Top Banner
intouch RHIFYN 73 | GAEAF 2012/13 | AM DDIM Cylchgrawn preswylwyr Tai Wales & West
52

Intouch Gaeaf 2012

Mar 01, 2016

Download

Documents

Cylchgrawn preswylwyr Tai Wales & West
Welcome message from author
This document is posted to help you gain knowledge. Please leave a comment to let me know what you think about it! Share it to your friends and learn new things together.
Transcript
Page 1: Intouch Gaeaf 2012

intouch RHIFYN 73 | GAEAF 2012/13 | AM DDIM

Cylchgrawn preswylwyr Tai Wales & West

Page 2: Intouch Gaeaf 2012

Oes gennych chi’r hyn sydd ei angen i fod yn aelod o’r Bwrdd sy’n Breswyliwr?Wyddech chi eich bod chi, fel un o breswylwyr WWH, yn gallu cynnig eich enw i gael eich ethol yn aelod o’r Bwrdd, cyn belled â bod eich

ddeg preswyliwr cymwys arall, fel yr ysgrifenna Kathy Smart, Cadeirydd Bwrdd WWH.

Sut allech chi ddod yn aelod o’r Bwrdd sy’n BreswyliwrDim ond dilyn pum cam hawdd:

Cynhelir y Diwrnod Gwybodaeth ar 21 Mawrth 2013 rhwng 10am a 4pm.Os oes gennych ddiddordeb, a’ch bod eisiau dod i’r Diwrnod Gwybodaeth, cysylltwch ag adain y Prif Weithredwr ar 0800 052 2526 cyn 13 Chwefror 2013.

Cam 1: Bydd gofyn i chi fynd i ‘Ddiwrnod Gwybodaeth’, gorfodol, lle byddwch chi’n dysgu am WWH, ei hegwyddorion

gweithio, yr ymrwymiad sydd ei angen o ran

Cam 2: Ar ôl bod yn y Diwrnod Gwybodaeth, bydd

diddordeb mewn dod yn Aelod o’r Bwrdd sy’n Breswyliwr.

Cam 3: Yna, fe gewch chi gyfarfod Anne Hinchey, y Prif Weithredwr, a fydd yn trafod gyda chi beth yw swyddogaeth a chyfrifoldeb bod yn aelod o Fwrdd WWH sy’n breswyliwr.

Cam 4: Nesaf, bydd gofyn i chi lenwi’r holl waith papur perthnasol.

Cam 5: Os byddwn yn cael mwy o enwebiadau na’r lleoedd sydd ar gael, bydd angen i ni gynnal etholiad. Mae pob preswyliwr yn cael pleidleisio, ac mae’r canlyniadau yn

blynyddol WWH.

Page 3: Intouch Gaeaf 2012

Llythyr y golygydd | intouch | www.wwha.co.uk | 03

Llythyr y Golygydd CynnwysNewyddion a gwybodaeth am WWH 4Elusennau 12Cynnal a chadw a gynlluniwyd 15Adroddiad chwarterol 18Cyfranogiad preswylwyr 24Byw’n wyrdd 28Datblygiadau diweddaraf 29Materion ariannol 30Arolwg bodlonrwydd preswylwyr 34Gwaith. sgiliau. profi ad 38Byw’n iach 40Ymddygiad gwrthgymdeithasol 44Eich newyddion a’ch sa wyn au 46Pen-blwyddi a dathliadau 50

Yn gyntaf oll – Blwyddyn Newydd Dda i bawb gennym ni i gyd yn Tai Wales & West. Nid oedd llynedd yn fl wyddyn hawdd i lawer ohonom, a gyda rhagor o newidiadau i fudd-daliadau lles ar eu ff ordd, mae’n ymddangos y bydd 2013 yn sicr o ddod â’i heriau ei hun i’w chanlyn.

Ond nid ydych ar eich pen eich hun. Nid eich landlord ydym ni’n unig, rydym yma i helpu hefyd.

Rydym yn gwybod fod arian yn brin i lawer ohonom, felly ar dudalennau 31 i 33 fe gewch ragor o wybodaeth am gyllidebu – mewn geiriau eraill, gwneud yn fawr o bob ceiniog sydd gennych chi.

Mae gennym ganlyniadau cyntaf Arolwg Bodlonrwydd Preswylwyr eleni (tudalen 34 – eich sa wyn au ar sut hwyl rydym yn ei gael ar bethau.) Yn ogystal, gallwch adolygu ein ffi gyrau perff ormiad diweddaraf yn ein Hadroddiad Chwarterol ar dudalennau 18 - 23.

Mae gennym gyfl e rhagorol i’w gynnig i breswyliwr ifanc uchelgeisiol yn ein hadran gwaith. sgiliau. profi ad (tudalen 38), ac rydych yn siŵr o gael eich ysbrydoli gan ein gardd gymunedol newydd yn Llaneirwg, Caerdydd (tudalennau 10 ac 11).

Yn olaf, diolch am eich holl gynigion yn ein cystadleuaeth ff otograff au Nadoligaidd – awgrymodd un o’n preswylwyr, Jane Styles, ein bod yn cynnal cystadleuaeth ff otograff au drwy’r fl wyddyn, felly rydym am wneud hynny yn awr – gweler y tu mewn i’r clawr cefn am ragor o fanylion.

Cofi on cynnes

Sarah Manners, Rheolwr Cysyll adau Cyhoeddus a Marchnata

intouch mewn ieithoedd a ff ormatau eraillOs hoff ech chi dderbyn copi o’r rhifyn hwn o In Touch yn y Saesneg neu mewn iaith neu ff ormat arall, er enghrai , mewn print bras, rhowch wybod i ni ac fe wnawn ni eich helpu chi.

Wyddech chi eich bod chi nawr yn gallu cael mwy o newyddion a diweddariadau ar-lein?

Dilynwch ni ar twi er @wwha

Cysylltu â niTai Wales & West Cyf., 3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2UD. Ffôn: 0800 052 2526 | Testun: 07788 310420 Ebost: [email protected] | Gwefan: www.wwha.co.ukMinicom: 0800 052 5205. Gallwch hefyd gysylltu ag aelodau o staff yn uniongyrchol drwy e-bost. Er enghrai , [email protected]

Page 4: Intouch Gaeaf 2012

04 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a gwybodaeth gyff redinol

Mae Cambria’r Gogledd, ail gam cynllun Tai Wales & West i ddarparu gwasanaethau cynnal a chadw ledled Cymru wedi bod ar waith ers 2 Ionawr 2013.Yn gweithredu o’i ganolfan yn Whi ord Road yn Nhreff ynnon, mae’r cwmni’n darparu cyfl ogaeth fedrus a sefydlog i 42 o bobl leol, ar ôl ymgymryd â’r cyfrifoldeb dros gynnal a chadw gan Bushmede Ltd.

Gyda ffl yd o 35 fan, bydd Cambria’r Gogledd yn cynnal gwaith cynnal a chadw wedi’i gynllunio ac atgyweiriadau adweithiol i Tai Wales & West yng ngogledd Cymru, o Gonwy i’r Drenewydd yng nghanolbarth Cymru.

Nodwch na fydd newid i’r modd y mae preswylwyr yn rhoi gwybod am yr angen am atgyweiriad. Os ydych yn byw yn un o’n cartrefi ac eich bod chi angen rhoi gwybod am atgyweiriad sydd angen ei wneud, ff oniwch rif rhadff ôn WWH 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos 0800 052 2526, fel arfer.

Dywedodd Nigel Parry, Pennaeth Cambria’r Gogledd: “Mae hwn yn gyfnod gwirioneddol gyff rous i bawb ohonom, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i ddarparu gwasanaeth eff eithlon o safon uchel i WWH a’i breswylwyr, gyda gwên ar ein hwynebau a sioncrwydd yn ein cerddediad.”

Bydd defnyddio Cambria i ddarparu gwasanaethau cynnal a chadw ledled Cymru yn gwella ein gwasanaeth ymhellach ac yn helpu i leihau costau gweithredu drwy weithio ledled Cymru.

“Fe wnaiff Cambria ein helpu ni i wneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd gennym,” meddai Steve Porter, Cyfarwyddwr Gweithrediadau WWH. “Fe wnawn nhw weithio gyda ni i ddarparu’r hyn sy’n bwysig o ddifrif i’n preswylwyr ledled Cymru, sef holl ddiben y cwmni.”

Cambria’r Gogledd nawr ar waith

Page 5: Intouch Gaeaf 2012

Newyddion a gwybodaeth gyff redinol | intouch | www.wwha.co.uk | 05

Cefnogi wyth pren siaeth yn Wrecsam

Dechreuodd y fl wyddyn newydd yn dda i wyth o bobl ifanc yn Wrecsam, gyda phob un yn mwynhau buddiannau pren siaethau yn ein datblygiad £15m yn y dref.Mae’r wyth, pob un rhwng 16 a 26 oed, yn dysgu eu cre drwy weithio gyda’r contractwyr sy’n arbenigo ar waith brics, Alan Davies and Sons, a fydd yn gwneud llawer o’r gwaith ar ein dau ddatblygiad yn Kingsmills Road a Rivulet Road.

Daw pedwar o Gyfadran Adeiladu a Pheirianneg Coleg Iâl, nid nepell o’r safl eoedd, ac fe gawn nhw eu hyff orddi fel bricwyr, tra bydd y pedwar arall, o Barc Caia, yn gwneud gwaith adeiladu cyff redinol gyda’r cyfl e i symud ymlaen at bren siaethau arbenigol.

Dywedodd Iain Murray, Rheolwr adeiladu’r contractwyr Anwyl Construc on: “Mae’n bwysig i Dai Wales & West a ninnau fod y prosiect hwn yn darparu cymaint â phosibl o gyfl eoedd hyff orddi o safon uchel.”

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Aelod Arweiniol Cyngor Wrecsam ar Dai a Chynllunio: “Mae hon yn enghrai arall o gydweithio’n llwyddiannus, ac rwy’n falch iawn y bydd pobl ifanc o’r ardal yn gallu

cael profi ad gwerthfawr drwy weithio ar y datblygiad hwn.”

Bydd ein datblygiadau deuol, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, yn arwain at godi 35 tŷ a rhandy ar Rivulet Road, 92 yn rhagor ar Kingsmills Road, ynghyd â Chyfl euster Meddygol ac Adnoddau Cymunedol newydd.

Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr Tai Wales & West: “Rydym wedi ymrwymo i hwyluso cyfl eoedd gwaith a hyff orddiant i bobl leol, a chefnogi’r economi leol drwy gyfl ogi cwmnïau lleol lle bynnag y mae hynny’n bosibl.”

Cadwch olwg am newyddion a chyfl eoedd cyfl ogaeth a hyff orddiant ar y datblygiad hwn ar www.hightownfl ats.com

Ewch i dudalen 39 am ragor o newyddion ynghylch cyfl eoedd gwaith a hyff orddiant yn Wrecsam.

Page 6: Intouch Gaeaf 2012

06 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a gwybodaeth gyff redinol

Sut rydym yn gosod ein cartrefi Rydym yn bwriadu newid y ff ordd rydym yn gosod ein cartrefi – a hoff em wybod beth yw eich barn.

Yn nau rifyn diwethaf In Touch, fe wnaethom roi gwybod i chi am y ‘dreth ar ystafelloedd gwely’ a sut gallai eff eithio arnoch chi. Ym mis Ebrill eleni, mae’r Llywodraeth yn torri faint o fudd-dal tai maen nhw’n ei dalu i unigolion a theuluoedd sydd yn eu barn nhw’n byw mewn tŷ neu ffl at sy’n rhy fawr iddyn nhw. Mae hyn yn gymwys i bobl o oedran gweithio. Yn gyff redinol, mae’n golygu:

• Pan fydd dau blentyn dan 10 oed mewn teulu, bydd disgwyl iddyn nhw rannu ystafell wely• Pan fydd dau o blant dan 16 oed ac o’r un rhyw, bydd disgwyl iddyn nhw rannu ystafell wely• Bydd pobl anabl sydd angen ystafell ychwanegol ar gyfer cyfarpar ddim ond yn cael hawlio un ystafell wely• Bydd cyplau sydd â chyfl wr meddygol sy’n golygu eu bod nhw angen ystafelloedd ar wahân ddim ond yn cael hawlio un ystafell wely• Bydd rhieni unigol sydd â mynediad at blant ddim ond yn cael hawlio un ystafell wely

Felly, sut bydd hyn yn eff eithio ar y ff ordd rydym yn gosod ein heiddo?Nid yw ein polisi ar osod cartrefi ’n newid, ond rydym yn bwriadu newid maint y llety rydym yn ei gynnig i rai teuluoedd.

Dim ond cartrefi a fyddai’n cael eu cyllido’n llawn drwy Fudd-dal Tai y byddwn yn eu gosod.

Rwy’n breswyliwr ar hyn o bryd. A fydd hyn yn eff eithio arnaf?Efallai y bydd yn eff eithio arnoch os ydych eisiau trosglwyddo o’ch cartref cyfredol gyda WWH i un gwahanol.

Er enghrai , os yw teulu yn cynnwys rhieni a dau o blant dan ddeg oed, yna mae rheolau’r dreth ar ystafelloedd gwely yn dweud mai dim ond dwy ystafell wely maen nhw eu hangen yn eu cartref. Yn yr amgylchiadau hyn, os ydyn nhw eisoes yn byw mewn tŷ dwy ystafell wely ac eisiau symud i dŷ mwy o faint, ni fyddem yn ystyried eu cais i symud gan fod eu cartref y maint cywir i’w teulu dan reolau’r budd-dal tai. Petai’r un teulu angen symud i ardal arall i dderbyn cynnig o swydd, yna fe fyddem yn eu hystyried ar gyfer tŷ dwy ystafell wely yn yr ardal newydd.

Mae’r tabl gyferbyn yn crynhoi’r prif newidiadau. Mae’n dangos pob math o lety sy’n cael eu gosod gennym a’r math o deuluoedd y byddem yn rhoi cartrefi ar osod iddyn nhw ar hyn o bryd, a’r math o gartrefi y byddem yn eu rhoi ar osod iddyn nhw yn y dyfodol. Gallai hyn newid yn y dyfodol os bydd y rheoliadau budd-daliadau tai yn newid hefyd.

Page 7: Intouch Gaeaf 2012

Newyddion a gwybodaeth gyff redinol | intouch | www.wwha.co.uk | 07

Os bydd eich budd-dal tai yn cael ei ostwng gan nad ydych yn defnyddio eich cartref i’w lawn botensial, fe rown ni fl aenoriaeth i chi symud i gartref llai o faint os mai dyna rydych chi ei eisiau. Os nad oes gennym gartrefi o’r maint cywir yn eich ardal chi, fe wnawn ni geisio helpu mewn ff ordd arall gel gofyn a allai cymdeithas dai arall helpu.

