Top Banner
Rhifyn 31 Newyddion chwarae a gwybodaeth gan y sefydliad cenedlaethol dros chwarae Gwanwyn 2010 Chwarae dros Gymru www.chwaraecymru.org.uk CHWARAE – ydyn ni’n cwrdd â’r mesur?
14

Chwarae yng Nghymru rhifyn 31

Mar 22, 2016

Download

Documents

Play Wales

Chwarae Cymru yw'r elusen cenedlaethol dros chwarae plant. Rydym yn cyhoeddi'r cylchgrawn Chwarae dros Gymru dair gwaith y flwyddyn.
Welcome message from author
This document is posted to help you gain knowledge. Please leave a comment to let me know what you think about it! Share it to your friends and learn new things together.
Transcript
Page 1: Chwarae yng Nghymru rhifyn 31

Rhifyn 31

Newyddion chwarae a gwybodaeth gan y sefydliad cenedlaethol dros chwarae Gwanwyn 2010

Chwarae dros Gymru

www.chwaraecymru.org.uk

CHWARAE – ydyn ni’n cwrdd â’r mesur?

Page 2: Chwarae yng Nghymru rhifyn 31

Cynnwys tudalen

Golygyddol 2

Newyddion 3-5

Ein Lle Ni Hefyd 6-9

Adroddiad ‘People Make Play’ 10-11

Datblygu’r Gweithlu 12-13

Digwyddiadau ac Aelodaeth 14

GolygyddolMae ein Mesur cyfreithiol Cymreignewydd sy’n gosod dyletswydd arawdurdodau lleol i archwilio asicrhau cyfleoedd chwaraedigonol ar gyfer plant yn cynnigcyfle unigryw inni – y posibilrwyddo newid yr amgylchedd ar gyferplant a phobl ifainc yng Nghymru.

Dywedodd Huw Lewis AC, y DirprwyWeinidog newydd dros Blant, ei fod ynchwilio am ddyfeisgarwch. Ond daw risgyn sgîl y Mesur; y perygl y byddwn ynsiomi plant trwy gyfyngu ein hunain i henffyrdd o feddwl ac o weithredu. Yr unhen ffordd ystradebol sydd wedi einharwain i ble rydyn ni heddiw – ble foplant yn tyfu’n llai a llai gweladwy, yn caeleu cadw yn y tŷ fwyfwy, yn llai hyderusynghylch bod y tu allan yn eucymunedau eu hunain. ’Dyw hyn ddimyn digwydd ym mhobman yng Nghymrunac i bob plentyn, ond ble y mae’ndigwydd, mae gan y Mesur, a’r modd ycaiff ei weithredu, y potensial i helpu inewid y patrwm hwn er gwell.

Ers tua canrif bellach rydym wedidarparu ar gyfer chwarae plant y tu allanfel mai’r unig beth oedd ei angen oeddcyrchfan, gydag ardal chwarae wedi eigwneuthuro â ffens o’i hamgylch, syddyn aml iawn yn rhy bell i blant gerddedyno’n annibynnol. Tra bo rôl ar gael i’rmaes chwarae, nid yw’n ateb anghenionchwarae amrywiol plant yn llawn – dylaifod yn un o ystod o ddewisiadau sy’ncynnig cyfleoedd ar gyfer y math oymddygiad chwarae amrywiol ygwyddom sy’n cyfrannu at iechyd agwytnwch plant – eu gallu i oroesi affynnu.

Gellir ystyried chwarae plant fel taith:mae’n dechrau pan fyddant yn deffro,yn parhau wrth iddynt adael y tŷ, o gaeldigon o ryddid bydd plant yn chwaraeeu ffordd trwy eu cymuned a thrwy eudiwrnod, ac os oes cyrchfan benodol arddiwedd y dydd, eu cartref yw hwnnwac yn ôl i’r gwely bach. Fydd chwaraeddim yn digwydd mewn mannaupenodol ac ar adegau penodol yn unig– mae’n rhan annatod o fywyd plant.

Fel cymdeithas, mae angen inni edrychyn fanwl ar y modd y byddwn yn ystyriedplant a’u presenoldeb mewn mannauagored cyhoeddus. Bydd plant yndweud wrthym yn eu geiriau eu hunain,am amrywiol resymau, eu bod yn amliawn ddim yn teimlo’n ddiogel a boddim croeso iddynt y tu allan – bydd hynyn cwtogi’n sylweddol ar eu cyfleoedd ichwarae. Mae Pwyllgor Plant a PhoblIfainc Cynulliad Cenedlaethol Cymruwedi bod yn casglu tystiolaeth ar gyfereu hymchwiliad i fannau diogel ichwarae a chymdeithasu, ac edrychwnymlaen i ddysgu oddi wrth ac i weithreduar eu canfyddiadau. Hyderwn y byddargymhellion yr ymchwiliad yn hysbysu’rRheoliadau a’r Canllawiau fydd yn nodimanylion y dyletswydd ar awdurdodaulleol.

Mae’r Mesur yn sôn am ‘ddigonolrwydd’,felly, beth sy’n ddigon? ’Does bosibl mai’rlleiaf y gellid ei ddisgwyl yw amgylcheddble fo plant yn teimlo’n rhydd i grwydro, ichwarae eu ffordd trwy eu cymuned, ichwarae gyda’r hyn ddaw i law, a gydaphwy bynnag fydd yn troi lan. Gall hynddigwydd os y byddwn yn newid y moddyr ydym yn ystyried pob gofod agoredcyhoeddus; os y byddwn yn dechrau eiystyried fel nid dim ond lle ar gyferoedolion, ond ar gyfer plant hefyd.

A sut allwn ni asesu digonolrwydd? Mae’rMesur hefyd yn gosod dyletswydd o rancyfranogiad plant. Mae hyn yn enghraifftperffaith o ble y gallwn greu cysylltiad â’rplant – os ydym am wybod beth yw cyflechwarae digonol, fe allwn ofyn iddynnhw beth sy’n ddigon. Mae einComisiynydd Plant yn gobeithio, mewnpum mlynedd, y bydd y miloedd hynnyo blant sydd wedi siarad ag e am fethugallu chwarae allan, wedi gweld newidgwirioneddol yn eu rhyddid.

Os y cawn ni hyn yn iawn, bydd gweldmwy a mwy o blant yn chwarae trwy eincymunedau, a’u straeon, yn arddangosllwyddiant ein gwaith i sicrhaudigonolrwydd. Bydd plant yn dweudwrthym a bydd plant yn dangos inni.

Mike GreenawayCyfarwyddwr, Chwarae Cymru

Cyhoeddir Chwarae dros Gymru gan Chwarae Cymru dair gwaith y flwyddyn.

Cysylltwch â’r Golygydd yn:Chwarae Cymru, Ty^ Baltig,Sgwâr Mount Stuart,Caerdydd CF10 5FH

Rhif ffôn: 029 2048 6050E-bost: [email protected] Gofrestredig Rhif. 1068926

ISSN: 1755 9243

Nid barn Chwarae Cymru o reidrwydd yw’r farn a fynegir yn y cylchlythyr hwn. Rydym yn cadw’r hawl i olygu cyn cyhoeddi. Nid ydym yn ardystio unrhyw rai o’r cynnyrchna’r digwyddiadau a hysbysebir yn neu gyda’r cyhoeddiad hwn.

Argraffwyd y cyhoeddiad hwn ar bapur a gynhyrchwyd o goedwigoedd cynaliadwy.

Dyluniwyd ac argraffwyd gan CarrickFfôn: 01443 843 520E-bost: [email protected]

Chwarae dros Gymru Gwanwyn 2010GOLYGYDDOL

2

Diolch o galon i bawb a gyfranodd at y cylchgrawn hwn – allen ni ddim ei wneudheboch chi. Mae’r rhifyn hwn o Chwarae dros Gymru, yn ogystal â rhifynnau blaenorolar gael i’w lawrlwytho o adran newyddion ein gwefan ar www.chwaraecymru.org.uk

Page 3: Chwarae yng Nghymru rhifyn 31

Chwarae dros Gymru Gwanwyn 2010NEWYDDION

3

Ymchwiliad Mannau Diogel i Chwarae a Chymdeithasu

Yn ystod haf 2009, cynhaliodd Pwyllgor Plant a Phobl IfaincCynulliad Cenedlaethol Cymru brosiect ‘Chi sy’n bwysig!’

ofynnodd i blant a phobl ifainc ‘beth sy’n bwysig i chi?’

Derbyniwyd dros 2700 o atebion. ’Does dim syndod bod yprosiect wedi nodi mai darpariaeth chwarae yw un o’r priffaterion llosg cyffredinol sy’n pryderu plant a phobl ifainc yngNghymru heddiw.

Fe wnaeth cynllun gweithredu polisi chwarae 2006 LlywodraethCynulliad Cymru gydnabod bod ‘effaith cymdeithas fodern arfywydau plant wedi cyfyngu’n sylweddol ar eu cyfleoedd ichwarae’n rhydd a’i fod wedi arwain at ddiffyg cyfleoeddchwarae yn yr amgylchedd cyffredinol.’ Ym mis Rhagfyr 2009,o ganlyniad uniongyrchol i ymatebion i’r prosiect ‘Chi sy’nbwysig!’, lansiodd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifainc ei ymchwiliad iddarpariaeth mannau diogel i chwarae a chymdeithasu.

Mae’r Pwyllgor wedi mynd ati’n weithredol i geisio barn plant aphobl ifainc trwy gydol yr ymchwiliad. Ar ddiwrnod cyntaf yrymgynghoriad, cwrddodd Cadeirydd y Pwyllgor – Helen MaryJones, Aelod Cynulliad dros Lanelli – â 40 o blant o Lwynhendy.Roedd y plant yn awyddus i gynnig syniadau ar gyfer gwelliannauy gellid eu gwneud i’w galluogi i gael mynediad i gyfleoeddchwarae diogel. Mae aelodau eraill o’r Pwyllgor wedi trefnu igwrdd â grwpiau o blant a phobl ifainc ar draws Cymru ac maeSwyddogion Maes ac Addysg y Cynulliad wedi bod yn gweithio’ngaled gyda phlant ysgol ac aelodau grwpiau ieuenctid er mwyneu galluogi i gyflwyno eu barn i’r Pwyllgor. Mae dros 500 o blanta phobl ifainc wedi cwblhau holiaduron a ddosbarthwyd gan y

Pwyllgor ac mae rhanddeiliaid, mudiadau ac unigolion wedicyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig. Derbyniwyd nifer o oriau odystiolaeth lafar eisoes, ond mae’r ymchwiliad yn parhau.

