Top Banner
Adnodd Addysgiadol SchoolBeat LLYFR 3 RHIFYN ARBENNIG DIOGELWCH Y RHYNGRWYD LLYFR GWEITHGAREDDAU I BLANT 9- 11 OED
14

Adnodd Addysgiadol SchoolBeat LLYFR · ar y rhyngrwyd ers misoedd. Mae hi eisiau ymweld â'm cartref. Beth ddylwn i ei wneud? Janet, 13 oed a. Mae hwn yn syniad da b. Parhewch i sgwrsio

Aug 20, 2020

Download

Documents

dariahiddleston
Welcome message from author
This document is posted to help you gain knowledge. Please leave a comment to let me know what you think about it! Share it to your friends and learn new things together.
Transcript
Page 1: Adnodd Addysgiadol SchoolBeat LLYFR · ar y rhyngrwyd ers misoedd. Mae hi eisiau ymweld â'm cartref. Beth ddylwn i ei wneud? Janet, 13 oed a. Mae hwn yn syniad da b. Parhewch i sgwrsio

Adnodd Addysgiadol SchoolBeat LLYFR

3

RHIFYN ARBENNIG DIOGELWCH Y RHYNGRWYD

LLYFRGWEITHGAREDDAU

I BLANT 9-11 OED

Page 2: Adnodd Addysgiadol SchoolBeat LLYFR · ar y rhyngrwyd ers misoedd. Mae hi eisiau ymweld â'm cartref. Beth ddylwn i ei wneud? Janet, 13 oed a. Mae hwn yn syniad da b. Parhewch i sgwrsio

BYDDWCH YN SEIBER DDIOGEL!

Ymwybyddiaeth ar-lein

Torrwch set o gardiau paru ar y dudalen gyferbyn (neu fel arall, lawrlwythwch o'r ddolen ganlynol: https://schoolbeat.cymru/fileadmin/teachers/ks2u/be-cyber-safe/cym/follow-up/3a.%20matching%20cards_cym.pdf

Cymysgwch y cardiau yn dda ac yna didolwch i dri chategori: • Cerdyn gair allweddol • Cerdyn gwybodaeth • Cerdyn cyngor diogelwch

Bydd angen i chi gyfatebu’r cerdyn gair allweddol gyda’r cerdyn gwybodaeth cywir a’r cerdyn cyngor diogelwch cywir ar gyfer y nodwedd honno. Ceir enghraifft isod: Dylid amseru amseru’r weithgaredd hon. Gwiriwch y rhain yn erbyn yr atebion a ddarperir trwy glicio’r linc uchod. Bydd yr atebion yn hybu trafodaeth ac yn rhoi cyfle i gywiro unrhyw gamdybiaethau. I gael gwybodaeth bellach efallai y bydd rhieni / gofalwyr am ddarllen y ffeithiau ychwanegol a ddarperir ar www.thinkuknow.co.uk neu Childnet.com

2

SpamDefnyddiwch hidlydd spam

e-byst na wnaethoch ofyn amdanynt gan bobl nad ydych yn eu hadnabod

Cyfeiriad e-bost

defnyddiwch ffugenw, peidiwch a rhoi eich

manylioneich cyfeiriad ar-lein

Firysau dilëwch hwy heb eu hagor

gallant ddileu eich ffeiliau a dinistrio eich cyfrifiadur neu deithio mewn e-bost, drwy

atodiadau neu ddolenni

Seibr-fwlio

dysgwch sut i flocio negeseuon/

dywedwch wrth oedolyn

pan fydd rhywun yn defnyddio’r rhyngrwyd neu

ffôn symudol i gynhyrfu rhywun arall yn fwriadol

Page 3: Adnodd Addysgiadol SchoolBeat LLYFR · ar y rhyngrwyd ers misoedd. Mae hi eisiau ymweld â'm cartref. Beth ddylwn i ei wneud? Janet, 13 oed a. Mae hwn yn syniad da b. Parhewch i sgwrsio

