-
1 Y Cylchgrawn Daearyddol
AmgylcheddRhewlifol
gan Angharad harris
Tra bod 12% o arwyneb y ddaear yn cael ei ystyried yn
‘rhewlifol’ – dan rew yn barhaol – mae canran llawer iawn uwch wedi
gweld rhew parhaol ar ffurf llenni iâ neu rewlifau dyffryn yn y
gorffennol. Mae ambell ardal yn parhau ar ffin fregus rhwng y ddau
amgylchedd.
Mae olion rhewlifiant yn amlwg ar draws Cymru – o gopa’r Wyddfa
gyda’i gribau a’i gymoedd trawiadol i lawr i’r traethau a’r sarnau
ar hyd arfordir Ceredigion. Boed yr ardal yn ôlrewlifol, neu yn
rhewlifol, mae’r amgylchedd yn cynnig cyfleoedd i bobl. Ond mae’r
amgylchedd hefyd yn cyfyngu ar weithgaredd pobl.
Ym Mhrydain mae’r mwyafrif o ardaloedd sy’n dangos olion
rhewlifol, sef yr ucheldiroedd yn bennaf, yn Barciau Cenedlaethol
(PC). Rhoddwyd y label PC ar y rhain er mwyn l gwarchod a gwella
prydferthwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol l
cynnig cyfleoedd i hamddena a mynediad i gefn gwlad.
Mae amcanion Parciau Cenedlaethol, a’r ffaith bod cymaint o
ucheldir ôlrewlifol yn y Deyrnas Unedig wedi eu dynodi fel PC, yn
arwydd bodl angen eu gwarchod rhag difrodl bywyd gwyllt arbennig yn
yr ardaloedd yma l pobl wedi eu denu i’r amgylcheddau yma ers
canrifoedd maith gan y cyfleoedd maent yn eu cynnig – ni fyddai yna
dreftadaeth ddiwylliannol i’w gwarchod fel arall.
Gallwch ddilyn ôl-troed Darwin, a’i athro daearegol Adam
Sedgwick, yng Nghwm Idwal ar lwybr sydd wedi ei gynnal i safon
uchel i ddysgu am rewlifiant yn Eryri, neu gallwch gerdded
llwybrau amlwg i gopa Pen y Fan ac astudio sut y ffurfiwyd y
cymoedd i’r de a’r gogledd o Fannau Brycheiniog gan rew, a’r
cyfleoedd a ddeilliodd o erydiad rhewlifol yn gwbl glir yn y fan
honno.
Ond mae yna un Parc Cenedlaethol yn y DU sy’n profi tywydd
mynydd eithafol, yn cynnwys gaeafau hir o eira neu dywydd
gwlyb.
Roedd yr ardal yma, hyd at 2009, gyda darnau parhaol o eira ar
lawr, sef ardal Parc Cenedlaethol y Cairngorms (Ùghdarras Pàirc
Nàiseanta a’ Mhonaidh Ruaidh) yn yr Alban. Y mynyddoedd hyn, sy’n
dangos arwyddion rhewlifiant amlwg, yw’r ardal fwyaf â nodwedion
‘arctig’ yn y DU. Mae ar y ffin hinsoddol rhwng un sydd â darnau
bychain o eira parhaol ac un sydd heb eira. Dyma ardal sgïo fwyaf y
DU ac un o ddwy ardal (Glencoe yw’r llall) ble mae timau o bobl
wedi ymroddi i geisio lleihau’r peryglon a nifer y marwolaethau o
eirlithrad – SAIS (SportScotland Avalanche Information
Service).
Ardaloedd ôlrewlifol Ardaloedd rhewlifol
Eryri Alpau
Bannau Brycheiniog Himalaya
Ardal y Llynnoedd Andes
Cairngorms Rockies
Loch Lomond
-
2 Y Cylchgrawn Daearyddol
Amgylchedd Rhewlifol
Pam fod yr amgylchedd yma yn bwysig?Mae’r cyfleoedd sydd wedi
deillio o’r amgylchedd yn bwysig i’r economi heddiw. Mae canran
uwch yn gweithio mewn amaethyddiaeth, hela a physgota (5.7%) yn y
Parc nag sy’n gweithio yn yr Alban ar gyfartaledd (2.1%), tra bod y
nifer sy’n gweithio mewn gwestai a bwytai yn sylweddol uwch (19.4%
o’i gymharu â 5.7% i’r Alban gyfan).