Tra’n derbyn tystiolaeth bydd y Pwyllgor yn ystyried nifer o faterion,yn cynnwys: y rhwystrau sy’n wynebu grwpiau penodol; materionsy’n berthnasol i ddarpariaeth sy’n bodoli eisoes; cost caelmynediad i ddarpariaeth; trafnidiaeth; diogelwch traffig a ffyrdd;polisi cynllunio a chanfyddiadau ynghylch ymddygiad gwrth-gymdeithasol. Gyda’r fath gylch gwaith eang, mae’r Pwyllgorwedi gosod cryn dasg i’w hunain. Fodd bynnag, gyda dyfodiadrheoliadau sy’n ymwneud â’r mesur newydd, Mesur Plant aTheuluoedd (Cymru), ar y gorwel, mae’r ymchwiliad yn cael eigynnal ar adeg allweddol i’r agenda chwarae yng Nghymru.

Disgwylir i adroddiad ac argymhellion y Pwyllgor gael eucyhoeddi yn ystod toriad yr haf. Yna bydd LlywodraethCynulliad Cymru’n ymateb o fewn tua chwe wythnos a thrafodiry materion mewn dadl o’r Cyfarfod Llawn yn fuan wedyn.

I dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwiliad achopi o’r adroddiad pan gaiff ei gyhoeddi, ymwelwch â:www.cynulliadcymru.org

Cyflwynodd Chwarae Cymru dystiolaeth lafar ac ysgrifenedigfel rhan o’r ymchwiliad. Derbyniwyd adborth cadarnhaol amein tystiolaeth gan Aelodau o’r Cynulliad, Clercod y Pwyllgor amudiadau eraill sy’n ymwneud â chwarae plant. Mae’rdystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynwyd ar gael i’w lawrlwytho ohafan ein gwefan: www.chwaraecymru.org.uk

Abigail Phillips, Clerc Pwyllgor Plant a Phobl Ifainc CynulliadCenedlaethol Cymru, sy’n dweud wrthym am eu ymchwiliad i fannaudiogel i blant a phobl ifainc chwarae a chymdeithasu.

Tra’n siarad yn ein seminar ‘Cyfleoedd Chwarae Digonol argyfer Plant: Beth sy’n ddigon da?’ yng Nghaerdydd, eglurodd YDirprwy Weinidog dros Blant, Huw Lewis AC, yr effaith gaiff yMesur ar ddarpariaeth chwarae a’r hyn fydd yn digwydd nesaf.Dyma ddyfyniadau a godwyd o’i araith.

‘Bydd hyn yn gosod dyletswydd ar bob Awdurdod Lleol i: • gynnal asesiad digonolrwydd cyfleoedd chwarae yn eu

hardal, o ran eu hansawdd a’u nifer, ac i:• sicrhau darpariaeth a mynediad i gyfleoedd chwarae

digonol ar gyfer plant, gan roi ystyriaeth i’w hoedran a’u gallu• gwneud trefniadau i sicrhau bod plant yn cyfranogi ym

mhroses llunio penderfyniadau’r Awdurdod fydd yn effeithioarnynt.

‘Mae’r dyletswydd yma’n adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth yCynulliad i Gytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentynac yn benodol Erthygl 31.1 sy’n nodi bod “PleidiauGwladwriaethol yn cydnabod hawl y plentyn i orffwys ahamdden, i gymryd rhan mewn gweithgareddau adloniadol achwarae sy’n briodol i oedran y plentyn ac i gyfranogi’n rhyddym mywyd diwylliannol a’r celfyddydau”.

‘Wrth gwrs rydym yn deall bod yn rhaid i unrhyw ddyletswyddgael ei ystyried yng nghyd-destun yr adnoddau sydd ar gael,ond ni ddylai hyn atal awdurdodau lleol rhag meddwl am ffyrddcreadigol o hyrwyddo chwarae plant’.

Felly beth yw’r camau nesaf yn y broses hon?‘Dros y 12 mis nesaf bydd Cynulliad Cymru’n pennu safonau arheoliadau, ac yn rhoi arweiniad i Awdurdodau Lleol ar sut igyflawni eu dyletswydd i ddarparu cyfleoedd chwarae digonol argyfer plant a phobl ifainc yn eu hardal.

‘Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda phob Awdurdod Lleol; gydaMudiadau Gwirfoddol sy’n ymwneud â chwarae; gydagAdrannau eraill Cynulliad Cymru a Chyrff Rheolyddol mewnmeysydd sy’n effeithio ar allu plant i gael mynediad i gyfleoeddchwarae; ac wrth gwrs gyda rhieni; ac yn bwysicaf oll gyda’r planta’r bobl ifainc eu hunain.

‘Bwriad y gwaith yma fydd creu disgwyliadau realistig a phrosesaueffeithlon i gyflawni’r canlyniadau gorau ar gyfer plant.’

http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-legislation/busleg-measures/business-legislation-measures-cf.htm

Ar 10 Chwefror 2010 derbyniodd Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) Gydsyniad Brenhinol. Mae’r Mesur yn gosoddyletswydd ar awdurdodau lleol i archwilio a sicrhau cyfleoedd chwarae digonol ar gyfer plant yng Nghymru.

Cyfleoedd Chwarae Digonol?

Page 4: Chwarae yng Nghymru rhifyn 31

Chwarae dros Gymru Gwanwyn 2010NEWYDDION

4

Sôn am Swnian ...Yn ddiweddar trodd y cyfryngau eu sylw ar lywodraeth leolBerlin a’u penderfyniad i ddiwygio cyfraith i ganiatáu i blantfod yn swnllyd.

Dyma ddywed adroddiad ar-lein y BBC: Mae plant ym mhrifddinas Yr Almaen, Berlin, i gael eu heithrioo gyfreithiau llym sy’n ymwneud â llygredd sw^n. Mae diwygiadi gyfraith y ddinas bellach yn ei gwneud hi’n ‘sylfaenol ac yngymdeithasol oddefadwy’ i aelodau’r to iau i gadw sw^n.

Tan nawr dim ond clychau eglwys, seirenau brys, erydr eira athractorau sydd wedi cael eu heithrio o reoliadau caeth sw^ngormodol Yr Almaen.

Ym Merlin yn unig ceir cannoedd o achwynion bob blwyddynam lefelau sw^n o ysgolion meithrin a meysydd chwarae plant.Gorfodwyd rhai cyfleusterau gofal-dydd i gau hyd yn oed,wedi i drigolion lleol fynd i’r llys i geisio bywyd tawelach.

Dywedodd Axel Strohbusch (Adran Atal Sw^n) mai ‘dyma’r trocyntaf inni nodi mewn cyfraith bod raid inni ystyried hawliauplant i weiddi a chadw sŵn tra eu bod yn tyfu lan, a dylai pobcymydog ystyried hyn’.

Dywedodd mudiad amddiffyn plant Yr Almaen wrth asiantaethnewyddion AFP eu bod yn croesawu’r cam yma: ‘Rydym yn bywmewn dinas a dylid caniatáu i blant chwarae a chadw sw^n.’

http://news.bbc.co.uk/1/hi/world/europe/8520941.stm

Mae SkillsActive wedi lansioymgynghoriad ar strategaeth y DU

ar gyfer cymwysterau, hyfforddiant acaddysg gwaith chwarae – StrategaethSgiliau a Dysg Gwaith Chwarae 2011 –2016 – ac maent yn annog y sectorgwaith chwarae i leisio eu barn.

Mae’n dilyn strategaeth gwaith chwaraegyntaf SkillsActive – Hyfforddiant o Safon,Chwarae o Safon (QTQP) – sy’n seiliedig aregwyddor Erthygl 31 Cytundeb yCenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn,sy’n cydnabod bod chwarae’n hawl acyn hanfodol i ansawdd bywyd plentyn.

Y dyddiad cau ar gyfer derbynymatebion i’r ymgynghoriad yw:9 Ebrill 2010.

Am fwy o wybodaeth ac i gwblhaufersiwn Saesneg electronig o’r holiadur,ymwelwch â:

www.skillsactive.com/resources/consultations-have-your-say/playwork-strategy/

Mae holiadur yr ymgynghoriad a mwy owybodaeth ar gael hefyd yn y Gymraegar wefan Chwarae Cymru:www.playwales.org.uk/news.asp?id=977

Mae’r ‘Ardaloedd Blaenoriaeth iChwarae’ cyntaf yn Wrecsam wedi eulansio ar Ystad Plas Madog.

Nod yr arwyddion blaenoriaeth i chwarae yw dynodiardaloedd priodol o fewn cymuned ble fo plant yn

ddiogel ac yn cael eu hannog yn weithredol i chwarae.

Mae pawb ohonom yn gyfarwydd ag arwyddion Dim GemauPêl, ond yn hytrach na chyfleu’r neges negyddol yma gall yrArdaloedd Blaenoriaeth i Chwarae helpu i gefnogi chwaraetra, ar yr un pryd, gynorthwyo i symud plant oddi wrthardaloedd llai priodol, ble y caiff chwarae’n aml iawn eigamgymryd am ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Derbyniodd yr ymgynghoriad gyda thrigolion lleol adborthhynod o gadarnhaol. Galluogodd sylwadau megis, ‘Dymabeth mae’r stryd ei angen’ a ‘Syniad gwych, hen bryd’ iGymunedau’n Gyntaf Plas Madog i fwrw ymlaen â’uprosiectau.

Meddai Claire Griffiths, Swyddog Cyfranogaeth Chwarae a’rBlynyddoedd Cynnar, Cymunedau’n Gyntaf Plas Madog,‘Rydym yn anelu i gynnal hawl y plentyn i chwarae ac yncroesawu gweld plant yn chwarae yn eu strydoedd. Er mwyncydnabod hyn, rydym yn bwriadu arddangos arwyddion ArdalBlaenoriaeth i Chwarae yn rhai o’r strydoedd ble y bydd plantyn chwarae’n weithredol. Byddant yn olygfa galonogol i bobplentyn a pherson ifanc, ac yn rhoi caniatâd iddynt fwrw’mlaen i chwarae mewn ardaloedd ble y bydd croeso iddynt’.

Dysgwch fwy am arwyddion Ardal Blaenoriaeth i Chwarae agynhyrchwyd gan London Play ar www.londonplay.org.uk –efallai, os y bydd digon o alw yng Nghymru, y bydd gennymein fersiwn dwyieithog ein hunain maes o law.

