr opsiwn i ddewis neu wrthod haen y Nodweddion Parhaol. Bydd wedi’i dewis yn awtomatig pan fyddwch yn edrych ar eich map rhyngweithiol am y tro

cyntaf.

Page 26: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Phase 4.5 Page 26 of 53

Mae’r Map Rhyngweithiol yn defnyddio tair symbol i ddangos Nodweddion Parhaol.

ZZ95 – Bydd Sgri/Craig/Cnwc/Maen/ Tywod yn cael eu dangos fel smotyn coch.

ZZ98 – Defnyddir llun bychan o goeden i ddangos coed a boncyffion unigol

Bydd y rhan fwyaf o Nodweddion Parhaol* wedi’u lliwio’n llwyd â chroeslinellau coch.

*heblaw ZZ90, ZZ95, ZZ96 & ZZ98

ZZ96 – Bydd prysgwydd, gan gynnwys eithin a mieri yn cael eu dangos â’r ddelwedd werdd isod.

ZZ90 – Bydd rhedyn yn cael ei dangos â’r ddelwedd frown isod.

Page 27: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Phase 4.5 Page 27 of 53

Dyma godau’r nodweddion parhaol:

Cod y Cnwd

Disgrifiad o’r Cnwd/Tir Symbolau ar y Map

ZZ89 Adeiladau a Buarthau Oes – llinellau coch

ZZ90 Rhedyn Oes – Delwedd werdd

ZZ92 Arwynebau caled Oes – llinellau coch

ZZ93 Pyllau/Afonydd a Nentydd Oes – llinellau coch

ZZ94 Heolydd Oes – llinellau coch

ZZ95 Sgri/Craig/Cnycau/Meini/Tywod Oes – smotiau coch

ZZ96 Prysgwydd, gan gynnwys Eithin a Mieri Oes – Delwedd frown

ZZ97 Traciau – Heb eu pori Oes – llinellau coch

ZZ98 Coed – unigol/boncyffion Oes – coeden

NO1 Gweithgareddau anamaethyddol Oes – llinellau coch

TR2 Coetir conwydd heb ei bori gan gynnwys Coed Nadolig Oes – llinellau coch

WS1 Coetir llydanddail heb ei bori Oes – llinellau coch

Os oes gennych gae â mwy nag un nodwedd parhaol, gallwch chwyddo’r nodwedd trwy glicio

ar yr eicon llygad.

Page 28: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Phase 4.5 Page 28 of 53

Haen Ardaloedd â Ffocws Ecolegol I gwsmeriaid â thir âr, mae gan Gynllun y Taliad Sylfaenol ofynion ‘gwyrddu’. Mae’r Ardaloedd â Ffocws Ecolegol (AFfE - EFA) yn cael eu defnyddio i ateb y gofyniad hwn. Bydd yr Ardaloedd â Ffocws Ecolegol sy’n cael eu dangos yr un fath â’r rheini ar Ffurflen y Cais Sengl (SAF) printiedig, a bydd ond yn cynnwys AFfE gofodol sy’n waliau cerrig, perthi a choedlannau (coppice).

Dim ond ar lefel chwyddo o 500m neu agosach y gellir gweld yr Ardaloedd â Ffocws Ecolegol. Os yw lefel y chwyddo yn fwy na hyn, bydd y map, pan fyddwch yn dewis yr haen, yn chwyddo'n awtomatig i'r lefel chwyddo ofynnol. Pan newidir y chwyddo i 1000m neu fwy, bydd yr haen yn diffodd yn awtomatig. Nid oes modd dewis yr Ardaloedd â Ffocws Ecolegol ar y map. Ond, os byddwch yn dewis neu'n chwilio am gae, byddwch yn gallu gweld gwybodaeth am unrhyw AFfE yn yr ardal honno drwy ddewis y tab AFfE.

Mae’r opsiwn gennych i ddewis neu ddiffodd yr haen 'Ardaloedd â Ffocws

Ecolegol’

Page 29: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Phase 4.5 Page 29 of 53

Pan fydd yr haen Ardaloedd â Ffocws Ecolegol wedi'i dewis, bydd allwedd yn ymddangos ar waelod y map yn y gornel dde.

