Top Banner
Gweithgor Arfer Dda 31.10.11 Plas Menai Ffocws – Hyrwyddo dysgu ac addysgu effeithiol ar draws y cwricwlwm yn CA3 – Blaenoriaethu Llythrennedd Focus – Promoting effective teaching and learning across the curriculum at KS3: Prioritising Literacy
47

Gweithgor Arfer Dda 31.10.11 Plas Menai

Jan 12, 2016

Download

Documents

Uriah

Gweithgor Arfer Dda 31.10.11 Plas Menai. Ffocws – Hyrwyddo dysgu ac addysgu effeithiol ar draws y cwricwlwm yn CA3 – Blaenoriaethu Llythrennedd Focus – Promoting effective teaching and learning across the curriculum at KS3: Prioritising Literacy. Agenda :. 9.15 – 9.15 Cyrraedd a choffi - PowerPoint PPT Presentation
Welcome message from author
This document is posted to help you gain knowledge. Please leave a comment to let me know what you think about it! Share it to your friends and learn new things together.
Transcript
Page 1: Gweithgor Arfer Dda 31.10.11 Plas Menai

Gweithgor Arfer Dda 31.10.11Plas Menai

Ffocws – Hyrwyddo dysgu ac addysgu effeithiol ar draws y cwricwlwm yn CA3 – Blaenoriaethu

Llythrennedd

Focus – Promoting effective teaching and learning across the curriculum at KS3: Prioritising Literacy

Page 2: Gweithgor Arfer Dda 31.10.11 Plas Menai

Agenda:9.15 – 9.15 Cyrraedd a choffi 9.15 - 9.30 Croeso a throsolwg o’r diwrnod9.30 - 11.00 Sesiwn 1: Gosod Cyd-destun 1 – Strategaeth ac Arweiniad Estyn ar Lythrennedd a

goblygiadau i Ysgolion [Elan Davies, Cynnal]11.00 – 11.15 Coffi11.15 - 12.30 Sesiwn 2: Gosod Cyd-destun 2 – YSGOGI Dysgu ac Addysgu – Fframwaith ar gyfer dysgu

ac addysgu effeithiol i ddatblygu sgiliau, meddwl ac addysgeg [Bethan James, Elan Davies, Cynnal]

12.30 – 1.30 Cinio 1.30 – 2.30 Sesiwn 3: Cyflwyniadau gan ysgolion – Hunan arfarnu Llythrennedd/Cyfathrebu fel rhan o

gylch Hunan Arfarnu Ysgol Gyfan (arsylwi gwersi a samplo gwaith dysgwyr). • Ysgol Eifionydd, Alwen Watkin/Gwyn Owen• Ysgol Syr Thomas Jones, Rhian Mair Jones 2.30 - 3.00 • Negeseuon allweddol – Llythrennedd Ysgol Gyfan.• Camau nesaf – Cynllunio ar gyfer gweithredu yn yr ysgolion. 3.00 – 3.15 Cloi ac Arfarnu

Page 3: Gweithgor Arfer Dda 31.10.11 Plas Menai

Arweiniad Cenedlaethol 2010 National Guidance:

Page 4: Gweithgor Arfer Dda 31.10.11 Plas Menai

Iaith i Feddwl a Dysgu / Language for Thinking and Learning

Page 5: Gweithgor Arfer Dda 31.10.11 Plas Menai

Estyn a Llythrennedd – Pwyntiau allweddol ...• Mae Llythrennedd yn llwybr ymholi ym mhob

arolygiad cynradd ac uwchradd;• Mae dau lwybr ar gyfer arolygu - Coch (sylw

agos ar lythrennedd) a Gwyrdd (sylw ‘ysgafnach’);

• Mae’r ddau lwybr yn cael eu hadnabod drwy edrych ar ddata ysgol gan gynnwys data o’r Setiau Data Craidd ac oedrannau darllen dysgwyr;

• Cyhoeddodd Estyn ganllaw i ysgolion ac arolygwyr ar arolygu llythrennedd mewn ysgolion.

