Ten26 (Welsh translation) winter 2014
Post on 06-Apr-2016
241 Views
Preview:
DESCRIPTION
Transcript
CYFNODAU ANODDSUT GWNAETH BYWYD Y CFFI FY HELPU
l ENILLWYR EIN
CYSTADLAETHAU!
l CYNGOR YNGHYLCH
GYRFAOEDD YN Y
DIWYDIANT
l YN EISIAU – EICH
HEN LUNIAU AR GYFER
CYNHADLEDD 2015!
Hwyl, Dysgu a Chyflawni
Cylchgrawn Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc
EICH STRAEON
HEFYD TU MEWN
EICH BLOEDD!Y NEWYDDION DIWEDDARAF O’R CLYBIAU A’R SIROEDD
CYNORTHWYWYR BYCHANSUT MAE CFFI WEDI BOD YN YMDRECHU I GEFNOGI CYMUNEDAU LLEOL
GA
EAF
20
14
“Ho, ho, ho, fi yw cigydd bach y fro!”
HENRY SMITH YN PARATOI
AT Y NADOLIG:
Mae cyffro go iawn ymhlith yr aelodau ar hyn o bryd, ac adlewyrchir hynny yn eu presenoldeb mewn digwyddiadau, cystadlaethau, a hyd yn oed yn rhai o’r
digwyddiadau mwy ffurfiol, megis cyfarfodydd y Cyngor. Mae’n wych bod cymaint o bobl yn cymryd rhan yn y mudiad ac yn elwa cymaint arno hefyd,
Ni allaf gredu fod 2014 bron iawn â dod i ben – ond bu’n flwyddyn anhygoel i Glybiau Ffermwyr Ifanc. Rydym wedi cael gwrandawiad ar lwyfannau cenedlaethol a rhyngwladol mewn trafodaethau ynghylch diwygio’r PAC a dyfodol amaethyddiaeth, fe wnaeth mwy o bobl nag erioed gyfranogi yn ein Teithiau CFfI a chawsom un o’r Cynadleddau Blynyddol mwyaf llwyddiannus.
Serch hynny, nid oes llawer o amser i adfyfyrio, oherwydd yn y rhifyn hwn, rydym eisoes yn cynllunio Cynhadledd 2015. Mae bandiau llewys Torquay ar werth erbyn hyn, ac mae’r cyffro’n berwi yn barod! Y teulu fydd yn cael ein sylw y flwyddyn nesaf, felly sicrhewch eich bod chi a’ch teulu yn cymryd rhan yn ein cystadleuaeth ffotograffau ar dudalen 17.
Fel arfer, bydd y flwyddyn newydd yn annog llawer o bobl i ystyried newid swyddi, felly os ydy hynny yn eich’ch temtio, trowch at dudalen 20 a gwefan newydd HOPS i gael ychydig o gyngor.
Gobeithio y gwnewch fwynhau’r rhifyn hwn o Ten26 a dymunaf Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd wych i’n holl aelodau!Claire WordenCadeirydd y Cyngor Cenedlaethol
CYLCHGRAWN TEN 26
Golygydd: Cheryl Liddle
Cyfarwyddwr Celf: Ian Feeney
Cynhyrchir y cylchgrawn hwn ar gyfer aelodau
Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau
Ffermwyr Ifanc a’u ffrindiau a’u teuluoedd.
©FfCCFfI. Ni ellir atgynhyrchu unrhyw
ran o’r cylchgrawn hwn heb gael caniatâd
ysgrifenedig ymlaen llaw.
Croesawir unrhyw lythyrau, lluniau a
newyddion, ond cedwir yr hawl i olygu unrhyw
gyfraniadau.
Safbwyntiau’r cyfranwyr yw’r
rhai a fynegir yn y cylchgrawn hwn, ac
nid ydynt o reidrwydd yn adlewyrchu barn
FfCCFfI.
Os oes gennych ddiddordeb mewn
hysbysu yn ten26, cysylltwch â christina.
evans@nfyfc.org.uk neu ffoniwch 02476
857277.
02 TEN26
Mae fersiwn Saesneg o’r
cylchgrawn hwn ar gael hefyd.
Dewch i gwrdd â’r tîm cenedlaethol newydd a chadeiryddion newydd y grwpiau llywio: (ch-dd) Is-gadeiryddion Hannah Talbot a Chris Manley, Cadeirydd y Grŵp Llywio Cystadlaethau David Hamer, Cadeirydd Datblygiad Personol Nicola Chegwidden, Cadeirydd Amaethyddiaeth a Materion Gwledig Russell Carrington, Cadeirydd Cyfathrebu, Digwyddiadau a Marchnata David Maidment a Chadeirydd y Fforwm Ieuenctid Sioned Davies.
SWYDDOGION CENEDLAETHOL A PHWYLLGORAU
Y mis hwn, roedd bod yn rhan o’r Gwasanaeth
Diolchgarwch Cenedlaethol yng Nghadeirlan Birmingham
yn brofiad anhygoel. Fe wnes i berfformio darlleniad a chwrdd ag EHB Duges
Cernyw
CROESO I RIFYN Y GAEAF O TEN26
CYSYLLTWCHCall
t
@
f
Ffoniwch 02476 857200
E-bostiwch magazine@nfyfc.org.uk
‘Hoffwch’ yn www.facebook.com/nfyfc
Dilynwch yn twitter.com/nfyfc
DEFNYDDWCH EICH FFÔN SYMUDOL!
Cofiwch, gallwch bellach weld gwefan FfCCFfI ar eich ffôn symudol, oherwydd
rydym wedi’i gwneud yn haws ei gweld ar sgriniau bychan!
CYNNWYS
TU MEWNTU MEWN04 NEWYDDIONNewyddion diweddaraf FfCCFfI
SGILIAU DA
18 Y SWYDDPam mae Henry Smith wrth ei fodd â’i waith fel cigydd
20 HOLWCH ARBENIGWYR GYRFAOEDDCyngor ynghylch gyrfaoedd i lwyddo yn y diwydiant
22 RHAGLENNI CLYBIAUCynlluniwch gyfarfodydd eich clwb trwy ddilyn ein canllaw hanfodol
ERTHYGLAU NODWEDD
14 PROFFIL AELODSut gwnaeth y CFfI helpu Georgina Morris i ymdopi â chyfnodau anodd yn ei bywyd.
16 Y GYNHADLEDDY teulu fydd yn cael sylw yn Torquay yn 2015
CYSTADLAETHAU
Hanesion enillwyr diweddaraf ein cystadlaethau
08 COGINIO A CHELF BLODAUEnillwyr Sioe Hydref Malvern
10 SGILIAU FFERMEnillwyr o’r Penwythnos Sgiliau Fferm
12 TYNNU RHAFFDewch i gwrdd ag enillwyr y cystadlaethau Tynnu Rhaff a’r Arddangos Ciwb
FFORWM IEUENCTID
24 IEUENCTID YN LLWYDDO Sicrhau cymorth Cyngor Ieuenctid Prydain
EICH BLOEDD
28 NEWYDDION RANBARTHOLY newyddion diweddaraf o glybiau o bob cwr o Brydain
TEN26 03
DISGOWNTIAU I AELODAU
PEIDIWCH Â METHU’R CYNIGION
DIWEDDARAF I AELODAU – TUDALEN 32
04 TEN26
Nid oes angen pryderu ynghylch dyfodol amaethyddiaeth ym Mhrydain - mae’r cyfan
yn ddiogel yn nwylo’r ffermwyr ifanc. Ni fyddwch yn disgwyl i rywun eich cynorthwyo nac yn mynnu fod rhywun yn sicrhau fod gennych fywoliaeth - byddwch yn bwrw ymlaen â’ch gwaith!
Daeth hyn yn hollol amlwg pan gefais y fraint o fynychu ymgynghoriad arbennig yn Nhŵ San Siôr gydag aelodau FfCCFfI ac amrywiaeth helaeth o bobl o bob rhan o’r diwydiant - llawer ohonynt yn unigolion dylanwadol iawn. Nod yr ymgynghoriad oedd trafod sut i ddenu rhagor o bobl ifanc i weithio ym myd amaeth. Dyna gyfarfod calonogol dros ben! Rwyf wedi mynychu cymaint o gyfarfodydd lle bydd pobl yn cwyno
am y Llywodraeth a sut ddylai wneud rhagor i’w cynorthwyo. Roedd y cyfarfod hwn yn wahanol. Roedd aelodau CFfI yn amlwg yn benderfynol i fwrw iddi i gyflawni pethau eu hunain - ni chafwyd cwynion, dim ond ysbrydoliaeth ac optimistiaeth.
Cefais y fraint hefyd o weld yr awydd hwn i lwyddo ar waith fel un o feirniaid cystadleuaeth Stocmon y Flwyddyn. Cefais fy rhyfeddu gan yr 16 cystadleuydd yn Harper Adams.
Roedd eu gwybodaeth o’r pwnc, yr ymdrech fawr a wnaethant wrth baratoi eu cyflwyniadau a’r hyder y gwnaethant ei ddangos wrth gael eu croesholi gan y beirniaid yn drawiadol iawn. Chwe deg mlynedd yn ôl, fe wnes i gymryd rhan mewn cystadlaethau barnu stoc fel aelod CFfI. Roedd yn llawer symlach bryd hynny - dim mwy na beirniadu chwe
FY UNIG SIOM OEDD METHU CAEL CYFLE I BROFI’R HOLL FWYD YN Y GYSTADLEUAETH COGINIO
Poul yn cwrdd â chystadleuwyr rownd derfynol
y gystadleuaeth coginio yn Sioe Hydref Malvern
mochyn mewn corlan. Cyrhaeddais y rownd derfynol ranbarthol, ond dyna oedd diwedd y daith i mi! Ond roedd yr aelodau hyn yn rhagorol. Bydd gan y wlad hon nifer o stocmyn gwych yn y dyfodol.
Mae nifer o gogyddion gwych ymhlith ein haelodau hefyd. Gwelais gystadleuwyr rownd derfynol y gystadleuaeth goginio yn creu seigiau hyfryd yn Sioe Hydref Malvern, ac roedd eu rhieni yno i’w cefnogi. Fy unig siom oedd methu cael cyfle i brofi’r holl fwyd!
Roedd yn ffordd wych o hyrwyddo’r CFfI a dangos i’r byd fod dyfodol amaethyddiaeth mewn dwylo diogel yn wir.
NEWYDDIONNEWYDDIONY NEWYDDION DIWEDDARAF A
DIWEDDARIADAU O BOB RHAN O’R FFEDERASIWN
Y LLYWYDDDIWEDDARIAD
Pwysigrwydd ffermio teuluol oedd pwnc trafod uwchgynhadledd ryngwladol ddiweddar ble gwnaeth dau aelod CFfI ddysgu rhagor am y diwydiant.
Fe wnaeth Lynsey Martin o FfCFfI Caint a Catherine Bennet o FfCFfI Maldwyn ymuno â mynychwyr o 50 o wledydd a phum cyfandir yn yr uwchgynhadledd yn Bordeaux.
Fe wnaeth cynrychiolwyr o bob gwlad, yn cynnwys Lynsey ar ran FfCCFfI, arwyddo maniffesto yn galw am sicrhau fod ffermydd teuluol yn ateb i’r dyfodol trwy addo cymorth i helpu ffermwyr ifanc i ymsefydlu mewn ffermydd teuluol a sicrhau fod ffermio teuluol yn rhan ganolog o ddatblygu tiroedd.
“Nod yr uwchgynhadledd oedd meithrin ffermwyr ifanc a chynyddu eu niferoedd, a darparu atebion pendant i ffermio teuluol yn y dyfodol,” meddai Catherine. “Fe
wnaethom ddysgu fod 40% o boblogaeth weithgar y byd yn ymwneud â ffermio teuluol. Roedd hi’n ddiddorol dros ben clywed am, bwysigrwydd ffermio teuluol mewn gwledydd eraill.”
Sylweddolodd Catherine bwysigrwydd deall beth mae gwledydd eraill yn ei wneud a dysgu o’u harferion hwy. Yng Nghenia, er enghraifft, mae 80% o’r boblogaeth yn dibynnu ar amaethyddiaeth, ac mae cyfran helaeth o’r ffermydd yn ffermydd teuluol bychan. “Mae hyn yn taflu goleuni ar agenda amaethyddiaeth mewn gwledydd eraill, o’u cymharu â Phrydain,” ychwanegodd
TEN26 05
3-10 IONAWRTAITH SGÏO CFFI I FFRAINC
28-29 IONAWRCYNHADLEDD STAFF FFCCFFI, STRATFORD UPON AVON
21-22 CHWEFRORCYFARFODYDD Y GRWPIAU LLYWIO A’R CYNGOR, COVENTRY
3 MAWRTHHYFFORDDIANT RHEOLI PRIDD, NORFOLK
21 MAWRTHROWNDIAU RHANBARTHOL CYSTADLAETHAU SIARAD CYHOEDDUS Y GOGLEDD A’R DE
22 MAWRTHROWNDIAU RHANBARTHOL CYSTADLAETHAU CELFYDDYDAU PERFFORMIO Y GOGLEDD A’R DE
24-26 EBRILLY GYNHADLEDD FLYNYDDOL YN TORQUAY, YN CYNNWYS Y CCB
27-28 MEHEFINCYFARFODYDD Y GRWPIAU LLYWIO A’R CYNGOR, COVENTRY
4-5 GORFFENNAFPENWYTHNOS CYSTADLAETHAU, SWYDD STAFFORD
MAE FFERMYDD TEULUOL YN HANFODOL
PARATOWCH AM FLWYDDYN O WEITH-GAREDDAU CFFI A NODWCH Y DYDDIADAU NAWR!
