YOU ARE DOWNLOADING DOCUMENT

Please tick the box to continue:

Transcript
Page 1: Rhifyn y Gaeaf 2012/13

Mae anghydfod mewnol yn UMCA heddiw. Mae hyn i’w weld yn amlwg yn rôl Llywydd UMCA, neu i fod yn fanwl gywir , rôl ‘Swyddog Materion Cymreig a Llywydd UMCA’. Bellach, mae gan Lywydd UMCA rôl ddeuol yn gweithredu cyfrifoldeb fel Llywydd UMCA, ac fel Swyddog Materion Cymreig yr Undeb.

Mae hyn wedi gwanhau llais annibynnol UMCA ac wedi cly-mu UMCA i mewn i strwythur yr Undeb. Enghraifft o hyn yw bod dwy swyddfa gan UMCA – un ym Mhantycelyn ac un yn yr Undeb. Felly beth yw rôl UMCA bellach? Ai cael ei ethol i fod yn Llywydd ar Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystywyth, ai fel Swyddog Materion Cymraeg yr Undeb y mae Llywydd UMCA?

Un o’r prif broblemau yw bod statws Llywydd UMCA fel swyddog sabothol yn golygu bod etholiadau am Lywydd UMCA bellach yn bleidlais draws-gampws. Mae Deddf Ad-dysg 1994 yn datgan yn glir:“appointment to major union of�ices should be by election in a secret ballot in which all members are entitled to vote” (Adran 22, Deddf Addysg 1994).

Dim ond am y tair blynedd di-wethaf mae’r cymal hwn wedi bod yn berthnasol i etholiadau Llywydd UMCA. Mae’n siŵr bod nifer o fyfyrwyr hŷn y brifysgol yn co�io Ioan Gwilym, a gollodd yr etholiad i Rhiannon Wade, yn llongyfarch Rhiannon am ennill yr etholiad trwy “werthu’i hun i 300 o Saeson” yn yr Utgorn.

Yn amlwg nid yw hyn yn se-fyllfa ddelfrydol i fyfyrwyr Cymraeg Aber orfod delio â hi.Ailgodwyd cwestiynau am y system bleidleisio yn yr etho-liad canlynol, gyda Tammy Hawkins yn ennill brwydr glos yn erbyn Rhiannon Wade a Ceri Roberts. Roedd nifer y pleidlei-siau yn sylweddol uwch na ni-fer aelodau UMCA ar y pryd, ac mae’n amlwg bod hawl holl fy-fyrwyr Aber i bleidleisio yn cael effaith ar ganlyniad yr etholiad.

Mae’r bleidlais draws-gampws yn codi’r cwestiwn – gan bwy mae Llywydd UMCA yn der-byn ei fandad democrataidd? A yw Llywydd UMCA wir yn cynrychioli diddordebau my-fyrwyr Cymraeg y Brifysgol os yw’r rhan fwyaf o’r bobl sy’n pleidleisio mewn etho-liad i’r swydd yn ddi-Gymraeg?

MEWN UNDEBMAE NERTH?

YR HERIWRPapur Cymraeg Myfyrwyr Aberystwyth

I ddarllen gweddill yr erthygl ewch i dudalen 3.

Adrannau Pri-fysgol Aberyst-

wyth yn rhagori drwy Brydain.

Deuawd ddon-iol ddadleuol yn pegynnu barn y

Cymry.

Tudalen 5

Cyfweliad gydag un o wynebau mwyaf

cyfarwydd Aber.

Canlyniad siome-dig i’r Geltaidd yn erbyn Gym-Gym Caerdydd.

Tudalen 14

Rhad ac am ddimRhifyn Gaeaf 2012/2013

Tudalen 8

Aber ar y brig drwy Brydain Y Ffermwyr Ifanc yn hollti barn

Llygad y camera Cweir i’r tim cartref yn y Rhyng-gol

Tudalen 2

Page 2: Rhifyn y Gaeaf 2012/13

YR HERIWR Rhifyn y Gaeaf 2012

SYR EMYR YN PARHAU FEL LLYWYDD

Gruffudd [email protected]

Elin Haf [email protected]

Jacob Dafydd EllisSwyddog [email protected]

Ffraid GwenllianGohebydd Bywyd [email protected]

Aled Morgan HughesGohebydd Newyddion [email protected]

Adam JonesSwyddog [email protected]

Elliw Hâf PritchardGohebydd Materion [email protected]

Sion Eilir [email protected]

Eiri Angharad SionSwyddog Dylunio a Ffotograf�[email protected]

Miriam [email protected]

Bethan WalklingGohebydd [email protected]

Aled Wyn WilliamsSwyddog [email protected]

Llywelyn WilliamsGohebydd [email protected]

Yr Herwyr

gan Elliw Hâf Pritchard

ABER AR Y BRIG DRWY BRYDAIN

gan Aled Morgan Hughes

GOLYGYDDOL

2

Croeso i ail rifyn Yr Heriwr – papur Cymraeg myfyrw-yr Aberystwyth. Â ninnau ar drothwy’r Nadolig, cawn edrych yn ôl ar dymor by-rlymus a cho�iadwy i’r my-fyrwyr newydd a’r myfyr-wyr sy’n dychwelyd fel ei gilydd. Gobeithiwn gy�leu peth o’r bwrlwm hwnnw yn y rhifyn hwn, gan edrych ymlaen at dymor arall ar ôl yr ŵyl.

Unwaith eto, carem eich atgoffa fod y fenter hon yn gwbl annibynnol ar un-rhyw sefydliad neu undeb, ac felly’n llwyr ddibynnol ar hysbysebion a chyfra-niadau gan fusnesau ac un-igolion. Os hoffech sicrhau dyfodol i’r papur hwn, taer erfyniwn am eich cefnoga-eth mewn unrhyw fodd. Gobeithiwn fod y papur, a phopeth sydd ynghlwm ag

o, yn gwneud ychydig i len-wi bwlch ym mywyd Cym-raeg y Brifysgol a’r dre’.

Her fawr i’r fenter fydd y cyfnod trosglwyddo rhwng dau bwyllgor ar ddiwedd y �lwyddyn. Os hoffech fod yn rhan o’r pwyllgor, co�i-wch ddod draw i’r cyfarfod cyffredinol a gynhelir yn fuan ar ôl arholiadau mis Ionawr. Hefyd, rydym yn

wastad yn falch o dderbyn unrhyw erthyglau gan un-rhyw un ar unrhyw bwnc, felly co�iwch gysylltu â ni gyda’ch cyfraniadau. Co�iwch hefyd fod yr er-thyglau, ynghyd â deunydd ychwanegol, i’w cael ar ein gwefan: www.yrheriwr.org

GA & EHGRhagfyr 2012

Penodwyd Syr Emyr Jones Parry i wasanaethu am ei ail gyfnod fel Lly-wydd Prifysgol Aberystwyth �is Tach-wedd eleni. Dechreuodd Syr Emyr yn ei swydd ym mis Ionawr 2008, a daw ei gyfnod 5 mlynedd cyntaf i ben ddechrau mis Ionawr 2013.

Mewn ymateb i’r newyddion, dy-wedodd Syr Emyr, sydd bellach yn 65 mlwydd oed- “Mae’r fraint hon yn hyfrydwch ac yn anrhydedd, ac rwy’n edrych ymlaen at gy-northwyo i arwain y Brifysgol drwy’r cyfnod cyffrous nesaf.” Croesawyd y penodiad hefyd gan yr is-ganghellor, April McMahon, a nododd:

“Mae arweinyddiaeth Syr Emyr wedi bod yn gryf ag iddi wel-edigaeth. Mae’n uchel ei barch ymysg ein myfyrwyr a’n staff, ac

rydym yn edrych ymlaen at gy-dweithio gydag ef wrth ddatbl-ygu ein Prifysgol ymhellach fel arweinydd hyderus ac uchelgei-siol Addysg Uwch yng Nghymru.”

Yn wreiddiol o Sir Gâr, ymunodd Syr Emyr â’r Swyddfa Dramor a’r Gy-manwlad yn 1973, gan fynd ymlaen i weithio yn Sbaen, yng Nghanada

ac ym Mrwsel. Yn 2001 fe’i peno-dwyd yn Gynrychiolydd Parhaol y Deyrnas Gyfunol ar Gyngor Go-gledd Môr yr Iwerydd (NATO), ac yna bu’n dal swydd Cynrychiolydd Parhaol y Deyrnas Unedig i’r Cen-hedloedd Unedig yn Efrog Newydd tan ei ymddeoliad yn 2007. Olyn-odd yr Arglwydd Elystan Morgan fel Llywydd y Brifysgol yn 2008.

Bu achos i ddathlu ym Mhrifysgol Ab-erystwyth yn ddiweddar wrth i’r Brifys-gol, am y chweched fl wyddyn yn olynol, ddringo i’r brig, a derbyn yr anrhydedd o fod yr orau yn y wlad am fodlonrwydd y myfyrwyr yn ôl The Times Good Uni-versity Guide 2013 – canllaw uchel ei barch i brifysgolion y Deyrnas Unedig.

Gyda chyfradd o 83%, mae Prifysgol Aberystwyth ymhlith y 10 prifysgol orau yn y Deyrnas Unedig o ran sicrhau bodlonrwydd myfyrwyr. Mae canlynia-dau Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol hefyd yn ategu’r canlyniadau uchod, gan osod Prifysgol Aberystwyth fel yr orau yn y wlad am foddhad myfyr-wyr am y seithfed fl wyddyn yn olynol. Yn ogystal â’r Brifysgol ei hun, ser-ennodd tair adran, wrth i ganlynia-dau Arolwg Boddhad Myfyrwyr 2012, papur newydd y Telegraph, a’r National Student Survey ganmol canlyniadau boddhad myfyrw-yr yn Adran y Gymraeg, yr Adran Seicoleg a’r Adran Gwyddor

Chwaraeon ac Ymarfer Corff. Yn ogystal ag ennill y sgôr uchaf o blith holl adrannau’r Brifysgol, yn ôl can-lyniadau Arolwg Boddhad Myfyrwyr 2012, daeth Adran y Gymraeg hefyd i’r brig o’i chymharu â’r adrannau Cym-raeg mewn prifysgolion eraill gyda 97%. Roedd yr Arolwg yn ymchwilio i feysydd megis ansawdd y dysgu a’r adborth, y gefnogaeth academaidd, yr adnoddau dysgu a datblygiad personol y myfyrwyr. Roedd 96% o’r myfyr-wyr sy’n astudio yn yr adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn fod-lon gydag ansawdd eu cwrs gradd yn ôl papur y Telegraph – ac yn dod yn 6ed o’r holl brifysgolion sy’n cynnig y cwrs yma drwy’r Deyrnas Unedig.

Yn ystod y fl wyddyn academaidd hon, bydd yr adran Seicoleg yn uno gyda’r adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff. Mae’r adran Seicoleg o fewn y Brifysgol yn parhau i fod yn weddol newydd, a hithau’n dechrau ar ei phumed fl wyddyn fel adran. Bu can

lyniadau y National Student Survey yn hwb enfawr i’r adran eleni, wrth iddi ddod yn gydradd gyntaf gyda phrifys-golion Rhydychen a Stirling, yn ogys-tal â Choleg Prifysgol Newman. Mae hyn yn llwyddiant ysgubol o ystyried mai dyma’r fl wyddyn gyntaf oedd yr adran yn gymwys i fod yn rhan o’r arolwg. Dywedodd Dr Bullen, penna-eth yr adran Seicoleg, fod ‘y canlyniad ardderchog yma yn deyrnged i’r tîm gwych sy’n gweithio o fewn yr adran.’

Page 3: Rhifyn y Gaeaf 2012/13

SEFYDLWYD 2012Rhifyn y Gaeaf 2012

3

gan Osian Elias

MEWN UNDEB MAE NERTH?Llun: Keith Morris

Mae hawl holl fyfyrwyr Aber i bleidleisio am Lywydd UMCA yn effeithio ar rôl UMCA wrth gynrychioli myfyrwyr Cymraeg, ac yn codi cwestiynau ynghylch gallu’r Llywydd i wneud hyn mewn modd sy’n annibynnol ar yr Undeb. Yn yr etholiadau diweddar roedd yn bosib i fyfyrwyr hunan-ddif�inio, e.e. dim ond myfyrwyr ôl-raddedig oedd yn gallu pleidleisio yn yr etholiad am Swyddog Ôl-raddedig. Gan fod Llywydd UMCA yn ‘major union of�ice’ nid yw’n bosib gwneud hyn yn unol â Deddf 1994.

Mae’r sefyllfa wedi codi felly ble mae cynrychiolydd myfyrwyr Cymraeg Ab-erystwyth yn cael ei ethol gan nifer uchel o fyfyrwyr di-Gymraeg, gan ddwyn amheuaeth dros rôl Llywydd UMCA. Mae annhegwch y sefyllfa i fyfyrwyr Cym-raeg y Brifysgol yn cael ei amlygu gan dâl aelodaeth UMCA. Rydym yn talu £8 y �l-wyddyn i ymaelodi ag UMCA heb dderbyn y breintiau a ddylai fod yn cyd-fynd â hyn. Mae’n bosib y byddwn yn ein dar-ganfod ein hunain yn yr un sefyllfa ag UMCB yn 2009 gyda myfyrwraig ddi-Gymraeg yn cael ei hethol fel Llywydd UMCB. Mae Pwyllgor Gwaith UMCA a’r Llywydd cyfredol, Carys Thomas, wedi cymryd rhai camau i osgoi hyn eleni trwy osod cynnig ger bron Cynulliad y My-fyrwyr i sicrhau bod yn rhaid i Lywyddion UMCA yn y dyfodol fedru’r iaith Gymraeg.

Ond gall hyn arwain at gymhlethdo-dau o ran polisi dwyieithog y Brifysgol a chorddi’r dyfroedd ynghylch cy�le cyfar-tal. Hefyd, o dan y cynnig hwn, byddai’n dal yn bosib i rywun gael ei ethol yn Lly-wydd UMCA heb fod yn aelod o UMCA. Mae hyn yn amlygu’r anghydfod cyfan-soddiadol rhwng UMCA a’r Undeb, gan y gallai aelodau UMCA ddisodli’r Llywydd trwy gynnig pleidlais o ddiffyg hyder, ond byddai’n parhau fel swyddog sabothol.