3

Seibr-ffrind

cyfathrebwch gyda phobl yr ydych yn eu

hadnabod mewn bywyd go iawn yn unig

ffrind yr ydych ond yn ei adnabod ar y rhyngrwyd

neu seibr-ofod

Phishing peidiwch â datgelu unrhyw wybodaeth

bersonol

bydd rhai e-byst yn ceisio eich twyllo i ddatgelu gwybodaeth bersonol

Negeseua gwib

gwnewch yn siŵr eich bod yn adnabod y bobl sydd ar

eich rhestr cysylltiadau mewn bywyd go iawn

pobl yn cyfarfod ar-lein i siarad â’i gilydd

Stafell sgwrsio

defnyddiwch safle sydd â chymedrolwr

amgylchedd agored lle gall pobl siarad â’i gilydd

Gwe gamera

trowch y camera i’r cyfeiriad arall pan na fydd

yn cael ei ddefnyddio

camera digidol a ddefnyddir i dynnu lluniau a’u trosglwyddo

dros y rhyngrwyd

Cerddo-riaeth

llawrlwythwch gerddoriaeth o wefannau

cyfreithlon yn unig

Os ydych yn lawrlwytho cerddoriaeth P2P (peer to peer) efallai y byddwch yn gadael i ddefnyddwyr

eraill gael myndediad at eich cyfrifiadur

Gosodiad preifatr-

wydd

newidiwch y gosodiadau fel mai dim ond eich ffrindiau yn y byd go iawn all gael

mynediad i’ch gwefan

diogelwch i wneud yn siŵr eich bod yn ddiogel rhag dieithriaid a allai anfon

negeseuon nad ydych eu heisiau.

Rhannu

ffeiliau

diogelwch eich hun drwy lawrlwytho clipiau sain a fideo o wefannau

cyfreithlon yn unig

caiff clipiau sain a fideo amheus eu hanfon o gwmpas gan ddefnyddio

rhwydweithiau a rennir a gallai eich rhieni fynd i drafferthion mawr

Bluetooth

diffoddwch eich ffôn/ cyfrifiadur pan na’i defnyddir

gan y gall unrhyw un gael mynediad at eich gwybodaeth

pan fydd ymlaen

cysylltiad diwifr ar gyfer ffonau, cyfrifiaduron, bysellbadiau ac ati sy’n caniatáu iddynt gyfathrebu

Page 4: Adnodd Addysgiadol SchoolBeat LLYFR · ar y rhyngrwyd ers misoedd. Mae hi eisiau ymweld â'm cartref. Beth ddylwn i ei wneud? Janet, 13 oed a. Mae hwn yn syniad da b. Parhewch i sgwrsio

4

BYDDWCH YN SEIBER DDIOGEL!Dyma stori Nathan. Mae wedi cwrdd â rhywun ar ystafell sgwrsio ar y we. Rhoddodd Nathan ei ‘Addy’ (sef ei gyfeiriad e-bost sy’n cael ei ychwanegu at rhestr o ffrindiau) i’r unigolyn yma, sef Emily, ac mae wedi bod yn cysylltu â hi gan ddefnyddio negeseuon uniongyrchol. Mae angen cyngor ar Nathan ynglŷn â beth i’w wneud.

Astudiwch y senario ar y sgriniau cyfrifiadur isod ac ar y dudalen gyferbyn.Gallwch hefyd lawrlwytho copi mawr y gellir ei argraffu o'r adnodd trwy glicio ar y ddolen ganlynol: https://schoolbeat.cymru/fileadmin/teachers/ks2u/be-cyber-safe/cym/follow-up/4b.%20A5%20Scenario%20cards_cym.pdf

Helo, rydw i w

edi

cyfarfod rhywu

n ar y

rhyngrwyd a’i

henw yw

Emily. Mae eis

iau

gwybod ble ryw

y’n byw

fel y gall alw

i’m

gweld.

Beth ddylwn i

ei wneud?

Mi fyddwn i yn...

Mi fyddwn i yn...

Helo. Mae Emily wedi anfon llun ohono ei hun. Mae’n bert iawn. Beth ydych chi’n ei feddwl? Mae wedi gofyn imi anfon llun ohonof i iddi. Beth ddylwn i ei wneud?

Page 5: Adnodd Addysgiadol SchoolBeat LLYFR · ar y rhyngrwyd ers misoedd. Mae hi eisiau ymweld â'm cartref. Beth ddylwn i ei wneud? Janet, 13 oed a. Mae hwn yn syniad da b. Parhewch i sgwrsio

5

Helo. Mae Emily

eisiau fy nghyfa

rfod

am pitsa. Mae ei

siau

cyfarfod y dydd

Sadwrn yma.

