-
Llais Myrddin | Gaeaf 2014 / 15 | Rhifyn 61
Gaeaf 2014/15 ◊ Rhifyn 61
Blwyddyn Newydd, Addunedau Blwyddyn Newydd:
dechrau gwirfoddoli yn 2015! Bu’r Ganolfan Gwirfoddoli yn gyson
brysur yn delio ag ymholiadau gan ddarpar wirfoddolwyr a mudiadau
sy’n defnyddio gwirfoddolwyr. Mae nifer cynyddol o bobl ifanc yn
dewis gwirfoddoli, ac mae llawer ohonynt yn manteisio ar y cyfle i
fod yn Wirfoddolwyr y Mileniwm a gweithio tuag at achrediad MV sy’n
cydnabod eu hymrwymiad a’u hymlyniad. Mwy o fanylion ar dudalen
3
Blwyddyn Newydd, Technoleg Newydd—sesiynau gyda CAVS yng
Nghaerfyrddin
KITe: Cysylltu, cyfathrebu a chyfarwyddo â ffrindiau, teulu, y
gymuned, y byd. Mae Kite yn brosiect sydd yn cynnig hyfforddiant,
cyngor ac arweiniad i bobl hŷn mewn sgiliau cyfrifiadurol
sylfaenol. Nod y prosiect
yw cefnogi pobl hŷn ar draws Sir Gâr i gael eu cynnwys mewn byd
sy’n dod yn fwy a mwy digidol ac i fod yn weithgar ynddo.
Ydych chi newydd gael cyfrifiadur neu dabled newydd yn anrheg
Nadolig? Neu efallai y gwnaethoch adduned Blwyddyn Newydd i geisio
meistroli offer fu gennych ers tro? Manteisiwch ar gefnogaeth a
hyfforddiant digidol rhad ac am ddim KITe er mwyn cymryd y camau
cyntaf. Gallwch drefnu gwers un-i-un, ymuno â chwrs dechreuwyr neu
fynd i’r sesiwn gyfrifiadurol galw heibio. Er mwyn cael mwy o
wybodaeth, ewch i dudalen 8
Blwyddyn Newydd Dda oddiwrth staff CAVS
Diolch…..mawr iawn Hoffem ddymuno Blwyddyn Newydd Dda iawn i’n
holl wirfoddolwyr sy’n gwneud gwahaniaeth mor gadarnhaol i’w
cymunedau ar hyd a lled y Sir. Mwynhewch 2015!
Cymdeithas
Gwasanaethau
Gwirfoddol
Sir Gâr
Newyddion a Gwybodaeth ar gyfer Sector Gwirfoddol Sir Gâr
-
Llais Myrddin | Gaeaf 2014 / 15| Rhifyn 61 2
Swyddfa CAVS yn Llanelli:
10 Stryd Ioan
LLANELLI
SA15 1UH
[email protected]
Dyddiad ar gyfer y rhifyn nesaf Anfonwch eich cyfraniadau ar
gyfer Llais Myrddin Gwanwyn 2015 at Admin erbyn Dydd Mawrth, 17eg
Mawrth 2015. Ebostiwch [email protected] neu ffoniwch 01267
245555.
Cyfarfodydd Rhwydwaith Trefnwyr Gwirfoddolwyr Sir Gâr
2015
Dydd Mercher 11eg Mawrth 2015
Dydd Mercher 15fed Gorffennaf 2015
Dydd Mercher 14eg Hydref 2015
10.30 am – 12.30 pm
Yn Y Mwnt, 18 Heol y Frenhines, CAERFYRDDIN SA31 1JT
Ebost: [email protected]
Y Mwnt
18 Heol y Frenhines
CAERFYRDDIN
SA31 1JT
01267 245555 [email protected] / www.cavs.org.uk
Cyfraddau Ystafelloedd Cyfarfod (9 a.m. — 5 p.m.)