Beth felly yw’r fantais o fod yn aelod o UMCA? O gymharu gydag UMCB, mae perthynas UMCA gyda’r cymdeithasau Cymraeg yn wan. Mae’n ymddangos yn glir bod UMCB wedi creu strwythur i sicrhau bod y cymdeithasau Cymraeg yn derbyn cefnogaeth gref gan yr Undeb Cymraeg ym Mangor. Mae sicrhau per-thynas gref a ffur�iol rhwng yr Undeb Cymraeg a’i gymdeithasau yn cry�hau ei annibyniaeth o fewn yr Undeb. Ydi hi’n bryd i UMCA fabwysiadu model tebyg?

Er gwaethaf y dylanwad sydd gan UMCA, a’i hanes hir a chyfoethog, beth bellach yw rôl UMCA? Dywedodd Geraint Edwards, Llywydd UMCA rhwng 2008 a 2009:

“Ers rhai blynyddoedd, ffur�iwyd per-thynas agos iawn, a pherthynas yr wyf yn anesmwytho o’i gweld, rhwng UMCA a’r Undeb. Gwelwyd y teitl ‘Llywydd UMCA’ yn troi’n ‘Swyddog Materion Cym-reig a Llywydd UMCA’. Bellach, rôl lawn ar bwyllgor sabothol yr Undeb ydyw gyda ‘Llywydd UMCA’ yno fel rhyw fath o ychwanegiad tocenistaidd. Un o obly-giadau cam o’r fath yw mai pleidlais draws-gampws a gynigir i 9000 o fy-fyrwyr ydyw ar gyfer undeb sy’n cynry-chioli buddiannau 400 o aelodau. Mae’r pwynt hwn ar ben ei hun yn tanseilio holl ddiben UMCA fel undeb ar wahân.

“Mae UMCA mewn rhyw oes lle mae nif-eroedd sy’n mynychu Sŵn (noson Gym-raeg yr Undeb) yn ffon fesur i’w lwyddi-ant. Mae hynny’n dorcalonnus o ystyried cymaint o brotestiadau y bûm arnynt, yn teithio mewn bws i lawr i Gaerdydd i ralïau, yn blocio ffyrdd ac yn dringo i ben toeau adeiladau’r Brifysgol. Tru-eni mawr yw gweld nad yw’r brwydrau hynny’n werth eu hymladd bellach.”

Bellach, prif ddyletswyddau y Llywydd yw trefnu digwyddiadau cymdeithasol megis y Ddawns a’r Eisteddfod Ryng-golegol, Gloddest UMCA ac wythnosau RAG a Ne�i Blŵ. Mae UMCA wedi colli’i hunaniaeth fel undeb ac mae bron mor llipa ac anwlei-dyddol â gweddill yr Undeb. Enghraifft o sefyllfa druenus yr Undeb yw’r etho-liadau ffarsaidd a gynhaliwyd yn ddiwed-dar. Mae aelodau UMCA wedi sylweddoli hyn i raddau. Gyda sefydlu’r Heriwr a’r bwrlwm newydd yng Nghell Cymdeithas yr Iaith Pantycelyn, mae myfyrwyr Cym-raeg Aber yn mynegi eu hysbryd gwleidy-ddol. Ar yr un pryd mae’n amlwg nad yw awch wleidyddol myfyrwyr Cymraeg Ab-erystwyth yn cael ei bodloni gan UMCA.

Dywedodd Carys Ann Thomas, Llywydd cyfredol UMCA:

“Er bod pleidlais y Llywydd yn bleidlais draws-gampws, rhaid co�io nad lly-wydd yn unig sydd gan UMCA. Mae 10 aelod ar Bwyllgor Gwaith UMCA, gydag 8 ohonynt wedi eu hethol i’w swyddi

yn uniongyrchol gan aelodau UMCA i’w cynrychioli. Yn ogystal â hyn, byddai’n rhaid i mi ddweud bod UMCA yn bendant yn cefnogi cymdeithasau Cym-raeg Aber, a dim ond ochr ariannol y cymdeithasau sy’n annibynnol ar UMCA.

‘Alla’ i hefyd sicrhau holl aelodau UMCA nad trefnu digwyddiadau cymdeitha-sol yw prif ddyletswydd Llywydd UMCA. Mae’n bosib mai dyma’r ochr mae nifer o aelodau yn ei gweld o ddydd i ddydd, ond mae Llywydd UMCA yn eistedd ar nifer o bwyllgorau o fewn y Brifysgol er mwyn diogelu buddiannau myfyr-wyr Cymraeg Aberystwyth ar amry-wiaeth o bynciau, gan gynnwys ad-dysg Cyfrwng Cymraeg, dyfodol Pan

tycelyn a’r iaith Gymraeg o fewn y brifys-gol - dim ond i enwi ychydig o esiamplau.”

Mae teimlad cyffredinol fod UMCA yn syrthio rhwng dwy stôl, sef rhwng se-fyllfa UMCB ym Mangor a’r GymGym yng Nghaerdydd. I ba gyfeiriad y dylid mynd? Ai dilyn esiampl Caerdydd a chreu cymdeithas Gymraeg annibyn-nol, ai mabwysiadu rôl gryfach o fewn yr Undeb, a thrwy hynny sicrhau gallu UMCA i fod yn llais annibynnol i fyfyr-wyr Cymraeg yn yr Undeb a’r Brifysgol? Beth bynnag yw’r cynllun, mae angen trafodaeth ar ddyfodol UMCA cyn i’r ddy-nameg bresennol ei gwneud yn rhy hwyr.

Page 4: Rhifyn y Gaeaf 2012/13

YR HERIWR Rhifyn y Gaeaf 2012

Mewn etholiad agos rhwng y Ceidwadwr Christopher Salmon a’r ymgeisydd Llafur, Christine Gwyther, gwelwyd yr ymgeisydd Ceidwadol yn cael ei ethol fel Comisiynydd Hed-dlu Dyfed-Powys, gyda mw-yafrif cul o 1,114 pleidlais.

Llwyddodd Mr Salmon, sydd bel-lach yn ŵr busnes ar ôl treulio cyfnod yn y Fyddin, i ennill mw-yafrif yng Ngheredigion, Powys a Sir Benfro. Gwelwyd y cyn-aelod Cynulliad, Christine Gwyther, fodd bynnag, yn llwyddo i ennill mwyafrif o dros 5,000 pleidlais yn Sir Gaerfyrddin. Bydd Mr

Salmon, a ddechreuodd yn ei rôl newydd ar y 22ain o Dachwedd, yn gyfrifol am gyfeiriad strat-egol Heddlu Dyfed-Powys, yn-ghyd ag archwilio perfformiad yr heddlu i’r cyhoedd, yn dilyn Deddf Diwygio Heddlu a Chy-frifoldeb Cymdeithasol 2011.

Yn ei faniffesto, pwysleisiodd Mr Salmon fwriad i drawsnewid Heddlu Dyfed-Powys i fod yr adran ‘orau yng nghefn gwlad Cymru a Lloegr’ Datganodd he-fyd ei fod yn falch iawn o gael y swydd, gan fynd ymlaen i nodi fod gan yr heddlu nifer o sialen-siau dros y blynyddoedd ne-

saf, ond ei fod yn benderfynol y byddai’r adran yn cael ei chry�hau dan ei weinyddiaeth.

Ar draws Prydain, gwelwyd 16 ymgeisydd Ceidwadol yn llwyddo i ennill swyddi fel Co-misiynwyr, tra llwyddodd Llafur i ennill 13, aelodau annibynnol 12, ac ni phrofodd y Democra-tiaid Rhyddfrydol unrhyw lwyddiant. O’r 41 swydd ar gael, gwrywod a gafodd 35 ohonynt.Mae’n debygol y caiff canlyniad yr etholiad ei gysgodi gan y re-cord newydd o bobl a benderfyn-odd i beidio â phleidleisio. Yng Nghymru a Lloegr y cyfartaledd a bleidleisiodd oedd 14.9% ond pleidleisiodd 17.1% o’r ethola-eth yn Nyfed Powys, gyda 2,912 o bleidleisiau yn cael eu dinis-trio. Yng Ngheredigion, dinistri-wyd 12.3% o’r pleidleisiau, gyda Chymdeithas Myfyrwyr Plaid Cymru Ifanc Prifysgol Aberyst-wyth yn rhedeg ymgyrch weled-ol amlwg yn erbyn yr etholiad.

Nododd Cadeirydd y Comisi-wn Etholaeth fod y prinder yn y nifer a bleidleisiodd ar draws Cymru a Lloegr yn ‘ar-gyfwng i unrhyw un sydd yn pryderu am ddemocratiaeth.’

COMISIYNWYR YR HEDDLU

Yng nghanol mis Tachwedd dychwelodd wythnos S.H.A.G i Brifysgol Aberystwyth - dig-wyddiad sydd o bosib yn swnio’n un eithaf amheus ar y darlleniad cyntaf, ond daw rhyddhad wrth i rieni myfyrwyr ddeall mai wythnos i godi ymwybyddiaeth ac i roi cyngor ar iechyd rhyw yw’r digwyddiad, gyda S.H.A.G yn sefyll am “Sexual Health Awareness and Guidance”.

Dyma wythnos addysgiadol, hwyliog sy’n llawn digwyddia-dau, ond wythnos sydd hefyd yn lledaenu neges bwysig, o ystyried fod oddeutu 7 o bob 10 myfyriwr wedi cyfaddef mewn arolwg diweddar eu bod wedi cael rhyw heb ddefnyddio un-rhyw fath o ddull atal cenhedlu.

Ac o blith y rhain nid oedd yr un ohonynt wedi cael prawf am glefydau gwenerol (Sexually Transmitted Infections) er eu bod yn ymwybodol o’r peryglon.

Mae’r ymgyrch hon yn cael ei chynnal mewn prifysgolion ledled y wlad mewn ymgais i hybu agwedd iach a chyfrifol tuag at ryw. Cynhaliwyd Y Cwis Mawr ar y 18fed o Dachwedd; cwis ychydig yn wahanol i’r arfer a oedd cynnwys cwesti-ynau ynghylch iechyd rhywiol, a rhoddwyd gwobrau doniol i roi dechrau da i wythnos gy-fan o ddigwyddiadau rhywiol!

Un arall o brif atyniadau’r wyth-nos oedd y ras hwyl a gynhali-wyd ar y 25ain o Dachwedd

o’r enw y Shagathon. Nod y ras oedd cwblhau cymaint o gyl-chdroadau o amgylch trac y campws ag sy’n bosib mewn awr, drwy gerdded neu redeg.

Mae holl elw’r wythnos yn cael ei roi i Ymddiriedolaeth Ter-rence Higgins – elusen sydd yn ceisio hyrwyddo iechyd rhyw, a lleihau lledaeniad HIV a chle-fydau gwenerol yn y Deyrnas Unedig, drwy annog unigolion i werthfawrogi eu hiechyd rhyw a chynyddu’r nifer o wasana-ethau iechyd rhyw lleol sydd ar gael o fewn cymunedau.

gan Elliw Hâf Pritchard

gan Aled Morgan Hughes

RHYWBETH BACH I FEDDWL AMDANO

4

Page 5: Rhifyn y Gaeaf 2012/13

SEFYDLWYD 2012Rhifyn y Gaeaf 2012

Ynghanol yr holl ddadlau sydd wedi deillio ohono, anodd yw hi imi fynegi fy marn am sgandal ddiweddaraf y Ffermwyr Ifanc heb i rywun anghytuno â mi. Mae’n gwestiwn p’un ai oedd y ddeuawd ddoniol dan sylw yn un ddoniol o gwbl mewn gwirionedd, ond dyma’r union fath o ddeuawd ddoniol sydd wedi diddori’r Ffermwyr Ifanc ers blynyddoedd maith. Mae’r miri sydd wedi codi o ganlyniad i’r ddeuawd hon, a oedd yn dangos dau fach-gen o Sir Gâr yn portreadu pobl Asaidd, wedi bod yn destun dadlau ers iddi gael ei darlledu ar S4C ddiwedd Tachwedd.

Derbyniodd S4C sawl cwyn ar ôl y darllediad ac mae pobl megis Cris Da�is wedi beirniadu S4C a’r Ffermwyr Ifanc yn hallt, a hynny’n agored ar wefan gymdeithasol Twitter. Dy-wedodd ei bod yn ‘braf gweld bod y traddodi-ad o fychanu menywod, hoywon a dysgwyr yn dal yn fyw ac yn iach yn Steddfod y Ffermwyr Ifanc.’ Mae hyn yn codi’r cwestiwn cymhleth o ble mae pennu’r f�in rhwng dychan a hili-aeth. Dywedodd ffrind wrthyf sy’n aelod o’r CFfI, ‘Fel ’na maen nhw bob blwyddyn’, ond a yw hynny’n cy�iawnhau ei fod yn parhau i ddigwydd?

Dywedodd Cadeirydd y Clwb Ffermwyr Ifanc, Gwenno Grif�ith, nad oedd ‘dim malais i’r ei-temau na bwriad i achosi loes’. Mae’n debyg nad oedden nhw’n ceisio sarhau neb, ond a oedd hi’n ddoeth darlledu’r darnau ar S4C pan fyddai rhai pobl yn dadlau na ddylid bod wedi llwyfannu’r ddeuawd o gwbl?

Mae amaethwyr yn rhan o’n diwylliant ni fel Cymry, ac yn gedwaid gwerthoedd traddodi-adol ‘yr hen ffordd Gymreig o fyw’, ond mae’r digwyddiadau diweddar yn galluogi rhai pobl i ailgylchu hen ystrydebau annymunol am gynte�igrwydd cefn gwlad. Camddehongliad llwyr yw hynny wrth gwrs, ond gellid dadlau bod eitemau o’r fath yn porthi’r ystrydebau hynny.

Mae rhai eraill yn amddiffyn y ddeuawd hon drwy ddweud fod rhaglenni megis Little Brit-ain yn gwneud yr un peth. Amddiffynwyd y rhaglenni hyn gan rai a nododd mai dychanu rhagfarnau a wneir, yn hytrach na lledaenu hiliaeth. Ond eto, gan fod y f�in rhwng dychan a hiliaeth mor amwys, nid yw’r ddadl hon bob tro yn dal dŵr.

