-
Mae gan Gyngor Gwynedd weledigaeth i ddatblygu cyfundrefn addysg
gynradd fydd yn: “Cynnig addysg o’r ansawdd uchaf posibl fydd yn
rhoi'r profiadau, y sgiliau a’r hyder i blant y Sir a ’u galluogi i
ddatblygu i fod yn ddinasyddion dwyieithog, llwyddiannus a
chyflawn.” Cytunodd Cyngor Gwynedd yn Ebrill 2009 i dderbyn
strategaeth oedd yn nodi fod angen adolygu’r ddarpariaeth addysgol
gynradd ar draws y sir. Strategaeth Addysg Gynradd o’r Ansawdd
Gorau i Blant Gwynedd Roedd y strategaeth yn ganlyniad i gyfnod hir
o ystyried ac o drafod gan gynghorwyr. Wrth drafod, derbyniwyd
cyflwyniadau gan nifer o gyrff, gan gynnwys: - ESTYN - Llywodraeth
y Cynulliad - Cymdeithas yr Iaith Gymraeg - National Association
for Small Schools - Cynghrair Ysgolion a Chefnogwyr - Penaethiaid
yn cynrychioli ysgolion bach, canolig a mawr Gwynedd - Swyddogion
Cyngor Gwynedd, yn benodol swyddogion oedd yn arbenigo mewn
materion addysgol, cyllidol ac
adeiladau Cytunwyd y byddai angen adolygu un dalgylch ar y tro,
gan gychwyn yn yr ardaloedd hynny oedd yn achosi’r pryder mwyaf. Er
mwyn adnabod trefn y dalgylchoedd i’w hadolygu, lluniwyd rhestr o
feini prawf oedd yn ystyried:
- Maint dosbarthiadau - Y newid yn niferoedd disgyblion ers 1975
- Addasrwydd adeiladau ysgolion - Arweinyddiaeth ysgolion ac
anawsterau penodi penaethiaid - Canran disgyblion sy’n derbyn
addysg tu allan i’w dalgylch - Cost fesul disgybl - Llefydd
gweigion
Wrth ddilyn y meini prawf uchod, adnabuwyd dalgylch Berwyn fel
yr ail dalgylch i’w hadolygu. Mi fydd Panel Ymgynghorol Sirol yn
cynorthwyo’r Arweinydd Portffolio Addysg wrth iddi arwain
adolygiadau fesul dalgylch. Mae gan bob grŵp gwleidyddol ar y
Cyngor sedd ar y Panel Ymgynghorol Sirol er bod un aelod wedi
ymddiswyddo yn ystod Haf 2009. Panel Adolygu Dalgylch Y Berwyn
Sefydlwyd Panel Adolygu Dalgylch Y Berwyn yn ystod Tachwedd 2009.
Pwrpas y Panel Adolygu Dalgylch yw cynorthwyo’r Arweinydd
Portffolio Addysg, sef y Cynghorydd Liz Saville Roberts, wrth iddi
lunio cynigion penodol ar gyfer y dalgylch. Cam gyntaf sefydlu’r
Panel Adolygu Dalgylch oedd i gynrychiolwyr y Cyngor - sef y Cyng.
Liz Saville Roberts a chynrychiolydd y Panel Ymgynghorol Sirol,
Cyng. Siân Gwenllïan - ymweld â holl ysgolion cynradd y dalgylch ar
4 Tachwedd 2009. Bu cyfle iddynt gyfarfod â phenaethiaid a staff ac
i weld yr ysgolion. Y teimlad oedd i’r ymweliad fod yn fuddiol ac
yn adeiladol iawn. Cynhaliwyd cyfarfod gyntaf Panel Adolygu
Dalgylch Y Berwyn ar 4 Tachwedd 2009. Cytunwyd ar aelodaeth y
Panel, sef:
- Arweinydd Portffolio Addysg - Cynrychiolydd Panel Ymgynghorol
Sirol - Pennaeth, cadeirydd llywodraethwyr a rhiant lywodraethwr o
bob ysgol (cynradd ac uwchradd) yn y dalgylch - Y tri chynghorydd
lleol - Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd - Swyddogion eraill fel bo’n
addas. - Sylwebyddion
Adolygu Addysg Gynradd yn Nalgylch Y Berwyn
Newyddlen 1
-
Cytunwyd hefyd y dylid estyn gwahoddiad i gynrychiolwyr o
ysgolion cyfagos ar draws ffiniau cynghorau lleol, yn benodol:
- cynghorydd lleol Llangwm (Sir Conwy) - cynghorydd lleol Cynwyd
(Sir Ddinbych) - Cadeirydd Corff Llywodraethol Ysgol Llangwm
Derbyniodd y Panel nifer o bapurau yn ystod y cyfarfod cyntaf
fel sail i’r gwaith:
- cylch gorchwyl a briff i’r Panel - amserlen ar gyfer gwaith y
Panel - gohebiaeth gan Ysgol Y Berwyn ar gynlluniau posib i’w
hystyried
Yn ogystal, derbyniwyd papur ystadegol yn crynhoi’r sefyllfa yn
y dalgylch. Mae’r papur yn nodi gwybodaeth ar:
- lleoliad ysgolion y dalgylch - niferoedd disgyblion a’r
newidiadau ers 1975 a rhagolygon hyd at 2013 - capasiti ysgolion a
llefydd gweigion - sefyllfa penaethiaid ac anawsterau recriwtio -
maint dosbarthiadau - disgyblion all-dalgylch - dyraniadau ariannol
ysgolion - proffil ieithyddol ysgolion y dalgylch - addasrwydd
adeiladau - cyfleusterau ac adnoddau yn yr ysgolion - defnydd
cymunedol - disgyblion yn hawlio cinio am ddim
Mae’r ysgolion wedi cytuno i astudio’r wybodaeth ac i gynnig
addasiadau erbyn 13 Tachwedd 2009. Bydd y papur ystadegol wedyn yn
cael ei gymeradwyo gan y Panel yn ei gyfarfod nesaf. Cyfeiriwyd
hefyd at y cyd-destun statudol a chyfreithiol, yn bennaf at
Gylchlythyr 021/2009 Llywodraeth y Cynulliad ar Gynigion
Trefniadaeth Ysgolion. Hon fydd y ddogfen fydd yn sail i
ystyriaethau wrth ymgynghori ar gynigion. Yn sgil derbyn y
wybodaeth hon, gwnaethpwyd cais gan y Panel Adolygu Dalgylch am
wybodaeth bellach ar: - safonau’r ddarpariaeth addysgol gyfredol. -
effaith ar y gymuned - effaith newidiadau ar y Gymraeg - rhagolygon
cyllidol ysgolion
Er mwyn hyrwyddo’r drafodaeth, gwnaethpwyd cais hefyd i
swyddogion y Cyngor baratoi gwybodaeth ar ystod o fodelau posib o
ad-drefnu ysgolion y cylch erbyn y cyfarfod nesaf o’r Panel Adolygu
Dalgylch. Cytunwyd hefyd bod gan ysgolion ddiddordeb mewn gweld
ysgolion newydd a modelau o gydweithio mewn siroedd eraill. Bydd y
Cyngor yn ceisio trefnu ymweliad cyn y Nadolig. Ysgolion Unigol
Mae’r Cyngor yn awyddus y bydd staff, rhieni a disgyblion yn llawn
ymwybodol o’r trafodaethau sy’n digwydd o fewn y dalgylch.