Ar hyn o bryd mae 3 dangosydd AFfE gwahanol ar y map.

Dangosir gwybodaeth am unrhyw Ardaloedd â Ffocws Ecolegol yn y cae sydd wedi’i ddewis yn y tab ‘AFfE’ (EFA)

Dangosir Perthi (cod nodwedd tir = EF1) fel llinellau gwyrdd trwchus.

Dangosir Waliau cerrig traddodiadol (cod nodwedd tir = EF2) fel llinellau brown trwchus.

Dangosir Waliau cerrig traddodiadol (cod nodwedd tir = EF2) fel llinellau brown trwchus.

Page 30: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Phase 4.5 Page 30 of 53

Labeli Caeau Bydd yr haenen hon yn dangos eich Cyfeirnodau Dalenni a Rhifau’ch Caeau.

Dim ond ar lefel chwyddo o 50m neu agosach y gellir gweld yr haen hon. Os yw lefel y chwyddo yn fwy na hyn, bydd y map, pan fyddwch yn dewis yr haen, yn chwyddo'n awtomatig i'r lefel chwyddo ofynnol.

Mae gennych yr opsiwn i ddewis neu wrthod haen y ‘Labeli Caeau’. Os nad yw’r map wedi chwyddo i mewn ddigon, ni fyddwch yn gallu dewis yr haen hon.

Page 31: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Phase 4.5 Page 31 of 53

Pan fyddwch wedi dewis yr haen

hon, bydd y map yn edrych fel hyn.

Dangosir cyfeirnod dalen a labeli caeau y parseli sydd ar

eich daliad.

Page 32: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Phase 4.5 Page 32 of 53

Tabl Allwedd

Pwrpas y tabl allwedd hwn yw dangos y gwahanol symbolau a ddefnyddir ar y Map Rhyngweithiol ichi wybod eu hystyr.

Haen Lliw Enghraifft ar Lun o’r Awyr

Enghraifft ar Haen y Map

Haen Map OS MasterMap Nodweddion dŵr: Glas Holl nodweddion eraill: Llwyd Afloywder: 100%

Amh

Haen y Llun o’r Awyr Afloywder: 100%

Amh

Bydd amlinell goch am ffiniau Caeau ichi allu eu hadnabod yn rhwydd

Ymyl: Coch Llenwad: Dim (Llun o’r Awyr) / Melyn (Haen y Map) Afloywder: 60%

Bydd amlinell las am y Caeau y byddwch wedi’u dewis

Ymyl: Glas Llenwad: Dim Afloywder: 100%

Rhifau/Labeli Caeau Ymyl: Amh Cefndir: Gwyrdd Golau (Llun o’r Awyr yn unig) Afloywder: 60%

Dangosir y rhan fwyaf o Nodweddion Parhaol* â chroeslinellau coch *heblaw ZZ90, ZZ95, ZZ96 & ZZ98

Ymyl: Glas Llenwad: Croeslinellau Coch Afloywder: 60%

ZZ95 – Sgri/Craig/Cnycau/Meini/ Tywod – smotiau coch

Afloywder: 60%

ZZ98 – Defnyddir symbol Coeden i ddangos Coed, Boncyffion Unigol

Afloywder: 60%

ZZ96 - Bydd prysgwydd, gan gynnwys eithin a mieri yn cael eu dangos â’r ddelwedd werdd isod.

Afloywder: 60%

ZZ90 - Bydd rhedyn yn cael ei dangos â’r ddelwedd frown isod.

Afloywder: 60%

Page 33: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Phase 4.5 Page 33 of 53

Eiconau rhyngweithiol Mae yna dri botwm ichi allu eu dewis wrth ichi edrych ar eich map rhyngweithiol. Maen nhw’n cael eu dangos fel eiconau ger brig y map, wrth y bar chwilio.