Trowyd y byrddau yr wythnos ganlynol wrth i Roger Lewis ddefnyddio’r term ‘Taliban’ i gyfeirio at Gymdeithas yr Iaith yn ei erthygl yn y Daily Mail, ac enynnodd ymateb chwyrn gan bob lefel o’r gymdeithas Gymraeg. Tybed felly, o ystyried fod y Cymry’n genedl mor groendenau, a ddylem osgoi pardduo cenhed-loedd eraill, ynteu a yw ein gallu dychanu yn arwydd o berthynas iach â gweddill y byd? Mater o farn ydyw, a mater sy’n debygol o be-gynnu barn y gymdeithas Gymraeg, ac wrth i’r ddadl boethi, pellhau a wna’r pegynnau hyn.

PERFFAITH HEDD I HEFIN

Y FFERMWYR IFANC YNHOLLTI BARNgan Ffraid Gwenllian

gan Aled Morgan Hughes

5

Bu farw John He�in, y cyfarwyddwr drama adnabyddus, yn 71 �is Tachwedd eleni.

Ymunodd John He�in, yn wreiddiol o Daliesin ger Aberystwyth, â’r BBC yn 1961, gan fynd ymlaen i gael gyrfa hir a hynod lwyddiannus yn y sefydliad. Treuliodd gyfnod fel pennaeth drama BBC Cymru a chyfarwyddodd nifer o raglenni a f�ilmiau adnabyddus yn ys-tod ei yrfa, gan gynnwys The Life and Times of Lloyd George, a’r f�ilm gomedi, Grand Slam. Fodd bynnag, mae’n debyg ei fod fwyaf adnabyddus am ei rôl, ar y cyd â Gwenlyn Parri, yng nghreu’r op-era sebon Gymraeg boblogaidd, Pobol y Cwm, a ddarlledwyd gyntaf ym mis Hydref, 1974. Gadawodd John He�in y BBC yn 1996, gan fynd ymlaen i ddysgu drama ym Mhrifysgol Aberystwyth tan ei ymddeoliad yn 2002.

Yn ystod ei yrfa enillodd nifer fawr o anrhydeddau am ei gyfraniad i ddrama teledu, gan dderbyn gwobr Cyfraniad Ar-bennig yn noson wobrwyo BAFTA Cymru �is Hydref eleni, ynghyd â gwobr Cyfrwng ym mis Gorffennaf 2012. Cafodd hefyd yr anrhydedd o dderbyn MBE am ei gy-franiad i fyd f�ilm yng Nghymru, a Gwisg Wen yn yr Orsedd am ei gyfraniad i’r byd teledu.

Rhoddodd Prif Weithredwr S4C, Ian Jones, deyrnged i Mr He�in, gan nodi y byddai ‘bwlch anferthol’ ar ei ôl. Mewn cyfweliad â’r Heriwr, dywedodd Dr Jamie Medhurst, Pennaeth Adran ac Uwch Ddarlithydd As-tudiaethau F�ilm a Theledu ym Mhrifys-gol Aberystwyth:

‘Mae marwolaeth John He�in yn gadael bwlch anferth ym myd y ddrama a’r cy-fryngau yng Nghymru a thu hwnt. Fe

gyfrannodd yn helaeth at ddatblygiad teledu Cymraeg ac at bortread o Gymru y tu hwnt i Glawdd Offa.

Fe go�iwn amdano yn yr Adran, yn ar-bennig am ei ddull dihafal o ysbrydoli myfyrwyr trwy ei ddarlithio hynod afaelgar.

Mae cannoedd o fyfyrwyr wedi elwa o’i adnabod ac yn ein tristwch rydym yn diolch am i ninnau hefyd gael ei gwmni. Estynnwn ein cydymdeimlad llwyr i Elin a’r teulu.’

Page 6: Rhifyn y Gaeaf 2012/13

YR HERIWR Rhifyn y Gaeaf 2012

6

TRAFFERTHION CYFIEITHU’R UNDEB

Yn sgil y newidiadau mewnol sydd wedi digwydd yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberyst-wyth yn ddiweddar, sydd wedi golygu colli nifer o swyddi ac unigolion blaenllaw, mae nifer o drafferthion wedi bod yngh-ylch cynnal a gwella’r ddarpari-aeth o wasanaethau Cymraeg.

Dros yr haf dibynnwyd yn ll-wyr ar unigolion oedd yn cynrychioli’r siaradwyr Cymraeg i gynnal y gwasanaeth cy�ieithu. Yn y cyfarfod cynulliad cyntaf bu’n rhaid i Swyddog yr Iaith

Gymraeg gy�ieithu ar y pryd er mwyn sicrhau y byddai’r cyn-ulliad hwnnw’n ddwyieithog. Trwy wneud hyn, gwanhawyd

llais y myfyrwyr Cymraeg yn y cynulliad hwnnw, gan na allai’r swyddog ei hun gymryd rhan fel pawb arall yn y cyfarfod.

Anfonwyd negeseuon Face-book ac e-byst i gyd yn uniaith Saesneg, heb ymddiheuriad nac ychwaith esboniad am y diffyg yn y gwasanaeth Cymraeg. Yr es-gusodion a geid yn aml yw bod problemau cy�ieithu wedi gol-ygu nad oedd modd cyhoeddi’r datganiadau ar yr un pryd yn y ddwy iaith ac felly fe’u cyhoe-ddwyd yn y Saesneg yn unig.

Ymddengys nad yw’r Gym-raeg yn ddim ond iaith y cy-�ieithir iddi, yn iaith eilradd yn hytrach na bod yn iaith

gwaith ac iaith weinyddol mewn adrannau a chyfarfodydd.

Pam y dylem ni fodloni â’r fath drefn? Onid yw’n ddyletswydd arnom i gyd i geisio Cymreigio’n hundebau trwy sefyll yn yr etho-liadau? Trwy bwyso ar yr Undeb i wneud defnydd mewnol o’r iaith? Mae’r Gymraeg yn iaith i’w defnyddio gan bawb ohonom sy’n dyheu am Gymru wirioneddol Gymraeg a Chymreig. Mae’n rhaid i ni gyd fagu’r hyder i fynnu mai yn y Gymraeg y gweinyddir ein sefydliadau, a bod y Gym-raeg yn ganolog i holl weithgar-wch a gweithdrefnau’n hundeb.

Mae’n druenus ein bod o hyd yn gorfod brwydro i gynnal ein gwasanaethau Cymraeg, yn gor-fod teimlo’n lletchwith yn gofyn am y ffur�len Gymraeg neu i gael siarad â swyddogion yn y Gym-raeg. Pe bai’r Undeb yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog ni fyddai’r problemau hyn yn codi.

Mae’r Undeb yn ddiweddar wedi gosod hysbysiad am swydd gy-�ieithu lawn amser am gyfnod o 6 mis trwy’r prosiect Twf Swyddi Cymru. Amser a ddengys felly a yw’r penodiad newydd hwn yn dangos newid agwedd tuag at y Gymraeg yn yr Undeb.

gan Adam Jones

COLLI ARTHUR ROWLANDSgan Gruffudd Antur

Ar yr ail o Ragfyr, bu farw’r cyn-blismon Arthur Rowlands, dros hanner can mlynedd ar ôl cael ei ddallu gan ddryll a daniwyd gan leidr ar Bont ar Ddy�i. Roedd yn 90 oed.

Yn wreiddiol o fferm Gwernbusaig ger y Bala, roedd Mr Rowlands yn gwnstabl ifanc 39 oed pan ymosodwyd arno gan Robert Boynton ym Ma-chynlleth ar yr ail o Awst, 1961, ond dywedai na ddaliai ddig yn erbyn Boynton er gwaetha’r ffaith iddo fynd trwy’r rhan fwyaf o’i fywyd yn ddall. Dedfrydwyd Boynton i 30 mlynedd o gaethiwed yn ysbyty meddwl Broadmoor, a bu yno tan ei far-wolaeth ym 1994.

Ar ôl colli ei olwg, aeth Mr Rowlands ymlaen i hyfforddi fel teleffonydd, gan sefydlu Cymdeithas Cŵn Tywys Gwynedd, a bu’n llysgennad triw dros achosion sy’n codi ymwybyddiaeth o ddallineb hyd ddiwedd ei oes. Fe’i derbyniwyd i Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Machynlleth 1981, ugain mlynedd ar ôl y noson dyngedfennol honno yn yr

union dref, a derbyniodd radd M.A. gan Brifysgol Cymru y �lwyddyn ganlynol. Cyhoeddwyd hanes bywyd Mr Rowlands yn y gyfrol “Mae’r dall yn gweld” gan Enid Wyn Baines ym 1983.

Symudodd Mr Rowlands o Feirionnydd i Gaer-narfon yn dilyn y ddamwain, ac yno y bu fyw hyd ei farwolaeth. Roedd yn frawd i Lisa Erfyl, gwraig y diweddar ddarlledwr Gwyn Erfyl, a bydd colled fawr ar ôl cymeriad a ymatebodd mor wydn i ddig-wyddiad a newidiodd ei fywyd am byth.

CYFRANNWCH AT YR HERIWR

Er mwyn i’r fenter hon fod yn llwyddiant, ry-

dym yn ddibynnol ar noddwyr a chyfraniadau

gan ein darllenwyr. I gyfrannu at ddyfodol Yr

Heriwr,

E-bostiwch [email protected]

Mor hawdd yng Nghymru heddi - troi at air y Times, Guardian, Indy ... diolch fod rhai heb dewi â chalon i’n herio ni. Eurig Salisbury

YR HERIWRMor hawdd yng Nghymru heddi - troi at air y Times, Guardian, Indy ... diolch fod rhai heb dewi â chalon i’n herio ni. Eurig Salisbury

YR HERIWR

Page 7: Rhifyn y Gaeaf 2012/13

SEFYDLWYD 2012Rhifyn y Gaeaf 2012

Y SGRÎN FAWR YN DOD I ABERYSTWYTH

Bydd Aberystwyth yn fwrlwm o weithgarwch yn yr wythnosau nesaf gyda chriwiau f�ilmio ac actorion yn defnyddio rhannau helaeth o’r dref a lleoliadau cyfagos er mwyn f�ilmio’r gyfres dditectif newydd Mathias gan y cwmni cynhyrchu Fiction Factory.

Richard Harrington fydd yn chwarae rhan DCI Tom Mathias, a bydd y gyfres yn cael ei darlledu ar S4C yn nhymor yr hydref, 2013. Mae’r gyfres yn brosiect newydd ar y cyd â BBC Cymru, a bydd he-fyd yn cael ei f�ilmio yn Saesneg i’w dan-gos y �lwyddyn ganlynol.

Bydd y gwaith f�ilmio yn dechrau yn y Borth ac Ynys Las ac yna’n symud i ben-tre�i Pontarfynach, Cwmsymlog, Blaenpl-wyf ac i Blas Gogerddan yn yr wythnosau nesaf.

Dywedodd Gwawr Martha Lloyd, Comisi-ynydd Drama S4C, sy’n wreiddiol o Aber-ystwyth,

“Mae’r bobl leol yn siŵr o sylwi ar gri-wiau camera yn f�ilmio yn eu harda-loedd. Gyda thref Aberystwyth yn ganolbwynt i’r gweithgareddau, bydd y criwiau hefyd yn gweithio allan yn y wlad ac yn y cymunedau cyfagos ar gy-fer f�ilmio’r pedair stori dditectif sy’n ffur�io’r gyfres.

‘Rydym eisiau i’r cynhyrchiad roi cy�le i wylwyr bro�i naws arbennig yr ardal hon – y golygfeydd a phobl Ceredigion.

‘Yn ystod y cyfnod cyntaf o f�ilmio, rh-wng y 12fed o Dachwedd a’r 21ain o Ragfyr, bydd canolbwynt y stori ym mhentref Pontarfynach a thref glan môr Y Borth, ble bydd darganfyddiad erchyll yn dod â hen gyfrinachau i’r wyneb ac yn cy�lwyno dirgelwch iasol i DCI Mathias ei ddatrys.’

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o’r cynhyrchiad fel ecstra, byddai Fiction Factory ac S4C yn falch o glywed gennych.

ADOLYGIAD ‘Y STORM’ – THEATR GENEDLAETHOL CYMRU

gan Adam Jones

gan Mared Llywelyn

7

COLLI ARTHUR ROWLANDS

Os oes gennych chi ddiddordeb gyfrannu adolygiad neu erthygl ar y celfyddydau yng Nghymru, cy-sylltwch â’r Heriwr trwy e-bostio:

[email protected]

Ers i Arwel Gruffydd gymryd yr awenau fel Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, mae’n rhaid ei fod yn teimlo dan bwysau i blesio a herio cynulleidfaoedd Cym-ru a thu hwnt (mae’r ddrama yn rhan o World Shakespeare Theatre 2012). Mae’r cy�ieith-iad newydd hwn gan Gwyneth Lewis yn ffres ac yn hawdd i’w ddeall, er bod y mydr barddonol yn �lodeuog iawn ar adegau.

Gallaf ddweud yn hollol hyderus nad wyf erioed wedi gweld cyn-hyrchiad o’r fath yn yr iaith Gym-raeg, ac mae’r cwmni i’w ganmol yn fawr am hynny. Roedd hi’n amlwg fod gan y gyfarwyddwraig, Elen Bowman, weledigaeth glir a bwriad o wneud cynhyrchi-ad a oedd yn gwthio’r f�iniau.

Perfformiwyd y cynhyrchiad yn nyfnderoedd y coed ar stâd y Fae-nol, Bangor, a hithau’n storm go iawn y tu allan. Roedd yr awyr-gylch yn cael ei sefydlu’n syth yn y babell syrcas, gydag elfennau

o’r byd syrcas yn treiddio trwy’r holl ddrama. Llion Williams oedd Prospero - meistr y cylch oedd yn defnyddio ei wialen hudolus fel chwip, ac yn cadw llygad wyliad-wrus ar yr ynys. Rhoddodd berf-formiad arbennig ac roedd yn actio gyda phob cyhyr yn ei gorff. Llwyddodd i grisialu perthynas meistr a gwas yn ei berthynas gydag Ariel, ysbryd yr elfennau.