Derbyniodd y Panel Adolygu Dalgylch awgrym y byddai’r Cyngor yn
paratoi newyddlen fer ar ddiwedd pob cyfarfod i grynhoi’r prif
faterion a drafodwyd. Rydym hefyd wedi cytuno i gynnal cyfarfodydd
ymhob ysgol unigol dan arweinyddiaeth John Blake, cyn swyddog
Addysg Ardal Meirionnydd a Gareth Williams, cyn Brif Weithredwr
CYNNAL. Mi fydd cyfle yma i staff dysgu a chymorth, llywodraethwyr
a rhieni gyfrannu at y drafodaeth ac i godi cwestiynau penodol.
Cynhelir y cyfarfodydd yn ystod yr wythnos sy’n cychwyn 11 Ionawr
2010. Byddwn hefyd yn sefydlu grŵp trafod i blant a phobl ifanc dan
arweinyddiaeth swyddogion arbenigol y Cyngor. Cynhelir y sesiwn hon
hefyd yn y flwyddyn newydd. Amserlen Rhagwelir y bydd o leiaf 2
gyfarfod pellach o’r Panel Adolygu Dalgylch ar 2 Rhagfyr 2009 a 21
Ionawr 2010.
-
Erbyn diwedd Ionawr 2010, bydd yr Arweinydd Portffolio Addysg yn
anelu i ddatblygu cynigion pendant ar gyfer dalgylch Y Berwyn fydd
yn mynd gerbron Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc Gwynedd
(Chwefror 2010), Bwrdd y Cyngor (Mawrth 2010) a’r Cyngor llawn. Y
bwriad yw cwblhau’r broses yng nghyfarfod y Cyngor llawn ar 6 Mai
2010. Mae’r amserlen o weithredu’r cynigion yn ddibynnol ar iddynt
dderbyn cefnogaeth y pwyllgorau uchod, ac ar union natur y
cynigion. Bydd y Cyngor yn darparu gwybodaeth bellach wrth i’r
broses symud yn ei blaen. Dyddiad y Cylchlythyr nesaf Bydd y
cylchlythyr nesaf yn cyrraedd eich ysgolion ar ôl cyfarfod nesaf
Panel Adolygu Dalgylch Y Berwyn ar 2 Rhagfyr 2009. Gwybodaeth
Bellach Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan y Cyngor neu drwy
gysylltu â’r Adran Addysg ar 01286 679 247 neu e-bost
[email protected]
-
Dyma’r ail mewn cyfres o newyddlenni i sylw staff ysgolion,
rhieni ac eraill sy’n amlinellu’r trafodaethau ar ad-drefnu
ysgolion dalgylch Y Berwyn. Cylchredwyd y newyddlen gyntaf ar ôl
cyfarfod cyntaf Panel Adolygu Dalgylch Y Berwyn ar 4 Tachwedd 2009.
Gan fod y Panel bellach wedi cyfarfod eto (ar 2 Rhagfyr 2009) mae’n
amserol cynnig diweddariad. Beth sydd wedi digwydd ers y
cylchlythyr diwethaf? Ymweliadau â siroedd eraill Ar gais y Panel
Adolygu Dalgylch, trefnwyd ymweliad â siroedd eraill i weld
ysgolion ac i drafod profiadau athrawon ac eraill o ad-drefnu
ysgolion. Aeth 5 o benaethiaid ysgolion y dalgylch ar yr ymweliad
ar 30 Tachwedd 2009 gyda swyddog o Adran Addysg y Cyngor. Ymwelwyd
ag Ysgol Arberth, sef ysgol newydd sbon ddwyieithog yn ne Sir
Benfro ar gyfer tua 300 o ddisgyblion. Aethpwyd ymlaen at Ysgol Y
Frenni yng Nghrymych, sef ysgol ar gyfer tua 170 o blant sydd yn
rhannu campws gydag Ysgol Uwchradd, canolfan hamdden, theatr a
sinema gymunedol, llyfrgell, canolfan addysg i oedolion, a
meithrinfa. Gorffennwyd yr ymweliad yn Ysgol Bro Siôn Cwilt yng
Ngheredigion fydd yn agor yn ystod Ionawr 2010. Bu’r ymweliad yn un
buddiol er mwyn dysgu gwersi gan ardaloedd eraill. Pwysleisiwyd
wrth adrodd yn ôl i’r Panel Adolygu Dalgylch ar 4 Rhagfyr 2009 nad
oedd unrhyw ragdybiaeth y byddai unrhyw un o’r esiamplau yn addas
ar gyfer y Berwyn. Cyfarfodydd gyda staff ysgolion unigol Un o brif
ymrwymiadau’r Cyngor wrth gychwyn ar y broses oedd sicrhau bod
staff, rhieni ac eraill yn rhan lawn o’r broses o ganfod y ffordd
ymlaen yn y cylch. Yn dilyn cais y Panel Adolygu Dalgylch,
gohiriwyd y cyfarfodydd hyn tan ar ôl cyfarfod nesaf y Panel
Adolygu Dalgylch ar 4 Chwefror 2010. Bydd swyddogion y Cyngor yn
cysylltu i drefnu cyfarfodydd gydag ysgolion unigol yn ystod
wythnos 8 Chwefror 2010. Ail gyfarfod Panel Adolygu Dalgylch Y
Berwyn, 2 Rhagfyr 2009 Rhoddwyd diweddariad ar ymweliadau ac
addasiadau i wybodaeth ystadegol ar ddechrau’r cyfarfod.
Cymeradwywyd y dadansoddiad ystadegol fel un cywir a chyflawn gan y
Panel cyfan. Cyflwynwyd gwybodaeth am sefyllfa gyllidol ysgolion y
cylch gan Reolwr Cyllid Addysg Cyngor Gwynedd. Aeth ymlaen i adrodd
ar ragolygon posib ar gyfer y 3 mlynedd nesaf. Seiliwyd yr rhain ar
ragolygon niferoedd disgyblion (a gytunwyd gan bob ysgol yn unigol)
ac arbedion tebygol y bydd angen i’r Cyngor wneud. Yn dilyn cais y
Panel yng nghyfarfod 4 Tachwedd 2009 i swyddogion baratoi
gwybodaeth am y math o fodelau amgen fyddai’n bosib, cyflwynwyd
papur yn amlinellu dros 40 o fodelau posib. Cytunwyd bod rhai yn
fwy synhwyrol nag eraill. Gofynnwyd i gynrychiolwyr ysgolion rannu
i grwpiau er mwyn trafod gan ofyn iddynt ymateb i’r modelau a
gynigiwyd ac i gynnig unrhyw fodelau amgen. Ar ddiwedd y cyfarfod,
cynigiwyd crynodeb gan DRJ o’r modelau y byddai angen i swyddogion
wneud gwaith pellach arnynt. Nodwyd fod cynrychiolwyr ysgolion wedi
cynnig yr isod:
• Ysgolion y dalgylch i gydweithio.