CARTREF I’W GOFRESTRUStiwdio/fflat/tŷ 1 ystafell wely

Ffl at / tŷ 1 ystafell wely

Ffl at, ffl at deulawr neu dŷ dwy ystafell wely

Ffl at, ffl at deulawr neu dŷ tair ystafell wely

Ffl at, ffl at deulawr neu dŷ pedair ystafell wely

MATH O DEULU(PRESENNOL)Unigolyn

Cwpl heb blant

Cwpl neu riant unigol gyda phlentyn Rhiant unigol gyda mynediad at blentyn

Cwpl neu riant unigol gyda 2 neu 3 phlentyn, heb ystyried eu rhywRhiant unigol gyda mynediad at 2 neu 3 phlentyn, heb ystyried eu rhyw

Cwpl neu riant unigol gyda 4 neu 5 plentyn, heb ystyried eu rhyw

MATH O DEULU(ARFAETHEDIG)Unigolyn

Cwpl heb blant

Rhiant unigol gyda mynediad at blentyn / plantCwpl neu riant unigol gyda phlentyn Cwpl neu riant unigol gyda 2 blentyn dan 10 oed

Cwpl neu riant unigol gyda 2 blentyn o’r un rhyw dan 16 oed

Cwpl neu riant unigol gyda bachgen a merch, gydag o leiaf un dros 10 oedCwpl neu riant unigol gyda 3 phlentyn Cwpl neu riant unigol gyda 4 plentyn (2 fachgen a 2 ferch)Cwpl neu riant unigol gyda 4 plentyn (3 o’r un rhyw, 1 o’r rhyw arall, lle mae o leiaf 2 o’r plant dros 10 oed, a ddim o’r un rhyw)

Cwpl neu riant unigol gyda 4 plentyn (3 o’r un rhyw, 1 o’r rhyw arall, lle mae o leiaf 3 o’r plant dros 10 oed)Cwpl neu riant unigol gyda 5 plentyn

Page 8: Intouch Gaeaf 2012

08 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a gwybodaeth gyff redinol

A oes unrhyw eithriadau i’r rheol hon?Mewn achosion eithriadol, fe wnawn ni ystyried ymgeiswyr am ystafell wely ychwanegol. Mae hyn yn debygol o ddigwydd os oes rheswm meddygol cryf dros y cais. Efallai y bydd achosion prin pan nad oes gennym deulu o’r maint priodol i gartref. Dan amgylchiadau o’r fath, efallai y gwnawn ni gynnig cartref i deulu llai o faint. Er hynny, eithriad fydd hyn yn hytrach na rheol, ac ym mhob achos, fe wnawn ni wirio bod yr ymgeisydd yn gallu ff orddio talu’r rhent sy’n ddyledus.

Pam rydym yn newid y rheolauMae swm y budd-daliadau tai y bydd preswylwyr yn ei golli os nad ydyn nhw’n defnyddio eu cartrefi i’w botensial llawn yn amrywio, ond cyfrifwyd y bydd preswylwyr sydd ag un ystafell wely dros ben yn colli £10 yr wythnos ar gyfartaledd, y bydd yn rhaid iddyn nhw ei dalu drwy fudd-daliadau eraill neu incwm arall. Ein sa wynt ni yw mai dim ond cartrefi a fyddai’n cael eu cyllido drwy fudd-dal tai y dylem eu rhoi ar osod. Rydym yn credu nad yw hi’n iawn i ni osod cartref i deulu nhw’n gallu ff orddio byw ynddo, a lle mae perygl o ddifrif y byddan nhw’n colli eu cartref os byddan nhw’n cronni ôl-ddyledion.

Beth am breswylwyr sydd ddim ar fudd-daliadau tai?

Rydym yn cynnig y bydd ein trefn newydd yn gymwys i bawb, beth bynnag yw eu hamgylchiadau ariannol. Rydym yn teimlo

y dylid cymhwyso’r drefn newydd yn gyfartal i’r rhai sy’n cael budd-daliadau tai a’r rhai nad ydyn nhw’n cael budd-daliadau tai a allai ff orddio’r rhent.

Nid yw cyfran cymharol fechan o’n preswylwyr yn cael budd-dal tai, ond o’n profi ad ni mae amgylchiadau preswylwyr yn newid, ac fe allen nhw fynd o waith cyfl ogedig i fudd-daliadau lles ac yn ôl unwaith eto’n aml.

Felly, beth yw eich barn chi?Cofi wch roi gwybod i ni beth yw eich barn chi. Y dyddiad cau ar gyfer sylwadau yw dydd Gwener 15 Chwefror 2013.

Gallwch gysylltu â ni Drwy lythyr: Cate Dooher, Pennaeth Gwasanaethau Cefnogi, Tai Wales & West, 3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Caerdydd CF24 2UD

Dros y ff ôn: 0800 052 2526

Drwy e-bost: le [email protected]

Ar ein gwefan: h p://www.wwha.co.uk/Pages/ContactUs.aspx

Drwy neges destun: 07788 310420

Drwy siarad gyda’ch Swyddog Tai

Mae modd i chi gael copi llawn o’n dogfen ymgynghori drwy gysylltu â’r Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 0800 052 2526 neu drwy lwytho copi i lawr o’r wefan www.wwha.co.uk

Page 9: Intouch Gaeaf 2012

Newyddion a gwybodaeth gyff redinol | intouch | www.wwha.co.uk | 09

Mae preswylwyr cynllun er ymddeol Sylvester Court yn Wrecsam yn dathlu ar ôl i’w gardd gymunedol newydd gael ei hagor ddiwedd Tachwedd.

Y Cynghorydd David Griffi ths, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol Oedolion, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, a gafodd y fraint o dorri’r rhuban i agor y gerddi newydd yn y cynllun poblogaidd ar Monger Road.

Dywedodd Vy Cochran, Swyddog Prosiect Datblygu Cymunedau WWH: “Mae’r prosiect hwn, dan arweiniad y preswylwyr, wedi trawsff urfi o safl e a dyfodd yn wyllt yn hafan dawel, a helpodd partneriaid y prosiect i godi dros £2,800 yn ystod y deuddeg mis diwethaf er mwyn cyfl awni’r gwaith hwn.”

Mae’r nodweddion allweddol yn cynnwys:• gwelyau plannu wedi’u codi, sydd o fewn cyrraedd defnyddwyr cadeiriau olwyn• tŷ gwydr a sied, wedi’u cyfrannu gan breswylwyr lleol• lleiniau penodol i dyfu ff rwythau, llysiau, salad a blodau ar gyfer Clwb Cinio Sylvester Court, a• pa o gyda dodrefn gardd, lle gall y preswylwyr eistedd a myfyrio ar eu cyfl awniadau.

Ychwanegodd Vy: “Ni fyddai’r prosiect hwn wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth gan nifer o sefydliadau.”

Mae’r rhain yn cynnwys:• Cymunedau yn Gyntaf Hightown• Age Concern Gogledd Ddwyrain Cymru• Cadwch Gymru’n Daclus• Gwirfoddolwyr Ymddiriedolaeth Brawf Cymru• Cyngor Cymuned Off a• Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam• Tai Wales & West

“Mae eu cefnogaeth wedi ein galluogi i brynu’r off er a’r deunyddiau sydd eu hangen i wneud y prosiect hwn yn llwyddiant,” meddai Val Groves, Cadeirydd grŵp garddio Preswylwyr Sylvester Court.

Ewch i dudalennau 10 ac 11, a 26 a 27 am ragor o newyddion ynghylch gerddi cymunedol ledled Cymru.

Yn y llun uchod, gwelir y Cynghorydd David Griffi ths yn torri’r rhuban i agor Gerddi Cymunedol Sylvester Court.

Gardd gymunedol newydd yn Sylvester Court

Page 10: Intouch Gaeaf 2012

10 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a gwybodaeth gyff redinol

Tyfu gyda’n gilydd gyda Gardd Gymunedol Llaneirwg

Mae preswylwyr Llaneirwg yng Nghaerdydd yn gweithio gyda WWH i drawsff urfi o llain o dir a dyfodd yn wyllt yn ardd gymunedol ff yniannus. Dyma Chris Walton, Rheolwr Tai ardal Caerdydd, yn egluro sut dechreuodd y cyfan…Dywedodd nifer o breswylwyr wrthym y bydden nhw’n hoffi gardd gymunedol yn Llaneirwg, felly daethom o hyd i lain addas ar Newent Road – rhan o ardd fwy o faint na allai’r preswyliwr presennol ei rheoli erbyn hyn.

Ym mis Medi 2012, daeth preswylwyr a staff Compact Llaneirwg (WWH, Hafod a Thai Linc) i weld yr ardd wag, a thros baned o goffi mewn canolfan arddio leol, dechreuodd y syniadau lifo.

Diwrnod clirio Penderfynodd y preswylwyr ein bod ni angen clirio’r ardd cyn i ni allu dechrau cynllunio. Felly, un diwrnod hyfryd o hydref ddiwedd Medi, cliriodd ein garddwyr gwirfoddol o Laneirwg yr holl chwyn a gwreiddiau dwfn o’r safl e, paen o’r ff ens a gosod llwybr newydd drwy ganol yr ardd.

Cael grant “Penwythnos gwyllt yng Nghymru” Cadwch Gymru’n DaclusMae’r grŵp wedi cael grant o £200 yn barod gan Cadwch Gymru’n Daclus i annog bywyd gwyllt i fyw yn yr ardd. Helpodd Swyddog Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr WWH, Claire

Hammond, y grŵp i ymgeisio am yr arian hwn, a fydd yn helpu i dalu am:• Fylbiau, hadau blodau gwyllt a lafant i ddenu gwenyn a gloÿnnod byw• coed i wneud blychau adar ac ystlumod• off er llaw, menig a chompost.

Roedd y grŵp hwn yn un o sawl set o arddwyr brwd ledled Cymru a lwyddodd i ymgeisio am gyllid gan Cadwch Gymru’n Daclus. Gweler tudalennau 26 a 27 am ragor o wybodaeth.

A’r tamaid nesaf o newydd da yw bod rhagor o gyllid wedi cael ei bennu gan dri landlord Compact Llaneirwg, sydd wedi cyfrannu hyd at £500 yr un tuag at ddatblygu’r Ardd.

Tudalen Facebook Mae’r grŵp wedi sefydlu tudalen Facebook hefyd i helpu’r gymuned i gael clywed y diweddaraf a chadw mewn cysyll ad. Os ydych chi’n defnyddio Facebook, ewch i:

www.facebook.com/StMellonsCommunityGarden

Bydd y grŵp yn defnyddio’r dudalen hon i rannu gwybodaeth, gan gynnwys:

Page 11: Intouch Gaeaf 2012

Elusennau | intouch | www.wwha.co.uk | 11

• Sut bydd yr ardd yn edrych / yn cael ei defnyddio gan y gymuned (gweler cynllun yr ardd gymunedol, a lwythwyd i fyny yn ddiweddar)• cyfarpar/planhigion/hadau y gallwch eu rhannu• unrhyw syniad neu sgil y gallwch eu rhannu gyda’r grŵp.

Felly, dywedwch wrthym beth yw eich barn am gynllun yr ardd, a rhannwch unrhyw syniad sydd gennych.

Beth nesaf?Mae Swyddog yr Amgylchedd a Chynaladwyedd WWH, Owen Jones, wedi cael coed ff rwythau cynhenid i Gymru a ddylai ff ynnu yn yr amgylchedd hwn, ynghyd â darparu digon o ff rwythau ff res, cartref i bobl leol fl wyddyn nesaf! Yn barod, rydym wedi plannu tair coeden afalau, gydag un o’r preswylwyr, Glenys Vandervolk (isod) yn cael yr anrhydedd

o blannu’r goeden gyntaf. Y cam nesaf yw plannu coed ceirios, eirin a gellyg fel y bydd gennym gnwd gwych unwaith y byddan nhw wedi sefydlu.

Bydd y gwelyau wedi’u codi yn cael eu hadeiladu dros y gaeaf fel y gallwn ddechrau plannu ff rwythau, llysiau a pherlysiau yn y gwanwyn.

Rydym hefyd yn cynllunio man i blant, fel y gall preswylwyr iau Llaneirwg gael rhan o’r ardd gymunedol iddyn nhw eu hunain.

Os cawsoch eich ysbrydoli, ac yr hoff ech gymryd rhan ym mhrosiect Gardd Gymunedol Llaneirwg, neu os hoff ech ragor o wybodaeth, cysylltwch â mi, Chris Walton, y Rheolwr Tai, yn Tai Wales & West ar 0800 052 2526.

Yn y llun ar y dde, staff a phreswylwyr WWH, yn cynnwys Chris Walton (ar y chwith eithaf) yn dechrau gweithio ar Ardd Gymunedol Llaneirwg yng Nghaerdydd

Page 12: Intouch Gaeaf 2012

Ew – £24,523.66! Ie, dyna faint rydym wedi ei godi ar gyfer yr elusen dros fi lwyr a glwyfwyd, Help for Heroes.Mae hi wedi bod yn ddwy fl ynedd wych, gyda phawb a gymerodd ran yn codi arian ar gyfer elusen mor deilwng. Mae staff , preswylwyr WWH, ff rindiau a theuluoedd wedi trefnu dwsinau o ddigwyddiadau rhyfeddol, o foreau coffi , diwrnodau gwisgoedd anff urfi ol, raffl au a phar on Nadolig i rai aelodau o staff yn ychwanegu’r ceiniogau o’u cyfl ogau misol at gronfa Help for Heroes. Yn wir, mae’r rhestr yn ddiddiwedd.

Y cyfanswm rydym yn ei roi tuag at yr elusen wych hon yw £24,523.66. Gan edrych tua’r dyfodol, rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi mai Cymdeithas Strôc Cymru a ddewiswyd fel elusen enwebedig WWH ar gyfer 2013 - 2014.

Os hoff ech gymryd rhan mewn gweithgareddau codi arian o unrhyw fath, cysylltwch â’n m elusennol, Di Barnes, Charmaine Deen, Leah Jenkins a Suzanne Round, a fydd yn falch o’ch helpu chi. Naill ai ff oniwch 0800 052 2526, neu e-bos wch [email protected]

Wyddech chi? Er 2005, mae staff , preswylwyr a Bwrdd WWH wedi codi dros £106,000 i ddwsinau o elusennau.

Ymdrech wirioneddol arwrol

12 | www.wwha.co.uk | intouch | Elusennau

Tîm elusennau WWH: Suzanne Round, Di Barnes, Charmaine Deen a Leah Jenkins

Page 13: Intouch Gaeaf 2012

Elusennau | intouch | www.wwha.co.uk | 13

Wyddech chi?• Yn ôl elusen Ymddiriedolaeth Trussell, mae 13 miliwn o bobl yn awr yn byw dan y llinell dlodi yn y Deyrnas Unedig.• Bob dydd, mae pobl yn y Deyrnas Un edig yn llwgu am resymau sy’n amrywio o ddiswyddiadau i gael bil annisgwyl ar incwm isel.• Yn 2011-12, bwydodd banciau bwyd 128,687 o bobl ledled y wlad, 100% yn fwy na’r fl wyddyn fl aenorol.• Mae banciau bwyd yn darparu lleiafswm o dri diwrnod o fwyd mewn argyfwng a chefnogaeth i bobl sy’n profi caledi yn y Deyrnas Unedig.