A OES GENNYCH STORI? FFONIWCH 02476 857200
NEU E-BOSTIWCH MAGAZINE@NFYFC.ORG.UK
2015 DYDDIADAU’R DYDDIADUR
YN ÔL I’R DYFODOLFel Doctor Who yn y Tardis, cafodd un aelod ffodus gipolwg ar y dyfodol ar ôl ennill cystadleuaeth a drefnwyd gan Massey Ferguson a’r CFfI.
Fe wnaeth Helen Reeve ennill lle ar daith VIP yn rhad ac am ddim i Beauvais – cartref Massey Ferguson – i fynychu digwyddiad Vision of the Future a drefnwyd gan y cawr hwn ym maes peiriannau amaethyddol. Roedd yr antur tri diwrnod yn cynnwys 6,000 o bobl o 40 gwlad.
“Mynychais seminarau ble cefais gyfle i ddysgu rhagor am gynllun Massey Ferguson i ddatblygu tractorau heb yrwyr a’r peiriannau amrywiol eu marchnerth a gaiff eu lansio,” meddai Helen, a gafodd gyfle hefyd i roi cynnig ar yrru peiriannau diweddaraf Massey Ferguson.
“Cefais gwrdd â phobl ddiddorol, gweld peiriannau gwych, blasu bwyd ardderchog Ffrainc a chefais fy nghroesawu i deulu estunedig Massey Ferguson yn ystod fy nhaith. Diolch i Massey Ferguson am antur unigryw!”
06 TEN26
Fe wnaeth aelodau FfCCFfI gymryd rhan mewn ymgynghoriad arbennig yng Nghastell Windsor yng Ngorffennaf i drafod sut i ddenu rhagor o bobl ifanc i ddewis gyrfa amaethyddol.
Nod yr ymgynghoriad yn Nhŵ San Siôr, a gynhelir yn flynyddol i
drafod pwnc sy’n ymwneud â bwyd a ffermio, oedd creu trafodaeth ynghylch camau a awgrymir yn adroddiad Dyfodol Ffermio a gyhoeddwyd y llynedd.
Roedd y trefnwyr yn dymuno trafod syniadau gyda phobl iau a chasglu eu safbwyntiau ynghylch rhagolygon gyrfa ym maes amaethyddiaeth. Fe wnaeth aelodau FfCCFfI ymuno â 40 o bobl ifanc eraill a chynrychiolwyr sy’n gysylltiedig â ffermio.
Dywedodd Russell Carrington, Cadeirydd y Grŵp Llywio Amaethyddiaeth a Materion Gwledig: “Fe wnaethom gwrdd â nifer o bobl ddiddorol iawn ac roedd yn gyfle gwerthfawr iawn i rwydweithio a meithrin cysylltiadau i’r dyfodol. Hyderwn y gwireddir rhai o’r camau gweithredu a drafodwyd.”
GWEDDNEWIDFFERMIO
HYFFORDDIANT CLYBIAUO arweiniad i reoli cyllideb digwyddiad nesaf eich clwb i gyngor ynghylch denu aelodau newydd, mae rhaglen hyfforddiant FfCCFfI, The Curve, yn adnodd hanfodol!
Cafodd y gweithdai hwyliog a rhyngweithiol eu cynllunio’n arbennig ar gyfer y CFfI, a bydd angen oddeutu 1.5 awr i’w rhedeg a gellir eu cyflwyno gan aelod o dîm hyfforddi eich Sir.
Mae gan bob sir hyfforddwyr
cymeradwy y mae FfCCFfI wedi’u cofrestru fel swyddogion hyfforddiant. Mae ganddynt ganllaw cyflwyno’r cyrsiau ac adnoddau i sicrhau fod sesiynau eich clwb yn addysgiadol a difyr. Hefyd, fe gewch dystysgrif am gymryd rhan. I gael rhagor o wybodaeth, trowch at www.
nfyfc.org.uk/TheCurve/thecurve a chysylltwch â thîm hyfforddi eich Sir i gael manylion sesiynau’r dyfodol.
ROEDD Y TRAFODAETHAU’N CYNNWYS:l Rhagor o arian ar gyfer adroddiad FfCCFfI ynghylch Gwasanaeth Paru Amaethyddol er mwyn ei sefydlul Gwefan ganolog i’r diwydiant i hyrwyddo gyrfaoedd a hyfforddiant amaethyddoll Ymgyrch i annog cynllunio ar gyfer olyniaeth ac annog teuluoedd i drafod hyn yng nghyntl Rhwydweithio rhwng cyfoedion a’r angen am sustem cyfeilliol Gwella proffesiynoldeb amaethyddiaeth a’r posibilrwydd o greu statws siartredigl Cynllun ariannol i alluogi ffermwyr ifanc i ddatblygu hanes credyd.
CWRDD: (ch-dd) Helen Reeve, aelod o FfCFfI Norfolk; Russell Carrington; Caroline Trude, Is-gadeirydd FfCFfI Dyfnaint; Chris Manley, Is-gadeirydd FfCCFfI; CharlotteJohnston, aelod o FfCFfI Swydd Warwick a James Eckley, Prif Swyddog
Mae’r Adroddiad Ymgynghorol bellach ar gael yn www.
stgeorgeshouse.org/farmingreport
i
NEWYDDIONNEWYDDION
TEN26 07
PORFAFRASACH
PORFA: Aelodau ar Fferm Eastfield, gwlad yr Haf
Rheoli tir glas yn well oedd nod cwrs hyfforddi rhad ac am ddim i aelodau CFfI ym mis Medi.
Ariannwyd y cwrs gan Defra a chafodd ei gynnal gan Gymdeithas Tir Glas Prydain yn Fferm Eastfield yng Ngwlad yr Haf, a dysgodd 17 Ffermwr Ifanc ragor am y pwnc gan nifer o arbenigwyr y diwydiant.
Cafodd y mynychwyr gyngor ynghylch cynllunio gwndwn, ffermio tir glas yn y sectorau bîff a defaid, a rheoli maeth porfeydd.
Dyma’r ail flwyddyn y cafodd y cwrs hyfforddi ei
gynnal, a chafodd yr aelodau a gyfranogodd ennill pump o bwyntiau datblygiad proffesiynol parhaus Dairy Pro.
Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys cyfle i gystadlu yng nghystadleuaeth Gwobr Ffermwr Tir Glas y Dyfodol, a chyhoeddwyd mai Dafydd Phillips o CFfI Hermon yn Sir Benfro yw enillydd eleni.
Daeth gwybodaeth Dafydd o’r diwydiant i’r amlwg yn her BGS i ddatblygu menter tir glas broffidiol ar fferm aflwyddiannus, gan ddefnyddio buddsoddiad o £100,000.
Cyflwynodd Dafydd (chwith) gynllun busnes ar gyfer menter ffermio llaeth newydd, a dywedodd: “Fe wnes i gystadlu oherwydd rwy’n hoffi her. Rwy’n falch iawn o fod wedi ennill oherwydd gweithiais yn galed i baratoi’r cynllun.”
I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau
hyfforddi, trowch at www.nfyfc.org.uk/courses/courses
i
DEWCH I DRYDAR! Roedd gwahaniaethu rhwng ‘Hoffi’ a ‘Ffefrynnau’ i fanteisio’n llawn ar gyfryngau cymdeithasol yn rhan o gwrs hyfforddi rhad ac am ddim a gynhaliwyd ym mis Medi. Diolch i gymorth ariannol Defra, fe wnaeth naw Ffermwr Ifanc dreulio diwrnod yn Stoneleigh gyda’r arbenigwyr ar gyfryngau cymdeithasol, Social B, i ddysgu sut i hyrwyddo eu CFfI neu ehangu busnes gwledig.
Fe wnaeth Hywel Griffiths o FfCFfI Morgannwg fynychu’r cwrs, a dywedodd: “Gallaf ddefnyddio fy sgiliau i helpu fy nghlwb a fy ngwaith hefyd. Mae cyfryngau cymdeithasol yn amhrisiadwy er mwyn cyrraedd eich cynulleidfa darged, a rhaid i’r CFfI ar bob lefel eu cofleidio. Fe wnes i ddysgu am agweddau o gyfryngau cymdeithasol nad oeddwn yn gwybod eu bod yn bodoli.”
CYSTADLAETHAU: SIOE HYDREF MALVERN
Cafwyd gwleddoedd a weddai i arwyr rhyfel yn Sioe Hydref Malvern pan baratôdd 35 o siroedd brydau trawiadol i’r beirniaid
GWASANAETHU
08 TEN26
Ciniawau cyw iâr rhost a phwdinau sbwng oedd rhai o’r seigiau traddodiadol blasus a baratowyd gan aelodau yn y gystadleuaeth
coginio genedlaethol eleni, dan y thema ‘Gwasanaethu Ein Gwlad’.
Brwydrodd timau o bob cwr o Gymru a Lloegr gan ddefnyddio dim ond stof nwy fechan i baratoi pryd i groesawu un o arwyr y Rhyfel Mawr adref - ond Sir Benfro a blesiodd y beirniaid fwyaf!
Llwyddodd yr enillwyr Eleri George, Sara-Jane Thomas a Sara Owen o CFfI Keyston yn Sir Benfro i sesno’u prydau yn berffaith! Gwnaeth eu paratoadau, eu sgiliau technegol a’u gorffeniad argraff ar y beirniad.
“Fe wnaethom ddefnyddio cynhwysion oedd yn gysylltiedig â thema’r Rhyfel Mawr; brithyll, cig moch, wyau a phethau a dyfir yn yr ardd. Cawsom gyngor gan Arweinyddion y Clwb a’r genhedlaeth hŵn – diolch yn fawr iawn i’n
hyfforddwr ac arweinydd y clwb, Mrs Jenny Mountstephens,” meddai Eleri, a ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth y llynedd. “Ein cyngor pennaf fyddai sesno popeth – hyd yn oed y llysiau! A mwynhewch y profiad.”
Aeth rhai cystadleuwyr gam ymhellach, gan wisgo ffedogau a rhwydi gwallt hen ffasiwn i goginio - fe wnaeth hyn ddifyrru’r gwylwyr!
Beirniadwyd y gystadleuaeth unwaith eto gan Ben Axford, arbenigwr bwyd ac un o gystadleuwyr rownd derfynol BBC Masterchef, a daeth beirniad newydd o’r enw Hetty Zeigler-Jones, sy’n rhedeg ei busnes arlwyo a chacennau ei hunan, i ymuno ag ef. Fe wnaeth safon y cystadlu argraff ar y ddau, a dywedodd Ben fod techneg y Ffermwyr Ifanc wedi gwella.
“Am flynyddoedd, roedd y seigiau braidd yn rhy fawr a ddim digon cain. Cafwyd cam sylweddol ymlaen o ran y cyflwyniad eleni, ac fe wnaeth hynny argraff fawr arnaf,” meddai Ben.
Ar ôl paratoi’r seigiau, roedd gan y beirniaid y gwaith anodd o brofi a marcio pob ymgais.
“Hyd yn oed os yw’n saig nad wyf
EIN GWLAD
A OES GENNYCH STORI? FFONIWCH 02476 857200
Wedi blynyddoedd yn gwylio ei chwiorydd mawr yn cystadlu yn yr adran Celf Blodau, dangosodd Lucy Jeyes o CFfI Brandon & Wolston iddynt sut i sicrhau llwyddiant pan enillodd y wobr gyntaf yn yr adran i aelodau sy’n 16 mlwydd oed neu’n iau.
Tasg Lucy oedd creu arddangosfa yn seiliedig ar gerdd ryfel, a threuliodd wythnosau yn paratoi dehongliad blodeuog o How to Die gan Siegfried Sassoon i geisio ennill y gystadleuaeth.
“Mae fy chwiorydd yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon ers blynyddoedd, ac nid ydynt erioed wedi llwyddo i ddod yn gyntaf, ail na thrydydd.
“Dyma fy nhro cyntaf yma, felly efallai bydd rhaid i mi rwbio halen yn y briw,” chwarddodd Lucy. “Rwyf wrth fy modd fy mod i wedi ennill. Rwyf wedi treulio rhai wythnosau yn paratoi hyn.”
Gofynnwyd i’r cystadleuwyr dan 21 mlwydd oed greu arddangosfeydd yn seiliedig ar y Caniad Olaf a threfniant Jessica Brookham o CFfI Launceston yng Nghernyw oedd ffefryn y beirniad.
“Mae’r coch, gwyn a glas yn cynrychioli Jac yr Undeb, mae’r groes yn cynrychioli’r sawl a gollodd eu bywydau y byddwn yn cofio amdanynt, ac wrth gwrs, mae’r trwmped yn cynrychioli offeryn y Caniad Olaf,” eglurodd Jessica
ynghylch ei harddangosfa. “Nid wyf yn credu fod unrhyw aelod o fy Nghlwb wedi ennill rhywbeth fel hyn o’r blaen, felly rwy’n teimlo’n falch iawn!”