Page 6: Gweithgor Arfer Dda 31.10.11 Plas Menai

Llwybrau Ymholi / Lines of Enquiry:

Page 7: Gweithgor Arfer Dda 31.10.11 Plas Menai

Sbardunau ar gyfer trywydd ymholi llythrennedd: Y DULL COCH – lle mae llythrennedd yn drywydd ymholi PWYSIG caiff ei sbarduno pan fydd: •data yn awgrymu bod gan ddysgwyr fedrau llythrennedd gwan – o’r deilliannau is mewn Saesneg/Cymraeg o’i gymharu â meincnodau teuluol a phrydau ysgol am ddim; •sgorau oedran darllen yn dangos canran uchel (uwchlaw 40%) o ddysgwyr chwe mis neu fwy islaw eu hoedran cronolegol a/neu ganran uchel (uwchlaw 20%) islaw’r oedran llythrennedd swyddogaethol (9.5 oed); •mae deilliannau o gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu yn dangos bod cyfran fawr o ddysgwyr yn cyflawni lefelau 1 – 2, mewn cyferbyniad â’r perfformiad is yng nghyfnod allweddol 4 mewn Saesneg/trothwy L2 sy’n cynnwys Saesneg/Cymraeg a Mathemateg. Mae hyn yn codi amheuon posibl ynglŷn â chywirdeb cymwysterau Sgoliau Hanfodol Cymru; a/neu •diffyg tystiolaeth o gynnydd, cymorth, monitro, olrhain a dadansoddi llythrennedd yn yr AHA.

Y DULL GWYRDD – lle mae llythrennedd yn drywydd ymholi LLAI PWYSIG – caiff ei sbarduno pan fydd:

• data yn awgrymu bod gan ddysgwyr fedrau llythrennedd rhagorol – o’r

• Strategaeth ac arweiniad ar gyfer arolygu llythrenedd ar gyfer disgyblion rhwng 3 ac 18 oed 47

• deilliannau uwch mewn Saesneg/Cymraeg o’i gymharu â meincnodau teuluol a phrydau ysgol am ddim;

• sgorau oedran darllen yn dangos canran isel (islaw 25%) o ddysgwyr chwe mis neu fwy islaw eu hoedran cronolegol a/neu ganran isel (islaw 10%) islaw’r oedran llythrennedd swyddogaethol (9.5 oed);

• mae deilliannau o gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu yn dangos bod cyfran fawr o ddysgwyr yn cyflawni lefelau 1-3; gallai hyn fod yn rhagorol os yw dysgwyr cyfnod allweddol 3 yn cyflawni lefel 2 Cyfathrebu neu ddysgwyr cyfnod allweddol 4 yn cyflawni lefel 3 Cyfathrebu (a ‘i fod yn cael ei ddangos wrth i ddysgwyr gymhwyso’r medrau llythrennedd hyn mewn gwersi ac yn eu gwaith ysgrifenedig); a/neu

• mae tystiolaeth o gynnydd rhagorol a chynaliadwy mewn rhaglenni ymyrraeth llythrennedd neu dystiolaeth o arfer sy’n arwain y sector yn y ddarpariaeth a’r deilliannau ar gyfer llythrennedd yn yr AHA.

Page 8: Gweithgor Arfer Dda 31.10.11 Plas Menai

TASG 1 / TASK 1:

Defnyddiwch yr arweiniad ar tudalennau 43, 44, 46 and 47 o’r ddogfen arolygu llythrennedd i benderfyny pa llwybr fyddai’r un mwyaf tebygol ar gyfer eich ysgol chi ar hyn o bryd.PAM?

Use the guidance on pages 43, 44, 46 a 47 of the literacy inspection document to decide which route would be the most likely for your school at this point.

WHY?

Page 9: Gweithgor Arfer Dda 31.10.11 Plas Menai

Trosolwg o arfer dda mewn llythrennedd ar draws y cwricwlwm yng nghyfnod allweddol 3 a 4

Dylai fod dull cytbwys a mwyfwy heriol o ddatblygu medrau llythrennedd da ym mhob maes pwnc, gan gynnwys:

• ymestyn ystod y cyfleoedd i ddefnyddio llefaredd fel bod disgyblion yn ymarfer eu gwaith cyn cwblhau tasgau darllen ac ysgrifennu, yn ogystal â strategaethau fel ‘partneriaid siarad’ a chwarae rôl;