Yn awr, mae WWH yn cefnogi gwaith hanfodol banciau bwyd gyda’n mannau casglu ein hunain yn:• Y Brif Swyddfa• Swyddfa’r Ffl int• Hanover Court, y Barri• Tŷ Ponthrun, Merthyr Tudful• Cwrt Anghorfa, Pen-y-bont ar Ogwr

Croesewir cyfraniadau o fwydydd tun, a phethau nad ydyn nhw’n pydru, gan staff a phreswylwyr unrhyw dro. Am ragor o fanylion, ewch i www.trusselltrust.org./foodbank-projects

Cefnogi eich banc bwyd lleol

Yn y llun uchod: Herman Valen n, Swyddog Prosiect Datblygu Cymunedau, gydag Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWH, Ian Purcell o Fanc Bwyd Caerdydd a Tony Graham o Ymddiriedolaeth Trussell.

Page 14: Intouch Gaeaf 2012

14 | www.wwha.co.uk | intouch | Elusennau

Ydych chi’n cofi o Mis Tash-wedd?!?

Bydd yr holl arian a gasglwyd yn mynd tuag at yr elusen sy’n mynd i’r afael yn benodol â chanser y brostad. Fe ddechreuodd pawb ag wynebau wedi’u

Fe wnaeth sawl aelod o staff WWH, gan gynnwys Michael Barker (yn y llun uchod), Tom Griffi ths a Nigel Canterbury helpu i godi dros £150 yn ystod ‘Mis Tash-wedd’ – mis Tachwedd gyda mwstas!

heillio ar 1 Tachwedd, ac yna ar hyd y mis fe wnaethon nhw dyfu mwstashis gwych. Da iawn i bawb a gymerodd ran!

Opera on Christmas ChildLlawer o ddiolch i Gyfrifydd Ariannol WWH, Louise Carpanini a’i thîm o helpwyr, ynghyd â’r rhai a gyfrannodd at y cynllun hwn, oherwydd gyda’i gilydd, fe wnaethon nhw sicrhau bod 103 bocs yn llawn anrhegion ar eu ff ordd i Belarus, un o wledydd tlotaf a lleiaf datblygedig Ewrop. Fe wnaeth yr anrhegion Nadolig hyn, gan gynnwys teganau, beiros, pensiliau a nwyddau ymolchi, he au gwlân a menig, helpu i ddod â gwên i wynebau rhai o blant tlotaf yr Undeb Ewropeaidd yn ystod cyfnod y Nadolig.

Page 15: Intouch Gaeaf 2012

Cynnal a chadw wedi’i gynllunio | intouch | www.wwha.co.uk | 15

Dywedodd Mrs Lillian Jacobs (yn y llun ar y dde), sydd wedi byw mewn ffl at un ystafell wely yn Doyle Court er 2007, “Rwyf wrth fy modd gyda’m gwres canolog.

“Mae’n wych, yn hawdd ei reoli gyda’r thermostat, ac mae’r gwres a’r dŵr poeth yn dod yn ddiymdroi. Mae’r bwyler ie hunan mor dawel ac wedi ffi o mor hawdd yn fy nghwpwrdd yn y gegin. Roedd y gweithwyr yn hyfryd a chwrtais, ac ni wnaethon nhw unrhyw lanast, gan gytuno ag unrhyw newid oeddwn i ei eisiau, fel rhoi rheiddiadur mewn lle penodol. Yn ogystal, fe wnaethon nhw ddweud wrthyf sut i’w ddefnyddio, a gadael gwybodaeth ddefnyddiol i mi.

“Roedd y gwresogyddion storio dros nos, y daeth y bwyler nwy yn eu lle, yn drwsgl a hyll, ynghyd â bod yn anodd eu defnyddio, ac roedden nhw’n cymryd llawer o le. ”

Cynhaliodd y contractwr PH Jones/Nwy Prydain y newid tanwydd, yn dilyn gosod cegin newydd gan GKR Maintenance.

“Ar ben cael gwresogydd newydd, mae gen i gegin newydd hefyd, a gafodd ei

gosod rhyw bum mis yn ôl, ac rydw i’n teimlo fel plentyn wedi cael lolipop.

“Rydw i wrth fy modd gyda’m ffl at. Dyna beth rydw i’n ei hoffi ynghylch WWH, mae ganddyn nhw bobl gwrtais iawn yn gweithio iddyn nhw.”

Rydym wedi cynnal 260 tasg newid tanwydd o drydan i nwy, mewn cartrefi ledled Cymru.

Dywedodd Rheolwr Cynllun Doyle Court, Nigel Canterbury “Mae gwres canolog nwy gymaint gwell a glanach, mae modd ei reoli’n llwyr ac mae’n ymateb i anghenion y ffl a au unigol. Roedd y gwresogyddion storio dros nos yn ferwedig drwy’r nos, a oedd yn sychu’r aer, ac roedden nhw’n oeri tua 5pm ar y rhan fwyaf o ddyddiau, felly roedd angen ategu’r gwres ar adegau. Mae’r bwyleri newydd hyn gymaint yn well.”

“Rydw i wedi gwirioni gyda fy ngwres canolog newydd”Yn ddiweddar, fe wnaethom osod gwresogyddion canolog nwy yn lle gwresogyddion storio dros nos yng nghartrefi pob un o 32 preswyliwr Doyle Court, y Tyllgoed, Caerdydd.

Page 16: Intouch Gaeaf 2012

16 | www.wwha.co.uk | intouch | Cynnal a chadw wedi’i gynllunio

Yr ateb i’r cwes wn hwn yw OES! Fel eich landlord, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i sicrhau fod y bwyler nwy yn eich cartref yn cael ei wasanaethu bob blwyddyn, fel yr ysgrifenna’r Rheolwr Masnachol, Mike Wellock.Pam? I sicrhau ei fod yn gweithio’n iawn, nad yw’n gollwng nwyon carbon monocsid a allai fod yn farwol, ac nad yw eich iechyd a’ch lles mewn perygl.

Mae carbon monocsid yn nwy hynod beryglus sy’n cael ei ollwng pan fydd tanwydd, gan gynnwys nwy, yn cael ei losgi pan nad yw eich cyfarpar gwresogi yn gweithio’n briodol, pan nad yw’r simnai yn glir neu pan nad yw’r ystafell wedi cael ei hawyru’n iawn. Bryd hynny, gall carbon monocsid gronni’n gyfl ym a mygu’r rhai sydd wrth law.

Mae’r mwyafrif o’n preswylwyr yn deall ac yn gwerthfawrogi’r angen am y gwasanaeth blynyddol hwn, ac yn gweithio gyda ni i sicrhau fod modd i’r gwaith gael ei gynnal. Er hynny, yn anff odus mae ambell un sydd ddim yn meddwl bod y gwasanaeth blynyddol hwn yn angenrheidiol, ac nad ydyn nhw’n caniatáu i’r contractwyr ddod i’w cartref, sy’n golygu fod eu bwyler yn parhau heb ei brofi .

Wyddech chi, fod tua 50 o bobl ar gyfartaledd yn marw o wenwyn carbon monocsid bob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig, a bod 200 yn cael niwed difrifol, a 4000 yn rhagor yn cael eu heff eithio bob blwyddyn, gan wynebu’r posibilrwydd o eff eithiau hirdymor ar eu hiechyd?

Mae gwasanaethu bwyler yn broses sydyn a glân, felly helpwch ni i sicrhau nad ydych chi a’ch teulu yn dod yn rhan o’r ystadegau. Mae’n hawdd trefnu apwyn ad. Bydd ein contractwr PH Jones yn cysylltu â chi pan fydd eich bwyler angen gwasanaeth, a’r cyfan y mae’n rhaid i chi ei wneud ydi cytuno ar amser sy’n gyfl eus i chi iddyn nhw gael dod i’ch cartref.

Unwaith y byddan nhw wedi bod, fe fyddwch chi nid yn unig yn gwybod bod eich cartref yn ddiogel, ond fe gewch chi hefyd eich cynnwys yn ein raffl am un o ddwy wobr o £250 sydd ar gael bob tri mis.

Yn achos y rhai sy’n gwrthod rhoi caniatâd i ni fynd i’w cartref i wasanaethu’r bwyler, efallai na fydd y canlyniadau mor llawen.

Ar y gwaethaf, gallai arwain at farwolaeth neu niwed difrifol, ac ar y gorau bydd yn sicr o arwain at wŷs i fynd i’r llys, gorfod talu £150 tuag at gostau’r llys a gorfodi mynediad i’ch cartrefi , i wneud tasg y gallech chi fod wedi ennill siec am £250 am adael i ni ei gwneud.

So do I really need to have my gas boiler serviced every year?

Sicrhewch fod eich bwyler yn cael ei wasanaethu bob blwyddyn - rydych yn gwybod fod hynny’n gwneud synnwyr.

Page 17: Intouch Gaeaf 2012

Cynnal a chadw wedi’i gynllunio | intouch | www.wwha.co.uk | 17

CeginauTwyncarmel, Merthyr TudfulVictoria Road, y Rhyl

Ystafelloedd ymolchi / Cawodydd dros faddonauParhau â’r gwaith yn Spruce Close a Sapele Drive, East Tyndall Street, Caerdydd Cartrefi er ymddeol yn Hanover Court, y BarriClos y Wern, Bracla, Pen-y-bont ar OgwrClos y Waun, Bracla, Pen-y-bont ar Ogwr

Cynnal a chadw wedi’i gynllunio, gwanwyn 2013

Cyfl e i ennill £250 a bod yn ENILLYDD ff odusMiss Kirsten Axon o Ben-y-bont ar Ogwr a Mr a Mrs Griffi ths o Aberhonddu oedd enillwyr ff odus siec am £250, bocs o siocledi a thusw o fl odau’r un. Yr unig beth oedd yn rhaid iddyn nhw ei wneud i fod yn gymwys ar gyfer y gystadleuaeth oedd sicrhau bod eu bwyler nwy yn cael ei wasanaethu ar eu hapwyn ad CYNTAF, neu roi o leiaf 48 awr o rybudd i ni ohirio’r ymweliad. Roedd Mr a Mrs Griffi ths wedi synnu gymaint eu bod nhw wedi ennill, ac fe fyddan nhw’n rhoi’r arian i helpu eu mab hynaf, Joshua, sydd yn y brifysgol. Mae’n astudio i fod yn athro cynradd. Roedd Kirsten yn bwriadu rhoi’r arian tuag at anrhegion Nadolig.

Mr a Mrs Griffi ths gyda’u henillion (top)Miss Axon gyda’i phlant Shane a Madison

(gyferbyn)

Ffenestri / DrysauSt Catherines Court, Caerffi li

Newid tanwyddHillbrook Court, CrughywelCae Mawr, Llandudno

Page 18: Intouch Gaeaf 2012

18 | www.wwha.co.uk | intouch | Crynodeb o’r fl wyddyn - Ionawr i Ragfyr 2012

Beth sy’n bwysig i chi?

Fel bob amser, rydym yn gwerthfawrogi’n fawr cael clywed eich barn am y gwasanaethau rydym yn eu darparu, felly rydym bob amser yn croesawu eich sylwadau a’ch adborth.

Sylw ar ren Yn y rhifyn hwn rydym wedi canolbwyn o ar ein gwasanaeth casglu rhen . Fel y byddwch yn ymwybodol, mae’r rhent rydym yn ei gasglu gan ein holl breswylwyr yn hanfodol i dalu am y gwasanaethau rydych eisiau i ni eu darparu. Mae’r rhain yn cynnwys gosod ac uwchraddio ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd, ff enestri a drysau newydd, gwasanaethau rheoli stadau a rheoli ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Felly, mae’n bwysig iawn i ni ein bod ni’n gwneud popeth allwn ni i’ch helpu chi i dalu eich rhent a rheoli eich arian yn eff eithlon. Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o ddulliau talu, gan gynnwys y dewis didraff erth o dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol. Rydych wedi dweud wrthym yr hoff ech chi ragor o ddewisiadau o ran dyddiadau talu, felly nawr rydym yn cynnig ystod ehangach o ddyddiadau.

Rydym yn cwrdd â phob darpar breswyliwr ac yn trafod cyllidebau eu teulu er mwyn rhoi syniad iddyn nhw beth fyddai cost byw yn un o’n cartrefi . Mae hyn yn rhoi’r wybodaeth gywir iddyn nhw i benderfynu a ydyn nhw eisiau derbyn tenan aeth gyda ni y gallan nhw ei ff orddio a’i chynnal.

Drwy bob tenan aeth, mae ein swyddogion yn cadw mewn cysyll ad â phreswylwyr

i gynnig cefnogaeth wrth i amgylchiadau preswylwyr newid. Gallai hyn gynnwys dechrau gweithio, plant yn gadael cartref a newidiadau eraill yn y teulu. Gall pob un o’r rhain eff eithio ar yr hawl i fudd-daliadau a faint mae angen i’n preswylwyr ei dalu. Gall ein swyddogion ddarparu cyngor i helpu i reoli’r newidiadau hyn.

Yn ei hanfod, rydych wedi dweud wrthym mai’r pethau hyn sydd fwyaf pwysig i chi, a’ch bod chi eisiau gwybodaeth glir a manwl ar y materion a ganlyn:

• Faint mae’n rhaid i mi ei dalu• Sut gallaf dalu – drwy ddulliau talu gwahanol ac ar adegau sy’n addas i mi• Sut gallaf ei ff orddio• Sut gallaf gael mynediad at gyngor a chefnogaeth

Rydym yn ceisio darparu ein gwasanaeth yn seiliedig ar yr hyn sy’n bwysig i chi.

Ydych chi’n cytuno â’r rhain? Ydyn ni’n canolbwyn o ar y pethau iawn yn eich barn chi?Os nad ydym, cofi wch ddweud wrthym beth yr hoff ech i weld yma. Mae casglu rhent yn rhan ganolog o’n busnes, Rent felly rydym wedi rhoi cefnogaeth, hyff orddiant ac off er arbenigol i’n staff i’w helpu nhw i gynnig yr holl gefnogaeth rydych ei angen i reoli eich cyllidebau o ddydd i ddydd; talu eich biliau a’ch cyfeirio chi at sefydliadau partner eraill os byddwch angen cymorth arbenigol.

Rydym yn ymwybodol o’r hinsawdd economaidd anodd iawn y mae pawb

Dyma ein trydydd rhifyn o’n herthygl nodwedd reolaidd ar berff ormiad ym mhob agwedd ar ddarparu gwasanaethau. Y tro hwn rydym yn rhoi gwybod am ein perff ormiad dros y 12 mis diwethaf.

Page 19: Intouch Gaeaf 2012

Crynodeb o’r fl wyddyn - Ionawr i Ragfyr 2012 | intouch | www.wwha.co.uk | 19

ohonom yn ei hwynebu, felly mae’n bwysig iawn ein bod ni’n gweithio gyda’n gilydd i roi’r holl gefnogaeth y gallwn ei roi i chi. Mae hyn, ynghyd â’r newidiadau i fudd-daliadau, gan gynnwys y ‘dreth ar ystafelloedd gwely’ fel y’i gelwir hi, yn golygu fod pawb ohonom yn wynebu dyfodol heriol dros y blynyddoedd nesaf.

Serch hynny, rydym hefyd yn cydnabod nad yw pawb yn fodlon gweithio gyda ni i ddatrys

unrhyw faterion ynghylch rhent. Pan fydd hyn yn digwydd, byddwn yn cymryd camau i ddatrys pethau. Gall hyn arwain at lys yn rhoi gorchymyn troi allan, a’r preswylwyr yn colli eu cartref. Nid ydym eisiau troi pobl allan o’u cartrefi , ond efallai y bydd yn rhaid gwneud hynny fel dewis olaf os na fyddwch yn gweithio gyda ni i ddatrys ôl-ddyledion rhent.

