Ymgeisydd 1 Portffolio ( Celf a Dylunio )

Post on 24-Feb-2016

125 Views

Category:

Documents

0 Downloads

Preview:

Click to see full reader

DESCRIPTION

Ymgeisydd 1 Portffolio ( Celf a Dylunio ). Ymgeisydd 1 Portffolio ( Celf a Dylunio ). Ymgeisydd 1 Portffolio ( Celf a Dylunio ). Ymgeisydd 1 Portffolio ( Celf a Dylunio ). Ymgeisydd 1 Portffolio ( Celf a Dylunio ). Ymgeisydd 1 Portffolio ( Celf a Dylunio ). - PowerPoint PPT Presentation

Transcript

Ymgeisydd 1 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 1 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 1 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 1 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 1 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 1 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 1 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 1 Portffolio (Celf a Dylunio)

AA1 – 27AA2 – 27AA3 – 28AA4 - 29

Cyfanswm – 111

Gallai’r gwaith Celf a Dylunio hwn fod wedi’i gyflwyno fel arnodiad Cyfathrebu Graffig hefyd, oherwydd heblaw am rywfaint o waith lluniadu yn y llyfr braslunio a’r canlyniad printiedig, mae’r cyflwyniad yn cynnwys prosesau a thechnegau digidol sy’n gysylltiedig â Graffeg yn bennaf. Fodd bynnag, mae ansawdd y dystiolaeth ar gyfer yr holl Amcanion Asesu yn dda iawn, yn enwedig ar gyfer Cyflwyno Personol a’r gwaith printiedig terfynol.

Mae Dealltwriaeth Gyd-destunol yn gryf, ac mae’n amlwg bod yr astudiaeth o adeiladau a’r ymchwiliad i artistiaid yn dylanwadu’n gyffredinol ar syniadau a chanlyniadau’r ymgeisydd.

Mae Gwneud Creadigol yn gyfyngedig i dystiolaeth o wneud printiadau, lluniadu a rhywfaint o ffotograffiaeth, sy’n golygu nad yw’r ymgeisydd yn arbrofi llawer gyda deunyddiau. Fodd bynnag, i ryw raddau mae lefel uchel y sgiliau sy’n amlwg yn ansawdd y canlyniadau yn gwneud iawn am hyn. Wrth edrych yn ofalus, mae un o’r dalennau hefyd yn cynnwys rhywfaint o dystiolaeth bod yr ymgeisydd wedi gweithio gyda thecstilau, gan ddefnyddio brodwaith braich rydd fel dull lluniadu. Byddai’r dystiolaeth hon wedi bod yn fwy amlwg pe bai’r ymgeisydd wedi cyflwyno’r darn ei hun yn hytrach na delwedd sgan ohono.

Roedd tystiolaeth dda o Gofnodi Myfyriol ar sail ymweliadau personol, ond byddai rhagor o luniadau, yn enwedig o adeiladau (a hynny ar sail arsylwi uniongyrchol yn hytrach na ffotograffau) wedi gwella’r cyflwyniad a datblygu’r elfennau gwreiddiol ac arloesol. Cyflwyno Personol: Mae’n amlwg bod yr ymgeisydd wedi gwireddu ei fwriadau ac wedi creu ymateb cryf a dwfn i’r thema Adeiladau Tirnod. Mae’n ailadrodd ei hun wrth ddatblygu ei syniadau i ryw raddau, a thrwy ddewis a dethol gofalus ar draws y cyflwyniad cyffredinol, gallai’r ymgeisydd fod wedi ennill marciau llawn am yr Amcan Asesu hwn.

Ymgeisydd 1 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 2 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 2 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 2 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 2 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 2 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 2 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 2 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 2 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 2 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 2 Portffolio (Celf a Dylunio)

AA1 – 22AA2 – 24AA3 – 23AA4 - 23Cyfanswm – 92

Mae’r Portffolio Ymgeisydd Diarnodedig Celf a Dylunio yn cynnwys 2 uned ar wahân, ac mae’r cyflwyniad fel pe bai’n dilyn fframwaith yr hen fanyleb. Mae’r themâu’n seiliedig ar ddiddordebau personol yr ymgeisydd, sef ceir ac adar, ac mae’r cyflwyniad hwn yn dangos yn glir sut mae diddordebau personol ymgeiswyr yn gallu bod yn fan cychwyn diddorol, gyda’r potensial i ysgogi a chynnal ffocws a chyfranogiad gydol y cwrs.