Botwm 1 – Chwyddo ar y daliad yn pellhau

ichi allu gweld eich daliad cyfan

Botwm 2 – Erfyn mesur i fesur hyd ac

arwynebedd

Botwm 3 – Printio fy Map ichi allu printio’r

ddelwedd sydd ar y sgrin

Page 34: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Phase 4.5 Page 34 of 53

Chwyddo ar daliad Trwy wasgu’r botwm hwn, cewch weld eich daliad cyfan.

Daliwch y cyrchwr ar y botwm oren. Bydd ffenest naid yn ymddangos i ddweud bod y botwm yn ‘Chwyddo ar y daliad’.

Ar ôl ei ddewis, bydd y map yn dangos eich daliad cyfan.

Page 35: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Phase 4.5 Page 35 of 53

Erfyn Mesur Defnyddiwch y botwm hwn i fesur hyd ac arwynebedd mewn m, km, m2 neu ha yn ôl y gofyn. Mae hwn yn erfyn defnyddiol os ydych yn ystyried ychwanegu nodwedd barhaol yn y cae. Gallwch ddefnyddio’r erfyn i fesur hyd un peth, hyd nifer o bethau neu hyd ac arwynebedd polygon. Gallwch ei ddefnyddio pa beth bynnag yw’r raddfa, ond bydd yn well pan fydd y raddfa’n fawr. Dim ond un peth y gellir ei fesur ar y tro, felly os ydych am fesur mwy nag un peth ar eich map, bydd angen ichi eu mesur ar wahân. Wrth ddechrau mesuriad newydd, caiff unrhyw linellau neu bolygonau eraill sydd wedi’u mesur eu clirio o’r sgrin.

Daliwch y cyrchwr ar y botwm llwyd. Bydd ffenest naid yn ymddangos i ddweud y bydd y botwm yn ‘toglo’r erfyn mesur’. Dewiswch y botwm i ddiffodd yr erfyn mesur. Hover your mouse curser over this grey button. A pop up box will tell you that this button will ‘Toggle the measure tool’. The button should be selected to turn the measurement tool on

Page 36: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Phase 4.5 Page 36 of 53

A message will appear on the bottom of the

screen when the measurement tool is in use

When the tool is in use an additional round white symbol will appear below the

screen cursor.

I ddiffodd yr erfyn mesur, pwyswch y botwm eto. Pan gaiff yr erfyn mesur ei ddiffodd, caiff unrhyw linellau neu bolygonau sydd wedi’u

mesur eu dileu o’r sgrin.

Bydd y neges yn diflannu o waelod y sgrin pan nad yw’r erfyn yn cael ei

ddefnyddio.

Bydd neges yn ymddangos wrth droed y sgrin pan

fydd yr erfyn mesur yn cael ei ddefnyddio.

Page 37: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Phase 4.5 Page 37 of 53

Gosod pwyntiau ar y map rhyngweithiol Mae dwy ffordd i osod pwynt ar y map:

1. Y ffordd hawsaf i osod pwynt ar fap yw trwy bwyso ar fotwm chwith eich llygoden.

Dechreuwch fesur trwy glicio botwm chwith

eich llygoden ar y man cychwyn

Gosodwch y pwynt nesaf yn y man gofynnol trwy glicio botwm chwith y llygoden. Bydd y blwch deialog yn dangos hyd y llinell a dynnwyd yn yr uned

fetrig briodol.

Bydd y blwch gwyn yn dangos hyd y llinell a dynnwyd mewn m neu km â dau le degol.

Symudwch y cyrchwr trwy lusgo’r llygoden i’r man gofynnol. Bydd y symbol wen yn dilyn y cyrchwr nes ichi

osod y pwynt nesaf.

Page 38: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Phase 4.5 Page 38 of 53

2. Pwyswch y botwm shifft a chlicio botwm chwith y llygoden (chwyddo awtomatig). Wedi ichi osod y pwynt trwy bwyso’r botwm shifft a chlicio ar fotwm chwith y llygoden, bydd y map yn chwyddo’n awtomatig wrth y man lle mae’r pwynt wedi’i osod.

Dechreuwch fesur trwy glicio botwm chwith eich llygoden ar y man cychwyn

Symudwch y cyrchwr trwy lusgo’r llygoden i’r man gofynnol. Bydd y symbol wen yn dilyn y cyrchwr nes ichi osod y pwynt nesaf.