• Ysgolion Bro Tegid a Beuno Sant naill ai yn uno i greu Ysgol
Ardal newydd neu yn uno gydag ysgol Y Berwyn i greu Ysgol Gydol Oes
gydag ysgolion Bro Tryweryn, Ffridd y Llyn, O M Edwards a’r Parc yn
cydweithio.
Nodwyd fod y Pennaeth Addysg wedi amlinellu modelau pellach y
byddai’n ddyletswydd ar y Cyngor i’w hystyried, sef:
• Ysgolion Bro Tegid a Beuno Sant yn naill ai yn uno i greu
Ysgol Ardal newydd neu yn uno gydag ysgol Y Berwyn i greu Ysgol
Gydol Oes yn ogystal ag ysgol Y Parc yn cau â’r disgyblion yn
mynychu ysgol O M Edwards. Bro Tryweryn i gydweithio gyda Ffridd y
Llyn ac/neu yr ysgol newydd yn nhref Y Bala.
• Ysgol Bro Tryweryn yn uno ag ysgolion tref y Bala i wneud
cynllun Ysgol Ardal neu Ysgol Gydol Oes. Ysgolion O M Edwards, Y
Parc a Ffridd y Llyn i gydweithio â'i gilydd neu â’r ysgol newydd
yn nhref y Bala.
Trosodd…
Adolygu Addysg Gynradd yn Nalgylch Y Berwyn
Newyddlen 2
Atodiad 2.2
-
• Ysgol Bro Tryweryn yn uno ag ysgolion tref y Bala i wneud
cynllun Ysgol Ardal neu Ysgol Gydol Oes. Ysgol Y Parc i gau a’r
disgyblion i fynychu ysgol O M Edwards. Ysgolion O M Edwards a
Ffridd y Llyn i gydweithio gyda’r ysgol newydd yn nhref y Bala.
• Ysgolion cynradd y dalgylch i uno a chreu un Ysgol Ardal
newydd.
• Pob ysgol gynradd, ynghyd â’r uwchradd i uno i greu Ysgol
Gydol Oes newydd.
Dylid pwysleisio nad oes unrhyw benderfyniad wedi’i wneud hyd yn
hyn – sail i waith pellach yn unig sydd yma. Dyddiad y Cylchlythyr
nesaf Bydd y cylchlythyr nesaf yn cyrraedd eich ysgolion ar ôl
cyfarfod nesaf Panel Adolygu Dalgylch Y Berwyn ar 4 Chwefror 2010.
Gwybodaeth Bellach Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan y Cyngor
neu drwy gysylltu â’r Adran Addysg ar 01286 679 247 neu e-bost
[email protected]
-
Dyma’r drydedd mewn cyfres o newyddlenni i sylw staff ysgolion,
rhieni ac eraill sy’n amlinellu’r trafodaethau ar ad-drefnu
ysgolion dalgylch Y Berwyn. Cylchredwyd y newyddlen gyntaf ar ôl
cyfarfod cyntaf Panel Adolygu Dalgylch Y Berwyn yn Nhachwedd 2009
a’r ail ar ôl cyfarfod y Panel yn Rhagfyr 2009. Pwrpas y newyddlen
hon yw cynnig diweddariad ar drafodaethau yn ystod trydydd cyfarfod
y Panel Adolygu Dalgylch ym mis Chwefror 2010 ac i esbonio’r broses
o hyn allan. Beth sydd wedi digwydd ers y cylchlythyr diwethaf?
Trydydd cyfarfod Panel Adolygu Dalgylch Y Berwyn, 4 Chwefror 2009
Cynigion ar gyfer ad-drefnu ysgolion y dalgylch Cyflwynwyd
dadansoddiad o 7 o gynigion dalgylchol a gyflwynwyd gan
gynrychiolwyr ysgolion, cynghorwyr lleol a’r Adran Addysg. Bu
trafodaeth fuddiol ond ni chwblhawyd y dasg o ystyried yr opsiynau
yn ystod y cyfarfod. Bydd angen ail ymweld â’r eitem hon yn ystod
cyfarfod nesaf Panel Adolygu Dalgylch Y Berwyn. Cafwyd cyflwyniad
gan swyddog ar fodel o gymuned ddysgu gydol oes ar sail ymweliadau
ag ysgolion a safleoedd tebyg yng Nghymru a Lloegr. Nodwyd bod yna
fanteision i reolaeth gydlynus pan fo nifer o sefydliadau yn rhannu
safleoedd o ran cynnig mynediad at gyfleusterau ac arbenigeddau
staff. Rhannwyd i drafodaeth grŵp. Bu cefnogaeth gyffredinol mewn
egwyddor i’r syniad o dynnu ysgolion tref y Bala ynghyd ar un safle
gan ymchwilio ymhellach i’r posibiliadau o ddatblygu ysgol gydol
oes. Bu cefnogaeth bellach i sefydlu trefniadau o gydweithio ymysg
ysgolion gwledig Penllyn. Nid oedd cefnogaeth i’r modelau a
awgrymai gau yr ysgolion gwledig. Asesiad o effaith ieithyddol a
chymunedol ad-drefnu ysgolion Cyflwynwyd Dylan Bryn i’r Panel.