Mae Dealltwriaeth Gyd-destunol yn gyfyngedig. Fodd bynnag, ceir tystiolaeth o rywfaint o ddealltwriaeth o Hundertwasser, a datblygir syniadau a chanlyniadau ar sail hyn. Mae’r ymgeisydd yn defnyddio amrywiaeth resymol o ddeunyddiau ar gyfer Gwneud Creadigol. Gwaith lluniadu a pheintio a geir yn bennaf, ond mae’r ymgeisydd yn ehangu ar hyn drwy gynnwys rhywfaint o ffotograffiaeth ac aderyn cast plastr. Mae ansawdd y dystiolaeth yn deillio o luniadau’r ymgeisydd wrth arsylwi ar geir a manylion ceir, sy’n adlewyrchu diddordeb personol cryf a gwybodaeth am y pwnc dan sylw.

Mae elfen Cofnodi Myfyriol y cyflwyniad yn gymharol gryf oherwydd safon y lluniadau sy’n deillio o arsylwadau a’r astudiaethau cyfryngau cymysg a chollage hyderus o nodweddion ceir. Fodd bynnag, mae’n bosibl y byddai ffotograffiaeth agos greadigol wedi datblygu’r gwaith ymhellach ac wedi gwella’r elfen Gwneud Creadigol drwy ehangu’r amrywiaeth o ddeunyddiau a ddefnyddiwyd.

Mae elfen Cyflwyno Personol y gwaith yn dangos diffyg dychymyg. Mae unrhyw gysylltiad rhwng gwaith yr ymgeisydd â gwaith Hundertwasser yn arwynebol ac yn cael ei ddefnyddio fel cefndir yn hytrach na modd o ysbrydoli syniadau. Fodd bynnag, mae’r ymateb personol cryf a ysgogir gan ddiddordeb personol yr ymgeisydd yn y themâu dan sylw yn gwneud iawn am hyn.

Ymgeisydd 2 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 3 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 3 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 3 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 3 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 3 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 3 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 3 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 3 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 3 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 3 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 3 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 3 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 3 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 3 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 3 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 3 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 3 Portffolio (Celf a Dylunio)

AA1 – 30AA2 – 30AA3 – 30AA4 - 30Cyfanswm – 120

Ymgeisydd 3 Portffolio (Celf a Dylunio)

Roedd gwaith yr ymgeisydd hwn yn cynnwys llyfr braslunio yn llawn delweddau, sgiliau, technegau, cyfeiriadau at artistiaid ac ysbrydoliaeth a oedd yn berthnasol, ynghyd â Ffeil A2 o ganlyniadau mwy. Mae’r ymgeisydd yn defnyddio ei gartref, fferm a’r amgylchedd cyfagos, anifeiliaid a gwrthrychau i greu gwaith personol a pherthnasol. Mae’r holl Amcanion Asesu yn cael eu bodloni, gyda thystiolaeth glir ar gyfer pob un. Mae Dealltwriaeth Gyd-destunol yn gryf. Mae’r ymgeisydd wedi ymchwilio i waith artistiaid eraill mewn ffordd drylwyr a phriodol, gan ymgymryd â gwaith ymchwil i ffynonellau gwreiddiol sydd wedi’i helpu i archwilio cyfryngau amrywiol a datblygu syniadau. Ceir tystiolaeth weledol ac ysgrifenedig glir o ddealltwriaeth yr ymgeisydd o waith ymarferwyr creadigol fel ffordd o ysbrydoli canlyniadau o safon. O safbwynt Gwneud Creadigol, mae’r ymgeisydd wedi gwneud defnydd rhagorol o gyfryngau amrywiol, gan arbrofi’n effeithiol a phwrpasol gydag astudiaethau gwledig o adeiladau, caeau cyfagos, peiriannau buarth fferm ac anifeiliaid. Mae’r ymgeisydd yn defnyddio cyfryngau fel pasteli olew, pensiliau, paent, ysgrifbin a gwaith argraffu a ffeltio mewn ffordd fedrus a hyderus wrth i’r gwaith ddatblygu. Mae astudiaethau uniongyrchol sy’n deillio o arsylwadau uniongyrchol, ynghyd â ffotograffau, yn cefnogi ac yn gwella canlyniadau’r Cofnodi Myfyriol. Amlygir elfen gryfaf Cyflwyno Personol gan y ffaith fod yr ymgeisydd wedi nodi a gwireddu ei fwriadau mewn ffordd gynhwysfawr, ofalus a phwrpasol, gan ddangos cyfeiriad ac ymrwymiad personol.