Yn y categori i aelodau 26 mlwydd oed ac iau, enillodd Vivki Seed o CFfI Chipping yn Swydd Caerhirfryn o’r diwedd ar ôl chwe blynedd yn cystadlu.
“Mae ennill yn dipyn o ryddhad i mi,” meddai Vicki, a baratôdd arddangosfa yn seiliedig ar y thema: mae ar eich gwlad eich angen chi. “Mae’n gystadleuaeth heriol iawn. Mae cyrraedd y gystadleuaeth genedlaethol yn dipyn o gamp – felly mae ennill yn bleser mawr”
ENILLWYR: Eleri George, Sara Owen
a Sara-Jane Thomas a’u seigiau buddugol
(isod)
yn hoff ohono, rwy’n gwybod sut ddylai gael ei sesno a sut ddylai flasu, felly mae’n hawdd marcio’n deg,” eglurodd Hetty. “Roedd ein sgoriau’n eithaf tebyg drwyddi draw.”
Roedd y beirniaid yn unfrydol yn eu penderfyniad i roi’r wobr gyntaf i Sir Benfro, a daeth Sir Faesyfed yn ail a Swydd Durham a Swydd Caerhirfryn A yn gydradd drydydd.
TEN26 09
Mireiniwch eich sgiliau coginio trwy ddilyn cynghorion doeth y beirniaid:l Cofiwch goginio eich seigiau mewn da bryd – dylech geisio gorffen popeth mewn 45 munud gartref, oherwydd bydd gennych awr yn unig yn y gystadleuaeth ac fe aiff amser yn llawer cyflymach yno.l Sesno – mae hynny’n golygu llysiau hefyd, ac ni ddylech eu hanwybyddu!
l Sicrhewch fod gan eich bwydlen gydbwysedd dal Cofiwch am faint y prydau a cheinder y cyflwyniad.
SICRHAU LLWYDDIANT
GOSOD BLODAU
AELODAU IAU
ADRAN GANOL
(Ch-Dd) 2il: Sioned Price,Sir Gâr, 3ydd Katie Parrish,
Swydd Bedford, 1af Lucy Jeyes,Swydd Warwick
(Ch-Dd) 2il: Sarah Brown, Dyfnaint,
3ydd: Stephanie Parry, Gwent, 1af:
Jessica Brookham, Cernyw
(Ch-Dd) 1af: Victoria Seed,Swydd Caerhirfryn, 2il: AnneRogers, Maesyfed, 3ydd: Jacalyn Dobson, Swydd Caerhirfryn
AELODAU HŵN
CYSTADLAETHAU: SGILIAU FFERM
10 TEN26
GODRO LLWYDDIANT!STOCMON Y FLWYDDYN
Roedd byw ar fferm gwartheg bîff a defaid yn golygu na chafodd Elin Harvard lawer o gyfle i ymarfer barnu gwartheg
godro a moch. Ond ni wnaeth diffyg ymarfer rwystro’r aelod 17 mlwydd oed wrth iddi ddychwelyd i Gymru â thlws Stocmon Iau Gorau’r Flwyddyn.
“Fel arfer, ni fyddaf yn gweld llawer o wartheg godro na moch,” meddai Elin, o CFfI Pontsenni ym Mrycheiniog. “Rwyf wedi magu profiad trwy gystadlu mewn
cystadlaethau amrywiol.”Roedd ennill yn 2014 brofiad
brafiach fyth ar ôl iddi ddod yn drydydd yn y gystadleuaeth yn rowndiau terfynol y llynedd. Ac eleni, fe wnaeth hi hyd yn oed guro ei chwaer fach, Nia Harvard.
“Mae Nia dair blynedd yn iau na mi felly mae ganddi rai blynyddoedd o gystadlu yn weddill, felly nid wyf yn teimlo’n rhy euog,” chwarddodd Elin. “Ni allai fy nhad gredu fy mod i wedi ennill a chredai fod y beirniaid wedi cyfrifo’r sgoriau yn anghywir!”
Cefnogwyd y gystadleuaeth gan Defra, ac roedd hefyd yn cynnwys gwobr fawreddog Stocmon y Flwyddyn FfCCFfI, a Peter James o CFfI Leek yn Swydd Stafford oedd yr enillydd balch.
Fe wnaeth yr aelod 24 mlwydd oed guro 15 o gystadleuwyr i gipio’r wobr ar ôl gwneud cyflwyniad ffurfiol a chael ei groesholi gan y beirniaid.
Daeth sgiliau adeiladu a sgiliau fferm ynghyd i helpu FfCFfI Maldwyn i ennill rownd derfynol y gystadleuaeth Codi Ffens. Dyma’r bedwaredd flwyddyn y gwnaeth yr adeiladwyr siediau Terry Morgan ac Ed Griffiths gyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth, ond eu tro cyntaf fel buddugwyr – a chafwyd cymorth aelod newydd o’r tîm, Geraint Woosnam, sy’n weithiwr amaethyddol.
“Fe wnaethom ymarfer ddwywaith cyn cystadlu – ond mae gennym oll brofiad o godi siediau, ac mae rhai o’r sgiliau yn debyg i godi ffensys, oherwydd rhaid i’r pyst fod yn syth ac mewn llinell,” eglurodd Terry.
Mae gan y tîm ddull traddodiadol o godi ffensys ac maent wedi cadw at hynny bob blwyddyn – a gwnaeth hynny argraff ar y beirniaid eleni.
“Roedd aelodau ein clwb wrth eu bodd ein bod wedi ennill, ac fe wnaethom oll ddathlu. Roedd hi’n braf gallu dod â’r tlws yn ôl gyda ni. O’r diwedd, llwyddasom i gyflawni nod rydym wedi bod yn anelu ato ers blynyddoedd,” meddai Terry.
Daeth Swydd Henffordd yn ail yn y gystadleuaeth a daeth Gwlad yr Haf yn drydydd.
FFENSIO GRYMUSCODI FFENS
ENILLWYR: (ch-dd) 2il Grace Whitcombe,
Gwlad yr Haf, 3ydd Chloe Harris, Swydd
Henffordd B ac Elin Havard, Brycheiniog A
A OES GENNYCH STORI? FFONIWCH 02476 857200
STOCMYN: Barnu gwartheg yn rowndiau terfynol Stocmon
y Flwyddyn (dde) Stocmon Hŷn y Flwyddyn, Peter James
(uchod) (ch-dd)3ydd Geraint Jenkins,
Ceredigion B ac 2il, Dion Davies, Ceredigion A
Roedd Megan Beecroft yn benderfynol o ddal gafael ar ei theitl, ac fe wnaeth argraff ar y beirniaid am yr ail flwyddyn yn olynol i sicrhau buddugoliaeth i Swydd Efrog yn rownd derfynol y gystadleuaeth Barnu Gwartheg Godro i aelodau iau yn Sioe Fawr Swydd Efrog.
Mae’r aelod 15 mlwydd oed yn byw ar fferm laeth yn Harrogate, ac mae hi wedi elwa ar gynghorion gan siaradwyr arbenigol yn y Clwb Bridwyr Gwartheg Holstein lleol a gan ei thad.
“Allwn i ddim credu pan enillais y llynedd - nid oedd gennyf fy nghôt wen yn ystod y seremoni wobrwyo hyd yn oed, oherwydd roeddwn yn meddwl yn siŵr nad oeddwn wedi ennill - ond roedd ennill unwaith eto yn anhygoel,” meddai Megan, aelod o CFfI Felliscliffe.
Roedd Megan hefyd yn aelod o dîm Swydd Efrog a enillodd Dlws Farmer and Stockbreeder, a derbyniodd y wobr yn falch gyda Frances Griffiths a Georgina Fort. Mae Megan yn awyddus i ddefnyddio’i holl wybodaeth am farnu stoc yn ei gyrfa yn y dyfodol, ac mae hi bellach yn anelu at drydedd fuddugoliaeth wrth farnu gwartheg godro. “Byddaf yn sicr o gystadlu yn 2015. Fy nghyngor i eraill yw rhoi cynnig arni a mwynhau’r profiad!”
Roedd yn ddiwrnod llwyddiannus iawn i Swydd Efrog, oherwydd fe wnaeth aelod arall o’r sir –Jennie Booth – ddod yn gyntaf yng Nghystadleuaeth Barnu Gwartheg Godro yr aelodau hŵn am yr ail flwyddyn yn olynol. Ond Sarah Pugh o Swydd Caerloyw a enillodd dlws yr adran ganol.
MAWREDD SWYDD EFROGBARNU GWARTHEG GODRO
Ar ôl dod yn drydydd yn 2012, roedd dau aelod o Gernyw yn benderfynol i lwyddo yn rownd derfynol genedlaethol y gystadleuaeth Effeithlonrwydd a Diogelwch Cerbyd Pob Tir (ATV).
Dywedodd Brett Burchell a Jonathan Melhuish o CFfI Liskeard mai cydweithio oedd cyfrinach eu llwyddiant.
“Ni chawsom gyfle i ymarfer cyn y gystadleuaeth,” cyfaddefodd Brett, sy’n defnyddio beiciau modur cwad ar y tair fferm ble mae’n gweithio,, ac mae Jonathan yn eu defnyddio ar fferm gwartheg bîff a defaid ei deulu. “Gwaith tîm ar y diwrnod oedd yn allweddol,” ychwanegodd.
Tasg yr aelodau oedd gyrru ATV ochr yn ochr o amgylch cwrs heriol, gan gario pêl yng nghefn y cerbyd heb ei cholli. Yn ogystal â thasg cymorth cyntaf, roedd rhaid iddynt fachu trelar yn ddiogel a chywir, heb golli’r bêl.
“Roedd y cwrs yn cynnwys un darn garw iawn ac fe wnaethom ddewis y llwybr gorau ac ymblethu trwy’r mannau cyfyng,” meddai Brett.
Ar ôl ennill, cafodd y ddau negeseuon testun i’w llongyfarch gan aelodau eu Clwb. “Mae’n braf gwybod fod rhywun yn gwerthfawrogi eich llwyddiant,” meddai. Daeth Cumbria yn ail yn y gystadleuaeth a Swydd Henffordd yn drydydd. TEN26 11
DWYLO DIOGELATV OCHR YN OCHR
12 TEN26
DRIVE IT HOME
Nid oedd ennill y gystadleuaeth tynnu rhaff iau yn rowndiau terfynol cenedlaethol 2013 a 2014 yn ddigon i CFfI Parbold, a
aeth ati i dynnu mewn cystadleuaeth ryngwladol.
Wedi eu llwyddiant yn 2013, fe wnaeth y Clwb gystadlu yn nhwrnamaint 2014 GENSB ar ôl sylweddoli ei fod yn cael ei gynnal ym Mhrydain eleni. Gan wynebu timau rhyngwladol ac athletwyr 12-19 mlwydd oed, fe wnaeth y Clwb yn wych i gyrraedd y pumed safle yn y gystadleuaeth.
Dywedodd yr hyfforddwr, David Garner: “Rhannwyd y gystadleuaeth yn bedwar grŵp, ac roedd y pedwar tîm gorau o bob grŵp yn mynd ymlaen i’r rowndiau dileu. Roedd Parbold o fewn trwch blewyn i gael lle yn y rowndiau dileu. Ddim yn ddrwg fel cynnig cyntaf yn erbyn timau iau llawer o glybiau tynnu rhaff sydd wedi ennill eu plwyf ac yn cynrychioli eu gwledydd yn rhyngwladol!”
Roedd un o aelodau’r tîm, Janie Hodge, wrth ei bodd yn cael cystadlu yn erbyn timau rhyngwladol, ond
mwynhaodd ennill eto yn rowndiau terfynol 2014 FfCCFfI. “Roedd yr awyrgylch yn wych yn rowndiau terfynol FfCCFfI, oherwydd roedd nifer fawr o gefnogwyr Swydd Caerhirfryn yn bresennol, oherwydd roedd gwahanol glybiau yn cystadlu mewn cystadlaethau eraill, ac fe wnaethom oll annog ein gilydd.”
Llwyddodd yr anogaeth, oherwydd daeth FfCFfI Swydd Efrog yn drydydd yn rowndiau terfynol Tynnu Rhaff y Dynion hefyd - daeth FfCFfI Swydd Derby yn gyntaf a FfCFfI Essex yn ail.
Roedd aelodau tîm Sir Benfro yn
gwenu o glust i glust wrth iddynt ennill cystadleuaeth y Merched, a daeth Swydd Efrog yn ail. Yn anffodus, yn sgil torri’r rheolau, diarddelwyd FfCCFfI Gwent o’r trydydd safle, gan olygu fod Swydd Derby yn drydydd a Swydd Stafford yn bedwerydd.
Cynhaliwyd cystadleuaeth pwysau arbennig 4X4 er difyrrwch hefyd. Fe wnaeth saith tîm cymysg gystadlu, ac fe wnaeth aelodau o glybiau yn Halden, Dyfnaint, ennill £56.