Cynghoriaeth Dylan Bryn fyddai’n cwblhau asesiad o effaith
ieithyddol a chymunedol y 7 model ar gyfer ad-drefnu ysgolion y
dalgylch oedd dan sylw. Nodwyd bod nifer o gamau i’r prosiect yn
nalgylch y Berwyn:
i) Arolwg trwy holiadur o ganfyddiad ysgolion y dalgylch o’r
sefyllfa ieithyddol a chymunedol ii) Arolwg o sefydliadau cymunedol
iii) Cyfarfod i gynrychiolwyr y dalgylch yn Ysgol Y Berwyn gyda’r
nos 16 Mawrth 2010
Dosberthir copïau o’r holiadur yn uniongyrchol i ysgolion a
sefydliadau cymunedol. Gellir hefyd lawrlwytho’r holiadur ar wefan
Cyngor Gwynedd neu trwy ffonio 01286 679247. Bydd yr Ymgynghorydd
yn adrodd yn ôl ar ganfyddiadau’r gwaith i gyfarfod nesaf y Panel
Adolygu Dalgylch ar 23 Mawrth 2010. Camau nesaf Cyfarfodydd gyda
staff ysgolion unigol Un o brif ymrwymiadau’r Cyngor wrth gychwyn
ar y broses oedd sicrhau bod staff, rhieni a llywodraethwyr yn rhan
lawn o’r broses o ganfod y ffordd ymlaen yn y cylch. Er mwyn gwneud
hynny, cynhelir cyfres o gyfarfodydd mewn ysgolion unigol er mwyn
clywed y diweddaraf am y trafodaethau ac i wrando ar gwestiynau neu
bryderon. Cynhelir y cyfarfodydd hyn rhwng diwedd Chwefror a chanol
Mawrth 2010. Mae manylion pellach am gyfarfodydd eich ysgol chi ar
gael gan eich pennaeth. Cyfarfod gyda phlant a phobl ifanc Mae’r
Cyngor yn awyddus i glywed barn plant a phobl ifanc y cylch am
ddyfodol addysg yr ardal. Bydd cyfarfod i gynrychiolwyr cyngor pob
ysgol yn y cylch – gan gynnwys yr ysgol uwchradd – ar 11 Mawrth
2010 yn Ysgol Uwchradd Y Berwyn. Bydd pennaeth eich ysgol yn trefnu
cynrychiolaeth o’r ysgol. Panel Adolygu Dalgylch Y Berwyn Bydd
Panel Adolygu Dalgylch Y Berwyn yn cyfarfod ddwywaith eto yn Ysgol
Uwchradd Y Berwyn. Cynhelir y cyfarfodydd nos Fawrth 23 Mawrth 2010
a nos Fawrth 30 Mawrth 2010. Yng nghyfarfod nos Fawrth 30 Mawrth
2010 bydd y Deilydd Portffolio Addysg yn cyflwyno ei hargymhelliad
ar gyfer y dalgylch. Trosodd…
Adolygu Addysg Gynradd yn Nalgylch Y Berwyn
Newyddlen 3
Atodiad 2.2
-
Cyhoeddi cynllun Dalgylch Y Berwyn Y bwriad yw cwblhau’r
trafodaethau yn nalgylch Y Berwyn erbyn 29 Mawrth 2010 a chyflwyno
argymhelliad y Deilydd Portffolio Addysg i Bwyllgor Craffu Plant a
Phobl Ifanc Cyngor Gwynedd ar 22 Ebrill 2010, i Fwrdd Y Cyngor ar
27 Ebrill 2010 ac yn i’r Cyngor Llawn ar 13 Mai 2010. Y cais fydd
yn mynd gerbron y cylch democrataidd fydd gofyn am ganiatâd i
gynnal cyfnod o ymgynghori ffurfiol ar y cynigion lle bo hynny’n
briodol. Gwybodaeth Bellach Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan y
Cyngor neu drwy gysylltu â’r Adran Addysg ar 01286 679 247 neu
e-bost [email protected]
-
NEWYDDLEN TREFNIADAETH YSGOLIONYSGOL Y PARC AC YSGOL OM
EDWARDS
Ysgol Y Parc
Ym mis Mawrth 2012 cyhoeddodd y Cyngor rybudd statudol i gau
Ysgol Y Parc, ac yn ddibynnol ar ddewis rhieni,symud y disgyblion i
Ysgol OM Edwards, Llanuwchllyn. Cymeradwywyd y cynnig yma gan y
Gweinidog Addysg aSgiliau. Bydd Ysgol Y Parc yn parhau ar agor tan
31 Awst 2013 ond o’r 1af Medi 2013 bydd Ysgol Y Parc yn cau abydd y
dalgylch yn dod yn rhan o ddalgylch Ysgol OM Edwards.
Bydd disgyblion sy’n mynychu Ysgol Y Parc ar hyn o bryd yn cael
cynnig lle yn Ysgol OM Edwards, Llanuwchllyn.Bydd y disgyblion yn
symud yn awtomatig felly ni fydd angen i rieni wneud cais am le. Os
bydd rhieni yndymuno i’w plant fynychu ysgol ar wahân i Ysgol OM
Edwards bydd angen iddynt gwneud cais mynediad wrthgysylltu â’r
ysgol hynny yn uniongyrchol neu ymweld â gwefan y
Cyngorwww.gwynedd.gov.uk/mynediadysgolion.
Bydd cludiant yn cael ei ddarparu yn unol â Polisi Cludiant y
Cyngor, bydd gwybodaeth am drefniadau penodolar gael yn nes at yr
amser.
Datblygu Ysgol OM Edwards, Llanuwchllyn
Fel rhan o gynllun ad-drefnu ysgolion dalgylch Y Berwyn, mae
buddsoddiad sylweddol gwerth £900,000 yn caelei wario yn Ysgol OM
Edwards. Bydd y gwaith yma yn cynnwys:
DosbarthiadauCreu ardaloedd dysgu/addysgu addas i bwrpas wrth
wneud dosbarthiadau yn fwyhyblyg i alluogi newid y maint yn
ddibynnol ar niferoedd disgyblion
Cyfnod SylfaenCreu ardal bwrpasol - creu agoriad rhwng y
dosbarthiadau cyfnod sylfaen a’r awyragored a gosod canopi
uwchben.
Neuadd Datblygu’r neuadd fel man bwyta, perfformio ac i gynnal
gwasanaethau ysgol.
Ystafell Pennaeth Uwchraddio a chynyddu maint ystafell y
pennaeth
Ystafell StaffCreu ystafell i’r staff, nid oes un yn bresennol.
Creu ystafell addas i bwrpas ynghlwm iaddasiadau ystafell y
pennaeth.
Storfeydd Creu storfeydd priodol.
GeginUwchraddio’r gegin bresennol i greu ardal addas i bwrpas
wrth ymyl y neuadd. Bydd ygegin yn cael ei gysylltu i’r system
wresogi newydd.
Maes ParcioGwella’r maes parcio, creu mwy o lefydd i barcio,
creu man arhosfa bws a chreullefydd parcio anabl.
System Gwresogi Gosod system wresogi biomas newydd.
Toiledau Gwella’r cyfleusterau toiledau wrth eu huwchraddio a’i
addasu.
Cwmni Anwyl sydd wedi ei benodi i wneud y gwaith yma, ac
maenteisoes wedi cychwyn ar y safle. Bydd pob ymdrech yn cael ei
wneud ileihau unrhyw ymyrraeth ar waith yr ysgol yn ystod y cyfnod
adeiladu,ac wrth gwrs bydd y cwmni yn cydweithio efo’r ysgol wrth
i’r cynllunfynd yn ei flaen.
Mae Anwyl yn ymwybodol eu bod yn gweithio ar safle ysgol ac
maeganddynt brofiad o wneud hyn yn y gorffennol. Yn ystod y
gwaithbydd mesurau iechyd a diogelwch llym mewn lle, a phob ymdrech
yncael ei wneud fel fod bywyd yr ysgol a’r gwaith o wella’r ysgol
ynmynd ymlaen yn hwylus.