Ymgeisydd 4 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 4 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 4 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 4 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 4 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 4 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 4 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 4 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 4 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 4 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 4 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 4 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 4 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 4 Portffolio (Celf a Dylunio)

AA1 – 30AA2 – 28AA3 – 28AA4 - 29Cyfanswm – 115

Mae’r rhan fwyaf o’r gwaith ar gyfer portffolio’r ymgeisydd hwn wedi’i gynnwys mewn un llyfr bach a chryno. Paentiad a dyluniad esgid yw’r canlyniadau terfynol. Mae man cychwyn y cwrs yn seiliedig ar sgiliau a thechnegau gweithdy o dan thema gyffredinol sydd hefyd yn galluogi’r ymgeisydd i ddilyn ei thrywydd ymchwil personol.

Dealltwriaeth Gyd-destunol: Mae’r llyfr CP1 yn cynnwys tystiolaeth glir o ymchwilio i waith artistiaid a diwylliannau, yn benodol sy’n gymorth i’r broses archwilio ac yn ehangu’r amrywiaeth o syniadau posibl. Mae anodiadau ysgrifenedig a gweledol yr ymgeisydd yn dangos dealltwriaeth o sut a pham y cafodd gwaith yr artistiaid hyn ei greu, ac maent yn berthnasol i’w hymarfer creadigol.

Gwneud Creadigol: Ceir tystiolaeth dda o arbrofi gyda thechnegau, ac mae datblygiadau cadarn yn helpu i ddatblygu syniadau. Mae’r ymgeisydd yn trin a thrafod cyfryngau fel paent, pensil, ysgrifbin a phastel yn dda iawn, ac mae hefyd yn dethol ac yn defnyddio deunyddiau eraill yn effeithiol, gan gynnwys cyfryngau newydd.

Cofnodi Myfyriol: Mae’r ymgeisydd wedi manteisio ar gyfleoedd i weithio gyda phrofiadau uniongyrchol, gan gynnwys lluniadau o arsylwadau uniongyrchol, fel rhan o’i gwaith ymchwil a chofnodi syniadau. Mae canlyniadau terfynol yr ymgeisydd, sef esgidiau a chynfas, yn dangos datblygiad clir o’r ymchwil a’r syniadau cychwynnol.

Cyflwyno Personol: Mae’r ymgeisydd wedi gwireddu ei bwriadau yn glir, gan ymateb mewn ffordd arloesol, hynod unigol a phersonol. Mae hi wedi gwneud cysylltiadau clir a phriodol rhwng ei gwaith ei hun a gwaith artistiaid a dylunwyr eraill.

Ymgeisydd 4 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 5 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 5 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 5 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 5 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 5 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 5 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 5 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 5 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 5 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 5 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 5 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 5 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 5 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 5 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 5 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 5 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 5 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 5 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 5 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 5 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 5 Portffolio (Celf a Dylunio)

AA1 – 30AA2 – 30AA3 – 30AA4 - 30

Cyfanswm – 120

Mae’r cyflwyniad helaeth hwn o Bortffolio Celf a Dylunio’r ymgeisydd yn cynnwys nifer o ganlyniadau cynfas o safon uchel, wedi’u hysbrydoli gan ymateb i’r thema ‘Ffurfiau Naturiol’. Mae’r ymgeisydd hefyd wedi dylunio a gwneud het dri dimensiwn sydd wedi’i hysbrydoli gan waith artist, sy’n cyd-fynd yn llwyr ag ymholiadau personol yr ymgeisydd. Cefnogir y gwaith gan ddalennau A2 sy’n cynnwys astudiaethau, arbrofion ac anodiadau, ynghyd â llyfr braslunio sy’n cynnwys gwaith celf, syniadau a chynlluniau pellach.

Mae’r pedwar Amcan Asesu yn cael eu bodloni’n llawn ac mae’r gwaith yn cynnwys enghreifftiau sydd wedi’u datblygu a’u cyflwyno’n dda. Efallai bod mwy o waith yma na’r hyn sydd ei angen i ennill marciau llawn. Nid bwriad y sylw uchod yw bod yn negyddol neu feirniadol, a dylid llongyfarch yr ymgeisydd ar ei chynnyrch. Bwriedir y sylw fel canllaw i ddangos i ganolfannau ac ymgeiswyr bod portffolio llai yn gallu ennill marciau llawn. Fodd bynnag, dylid nodi bod yr agwedd ymroddgar a hynod frwdfrydig a welir yma wedi meithrin hyder a meistrolaeth o safbwynt techneg sy’n gysylltiedig â lefelau/cymwysterau uwch.