Ardaloedd Blaenoriaeth iChwarae Cyntaf

yn Wrecsam

Ymgynghoriad Strategaeth Sgiliau a Dysg GwaithChwarae SkillsActive

Page 5: Chwarae yng Nghymru rhifyn 31

Chwarae dros Gymru Gwanwyn 2010NEWYDDION

5

Strydoedd DIY SustransMae prosiect Strydoedd DIY Sustrans yn arddangosagweddau fforddiadwy ond dyfeisgar tuag at gynllunio strydoedd, gan ddwynysbrydoliaeth oddi wrth barthau cartrefi a mentrau tebyg.

Mae Sustrans, mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, wedi helpu cymunedaulleol i ddylunio newidiadau rhad sydd wedi gwneud eu strydoedd yn fwy diogela mwy deniadol.

Mae’r canlyniadau cyntaf o’r ymchwil a gynhaliwyd ar ddiwedd y prosiect wedicanfod bod trigolion yn credu bod eu strydoedd yn fwy cymdeithasol a’u bodyn fwy tebygol o adael i’w plant chwarae allan.

Bydd y canlyniadau gwerthuso i gyd ar gael ar wefan Sustrans maes o law.www.sustrans.org.uk

Gwerthuso’r GwasanaethGwybodaethHoffai Angharad a Gill (a Grw^p Ymgynghorol ein Gwasanaeth Gwybodaeth)ddiolch i bawb aeth ati i gwblhau a dychwelyd ein holiadur Gwerthuso’rGwasanaeth Gwybodaeth . Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth yn fawriawn a bydd yn ein cynorthwyo i wella a ffurfio’r modd y byddwn yncyfathrebu â chi yn y dyfodol.

Os nad ydych wedi eich cynnwys yn y gwerthusiad hyd yma a’ch bod amgynnig adborth, mae’r holiadur ar gael i’w lawrlwytho o Adran Wybodaeth eingwefan neu ebostiwch Angharad os hoffech dderbyn copi caled:[email protected] neu galwch 029 2048 6050.

Diolch yn fawr iawn.

Diwrnod Chwarae 2010Nid dim ond un diwrnod y flwyddyn– bob dydd o fywyd plentyn.Cynhelir Diwrnod Chwarae eleni arDdydd Mercher 4 Awst 2010.

Ar ei ymddeoliad dywedodd y GwirAnrhydeddus Rhodri Morgan AC mai datblygua gweithredu’r Cyfnod Sylfaen i Gymru oedd eibrif gyflawniad yn ystod ei gyfnod yngwasanaethu fel Prif Weinidog Cymru.

Ar ran tîm Chwarae Cymru cyflwynoddMarianne, Gill a Kathy un o’n cartwnaugwreiddiol – golygfa glan môr lliwgar – i’r PrifWeinidog.

Diolch i Rhodri

Pecyn cymorth a chynllungweithredu CCUHPAr 20ed pen-blwydd Cytundeb y Cenhedloedd Unedigar Hawliau’r Plentyn, lansiodd Llywodraeth CynulliadCymru gynllun gweithredu sy’n amlinellu’r camaumae’n bwriadu eu cymryd i sicrhau bod hawliau planta phobl ifainc yn dod yn realiti dros y pum mlyneddnesaf. Mae’r Cynllun Gweithredu, Gwneud Pethau’n Iawn, a gyhoeddwyd mewnymateb i Sylwadau Clo Pwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn 2008, yn amlinellu 90cam gweithredu allweddol ar draws ystod eang o feysydd polisi.

Mae’r camau gweithredu’n cynnwys datblygu polisi chwarae newydd adarparu mwy o gyfleoedd i blant a phobl ifainc i gymryd rhan mewncerddoriaeth, chwaraeon a’r celfyddydau.

http://new.wales.gov.uk/topics/childrenyoungpeople/publications/gettingitright2009/?skip=1&lang=cy

Yn ogystal, er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth ynghylch hawliau plant, maeLlywodraeth Cynulliad Cymru wedi datblygu pecyn cymorth gweithdy. Mae’r pecyncymorth yn adnodd annibynnol y gellir ei ddefnyddio gyda phlant a phobl ifainc,rhieni a phobl broffesiynol.

www.ccuhpgwneudpethauniawn.co.uk/toolkit.aspx

‘Ein Lle Ni’ Beth sydd y tu ôl i’r ymgyrch?Rydym yn credu y gall, ac y dylai, plant alluchwarae bob dydd bron iawn ym mhobmany byddant yn treulio eu hamser … oherwyddbod eu chwarae’n bwysig iddyn nhw, ac ibob un ohonom ni, ac mae’r fan yma’n leiddyn nhw hefyd.

Hyderwn y gallwch ymuno â ni i hyrwyddo plantyn chwarae fel partneriaid allweddol ym mywydCymru – yn weladwy, yn cael eu gwerthfawrogiac yn cael eu darparu ar eu cyfer ymmhobman y gallent dreulio amser ynddo neudeithio trwyddo – o riniog eu cartref i gopa’rWyddfa, o Glawdd Offa i orsaf bysus yn Y Barri.

Mae chwarae’n un o agweddau pwysicafbywyd plant a phobl ifainc. Rydym yn galw ari gymunedau ar draws Cymru sefyll i fyny dros(a gyda) phlant – i gydweithio i newidagweddau ac amgylcheddau fel bod Cymruwir yn croesawu plant sy’n chwarae. Maethema Diwrnod Chwarae eleni’n rhoi cyfle innifeithrin perthnasau ar draws ein cymunedauac i ddechrau newid yr amgylcheddau yrydym yn byw ynddynt, fel bod plant yn gallucredu’n wirioneddol ei fod yn ‘le i ni hefyd!’

Chwarae Cymru a Diwrnod ChwaraeBob blwyddyn bydd Chwarae Cymru’ncymryd rhan yng ngrw^p llywio DiwrnodChwarae – ynghyd â thri mudiadcenedlaethol arall y DU dros chwarae plant –byddwn hefyd yn cydlynu ymgyrch ycyfryngau yng Nghymru ac yn cyhoeddibriffiadau dwyieithog ac awgrymiadau sy’ncefnogi neges Diwrnod Chwarae.

Am fwy o wybodaeth ynghylch DiwrnodChwarae, ymwelwch â www.playday.org.uk

Page 6: Chwarae yng Nghymru rhifyn 31

Chwarae dros Gymru Gwanwyn 2010EIN LLE NI HEFYD

6

Mae’r Cydsyniad Brenhinol a roddwyd i’rMesur Plant a Theuluoedd yn golygu bod yrheini ohonom yng Nghymru sydd âdiddordeb mewn chwarae plant wedidechrau ystyried yr hyn a olygir wrth archwilioa darparu cyfleoedd chwarae digonol ofewn awdurdodau lleol. Ymunodd Dr JanVan Gils â ni yn ddiweddar ar gyfer einseminar, Cyfleoedd Chwarae Digonol argyfer Plant; beth sy’n ddigon da?, i rannu eiflynyddoedd lawer o brofiad ac ymchwil a’iwybodaeth ynghylch plant: chwarae,cymdeithas a chynllunio. Dyma ei gyfraniadi’n trafodaethau:

Rydyn ni yma Yn ein cymdeithas heddiw mae gennym ddarpariaeth arbennig argyfer plant, er enghraifft llyfrau, sianelau teledu, gemau a mannauarbennig i chwarae – ac ar y cyfan, mae hyn yn beth da. Foddbynnag, mae’r ddarpariaeth arbennig yma hefyd yn golygu bodplant a phobl ifainc yn cael eu gwahanu oddi wrth weddillcymdeithas, rydym yn gweld llai a llai ohonynt ar ein strydoedd –dengys ein gwaith ymchwil mai dim ond hanner y nifer o blant awelir yn chwarae allan heddiw ag oedd yn y 1980’au.

Y tueddiad ar hyn o bryd yw i blant a phobl ifainc fod yn llai amlwgmewn mannau cyhoeddus ac mae gennyf rywfaint o awgrymiadauynghylch sut y gallwn ddechrau gwrthdroi hyn. Mae angen innigefnogi plant, er mwyn dangos i aelodau eraill o’u cymuned eu bodyma a bod eu presenoldeb yn ddilys ac i’w groesawu:

• Byddaf yn awgrymu wrth blant y gallant (os y dymunant)arddangos eu lluniau yn y ffenest, dim ond er mwyn dangos‘rydyn ni yma’ ac i ddangos eu gwaith celf i bobl fydd ynmynd heibio

• Byddaf yn annog pobl sy’n trefnu digwyddiadau cymunedoli gynnwys lluniau o blant ar eu posteri a’u taflennicyhoeddusrwydd ac i ddylunio eu cyhoeddusrwydd i apelioat blant

• Byddaf yn annog arddangosfeydd awyr agored cyhoedduso waith celf plant – gall fod yn arddangosfa syml iawn,casgliad o luniau wedi eu gosod ar wal derfyn y bydd poblyn cerdded heibio iddi

• Byddaf yn annog plant i dynnu lluniau â sialc ar balmentydda strydoedd

Trwy’r arwyddion anymosodol hyn gallwn ddechrau cyfleu’r negesbod ‘plant yma’. ’Dyw’r un o’r awgrymiadau hyn yn gynaliadwyyn y tymor hir, bydd y darluniau’n diflannu dros amser, ond byddhynny’n rhoi cyfle i’r plant i greu rhagor o rai newydd a gwahanol.

Fydd y pethau hyn ddim yn digwydd ar eu pen eu hunain, byddangen inni eu hwyluso. Yn y stryd ble rwy’n byw, fe fydda’ i’n rhoisialc i’r plant iddynt dynnu lluniau – fydda’ i ddim yn dweud wrthynnhw beth i’w wneud – ’dyw e ddim yn syniad costus, ond mae’ngwneud gwahaniaeth.

Ein stryd ni’Dyw’r stryd ble rwy’n byw ddim yn rywle neilltuol, mae ceirwedi eu parcio ar y ddwy ochr, ond yr elfen hollbwysig am einstryd ni yw bod y traffig yn symud yn araf, araf iawn. Maegyrwyr lleol yn ymwybodol ei bod yn bosibl y bydd plant ynchwarae yma, ac wrth gwrs, mae’r plant a’r bobl ifainc wedidatblygu system rybuddio os y bydd car yn dod. Bydd y rhaihŷn yn cadw golwg ar y rhai iau a phan fo car yn dod caiff ystryd ei chlirio o blant yn ogystal â’r offer chwarae y maentwedi dod gyda hwy neu wedi ei adeiladu eu hunain.