Felly, sut rai ydym ni am gasglu rhent ac ym mhob agwedd arall ar y busnes? (Yr holl ffi gyrau rhwng Ionawr a Rhagfyr 2012)

Rhent97.7%

Rydym wedi casglu 97.7% o’r rhent sy’n ddyledus fan

breswylwyr, sydd dros £37m

Mae gan 33% o deuluoedd mewn tai rhent neu dai a reolir

ôl-ddyledion - 3,133 o breswylwyr

33%

O’r rhain, mae ar 28% ohonyn nhw lai na £50

28%

Er gwaetha’r amgylchedd economaidd heriol, mae staff wedi bod yn gweithio’n agos gyda phreswylwyr i’w helpu a’u cefnogi gyda’u taliadau rhent. Felly, mae’n wych gweld fod dros hanner y rhai sydd ag ôl-ddyledion yn gwneud taliadau ac yn gweithio i ostwng y dyledion hynny.

Fel y nodwyd, nid ydym eisiau troi preswylwyr allan, ac rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gymorth, gan gynnwys atgyfeirio at y mudiad Cyngor Ariannol a sefydliadau perthnasol eraill. Serch hynny, fe wnawn ni droi preswylwyr allan os nad ydym yn gallu gweithio gyda nhw i ddatrys eu problemau.

60%Mae 60% o deuluoedd tai

rhent yn cadw at eu taliadau ac yn talu ôl-ddyledion

Rydym wedi troi 18 preswyliwr allan o’u cartrefi

18

Page 20: Intouch Gaeaf 2012

20 | www.wwha.co.uk | intouch | Crynodeb o’r fl wyddyn - Ionawr i Ragfyr 2012

Atgyweiriadau

70%

97%

98%Atgyweiriadau a

gwblhawyd mewn un ymweliad

Atgyweiriadau llwyddiannus

18.5Nifer cyfartalog y diwrnodau a

gymerwyd i gwblhau atgyweiriad

Bodlonrwydd preswylwyr

Cydymff urfi o â diogelwch nwy

158 o gartrefi ’n weddill lle mae angen gwasanaethu’r

off er nwy

9.5 10

/

Mae Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria wedi ehangu a chynyddu cwmpas ei waith yn ne a chanolbarth Cymru drwy gydol 2012. O’r mis hwn hefyd, mae Cambria yn darparu’r gwasanaethau cynnal a chadw yng Ngogledd Cymru.

Yn dilyn adborth o arolygon bodlonrwydd amrywiol, rydym wedi arbrofi gyda’r ff ordd rydym yn cyfl awni atgyweiriadau adweithiol yn ne a chanolbarth Cymru, fel yn y mwyafrif o achosion, mae apwyn adau’n cael eu gwneud y tro cyntaf y bydd rhywun yn rhoi gwybod am yr angen am atgyweiriad.

Yn erbyn y cefndir hwn, mae perff ormiad drwy gydol 2012 wedi parhau’n gyson, ac mae sgoriau bodlonrwydd cwsmeriaid yn parhau’n uchel.

Page 21: Intouch Gaeaf 2012

Crynodeb o’r fl wyddyn - Ionawr i Ragfyr 2012 | intouch | www.wwha.co.uk | 21

Cynnal a chadw wedi’i

gynllunio

Ceginau a gwblhawyd

Ystafelloedd ymolchi a gwblhawyd

Gosod ff enestri newydd

Gosod bwyleri newydd

478wedi’u gwneud

hyd yn hyn

99% wedi’u cwblhau hyd yn

hyn

96% wedi’u cwblhau hyd yn hyn

250/25399% wedi’u

cwblhau hyd yn hyn

1037/1079

592/601

Bodlonrwydd preswylwyr

8.5 10

/

Mae rhaglen cynnal a chadw wedi’i gynllunio 2012 wedi cael ei chyfl awni yn ôl y bwriad, gyda lefel uchel o fodlonrwydd ymysg preswylwyr yn gyson. Dim ond dau faes sydd wedi’u nodi fel rhai sydd angen eu gwella, sef addurno a chyfathrebu. Rydym yn dysgu yn sgil adborth, ac yn gweithio i sicrhau fod y materion hyn yn gwella.

Roedd ein cwmni cynnal a chadw, Cambria, yn gyfrifol am osod nifer cynyddol o geginau ac ystafelloedd ymolchi, a bydd hyn yn parhau yn 2013.

Page 22: Intouch Gaeaf 2012

22 | www.wwha.co.uk | intouch | Crynodeb o’r fl wyddyn - Ionawr i Ragfyr 2012

Gosod ac adeiladu cartrefi

707Rhoesom 707 o gartrefi ar osod

46Nifer y tai newydd

a adeiladwyd 9Nifer y ffl a au

newydd a adeiladwyd

Bodlonrwydd preswylwyr

9.5 10

/

O blith y cyfanswm, cawsom 8 tŷ ac 1 ffl at drwy ein cynllun achub morgeisi, lle gwnaethom helpu pobl gydag anawsterau ariannol i aros yn eu cartrefi eu hunain.

Mae gennym raglen ddatblygu gref sy’n adeiladu cartrefi ledled Cymru, ac mae gennym nifer fawr o gynlluniau yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd.

Rydym yn parhau i ailosod cartrefi ledled Cymru, ac mae galw mawr am ein cartrefi . Rydym yn gweithio’n agos gyda phartneriaid yn yr awdurdodau lleol sydd â rhestrau aros yng Nghaerdydd, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf, ac yn rhan o weithgorau ym Mhowys a gogledd Cymru sydd ar hyn o bryd yn datblygu llwybrau mynediad unigol at dai, gyda’r nod o’i gwneud yn haws i ymgeiswyr a phreswylwyr ymgeisio am dai drwy un modd.

Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid / Larwm mewn

argyfwng

98%203,347 Nifer y galwadau a

atebwyd o fewn 30 eiliad

Cyfanswm nifer y galwadau a atebwyd

5Hyd cyfartalog yr amser ateb

- 5 eiliad

127,472

Ffonau

75,875

Larwm mewn argyfwng

Page 23: Intouch Gaeaf 2012

Crynodeb o’r fl wyddyn - Ionawr i Ragfyr 2012 | intouch | www.wwha.co.uk | 23

Mae nifer yr achosion rydym wedi delio â nhw yn 2012 wedi aros yn gyson gyda lefelau 2011, ond mae’r ff ordd a’r cyfl ymder yr ydym wedi delio â nhw wedi gwella. Mae’r amser cyfartalog cyn i ni archwilio achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi gostwng o 22 diwrnod yn 2011 i 17 yn 2012, ac mae hyn wedi digwydd oherwydd ein bod wedi gweithio’n llawer agosach gyda phreswylwyr i ddatrys achosion a chymryd camau lle bo’r angen.

Rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth o asiantaethau sy’n ceisio delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Yn aml rydym yn cydweithio â’r heddlu a thimau llygredd sŵn. Rydym hefyd yn atgyfeirio at Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol.

Felly, beth ydych chi’n ei feddwl am ein perff ormiad?Os oes gennych chi sylwadau neu adborth ar unrhyw beth rydym wedi ei ddweud wrthych chi, cofi wch roi gwybod i ni. Gallwch gysylltu â ni ynghylch hyn neu unrhyw fater arall, unrhyw dro. Gellir rhoi adborth mewn amrywiaeth o ff yrdd – ar-lein drwy ein gwefan, e-bost, llythyr, ff ôn, neges destun, neu wyneb yn wyneb ag aelod o staff yn ein swyddfeydd.

• Rydym bob amser yn falch o glywed

gennych chi, pa un ai eisiau gofyn cwes wn ydych chi, dweud rhywbeth wrthym ni, awgrymu rhywbeth, canmol neu gwyno.

• Mae’r adborth hwn yn ein helpu ni i wneud penderfyniadau ynghylch ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol a gwelliannau i’n gwasanaethau.

Yn olaf, yn rhifyn nesaf In Touch, byddwn yn rhoi’r data diweddaraf i chi am ein perff ormiad fel busnes yn ystod y cyfnod rhwng Ionawr a diwedd Mawrth 2013.Diolch!

Cymdogaethau sy’n gweithio

778 1436

17Nifer cyfartalog y dyddiau

i archwilio - ASB

Ymddygiad gwrthgymdeithasol

(difrifol, gan gynnwys troseddol)

Digwyddiadau y cawsom wybod amdanyn nhw

10Nifer cyfartalog y dyddiau i archwilio – rheoli ystadau Bodlonrwydd preswylwyr

7.8 10

/

658Materion rheoli ystadau

sy’n eff eithio ar denan aethau

Page 24: Intouch Gaeaf 2012

24 | www.wwha.co.uk | intouch | Cyfranogiad preswylwyr

Mae cyfranogiad preswylwyr yn golygu defnyddio eich sa wyn au i wella ein gwasanaethau a’ch cymuned. Llynedd, fe ddywedom wrthych am ein Strategaeth newydd ar Gyfranogiad Preswylwyr, sy’n amlinellu sut rydym yn gweithio yn unol â’n gwerthoedd i sicrhau fod ein gwasanaethau yn cwrdd â’ch anghenion, a sut gallwn gydweithio i wella lle’r ydych chi’n byw.

Mae eich barn yn gwella ein gwasanaethau

Yn awr, rydym wedi diweddaru’r strategaeth yn dilyn adborth gan Lywodraeth y Cynulliad, gan gynnwys rhagor o fanylion ar y modd rydym yn adolygu cyfranogiad preswylwyr, sut mae’r strategaeth hon yn cysylltu â’n cynllun corff oraethol, a darparu canlyniadau cliriach.

Rydym hefyd wedi diweddaru ein cynnydd dros y fl wyddyn ddiwethaf, gan gynnwys:

• sut rydym yn bwriadu dweud wrthych chi am ein dull meddwl drwy systemau, a chynnwys preswylwyr yn well wrth i ni ail-ddylunio maes gwasanaeth.• ein dull newydd a symlach o ddelio â chwynion.• ein dull Cysylltu â ni a’n gwefan, lle gallwch rannu sylwadau gyda ni.• ein hadolygiad o Gynlluniau Gwella Ardaloedd, sy’n golygu bod penderfyniadau’n cael eu gwneud ar lefel leol, fel y gallwch weld sut rydym wedi gwella eich stad neu eich cynllun, yn seiliedig yn uniongyrchol ar yr hyn a ddywedoch.• sut rydym yn bwriadu cynnig adborth i chi ar ein cynnydd, beth rydych wedi dweud wrthym sy’n bwysig i chi a sut rydym wedi defnyddio eich sa wyn au i wneud gwelliannau.

Mae gan ein strategaeth nod newydd, hefyd, yr ydym yn teimlo ei bod yn adlewyrchu pam ein bod ni’n ymwneud â Chyfranogiad Preswylwyr. Y nod yw “cynnwys ein preswylwyr mewn gwella ein gwasanaethau a’u cymunedau, a chynyddu ein hatebolrwydd i’n preswylwyr.”

Fel bob amser, mae’r diweddariadau wedi cael eu cymeradwyo gan ein Grŵp Llywio Cyfranogiad Preswylwyr (RPSG) a’n Bwrdd Rheoli

I ddarllen y strategaeth lawn, ewch i:www.wwha.co.uk/Residents-Area/Ge ng-Involved

Neu, os nad ydych ar-lein eto, gallwn anfon copi papur atoch chi. Cysylltwch â ni drwy’r dulliau arferol:• 0800 052 2526 y Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid• Siaradwch gyda’ch Swyddog Tai• Anfonwch neges destun atom: 07788 310420

Claire HammondSwyddog Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr

Page 25: Intouch Gaeaf 2012

Cyfranogiad preswylwyr | intouch | www.wwha.co.uk | 25

Fe wnaeth aelodau o’n Grŵp Llywio Cyfranogiad Preswylwyr (RPSG)fynd i ddwy gynhadledd a ddaeth â phreswylwyr a staff tai cymdeithasol ynghyd o bob rhan o Gymru.

Dysgu gan ein gilydd mewn cynadleddau cenedlaethol

Cynhaliwyd cynhadledd fl ynyddol Tenan aid Cymru ym mis Medi yn Llandrindod, a chynhadledd fl ynyddol TPAS Cymru ym mis Tachwedd yng Nghaerdydd.

Roedd y ddwy gynhadledd yn cynnwys nifer o weithdai ac anerchiadau gan siaradwyr gwadd, fel y gallai’r gynulleidfa ddysgu am y newyddion diweddaraf

ynghylch cyfranogiad preswylwyr.

Fel ein ff ordd o gadw mewn cysyll ad â phobl am gyfranogiad preswylwyr, rydym yn teimlo ei bod yn bwysig i aelodau RPSG fynd i’r cynadleddau hyn i’w cadw nhw’n gyfredol. Y mae hefyd yn gyfl e gwych iddyn nhw siarad gyda phreswylwyr landlordiaid cymdeithasol eraill a rhannu syniadau.

Claire HammondSwyddog Strategaeth Cyfranogiad Presw-ylwyr

Ydych chi’n ystyried prynueich cartref eich hun?Mae gennym dri chartref hyfryd newydd ar werth yn Llaneirwg, Caerdydd – am 70% o bris y farchnad yn unig.Fel arfer, byddai’r cartrefi 2 ystafell wely hyn, sy’n rhan o ddatblygiad newydd Wimpey ym Mharc Llaneirwg, yn cos o £119,000 - ond rydym wedi eu rhoi ar y farchnad am £83,300 yn unig dan ein cynllun ecwi a rennir. Fe fyddan nhw’n barod i’w perchnogion symud i mewn iddyn nhw o ddiwedd Mawrth ymlaen.

Os hoff ech gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r dudalen perchnogaeth cartrefi cost isel ar ein gwefan www.wwha.co.uk, neu ff oniwch y rhif rhadff ôn 0800 052 2526 a gofynnwch am gael siarad â’r m Dewisiadau Tai.

Page 26: Intouch Gaeaf 2012

26 | www.wwha.co.uk | intouch | Cyfranogiad Preswylwyr

Mae preswylwyr o chwe chynllun Tai Wales & West wedi cael cyllid grant i annog bioamrywiaeth leol, fel gwenyn, gloÿnnod byw, ystlumod ac adar i fyw yn eu ger-ddi cymunol.

Penwythnosau gwFyddech chi’n hoffi annog rhagor o fyw

Daeth y cyllid drwy ymgyrch ‘Dathlwch Benwythnos Gwyllt Dros Gymru’ Cadwch Gymru’n Daclus, a gafodd ei gyllido gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Homebase.

Cafodd preswylwyr (sydd yn y llun) o Ardd Gymunedol Llaneirwg, Wilfred Brook House a Caerau Po ers yng Nghaerdydd, Cwrt Pentwmpath, Wrecsam, Constan ne Court, y Rhondda a Western Court, Pen-y-bont ar Ogwr, hyd at £200 mewn talebau Homebase i brynu hadau blodau gwyllt, bylbiau a phlanhigion “Bee-happy” i ddenu gloÿnnod byw a gwenyn, ac off er llaw a choed i adeiladu blychau adar ac ystlumod.