Anelir i gwblhau’r gwaith erbyn diwedd Awst 2013.
Ionawr 2013CYNGOR GWYNEDD
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan y Cyngor
www.gwynedd.gov.uk/trefniadaethysgolion neu drwye-bost:
[email protected]
-
SCHOOL ORGANISATION NEWSLETTERYSGOL Y PARC AND YSGOL OM
EDWARDS
Ysgol Y Parc
In March 2012 the Council issued a statutory notice to close
Ysgol Y Parc, and subject to parental choice,provide education for
the pupils at Ysgol OM Edwards, Llanuwchllyn. This proposal was
approved by theMinister for Education and Skills. Ysgol Y Parc will
remain open until 31 August 2013, but the school will closefrom 1st
September 2013 and the catchment area will become part of Ysgol OM
Edwards’ catchment area.
Pupils currently attending Ysgol Y Parc will be offered places
at Ysgol OM Edwards, Llanuwchllyn. Pupils will betransferred
automatically therefore parents do not need to apply for a place.
If parents want their children toattend a school other than Ysgol
OM Edwards they will need to make an admissions application by
contactingthat school directly or visiting the Council’s website
www.gwynedd.gov.uk/schooladmissions.
Transport will be provided in accordance with the Council’s
Transport Policy. Further information will beavailable near the
date of change.
Development of Ysgol OM Edwards, Llanuwchllyn
As part of the school re-organisation plan in the Berwyn
catchment area, a substantial investment of £900,000will be made at
Ysgol OM Edwards. The work includes;
ClassroomsCreate fit for purpose learning/teaching areas by
creating flexible classrooms thatcan change size depending on pupil
numbers.
Foundation PhaseCreate a bespoke area – creating openings
between the foundation phaseclassrooms to the outside and place
canopies above the openings.
HallDevelop the hall as a suitable area for assembly,
performances and for eating atlunchtime
Headteacher’s Room Upgrade and increase the size of the
headteachers room.
Staff RoomCreate a staff room as there isn’t one at present.
Create a fit for purpose room builtin connection with the
headteachers room adaptations.
Storerooms Create suitable storerooms
KitchenUpgrading the current kitchen to create a fit for purpose
area next to the hall. Thekitchen will be connected to the new
heating system.
Parking FacilitiesImprove car park favilities by creating more
parking spaces, a bus drop off/collectionpoint and designated
disabled parking.
Heating System Install a new biomass heating system.
Toilet Facilities Improve the toilet facilities by upgrading and
adapting.
Anwyl construction company have been appointed to do this
work,and they’ve already started on site. Every effort will be
taken to limitany interference on the schools’ every day
activities, and thecompany will co-operate with the school to move
this projectforward.
Anwyl are aware of the precautions needed when working on
aschool site, and have experience of these situations in the past.
Stricthealth and safety measures will be in place, and every effort
taken toensure that the school is able to run smoothly during
theimprovement work.
The work should be completed by 31 August 2013.
January 2013GWYNEDD COUNCIL
Further information is available on the Council ‘swebiste
www.gwynedd.gov.uk/schoolorganisation orby e-mail:
[email protected]
-
Newyddlen Ysgol O.M. Edwards
Gorffennaf 2013
Ysgol O.M. Edwards yn agor ei ddrysau i blant Y Parc
Yn dilyn gwaith uwchraddio sylweddol dros y misoedd diwethaf
mae’n bleser datgan y bydd Ysgol O.M. Edwards yn agor ei ddrysau ar
ei newydd wedd ddydd Iau Medi’r 5ed 2013 dan arweiniad Mrs Dilys
Ellis-Jones y Pennaeth. Yn dilyn newidiadau diweddar mae dalgylch
ysgol O.M.Edwards wedi ei ymestyn i ardal Y Parc yn ogystal, a bydd
plant oedd yn arfer mynychu ysgol Y Parc yn dod o fewn dalgylch
newydd OM Edwards yn awtomatig. Bydd cludiant yn cael ei ddarparu
yn unol a Pholisi Cludiant y Cyngor. Petai unrhyw riant yn dymuno
anfon ei plentyn i unrhyw ysgol arall bydd angen gwneud cais gyda’r
Awdurdod a bydd yn cael ei weithredu yn unol a Pholisi Mynediad yr
Awdurdod. Mae’r ysgol yn wynebu dyfodol disglair yn dilyn
buddsoddiad sylweddol (£900,000) gyda dosbarthiadau addas i bwrpas,
ardal bwrpasol i’r cyfnod sylfaen, datblygu’r neuadd, uwchraddio
swyddfa’r Pennaeth, creu ystafell staff, creu storfeydd digonol,
gwella’r maes parcio, gosod sustem wresogi biomass newydd a gwella
ac uwchraddio’r toiledau, hyn oll er mwyn darparu amgylchedd ddysgu
o’r radd flaenaf i blant y fro.
Materion addysgol ac ymarferol
Gwisg Ysgol – siwmper werdd gyda logo / crys polo coch gyda logo
/ sgert neu drowsus du / sgidiau du. Ar gael o gwmni Brodwaith
(www.brodwaith.co.uk) Pentrefoelas. Dillad ymarfer corff – shorts
du a crys T gwyn gyda esgidiau ymarfer corff Diwrnod Ysgol – 9yb –
3.30yp Cinio Ysgol – cost cinio ysgol £2 y diwrnod / £10 yr wythnos
Clwb Brecwast – bydd clwb brecwast yn cael ei ddarparu am ddim o
8.05 – 8.40yb Rhestr Digwyddiadau a Gweithgareddau Ysgol – bydd
llawlyfr manwl yn darparu gwybodaeth am yr ysgol ar ei newydd wedd
yn cael ei ddosbarthu fis Medi 2013. Bydd manylion digwyddiadau a
gweithgareddau yn cael ei dosbarthu’n rheolaidd Gwersi offerynnol –
ceir gwersi: Piano, Telyn, Clarinet, Ffliwt, Drymiau, Corn a Llais
drwy wasanaeth cerdd William Mathias. Cysylltu gyda rhieni a
gofalwyr – bydd yr ysgol yn casglu manylion cyswllt cyfredol pawb
perthnasol ar ddechrau’r tymor newydd. Cofiwch am wefan yr ysgol
www.ysgolomedwards.co.uk ble mae lluniau a newyddion yn cael ei
rhannu’n rheolaidd a hefyd Facebook (Cyfeillion Ysgol O.M. Edwards)
Cysylltu gyda’r Ysgol – Mrs Dilys Ellis-Jones ydi Pennaeth Ysgol OM
Edwards. Os bydd gennych unrhyw gwestiwn brys am yr ysgol mae
croeso i chi gysylltu gyda’r Pennaeth drwy ffonio 01678 540242 neu
e-bostio [email protected]
Gofal ar ôl Ysgol - Cysylltwch a’r Ysgol os ydych angen
cefnogaeth gyda gofal ar ôl ysgol, gan fod darpariaeth ar gael yn y
pentref.