Dros y blynyddoedd, mae’r nifer o blant sy’n chwarae allan ary stryd wedi cynyddu’n raddol ynghyd â gwerthfawrogiadcynyddol bod y man yma’n le i blant hefyd. Mae rhieni wedityfu’n fwy cyfforddus gyda’r syniad o weld eu plant ynchwarae allan. Mae’r dulliau yr ydym wedi eu defnyddio’nrhai rhad; maent yn ymwneud â helpu i newid agweddaudros gyfnod maith o amser trwy adeiladu cymunedol parhausyn hytrach na thrwy wneud buddsoddiad ariannol sylweddol.Mae llawer o’r gwelliannau wedi digwydd trwy arsylwi’r hyn sy’ndigwydd eisoes a thrwy gynyddu’n raddol arno.

Mae’n bwysig dylanwadu ar agweddau tuag at blant ynchwarae cyn inni fynd ati i wneud newidiadau i’r amgylcheddffisegol – yn y modd hwn byddwn yn dod â phobl gyda ni abyddwn yn gwneud newidiadau organig cynaliadwy gydachefnogaeth llawer, yn hytrach nag ychydig.

Symudedd ac adennill y strydMae’n bwysig ein bod yn defnyddio’r strydoedd i gerdded, niddim ond er mwyn i blant gael eu gweld yn y gymuned ond ynhytrach er mwyn iddynt ddod i arfer cerdded acymgyfarwyddo â’u cymdogaeth – er enghraifft, gellid trefnutaith neu wers nofio o fewn pellter cerdded er mwyn osgoidefnyddio cerbyd.

Mae’n le i ni hefyd

© Sustrans

Page 7: Chwarae yng Nghymru rhifyn 31

7Chwarae dros Gymru Gwanwyn 2010EIN LLE NI HEFYD

Mae angen i bawb ohonom chwarae ein rhan yn hyn o beth – ynfamau a thadau, yn athrawon ysgol, yn hyfforddwyr chwarae, ynbobl sy’n rhedeg clybiau plant a darpariaeth chwarae.

Dyma ichi lun o blant mewn maes chwarae ac maent wediparcio eu beics ar y stryd – pam ddim? Mae hon yn stryd i blanthefyd, nid dim ond i yrwyr ceir. Mae gyrwyr ceir yn cael parcio eucerbydau – felly pam na all y plant wneud yr un peth? Efallaibod y math yma o ddulliau’n ymddangos yn naïf ond maent ynbethau bychain, rhad, syml ac effeithiol. Ond bydd plant angencymorth i’w gwneud.

Strydoedd chwaraeYn Yr Iseldiroedd a Gwlad Belg rydym wedi cyflwyno strydoeddchwarae; bydd rhai strydoedd ar gau i draffig am hyd at dairwythnos yn ystod gwyliau’r ysgol a cheir arwyddion arbennig ar ylampau stryd yno. Mae’n rhaid inni ennill cefnogaeth o leiafhanner trigolion y stryd er mwyn derbyn caniatâd gan yrawdurdod lleol. Golyga hyn y bydd cymdogion yn siarad â’igilydd ynghylch plant yn chwarae allan, fe fyddan nhw’n lobïo eigilydd.

Am ychydig wythnosau bydd y rhain yn troi’n strydoedd ar gyferplant yn chwarae – ’does dim darpariaeth arbennig yma bobamser ar gyfer eu chwarae, ond mae rhyddid i blant ddod â’upethau chwarae a’u syniadau eu hunain i mewn i’r gofod yma.

Ar y dechrau (10 – 20 mlynedd yn ôl) cafwyd gwrthwynebiadgan y bobl hynny oedd yn meddwl, pe bai plant yn cael euhannog i chwarae yn y stryd y byddai perygl iddyn nhw wneudhynny trwy gydol y flwyddyn, ond wedyn, dyna oedd y bwriad.Roedd rhai ohonom yn gwrthwynebu’r strydoedd chwaraeoherwydd ein bod yn meddwl y dylid creu mannau arbennig argyfer chwarae plant, ond fe wnaethom sylweddoli nad oeddhyn bob amser yn ymarferol neu’n bosibl ym mhob stryd. Mae’rstrydoedd chwarae’n ateb syml, rhad.

Yn raddol, mae’r fenter strydoedd chwarae’n dechrau gwreiddio’rsyniad y gall, ac y dylai, plant chwarae yn y stryd, mewncymdogaethau. Mae strydoedd chwarae’n dechrau creuymdeimlad bod y stryd ar gyfer pawb, nid dim ond ar gyfer y boblsy’n parcio eu ceir yno – ond mae’n broses araf a fydd canlyniadauddim yn dod yn amlwg tan ar ôl tua pedair i bum mlynedd.

Partïon strydDdwywaith y flwyddyn bydd ein stryd yn cynnal parti’r tu allan –unwaith yn yr haf ac unwaith eto yn y gaeaf. Bydd y plant a’roedolion yn eu cynllunio gyda’i gilydd ac yn cydweithio iwneud iddo ddigwydd. Mae ein partïon stryd yn creuawyrgylch arbennig a chyfle i bobl ymgyfarwyddo â’i gilyddac i’r plant a’r bobl ifainc i weld yr oedolion mewn cyd-destungwahanol. Mae’r plant yn mwynhau rhoi help llaw – efallaimewn ffyrdd sydd ddim mor boblogaidd gartref fel arfer – ondmewn cyd-destun gwahanol bydd gorchwylion yn troi’n hwyl agallant gyfranogi a gwneud eu cyfraniad eu hunain.

Fe fyddwn ni’n dysgu enwau’r plant – mae hyn yn hynod obwysig – alla’ i ddim dweud helo’n iawn, neu roi cerydd irywun am wneud rhywbeth gwirion ar y stryd, na dechrau dodi adnabod rhywun, os nad ydw i’n gwybod eu henw.

Unwaith eto, mae’r agwedd yma’n gadarnhaol tuag at blantsy’n chwarae, mae’r stryd yn dechrau bod yn berchen i’r holldrigolion, nid dim ond i’r perchnogion ceir, ond mae angeninni fod yn amyneddgar, mae’n cymryd amser.

Yn fy stryd i fe fydd pobl ifainc yn eistedd ar y palmant gyda’utraed ar y ffordd, yn sgwrsio. Mae hyn yn dda i’n stryd. Mae’ngyfranogiad tawel – maent yn adennill y stryd oddi wrth y ceir.

Agwedd dawel’Does dim angen gorfodi’r un o’r agweddau hyn, gallwnwneud gwahaniaeth i’n cymdogaethau trwy ddechrau arriniog ein drws ein hunain. Rhoi lle i blant a phobl ifainc i fod.Rhoi dewis a chyfle iddyn nhw chwarae rhan yn eu cymuned,gwerthfawrogi eu cyfraniad, gadael iddyn nhw helpu.Dechrau gyda phethau bychain.

CynllunioUn o’r problemau gyda’n amgylchedd cynlluniedig yw nad ywwedi ei integreiddio; mae amrywiol swyddogaethau gofodcyhoeddus yn tueddu i fod heb eu cysylltu neu heb eu cynllunioi ateb anghenion pawb. Caiff gofod cyhoeddus ei ddyluniogan wahanol benseiri, neu gynllunwyr, neu beirianwyr; mae ganbob un wahanol agwedd a gwahanol gylch gorchwyl.

© Sustrans

Page 8: Chwarae yng Nghymru rhifyn 31

Os ydych am wneud newidiadau o blaid chwarae asymudedd plant, lluniwch uwchgynllun ar gyfer y gymdogaeth– mapiwch yr holl ofod cyhoeddus sydd ar gael o ranmynediad a symudedd, cysylltiadau rhwng gwahanol fannau,mannau penodedig ar gyfer chwarae, yr holl fannau y byddplant yn chwarae ynddynt, mannau gwyrddion, symudedd,adloniant, chwaraeon, ysgolion, siopau … ond dechreuwchtrwy fapio mannau chwarae fel cam cyntaf ac yna cynnwys yrholl elfennau eraill. Gellir defnyddio map o’r fath fel tystiolaethi ddwyn perswad ar wleidyddion a llunwyr penderfyniadau lleoli wneud newidiadau. Yna lluniwch gynllun – sut ellir creu gwellcyswllt rhwng mannau cyhoeddus? Sut all plant symud ynannibynnol o fan i fan, a hynny’n ddiogel? Gellir eiddefnyddio fel glasbrint ar gyfer agwedd tymor hir.

Fel rhan o’r broses mapio, ewch ati i greu rhestr o’r cyfleoeddchwarae a geir yn y gymdogaeth – gofynnwch i’r plant ihelpu, ond cofiwch y bydd rhai mannau chwarae’n arbennigac yn gyfrinach ganddynt. Ceisiwch werthuso’r gymdogaethgyfan o ran ei photensial ar gyfer chwarae a’i hygyrchedd argyfer plant o wahanol oedrannau ag amrywiol anghenion.

Trwy arsylwi, bydd modd ymchwilio presenoldeb (neu ddiffygpresenoldeb) gwahanol grwpiau oedran, merched a bechgyn,plant anabl a phlant o wahanol gefndiroedd diwylliannol. Byddhyn yn rhoi syniad da inni os yw mannau’n ddigon da ar gyferchwarae – er enghraifft, bydd llawer o fannau chwarae ffurfiolyn cael eu defnyddio fawr ddim neu gan ddim ond un grŵpoedran am gyfnod byr bob dydd. Mae’r wybodaeth yma i gydyn ddefnyddiol – ’does dim pwrpas cynnwys cyfle chwaraemewn archwiliad digonolrwydd os fydd neb yn ei ddefnyddio.

O ystyried nodweddion poblogaeth yr ardal, pwy allech chiddisgwyl ei weld ym mhob gofod cyhoeddus neu ar bobllwybr? Gall cyfrifiad bras o bwy sydd yn ble fod yn feincnodda ac yna gall arsylwadau dilynol helpu i werthusoeffeithlonrwydd y camau a gymerwyd a hysbysu addasiadau.

Gweithredu Nid oes modd newid cymdogaeth dros nos; gall cynllungweithredu gymryd o leiaf 20 mlynedd i’w gyflawni.Dechreuwch gyda gwelliannau tymor byr, rhad a chynlluniogwelliannau strwythurol mwy costus ar gyfer y tymor hir.Anelwch i wneud newidiadau tymor hir cynaliadwy er buddplant sy’n chwarae – dydyn ni ddim yn edrych ar greuatyniadau unigol neu dymor byr – rydyn ni’n edrych ar eigwneud hi’n bosibl i blant chwarae mewn ffyrdd bob-dydd,bob dydd, trwy gydol eu dydd am flynyddoedd i ddod.