coedwigaeth a rheolaeth tirWrth i’r rhew adael y dyffrynnoedd
eang a’r ucheldir noeth, datblygodd ecosystem montane ar yr
ucheldiroedd. Sefydlodd coed bedw, helyg a merywen (juniper) yno ac
yna daeth
pinwydden yr Alban (Scots Pine) gan greu’r goedwig Galedonaidd
yn y dyffrynnoedd. Bu cryn ymelwa ar y goedwig Galedonaidd ac
allforiwyd coed ohoni ers yr 17eg ganrif. Y ffordd gyflymaf o gael
coed allan oedd trwy eu harnofio i lawr yr afon Spey. Dim ond 20%
o’r goedwig wreiddiol sydd ar ôl heddiw. Er bod adfywiad naturiol
yn digwydd i’r coed o had, oherwydd gorbori, ni ddatblygodd yn
goedwig, felly daeth y cyflenwad o goed yn brin. Er mwyn sicrhau
parhad i’r dyfodol, dechreuwyd plannu coed pîn yn yr ardal. Rhwng
1947 ac 1988 cynyddodd ardal y goedwig yma 90% gan drawsfeddiannu
ardaloedd o orgors (blanket mire/bog). Oherwydd bod tir yn cael ei
ddraenio trwy ffosydd, newidiodd mwy fyth o’r orgors yn laswelltir
gwael. Ble mae pori yn digwydd yn ddwys, nid yw’r goedwig naturiol
yn cael cyfle i adnewyddu.
Parc cenedlaethol y cairngorms
Rhai ffeithiauArwynebedd: 3,800 km2 (mae ymgynghoriad ar y
gweill i weld os bydd yn cynyddu mewn maint gan gwmpasu’r ardal i
lawr am Blair Athol) Poblogaeth: 61,000 (Eryri: 1324 km2,
poblogaeth: 25,482)10% o’r tir dros 800m; 68% o’r tir dros 400m 80%
o’r economi yn ddibynnol ar dwristiaeth25% o dirwedd y Parc yn cael
ei warchod dan safonau cadwriaethol Ewrop Gwynt cryfaf a
recordiwyd: 173 mya Tymheredd isaf a recordiwyd: -27.2°C Dyodiad
blynyddol: 2000 mmArdal yn cynnwys gweddillion coedwig bîn
‘Caledonia’ – olion y Tundra yn y DUMae’r wiwer goch yn fwy niferus
yma na’r wiwer lwyd
-
3 Y Cylchgrawn Daearyddol
Amgylchedd Rhewlifol
Strategaeth Rheoli’r goedwigMae Strategaeth Coedwigaeth yr
Alban, ynghyd â Strategaeth Bioamrywiaeth yr Alban yn annog plannu
coed cynhenid, er lles yr amgylchedd a’r economi lleol. Mae hyn yn
cael ei wneud trwy gydweithio â’r stadau mawrion. Caiff ei wneud yn
haws gan fod ardaloedd eang o dir wedi eu trawsfeddiannu gan
gymdeithasau ac ymddiriedolaethau yn ddiweddar. Mae PAWS (Planted
Ancient Woodland Sites) – sef ardaloedd ble bu unwaith goedwigoedd
hynafol – bellach yn cael eu adfer hefyd fel rhan o strategaethau’r
Alban. Yn raddol mae coed pîn y planhigfeydd yn cael eu clirio, a
choed cynhenid yn cael eu hadu yno. Fodd bynnag, mae’r gwaith yn
sensitif. Gormod o goed a bydd y diwydiant hela ceirw a grugieir yn
dioddef, a bydd incwm rhai o’r stadau mawrion yn lleihau. Mae’n
rhaid dibynnu ar y stadau yma i wneud peth o’r gwaith cadwraeth
amgylcheddol ac felly mae’n rhaid trefnu lle i ailblannu yn ofalus
iawn. Yng nghoedwigoedd Glenmore, mae’r Scottish Forest Alliance
wedi gweithio ar gynyddu nifer y grugieir du yn yr ardal trwy wneud
y ffensys carw yn amlycach. Cyfrifwyd 28 o grugieir du yno o fewn 6
mlynedd o gychwyn y gwaith, dwywaith cymaint ag oedd yno cyn
hynny.