Masnachol Grŵp
Cymunedol
Grŵp Cymunedol
sydd yn aelod o
CAVS
Hanner
Dydd
£54.00 £42.00 £31.00
Dydd
Llawn
£100.00 £73.00 £55.00
Gellir hurio ystafelloedd fesul awr
Sesiynau nôs a penwythnos ar gael
mailto:[email protected]:[email protected]:[email protected]:[email protected]://www.cavs.org.uk
-
3 Llais Myrddin | Gaeaf 2014 / 15 | Rhifyn 61
Os hoffech wybod mwy am sut allai gwirfoddoli eich helpu chi
a’ch cymuned cysylltwch â: Chanolfan Gwirfoddoli CAVS 01267 245555
[email protected] neu [email protected]
Newyddion Canolfan Gwirfoddoli CAVS
Llongyfarchiadau i’n cydweithwyr Fflur Hughes a Matthew
Lawlor ar enedigaeth eu mab annwyl, Tomos Ifan, ym mis
Hydref 2014.
Bydd Fflur ar Gyfnod Mamolaeth tan y Gwanwyn. Yn y
cyfamser, mae ei rôl Gwirfoddoli Ieuenctid yn cael ei rhan-
nu rhwng Bill a Jane.
GWIRFODDOLI— MYND I BEDWAR BAN!
O fewn tuag awr o lanio yn Awstralia, darganfu Cynorthwy-ydd
Gweinyddol CAVS, Sandra Williams, ei hun y tu allan i fersiwn
Sydney o CAVS! Prawf pellach fod gwirfoddolwyr yn hollbwysig ledled
y byd.
Yn ddiweddarach ar ei thaith, bu Sandra yn Brisbane a daeth ar
draws arddangosiad ‘Colour Me Brisbane' a
adeiladwyd ar gyfer Uwchgynhadledd y G20 a gynhaliwyd yno ym mis
Tachwedd 2014.
Cafodd yr arddangosiad ei godi gan wirfoddolwyr sy’n cynrychioli
9 o gymdeithasau cymunedol Queensland. Codwyd pob un o’r
llythrennau 3 metr o uchder gan gangen leol y Queensland Men’s
Sheds Association (QMSA). Mae QMSA yn fudiad gwirfoddol sy’n
cyfrannu at nifer o weithgareddau sy’n hybu iechyd dynion.
Dechreuodd cynllun y Men’s Sheds yn Awstralia ac fe ffurfiwyd
grwpiau yng Nghymru, gan gynnwys un yn Llanelli ac yn arall yng
Nglan y Fferi.
Byd bach yn wir!
Canolfan Gwirfoddoli CAVS Ystadegau ar gyfer 2014 Hyd at ddiwedd
Tachwedd bu tîm y Ganolfan Gwirfoddoli yn gweithio ar: 550 o
atgyfeiriadau o’r wefan 770 o ymholiadau yn y Ganolfan Gwirfoddoli
340 o gyfweliadau gyda gwirfoddolwyr 135 o Wirfoddolwyr y Mileniwm
newydd yn cael eu cofrestru Mae nifer o wirfoddolwyr ifanc wedi
cael Tystysgrifau MV i gydnabod yr amser a roesant i wirfoddoli yn
ystod 2014: 62 Tystysgrif 50 awr 39 Tystysgrif 100 awr 12 Gwobrau
Rhagoriaeth 200 awr
mailto:[email protected]:[email protected]
-
Llais Myrddin | Gaeaf 2014 / 15| Rhifyn 61 4
LLWYBRAU PORFFOR
Blwyddyn Newydd Dda i bawb
Efallai eich bod wedi sylwi dros yr ychydig fisoedd diwethaf na
fu llawer o wasanaethau chwarae yn eich ardal. Cawsom lawer o hwyl
yn ystod ein prosiect gydag arian gan y Gronfa Loteri Fawr oedd yn
cynnig cyfleoedd chwarae mynediad agored i 15,000 o blant a phobl
ifanc mewn sawl rhan o Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin dros y 4
blynedd diwethaf.
Gwyddom fod y plant y buom yn gweithio â nhw wedi dysgu sgiliau
newydd ac y cawsant y rhyddid i chwarae ym myd natur, archwilio eu
creadigrwydd a chael amser wrth eu boddau. Roeddem eisiau sicrhau
bod y prosiect yn parhau, a dyma rydym yn ei wneud:
Ar hyn o bryd mae Llwybrau Porffor yn gweithio yng Nghanolfannau
Teuluoedd Morfa a Felin-foel yn Sir Gaerfyrddin ac rydym yn cynnig
sesiynau mewn 4 ardal yn Sir Benfro pan mae’r tywydd yn caniatáu
(Cilmaen, Penfro, a Doc Penfro & Hwlffordd).