‘Deunydd breuddwydion ydym, ynys fach yw’n bywyd mewn môr o gwsg.’ - Prospero

Byddai ‘naws’ yn un o’r prif eiriau a ddefnyddiwn i ddisgri�io’r ddrama - roedd yn berfformiad gweledol a chorfforol iawn gyda defnydd arbennig o sain a gole-uadau. Mewn eiliad, byddai’r aw-yrgylch yn newid yn llwyr yno, o dechnegau goleuo cymhleth i ddim ond tywod ar y llawr a’r cymeriadau mewn dryswch llwyr.Mae’n biti nad oedd y ddrama yn medru gwneud taith o amgylch mwy o leoliadau, ond roedd y set yn eu cyfyngu rhag gwneud hyn.

Buaswn yn argymell y ddrama i bob oed, ac mae’n fy ngwneud yn hynod falch fod cynyrchiadau mor safonol yn cael eu perffor-mio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Page 8: Rhifyn y Gaeaf 2012/13

YR HERIWR Rhifyn y Gaeaf 2012

Cwestiwn syml i ddechrau: pryd ddechreuoch chi dynnu lluniau?

Mi wnes i ddechrau tynnu lluniau pan o’n i yn yr ysgol ’nôl yn y saithdegau, ac wedyn dechrau datblygu lluniau fy hu-nan, sef f�ilmiau du a gwyn, pan es i i’r coleg yn Exeter yn ’76. Felly ’78 ish wnes i ddechrau tynnu lluniau o ddifrif.

Ai rhywbeth chi’n ei ddysgu yw e neu ai dawn yw ffotograf�iaeth?

Does dim hyd yn oed diwrnod o hyfforddiant gen i fel ffo-tograffydd. Mae fy ngradd gynta’ i mewn Economeg a Dae-arydidaeth ac mae gen i radd feistr mewn cynllunio trefol. Felly dwi ddim wedi cael fy hyfforddi i fod yn ffotograffydd o gwbl. Mi wnes i Gelf Lefel A, felly dyna’r cysylltiad agosaf sydd ‘da �i ag addysg ffur�iol fel artist. Dwi’n meddwl mai chydig o ddawn, lot fawr o bro�iad yw e, a dyfalbarhad. Mae’n haws y ddyddiau yma, achos hefo’r chwyldro digidol, dyw e ddim yn costio unrhyw beth i dynnu llw-yth o luniau gwahanol ac arbro�i gyda beth chi’n ’wneud a sut chi’n ’wneud e. Chi’n gallu cymryd y risg o bethau yn mynd yn rong, heb boeni am golli arian wrth ’wneud e. Does dim esgus i beidio nawr, jyst trio pethau mas.

“Mae’n well gen i dynnu lluniau o bobl gyffredin ...”

Ble yw’r pella’ rydych chi wedi bod i dynnu lluniau a pham?

San Fransisco. Nôl yng nghanol yr ‘80au. Roeddwn ni’n treulio hanner fy amser fan hyn, a’r hanner arall draw yn America. Mi ges i grant gan y Cyngor Celfyddydau i wneud set o luniau o Gymry alltud, Cymry oedd wedi symud draw i America i fyw. Roedd gen i ddiddordeb yn y contrast o fyw mewn gwlad leiafrifol fel Cymru a sy-mud i un o’r gwledydd mwyaf pwerus yn y byd a sut mae hwnna yn effeithio ac yn dylanwadu ar eich hunaniaeth Gymraeg. Ydy hunaniaeth yn gallu bodoli yn y math yna o

gyd-destun? A’r ateb, ydi, mewn ffurf od. Felly San Fran-sisco ydy’r pella es i i dynnu lluniau ond mae 99.9% o ’ngwaith i nawr yma yng Nghymru a 90% o ’ngwaith i yn Aberystwyth neu o fewn pellter cerdded. Felly dwi ddim bellach yn teithio. Dwi heb fynd dramor nawr ers 1987.

Ydy amser hamdden a busnes yn gorgyffwrdd felly?

Ydy achos dyma be’ ’wi’n ’wneud. Dwi ddim yn gwneud hyn o 9 tan 5 ac wedyn yn gwneud rhywbeth gwa-hanol gyda’r hwyr neu gyda’r penwythnos. Dyma beth ydw i - dwi’n ffotograffydd. Felly mae’r cysyniad o fynd ar wyliau yn un hollol estron, yn hollol am-herthnasol i mi. Beth fyswn i’n ’wneud ar wyliau?!

Cwestiwn reit agored sydd nesa’: o ble mae’r ysbry-diolaeth yn dod?

Mae ysbrydoliaeth yn dod o nifer wahanol lefydd. Dwi’n gweld rhywbeth mewn cylchgrawn, rwy’n gweld llun gan rywun arall, neu’n gweld unrhyw beth. Mae yna ni-fer o bobl sy’n aros am ysbrydoliaeth cyn gwneud un-rhyw beth, ac i �i dyw hwnna ddim yn gweithio, dwi jyst yn gorfod mynd mas a gwneud pethau a thrwy wneud, chi’n cael eich ysbrydoli. Tasen i’n aros am yr ysbrydoliaeth bydden i’n eistedd yma’n gwneud dim byd trwy’r dydd. Dwi’n mynd mas gyda’r camera, heb unrhyw fath o syniad be’ dwi’n mynd i’w wneud … mae pethau yn taro �i, mae rhywbeth yn digwydd mewn se-fyllfa gymdeithasol, mae lliwiau a phatrymau i’w gweld. Os chi’n mynd i rywle a gweld dim byd, mae rhywbeth yn bod gyda’ch llygaid chi. Mae wastad rywbeth i weld.

Ydych chi wedi ennill gwobrau am eich gwaith?

Bygyr ôl! Enilles i wobr mewn arddangosfa yn Photogal-lery yng Nghaerdydd ’nôl yn 1989 – enilles i tripod, a dyna’r unig wobr i �i ei hennill erioed yn fy mywyd. Y peth yw, dwi ddim yn cystadlu am wobrau. Dwi ddim yn rhoi fy lluniau i mewn i gystadlaethau. Yr unig gystadleuaeth

dwi’n rhoi lluniau i mewn iddi ydi’r Eisteddfod, i’r arddan-gosfa celf a chrefft. Ond fel arfer, maen nhw’n cael eu gwr-thod. Na, dwi ddim yn un sy’n mynd am gystadleuaethau neu wobrau fel y cyfryw. Ers cael y grant i fynd i America yn ’86 dwi heb wneud cynnig am grant hyd yn oed. Dwi’n gwneud popeth ar fy liwt fy hun. Mae’r gwaith personol yn cael ei ariannu gan y gwaith masnachol. Dwi’n hollol hunangynhaliol o ran arian - dwi ddim wedi dibynnu ar unrhyw un i wneud unrhyw beth erioed. Dwi’n licio’r ffaith nad ydw i’n dibynnu ar unrhyw nawdd gan unrhyw sefydliad cyhoeddus i wneud beth dwi’n ’wneud, sy’n golygu ’mod i’n gallu gweithio heb orfod bod yn atebol i unrhyw gorff ariannol. Mae hwnna’n rhoi mwy o ryddid i �i wneud beth �i moyn yn hytrach na gorfod cydymffur-�io gyda rhyw fath o amodau, rheolau neu gyfundrefn.

Beth oedd yr ysgogiad i ddechrau tynnu lluniau?

Cwestiwn mawr. Pan oeddwn i yn y Coleg, Prifysgol Ex-eter rhwng ’76 a ’79, doeddwn i ddim yn fy ngweld i fel ffotograffydd, dim ond yn ddyn gyda camera yn tynnu llu-niau. Ar y pryd roeddwn i hefyd yn ymwneud â gwaith theatr, ac yn gweithio ar yr ochr dechnegol yn y theatr, yn cynllunio goleuadau i gynhyrchiadau amatur a phrof-fesiynol. Roeddwn i hefyd yn aelod o Gwmni Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ac yn aelod sylfaen o’r cwmni. Roeddwn i yno o ’76 tan ’79 yn gwneud y go-leuo ac roedd nifer o’m ffrindiau i’n rhoi sioe ymlaen yn Eisteddfod Machynlleth yn ’81. ‘Ffrwyth y Pen’ oedd enw’r sioe, ac mi wnaethon nhw ofyn i �i dynnu lluniau o’r sioe, a thalu £70, neu beth bynnag, am dynnu’r lluniau. Briliant. Dwi’n cael fy nhalu am wneud rhywbeth dwi’n mwynhau ei wneud. Daeth golau ymlaen yn fy mhen.

Roedd modd ennill arian am wneud rhywbeth roeddwn i’n hof�i’i wneud. Roedd yn drobwynt mawr yn fy mywyd i - y syniad o fod yn ffotograffydd am y tro cyntaf erioed.

Wedyn, yn ’82 agorwyd Canolfan y Sgubor yn Aberyst-wyth, lle mae’r ganolfan waith a Domino’s pizza nawr. Roedd yn arfer bod yn ffowndri haearn a dur, ac ar ôl i’r

KEITH MORRIS - LLYGAD Y CAMERAEdrych trwy’r lens ar un o ffotograffwyr mwyaf adnabyddus Cymru.

8

Page 9: Rhifyn y Gaeaf 2012/13

SEFYDLWYD 2012Rhifyn y Gaeaf 2012

gyd-destun? A’r ateb, ydi, mewn ffurf od. Felly San Fran-sisco ydy’r pella es i i dynnu lluniau ond mae 99.9% o ’ngwaith i nawr yma yng Nghymru a 90% o ’ngwaith i yn Aberystwyth neu o fewn pellter cerdded. Felly dwi ddim bellach yn teithio. Dwi heb fynd dramor nawr ers 1987.

Ydy amser hamdden a busnes yn gorgyffwrdd felly?

Ydy achos dyma be’ ’wi’n ’wneud. Dwi ddim yn gwneud hyn o 9 tan 5 ac wedyn yn gwneud rhywbeth gwa-hanol gyda’r hwyr neu gyda’r penwythnos. Dyma beth ydw i - dwi’n ffotograffydd. Felly mae’r cysyniad o fynd ar wyliau yn un hollol estron, yn hollol am-herthnasol i mi. Beth fyswn i’n ’wneud ar wyliau?!

Cwestiwn reit agored sydd nesa’: o ble mae’r ysbry-diolaeth yn dod?

Mae ysbrydoliaeth yn dod o nifer wahanol lefydd. Dwi’n gweld rhywbeth mewn cylchgrawn, rwy’n gweld llun gan rywun arall, neu’n gweld unrhyw beth. Mae yna ni-fer o bobl sy’n aros am ysbrydoliaeth cyn gwneud un-rhyw beth, ac i �i dyw hwnna ddim yn gweithio, dwi jyst yn gorfod mynd mas a gwneud pethau a thrwy wneud, chi’n cael eich ysbrydoli. Tasen i’n aros am yr ysbrydoliaeth bydden i’n eistedd yma’n gwneud dim byd trwy’r dydd. Dwi’n mynd mas gyda’r camera, heb unrhyw fath o syniad be’ dwi’n mynd i’w wneud … mae pethau yn taro �i, mae rhywbeth yn digwydd mewn se-fyllfa gymdeithasol, mae lliwiau a phatrymau i’w gweld. Os chi’n mynd i rywle a gweld dim byd, mae rhywbeth yn bod gyda’ch llygaid chi. Mae wastad rywbeth i weld.

Ydych chi wedi ennill gwobrau am eich gwaith?

Bygyr ôl! Enilles i wobr mewn arddangosfa yn Photogal-lery yng Nghaerdydd ’nôl yn 1989 – enilles i tripod, a dyna’r unig wobr i �i ei hennill erioed yn fy mywyd. Y peth yw, dwi ddim yn cystadlu am wobrau. Dwi ddim yn rhoi fy lluniau i mewn i gystadlaethau. Yr unig gystadleuaeth

ffowndri gau yn y 30au symudodd y Brifysgol i mewn a sefydlu nifer o adrannau’r Brifysgol yno. Yr Adran Ddra-ma oedd yr olaf i symud o’r adeilad (i Theatr y Castell yn ’82) ac mi wnaeth nifer o gyn-fyfyrwyr yr adran ddrama, a oedd newydd raddio yn ’81/’82, ofyn i’r cyngor am ganiatâd i aros yno dros-dro i ymarfer eu cynyrchia-dau. Y syniad oedd i gael criw o artistiaid i mewn i rannu’r adeilad am chwe mis i wneud rhywbeth creadigol ohono fe. Trodd y chwe mis yn ddeng mlynedd.

Dyna oedd lwc i fod yn y lle cywir ar yr amser cywir a gweld rhyw hysbyseb yn rhywle yn gwahodd pobl i’r Sgu-bor i greu canolfan greadigol gymunedol yn Aberystwyth. Roeddwn i’n 23 neu’n 24… ifanc beth bynnag, dim teulu, dim morgais, byw ar ffa pob ac awyr iach.

Damwain. Damwain bur oedd e. Roeddwn i wedi bwriadu gwneud doethuriaeth - es i lan i Leeds, i ddechrau doethu-riaeth mewn Polisi Tai Awdurdod Parc Cenedlaethol De Sir Efrog neu rywbeth.

Ble mae’r f�in o ran preifatrwydd a’r rhyddid i dynnu lluniau?

Mae rhyddid i dynnu lluniau mewn mannau cyhoeddus yn hollbwysig, ac yn rhywbeth rydym yn gorfod ei amd-diffyn. Yn feunyddiol rydw i’n cael fy nhargedu, fel wyth-nos diwethaf, gan y bobl oedd yn gosod tarmac ar y stryd. Os ydych chi ar y stryd, does dim hawl gyda chi i fynnu preifatrwydd, ond os y’ch chi mewn lle preifat neu le gyda gardd gefn gyda ffens o’ch cwmpas chi, fyddwn i ddim yn rhoi camera uwchben y ffens a thynnu llun. Dwi ddim yn un o’r bobl yma sy’n trial twyllo pobl.