Beth ddylwn i ei

wneud?

Mi fyddwn i yn...

Helo. Rwy’n meddwl fy mod me

wn

trwbl. Dywedais wrth Emily f

y

mod yn casáu un o’r bechgyn

yn

yr ysgol a dywedais ei henw

wrthi. Mae Emily yn dweud on

i

bai fy mod yn dechrau dweud

pethau wrthi amdana’ i fy hu

n,

ei bod yn mynd i roi pethau

ofandwy amdana’ i ar y

rhyngrwyd. Os dywedaf wrth f

y

nhad bydd yn flin iawn

oherwydd mae wedi dweud wrth

a’

i am beidio sgwrsio ar y we.

Beth ddylwn i ei wneud?

Mi fyddwn i yn...

Mi fyddwn i yn...

Helo. Mae Emily wedi anfon neges heddiw. Mae’n dweud ei bod yn flin iawn oherwydd na wnes i ei ateb ddoe. Y peth ydy, roeddwn yn brysur yn gwneud gwaith cartref a doedd gen i ddim amser. Dydw i ddim eisiau cweryla. Ddylwn i ymddiheuro?

Os yw rhywun rydych chi'n ei adnabod ar-lein yn unig yn gofyn i chi, i gwrdd â nhw, am wybodaeth bersonol neu am luniau neu fideos - DWED WRTH OEDOLYN ‘RWYT YN YMDDIRIED YNDDO!

COFIWCH!

Page 6: Adnodd Addysgiadol SchoolBeat LLYFR · ar y rhyngrwyd ers misoedd. Mae hi eisiau ymweld â'm cartref. Beth ddylwn i ei wneud? Janet, 13 oed a. Mae hwn yn syniad da b. Parhewch i sgwrsio

6

BYDDWCH YN SEIBER DDIOGEL

SSAFF

Peidiwch byth â datgelu eich enw, cyfeiriad, lluniau, rhif eich ffôn symudol, na’ch cyfrinair – byddai hynny fel rhoi allwedd drws y ffrynt i ddiethryn!

MEDDWL ETO

Cyn mynd i gwrdd â rhywun rydych wedi eu cyfarfod ar y we - gall hynny fod yn beryglus iawn. Peidiwch â mynd i gwrdd ag unrhyw un heb ganiatâd eich rhieni a dylen nhw ddod gyda chi.

AROS FUNUD

Cyn agor negeseuon a ffeiliau wrth bobl ddieithr Efallai bod firws neu negeseuon cas ynddynt a gallent eich cael chi i drwbl.

RHAID COFIO

Efallai bod eich seiber-gyfeillion yn dweud celwydd am bwy ydynt. Arhoswch mewn ystafelloedd sgwrsio cyhoeddus ac os byddwch yn teimlo’n annifyr am rhywbeth – yna ewch oddi yno!

TEIMLO’N ANNIFYR

Dywedwch wrth riant/warcheidwad neu oedolyn cyfrifol os bydd rhywun yn gwneud i chi deimlo’n annifyr neu’n bryderus.

M

ART

Page 7: Adnodd Addysgiadol SchoolBeat LLYFR · ar y rhyngrwyd ers misoedd. Mae hi eisiau ymweld â'm cartref. Beth ddylwn i ei wneud? Janet, 13 oed a. Mae hwn yn syniad da b. Parhewch i sgwrsio

7

Dyluniwch ganllaw ‘Deg Awgrym Da’ i hyrwyddo defnydd cadarnhaol o gyfathrebu digidol. Gallwch lawrlwytho'r poster isod trwy glicio ar y ddolen ganlynol, a allai eich helpu

https://schoolbeat.cymru/fileadmin/teachers/ks2u/be-cyber-safe/cym/follow-up/8a._Be_Cyber_Safe_A4.pdf

10 AWGRYM DA AR GYFER DEFNYDDIO'R RHYNGRWYD YN DDIOGEL

Page 8: Adnodd Addysgiadol SchoolBeat LLYFR · ar y rhyngrwyd ers misoedd. Mae hi eisiau ymweld â'm cartref. Beth ddylwn i ei wneud? Janet, 13 oed a. Mae hwn yn syniad da b. Parhewch i sgwrsio

