-
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Cynllun a Chynllun Gwella
Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
2009 -2012
Gellir darparu’r cynllun hwn mewn ieithoedd neu ffo rmatau
eraill
ar gais
� �
Cysylltwch â’r Adran Gyfathrebu Corfforaethol
E-bost: [email protected] Ffôn testun: 01248 384
939 Ffôn: 01248 384 938 Ffacs: 01248 384 731
-
Cynnwys Tudalen Ymrwymiad 4 Rhagymadrodd 6
• Rôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr 7 • Ein Demograffeg
Newidiol 8 • Poblogaeth Gogledd Cymru 8 • Amddifadedd
Economaidd-gymdeithasol 9 • Anghydraddoldebau Iechyd 9 • Sut y Bu
Hyd Yma 14
Cwrdd â’n Gofynion Statudol 17 • Dyletswyddau Cydraddoldeb y
Sector Cyhoeddus 17 • Rheolau Sefydlog Enghreifftiol i Fyrddau
Iechyd Lleol 18
Ein Dull o Ddatblygu’r Cynllun 19 • Cyfeiriad Strategol i BI PBC
21 • Dull wedi’i Seilio ar Hawliau Dynol 23 • Safonau Gofal Iechyd
24 • Canolbwyntio ar y Dinesydd 24 • Ymgysylltu Cynhwysol 24 •
Model Cymdeithasol o Anabledd 24 • Yr Iaith Gymraeg 25 • Monitro
ein cynllun 26 • Hyrwyddwyr Cydraddoldeb 26 • Cynlluniau Gweithredu
Cydraddoldeb Gwasanaethau 27
Ymgysylltu â Defnyddwyr Gwasanaethau, Staff a Rhanddeiliaid
Eraill 27
• Cydweithio i Gynnwys ac Ymgysylltu’n Well 27 • Ymgysylltu â’n
Rhanddeiliaid 28 • Ymgysylltu â’n Staff 29
• Parhau i Ymgysylltu 29
Casglu a Dadansoddi’r Dystiolaeth 29
• Beth a Ddywedsoch Wrthym Ni a Dal i Wneud Cynnydd 29 • Beth yr
Ydym wedi’i Ddysgu a’n Blaenoriaethau 30
Mynediad a Hygyrchedd 34
-
3
Asesu Effaith Ein Penderfyniadau 34
• Asesu Swyddogaethau a Pholisïau o ran eu Perthnasedd i’r
Dyletswyddau Cyffredinol 34 Sut Byddwn yn Gwreiddio’r Broses Asesu
Effaith 36 Sut yr Ydym yn Casglu a Defnyddio Gwybodaeth 37 Sut yr
Ydym yn Cyhoeddi Adroddiadau ar Asesu, Ymgynghori a Monitro 40 Ein
Rôl fel Cyflogwr 40 Monitro’r Cynllun Hwn a’i Ddatblygu Ymhellach
43 Adroddiadau Blynyddol 44 Adolygu a Diwygio’r Cynllun
Cydraddoldeb Sengl 45 Cyhoeddi’r Cynllun 45 Cael Copi o’r Cynllun
45 Sylwadau a Chwynion 45
Atodiadau
Atodiad 1 Y Cynllun Gwella Cydraddoldeb
Atodiad 2 Gwybodaeth am Boblogaeth Gogledd Cymru
Atodiad 3 Y Dystiolaeth a Gasglwyd drwy Ymgysylltu
Atodiad 4 Gwybodaeth am y Gweithlu
Atodiad 5 Proses Asesu’r Effaith ar Gydraddoldeb
Atodiad 6 Y Fframwaith Cyfreithiol
Atodiad 7 Rhestr Termau, Diolchiadau a Llyfryddiaeth
-
4
Ymrwymiad Croeso i Gynllun Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Sengl
cyntaf Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Rydym wrth ein bodd
o allu ysgrifennu rhagair i’r ddogfen bwysig hon. Mae’n hollbwysig
bod Bwrdd Iechyd fel BI PBC yn cydymffurfio â’r gyfraith, ond safon
sylfaenol yw hon. Mae gennym weledigaeth glir – dylai pawb sy’n dod
i gysylltiad â’n gwasanaethau gael eu trin gyda pharch ac urddas,
cael asesu eu hanghenion iechyd, cael cymorth ac nid eu trosglwyddo
i rywun arall, cael gwasanaeth diogel ac ymatebol o ansawdd uchel
sy’n gwella drwy’r amser, ac sy’n hawdd ei ddeall a chael mynediad
ato. Ein glasbrint ar gyfer y dyfodol yw system gyhoeddus lle gall
dinasyddion gael mynediad at ofal o’r un safon ac ansawdd ag eraill
pwy bynnag ydynt, beth bynnag yw eu hiaith, beth bynnag yw eu
lleoedd neu oriau gwaith a lle bynnag maent yn byw. Ein nod yw
sicrhau safonau uwch drwy integreiddio gwasanaethau iechyd
cyhoeddus, sylfaenol, cymunedol, iechyd meddwl ac eilaidd mewn
partneriaeth â dinasyddion, cyrff cyhoeddus, staff, undebau llafur,
cyrff proffesiynol a’r sector gwirfoddol. Byddwn yn canolbwyntio
gyda’n gilydd ar les yn ei ystyr ehangaf er mwyn gwella a
chyfoethogi bywydau unigolion, cymunedau a phoblogaeth Gogledd
Cymru. Mae’r gwerthoedd sydd wedi’u nodi yn y dyletswyddau
cydraddoldeb, sef tegwch, cyfiawnder a hunanddewis, ac egwyddorion
hawliau dynol, yn sail i’n cyfeiriad strategol. Fel corff iechyd,
mae BI PBC yn anelu at nodau sy’n ymwneud â diogelwch, ansawdd,
effeithioldeb ac effeithlonrwydd er mwyn darparu’r safonau gofal
uchaf. Mae egwyddorion llywodraethu sy’n canolbwyntio ar y dinesydd
wrth wraidd ei gynlluniau ac yn rhan o’i set o werthoedd. Fel Bwrdd
Iechyd Prifysgol, mae’n arwain ym maes arloesi, gwella, ymchwil a
datblygu, wrth gryfhau ei sylfaen academaidd. Fel gwasanaeth
cyhoeddus, mae’n chwarae ei ran fel dinesydd corfforaethol gan
arwain drwy esiampl. Rydym yn cydnabod bod y Dyletswyddau
Cydraddoldeb yn berthnasol i holl feysydd gweithgarwch y sefydliad
a’u bod yn ymwneud, yn y bôn, ag ehangu gwybodaeth, dealltwriaeth a
gallu i sicrhau gwelliannau. Ein dymuniad yw parchu hawliau pawb
sy’n dod i gysylltiad â ni a dangos parch at bawb beth bynnag fo’u
sefyllfa. Rydym yn cydnabod bod angen datblygu o safbwynt lle y
gwelir bod hawliau dynol yn bwysig at fod yn gorff sydd wedi’i
seilio ar hawliau dynol a sicrhau bod hawliau dynol yn rhan
hanfodol o’r hyn ydym a’r hyn yr ydym yn ei wneud. Mae camau i
hyrwyddo’r ymrwymiad hwn wedi’u nodi yn y cynllun gwella sy’n
ategu’r cynllun hwn.
-
5
Fel Cadeirydd a Phrif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr rydym wedi ymrwymo i hybu cyfle cyfartal a diogelu a
hyrwyddo hawliau pawb. Byddwn yn craffu ar y gweithredu ar y
cynllun hwn ac yn hyrwyddo ein gweledigaeth o gydraddoldeb sy’n
mynd ymhellach na chydymffurfio â’r gyfraith, ac yn gosod safonau
newydd ym maes cydraddoldeb a hawliau dynol mewn iechyd. Byddwn yn
ymdrechu i sicrhau bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn
darparu gwasanaeth sy’n deg, yn ymatebol, yn gynhwysol ac yn
briodol i bawb a byddwn yn helpu i hyrwyddo newid mewn diwylliant
yn ôl yr angen o fewn y sector cyhoeddus. Dyletswydd i ni ac i’r
Bwrdd yw sicrhau y rhoddir y cynllun hwn ar waith.
Mr Michael Williams Mrs Mary Burrows
Cadeirydd Prif Weithredwr Hyrwyddwr Cydraddoldeb Aelod
Annibynnol
-
6
Rhagymadrodd Mae’r cynllun hwn yn egluro sut mae’r Bwrdd Iechyd
yn bwriadu ceisio gwireddu ein gweledigaeth o gydraddoldeb a
hawliau dynol a sut byddwn yn monitro mynediad, profiadau a
chanlyniadau ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau a’n gweithlu. Ei nod
hirdymor yw hyrwyddo cydraddoldeb a chynnwys ac ymgysylltu â
dinasyddion yng Ngogledd Cymru wrth ddatblygu polisïau, arferion a
gwasanaethau sy’n effeithlon ac yn effeithiol, ac arwain y ffordd
at arferion arloesol a gwell canlyniadau o ran cydraddoldeb i bawb.
Mae’r cynllun strategol hwn yn dal sylw ar y cynlluniau
cydraddoldeb a etifeddwyd ar ôl y cyrff blaenorol. Mae’n ddogfen
flaengar a byw a fydd yn dal i ddatblygu wrth i swyddogaethau a
strwythurau BI PBC ymsefydlu. Rydym wedi casglu tystiolaeth o
adroddiadau cenedlaethol a lleol a gan staff a defnyddwyr
gwasanaethau i oleuo’r gwaith hwn. Rydym wedi gwrando ac wedi
clywed negeseuon allweddol ac yn rhoi pris mawr ar yr adborth hwn a
ddefnyddiwn i gynorthwyo a chydweithio ag Adrannau Gwasanaethau
Corfforaethol a Grwpiau Rhaglenni Clinigol wrth iddynt bennu
blaenoriaethau ar gyfer gweithredu a chynnwys pobl yn eu cynlluniau
gwasanaeth. Mae’r Cynllun hwn wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â
llawer o unigolion, cyrff a’n staff. Mae’n egluro sut byddwn yn
hyrwyddo cyfle cyfartal i bawb, a sut rydym yn cydnabod ac yn
mawrbrisio amrywiaeth. Mae’r Cynllun yn cynnig fframwaith i BI PBC
wneud cynnydd ar hyrwyddo cydraddoldeb. Rydym am iddo gael ei
seilio ar egwyddorion hawliau dynol, sef tegwch, parch,
cydraddoldeb, urddas ac ymreolaeth, gan ganolbwyntio ar anghenion
dinasyddion Gogledd Cymru. Rydym wedi ceisio dal y ddysgl yn wastad
rhwng anghenion y corff newydd a gofynion deddfwriaeth a Chodau
Ymarfer perthnasol drwy fabwysiadu dull o weithredu a fydd yn
sicrhau cymeradwyo drafft o’r Cynllun gan y Bwrdd i’w gyhoeddi
erbyn 4 Rhagfyr 2009. Bydd hyn yn cynnwys yr adolygiad o Gynlluniau
Cydraddoldeb Anabledd y cyrff blaenorol y mae’n ofynnol ei wneud
erbyn y dyddiad hwn. Bydd y ddogfen hon yn destun ymgynghoriad
wedyn am gyfnod o 12 wythnos a ddaw i ben ar 1 Mawrth 2010, a
chyhoeddir y Cynllun terfynol ar 1 Ebrill 2010. Bydd y Cynllun ar
gael, ar ffurf drafft i ddechrau o 4 Rhagfyr 2009, ac ar ei ffurf
derfynol o 1 Ebrill 2010 ar wefan BI PBC yn y lle
canlynol:http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/861/page/41868 a
http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/861/tudalen/41867. Mae hon yn
ddogfen fyw a bydd yn datblygu ymhellach ar ôl ymgynghori â’n
rhanddeiliaid, ein staff, defnyddwyr gwasanaethau a phartneriaid
dros y misoedd i ddod.
-
7
Mae llawer o ddeddfwriaeth ynghylch cydraddoldeb, a chafwyd
ymrwymiad i gysoni a rhesymoli’r gwahanol ddeddfau drwy wneud Deddf
Sengl. Amcan y Ddeddf Cydraddoldeb, a ddisgwylir y flwyddyn nesaf,
yw ei gwneud yn haws i bobl wybod beth yw eu hawliau a’u
rhwymedigaethau. Yn y cyfamser, mae’r Cynllun hwn yn ymwneud â’r
Dyletswyddau cyfredol o ran Hil, Anabledd a Rhywedd a chaiff ei
adolygu pan ddaw’r Ddeddf Cydraddoldeb i rym. Mae adolygiadau
blynyddol wedi’u cynnwys yn rhaglen weithredu’r Cynllun i sicrhau y
cawn gyfle i ystyried ac adolygu ein cynlluniau a dal sylw ar
ofynion newydd mewn deddfwriaeth. Byddwn yn cyhoeddi adolygiad
blynyddol o’r gwaith ar gyflawni’r cynllun gwella, a hynny’n
cynnwys datblygu cynlluniau gweithredu i’w ategu gan Grwpiau
Rhaglenni Clinigol ac Adrannau Gwasanaethau Corfforaethol. Rôl
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Mae Bwrdd Iechyd Lleol
Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gorff statudol a sefydlwyd ar 1
Mehefin 2009 a daeth yn weithredol ar 1 Hydref 2009. Hwn yw’r corff
iechyd mwyaf yng Nghymru ac mae’n cynnig darpariaeth lawn o
wasanaethau sylfaenol ac iechyd meddwl a rhai yn y gymuned ac mewn
ysbytai acíwt i boblogaeth o tua 676,000 ym mhob un o chwe sir y
Gogledd (Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a
Wrecsam) yn ogystal â rhai rhannau o ganolbarth Cymru, Swydd Gaer a
Swydd Amwythig. Mae’r Bwrdd Iechyd yn cyflogi staff o tua 18,000 ac
mae ei gyllideb oddeutu £1.1 biliwn. Mae’n gyfrifol am redeg tri
ysbyty cyffredinol dosbarth, sef Ysbyty Gwynedd ym Mangor, Ysbyty
Glan Clwyd ger y Rhyl, ac Ysbyty Maelor Wrecsam, yn ogystal â 22 o
ysbytai acíwt a chymunedol eraill, a rhwydwaith o fwy na 90 o
ganolfannau iechyd, clinigau, canolfannau timau iechyd cymunedol ac
unedau iechyd meddwl. Mae hefyd yn cydgysylltu gwaith 121 o
bractisau meddygon teulu a gwasanaethau GIG sy’n cael eu darparu
gan Ddeintyddion, Optegwyr a Fferyllfeydd Gogledd Cymru. Prif rôl y
Bwrdd Iechyd Lleol yw sicrhau bod y system GIG leol yn cael ei
chynllunio a’i rhedeg yn effeithiol, o fewn fframwaith llywodraethu
cadarn, i gyrraedd y safonau uchaf o ran diogelwch cleifion a
chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus, gwella iechyd a lleihau
anghydraddoldebau a sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i’w
ddinasyddion, a hynny mewn modd sy’n hyrwyddo hawliau dynol.