Fel y gwelwch mae’n ddarpariaeth wahanol iawn i’r un ychydig
fisoedd yn ôl, ond rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu parhau i
hyrwyddo ac eiriol dros Chwarae Plant yn y ddwy sir. Gwyddom ei bod
yn rhan bwysig o fywyd plentyn i allu chwarae’n rhydd yn eu hardal
leol, ac ymgorfforir hawl plant i chwarae yn yr UNCRC (Hawliau’r
Plentyn y Cenhedloedd Unedig).
Gallwch logi ein gwasanaethau: Ysgolion – sesiwn amser cinio am
£85.00 Hyfforddiant Goruchwylwyr Amser Cinio ar gael Sesiwn yn eich
cymuned leol - £150.00
Rydym hefyd yn llogi offer fel “Soft Play”, “Badge Machine”,
“Giant Jenga”
Am fwy o manylion cysylltwch â Jackie ar 01267 245555 neu ar
ebost: [email protected]
-
5 Llais Myrddin | Gaeaf 2014 / 15 | Rhifyn 61
Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr (CAVS)
yw’r cyngor gwirfoddol sirol ar gyfer Sir Gâr. Rydyn ni’n
eich gwahodd chi i ddod yn aelod o CAVS am £20 y
flwyddyn.
Dyma fydd manteision gwych yr aelodaeth i’ch mudiad
chi:
Hawliau pleidleisio yng Nghyfarfod Cyffredinol
Blynyddol CAVS
Cyfle i fod yn un o ymddiriedolwyr CAVS
Gostyngiadau ar hurio ystafelloedd cyfarfod
Gostyngiadau ar wasanaethau llungopïo
Gostyngiadau ar gyrsiau hyfforddiant CAVS sydd â ffi
Gostyngiadau ar hurio ‘Bws’ (swyddfa symudol yn
addas ar gyfer hyrwyddo / recriwtio)
Gostyngiadau ar system PA sylfaenol
Gostyngiadau ar hurio teclyn PCC
Mae eich aelodaeth yn werthfawr i CAVS oherwydd fe fydd yn ein
helpu i: ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth ar gyfer y
sector gwirfoddol a chymunedol, grwpiau nid-am-elw a mentrau
cymdeithasol yn Sir Gâr
recriwtio gwirfoddolwyr ar gyfer grwpiau yn Sir Gâr
hybu gwirfoddoli a gwaith y sector gwirfoddol ddarparu
hyfforddiant, a gweithdai gwybodaeth
a rhwydweithio gefnogi grwpiau i gael eu cynrychioli yn y
gwaith
o gynllunio’n strategol yn lleol ac wrth ddod i
benderfyniadau.
I ymaelodi â CAVS:
Llenwch y ffurflen ar-lein
http://www.cavs.org.uk/online-membership-
form/?lang=cy
E-bostiwch [email protected] neu ffoniwch 01267
245555 gan ofyn am ffurflen aelodaeth.
CEFNOGWCH NI ER MWYN I NI EICH
CEFNOGI CHI!
Mae The Recovery Wall yn brosiect newydd cyffrous a ddatblygwyd
gan WWAMH
mewn partneriaeth â CVCMedia.
Bydd y prosiect yn defnyddio cyfryngau digidol er mwyn hyrwyddo
adferiad a lles. Byddwn yn gweithio gyda defnyddwyr a darparwyr
gwasanaethau, gwirfoddolwyr a gweithwyr proffesiynol, pobl sy’n
gwella o broblemau iechyd meddwl, a’r sawl all helpu yn y broses
adfer, i adeiladu casgliad o storïau, astudiaethau enghreifftiol os
mynnwch, o bobl gyffredin sydd wedi dangos nerth a dewrder
anghyffredin ar y daith i wella.
Bydd y ffilmiau hyn yn helpu dangos yr effaith enfawr y mae
problemau iechyd meddwl yn ei chael ar fywydau unigolion a
theuluoedd, yn amlygu’r gwahanol
fathau o strategaethau a phyrth gwella y mae pobl yn dod o hyd
iddynt, ac yn mynd i’r afael â’r stigma sydd ynghlwm wrth broblemau
iechyd meddwl. Byddant hefyd yn syml yn rhoi gobaith i bobl fod
adferiad yn bosib.