Bu ein Swyddog Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr, Claire Hammond; y Swyddog Prosiect Datblygu Cymunedau, Vy Cochran, a’r Rheolwyr Cynllun Julie Rowlands (Cwrt Pentwmpath), Maria Mulford (Constan ne Court) a Bill Ford (Wilfred Brook House) yn helpu preswylwyr i lenwi ac anfon eu ceisiadau am gyllid.

Dywedodd Cadwch Gymru’n Daclus wrthym eu bod nhw wedi cael nifer fawr iawn o geisiadau, felly fe wnaeth ein preswylwyr yn dda iawn i gael eu gran au. Nid oedd rhai o’n cynlluniau eraill a ymgeisiodd mor ff odus, ac rydym yn deall y gallai hyn fod wedi digwydd gan fod blaenoriaeth wedi cael ei roi i ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf.

Os nad oedd eich grŵp yn llwyddiannus y tro hwn, neu os hoff ech gynnal prosiect tebyg lle’r ydych chi’n byw, gallwn helpu gyda chyllid a chefnogaeth ymarferol.

Gall ein Grant Amgylchedd helpu i dalu am brosiectau sy’n garedig i’r amgylchedd, a gall Owen Jones (Swyddog yr Amgylchedd a Chynaladwyedd) roi cyngor i chi ar beth fydd yn gweithio orau yn eich cynllun neu ar eich stad.

Grŵp Garddio Western Court, Pen-y-bont ar Ogwr

Page 27: Intouch Gaeaf 2012

Cyfranogiad Preswylwyr | intouch | www.wwha.co.uk | 27

wyllt yng Nghymru!wyd gwyllt i ddod i’ch gerddi cymunol?

Mae gennym ein grant Gwneud iddo Ddigwydd hefyd, sy’n helpu preswylwyr i ddod ynghyd a chymryd rhan mewn gweithgareddau lle’r ydych chi’n byw.

Am ragor o wybodaeth ar y naill grant neu’r llall:

• Siaradwch gyda’ch Swyddog Tai• ff oniwch 0800 05 2526• e-bos wch [email protected] am y grant Amgylchedd neu [email protected] am y grant Gwneud iddo Ddigwydd.

Debbie Phillips a Stan Jones o Caerau Po ers, Caerdydd

Peter Jones, Cwrt Pentwmpath, Wrecsam

Page 28: Intouch Gaeaf 2012

28 | www.wwha.co.uk | intouch | Byw’n wyrdd

Ar gyfer gaeaf 2012 / 2013, fe allech chi gael disgownt o £130 ar eich bil trydan drwy’r Cynllun Disgownt Cartrefi Cynnes. Ni fydd y disgownt yn eff eithio ar eich Taliad Tywydd Oer na’ch Taliad Tanwydd Gaeaf. Er hynny, ni all pawb gael y disgownt – mae’n rhaid i chi fod yn gymwys.

Gofalwch eich bod yn hawlio eich Disgownt Cartrefi Cynnes

Beth gewch chiAr gyfer gaeaf 2012 i 2013, gallech gael gostyngiad o £130 ar eich bil trydan. Nid yw’r arian yn cael ei dalu i chi, gan ei fod yn ddisgownt untro ar eich bil trydan, fel arfer rhwng Hydref a Mawrth. Gall pobl sy’n defnyddio mesuryddion trydan talu ymlaen llaw neu dalu wrth fynd fod yn gymwys ar gyfer y disgownt, hefyd. Os ydych yn gymwys, gall eich cyfl enwr trydan ddweud wrthych sut byddwch yn cael y disgownt, er enghrai , taleb y gallwch ei defnyddio i roi credyd yn eich mesurydd.

Ydw i’n gymwys?Rydych chi’n gymwys ar gyfer y disgownt os oedd eich cyfl enwr yn rhan o’r cynllun ar 21 Gorff ennaf 2012, bod eich enw (neu enw eich partner) ar y bil a’ch bod chi naill ai:• yn 80 oed neu’n hŷn, ac yn cael yr elfen Credyd Gwarantedig o’r Credyd Pensiwn• dan 80 oed a dim ond yn cael yr elfen Credyd Gwarantedig o’r Credyd Pensiwn (ni fyddwch yn gymwys os ydych hefyd yn cael y Credyd Cynilion).

Os ydych yn gymwys, fe gewch chi lythyr yn nodi un o’r canlynol:• y byddwch yn ei gael yn awtoma g• neu fod yn rhaid i chi ymgeisio am y disgownt erbyn 13 Mawrth 2013 - bydd y llythyr yn dweud wrthych chi pam a sut.

Caiff llythyrau eu hanfon rhwng Medi 2012 ac Ionawr 2013. Er hynny, os na fydd eich llythyr wedi cyrraedd erbyn Chwefror 2013, cysylltwch â Llinell Gymorth y Cynllun Disgownt Cartrefi Cynnes 0845 603 9439, o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am to 6pm.

Os nad ydych yn gymwysMae rhai cyfl enwyr yn parhau i gynnig y disgownt i bobl fregus (e.e. y rhai ar incwm isel). Mae gan bob cyfl enwr eu rheolau eu hunain ynghylch pwy sy’n gymwys ar gyfer y disgownt.

Cyfl enwyr ynniMae’r rhain yn rhan o’r cynllun:• Atlan c• Nwy Prydain• EDF Energy• E.ON• Equipower (Ebico)• Equigas (Ebico)• Manweb – gweler Sco sh Power• M&S Energy• npower• Sainsbury’s Energy• Sco sh Gas - gweler Nwy Prydain• Sco sh Hydro• Sco sh Power• Southern Electric• SSE• SWALEC• U lity Warehouse

Page 29: Intouch Gaeaf 2012

Datblygiadau diweddaraf | intouch | www.wwha.co.uk | 29

Rhagor o gartrefi newydd i Sir Ddinbych(o’r chwith i’r dde) Gareth Jarvis, Swyddog Datblygu, Tai Wales & West, Menai Baugh, pennaeth Ysgol Henllan, a Claire Sumner, Swyddog Tai WWH, gyda rhai o’r disgyblion, Jac Salusbury, 9 oed, Sophie Edwards, 9 oed, a Sco Parry-Jones, 9 oed (yn y blaen). Fe wnaeth y plant enwi ein chwe chartref newydd ar rent ff orddiadwy ar Garn Road, Henllan, yr ydym wedi eu hadeiladu mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych. Symudodd y preswylwyr cyntaf i mewn mis diwethaf

Mae’r nodweddion ecogyfeillgar yn cynnwys bwyleri nwy hynod eff eithlon, PV a chasgenni dŵr glaw, ac fe fyddan nhw’n cwrdd â Lefel 3 y Cod Cartrefi Cynaliadwy. Cyllidwyd y gwaith adeiladu’n rhannol gan Grant Tai Cymdeithasol o £900,000 gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWH: “Mae’r datblygiad hwn yn ganlyniad partneriaeth ragweithiol rhyngom ni a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ac rydym wrth ein bodd ein bod ni’n gallu helpu i roi sylw i’r angen am artrefi ff orddiadwy o ansawdd da yn yr ardal hon. Bydd yn bleser croesawu ein preswylwyr newydd i’r cartrefi newydd hyn.”

Dywedodd y Cynghorydd Phil Edwards, Aelod Cabinet Cyngor Conwy dros Gymunedau: “Mae darparu tai ff orddiadwy o ansawdd da i bobl sy’n byw yng Nghonwy yn fl aenoriaeth fawr i’r Cyngor. Mae Llys Bryniau yn enghrai ragorol o’r hyn y gellir ei gyfl awni pan fyddwn yn cydweithio o ddifrif i gwrdd ag anghenion tai ein preswylwyr. Fe fydd y cartrefi hyn nid yn unig yn ff orddiadwy i’w rhentu, ond fe fyddan nhw hefyd yn ff orddiadwy i’w cynnal, diolch i’r nodweddion eff eithlonrwydd ynni gwych. Rwy’n dymuno’r gorau un i’r preswylwyr newydd yn eu cartrefi newydd, ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda’n partneriaid i ddatblygu hyd yn oed mwy o gartrefi ff orddiadwy yn y dyfodol.”

Cartrefi ff orddiadwy i GonwyDrwy weithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, bydd ein datblygiad sy’n werth £1.6 miliwn yn Llys Bryniau yn darparu 12 cartref newydd o safon uchel – 8 tŷ tair ystafell wely a 4 tŷ dwy ystafell wely.

Page 30: Intouch Gaeaf 2012

30 | www.wwha.co.uk | intouch | Newidiadau i fudd-daliadau

O 1 Ebrill 2013, bydd newidiadau i Fudd-dal y Dreth Gyngor yn eff eithio ar bob preswyliwr sydd ar hyn o bryd yn ei gael. Mae hyn yn golygu y bydd rhai pobl yn talu £150 yn fwy na’r hyn maen nhw’n ei dalu ar hyn o bryd bob blwyddyn. Bydd hyn, ynghyd â’r dreth ar ystafelloedd gwely, yn golygu y gallai rhai preswylwyr fod ar eu colled o tua £15 i £20 yr wythnos. Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y newidiadau hyn yn rhifynnau blaenorol In Touch ac ym Man Preswylwyr ein gwefan www.wwha.co.uk

Cyllidebu’Cynghorion doeth ar wneud y defnydd gorau o’ch arian

Yn y rhifyn hwn, rydym yn rhoi sylw i sut gallech chi arbed arian heb lawer o ymdrech er mwyn gwneud yn iawn am y diff ygion ariannol hyn, a hynny heb ormod o newid i’ch ff ordd o fyw gobeithio, er mwyn eich atal rhag mynd i ddyled.

Pe bai rhywun yn cynnig £500 i chi am ddiwrnod o waith ar gyfrifi adur neu’r ff ôn, fyddech chi’n bachu’r cyfl e? Ni fyddai’r rhan fwyaf ohonom yn meddwl ddwywaith am dderbyn y cynnig hwn. Ac eto nid yw nifer ohonom yn treulio awr neu ddwy, hyd yn oed, yn chwilio am ff yrdd o arbed arian i’n helpu ni i wneud y defnydd gorau o’n harian.

Y cam cyntaf yw cymryd rheolaeth o’ch arian. Mae gwybod beth rydych chi’n ei wario yn hanfodol i ddeall eich cyllid. Ysgrifennwch eich cyllideb, byddwch yn onest a sicrhewch eich bod chi’n ystyried yr holl bethau bach

Page 31: Intouch Gaeaf 2012

Debyd Uniongyrchol EnillyddMs Sheila Pierce o Lys Bryn Eglwys, yr Wyddgrug, oedd enillydd ff odus y £100 yn ein cystadleuaeth Debyd Uniongyrchol yn y chwarter olaf.

I fod yn gymwys i gymryd rhan yn y gystadleuaeth, y cyfan y mae gofyn i chi ei wneud yw talu eich rhent drwy Ddebyd Uniongyrchol. Mae mor hawdd â hynny,

ac mae’n hawdd iawn sefydlu’r taliadau. Cynhelir y gystadleuaeth nesaf yn gynnar ym mis Ebrill

Cysylltwch â’ch Swyddog Tai, a fydd yn eich helpu chi gydag unrhyw ymholiad a allai fod gennych, neu ff oniwch ein Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 0800 052 2526.

££ £

Newidiadau i fudd-daliadau | intouch | www.wwha.co.uk | 31

’n wellrydych yn eu prynu (tocynnau loteri, eich cinio yn y gwaith, eich hoff gylchgrawn ac a ) gan fod y cyfan yn cronni!

Fe gewch chi ff urfl enni cyllidebu manwl ar www.moneysavingexpert.co.uk, www.moneyadviceservice.org.uk neu cysylltwch â ni am gopi caled.

Unwaith y byddwch wedi gorff en eich cyllideb, cymerwch olwg ar eich prif wariant (gwariant rheolaidd, rhent, ac

a .). Yn y tabl ar dudalen 32 ceir rhai syniadau ar arbed arian, a gawsom gan breswylwyr a fu’n ystyried beth oedden nhw’n gwario llawer o’u harian.

Drwy ddilyn yr holl gynghorion hyn, fe allech chi arbed miloedd o bunnoedd y fl wyddyn, ond gallai gwneud un neu ddau, hyd yn oed, roi hwb o £10 yr wythnos i’ch incwm – sydd yr un peth â £500 braf bob blwyddyn.

Cyfl e i ennill £100 drwy dalu eich rhent drwy Ddebyd Uniongyrchol.

Page 32: Intouch Gaeaf 2012

32 | www.wwha.co.uk | intouch | Materion ariannol

Taith wythnosol i’r archfarchnad. Osgowch wario mwy nag yr ydych ei angen ar eich siopa wythnosol. Cynlluniwch eich prydau, gwnewch restr siopa a phrynwch frandiau’r siop.Gall hyn arwain at arbedion sylweddol ar eich siopa wythnosol.

Adolygwch eich pecyn teledu. Ydych chi wir angen y sianelau teledu sydd gennych chi neu’r cyfl ymder band llydan rydych yn talu amdano? Ydych chi wedi bod yn talu’r biliau heb feddwl ers blynyddoedd? Gallai un alwad i’ch cyfl enwr arbed hyd at 50% ar eich bil bob mis, gan arbed cannoedd o bunnoedd i chi’r fl wyddyn.

Contract ff ôn symudol. Ydych chi’n defnyddio’r 500 munud a’r 1000 neges destun rydych yn talu amdanyn nhw bob mis at hyn o bryd. Os nad ydych, siaradwch gyda’ch cyfl enwr ynghylch gostwng eich tariff , neu os ydych chi ar ddiwedd eich contract, chwiliwch am y fargen orau, neu hyd yn oed yn well, ewch am y dewis talu wrth fynd.

Benthyciadau cost uchel. Ydych chi’n defnyddio benthycwyr carreg y drws neu’n talu am eitemau fel eich peiriant golchi neu eich oergell yn wythnosol? Mae talu am fenthyciadau neu gynnyrch fel hyn yn cos o cannoedd o bunnoedd yn rhagor. Cysylltwch â’ch Undeb Credyd lleol neu Moneyline Cymru i holi am gyfraddau mwy ff afriol.

Rhowch y gorau i smygu, neu lleihewch faint rydych yn ei smygu. Ac eithrio’r buddiannau i’ch iechyd chi a’ch teulu, mae smygu paced bob dydd yn cos o £50 yr wythnos ar gyfartaledd. Byddai hyd yn oed newid i dybaco yn gallu arbed £30 yr wythnos i chi.

Cysylltwch â’ch cyfl enwr ynni a newidiwch gwmni os na allan nhw roi gwell bargen i chi. Yn aml, bydd gan eich cyfl enwr presennol dariff rhatach.

£5-10 yr wythnos- £250-£500 y fl wyddyn wedi’i arbed

£30 y mis- £360 y fl wyddyn

£20 y mis- £240 y fl wyddyn

£200 y fl wyddyn ar fenthyciad o £500

30 yr wythnos- £1500 y fl wyddyn

£3-£5 yr wythnos- £150 y fl wyddyn

Torri eich costauBeth i’w wneud Arbedion arferol

Gallai gwneud yr uchod arbed dros £50 yr wythnos i chi – mae hynny’n £2,500 y fl wyddyn!