CYSTADLAETHAU: SIOE TENBURY
Roedd rowndiau terfynol cenedlaethol y gystadleuaeth Arddangosfa Ciwb yn coffáu canmlwyddiant cadoediad y Rhyfel Mawr, ac fe wnaeth naw clwb greu arddangosfeydd gan ddilyn y thema Gwasanaethu Ein Gwlad.
Gwelid yr arddangosfeydd yn Sioe Tenbury, ddeuddydd yn unig cyn dyddiad swyddogol y coffáu, a CFfI Calbeck o Cumbria a wnaeth yr argraff fwyaf ar y beirniaid.
Creodd Laura Potts, Kelly Armstrong a Katie Ridley arddangosfa oedd yn cynnwys crefftau a adlewyrchai pum gwahanol faes Gwasanaethu Ein Gwlad. Rhoddodd y beirniaid sgôr o
ARDDANGOSFA CIWBCFFI CALDBECK
495 allan o 500 iddynt am eu crefftau unigol a’u perthnasedd i’r thema. Fe wnaethant gynnwys bathodyn decoupage i gyfleu Bechgyn Bevin, gosodiad blodau i gyfleu’r Gwarchodlu Cartref, cacen a phoster i gyfleu’r Lluoedd Arfog, a llysiau wedi’u gwau.
“Fe wnaethom edrych ar hen luniau a llyfrau i feddwl am syniadau, a gwnaeth hynny i ni feddwl am y rhyfel a beth ddigwyddodd,” meddai Laura. Daeth Sir Gâr yn ail a Swydd Caerloyw yn drydydd.
Rhoddodd llwyddiant yn rowndiau terfynol y Gystadleuaeth Tynnu rhaff hyder i un clwb o Swydd Caerhirfryn i dynnu mewn cystadleuaeth ryngwladol!
TYNNWCH!
TEN26 13
Canfu’r arbrawf fod mamogiaid a gafodd y dwysfwyd oedd â rhagor o egni wedi magu nifer sylweddol uwch o ŵyn, ac roedd cyfradd twf yr ŵyn hyd at 19.4% yn uwch o’i gymharu â’r grŵp rheolydd. Mae’n debyg fod hyn yn adlewyrchu’r
ffaith fod y defaid a gafodd yr ychwanegydd wedi cynhyrchu rhagor o laeth oedd o ansawdd gwell. Gweler y tabl uchod. Dangosodd yr arbrawf fod mamogiaid oedd yn cario gefeilliaid yn magu 95% o’u hŵyn, 5% yn fwy na’r rhai a gafodd
y dwysfwyd rheolydd. Roedd hyn yn fwy amlwg ymhlith y mamogiaid oedd yn cario tripledi, oherwydd fe wnaeth yr holl famogiaid a gafodd yr ychwanegyn fagu 100% o’u hŵyn, o’i gymharu â 60% yn achos y rhai na chafodd yr ychwanegyn. Yn ychwanegol, roedd cyflwr corfforol y mamogiaid a gafodd Megalac yn well ar adeg diddyfnu, ac roedd eu sgôr yn 2.4 ar gyfartaledd, o’i gymharu â 2.0 yn achos y rhai na chafodd yr ychwanegyn.
Mamogiaid sy’n bwydo efeilliaid
Mamogiaid sy’n bwydo tribledi
Rheolydd Rheolydd + ychwanegyn egni
Rheolydd Rheolydd + ychwanegyn egni
% y mamogiaid yn magu pob oen
90 95 60 100
Pwysau a enillir gan ŷyn hyd at y diddyfnu (g/diwrnod)
218 233 170 203
A YW EICH MAMOGIAID YN CAEL DIGON O EGNI?A wyddoch hi fod oddeutu 70% o dwf ffetws yn digwydd yn ystod traean olaf cyfnod beichiogrwydd mamog?
Mae hynny’n golygu y bydd anghenion ynni mamog yn cynyddu’n sylweddol yn ystod y 6 wythnos cyn ŵyna i ddiwallu anghenion
oen neu ŵyn sy’n tyfu. Fodd bynnag, bydd presenoldeb ŵyn yn lleihau maint y rwmen, sy’n ei gwneud hi’n gynyddol anoddach i ddafad fwyta digon i fodloni’r galw am egni. O ganlyniad i hynny, gall ei chyflwr waethygu a gall hynny arwain at
anawsterau iechyd difrifol.Bydd bwydo Megalac yn ystod rhan
olaf beichiogrwydd ac ar ddechrau’r cyfnod llaetha yn ffordd ddelfrydol o gynyddu dwysedd egni’r deiet, cynorthwyo i leihau effaith diffyg chwant bwyd ar yr egni a dderbynnir, a chynorthwyo i gynnal cyflwr cyrff mamogiaid. Mae Megalac yn fraster na chaiff ei dreulio yn y rwmen a chaiff ei gynhyrchu o gyfuniad o olew planhigion naturiol a chalsiwm y gellir ei fwydo fel
rhan o ddwysfwyd a brynir neu borthiant cymysg.
Roedd arbrawf a gynhaliwyd gan ADAS gyda’u praidd yn Rosemaund yn cynnwys bwyd a roddwyd i famogiaid beichiog a gynhwysai Megalac fel ffynhonnell o egni ychwanegol. Cyn ŵyna, cafodd 100 o famogiaid naill ai ddwysfwyd rheolydd - ME 12.7 MJ/kg DM, neu ddwysfwyd lle’r oedd 10% o’r grawn wedi’u cyfnewid am Megalac, gan gynyddu ei ME i 13.9 MJ/kg DM. Cychwynnwyd bwydo 0.5 kg o ddwysfwyd y diwrnod 8 wythnos cyn ŵyna, a chynyddwyd hynny i 1.1kg y diwrnod ar adeg ŵyna. Ar ôl ŵyna, cafodd y mamogiaid 1.4kg o ddwysfwyd bob dydd, ac roedd y crynodiad ME yn 12.5 a 14.0 MJ/kg DM yn achos y dwysfwyd rheolydd a’r dwysfwyd oedd yn cynnwys Megalac, yn eu trefn. Roedd gwellt ad lib ar gael trwy gydol cyfnod yr arbrawf, a didol borthwyd yr ŵyn gan gychwyn pan oeddent yn ddeg diwrnod oed hyd at eu lladd.
EGNI YCHWANEGOL I FAMOGIAID: effaith ar berfformiad mamogiaid ac ŵyn
#RURALPLUS
14 TEN26
Fe wnaeth ymdopi â chwalfa deuluol orlethu Georgina Morris pan oedd hi’n 14 mlwydd oed, ac arweiniodd hynny at iselder
Yn achos Georgina, roedd byw mewn lleoliad gwledig a gweld ei rhieni a’r fferm deuluol yn gwahanu yn loes calon oedd yn anodd ymdopi
ag ef.“Mae ysgariad yn beth annymunol
iawn, ond mae’n waeth fyth mewn teuluoedd amaethyddol,” meddai Georgina. “Mae’n rhaid trafod popeth yn y llysoedd, ac os ydych yn 14 mlwydd oed, ni fyddwch yn deall pethau’n iawn. Roedd hi’n anodd iawn i mi ymdopi â’r sefyllfa, a dirywiodd fy mhresenoldeb yn yr ysgol yn sylweddol.”
Gan ddefnyddio’r fferm fel esgus rheolaidd am ei habsenoldeb - “Roeddwn yn bwydo anifeiliaid a methais y bws” - llwyddodd Georgina i osgoi ateb gormod o gwestiynau, ond dywedodd y dylai pobl gydnabod hynny fel arwydd cyntaf problem. “Os bydd rhywun yn absennol o’r ysgol, bydd rheswm dros hynny fel arfer. Rwy’n alluog a llwyddais i wneud yn dda yn fy arholiadau yn y pen draw, ond byddaf bob amser yn meddwl a allwn i fod wedi gwneud yn well.”
Er bod Georgina yn aelod gweithgar o CFfI Rushbury a Cardington yn Swydd Amwythig ac roedd ganddi ffrindiau da, ni wnaeth rannu ei phroblemau â neb. Roedd delio â’r materion ar ei phen ei hun yn gwaethygu’r sefyllfa, ac fe wnaeth iselder Georgina wneud iddi gwestiynu
ei gobeithion am ddyfodol hapusach.Yna, fe wnaeth Cadeirydd ei
Chlwb ar y pryd sylwi fod rhywbeth o’i le ac fe wnaeth ei hannog i geisio cymorth. “Nid oeddwn yn dymuno troi at feddyg am gymorth oherwydd roeddwn yn ystyried mai’r dewis olaf oedd hynny, ond roedd yn bryd i mi gyfaddef fod angen i mi siarad â rhywun.”
Diolch i’r gefnogaeth a gafodd, ymdrechodd Georgina o’r newydd, a chafodd wyth A* ac wyth A yn ei harholiadau TGAU, a chynigwyd ysgoloriaeth yn Abbotsholme iddi a chafodd gynnig diamod gan Brifysgol Harper Adams.
Ond y llynedd, digwyddodd
trychineb arall pan ganfuwyd fod gan ei mam diwmor meningioma ar yr ymennydd. Fe wnaeth cymhlethdod difrifol yn ystod y llawdriniaeth olygu fod un ochr o’i chorff wedi’i barlysu, a threuliodd fisoedd yn gwella mewn ysbyty adsefydlu, 120 milltir o’i chartref.
“Yn sydyn, deuthum i ddeall unigedd gwledig,” meddai Georgina. “Roedd ymweld â mam yn daith bedair awr i fynd a dod”. Yn ffodus, roedd ei mam yn ddigon da i ddychwelyd gartref yr haf hwn, a bellach, mae Georgina yn ymgyfarwyddo â bywyd gofalwr ifanc. Er bydd brawd Georgina yn cynorthwyo pan fydd adref o’r coleg, hi sydd yn gyfrifol am y fferm a gofalu
“Weithiau bydd bywyd yn anodd,
siaradwch â rhywun”
TEN26 15
am ei mam, sydd bellach yn gwneud cynnydd sylweddol.
Yn ddiweddar, fe wnaethant y penderfyniad anodd i ffermio llai ac mae Georgina wedi gohirio’r cynigion gan sefydliadau addysgol, oherwydd nid yw’n teimlo y gall ymroddi’n llawn i astudio ar hyn o bryd. Yn lle hynny, mae hi’n mwynhau swydd newydd gyda’r Gofrestrfa tir, sy’n gadael digon o amser i ofalu am ei mam.
Mae ymdopi â digwyddiadau’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn heriol, ond llwyddodd Georgina i wynebu hynny trwy gymorth ei ffrindiau yn y CFfI. Symudodd i glwb arall yn ddiweddar - CFfI Craven Arms - ac mae hi bellach yn Ysgrifenyddes y Clwb ac mae hi wedi
ymroddi i fwynhau gweithgareddau cenedlaethol megis y daith hwylio i aelodau dan 18 oed. Hi hefyd yw cynrychiolydd Gorllewin y Canolbarth ar y Fforwm ieuenctid, ac yn ddiweddar, cyflwynodd ddau gynnig yng nghyfarfod Cyngor Ieuenctid Prydain.
Gall pethau fod yn anodd, ond mae ei ffrindiau a’i theulu yn gefn i Georgina. “Rwy’n hynod ffodus i gael cefnogaeth mor wych gan y CFfI. Mae’n sefydliad rhagorol, ac ni allwn fod wedi ymdopi hebddo,” meddai Georgina. “Weithiau bydd bywyd yn anodd, siaradwch â rhywun.”
CYMORTH CFFI Os ydych yn teimlo’n ynysig a bod arnoch angen cymorth, darllenwch am y tair ffordd dri dull y CFfI o gynnig cymorth i chi!
1 Cyfranogwch. Gall gwirfoddoli i gynorthwyo
â digwyddiad, cystadlu neu wneud swydd yn eich Clwb, eich Ffederasiwn Sirol neu’r Ffederasiwn Cenedlaethol helpu i wella eich hyder, gwneud rhagor o ffrindiau, a hybu eich iechyd meddwl.
2 Dysgwch rywbeth. Datblygwch sgil newydd
trwy gyfleoedd hyfforddi FfCCFfI. Cynigir llawer o gyrsiau am ddim a gall sgiliau newydd hybu hunan-barch.
3 Siaradwch ragor. Os bydd rhywbeth yn eich poeni,
peidiwch â’i gadw’n gyfrinach – siaradwch â ffrind neu berthynas. Os na allwch wynebu hynny, siaradwch â meddyg neu ffoniwch linell gymorth megis y Samariaid, Papyrus neu ChildLine. Trowch at www.nfyfc.org.uk/ruralpluscontacts i gael manylion cyswllt.
CEFNOGAETH: Wynebodd Georgina y cyfnodau anodd â chefnogaeth y
CFfI, (chwith isod) hyrwyddo CFfI yng nghynhadledd AGCO; mwynhau’r mwd
yn ystod penwythnos preswyl y Fforwm Ieuenctid a mwynhau’r fordaith ar y
cychod hwylio
Y GYNHADLEDD FLYNYDDOL
ARCHEBWCH NAWR:
Y GYNHADLEDD
NODWCH Y DYDDIAD – A CHYNILWCH EICH ARIAN – A DEWCH I’N CYNHADLEDD WYCH Â’R THEMA ‘Y TEULU’ YN 2015
Trydarwch, rhannwch a bloeddiwch – mae bandiau llewys Cynhadledd Flynyddol 2015 ar werth yn swyddogol! Mae’r
newyddion yn haeddu cannoedd o ‘hoffi’ ar Facebook!