AmrywiaethWrth inni gynllunio, bydd angen inni sicrhau bod cyfleoeddchwarae a mannau cyhoeddus amrywiol ar gael fel bod ganblant ddewisiadau sy’n ateb eu anghenion newidiol. Rwyfwedi dynodi pedwar o nodweddion chwarae y gallwn eudefnyddio er mwyn sicrhau bod anghenion plant a phoblifainc yn cael eu hateb (rwy’n gwybod bod llawer o wahanolfathau o chwarae, ond mae hyn yn llawer-fer defnyddiol):

• Chwarae derbyngar – pobl yn arsylwi, breuddwydio,mwynhau’r amgylchedd, darllen, myfyrio

• Chwarae cymdeithasol – pobl yn rhyngweithio, trafod,chwerthin, cwrdd, dadlau

• Chwarae symud – pobl yn rhedeg, cwrso, sgipio, twmblo,dringo

• Chwarae creadigol – pobl yn dawnsio, canu, tynnulluniau, adeiladu ac yn creu

YstodMae angen i’r uwchgynllun gwmpasu’r hyn sydd ar gael arwahanol bellter o riniog y drws.

Bydd angen inni ystyried symudedd a gallu teithio annibynnolgwahanol blant. Er enghraifft, dylai pob tref fod â chyfleustersglefrfyrddio, ond ’does dim angen un ar bob stryd oherwydddim ond ychydig o blant bach fydd angen man arbennig isglefrfyrddio ac mae plant hy^n yn tueddu i allu teithio igyrraedd at barciau sglefrfyrddio. Dylai pob tref fod âmynediad i chwarae â dw^r, a maes chwarae antur wedi eistaffio (ble y gall plant newid y cyfleoedd chwarae a dod ohyd i syrpreisys). ’Dyw’r cyfleoedd chwarae arbenigol hynddim yn angenrheidiol ar lefel arbennig o leol, ond mae pobteulu angen posibiliadau ar gyfer chwarae allan yn ddyddiolyn agos iawn i’w cartref, yn ogystal â chyfleoedd i rannu cyflechwarae i ‘gyrchfan’ diwrnod allan.

Dylai unrhyw gyfle chwarae gaiff ei gynnigar lefel trefol neu ranbarthol fod âchysylltiadau da o ran llwybrau trafnidiaethcyhoeddus, seiclo a cherdded.

8 Chwarae dros Gymru Gwanwyn 2010EIN LLE NI HEFYD

Page 9: Chwarae yng Nghymru rhifyn 31

9

‘DIY’Un posibilrwydd chwarae hynod o bwysig sydd angen rhoiystyriaeth iddo yw gofod i adeiladu cuddfannau. Dywedoddun ymchwilydd o’r Iseldiroedd yn y ganrif ddiwethaf, bod raid iblant adeiladu cuddfannau yn union fel y bydd fforwyr yngosod baneri i nodi tiriogaeth – caiff gweddill y byd adeiledigei greu gan oedolion – mae cuddfannau’n dweud ‘ni syddpiau hwn’ a ‘rydyn ni yma’.

Er enghraifft, rwy’n gwybod am lwybr BMX a grewyd gan blant.Fe wnaethon nhw’r rhan fwyaf o’r gwaith eu hunain, ond pansylweddolon nhw nad oedd ganddyn nhw ddigon o arbenigeddi gyflawni eu amcanion, fe aethant at yr awdurdod lleol i chwilioam gymorth a threfnwyd i weithiwr â pheiriant tyllu i’w helpu.Mae’r math yma o agwedd yn cefnogi gwir gyfranogiad plant,yn cydnabod ac yn gwobrwyo eu hymdrechion i ddarparu argyfer eu hunain – ac mae’n ymddangos ei fod yn economaiddhefyd (mae’r awdurdod lleol wedi ateb angen chwarae gydafawr ddim gwariant, byddai llwybr BMX wedi ei osod ynbroffesiynol yn costio llawer mwy).

Weithiau fydd dim angen inni ymyrryd ogwbl – gadewch goeden ddringogadarn, dda iddynt ei dringo – ’dyw’ncostio fawr ddim.

Cynllun symudedd

Fel rhan o’n uwchgynllun, bydd angen inni ymgorffori llwybraua chysylltiadau rhwng gwahanol fannau. Fydd plant a phoblifainc nid dim ond yn chwarae ar ben eu taith, byddant ynchwarae ac yn rhyngweithio trwy gydol y daith. Gallwn wneudllwybrau’n fwy diddorol trwy ddefnyddio ein dychymyg – erenghraifft, gall y pyst a ddefnyddir i atal ceir rhag parcio arbalmentydd fod yn gyfle ‘cerrig sarn’ neu ‘llam llyffant’ (fel awelir eisoes mewn mannau) – gydag ychydig o feddwl ochrol,gellir ymgorffori gwahoddiadau i chwarae am ddim costychwanegol.

Mae ysgolion yn benodol angen cynllun symudedd – bethyw’r llwybrau diogel ar gyfer cerdded i’r ysgol? Beth yw’r

llwybrau diogel ar gyfer beicwyr? Ond yn bwysicaf oll, byddangen inni wneud hyn o safbwynt plentyn – efallai na fyddllwybrau sy’n ymddangos yn ddiogel i oedolion yn ddiogel iblant ac mae’n bosibl hefyd eu bod yn hynod o ddiflas neuanneniadol.

Unwaith i gynllun symudedd pob ysgol gael ei gyfuno â rhaiysgolion yn yr ardal gyfagos, bydd modd ffurfio rhwydwaithsy’n ddefnyddiol ar gyfer y gymuned gyfan.

Cwrdd lanMae mannau cyfarfod yn bwysig iawn i bawb. Bydd poblifainc yn benodol angen ac yn gofyn am fannau i gwrdd lanâ’u cyfoedion. Mae ein gwaith ymchwil yn awgrymu nad dimond ‘loetran’ y mae nhw, ond bod sgyrsiau soffistigedig yndigwydd (am bobl eraill, cerddoriaeth, ffashiwn, chwaraeon,gweithgareddau) ble fo pobl ifainc yn datblygu eu cylchperthnasol eu hunain ac yn archwilio gwerthoedd. Allwn ni’rrhieni a’r athrawon ddim cyfrannu at hyn – rydyn ni’n henffasiwn! Mae’r rhyngweithio hollbwysig yma ymysg pobl ifaincyn rhywbeth sy’n digwydd draw oddi wrth oedolion ac mae’nychwanegu’n sylweddol at eu gwytnwch emosiynol achymdeithasol. Mae angen inni barchu hyn a darparu argyfer mannau cwrdd awyr agored ar gyfer pobl ifainc.

Cymdogaeth i bawbMae angen i’n uwchgynllun anelu am dirwedd ble fo’r hollbobl yn y gymuned yn teimlo’n gyfforddus – ble nad ywgrwpiau oedran yn cael eu gwahanu a ble fo digon o le ibawb gydfyw. Ni ellir ystyried neu ddarparu ar gyfer plant aphobl ifainc ar wahân i weddill eu cymuned – yr unig agweddymarferol a chynaliadwy i lefel digonol o gyfleoedd chwarae,yw agwedd holistig.

Dr Jan Van Gils yw Cyfarwyddwr y ‘Research Centre forChildhood and Society’ yng Ngwlad Belg. Mae’n sylfaenyddac yn Llywydd yr ‘European Child Friendly Cities Network’, ynLlywydd yr ‘International Council for Children’s Play’ ac yn gyn-Lywydd yr ‘International Play Association’.

Dysgwch fwy am yr ‘European Child Friendly Cities Network’ arwww.childfriendlycities.org

Dysgwch fwy am yr ‘International Council for Children’s Play’ arwww.iccp-play.org

Chwarae dros Gymru Gwanwyn 2010EIN LLE NI HEFYD

Yn ogystal, yn ystod seminar ‘Cyfleoedd Chwarae Digonol ar gyferPlant: Beth sy’n ddigon da?’ ym mis Chwefror cafwydcyflwyniadau diddorol, llawn gwybodaeth gan Wendy Russell aStuart Lester (sy’n uwch-ddarlithwyr ym Mhrifysgol Swydd Gaerloywac yn awduron Play for a Change – Play Policy and Practice: areview of contemporary perspectives); David Hawker, CyfarwyddwrCyffredinol yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau(DCELLS); a Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru.

Bydd adroddiad y gynhadledd ar gael i’w lawrlwytho arwefan Chwarae Cymru erbyn y Pasg.

Adroddiad cynhadledd

Page 10: Chwarae yng Nghymru rhifyn 31

CrynodebDywed yr adroddiad bod gwasanaethau chwarae wedi eu staffio,sy’n seiliedig ar syniadau’r plant eu hunain ynghylch y modd ymaent am chwarae, yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i blant,rhieni a chymdogaethau. Gall darpariaeth o'r fath fod yn rhanannatod o’r rhwydwaith cefnogol ehangach ar gyfer plant atheuluoedd i fyw bywydau gwell ac i fod yn rhan o gymuned sy’nffynnu. Gall buddsoddi yn sgiliau ac ymroddiad staff agwirfoddolwyr ymroddedig ddarparu rhai o'r cyfleoedd gorau argyfer y plant hynny sydd fwyaf anghenus.

Dyma ddyfyniadau allweddol o’r Crynodeb Gweithredol:Mae People Make Play yn darparu ystod o safbwyntiau ansoddolar rôl ac effaith posibl darpariaeth chwarae lleol, wedi ei staffio, oansawdd da ar fywydau plant a phobl ifainc, eu rhieni a’rgymuned ehangach. Roedd yr ymchwil yn canolbwyntio arddarpariaeth chwarae ar gyfer plant rhwng 8 a 13 mlwydd oed,ac ar ddarpariaeth wedi ei staffio’n unig: wnaeth yr astudiaethddim delio â darpariaeth heb ei oruchwylio.

Mae’r ymchwil yn gwneud defnydd o adolygiadau llenyddoldiweddar am bwysigrwydd chwarae rhydd ym mywyd plant,ac mae’n seiliedig ar chwech astudiaeth achos manwl oddarpariaeth chwarae rhad ac am ddim, wedi ei staffio, osafon da ar draws Lloegr.

Canfyddiadau Allweddol Amgylchiadau ffisegol Mae presenoldeb gweithwyr chwarae neu rodwyr chwarae’ncynnig diogelwch ac yn cynyddu hyder plant i chwarae’nrhydd, yn ogystal â chynyddu’r ystod o gyfleoedd chwarae ageir yn y gofod a ddarparwyd. I blant a rhieni mae hyn ynwahanol iawn i’r sefyllfa gyhoeddus ehangach, sy’n rhy aml ynmethu cynnig yr un diogelwch a’r amrywiaeth o gyfleoedd.