Page 33: Intouch Gaeaf 2012

Materion ariannol | intouch | www.wwha.co.uk | 33

Gallwch ddarllen rhagor am y syniadau hyn, a darganfod hyd yn oed mwy o awgrymiadau i arbed arian, ar wefan www.moneysavingexpert.co.uk Gallwch gofrestru i gael neges e-bost wythnosol o’r wefan, yn llawn awgrymiadau defnyddiol. Wyddech chi fod dros 7 miliwn o bobl yn cael y negeseuon e-bost hyn ar hyn o bryd? Rhyngddyn nhw, maen nhw’n arbed miliynau o bunnoedd y fl wyddyn, heb lawer o ymdrech.

Nawr eich bod chi ar eich ff ordd i arbed pentwr o arian, mae’n bryd meddwl beth rydych yn mynd i’w wneud gyda’r incwm dros ben. Er mor ddeniadol yw’r syniad o brynu rhywbeth i chi eich hun ar unwaith, meddyliwch beth allech chi ei wneud â’r arian petaech chi’n ei gynilo bob mis. Gallai gwneud hynny olygu na fydd yn rhaid i chi fenthyg arian ar gyfer y Nadolig na phan fyddwch yn mynd ar wyliau – gall eich undeb credyd lleol neu eich banc roi gwybodaeth i chi am ei gyfrif cynilon.

Ond beth os ydych chi wedi llenwi’r dafl en gyllideb a gweld bod eich dyledion yn drech na chi? Peidiwch â digalonni.

Nawr yw’r amser i reoli’r sefyllfa a cheisio cyngor ar ad-dalu eich dyledion mewn modd ff orddiadwy. Nid oes angen talu cwmni am y cyngor hwn, gan fod nifer yn ei gynnig yn rhad ac

am ddim, gan gynnwys y rhain:

Llinell genedlaethol dyledion 0808 808 4000 www.na onaldebtline.co.uk

Stepchange 0800 138 1111 – rhadff ôn, gan gynnwys o ff onau symudol. www.stepchange.org

Ffoniwch neu ewch draw i’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol 08444 77 20 20.Mae galwadau’n cos o 5p y funud o linell ddaearol BT, a chostau o ff onau symudol yn amrywio.www.ci zensadvice.org.uk

Oes gennych chi unrhyw gyngor doeth arall am arbed arian?Ffoniwch neu e-bos wch Sarah Manners, y Rheolwr Cysyll adau Cyhoeddus a Marchnata ar [email protected] neu’r rhif rhadff ôn 0800 052 2526.

Fe gewch chi daleb Argos gwerth £10 am bob cyngor a gyhoeddir.

Page 34: Intouch Gaeaf 2012

34 | www.wwha.co.uk | intouch | Arolwg bodlonrwydd preswylwyr

Ym mis Hydref a mis Tachwedd 2012 fe wnaethom gynnal ein harolwg bodlonrwydd preswylwyr blynyddol gan ddefnyddio cwmni annibynnol o’r enw ARP Research, fel yr ysgrifenna’r Dadansoddwr Data Corff oraethol, Gavin Jones.

Arolwg bodlonrwydd preswylwyr

Yr arolwg hwn yw eich cyfl e i ddweud wrthym beth rydych yn ei feddwl am ein gwasanaethau, a rhoi eich sa wyn au a’ch adborth ar amrywiaeth eang o wasanaethau. Mae’r arolwg hwn yn bwysig iawn i ni gan ein bod yn ei ddefnyddio i nodi’r camau y dylem eu cymryd i gwrdd ag anghenion ein preswylwyr, yn seiliedig ar yr hyn sy’n bwysig i chi.

Rydym yn cynnal Arolwg Bodlonrwydd Preswylwyr bob blwyddyn, a phob tro rydym yn anfon holiaduron i draean ein preswylwyr, wedi’u dewis mewn ff ordd sy’n gynrychioliadol o boblogaeth y preswylwyr gyda’i gilydd. Felly, os na chafodd eich cartref holiadur yn 2012 nac yn 2011, byddwch yn sicr o gael un yn 2013.

Eleni, cawsom 774 o holiaduron wedi’u llenwi, sef 29% o’r rhai a anfonwyd (tua 2,700). Mae’r erthygl hon yn sôn am rai o brif ganlyniadau’r arolwg hwn. Roedd nifer o’r cwes ynau yn gofyn i’r ymatebwyr roi sgôr allan o 10 i ni, a oedd yna’n cael ei gyfuno â’r gweddill i roi sgôr gyfartalog i bob cwes wn. Rhoddodd yr holl gwes ynau eraill sgoriau canrannol allan o 100 i ni.

Bydd y tudalennau a ganlyn yn egluro rhai o brif ganfyddiadau’r arolwg, a byddwn yn defnyddio canlyniadau manylach pob cynllun i dargedu gwelliannau yn ein gwasanaethau ar lefel leol.

Gavin Jones

Page 35: Intouch Gaeaf 2012

Arolwg bodlonrwydd preswylwyr | intouch | www.wwha.co.uk | 35

Bodlonrwydd cyff redinolRydym yn falch o weld bod lefel bodlonrwydd cyff redinol ein preswylwyr gyda’r gwasanaethau maen nhw wedi ei dderbyn yn dal yn dda iawn – dywedodd 88% ohonoch eich bod chi’n fodlon, a dim ond 7% oedd yn anfodlon. Mae’r sgôr hwn yn uwch na’r hyn oedd yn ein harolwg blaenorol yn 2011 (86%). Mae ein cyfradd bodlonrwydd unwaith eto ychydig yn uwch na’r cyfartaledd ar gyfer darparwyr tai eraill yr ydym yn cymharu ein hunain â nhw.

Eich cartrefCafodd y ffi niau o gwmpas eich cartref sgôr dda o 7.38 allan o 10, sy’n dangos rhywfaint o welliant, er bod rhai ohonoch wedi crybwyll bod angen parhau i weithio yn y maes hwnnw.

Mae nifer ohonoch yn fodlon â chost cynnal eich cartref (gan roi sgôr o 7.29 ar gyfartaledd), sy’n welliant sylweddol ar llynedd. Roedd sgoriau ar gyfer eich system wresogi yn debyg i 2011, er bod rhai ohonoch yn parhau i ddymuno i’ch systemau gael eu diweddaru, neu ein bod yn delio â dra iau.

Page 36: Intouch Gaeaf 2012

36 | www.wwha.co.uk | intouch | Arolwg bodlonrwydd preswylwyr

Eich cymdogaethBydd y gymdogaeth lle’r ydych chi’n byw bob amser yn eff eithio ar ba mor fodlon ydych chi yn eich cartref. Er na allwn wella pethau ar ein pen ein hunain, mae’n dal yn bwysig i ni gael gwybod beth rydych chi’n ei feddwl am eich ardal leol, fel ein bod ni’n gallu gwneud beth bynnag allwn ni i’w wella.

Mae’r rhan fwyaf ohonoch yn hoffi ’r ardal lle’r ydych yn byw (sgôr gyfartalog o 8.41) gyda chymdogion da, amgylchedd tawel a mynediad at fwynderau lleol yn cael eu nodi fel y thi phrif reswm eich bod yn hoffi byw lle’r ydych chi.

Er hynny, dywedodd tua 1 o bob 10 ohonoch mai problemau gyda chymdogion oedd y prif reswm pam nad ydych yn hoffi byw lle’r ydych chi.

Roedd tua chwarter ohonoch wedi profi ymddygiad gwrthgymdeithasol llynedd, gyda’r rhan fwyaf yn rhoi gwybod i ni am yr ymddygiad hwn (62%). Cawsom sgôr cyfartalog o 5.32 allan o 10 am sut gwnaethom ymdrin â’r ymddygiad, ac fe soniodd pobl am brofi adau tra gwahanol i’w gilydd – Rhoddodd 23% 1 allan o 10 yn unig i ni, ond rhoddodd 18% 10 allan o 10 i ni.

Atgyweiriadau a chynnal a chadwCafodd tua hanner ohonoch chi atgyweiriad llynedd, gyda’r grŵp hwn yn rhoi sgôr gyfartalog o 7.13 allan o 10 am y gwasanaeth a ddarparwyd. Y prif agweddau ar y gwasanaeth atgyweiriadau sy’n bwysig i chi yw bod y broblem yn cael ei hatgyweirio’n barhaol, a’n bod ni’n rhoi gwybod i chi beth sy’n digwydd drwy gydol y broses, gan gynnwys rhoi gwybod i chi pryd bydd yr atgyweiriad yn cael ei wneud.

Cysylltu â niThe scores for the standard of customer service when making contact with us are generally good, so it was especially pleasing to see a signifi cant improvement across the ra ngs on this topic. In par cular, more than half of you (52%) have given us a perfect score of 10 for the helpfulness of the staff (average overall score 8.65).

Page 37: Intouch Gaeaf 2012

Arolwg bodlonrwydd preswylwyr | intouch | www.wwha.co.uk | 37

Cyfathrebu a gwybodaethRoeddem yn falch o weld bod y mwyafrif llethol ohonoch yn teimlo ein bod ni’n dda am roi gwybod i chi am y pethau sy’n eff eithio arnoch chi (83%), sy’n well na llynedd, ac yn gyson â’r sgoriau y mae cymdeithasau tai eraill yn eu cael.

Pan ofynnoch am wybodaeth, roedd tua 2 o bob 3 ohonoch yn cael beth oeddech chi ei eisiau (65%), ac roedd dros hanner ohonoch yn ei gael yn brydlon (54%). Y dull a ff afrir i dderbyn gwybodaeth gennym ni yw dogfennau papur drwy’r post, gydag 81% ohonoch yn nodi’r dull hwn. Byddai nifer cynyddol ohonoch yn dymuno i ni ddefnyddio e-bost fel ff ordd o gael gwybodaeth (20%, cynnydd o’r lefel fl aenorol, 13%) nawr bod rhagor ohonoch chi’n gallu defnyddio’r rhyngrwyd ar eich cyfrifi adur gartref neu ar ff ôn symudol.

Roedd hyn yn golygu bod tua 4 o bob 5 ohonoch yn teimlo ein bod yn rhoi digon o wybodaeth i chi er mwyn gallu barnu sut landlordiaid ydym ni.

Cynnwys preswylwyr Roedd tua 2 o bob 3 ohonoch yn fodlon ein bod ni’n gwrando ar eich sa wyn au ac yn gweithredu’n briodol; er hynny, roedd 19% ohonoch yn anfodlon. Gan fod y sgôr bodlonrwydd cyff redinol wedi gostwng ychydig er 2011, bydd hwn yn faes y byddwn yn ei fonitro, a byddwn yn ymdrechu i’w wella yn ystod y fl wyddyn hon.

Hoff em ddiolch i bawb ohonoch a roddoch o’ch amser i gymryd rhan yn yr arolwg hwn. Er bod y canlyniadau’n galonogol, y sylwadau a wnaethoch am sut gallwn wella pethau yw’r agwedd bwysicaf ar yr arolwg hwn bob amser. Fe wnawn ni ddefnyddio beth ddywedoch wrthym yn awr i ddatblygu ein gwasanaethau ymhellach.

Page 38: Intouch Gaeaf 2012

38 | www.wwha.co.uk | intouch | Gwaith . sgiliau . profi ad

Rydym wrth ein bodd ein bod ni’n ymuno â chwmni cyfreithwyr Morgan Cole unwaith eto eleni i ddarparu cyfl e i ddau unigolyn ifanc uchelgeisiol i ymuno â’r cwmni cenedlaethol hwn o gyfreithwyr am wythnos o brofi ad gwaith yn eu swyddfeydd yng nghanol dinas Caerdydd.

Lansiodd Morgan Cole y cynllun llynedd, sydd wedi ei anelu at rai rhwng 15 ac 16 oed, nad oedd o bosibl wedi ystyried gyrfa ym myd y gyfraith o’r blaen.

Mae hwn yn gyfl e cyff rous, a fydd yn rhoi cyfl e i ddau o breswylwyr ifanc WWH brofi sefyllfaoedd go iawn mewn cwmni o gyfreithwyr. Bydd staff yn Morgan Cole, o uwch bartneriaid i staff iau sydd newydd gymhwyso, yn rhoi o’u hamser i wneud y profi ad yn werthfawr iawn.

Pwy all ymgeisio?Os byddwch naill ai’n 15 neu’n 16 oed ym mis Gorff ennaf 2013, ac yn byw yn un o’n cartrefi , gallwch ymgeisio.

Pryd fydd hyn yn digwydd?Bydd y profi ad, sy’n para am wythnos, yn cael ei gynnal yn ystod Gorff ennaf 2013.

A oes unrhyw gostau ynghlwm?Rydym eisiau annog cymaint â phosibl o bobl ifanc i ymgeisio. Fe wnawn ni geisio rhoi cymorth â chostau teithio, a bydd eich ysgol yn gallu helpu gyda threfniadau lleoliadau gwaith.

Diddordeb? Yna ewch ar-lein i’n gwefan wwha.co.uk i lwytho ff urfl en gais i lawr. Llenwch hi i ddweud wrthym amdanoch eich hunan a pham eich bod yn meddwl y dylech gael y cyfl e i gymryd rhan. Os nad oes gennych fynediad at gyfrifi adur gartref, siaradwch gyda’ch Ymgynghorydd Gyrfaoedd yn yr ysgol, a fydd yn barod i’ch helpu. Gallwch hefyd ein ff onio ni ar 0800 052 2526, anfon neges destun ar 07788 310420, a gofyn i ni bos o ff urfl en gais atoch. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Mai 2013, felly mae gennych ddigon o amser i anfon eich ff urfl en.

Pob lwc!Byddwn yn gweithio gyda Morgan Cole i ddewis yr ymgeiswyr llwyddiannus ym mis Mehefi n, a byddwn yn cysylltu â nhw’n unigol. Cadwch olwg am rifyn yr haf In Touch i weld pwy fyddan nhw.

Meithrin dyheadaugyda’r cyfreithwyr Morgan Cole

Page 39: Intouch Gaeaf 2012

Gwaith . sgiliau . profi ad | intouch | www.wwha.co.uk | 39

Rydym wedi creu dwy swydd newydd o ganlyniad i’n datblygiad yn Hightown.Mae Grŵp Llywio yn helpu i oruchwylio’r cynlluniau, gydag aelodau o staff WWH, Cyngor Wrecsam, Cymunedau yn Gyntaf, cynghorwyr lleol a phreswylwyr. Rydym bob amser yn chwilio am aelodau newydd i ymuno â’r grŵp. Nid oes angen cymwysterau proff esiynol arnoch, ond mae’n bosib fod gennych sgiliau nad ydych yn sylweddoli y bydden nhw’n ddefnyddiol. Y cyfan rydych ei angen yw awydd o ddifrif i wella eich cymdogaeth. Gallech hefyd elwa ar brofi ad a sgiliau newydd i wella eich cyfl eoedd gwaith.

