Meaningful Chocolate 2015
Adnoddau Adfent
Rydyn ni wedi cydweithio hefo’r ‘Meaningful Chocolate Company’ i
greu adnoddau ar gyfer cyfnod yr Adfent a’r Nadolig.
Dilynwch y ddolen YMA weld mwy ‘r adnoddau ar wefan ‘The Real
Advent Calendar’ ac i lawrlwytho’r Ppts.
Gwasanaeth 4:
Syched am fywyd
CA3-4
NODIADAU
I gyd-fynd â’r cyflwyniad PowerPoint
Bwriad
I helpu plant i sylweddoli beth mae pobl mewn gwledydd eraill yn
gorfod yfed, ac i’w hannog nhw i gael ‘syched am fywyd’.
Mae’r nodiadau yn sôn am:
· brawf blasu
· yr angen am ddŵr yn ein byd
· ystyried be mae pobl eraill yn yfed (esiampl Funzi a Bodo)**
Dilynwch y ddolen am wasanaeth/gwybodaeth am Funzi a Bodo – Y
Calendr Adfent
· ystyr ‘syched am fywyd’
· esbonio fod gan rai syched mewnol – cwestiynau am ystyr
bywyd
· Y Nadolig yn gyfle i feddwl am rai o’r cwestiynau am ystyr
bywyd.
Adnoddau:
PowerPoint
Nodiadau am yr hanes, pwyntiau i feddwl amdanynt/myfyrio
Taflen sgorio ar gyfer y gêm (gwybodaeth isod)
Mae’r gwasanaeth angen mewnbwn/cyfraniad gan ddisgyblion/plant
ymlaen llaw – darllenwch ‘Paratoi’ isod
Paratoi
Ar gyfer y Prawf Blasu byddwch angen
•5 potel sydd yn union yr un peth wedi eu labelu A, B, C, D,
E
•Potel o Volvic
•Potel o Vittel
•Potel o Perrier
•Potel o ddŵr tap
•Halen
•Cwpanau papur
•Gwirfoddolwyr (!)
•Taflen sgorio (gweler Adnoddau)
•Gwirfoddolwr i gasglu’r daflen sgorio ac i adrodd yn ôl .
•Clwtyn/Cadach i lanhau! Mae rhywun yn sicr o boeri allan y dŵr
halen.
Gwagiwch y 3 potel ddŵr siop i’r poteli sydd wedi eu labelu A,
B, C. Rhowch ddŵr tap mewn un potel, a dŵr tap hallt iawn yn y 5ed
potel i gynrychioli’r math o ddŵr afiach mae miliynau o bobl yn
wynebu o ddydd i ddydd.
Sicrhewch fod ganddoch chi ddigon o gwpanau papur a
gwirfoddolwyr. Rhowch daflen sgorio i’r gwirfoddolwyr.
(Os ydych chi am ddefnyddio dŵr Cymreig yna fe fydd raid i chi
addasu’r Ppt a chasglu gwybodaeth ychwanegol – mae croeso i chi
wneud hyn).
Technegol:
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â’r cyflwyniad cyn ei
ddefnyddio. Gwnewch unrhyw newidiadau sydd eu hangen ar gyfer eich
ysgol/ ardal/eglwys/capel. Arial neu Helvetica ydy’r ffontiau sy’n
cael eu defnyddio.
Mae cyfle i chi osod enw eich ysgol/capel/eglwys/clwb ar y sleid
gyntaf ynghyd ag unrhyw ddatganiad neu arwyddair.
NODIADAU
Yn ddiweddar mae arbrofion wedi eu cynnal i ddarganfod os ydy
pobl yn gallu gwahaniaethu rhwng y gwahanol boteli o ddŵr sy’n cael
eu gwerthu mewn siopau a dŵr tap.
Yn aml mae gan ddŵr ychydig o fwynau ynddo am fod y dŵr yn llifo
dros greigiau. Faint o bobl dych chi’n meddwl sy’n gallu
gwahaniaethu rhwng dŵr tap a dŵr sydd wedi ei brynu mewn siop?
Heddiw rydyn ni am arbrofi. Yma mae gen i 5 potel o ddŵr. 3 sydd
wedi cael eu prynu o siop sef (enwch y 3). Hefyd, dŵr tap a dŵr o
ffynnon yn Kenya.
Dyma fwy o wybodaeth i’ch helpu chi.
Yn gyntaf Volvic. Dŵr o Ffrainc. Mae’r dŵr yn dod o fasn ym
Mharc Rhanbarthol llosgfynyddoedd yr Auvergne, sydd ynghwsg ers
10,000 o flynyddoedd. Darganfuwyd Ffynnon Clairvic yn 1927 ac mae’r
tymheredd yn aros yn 8.8 gradd Celsius drwy’r flwyddyn.
Yn ail, dŵr tap – o’r tap agosaf a mwyaf cyfleus sef………
Yn drydydd, dŵr Perrier – sy’n cael ei werth mewn poteli
adnabyddus. Maen nhw’n dweud eu bod wedi eu seilio ar ‘juggling
clubs’ o India! Mae’r dŵr yma hefyd o Ffrainc ac yn llawn
mwynau.
Yn bedwerydd, dŵr o ffynnon yn Kenya! Na, dim go iawn! Ond rydyn
ni wedi ail-greu’r blas mewn ffordd sy’n iachus a glân. Rydyn ni’n
meddwl y byddwch chi’n gallu ’nabod hwn!
