-
Cyngor Sir Ceredigion County Council Cyngor Gwynedd Council
Cyngor Sir Powys County Council
Rhifyn 2 Issue 2
Rhifyn 2 Issue 2
Blwyddyn Newydd Dda!
Happy New Year!
Gaeaf 2012 Winter 2012
Newyddion TraCC Trafnidiaeth Canolbarth Cymru (TraCC) yw’r
Consortiwm Trafnidiaeth Rhanbarthol ar gyfer y Canolbarth, ac mae’n
bartneriaeth wirfoddol rhwng y tri awdurdod lleol yn y rhanbarth,
sef Ceredigion, Powys a Gwynedd (ar gyfer ardal Meirionnydd). Mae’r
bartneriaeth wedi ennill ei phlwyf, ac mae’n enghraifft dda o
gydweithio llwyddiannus rhwng aw-durdodau lleol, sy’n gweithio
gyda’i gilydd a gyda phartneriaid i wella’r system drafnidiaeth yng
nghanolbarth Cymru. Cefnogir y Bartneri-aeth gan y Tîm Craidd yn
Swyddfeydd Cyngor Sir Ceredigion yng Nghanolfan Rheidol,
Aberystwyth.
“Calon Trafnidiaeth yng Nghymru The Heart of Transport in
Wales”
Cyhoeddodd TraCC ei Gynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol cyntaf yn
ôl ym mis Medi 2009, ac fe gyflawnodd yr awdurdodau lleol
amrywiaeth o gynlluniau gwerth cyfanswm o £3.047 miliwn yn ystod
2010/11, blwyddyn gyntaf Rhaglen Gyfalaf y Cynllun Trafnidiaeth
Rhanbarthol. Eleni rydym yn darparu amrywiaeth o brosiectau
trafnidiaeth gwerth cyfanswm o £4.5 miliwn.
Cyhoeddodd Carl Sargeant AC, y Gweinidog Llywodraeth Leol a
Chymunedau, flaenoriaethau’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol gan
roi pwys-lais ar ysgogi twf economaidd i Gymru. Mae a wnelo’r
Cynllun Cenedlaethol a Chynlluniau Rhanbarthol y consortia
trafnidiaeth â gweithredu Strategaeth Drafnidiaeth Cymru (2009).
Gwnaeth y Gweinidog ei gyhoeddiad yn sgil adolygiad o’r Cynllun
Cenedlaethol gwreiddiol a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2010. Ymddengys
bod Rhaglen y Cynllun Cenedlaethol newydd yn gymysgedd o gyllid
Cyfalaf a Refeniw. Gofynnwyd i TraCC, ynghyd â’r tri chonsortiwm
arall yng Nghymru, gyflwyno rhestr o faterion trafnidiaeth y dylid
rhoi blaenoriaeth iddynt yn y rhaglen tair blynedd. Gofynnwyd i ni
hefyd nodi blaenoriaethau rhanbarthol nad oedd eisoes yn y Cynllun
Cenedlaethol. Gwelwyd y byddai yno gy-fle i ddisodli
blaenoriaethau’r Cynllun Cened-laethol gyda’r blaenoriaethau
rhanbarthol pe byddent yn dangos mwy o werth am arian.
Hefyd, gwahoddwyd y Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol i
gyflwyno rhestr o’r ‘Pump Uchaf’ o blith y cynlluniau
rhanbarthol.
Cafwyd rhywfaint o newyddion da i ganolbarth Cymru gyda’r
cyhoeddiad bod gwaith yn debygol o fynd rhagddo ar ffordd osgoi’r
Drenewydd, ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi’r bwriad i ’benodi
contractwyr ar gyfer yr A483 yn Y Drenewydd yn 2012/13’.
Ar y llaw arall, nid oedd yr arolwg yn cynnwys tri o gynlluniau
‘Pump Uchaf’ TraCC — A486 Post Bach i Synod Inn, A487 Llanrhystud i
Aberystwyth ac A487 Pont Dyfi. Mynegwyd pryder hefyd am na
chyhoeddwyd dyddiad ar gyfer dechrau’r gwa-sanaeth bob awr rhwng
Aberystwyth ac Am-wythig, a disgrifiwyd y prosiect fel ‘ymrwymiad
parhaus’. Bydd TraCC yn cyflwyno tystiolaeth (hynny yw, ei sylwadau
ynghylch y cyhoeddiad ynglŷn â’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol)
i Bwyllgor Busnes a Menter Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis
Chwefror.
Llywodraeth Cymru’n Rhoi Blaenoriaeth i’r Cynllun
Trafnidiaeth!