Mae pobl yn meddwl bod amodau gwahanol yn perthyn i blant ond nagoes, does dim o gwbl. Mae’n ddoeth i bei-dio tynnu lluniau o blant oherwydd mae ymateb pobl yn gallu bod yn eithaf negyddol a dweud y lleia’. Mae pobl yn ddigon hapus i gael tynnu eu lluniau. Mae rhai sydd ddim mor hapus ac mae’n rhaid derbyn hynny. Mae natur y gwrthwynebiad yna yn gallu amrywio. Weithiau rydw i yn cael fy mygwth, ond �i sydd wedi gwneud y dewis i weithio fel ffotograffydd stryd, rhaid i �i dderbyn y math yna o ymateb.

Beth yw dy hoff lun di?

Ma ’na ateb dwi wastad yn ei roi i’r cwestiwn yma. Fy hoff lun i yw’r un dwi’n mynd i’w dynnu’r prynhawn ’ma neu yfory, achos os ydw i’n meddwl bod gen i y llun gorau, beth yw’r pwynt cario mlaen? Fy hoff lun i heddiw yw’r llun y bydda’ i’n ei dynnu nes ’mlaen. Llun arall fydd fy hoff lun yfory.

A hoffech chi dynnu llun o rywbeth neu rywun yn ar-bennig?

Y peth yr hoffwn i ei weld, ddim jyst cymryd llun ohono, yw’r Northern Lights, yr Aurora Borealis. Bydden i’n dwli ar weld y rheini. Weithiau mae’n bwysicach i bro�i rhy-wbeth yn hytrach na gorfod cofnodi rhywbeth, ond dyna beth yw pro�iad personol wedyn. ’Sdim rhaid i hyd yn oed ffotograffwyr rannu popeth - mae yna rai pethau chi moyn cadw i’ch hunan. Fi’n co�io ’nôl ar ddechrau’r 80au roedd storom drydan anferth yn Aberystwyth, ac aeth ymlaen am oriau. Es i lan at y castell a doedd dim glaw. Wnes i ddim ceisio tynnu lluniau; dim ond sefyll yna. Mae’r at-gof gen i yn fy mhen yn gliriach ac yn gryfach oherwydd hynny. Roedd e’n rhywbeth mor fawr roedd e’n amhosib i ddod â fe lawr i ffotograff.

Os nad oes chwilfrydedd gyda chi a’r angen i gyfathrebu am rywun neu am sefyllfa, mae eich lluniau yn mynd i fod yn ddi�las iawn.

‘Your �irst 10,000 photographs are your worst,’ Henri Cartier-Bresson. Ydych chi’n cytuno?

Mwy na thebyg. Mae rhaid i chi rhoi’r amser i mewn. Dwi’n cytuno mai’r deng mil cyntaf yw’r rhai gwaethaf – mae’r deng mil nesaf yn wael, gan obeithio y bydd y deng mil nesaf yn well. Ond ar ôl dweud hynny, mae ystyr a neges llun a’i bwysigrwydd yn esblygu dros amser, a’r hyn a ddechreuodd fel snapshot o ryw ffrind ar y stryd yn troi’n gofnod hanesyddol o bensaernïaeth neu rywbeth.

Pa gyngor sydd gennych i rywun sydd am fod yn ffo-tograffydd?

Mae yna gymaint o bobl sydd eisiau bod yn ffotograffwyr. Gall pawb sydd gyda camera ddweud eu bod nhw’n ffoto-graffwyr, yn enwedig gyda datblygiad gwefannau fel Twit-ter. Mae’r sbectrwm o bobl sy’n galw eu hunain yn ffo-tograffrwyr wedi lledaenu. Mae yna ryw fath o dilemma, ac mae’r siawns i unrhyw un sy’n dechrau tynnu lluniau nawr i wneud bywiolaeth yn isel iawn. Ond dwi’n cynnig cymorth i unrhyw un.

“Mae wastad rywbeth i’w weld ...”

Er mwyn cysylltu â Keith neu gael cipolwg ar rai o’i luniau eraill ...

@keithmorrisaberwww.facebook.com/[email protected]

gan Jacob Dafydd Ellis

9

Page 10: Rhifyn y Gaeaf 2012/13

YR HERIWR Rhifyn y Gaeaf 2012

10

CIP AR Y CYMDEITHASAU

Tymor llawn oedd hwn i UMCA, gyda holl weithgareddau Wythnos y Glas, 2 Sŵn (noson Gymraeg yr Undeb), torri i mewn i Dregaron, ac wrth gwrs, y Ddawns Ryng-golegol. Hefyd y tymor hwn, etholwyd Robin Williams fel cynrychiolydd y �lwyddyn gyntaf ar bwyllgor UMCA.

Yn ogystal â threfnu digwyddiadau cymdeithasol, mae UMCA hefyd yn trefnu dos-barthiadau Cymraeg i ddysgwyr. Cynhelir y rhain bob nos Iau, ac yn ôl y dysgwyr sy’n eu mynychu, maent yn fuddiol iawn ac yn llawer o hwyl hefyd. Os hoffech fwy o wybodaeth am y rhain cysylltwch ag [email protected].

Roedd y ddawns Ryng-golegol yn llwyddiant ysgubol eleni gyda Phrifysgolion Bangor, Caerdydd, Caerfyrddin, Llanbed, Abertawe a Lerpwl yn dod ynghyd yn Ab-erystwyth i joio mas draw yn yr Undeb am noson o ddiddanwch pur. Dechreuodd y diwrnod yn eithaf segur i fyfyrwyr Aber, gan godi gyda chur pen ar ôl y noson gynt i fynd i wylio’r GymGym o Brifysgol Caerdydd yn curo bechgyn y Geltaidd mewn gêm rygbi, yna mynd i wylio’r gêm rygbi rhwng Cymru a’r Ariannin. Yna, roedd yn bryd ei throi hi am yr Undeb, lle cawsom ein diddanu gan Team Panda - deuawd acwstig newydd ar y Sîn Roc Gymraeg - Catrin Herbert, Sŵnami, Hud a’r dyn ei hun, Meic Stevens. Roedd cymysgedd dda o artistiaid, a rhywbeth at ddant pawb. Llongyfar-chiadau mawr i Carys am drefnu penwythnos mor llwyddiannus!

Bydd Sŵn olaf y �lwyddyn ar y 13eg o Ragfyr a’r thema yw gwisgo’n grand ar gyfer y Nadolig. Dewch yn llu i fwynhau gyda ni!

UMCA

Cymdeithas Gymraeg Ail Iaith Newydd!Yn ddiweddar sefydlwyd Cymdeithas Gymraeg Ail Iaith sy’n cynnig cy�le i gymde-ithasu yn Gymraeg a dod i adnabod eraill sy’n awyddus i ddysgu. Maent yn eiddgar i gael mwy o aelodau ac eisiau ysgogi myfyrwyr ail iaith i ddefnyddio eu Cymraeg mewn naws hwyliog a chyfeillgar gyda dysgwyr eraill. Os hoffech ymuno â’r gym-deithas, sy’n cwrdd i glebran bob wythnos, cysylltwch â’i llywydd, Hannah Roberts ([email protected]) neu tarwch olwg ar y dudalen Facebook. Bachwch ar y cy�le i gymdeithasu a dod yn fwy hyderus yn y Gymraeg!

Ers dechrau’r �lwyddyn, mae’r côr cymysg, y côr merched a’r côr bechgyn wedi ta�lu eu hunain i mewn i ymarferion. Mae’r côr cymysg wedi bod yn ymarfer pedair cân i’w perfformio yn eu clyweliad ar gyfer cystadleuaeth Côr Cymru. Mae Eilir, yr arweinydd, wedi gwneud gwyrthiau gan droi’r criw afreolus i fod yn gôr swynol, oni bai am y mwncïod sy’n ymddangos yn ystod y gân ‘Yn y Jwngwl’! Mae gan Catrin ddigon ar ei phlât yn arwain y côr bechgyn ar nosweithiau Mawrth. Maent wrthi ar hyn o bryd yn ymarfer ar gyfer y Cyngerdd Nadolig ac yn cael hwyl wrth wneud hynny. Yr un peth sy’n wir am y côr merched hefyd. Maent yn ymarfer bob nos Iau ac yn mwynhau dan arweiniad Martin. Dewch yn llu i’r Cyngerdd Nadolig yng nghapel y Morfa ar y 9fed o Ragfyr!

Aelwyd Pantycelyn

Y GeltaiddMae gan y Geltaidd newyddion arbennig! Mae tîm pêl-droed y merched wedi ei atgyfodi o dan gapteiniaeth Llio Hafal a’r is-gapten, Alaw Gwyn, a chynhelir yr ymarferion ar nosweithiau Llun. Mae’r capteiniaid yn awyddus iawn i gael mwy o aelodau felly os oes gennych ddiddordeb, tarwch olwg ar eu tudalen Facebook. Mae’r un peth yn wir os hoffech fod yn aelod o dimoedd eraill y Geltaidd, boed yn rygbi, yn bêl-rwyd neu’n hoci i’r merched, neu’n bêl-droed neu rygbi i’r dynion. Ond wrth gwrs, nid ymarfer yn unig a wna’r timoedd hyn - mae llawer o gy�leoedd i gymdeithasu a mwynhau yn y tafarndai wedyn! Felly os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o dîm sy’n hof�i cymdeithasu yn ogystal ag ymarfer, timoedd y Geltaidd yw’r timoedd i chi!

Bydd Ciniawau Nadolig y Geltaidd ar y 13eg o Ragfyr a byddant yn gy�le i ddathlu’r Nadolig gyda’n gilydd cyn diwedd y tymor.

Cynigia Pwyllgor y Geltaidd daith fythgo�iadwy i’w haelodau hefyd - taith i Baris yn ystod penwythnos Cymru v Ffrainc ym mhencampwriaeth y chwe gwlad (7fed -10fed o Chwefror). Cost y daith yw £145 sy’n cynnwys siwrnai bws, llong a llety am 2 noson. Os hoffech fynd ar y daith, rhaid bod yn aelod o’r Geltaidd, a chysyllt-wch â’r Geltaidd trwy yrru e-bost i [email protected] cyn y 15fed o Ragfyr.

Cymdeithas yw hon sy’n codi ymwybyddiaeth am anghy�iawnderau yn y byd. Maent yn cwrdd bob pythefnos ar nosweithiau Mawrth am 6 o’r gloch. Un o’r hawliau dynol maent eisiau codi ymwybyddiaeth amdanynt ar hyn o bryd yw hawl pawb yn y byd i addysg. Dyma ddetholiad o erthygl gan William Hannall yn gwneud hynny;

‘Mae gan bawb yr hawl i gael addysg’. Ond eto nid oes gan 100 miliwn o bobl fynedi-ad at addysg. I lawer, dydy addysg ddim ar gael am amryw o resymau. Mae cymorth ariannol ar gyfer addysg yn brin mewn sawl gwlad; nid oes adnoddau, cymorth na gallu i weithredu’r hawl. Caiff gwasanaethau cymdeithasol fel addysg hi’n anodd tu hwnt i gy�lawni’r addewid mewn mannau sy’n llawn gwrthdaro, neu sy’n dioddef o argyfyngau mawr.

‘Nid yw addysg, fel cymaint o hawliau dynol, ar gael i �iliynau bobl ledled y byd, a’r diffyg addysg hwn sy’n rhwystro gwledydd rhag rhyddhau eu hunain o effeithiau tlodi a datblygiad cyfyngedig. Yn y wlad hon, rydym yn tueddu i gymryd addysg yn ganiataol, gan ei bod yn rhad ac am ddim hyd at lefel prifysgol, a hyd yn oed wedyn mae cymorth ariannol i’w gael i dalu am hyn. Mae’n rhywbeth sylfaenol i ni, ond eto, mewn llawer gwlad arall, nid yw’r un peth yn realiti.’

Amnesti RhyngwladolCymdeithas yr Iaith

Cyfarfu Cymdeithas Taliesin yn y Scholars ar nos Fawrth y 27ain o Dachwedd am noson yng nghwmni Eurig Salisbury a Hywel Grif�iths. Trafododd Eurig a Hywel eu hoff gerddi gan eu hoff feirdd, o Guto’r Glyn yn y 15fed ganrif hyd at feirdd heddiw, cyn darllen ychydig o’u cerddi eu hunain gan gynnig cyd-destun i’w gwaith. Gob-eithir cynnal rhagor o nosweithiau tebyg yn yr ail dymor, ynghyd â chlwb darllen, felly cymerwch olwg ar y dudalen Facebook am ragor o wybodaeth.

Cyfarfu Cymdeithas Taliesin yn y Scholars ar nos Fawrth y 27ain o Dachwedd am noson yng nghwmni Eurig Salisbury a Hywel Grif�iths. Trafododd Eurig a Hywel eu hoff gerddi gan eu hoff feirdd, o Guto’r Glyn yn y 15fed ganrif hyd at feirdd heddiw, cyn darllen ychydig o’u cerddi eu hunain gan gynnig cyd-destun i’w gwaith. Gob-eithir cynnal rhagor o nosweithiau tebyg yn yr ail dymor, ynghyd â chlwb darllen, felly cymerwch olwg ar y dudalen Facebook am ragor o wybodaeth.

Cymdeithas Taliesin

gan Bethan Walkling

Mae Cell Cymdeithas yr Iaith Pantycelyn wedi ailffur�io y tymor hwn. Mae’r gell yn cwrdd bob nos Sul am 8yh er mwyn trafod a gweithredu er lles y Gymraeg yn Aber o weithredu uniongyrchol i drefnu ambell gig leol. Mae croeso i bawb ymuno â’r gell er mwyn sicrhau bod gan y Gymraeg le blaenllaw ym mywydau myfyrwyr a thrigolion Aberystwyth.