Mae eich tocyn i ddigwyddiad mwyaf calendr y CFfI yn eich aros, ac
rydym yn ysu am y cyfle i ddatgelu beth fydd ar gael yn ystod tri diwrnod llawn gweithgarwch yn Torquay.
Eleni, y teulu yw’r thema sy’n cael sylw, a pha well ffordd na dathlu ar y nos Sadwrn â thema gwisgoedd ffansi ‘Trwy’r Degawdau’ (a ddewiswyd gan aelodau)?
Rydym wrthi’n trafod â throellwyr a bandiau ar hyn o bryd, felly ni allwn ddatgelu eto pa enwogion fydd yn diddanu’r torfeydd. Ond bydd digon o gyffro ar gael – yn cynnwys rowndiau terfynol y cystadlaethau Pantomeim, Rhaff Neidio, Dawnsio Masnachol ac Aelod Hŵn Gorau’r Flwyddyn.
Mae addewid am barti swigod ar y nos Sul hefyd, a bydd y
bencampwriaeth dartiau yn dychwelyd hefyd, yn sgil y galw! Yn ychwanegol, bydd nifer helaeth o gefnogwyr, noddwyr a phartneriaid yn ymuno â ni yn ystod y sesiwn gofrestru i gynnig nwyddau am ddim.
Cofiwch hefyd y bydd cyfle i gyfranogi yn ein fforwm amaethyddol blynyddol a rhannu eich safbwyntiau am y Ffederasiwn yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
Felly peidiwch ag oedi. Canslwch unrhyw gynlluniau eraill oedd gennych ar gyfer 24-26 Ebrill 2015 ac archebwch eich lle yng Nghynhadledd Flynyddol FfCCFfI nawr!
BLAS O GYNHADLED TORQUAYl Cynadledd Flynyddol 2015 fydd y nawfed i’w chynnal gan FfCCFfI yn Torquayl Cynhaliodd FfCCFfI ei gynhadledd cyntaf yn y dref glan môr yn Nyfnaint yn 1996l Yn 2001, fe wnaeth FfCCFfI gynnal Cynhadledd fechan heb CCB yn Torquay oherwydd argyfwng clwy’r traed a’r genaul Yn 2012, fe wnaeth FfCCFfI gynnal ei ddisgo tawel cyntaf yn y Gynhadledd yn Torquay.
16 TEN26
24-26 EBRILL 2015
Trowch at
yfcconvention.org.uk, Facebook.com/nfyfc a twitter.com/nfyfc gan ddefnyddio #yfcagm15
i gyfri’n ôl y dyddiau gyda ni
TEN26 17
A oes gennych hoff lun o’r Gynhadledd Flynyddol sy’n dwyn atgofion hollol wych o brif
ddigwyddiad y CFfI? Bydd thema Cynhadledd Flynyddol
y flwyddyn nesaf yn canolbwyntio ar y teulu, ac mae FfCCFfI yn chwilio am eich hoff luniau o Gynadleddau i greu montage hollol cŵl o atgofion.
Ond bydd yn golygu mwy na lluniau o flynyddoedd diweddar, oherwydd rydym yn chwilio am luniau mor bell yn ôl â’r digwyddiad cyntaf a gofnodwyd yn Harrogate yn 1968! Felly holwch eich rhieni, eich neiniau a’ch teidiau, ewythrod a modrybedd - unrhyw Ffermwr Ifanc presennol neu flaenorol a allai fod â phentwr o luniau o’u dyddiau yn y gynhadledd wedi’u cadw mewn cwpwrdd - a helpwch ni i greu ychydig o hanes teulu’r CFfI yn y Gynhadledd.
Bydd y montage o luniau yn rhan o’r posteri a baneri’r gwefannau ac ar yr holl ddeunyddiau a gynhyrchir ar gyfer y
Gynhadledd. Mae FfCCFfI hefyd yn bwriadu dangos yr holl luniau ar sgrin yn Torquay. Rydym yn cynnig band llawes tri diwrnod am
ddim i un ymgeisydd lwcus – ac os ydych yn rhy hen i fod yn aelod, fe gewch docyn i ymuno â ni am un noson yn Torquay!*
SUT I GYSTADLUCynigir y gystadleuaeth i aelodau presennol a blaenorol FfCCFfI.
1 Dewiswch eich hoff lun o Gynhadledd flaenorol sy’n eich
cynnwys chi (a’ch ffrindiau os ydynt yn cytuno). Rhaid iddynt fod yn weddus!
2 Os yw’n ddelwedd ddigidol, e-bostiwch y llun at magazine@
nfyfc.org.uk heb newid ei maint gwreiddiol. Cofiwch gynnwys eich enw, enw’r Clwb (presennol neu flaenorol), y flwyddyn pan dynnwyd y llun a rhif cyswllt.
3 Os yw eich llun yn gopi caled (o’r dyddiau cyn camerâu digidol),
sganiwch y ddelwedd i greu jpg neu postiwch y llun (â’ch enw a’ch cyfeiriad ar y cefn) a chynhwyswch nodyn yn yr amlen â manylion eich enw, enw’r Clwb (presennol neu flaenorol), y flwyddyn pan dynnwyd y llun, a rhif cyswllt. Yna, postiwch y cyfan at: Montage y Gynhadledd, Canolfan CFfI, Tîm Cyfathrebu, 10fed Stryd, Stoneleigh Park, Kenilworth, CV8 2LG.
4 Anfonwch eich lluniau cyn 9 Ionawr 2015.
Telerau ac Amodau: *Rhaid i chi fod yn aelod cofrestredig ar ein cronfa ddata i ennill band llawes i fynd i’r digwyddiad. Cynigir tocyn un noson i Gynhadledd 2015 i aelodau blaenorol.
Eich hwyneb yn y ffrâm!Helpwch ni i greu ychydig o hanes teuluol yn y Gynhadledd a chwiliwch am eich hen luniau
Llun gan Manx National Heritage
18 TEN26
Gwaith cigydd ar fferm deuluol yw’r swydd orau yn y byd yn ôl Henry Smith o CFfI Chipping sy’n cael ei ginio Nadolig am ddim
DDIM YN RHY BELL I DEITHIORhaid cychwyn yn gynnar, ond yn ystod yr wythnos cyn y Nadolig, byddaf yn cyrraedd am 5.30yb. Rwy’n byw yn Longbridge – pentref bychan nepell o Fferm Little Town ble’r wyf yn gweithio ar ymyl Coedwig Bowland. Rwy’n 19 mlwydd oed ac yn gweithio yn siop cigydd y fferm deuluol hon ers pan oeddwn yn 14 mlwydd oed, ar ôl gwneud profiad gwaith yma.
Rwyf yn wastad wedi dymuno gweithio ym maes ffermio - mae hynny yn fy ngwaed. Roedd gan
fy nhaid fferm oedd wedi bod yn eiddo i’r teulu ers cenedlaethau, ond fe wnaeth ei gwerthu pan oedd fy nhad yn 16 mlwydd oed. Buaswn wedi hoffi gallu parhau i’w ffermio, ond nid oedd y cyfle ar gael.
Pan holais Fferm Little Town ynghylch cynorthwyo ar y fferm ar fy niwrnod rhydd, fe wnaethant gytuno, sy’n golygu y gallaf fwynhau’r gorau o’r ddau fyd. Byddaf yn treulio bob dydd Mawrth ar y fferm yn gwneud gwaith megis llenwi’r seilo, clirio a helpu i fynd â gwartheg i’r lladd-dy. Ni fyddaf yn eu gweld wedyn nes caiff y carcasau eu danfon i’r siop cigydd.
ARDDANGOSFA Y CIGByddaf yn treulio oddeutu
awr a hanner yn gosod y cig yn y cownter - dyma eich ffenestr siop, felly mae’n rhaid gwneud hyn yn iawn.
Byddaf bob amser yn helpu’r cwsmeriaid iau sy’n tueddu i fod yn ansicr ynghylch beth ddylent brynu. Fel arfer, bydd cwsmeriaid hŵn yn gwybod beth fyddant yn dymuno’i brynu, a bydd rhai yn gofyn am bethau megis cluniau a cheilliau ŵyn. Mae cig megis porc bol yn boblogaidd unwaith eto, oherwydd mae’n ddarn rhad sydd
7.30YB 9YB
Y SWYDD
CIGYDD!Diwrnod ym mywyd...
hefyd yn flasus. Wedi’r sgandal
cig ceffylau, cawsom lawer o
gwsmeriaid newydd. Mae pobl
yn hoffi’r siop oherwydd gallant
weld o ble daw’r cig. Gallwch weld
y fferm o fy ffenestr, ac mae’r
llaethdy wrth ochr y siop hefyd.
GWNEUD SELSIGAr ôl i mi baratoi’r archebion
yn barod i’w casglu, byddaf
yn paratoi i wneud y selsig.
Byddwn yn eu gwneud yma, a
byddwn yn defnyddio ein cig
oen a’n cig eidion ein hunain yn
y cynhwysion. Bydd dewis da
ar gael bob amser, yn cynnwys
Stilton, chorizo a chig eidion a
marchruddygl. Yn ystod tymor y
Nadolig, byddwn yn creu Selsig
Dialedd Rwdolff a Siôn Corn!
Weithiau, bydd angen hyd at
dair awr i gymysgu’r cynhwysion
a’u paratoi, a byddaf yn gweithio
gyda’r cigydd arall i wneud
hynny. Mae’n well gennyf drin a
thrafod darnau mawr o gig na’r
dyletswyddau
mwy manwl hyn –
ond cyn i mi droi, mae’n amser
cinio.
CINIO DAByddwn bob amser yn cael
ein bwydo’n dda ar Fferm Little
Town oherwydd byddwn yn cael
pasteiod neu lasagne, brechdanau
neu gawl i ginio. Ni fydd chwant
bwyd arnaf gyda’r hwyr fel arfer!
Mae’n lle gwych i weithio,
oherwydd byddwn yn cael twrci
ffres a’r holl drimins am ddim ar
gyfer cinio Nadolig ein teulu!
Byddwn yn magu ein tyrrwn ein
hunain ar y fferm, a chânt eu pluo
yng nghanol mis Rhagfyr. Mae’r
wythnosau cyn y Nadolig yn wyllt,
felly byddwn yn cychwyn paratoi
yn gynnar.
ARCHWILIO’R CIGPan fydd cig yn cyrraedd, bydd
rhaid i mi ei archwilio i sicrhau fod
popeth mewn trefn a’r tymheredd
yn iawn. Byddwn yn cael dau
garcas o gig eidion Aberdeen
Angus (o’n fferm ein hunain) a
byddwn yn eu gadael yn yr oergell
yn hirach fel gall y cig aeddfedu.
Caiff yr holl gig ei storio yn yr
oergell nes byddaf yn ei hollti’n
ddarnau. Torri cig yw fy hoff ran o’r
swydd.
CLIRIO A GLANHAUDim ond fi fydd yn gweithio yn
ystod awr olaf y dydd, oherwydd
bydd y cigydd arall yn mynd
adref, a byddaf yn defnyddio’r
amser hwn i lanhau’r holl
gyllyll a’r arwynebau, y lloriau
a’r oergelloedd, yn ogystal â’r
cownter. Fel arfer, byddaf yn gadael
oddeutu 5yh, ond pan fyddaf
yn gweithio ar y fferm bod dydd
Mawrth, ni fyddaf yn gorffen ar
brydiau tan 7yh. Rwy’n mwynhau’r
fferm oherwydd mae amrywiaeth
o waith i’w wneud. Mae gweithio
yma yn gyfle i ymarfer fy sgiliau
barnu stoc. Wrth gwrs, byddaf
yn gwneud yn dda fel arfer yn y
cystadlaethau barnu carcasau, ond
mae angen i mi wella fy sgiliau
barnu anifeiliaid byw!
CYFARFOD Y CLWBDyma noson cyfarfod CFfI
Chipping. Ni wnes i fynd i’r coleg,
felly roeddwn yn teimlo fy mod i’n
colli cysylltiad â fy ffrindiau, felly
ymunais â’r Clwb pan oeddwn
yn 17 mlwydd oed. Mae’r CFfI
wedi rhoi bywyd cymdeithasol
i mi unwaith eto. Rydym eisoes
yn cynllunio i fynd i’r Gynhadledd
Flynyddol yn Torquay ac rwy’n ysu
i fynd yno!
TEN26 19
11YB
2YP
GWASANAETH: Henry yn
gweini cwsmeriaid ac (ar y
dde) yn archwilio’r cig
7YH
w I gael rhagor o wybodaeth am swyddi ym myd amaeth,
trowch at wefan HOPS www.nfyfc.org.uk/hops
1YP
4YP
HOPS
20 TEN26
HOLWCH YR ARBENIGWYR AR SWYDDI
Ydych chi’n pendroni ynghylch swyddi? Dyma gynghorion doeth gan y bobl sy’n gwybod
CIPOLWG O’R DIWYDIANTGlyn Smith, Cyfarwyddwr Gweithrediadau
HOPs Labour Solutions
ARBENIGWR AR RECRIWTIOGrace Nugent, Ymgynghorydd Recriwtio, De Lacy
Executive
ARBENIGWR AMAETHYDDOLJo Wyles, Swyddo Amaethyddiaeth
a Materion Gwledig FfCCFfI
Aelodau’r panel
CAMAU CYNTAFNid wyf o gefndir amaethyddol ond hoffwn weithio yn y diwydiant. Beth yw fy ngham cyntaf?