• datblygu rhuglder a chywirdeb disgyblion mewn darllen; • datblygu medrau dealltwriaeth cymhleth, gan symud i ddod o hyd i ffeithiau, defnyddio rhesymiad a

thynnu casgliadau i arfarnu a dadansoddi cynnwys ac arddull testunau o ansawdd uchel; • defnyddio ystod eang o strategaethau adalw gwybodaeth, gan gynnwys TGCh, yn effeithiol i ddethol a

threfnu gwybodaeth; • darllen at wahanol ddibenion trwy strategaethau fel brasddarllen, bwrw golwg a marcio’r testun, yn

ogystal â gwneud dehongliadau eraill a defnyddio gridiau cofnodi i ymchwilio o wahanol ffynonellau; • defnyddio atalnodi a gramadeg cywir, a datblygu ystod o strategaethau sillafu; • ysgrifennu ar ffurf estynedig ar gyfer ystod o ddibenion a chynulleidfaoedd, er mwyn hysbysu,

esbonio, darbwyllo, adrodd ac ati; • ysgrifennu’n gywir ar draws y chwe phrif fath o destun ffeithiol (adrodd, cyfarwyddo, adroddiad

anghronolegol, esbonio, darbwyllo a thrafod); a • chynllunio, drafftio a golygu gwaith, gan gynnwys defnyddio TGCh, fel y bo’n briodol.

Page 10: Gweithgor Arfer Dda 31.10.11 Plas Menai

Gall ysgolion ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys:

• ystod o ddulliau i wella rhuglder a medrau deall disgyblion, fel darllen ar y cyd a darllen mewn grwpiau;

• darllen dan arweiniad – lle mae’r athro/athrawes yn modelu dulliau o archwilio testun i brofi strategaethau darllen disgyblion trwy egluro, rhagfynegi, gofyn cwestiynau penagored a chrynhoi;

• darllen mewn parau – gweithio gyda phartner sy’n darllen ar lefel allu debyg neu blentyn hŷn yn darllen â phlentyn iau;

• ysgrifennu ar y cyd a dan arweiniad – trwy arddangosiad gan yr athro/athrawes a thrafodaeth dosbarth i ategu medrau ysgrifennu annibynnol disgyblion;

• dewis testunau diddorol o ansawdd uchel i annog ymateb personol gan ddisgyblion ac i ymestyn eu dealltwriaeth;

• ysgrifennu mewn ymateb i ystod eang o ysgogiadau; • defnyddio geiriaduron, waliau geiriau a strategaethau i ddeall geirfa sy’n

benodol i bwnc ac i ymestyn geirfa disgyblion; a • chynllunio ysgrifennu estynedig, gan gynnwys drafftio ac adolygu

ysgrifennu.

Page 11: Gweithgor Arfer Dda 31.10.11 Plas Menai

Beth fyddech chi’n disgwyl ei weld? • Amgylchedd llythrennedd cyfoethog a dynamig lle rhoddir statws

uchel i siarad a gwrando, darllen ac ysgrifennu • Digon o gyfleoedd o ansawdd da i ddisgyblion ddangos uwch fedrau

darllen ac ysgrifennu o ansawdd da ym mhob agwedd ar y cwricwlwm

• Arddangosiadau o ansawdd da o ystod eang o destunau yn dangos ffurfiau a dibenion ysgrifennu, ac enghreifftiau o’r disgyblion yn dathlu eu gwaith gorau

• Defnyddio drama a chwarae rôl a dulliau fel rhoi disgyblion yn y ‘gadair goch’.

• Ymarferwyr sy’n ddelfryd ymddwyn da o ran iaith ar gyfer siarad a gwrando, darllen ac ysgrifennu

• Ymarferwyr sy’n cynorthwyo datblygu medrau llythrennedd da ym mhob rhan o’r cwricwlwm, er enghraifft, trwy ddefnyddio geirfa a pholisi marcio cyffredin yn gyson, ac addysgu confensiynau’r gwahanol fathau o ysgrifennu sy’n cael eu defnyddio yn eu pynciau

Page 12: Gweithgor Arfer Dda 31.10.11 Plas Menai

Polisiau / Policies• A oes gan yr ysgol bolisi llythrennedd a

strategaethau cynhwysfawr a chadarn? • A yw datblygu llythrennedd/codi safonau

llythrennedd yn cael blaenoriaeth uchel yn y cynllun gwella ysgol?