Page 11: Rhifyn y Gaeaf 2012/13

SEFYDLWYD 2012Rhifyn y Gaeaf 2012

Hawdd Anodd

sgymraegy brifysgol

11

Canolig

Ar Draws

1. Chwiorydd eich rhieni. (8)6. Albwm gan Siân James. (3)7. Math o gynghanedd. (4)8. Echdoe, doe, heddiw, yfory ... (7)9. Rhaglen chwaraeon ar S4C. (6)11. Y lleiaf o ddau unfath? (5)13. Mae’n rhaid wrth y rhain i ddringo ym myd addysg. (8)14. Tîm pêl-droed yn Aberystwyth: ___/___ Kenobi Nil (3,3)16. Y gwrthwyneb i dorsythu. (5)18. Rhennir 13 ar draws i mewn i’r rhain. (4)20. Cyfrif gyda Bryn. (6)21. A yw James Hook yn un o’r rhain? (5)

I Lawr

1. Llyfr newydd Mari Gwilym: ___ Mari (12)2. Awdur yr erthygl am y “Welsh Taliban”: ___ Lewis (5)3. Trigolion cynhenid. (9)4. Cylchgrawn answyddogol myfyrwyr Prifys-gol Bangor: Y ___ (7)5. Crefftwr esgidiau. (4)6. Pont y Diafol? Nage: ___ (11)10. Cân gan Maf�ia Mr Huws: “Ffordd ___ drwy’r coed. “(5)12. “Llaw Fair dros bob ___” (I.G.) (7)15. Un o swyddi 12 i lawr. (4)16. Un o offer 12 i lawr. (4)17. Yr uwchdonydd. (2)19. Hanner fferen? (2)

I ddod o hyd i atebion y croesair,ewch i’n gwefan:

www.yrheriwr.org

Cefnogwyr Carlos Cab - 07791138310

Wyddwn i erioed fod defnyddio lifft yn beth mor beryglus.

Posau!

Page 12: Rhifyn y Gaeaf 2012/13

YR HERIWR Rhifyn y Gaeaf 2012

12

‘MAE ’NA DAFARN YN Y NEFOEDD, MEDDAN NHW ...’Dyma ni’n agosáu at ddiwedd ein ty-mor cyntaf yn ôl ym Mhrifysgol Aber-ystwyth, ac rydw i’n siŵr y byddwch chi’n cytuno â mi pan ddywedaf ei fod wedi hedfan! Dechreuodd y ty-mor gyda phawb yn dweud, ar ddi-wedd Wythnos y Glas, na fydden nhw fyth eisiau yfed eto, ond buan iawn y torrwyd yr addewid hwnnw! Rhwng y ddau Sŵn, Calan Gaeaf a chrôls niferus, mae wedi bod yn dymor llawn o wisgo i fyny ac mae’n rhaid dweud fod gwisgoedd pawb wedi cyrraedd safon uchel iawn!

Roedd digwyddiadau Wythnos y Glas a gynhaliwyd gan UMCA yn hyn-od boblogaidd eto eleni, ac er bod un, neu ddau, neu ganran helaeth o fyfyrwyr Pantycelyn wedi mynd dros ben llestri, cafodd pawb dipyn o laff ar y cyfan! Dechreuodd yr wythnos

gyda Pharti Pwnsh yn Lolfa Pantyce-lyn a oedd yn gy�le gwych i ddod i adnabod y glas-fyfyrwyr newydd, ac erbyn nos Sadwrn, gyda’r rhan fwyaf o’r myfyrwyr wedi cyrraedd y Brifysgol, cychwynnwyd y tymor yn swyddogol gyda’r Crôl Croesawu.

Diolch byth, cafodd y ddwy noson fwyaf rhemp, sef y Crôl Teulu a’r Crôl Teircoes, eu cynnal ar nosweith-iau gweddol bell oddi wrth ei gi-lydd, gyda nosweithiau mymryn yn dawelach fel Canu yn y Cŵps, yr Ei-steddfod Dafarn a’r Carioci yn y Llew wedi eu gwasgaru’n grefftus rhyngd-dynt. Bu’r Crôl Teircoes yn llwyddiant eleni eto, ac er bod y rhan fwyaf wedi datod y rhaff cyn cyrraedd Harry’s, llwyddodd rhai i aros ynghlwm, a dawnsio fel ieir heb bennau yn y Pier.

Gorffennodd penwythnos olaf Wyth-nos y Glas gyda Gig Cell Cymde-ithas yn y Llew Du ar y nos Wener, a’r Hasbins nos Sadwrn, ble roedd hen fyfyrwyr Aberystwyth yn dych-welyd i gael sesh gyda ni’r myfyr-wyr presennol. Mae’n drueni nad oes llawer ohonom yn co�io dig-wyddiadau Wythnos y Glas, ond mae hynny’n gy�iawnhad dros ba mor fyr ydi’r adolygiad yma, iawn?

Gwta bum diwrnod ar ôl noson Has-bins, daeth hi’n amser am Sŵn cyn-taf y �lwyddyn, a’r thema oedd ‘Sŵn y Môr’. Roedd y noson yr un dyddiad â Chrôl y Geltaidd, ac felly gallwch ddychmygu ei bod hi’n noson fawr! Roedd hi’n dda gweld fod pawb wedi

gwneud ymdrech, boed hynny drwy wisgo fel morforynion, gwymon, con-tiaid y môr, llongwyr neu fôr-ladron! Cafodd Utgorn cyntaf y �lwyddyn ei roi ar werth, a chwarae teg, ni wnaeth crëwr yr Utgorn eleni, Alaw Gwyn, ein siomi ni. Yn wahanol i ddy-

lunwyr ‘Yr Utgorn’ yn y gorffennol, ll-wyddodd Alaw i gadw’r cydbwysedd rhwng y deheuwyr a’r gogleddwyr, a rhwng y freshers a’r blynyddoedd eraill. Bu’r ail Sŵn yn llwyddiant ys-gubol hefyd, pan oedd gofyn i fyfyr-

wyr wisgo fel arwyr eu plentyndod. Cefais fy mhlesio’n ofnadwy oher-wydd i bawb fod yn hynod greadigol gyda’u gwisgoedd yn y Sŵn hwn, a hynny oherwydd y thema hynod eang a ddewiswyd, mae’n debyg. Er gwaethaf y ffaith fod rhai caneuon sidêt wedi cael eu hailadrodd sawl gwaith yn ystod y ddau Sŵn, mae gwelliant mawr wedi bod eleni, gan iddynt lwyddo i chwarae amre-diad ehangach o ganeuon co�iadwy.

Reit, mewn gwirionedd, nid �i ddy-lai fod yn adolygu’r trip ‘torri mewn i Dregaron’ gan nad oes gen i’r un atgof o’r noson i fod yn onest. Fel pob blwyddyn arall, roedd y by-siau yn gadael o wahanol leoliadau yn Aberystwyth, megis Pantycelyn a Wetherspoons. Roeddem yn tei-thio rhyw hanner awr i Dregaron cyn dadlwytho’r myfyrwyr meddw i gyd rhwng y ddwy dafarn: Y Llew Coch a Gwesty’r Talbot. Syrthiodd gwep pawb wrth weld mai dau bor-taloo oedd ar gael yn y Talbot, ond ni lwyddodd hynny i ddifetha naws arbennig y noson. Wedi cael pawb yn ôl ar y bysus, aeth pawb i orffen y noson yn yr Undeb, yn ôl yr arfer.

Prin y gallwn adolygu pob sesh ers cychwyn y tymor heb sôn am y Ddawns Ryng-golegol a gynhaliwyd

yma yn Aberystwyth ym mis Tach-wedd. Rydw i’n siŵr y byddai pawb yn cytuno â mi pe dywedwn ei bod hi wedi bod yn wych cael gweld hen gyfeillion, a chael eich ffrindiau, y r hen rai a’r rhai newydd, ynghyd am

un penwythnos rhemp! Rydw i hefyd yn siŵr y byddai pawb yn cytuno fod y line-up yn ardderchog eleni, gan gynnwys Hud, Sŵnami, Catrin Her-bert, Team Panda a neb llai na Meic Stevens! Hyd yn oed os na cho�iwch y gerddoriaeth, mae’n siŵr y cy-tunech ei bod yn noson i’w cho�io.

 hithau’n prysur agosáu at y Na-dolig, mae toreth o ddigwyddiadau

poblogaidd ar y gweill. Rhwng y Lod-dest, Cinio Pantycelyn a Chinio Nado-lig y Geltaidd, heb sôn am y Sŵn nesaf ddiwedd y �lwyddyn, ni fydd cy�le i’ch iau gal brêc, druan ag o! Ond, na phoe-ner, bydd ’na laff a hanner i’w chael, a bydd hi’n ffordd dda o ffarwelio cyn gadael y Brifysgol am y Nadolig. Felly codwch eich gwydrau i dymor ffantastig arall yn Aberystwyth!

gan Ffraid Gwenllian

Page 13: Rhifyn y Gaeaf 2012/13

SEFYDLWYD 2012Rhifyn y Gaeaf 2012

13

CYMRO YN Y TŶ GWYN?

Dangosodd cyfri�iad 2008 Unol Daleithiau America fod oddeutu 1.98 miliwn o Americanwyr yn hanu o linachau Cymraeg, sy’n 0.6% o holl boblogaeth yr U.D.A. Er hyn, mae gan 3.8% o bobloga-eth America gyfenw Cymraeg ac mae olion yr iaith yn amlwg yn siroedd Jackson a Gallia yn Ohio yn enwedig; fe’u gelwir yn ‘Lit-tle Cardiganshire’ gan y bobl leol.

Ar y chweched o Dachwedd ele-ni aeth America i’r gorsafoedd pleidleisio i ethol eu Harlywydd am y pedair blynedd nesaf. Ond pa gysylltiadau sydd gan Arly-wyddiaeth America â Chymru? Mae gan o leiaf wyth Arlywydd achau Cymreig: Thomas Jeffer-son, Abraham Lincoln, John Ad-ams, John Quincy Adams, James Gar�ield, Calvin Coolidge, Richard Nixon ac yn wir Barack Obama.

Obama yn Gymro?

Honnwyd gan David Williamson yn y Western Mail fod Barack Obama yn ddisgynnydd i arloeswr Ameri-canaidd a anwyd yn Ynys Môn yn y ddeunawfed ganrif. Mae sôn fod yr Arlywydd yn hoff iawn o halen Ynys Môn sy’n gorchuddio ei hoff losin, Smoked Salt Caramels. Gwneir y taf�i yn Seattle gan gwmni Fran’s Chocolate, sy’n derbyn eu halen gan Halen Môn. Mae’r losin bellach yn cael eu cynnig i westeion y Tŷ Gwyn!

Yn ogystal â hyn, mae achyddion wedi casglu tystiolaeth sy’n aw-grymu bod teulu ei fam yn ddisgy-nyddion i deithwyr Cymreig a se-fydlodd y dre�lan Radnor yn Ohio.

Y cysylltiad gorau â Chymru, o bosib, ydy John Adams a Thomas

Jefferson. Gallwn olrhain llinell achau John Adams (ail Arlywydd America) i Sir Benfro ac i Fferm Pe-nybanc, Llanboidy yng Nghaerfyrd-din. Dywedodd Thomas Jefferson ei hun fod ei dad yn dod o droed yr Wyddfa ac yn 1933 dadorchud-

diwyd plac yn Llanfair Ceiriog gan Weinyddiaeth Dramor Unol Daleithiau America gyda’r ar-ysgrif ‘To the memory of a great Welshman, Thomas Jefferson.’

gan Jacob Dafydd Ellis

Ddiwedd Tachwedd a dechrau Rhagfyr, bydd Cynghrair Bundesliga DIGS Prifysgol Aberystwyth yn dechrau, ond cyn hynny, cynhaliwyd rhywfaint o gemau cyfeillgar ar y Cae Astro fel rhan o’r paratoa-dau ar gyfer gêm Gwpan Tref Aberystwyth yn erbyn FC Inter Yournan yn ogystal â’r Gynghrair. Dyma ganlyniadau’r gemau cyfeillgar:

Y Geltaidd 6-5 Commodore - ‘Thriller’ 5 seren. Digwyddiadau ‘dramatig’ ar yr Astro.

Clasur arall i’r Geltaidd yn erbyn y Commodore - tîm sy’n cael ei noddi gan y sinema leol. Brwydrodd y Geltaidd yn ôl yn ddygn ar ôl i’r Commodore sgorio 4 gôl, a newidiwyd ychydig ar ffurf y chwarae gan newid yn ôl i 4-4-2. Sgoriodd nifer o chwaraewyr a ymddangosodd am y tro cyntaf dros y Gel-taidd, gan gynnwys 2 gôl arbennig gan yr eilydd, Steffan Bonsall. Sgoriodd y Capten, Elgan Jones, gic rydd ardderchog ym munud olaf y gêm, gyda’r GSE yn mynd yn wallgof ar ochr y cae.

Sgorwyr y Geltaidd: Mathew (1), Tom Ellis (1), Llion Parry (1), Steffan Bonsall (2), Elgan Jones(1).

Gêm Rhyng-gol 7 bob ochr.

Y Geltaidd 14-8 Y Gym-Gym CaerdyddCrasfa i’r bechgyn o Gaerdydd. Canlyniad rhagorol yn enwedig ar ôl canlyniad siomedig y tîm Rygbi.

Y Geltaidd 2-3 Athletico Bil-banter

Y Geltaidd yn colli eu gêm gyntaf o’r tymor. Ond canlyniad digon agos hefyd.

Y Geltaidd 4-3 Inter Yournan Dafydd Morgan (1), Elgan Jones (1), Rhodri (1), Gôl wyrgam (1)

Y Geltaidd 4-3 Leave My Arselona Llion Parry (1), Ryan Murphy (1), Gôl wyrgam (1), Elgan Jones (1)

Sgoriodd Llion Parry gic rydd arbennig o ymyl y cwrt cosbi. Daeth y gôl gyntaf â hyder yn ôl i’r tîm ar ôl gadael 3 gôl i mewn ynghynt. Ar ôl i’r ail gôl fynd i mewn, y Geltaidd oedd yn rheoli rhan fwyaf o’r gêm. Sgoriodd y capten, Elgan Jones, hanner foli i gornel y rhwyd bedwar munud cyn y chwiban olaf.