(Rheolau Sefydlog Enghreifftiol i Fyrddau Iechyd Lleol, GIG Cymru,
Medi 2009) BI PBC yw’r prif gorff sy’n gyfrifol am gomisiynu gofal
sylfaenol a darparu gofal iechyd eilaidd, cymunedol a chanolraddol
i boblogaeth Gogledd
-
8
Cymru. Rydym yn gyfrifol am gyflawni’r rôl arweiniol o geisio
gwella iechyd y boblogaeth a datblygu gofal sylfaenol. Er nad yw
contractwyr gofal sylfaenol (Meddygon Teulu, Deintyddion,
Fferyllwyr ac Optometryddion) wedi’u rhwymo gan y gyfraith i
gynhyrchu Cynllun Cydraddoldeb Sengl, bydd BI PBC yn cymryd camau i
annog a helpu contractwyr i lunio Cynlluniau Gweithredu wedi’u
seilio ar Gynllun Cydraddoldeb Sengl y Bwrdd Iechyd. Ein
Demograffeg Newidiol ‘Mae ein proffil demograffig yn newid. Mae
newidiadau yn y patrymau mudo. Mae mwy o ymwybyddiaeth ynghylch
gwahanol hunaniaethau a diwylliannau. Mae cynnydd yn nifer y bobl
sydd â salwch tymor hir, ac yn nifer y bobl anabl. Mae newid yn y
berthynas rhwng dynion a menywod ac yn natur teuluoedd. Oherwydd
newidiadau mewn amgylchiadau bywyd a’r arferion gweithio a ffafrir,
mae’n rhaid inni hefyd ailedrych ar y rhwystrau a allai achosi
anfantais a ffyrdd o ddelio â’r gwahaniaethau sydd rhyngom. Mae
angen inni ddatblygu a chroesawu’r buddion a gawn o fod â
phoblogaeth fwy amrywiol ac integredig a llunio polisïau a
gwasanaethau i nodi a diwallu anghenion cymunedau. Mae’r Cynllun
Cydraddoldeb Sengl yn cynnig y cyfleoedd i wneud hyn. Bydd yn
sbardun pwysig i gael y newidiadau sy’n angenrheidiol.’
Ffynhonnell: Cynllun Cydraddoldeb Sengl Llywodraeth Cynulliad Cymru
Poblogaeth Gogledd Cymru Mae arwynebedd Gogledd Cymru oddeutu 2,500
o filltiroedd sgwâr. Mae poblogaeth o tua 670,000 a rhagwelir y
bydd yn cynyddu i bron 700,000 erbyn 2028. Mae 18.5% o boblogaeth
breswyl Gogledd Cymru’n 65 oed neu’n hŷn. Mae cyfran fwy o bobl hŷn
yng Nghonwy. Sir y Fflint a Wrecsam sydd â’r cyfrannau lleiaf o
bobl hŷn ac mae ganddynt gyfran fawr o bobl iau. Rhagwelir y bydd
demograffeg Gogledd Cymru’n newid yn ystod yr 20-30 mlynedd nesaf
ac y bydd cynnydd mawr yn nifer y bobl hŷn. Mae’r boblogaeth wedi’i
rhannu rhwng crynodiadau mawr o bobl ym mhrif ganolfannau trefol y
rhanbarth a’u cyffiniau, trefi gwyliau glan môr a threfi marchnad
gwledig a chrynodiadau llai mewn pentrefi gwledig bach a mawr ac
aneddiadau gwledig ac o’u cwmpas. Mae llai nag 1.2% o boblogaeth
Gogledd Cymru o gymunedau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig. Mae’r
rhan fwyaf o’r cymunedau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig o gwmpas
ardaloedd Bangor, y Rhyl a Wrecsam. Mae delio ag anghydraddoldebau
iechyd yn fater allweddol, gan fod bron un ym mhob pump o’r
boblogaeth yn byw yn y wardiau mwyaf difreintiedig yng Nghymru sydd
yn y Gogledd. Gwynedd a Wrecsam sydd â’r gyfran fwyaf o’u
poblogaethau’n byw yn y wardiau mwyaf difreintiedig yn y rhanbarth.
Mae’r rhan fwyaf o’r poblogaethau o Sipsiwn a Theithwyr ar hyd y
prif lwybrau trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru. Mae safleoedd preswyl
awdurdodedig yng Ngwynedd a Sir y Fflint; nid oes unrhyw
safleoedd
-
9
tramwy nac arosfannau dros dro awdurdodedig yn unman yn y
Gogledd. Mae mwy o wybodaeth am broffil cydraddoldeb y boblogaeth
yr ydym yn ei gwasanaethu yn Atodiad 2. Mae hyn yn cynnwys oed,
rhywedd, anabledd, crefydd a chred ac ethnigrwydd. Amddifadedd
Economaidd-gymdeithasol Er gwaethaf gwelliannau mewn iechyd, mae’n
ymddangos bod y bwlch rhwng y lleiaf a’r mwyaf difreintiedig yn
ymledu ar lefel genedlaethol. Un her allweddol i gyrff yw sicrhau
bod pwyslais digonol ar y nod tymor hwy o ddelio ag
anghydraddoldebau iechyd. Ar draws Cymru, mae wardiau etholiadol
wedi’u grwpio o’r gwaethaf i’r gorau yn bumedau (cwintelau). Ar
lefel Cymru gyfan, cofnodwyd bod 705,118 o bobl yn preswylio yn y
wardiau mwyaf difreintiedig. Cofnodwyd bod 122,181 yn byw mewn
wardiau o’r fath sydd yng Ngogledd Cymru (h.y. mae tua 17% o’r
boblogaeth gyfan yn byw yn y wardiau mwyaf difreintiedig sydd yng
Nghymru). Mae canran uchaf y bobl sy’n byw yn y wardiau mwyaf
difreintiedig yn y rhanbarth yng Ngwynedd a Wrecsam. Gwelir bod
pocedi o amddifadedd i’w cael yn aml mewn canolfannau trefol, er
enghraifft, Bangor a Wrecsam. Mae amddifadedd gwledig yn fater
pwysig yng Ngogledd Cymru hefyd. Ffynhonnell: Gwasanaeth Iechyd
Cyhoeddus Cymru, Adolygiad Cyflym o’r Elfen Ysbytai mewn
Gwasanaethau Gofal Heb eu Trefnu yng Ngogledd Cymru. Awdurdodau
Lleol yng Ngogledd Cymru. Anghydraddoldebau Iechyd yng Nghymru
Cafwyd y wybodaeth ganlynol o ‘Materion Cydraddoldeb yng Nghymru’,
adolygiad o ymchwil. Mae’r adroddiad a gomisiynwyd gan y Comisiwn
Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cyflwyno’r canfyddiadau o adolygiad
o’r llenyddiaeth ar ymchwil ac ystadegau ar gydraddoldeb yng
Nghymru. Roedd yn cynnwys ymchwil gan academyddion, llywodraeth a’r
trydydd sector a gyhoeddwyd rhwng 2000 a 2008 ac mae’n canolbwyntio
ar astudiaethau sy’n ymdrin â Chymru gyfan yn hytrach nag
astudiaethau lleol. Tlodi ac Allgáu Cymdeithasol Mae digon o
dystiolaeth i ddod i’r casgliad bod grwpiau lleiafrifol ethnig,
menywod, pobl anabl, plant a phobl ifanc a phobl hŷn yn profi mwy o
dlodi ac allgáu cymdeithasol na grwpiau eraill. Fodd bynnag, nid
oes bron ddim tystiolaeth mewn cysylltiad â chrefydd a
chyfeiriadedd rhywiol. Incwm Cartrefi a Thlodi Mae’r dystiolaeth
ynghylch incwm a thlodi’n anwastad iawn. Mae’r rhan fwyaf o lawer
o’r wybodaeth yn ymwneud â thlodi plant a phensiynwyr, sy’n dangos
bod tua 26 y cant o blant a 18 y cant o bensiynwyr yn byw
-
10
ar aelwydydd sy’n dlawd o ran incwm, a bod cyfran lai, ond
sylweddol er hynny, o’r ddau grŵp hefyd yn mynd heb
‘angenrheidiau’. Mewn cyferbyniad â hynny, nid oes fawr ddim
gwybodaeth am dlodi a hil, rhywedd neu anabledd, nac am grefydd a
chyfeiriadedd rhywiol.
Iechyd a Gofal Cymdeithasol Er bod llenyddiaeth sylweddol ar
iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, mae llawer ohoni’n ymwneud
ag anghydraddoldebau iechyd yn gyffredinol yn hytrach na meysydd
cydraddoldeb. Mae’r dystiolaeth sydd ar gael yn dangos bod grwpiau
lleiafrifol ethnig, pobl anabl, plant sy’n agored i niwed a phobl
hŷn yn tueddu i fod yn waeth eu hiechyd a bod ganddynt fynediad
gwaeth at ofal yr un pryd. Mae’r dystiolaeth ar grefydd a
chyfeiriadedd rhywiol, ac ar rywedd, yn fwy cyfyngedig byth. Statws
Iechyd Mae tystiolaeth gyfyngedig yn dangos bod statws iechyd
grwpiau lleiafrifol ethnig, menywod, pobl anabl, plant sy’n agored
i niwed a phobl hŷn yn is na’r boblogaeth yn gyffredinol. Nid oes
unrhyw wybodaeth ynghylch cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd, a bron
ddim tystiolaeth ynghylch gwahanol grwpiau o fewn y boblogaeth
leiafrifol ethnig. Mynediad at Ofal Iechyd Mae hefyd yn ymddangos
bod y mynediad at ofal iechyd yn waeth ymysg grwpiau lleiafrifol
ethnig a phobl anabl. Mae mynediad at ofal, yn enwedig gofal iechyd
meddwl ar gyfer plant sy’n agored i niwed, yn fater pwysig hefyd.
Mae’r dystiolaeth ar fynediad ar gyfer menywod, pobl hŷn, pobl
lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn gyfyngedig neu heb fod ar gael.
Ffordd o Fyw Mae tystiolaeth yn awgrymu bod ffyrdd o fyw dynion yn
llai iach na’r rhai sydd gan fenywod, heblaw am weithgarwch
corfforol. Mae mwy o dystiolaeth ar gael am ffyrdd o fyw pobl
ifanc, sy’n dangos pa mor gyffredin yw ysmygu a chamddefnyddio
alcohol a sylweddau, maethiad gwael, lefelau isel o weithgarwch
corfforol a chyfraddau uchel o ordewdra a phwysau rhy uchel. Mae
ffyrdd o fyw pobl hŷn hefyd yn gymharol afiach yng nghyd-destun
gordewdra a gweithgarwch corfforol, er bod y defnydd o alcohol ac
ysmygu’n llai cyffredin. Ychydig sy’n hysbys am ffyrdd o fyw
grwpiau lleiafrifol ethnig, pobl anabl, pobl lesbiaidd, hoyw a
deurywiol a grwpiau crefyddol. Mae tystiolaeth o anghydraddoldeb
sylweddol yng Nghymru. Mae grwpiau lleiafrifol ethnig, menywod,
pobl anabl a phobl hŷn yn profi anfantais a gwahaniaethu yn eu
herbyn yn gyson ym mron bob agwedd ar fywyd. Mae’r dystiolaeth fwy
cyfyngedig ar gyfeiriadedd rhywiol a
-
11
chrefydd yn awgrymu bod gwahaniaethu ac anfantais arwyddocaol
yma hefyd. Er hynny, nid yw’r dystiolaeth a gafwyd yn ffurfio corff
cydlynol o wybodaeth a gallai’r canlyniadau i hyn fod yn niweidiol.
Mae bylchau mawr yn y dystiolaeth ar yr holl faterion sy’n ymwneud
ag anabledd, cyfeiriadedd rhywiol a chrefydd, a bylchau yn y
dystiolaeth ar gyfer yr holl feysydd cydraddoldeb sy’n ymwneud â
thlodi ac allgáu cymdeithasol, iechyd a gofal cymdeithasol, tai, a
bywyd cyhoeddus a gwleidyddol. Ffynhonnell: Materion Cydraddoldeb
yng Nghymru, adolygiad o ymchwil, Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau
Dynol 2009 Pobl ag Anableddau Dysgu a/neu Broblemau Iechyd Med dwl
Yn yr Ymchwiliad Ffurfiol Triniaeth Gyfartal: Cau’r Bwlch a
gynhaliwyd yn 2005/06, cafwyd bod pobl sydd ag anableddau dysgu a
phobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn llawer mwy tebygol o
wynebu risgiau iechyd arwyddocaol; cael problemau iechyd corfforol
sylweddol; a marw’n iau na phobl eraill. Maent yn llai tebygol o
gael rhai o’r triniaethau a’r archwiliadau wedi’u seilio ar
dystiolaeth y mae arnynt eu hangen, ac maent yn wynebu rhwystrau
gwirioneddol rhag cael mynediad at wasanaethau. Yn ystod yr
ymchwiliad, datgelwyd bod ymagwedd ddifater a ddaliai fod y grwpiau
hyn sydd wedi’u hallgáu’n ‘arfer’ marw’n iau neu eu bod yn ‘dueddol
i beidio’ â gofalu am eu hiechyd neu gadw apwyntiadau. Dangosodd yr
ymchwiliad fod ymateb annigonol ar ran y gwasanaethau iechyd a’r
llywodraethau yng Nghymru a Lloegr i’r anghydraddoldebau mawr o ran
iechyd corfforol a brofir gan rai o’r dinasyddion sydd wedi’u
hallgáu i’r graddau mwyaf. Mae hyn yn cynnwys un filiwn o bobl sydd
ag anableddau dysgu, 200,000 o bobl sydd â sgitsoffrenia neu
anhwylder deubegynnol a chwe miliwn o bobl sydd ag iselder yng
Nghymru a Lloegr. Roedd yr archwiliad cyntaf yn gymorth mawr o ran
dangos y cynnydd yng Nghymru a hefyd drwy rannu enghreifftiau o
ymarfer da a oedd â’r amcan o wella iechyd corfforol pobl sydd ag
anableddau dysgu a/neu broblemau iechyd meddwl. Yn yr Ail
Archwiliad yn 2007/08 dangoswyd bod cynnydd da a thynnwyd sylw at
lawer o fentrau sefydledig a phrosiectau a oedd wedi’u datblygu o’r
newydd a oedd â’r amcan o wella iechyd corfforol pobl sydd ag
anableddau dysgu a/neu broblemau iechyd meddwl yng Nghymru, a
hynny’n cynnwys cynnydd sylweddol yn niferoedd y bobl sy’n cael
mynediad at archwiliadau iechyd. Mae adroddiad yr archwiliad yn
tynnu sylw at gysylltiad rhwng y lle y mae oedolion yn byw ac a
ydynt yn debygol o dderbyn archwiliadau iechyd. Cafodd mwy na 50%
o’r preswylwyr yng Nghonwy, Abertawe, Sir Ddinbych, Gwynedd a
Wrecsam archwiliadau iechyd yn 2007- 08 o’i gymharu ag 8% neu lai
o’r preswylwyr yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful. Mae
argymhellion o’r ail archwiliad yn nodi 8 o gamau gweithredu
-
12
allweddol pellach i hyrwyddo cynnydd. Mae’r rhain wedi’u cynnwys
yng Nghynllun Gwella Cydraddoldeb BI PBC i’w gweithredu.