• Pa mor dda y mae’r ysgol wedi cynnwys monitro ac arfarnu lefelau llythrennedd dysgwyr, a’u datblygiad llwyddiannus gan staff, yn ei pholisïau a’i gweithdrefnau monitro a chynllunio ar gyfer gwella?

• A yw’r monitro a’r arfarnu hwn yn cynnwys dadansoddiad o safonau medrau llythrennedd dysgwyr mewn gwersi ac wrth graffu ar lyfrau?

• Pa mor dda y mae polisi a gweithdrefnau marcio ac asesu’r ysgol yn helpu dysgwyr i ddatblygu eu medrau darllen ac ysgrifennu, i fyfyrio ar eu gwaith a gwneud cynnydd?

• Does the school have a comprehensive and robust literacy policy and strategies?

• Is the development of literacy / raising literacy standards a high priority in the school improvement plan?

• How well has the school included the monitoring and evaluation of learners’ levels of literacy skills, and their successful development by staff, within its monitoring and planning for improvement policies and procedures?

• Does this monitoring and evaluation include an analysis of the standards of learners’ literacy skills in lessons and in book scrutiny?

• How well does the school’s marking and assessment policy and procedures help learners to develop their reading and writing skills, to reflect on their work and make progress?

Page 13: Gweithgor Arfer Dda 31.10.11 Plas Menai

Gwrando ar ddysgwyr:

Page 14: Gweithgor Arfer Dda 31.10.11 Plas Menai

TASG 2/ TASK 2:

•Defnyddiwch tudalen 57, 59, 60 ac Atodiad 3 ‘Mae cynllunio da ar gyfer ysgrifennu i’w weld mewn ysgolion lle ...’ i adnabod yr arferion da mewn ysgrifennu mae Estyn yn chwilio amdanynt wrth archwilio llyfrau ac arsylwi gwersi.

•Use pages 59, 60 and Appendix 3 ‘Good planning for writing is shown in schools where ...’ to identify the features of good practice in writing that Estyn is looking for during book scrutiny and lesson observation.

Page 15: Gweithgor Arfer Dda 31.10.11 Plas Menai

Archwiliad Llyfrau:

Page 16: Gweithgor Arfer Dda 31.10.11 Plas Menai

Arsylwi Gwersi:

Page 17: Gweithgor Arfer Dda 31.10.11 Plas Menai

YSGRIFENNU / WRITING: ESTYNMae cynllunio da ar gyfer ysgrifennu i’w weld mewn ysgolion lle: • mae gwaith yn datblygu medrau ysgrifennu annibynnol disgyblion yn y Cyfnod Sylfaen ac yn eu galluogi i ddatblygu eu medrau ysgrifennu’n raddol; • ym mhob cyfnod, mae cynlluniau’n cynnwys ysgrifennu mewn gwahanol ffurfiau ac ar gyfer gwahanol ddibenion a chynulleidfaoedd; • mae gwaith yng nghyfnodau allweddol 2 a 3 yn canolbwyntio ar nodweddion arddulliadol a phriodweddau gwahanol fathau o ysgrifennu, gan gynnwys dulliau ysgrifennu ffurfiol ac anffurfiol; • caiff y medrau sydd eu hangen ar ddisgyblion i fynegi a threfnu syniadau eu datblygu’n raddol, gan ddefnyddio strwythurau gwahanol ar gyfer brawddegau, paragraffau a gosodiad testunau o’r Cyfnod Sylfaen i gyfnod allweddol 3; • mae ffocws ar eiriau a’u hystyr, fel bod disgyblion yn dysgu i ymestyn eu geirfa ac i fynegi eu hunain yn fwyfwy trachywir; • rhoddir sylw i strategaethau sy’n helpu disgyblion i sillafu ac atalnodi’n gywir; • mae cyfleoedd i ddisgyblion siarad am eu gwaith ysgrifenedig eu hunain ac eraill a deall y modd y caiff iaith ei defnyddio i greu effaith; a • rhoddir sylw i gynllunio, drafftio, adolygu, prawfddarllen a gloywi darnau o waith ysgrifenedig, gan ddefnyddio TGCh, lle bo hynny’n briodol.