Gosodwch y pwynt nesaf yn y man gofynnol trwy bwyso’r botwm shift a chlicio botwm chwith y llygoden. Bydd y blwch deialog yn dangos hyd y llinell a dynnwyd yn yr uned fetrig briodol.

Bydd y blwch gwyn yn dangos hyd y llinell a dynnwyd mewn m neu km â dau le degol.

Page 39: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Phase 4.5 Page 39 of 53

Mesur un pwynt Gallwch fesur hyd un peth ar y map. Gosodwch bwynt gan ddefnyddio un o’r ddau ddull (gweler tudalennau 32-33). Rhaid ichi ddwbl-glicio’r botwm ar eich llygoden er mwyn gorffen gosod y pwynt rydych am ei fesur.

Unwaith y byddwch wedi dwbl-glicio botwm chwith eich llygoden, ni fyddwch yn gallu tynnu llinell bellach â’ch cyrchwr ond bydd yr erfyn mesur yn dal i weithio nes eich bod yn ei ddiffodd. Wrth ei ddiffodd, caiff y llinell a fesurir ei chlirio o’r sgrin. Os ydych am brintio’r map gyda’r mesuriad cyn diffodd yr erfyn mesur neu ddechrau mesur newydd, darllenwch dudalen 39 am gyfarwyddiadau ar gyfer printio.

Dechreuwch fesur trwy glicio botwm chwith eich llygoden ar y man cychwyn

Symudwch y cyrchwr trwy lusgo’r llygoden i’r man gofynnol. Bydd y symbol wen yn dilyn y cyrchwr nes ichi osod y pwynt nesaf.

Gallwch orffen y mesur trwy osod y pwynt yn y man gofynnol naill ai trwy ddwbl-glicio botwm chwith y llygoden neu drwy bwyso’r botwm shift ac yna ddwbl-glicio botwm chwith y llygoden. Bydd y blwch deialog yn dangos hyd y llinell a dynnwyd yn

yr uned fetrig briodol.

Page 40: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Phase 4.5 Page 40 of 53

Mesur mwy nag un pwynt

Mae’ch map rhyngweithiol yn gallu mesur mwy nag un llinell ar y tro. Rhaid bod y llinellau wedi’u cysylltu gan y pwyntiau sy’n cael eu gosod ar y map. Y ffordd hawsaf o wneud hynny yw trwy glicio botwm chwith y llygoden i osod y pwyntiau ar y map ac yna dwbl-glicio’r botwm wrth osod y pwynt olaf rydych am ei fesur.

Dechreuwch fesur trwy glicio botwm chwith eich llygoden ar y man cychwyn

Symudwch y cyrchwr trwy lusgo’r llygoden i’r man gofynnol. Bydd y symbol wen yn dilyn y cyrchwr nes ichi osod y pwynt nesaf.

Gosodwch y pwynt nesaf yn y man gofynnol trwy glicio botwm chwith y llygoden. Bydd y blwch deialog yn dangos hyd y llinell(au) a dynnwyd yn yr uned fetrig briodol.

Page 41: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Phase 4.5 Page 41 of 53

Gallwch osod mwy nag un llinell ar y map rhyngweithiol a bydd y blwch deialog yn adio hyd pob llinell at ei gilydd. Wrth osod y pwynt olaf, mae’n bwysig dwbl-glicio botwm y llygoden rhag ychwanegu rhagor o bwyntiau.

Gosodwch y pwynt nesaf yn y man gofynnol trwy glicio botwm chwith y llygoden. Bydd y blwch deialog yn adio hyd pob llinell at ei gilydd yn yr uned fetrig briodol.

Page 42: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Phase 4.5 Page 42 of 53

Mesur hyd ac arwynebedd polygon Mae’r map rhyngweithiol yn gallu mesur hyd ac arwynebedd polygon. Siâp yw polygon sy’n cael ei greu wrth ddefnyddio’r erfyn mesur. NI fydd y polygon yn gyfan nes bod yr holl bwyntiau wedi’u gosod ac wedi uno â’i gilydd.