Ffynhonnell: Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru, Ebrill
2009. Triniaeth Gyfartal: Cau’r Bwlch - Ymchwiliad ffurfiol i’r
anghydraddoldebau iechyd corfforol a brofir gan bobl ag anableddau
dysgu a/neu broblemau iechyd meddwl, Comisiwn Hawliau Anabledd.
Sipsiwn-Teithwyr Mae cymunedau Sipsiwn a Theithwyr ym Mhrydain yn
profi anghydraddoldebau o lawer math; mae diffyg cydnabyddiaeth
gyffredinol o statws Sipsiwn a Theithwyr fel lleiafrif ethnig mewn
cysylltiad â chydraddoldeb hiliol. Mae llawer o’r anghydraddoldebau
y mae Sipsiwn a Theithwyr yn eu profi’n ymwneud â’u hethnigrwydd
neu ffordd o fyw grwydrol. Yn ogystal â hynny, mae materion
cydraddoldeb eraill sy’n ymwneud â rhywedd, anabledd, oed, crefydd
a chyfeiriadedd rhywiol yn cydblethu â’r anghydraddoldebau mwy
cyffredinol y mae aelodau o’r cymunedau’n eu hwynebu. Lle mae
gwybodaeth ar gael, mae’n tynnu sylw at anawsterau pellach, fel y
rhai sydd gan bobl hŷn neu anabl a allai fod ag angen cymorth i
fyw’n annibynnol. Mae disgwyliad oes Sipsiwn-Teithwyr yn
arwyddocaol is na’r boblogaeth gyffredinol (Niner 2002). Mae
achosion o salwch tymor hir, anabledd, asthma a chlefydau anadlol,
clefydau cardiofasgwlaidd, poen cronig, clefydau synhwyraidd a
phroblemau iechyd meddwl yn fwy cyffredin. Mae marwenedigaethau’n
17 waith yn fwy cyffredin yn y gymuned hon na’r cyfartaledd
cenedlaethol ac mae cyfradd marwolaethau babanod yn 12 gwaith yn
uwch na’r cyfraddau cyfartalog (Power 2004). Mae cyfraddau is o
imiwneiddio ymysg plant a chyfradd damweiniau uwch. Ffynhonnell:
Inequalities Experienced by Gypsy and Traveller Communities: A
review, Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2009. Cyfarwyddiaeth
Gyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r GIG yng Nghymru.
Canllawiau Arfer Da i Fyrddau Iechyd Lleol ar Ddarparu Gwasanaethau
i Grwpiau Penodol o Leiafrifoedd 2006 O fewn Gogledd Cymru, mae
nifer o brosiectau wedi gwella mynediad at wasanaethau gofal iechyd
i rai yn y gymuned teithwyr, gan gynnig sgrinio iechyd, cyngor a
chymorth ar ffurf sy’n hygyrch ac yn dderbyniol, gan ddarparu
arferion diwylliannol sensitif. Mae’r agenda ar iechyd yn
Strategaeth Sipsiwn-Teithwyr Llywodraeth Cynulliad Cymru 2009 yn
nodi argymhellion i sicrhau y bydd anghenion iechyd
Sipsiwn-Teithwyr yn cael sylw drwy bolisi cenedlaethol a lleol, gan
wneud gofal iechyd yn fwy hygyrch i’r Gymuned Sipsiwn-Teithwyr a
gwella mynediad at ofal parhaus. Mae’r argymhellion hyn wedi’u
cynnwys yng Nghynllun Gwella Cydraddoldeb BI PBC i’w gweithredu er
mwyn hyrwyddo’r gwaith hwn. Pobl Hŷn
-
13
Mae llawer o bobl hŷn yng Nghymru’n aros yn iach, yn egnïol ac
yn annibynnol heb fawr o ddibyniaeth ar wasanaethau iechyd a gofal
cymdeithasol. Er hynny, mae oed cynyddol yn cael ei gysylltu’n
gyffredinol ag anabledd cynyddol a cholli annibyniaeth ac
amhariadau ar weithrediadau fel colli’r gallu i symud o gwmpas a
cholli’r golwg a’r clyw. Mae Cyfrifiad 2001 yn dangos bod cyfran yr
unigolion sydd â salwch cyfyngus hirdymor yn cynyddu’n sylweddol
wrth heneiddio. Mae Adolygiad Blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
ar gyfer 2008/09 yn cydnabod y dylai pobl hŷn gael mynediad at ofal
iechyd i’w helpu i gadw neu adennill y lefel uchaf posibl o les
corfforol, meddyliol ac emosiynol ac i atal neu ohirio salwch.
Mae’r Comisiynydd wedi rhoi pwys ar yr angen am gydnabod materion
pobl hŷn a’u cynnwys yn llawn ac wedi datgan bod angen i’r ymarfer
gorau wrth drin pobl hŷn fod yn ganolog yng ngweithrediad y GIG ar
ôl ei ailstrwythuro. Ym maes iechyd yng Ngogledd Cymru, mae’r
Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Pobl Hŷn wedi bod yn
allweddol o ran hyrwyddo cydraddoldeb i bobl hŷn. Amcan y
Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol yw gwella safonau a hybu
mynediad cyfartal at wasanaethau iechyd a chymdeithasol ym mhob
rhan o’r wlad a darparu fframwaith cyffredinol ar gyfer ei
ddatblygu a’i weithredu. O ran yr agenda ehangach ar gyfer pobl
hŷn, cafwyd cynnydd da, a chyflwynir adroddiadau’n rheolaidd i
Lywodraeth Cynulliad Cymru. Tynnwyd sylw at yr angen am weithredu
pellach ar y safon ar ddileu gwahaniaethu ar sail oed. Ei hamcan yw
sicrhau na cheir unrhyw wahaniaethu yn erbyn pobl wrth dderbyn neu
gael mynediad at wasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol oherwydd
eu hoedran, ac na fyddant yn wynebu agweddau meddwl gwahaniaethol
ymysg staff, boed hynny’n fwriadol neu beidio. Mae’r agwedd benodol
hon wedi’i chynnwys yng Nghynllun Gwella Cydraddoldeb BI PBC er
mwyn ymchwilio ymhellach iddi a chymryd camau er mwyn hyrwyddo’r
gwaith hwn. Ffynhonnell: Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar
gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru Adolygiad
Blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2008/09, Age Concern a Help
the Aged Mewn ymateb i adolygiad o’r llenyddiaeth, mae BI PBC wedi
nodi’r grwpiau cydraddoldeb canlynol fel meysydd blaenoriaethol
sy’n galw am ymchwil bellach. Rydym yn cydnabod y bydd gwelliannau
o ran mynediad i’r grwpiau hyn o ddinasyddion difreintiedig yn
gwella profiad y claf ar gyfer pawb. Yn ystod oes y cynllun hwn,
byddwn yn ymdrechu i adnabod yn well y rhwystrau rhag mynediad, i
ganfod anghydraddoldebau iechyd a chymryd camau unioni i wella
canlyniadau i’r rhai canlynol:
-
14
• Pobl anabl a phobl sydd ag anableddau dysgu • Sipsiwn-Teithwyr
• Pobl hŷn
Sut y Bu Hyd Yma Mae cyrff iechyd yng Ngogledd Cymru wedi bod yn
cydweithio i hyrwyddo cydraddoldeb ers 2005. Digwyddodd hyn dan
arweiniad Ymddiriedolaeth GIG Siroedd Conwy a Dinbych gynt a
gynigiodd y dylid ehangu’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen, a sefydlwyd i
lywio datblygiad y Cynllun Cydraddoldeb Anabledd ar y pryd, i
gynnwys cynrychiolwyr o’r holl gyrff iechyd eraill yng Ngogledd
Cymru. Cafwyd cefnogaeth frwd iawn i’r syniad o weithio mewn
partneriaeth ym maes iechyd yn gyffredinol, i rannu gwybodaeth a
dysg am gydraddoldeb ac amrywiaeth, gan yr holl gyrff gan gynnwys
Canolfan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol GIG Cymru. Wedyn ffurfiwyd
Grŵp Cydraddoldebau Cymunedau Iechyd Gogledd Cymru a chafwyd
cynnydd sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf drwy weithio mewn
partneriaeth i hyrwyddo mentrau cydraddoldeb ym maes iechyd. Rydym
wedi cydweithio â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a chyrff
blaenorol y Comisiwn Hawliau Anabledd, y Comisiwn Cydraddoldeb
Hiliol a’r Comisiwn Cyfle Cyfartal i ddatblygu cynlluniau
cydraddoldeb ar gyfer hil, anabledd a rhywedd er mwyn hyrwyddo ein
harferion o ran cydraddoldebau. Cafwyd cynnydd sylweddol, a welir
yn Adroddiadau Blynyddol y cyrff blaenorol. Mae sylfaen gadarn yng
Ngogledd Cymru y gall BI PBC adeiladu arni’n awr. Rhai
enghreifftiau o ymarfer da gan y cyrff blaenorol yw: Sefydlu
Rhwydwaith Cydraddoldeb a Chynnwys y Cyhoed d ar y Cyd Cynhaliwyd
gweithdy yn Hydref 2008 dan nawdd yr arweinwyr ar gydraddoldebau
mewn cyrff iechyd ledled Gogledd Cymru o’r enw ‘Cydweithio i
sicrhau ymgysylltu â phawb’ i hyrwyddo a meithrin cysylltiadau
gweithio agosach rhwng gweithwyr cydraddoldeb proffesiynol a’r
rheini sy’n gweithio ym maes ymgysylltu â’r cyhoedd/cleifion. Roedd
nifer da iawn o gymheiriaid o Awdurdodau Lleol, Cynghorau Iechyd
Cymuned a’r Sector Gwirfoddol yn bresennol yn y digwyddiad.
Gwahoddwyd cynrychiolwyr i enwi ac ymdrin â’r rhwystrau y mae pobl
o grwpiau lleiafrifol neu grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol
yn eu hwynebu wrth gael mynediad at ofal iechyd a nodwyd camau
gweithredu gan dri grŵp gweithdy i hyrwyddo cydweithio. Ar ôl y
gweithdy, mae rhwydwaith ar y cyd wedi’i sefydlu a chafwyd
cysylltiadau cadarnhaol a gwell gweithio mewn partneriaeth ers
hynny. Cydweithiodd y Rhwydwaith Cydraddoldebau a Chynnwys y
Cleifion a’r Cyhoedd ar y cyd i reoli’r gweithgarwch ymgysylltu
sy’n sail i ddatblygu’r cynllun hwn.
-
15
Datblygu Adnodd Addysgu Mae’r Bwrdd Iechyd Lleol Conwy blaenorol
wedi cydweithio’n agos â Rhwydwaith Cydraddoldeb Hiliol Gogledd
Cymru ers rhai blynyddoedd. Yn ystod y cyfnod hwn, cyfrannodd at y
gwaith o ddatblygu Cydraddoldeb Hiliol ar Waith – Pecyn Adnoddau.
Mae’r pecyn hwn wedi’i ddatblygu i helpu gweithwyr proffesiynol i
gyflawni’r Ddyletswydd Gyffredinol yn Neddf Cysylltiadau Hiliol
(Diwygio) 2000. Mae’r Pecyn Adnoddau’n cynnwys enghreifftiau
ymarferol o ymwybyddiaeth ddiwylliannol; gweithgareddau a
ddefnyddir i hybu ymwybyddiaeth o’r rhwystrau a brofir gan bobl o
wahanol grwpiau hiliol, i helpu i gynyddu dealltwriaeth a datblygu
cymhwysedd diwylliannol, ac yn cynnig cyngor ymarferol a
chyfeiriadau at wybodaeth bellach. Mae’r Pecyn Adnoddau wedi’i
rannu’n eang â chymheiriaid mewn asiantaethau iechyd ac
asiantaethau sy’n bartneriaid ac fe’i defnyddir ledled Cymru’n awr
gan weithwyr proffesiynol fel pecyn cymorth i hybu ymwybyddiaeth.
Meithrin Gallu mewn Timau Gweithredol Mae Ymddiriedolaeth Gogledd
Cymru wedi ymdrechu i hybu ymwybyddiaeth a meithrin gallu mewn
timau gweithredol er mwyn troi’r cynlluniau cydraddoldeb strategol
yn gynlluniau gweithredu sy’n sicrhau gwell canlyniadau o ran
cydraddoldeb i gleifion. Sefydlwyd strwythurau i gynorthwyo a
galluogi Arweinwyr ar Gydraddoldeb o fewn adrannau i hyrwyddo’r
gwaith hwn. Sefydlwyd Grŵp Gweithredu Cydraddoldeb fel rhwydwaith
dysgu gyda chymorth cymheiriaid i ganfod atebion er mwyn dileu
rhwystrau a ganfuwyd. Rhoddwyd hyfforddiant gan Bennaeth
Cydraddoldeb a threfnwyd sesiynau addysgol rheolaidd mewn ymateb i
anghenion dysgu’r grŵp. Cafwyd cynnydd sylweddol o ran meithrin
galluedd a hyder yn y grŵp staff allweddol hwn. Cyhoeddwyd
gwybodaeth am gynnydd a chyflawniadau mewn meysydd gwasanaeth a
thystiolaeth iddynt yn yr Adroddiadau Gweithredol Cydraddoldeb
Blynyddol. Gwella Mynediad yn yr Ymddiriedolaethau Blaenorol Roedd
yr Ymddiriedolaethau blaenorol dros Ogledd Orllewin Cymru a Gogledd
Cymru wedi sefydlu Grwpiau Cyfeirio Mynediad ac Anabledd ac ynddynt
aelodau o’r gymuned leol i hyrwyddo ymgysylltu a dylanwadu ar waith
datblygu polisi cynhwysol mewn cysylltiad â materion cydraddoldeb.
Mae’r ddau grŵp hyn wedi dylanwadu’n gadarnhaol ar arferion
cydraddoldeb drwy hybu ymwybyddiaeth o’r rhwystrau y mae rhai
grwpiau cymunedol yn eu profi’n lleol a chynnig cyngor er mwyn dod
o hyd i atebion. Mae’r Grŵp Anabledd wedi rhoi cyngor bob blwyddyn
ynghylch blaenoriaethu gwaith cyfredol ar wella mynediad ar sail yr
archwiliadau o fynediad i adeiladau yn 2003.
-
16
Gwella Mynediad at Wasanaethau Meddygon Teulu Mae nifer o’r
BILlau blaenorol wedi cydweithio â gweithwyr Gofal Sylfaenol
proffesiynol i ganfod rhwystrau mynediad ffisegol ac wedi ariannu
cost gwelliannau hanfodol a nodwyd yn yr adroddiadau archwilio. Yn
ogystal â hynny, hwyluswyd nifer o ddigwyddiadau hyfforddi ar
Gydraddoldeb Anabledd mewn Gofal Sylfaenol, ar y cyd ag EquIP
Cymru, ar gyfer practisau meddygon teulu ledled Gogledd Cymru. Yn
Sir y Fflint cynigiwyd cyllid hefyd i bractisau meddygon teulu i’w
helpu i ddiweddaru a moderneiddio offer meddygol penodol. Prynodd y
rhan fwyaf o bractisau welyau archwilio meddygol hydrolig gydag
offer codi at bob angen, er mwyn diwallu anghenion pobl anabl.