Mae pethau wedi dechrau symud, gydag arian gan Arian i Bawb y
Loteri Genedlaethol. Felly, os oes gennych stori i’w hadrodd ac yn
credu y gallai ysbrydoli eraill, os hoffech ymuno â ni ar ein
taith, neu os ydych ond eisiau gwybod mwy am y prosiect, da chi
cysylltwch!
West Wales Action for Mental Health
www.wwamh.org.uk/recoverywall
01267 238 367
http://www.cavs..org.uk/online-membership-form/?lang=cyhttp://www.cavs.org.uk/online-membership-form/?lang=cyhttp://www.cavs.org.uk/online-membership-form/?lang=cyhttp://www.wwamh.org.uk/recoverywall
-
Llais Myrddin | Gaeaf 2014 / 15| Rhifyn 61 6
Y Gronfa Gwirfoddoli yng Nghymru 2015-2016
Mae’n bleser gan y Gronfa Gwirfoddoli yng Nghymru gyhoeddi
lansio grantiau gwirfoddoli 2015-2016. Nod y Gronfa Gwirfoddoli yng
Nghymru yw: 1. Cefnogi prosiectau gwirfoddoli (yn unol â’r
diffiniad yn atodiad 1) ffurfiol sy’n anelu at recriwtio,
cefnogi, hyfforddi a lleoli gwirfoddolwyr NEWYDD;
2. Hybu arferion da wrth wirfoddoli; a 3. Chefnogi datblygiad
gwirfoddoli mewn meysydd
sydd heb eu datblygu’n llawn megis grwpiau nad ydynt yn cael eu
cynrychioli’n ddigonol, ardaloedd sydd â llai o gyfleoedd neu
fathau o gyfleoedd gwirfoddoli.
D.S.: Gall grwpiau nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol
fod y gwirfoddolwyr a/neu fuddiolwyr y prosiect. Sut i wneud cais:
Am ragor o wybodaeth ac i lwytho’r ffurflenni cais a’r canllawiau i
lawr ewch i:
http://www.wcva.org.uk/funding/wcva-funding/volunteering-in-wales?seq.lang=cy-GB
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am grant yw 5pm ddydd Gwener 13
Mawrth 2015. Mae grantiau GwirVol hefyd wedi cael eu lansio, i gael
mwy o wybodaeth am y grantiau hyn ewch i
http://www.gwirvol.org/cy/mudiad/cyllid/
Cronfa Technoleg a Chyfryngau Digidol yn yr Iaith Gymraeg
2015-16
Sefydlwyd y Gronfa Technoleg a Chyfryngau Digidol yn yr Iaith
Gymraeg i ddarparu grantiau i gefnogi prosiectau sy’n annog
gweithgareddau sy’n ceisio hyrwyddo a hwyluso defnydd o’r Gymraeg,
drwy dechnoleg a chyfryngau digidol. Prif feysydd ffocws y cynllun
yw: Codi ymwybyddiaeth am feddalwedd, rhaglenni,
gwasanaethau ar-lein, offer creu cynnwys Cymraeg - a chynnwys
digidol Cymraeg, neu hyrwyddo'r defnydd a wneir ohonynt.
Cefnogi'r gwaith o ddatblygu gwasanaethau digidol sydd ar gael
ar-lein a meddalwedd Cymraeg.
Cynyddu faint o gynnwys digidol sydd ar gael ar-lein yn y
Gymraeg.
Mae gan y rhaglen gyllideb ddangosol o £200,000 ar gael i'w
dyrannu yn ystod 2015-2016. Bydd grantiau fel rheol yn amrywio o
isafswm o £5,000 i uchafswm o £50,000 fesul cais; fodd bynnag, mae
modd ystyried ceisiadau am symiau llai neu uwch na'r rhain.