8

CWIS CYNGOR DIOGELWCH RHYNGRWYDGan ddefnyddio'r Straeon Rhyngrwyd bywyd go iawn, trafodwch a phenderfynnwch ar y ffordd orau o weithredu i'r bobl ifanc. 1. Mi wnes i gyfarfod â Sam mewn ystafell sgwrsio ar y we. Rydym wedi bod

mewn cysylltiad am ychydig wythnosau. Mae eisiau cwrdd. Beth yw eich barn chi? Gillian, 12 oed a. Cyfarfod, rydych chi'n dod ymlaen yn dda b. Byddwn yn mynd â fy ffrind gyda mi i'r cyfarfod c. Peidiwch â chyfarfod, ond nid oes unrhyw niwed wrth sgwrsio d. Dywedwch wrth eich rhiant ble a phryd rydych chi'n cwrdd a mynd â nhw gyda chi

2. Mae Gwyn wedi gofyn am fy rhif ffôn a chyfeiriad e-bost. Rydym wedi bod mewn cysylltiad am ychydig wythnosau. Rydyn ni'n dod ymlaen yn dda iawn. Rydym ni'n gefnogwyr Man U. Beth ddylwn i ei wneud? Ian, 11 oed a. Mae hwn yn syniad da b. Parhewch i sgwrsio ond peidiwch â rhoi manylion personol iddo c. Stopiwch sgwrsio ar unwaith d. Parhau i sgwrsio a thrafod gydag oedolyn dibynadwy

3. Anfonodd Jack lun ohono ataf yn chwarae rygbi. Mae eisiau llun ohonof i. Beth ddylwn i ei wneud? Sian,12 oed a. Mae hwn yn syniad da b. Peidiwch ag anfon llun, dywedwch wrth oedolyn c. Peidiwch ag anfon ond parhau i sgwrsio d. Anfonwch lun o wyneb Sian yn unig

4. Mae Sarah wedi gofyn am fy nghyfeiriad cartref. Rydyn ni wedi bod yn ffrindiau ar y rhyngrwyd ers misoedd. Mae hi eisiau ymweld â'm cartref. Beth ddylwn i ei wneud? Janet, 13 oed a. Mae hwn yn syniad da b. Parhewch i sgwrsio ond peidiwch â rhoi eich manylion personol c. Stopiwch sgwrsio ar unwaith d. Parhau i sgwrsio a thrafod gydag oedolyn dibynadwy

5. Oherwydd i mi wrthod cwrdd â Gary fy “ffrind” ystafell sgwrsio. Nawr mae'n bygwth ysgrifennu pethau cas amdanaf. Beth ddylwn i ei wneud? Lowri, 11 oed a. Peidiwch â dweud wrth unrhyw un arall b. Cadwch y neges a'i riportio c. Cytuno i gwrdd, i'w atal rhag cyflawni ei fygythiad d. Siaradwch ag oedolyn dibynadwy

Page 9: Adnodd Addysgiadol SchoolBeat LLYFR · ar y rhyngrwyd ers misoedd. Mae hi eisiau ymweld â'm cartref. Beth ddylwn i ei wneud? Janet, 13 oed a. Mae hwn yn syniad da b. Parhewch i sgwrsio

9

6. Am y mis diwethaf mae rhai pobl ar fy rhestr gyswllt IM bob amser yn ysgrifennu pethau cas ac erchyll amdanaf. Beth ddylwn i ei wneud? Imran, 12 oed a. Cadwch ef i chi'ch hun, anwybyddwch nhw a. Cadwch y negeseuon a rhoi gwybod amdanynt a. Stopiwch sgwrsio ar unwaith a. Siaradwch ag oedolyn dibynadwy

1. PEIDIWCH BYTH ag ymateb i decst spam neu decst gan rywun

nad ydych chi'n ei adnabod, oherwydd mae'n bosibl y bydd y sawl sydd wedi anfon y neges atoch chi'n dal i anfon rhagor o negeseuon atoch chi o hyd. Mae'n bosibl hefyd bod firysau ar y negeseuon hyn ac fe all hynny atal eich ffôn rhag gweithio.