Cynigiwyd cyllid i bob contractwr gofal sylfaenol i brynu System
Ddolen er mwyn cynnig cymorth i gyfathrebu i gleifion byddar a
thrwm eu clyw. Datblygwyd pecynnau adnoddau, ac ynddynt wybodaeth
ddefnyddiol ynghylch sut i gael mynediad at ‘NEWDOC’ y Gwasanaeth
Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau Arferol i Sir y Fflint a Wrecsam,
a’u rhannu â Fforwm Pobl Fyddar Sir y Fflint. Roedd hyn yn cynnwys
ffurflen i’w ffacsio i NEWDOC gan bobl fyddar pan fyddai arnynt
angen cael mynediad at y gwasanaeth. Fel rhan o’r Gwasanaethau
Ychwanegol dan Gyfarwyddyd, rhoddodd y BILl blaenorol gymorth i
bractisau meddygon teulu i gwblhau holiadur hunanasesu EquIP Cymru
a llunio Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Anableddau yng ngoleuni’r
dystiolaeth a gasglwyd. Ymgysylltu â’r Gymuned Tsieineaidd
Cydweithiodd Gwynedd yn agos â’r Awdurdod Lleol i sefydlu a chynnal
cysylltiadau â’r Gymdeithas Menywod Tsieineaidd. Cynhaliwyd
cyfarfodydd â’r grŵp yn rheolaidd er mwyn meithrin eu gallu a’u
hyder o ran cael mynediad at wasanaethau iechyd a gofal
cymdeithasol a chynnig cyfleoedd i gymryd rhan mewn digwyddiadau
iechyd a lles. Ymhlith y cyflawniadau y mae cyfranogi mewn
Digwyddiad Byw’n Iach yn Hydref 2006 pan roddwyd cyngor ar iechyd
gan aelodau o dimau Fferylliaeth a Chleifion Arbenigol Calon Lân i
aelodau o’r Gymuned Tsieineaidd, a hwyluso Digwyddiad Hybu Iechyd
yn Hydref 2008 a oedd yn cynnwys sesiwn ar Gerdded Nordig a sesiwn
Ymwybyddiaeth o Ganser gyda darpariaeth cyfieithu i’r Gantoneg yn y
digwyddiadau. Cynnwys Cleifion a Defnyddwyr Gwasanaethau wrth Gyn
llunio Gwasanaethau Mae Sir y Fflint wedi cymryd camau i geisio
cynnwys cleifion a defnyddwyr gwasanaethau wrth gynllunio
gwasanaethau a rheoli eu cyflyrau meddygol eu hunain. Cafwyd amryw
o fentrau gan gynnwys sefydlu Grŵp Cyfeirio Diabetes, darparu
cyrsiau Coginio i Fwyta’n Iach i bobl sydd â diabetes mewn
partneriaeth â Choleg Glannau Dyfrdwy a rhaglen Diabetes X-Pert i
bobl fyddar gyda chymorth cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain.
-
17
Y Ganolfan Aml-ffydd yn Ysbyty Gwynedd Roedd Ymddiriedolaeth
Gogledd Orllewin Cymru yn bartner allweddol ym mhrosiect Meithrin
Gallu Cymunedau Ffydd – menter gan yr Adran Llywodraeth Leol a
Chymunedau yn San Steffan i hybu deialog rhwng crefyddau ledled y
Deyrnas Unedig. Mae’r Ganolfan Aml-ffydd yn Ysbyty Gwynedd wedi’i
chydnabod yn enghraifft o ymarfer da. Mae’r ganolfan yn cynnwys man
addoli aml-ffydd, swyddfa, ystafell gynghori bwrpasol ac ystafell
ar gyfer ymolchi defodol cyn addoli. Mae’r man addoli wedi’i
gynllunio’n ofalus fel bod modd neilltuo lle addoli pwrpasol ar
gyfer prif grefyddau’r byd. Defnyddir y ganolfan bob dydd gan
Gristnogion, Mwslimiaid a Hindwiaid, yn ogystal â llawer o rai
eraill nad ydynt yn arddel crefydd benodol. Mae’r ganolfan yn
agored ddydd a nos fel y gall pawb ddod i dreulio ychydig o funudau
mewn distawrwydd i feddwl, siarad neu weddïo mewn amgylchedd tawel
a heddychlon.
Cwrdd â’n Gofynion Statudol: Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector
Cyhoeddus Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a Sut yr
Ydym yn Cwrdd â Hwy Wrth ddatblygu ein Cynllun Cydraddoldeb Sengl
cyntaf, un o’r blaenoriaethau pennaf yw sicrhau, fel gofyniad
sylfaenol, fod y cynllun newydd yn ymgorffori holl ddyletswyddau’r
sector cyhoeddus sydd yn y ddeddfwriaeth gyfredol a restrwyd yn y
Fframwaith Cyfreithiol yn Atodiad 6. Mae’r Cynllun Cydraddoldeb
Sengl trosfwaol hwn wedi’i ddatblygu i gwrdd yn effeithiol â thair
dyletswydd gyffredinol y sector cyhoeddus ac mae wedi’i ehangu i
gynnwys y meysydd cydraddoldeb eraill a hefyd i hybu hawliau dynol.
Fel egwyddor gyffredinol, lle bynnag mae un o’r dyletswyddau’n
cynnwys gofyniad manylach, rydym wedi ceisio bodloni’r gofyniad
hwn, fel mater o ymarfer da, ym mhob un o’r tair dyletswydd. Er
enghraifft, mae’r ddyletswydd anabledd yn galw am gynnwys ac nid
ymgynghori, ond bydd cynnwys pobl ar gyfer y dyletswyddau hil a
rhywedd yn llesol o ran pennu blaenoriaethau ac ymgysylltu ystyrlon
â chymunedau. Defnyddir y Mesur Cydraddoldeb a ddisgwylir y
flwyddyn nesaf i gynnig mwy o amddiffyniad rhag gwahaniaethu, i
hyrwyddo cydraddoldeb a symleiddio’r gyfraith. Bydd y Mesur yn
cryfhau cyfraith cydraddoldeb, yn cyflwyno dyletswydd newydd i’r
sector cyhoeddus i ystyried lleihau anghydraddoldebau
economaidd-gymdeithasol; a
-
18
Dyletswydd Cydraddoldeb newydd i gyrff cyhoeddus i ddileu
gwahaniaethu, hybu cyfle cyfartal a meithrin cysylltiadau da.
Crynodeb o’r Dyletswyddau Cyffredinol Dyletswyddau Cyffredinol
Statudol ar Gydraddoldeb Wrth gyflawni ei swyddogaethau, rhaid i
bob awdurdod
cyhoeddus roi “sylw dyladwy” i’r angen i: Dyletswydd
Cydraddoldeb Hiliol
1. dileu gwahaniaethu hiliol anghyfreithlon;
2. hybu cyfle cyfartal;
3. hybu cysylltiadau da rhwng pobl o wahanol grwpiau hiliol.
Dyletswydd Cydraddoldeb Anabledd
4. dileu gwahaniaethu sy’n anghyfreithlon o dan y Ddeddf;
5. dileu aflonyddu ar bobl anabl sy’n gysylltiedig â’u
hanableddau;
6. hybu cyfle cyfartal rhwng pobl anabl a phobl eraill;
7. hybu agweddau cadarnhaol tuag at bobl anabl;
8. hyrwyddo cyfranogi gan bobl anabl mewn bywyd cyhoeddus;
9. cymryd camau i ystyried anableddau pobl anabl, hyd yn oed os
yw hynny’n golygu trin pobl anabl yn fwy ffafriol na phobl eraill
.
Dyletswydd Cydraddoldeb Rhywedd
10. dileu gwahaniaethu anghyfreithlon ac aflonyddu ar sail
rhyw;
a
11. hybu cyfle cyfartal rhwng dynion a menywod.
Rheolau Sefydlog Enghreifftiol i Fyrddau Iechyd Lle ol Yn
ogystal â’r gofynion statudol sydd wedi’u nodi uchod, rhaid i’r
BILl gyflawni’r cwbl o’i fusnes mewn modd sy’n ei alluogi i
gyfrannu’n llawn at wireddu gweledigaeth Llywodraeth y Cynulliad ar
gyfer y GIG yng Nghymru a’i safonau ar gyfer cyflenwi gwasanaethau
cyhoeddus. Mae’r safonau llywodraethu – Rheolau Sefydlog Bwrdd
Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr, a osodwyd ar gyfer y GIG
yng Nghymru, wedi’u seilio ar egwyddorion Llywodraethu sy’n
Canolbwyntio ar y Dinesydd y Cynulliad. Mae’r egwyddorion hyn yn
cynnig y fframwaith ar gyfer llywodraethu da ac yn ymgorffori’r
gwerthoedd a’r safonau ymddygiad a ddisgwylir ar bob lefel yn y
gwasanaeth, yn lleol ac yn genedlaethol.
-
19
Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a hawliau dynol wedi’u gwreiddio ym
mhob agwedd ar y GIG yng Nghymru drwy Fframwaith Gwerthoedd a
Safonau Ymddygiad y GIG; Fframwaith Safonau Gofal Iechyd Cymru,
Fframwaith Risg a Sicrwydd y GIG, a systemau cynllunio a rheoli
perfformiad y GIG. Maent yn ceisio hyrwyddo cyfle cyfartal i bawb,
gan roi cyfle i bob unigolyn wireddu ei botensial, yn rhydd oddi
wrth ragfarn a gwahaniaethu, a’r hawl i gael ei drin mewn modd sy’n
sicrhau tegwch, parch, cydraddoldeb, urddas ac ymreolaeth. Mae’r
fframwaith deddfwriaethol yn mynnu bod awdurdodau cyhoeddus yn hybu
cydraddoldeb ym mhopeth y maent yn ei wneud. Mae’n ofynnol i’r
Bwrdd Iechyd, wrth ddyfeisio ei strwythur pwyllgorau a threfniadau
gweithredu, roi pob sylw i’r angen i wreiddio safonau,
blaenoriaethau a gofynion corfforaethol, gan gynnwys cydraddoldeb a
hawliau dynol, ym mhob maes gweithgarwch.
Ein Dull o Ddatblygu’r Cynllun Mae’r Cynllun Cydraddoldeb Sengl
(CCS) yn disgrifio ein hymrwymiad a hefyd sut mae BI PBC yn bwriadu
cyflawni’r dyletswyddau sydd arno o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb
a hawliau dynol. Mae’r CCS yn berthnasol i’r swyddogaethau a
gweithrediadau ym mhob rhan o’r corff. Mae’n egluro sut byddwn yn
hybu cyfle cyfartal i bawb, a sut rydym yn cydnabod ac yn
mawrbrisio amrywiaeth. Rydym am wneud mwy na chwrdd â’n
cyfrifoldebau cyfreithiol i hybu cyfle cyfartal a dileu
gwahaniaethu anghyfreithlon mewn cysylltiad ag anabledd, rhywedd a
hil; byddwn yn adeiladu ar sail ein cyflawniadau hyd yma i hyrwyddo
cydraddoldeb mewn cysylltiad â’r holl briodoleddau a amddiffynnir.