DYWED JO WYLES: Mae’r ffaith eich bod wedi ymuno
â Chlwb Ffermwyr Ifanc yn gychwyn gwych, oherwydd fe wnewch gwrdd â llawer o bobl sy’n gweithio ar ffermydd ac sy’n ymwneud â phob agwedd o amaethyddiaeth. Mae datblygu eich cysylltiadau yn bwysig.
Fy nghyngor cyntaf yw elwa ar yr holl gyrsiau a gynigir yn rhad ac am ddim gan FfCCFfI – megis Cig i’r
Farchnad ac ymweliadau Cerdded y Gadwyn Wlân. Trowch at wefan FfCCFfI yn rheolaidd a darllennwch YFC Buzz i weld pryd cynhelir cyrsiau newydd.
Holwch HOPS Education am eu cynlluniau prentisiaethau. Byddant yn gweithio gyda cholegau amaethyddol addysg bellach i gynnig gwasanaeth paru a gallant hefyd eich cynorthwyo i ganfod prentisiaeth i chi.
DYWED GRACE NUGENT Eich CV yw eich Taflen Hyrwyddo – cofiwch egluro eich llwyddiannau a’ch sgiliau yn ogystal â’ch profiad. Os na wnewch chi geisio gwerthu eich hun, ni wnaiff neb arall. Manteisiwch ar bob cyfle i ychwanegu gwerth at eich CV. Er enghraifft, gall cystadlu yng nghystadlaethau’r Ffermwyr Ifanc a chymryd rhan mewn heriau elusennol eich cynorthwyo i wneud argraff.
HYRWYDDWCH EICH HUNANRwyf wedi bod yn chwilio am waith ond credaf fod fy CV yn siomedig. Sut allaf ei wella?
Unig bwrpas CV yw sicrhau cyfweliad i chi. Mae’n hanfodol sicrhau fod eich CV wedi’i deilwra at y swyddi y byddwch yn ymgeisio amdanynt. Bydd ar gwmnïau angen atebion cadarnhaol i’r cwestiynau canlynol cyn eich gwahodd i gyfweliad: A yw eich sgiliau, eich profiad a’ch addysg yn briodol? A oes gennych botensial i ddatblygu? Allech chi addasu i’w diwylliant? Allan nhw eich fforddio chi?
Bydd De Lacy Executive yn cynnig cyngor gonest ynghylch swyddi addas ac yn cynyddu eich cyfleoedd o gael eich gwahodd i gyfweliad. Trowch at www.delacyexecutive.co.uk i gael rhagor o wybodaeth.
TEN26 21
DYWED GLYN SMITHCofiwch ddiweddaru eich CV (gweler y cynghorion ar y chwith ynghylch gwella eich CV) ar bapur ac ar LinkedIn. Yn aml iawn, bydd cyflogwyr yn ymchwilio i ddarpar weithwyr ar wefannau cyfryngau cymdeithasol, felly cofiwch sicrhau fod eich gosodiadau preifatrwydd mewn trefn a ystyriwch sut gallai unrhyw gyfrifon cyfryngau cymdeithasol gael eu dehongli gan gyflogwr yn y dyfodol!
Gall chwilio’r rhyngrwyd am swyddi fod yn waith anodd, ond mae gan HOPS wasanaeth recriwtio sydd wedi’i anelu’n benodol at y sector busnesau amaethyddol. Mae gennym dros 25 mlynedd o brofiad o weithio gyda ffermwyr a thyfwyr, felly gwyddom pa sgiliau sydd eu hangen a sut i ganfod y bobl iawn. Mae ein gwefan newydd (www.hopsls.com) hefyd yn rhestru swyddi gweigion diweddaraf y diwydiant ac yn rhoi cyfle i chi hyrwyddo eich gwasanaethau i ddarpar gyflogwyr. Bydd llawer o fusnesau amaethyddol yn troi at y wefan yn y lle cyntaf i ganfod gweithwyr, felly bydd yn hawdd iddynt ganfod eich CV, a byddwn hyd yn oed yn dwyn eu sylw at eich sgiliau.
CYMORTH TYMHOROL Rydym yn ceisio recriwtio llafurwyr medrus i wneud gwaith tymhorol ar fferm fy nheulu a chynorthwyo i gasglu cynnyrch
RHAGOLYGON GWELL Mae gennyf lawer o brofiad amaethyddol ar ôl ennill gradd mewn prifysgol amaethyddol a gweithio yn y diwydiant am ychydig o flynyddoedd. Sut alla i gael swydd well?
DYWED GLYN SMITHRwy’n deall y gall hi fod yn anodd iawn i ganfod y bobl iawn i weithio mewn busnesau diwydiannau’r tir, ond mae gan HOPS lawer o brofiad o ganfod gweithwyr sy’n addas i amrywiaeth o swyddi. Ni yw un o ddarparwyr mwyaf llafur dros dro i’r diwydiannau amaethyddol a garddwriaethol. Mae HOPS yn arbenigo mewn
canfod gweithwyr i lenwi swyddi amaethyddol tymhorol cyflogwyr sy’n gleientiaid iddo, a phenodir gweithwyr o Rwmania, Bwlgaria a Gwad Pwyl yn bennaf. Gallwch hysbysu eich swyddi gweigion ar www.hopsls.com - ein gwefan newydd - neu ffoniwch aelod o’n tîm ar 02476 698000 i drafod eich anghenion - mae ganddynt brofiad helaeth iawn o’r sector.
I gael
rhagor o gyngor a gwybodaeth ynghylch
canfod swydd yn y sector amaethyddol trowch at
www.hopsls.com
THE SOURCE
22 TEN26
GYNLLUNIO RHAGLEN CLWB
Sut i...
CYFARFODYDD BUSNES l Efallai nad cyfarfodydd busnes yw’r agwedd fwyaf difyr o fywyd y CFfI, ond mae’n rhan hanfodol o’r clwb perffaith. Bydd cyfarfodydd yn dod â phawb ynghyd, maent yn ffordd wych o hysbysu’r aelodau am bethau a sicrhau fod pawb yn cael cyfle i gynorthwyo i lywio eu clwb. Mae cynllunio busnes da yn hanfodol, felly mae’n bwysig sicrhau fod swyddogion newydd yn mynychu nosweithiau hyfforddi swyddogion. Mae rhagor o wybodaeth yn adran 1 The Source.
SGILIAU DA l Gall gosod heriau gynorthwyo i sicrhau fod eich aelodau yn parhau i gyfranogi yn eich clwb. Felly hyrwyddwch gystadlaethau, cynigwch yr holl hyfforddiant sydd ar gael – megis The Curve neu unrhyw gyrsiau arbennig – a hyrwyddwch Deithiau CFfI ac unrhyw gyfleoedd eraill i gael profiadau rhyngwladol. Maent oll yn ddulliau gwych o wella sgiliau personol aelodau a gwneud iddynt deimlo eu bod yn cyfranogi rhagor yn y CFfI.
SICRHEWCH FYWYD CYMDEITHASOL l Y prif reswm dros ymuno â’r CFfI yw’r cyfle i gymdeithasu â phobl debyg, felly mae cynnig dewis helaeth o weithgareddau yn syniad da! Holwch eich aelodau pa weithgareddau maent yn eu hoffi i sicrhau fod eich rhaglen yn apelio at y rhan fwyaf o bobl (cofiwch sicrhau ei bod yn fforddiadwy). Beth am drefnu nosweithiau cymdeithasol ar y cyd â CFfI lleol eraill neu gynllunio swper Diolchgarwch neu drefnu noson canu carolau?
I gael rhagor
o syniadau, trowch at adran 4 The Source: The
Club Mix i gael syniadau ar gyfer rhaglen eich clwb www.
nfyfc.org.uk/thesource neu gofynnwch i’ch Trefnydd Sirol
am gopi papur.
Mireinwch Raglen eich Clwb yn 2015 a sicrhewch fod yr elfennau hanfodol ar yr agenda...
ARGRAFF DDA l Gall enw da gynorthwyo i ddenu aelodau newydd, nawdd, cymorth gan arweinyddion neu hyd yn oed cyfleoedd i ddefnyddio cyfleusterau. Ewch ati i wella proffil eich clwb trwy godi arian a chefnogi prosiectau lleol. Yna, hysbyswch y cyfryngau am eich holl waith da! www.nwfagriculture.co.uk
@NWFAgriculture
Rhaglen faeth newydd a ddatblygwyd i reoli eich buwch llaeth
yn llwyddiannus wrth iddi symud o feichiogrwydd i’r cyfnod
llaetha, er mwyn dychwelyd i gydbwysedd ynni positif.
• Cynyddu’r deunydd sych a dderbynnir
• Lleihau ynni negyddol i’r eithaf
• Lleihau clwy llaeth clinigol ac is-glinigol i’r eithaf
FEEDS SUCCESS
AGRICULTURE
FEEDS SUCCESS
AGRICULTURE
Ewch i gyfeiriad positif NEWYDD
Cyhoeddi Rhaglen Transition Cow NWFFfoniwch 0800 262 397i siarad ag un o’n harbenigwyr, neu e-bostiwch: nbt@nwfagriculture.co.uk
www.nwfagriculture.co.uk
@NWFAgriculture
Rhaglen faeth newydd a ddatblygwyd i reoli eich buwch llaeth
yn llwyddiannus wrth iddi symud o feichiogrwydd i’r cyfnod
llaetha, er mwyn dychwelyd i gydbwysedd ynni positif.
• Cynyddu’r deunydd sych a dderbynnir
• Lleihau ynni negyddol i’r eithaf
• Lleihau clwy llaeth clinigol ac is-glinigol i’r eithaf
FEEDS SUCCESS
AGRICULTURE
FEEDS SUCCESS
AGRICULTURE
Ewch i gyfeiriad positif NEWYDD
Cyhoeddi Rhaglen Transition Cow NWFFfoniwch 0800 262 397i siarad ag un o’n harbenigwyr, neu e-bostiwch: nbt@nwfagriculture.co.uk
Mae miloedd o bobl ledled y DU yn cefnogi ymgyrch Rural+ FfCCFfI
Ni chewch gyfle’n rheolaidd i alw ar ieuenctid y wlad i gefnogi eich ymgyrch, ond fe wnaeth FfCCFfI hynny mewn cyfarfod diweddar
o Gyngor Ieuenctid Prydain (BYC). Mae 230 sefydliad yn aelodau o BYC, ac mae’n grymuso pobl ifanc sy’n 25 mlwydd oed ac yn iau i ddylanwadu ar a llywio’r penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywyd.
Bob dwy flynedd, bydd BYC yn paratoi maniffesto y bydd ei holl aelodau yn ei gefnogi. Yn y cyfarfod diweddar o’u Cyngor, fe wnaeth Georgina Morris o FfCFfI Swydd Amwythig gynnig y dylid ychwanegu rhagor o ymwybyddiaeth o unigedd yng nghefn gwlad at y maniffesto. Cafodd ei basio bron iawn yn unfrydol - dau yn unig a wrthwynebodd!
“Nid wyf erioed wedi siarad â grŵp mor fawr sydd ddim Ffermwyr Ifanc - ac roedd bod yn rhan o sîn wleidyddol yn ddiddorol iawn a braidd yn heriol,” meddai Georgina, a wnaeth annerch 250 o bobl. “Mae bod yn rhan o’r maniffesto yn cynnig llwyfan gwahanol i Rural+ a’r CFfI - ac ar raddfa mor fawr, oherwydd mae’r BYC yn cynrychioli nifer fawr iawn o bobl ifanc. Credaf y gwnaiff hynny ein cynorthwyo i gysylltu â phobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig nad ydynt o reidrwydd yn aelodau o CFfI.”
Roedd FfCCFfI hefyd yn dymuno cyflwyno’i gynnig ynghylch rhagor o addysg ‘o’r giât i’r plât’, ond nid oedd digon o amser i wneud hynny. I gefnogi’r cynnig hwn, aeth Georgina i weithdy BYC yn Birmingham gyda’r Cadeirydd Cenedlaethol. Claire Worden. Roedd yn gyfle i arddangos gêm Gwyliwch Rhag Y Dom Da a ddatblygwyd gan y Fforwm Ieuenctid ac a ariannwyd gan y Rural Youth Trust, o flaen cynulleidfa newydd, anamaethyddol.
“Fe wnaethom gwrdd â llawer o bobl ifanc o ganol dinas Birmingham nad oedd wedi ymweld â fferm erioed ac
YN LLWYDDOIEUENCTID
nid oeddent yn gwybod llawer iawn am gynhyrchu bwyd. Roeddent yn hoff iawn o’r gêm ac yn teimlo ein bod yn cysylltu â hwy fel pobl ifanc yn ogystal â’u haddysgu,” meddai Georgina. “Dywedodd pobl – yn cynnwys gweithwyr ieuenctid – y buasent yn barod i dalu am yr adnodd, sy’n newydd da os byddwn yn penderfynu ei farchnata.