Derbynnir ceisiadau gan fudiadau sector cymunedol a gwirfoddol,
elusennau, mentrau cymdeithasol, busnesau sector preifat a chyrff
sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae modd derbyn ceisiadau sy'n
cynnwys consortiwm o'r mudiadau a nodwyd uchod hefyd. Dim ond
ceisiadau ar gyfer gweithgareddau nad ydynt yn dod o dan gynlluniau
iaith Cymraeg statudol sydd ar gael i'r ymgeisydd/ymgeiswyr a
dderbynnir. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw hanner dydd
ar 30 Ionawr 2015. Am fwy o manylion ewch i:
http://cymru.gov.uk/
Arian i Bawb Cymru Mae Arian i Bawb Cymru yn rhaglen grantiau
bychain ar gyfer mudiadau gwirfoddol a chymunedol, gyda chefnogaeth
gan y Loteri Fawr a Chronfa Treftadaeth y Loteri. Prif nod y
rhaglen yw ariannu prosiectau sy’n cynnwys pobl yn eu cymunedau
lleol, gan ddod â nhw at ei gilydd i gymryd rhan a mwynhau
gweithgareddau treftadaeth, elusennol, iechyd, addysgol,
amgylcheddol a chymunedol o bob math. Rhoddir grantiau rhwng £500 a
£5,000 i ymgeiswyr llwyddiannus. Er mwyn cael mwy o wybodaeth am
Arian i Bawb Cymru gallwch fynd i wefan Cronfa’r Loteri Fawr
(www.biglotteryfund.org.uk/welsh) neu cysylltwch â swyddfa Cymru ar
01686 611740.
http://www.wcva.org.uk/funding/wcva-funding/volunteering-in-wales?seq.lang=cy-GBhttp://www.wcva.org.uk/funding/wcva-funding/volunteering-in-wales?seq.lang=cy-GBhttp://www.gwirvol.org/cy/mudiad/cyllid/http://cymru.gov.uk/http://www.biglotteryfund.org.ukhttp://www.biglotteryfund.org.uk/
-
7 Llais Myrddin | Gaeaf 2014 / 15 | Rhifyn 61
Arian i Bawb Cymru
Mae Mrs. Pat Gilbert, Cadeirydd y grŵp, yn esbonio sut mae’r
arian wedi helpu’r Clwb: “Gyda llawer o gymorth gan CAVS, llwyddodd
Cymdeithas Henoed Y Tymbl i gael grant Arian i Bawb i helpu trefnu
teithiau dydd. Un o’r rhai mwyaf cofiadwy oedd prynhawn oer o aeaf
a dreuliwyd yn mwynhau te yng Ngwesty’r Celtic Manor. Roeddem wedi
cyrraedd yn gynnar i fwynhau’r awyrgylch, aeth rhai pobl i’r bar
tra bod eraill wedi eistedd a gwylio’r byd yn mynd heibio. Pan
ddaeth ein hamser dyma eistedd ar y ddau fwrdd hir a drefnwyd ar
ein cyfer, ac edmygu’r ffordd y gosodwyd y bwrdd a’r llestri
hyfryd, ac yna dewis pa fath o de neu goffi roeddem eisiau ei yfed.
Yna dyma ni’n cael ein difetha’n rhacs gan staff yn cludo standiau
rhenciog yn cynnwys y brechdanau a’r cacennau bach mwyaf bendigedig
a welais erioed, ynghyd â bocsys cacennau ar gyfer unrhyw beth na
allem ei fwyta, a sachyn sbarion crand....... ac wedyn daeth
sgoniau yn ffres o’r ffwrn gyda photiau o jam a hufen....hyfryd.
Roeddem yn teimlo fel y teulu brenhinol - roedd yn brynhawn
cofiadwy iawn a diolch i’n grant cawsom brofiad a hanner.” Er mwyn
cael mwy o wybodaeth am gyllid ffoniwch Matthew Lawlor neu Sara
Edwards ar (01267) 245555 neu ar ebost [email protected]
neu [email protected]
Banc Bwyd Caerfyrddin
Mae Banc Bwyd Caerfyrddin wedi bod ar agor ers 4 blynedd ac fe
welsant gynnydd enfawr yn y galw. Dywedodd llefarydd ar ran y Banc
Bwyd: ‘Ym mis Ebrill 2011 cafodd 10 o bobl fwyd gennym ac ym mis
Ebrill eleni roedd y nifer wedi codi i 87 o bobl, a hyd yn hyn
rydym wedi bwydo 1,010 o bobl yn y flwyddyn ariannol hon. Y mis yma
mae’r Grŵp Seneddol Trawsbleidiol ar Dlodi Bwyd yn cyhoeddi
adroddiad o’r enw ‘Feeding Britain’, sy’n cefnogi’r honiad fod
tlodi gwirioneddol yn bodoli ym Mhrydain a bod Banciau Bwyd yn
wasanaeth pwysig iawn i helpu pobl sy’n cael eu hunain mewn
“argyfwng”.’ Mae Banc Bwyd Caerfyrddin yn dibynnu ar wirfoddolwyr i
redeg yn effeithlon ac mae ganddo tua 15 o wirfoddolwyr rheolaidd
sy’n rhoi eu hamser yn wythnosol i gael eu cyflenwad brys o fwyd.