2. DDYLECH CHI BYTH ANFON NEGES LLUN AT NEB NAD YDYCH CHI'N EI ADNABOD YN Y BYD GO IAWN - hyd yn oed os ydych chi wedi bod yn siarad â nhw ar lein a'ch bod chi'n meddwl eich bod yn eu hadnabod nhw. Dydych chi byth yn gwybod go iawn pwy yw pobl os nad ydych chi wedi'u cyfarfod nhw wyneb yn wyneb. Os bydd rhywun yn gofyn i chi anfon neges llun atyn nhw ac nad ydych chi'n gwybod pwy ydyn nhw, dylech chi ddweud wrth oedolyn rydych chi'n ymddiried ynddo.

3. PEIDIWCH BYTH Â RHOI RHIF EICH FFÔN SYMUDOL i neb nad ydych chi'n ei adnabod yn y byd go iawn. Weithiau, bydd pobl yn dweud celwydd am bwy ydyn nhw er mwyn twyllo pobl i roi eu rhif ffôn a'u manylion personol iddyn nhw, er enghraifft enw'u hysgol a lle maen nhw'n byw. Cofiwch fod pobl nad ydych chi'n eu nabod yn y byd go iawn yn dal yn ddieithriaid. Os rhowch chi rif eich ffôn symudol i rywun, hyd yn oed i bobl rydych chi wedi'u cyfarfod ar y Rhyngrwyd, cofiwch nad ydych chi'n gwybod pwy ydyn nhw go iawn. Peidiwch byth â threfnu i gyfarfod â nhw oherwydd maen nhw'n ddieithriaid.

4. PEIDIWCH BYTH Â THREFNU I GYFARFOD â rhywun nad ydych chi'n ei adnabod. Dylech chi gadw'r neges a dylech chi bob tro ddweud wrth oedolyn rydych chi'n ymddiried ynddo.

5. SONIWCH WRTH OEDOLYN RYDYCH CHI'N YMDDIRIED YNDDO ar unwaith os ydych chi'n gofidio neu'n poeni am rywbeth sydd wedi digwydd ar lein.

6. Cofiwch GADW UNRHYW NEGESEUON sydd wedi achosi gofid i chi. Bydd angen i chi eu dangos nhw i bwy bynnag y byddwch chi'n dweud wrthynt – byddan nhw'n gallu'ch helpu, a byddan nhw'n gallu rhoi cyngor da i chi am beth arall y gallwch chi ei wneud. Peidiwch byth â phoeni am fynd i drwbl – nid chi yw'r un sydd wedi gwneud rhywbeth o'i le.

Atebion 1.Dywedwch wrth eich rhiant ble a phryd rydych chi'n cwrdd a mynd â nhw

gyda chi 2. Parhau i sgwrsio a thrafod gydag oedolyn dibynadwy 3. Peidiwch ag anfon llun, dywedwch wrth oedolyn

4. Parhau i sgwrsio a thrafod gydag oedolyn dibynadwy 5. Cadwch y neges a'i riportio + Siaradwch ag oedolyn dibynadwy 6. Cadwch y negeseuon a rhoi gwybod amdanynt + Stopiwch sgwrsio ar

unwaith + Siaradwch ag oedolyn dibynadwy

COFIWCH!

Page 10: Adnodd Addysgiadol SchoolBeat LLYFR · ar y rhyngrwyd ers misoedd. Mae hi eisiau ymweld â'm cartref. Beth ddylwn i ei wneud? Janet, 13 oed a. Mae hwn yn syniad da b. Parhewch i sgwrsio

10

AROLWG FFON

SYMUDOL Pam mae angen ffôn symudol arnom? Sut mae aelodau'ch cartref yn defnyddio eu ffonau symudol?

Cynhaliwch yr arolwg byr hwn gydag aelodau o'ch teulu, yna atebwch y 4 cwestiwn ar y dudalen gyferbyn

Faint sydd â ffôn symudol? . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Faint sydd â ffôn symudol sy’n gallu cysylltu â’r rhyngrwyd?. . . . . . . . . . .

Faint sy’n cael defnyddio ffôn symudol ffrind neu berthynas? . . . . . . . . .

Faint sy’n defnyddio ffôn symudol bob dydd? . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Faint sy’n defnyddio ffôn symudol i fynd ar y Rhyngrwyd bob dydd? . . . . . .

Faint sy’n ei ddefnyddio fel ffôn i siarad? . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Faint sy’n ei ddefnyddio i decstio?. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Faint sy’n ei ddefnyddio ar gyfer rhywbeth arall? . . . . . . . . . . . . . . . . .