Amgylchedd montane Uwchlaw 600m mae tirwedd arctig fwyaf y DU.
Mae’r tir yn uchel, agored, gydag eira dan draed yn aml ac mae’r
pridd yn wael. Mae’r amgylchedd bregus yma dan bwysau oherwydd
gorbori a sathru gan bobl.
Nid effeithiau pori gan ddefaid sydd yma yn bennaf, ond pori gan
geirw. Mae lefelau llystyfiant yn isel ble mae’r pori yn ddwys, ac
mae llwyddiant adnewyddu coedwigoedd cynhenid yn isel. Mae rhai
pobl yn teimlo y byddai cynyddu nifer yr ymwelwyr i’r ardal yn
golygu y byddai’r ceirw yn symud yn amlach ac yn pori yn llai dwys.
Fodd bynnag, symud y broblem i ardal arall mae hyn yn debygol o’i
wneud. Mae pori gan ddefaid yn ddwys mewn ambell fan ble mae’r tir
yn fwy ffrwythlon. Byddai bugeilio’r defaid yn lleihau’r broblem,
ond yn cynyddu costau i’r tirfeddianwyr. Mae’r gorbori hefyd yn
cael effaith ar adar sy’n nythu ar lawr, gyda hyd at 10% o gywion
yr hutan (dotterel) yn cael eu lladd gan sathru.
Mae sathru gan bobl o amgylch copa Cairn Gorm a Ben Macdui hefyd
yn achosi’r amgylchedd montane yma i ddirywio, ac mae llwybrau
amlwg yn dechrau amlygu eu hunain oherwydd erydiad. Er bod rhai
llwybrau yn cael eu hadnewyddu yng Nghymru, nid oes penderfyniad
wedi ei wneud eto os oes angen llwybrau mor bendant ar yr
ucheldiroedd agored yma. Mae’r ffaith bod llwybrau beicio wedi eu
gosod yn yr iseldir i gynyddu nifer yr ymwelwyr haf hefyd yn cael
effaith yma, gyda beiciau yn cael eu gweld ar yr ucheldiroedd.
Mae’r ‘Rangers’ yn ceisio cael defnyddwyr i
ymddwyn mewn modd cyfrifol ar y mynyddoedd ac yn addysgu
defnyddwyr, tra bod rhai sydd yn cyflenwi gweithgareddau awyr
agored yn cael eu hannog i fynd am ‘Frand’ y Parc a’r ymroddiad
amgylcheddol sy’n cyd-fynd â hwnnw. Mae tirfeddianwyr yr Alban, fel
yng Nghymru, wedi darganfod y beic cwad, ac mae hwn yn creithio’r
tir, yn enwedig pan mae’r tywydd yn wlyb, ac mae llygredd
cyffredinol gan bobl i’w weld yn broblem ym mhobman.
Mae llygredd o fath anghyffredin yn cael effaith yma fodd
bynnag.
Copa Cairn Gorm ym mis Chwefror
Clytwaith tirwedd dyffryn Glenmore
-
4 Y Cylchgrawn Daearyddol
Poo ProjectYn ystod y gaeaf pan mae’r ddaear wedi rhewi, neu pan
fydd gorchudd o eira ar lawr, mae gwastraff dynol yn creu problem
yn yr ucheldiroedd. Gyda phobl allan trwy’r dydd, ac yn gynyddol
dros nos, gan fod creu ogofâu eira yn boblogaidd, mae’r broblem
‘poo’, ar gynnydd. Byddai’r rhai sydd yn gwersylla’n wyllt fel
arfer yn ei gladdu yn y ddaear, ond nid yw hyn yn bosibl yn yr
amgylchedd ‘arctig’ yma. Er bod pobl yn ei gladdu ar y pryd, wrth
i’r eira ddadmer, mae’r gwastraff yn dod i’r wyneb, yn drewi, yn
sail afiechydon, yn newid natur y pridd ac felly’r planhigion sydd
yno ac yn llygru afonydd. Ers 2007, rhoddir potiau a bagiau allan
am ddim i’r rhai sydd am ddefnyddio’r ardal dros nos. Wedi
dychwelyd, mae man penodol wrth droed y mynydd sydd yn delio â’r
gwastraff mewn modd addas … ac wedi eu golchi a’u diheintio, mae’n
bosibl ailddefnyddio’r potiau. Hyd yma mae’r mynyddwyr cydwybodol
yn ddigon parod i gydweithio.