-
Materion cludiant
Bydd bws rhif 570 fydd yn teithio ar drywydd rhwng Y Parc –
Ysgol OM Edwards. Bydd y bws yn gweithredu ar hyd y brif ffordd, ac
yn codi yn y mannau a nodir yn yr amserlen isod. Mae posib
ychwanegu man codi ar yr amod ei fod ar y brif ffordd a petai angen
ychwanegu man codi bydd angen gwneud cais i’r Swyddog Cludiant ar
(01286 679535). Bydd gwregysau a hebryngwr ar y bws. Bydd y
gwasanaeth hwn yn cael ei weithredu gan Williams o’r Bala (01678
520777). Bydd trefniadau tacsi yn cael ei cadarnhau yn uniongyrchol
gyda’r unigolion perthnasol.
Ardal Y Parc i Ysgol O.M. Edwards, Llanuwchllyn 570
Meinihirion 0820 Ysgol OM Edwards 1530
Tŷ Cerrig Isaf 0825 Bwthyn Glanllyn 1540
Tai’n Rhos 0830 Beudy Newydd 1545
Beudy Newydd 0835 Tai’n Rhos 1550
Bwthyn Glanllyn 0840 Tŷ Cerrig Isaf 1555
Ysgol OM Edwards 0850 Meinihirion 1600
Manylion cyswllt : Rhif ffon cyswllt yr ysgol 01678 540242 neu
e-bost: [email protected]
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan y Cyngor
www.gwynedd.gov.uk/trefniadaethysgolion
Neu drwy gysylltu gyda’r Swyddfa Addysg ar 01286 679 247 E-bost:
[email protected]
Staff Dysgu ac Ategol:
Enw Swydd Enw Swydd
Elliw Angharad Jones Athrawes Meithrin a Derbyn Carys Edwards
Cymhorthydd Meithrin a Derbyn
Siwan Davies Athrawes Bl 1&2 Ffion Mair Jones Cymhorthydd
Meithrin a Derbyn
Alun Llyr Evans Athro Bl 3&4 Edwina Owen Cymhorthydd Bl
1&2
Dilys Ellis-Jones Athrawes Bl 5&6 a Pennaeth Manon Roberts
Cymhorthydd Bl 3&4
Nia Morgan Athrawes cyflenwi Clare Baines Cymhorthydd Bl
5&6
Heledd Jones Athrawes cyflenwi Heulwen Rowlands Athrawes
cyflenwi
Dyddiadau Tymor Ysgol a Gwyliau -
Tymor Ysgol 2013/14 Hydref 2013 5 Medi 2013 - 20 Rhagfyr 2013
Gwanwyn 2014 6 Ionawr 2014 - 11 Ebrill 2014 Haf 2014 28 Ebrill 2014
- 21 Gorffennaf 2014 Gwyliau Ysgol: 28 Hydref – 1 Tachwedd 2013
(Hanner-Tymor) 23 Rhagfyr 2013 - 3 Ionawr 2014 (Gwyliau’r Nadolig)
24 - 28 Chwefror 2014 (Hanner-Tymor) 14 - 25 Ebrill 2014 (Gwyliau’r
Pasg) 5 Mai 2014 (Calan Mai) 26-30 Mai 2014 (Hanner-Tymor) 22
Gorffennaf - 29 Awst 2014 (Gwyliau’r Haf)
-
Y DIWEDDARAF AR DREFNIADAETHYSGOLION YN NHREF Y BALA
Y Cefndir
Sefydlwyd Panel Adolygu Dalgylch (PAD) Y Berwyn i gynorthwyo yn
y broses o lunio cynigion ar gyfertrefniadaeth ysgolion y dalgylch.
Roedd aelodaeth y PAD yn cynnwys cynrychiolwyr ysgolion y dalgylch,
gangynnwys pennaeth, cadeirydd llywodraethwyr a rhiant lywodraethwr
o bob ysgol gynradd ac uwchradd,cynghorwyr lleol y dalgylch yn
ogystal â chynrychiolaeth o Esgobaeth Llanelwy. Cynhaliwyd cyfres o
gyfarfodyddo’r Panel.
Ar ddiwedd y trafodaethau cyflwynwyd cynigion ar gyfer y
dalgylch i'r Cyngor. Cymeradwywyd y cynigion achynhaliwyd cyfnod o
ymgynghori statudol arnynt. Cyflwynwyd y sylwadau a dderbyniwyd yn
ystod y cyfnodymgynghori i’r Cyngor Llawn. Penderfynodd y Cyngor; I
gau ysgolion Y Berwyn, Beuno Sant a Bro Tegid fel bo modd sefydlu
Ysgol Gymunedol ar safleoedd
presennol ysgolion Y Berwyn a Beuno Sant i dderbyn disgyblion 3
– 19 oed fel rhan o sefydlu Campws DysguGydol Oes newydd yn nhref Y
Bala
I gau Ysgol y Parc, gan ddarparu lleoedd i blant yn y dalgylch
yn Ysgol OM Edwards, Llanuwchllyn
Beth sydd wedi digwydd ers hynny?
Y newid mawr sydd wedi digwydd ym maes trefniadaeth ysgolion ers
cyfnod y trafodaethau diwethaf yw dullLlywodraeth Cymru o ariannu
prosiectau adeiladu mawr. Bu yn rhaid i’r Cyngor wneud cais
cychwynnol amarian ar gyfer rhestr o brosiectau ar gyfer y Sir. Mae
datblygu campws ar gyfer Cymuned Ddysgu Gydol Oes yn YBala ynghyd a
buddsoddi yng ngweddill ysgolion y dalgylch yn rhan o’r cais hwn
gan y Cyngor.
Gan fod penderfyniad i gau Ysgol Y Parc yn digwydd ynghynt –
rhaid oedd symud ymlaen â gwelliannau yn YsgolOM Edwards a gwneud
cais ariannol am yr elfen benodol yma.
O ran sefydlu Cymuned Ddysgu Gydol Oes yn nhref Y Bala, bydd yn
rhaid sefydlu achos busnes cynhwysfawrsydd yn ymateb i ofynion y
Llywodraeth ac yn pwyso a mesur holl elfennau’r cynllun. Fel rhan
o’r gwaith rhagbaratoadol hwn, mae trafodaethau cefndirol
angenrheidiol yn digwydd o ran sefydlu partneriaeth
darpariaethaddysg ôl-16. Mae’r trafodaethau hyn hefyd yn gyffredin
i bob sefydliad sy’n cynnig addysg ôl 16 yn y Sir.