Am ragor o wybodaeth ewch i:
wales.gov.uk/newsroom/transport/?lang=cy Map y Cynllun
Trafnidiaeth:
wales.gov.uk/docs/det/publications/100329ntpmapcy.pdf
-
Cyngor Sir Ceredigion County Council Cyngor Gwynedd Council
Cyngor Sir Powys County Council
Rhifyn 2 Issue 2 Rhifyn 2 Issue 2
Gaeaf 2012 Winter 2012
Cynllun Cyflawni Drafft TraCC Roedd hi’n ofynnol i TraCC, ynghyd
â’r tri Chonsortiwm Trafnidiaeth Rhanbarthol arall, lunio drafft o
Gynllun Cyflawni a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 23 Tachwedd
2011. Lluniwyd drafft o’r Cynllun cyflawni heb wybod faint o gyllid
y byddai Llywodraeth Cymru’n ei ddarparu i TraCC a’r tri awdurdod
lleol sy’n aelodau. Serch hynny, mae’r cynnwys yn seiliedig ar
drafodaethau a gafwyd â swyddogion Llywodraeth Cymru, a’r Rhaglen
Bum Mlynedd a gymeradwywyd gan Fwrdd TraCC. Yn ogystal â rhai
prosiectau newydd, ceir cyllid yn y Cynllun Cyflawni drafft i
gyflawni elfennau o’r prosiectau presennol hynny a fydd yn cymryd
mwy nag un flwyddyn ariannol i’w cwblhau – megis Porth Cludiant
Teithwyr Aberystwyth ac adnewyddu’r ffordd a’r rheilffordd ar Bont
Briwet. Mae’r Cynllun drafft yn cynnwys Rhaglen Pum Mlynedd Grant
Cyfalaf y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol fel y’i cymeradwywyd gan
Fwrdd TraCC (14 Hydref 2011). Mae hefyd yn pennu’r rhaglenni
cyllido arfaethedig ar gyfer gwariant cymeradwy drwy grantiau
eraill y Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol, gan gynnwys:
Grant Refeniw’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (Grant Craidd y
Consortiwm); Grant Cyfalaf Rhanbarthol ar gyfer Diogelwch y Ffyrdd;
Grant Refeniw Rhanbarthol ar gyfer Diogelwch y Ffyrdd; Grant
Cyfalaf y Ganolfan Trafnidiaeth Cynaliadwy; a Grant Refeniw’r
Ganolfan Trafnidiaeth Cynaliadwy (Cydlynu’r Cynllun Teithio
Rhanbarthol).
Ar ôl cael adborth ffurfiol ac arwydd o’r dosraniad cyllid ar
gyfer y tair ffrwd cyllid grant, bydd yn ofynnol i TraCC ddiwygio
ei gynigion a’u cynnwys mewn Cynllun Cyflawni terfynol i’w gyflwyno
ar 10 Chwefror.
Porth Aberystwyth ar y gweill
Cynllun Cyflawni drafft TraCC ar y we:
http://www.tracc.gov.uk/index.php?id=100&L=1
Mae’r gwaith wedi dechrau ar ‘Borth’ Cludiant Teithwyr
Aberystwyth. Bydd y cynllun £2.5 miliwn yn gwella’r ardal a’r
cyfleusterau yng nghyffiniau’r orsaf reilffordd, y safle bysus a’r
safle tacsis, ac yn darparu cyfleusterau cyffredinol i gerddwyr ar
hyd Ffordd Alexandra (A487T). Dyma gynllun pwysig sy’n rhan o
strategaeth ehangach i adfywio Aberystwyth, ac yn benodol i
ddar-paru gwell mynediad at gyfleusterau o ansawdd uwch, a chreu
lle gwell i bobl aros i ddefnyddio cludiant cyhoeddus yn y dref.
Mae’r prosiect yn rhan o strategaeth gyffredinol i wella
cyfleusterau cludiant teithwyr ar hyd a lled y rhanbarth er mwyn
annog mwy o bobl i deithio mewn ffordd fwy cy-naliadwy yn
amgylcheddol. Clustnodwyd y prosiect yn gyntaf yng Nghynllun
Trafnidiaeth Rhanbar-thol TraCC, ac mae’n un o brosiectau blaenllaw
TraCC a Chyngor Sir Ceredigion. Cyflawnir y prosiect gam wrth gam
er mwyn peidio â tharfu â Ffordd Alexandra, ac mae prosiect ategol
i wella Gorsaf Reilffordd Aberystwyth yn cael ei ddatblygu ar hyn o
bryd. Bwriedir cwblhau’r gwaith ar y ‘Porth’ erbyn Haf 2012.