Mae strategaeth Mynediad Awyr Agored Parc Cenedlaethol y
Cairngorms yn strategaeth bum mlynedd i geisio lleihau a datrys
unrhyw broblemau. Nid yw wedi cyrraedd terfyn ei oes eto, ac felly
amser a ddengys os bydd yn llwyddiant. Fodd bynnag mae sail
gynaliadwy iddo – rhwydwaith o lwybrau wedi eu cysylltu gyda
thrafniadiaeth gyhoeddus yn deillio o’r gymuned leol, fel y bydd
plant yn gallu beicio i’r ysgol, ac ymwelwyr yn gallu teithio heb
geir. Mae rhwydwaith llwybrau craidd sydd yn cael eu datblygu yn
llwyddo yn barod i gael pobl i ffwrdd o’u ceir, ac ymhellach o’u
ceir mewn ardaloedd fel Loch Morlin, tra hefyd yn cynnig cyfleoedd
i’r anabl a beicwyr.
effaith ymwelwyrMae 80% o economi lleol y Cairngorms yn deillio
o dwristiaeth, ac mae hyn i gyd oherwydd bod yr ardal unwaith yn un
rewlifol. Mae’r dyffrynoedd a’r mynyddoedd, gyda’u gaeafau oer,
gwlyb neu dan eira, a’u hafau cynnes – yn denu ymwelwyr trwy’r
flwyddyn. Mae hyn yn ei dro yn cynnig cyflogaeth i bobl leol ac yn
eu cadw yn yr ardal a thrwy hyn yn cynnal a gwarchod yr amgylchedd
fel y bydd yn parhau i gynnig cyflogaeth yn y dyfodol – cydbwysedd
bregus iawn mewn hinsawdd fynyddig newidiol.
Mae dros 1000 o gwmnïau twristiaeth yn bodoli yn yr ardal, ac
mae 5,200 o swyddi yn ddibynnol ar dwristiaeth. Yn 2006 gwariwyd
£179 miliwn gan ymwelwyr i’r ardal. Mae gwahaniaeth yn bodoli rhwng
twristiaeth yng Ngogledd Orllewin PC y Cairngorms – ardal Aviemore
– a dwyrain y Parc Cenedlaethol – ardal Deeside. Caeodd rheilffordd
y dwyrain yn yr 1960au, felly mae’n rhaid teithio i mewn dros
ffordd uchaf y DU – Glenshee – os yn teithio o’r de.
l Mae’r priffyrdd a’r rheilffyrdd yn dilyn llwybrau dyffrynnoedd
rhewlifol yr ardal, gyda’r A9 yn rhedeg i’r gorllewin a’r A93 tua’r
dwyrain. Mae’r ardal yn hawdd i’w chyrraedd felly o ardaloedd
poblog lleol – Inverness yn y gogledd, Aberdeen i’r dwyrain a
Chaeredin a Glasgow i’r de, a gan ymwelwyr tramor. Er hyn, mae rhan
helaeth o ardal canol y PC yn gwbl ddigyffrwdd gan ffyrdd. Mae 44%
o’r rhai sy’n dod i’r ardal am wyliau byr yn dod o’r Alban. Dim ond
15% o’r ymwelwyr sy’n dramorwyr.
l Ar gyfer sgïo neu fynydda, gall pobl o’r DU ymweld heb orfod
dangos pasport na chyfnewid arian am Ewros – ac mae’n rhatach dal
trên yma nac ydyw i hedfan i Ewrop. Amcangyfrifir bod £100 y dydd
yn cael ei wario gan bob sgïwr i’r ardal (data visit Scotland).
l Gallwch ddal trên hyd at uchder o 1097m a sgïo lawr, neu
mwynhau’r golygfeydd o Fwyty’r Ptarmigan, nepell uwchlaw gorsaf y
rheilffordd halio (funicular), heb yr ymdrech o gerdded i’r copa.
Mae’r rheilffordd yn teithio bron iawn trwy’r flwyddyn ac ond ar
gau yn ystod tywydd eithafol.