Mae’r Grŵp Llywio hwn yn cyfarfod bob dydd Iau olaf yn y mis, ac rydym wedi creu swydd newydd i helpu i gefnogi’r grŵp hwn. Mae swydd newydd y Swyddog Cyswllt Cymunedol yn cael ei chefnogi dan gynllun Twf Swyddi Cymru ‘Go Wales’, menter gan Lywodraeth Cymru sydd wedi’i hanelu at raddedigion rhwng 16 a 24 oed nad ydyn nhw’n gweithio nac mewn addysg ar hyn o bryd. Mae disgwyl i’r ganolfan newydd agor yn ystod haf 2013, a chyllidir y swydd am 6 mis. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dechrau gweithio ar ddiwedd Ionawr 2013. Roeddem yn awyddus i bobl leol ymgeisio, ac fe

wnaethom hysbysebu’r swydd ar ein gwefan, rhoi posteri yma ac acw, dosbarthu tafl enni ac anfon neges destun at breswylwyr am y swydd hon. Cofi wch gadw golwg fanwl ar ein gwefan, oherwydd dyma’r fan lle’r ydym yn hysbysebu ein holl swyddi gwag.

Creu cyfl eoedd = creu swyddiYn fuan iawn, byddwn yn hysbysebu ail swydd, sef Swyddog Cymorth Cyfl ogaeth a Hyff orddiant, i weithio gyda’r contractwyr sy’n un o’n partneriaid, Anwyl Construc on, am chwe mis – i’n helpu ni i nodi meysydd eraill lle gellid creu swyddi a chyfl eoedd. Felly, os ydych chi wedi graddio, rhwng 16 a 24 oed, neu’n adnabod rhywun arall fyddai â diddordeb, trowch at ein gwefan am fanylion y swydd a sut i ymgeisio.

Creu rhagor o gyfl eoedd lleol, targedu preswylwyr lleol

A chadwch olwg fanwl ar ein blog cymunedolwww.hightownfl ats.com

Page 40: Intouch Gaeaf 2012

40 | www.wwha.co.uk | intouch | Byw’n iach

Pethau da yn lle Cynhelir Diwrnod Dim Smygu eleni ddydd Mercher 13 Mawrth 2013.

Mae hwn yn ddigwyddiad cenedlaethol sy’n cael ei gynnal bob blwyddyn i gefnogi pobl sydd eisiau rhoi’r gorau i smygu, ac mae hefyd yn codi ymwybyddiaeth o’r peryglon iechyd sy’n gysyll edig ag smygu.

Ydych chi’n smygu? Ac a ydych chi eisiau rhoi’r gorau iddi? Dyma eich cyfl e i ddechrau cynllunio ar gyfer llwyddo nawr.

Mae ymchwil wedi dangos fod nifer o bobl yn defnyddio’r Diwrnod Dim Smygu yn llwyddiannus fel targed i roi’r gorau i smygu. Eleni, mae Sefydliad Prydeinig y Galon (BHF) yn rhedeg ymgyrch ar Ddiwrnod Dim Smygu o’r enw ‘Pethau da yn lle baco’, gan fod ymchwil gan y BHF wedi canfod fod cost smygu yn ff actor fawr yn y penderfyniad i roi’r gorau i smygu.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Diwrnod Dim Smygu, ac ymgyrch ‘Pethau da yn lle baco’, ewch i: www.nosmokingday.org.uk

Drwy roi’r gorau i smygu, byddwch yn:• arbed llawer o arian• bod yn llai tebygol o ddatblygu afi echyd cardio-anadlol a chanser fel canser yr ysgyfaint

• mwynhau cartref a char di-fwg• peidio â pheryglu ff rindiau a’r teulu drwy fwg ail law.

Mae Dim Smygu Cymru yn cynnig cefnogaeth gyfeillgar, leol am ddim fan y GIG sy’n gweithio o ddifrif. Wyddech chi y byddwch chi 4 gwaith yn fwy tebygol o roi’r gorau iddi am byth drwy ddefnyddio rhaglen gymorth fel Dim Smygu Cymru?

Fe wnaiff Dim Smygu Cymru eich helpu chi i gynllunio a pharatoi ar gyfer y dyddiad y byddwch yn rhoi’r gorau iddi, yn darparu cymorth a chyngor parhaus, ac yn bwysicaf, gyda chefnogaeth Dim Smygu Cymru ni rowch y gorau i geisio rhoi’r gorau iddi.

Felly, beth sy’n eich atal? Ffoniwch Dim Smygu Cymru am gefnogaeth am ddim yn eich ardal chi, ar 0800 085 2219Rydym eisiau clywed eich hanesion ‘Pethau da yn lle baco’. Os ydych yn rhoi’r gorau iddi ac yn barod i rannu eich profi adau gyda ni, anfonwch e-bost at [email protected] neu ff oniwch hi ar 0800 052 2526. Fe gewch daleb Argos gwerth £10 am bob stori gaiff ei chyhoeddi.

Page 41: Intouch Gaeaf 2012

Byw’n iach | intouch | www.wwha.co.uk | 41

baco!Mae ein cynllun gofal ychwanegol a demen a, sy’n werth £9.3 miliwn, yn yr Wyddgrug yn dod yn ei fl aen yn dda, ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau yn ystod yr haf eleni.

Bydd y cynllun, yr ydym yn ei ddatblygu mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Ffl int, yn darparu llety â chymorth o’r radd fl aenaf i helpu pobl hŷn yn Sir y Ffl int sydd ag anghenion gofal a chefnogaeth i fyw’n annibynnol cyn hired ag y gallan nhw. Bydd 61 rhandy yn y cynllun, a fydd yn cynnwys 15 rhandy wedi’u dylunio’n arbennig ar gyfer pobl â demen a, ynghyd â dau fyngalo dwy ystafell wely. Bydd staff gofal ar gael 24 awr y dydd i ddarparu gofal mewn argyfwng, neu mewn ymateb i gynlluniau gofal unigol. Bydd y rhandai ar gael i’w rhentu, neu i’w prynu, gan Tai Wales & West i’r bobl sy’n cwrdd â’r meini prawf cymhwyster.

Am ragor o wybodaeth, ac i fynegi diddordeb:

ff oniwch y rhif rhadff ôn 0800 052 2526Minicom 0800 052 2505ysgrifennwch at: Tai Gofal Ychwanegol, Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid, Tai Wales & West, 3 Alexandra Gate, Tremorfa, Caerdydd CF24 2UDe-bost: [email protected]

Cynllun gofal ychwanegol a demen a yn yr Wyddgrug

Page 42: Intouch Gaeaf 2012

42 | www.wwha.co.uk | intouch | Byw’n iach

Beichiogrwydd a

Mae 9 ‘nodwedd wedi’u diogelu’ yn y Ddeddf, a nod yr erthyglau hyn yw dadansoddi’r materion cyfreithiol fel eu bod yn hawdd i bawb eu deall.

Beth yw’r 9 nodwedd a ddiogelir?Oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, tueddfryd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifi l, beichiogrwydd a mamolaeth, rhyw, ethnigrwydd, a chrefydd neu gred. Yn yr erthygl hon, rydym yn rhoi sylw i feichiogrwydd a mamolaeth.

Mae beichiogrwydd a mamolaeth yn rhan sylfaenol o fywyd, ac yn sgil hynny mae’n gwbl synhwyrol bod y Ddeddf Cydraddoldeb yn cynnig amddiff yniad i’r 350,000 o ferched bob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig sy’n gweithio tra maen nhw’n feichiog.

Mae cael baban fel arfer yn gyfnod cyff rous iawn i unrhyw gwpl, ond yn ôl y grŵp cynghori ac ymgyrchu, Maternity Ac on, mae tua 30,000 o ferched yn colli eu swyddi bob blwyddyn oherwydd gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd.

Fe wnaeth gwaith ymchwil ganfod fod

tua hanner yr holl ferched beichiog yn y gweithle wedi profi rhyw fath o wahaniaethu ar sail beichiogrwydd. Brwydro yn erbyn y math hwn o wahaniaethu yw un o’r rhesymau pam mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn bodoli.

Mae’n anghyfreithlon gwrthod ymgeisydd am swydd, neu wrthod cyfl eoedd i weithiwr presennol gael hyff orddiant, trosglwyddiad, dyrchafi ad neu fudd-daliadau eraill ar sail gwaith, oherwydd beichiogrwydd neu famolaeth, oni bai y byddai hynny’n ymyrryd ar reoliadau iechyd a diogelwch. Mewn sefyllfaoedd yn y gwaith, mae gan ddynes amddiff yniad ychwanegol yn ystod ei beichiogrwydd a’r cyfnod ar ôl y geni. (Mae mamolaeth yn cyfeirio at y cyfnod o 26 wythnos ar ôl y geni, sy’n adlewyrchu’r cyfnod absenoldeb mamolaeth arferol y mae gan y ddynes yr hawl i’w gymryd os ydyn nhw’n gyfl ogedig). Mae dynes sy’n bwydo ar y fron hefyd yn cael ei hamddiff yn rhag cael ei thrin yn anff afriol o ran darparu gwasanaethau, felly bydd cyfl ogwyr angen ystyried angen dynes i fwydo ar y fron yn ystod oriau gwaith, ac ni fydd

Dyma’r 5ed yn ein cyfres o erthyglau sy’n egluro Deddf Cydraddoldeb 2010 - yn y 4 rhifyn diwethaf, rydym wedi edrych ar oedran, anabledd, ailbennu rhywedd a phriodas a phartneriaethau sifi l, fel yr ysgrifenna Claire Bryant, y Swyddog Polisi ac Amrywiaeth.

Page 43: Intouch Gaeaf 2012

Byw’n iach | intouch | www.wwha.co.uk | 43

a mamolaethlleoedd fel llyfrgelloedd, bwytai ac a yn cael gofyn i ddynes adael oherwydd ei bod yn bwydo ei baban.

Amddiff yniad cyfl ogaeth i dadauY mae hefyd yn anghyfreithlon trin tad yn anff afriol am resymau sy’n gysyll edig â beichiogrwydd ei bartner – er enghrai ,

os caiff ei ddisgyblu am fynegi pryderon iechyd a diogelwch ynghylch y modd mae ei wraig yn cael ei thrin yn yr un gweithle, neu os caiff ei ddiswyddo am gymryd amser o’r gwaith mewn argyfwng i ofalu am ei faban newydd.

Yn y rhifyn nesaf, byddwn yn edrych ar hil.

Mae ein Bwrdd wedi cyfrannu £5,000 tuag at elusen Prime Cymru. Fe fydd hyn yn mynd tuag at helpu pobl dros 50 oed i fanteisio ar eu sgiliau a’u profi ad.

Ers ei sefydlu yn 2001 gan y Tywysog Siarl, mae Prime Cymru wedi helpu dros 2,700 o bobl i ddychwelyd i weithio, wedi cefnogi dros 6,000 o bobl y fl wyddyn sy’n chwilio am waith, ac mae ganddi dros 300 o fentoriaid rheng fl aen sy’n darparu cyngor a chefnogaeth wyneb yn wyneb.

“Rwyf wrth fy modd yn derbyn y rhodd hael hon gan Tai Wales & West Housing tuag at weithgareddau Prime Cymru,” meddai David Pugh, y Prif Weithredwr. “Yng Nghymru mae gennym dros 200,000 o bobl rhwng 50 oed ac oedran pensiwn y wladwriaeth sy’n anweithredol yn economaidd ac sy’n wynebu tlodi yn ystod eu henoed ar ôl ymddeol.

Yn y llun: Y Prif Weithredwr Anne Hinchey, yn cyfl wyno’r siec i David Pugh, Prif Weithredwr Prime Cymru, a Hayley Ridge-Evans, y Cyfarwyddwr Gweithrediadau

“Bydd y cyfraniad hwn yn ein galluogi i barhau i ddatblygu cefnogaeth arloesol a phwrpasol i gynorthwyo unigolion i newid eu bywydau drwy ddod yn weithgar yn economaidd, a’u galluogi nhw i gyfrannu at y cymunedau lle maen nhw’n byw.”

Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.prime-cymru.co.uk

Cefnogi gweithlu aeddfed Cymru

Page 44: Intouch Gaeaf 2012

44 | www.wwha.co.uk | intouch | Cymdogaethau sy’n gweithio

Cymdogaethau sy’n gweithio

Yn y rhifyn diwethaf, fe wnaethom egluro:• sut roeddem wedi gwrando arnoch chi i ddeall beth sy’n bwysig i chi pan rydych yn gwneud cwyn am rywun yn peri niwsans i chi neu i bobl eraill• ein bod ni’n peilota dull newydd yn seiliedig ar beth sy’n bwysig i chi, a deall ein rôl yn eich helpu chi.

I weld a ydym yn gwneud y peth iawn wrth geisio cwrdd â’ch anghenion, rydym yn eich holi chi am eich profi ad pan oeddem yn delio â’ch cwyn am niwsans. Rydym wedi bod yn brysur yn cysylltu â phreswylwyr sy’n byw yn ardaloedd peilot Caerau, Caerdydd a rhannau o Bowys, sydd wedi cwyno am niwsans, i weld pa mor fodlon ydyn nhw gyda’n dull newydd ni.

Rydym yn gofyn cwes ynau i’r preswylwyr hynny yn seiliedig ar yr hyn maen nhw’n ei ddweud wrthym sy’n bwysig iddyn nhw. Os gwnawn ni hynny’n iawn, rydym yn gwybod y byddwn ar y trywydd iawn i ddylunio dull sy’n gweithio.

Ledled Cymru, rydym wedi gweld gostyngiad yn nifer y preswylwyr sy’n nodi cwynion am niwsans. Rydym yn gobeithio bod hyn yn golygu bod llai o ymddygiad sy’n peri niwsans. Ers i ni ddechrau treialu ein dull newydd ym mis Mehefi n 2012, rydym wedi cofnodi 47 cwyn yn ein hardaloedd peilot. Rydym wedi ceisio cysylltu â phawb lle’r ydym wedi cymryd camau, a hyd yn hyn wedi siarad â 20 o’r 37 achwynwr i weld beth oedd eu barn ar y ff ordd y gwnaethom ymateb i’w cwyn.

Rydych eisiau:

“siarad gyda’r unigolyn priodol”

Mae’n ymddangos ein bod ni’n gwneud hyn yn iawn, ond fe ddywedodd pedwar o bobl nad oeddem wedi gwneud hynny yn eu hachos nhw. Dywedodd rhywun ‘Roedd yn rhaid i’m merch ymyrryd i’r Swyddog Tai ddod atom’ ond eto dywedodd rhywun arall ei bod yn ‘hawdd cael gafael arnom.’ Gan fod Swyddogion Tai yn ateb yr alwad yn uniongyrchol, mae preswylwyr yn gallu siarad gyda’r unigolyn a fydd yn delio gyda’u cwyn.

Yn rhifyn diwethaf In Touch, fe ddywedom wrthych ein bod ni’n newid sut rydym yn delio achwynion ynghylch niwsans. Yr erthygl hon yw ein hail mewn cyfres sy’n dweud wrthych beth rydym yn ei wneud, sut a pham, fel yr ysgrifenna Bridget Garrod, y Rheolwr Mentrau Cymdogaethau.