Bydd angen inni gydweithio’n effeithiol â phob un o’n partneriaid i
wneud cynnydd ar wireddu’r agenda flaengar hon. Er mwyn gwneud
amrywiaeth, cydraddoldeb a hawliau dynol yn rhan o’n diwylliant a
gwreiddio’r cynllun a’r cynllun gwella ar ei gyfer yn ein gwaith
pob dydd, byddwn yn sicrhau atebolrwydd; yn cryfhau arweinyddiaeth
a llywodraethu, strategaethau a pholisïau ac arferion a phrosesau,
gan rymuso defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr a staff mewn
cysylltiad â hawliau dynol a galluogi rhanddeiliaid i gyfrannu’n
ystyrlon at ddatblygu’r cynllun hwn ymhellach. Byddwn yn cyflawni
hyn drwy adeiladu ar sail y cynnydd a gafwyd hyd yma drwy wneud y
canlynol:
-
20
• Pennu cyfeiriad a blaenoriaethau, a rhoi cymorth i’w gyflawni,
mewn ffyrdd sy’n hyrwyddo cydraddoldeb ac yn mynd i’r afael ag
anghydraddoldebau iechyd sy’n codi o amddifadedd a gwahaniaethu
• Cymryd camau i helpu pobl i sicrhau’r gorau posibl o ran eu
hiechyd, lles, annibyniaeth, dewis a rheolaeth
• Helpu pawb sy’n gweithio i’r Bwrdd Iechyd i gyrraedd y nodau
hyn, gan gydnabod gwerth eu gwahaniaethau yn eu cyfraniad
• Datblygu sylfaen dystiolaeth gadarn ynghylch amrywiaeth
poblogaeth Gogledd Cymru, proffil ein defnyddwyr gwasanaethau
a’n staff ac ynghylch yr anghydraddoldebau y mae gwahanol grwpiau
ac unigolion yn eu profi
• Datblygu ein rhaglen hyfforddiant cydraddoldeb ymhellach ar
gyfer
yr holl staff yn unol â’r fframwaith sgiliau a gwybodaeth
• Gwreiddio cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein gwaith o ddatblygu
polisi a strategaethau drwy ddefnyddio Asesiadau o’r Effaith ar
Gydraddoldeb
• Parhau i ymgysylltu â’n staff, defnyddwyr gwasanaethau a
phartneriaid i hyrwyddo ein gwaith
• Monitro ac ystyried ein gwaith yn rheolaidd i sicrhau ei fod
yn diwallu anghenion y rhai yr ydym yn eu gwasanaethu
Roedd 23 o gynlluniau a chynlluniau gweithredu ar waith eisoes
yr oedd yn ofynnol eu hadolygu a’u datblygu mewn ymateb i ddiwygio
sefydliadol, a’u datblygu ymhellach i gyfrannu at y drafft hwn o’r
Cynllun Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Sengl ar gyfer iechyd yng
Ngogledd Cymru. Mae’r diwygio wedi cynnig cyfle cyffrous inni
fyfyrio ynghylch y ddysg sefydliadol a gafwyd ar ôl yr holl gyrff
blaenorol, cytuno ar ddull gweithredu a model ar gyfer ein CCS i
Ogledd Cymru a meithrin dealltwriaeth o ofynion helaethach y Ddeddf
Cydraddoldeb sydd ar ddod. Rydym hefyd wedi dysgu am yr agweddau
ymarferol ar fabwysiadu fframwaith wedi’i seilio ar hawliau dynol
ac wedi cael cymorth gan Ymddiriedolaeth GIG Mersey Care fel
partner dysgu yn hyn o beth. Rydym wedi casglu tystiolaeth oddi
wrth y cyrff blaenorol, o adroddiadau cenedlaethol a lleol, ac wedi
ymgymryd â llawer o ymgysylltu â staff a defnyddwyr gwasanaethau,
gan gydweithio’n agos â’n cymheiriaid mewn timau Cynnwys y Cleifion
a’r Cyhoedd wrth ystyried a phennu ein blaenoriaethau. Rydym wedi
gwrando ac wedi clywed negeseuon
-
21
Byddwn yn ceisio cyflawni’r Dyletswyddau Cydraddoldeb,
hyrwyddo hawliau a chyfrifoldebau a pharhau i gydymffurfio â’r
gyfraith
Byddwn yn ceisio cyflawni’r
Dyletswyddau Cydraddoldeb o ran cyflogaeth a bod yn ddewis
cyntaf fel cyflogwr
Ei wneud yn ddiogel
Ei wneud yn well
Ei wneud yn gadarn
Ei roi ar waith
Cael canlyniadau
Byddwn yn ceisio cyflawni’r
Dyletswyddau Cydraddoldeb wrth gyflenwi
gwasanaethau sy’n effeithlon, yn
effeithiol ac yn arloesol o ran eu
cynllun a’u gweithrediad
allweddol ac rydym yn rhoi pris mawr ar fewnbwn o’r fath. Mae’r
ddogfen hon wedi’i datblygu ar ôl ein gwaith ymgysylltu rhwng
Mehefin a Hydref 2009 a chaiff ei datblygu eto wedi’r ymgynghori
pellach ar y Cynllun a’r cynllun gwella ar ei gyfer rhwng Rhagfyr
2009 a Mawrth 2010. Wrth ddatblygu’r cynllun hwn rydym wedi gwneud
defnydd o amryw o ddulliau gweithredu a strategaethau gan
gynnwys:
• Cyfeiriad Strategol i BI PBC • Dull wedi’i Seilio ar Hawliau
Dynol • Safonau Gofal Iechyd • Canolbwyntio ar y Dinesydd •
Ymgysylltu Cynhwysol • Model Cymdeithasol o Anabledd • Yr Iaith
Gymraeg
Cyfeiriad Strategol Y gwerthoedd sydd wedi’u nodi o fewn y
dyletswyddau cydraddoldeb, sef tegwch, cyfiawnder a hunanddewis, ac
egwyddorion hawliau dynol, yw’r sail i’n cyfeiriad strategol. Mae’r
tair blaenoriaeth strategol yn y cynllun gwella cydraddoldeb yn
canolbwyntio ar y dinesydd ac maent wedi’u dangos yng nghyd-destun
y sefydliad. Dull wedi’i Seilio ar Hawliau Dynol Hawliau Dynol yw’r
hawliau sylfaenol a’r mathau o ryddid sy’n eiddo i bob person yn y
byd. Maent wedi’u seilio ar egwyddorion craidd, sef urddas, tegwch,
cydraddoldeb, parch ac ymreolaeth. Mae Hawliau Dynol
-
22
yn berthnasol i fywyd pob dydd pawb. Maent yn diogelu ein
rhyddid i reoli ein bywydau’n effeithiol, cymryd rhan mewn
penderfyniadau a wneir gan awdurdodau cyhoeddus, a chael
gwasanaethau sy’n deg ac yn gyfartal. Rydym yn dymuno parchu
hawliau pawb sy’n dod i gysylltiad â ni a dangos parch tuag at bawb
beth bynnag fo’u sefyllfa. Un agwedd bwysig ar y Cynllun hwn yw
sicrhau ein bod yn hyrwyddo tegwch, parch, cydraddoldeb, urddas ac
ymreolaeth yng ngwaith BI PBC. Rydym yn bwriadu integreiddio
ystyriaeth i hawliau dynol wrth arfer ein swyddogaethau a datblygu
ein polisïau. Rydym yn bwriadu hybu ymwybyddiaeth o hawliau dynol
ymysg llunwyr polisi a chyflenwyr gwasanaethau. Mae hyn wedi’i
ymgorffori yn y Broses Asesu Effaith ar Gydraddoldeb. Cyfrannodd
Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Cymru gynt i ymchwiliad gan y Comisiwn
Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i Hawliau Dynol ym Medi 2008. Byddwn
yn ystyried yr argymhellion ar gyfer ein gwaith yn y dyfodol. Rydym
yn cydnabod bod angen datblygu o safbwynt lle y gwelir bod hawliau
dynol yn bwysig at fod yn gorff sydd wedi’i seilio ar hawliau dynol
a sicrhau bod hawliau dynol yn rhan hanfodol o’r hyn ydym a’r hyn
yr ydym yn ei wneud. Mae camau i hyrwyddo’r ymrwymiad hwn wedi’u
nodi yn y cynllun gwella sy’n ategu’r cynllun hwn. Mae’r tabl isod
yn dangos y cyfryngau ym maes iechyd yr ydym yn eu defnyddio i
hyrwyddo’r gwaith hwn.
-
Dull wedi’i Seilio ar Hawliau Dynol Egwyddor Enghraifft o
ran
hawliau dynol Enghraifft ym maes gofal iechyd
Hanfodion gofal Urddas mewn gofal
Rhydd i arwain, rhydd i ofalu
FfFS Craidd 6 Safon gofal iechyd
Tegwch
Hawl i gael treial teg
Sicrhau bod gweithdrefnau cwyno’n deg ac yn dryloyw
Sicrhau bod pobl yn teimlo eu bod yn gallu cwyno heb ofn
dial
Y gweithiwr: Yn cydnabod pwysigrwydd hawliau pobl ac yn
gweithredu’n unol â’r ddeddfwriaeth. Polisïau a gweithdrefnau
(lefel 2)
Parch
Parch at fywyd teuluol a phreifat
Parchu teuluoedd o bob math, e.e. cyplau o’r un rhyw
Yr amgylchedd gofal (Pobl yn teimlo’n gyfforddus, yn ddiogel, yn
dawel eu meddwl, yn hyderus a bod croeso iddynt)
Cynorthwyo pobl gan ddangos yr un parch atynt ag y byddech yn ei
ddymuno i chi’ch hun neu’ch teulu
Yn trin pawb y mae’n dod i gysylltiad â hwy gyda pharch ac
urddas (lefel 1)
Cydraddoldeb
Peidio â gwahaniaethu yn erbyn hawliau wrth fwynhau hawliau
dynol eraill
Sicrhau na wrthodir triniaeth i bobl dim ond oherwydd eu
hoedran
Cyfathrebu (Cleifion a gofalwyr yn profi cyfathrebu effeithiol
sy’n sensitif i anghenion a dewisiadau unigol – yn cynnwys
cyfieithwyr)
Trin pob person fel unigolyn drwy gynnig gwasanaeth personol
Yn cydnabod bod pobl yn wahanol ac yn sicrhau nad yw’n
gwahaniaethu yn erbyn pobl eraill (lefel 1) Yn pennu camau ac yn eu
cymryd pan fydd ei ymddygiad ei hun neu ymddygiad pobl eraill yn
tanseilio cydraddoldeb ac amrywiaeth (lefel 2)
Urddas
Hawl i beidio â chael ei arteithio neu ei drin yn greulon neu’n
ddiraddiol
Sicrhau bod digon o staff ac adnoddau i newid cynfasau gwlyb a
budr yn ddi-oed
Preifatrwydd ac urddas (Cleifion yn cael gofal mewn amgylchedd
sy’n cwmpasu gwerthoedd, credoau a pherthnasoedd personol yr
unigolyn)
Helpu pobl i gadw eu hyder a hunan-barch cadarnhaol
Yr un fath ag ar gyfer parch
Ymreolaeth
Hawl i gael parch at fywyd preifat
Cynnwys pobl mewn penderfyniadau am eu triniaeth a’u gofal
Egwyddorion hunanofal (Galluogi cleifion i wneud dewisiadau
ynghylch hunanofal a pharchu’r dewisiadau hynny)
Galluogi pobl i gadw’r lefel uchaf posibl o annibyniaeth, dewis
a rheolaeth
Yn gweithredu mewn ffyrdd sy’n derbyn ac yn cydnabod y credoau,
hoffterau a dewisiadau y mae pobl yn eu mynegi (lefel 2)
-
Safonau Gofal Iechyd Defnyddir y Safonau Gofal Iechyd gan
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) fel rhan o’i phrosesau ar
gyfer asesu ansawdd, diogelwch ac effeithioldeb cyrff iechyd y GIG
ledled Cymru. Mae’r safonau’n gyson â blaenoriaethau a
strategaethau eraill y Cynulliad fel ‘Creu’r Cysylltiadau: Gwell
Gwasanaethau i Gymru’ a ‘Cynllun Oes: Strategaeth 10 Mlynedd ar
gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol’. Mae’r safonau wedi’u gwreiddio
ym mhob lefel o fewn y corff, wedi’u cadarnhau gan dystiolaeth o
wella parhaus mewn ansawdd drwy gynhyrchu Cynllun Gwella Safonau
Gofal Iechyd BI PBC a’i fonitro’n barhaus. Mae’r Cynllun Gwella
Cydraddoldeb wedi’i gynllunio fel ei fod yn cyfateb i Safonau Gofal
Iechyd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Bydd y gwaith hwn yn cael ei
ddatblygu ymhellach yn ystod y broses ymgynghori wrth inni ofyn am
farn arweinwyr ar Safonau Gofal Iechyd. Drwy gysoni’r Cynllun
Cydraddoldeb Sengl â’r Safonau Gofal Iechyd ceir fframwaith cyson
ar gyfer monitro a chofnodi cynnydd. Mae ystod eang o safonau’n
sail i’r Cynllun hwn a byddant yn cael eu nodi fel y ffynhonnell
sicrwydd yn y Cynllun Gwella Cydraddoldeb. Mae hyn wedi’i nodi ar
gyfer gweithredu pellach. Canolbwyntio ar y Dinesydd Mae
egwyddorion llywodraethu sy’n Canolbwyntio ar y Dinesydd yn
ymgorffori’r math o wasanaethau cyhoeddus y mae Llywodraeth y
Cynulliad am eu gweld, sef rhai sy’n canolbwyntio ar anghenion
dinasyddion, lle mae dinasyddion yn cymryd rhan ac wedi’u cynnwys
wrth ddatblygu gwasanaethau ac yn cael gwasanaethau sy’n
effeithlon, yn effeithiol ac yn arloesol o ran eu cynllun a’u
gweithrediad. Ymgysylltu Cynhwysol Rydym wedi ymrwymo i fabwysiadu
dull ymgysylltu cynhwysol. Mae hyn yn golygu y byddwn yn defnyddio
dulliau ymgysylltu sydd â’r amcan o’n helpu i ymgysylltu i’r
graddau mwyaf posibl a chynnwys ein rhanddeiliaid wrth ddatblygu’r
gwaith hwn. Byddwn yn ystyried anghenion amrywiol ein cynulleidfa a
materion sy’n ymwneud ag amser, technoleg, a mynediad at wybodaeth,
rhwystrau iaith neu faterion eraill sy’n ymwneud â mynediad. Mae
camau gweithredu i hyrwyddo gweithgareddau ymgysylltu cynhwysol yn
y Cynllun Gwella.
Model Cymdeithasol o Anabledd “Ar hyn o bryd, nid yw pobl anabl
yn cael yr un cyfleoedd na dewisiadau â phobl nad ydynt yn anabl.
Nid ydynt ychwaith yn mwynhau’r un parch na chynhwysiant llawn mewn
cymdeithas ar sail gyfartal. Nid yw’r tlodi, yr anfantais a’r
allgáu cymdeithasol a brofir gan nifer o bobl anabl yn
-
25
ganlyniad anochel i’w nam neu eu cyflwr meddygol, ond yn hytrach
maent yn deillio o rwystrau agwedd ac amgylcheddol. Gelwir hyn yn
‘fodel cymdeithasol o anabledd’, a gellir ei ddefnyddio fel sail ar
gyfer gweithrediad llwyddiannus y ddyletswydd i hybu cydraddoldeb
anabledd.” Ffynhonnell: Dyletswydd i Hyrwyddo Cydraddoldeb
Anabledd, Cod Ymarfer Statudol, Comisiwn Hawliau Anabledd 2005
Mae’r Ddyletswydd Cydraddoldeb Anabledd yn adlewyrchu’r model
cymdeithasol o anabledd sy’n fodd i ganolbwyntio ar strwythurau a’r
rhwystrau y mae unigolion anabl yn eu hwynebu o ganlyniad iddynt ac
yn darparu offer ar gyfer datgymalu ac atal y rhain. Drwy
fabwysiadu dull y model cymdeithasol, mae awdurdodau’n wynebu’r her
i droi oddi wrth ymagwedd gwbl feddygol at anabledd, sy’n
canolbwyntio ar namau meddygol fel y prif reswm dros yr anawsterau
a ddaw i ran pobl anabl, at ddull y model cymdeithasol sy’n
cydnabod yr effaith negyddol ar bobl anabl o gymdeithas sydd wedi’i
chynllunio ar gyfer pobl nad ydynt yn anabl ac yn cymryd camau i
hyrwyddo cydraddoldeb i bobl anabl. (Comisiwn Hawliau Anabledd
2005). Tynnwyd sylw yn ystod ein proses ymgysylltu at y ffaith bod
adeiladwaith adeiladau weithiau’n gallu atal rhai grwpiau rhag
defnyddio’r gwasanaethau sydd ynddynt. Er enghraifft, nid oes
rampiau neu lifftiau mewn rhai adeiladau ac mae hynny’n atal
defnyddwyr cadeiriau olwyn rhag cael mynediad at wasanaethau neu
mae’r goleuadau a’r acwsteg mewn adeilad yn gallu effeithio ar
fynediad i bobl fyddar. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd y model
cymdeithasol o anabledd a’r egwyddorion sy’n sail iddo ac mae hyn
wrth wraidd llawer o’r camau gweithredu yn ein Cynllun a’n cynllun
gwella. Yr Iaith Gymraeg Mae’r Bwrdd Iechyd yn rhannu ymrwymiad
Llywodraeth Cynulliad Cymru i greu Cymru ddwyieithog, fel y mae
wedi’i nodi yn “Iaith Pawb”, ei chynllun gweithredu ar gyfer y
Gymraeg. Mae deddfwriaeth benodol ar gyfer yr iaith, sef Deddf yr
Iaith Gymraeg 1993. Roedd y cyn Fyrddau Iechyd Lleol a’r
Ymddiriedolaethau yn gweithredu’n unol â’u Cynlluniau Iaith
Gymraeg, a baratowyd o dan y Ddeddf – ac a gymeradwywyd gan Fwrdd
yr Iaith Gymraeg. Roedd y Cynlluniau yn disgrifio sut y caiff y
Gymraeg a’r Saesneg eu trin ar y sail eu bod yn gyfartal wrth inni
gyflenwi gwasanaethau iechyd i bobl Gogledd Cymru a datblygu
polisïau, gwasanaethau a mentrau newydd. Bydd Cynllun Iaith Gymraeg
ar gyfer BI PBC yn cael ei gyhoeddi erbyn Mawrth 2010.