Mae’r holl ymwelwyr angen lleoedd i aros a lleoedd i wario eu
harian ymhellach. Mae pentref fel Aviemore yn llawn gwestai, bwytai
a siopau i ddenu’r ymwelwyr trwy’r flwyddyn i wario eu harian.
Rhaid cael isadeiledd da i gynnal hyn, a systemau yn eu lle i
ddelio â gwastraff yr ymwelwyr. Ond mae’r ymwelwyr yma yn gallu
cael cryn effaith ar yr amgylchedd maent yn dod i’w weld.
Ers 2003 mae Strategaeth Twrisitaeth Gynaliadwy Parc
Cenedlaethol y Cairngorms wedi ymrwymo i 9 nod:1 Rheoli’r
amgylchedd er mwyn sicrhau safon amgylcheddol
uchel i ardal y Parc2 Gweithio gyadg eraill – fel bod pawb sydd
ynghlwm â
thwristiaeth yn deall y strategaeth ac yn ymrwymo iddo3
Marchnata a chodi ymwybyddiaeth o’r ardal ar gyfer
twristiaeth trwy’r flwyddyn
Amgylchedd Rhewlifol
Loch Morlin
-
5 Y Cylchgrawn Daearyddol
4 Sicrhau bod cyfleoedd i bawb gael gwybod am nodweddion
arbennig yr ardal, a bod yr hyn sydd i’w gynnig yn cael ei
hyrwyddo
5 Gwella ansawdd yr ymweliad, a’r croeso i bawb6 Cynnig
cyfleoedd i bobl gael gwerthfawrogi a mwynhau’r
ardal arbennig7 Cryfhau dichonoldeb (viability) y diwydiant
ymwelwyr8 Rheoli ymwelwyr gan geisio ymledu eu heffaith ar draws
y
Parc Cenedlaethol9 Ymrwymo’r cymunedau wrth gynllunio a datblygu
twristiaeth
yn yr ardal.
I gyd-fynd â hyn, mae gan y Cairngorms ei ‘frand’ ei hun. Logo
unigryw gwalch y pysgod a’i bysgodyn, gydag enw’r ardal yn glir
arno, ond logo sydd yn wahanol i un Awdurdod y Parc
Cenedlaethol.
Rhoddir y ‘brand’ i fusnesau sydd yn cynnig ansawdd a rheolaeth
amgylcheddol gadarnhaol. Rhaid i fusnesau wneud cais i ddefnyddio’r
brand a chaiff ei ddynodi gan grŵp rheoli sydd yn cynnwys aelodau
o’r Parc Cenedlaethol, aelodau o siambr fusnes y Cairngorms a
Chymdeithas Cynghorau Cymuned yr ardal.
Er mwyn defnyddio’r brand mae’n rhaid i’r busnesaul fod yn
aelodau o ‘visit Scotland’l fod â, neu anelu at gael gwobr efydd
cynllun Twristiaeth
Werdd l os yn cynnig bwyd, rhaid i’r bwyd fod yn lleol ac o
ansawdd dal os yn cynnig gweithgareddau awyr agored, rhaid i 70%
o’r
gweithgareddau ddigwydd o fewn y Parc, rhaid eu bod wedi arwyddo
cod ymddygiad ‘Cairngorms outdoor’ a chyflwyno polisi amgylcheddol
iddynt.
Mae modd i fusnesau gael cwrs am ddim hefyd er mwyn gwella
ansawdd y gwasanaeth a gynigir i ymwelwyr, a thrwy hyn geisio
sicrhau y byddan nhw’n dychwelyd.
Ifanc iawn yw’r Parc Cenedlaethol, a’r brand hyd yma, ac er bod
camau bras wedi eu gwneud ers ei sefydlu i greu brand unigryw, mae
nifer yr ymwelwyr sydd wedi eu denu i’r ardal yn gallu creu
problemau. Trwy ymrwymo i’r cynllun twristiaeth gynaliadwy a thrwy
gael y cymunedau yn rhan annatod o weithdrefn y Parc Cenedlaethol,
gobeithir taclo problemau ail garterfi. Trwy gael twristiaeth
trwy’r flwyddyn, a gwaith cadwriaethol yn yr ardal gobeithir y bydd
lleihad yn nifer y bobl ifanc sy’n gadael yr ardal i chwilio am
swyddi a thai fforddiadwy.