Mae’r ymgeisydd wedi defnyddio ffotograffiaeth mewn ffordd sensitif, gan ei chyfuno â dulliau cofnodi eraill ar sail arsylwadau uniongyrchol er mwyn ei helpu i ddatblygu syniadau. Mae’n arbrofi gyda chyfryngau fel paent, pensil a chollage mewn ffordd effeithiol ac arloesol. Mae’r ymgeisydd yn cofnodi’r holl broses, o ddewis thema a’r cysyniadau gwreiddiol i’r canlyniadau terfynol, mewn ffordd glir a chynhwysfawr, gan egluro’r bwriadau a’r cysylltiadau â gwaith eraill yn llawn.

Ymgeisydd 5 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 6 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 6 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 6 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 6 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 6 Portffolio (Celf a Dylunio))

Ymgeisydd 6 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 6 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 6 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 6 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 6 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 6 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 6 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 6 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 6 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 6 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 6 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 6 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 6 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 6 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 6 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 6 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 6 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 6 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 6 Portffolio (Celf a Dylunio)

Ymgeisydd 6 Portffolio (Celf a Dylunio)

AA1 – 30AA2 – 30AA3 – 30AA4 - 30

Cyfanswm – 120

Mae’r enghraifft hon o Bortffolio Ymgeisydd Celf a Dylunio yn cynnwys gwaith rhagorol o safbwynt cyfanswm ac ansawdd mewn cyflwyniad TGAU. Mae’n cynnwys pedwar llyfr CP (pob un â man cychwyn wedi’i ddethol yn bersonol) gyda thystiolaeth o’r safon uchaf i fodloni’r holl Amcanion Asesu. Mae pob canlyniad yn deillio o waith sydd wedi’i ddatblygu a’i ddethol o bob llyfr braslunio, gan adlewyrchu aeddfedrwydd a gafael cadarn ar dechnegau mewn sawl cyfrwng, gan gynnwys peintio, ffotograffiaeth, argraffu, pensil a defnyddio meddalwedd ddigidol fel adnodd archwilio/cynllunio paentiadau.

Amlygir Dealltwriaeth Gyd-destunol yn glir yn yr holl lyfrau CP sy’n cynnwys ymchwiliadau i waith artistiaid ac yn mynd ati i’w harchwilio a’u datblygu mewn amrywiaeth eang o syniadau. Un o brif gryfderau Gwneud Creadigol yw’r gwaith arbrofi gyda chyfryngau. Mae’r ymgeisydd yn dethol ac yn defnyddio’r technegau a’r prosesau cryfaf i greu canlyniad o safon. Mae’r cynfas mawr sy’n portreadu ffigur symudol yn enghraifft berffaith o’r ymarfer hwn. Mae’r sgil a’r aeddfedrwydd wrth drin a thrafod paent er mwyn cyfleu cydbwysedd a symudiad yn rhagorol.

Cofnodi Myfyriol: Mae’r gwaith wedi’i lywio gan amrywiaeth eang o wrthrychau sy’n ysbrydoli ac astudiaethau o adar, pysgod a’r corff dynol, ynghyd ag ymweliadau ffynonellau gwreiddiol. Mae’r ymgeisydd yn egluro ac yn anodi pob proses ac addasiad yn drylwyr. Mae’r defnydd o luniadau arsylwadol drwy’r holl waith wedi arwain at ymatebion hyderus a gwreiddiol.

Cyflwyno Personol: Mae’r ymgeisydd yn cofnodi’r holl broses, o ddewis thema a’r cysyniadau gwreiddiol i’r canlyniadau terfynol, mewn ffordd glir a chynhwysfawr, gan egluro’r bwriadau a’r cysylltiadau â gwaith eraill yn llawn. Mae’r canlyniadau wedi’u datblygu’n fanwl ac yn adlewyrchu aeddfedrwydd a lefel sgiliau eithriadol. Mae yna ddigon o waith yn y Portffolio ar gyfer mwy nag un ymgeisydd, a chyn belled â bod pob amcan asesu yn cael ei fodloni o ran ansawdd a chydbwysedd, byddai hanner y gwaith hwn yn ddigon i ennill marciau llawn.

Candidate 6 Portfolio (Art & Design)

top related