Gosodwch y pwyntiau ar y mannau gofynnol ar y map. Bydd y blwch deialog yn adio hyd pob llinell at ei gilydd yn yr uned fetrig briodol.

Crewch y polygon trwy osod y pwynt olaf yn y man lle cafodd y pwynt cyntaf ei osod a chlicio ar

fotwm chwith eich llygoden.

Trwy roi’r cyrchwr yn agos i’r pwynt cyntaf, bydd yn clicio’n

awtomatig ar y pwynt cyntaf i greu polygon.

Page 43: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Phase 4.5 Page 43 of 53

Wrth fesur, os byddwch yn creu ardal â llinellau'n croesdorri (gorgyffwrdd) a chithau heb fwriadu gwneud hynny, bydd neges gwall yn cael ei dangos ac ni fydd dim ardal yn cael ei chyfrifo.

Bydd y blwch deialog wedi adio hyd y pedair llinell mewn m neu km ac wedi mesur yr arwynebedd mewn m2 neu ha

gyda dau le degol.

Wedi ichi greu’r polygon, caiff ei du fewn

ei liwio’n llwyd gydag amlinell las.

Ni fydd arwynebedd yn cael ei gyfrifo os yw’r llinellau’n croestorri.

Bydd neges gwall yn ymddangos.

Page 44: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Phase 4.5 Page 44 of 53

Printio’r Map Bydd y botwm ‘Printiwch y Map’ yn gadael ichi brintio’r hyn sy’n cael ei ddangos ar eich sgrin. Gallai fod yn ddelwedd o’ch daliad cyfan neu ddim ond un cae, gyda’r haenau wedi’u dangos neu wedi’u cuddio. (Mae’r delweddau enghreifftiol wedi’u cymryd gan ddefnyddio Google Chrome. Darllenwch yr adran Datrys Problemau, tudalen 40, i wybod sut i brintio gan ddefnyddio porwyr gwahanol).

Daliwch y cyrchwr ar yr eicon printio. Fe welwch ffenest naid gyda’r geiriau ‘Printiwch

y Map’.

Wedi clicio’r botwm, fe welwch fanylion yr hyn gaiff ei brintio mewn ffenest newydd. Cewch yr

opsiwn wedyn i brintio neu ddileu.

Page 45: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Phase 4.5 Page 45 of 53

Datrys Problemau Printio Mapiau – prosesau ar gyfer Porwyr a gefnogir Internet Explorer

Wrth brintio o Fap Rhyngweithiol gan ddefnyddio Porwr Internet Explorer, bydd eich bocs lawrlwytho yn ymddangos ar y sgrin i chi.

Os ydych chi’n dewis ‘Open’, yna bydd y ffeil yn agor mewn ffenestr newydd (yn dibynnu a yw eich cyfrifiadur/dyfais yn bodloni holl ofynion system y Map Rhyngweithiol).

PWYSIG: NI FYDD yn Arbed y ffeil yn Awtomatig ar eich cyfrifiadur.

Os dewisir y botwm “Save”, yna bydd bocs ‘Save As’ yn ymddangos a gallwch fynd i’ch lleoliad dewisol i arbed.

Page 46: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Phase 4.5 Page 46 of 53

Mozilla Firefox

Wrth brintio o Fap Rhyngweithiol gan ddefnyddio Porwr Mozill Firefox, bydd eich bocs lawrlwytho yn ymddangos ar y sgrin i chi.

Os ydych chi’n dewis ‘Open with’, ac yna “OK”, bydd y ffeil yn agor mewn ffenestr newydd (yn dibynnu a yw eich cyfrifiadur/dyfais yn bodloni holl ofynion system y Map Rhyngweithiol). PWYSIG: NI FYDD yn Arbed y ffeil yn Awtomatig ar eich cyfrifiadur.

Os ydych chi’n dewis “Save File”, ac yna “Open", yna bydd y ffeil yn cael ei harbed yn y ffolder Mozilla Firefox Download.

Page 47: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Phase 4.5 Page 47 of 53

Yna, dylech weld y ffenestr naid isod ar waelod ochr dde eich sgrin i ddweud fod y broses lawrlwytho wedi gorffen.