PÊL-DROED Y GELTAIDDgan Llywelyn Williams

Page 14: Rhifyn y Gaeaf 2012/13

YR HERIWR Rhifyn y Gaeaf 2012

CANLYNIADAU GEMAU BUCS Y BRIFYSGOL 2012/13gan Llywelyn Williams

14

PÊL-DROED Dynion Tim 1af

Prifysgol Aberystwyth 1-5 Prifysgol Swydd Gaerloyw - Hydref 17

4ydd Tîm Prifysgol Morgannwg 4-4 Prifysgol Aberystwyth - Hydref 24

Prifysgol Aberystwyth 3-1 Prifysgol Abertawe (3ydd Tîm) – Tachwedd 7

Prifysgol Southampton Solent 3-1 Prifysgol Aberystwyth –Tachwedd 14

HOCI Merched Tîm 1af Aberystwyth

Prifysgol Fetropolitan Caerdydd 3-3 Prifysgol Aberyst-wyth

Prifysgol Aberystwyth 15-0 4ydd Tîm Prifysgol Caerdydd

Prifysgol Aberystwyth 10-0 4ydd Tîm Prifysgol Bryste

Prifysgol Aberystwyth 10-1 4ydd Tîm Prifysgol Caerdydd

PÊL-RWYD Merched Tîm 1af

3ydd Tîm Prifysgol Fetropolitan Caerdydd 32 - 32 Prifysgol Aberystwyth - Hydref 17

Prifysgol Aberystwyth 55-41 Prifysgol Gorllewin Lloegr (Hartpury) - Hydref 24

Prifysgol Aberystwyth 41-34 2il Dîm Prifysgol Swydd Gaerloyw - Tachwedd 7

2il Dîm Prifysgol Abertawe 50-37 Prifysgol Aberystwyth - Tachwedd 21

LACROSSE Dynion - Adran Gorllewin 2A

Prifysgol Southampton 3-11 Prifysgol Aberystwyth – Hydref 17

Prifysgol Aberystwyth 22-0 2il Dîm Prifysgol Bryste – Hydref 24

Prifysgol Aberystwyth 11-6 Prifysgol Gorllewin Lloegr (UWE) – Tachwedd 14

Prifysgol Bournemouth 8-5 Prifysgol Aberystwyth – Tachwedd 21

RYGBI Merched Aberystwyth

Prifysgol Coleg Plymouth St Marks a St John’s 22-5 Prifysgol Aberystwyth – Hydref 10

Prifysgol Aberystwyth 27-24 Prifysgol Caerfaddon - Hydref 17

Prifysgol Aberystwyth 0-28 Prifysgol Swydd Gaerloyw – Hydref 24

Prifysgol Southampton 35-0 Prifysgol Aberystwyth – Hydref 31

Prifysgol Abertawe 45-0 Prifysgol Aberystwyth - Tachwedd 14

PÊL-DROED Merched Tim 1af

Prifysgol Aberystwyth 3-4 Prifysgol Swydd Gaerloyw – Hydref 17

2il dim Prifysgol Fetropolitan Caerdydd 2-0 Prifysgol Aberystwyth - Hydref 24

Prifysgol Aberystwyth 0-1 Prifysgol Caerdydd - Hydref 31

Prifysgol Plymouth 3-0 Prifysgol Aberystwyth - Tachwedd 7

Prifysgol Coleg Plymouth St Marks a St John’s 3-1 Prifysgol Aberystwyth - Tachwedd 14

PÊL FASGED Dynion

Prifysgol Aberystwyth 75 – 35 Prifysgol Fetroolitan Caerdydd – Hydref 24

Prifysgol Aberystwyth 72 – 23 Prifysgol Fetropolitan Caerdydd – Hydref 31

Prifysgol Aberystwyth 75 – 59 2il Dîm Prifysgol Abertawe – Tachwedd 7

Prifysgol Aberystwyth 56 – 99 Prifysgol Morgannwg – Tachwedd 21

CWEIR I’R TÎM CARTREF YN Y RHYNG-GOL

gan Llywelyn Williams

Lleoliad: Caeau Clwb Rygbi Aberystwyth

Bydd y Geltaidd yn weddol siomedig wedi’r canlyniad hwn, yn enwedig o golli drwy gais munud olaf yn erbyn eu gelyn-ion, y GymGym. Er bod y gêm wedi bod yn weddol agos, ni lwyddodd y Geltaidd i reoli’r gêm yn ddigon cynnar i sicrhau’r fuddugoliaeth. Rhaid rhoi pob clod i’r GymGym am allu ymosod yn frawychus o gy�lym wrth wrthymosod, gan achosi bylchau a phanig yn rhengoedd amddif-fyn y Geltaidd.

Oherwydd y glaw trwm a gafwyd dros gwpl o ddyddiau cyn y dydd Sadwrn, roedd y cae yn fwdlyd dros ben, gan arafu’r tempo a’r steil o rygbi roedd y Geltaidd eisiau ei chwarae. Ond er hynny, llwyddodd blaenasgellwr y Geltaidd, Iestyn Dylan Jones, i ryng-gipio’r bêl oddi ar gic maswr y GymGym, gan redeg tuag

at y llinell gais. Cais gyntaf i’r Geltaidd a phethau’n edrych yn go dda.

Roedd diffyg disgyblaeth ar rai adegau yn wendid i’r Geltaidd, a rhoddodd gy�le i’r GymGym fanteisio a chau bwlch y sgôr. Ond er hynny, roedd y Geltaidd ar y blaen o drwch blewyn ddiwedd yr hanner cyntaf, o 5-3.

Roedd yr ail hanner yn pro�i’n dipyn o her i’r Geltaidd gyda chamgymeriadau blêr yn costio’n ddrud. Roedd cefnwyr y GymGym yn chwarae’n effeithiol o gy�lym wrth ymosod, a sgoriwyd cais sydyn i’r GymGym gan eu hasgellwr. Roedd y GymGym ar y blaen o 10-5 drwy gic gosb y maswr.

Roedd y gêm yn dal i fod yn agos, gyda’r Geltaidd ond angen cais a throsiad i ddod yn ôl ar y blaen, ond gyda chwta hanner

awr wedi mynd, fe dderbyniodd Gwion Jones, Capten y Geltaidd a chwaraewr tîm 1af Clwb Rygbi Aberystwyth, gerdyn melyn yn ogystal â Guto Huws o dîm y GymGym ar ôl ffrwgwd yn y ryc. Roedd colli chwaraewyr allweddol yn y gêm yn pro�i’n dipyn o her am 10 munud gyda’r GymGym yn pwyso’n galed am gais arall.

Ar y llaw arall, cafodd asgellwr ac is-gapten y Geltaidd, Ian Ellis, gêm ragorol dros y gwyrddion. Llwyddodd yr asgellwr i redeg o’i hanner ei hun tuag at y llinell gais gyda thorf Aberystwyth yn mynd yn wallgof ar ochr y cae gyda chwta 10 munud i fynd. Ni lwyddodd y Geltaidd i drosi’r cais er mwyn rhoi’r Geltaidd ar y blaen. Felly, roedd y sgôr yn gyfartal, 10-10, gydag ychydig o funudau i fynd tan y chwiban olaf. Profodd y munudau olaf yn fwy o gyffro na dim byd arall. Roedd y ddau dîm yn mynd amdani, ond fe

bwysodd y GymGym unwaith eto tuag at yr ystlys. Gan fod y bêl yn weddol lithrig, a llif y bas yn gy�lym, roedd yr amodau chwarae yn ei gwneud yn anodd i’w dal hi o dan bwysau, a dyna a ddigwyddodd yn anffodus i’r Geltaidd, gydag un bas letchwith yn rhoi’r bêl ar blât i un o ganolwyr Caerdydd, gan osod y bêl dros y llinell gais ym munud ola’r gem. Y sgôr derfynol felly oedd 10-15 o blaid Gym-Gym Caerdydd.

Gobeithio y pery’r syniad newydd o gael gêm �lynyddol rhwng y Geltaidd a thîm y GymGym yn ystod y Rhyng-gol. Roedd y dorf o’r ddwy Brifysgol yn ychwanegu cyffro at yr ornest, ac yn lleddfu’r boen o wylio perfformiad siomedig Cymru yn erbyn yr Ariannin!

Rygbi’r Geltaidd 10-17 GymGym Caerdydd

Page 15: Rhifyn y Gaeaf 2012/13

SEFYDLWYD 2012Rhifyn y Gaeaf 2012

gan Illtud Dafydd

Gyda thrydedd a phedwaredd rownd Cwpan Heineken Ewrop a Chwpan Her Amlin yn cael eu cynnal yn ystod wythnosau cyntaf mis Rhagfyr, Illtud Dafydd sy’n edrych yn ôl ar berfformiadau’r rhanbarthau yn rownd 1 a 2 y ddwy gystadleuaeth.

Y Gweilch

Y Gweilch 38 – 17 Benetton TrevisoTeigrod Caerlŷr 39 – 22 Y Gweilch

Dechreuodd y Gweilch eu taith Ewropeaidd eleni ar nos Wener oeraidd yn Stadiwm Liberty yn erbyn Ben-netton Treviso. Parhaodd Dan Biggar ar ei ddechreuad da i’r tymor yn y Rabo Pro 12 drwy drosi tair cic gosb o fewn y chwarter awr cyntaf. Ar ôl i’r asgellwr ifanc, Eli Walker, sgorio, roedd yn ymddangos y byddai’r Gweilch yn ennill y gêm yn hawdd yn erbyn tîm sydd heb ennill oddi cartref yn y gystadleuaeth ers 2004. Er i Dreviso achosi ychydig o fraw i’r Gweilch yn yr ail hanner gan sgorio dau gais, roedd y Gweilch yn llawer rhy gryf i’r Eidalwyr ac fe seliodd Ashley Beck y fud-dugoliaeth a’r pwynt bonws gyda’r cloc wedi pasio 80 munud.

Yr wythnos ganlynol fe deithiodd y Gweilch i Heol Welford, cartref Teigrod Caerlŷr, i wynebu tîm mw-yaf llwyddiannus Lloegr. Er y dechreuad byrlymus ac annisgwyl gyda’r Gweilch ar y blaen o 10 i 0, gyda 25 munud i fynd rhyng-gipiwyd pas wan Dan Biggar gan Toby Flood, gan redeg hanner y cae a sgorio trosgais. Dyna’r Teigrod 10 pwynt ar y blaen gyda deng munud i fynd, ac yn lle brwydro’n ôl fe giliodd amddiffyn dyn-ion Steve Tandy, a sgoriodd Manu Tuilagi a Ben Youngs ddau gais dros Gaerlŷr i orffen y gêm.

Er bod y Gweilch wedi dangos addewid yn ddwy gêm gyntaf, mae her galed iawn yn eu hwynebu gyda dwy gêm yn olynol yn erbyn cewri Ffrainc, Toulouse, yn y ddwy rownd nesaf. Heb os nac oni bai, mewn grŵp tynn ond cystadleuol, y Gweilch sydd â’r cy�le gorau o ranbarthau Cymru i barhau i rownd yr wyth olaf.

Y Scarlets

Clermont Auvergne 49 – 16 ScarletsScarlets 13 – 20 Leinster

Yn rownd gyntaf y gystadleuaeth eleni fe deithiodd y Scarlets i’r Massif-Central i wynebu Clermont Auvergne yn ei stadi-wm, Y Stade Marcel-Michelin. Roedd y stadiwm dan ei sang, ond tawelwyd y dorf yn y munudau agoriadol wrth i ganolwr Cymru, Jonathan Davies, groesi am gais i’r cochion. Roedd hi’n gêm glos iawn gyda hanner amser yn agosáu ond gan i Morgan Stoddart dderbyn ei ail gerdyn melyn, roedd dynion Simon

Easterby yn wynebu deugain munud gyda phedwar dyn ar ddeg. Sgoriodd Clermont bedwar cais ychwanegol yn yr ail hanner (un i gefnwr Cymru, Lee Byrne) i ddod â’r sgôr derfynol i 49 i 16.

Wedi’r grasfa yng Nghlermont yr wythnos gynt roedd y Scarlets yn daer am fud-dugoliaeth y erbyn Leinster. Yn anffodus i’r Scarlets roedd Leinster yn edrych yn fygythiol o’r chwiban gyntaf, ac erbyn i’r chwiban hanner amser seinio o gwmpas Barc y Scarlets roedd y Gwyddelod 8 i 0 ar y blaen. Yn yr ail hanner, sgoriodd maswr rhyngwladol Iwerddon, Jonathan Sexton, gic adlam o dros 40 medr o’r pyst,

ond daeth f�lach o obaith wrth i Gareth Maule dderbyn y bêl ar y llinell hanner, gan ochrgamu heibio i gapten Iwerd-don, Brian O’Driscoll, yng nghanol cae a brasgamu dros y llinell gais i sgorio un o geisiau gorau’r penwythnos.

Er y f�lach o obaith yma, dechreuodd Leinster dynhau’r gêm, gan ddangos sut y maent wedi ennill tair coron Ewropeaidd mewn pedair blynedd, gyda Sexton yn sgorio dwy gic gosb ychwanegol i ddwyn y gêm yn bell o afael y Scarlets. Roedd yn berfformiad gwan ar y cyfan i’r Scarlets, a fydd yn wynebu Caerwysg ar ddau ben-wythnos o’r bron (8fed a 16eg o Ragfyr)

ac yn gobeithio sicrhau dwy fuddugolia-eth i gadw eu gobeithion Ewropeaidd yn fyw.

Gleision Caerdydd

Sale Sharks 34-33 Gleision CaerdyddGleision Caerdydd 14 – 22 RC Toulon

Gan ystyried dechreuad gwarthus Sale Sharks yng Nghynghrair Aviva, roedd disgwyl i’r Gleision gymryd mantais o hyder isel carfan Bryan Redpath. Roedd Sale Sharks yn dychwelyd i gystadleuaeth orau Ewrop am y tro cyntaf ers 2010 ac nid oedd neb yn disgwyl y dechreuad i’r gêm a wel-wyd. Er bod y tîm cartref yn pwyso yn hanner y Gleision drwy gydol yr hanner cyntaf fe sgoriodd asgellwr ifanc Cymru, Alex Cuthbert, dri chais o fewn 37 munud i roi tîm y brifddinas ar y blaen o 24 i 12 ac yn edrych yn gyfforddus ar yr hanner.

Wedi’r hanner cyntaf siomedig, penderfynodd Bryan Redpath gy�lwyno Danny Cipriani i’r cae, ac fe drodd y maswr amryddawn o Loegr y gêm ar ei phen, gan arwain ei dîm i fuddugoliaeth o 34 pwynt i 33.