Straeon plant ... tra eu bod wrth eu bodd gyda meysydd chwarae syddwedi eu cynllunio’n dda ac ardaloedd chwarae deniadol,helaeth, y staff – y ‘meddalwedd’ – yn hytrach na’r‘caledwedd’ o offer chwarae sydd, iddyn nhw, yn gwneud ygwahaniaeth mwyaf. Mae’r plant yn mwynhau’r rhyddid ichwarae yn eu ffordd eu hunain y bydd gweithwyr chwarae arhodwyr chwarae’n ei gynnig iddynt, ond yr hyn sy’n amlwghefyd yw’r hyder y byddant yn ei ennill o fod gydag oedolioncyfrifol, cefnogol: i chwarae gemau, i fentro, i wthio’n erbynffiniau ac i gymdeithasu gyda phobl eraill mewn modd sydd

ddim bob amser yn bosibl gartref, ar y stryd, yn yr ysgol neumewn meysydd chwarae heb eu goruchwylio.

Yn aml bydd darpariaeth chwarae wedi ei staffio yn digwyddble fo gan blant fywydau anodd a chymhleth, a ble fo’ramgylchedd cyhoeddus ehangach yn gyffredinol ynanghroesawus iddynt. Oherwydd bod y safleoedd hyn yndarparu man i rodio’n rhydd, hafan diogel mewn bydanghyfeillgar, mae iddynt wir werth fel mannau ble y gall plantfod yn nhw eu hunain, cael profiadau unigryw a gwerthfawr,cyswllt gyda’u cyfoedion a rhyngweithio â phlant hŷn ac iau.

Mae ymwneud gweithredol plant yn y gwaith o ddylunio,gwneud penderfyniadau ac yna, yn llythrennol, adeiladu,ynghyd â’r staff, y math o dirweddau chwarae sy’n eu hysbrydoliyn dyst i berthynas sy’n fwy o bartneriaeth nag unrhyw beth arall.Yr un cyn bwysiced yw’r amser a roddir iddynt gan oedolyn syddeisiau dim ganddynt, ond iddynt fod yn nhw eu hunain.

Straeon staff O dan yr Egwyddorion Gwaith Chwarae, rôl yr oedolyn yw cefnogia hwyluso’r broses chwarae yn ei holl gymhlethdod a’i gyfoeth, ynhytrach na chyfeirio neu lywio yr hyn fydd plant yn ei wneud.Bydd gweithwyr chwarae’n helpu i ffurfio’r amgylchedd ffisegol yn

10

Mae People Make Play: The impact of staffed play provision onchildren, families and communities yn adroddiad newydd agyhoeddwyd gan Play England sy’n seiliedig ar waith ymchwilgan y felin drafod a’r athrofa ymchwil annibynnol, Demos.

‘People Make Play’Chwarae dros Gymru Gwanwyn 2010ADRODDIAD ‘PEOPLE MAKE PLAY’

‘Mae’r adroddiad amserol hwn yn arddangos rôlallweddol oedolion, nid yn chwarae’r plant ynunion, ond yn narpariaeth y gofod ffisegol achymdeithasol y bydd ei angen.’

Adrian Voce, Play England

Page 11: Chwarae yng Nghymru rhifyn 31

11

ogystal â chymdeithasol er mwyn cynnig y cyfleoedd gorauposibl i chwarae i bob plentyn ... gan daro cydbwysedd rhwngcaniatáu mynegiant llawn trwy chwarae a meithrin awyrgylch oddiogelwch, goddefgarwch a pharch at ein gilydd, a ganymyrryd yn ofalus dim ond ble fo angen er mwyn sicrhau bod ysafleoedd yn gynhwysol i bawb.

Yn yr astudiaethau achos dan sylw, nid yw gweithwyr chwarae’nystyried bod eu gwaith yn elfen ar wahân i gymdogaethau achymunedau ond yn hytrach ei fod yn gysylltiedig â chyd-destunehangach eu hardal leol. Maent yn gweithio’n gynyddol y tuhwnt i ffiniau eu safleoedd i archwilio ac ehangu cyfleoeddchwarae, a thrwy hynny’n newid y diwylliant a’r posibiliadau ofewn yr amgylchedd cyhoeddus yn gyffredinol. Yn hyn o beth,mae darparwyr chwarae ar flaen y gad ym maes ehangugwasanaethau cyhoeddus.

Gwneud gwahaniaeth i fywydau plant Mae plant yn cyfeirio at nifer o elfennau o ‘ddysgu’ ... i fod ynddyfeisgar, yn hyderus ac yn gymdeithasol. Maent yn siarad ameu profiad o ran llwybrau cynnydd: am oresgyn anawsteraucynnar, boed yn gymdeithasol neu’n gorfforol, am fentro o’rnewydd a rhannu straeon gydag eraill. Mae ystod anferth osgiliau bywyd ac agweddau y dywed plant y gallant eu hennill felrhan o’r broses hon: o ofalu, rhannu a bod yn garedig, i sefyll landros eich hun neu ofyn am gymorth. Mae’n ymddangos y gall yprofiadau hyn newid syniadaeth plant ynghylch eu cymdogaeth,gan ei thrawsnewid yn fan y maent yn ymddiried ynddi ble ymaent yn teimlo bod croeso iddynt, ble y maent yn adnabod eucyfoedion a phobl eraill, ac yn ystyried eu bod yn gartrefol ynddi.

Straeon rhieni Mae rhieni a gofalwyr yn aml iawn yn gefnogwyr brwd oddarpariaeth chwarae wedi ei staffio. Trwy’r holl astudiaethau achos,maent wedi bod yn awyddus i rannu straeon pwerus ynghylch sut ymae wedi newid bywydau eu plant, eu bywydau hwy fel rhieni a suty bu o fudd i’w cymdogaethau fel mannau i fyw ynddynt. Maent yncydnabod bod darpariaeth chwarae wedi ei staffio yn elfenallweddol o fywydau eu plant – yn brofiad annatod y byddai euplant yn gweld ei eisiau’n fawr iawn. Maent hefyd yn ymwybodoliawn o’r gymysgedd o fuddiannau iechyd, dysgu a chymdeithasu ybydd plant yn eu hennill o chwarae, ond yn bennaf maent ynpwysleisio’r modd y mae eu plant yn ennill profiadau gwerthfawr,unigryw pan ganiateir i chwarae ddigwydd er ei les ei hun.Ond mae’r safleoedd hyn yn gwneud gwahaniaeth i fywydaurhieni hefyd. Maent yn dod â rheini i gysylltiad â rhieni eraill ac ynhwyluso creu cysylltiadau cymdeithasol a rhwydweithiau cefnogolanffurfiol – elfennau allweddol mewn cymdogaethau difreintiedigac ar gyfer rhieni anghenus. Mewn gwirionedd, teimla rhieni ygall darpariaeth chwarae drawsnewid eu cymunedau, trwy dorriar draws rhaniadau cymdeithasol, trwy greu cysylltiad rhwngcymdogion a thrwy greu ymdeimlad cryfach o gymuned.Mynegir y gefnogaeth yma’n aml trwy wirfoddoli, all yn ei dro fodo fudd i rieni sy’n dysgu sgiliau gwerthfawr. Gall darpariaeth chwarae gynyddu cyfalaf cymdeithasol lleol blemae ei angen fwyaf. Oherwydd hyn i gyd, mae llawer o rieni’nteimlo y gall gwerth y sefyllfaoedd chwarae hyn, fel a fynegir ganyr hyn y bydd eu plant yn ei ddweud wrthynt neu trwy’r hyn ybyddant yn ei brofi eu hunain, fod gyfwerth neu hyd yn oed ynwell na llawer o wasanaethau y bydd raid iddynt dalu amdanynt

– sy’n cynnwys gofal plant, teithiau ysgol neu weithgareddauchwaraeon. Mewn rhai achosion, mae bodolaeth darpariaethchwarae o safon wedi gweithredu fel ffactor bwysig wrth iddyntbenderfynu i unai adael neu aros mewn cymdogaeth benodol.

Cysylltiadau sefydliadol Mae ystod eang o gysylltiadau sefydliadol yn amlwg yng ngwaithdyddiol darparwyr chwarae llwyddiannus. Mae ysgolion lleol,gwasanaethau plant, staff parciau, gweithwyr cefnogi teuluoedd,llyfrgelloedd, yr heddlu ac aelodau etholedig yn ddim ond rhai o’renghreifftiau a geir o bobl chwarae proffesiynol yn cael cysylltiadrheolaidd â rhwydwaith cefnogol ehangach ar gyfer plant atheuluoedd. Oherwydd bod darpariaeth chwarae i’w weld amlafmewn ardaloedd difreintiedig iawn, a gan fod ei ethos o alluogigweithgarwch a gyfarwyddir yn bersonol ac a ddewisir o wirfoddyn ei wneud yn fwy hygyrch i blant fyddai fel arall mewn perygl ogael eu heithrio, yn aml gall adeiladu pontydd pwysig rhwng ygwasanaethau plant statudol a theuluoedd a phlant sydd ynanodd i’w cyrraedd.Ceir digonedd o enghreifftiau yma o’r modd cynyddol y caiffsefyllfaoedd chwarae wedi eu staffio eu hystyried fel elfenallweddol o’r agwedd gwasanaethau integredig, aml-asiantaethsy’n ganolog i ganlyniadau gwell a pharhaus ar gyfer plant. Yn gyntaf, mae darpariaeth chwarae wedi ei staffio, yn hytrach nabod yn ofod adloniadol syml, mewn gwirionedd yn wasanaethholistig ar gyfer plant a phobl ifainc. Mae cynghori, mentora ahyfforddi anffurfiol ynghyd â chyngor ynghylch cyffuriau, rhyw achadw’n ddiogel i gyd yn rhan annatod o rôl y gweithiwr chwarae,ynghyd â’r cyfeirio a’r atgyfeirio hollbwysig at wasanaethaustatudol, sy’n cynnwys byrddau diogelu lleol. Gallant hefyd fod ynborth i gyfleoedd ym meysydd chwaraeon, y celfyddydau agweithgareddau diwylliannol eraill. O’r herwydd, gellir ystyried boddarpariaeth chwarae wedi ei staffio yn llanw bwlch allweddol argyfer y blynyddoedd canol, rhwng addysg gynnar statudol adarpariaeth ieuenctid.Yn ail, mae’r mannau hyn yn gerrig cyffwrdd ar gyfer ymgysylltiadplant a phobl ifainc â’u hamgylcheddau ffisegol a chymdeithasol.Oherwydd eu bod yn fannau y maent yn dewis eu mynychu – ynhytrach na chael eu cyfeirio atynt neu eu gorfodi i’w mynychu –maent yn llwyddo i gyfoethogi ymdeimlad plant o le a chymuned. Yn olaf, mae gwerth ychwanegol aruthrol gwirfoddolwyr aphwyllgorau rheoli gwirfoddol, dyfeisgarwch a hunangynhaliaeth yrethos gwaith chwarae (meysydd chwarae antur a’u cyflenwyr ostorfeydd sborion oedd yr ailgylchwyr gwreiddiol) a’u diffyg iachusolo haenau gweinyddol biwrocrataidd, yn dadlau achoseconomaidd sylweddol dros y math hwn o ddarpariaeth. Mae’nsicr y byddai unrhyw ddadansoddiad cost-budd o’r prosiectau aamlinellwyd yma’n arddangos enillion sylweddol, o’i gymharu â’rgwasanaethau statudol mwy traddodiadol.