gwarchodaeth a pheryglon naturiol – ‘The long walk in’ Hyd at yr
1960au, roedd ardal Mynydd Cairn Gorm yn cael ei warchod gan natur
– nid oedd ffordd yn arwain ato, ac felly roedd y daith gerdded hir
i’w gyrraedd, cyn dechrau ei ddringo yn cadw niferoedd yr ymwelwyr
i lawr. Ers adeiladu’r ffordd i’w waleod yn yr 1960au, ac yna’r
trên halio (funicular) bron i’w gopa, mae nifer y defnyddwyr ac
felly’r pwysau ar yr amgylchedd wedi cynyddu.
Ptarmigan – adeilad mynydd y cairn gormCewch fynediad i’r mynydd
yn y gaeaf trwy’r adeilad, a dyna ffordd mae’r holl sgïwyr yn
cyrraedd y mynydd. Yn yr haf, caiff eich ymweliad ei gyfyngu i’r
ardal gyfagos yn unig. Mae hyn i atal erydiad o’r copa a’r
amgylchedd montane bregus sydd yn amgylchedd pwysig i’r Ptarmigan
ei hun. Dim ond trwy rym dwy droed y cewch fentro ar y copa fel
arall yn yr haf.
Peryglon naturMae tirlithriadau yn yr haf, yn bennaf oherwydd
dŵr ffo a gorbori, ac eirlithradau yn y gaeaf yn gallu creu
problemau teithio. Heb gysylltiadau, ni all cynnyrch yr ardal
adael, ac ni all ymwelwyr gyrraedd. Hyd yn oed os oes trwch o eira
wedi disgyn, nid yw o ddefnydd economaidd os na all pobl ei
gyrraedd i’w fwynhau.Mae eirlithradau yn arwain at farwolaethau ar
y mynyddoedd yn flynyddol. Caiff y rhai sy’n mentro allan ar
ddyddiau mynydda alpinaidd declyn trawsatebwr eirlithrad (avalanche
transponder)
Amgylchedd Rhewlifol
Creithiau ar y tirlun – edrych lawr am waelod y Cairn Gorm
Adeilad y Ptarmigan a llethrau sgïo Cairn Gorm
-
6 Y Cylchgrawn Daearyddol
Amgylchedd Rhewlifol
sy’n anfon signal o’ch lleoliad os cewch eich dal mewn llif
eira. Cynigir darlithoedd hefyd i’r rhai sy’n frwdfrydig i ddysgu
sut i adnabod ardaloedd all gael eu heffeithio gan eirlithrad. Pan
gaiff pobl eu hanafu neu eu lladd gan eirlithrad y tebygolrwydd yw
mai pobl sydd wedi cychwyn y llif yn y lle cyntaf. Mae’r broblem yn
digwydd pan fydd trwch o eira newydd yn disgyn ar hen eira sydd
wedi rhewi, neu pan fydd eira o wahanol fath wedi disgyn ar ben ei
gilydd mewn haenau e.e. eira sych fel powdr ar ben eira gwlyb. Mae
ongl y llethr hefyd yn bwysig. Gall yr ardal ddioddef o eirlithrad
arwyneb, ble mae’r haen uchaf o eira yn llithro lawr y llethr, neu
gellir gweld eirlithrad dwfn o eira a rhew, pan mae’r llethr i gyd
yn syrthio gan amlygu craig oddi tano fel arfer.
