Nodyn i’r athro / athrawes : Argraffwch y cardiau canlynol gefn-wrth-gefn .
Post on 27-Jan-2016
58 Views
Preview:
DESCRIPTION
Transcript
Nodyn i’r athro/athrawes:
Argraffwch y cardiau canlynol gefn-wrth-gefn.
Rhowch un cerdyn i bob disgybl.
Dyma enghraifft o sut y gellid cwblhau’r dasg hon:
Disgybl A: Beth ydy’r rhagenw dibynnol blaen sy’n achosi treiglad trwynol?
Disgybl B: fy
Disgybl A: Wnei di dreiglo ‘fy’ + ‘parot’ plîs.
Disgybl B: Fy mharot.
Disgybl A: Cywir. Beth ydy’r rheswm?
Disgybl B: Mae’r enw ‘parot’ yn treiglo’n drwynol ar ôl y rhagenw dibynnol blaen, person cyntaf unigol ‘fy’.
Disgybl A: Cywir!
Y dasg yn cael ei hail-adrodd gyda disgybl B yn holi y tro hwn.
Cyfnewid cardiau a mynd at bartner gwahanol.
Parot
Parot
• Parot + treiglad meddal = dy barot / ei barot o
• Rheswm – Mae’r enw ‘parot’ yn treiglo’n feddal ar ôl y rhagenw dibynnol blaen, ail berson unigol ‘dy’/trydydd person unigol, gwrywaidd ‘ei’.
Teigr
Teigr
• Teigr+ treiglad trwynol = Fy nheigr
• Rheswm – Mae’r enw ‘teigr’ yn treiglo’n drwynol ar ôl y rhagenw dibynnol blaen, person cyntaf unigol ‘fy’.
Cath
Cath
• cath+ treiglad llaes= ei chath hi
• Rheswm – Mae’r enw ‘cath’ yn treiglo’n llaes ar ôl y rhagenw dibynnol blaen, trydydd person unigol, benywaidd ‘ei’.
Babŵn
Babŵn
• Babŵn + treiglad trwynol = Fy mabŵn
• Rheswm – Mae’r enw ‘babŵn’ yn treiglo’n drwynol ar ôl y rhagenw dibynnol blaen, person cyntaf unigol ‘fy’.
Dafad
Dafad
• Dafad + treiglad meddal = Dy ddafad / ei ddafad o
• Rheswm – Mae’r enw ‘dafad’ yn treiglo’n feddal ar ôl y rhagenw dibynnol blaen, ail berson unigol ‘dy’/trydydd person unigol, gwrywaidd ‘ei’.
Gafr
Gafr
• Gafr+ ein = Ein gafr ni
• Rheswm – Nid yw’r enw ‘gafr’ yn treiglo ar ôl y
rhagenw dibynnol blaen, person cyntaf lluosog ‘ein’.
Llyffant
Llyffant
• Llyffant + treiglad meddal = dy lyffant / ei lyffant o
• Rheswm – Mae’r enw ‘llyffant’ yn treiglo’n feddal ar ôl y rhagenw dibynnol blaen, ail berson unigol ‘dy’/trydydd person unigol, gwrywaidd ‘ei’.
Mwnci
Mwnci
• Mwnci + treiglad meddal = dy fwnci / ei fwnci o
• Rheswm – Mae’r enw ‘mwnci’ yn treiglo’n feddal ar ôl y rhagenw dibynnol blaen, ail berson unigol ‘dy’/trydydd person unigol, gwrywaidd ‘ei’.
Rhinoseros
Rhinoseros
• Rhinoseros + treiglad trwynol = Fy rhinoseros
• Rheswm – Nid yw’r enw ‘rhinoseros’ yn treiglo ar ôl y rhagenw dibynnol blaen, person cyntaf unigol ‘fy’ gan ei fod yn cychwyn â’r gytsain ‘rh’.
Ci
Ci
• Ci+ treiglad llaes = ei chi hi
• Rheswm – Mae’r enw ‘ci’ yn treiglo’n llaes ar ôl y rhagenw dibynnol blaen, trydydd person unigol, benywaidd ‘ei’.
top related