-
26
Datblygu a Monitro ein Cynllun Mae’r Prif Weithredwr yn atebol
am sicrhau bod y Bwrdd Iechyd yn cyflawni ei gyfrifoldebau o dan y
Deddfau ac am sicrhau bod y Cynllun Cydraddoldeb Sengl hwn yn cael
ei roi ar waith. Mae’r Bwrdd Iechyd yn gyfrifol am gymeradwyo’r
cynllun a chraffu ar ei weithrediad. Bydd yr holl Gyfarwyddwyr
Gweithredol a Phenaethiaid Staff yn defnyddio eu lle fel arweinwyr
i ddatblygu a gweithredu’r cynllun. Bydd Penaethiaid Staff yn
sicrhau bod yr egwyddorion o ran cydraddoldeb a hawliau dynol sy’n
perthyn i’r amcanion yn eu cynlluniau gwasanaeth wedi’u dynodi o
ran eu perthnasedd ac y cymerir camau arnynt drwy fabwysiadu dull
cymesur o hyrwyddo cydraddoldeb. Rhaid i Feddygon Ymgynghorol,
Rheolwyr Cyffredinol, Penaethiaid Gwasanaeth, Staff Clinigol Uwch a
Rheolwyr Llinell hybu cydraddoldeb o fewn eu hadrannau a sicrhau
bod cynlluniau gweithredu a hyfforddiant yn cael eu dilyn. Bydd y
Bwrdd Iechyd yn enwi aelodau arweiniol o’r corff a fydd yn gyfrifol
am arwain ar gydraddoldeb a hybu’r broses asesu effaith:
• Aelod Annibynnol o’r Bwrdd yn Gadeirydd y Pwyllgor
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ac yn Hyrwyddwr Cydraddoldeb
• Cyfarwyddwr Datblygu’r Gweithlu a’r Sefydliad yn gyfrifol am
hyrwyddo’r agenda ar gydraddoldeb a hawliau dynol i’r corff. Caiff
y Cyfarwyddwr gymorth gan Gyfarwyddwr Cynorthwyol a Phennaeth
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Hawliau Dynol yn hyn o beth.
• Penaethiaid Staff a Phenaethiaid Gwasanaeth gyda chymorth gan
Bennaeth Cydraddoldeb a’r Grŵp Gweithredu ar Gydraddoldeb gan
gynnwys arweinwyr cydraddoldeb y Grwpiau Rhaglenni Clinigol /
Adrannau Gwasanaethau Corfforaethol
Hyrwyddwyr Cydraddoldeb Bydd pob Grŵp Rhaglen Glinigol neu Adran
Gwasanaethau Corfforaethol yn enwi Hyrwyddwr Cydraddoldeb. Mae
Hyrwyddwyr Cydraddoldeb wedi chwarae rhan o bwys wrth helpu i
ddatblygu ein Cynllun a gwella cynlluniau yn y cyrff blaenorol.
Byddant yn chwarae rhan hollbwysig wrth sicrhau bod cydraddoldeb,
amrywiaeth a hawliau dynol yn cael eu hyrwyddo ym mhob rhan o’r
Bwrdd Iechyd. Mae’r Hyrwyddwyr yn gweithredu fel eiriolwyr dros
gydraddoldeb, ac fel cyfryngwyr newid. Byddant yn herio ac yn hybu
ymwybyddiaeth o fewn y sefydliad yn eu holl feysydd gwaith mewn
cysylltiad â materion cydraddoldeb, amrywiaeth a hawliau dynol.
Mae’r Grŵp Gweithredu ar Gydraddoldeb yn gweithredu fel rhwydwaith
dysgu i gynorthwyo Hyrwyddwyr Cydraddoldeb gan rannu materion ac
arferion pwysig. Bydd Hyrwyddwyr Cydraddoldeb yn allweddol o ran
hybu’r gwaith o ddatblygu blaenoriaethau, canlyniadau a chynlluniau
gweithredu lefel uchel ar gyfer meysydd gwasanaeth. Fel rhan o’n
hymrwymiad i brif ffrydio
-
27
cydraddoldeb, byddwn yn adolygu rôl yr Hyrwyddwyr ym mhob rhan
o’r Bwrdd Iechyd ac yn datblygu cymorth pellach ar eu cyfer fel un
o’r ymrwymiadau yn ein Cynllun. Ein bwriad yw y bydd y Cynllun
Cydraddoldeb Sengl i BI PBC yn dilyn model tebyg i Gynllun
Cydraddoldeb Sengl Llywodraeth Cynulliad Cymru, h.y. cynllun
corfforaethol a chynllun gweithredu wedi’i ategu gan gynlluniau
gweithredu GRhGau ac AGCau a gaiff eu datblygu o’r gwaelod i fyny.
Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y bydd y GRhGau yn nodi’r
goblygiadau o ran cydraddoldeb a hawliau dynol sydd yn eu
blaenoriaethau gweithredol cyfredol ac y bydd gwaith ar
gydraddoldebau’n rhan o’r busnes craidd. Mae’r dull gweithredu hwn
wedi’i ymgorffori mewn Canllaw Cynllunio Dros Dro sydd wedi’i
ddatblygu i hyrwyddo gwaith cynllunio gwasanaethau ar gyfer BI PBC.
Cynlluniau Gweithredu Cydraddoldebau Gwasanaethau Mae’r cynlluniau
gweithredu’n dangos sut bydd y Tîm Gweithredu’n pennu
blaenoriaethau gweithredu ar gydraddoldeb a sut byddwn yn
cydweithio â GRhGau ac AGCau yn ystod y flwyddyn nesaf i bennu
camau gweithredu allweddol y bydd ein hadrannau’n eu hyrwyddo yn
ystod y tair blynedd nesaf i gyflawni eu hymrwymiad i hybu
cydraddoldeb. Byddwn yn mabwysiadu dull datblygu sefydliadol ar
gyfer y maes gwaith pwysig hwn. Bydd Arweinwyr Cydraddoldeb y
GRhGau a’r AGCau yn cael eu galluogi a’u cynorthwyo i fwrw ymlaen â
chamau gweithredu angenrheidiol drwy roi hyfforddiant penodol dan
arweiniad Pennaeth Cydraddoldeb. Mae rhai o’r gweithgareddau a fydd
yn rhan o’r cynlluniau gweithredu hyn yn ymrwymiadau a bennwyd mewn
cynlluniau a rhaglenni gwaith cynharach. Bydd eraill yn cael eu
datblygu o ganlyniad i ystyried materion cydraddoldeb mewn
cysylltiad â blaenoriaethau gweithredol presennol y GRhGau a
sylwadau, barn ac adborth a geir yn ystod y gweithgarwch
ymgysylltu. Mae adolygiadau blynyddol wedi’u cynnwys yn rhaglenni
gweithredu’r Cynllun i sicrhau y cawn gyfle i ystyried ac adolygu
ein cynlluniau a dal sylw ar newidiadau mewn gofynion
deddfwriaethol.
Ymgysylltu â Defnyddwyr Gwasanaethau, Staff a Budd-ddeiliaid
Eraill Cydweithio i Gynnwys ac Ymgysylltu’n Well
Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd
-
28
Mae’r gofynion cyfreithiol ar gyfer cyhoeddi cynlluniau
cydraddoldeb gan gyrff cyhoeddus yn y deddfau canlynol:
• Deddf Cysylltiadau Hiliol (Diwygio) 2000 • Deddf Gwahaniaethu
ar Sail Anabledd 2005 • Deddf Cydraddoldeb 2006
Er ei bod yn amlwg bod pethau sy’n debyg yn y gwahanol
ddyletswyddau statudol, mae gwahaniaethau rhyngddynt hefyd. Lle
bynnag yr oedd modd, mae’r gwaith o ddatblygu’r Cynllun
Cydraddoldeb Sengl hwn wedi’i seilio ar ddefnyddio’r ‘safon uwch’.
Er enghraifft, un o ofynion Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd
2005 yw ‘cynnwys’ pobl anabl yn y broses o gyhoeddi’r Cynllun, tra
bo Deddf Cysylltiadau Hiliol (Diwygio) 2000 yn mynnu y bydd
‘ymgynghori’ priodol. Yn y dyfodol, felly, nod BI PBC fydd
‘ymgysylltu’ yn ogystal ag ymgynghori wrth gynhyrchu ac wedyn
adolygu’r Cynllun Sengl hwn. Mae hefyd yn bwysig cydnabod yn glir
na all ymgynghori ac ymgysylltu gwirioneddol fod yn broses ‘untro’
neu ddigwyddiad unigol, a bod rhaid i hyn fod yn broses barhaus.
Ymgysylltu â’n Rhanddeiliaid Dros y blynyddoedd diwethaf mae nifer
o ddigwyddiadau ymgysylltu ar gydraddoldeb wedi’u hwyluso ar gyfer
datblygu cynlluniau ynghylch hil, anabledd a rhywedd ym maes iechyd
ledled Gogledd Cymru a datblygwyd cronfa ddata gynhwysol o fwy na
1,000 o gysylltiadau. Ym mis Medi 2009 datblygwyd holiadur drwy
ymgynghori â chymheiriaid ym maes Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd ac
fe’i dosbarthwyd yn eang ymysg unigolion a chyrff sydd â diddordeb
mewn materion cydraddoldeb ac sy’n gallu helpu i oleuo a dylanwadu
ar y datblygu ar flaenoriaethau yn ein cynllun newydd. Cwestiwn
cyntaf yr holiadur oedd “Beth Rydym yn ei Wneud yn Dda?” fel corff
mewn cysylltiad â materion cydraddoldeb. Ein cwestiwn nesaf oedd
“Beth Allem ei Wneud yn Well?” Roedd o ddiddordeb inni gael gwybod
beth yr oedd pobl yn teimlo ein bod yn ei wneud yn dda er mwyn
parhau â’r arferion da presennol a’u datblygu. Cafwyd 149 o
ymatebion i gyd. Mae’r atebion i’r ail gwestiwn wedi’u dadansoddi
yn ôl thema. Mae gwaith yn mynd ymlaen ar hyn o bryd i bennu
perchnogaeth ar feysydd i’w gwella o fewn y corff ynghyd â
blaenoriaethau. Mae dadansoddiad o’r themâu, ynghyd â sampl o’r
sylwadau a gafwyd, yn Atodiad 3. Sicrhawyd bod y dull gweithredu
hwn yn llwyddo drwy gydweithio a chydweithredu â chymheiriaid ym
maes Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd, Cynghorau Iechyd Cymuned a
Chynghorau Gwasanaethau Gwirfoddol a chynrychiolwyr eraill o’r
trydydd sector. Hoffem achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb a
gymerodd ran ac i’r aelodau hynny o’r cyhoedd a
-
29
ymatebodd ym mhob rhan o Ogledd Cymru. Mae’r wybodaeth a gafwyd
yn amhrisiadwy wrth bennu ein blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol.
Ymgysylltu â’n Staff Cafodd holiadur ei gynllunio a’i ddosbarthu
hefyd i holl staff y GIG yng Ngogledd Cymru fel rhan o’r pecyn
ymgynghori ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. Dychwelwyd cyfanswm o 132
o holiaduron. Roedd y prif bwnc a godwyd gan staff yn ymwneud â
gweithio hyblyg a materion gofal, a hynny mewn 41% o’r ymatebion.
Mae dadansoddiad manwl o’r ymatebion a’r ymatebwyr yn Atodiad 3.
Hoffem ddiolch i’r holl staff a gymerodd ran am eu cyfraniadau
gwerthfawr a fydd yn cael eu hystyried wrth ddatblygu’r Cynllun
Gwella. Cyfarfod y Gr ŵp Cyfeirio Budd-ddeiliaid Fel rhan o’r
gweithgarwch ymgysylltu, gwnaethom hefyd wahodd rhai a oedd wedi
mynegi diddordeb i ddod i gyfarfod gyda’r hwyr i gael adborth o’r
gwaith ymgysylltu a gafwyd hyd hynny ac i gydweithio â ni i
ddatblygu’r gwaith hwn ymhellach. Cynhaliwyd y digwyddiad hwn ar 15
Hydref 2009, a chafwyd trafodaeth fywiog a gweithdai diddorol yno.
Mae’r themâu a nodwyd yn ystod y cyfarfod hwn wedi’u cynnwys yn
Atodiad 3 hefyd. Parhau i Ymgysylltu Mae’r gwaith hwn wedi’i
hyrwyddo mewn partneriaeth gan y Rhwydwaith Cydraddoldeb a Chynnwys
y Cleifion a’r Cyhoedd ar y cyd. Mae camau i gryfhau’r dull
gweithredu hwn a phrif ffrydio ymgysylltu cynhwysol ymhellach mewn
gweithgareddau Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd wedi’u nodi yn y
Cynllun Gwella.
Casglu a Dadansoddi’r Dystiolaeth Beth a Ddywedsoch Wrthym Ni –
Dal i Wneud Cynnydd Themâu a nodwyd o’r Ymgysylltu â Defnyddwyr
Gwasana ethau yng Ngogledd Cymru drwy Holiadur, Gorffennaf 2009
• Hyfforddi gorfodol i’n gweithlu i hybu ymwybyddiaeth a gallu
mewn cysylltiad â chydraddoldeb, hawliau dynol ac urddas;
• Gwell mynediad at wasanaethau; • Ymchwilio’n benodol i’r modd
y mae meini prawf oedran yn gallu
atal mynediad at rai gwasanaethau • Datblygu’r sefydliad o ran
dealltwriaeth o’r canlynol:
o rhwystrau a brofir gan rai grwpiau;
-
30
o y cysylltiad rhwng Dyletswyddau Cydraddoldeb a lleihau
anghydraddoldebau iechyd;
• Gwelliannau o ran cyfathrebu a darparu gwybodaeth; •
Partneriaethau, cynhwysiant a chynnwys y cyhoedd yn barhaus yn
ein gwaith ar gydraddoldebau. Themâu a nodwyd o’r Digwyddiad i
Randdeiliaid – 15 Hydref 2009
• Pwysigrwydd gofal, urddas a pharch – sut rydym yn sicrhau bod
staff yn gweithio yn ôl y gwerthoedd hyn?
• Effaith cyfathrebu gwael â defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr
• Yr angen i glywed llais cleifion a’u cynnwys mewn hyfforddiant
ac
addysg • Y pwysigrwydd o ddangos ein bod yn dysgu o gwynion • A
yw staff wedi’u grymuso’n wirioneddol i ddelio â phryderon ar
lefel y ward ac a ydynt yn ddigon hyderus i godi pryderon eu
hunain
• Beth yw ymagwedd BI PBC at fynediad teg ledled Gogledd Cymru •
Mae cael pethau’n iawn y tro cyntaf yn arbed arian
Themâu a nodwyd o’r Ymgysylltu â Staff drwy Holiadu r,
Gorffennaf-Medi 2009 • Hyfforddiant • Trais yn erbyn staff y GIG •
Fforymau Amrywiaeth mewn Cyflogaeth • Gofalu a Gofal Plant • Sioeau
teithiol • Canolfan Byd Gwaith a Remploy • Crefydd a Chredo •
Ymgyrch Gwahardd Bwlio yn y Gwaith • Ymddeol • Gweithio hyblyg
Beth yr Ydym wedi’i Ddysgu a’n Blaenoriaethau Am fod cwmpas y
gwaith hwn mor eang, derbynnir bod angen pennu blaenoriaeth meysydd
ar gyfer cynnydd fel eu bod yn adlewyrchu’r meysydd ar gyfer gwella
a nodwyd gan staff a defnyddwyr gwasanaethau, yn cyfateb i
flaenoriaethau’r sefydliad ac yn gysylltiedig â’r busnes craidd.