Roedd angen i’r Gleision angho�io’r siom yng Ngogledd Lloegr, gan fod un o gewri rygbi Ffrainc, R C Toulon, yn ymweld â Pharc yr Arfau yr wythnos olynol. Penderfyn-odd Phil Davies faesu’r un tîm a sgoriodd dri chais oddi cartref yr wythnos gynt, ac fe sgoriodd Lee Halfpenny gais gwych wedi iddo dderbyn y bêl o fewn ei hanner ei hun drwy bas bert gan Ceri Sweeney. Buan y cipiodd Toulon y gêm o ddwylo’r Gleision gan ennill o 22 i 14 gan hefyd rwystro’r Gleision rhag cael y pwynt bonws amddiffynnol allweddol wrth golli gêm yng Nghwpan Heineken.

Dreigiau Cas-Gwent

London Wasps 38 – 25 Dreigiau Cas-GwentDreigiau Cas-Gwent 19 – 22 Aviron Bayonne

Roedd gêm gyntaf y Dreigiau, mewn grŵp cys-tadleuol dros ben, oddi cartref i gyn-bencampwyr Cwpan Heineken (2007), sef y London Wasps. Fel pob un o dimau rhanbarthol Cymru yn Ewrop eleni fe ddechreuodd tîm Darren Edwards ar garlam gydag Adam Hughes yn croesi llinell wen y Picwns ar ôl dim ond dau funud. Byrhoedlog oedd y dechreuad byrlymus hwn gyda dynion cyn-hyfforddwr Gleision Caerdydd, Dai Young, yn gorffen yr hanner 25 i 12 ar y blaen.

Nid oedd gwelliant i ddod yn yr ail hanner i’r dynion o Went gyda’r Cymro Nicky Robinson yn llywio’r chwarae fel maswr ac yn trosi un cais a thair cic gosb, ac o ganlyniad fe enillodd cyn-dîm hyfforddwr amddiffyn Cymru, Shaun Ed-wards, o 38 i 25. Roedd her fwy yn wynebu’r Dreigiau yr wythnos ganlynol gyda Bayonne yn ymweld â Rodney Parade. Roedd mewnwr rhyngwladol Cymru, Mike Phillips, yn dychwelyd ar lefel ddomestig i Gymru am y tro cyntaf ers iddo adael y Gweilch yn 2010 ac unwaith eto fe groesodd y Dreigiau am gais cynnar gan y blaenasgellwr, Tom Brown. Gyda’r hanner yn agosáu a’r Dreigiau ar y blaen o 16 i 13 fe sgoriodd Benjamin Boyet gic gosb a ddaeth â’r timoedd yn gyfartal, ac wedi iddo drosi cic gosb arall gyda 7 munud o’r ail hanner wedi mynd, fe newidiodd trywydd y gêm yn hollol.

Seliodd Boyet y fuddugoliaeth i’r tîm o’r Top 14 gyda’i bumed gic gosb â 12 munud ar ôl. Yn y ddwy rownd nesaf bydd y Dreigiau yn wynebu Rugby Moglianol o Venice, yr Eidal. Er y bydd Dan Lydiate yn dal i ddiod-def o’i anaf, bydd Darren Edwards yn gobeithio am ganlyniadau a pherfformiadau cry�ion yn erbyn y tîm sy’n chwarae yn y gystadleuaeth am y tro cyntaf yn ei hanes eleni.

PERFFORMIADAU RHANBARTHAU RYGBI CYMRU YNG NGHWPAN EWROP

15

Page 16: Rhifyn y Gaeaf 2012/13

Cystadleuaeth Baravin:Tri chy�le i ennill taleb £20

Mae Baravin yn far a bwyty newydd ar y prom sydd ar agor o 10 y bore tan 10 yr hwyr, ac sy’n gweini cof�i, cacennau, piz-zas, stêcs, gwin da a choctels gorau’r dre. Mae’r staff yn Gymry lleol – galwch draw i’n gweld!

I gymryd rhan yn y gystadleuaeth rhaid ein dilyn ni ar Twitter (@Baravin1) a thrydar beth yw eich hoff bizza neu goctl. Bydd y tri dilynwr a dynnir o’r het yn ennill taleb £20 yr un i’w gwario yn Baravin.

Hefyd, fel cynnig arbennig i holl ddarllen-wyr Yr Heriwr, os galwch i mewn a dangos (ar eich ffôn) eich bod yn ein dilyn ar Twit-ter, fe gewch ddau goctel am £10 unrhyw ddydd o’r wythnos.

Dyddiad cau: Ionawr 31ain, 2013

Ar ôl dechrau gwych i’r tymor, cafodd yr Elyrch amser caled yn ceisio sicrhau pwyntiau, sy’n hanfodol os ydynt am gadw draw o’r tri sa�le gwaelod. Col-lasant yn erbyn Aston Villa, Everton a Stoke, a llwyddasant i gael pwynt yn unig yn erbyn Sunderland a Read-ing, oedd yn sioc i’w cefnogwyr ar ôl y dechreuad ffrwydrol. Serch y diffyg pwyntiau ac anaf i un o sêr y garfan, Michael Vorm, mae’r perffomiadau wedi bod yn addawol, yn enwedig y canlyniad co�iadwy yn erbyn Ler-pwl yn An�ield, ble y llwyddodd yr Elyrch i ddial ar Brendan Rodgers (eu cyn-reolwr) trwy fwrw ei dîm newydd allan o’r ‘Capital One Cup’.

Mae pethau’n edrych yn addawol iawn i dîm Michael Laudrup ar hyn o bryd, gyda’r chwaraewyr newydd, Hernandez a Ki, yn arwain y ffordd ac yn pro�i eu bod yn werth yr ar-ian a dalodd y clwb amdanynt. Mae’n hanfodol eu bod yn parhau i ennill y gemau yn erbyn timau gwannaf y gynghrair er mwyn sicrhau pwyntiau.

Yn bendant un o straeon mwyaf cyf-frous y clwb yw datblygiad Ben Davies. Cafodd Davies ei da�lu mewn i’r tîm

cyntaf heb fawr o bro�iad ar ôl anaf Neil Taylor yn erbyn Sunderland. Heb Taylor, aelod allweddol o’r amddiffyn, pryderai’r cefnogwyr pwy fyddai’n llenwi’r bwlch gan nad oedd eilydd amlwg. Llwyddodd Laudrup i arwyddo Dwight Tiendalli yn syth ar ôl yr anaf ond nid oedd yn cyrraedd safonau Tay-lor. Serch yr amheuon, rhoddodd La-udrup gy�le i’r bachgen lleol, oedd yn benderfyniad gwych gan yr rheolwr. Er ei ddiffyg pro�iad, mae Davies wedi chwarae’n benigamp yn enwedig gan ei fod wedi gorfod wynebu chwaraewyr pro�iadol megis Fernando Torres, Eden Hazard a Carlos Tevez. Mae’r perf-formiadau cyson hyn wedi golygu bod Davies yn dechrau i Gymru yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd yn ddiweddar.

YR ELYRCHBarn un o gefnogwyr yr Elyrch ynglŷn â pherfformiad Abertawe yn yr Uwch-gynghrair hyd yn hyn

gan Matthew GowerAr y 10fed o Hydref eleni, agorwyd canolfan f�itrwydd newydd sbon yn swyddogol i’r cyhoedd. Enw’r Ganol-fan fydd ATOMIC - cwmni f�itrwydd newydd o dan ofal Tom James, gŵr sy’n wreiddiol o Aberystwyth a mewnwr presennol Clwb Rygbi Castell Nedd. Bydd Tom yn cael mwy o amser i

redeg y Ganolfan yn Aberyst-wyth, gan ei fod yn dal yn cei-sio gwella o anaf i’w ben-glin. Lleolir y ganolfan, sy’n cyn-nwys offer pwysau rhydd a man ar gyfer sesiynau traws-f�itrwydd, yn hen adeilad y Swyddfa Bost yng nghanol y dref. Mae’r ganolfan eisoes yn cynnal sesiynau f�itrwydd i glybiau Prifysgol Aber-

ystwyth, megis y tîm Rygbi dynion a merched, Pêl-droed Americanaidd a thîm Rygbi’r Gynghrair. Y gost aelodaeth yw £25 y mis – sy’n cynnwys 3 sesiwn f�itrwydd yr wyth-nos yn ogystal a chaniatâd i ddefnyddio’r offer pwysau rhydd yn eich amser eich hun.

ATOMIC - CANOLFAN FFITRWYDD NEWYDD YN NHREF ABERYSTWYTHgan Llywelyn Williams

CLWB PEL DROED ABERYSTWYTHgan Dilwyn Roberts-YoungRhyw dymor digon cymysglyd yw hi wedi bod i Glwb Bêl-droed Tref Aber-ystwyth hyd yn hyn a ninnau wedi bod yn agos iawn, iawn at y dibyn y llynedd. Tua diwedd y tymor daeth Tomi Mor-gan i’r adwy gyda chyfres o ganlynia-dau arbennig o dda ac yntau wrth y llyw. Roedd pethau’n argoeli’n dda at gyfer tymor 2012-2013 gyda chymys-gedd o chwaraewyr lleol a rhai nad oed-dynt mor lleol. Yr hyn sydd yn rhyfedd yw bod ffyddloniaid Coedlan y Parc yn ystyried hwn yn dymor siomedig ac eto roedd yr is-reolwr, Ian Hughes, yn ddigon ffyddiog yn dilyn y fuddugo-liaeth gampus yn erbyn Tref Port Tal-bot i ystyried y byddem yn cyrraedd yr hanner dwsin cyntaf pan fyddai’r Uwch-gynghrair yn rhwygo’n ddwy.

Rydw i wedi bod mewn cannoedd o gemau Uwch-gynghrair dros y blyny-ddoedd ac wedi dilyn y dref ers y tymor cyntaf. Yn y cyfnod hwnnw bûm yn ys-grifennydd y clwb ac yn olygydd y rhaglen gan fwynhau trampio o gwmpas Cymru. Roedd yn chwith garw gen i a gweddill y teulu pan newidiodd yr uwch-gynghrair i fod yn gynghrair deuddeg clwb. Rhan o’r hwyl oedd teithio i wylio Aber yn erbyn clybiau fel y Derwyddon, Caersws, Rhaeadr Bae Cemaes a Hwlffordd. Roedd hi’n ffordd dda o ddod i adnabod Cym-

ru a rhan o Swydd Amwythig hefyd.

Daeth i ben deithio’r wlad ac mae pry-deron mawr yn parhau am ddyfodol yr uwch-gynghrair. Mae’r niferoedd sy’n mynychu gemau’n hynod o siomedig ac mae’r gystadleuaeth wedi methu tanio dychymyg y cyhoedd. Mae wedi bod yn ddigon o argyfwng i bwyllgor yn y Cyn-ulliad ystyried ei dyfodol. Rhaid i mi gy-faddef nad wyf yn hoff o weld gwleidy-ddion yn ymyrryd yn y gêm ac nid wyf yn gwybod beth fydd gwerth yr adroddiad.

Roedd datganiad clir bod angen i’r clybi-au fagu perthynas gyda’r gymuned ac nid oedd yn anodd proffwydo’r datganiad hwnnw. Mae llawer o sôn am greu caeau pob tywydd at ddefnydd y gymuned ond mae hynny’n digwydd ers blynyddoedd yng Nghoedlan y Parc a hefyd mewn cly-biau llai yn yr ardal. Rhaid canmol clwb y dref am fod â rhan amlwg yn y gymuned. Mae dros 800 o blant lleol sy’n chwarae yng Nghynghrair Pêl-droed Ieuenctid Aberystwyth yn cael mynediad am ddim i bob gêm gartref; mae nosweithiau myfyrwyr rhad yn cael eu cynnal gyda bwyd a diod am ddim, ac mae diwrnod hwyl y teulu yn enghraifft dda o glwb yn ymateb i’r her o fod yn rhan o’r gymuned.

Yr her fawr i Uwch-gynghrair Cymru, a

rhywbeth nad wyf yn teimlo bod y Cyn-ulliad wedi mynd i’r afael ag ef, yw prese-noldeb yn y cyfryngau. Mae camau brei-sion wedi eu cymryd, gyda chlod i Sgorio ar S4C ac i raglen radio Ar y Marc ar fore Sadwrn. Mae papur newydd Y Cymro yn ddarllen difyr a gwefan Golwg yn rhoi sylw haeddiannol i’r Uwch-gynghrair, a’r Daily Post yn cynnig y newyddion a’r adroddiadau diweddaraf. Rwyf he-fyd yn cael blas ar wefannau’r uwch-gynghrair a chlybiau’r Uwch-gynghrair.

Ond mae ymateb yr Uwch-gynghrair ei hun yn mynegi rhwystredigaeth lwyr yn yr hyn y maent yn ei alw’n ‘terrestrial and non-terrestrial broadcasters as well as other media outlets’. Mae’r Western Mail a’r Wales on Sunday yn gywilyddus yn eu diffyg sylw i’r Uwch-gynghrair a’r sylw ar gyfryngau megis Radio 5 a’r gwasanae-thau canlyniadau pêl-droed y nesaf peth i ddim. Mae llawer ohonom wedi bod yn co�io sa�iad arwrol Gwynfor Evans yn ymladd dros sianel deledu Gymraeg yn ddiweddar, a cho�io hefyd y miloedd a wrthododd dalu eu trwydded deledu yn y cyfnod hwnnw. A yw’r amser wedi dod i ni gael ymgyrch debyg i sicrhau sylw hae-ddiannol i’r Uwch-gynghrair? I mi, mae dyfodol yr iaith Gymraeg yn allweddol i ddyfodol ein cenedl. Yn yr un modd mae sicrhau cynghrair genedlaethol lwyddi-

annus yr un mor bwysig. Y mae’n rhan allweddol o beth sy’n gwneud gwlad - o’r hyn sy’n rhoi ein hunaniaeth i ni.

Felly dewch lawr i Goedlan y Parc i fod yn rhan o deulu gwyrdd a du tref Aberystwyth. Mae yma glwb sy’n all-weddol i brof�il y dref; clwb sydd wedi chwarae yn Ewrop, sydd wedi bod yn yr Uwch-gynghrair yn ddi-dor o’r cychwyn cyntaf a chlwb sy’n edrych gyda hyder i ddyfodol llewyrchus.

16


Related Documents