“Rwyf wedi dysgu llawer o’r profiad hwn ac wedi mwynhau cyrraedd rhwydwaith ehangach o bobl.”
24 TEN26
Y CYNIGION: 1. Rhagor o ymwybyddiaeth ynghylch unigedd yng nghefn gwlad a sut mae materion iechyd meddwl yn effeithio ar bobl yng nghefn gwlad.2. Rhagor o addysg ‘o’r giât i’r plât’ i blant ysgolion cynradd a sicrhau fod ymweliad â ffermydd yn rhan orfodol o gwricwlwm ysgolion i addysgu pobl am darddiad eu bwyd.
CYNNIG: Georgina Morris
yn gwneud cyflwyniad i Gyngor BYC
Helen Bellew o’r
Fforwm Ieuenctid
yn rhoi cynnig ar
y gêm.
FFORWMFFORWMIEUENCTIDIEUENCTID
Noddwyd gan AGCO Parts
TEN26 25
UCHAFBWYNTIAU
5 ENGHRAIFFT O
Gwyddom fod y CFfI bob amser yn brysur yn helpu eu cymunedau lleol, ond bellach, mae £500 ar gael i gefnogi prosiectau hefyd! Cawn wybod gan bum clwb sut gwnaethant ymdrechu i helpu eraill
GAREDIGRWYDD ANHYGOEL Y CFFI
1 GWERSYLL CADWRAETH
Yn ogystal â chyfle i aelodau clybiau Countrysiders fwynhau penwythnos i ffwrdd, mae taith gwersylla flynyddol FfCFfI Norfolk hefyd yn cynnwys gweithgaredd cadwraeth!
Bob blwyddyn yn ystod y Gwersyll Cadwraeth, bydd y Countrysiders yn cynorthwyo ffermwr lleol, ac eleni, fe wnaethant dreulio penwythnos yn Dilham Islands, coetir 25 erw sy’n cynnwys dyfrffyrdd.
Fe wnaeth aelodau adeiladu a thrwsio pomprennau, creu blychau nythu mewn cynefinoedd naturiol a chreu seddau uchel symudol i wylio ceirw, ymhlith prosiectau eraill. Eu tasg fwyaf oedd creu llwyfannau glanio pren ar ddwy ochr camlas fel y gellir croesi’r dŵr ar fadbont yn ddiogel.
Dyma oedd trydydd gwersyll Josh Renaut, aelod 13 mlwydd oed o Glwb Countrysiders Harleston. “Cawsom ddewis o sawl gweithgaredd gwahanol, a chawsom ein rhannu’n grwpiau i wneud y gwaith. Roeddent yn amrywio o adeiladu pontydd i wneud blychau adar, o greu gwalau i ddyfrgwn i greu helfeydd chwilod yng nghefn
gwlad,” meddai Josh. “Bob blwyddyn, byddaf yn mynychu’r gwersyll gyda fy ffrindiau, gan obeithio cael cyfle i gwrdd â phobl eraill. Yn sicr, byddaf yn dychwelyd y flwyddyn nesaf, oherwydd mae’r bobl mor gyfeillgar ac fe wnes i fwynhau’r profiad yn fawr.”
Mae’r gwersyll wedi denu hyd at 80 o bobl yn y gorffennol, ac mae Ffermwyr Ifanc hŵn bellach yn mwynhau cyfranogi hefyd. Mae hyn wedi bod yn ddull gwych o gadw’r aelodau sy’n symud o glybiau Countrysiders i’r CFfI. Maent wedi gwneud cais am arian tuag at wersyll y flwyddyn nesaf, fel gallant ddysgu sgiliau gwledig megis gwneud basgedi.
RHAGOR AR Y DUDALEN
NESAF
26 TEN26
UCHAFBWYNTIAU
4 HELPU’R PARC Mae Aspatria yn dref fechan a saif ger ffordd Rufeinig
brysur yng Ngogledd-orllewin Cumbria, ac roedd angen ychydig o sylw ar barc y dref.
Roedd y llecyn wedi gordyfu, ac roedd yn flêr ac yn denu bywyd gwyllt – nid oedd yn lle deniadol y gallai’r gymuned leol ei fwynhau.
Ar gais y Cyngor Tref, aeth CFfI Aspatria ati i glirio, gan ddefnyddio trelar silwair i symud y coed a’r malurion. Mae ymdrechion y 15 aelod – mae’r ieuengaf ohonynt yn 11 mlwydd oed – wedi arwain at greu parc deniadol i drigolion ac ymwelwyr, ac mae CFfI Aspatria wedi cael tystysgrif o werthfawrogiad gan y Cyngor.
“Fe wnaethom y gwaith hwn i ddangos fod Ffermwyr Ifanc Aspatria yn ymroddgar ac yn barod i helpu’r gymuned leol, yn ogystal â bwrw iddi i wneud prosiect er lles pobl Aspatria ac ardaloedd cyfagos,” meddai Megan Davy, Ysgrifenyddes y Clwb, “Roedd yn wych gweld aelodau o bob oedran yn cydweithio i gwblhau’r gwaith.”
Yn ogystal â chydnabyddiaeth yn lleol, cafodd y Clwb £500 hefyd trwy gyflwyno cais i’r Prosiect Gweithredu Cymdeithasol Ieuenctid (gweler y blwch am fanylion).
3 NEUADD GOFFA Roedd Sefydliad Nanstallon, a oedd yn ddarllenfa yn ystod y blynyddoedd wedi’r
rhyfel, mewn cyflwr gwael. Roedd y paent yn disgyn oddi ar y waliau allanol ac roedd y planhigion a’r llwyni wedi gordyfu – roedd yn debycach i sied gardd a gafodd ei hesgeuluso na lleoliad poblogaidd i gynnal gweithgareddau’r pentref.
Roedd tu mewn yr adeilad wedi cael ei atgyweirio’n ddiweddar, ond roedd gofalwyr y Sefydliad yn ceisio cymorth i wella’r tu allan – yn enwedig o gofio mai 2014 yw canmlwyddiant y Rhyfel Mawr.
Gwirfoddolodd 12 aelod o CFfI Roche yn ystod pedair noson clwb i adfer y sied trwy ei llyfnu, ei golchi a’i phaentio. Fe wnaethant hefyd
glirio 20-30 bag o bridd oedd wedi ymgasglu o amgylch y sied, clirio chwyn a gosod cwterydd newydd.
“Dywedodd y bobl sy’n gofalu am y sied y byddai’r gwaith wedi cymryd cryn dipyn o amser iddynt, felly roeddent yn falch o gael ein cymorth,” meddai Shane Gregory, Arweinydd y Clwb, a ychwanegodd y byddai’r arian yn talu am y deunyddiau. “Mae llawer o bobl wedi dweud fod yr adeilad yn edrych yn wych erbyn hyn. Mae’r hyn y gall ychydig o baent ei gyflawni yn anhygoel.”
Mae CFfI Roche wedi cael cydnabyddiaeth yn ddiweddar yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol FfCFfI Cernyw am eu cymorth rheolaidd i weithgareddau cymunedol, a chawsant dlws i gydnabod eu hymdrechion lleol er lles eraill.
2 GWAITH YSGOLPan oedd angen cynnal a chadw gerddi’r ysgol gynradd
ym mhentref bychan Braughing, fe wnaeth CFfI Royston a Buntingford gynorthwyo. Roedd y prosiect yn golygu clirio chwyn a dail o’r rhodfa, clirio danadl poethion a mieri a thocio’r llwyni yn y gwelyau a chreu mannau lle gall y plant blannu llysiau ac astudio bywyd gwyllt.
Yn ystod y sesiwn gyntaf yn yr ysgol, fe wnaeth Arweinydd y Clwb Linda Watts rannu’r criw o 17 yn dimau a chafwyd arweinydd i bob un.
“Fe wnaethom glirio o flaen yr ysgol, a’r diwrnod canlynol, cawsom alwad gan y brifathrawes yn dweud ei bod hi wrth ei bodd â’n gwaith,” meddai Linda.
Mae’r Clwb yn gobeithio defnyddio’u harian i ddatblygu sgiliau newydd.
TEN26 27
MAE ARIAN AR GAEL Mae FfCCFfI, mewn partneriaeth â Chyngor Cenedlaethol y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol, RSPB a’r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd, yn cynnig £500 i’r CFfI sy’n dymuno cynorthwyo eu cymuned leol. Cynigir yr arian i gynnal prosiectau yn Lloegr yn unig, a rhaid iddynt gynnwys yr elfennau canlynol:l Cynnwys aelodau 10-20 mlwydd oedl Rhaid i aelodau gymryd perchnogaeth am y gwaith o gynllunio, trefnu, cynnal a gwerthuso’r prosiectl Rhaid i’r prosiect gael ei gynnal am o leiaf wyth awr dros gyfnod 5-12 wythnosl Rhaid i aelodau arwain y prosiectl Rhaid i’r prosiect fynd i’r afael ag angen cadwraethol neu gymunedol gwirioneddoll Dylai aelodau gadw dyddiadur o’u profiad dysgu.CYSYLLTWCH Â CATH.SYKES@NFYFC.ORG.UK I GAEL RHAGOR O FANYLION.
5 CYFUNO TWRISTIAETH AC AMAETH
Yn y 1780au, fe wnaeth y Barwn Cawdor greu tirwedd ysblennydd o goetiroedd a llynnoedd o amgylch ei blasty, Stackpole Court. Dros 200 mlynedd yn ddiweddarach, mae’r tŵ wedi hen ddiflannu, ond mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn adfer ysblander blaenorol gweddill yr ystâd yn raddol.
Fe wnaeth 30 o aelodau iau a chanolradd Clybiau Ffermwyr Ifanc Pailton, Brandston & Wolston, Leamington Hastings a Long Itchingon dreulio diwrnod gyda’r ceidwaid yn cynorthwyo i reoli’r coetir, clirio llawryfoedd ymwthiol oedd yn mygu planhigion cynhenid, torri coed oedd yn blocio llwybrau wedi iddynt disgyn yn ystod stormydd y gaeaf, a chlirio
isdyfiant i adfer golygfeydd o byllau’r lilïau.
Dywedodd Toby France o FfCFfI Swydd Warwick: “Roeddem yn ymweld â Stackpole fel rhan o benwythnos gweithgareddau i aelodau dan 18 oed, felly roedd gweithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn syniad da oherwydd roedd yn gyfle i aelodau ddysgu rhagor am berthynas dau o ddiwydiannau pwysicaf yr ardal, twristiaeth a ffermio.”
Fe wnaeth y clybiau rannu’n ddau grŵp a chystadlu yn erbyn ei gilydd i weld pwy allai gyflawni fwyaf. Rhoddodd hyn gyfle i aelodau ddatblygu eu sgiliau gwaith tîm a chyfathrebu, ac fe wnaeth yr aelodau hŵn ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth hefyd.
YFC ZONE
WEDI METHU’R TRYDARIADAU
DIWEDDARAF? DARLLENWCH
DRYDARIADAU GORAU’R
AELODAU YMA...
TRYDARWCH!
CFfI Gogledd Swydd
Bedford @NorthBeds YFC
Yr wythnos diwethaf,
aeth ein haelodau ar daith
Cerdded y Gadwyn Wlân
gyda @BritishWool a @NFYFC.
Darllenwch ein blog! #woolweek
#yfc bit.ly/1s9KvmS 14 Hydref
2014
Charlotte Taylor
Diwrnod gwych yn ras aredig
CFfI Malmesbury. Nifer uchaf
erioed o ymgeiswyr, sgiliau
gwych, digonedd o fyrgyrs!
Diolch i bawb a gyfranogodd!
@SouthWestAreaYF @NFYFC
12 Hydref 2014
Laura Powell @Laur_Powell
Rwy’n falch iawn o fod
wedi dod yn ail yn y
Gystadleuaeth Coginio
Genedlaethol ddoe!!!
@NFYFC #yfc 28 Medi 2014
Katie Gibbs @KateB2015
Wedi cwrs addysgol
ynghylch marchnata trwy
gyfryngau cymdeithasol
gyda @SocialBuk a
@NFYFC penderfynais drydar
am y tro cyntaf 13 Medi 2014
Caeau aur Wedi sesiwn aredig 48 awr di-stop gan aelodau
FfCFfI Gwent, codwyd dros £8,000 i’r sawl a
effeithiwyd gan lifogydd Gwlad yr Haf ac i Ymchwil
Canser. Roedd y marathon aredig yn cynnwys
30 o yrrwyr ac wyth tractor, a chafodd cyfanswm
anhygoel o 460 erw eu haredig.
Bu busnesau lleol yn ddigon caredig
i gyfrannu peiriannau, tanwydd
a chymorth ar gyfer yr ymgyrch
codi arian, a chaiff cyfran o’r arian
a godwyd ei ddefnyddio i gefnogi
aelodau’r Ffederasiwn.