Page 45: Intouch Gaeaf 2012

Cymdogaethau sy’n gweithio | intouch | www.wwha.co.uk | 45

Rydych eisiau:

“cael ymateb cyfl ym”Mae’n ymddangos ein bod ni’n gwneud hyn yn iawn. O’r 20 arolwg, dim ond tri oedd yn cynnwys sylwadau negyddol. Er enghrai , dyma un sylw: ‘Do, ar gyfer y gŵyn hon. Ond fe gymerodd y mater ynghylch parcio ychydig yn hirach iddo ei ddatrys.’

Rydych eisiau:

“i ni wneud y peth iawn i chi dan eich amgylchiadau”Mae’n ymddangos ein bod ni’n gwneud hyn yn iawn. Ni chafwyd sylwadau negyddol. Mae swyddogion yn defnyddio eu gwybodaeth a’u sgiliau i ddeall sut mae’r niwsans yn eff eithio ar yr unigolyn sy’n gwneud y gŵyn, a chymryd y camau priodol.

Rydych eisiau:

“cael gwybod am hynt eich cwyn wrth iddi gael ei harchwilio”Mae angen i ni weithio ar hyn o hyd, a deall sut y gallwn wella pethau. Mae pobl yn ymwybodol ein bod ni wedi cymryd rhywfaint o gamau, ond yn gyff redinol mae’n ymddangos eu bod nhw eisiau sgwrs yn dilyn hynny i gadarnhau beth sydd wedi cael ei wneud.

Rydych eisiau:

“teimlo a bod yn ddiogel yn eich cartref a’r ardal lle’r ydych yn byw”Yn gyff redinol, mae pobl yn teimlo’n ddiogel, ac roedd y sylwadau ar y cyfan yn cyfeirio at hanes blaenorol o ddigwyddiadau.

Rydych eisiau:

“i ni atal y niwsans rhag digwydd eto”Mewn rhai achosion, roedd y niwsans wedi stopio, ond yn gyff redinol roedd preswylwyr yn gwybod gyda phwy y dylen nhw gysylltu petai’r niwsans yn dechrau eto. Pan ofynnwyd y cwes wn ‘ydych chi’n meddwl bod y niwsans wedi cael ei ddatrys’? dywedodd y mwyafrif o’r preswylwyr fod hynny wedi digwydd, ond mae’n ymddangos fod pryder sylfaenol y bydd y niwsans yn digwydd eto neu’n dechrau eto.

Ein gwaith:

“nodi’n glir beth allwn ni ei wneud i ddatrys y mater, neu beth allwn ei wneud er mwyn i chi allu goddef y sefyllfa’n haws”an do to make it more bearable”Mae’n ymddangos ein bod ni’n gwneud hyn yn iawn. Mae’r sylwadau a’r sgoriau cyff redinol allan o 10 yn awgrymu hynny.

Felly, beth nesaf?

Rydym yn ymestyn y cynllun peilot i gynnwys rhagor o rannau o Gaerdydd. Ac fe wnawn ni barhau i geisio cysylltu â phob preswyliwr sy’n rhan o’r cynllun i weld beth yw oedd barn am y gwasanaeth y gwnaethom ei ddarparu. Cadwch olwg am ragor o ddiweddariadau yn rhifynnau nesaf In Touch.

Os hoff ech gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith ail-ddylunio a sut rydym yn defnyddio sylwadau preswylwyr i lunio’r gwasanaeth newydd, cysylltwch â mi, Bridget Garrod, ar [email protected]

Page 46: Intouch Gaeaf 2012

46 | www.wwha.co.uk | intouch | Eich newyddion a’ch sa wyn au

a’r enillydd yw…Diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran. Cawsom gynigion gwych, gan gynnwys y rhai gan:

Jayne Styles, Cei ConnahZena Bundell, Pen-y-bont ar OgwrSian Evans, y WaunAnn Roberts, LlandrindodFreda Watkins, Pen-y-bont ar OgwrM Arthurs, Pen-y-bont ar OgwrJane Morris, PrestatynGraham White, PrestatynYveline Hands, Rheolwr Cynllun, PrestatynMaria Mulford, Rheolwr Cynllun, Williamstown

Fe wnaeth staff WWH ddefnyddio llun hyfryd Jayne o aeron gyda rhew drostyn

nhw yn pefrio yn yr haul fel e-gerdyn Nadolig y cwmni, ynghyd â phennill a ysgrifennwyd gan Gill Sanger, y Rheolwr Cyllid (Cyfrifon).

Gan ein bod ni wedi arbed arian drwy beidio â phrynu cardiau traddodiadol, fe wnaethom gyfrannu £250 tuag at Help for Heroes yn lle hynny.

Os ydych yn mwynhau tynnu lluniau, trowch at y tu mewn i glawr ôl y cylchgrawn hwn am ragor o wybodaeth am ein cystadleuaeth ff otograff au newydd, y byddwn yn ei chynnal yn rheolaidd. Fe allech ennill gwerth £100 o dalebau Argos drwy gymryd rhan.

Enillydd cystadleuaeth ff otograff e-gerdyn Nadolig 2012 WWH oedd Jayne Orchard, Swyddog Gwasanaethau Cwsmeriaid ym Mhrif Swyddfa WWH.

Page 47: Intouch Gaeaf 2012

Eich newyddion a’ch sa wyn au | intouch | www.wwha.co.uk | 47

Brownies siriol Prestatyn yn dechrau’r dathliadau Nadolig Dechreuodd par Nadolig Nant y Môr gyda chanu carolau gyda 2il a 5ed cangen y Brownies ym Mhrestatyn, i gyfeiliant yr organydd Anthony Worrall. Fe wnaeth y preswylwyr a’r staff fwynhau bwff e ysblennydd gyda thŵr tair haen o deisennau bach yn ganolbwynt i’r cyfan, cyn i’r dawnsio ddechrau i gyfeiliant pibau.

Disgyblion Maes Hyfryd yn mwynhau plannu yn Ystad Goff a, y Ffl int Mae plant o Ysgol Maes Hyfryd, ysgol anghenion arbennig yn y Ffl int, yn mwynhau prosiect garddio yng nghynllun er ymddeol Ystad Goff a yn y Ffl int. Anfonodd y plant gerdyn Nadolig hyfryd wedi’i wneud â llaw, yn diolch i’r preswylwyr am eu cefnogi nhw gydau’r prosiect cymunedol. “Mae’n enghrai hyfryd o genedlaethau gwahanol yn cydweithio. Rydym wedi gweithio gyda’n gilydd ar brosiect yn y gorff ennol, ac rwy’n gobeithio na wnawn ni byth golli’r cysyll ad arbennig rhyngom,” meddai Alison Moody, y Rheolwr Cynllun.

Page 48: Intouch Gaeaf 2012

48 | www.wwha.co.uk | intouch | Eich newyddion a’ch sa wyn au

preswylwyr Cae Mawr

Dathliadau Nadolig cynnarAr 6 Rhagfyr, aeth deuddeg preswyliwr rhwng 50 a 90 oed o gynllun er ymddeol Cae Mawr i ginio Nadolig yng Ngwesty’r Queens yn Llandudno. Fe wnaeth un o’r preswylwyr, Mr M Pickwick, ddarparu’r drafnidiaeth i’r lleoliad ac yn ôl.

Dyma’r ail ddigwyddiad cymdeitha-sol llwyddiannus yng Nghae Mawr yn ddiweddar, gyda nifer o breswylwyr hefyd yn mwynhau dathliad cymunedol cyn y Nadolig, a drefnwyd ar y cyd gan staff Cae Mawr, Grŵp Cymunedol Tudno Palace a Chartrefi Conwy.

Dim curo arLimebourne Courtyng nghystadleuaeth Caerdydd yn ei BlodauMae cystadleuaeth Caerdydd yn ei Blodau wedi cael ei chynnal ers dros 25 o fl ynyddoedd, ac mae wedi bod yn hynod boblogaidd ar gyfer pob math o erddi. Yn 2012, Limebourne Court, yr Eglwys Newydd, Caerdydd a enillodd y wobr 1af yn y categori ‘Stryd neu ardal yn y ddinas â’r cynllun Gwarchod y Gymdogaeth gorau’. Dros y pymtheg mlynedd diwethaf, mae’r cynllun er ymddeol hwn wedi ennill naill ai’r wobr gyntaf neu’r ail wobr bob tro.

“Mae’n anodd cael y gorau ar Limebourne Court, a bod yn onest. Maen nhw’n creu cryn argraff wrth i chi ddod rownd y gornel a gweld yr holl erddi. Nid y gerddi yn unig, ond yr holl gynhwysyddion a’r basgedi crog. Maen nhw’n gwneud cymaint, ac yn rhagori ar ymdrechion y fl wyddyn fl aenorol bob blwyddyn” meddai Ruth Mumford, Cydlynydd Caerdydd yn ei Blodau.

Ffotograff drwy ganiatâd caredig Caerdydd yn ei BlodauO’r chwith i’r dde, Mrs Carol Bayley (preswyliwr), Mrs Helen Smith, Beirniad Caerdydd yn ei Blodau, Mrs Georgia Mills (preswyliwr), Mrs Pat Lewis, o Gaerdydd yn ei Blodau, yn cyfl wyno tlws y buddugwyr i Marilyn Berry, rheolwr Cynllun, Mr Anthony Constan ne (preswyliwr) yn y cefndir, gyda Ms Sheila Small (preswyliwr) ar y dde.

Page 49: Intouch Gaeaf 2012

Eich newyddion a’ch sa wyn au | intouch | www.wwha.co.uk | 49

PreswylwyrCwrt Pentwmpath yn dathlu gyda’u ff rindiau a’u cymdogionCwrt Pentwmpath re rement scheme in Llay, Wrexham celebrated their Christmas Get Together on 12th December. All WWH residents together with local friends and family joined in their fun, with entertainment from Steve Tempo who sang and played the guitar. They also enjoyed a day trip to Birmingham’s German Market.

Y tŷ’n llawn ar gyfer Nadolig Clwb y ‘Spring Chicken’Fe wnaeth clwb y ‘Spring Chicken’ yn Oldwell Court, Caerdydd, fwynhau cinio Nadolig 3 chwrs yn y Nine Giants, Thornhill, Caerdydd ar 17 Rhagfyr. Fe wnaeth pryd hyfryd ac ambell wydraid o win beri i bawb fynd i hwyl yr ŵyl.

“Llawer o ddiolch i’r cogydd a’r staff gwych am ofalu mor dda amdanom” meddai’r rheolwr Cynllun Sandy Houdmont.

Yn ogystal, ar 13 Rhagfyr, fe wnaeth disgyblion o Ysgol Uwchradd Sant Teilo baratoi cinio bwff e i breswylwyr Oldwell Court ei fwynhau. Darparwyd cerddoriaeth hefyd, a chafodd pawb amser braf. Mae’r myfyrwyr wedi bod yn help mawr dros yr wythnosau diwethaf, a hoff em ddweud eu bod yn glod i’r ysgol.

Rhaid diolch yn fawr hefyd i diwtor y myfyrwyr, Sandra Roderick, am ei holl help.

Cinio Nadolig yn Western Court Fe wnaeth preswylwyr cynllun er ymddeol Western Court ym Mhen-y-bont ar Ogwr fwynhau eu dathliadau, a thalwyd am y cyfan o’u cronfa garddio.

Preswylwyr Cwrt Pentwmpath yn dathlu gyda’u ff rindiau a’u cymdogion.

Preswylwyr cynllun er ymddeol Western Court ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Page 50: Intouch Gaeaf 2012

50 | www.wwha.co.uk | intouch | Pen-blwyddi a dathliadau

Pen-blwydd hapus yn 100 oed, AlecFe wnaeth Alec James, un o breswylwyr cynllun er ymddeol Maes y Ffynnon yng Nghrughywel, ddathlu mewn steil ddydd Llun, 26 Tachwedd, yng Ngwesty’r Manor, ynghyd â phedair cenhedlaeth o’i deulu. Ar y dydd Sul, cynhaliwyd par yn y cynllun, gyda thros 70 o ff rindiau, staff , gofalwyr a phreswylwyr. Mae Alec yn dad i bedwar, yn dad-cu i bedwar ac yn hen dad-cu i chwech o blant. Fe’i magwyd gyda phedair chwaer; fe wnaeth yr hynaf hefyd gyrraedd y 100fed pen-blwydd, ac mae wedi byw yn ardal Crughywel ers 77 mlynedd.

Gwladys, gynt o Fyddin y Tir yn 90 ifanc heiniGwladys Parry, resident at Ystad Goff a re rement scheme in Flint

celebrated her birthday on the 3rd December with a gathering of friends in the communal lounge. She is a keen Bingo player and loves to join in with the social events. Her family visits regularly and she loves to see them. Happy birth-day, Gwladys!

Y rhes fl aen, o’r chwith i’r dde - Liz Hughes, Rheolwr y Ganolfan Ddydd, Cyngor Powys, Alec James, Carl Flowers, Cyngor Powys. Hefyd, yn y cefn, gwelir Rob Llewellyn, y Rheolwr Cynllun, gyda phreswylwyr a defnyddwyr y gwasanaeth.

Vida yn dathlu ei phen-blwydd yn 102!

Dathlodd Vida Price ei phen-blwydd yn 102 ar 19 Rhagfyr yn Ystad Goff a yn y Ffl int. Cafodd ei hamgylchynu gan ff rindiau o’i heglwys a’r cynllun er ymddeol. Roedden nhw wedi darparu amrywiaeth o deisennau ynghyd â theisen ben-blwydd ryfeddol. Fe wnaeth pawb ganu pen-blwydd hapus, a gwnaeth Vida anerchiad bychan. Gellid clywed rhai’n llefain a chwerthin drwy’r cynllun cyfan. “Mae hi’n ddynes ryfeddol, ac mae’n fraint ei chael hi yn y cynllun. Pan rwy’n galw i’w gweld bob dydd ac yn gofyn iddi sut mae hi, mae hi bob amser yn ateb drwy ddweud ei bod hi’n “bwrw ymlaen gyda phethau” dywedodd Alison Moody, y Rheolwr Cynllun.

Jean 83 years youngYn y llun, gwelir Jean Connolly yn dathlu yn ei phar pen-blwydd yn Western Court,Pen-y-bont ar Ogwr ar 20 Rhagfyr. Cyfarchion cynnes, Jean.

Page 51: Intouch Gaeaf 2012

Sut beth yw Cyfeillgarwch yn eich golwg chi?Byddwch yn barod i fod yn greadigol, gan ein bod yn chwilio am

yn ein cystadleuaeth

dan y pennawd ‘Cyfeillgarwch’, eich enw, oedran, cyfeiriad a rhif

Gate, Ffordd Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2UD

Weithredwr WWH, Anne Hinchey, a Chadeirydd y

dewis yr enillydd, a fydd yn

gael ei gynnwys er dibenion marchnata neu

Cystadleuaeth ff otograff au | intouch | www.wwha.co.uk | 51

Page 52: Intouch Gaeaf 2012

Bydd nifer ohonoch wedi cymryd rhan yn y ‘cinio mawr’ dros y blynyddoedd. Y nod yw cael cymaint â phosibl o bobl ledled y Deyrnas Unedig i gael cinio gyda’u cymdogion

Cynhelir y ‘cinio mawr

www.thebiglunch.com Yno fe welwch syniadau ac arweiniad gam

chi.

Mwynhewch!

2 M

EHEFIN