Yn ôl i’r cynnwys Google Chrome Wrth brintio o’r Map Rhyngweithiol gan ddefnyddio Porwr Google Chrome, bydd eich bocs lawrlwytho ychydig yn wahanol.

Fel arfer, mae gosodiad lawrlwytho Google Chrome wedi’i ragosod yn awtomatig i arbed copi o’r hyn rydych wedi dewis ei lawrlwytho i’ch ffolder rhagosod. Pan fydd y gosodiad hwn wedi’i droi ymlaen, bydd y bocs lawrlwytho yn ymddangos ar ochr chwith isaf ffenestr eich porwr, i agor eich Map PDF. Pan fyddwch yn ei ddewis, bydd eich Map PDF yn cael ei ‘Arbed yn Awtomatig’ a bydd eich map yn agor i chi.

Os na fyddwch yn defnyddio’r gosodiad hwn, bydd bocs ‘Save As’ yn ymddangos yn gofyn i chi arbed eich hun yr hyn rydych wedi’i lawrlwytho. Yna, bydd angen i chi fynd i’r lle rydych wedi’i arbed i’w agor.

Page 48: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Phase 4.5 Page 48 of 53

Os ydych chi am newid eich gosodiadau, agorwch y gwymplen gosodiadau Dewiswch ‘Settings’, ac yna ‘Show advanced settings...’

Sgroliwch i lawr i ‘Downloads’ ac edrychwch i weld a oes tic yn y bocs wrth ‘Ask where to save each file before downloading’. Os nad oes tic, bydd yr hyn y byddwch yn ei lawrlwytho’n cael ei ‘Arbed yn Awtomatig’. Os oes tic, bydd yn rhaid i chi arbed eich hun yr hyn rydych wedi’i lawrlwytho cyn ei agor.

Page 49: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Phase 4.5 Page 49 of 53

Cwestiynau Cyffredin

1. Wrth i mi agor Map Rhyngweithiol, mae gan y llun o’r awyr ymyl gwyn, ond mae’n diflannu wrth i mi newid i’r MasterMap (Haen y Map). Pam? Os ydych chi’n byw yn agos i’r môr neu’n agos i ffin Cymru, fe welwch lle nad oes lluniau o’r awyr, dim ond gofod gwyn sydd. Mae Llywodraeth Cymru ond yn cadw lluniau o’r awyr o Gymru; felly bydd Map Rhyngweithiol yn dangos haen lluniau o’r awyr ar gyfer Cymru yn unig. Oherwydd hyn, ni fydd lluniau o’r awyr o’r môr nac o unrhyw le dros y ffin. Mae Haen y Map yn wahanol a bydd yn dangos y môr a thir ar draws y ffin. Os nad ydych chi’n byw ger y môr neu ffin Cymru a bod gennych ardaloedd bocs gwyn yn ymddangos, ceisiwch yn y lle cyntaf adnewyddu’r dudalen. Os nad yw hynny’n gweithio, ceisiwch gau’r Porwr a mewngofnodi i’ch cyfrif Taliadau Gwledig Cymru Ar-lein unwaith eto.

Os ydych chi’n dal i gael problemau, cysylltwch â’r Ddesg Gymorth Ar-lein ar 0300 062 5004 neu e-bostiwch [email protected] er mwyn iddynt allu’ch helpu.