Newid hinsawddYn 2009, gwnaeth y darn eira parhaol ger Lochaber
yn An Garbh Choire ddadmer. Roedd wedi bodoli ers cyn cof, a gydag
ardaloedd eraill o rew parhaol yn cysgodi’r planhigion oddi tano
rhag eithafon y tywydd. Pan fyddai’r eira olaf yn dadmer yn
flynyddol, roedd yr ardaloedd yma fel ardaloedd ynysig o liw gyda
phlanhigion alpinaidd fel mwsoglau amrywiol, saxifrage a llus
(blaeberry yn yr Alban) yn ffynnu. Mae’r eira parhaol hefyd yn
bwysig i grugiar yr Alban (ptarmigan) sydd â chuddliw (camouflage)
gwyn yn y gaeaf, er mai brown ydyw yn yr haf, bras yr eira (snow
bunting), hutan (dotterel) a’r ysgyfarnog mynydd. Heb eira, ni fydd
cuddliw’r rhain yn gweithio, byddent yn amlycach i lwynogod ac
eryrod, a bydd eu perthynas â’u cynefin ar ben a’r bioamrywiaeth yn
dioddef. Os bydd yr ardal yn cynhesu, bydd gwybed bach (midges) yn
dod yn fwy o broblem – hyd yma dim ond cyrion deheuol yr ardal sy’n
cael eu heffeithio yn ddrwg. Bydd y ceirw yn symud i bori’n uwch ar
yr ucheldir os bydd y gwybed bach yn eu poeni yn ormodol, a bydd
hyn yn rhoi pwysau pori ar blanhigion bregus yr ucheldir. Bydd
drogod, na gafodd eu
lladd yn y tywydd oer, yn creu problemau i dda sy’n pori’r tir
ac o ganlyniad yn peri problem i bobl.
Nid y rhywogaethau fydd yr unig rai i orfod newid eu ffyrdd yn
gyflym – bydd angen i’r busnesau twristiaeth newid hefyd – dim sgïo
yn y gaeaf ac felly arallgyfeirio fydd ei angen yma. Ydy’r ardal yn
gallu delio gyda mwy o ymwelwyr haf? Mae natur eu gweithgareddau yn
fwy ymwthiol ar yr amgylchedd ac yn gadael ei ôl yn hirach. Gobaith
y Parc Cenedlaethol a’u strategaethau yw y byddent yn gallu
gwarchod yr hyn sydd yma a diogelu’r ardal i’r cymunedau lleol trwy
ymledu cyfnod y diwydiant ymwelwyr, a chreu amgylchedd llai bregus
i ddelio â nhw i’r dyfodol.
llyfryddiaethThe Nature of the Cairngorms, gol. Philip Shaw a
Des Thompson (SNH, 2006).The Natural Heritage of the Cairngorm
Massif; Working together for its Future; Scottish ExecutiveThe
Forests of the Cairngorms; Cairngorms National Park; Forest and
Woodland Frameworke © CNPA 2008. Enjoying the Cairngorms;
Cairngorms National Park Outdoor Access Strategy 2007-2012
Cyhoeddwyd gan Cairngorms National Park Authority
gwefannau defnyddiolhttp://www.snh.org.uk/ Scottish Natural
Heritage – gan gynnwys y Cairngorms Learning
Zonewww.visitaviemore.comwww.cairngormmountain.co.ukwww.sais.gov.ukwww.scotland.gov.uk
Ardaloedd sgïo Mynydd Cairn Gorm
CORONATION WALL
SLIOS A ' CHRÙNAIDHCOIRE CAS
AN COIRE CAS
COIRE NA CISTE
HEAD WALLA’ CHUITHE CHROM
(CROOKED SNOW WREATH)
£
SHEILINGMID STATION
DAY LODGE & FUNICULARBASE STATION
AN LOIDSE
PTARMIGANSTATION
STÈISEAN ANTARMACHAIN