Ymatebion partneriaid polisi Ceir cydnabyddiaeth cynyddol o bwysigrwydd chwaraeymysg llunwyr polisïau a rhanddeiliaid gwasanaethaucyhoeddus. Mae hyn oherwydd cyfuniad o resymau cyfryngola chynhenid: tra eu bod yn bennaf ac yn flaenaf yncydnabod hawl plant i dderbyn darpariaeth chwarae o safon,mae’r rhanddeiliaid hyn yn cydnabod hefyd y gwahaniaeth ygall darpariaeth chwarae ei wneud i ganlyniadau eraill argyfer plant a’u amcanion proffesiynol hwythau.

Chwarae dros Gymru Gwanwyn 2010ADRODDIAD ‘PEOPLE MAKE PLAY’

CasgliadauYr hyn y mae’r ymchwil yma’n ei arddangos yw nad yw rhai o’r cyfleoedd gorau ar gyfer y plant hynny sydd fwyaf anghenus yncodi o ganlyniad i fuddsoddi’n unig mewn ‘caledwedd’ megis safleoedd ac offer, ond yn hytrach trwy ddealltwriaeth, sgiliau acymroddiad staff a gwirfoddolwyr ymroddedig. Bydd gweithwyr chwarae a rhodwyr chwarae’n troi mannau ffisegol yn fannau’nllawn cyfleoedd, dychymyg a pherthyn. I lawer o blant mewn llawer o ardaloedd, fydd buddsoddi mewn offer fyth yn ddigon.Caiff y cyfleoedd gorau i chwarae eu ffurfio gan bobl. Gellir lawrlwytho People Make Play yn rhad ac am ddim oddi ar wefan Play England ac mae ar gael i’w brynu ar ffurf copi caled.www.playengland.org.uk

Page 12: Chwarae yng Nghymru rhifyn 31

Chwarae dros Gymru Gwanwyn 2010DATBLYGU’R GWEITHLU

12

Hyd yma bu 2010 yn flwyddyn gyffrous aheriol i’n cymhwyster lefel 2 GwaithChwarae: Rhoi Egwyddorion ar Waith (P3).Ers mis Ionawr, mae 143 o ddysgwyrwedi (neu ar fin) cofrestru ar gyrsiau ardraws Cymru – o Geredigion i Gaerffili aco Gonwy i Rhondda Cynon Taf.Mynd ar-leinDros y misoedd diwethaf rydym wedi bod yn peilota systemgyflwyno gwaith ar-lein sy’n rhoi’r dewis i ddysgwyr P3 i gyflwynoeu gwaith ac i sgwrsio ar-lein ac i bostio negeseuon am eucyrsiau. Bydd y system yma’n gwbl ddwyieithog yn fuan, ondgallwn eisoes dderbyn gwaith a gyflwynir trwy gyfrwng yGymraeg a’r Saesneg. Wrth gwrs, mae’r dewis papurtraddodiadol, o ddefnyddio’r llawlyfr dysgwyr, yn dal ar gael argyfer dysgwyr Cymraeg a Saesneg eu hiaith.

Gall dysgwyr gymryd rhan trwy wefan Gwaith Chwarae Cymruar www.gwaithchwaraecymru.org.uk

Hyfforddwyr newyddMae gennym grŵp newydd o hyfforddwyr P3 sy’n barod iledaenu trosglwyddo P3 i mewn i Gonwy, Gwynedd aChaerdydd. Rydym yn ddiolchgar i Wasanaethau Chwarae

Plant Caerdydd am ddarparu lleoliad am ddim inni redeg ycwrs ac i bawb a gymerodd ran a’u holl egni meddyliol achorfforol!! Dyma sylwadau Dafydd Myrddin Hughes o Wyneddam y cwrs:

‘Wedi imi gwblhau Gwobr P3 fel myfyriwr flwyddyn yn ôl a phrofi’r“WOW ffactor” bryd hynny, roeddwn yn disgwyl i’r cwrs yma fodyn rhywbeth gwahanol, yn rhywbeth oedd allan o’r cyffredin acefallai’n heriol … roeddwn i’n iawn! Roedd y cwrs yn sicr allano’r cyffredin o ran yr amrywiaeth o ddulliau dysgu a’r ffaith einbod yn ymwneud â phob agwedd o’r cwrs (oedd yn eingalluogi i fynegi barn mewn modd cwbl agored, gonest arhydd heb unrhyw fygythiad o gael ein bychanu). Llwyddoddhyn i greu amgylchedd dysgu cefnogol ac effeithlon.

‘Fe ddysgais lwyth o bethau dros y pum niwrnod gan adael arddiwedd pob dydd wedi blino’n llwyr, ond roedd yn flinder daa hapus oherwydd ei “fod o werth e”! Yn bennaf oll rwy’nteimlo iddo lwyddo i fy mharatoi’n drylwyr ar gyfer fy nghwrscyntaf fel hyfforddwr fydd, rwy’n falch o ddweud, yn cael eidrosglwyddo’n gyfangwbl trwy gyfrwng y Gymraeg.’

Hyfforddiant aseswyr Ym mis Mawrth fe wnaethom gynnal cwrs City & Guilds L20 –Support Competence in the Workplace ar gyfer pobl oedd amgymhwyso i fod yn aseswyr cymwysterau gwaith chwarae.

P3 ar y fframwaith cymwysterauYn ddiweddar cafodd cofrestriad P3 ei ymestyn tan ddiwedd yflwyddyn gan SkillsActive, y cyngor sgiliau sector, pryd y caiff eiadolygu ynghyd â phob cymhwyster gwaith chwarae arall ermwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r safonaugalwedigaethol cenedlaethol.

Mae activepassport™ yn offeryn ar-lein sy’ncefnogi datblygiad gyrfa ar gyfer gweithwyrchwarae a phobl broffesiynol eraill syddynghlwm â darpariaeth chwarae. Mae’ncynnig cofnod cyfleus, wedi ei wirio o sgiliau,dysg a chymwysterau person, gan gynnwyshyfforddiant mewn swydd, hanes cyflogaeth achyflawniadau proffesiynol.

• Chi sy’n berchen ar eich activepassport™ a bydd modd eidrosglwyddo o un cyflogwr i’r llall, felly gall fod yn sail igynllun datblygiad personol neu helpu i fapio a llywio eichllwybr gyrfa cyflawn

• Trwy amlygu doniau ymarferol, yn ogystal ag unrhywgymwysterau ffurfiol, mae’r activepassport™ yn cynnig

modd rhwydd o ddangos eich holl gyflawniadau i ddarpargyflogwyr

• Yn ogystal â chofnodi eich hyfforddiant a’ch cymwysteraupresennol gallwch hefyd gynllunio ar gyfer DatblygiadProffesiynol Parhaus

• Yn wahanol i CV arferol, mae’r cofnod hwn ar ffurf ffoto-gerdyn hygyrch a phroffil ar-lein rhyngweithiol, y gellir eiddiweddaru unrhyw bryd

• Mae meddu ar activepassport™ yn arddangos ymrwymiadi ddatblygu eich sgiliau a mwyafu eich potensial

• Yn eich atgoffa pan fo hyfforddiant gorfodol ar fin dod i benfel y gallwch ddiweddaru unrhyw hyfforddiant allweddol.

Am fwy o wybodaeth cysyllter â [email protected] neu dysgwch fwy ar www.activepassport.co.uk

Mae Gwaith Chwarae Cymru, y Ganolfan Genedlaetholar gyfer Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae, wedi

cael ei derbyn yn Ganolfan a gymeradwywyd gan CACHE argyfer trosglwyddo Gwobr, Tystysgrif a Diploma lefel 3 CACHEmewn Gwaith Chwarae.Rydym yn gobeithio y gallwn dynnu ariannu i lawr o’r AdranPlant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (DCELLS) trwy eincytundeb gyda ITEC Training Solutions i gefnogi trosglwyddoCACHE lefel 3.

Adolygiad hyfforddiant Gwaith ChwaraeMae’n bosibl eich bod eisoes wedi chwarae rhan yn y gwaithymchwil a gyflawnwyd gan Melyn Consulting ar ranLlywodraeth Cynulliad Cymru i adolygu rhychwant athrosglwyddiad hyfforddiant gwaith chwarae yng Nghymru.

Mae’r adolygiad hefyd yn cwmpasu rôl Gwaith ChwaraeCymru, y ganolfan genedlaethol dros addysg a hyfforddiantgwaith chwarae.

Y diweddaraf am P3

activepassport™ gwaith chwarae

Page 13: Chwarae yng Nghymru rhifyn 31

Chwarae dros Gymru Gwanwyn 2010DATBLYGU’R GWEITHLU

13

Offeryn recriwtio gwych

Hyfforddiant o Safon Chwarae o Safon

Yn ystod seminar ddiweddar GwaithChwarae Cymru yn Llanelwedd,

achubwyd ar y cyfle i weithio gydachyfeillion o bob cwr o Gymru iadeiladu a chynllunio ar gyfer y sectorgwaith chwarae.

Cyfathrebu Da – ein addewidCyfathrebu yw’r allwedd i waith pawb gydaac ar ran plant, felly yng Ngwaith ChwaraeCymru rydym wedi dechrau gweithio arStrategaeth Cyfathrebu ar gyfer ein gwaithac ar gyfer pawb sydd â diddordeb mewnchwarae plant – ond nid dogfen fydd ondyn eistedd ar silff mo hon ...