2. Wrth i mi ddewis fy nghaeau, nid oes ymyl glas, pam?

Mae’n debyg eich bod yn symud o gae i gae yn rhy gyflym. Pan fyddwch chi’n dewis cae ar y map, mae’n rhaid i’r holl wybodaeth am y cae hwnnw sydd ar y tabiau Rhestr Caeau, Manylion Caeau a Nodweddion gael ei hadnewyddu ac ail-lwytho. Bydd yr amser y mae’r system yn ei gymryd i wneud y newidiadau hyn yn amrywio ac yn dibynnu ar gyflymder a chryfder eich band eang. Ceisiwch gymryd eich amser wrth newid o gae i gae. Os ydych chi’n dal i gael problemau, cysylltwch â’r Ddesg Gymorth Ar-lein ar 0300 062 5004 neu e-bostiwch [email protected] er mwyn iddynt allu’ch helpu. 3. Rwy’n ceisio creu map i ddangos newidiadau ar gyfer ffurflen Cynnal Caeau, ond mae gen i groeslinellau coch ar y cae i ddangos nodweddion parhaol. Sut mae troi’r haen nodwedd barhaol i ffwrdd? Ar ochr dde ucha’ch map, fe welwch flwch opsiynau. Wrth estyn y blwch, fe welwch opsiwn i ddiffodd yr haenen. Bydd yr haenen hon ymlaen yn awtomatig wrth ichi fewngofnodi ac edrych ar y Map Rhyngweithiol. Os ydych chi’n dal i gael problemau, cysylltwch â’r Ddesg Gymorth Ar-lein ar 0300 062 5004 neu e-bostiwch [email protected] er mwyn iddynt allu’ch helpu.

Page 50: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Phase 4.5 Page 50 of 53

4. Wrth i mi fewngofnodi i RPW Ar-lein a dewis Map Rhyngweithiol, pam nad yw’r

rhestr caeau ar ochr chwith y sgrin yno mwyach?

Rydym wedi rhoi bar chwilio yn lle’r rhestr o gaeau. Defnyddiwch y bar i chwilio am eich caeau trwy nodi cyfeirnod y ddalen, rhif y cae neu enw’r cae. Wrth ichi deipio, bydd y system yn dechrau chwilio am y cae. Fel arall, os byddai’n well gennych weld cyfeirnodau dalenni neu rifau caeau eich holl gaeau, gallwch ddewis hynny trwy estyn y blwch ‘Gweld Opsiynau’ ar gornel dde uchaf eich map a thoi’r haenen ‘Labeli Caeau’ ymlaen. Os ydych chi’n dal i gael problemau, cysylltwch â’r Ddesg Gymorth Ar-lein ar 0300 062 5004 neu e-bostiwch [email protected] er mwyn iddynt allu’ch helpu. 5. Sut ydw i’n gwybod pa haenau sydd ar agor? Bydd y blwch ‘Gweld Opsiynau’ ar gornel dde ucha’r sgrin yn dangos pa haenau sydd ar agor. Bydd yr haenau Llun o’r Awyr a Nodweddion Parhaol ar agor yn awtomatig wrth ichi fewngofnodi ac edrych ar eich Map Rhyngweithiol. Os ydych chi’n dal i gael problemau, cysylltwch â’r Ddesg Gymorth Ar-lein ar 0300 062 5004 neu e-bostiwch [email protected] er mwyn iddynt allu’ch helpu. 6. Wrth ddewis ‘Printiwch y Map’, a fydd manylion y caeau ar yr ochr chwith yn ymddangos ar yr allbrint? Wrth ddewis ‘Printiwch y Map’, dim ond llun y map ar y sgrin fydd yn cael ei brintio ar y papur. Os oes blwch manylion caeau ar agor ar ochr chwith y sgrin, ni fydd hwnnw’n cael ei

brintio. Os ydych chi’n dal i gael problemau, cysylltwch â’r Ddesg Gymorth Ar-lein ar 0300 062 5004 neu e-bostiwch [email protected] er mwyn iddynt allu’ch helpu. 7. Beth yw polygon a sut mae creu un gan ddefnyddio’r Erfyn Mesur? Siâp yw polygon ag iddo o leiaf dair ochr a thair ongl. Wrth ddefnyddio’r erfyn mesur, caiff polygon ei greu pan fydd y pwyntiau’n cael eu huno. Os ydych chi’n dal i gael problemau, cysylltwch â’r Ddesg Gymorth Ar-lein ar 0300 062 5004 neu e-bostiwch [email protected] er mwyn iddynt allu’ch helpu. 8. Pam mae’r mesuriad yn diflannu oddi ar y sgrin wrth imi fesur rhywbeth newydd? Dim ond un mesuriad sy’n cael ei ddangos ar y map ar y tro. Felly os ydych am fesur rhywbeth arall, caiff unrhyw fesuriad blaenorol a blychau deialog cysylltiedig eu clirio oddi ar y sgrin. Os ydych chi’n dal i gael problemau, cysylltwch â’r Ddesg Gymorth Ar-lein ar 0300 062 5004 neu e-bostiwch [email protected] er mwyn iddynt allu’ch helpu.