Yn ogystal, mae trafodaethau Gweithgor Gydol Oes Gwynedd (sydd â
chynrychiolaeth o rai o ysgolion ardal yBerwyn) yn gwneud gwaith
pwysig o ran datblygu’r cysyniad yng nghyd-destun Gwynedd ac yn
rhoi crynbwyslais ar gael cynlluniau sydd yn sicrhau fod y model
gydol oes yn fodel ar gyfer y dalgylch cyfan. Mae’rgweithgor yma’n
cynnwys penaethiaid ysgolion uwchradd, cynradd gwledig a trefol. Bu
aelodau’r Gweithgor arymweld defnyddiol a gwerthfawr iawn â
sefydliad gydol oes yn Llanbed yn ddiweddar.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Yn ystod y misoedd nesaf bydd y Cyngor yn ail agor y drafodaeth
hon yn lleol, ac yn ailsefydlu’r Grŵp Defnyddwyr fel rhan o’r
broses o ddatblygu achos busnes cadarn i sicrhau’r buddsoddiad o
£10 miliwn ynnalgylch y Berwyn. Bydd angen sicrhau fod yr holl
faterion perthnasol yn cael eu hystyried er mwyn gwneud ygorau o’r
cyfle gwerth chweil hwn i ddatblygu campws modern, a fydd o fûdd i
holl ddisgyblion tref y Bala a’rdalgylch cyfan, ynghyd a’r gymuned
ehangach.
Oherwydd treigl amser, bydd yn rhaid i’r Cyngor ail gynnal
proses ymgynghori er mwyn sefydlu’r GymunedDdysgu Gydol yn nhref Y
Bala. Bydd hwn yn gyfle i ail ymweld â’r cysyniad a sicrhau fod y
materion priodol yncael eu hystyried wrth symud y cynllun yn ei
flaen.
Bydd newyddlenni eraill yn cael eu rhyddhau fel bydd mwy o
wybodaeth ar gael.
Chwefror 2013CYNGOR GWYNEDD
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan y Cyngor
www.gwynedd.gov.uk/trefniadaethysgolionneu drwy e-bost:
[email protected]
-
THE LATEST ON SCHOOL ORGANISATIONIN THE TOWN OF BALA
The Background
A Berwyn Catchment-are Review Panel (CRP) was established to
advise with creating proposals during schoolorganisation in the
catchment. The membership of the CRP included representatives from
the catchment’sschools, including the headteachers, chair of
governors and parent governors form each primary and
secondaryschool, the catchment’s local councillors as well as
representatives from St. Asaph Diocese. A series of Panelmeetings
were held.
At the end of discussions, proposals for the area were presented
to the Council. The proposals were approvedand statutory
consultation periods were held. The comments received during the
statutory consultations werepresented to the Full Council. The
council decided;
To close Y Berwyn, Beuno Sant and Bro Tegid schools in order to
establish a Community School on thecurrent sites of Y Berwyn and
Beuno Sant schools to receive 3-19 year old pupils as part of
establishing anew Life Long Learning campus in the town of
Bala.
To close Ysgol y Parc, and provide education for the
catchment-area children in Ysgol O.M. Edwards,Llanuwchllyn.
What has happened since?
The biggest change that has happened in the school organisation
field since discussions were last held, is theWelsh Government’s
method of funding large building projects. The Council presented an
initial fundingapplication for a list of projects for the County.
Developing a Campus for a Life Long Learning Community inBala and
investing in the remaining catchment area schools is part of the
application presented by the Council.
As the decision to close Ysgol Y Parc is happening earlier -
improvements to Ysgol OM Edwards had to be madeand the business
case application on this element was submitted earlier.
In regard to establishing a Life Long Learning Community in
Bala, a comprehensive business case has to bepresented that
responds to Government requirements which considers all aspects of
the project. As part of theinitial preparatory work, there are
necessary background discussions being undertaken with regards
toestablishing a post-16 education provision partnership. These
discussions are also consistent with discussionsthat include all
other establishments that provide post-16 education in the
County
Also, the Gwynedd Life Long Learning Working Group (which has
representatives from some school of theBerwyn area) discussions are
doing important work developing the concept within the context of
Gwynedd,placing emphasis on plans that ensure the life long
learning model is for the whole catchment. This workinggroup
includes headteachers of secondary, rural and urban primary
schools. Working group members had auseful and informative visit to
a life long learning establishment in Lampeter recently.
What happens next?
In the next few months – the Council will re-open discussion
locally, and will re-establish the User Group as partof the process
of establishing a firm business case to ensure the £10million
investment in the Berwyncatchment area. All relevant issues should
be considered in order to make the most of this
worthwhileopportunity to develop a modern campus, which will
benefit pupils of Bala town and the whole Berwyncatchment, along
with the wider community.
Due to the time lapse, the Council will have to re-conduct the
consultation process to be able to establish theLife Long Learning
Community in the town of Bala. This will be an opportunity to
re-visit the concept and ensurethat the appropriate matters are
considered while moving the scheme forward.
Further newsletters will be released when more information
becomes available..
February 2013GWYNEDD COUNCIL
Further information is available on the Council ‘s website
www.gwynedd.gov.uk/schoolorganisationor by e-mail :
[email protected]
-
Y DIWEDDARAF AR DREFNIADAETH
YSGOLION YN NALGYLCH Y BERWYN
Y Cefndir
Mae trafodaethau ar ad-drefnu ysgolion yn nalgylch Y Berwyn wedi
cychwyn ers peth amser bellach.
Ar ddiwedd y trafodaethau cyflwynwyd cynigion ar gyfer y
dalgylch i'r Cyngor a chynhaliwyd cyfnod o
ymgynghoriad statudol. Yn dilyn yr ymgynghoriad, penderfynodd y
Cyngor fel a ganlyn;
• Sefydlu campws gydol oes yn nhref Y Bala, sydd yn golygu cau
ysgolion Bro Tegid, Beuno Sant a’r Berwyn
a’u hail agor fel Ysgol ar gyfer disgyblion 3 i 19 mlwydd
oed.
• I gau Ysgol y Parc, gan ddarparu lleoedd i blant yn y dalgylch
yn Ysgol OM Edwards, Llanuwchllyn
Beth yw’r sefyllfa ddiweddaraf?
• Mae newid wedi bod yn y ffordd mae Llywodraeth Cymru yn
ariannu prosiectau adeiladu mawr. Bu
rhaid i’r Cyngor wneud cais cychwynnol am arian ar gyfer rhestr
o brosiectau ar draws y Sir ar gyfer y 7
mlynedd nesaf. Mae datblygu campws ar gyfer Cymuned Ddysgu Gydol
Oes yn Y Bala ynghyd â
buddsoddi yng ngweddill ysgolion y dalgylch yn rhan o’r cais hwn
gan y Cyngor. Gall y buddsoddiad fod
yn werth mwy na £10miliwn yn nalgylch y Berwyn.
• Yn dilyn penderfyniad i gau Ysgol Y Parc erbyn Medi 2013 –
aethpwyd ymlaen i adnabod y gwelliannau
yn Ysgol OM Edwards a gwneud cais ariannol am yr elfen benodol
yma. Mae gwaith adeiladu yn digwydd
yn Ysgol OM Edwards ar hyn o bryd.