Page 18: Gweithgor Arfer Dda 31.10.11 Plas Menai

Disgwyliadau: Ysgrifennu Expectations: Writing

Rhoi’r Tŷ Mewn TrefnPutting the House in Order:

Page 19: Gweithgor Arfer Dda 31.10.11 Plas Menai

Modelu Addysgeg Ysgrifennu Effeithiol:

• Cynllunio cyfleoedd i ysgrifennu• Pwrpas i Ysgrifennu (Pam a Beth?)• Modelu ac adnabod meini prawf

llwyddiant ac adeiladu ar ddysgu flaenorol

• Gweithgareddau llafar, darllen ac ysgrifennu i ddatblygu sgiliau iaith, dealltwriaeth a syniadau er mwyn:

- datblygu geirfa, cysyniadau a dealltwriaeth pynciol

- datblygu geirfa a strwythur testun e.e. cysyllteiriau, muriau/matiau geirfa, trefnyddion meddwl/Sue Palmer, fframiau llafar/ysgrifennu ...

• Cyfleoedd i hunan asesu ac asesu cyfoedion yn erbyn y meini prawf llwyddiant

• Asesu ac adborth gan yr athro (yn dilyn polisi asesu yr ysgol)

MEDDWL

CYNLLUNIO

DATBLYGU

MYFYRIO

AagDAmcanion Dysgu a Rhannu Meini

Prawf Llwyddiant

Dysgu Disgybl-ganolog a dysgu

drwy trafod

Hunan Asesu, Asesu Cyfoedion

ac Adborth Effeithiol

Page 20: Gweithgor Arfer Dda 31.10.11 Plas Menai

YSGRIFENNU / WRITING Y ‘brics’ allweddol / Essential ‘bricks’:

1. Modelau o waith da/gwan / enghreifftiau parod

2. Dealltwriaeth o feini prawf llwyddiant y 6 testun anllenyddol/ffurfiau penodol e.e. Esbonio, perswadio / llythyr, taflen wybodaeth ...

3. Fframiau Ysgrifennu / Fframiau Llafar

4. Cysyllteiriau testun e.e. ar y llaw arall, yn gyntaf, i grynhoi ...

5. Fframweithiau cynllunio e.e. Map meddwl, grid CwAMFf, at bwrdd, trefnyddion testun Sue Palmer ...

6. Geirfa pynciol – wal eirfa, matiau geirfa, geiriaduron, gweithgareddau e.e. cardiau term a diffiniad ...

7. Gweithgareddau llafar i ddatblygu dealltwriaeth, sgiliau iaith, syniadau, cyd-ysgrifennu ...

8. Adborth effeithiol yn ôl MPLl y dasg – hunan asesu/asesu cyfoedion + adborth yr athro.

Page 21: Gweithgor Arfer Dda 31.10.11 Plas Menai

PWRPAS / PURPOSE:Y 6 Testun Anllenyddol / The 6 Text Types

Dwyn i Gof/Traethu RecountCyfarwyddo Instruct

Gwybodaeth/Adrodd Information/ReportEsbonio Explain

Perswadio PersuadeTrafod Discuss

Page 22: Gweithgor Arfer Dda 31.10.11 Plas Menai

Cysyllteiriau Testun / Text Connectives:GEIRFA: Cysyllteiriau ar gyfer ...YCHWANEGU:a, yn ogystal â, hefyd, ar ben hynny, eto, yn ychwanegol ...

AMSER:yn gyntaf, wedyn, cyn, nesaf, yn raddol, yn y cyfamser, unwaith, ar ol, pan, tra, yn olaf ...

ACHOS ac EFFAITH:o ganlyniad, felly, gan fod, cyhyd a, pryd bynnag, oherwydd, gan hynny, yn y pen draw ...

CYMHARU:yn yr un modd, o gymharu â, yn debyg, ond, fodd bynnag, er gwaethaf hyn, ar wahân i, serch hynny, yn hytrach ...

PERSWADIO:Yn glir, does bosib, yn amlwg, yn anffodus, yn naturiol, nid yn unig, yn bennodol, uwchlaw popeth, yn enwedig, o ganlyniad, wrth gwrs, oherwydd, mae’n debyg, mewn geiriau eraill, fel a ddengys gan, yn fy marn i ...