LLUNIWCH SIART O'CH CANLYNIADAU:

>

Page 11: Adnodd Addysgiadol SchoolBeat LLYFR · ar y rhyngrwyd ers misoedd. Mae hi eisiau ymweld â'm cartref. Beth ddylwn i ei wneud? Janet, 13 oed a. Mae hwn yn syniad da b. Parhewch i sgwrsio

11

Dyma wnes i ddarganfod… 1. Mae fy nheulu yn defnyddio ffonau symudol i…

2. Mae gan fy nheulu angen ffonau symudol oherwydd…

3. Trafodwch gyda’ch teulu - Ydy ffonau symudol yn eich rhoi chi mewn perygl?

Holwch Taid a Nain Tadcu a Mamgu!

Sut oedd pobl yn cyfathrebu â’i gilydd cyn i ffonau symudol gael eu dyfeisio?

Page 12: Adnodd Addysgiadol SchoolBeat LLYFR · ar y rhyngrwyd ers misoedd. Mae hi eisiau ymweld â'm cartref. Beth ddylwn i ei wneud? Janet, 13 oed a. Mae hwn yn syniad da b. Parhewch i sgwrsio

12

GWEITHGAREDD CRACIO’R CÔD

Atebion: Colofn 1: Laugh out loud; oh my gosh; in my honest opinion; best friends forever; got to go; see you soon; Colofn 2: later; thanks; exciting; hugs and kisses; what you doing; wait; Colofn 3: you’re a cutie; text me back; love/ heart; cool; ha‐ha only joking; sorry; what’s up?

LOL OMG IMHO BFF G2G SYS

URAQT TMB <3

KEWL HHOJ SOZ

L8R THX XI10 XOXO WUD W8

Beth mae'r geiriau testun canlynol yn ei olygu?

Page 13: Adnodd Addysgiadol SchoolBeat LLYFR · ar y rhyngrwyd ers misoedd. Mae hi eisiau ymweld â'm cartref. Beth ddylwn i ei wneud? Janet, 13 oed a. Mae hwn yn syniad da b. Parhewch i sgwrsio

13

GÊM FFOLI AR Y FFÔNMae'r gêm hon yn helpu plant i adolygu risgiau a chanlyniadau cadarnhaol neu negyddol defnyddio neu gamddefnyddio ffonau symudol. Bydd angen i chi lawrlwytho ac argraffu'r adnoddau ar gyfer y gêm. Maent i gyd ar gael trwy glicio: https://schoolbeat.cymru/fileadmin/teachers/ks2u/picture-this/cym/follow-up/6a.%20Gem%20Bwrdd%20Ffoli%20ar%20y%20Ffon.pdf

• Argraffwch ddigon o ‘Gynfasau gêm bwrdd Ffoli ar y Ffôn’ i ganiatáu un rhwng dau berson.

• Argraffwch becyn o gardiau ‘Ffoli ar y Ffôn’.

• Bydd angen i chi ludo'r cwestiynau a ddarperir ar gefn 11 cerdyn ffôn melyn ac 11 cerdyn ffôn glas.

• Bydd angen dis a 2 gownter plastig ar bob pâr hefyd

I chwarae: • Gosodwch y bwrdd gyda

dwy set o luniau ffôn mewn pentyrrau lliw, (sgriniau melyn a glas)

• Taflwch y dis–Y chwaraewr sy'n taflu'r rhif uchaf sy'n dechrau gyntaf

• Symudwch y botwm un sgwâr ar gyfer pob rhif a deflir ar y dis

• Os byddwch yn glanio ar lun ffôn, codwch gerdyn o'r pentwr cywir, darllenwch beth sydd arno'n uchel a dilynwch y cyfarwyddiadau

• Bydd y chwaraewyr yn eu tro yn ceisio symud i ben draw'r bwrdd

• Y cyntaf i gyrraedd y diwedd sy'n ennill!

Page 14: Adnodd Addysgiadol SchoolBeat LLYFR · ar y rhyngrwyd ers misoedd. Mae hi eisiau ymweld â'm cartref. Beth ddylwn i ei wneud? Janet, 13 oed a. Mae hwn yn syniad da b. Parhewch i sgwrsio

Mae mwy o adnoddau y gellir eu lawrlwytho ar gael ar ein

gwefan hefyd!