Yn bumed ac olaf -Vittel, dŵr swyddogol y Tour de France. Mae
yna ffynnon ym Mynyddoedd Vosges yng Ngogledd Ddwyrain Ffrainc sy’n
llifo drwy greigiau tanddaearol enfawr ac yn llawn o galsiwm,
magnesiwm a sylffitau.
[Eich gwirfoddolwyr i flasu’r dŵr a llenwi’r daflen sgorio.]
Yn sicr dych chi wedi gweld pobl yn blasu gwin - be am roi
cyfarwyddiadau i’ch plant/gwirfoddolwyr ar sut i flasu dŵr!
Wedi’r blasu esboniwch bydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi yn
nes ymlaen.
Beth mae pobl eraill yn yfed?
Dw i’n credu bod rhai wedi ’nabod y dŵr oedd yn blasu o halen.
Roedden ni eisiau i chi sylweddoli pa fath o ddŵr mae rhai pobl yn
gorfod yfed. Ar ynys brydferth Funzi, lleoliad poblogaidd i
dwristiaid yn Kenya, mae pentrefi Funzi a Bodo yn defnyddio tyllau
yn y ddaear i godi dŵr sydd gyda gormod o halen ynddo. Mae’r
lefelau o halen yn y dŵr yn afiach. Yn anffodus mae’r pentrefwyr yn
codi’r dŵr gyda phwcedi budr sydd hefyd yn achosi salwch.
Tra rydyn ni’n mwynhau yfed dŵr o’r tap sy’n ddiogel a glân,
neu’n gallu prynu hynny o dŵr rydyn ni eisiau o siop mae yna
filiynau o bobl sydd angen help i gael dŵr glân. Maen nhw angen
help i adeiladu tanciau i gasglu dŵr glaw ac i osod ffynnhonau
newydd sy’n defnyddio pympiau.
Syniad i godi arian!
Beth am greu ‘Lleoliad yfed’ sy’n paratoi diodydd yn ystod yr
awr ginio er mwyn codi arian at elusen sy’n gweithio i ddarparu dŵr
glân?
Syched am fywyd
Ydych chi gyfarwydd â’r dywediad ‘Syched am fywyd’ / ‘Thirst for
Life’? Rydyn ni’n credu ei fod yn meddwl fod pobl eisiau profi
popeth mewn bywyd - maen nhw’n sychedu am wybodaeth, am brofiadau,
am deithio….Maen nhw eisiau gweld a gwneud popeth. Mae ganddyn nhw
awydd dwfn i brofi’r gorau sydd gan fywyd i’w gynnig.
Mae’r Nadolig yn amser da i feddwl am, ac i weithredu ar, y
dywediad ‘Syched am fywyd’. Sut?
Ydych chi’n teimlo fod y Nadolig wedi mynd yn rhy fasnachol
gyda’r pwyslais ar ‘brynu, prynu, prynu’? Mae nwyddau Nadolig yn y
siopau ers diwedd Awst, ac erbyn Tachwedd 1af mae’r siopau o dan eu
sang. Mae’r Nadolig yn cychwyn yn gynt bob blwyddyn. Yn Saesneg
maen nhw’n ei alw’n ‘Christmas creep!’
Meddwl
Ynom ni i gyd mae yna awydd am ystyr, am ryfeddod ac am
ddirgelwch – mae’r Nadolig yn amser arbennig i feddwl am hynny. Os
dych chi’n teimlo fod yna rywbeth ar goll yn eich bywyd yna ewch i
chwilio amdano. I rai mae gwasanaeth y Nadolig mewn eglwys neu
gapel yn brofiad hudolus a sbesial. Mae neges y Nadolig yn gallu
ein cyffwrdd gyda’r hyn sy’n ddirgel ac yn rhyfeddol.
Iesu Grist oedd y baban yn stori’r Nadolig. Dysgodd Iesu y
byddai pob un ohonon ni yn sychedu am wir ystyr i fywyd. Dwedodd
Iesu, (Ioan 4:14), “….bydd dim syched byth ar y rhai sy'n yfed y
dŵr dw i'n ei roi. Yn wir, bydd y dŵr dw i'n ei roi yn troi'n
ffynnon o ddŵr y tu mewn iddyn nhw, fel ffrwd yn llifo i fywyd
tragwyddol.”
Mae’n debyg ein bod ni i gyd yn meddwl pethau gwahanol am Iesu,
ond ei enedigaeth ef sy’n cael ei ddathlu ar draws y byd adeg y
Nadolig. Beth bynnag dych chi’n feddwl am Iesu, dw i’n annog chi i
gyd i gael ‘syched am fywyd’.
Gweddïwn:
Ein Tad,
Helpa ni i dyfu i fyny yn gofyn cwestiynau,
Ac i fwynhau dysgu.
Helpa ni i feddwl am syniadau newydd a
helpa ni i gael ‘syched am fywyd’.
Helpa ni i brofi’r pleser o wybod beth yw gwir lawenydd.
Helpa ni i gofio am Iesu yn ystod cyfnod y Nadolig. Amen
Canlyniadau’r prawf blasu
Ac i orffen, dyma ganlyniadau’r prawf blasu… (cyhoeddwch y
canlyniadau!)
8 o 8CA3-4 Syched am fywyd