TRAETHU/TRAFOD:Fodd bynnag, felly, o ganlyniad, oherwydd, er hyn, er, heblaw am, eto, o gymharu â, hefyd, gan fod, serch hynny, mae rhai pobl yn dweud, ar y llaw arall, mae’n bosibl, yr olaf, i gloi, ar y cyfan ...

Page 23: Gweithgor Arfer Dda 31.10.11 Plas Menai

Trefnyddion Graffig / Graphic Organisers:

Page 24: Gweithgor Arfer Dda 31.10.11 Plas Menai

Fframiau Llafar:

Fframiau siarad defnyddiol mewn gwyddoniaethRwy’n credu (y bydd x yn digwydd) oherwydd …Os gwnewch chi (x) yna …-Rhagfynegi

Rwy’n credu (ei fod yn digwydd/ei fod fel hyn) oherwydd …Rwy’n credu bod x yn cael ei achosi gan …Mae hyn yn dangos bod …-yn nodi’r achos ac effaith

Mae’n debyg oherwydd …Mae’n wahanol oherwydd …- cymharu a chyferbynnu

Page 25: Gweithgor Arfer Dda 31.10.11 Plas Menai

Atalnodi / Punctuation:

..P[L2]

.P?!, [L3] *.P?!,, “” ’[L4]

.P?!,,”” ’() ... :; - [L5+]

P = Priflythyren / Capital Letter

*Atalnod mewn rhestr / comma in list

Page 26: Gweithgor Arfer Dda 31.10.11 Plas Menai

Strategaethau Sillafu / Spelling strategies :Oes gan eich athrawon ddealltwriaeth o ba strategaethau sillafu gellir eu defnyddio ar gyfer dysgu sut i sillafu geiriau allweddol a termau pwnc?Do your teachers have an understanding of the kinds of spelling strategies that can be used to help learn key words and subject terminology?

e.e. Cofyddiaeth/Mnemonics, Look-Cover-Write-Check ...

Beth am eich Polisi Marcio?What about your Marking Policy?

Page 27: Gweithgor Arfer Dda 31.10.11 Plas Menai

TASG 3/ TASK 3:

•Ystyriwch hyd at 5 strategaeth ddarllen byddwch chi’n disgwyl ei weld mewn gwersi ar draws y cwricwlwm?•Ydych chi’n gweld rhain yn gyson wrth arsylwi gwersi?•Pa gymorth ydych chi’n ei roi i athrawon pwnc wrth iddynt gynllunio i ddatblygu sgiliau darllen dysgwyr ar draws y cwricwlwm?

• Consider up to 5 reading strategies you would expect to see during lessons across the curriculum?

• Are these strategies that you see consistently when observing lessons?

• What support do you give subject teachers with their planning for developing learners’ reading skills across the curriculum?

Page 28: Gweithgor Arfer Dda 31.10.11 Plas Menai

Disgwyliadau: Darllen ar draws y cwricwlwm Expectations: Reading across the curriculum

Strategaethau allweddol:1. Sgimio a

Sganio/llithrddarllen 2. Craff Ddarllen3. Darllen ar y cyd (modelu

testun)4. Darllen i gywain

gwybodaeth5. Offerynau nodiadau e.e.

Grid CwAMFf, GEDS, Mapiau Meddwl ...

Key strategies:1. Skimming and Scanning2. Close Reading3. Shared Reading (text

modelling)4. Reading for information5. Note making tools e.g.

QuADS and KWL Grids, Mind Maps ...

Page 29: Gweithgor Arfer Dda 31.10.11 Plas Menai

Adnoddau / Resources:

Page 30: Gweithgor Arfer Dda 31.10.11 Plas Menai

Rhaglenni Ymyrraeth:

Page 31: Gweithgor Arfer Dda 31.10.11 Plas Menai

Offerynnau i gefnogi darllen ffeithiol / Tools for supporting factual reading:

• Model EXIT model (darllen ymchwiliol / research reading)*Iaith i Feddwl / Language for Thinking

• Trefnyddion Graffig / Graphic Organisers:

GRID GEDS / KWLHGRID

Beth ydw i’n gwybodWhat do I Know?

Beth ydw i eisiau gwybod?What do I Want to know?

Beth wnes i ddysgu?What have I Learnt?

Sut wnes i ddysgu?How did I learn?

