Danfon a chasglu AM DDIM! NEU gallwch gasglu o’n swyddfa - T ˆ y Ffrwdwyllt, Heol Commercial, Tai-bach, Port Talbot SA13 1PZ Oriau Agor: Dydd Llun – dydd Gwener: 9.00am - 4.30pm (ar gau ar wyliau banc) I gyflwyno archeb: 01639 873004 [email protected] www.playworksnpt.co.uk /Playworks Playworks_npt Beth yw Benthyca a Chwarae? Ydy’ch plant yn syrffedu ar chwarae gyda’r un pethau gartref? ● Mae Benthyca a Chwarae’n wasanaeth adnoddau chwarae AM DDIM i deuluoedd sy’n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot – yn debyg i’ch llyfrgell leol. ● Cynilwch eich ceiniogau a benthycwch o’n hamrywiaeth eang o gyfarpar chwarae i helpu i annog eich plant i ddysgu a datblygu sgiliau bywyd hanfodol. ● Benthycwch gyfarpar chwarae o ddwy thema o gyfarpar chwarae ar y tro ac, ar ôl i chi orffen chwarae gyda nhw, cewch eu cyfnewid am rywbeth arall! Sut mae’n gweithio? ● Cofrestrwch i ddefnyddio’r gwasanaeth Benthyca a Chwarae AM DDIM. ● Dywedwch wrthym ba themâu yr hoffech eu harchwilio gyda’ch plentyn/ plant. Gallwch wneud cais am fag ar-lein, trwy e-bost neu dros y ffôn. ● Byddwn ni’n creu bag pwrpasol i ddiwallu’ch anghenion. ● Trefnwch i ni ddanfon pecyn atoch chi am ddim neu gallwch ei gasglu. ● Ar ôl i chi orffen cael hwyl, cysylltwch â ni i drefnu casgliad am ddim. ● Archebwch eich bag nesaf i beidio â cholli’r cyfle. Pa themâu sydd ar gael? Creadigol…creu hwyl a mynegi eu hunain. Gallech fenthyca offerynnau cerdd, eitemau synhwyraidd, cyfarpar a deunyddiau coginio, offer creadigol, torwyr a mowldiau. Archwilio…archwilio’r awyr agored a’r byd o’u cwmpas. Gallech fenthyca offer garddio, teclynnau gweld trychfilod, rhwydi pysgota, chwyddwydr, synwyryddion metel, offer tywod/d ˆ wr. Dychmygus…defnyddio’u dychymyg i chwarae. Gallech fenthyca pypedau, gwisg ffansi, eitemau chwarae rôl, twnnel a phebyll, setiau adeiladu. Symudiad…byddwch yn actif a symudwch. Gallech fenthyca cyfarpar chwaraeon, cyfarpar sgiliau syrcas, parasiwtiau, gynnau d ˆ wr. Gemau…rhannwch, cymerwch dro a rhyngweithiwch ag eraill. Gallech fenthyca dominos, gemau bwrdd, gemau targed, nadroedd ac ysgolion llawr enfawr a Twister. Ychydig yn ychwanegol…mae gennym adnoddau mwy ar gael hefyd i gynorthwyo’ch plentyn i chwarae, megis (hyd at ddau): ● Kerplunk enfawr ● Bowlio ewyn ● Jenga enfawr ● Connect 4 enfawr ● Robot rhaglenadwy Bee Bot ● Blociau ewyn enfawr ● Blociau lego enfawr ● Theatr pypedau Peiriant Bathodynnau…datblygwch ochr greadigol eich plentyn trwy fenthyca’n peiriant bathodynnau am gyn lleied â £5 am 50 a dewis o’r canlynol: ● Bathodynnau pin neu glip ● Cylchau allweddi ● Fframiau lluniau ● Magnedau Penigamp ar gyfer partïon plant, digwyddiadau neu weithgaredd teulu, gyda chofroddion i’w cadw. Am fwy o ysbrydoliaeth, ewch i’n gwefan ac edrychwch trwy’n Catalog Benthyca a Chwarae. Sut mae cofrestru? Llenwch y ffurflen isod a’i hanfon yn ôl atom: RHADBOST RRGS-YTBK-UKGA, Datblygu Chwarae, Port Talbot SA13 1PZ Ar-lein yn www.playworksnpt.co.uk Ffoniwch y swyddfa ar 01639 873004 Ffurflen Gofrestru Benthyca a Chwarae: Enw cyswllt Cyfeiriad Côd post Rhif ffôn gartref Rhif ffôn symudol E-bost Ble gawsoch chi’r daflen hon? Nifer y plant Oed plentyn 1 Oed plentyn 2 Oed plentyn 3 n Ticiwch yma os na hoffech gael cylchlythyr misol Benthyca a Chwarae trwy e-bost. ✃