SSHIRE
£
1
2
4
5
6
9
10
12
3
8
11
WHITE LADY
A’ BHAINTIGH
EARNA BHÀN
M1 RACE PISTE
CEÀRN RÈISE M1
TRAVERSEAN TRASTAN
ZIG ZAGSGEARRADH IS BUAIN
ZIG ZAGSGEARRADH IS BUAIN
GUNB
ARRE
L
CLAI
S A'
GHUN
NA
LADY LUCKFORTAN NA CAILLICH
EAST WALL OF LADY
SLIOS SEAR NA BAINTIGHEARNA BÀINE
M2
CISTE FA
IRWAY
RAON N
A CISTE
SSC HUTBOTHAN SSC
BURN
SIDE
TAOB
H AN
UILL
T
THE SLOT
AN SLOCHD
EAST WALL
AN SLIOS SEAR
NO 1
GULLY
CLAIS
1
NO 2
GULLY
CLAIS
2
WES
T WAL
L
AN S
LIOS
SIA
RRY
VOAN
RUIG
H A
' BH
OTH
AIN
BYNACK
BAIDHNE
AG
DAY LODGE PISTE
CEÀRN-SGITHIDH AN LOIDSE
OVER
YOND
ER
THAL
L AN
SIN
FIACAILL TRAVERSETRASTAN NA FIACLA
FIAC
AILL
RID
GE
FIA
CAIL
L A'
CH
OIRE
CH
AIS
SIDE SLO
PE
LEACAN
N NA F
IACLA
FIACAILL PISTE
CEÀRN-SGITH
IDH NA FIACLA
HOME
ROAD
AN RA
THAD
DHACH
AIGH
105
COIRE
CAS
AN C
OIRE
CAS
CAR PARKSPARCADH
TO COIRE NA CISTE OVER FLOW CAR PARKSGU PÀIRCEAN A BHARRACHD
COIRE NA CISTE
UNMARKED UNPISTEDCEÀRN-SGITHIDH NEO-CHOMHARRAICHTE
M1 CROSSOVERCEANGAL M1
PTARMIGAN BOWLCUACH AN TAR MACHAIN
UNMARKED UNPISTEDCEÀRN-SGITHIDH NEO-CHOMHARRAICHTE
UNMARKED UNPISTEDCEÀRN-SGITHIDH NEO-CHOMHARRAICHTE
CISTE
GULL
Y
CLAI
S NA
CIST
E
AONACH BOWLCUACH AN AONAICH
UNMARKED UNPISTEDCEÀRN-SGITHIDH NEO-CHOMHARRAICHTE
LOWER SLOPESSLIGHEAN ÌOSAL
4084 ft/
PROTECTED EUROPEAN SITESCEÀRNAN EORPACH DÌONAICHTE
TOILETSTAIGHEAN-BEAGA
TELEPHONESFÒNAICHEAN
CAFE BARCAFAIDH-BÀR
BUS STOPSTAD BUS
FIRST AIDCIAD-CHOBHAIR
TRAIN DOWNTRÈANA SÌOS
PTARMIGAN RESTAURANTTAIGH-BÌDH AN TARMACHAIN
SHOPBÙTH
VIEWING TERRACEBARRAID SEALLAIDH
SNOWSPORTS SCHOOLSGOIL SPÒRS-SNEACHDA
HIRE CENTREIONAD MÀIL
TICKETSTIOGAIDEAN
CAIRNGORM RANGER SERVICEFREICEADAN A'CHÙIRN GHUIRM
£
SS
HIRE
KEY TO FACILITIESCLÀR GHOIREASAN
40844 ft//AN CÀRN GORM
BLACK RUN (VERY DIFFICULT)SLIGHE DHUBH (ADHARTACH)
RED RUN (DIFFICULT)SLIGHE DHEARG (DOIRBH)
BLUE RUN (INTERMEDIATE)SLIGHE GHORM (MEADHANACH)
GREEN RUN (EASIER)SLIGHE UAINE (FURASTA)
FUNICULAR RAILWAYAN CÀBLACH
SKI TOWSTOBHAICHEAN-SGITHIDH
SKI PATROL BOUNDARYCRÌOCH CEÀRNN FREICEADAIN
UPLIFT NOT IN USEINNEALAN DÌOMHAIN
KEY TO RUN DIFFICULTYSLIGHEAN ÌREAN-DUILGHEADAIS
FUNICULAR RAILWAYAN CÀBLACH
CAR PARK T-BART-BÀR NA PÀIRC CARAICHEAN
FIACAILL RIDGE POMAPOMA NA F IACLA
SHEILING PLATTER POMAT-BÀR NA H-AIRIGH
COIRE CAS T-BART-BÀR A ' CHAIS
M1 POMAPOMA M1
COIRE NA CISTE T-BART-BÀR NA CISTE
POLAR EXPRESS POMAPOMA A’ PHOLAR EXPRESS
PTARMIGAN T-BART-BÀR AN TARMACHAIN
WEST WALL POMAPOMA AN T-SL IOSA SHIAR
DAY LODGE POMAPOMA AN LOIDSE
LIFTS AND TOWSUIDHEAMACHD TOGAIL
TERRAIN PARKPÀIRC TÌRE
SNOWSPORTS XSPÒRS-SNEACHDA X
KIDZ ZONECEÀRN CLOINNE
SLEDGE PARKPÀIRC SLAODAIN
1
2
3
4
5
6
8
9
10
11
12
www.cairngormmountain.org
PISTE MAPCLÀR SHLIGHEAN-SGITHIDH