GRID CwAMFf / QuADS GRID

CwestiwnQuestion

AtebAnswer

ManylionDetails

FfynhonnellSource

Page 32: Gweithgor Arfer Dda 31.10.11 Plas Menai

DARLLEN / READING: ESTYNMae cynllunio da ar gyfer darllen i’w weld mewn ysgolion lle: • mae cynlluniau’n sicrhau datblygu medrau darllen disgyblion yn raddol; • mae ffocws parhaus ar ffoneg yng nghyfnod allweddol 2, yn enwedig mewn Cymraeg/Saesneg, sy’n helpu i sicrhau gwybodaeth disgyblion am iaith a’u gallu i ddefnyddio’r wybodaeth hon i ddatgodio geiriau; • mae gwaith yn annog ymateb personol disgyblion i ystod eang o destunau diddorol ac amrywiol mewn barddoniaeth, rhyddiaith a drama a thestunau nad ydynt yn llenyddol ac yn y cyfryngau; • mae’r staff yn darparu rhestrau darllen a mentrau sy’n annog disgyblion i ddarllen ar eu pennau eu hunain ac i archwilio ystod eang o lyfrau y tu hwnt i’w hoff awduron a mathau o destun; • caiff uwch fedrau darllen disgyblion, gan gynnwys brasddarllen, bwrw golwg, casglu a diddwytho, eu datblygu’n raddol; • mae testunau mwyfwy heriol yng nghyfnodau allweddol 2 a 3, sy’n adeiladu ar brofiad darllen blaenorol y disgyblion ac yn ymestyn eu medrau darllen; • mae ffocws cryf ar ddealltwriaeth ac amgyffrediad y disgyblion o’r hyn y maent yn ei ddarllen a chyfleoedd iddynt wirio eu rhagdybiaethau yn erbyn y testun; a• rhoddir sylw da i ddatblygu medrau llyfrgell a medrau adalw gwybodaeth, ac mae’r staff yn cynllunio cyfleoedd rheolaidd i ddisgyblion ddefnyddio llyfrgell yr ysgol a llyfrgelloedd cyhoeddus a’r rhyngrwyd er mwyn pleser ac er mwyn ymchwilio.

Page 33: Gweithgor Arfer Dda 31.10.11 Plas Menai

TASG 4 / TASK 4:• Beth fyddech chi’n

ddisgwyl ei weld o ran strategaethau/arferion da mewn llafaredd wrth arsylwi gwersi yn eich hysgol?

• Trefnwch eich syniadau yn ôl amlder eu gweld.

• What strategies/good practice would you expect to see when observing oracy as part of lesson observation in your school?

• Organise your ideas according to the frequency with which you come across them.

Page 34: Gweithgor Arfer Dda 31.10.11 Plas Menai

Disgwyliadau: Llafaredd Expectations: Oracy

Gwaith grŵp effeithiol:1. Tasg a deilliant priodol2. Natur a nifer yn y grŵp3. Amser penodol i’r

weithgaredd4. Cardiau Rôl5. Adnoddau i gynorthwyo’r

drafodaeth e.e. Offeryn meddwl, mat geirfa, fframweithiau llafar ...

Effective Group work:1. Appropriate task and

outcome2. Number and nature of the

group3. Specific time frame for the

activity4. Role Cards5. Resources to support the

discussion e.g. Thinking Tool, vocabulary mat, speaking frames ...

Page 35: Gweithgor Arfer Dda 31.10.11 Plas Menai

Adnoddau / Resources:

http://Moodle.cynnal.co.uk – Dysgu ac Addysgu / Teaching and Learning

Page 36: Gweithgor Arfer Dda 31.10.11 Plas Menai

Datblygiadau Cenedlaethol / National Developments:

• Prawf Darllen Cenedlaethol Blwyddyn 2-9;

• Fframwaith Llythrennedd ar draws y Cwricwlwm.

• National Reading Test – Years 2-9;

• National Literacy Framework – Literacy across the Curriculum.

Page 37: Gweithgor Arfer Dda 31.10.11 Plas Menai

Rôl yr UDRh/Cydlynydd LlythrenneddThe Role of SMT/the Literacy Co-ordinator

Page 38: Gweithgor Arfer Dda 31.10.11 Plas Menai

Evaluate to what extent the features below reflect the role of the literacy co-ordinator in your school?