YMDDEOLIAD PENNAETH CUMBRIAWedi 17 mlynedd wrth y llyw, mae Jan Davinson wedi ymddeol o’i swydd fel Prif Swyddog FfCFfI Cumbria. Yn gynharach eleni, etholwyd Jan yn Aelod Oes yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar ôl i’r aelodau ei henwebu am ei hymroddiad i’r Sir.Trwy gymorth Jan, llwyddodd Cumbria i ennill diwrnod gwaith maes Rhanbarth y Gogledd wyth gwaith, a Thlws Cenedlaethol UCA saith gwaith! Dywedodd Jan: “Bu’n fraint arbennig dros y blynyddoedd cael gweld fy Ffermwyr Ifanc yn datblygu y sgiliau a’r hyder sydd wedi caniatáu iddynt gael eu gweld fel aelodau gwerthfawr o’u cymunedau gwledig.” Olynydd Jan yw Joanne Mills oedd yn gweithio ym Mhrifysgol Durham
CYMRU
Y GOGLEDD
EICHEICHBLOEDDBLOEDD
HOLL NEWYDDION Y CLYBIAU A
SYLWADAU O RANBARTHAU CFFI
Fe wnaeth y Clwb anfon fideo o’r aelodau’n meimio cân I Love It gan Icona Pop at y rhaglen deledu nos Sadwrn,
Let Me Entertain You, ac fe wnaeth ennill £200 pan ddangoswyd y fideo.
Roedd ymddangos ar raglen deledu yn un o bith sawl llwyddiant a amlygwyd yn eu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol – yn cynnwys ennill £250 yng nghystadleuaeth hun-lun Farmers Guardian yn y gynhadledd flynyddol. Fe wnaethant roi’r arian i’r elusen o Swydd Rhydychen, SANDs (Genedligaethau Marw a Marwolaethau Plant Newydd-anedig).
I geisio sicrhau fod cyfarfodydd y clwb yn ddiddorol, yn ddiweddar, fe wnaethant wahodd y Dawnswyr
Morris lleol i addysgu ychydig o ddawnsfeydd traddodiadol iddynt, a chwifio eu hancesi a’u clychau. Mae nosweithiau fel y rhain yn helpu’r Clwb i dyfu, a bellach mae ganddynt 33 aelod gweithgar, sydd wedi cynorthwyo’r Clwb i ennill y Rali Sirol.
“Yn ystod y pedair blynedd diwethaf, rydym wedi dod yn ail agos yn Rali Sirol Swydd Rhydychen,” meddai Katie Thomas. “Eleni, fe wnaethom ennill o’r diwedd! Fe wnaeth yr aelodau gyfranogi ym mhob cystadleuaeth o drin ceir i ferched i osod blodau.
“Bu tynnu rhaf, a pharatôdd y bechgyn golur y merched yn barod am noson ar y teils! Roedd gennym gar carnifal ‘Pirates of the Caribbean” trawiadol hefyd!”
TEN26 29
SÊR Y TELEDURoedd ymddangos ar un o raglenni ITV yn uchafbwynt blwyddyn lwyddiannus i CFfI Abingdon
Y DE-DDWYRAIN
CLWB: CFfI Dyffryn Tywi, Sir Gâr
NIFER YR AELODAU: 29
CYFARFOD GORAU: Gwneud boncyffion Nadolig ar ôl arddangosfa goginio a chynnal cystadleuaeth i weld pwy oedd y gorau am addurno boncyff.
CYSTADLEUAETH ORAU: Siarad Cyhoeddus – Cymraeg a Saesneg. Eleni, fe wnaeth y tîm Siarad Cyhoeddus Cymraeg Hŷn ennill am y tro cyntaf ers 1978. Fe wnaeth dau o’r aelodau ieuengaf gynrychioli’r sir yn y gystadleuaeth Siarad Cyhoeddus Iau, ac enillodd un aelod wobr yr unigolyn gorau.
ELUSEN: Eleni, fe wnaethom godi £1,020 i MIND a Thŷ Cymorth trwy ganu carolau a chynnal gwasanaeth diolchgarwch. Fe wnaethom hefyd godi £350 trwy gynnal cyngerdd at apêl llifogydd Gwlad yr Haf, ac fe wnaeth gweithgaredd gyrru tractorau i ddathlu ein 75ain pen-blwydd godi £1000 i Ambiwlans Awyr Cymru.
CLWB PENIGAMPMae ein holl glybiau yn wych, ond dyma glwb penigamp diweddar o YFC Buzz!
Dywedwch wrth y byd a’r betws pa mor wych yw
eich clwb! E-bostiwch magazine@nfyfc.org er mwyn ymddangos yn rhifyn nesaf.
e
CFF
I DYFFRYN TYWI
H C A R M A R T H E N
H
PARTH CFFI
CORNEL ELUSENNAU
Dewch i aredig!
PWY: CFfI Ivybridge
ELUSENNAU: Cronfeydd y clwb,
Call South West, a Rhwydwaith
Cymuned Ffermio.
EU CAMP: Marathon aredig 24 awr
ar Fferm Scobbiscombe, Kingston.
Bu gwerthwyr peiriannau lleol
yn ddigon caredig i roi benthyg
peiriannau, yn cynnwys Hamblys,
Masons Kings, CR Willcocks a
Dunns Ploughs, a chafwyd disel
gan fusnesau a ffermwyr lleol.
Llwyddodd pum tractor â gwŵdd yn
ystod y dydd a thri yn ystod y nos i
aredig 220 erw.
YN EU GEIRIAU HWY: Dywedodd
Olivia Northmore: “Roedd yn
weithgaredd difyr ac roedd rhoi
cynnig ar y peiriannau arddangos yn
wych. Roedd yn flinedig iawn, ond
roedd y diodydd egni yn
gymorth mawr am bedwar
y bore! Roedd gwybod
ein bod yn codi arian yn
ein hannog i ddal ati (a’r
bwyd a ddarparwyd gan ei
gwesteiwyr).”
Y DE-ORLLEWIN
GORLLEWIN Y CANOLBARTH
Mae aelodau ymroddedig CFfI Eccleshall wedi dyblu cyfanswm yr arian a godir ganddynt i gefnogi elusennau lleol yng Nghanolbarth Lloegr. Dros y 12 mis diwethaf, mae’r clwb wedi codi £1,300, a fydd yn cynorthwyo Ambiwlans Awyr y Canolbarth ac Ymatebwyr Cyntaf Eccleshall, ymgyrch gwerthu pabïau’r Lleng Brydeinig, a Byddin Tir y Merched. Cyhoeddwyd y llwyddiant yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Clwb ym mis Medi, a dywedodd y Cadeirydd blaenorol Becky Stubbs ei bod yn falch iawn. “Mae hyn yn fwy na dwbl yr arian rydym wedi’i gyfrannu yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, felly mae’n llwyddiant anhygoel i’r clwb.” Mae’r Clwb hefyd yn cefnogi ymgyrch i greu cerflun i anrhydeddu Byddin Tir y Merched.
Dyblu’r arian
Ashby yn dal i droi Fe wnaeth tractorau o’r 1930au a pheiriannau mwy modern gymryd rhan yn Ras Aredig Ashby de la Zouch ym mis Medi. Dyma’r 14eg ras aredig flynyddol, ac ar ôl i 55 cystadleuydd gymryd rhan, llwyddodd y Clwb i godi £550 er budd y Sefydliad Buddiannol Amaethyddol Brenhinol (RABI). Dywedodd Laura Green, Ysgrifenyddes Ashby: “Diolch i bawb a wnaeth gymryd rhan a chyfrannu arian at yr elusen hynod haeddiannol hon.”
DWYRAIN Y CANOLBARTH
Cadeiryddion: Y Cadeirydd blaenorol Becky Stubbs
gyda’r Cadeirydd Clwb newydd, Harriet Wilson.
CYNAEAFU AELODAU
Fe wnaeth CFfI Downham Market ymdrechu i’r eithaf
i recriwtio aelodau newydd trwy greu combein o
fyrnau gwellt. Fe wnaeth aelodau’r Clwb o Norfolk
greu’r combein ger cylchfan y dref i geisio denu
aelodau newydd. Dywedodd Charlotte Waters,
Cadeirydd CFfI Downham Market: “Bob
blwyddyn, bydd ein clwb yn adeiladu
rhywbeth gan ddefnyddio gwellt i
hysbysebu ein noson i aelodau newydd.
Adeiladir tractor gan amlaf, ond roedd rhaid
adeiladu rhywbeth mwy eleni, oherwydd
roedd hi’n saith deg mlwyddiant y Clwb.
Fe wnaeth ddenu sylw llawer o gerddwyr!”
Gwnaed y fenter gymaint o argraff ar
FfCFfI Norfolk, mae bellach wedi herio
gweddill yr aelodau i hyrwyddo’u clybiau.
Y DWYRAIN
NEIDIWCH!
TEN26 31
v
Geiriau doethYmunodd Cadeiryddion CFfI Withleigh yn nathliadau 85 mlwyddiant y Clwb ym mis Medi. Fe wnaeth Cyn-gadeirydd Cyngor FfCCFfI John Lee OBE a Chyn-gadeirydd y Sir a CFfI Withleigh Les Heywood ill dau annog yr aelodau i gyfranogi mewn cymaint ag y gallant o weithgareddau.
Roedd y cinio yn dilyn ras aredig elusennol gyntaf y Clwb ym mis Awst, oedd yn cynnwys 50 o beiriannau. Llwyddwyd i godi £600 i Rwydwaith Cymuned Ffermio.
Fe wnaeth neidio ar
drampolîn am 24 awr
wneud i aelodau CFfI
Teme Valley deimlo’n
benysgafn, yn enwedig
ar ôl iddynt ganfod fod eu
hymdrechion wedi codi £3,000 i
elusennau.
Fe wnaeth yr aelodau egnïol
neidio ar y trampolîn yn Llain Glas
y Pentref yn Kingsland, Gogledd
Swydd Henffordd, o 11 o’r gloch
ar fore Sadwrn tan 11 y bore
canlynol. Caiff yr arian a godwyd ei
rannu rhwng Ambiwlans Awyr
y Canolbarth a phlentyn lleol a
gafodd anafiadau difrifol mewn
damwain car ac sydd yn yr
ysbyty ers tro. Mae’r Clwb yn
gobeithio y bydd yr arian yn
cyfrannu at adeiladu ystafell
chwarae synhwyraidd yn ei
gartref pan fydd yn dychwelyd
adref cyn y Nadolig.
Dywedodd Isabel Probert,
Ysgrifenyddes CFfI Teme Valley:
“Fe wnaeth aelodau Teme Valley
fwynhau eu hunain yn fawr dros y
penwythnos, ac maent yn cytuno
na wnaethant erioed sylweddoli
pa mor hir yw 24 awr nes
oeddent yn neidio yn ystod oriau
mân y bore! Diolch yn fawr iawn
i bawb am eu cyfraniadau neu eu
nawdd hael iawn.”
Fe wnaeth y Clwb hefyd
gydweithio â’r eglwys leol i godi
arian trwy noson o adloniant
oedd yn cynnwys cwisiau, bingo
a chaneuon gan gôr Teme Valley,
a fu’n cystadlu yn y rowndiau
terfynol cenedlaethol.
Codwyd £1,800 yn ystod y
noson, a rannwyd yn gyfartal
rhwng y Clwb a’r eglwys.
GORLLEWIN Y CANOLBARTH
Y DE-ORLLEWIN
Swper diolchgarwch: (ch-dd) John Lee, Hannah Land, Chris Pring, Eric Shapland, Harry Rabjohns, Les Heywood, Dawn Radford, Sarah Henson; yn eistedd: Louise Kittow ac Olly Rabjohns
A OES GENNYCH STORI?!A HOFFECH WELD HANES EICH CLWB YN Y CYLCHGRAWN? ANFONWCH EICH LLUNIAU A’CH HANESION AT:
magazine@nfyfc.org.uk neu ffoniwch 02476 857200 i siarad â’r tîm!
Diolch am anfon eich hoff luniau o’r Gynhadledd dros y blynyddoedd. A welwch chi bum gwahaniaeth rhwng y lluniau hyn o aelodau CFfI Lichfield aeth i Blackpool yn 2014?
Atebion O’r Fferm
Yn falch o gefnogi Clybiau Ffermwyr Ifanc
www.tama-uat.co.uk+44(0) 1420 545 800
CYNIGION I AELODAU!Mynnwch gynigion arbennig sydd wedi’u cyfyngu i aelodau’r CFfI! Mae’r holl godau disgownt ar gael ar-lein, ac mae angen troi at y wefan yn rheolaidd i weld y cynigion diweddaraf. Dyma rai o’r uchafbwyntiau:
l 10% oddi ar bris aelodaeth Cymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydainl 10% oddi ar bris cyrsiau School of Artisan Foodl 50% oddi ar bris tanysgrifiadau Farmers Weeklyl Disgownt o £5 ar bris aelodaeth Cymdeithas Tynnu Rhaff yr Albanl Cynigion gan loriau sglefrio Silver Blades l 40% oddi ar bris mynediad Cae Ras Taunton
www.nfyfc.org.yk/memberoffers
CYSTADLAETHAUCYSTADLAETHAUCYMERWCH HOE I WNEUD EIN CWISIAU
BLE MAE’R GWAHANIAETHAU?
top related