Gallwch weld cynllun y Porth a rhagor o fanylion drwy fynd
i:
www.ceredigion.gov.uk/index.cfm?articleid=17605
-
Cyngor Sir Ceredigion County Council Cyngor Gwynedd Council
Cyngor Sir Powys County Council
Rhifyn 2 Issue 2 Rhifyn 2 Issue 2
Gaeaf 2012 Winter 2012
Po
rth
Ab
erys
twyt
h -
ar
y g
wei
ll
-
Cyngor Sir Ceredigion County Council Cyngor Gwynedd Council
Cyngor Sir Powys County Council
Rhifyn 2 Issue 2 Rhifyn 2 Issue 2
Gaeaf 2012 Winter 2012
Bwcabus yn mynd o nerth i nerth!
Bwcabus yw’r bws hygyrch sy’n cludo pobl ar alw yn ne Ceredigion
a gogledd Sir Gâr. Caiff y gwasanaeth ei deilwra yn ôl anghenion y
teith-wyr, sy’n ffonio i archebu teithiau ymlaen llaw. Darperir y
gwasanaeth rhwng 07:00 a 19:00 o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.
Ehangwyd ardal Bwcabus ym mis Rhagfyr 2011 i alluogi pobl i deithio
o amgylch y trefi a’r pentrefi lleol a chysylltu â’r bysus sy’n
mynd i Aberaeron, Aberystwyth, Aberteifi, Caerfyrddin, Llanbedr
Pont Steffan, Llandysul, Pencader a Chastellnewydd Emlyn. Nod
Bwcabus yw gwella mynediad i wasanaethau allweddol mewn cymunedau
gwledig, gan gynnwys teithio i chwilio am waith a mynd i dderbyn
gofal iechyd. Ceir lloriau isel ar y bysus i’w gwneud yn haws esgyn
arnynt, ac mae lle i goetsis cadair a chadeiriau olwyn.
Mae’r prosiect yn ffrwyth partneriaeth lwyddiannus rhwng
cynghorau sir Ceredigion a Sir Gâr, Traveline Cymru, Llywodraeth
Cymru, Prifysgol Morgannwg a chwmnïau bysus. Si-crhawyd cyllid gan
Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru i ddarparu’r
system chwyldroadol hon ar gyfer cludiant cefn gwlad. Bydd TraCC yn
cynnal y prosiect eleni drwy ddarparu cyllid o Grant Cyfalaf y
Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol i brynu cerbydau newydd cwbl
hygyrch ac ehan-gu’r gwasanaeth. Bwriedir gwneud cais am gyl-lid ar
gyfer gwella llefydd aros ac integreiddio â mathau eraill o
gludiant cyhoeddus a phreifat drwy greu cyfnewidfeydd/canolfannau
cludiant yng Ngheredigion.
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Bwcabus www.bwcabus.info neu
ffoniwch 01239 801 601
-
Deiseb yn galw am Well Cludiant Cyhoeddus yng Ngheredigion
Cyngor Sir Ceredigion County Council Cyngor Gwynedd Council
Cyngor Sir Powys County Council
Rhifyn 2 Issue 2 Rhifyn 2 Issue 2
Gaeaf 2012 Winter 2012
Cynllunio Teithio
Mae TraCC a chyrff eraill wedi cael gwybod am ddeiseb newydd a
gyflwynwyd i Bwyllgor Deise-bau’r Cynulliad. Geiriad y ddeiseb
(P-04-345) yw: ‘Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i
annog Llywodraeth Cymru i adfer a/neu wella’r cysylltiadau trên a
bws rhwng Caerfyrd-din yn sir Gaerfyrddin ac Aberystwyth yn sir
Ceredigion.’ Ar ôl derbyn llythyr oddi wrth Glerc y Pwyllgor
Deisebau, manteisiodd TraCC ar y cyfle i ymateb yn ysgrifenedig i’r
Ddeiseb, gan nodi pwysigrwydd Aberystwyth yn y rhanbarth a’r angen
i wella’r cysylltiadau cludiant cyhoeddus, nid yn unig i
Gaerfyrddin ond hefyd i lefydd eraill yng Nghymru a’r Deyrnas
Gyfunol. Nid yw TraCC o’r farn bod adnewyddu’r hen reilffordd rhwng
Aberystwyth a Chaerfyrddin yn flaenoriaeth i’r rhanbarth ar hyn o
bryd. Byddai hynny’n debygol o fod yn ddrud, a byddai’n ddoethach
rhoi blaenoriaeth i fuddsoddi mewn
gwella ansawdd cludiant cyhoeddus ar y ffyrdd a’i wneud yn fwy
hygyrch. Yn hytrach nag ailagor yr hen reilffordd rhwng Aberystwyth
a Chaerfyrddin, mae TraCC am annog Llywodraeth Cymru i fuddsoddi
mewn gwell gwasanaethau i deithwyr ar y rheilffordd sydd eisoes yn
bod yn y Canolbarth - yn enwedig felly drwy gyllido’r ‘ymrwymiad
parhaus’ yn y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol i sefydlu
gwasanaeth bob awr rhwng Aberystwyth ac Amwythig.