Page 39: Gweithgor Arfer Dda 31.10.11 Plas Menai

Rôl Rheolwyr Canol The Role of Middle Leaders

Tudalen 66:Meddyliwch am eich tîm reolaeth ganol.Pa rai o’r cwestiynau fyddech chi’n disgwyl iddynt eu hateb yn rhwydd?Pa gwestiynau fydden nhw’n ei weld yn fwy heriol? Pam?Beth fyddech chi’n gallu ei wneud er mwyn datblygu eu ymatebion?Page 66: Think about your middle management team.Which of these questions would you Expect them to be able to answer with ease? Which ones would they find more challenging? Why?What could you do to develop their responses?

Page 40: Gweithgor Arfer Dda 31.10.11 Plas Menai

Arfarnu Arferion Cyfredol / Evaluating Current Practice:

• Use the Traffic Lighting grid to identify which aspects are in place, need some improvements, or need significant improvement.

• What evidence do you have to support your judgements?

• What would you see as the main priority(ies) for moving forward?

Page 41: Gweithgor Arfer Dda 31.10.11 Plas Menai

Offerynau i hunan arfarnu yn erbyn disgwyliadau Estyn / Self Evaluation Tools

Page 42: Gweithgor Arfer Dda 31.10.11 Plas Menai

Arfarnwch i ba raddau mae’r nodweddion isod yn adlewyrchu rôl y cydlynydd llythrennedd yn eich hysgol?

Page 43: Gweithgor Arfer Dda 31.10.11 Plas Menai

Arfer Dda mewn cynllunio Llythrennedd ar draws y Cwricwlwm:

Mae cynllunio da ar gyfer datblygu medrau cyfathrebu ar draws y cwricwlwm i’w weld mewn ysgolion lle: • mae gwaith wedi’i arwain ar bolisi llythrennedd ysgol gyfan sy’n sicrhau cydlyniad ac yn gwneud pob aelod staff yn gyfrifol am ddatblygu medrau cyfathrebu’r disgyblion; • mae’r agweddau penodol ar ddarllen ac ysgrifennu sydd i’w datblygu’n raddol trwy’r ysgol gyfan wedi’u nodi’n glir, fel bod staff yn gwybod pa fedrau i’w haddysgu a phryd; • mae datblygu medrau darllen ac ysgrifennu wedi’i ymgorffori’n gryf yng nghynlluniau gwaith pob maes dysgu/pwnc a chynlluniau gwersi; • mae cyfleoedd i ddisgyblion ddefnyddio eu medrau darllen ac ysgrifennu sy’n datblygu yn ôl natur y pwnc, fel defnyddio eu medrau darllen ac ymchwilio uwch yn eu hastudiaethau hanes a daearyddiaeth neu ysgrifennu archwiliadau mewn gwyddoniaeth; • mae pob aelod staff mewn ysgolion uwchradd yn gwybod beth yw gallu darllen gwahanol ddisgyblion, fel bod deunyddiau darllen a thasgau sy’n cael eu hastudio mewn pynciau eu gosod ar y lefel gywir, o ran hyd a her;

Page 44: Gweithgor Arfer Dda 31.10.11 Plas Menai

Llythrennedd: Arfer dda mewn arweinyddiaeth

Page 45: Gweithgor Arfer Dda 31.10.11 Plas Menai

Arfarnwch i ba raddau mae’r nodweddion isod yn adlewyrchu sut ydych chi fel tîm arweinyddol yn arwain a rheoli llythrennedd

yn eich hysgol?

Page 46: Gweithgor Arfer Dda 31.10.11 Plas Menai

Adnoddau Defnyddiol / Useful Resources:

Moodle Cynnal: http://moodle.cynnal.co.ukArfer Dda / Llythrennedd / Dysgu ac Addysgu / PynciauAdran Addysg a Sgiliau Cymru Arweiniad ar Addysgu Uwch

Sgiliau Llythrennedd:• http://wales.gov.uk/topics/educationandskills/schoolshome/c

urriculuminwales/higherorder/?skip=1&lang=cy

Adnoddau Sgiliau Sylfaenol Cymru:http://wales.gov.uk/topics/educationandskills/allsectorpolicies/basicskillscymru/publications/?lang=cy

Page 47: Gweithgor Arfer Dda 31.10.11 Plas Menai

Unrhyw Gwestiwn? / Any Questions?