Mae pob gwirfoddolydd yn mynd trwy Hyfforddiant a Thrin â Llaw Banc
Bwyd Ymddiriedolaeth Trussell. Mae gwirfoddolwyr hefyd wedi cael
hyfforddiant ychwanegol gan CAVS ar “Gadw’n Ddiogel” a
“Chyfrinachedd”, oedd yn sesiynau defnyddiol iawn. Mae gan y Banc
Bwyd gasgliad o wirfoddolwyr hefyd sy’n helpu mewn digwyddiadau
arbennig fel Casgliad Bwyd Cenedlaethol Tesco a digwyddiadau
arbennig eraill. Mae man casglu bwyd yn y Dderbynfa yn CAVS, ac
mae’r Banc Bwyd ei hun y tu ôl i Ale Bowlio Xcel yn Nhreioan,
Caerfyrddin. Er mwyn cael mwy o wybodaeth am Fanc Bwyd Caerfyrddin,
ffoniwch 01267 225996 neu 232101.
Mae’r Tîm Datblygu yn CAVS yn gweithio gyda nifer o fudiadau ar
draws y sir i’w helpu i gyflwyno ceisiadau i Arian i Bawb. Un o’r
mudiadau llwyddiannus oedd Cymdeithas Henoed Y Tymbl, a gafodd
arian er mwyn trefnu cyfres o deithiau dydd i aelodau’r clwb.
http://www.biglotteryfund.org.uk/
-
Llais Myrddin | Gaeaf 2014 / 15| Rhifyn 61 8
Prosiect KITe Rhagor o fanylion ar y tudalen blaen
Gwers un-i-un RAD AC AM DDIM: Trefnwch wers un i un ym mis
Ionawr neu Chwefror i ddechrau
meistroli eich technoleg newydd. Cwrs Dechreuwyr (6 sesiwn):
Dysgwch sut i ddefnyddio cyfrifiadur, pori’r rhyngrwyd a danfon
e-byst. Prynhawniau Mercher yn dechrau ar y 5ed Ionawr o 2 i 4pm;
boreau Iau yn dechrau ar Chwefror 19eg o 10 i
12pm. Sesiwn Galw Heibio Gyfrifiadurol: Dydd Iau 2 i 4pm (o’r
15fed Ionawr 2015)
Dewch i ofyn cwestiynau, cael cymorth, ymarfer a gwella eich
sgiliau. Nid oes angen trefnu ymlaen llaw.
Dechrau gwirfoddoli yn 2015 Ydych chi’n gallu defnyddio
cyfrifiadur? Allwch chi rannu’r hyn rydych yn ei wybod? Mae KITe yn
angen mwy o wirfoddolwyr i helpu gyda sesiynau galw heibio. Po
fwyaf o wirfoddolwyr sydd gennym yr hawsaf fydd helpu pobl. Os oes
gennych rywfaint o sgiliau digidol (‘does dim rhaid i chi fod yn
arbenigwr) ac yr hoffech chi helpu pobl eraill drwy rannu’r hyn a
wyddoch, cysylltwch â Clare Pilborough ar 01267 245555, ebost
[email protected] neu ewch i itkite.wordpress.com.
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
CAVS Ar Ddydd Mawrth, Ionawr 27ain 2015, 2.00—4.00 p.m. Yn Y
Mwnt, 18 Heol y Frenhines, Caerfyrddin. SA31 1JT.
I gynnwys Adolygiad Nawdd i’r Trydydd Sector Os hoffech ymuno â
ni, cysylltwch â Sara Edwards ar 01267 245555 neu ar ebost
[email protected]