Apêl: Gwell cludiant cyhoeddus yng Ngheredigion
Yn yr un modd â’r consortia eraill, mae TraCC wrthi’n cyflwyno’r
Gwobrau Cynllunio Teithio yn y rhanbarth. Ceir pedair lefel (efydd,
arian, aur a phlatinwm) i gyd-nabod arfer gorau a rhagoriaeth mewn
cynllunio teithio. Mae’r cynllun yn agored i bob sefydliad yn y
sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, a datbly-giadau newydd
lle mae tystiolaeth amlwg fod yno ym-roddiad i gynllunio teithio.
Gall TraCC gynnig Hyfforddiant Teithio Call i sefydliadau a
grwpiau, gan ddangos sut a phryd i ddefnyddio dulliau teithio
cynaliadwy yn yr ardal (cludiant cyhoeddus, rhannu car a llwybrau
beicio). Darperir y Gwobrau Cynllunio Teithio a’r Hyf-forddiant
Teithio Call yn rhad ac am ddim.
Mae TraCC hefyd yn gweithio gyda Chroeso Cymru ar brosiect
Canolfan Ragoriaeth Eryri. Nod y prosiect yw hybu twristiaeth
gynaliadwy yn yr ar-dal drwy gynorthwyo trigolion ac ymwelwyr fel
ei gilydd i deithio’n gynaliadwy, a hefyd i wella eu hiechyd ac
elwa ar yr amgylchedd naturiol.
Rydym hefyd yn gweithio ar well pecyn adnoddau a fydd yn ei
gwneud yn haws i bobl ddatblygu Cynlluniau Teithio. Bydd modd i
bawb ddefnyddio’r adnoddau hyn, a byddwn hefyd yn dal i ymweld â
grwpiau i roi cyngor ar gynllunio teithio.
Mae paratoadau ar droed i TraCC gymryd rhan mewn digwyddiad fel
rhan o daith y Fflam Olym-paidd drwy’r rhanbarth. Bydd y Fflam yn
dod heibio ar 27 - 28 a 30 Mai, bydd rhagor o fanylion yn dilyn yn
fuan ar y wefan.
I gael gwybod mwy am sut fedr TraCC gynorthwyo â chynllunio
teithio, ewch i:
http://www.tracc.gov.uk/index.php?id=96&L=0
-
Cyngor Sir Ceredigion County Council Cyngor Gwynedd Council
Cyngor Sir Powys County Council
Rhifyn 2 Issue 2 Rhifyn 2 Issue 2
Gaeaf 2012 Winter 2012
Ymateb TraCC i Arolwg Simpson Dros yr hydref a’r gaeaf
cynhaliwyd sawl cyfarfod rhwng Aelodau ac uwch swyddogion yr
awdur-dodau lleol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, swyddogion
Llywodraeth Cymru a Carl Sergeant AC, y Gweinidog Llywodraeth Leol
a Chymunedau (sy’n gyfrifol am gludiant) i drafod cynlluniau i
wella cydweithio (gweithio mewn partneriaeth) rhwng awdurdodau
lleol a Llywodraeth Cymru. Daeth hynny yn sgil cyhoeddi Arolwg
Simp-son, sydd â’r nod yn y pen draw o sicrhau gwelliant o ran
rheoli a darparu gwasanaethau cyhoed-dus yng Nghymru, a cheir
cyfeiriad penodol at brif-fyrdd a gwasanaethau trafnidiaeth. Credir
bod y pedwar Consortiwm Trafnidiaeth Rhanbarthol yn enghreifftiau
da o’r ffordd y dylai pethau weithio yn wirfoddol heb fod angen
ad-drefnu llywodraeth leol. Gwahoddwyd y Consortia i gyflwyno
cynigion ar gyfer rhannu gwaith a gwella’r trefniadau cydweithio er
mwyn sicrhau arbedion effeithlonrwydd. Ysgrifennodd TraCC at y
Gweini-dog ym mis Hydref i ddatgan ei gefnogaeth i eg-wyddorion
Arolwg Simpson ac i amlygu’r gwaith da sydd eisoes yn digwydd yn y
Canolbarth. Mae’r tri awdurdod lleol wedi dod i drefniant
gwirfoddol ar gyfer cydweithio, gyda threfn gadarn ar gyfer
penderfynu dan reolaeth cytundeb cyfreithiol gry-mus. Gyda hyn
mae TraCC wedi gosod y safon yn y Canolbarth a throsglwyddo’n
esmwyth o fod yn gorff a oedd yn bennaf gyfrifol am lunio
polisi/strategaeth trafnidiaeth rhanbarthol (hynny yw, y Cynllun
Traf-nidiaeth Rhanbarthol) i fod yn bartneriaeth sy’n rheoli
rhaglenni cyllido rhanbarthol yn effeithiol. Gel-lid gwneud mwy
fyth pe bai TraCC a’r awdurdodau lleol yn cael rhagor o adnoddau.