Daeth pobl at ei gilydd i weithio ar luniocynllun yn ein Seminar Gweithlu – acroedd yn bleser gweld gwên ar wynebau’rcyfranogwyr wrth inni ddechrau egluro einsyniadau cynnar ar gyfer AddewidCyfathrebu cyffredin ar gyfer Cymru – felbod pob un ohonom yn gallu cynorthwyogyda chyfathrebu effeithlon ac eglur oddimewn ac allan i’n sector.

Mae’n ymddangos efallai bod rhai o’rcyfranogwyr wedi bod yn ofni dogfen

swyddogol hir a sychlyd arall a’u bod ynllawn ryddhad i glywed bod y strategaethhon yn ddim o’r fath. Y syniad yw ein bodi gyd yn ymrwymo i’r Addewid ac yndefnyddio’r symbolau, sy’n cael eudylunio ar hyn o bryd, i helpu i ddynodigwybodaeth sydd angen ei rannu gydachydnabod a rhwydweithiau.

Felly cadwch olwg am ddatblygiadau, adyma’r drafft y gweithiom arno yn ystod ySeminar:

Yr Addewid Cyfathrebu:

Rydym yn addo i rannu …

i fynd ati’n weithredol i basio ymlaennewyddion neu wybodaeth sydd oddiddordeb i bobl eraill

Rydym yn addo i ddarparugwybodaeth priodol …

i roi gwybodaeth gywir, amserol,hygyrch, cryno ar y ffurf cywir (ddimwastad trwy ebost!)

Rydym yn addo i siarad yn blaen …

Rydym yn addo i fod yn onest …

Rydym yn addo i fod yn gywir …

Rydym yn addo i fod yn gyfredol …i wirio a sicrhau bod gwybodaeth yn dali fod yn berthnasol ac yn ddefnyddiol

Rydym yn addo i fod yn ddiddorol …

Rydym yn addo i ddweud …i gymryd cyfrifoldeb dros rannugwybodaeth yn ogystal â’i dderbyn

Bydd Gwaith Chwarae Cymru’ndefnyddio’r holl addewidion yma yn eucyfathrebiadau o hyn ymlaen.

I ddechrau, rydym yn addo i ddiweddarugwefan Gwaith Chwarae Cymru’nrheolaidd; sicrhau bod digonedd oddolenni arno; a sicrhau ei fod yn rhwyddi’w ddefnyddio. Byddwn yn ei adolygu’nrheolaidd a byddwn yn osgoi jargon.Byddwn hefyd yn annog ein cydweithwyr igyflwyno syniadau a gwybodaeth ar gyfery wefan – fel bod pob un ohonom ynchwarae rhan weithredol wrth sicrhau bodyr addewid yn gweithio ac i gadw’r llifgwybodaeth i symud.

Yn ystod y seminar Gwaith Chwarae:Dyfodol o Safon fe wnaethom hefydymgynghori â’n cydweithwyr yn y sectorynghylch cynigion ar gyfer dyfodolcymwysterau, addysg a hyfforddiantgwaith chwarae o 2011 ymlaen. Byddhyn yn bwydo i mewn i’r ymgynghoriadSkillsActive a amlinellir yn yr adrannewyddion. Cododd pedair negesbenodol o’n trafodaethau:

1. Dylai chwarae a’r agwedd gwaithchwarae gael eu cynnwys o fewnstrategaethau gweithlu integredig –

gan hyrwyddo gwell dealltwriaeth ochwarae a gwaith chwarae ar drawssectorau.

2. Dylid cael darpariaeth prosesau igefnogi gwell sgiliau a dysg gwaithchwarae – er enghraifft, efallai ybyddai elfen o hyfforddiant gwaithchwarae’n orfodol ar gyfer pobdatblygiad gweithlu plant.

3. Mae angen inni ddarbwyllo acysbrydoli cyflogwyr ac ymarferwyr iflaenoriaethu datblygu’r gweithlu –er enghraifft, fe allem ymchwilio’r

berthynas rhwng gweithwyr chwaraesydd â swyddi amser llawn athrosglwyddiad gwaith chwarae osafon.

4. Mae angen inni gynyddu’r nifer oweithwyr chwarae sy’n ymgymryd âchymwysterau gwaith chwarae – erenghraifft, cynnig cymwysteraugwaith chwarae mewn ysgolion,gweithio tuag at gydraddoldeb tâlac amodau ar gyfer gweithwyrchwarae â gweithwyr ieuenctid,athrawon a gweithwyr crefftus eraill.

Mae Potensial mewn GwaithChwarae: StrategaethDatblygiad ProffesiynolParhaus ar gyfer y SectorChwarae yng Nghymru2009 bellach ar gael i’wlawrlwytho oddi ar wefanGwaith Chwarae Cymru:www.playworkwales.org.uk

Strategaeth

DPP

playworkGwaith Chwarae: Dyfodol o Safon

Mae Gyrfa fel gweithiwr chwarae? yn ganllaw dwyieithog iwaith chwarae gan Gwaith Chwarae Cymru, llyfryn argyfer cyflogwyr sy’n recriwtio neu ar gyfer unrhyw un syddeisiau cymorth i egluro’r rôl gwaith chwarae i bobl eraill.

Mae’r llyfryn wedi ei ddiweddaru fel ei fod hyd yn oed yn fwydefnyddiol ac mae wedi ei ail-argraffu (gan i’r argraffiad cyntafgael ei werthu i gyd) fel bod digon o gopïau ar gael ar gyferrecriwtio yn ystod haf 2010.

Mae copïau ar gael i’w prynu (i dalu ein costau) yn adran siopgwefan Chwarae Cymru: www.chwaraecymru.org.uk

Page 14: Chwarae yng Nghymru rhifyn 31

Chwarae dros Gymru Gwanwyn 2010DIGWYDDIADAU AC AELODAETH

14

Digwyddiadau

Ariannu

20ed Cynhadledd Fyd-eangInternational Play Therapy13 – 24 Mai 2010Marrakechwww.playtherapy.org.uk/WorldCongress/WorldCongress2010home.htm

25ain Cynhadledd Chwarae Fyd-eang yrICCP - Children's Play: New Goals for theFuture16 – 18 Mehefin 2010Lisbonwww.fmh.utl.pt/25iccp/

Cynhadledd Flynyddol British Association of Play Therapists 25 – 26 Mehefin 2010Birminghamwww.bapt.info/conference.htm

Diwrnod Chwarae 20104 Awst 2010www.playday.org.uk

Create Inspiring Playgrounds29 Medi – 1 Hydref 2010Karlstad, Swedenhttp://ipaworld.org/category/news-and-events/conferences

5ed Rhifyn: Child in the City 201027 – 29 Hydref 2010Palazzo dei Congressi, Florence, Yr Eidalwww.childinthecity.com/page/1836

Ysbryd Chwarae Antur

Austin and Hope Pilkington TrustMae grantiau o rhwng £1,000 a £10,000 ar gael argyfer prosiectau yn y meysydd canlynol ar gyfer 2010:prosiectau plant, ieuenctid, yr henoed ac ymchwilmeddygol sy’n delio â’r boblogaeth sy’n heneiddio.

Dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau: 1 Mehefin ac 1 Tachwedd 2010.

www.austin-hope-pilkington.org.uk/

Aelodaeth IPA – am safbwynt rhyngwladolMae’r ‘International Play Association; promoting the child’s right to play’(IPA) yn fudiad rhyngddisgyblaethol sy’n dwyn ynghyd bobl o bobproffesiwn sy’n effeithio ar gyfleoedd chwarae plant. Maeenghreifftiau’n cynnwys: gwaith chwarae; iechyd; addysg; gwaithcymdeithasol; plentyndod cynnar; cynllunio dinesig; dylunio tirwedd;cynllunio cymdeithasol; pensaernïaeth; datblygu cymunedol; celf; agwaith ymchwil.

Mae cangen Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon o’r IPA (EWNI)yn croesawu aelodau newydd a hoffem annog unrhyw un syddam gynyddu proffil chwarae plant ac sydd am wneud y gorauo Gynhadledd Fyd-eang yr IPA y flwyddyn nesaf, a gynhelir yngNghaerdydd, i ymuno â ni. Ebostiwch yr YsgrifennyddAelodaeth, Bob Hughes, ar: [email protected]

Dysgwch fwy am waith rhyngwladol yr IPA ar: www.ipaworld.org

Aelodaeth Chwarae Cymru 2010Er mwyn adnewyddu eich aelodaeth, neu i ddod yn aelodnewydd o Chwarae Cymru, cwblhewch y ffurflen aelodaethsydd ar gael i’w lawrlwytho o’n gwefan:www.chwaraecymru.org.uk

Mae buddiannau ar gyfer aelodau sy’n byw neu’n gweithioyng Nghymru’n cynnwys: gostyngiad ar ffïoedd seminarau achynadleddau; gostyngiadau ar brisiau cyhoeddiadau;gwiriadau rhad ac am ddim gyda’r Biwro CofnodionTroseddol ar gyfer staff sy’n gweithio mewn darpariaethwedi ei reoleiddio; cyfle cynnar i ddarllen erthyglau oddiddordeb a thaflenni briffio.

Mae buddiannau ar gyfer aelodau sy’n byw neu’n gweithioy tu allan i Gymru’n cynnwys: poster am ddim; e-fwletinau’nllawn newyddion ariannu a digwyddiadau; cyfle cynnar iddarllen erthyglau o ddiddordeb a thaflenni briffio.

5 – 6 Mai 2010Gwesty’r Holiday Inn, CaerdyddDyma ddegfed pen-blwydd Ysbryd ac mae’r un mor boblogaiddac erioed gyda phawb o weithwyr chwarae newydd i reolwyr.Mae’n delio gydag agweddau damcaniaethol ac ymarferolgwaith chwarae, fel yr amlinellir yn yr Egwyddorion GwaithChwarae – a llawer mwy.

Eleni rydym wedi gwahodd George Broeseliske, sy'n arwainmudiad chwarae sector gwirfoddol yn Rotterdam, i siaradam feysydd chwarae antur fel rhan o ystod o ddarpariaethchwarae cymunedol mewn ‘Dinas Gyfeillgar i Blant’.

Ceir hefyd gyfraniadau gan Stuart Lester, Perry Else, EddieNuttall, Ali Wood, Grant Lambie, Bristol Scrapstore Playpods,Jess Milne a llawer mwy, yn ogystal â gweithdai ymarferolcyffrous.

Gellir lawrlwytho ffurflenni archebu oddi ar ein gwefan: www.chwaraecymru.org.uk