Page 51: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Phase 4.5 Page 51 of 53

9. Pam mae’r nodweddion parhaol a’r ardal â ffocws ecolegol - coedlan cylchdro byr yn ymddangos mewn du solet yn hytrach nag fel patrwm croeslinellu?

Problem gyda meddalwedd Google Chrome yw hwn. I argraffu map gyda’r patrwm croeslinellu, bydd angen ichi ddefnyddio porwr gwahanol.

Os byddwch yn dal i gael problemau, cysylltwch â'r Llinell Gymorth Ar-lein ar 0300 062 5004 neu anfon e-bost at [email protected] <mailto:[email protected]> ac mi wnânt geisio'ch helpu.

Page 52: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Phase 4.5 Page 52 of 53

Dolenni defnyddiol Gwasanaethau sydd ar gael drwy Borth y Llywodraeth Dyma rai o’r gwasanaethau eraill y gallwch eu cyrchu drwy Borth y Llywodraeth. Mae’r gwasanaethau hyn wedi’u rhestru yn nhrefn yr wyddor ar ôl i chi fewngofnodi i wefan Porth y Llywodraeth. Er hwylustod, rydym wedi rhestru rhai ohonynt yma:

Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS) – System Olrhain Gwartheg Ar-lein = www.bcms.gov.uk

Adran yr Amgylchedd Bwyd a Materion Gwledig =

www.gov.uk/defra

Yr Asiantaeth Taliadau Gwledig (RPA) SPS Ar-lein = www.gov.uk/singl-

payment-scheme-online

Taliadau Gwledig Ar-lein Llywodraeth yr Alban =

www.scotland.gov.uk/RuralPaymentsOnline

Gwasanaeth Ar-lein yr Adran Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig =

www.dardni.gov.uk/saf-online

Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru Ar-lein = www.wefo.cymru.gov.uk

Page 53: Canllaw syml i Gwsmeriaid ar sut i A Staff Guide on how to ... · Cefnogir hefyd y rhan fwyaf o ffonau clyfar neu dabledi sy’n defnyddio systemau Android neu Mac IOS. Bydd angen

Phase 4.5 Page 53 of 53

Gwasanaethau eraill Nid yw’r dolenni canlynol wedi’u rhestru ar Borth y Llywodraeth, ond gallant fod o help i chi:

Llywodraeth Cymru = www.cymru.gov.uk

Llywodraeth Cymru – Ffermio a Chefn Gwlad = www.cymru.gov.uk/ffermio

Llywodraeth Cymru – Canllaw’r Ffermwr i Drawsgydymffurfio =

www.cymru.gov.uk/cynlluniauamaeth

Llywodraeth Cymru – TB mewn Gwartheg =

www.cymru.gov.uk/tbmewngwartheg

Llywodraeth Cymru – Symud ac adnabod anifeiliaid fferm =

www.cymru.gov.uk/iechydanifeiliaid

Llywodraeth Cymru – Cyswllt Ffermio = www.cymru.gov.uk/cyswlltffermio

Llywodraeth Cymru – Map o’n Swyddfeydd =

www.cymru.gov.uk/cynlluniauamaeth

Llywodraeth Cymru – Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm =

www.cymru.gov.uk/GwasanaethCysylltwyrFferm

Gwlad Ar-lein = www.cymru.gov.uk/gwlad

Llywodraeth Cymru – Grwpiau cefnogi straen yng nghefn gwlad =

www.cymru.gov.uk/cynlluniauamaeth

Undeb Amaethwyr Cymru = www.fuw.org.uk

Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU) Ar-lein = www.nfuonline.com

Cyfoeth naturiol Cymru = www.cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

System Trwyddedu Symudiadau Anifeiliaid (AMLS) = www.gov.uk/animal-

identification-movement-and-tracing-regulations