Mae’r argymhellion canlynol wedi’u seilio ar yr hyn a ddysgwyd o
waith cyrff iechyd blaenorol mewn cysylltiad â hyrwyddo
cydraddoldeb, o adroddiadau cenedlaethol ac o themâu a nodwyd ar ôl
ymgynghori â staff a rhanddeiliaid. Bydd camau gweithredu sy’n
canolbwyntio ar ganlyniadau yn y meysydd blaenoriaethol yn cael eu
datblygu ymhellach i’w cynnwys yn y Cynllun ochr yn ochr â
chamau
-
31
gweithredu eraill y mae eu hangen i sicrhau cydymffurfiad.
Cynigir y bydd y Cynllun Cydraddoldeb Sengl yn canolbwyntio ar
hawliau dynol ac yn rhoi blaenoriaeth i anghenion y rhai sy’n fwyaf
agored i niwed. Tra bydd hyfforddiant ac asesiadau o effaith yn
hybu ymwybyddiaeth o’r rhwystrau a brofir gan unigolion a
chymunedau mewn cysylltiad â’r holl briodoleddau a amddiffynnir,
awgrymir ein bod yn canolbwyntio ar y grwpiau cydraddoldeb canlynol
wrth hybu cyfle cyfartal yn ystod oes y cynllun hwn:
• Pobl anabl gan gynnwys pobl sydd ag Anableddau Dysgu •
Sipsiwn-Teithwyr • Pobl hŷn
Ymhlith y blaenoriaethau eraill y mae: Bwrdd Iechyd PBC –
cyflawni’r Dyletswyddau fel darp arwr gwasanaethau 1. Hyfforddi ein
gweithlu er mwyn hybu ymwybyddiaet h a gallu mewn cysylltiad â
chydraddoldeb, hawliau dynol ac u rddas: Bydd y corff yn gwneud
hyfforddiant ar gydraddoldeb ac amrywiaeth yn orfodol ar gyfer pob
swydd. Bydd grŵp gorchwyl a gorffen yn adolygu’r hyfforddiant a
gynigir ar hyn o bryd ledled Gogledd Cymru a chytunir ar Raglen
Hyfforddiant Cydraddoldeb ac Amrywiaeth. Cytunir ar dargedau
hyfforddi o 80% o gydymffurfiad dros dair blynedd. 2. Gwell
mynediad at wasanaethau; bydd y Bwrdd Iech yd yn hyrwyddo mynediad
fel blaenoriaeth sefydliadol: Bydd y Pwyllgor Cydraddoldeb ac
Amrywiaeth yn monitro materion mynediad ac yn cyflwyno argymhellion
i Grwpiau Rhaglenni Clinigol ac Adrannau Gwasanaethau
Corfforaethol. Ymchwilio’n benodol i’r modd y mae meini prawf oedr
an yn gallu atal mynediad at rai gwasanaethau. Datblygu sefydliadol
i gael dealltwriaeth o’r canly nol:
o rhwystrau a brofir gan rai grwpiau; o y cysylltiad rhwng
Dyletswyddau Cydraddoldeb a llei hau
anghydraddoldebau iechyd; Cymerir camau i hyrwyddo’r gwaith hwn
a rhoi gwybod amdano ar ôl cydweithio’n agos â Phrosiect Ymchwil
Anghydraddoldebau Iechyd y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus
Cenedlaethol, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus a’r Prif Economegydd
Iechyd. Bydd gwybodaeth am y berthynas rhwng anghydraddoldeb
iechyd, amddifadedd ac anfantais yn
-
32
cael ei lledaenu’n eang er mwyn ei hystyried mewn asesiadau o’r
effaith ar gydraddoldeb ac wrth gynllunio gwasanaethau. 3.
Gwelliannau o ran cyfathrebu a darparu gwybodaet h; a
phartneriaethau, cynhwysiant a chynnwys y cyhoedd y n barhaus yn
ein gwaith ar gydraddoldebau. Cydweithio’n barhaus â Thimau Profiad
y Claf a Chynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd, cydweithio’n agosach â’r
Cyfarwyddwr Cynllunio a Chyfarwyddwr Gofal Sylfaenol a
Phartneriaethau Cymunedol drwy Fyrddau Gwasanaethau Lleol/
Awdurdodau Lleol a mentrau trydydd sector. Rhai o’r cyfryngau
arfaethedig i hyrwyddo’r gwaith hwn yw
• Cynllun Corfforaethol i BI PBC • Cynlluniau Datblygu
Gwasanaeth y Grwpiau Rhaglenni Clinigol • Hanfodion gofal • Rhaglen
urddas a pharch mewn gofal • Yn Rhydd i Arwain, Yn Rhydd i Ofalu •
Gweddnewid Gofal wrth Erchwyn y Gwely • Ymgyrch 1,000 o fywydau •
Cytundebau lefel gwasanaeth • Strategaethau Iechyd, Gofal
Cymdeithasol a Lles • Safonau gofal iechyd • Llwybrau clinigol •
Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Pobl Hŷn • Addewidion
ar gynnwys pawb (cytuno arnynt ag Arweinwyr
Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd ledled Gogledd Cymru) • Prosiect
ymchwil y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol
Bwrdd Iechyd PBC – cyflawni’r Dyletswyddau fel cyfl ogwr Trais
yn erbyn staff y GIG: Bydd y corff yn cydweithio’n agosach â’r
heddlu i ymchwilio i honiadau o drais yn erbyn staff y GIG. Gwneir
yr argymhelliad hwn yn dilyn y cytundeb diweddar â’r heddlu a
lofnodwyd gan y Gweinidog Iechyd Edwina Hart. Mae’r cytundeb yn
cynnwys protocolau newydd ar ymchwilio i ddigwyddiadau; atgyfeirio
achosion i’r heddlu; casglu tystiolaeth a darparu datganiadau;
adolygiadau ar ôl digwyddiad a chymorth i ddioddefwyr wedi i’w
hachos fynd ymlaen i lys. Bydd BI PBC yn penodi unigolion wedi’u
henwi ar lefelau Prif Weithredwr ac Aelodau nad ydynt yn Swyddog a
fydd yn delio’n benodol â phroblem trais yn y sefydliadau.
Cyflwynir adroddiadau rheolaidd ar drais ac ymddygiad ymosodol yng
nghyfarfodydd y Bwrdd.
-
33
Fforymau Amrywiaeth mewn Cyflogaeth: Bydd y corff yn ymuno â
fforymau ar arferion da o ran amrywiaeth, yn cydweithio â chyrff
arbenigol sy’n cynrychioli’r holl feysydd cydraddoldeb er mwyn
nodi’r rhwystrau y mae rhai grwpiau o gyflogeion yn eu profi ac yn
ymdrechu i hyrwyddo cydraddoldeb yn y gweithle, h.y. Hyrwyddwyr
Amrywiaeth Stonewall.
Gofalu a Gofal Plant: Bydd y corff yn cynnal cysylltiadau â’r
Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr a Gwasanaethau Gwybodaeth a Gwasanaethau
Gwybodaeth Plant ac yn eu hyrwyddo ar gyfer pob sir yng Ngogledd
Cymru, fel adnodd i staff.
Hyfforddiant: Bydd y corff yn sicrhau bod yr holl staff yn cael
hyfforddiant statudol mewn cysylltiad â chydraddoldeb ac
amrywiaeth. Dylai hyn gynnwys hyfforddiant i reolwyr llinell
ynghylch rheoli staff mewn cysylltiad â materion anabledd gan
gynnwys iechyd meddwl, cyfathrebu ac urddas yn y gwaith. Sioeau
teithiol: Bydd y corff yn creu mwy o ymwybyddiaeth o faterion
cydraddoldeb/rhwystrau drwy gynnal sioeau teithiol thematig, h.y.
Diwrnod y Cenhedloedd Unedig ar gyfer dileu gwahaniaethu ar sail
hil. Canolfan Byd Gwaith a Remploy: Bydd y corff yn cydweithio â
chyrff ac yn hyrwyddo eu gwasanaethau er mwyn cefnogi staff anabl
gan gynnwys y rheini sy’n dod yn anabl yn ystod eu cyflogaeth.
Crefydd a Chredo: Bydd y corff yn hyrwyddo rôl Caplaniaid
Ymddiriedolaethau mewn cysylltiad â diwallu anghenion crefyddol ac
ysbrydol cyflogeion ac yn cynnal sioeau teithiol ar grefydd a
chredoau ysbrydol er mwyn hybu ymwybyddiaeth.
Ymgyrch Gwahardd Bwlio yn y Gwaith : Bydd y corff yn rhoi
cyhoeddusrwydd eang i’r Ymgyrch Gwahardd Bwlio yn dilyn lansio’r
Polisi Urddas yn y Gwaith newydd yn BI PBC.
Ymddeol: Bydd y corff yn ymgymryd ag ymchwil leol ac yn datblygu
polisi ar ymddeol sy’n ymateb i anghenion y grŵp cleientiaid hwn ac
yn ei hyrwyddo’n eang. Gweithio hyblyg: Bydd y corff yn sicrhau bod
dull cyson o gymhwyso’r polisi ar weithio hyblyg. Dylai’r Adran
Adnoddau Dynol ddarparu hyfforddiant pellach i reolwyr llinell/uwch
reolwyr ar gymhwyso hyn ac ar bolisïau eraill fel gwyliau
blynyddol, absenoldeb arbennig a gweithio hyblyg er mwyn sicrhau
bod dull gweithredu cyson yn BI PBC.
-
34
Mynediad a Hygyrchedd Mae BI PBC wedi ymrwymo i weithredu’n
dryloyw ac yn agored, ac mae’n cydnabod y bydd gwella mynediad at
wybodaeth a gwasanaethau i bobl sy’n profi rhwystrau’n arwain at
welliannau mewn canlyniadau iechyd ym mhob rhan o’n cymuned.
Gallai’r rhwystrau hyn fod yn faterion ffisegol sy’n ymwneud ag
Ystadau, ond byddant hefyd yn cynnwys rhwystrau o ran iaith, er
enghraifft, i’r rheini nad yw’r Gymraeg na’r Saesneg yn iaith
gyntaf iddynt. Mae dadansoddiad manwl o faterion a nodwyd wrth
ymgysylltu ac ymgynghori â phobl anabl yn BI PBC wrth ddatblygu’r
Cynllun Cydraddoldeb Sengl wedi’i gynnwys yn Atodiad 3. Mae corff
cynyddol o dystiolaeth sy’n dangos i ni fod pobl yn wynebu
rhwystrau wrth gael mynediad at ofal iechyd ac mae hyn yn gallu
arwain at ganlyniadau iechyd anghyfartal. Bydd y gwaith o ganfod a
dileu rhwystrau er mwyn gwneud gwybodaeth a gwasanaethau’n fwy
hygyrch i bobl o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn
flaenoriaeth uchel yn ystod cyfnod tair blynedd y Cynllun hwn.
Asesu Effaith Ein Penderfyniadau Mae’n ofynnol o dan
ddeddfwriaeth inni ymgymryd ag adolygiad trwyadl o swyddogaethau a
pholisïau mewn cysylltiad â hil, anabledd a rhywedd. Rydym yn
cydnabod mai arfer da yw asesu effaith ein swyddogaethau a’n
polisïau mewn cysylltiad â’r holl feysydd cydraddoldeb ac wedi
mabwysiadu’r dull cynhwysol hwn. Asesu Swyddogaethau a Pholisïau o
ran eu Perthnased d i’r Dyletswyddau Cyffredinol . Yn 2008
comisiynwyd gweithdy gan Grŵp Cydraddoldebau Gogledd Cymru, a oedd
yn cynrychioli’r holl gyrff iechyd blaenorol, gyda chymorth Rheoli
yng Ngwasanaeth Cyhoeddus Cymru, i adolygu cyfrifoldebau pob un o’r
cyrff o dan ddeddfwriaeth Cydraddoldeb Hiliol, pennu
‘swyddogaethau’ a ‘pherthnasedd’ a cheisio pennu blaenoriaeth
swyddogaethau perthnasol er mwyn asesu’r effaith ar gydraddoldeb.
Ymhlith y dogfennau a ystyriwyd wrth wneud y gwaith hwn yr oedd
gohebiaeth oddi wrth Gomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru,
Deddfwriaeth Cydraddoldeb Hiliol, Pecyn Cymorth ar gyfer Asesu’r
Effaith ar Gydraddoldeb Canolfan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y GIG
(Cymru) (Pecyn Cymorth), Swyddogaethau Cyrff y GIG a’r Adran
Iechyd. Ymhlith y mathau o dystiolaeth a adolygwyd i ddangos
effeithioldeb y swyddogaeth a’i pherthnasedd i gydraddoldebau yr
oedd adroddiadau, cofnodion ac adroddiadau ymchwil i Fyrddau
Ymddiriedolaethau, adroddiadau am gwynion/digwyddiadau arwyddocaol,
Cynlluniau
-
35
Cydraddoldeb, yn cynnwys Cynlluniau ar gyfer Hil, Anabledd a
Rhywedd, deddfwriaeth ac adroddiadau ac argymhellion
cenedlaethol.
Nodwyd mai’r swyddogaethau canlynol oedd y rhai mwyaf
perthnasol:
• Llywodraethu corfforaethol • Llywodraethu clinigol •
Cyflogaeth • Gwella iechyd y gymuned • Cynllunio a phartneriaethau
• Comisiynu gwasanaethau a chyflenwi gwasanaethau
Yn dilyn y diwygiadau, mae angen ailedrych ar y gwaith hwn wrth
i swyddogaethau a strwythurau’r BI PBC newydd ymsefydlu. Rydym yn
cydnabod y bydd hyn yn cymryd amser, wrth inni weithio i bennu
perthnasedd y swyddogaethau a’r polisïau newydd o ran cwrdd â phob
agwedd ar y Dyletswyddau Cyffredinol. Y swyddogaethau a pholisïau a
bennir fel y rhai mwyaf perthnasol a gaiff flaenoriaeth ar gyfer
asesu effaith. Cytunir ar amserlen i sicrhau y cynhelir asesiad o’r
effaith ar gydraddoldeb ar gyfer y swyddogaethau hyn o fewn cyfnod
rhesymol. Disgwylir y bydd y broses hon yn pennu swyddogaethau sydd
wedi aros yn ddigyfnewid gan mwyaf wrth symud i’r corff newydd ac,
os ydynt wedi’u hasesu o’r blaen, ni fyddant yn cael eu hasesu
ymhellach ar yr adeg hon. Mae’r amserlen a’n dull gweithredu i
gyflawni’r Dyletswyddau Cyffredinol ac ymgymryd ag asesiad o
berthnasedd wedi’u nodi yn y Cynllun Gwella Cydraddoldeb. Mae
cynnal asesiadau o effaith yn ddyletswydd benodol sydd â’r amcan o
sicrhau bod sylw dyladwy’n cael ei roi i gydraddoldeb mewn
penderfyniadau a gweithgareddau. Nid yw asesu effaith yn nod ar ei
ben ei hun, dim ond yn broses y bydd awdurdod yn mynd drwyddi er
mwyn pennu’r angen i addasu polisïau ac arferion a gweithredu ar
sail hynny, er mwyn rhoi gwell sylw i’r angen i hybu cydraddoldeb.