• O ran sefydlu Cymuned Ddysgu Gydol Oes yn nhref Y Bala, bydd
rhaid sefydlu achos busnes manwl iawn
sydd yn ymateb i ofynion ac amodau a amlinellir gan y
Llywodraeth. Mae hwn yn mynd i fod yn gryn
waith ac yn mynd i gymryd peth amser i’w gwblhau.
• Fel rhan o’r gwaith paratoi, mae trafodaethau yn digwydd er
mwyn sefydlu partneriaeth darpariaeth
addysg ôl-16. Mae’r trafodaethau hyn hefyd yn digwydd i bob
sefydliad sy’n cynnig addysg ôl 16 yn y Sir.
• Yn ogystal, mae gwaith yn digwydd gan Grŵp o Benaethiaid ar
ddatblygu’r model o Sefydliad Ddysgu
Gydol Oes. Mae hwn yn fodel newydd yng Ngwynedd, ac er bod rhai
sefydliadau eraill yng Nghymru
wedi eu datblygu yn eithaf diweddar, mae’n syniad eithaf
arloesol. Felly, mae gwaith yn cael ei wneud i
ddatblygu syniadau ar y ffordd orau o ddarparu addysg mewn
sefydliad fydd y darparu addysg ar gyfer
disgyblion 3 - 19 oed. Rhaid ystyried y dalgylch cyfan a’r
ysgolion hynny fydd ddim ar y campws a sut
mae sicrhau nad yw disgyblion yr ysgolion hynny dan unrhyw
anfantais.
• Bu cyfarfod efo Penaethiaid a Chadeiryddion Llywodraethwyr yn
ddiweddar i roi diweddariad manwl
ynglŷn â datblygiadau yn yr ardal, a’r hyn fydd angen ei wneud
nesaf.
Camau nesaf
O fis Hydref 2013 bydd y Cyngor yn ail agor y drafodaeth hon yn
lleol, ac yn ailsefydlu’r Grŵp Defnyddwyr fel
rhan o’r broses o ddatblygu achos busnes cadarn i sicrhau’r
buddsoddiad o £10 miliwn yn nalgylch y Berwyn.
Bydd angen sicrhau fod yr holl faterion perthnasol yn cael eu
hystyried er mwyn gwneud y gorau o’r cyfle
gwerth chweil hwn i ddatblygu campws modern, ar gyfer holl
ddisgyblion tref y Bala a’r dalgylch cyfan, ynghyd
â’r gymuned ehangach.
Bydd rhaid i’r Cyngor ail gynnal proses ymgynghori er mwyn
sefydlu’r Gymuned Ddysgu Gydol Oes yn nhref Y
Bala. Bydd hwn yn gyfle i ail ymweld â’r cysyniad i sicrhau fod
pob mater yn cael ei ystyried wrth symud y
cynllun yn ei flaen. Rhagwelir y bydd yr ymgynghoriad yn cael ei
ail gynnal yn 2014 a’r gobaith ydy bydd gwaith
adeiladu yn gallu cychwyn yn ystod 2015. Y nod felly yw agor yr
ysgol gydol oes ym Medi 2016.
Mai 2013 CYNGOR GWYNEDD
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan y Cyngor
www.gwynedd.gov.uk/trefniadaethysgolion
neu drwy e-bost: [email protected]
-
THE LATEST ON SCHOOL ORGANISATION
IN THE BERWYN AREA
The Background
Discussions on schools reorganisation in the Berwyn catchment
area have been underway for some time.
At the end of the discussions the recommendations for the
catchment were presented to the Council and a
statutory consultation period was held. Following the
Consultation the Council decided as follows:
• Establish a Lifelong Learning Campus in Bala Town, which means
closing Bro Tegid, Beuno Sant and
Berwyn schools and re-opening them as a lifelong school for
pupils aged 3 to 19 years of age.
• To close Y Parc school and provide places for the pupils at OM
Edwards school, Llanuwchllyn
What’s the latest situation ?
• There has been a substantial change in the way the Welsh
Government finances large building projects.
The Council had to make an initial bid for funds for a number of
projects across the County for the next
7 years. Developing a campus for a Lifelong Learning Community
in Bala along with investment in other
schools within the catchment is part of this bid. This
investment could be worth more than £10 million
for the Berwyn catchment area.
• Following the decision to close Y Parc school by September
2013 – improvements to OM Edwards school
were identified and a financial bid was made for this specific
element. Building works are now taking
place at OM Edwards school.
• In order to establish the Lifelong Learning Community in Bala,
a detailed business case will have to be
developed which meets the terms and conditions set by the
Government. This will be a substantial task,
which will take some time to complete.
• As part of the preparatory works, discussions are under way to
establish the partnership for the post 16
provision. These discussions are common for all establishments
which offer post 16 education.
• In addition work is under way by a Group of Headteachers to
develop a model for a Lifelong Learning
Establishment. This is a new model in Gwynedd, and although
other establishments in Wales have
developed this model fairly recently, it is a groundbreaking
concept.. Therefore work is in progress to
develop systems which provide the best way to provide education
in an establishment providing
education for pupils aged 3-19. The whole catchment has to be
considered, including schools which will
not be on the campus, to ensure that all pupils have an equal
opportunity.
• A meeting was held recently with Headteachers and Chairs of
Governors to provide a detailed update of
the developments in the area and also what will need to be done
next.
What happens next?
From October 2013 the Council will re-open the discussion
locally and re-instigate the User Group as part of the
process of developing a strong business case in order to ensure
the £10 million investment in the Berwyn
catchment. It will be essential to ensure that all the relevant
issues are discussed in order to make the most of
this fabulous opportunity to develop a modern campus for the
pupils of Bala and the whole catchment, as well
as the wider community.
The Council will need to re-conduct the consultation process in
order to establish a Lifelong Learning
Community in Bala Town. This will give an opportunity to
re-visit the concept and to ensure that the
appropriate matters are being considered whilst moving the plans
forward. It is estimated that the consultation
will be re-conducted in 2014 and it is hoped that building works
will commence during 2015.
The aim is to open the lifelong learning centre in September
2016.
May 2013 GWYNEDD COUNCIL
Further information is available on the Council ‘s website
www.gwynedd.gov.uk/schoolorganisation
or by e-mail : [email protected]
Newyddlen_1__Y_BerwynAtodiad_2_2__Newyddlen_2__Y_BerwynAtodiad_22__Newyddlen_3_Y_BerwynNewyddlen
Y Parc Medi
2012Newyddlen_Ionawr_2013_Ysgolion_Parc_ac_OM_EdwardsNewyddlen_OM_Gorff_2013Newyddlen
Tref Y Bala - Chwefror
2013Newyddlen_Tref_Y_Bala__Mai_2013_Cymraeg_a_Saesneg