Mae TraCC wedi bod yn gwneud gwaith da ers sawl blwyddyn bellach,
ac mae’r ymdrechion yn dwyn ffrwyth mewn meysydd newydd – cludiant
teithwyr a diogelwch ar y ffordd, er enghraifft. Caf-wyd ymateb
oddi wrth y Gweinidog, ac roedd yn falch o weld y cynnydd yn y
Canolbarth, sy’n cynn-wys cynlluniau i gydweithio’n rhanbarthol yng
nghyswllt rheoli gwastraff, peirianneg ac ymgyng-hori, a ffurfio
asiantaeth i reoli rhwydwaith Cefnffyrdd y Canolbarth ar ran
Llywodraeth Cymru. Serch hynny, nid da lle gellir gwell, ac ni
fyddwn yn gorffwys ar ein bri! Ceir Compact (cytundeb) yn awr rhwng
Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ar gyfer cyflawni’r
newidiadau sy’n ofynnol o fewn amser cytûn.
Mae’r gwaith i wella’r A487 yng Nglandyfi yn mynd rhagddo. Mae’r
cynllun £10 miliwn yn cynnwys gwella a lledu 1.3 cilometr o’r
ffordd i gydymffurfio â’r safo-nau cyfredol, yn ogystal â darparu
cy-fleusterau i gerddwyr a beicwyr. Bu swyddogion TraCC a’r
awdurdodau lleol yn ymweld â’r safle ym mis Tach-wedd i fwrw golwg
ar gynnydd y cynllun, a gychwynnodd ym mis Mawrth 2011 ac a ddylai
gael ei gwblhau yn ddiwedda-rach eleni.
Gwella’r A487 yng Nglandyfi
Gwaith yn mynd rhagddo ar yr A487 yng Nglandyfi.
Am ragor o wybodaeth am Arolwg Simpson ewch i:
http://www.wlga.gov.uk/cymraeg/simpson-report-local-regional-national/
http://www.wlga.gov.uk/cymraeg/simpson-report-local-regional-national/
-
Cyngor Sir Ceredigion County Council Cyngor Gwynedd Council
Cyngor Sir Powys County Council
Rhifyn 2 Issue 2 Rhifyn 2 Issue 2
Gaeaf 2012 Winter 2012
Ar 8 Rhagfyr agorwyd ffordd osgoi newydd ar yr A470 rhwng
Cwmbach a’r Bontnewydd ar Wy gan Carl Sargeant AC, y Gweinidog
Llywodraeth Leol a Chymunedau. Mae’r ffordd newydd yn 5.7 cilomedr
o hyd ac wedi costio £51 miliwn, ac nid oes arni’r troeon llym na’r
pontydd isel a nodweddai’r hen ffordd. Hefyd, ceir rhagor o lefydd
i oddiweddyd yn ddiogel. Daw’r datblygiad calonogol hwn yn sgil
agor ffordd osgoi Llandysilio ym mis Gorffennaf 2011.
Ffordd osgoi rhwng Cwmbach a’r Bontnewydd ar Wy
Y ffordd osgoi newydd rhwng Cwmbach a’r Bontnewydd ar Wy
Dweud eich dweud…
Beth yw’ch barn chi ynglŷn â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o
ran y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol? Beth yn eich tyb chi yw’r
materion pwysicaf o ran trafnidiaeth yng nghanolbarth Cymru?
Os oes gennych unrhyw sylwadau neu syniadau am drafnidiaeth a
theithio yng nghanolbarth Cymru, hoffem glywed oddi wrthych.
Sut i gysylltu â TraCC
Cyfeiriad: Canolfan Rheidol Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr,
Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UE.
Ffôn: 01970 633431 E-bost: [email protected]
mailto:[email protected]