(Ffynhonnell: Dyletswydd i Hyrwyddo Cydraddoldeb Anabledd, Cod
Ymarfer Statudol, Comisiwn Hawliau Anabledd 2005) Mae asesiadau o’r
effaith ar gydraddoldeb yn ystyried yr effeithiau a gaiff
penderfyniadau, polisïau neu wasanaethau ar bobl ar sail eu
rhywedd, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu gredo,
oed, y Gymraeg a hawliau dynol. Mae BI PBC wedi mabwysiadu’r Pecyn
Offer ar gyfer Asesu’r Effaith ar Gydraddoldeb diwygiedig a
ddatblygwyd gan Ganolfan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y GIG ac mae
hwn yn cynnwys 11 o gamau mewn proses dair rhan:
-
36
- Rhan A: Paratoi ac Asesu Perthnasedd a Blaenoriaeth - Rhan B:
Asesu’r Effaith ar Gydraddoldeb - Rhan C: Canlyniad, Monitro,
Cyhoeddi ac Adolygu Mae siart llif sy’n disgrifio’r camau manwl ym
mhob rhan o’r broses wedi’i gynnwys yn Atodiad 5.
Sut Byddwn yn Gwreiddio’r Broses Asesu Effaith Fel rhan o’n
hymrwymiad, byddwn yn datblygu dull strategol o helpu’r holl
Grwpiau Rhaglenni Clinigol / Adrannau Gwasanaethau Corfforaethol i
gael system glir a chynhwysfawr i asesu effaith. Bydd hyn yn
ategu’r broses o sicrhau bod Cynlluniau Gweithredu Cydraddoldeb y
GRhGau / AGCau yn ddogfennau byw. Mae Polisi Asesu’r Effaith ar
Gydraddoldeb wedi’i ddatblygu fel blaenoriaeth sefydliadol a
chytunwyd arno yng nghyfarfod cyntaf BI PBC. Mae hwn yn cynnig
fframwaith i sicrhau bod egwyddorion cydraddoldeb a hawliau dynol
wedi’u pennu a’u hystyried ym mhopeth yr ydym yn ei wneud, a bod
asesu’r effaith ar gydraddoldeb yn rhan o brosesau penderfynu
sefydliadol. Mae asesu’r effaith ar gydraddoldeb yn rhan o’r broses
datblygu polisi y mae’r holl staff yn ei dilyn wrth gyflwyno polisi
/ protocol neu ganllaw i’w gymeradwyo. Darparwyd cyfres o weithdai
gan y cyrff blaenorol i awduron polisïau ac aelodau Pwyllgorau
Dilysu i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r broses gan fod y
rhan fwyaf o asesiadau ar effaith yn cael eu gwneud gan rai nad
ydynt yn arbenigwyr ar gydraddoldeb. Mae’r tudalennau ar
gydraddoldeb ar y fewnrwyd wedi’u datblygu fel safle adnoddau lle y
gall staff weld dogfennau ymchwil ac ystadegau perthnasol i’w
defnyddio yn ystod y cam casglu gwybodaeth. Cymerir camau i
ddarparu mwy o hyfforddiant a gweithgarwch i hybu ymwybyddiaeth.
Bydd y cyfrifoldeb dros gynnal asesiadau o effaith yn perthyn i
Bennaeth yr Adran ac Awduron Gwreiddiol y polisïau. Mae’r
Pwyllgorau Dilysu yn ystyried canlyniad yr holl asesiadau o effaith
cyn cadarnhau polisïau, ac anfonir copi o’r canlyniad i’r
Gweinyddwr Polisïau. Bydd y Pwyllgor Dilysu yn rhoi gwybod i awdur
y polisi a’r Grŵp Rhaglen Glinigol/Adran Gwasanaeth Corfforaethol
am unrhyw gamau priodol y mae angen eu cymryd yng ngoleuni’r
asesiadau o effaith gan gynnwys trefniadau monitro. Dalen Glawr ar
gyfer Papurau’r Bwrdd Rhoddir dogfen grynodeb gyda phob dogfen a
gyflwynir i’r Bwrdd i’w chymeradwyo sy’n disgrifio canlyniad yr
asesiad o effaith ar gyfer yr holl feysydd cydraddoldeb a hawliau
dynol.
-
37
Cyhoeddi Cyhoeddir adroddiad ar asesu’r effaith ar gydraddoldeb
yn y dyfodol ar wefan BI PBC a gellir eu gweld drwy’r dudelan
cyhoeddiadau.
Sut yr Ydym yn Casglu a Defnyddio Gwybodaeth Y cam cyntaf a
gymerwyd wrth baratoi’r cynllun a’r cynllun gwella hwn oedd asesu’r
wybodaeth a oedd ar gael ar gyfer ei lunio. Er bod swm sylweddol o
waith ansoddol wedi’i wneud yn ddiweddar i ddysgu mwy am y
rhwystrau a wynebir gan bobl wrth gael mynediad at wasanaethau neu
i gyflogaeth, a gan rai sydd wedi’u cyflogi gan y Bwrdd Iechyd,
derbynnir bod angen cryfhau’r mecanweithiau ar gyfer casglu
gwybodaeth feintiol am ein perfformiad mewn cysylltiad â
chydraddoldeb.
Mae casglu a defnyddio gwybodaeth yn rhan ganolog o’r
Dyletswyddau Cydraddoldeb ac mae’n rhan o’r broses o sicrhau mwy o
gydraddoldeb. Mae’r Bwrdd Iechyd yn cydnabod ei bod yn hollbwysig
cael darlun mor glir ag sy’n bosibl fel sylfaen dystiolaeth i
ddangos ein perfformiad ar gydraddoldeb, drwy asesu lle nad yw
unigolion neu grwpiau sydd wedi’u diffinio ar sail priodoleddau a
amddiffynnir yn cael triniaeth deg ar hyn o bryd fel sail i’r
cynllun ac i fesur ein cynnydd yn y dyfodol.
Bydd BI PBC yn casglu, yn dadansoddi ac yn defnyddio gwybodaeth
am effaith polisïau ac arferion ar recriwtio, datblygu a chadw
staff mewn cysylltiad â meysydd cydraddoldeb, a gwybodaeth am y
graddau y mae’r gwasanaethau a ddarparwn, a’r swyddogaethau eraill
hynny a gyflawnir, yn ystyriol o anghenion defnyddwyr gwasanaethau
mewn cysylltiad â’r meysydd cydraddoldeb. Un agwedd bwysig ar y
cynllun gwella cyntaf hwn ar gyfer y Cynllun Cydraddoldeb Sengl
oedd delio â’r angen i gryfhau ein mecanweithiau casglu gwybodaeth
a’n dull o ddadansoddi a defnyddio’r wybodaeth hon. Mae hyn yn
cynnwys adeiladu ar sail gwaith blaenorol i gasglu gwybodaeth o
gwynion ac arolygon bodlonrwydd cleifion, mewn cyfarfodydd, grwpiau
ffocws neu reithgorau dinasyddion a thrwy brofiad y claf. Rhoddwyd
blaenoriaeth yn y cynlluniau blaenorol i gael gwell gwybodaeth o
ran maint ac ansawdd drwy’r prosiect monitro cydraddoldeb cleifion
a chofnodi rheolaidd drwy’r cofnod staff electronig ar brofiad
staff yn ystod y cylch cyflogaeth, a byddwn yn dal i ddatblygu
systemau a fydd yn cynhyrchu gwybodaeth i’w dadansoddi a’i hadolygu
a sicrhau y cymerir camau i ddelio â gwahaniaethu a gaiff ei
ddarganfod drwy’r broses monitro.
-
38
Prosiect Monitro Cydraddoldeb Cleifion Mae Canolfan Cydraddoldeb
a Hawliau Dynol y GIG yn rheoli’r prosiect hwn sydd â’r amcan o
ddatblygu a gweithredu model i gipio a monitro proffiliau
cydraddoldeb y cleifion sy’n cael mynediad at wasanaethau iechyd
ledled Cymru. Nodau’r Prosiect yw: • darparu rhaglen newid sy’n
gwella’r casglu ar ddata cydraddoldeb yn y
GIG ledled Cymru; ac • wrth wneud hynny, gwahaniaethu rhwng
effeithiau polisïau ac arferion
gwasanaethau iechyd ar wahanol grwpiau o gleifion, yn ôl eu grŵp
hiliol, rhywedd, oed, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu
gredo
Mae set ddata cydraddoldeb wedi’i datblygu drwy ymgynghori â’r
Comisiynau Cydraddoldeb blaenorol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, y
Swyddfa Ystadegau Gwladol a’r GIG yng Nghymru er mwyn sicrhau
cysondeb a chynhwysiant wrth gasglu data. Mae’r set ddata
cydraddoldeb wedi’i chyflwyno i Fwrdd Safonau a Llywodraethu
Gwybodaeth Cymru, a gobeithir y bydd yn cael ei chymeradwyo cyn
hir. Roedd BI PBC yn safle treialu ar gyfer camau cyntaf y prosiect
ac mae staff wedi dilyn hyfforddiant ynghylch sut i geisio a chipio
data cydraddoldeb cleifion. Mae’r gwaith hwn wedi’i ddynodi ar
gyfer dilyniant yn y Cynllun Gwella. Monitro cyflogaeth Mae’n
ofynnol i’r Bwrdd Iechyd gasglu gwybodaeth am effaith polisïau ac
arferion ar recriwtio, datblygu a chadw ei gyflogeion. Mae’r cam
gweithredu hwn wedi’i nodi’n flaenoriaeth yn y cynllun gweithredu.
Mae hyn yn cynnwys: • Adolygiad o niferoedd ymgeiswyr, a
phroffiliau’r rhai sy’n cyrraedd y
rhestr fer ac yn cael eu penodi • Mathau o swyddi a gyflawnir
gan bobl anabl, graddfeydd / lefelau
cyflog • Cyrsiau hyfforddi a ddilynir • Camu ymlaen mewn gyrfa •
Arfarniadau • Camau disgyblu • Adroddiadau am aflonyddu (a sut
cawsant eu datrys) • Hyd cyflogaeth • Niferoedd mewn gwaith amser
llawn neu ran amser
-
39
• Niferoedd sy’n gadael gan roi rhesymau, yn cynnwys dileu
swyddi, diswyddo, iechyd gwael, ac ymddeol
• Dadansoddiad o gyfweliadau ymadael staff (yn cynnwys y rhai
sy’n ymddeol oherwydd iechyd gwael)
Sut byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon Cyflwynir data i’r
Pwyllgor Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn flynyddol ac fe’u defnyddir
wrth lunio’r Adroddiad Gweithredol Blynyddol ar Gydraddoldeb ac
Amrywiaeth. Pwrpas y data yw helpu’r Grŵp i ddatblygu atebion i’r
cwestiynau canlynol: • A yw polisïau a gweithdrefnau’r Bwrdd Iechyd
yn deg â’r holl grwpiau? • A yw aelodau o rai grwpiau’n fwy tebygol
nag eraill o ddefnyddio ei
wasanaethau? • A oes gwahaniaethau o ran canlyniadau i wahanol
grwpiau? • A yw unrhyw un o’r gwahaniaethau hyn yn ganlyniad i
bolisïau neu
weithdrefnau eraill? • A yw’r gwahaniaeth yn ganlyniad i ryw
batrwm neu anfantais sylfaenol? • A yw’r ffactorau y mae wedi’u
hystyried yn ddigon i egluro maint y
gwahaniaethau? • Pa ddata neu ddadansoddiadau eraill a allai fod
yn angenrheidiol er
mwyn ymchwilio ymhellach? • A oes unrhyw reswm amlwg dros y
gwahaniaeth, neu ei faint, a beth
arall y gall ei wneud? A yw gwahaniaethu uniongyrchol yn achos
posibl? • A oes tystiolaeth bod y patrymau hyn yn newid? • A yw’r
camau a gymerwyd wedi arwain at welliannau? • Pa wersi y gellir eu
dysgu ar gyfer y dyfodol?
-
40
Sut yr Ydym yn Cyhoeddi Adroddiadau ar Asesu, Ymgynghori a
Monitro Mae’r BILl o dan Ddyletswydd Benodol i gyhoeddi’r
canlyniadau i asesiadau, ymgyngoriadau a monitro y mae’n eu
cyflawni er mwyn canfod unrhyw effaith anffafriol ar gydraddoldeb.
Cyhoeddir y Cynllun hwn a dogfennau, adroddiadau ac ymgyngoriadau
i’w ategu ar ffurf electronig ar wefan y BILl. Mae gwaith pellach i
ddatblygu tudalen we allanol ar gydraddoldebau wedi’i nodi fel cam
gweithredu yn y cynllun gwella.
Ein Rôl fel Cyflogwr Hyfforddi ein staff Rhaid i bob cyflogai
newydd ddilyn rhaglen gynefino gynhwysfawr wrth ymuno â’r Bwrdd
Iechyd ac mae hyn yn cynnwys ymwybyddiaeth o amrywiaeth,
cydraddoldeb a hawliau dynol. Mae Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn
agwedd graidd ar Fframwaith Sgiliau a Gwybodaeth y GIG ac wedi’u
nodi’n agwedd allweddol ar bob swydd a phopeth y mae pawb yn ei
wneud. Fel rhan o’r broses hon, mae’r BILl wedi integreiddio
cydraddoldeb a hawliau dynol yng ngweithgarwch hyfforddi hanfodol
prif ffrwd y corff. Dylai pob cyflogai fod â chynllun hyfforddi a
datblygu personol o dan y fframwaith sgiliau a gwybodaeth sy’n nodi
lefel y cymhwysedd mewn cydraddoldeb ac amrywiaeth sy’n ofynnol i’w
swydd, enghreifftiau o’i gymhwyso’n ymarferol a thystiolaeth o
hyfforddiant a datblygiad. Caiff hwn ei adolygu unwaith y flwyddyn
o leiaf. Dylai’r holl staff rheoli a staff uwch sy’n arfarnu gan
ddefnyddio’r fframwaith sgiliau a gwybodaeth neu’n recriwtio ac yn
dewis staff fod wedi’u hyfforddi mewn cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Mae gwybodaeth am gyfleoedd hyfforddi a datblygu’n cael ei
hysbysebu’n eang a bydd y defnydd o’r cyfleoedd hynny’n cael ei
fonitro. Cynllunnir cyfleoedd hyfforddi a datblygu i fodloni
anghenion yr holl staff. Urddas yn y gwaith Er mwyn cyflawni’r
Dyletswyddau Cydraddoldeb fel cyflogwr, mae BI PBC wedi ymrwymo i
sicrhau ei fod yn rhoi sylw dyladwy i’r angen i ddileu gwahaniaethu
anghyfreithlon ac aflonyddu yn ein harferion cyflogaeth ac yn
hyrwyddo cydraddoldeb o fewn ein gweithlu ym