Top Banner
Access to Learning – June 2011 ANGHENION ADDYSGOL ARBENNIG YN NINAS A SIR ABERTAWE CANLLAW AR GYFER RHIENI A GOFALWYR
60

Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

Apr 07, 2016

Download

Documents

Canllaw ar gyfer rhieni a gofalwyr
Welcome message from author
This document is posted to help you gain knowledge. Please leave a comment to let me know what you think about it! Share it to your friends and learn new things together.
Transcript
Page 1: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

Access to Learning – June 2011

ANGHENION ADDYSGOL ARBENNIG

YN NINAS A SIR

ABERTAWE

CANLLAW AR GYFER RHIENI A GOFALWYR

Page 2: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

ANGHENION ADDYSGOL ARBENNIG

YN NINAS A SIR ABERTAWE

CYNNWYS

1. Sut i ddefnyddio’r Pecyn Gwybodaeth hwn.

2. Polisi anghenion addysgol arbennig Dinas a Sir Abertawe.

3. Sut gallwch chi helpu?

4. Darparu ar gyfer anghenion addysgol arbennig yn Ninas a Sir Abertawe.

5. Dull ymateb graddedig Dinas a Sir Abertawe.

6. Asesiad Statudol o dan Ddeddf Addysg 1996.

7. Pwy fydd yn ysgrifennu adroddiadau ar eich plentyn ar gyfer

Asesiad Statudol o dan Ddeddf Addysg 1996.

8. Sut i fynegi eich barn a barn eich plentyn.

9. Cyfeiriadau defnyddiol.

10. Rhestr termau.

Page 3: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

Mae’r pecyn hwn yn rhoi gwybodaeth i chi am sut mae plant a phobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig yn cael eu cefnogi yn Ninas a Sir Abertawe. Mae’r pecyn yn diwallu anghenion rhieni drwy ddarparu gwybodaeth gynhwysfawr am addysg arbennig. Mae’n diweddaru’r pecyn gwreiddiol yng ngoleuni Côd Ymarfer newydd Cymru. Lluniwyd y pecyn gwreiddiol mewn partneriaeth â SNAP, Cymru (Prosiect Ymgynghorol Anghenion Arbennig). Ymgynghorwyd â rhieni ac ysgolion wrth ei lunio a chydnabyddir yn ddiolchgar help staff yr Awdurdod Iechyd a’r Gwasanaethau Cymdeithasol.

Page 4: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

1.

ANGHENION ADDYSGOL ARBENNIG

YN NINAS A SIR ABERTAWE

SUT I DDEFNYDDIO'R LLYFRYN GWYBODAETH HWN

Mae'r daflen hon yn rhoi gwybodaeth i chi am: • Sut i ddefnyddio'r pecyn gwybodaeth hwn. Mae llawer o wybodaeth yn y pecyn hwn. Mae’n siŵr nad ydych am ei ddarllen i gyd ar yr un pryd. Weithiau, bydd rhai adrannau'n fwy defnyddiol wrth i chi ddechrau cael gwybodaeth am anghenion addysgol arbennig. Efallai bydd rhai adrannau'n fwy defnyddiol yn nes ymlaen. Gellir defnyddio'r pecyn mewn sawl ffordd wahanol. Dyma rai awgrymiadau i'ch helpu i ddod o hyd i'r wybodaeth rydych yn chwilio amdani:- • mae'r adrannau wedi'u rhifo ond nid oes rhaid eu darllen mewn unrhyw

drefn arbennig. • bydd y teitl ar flaen pob adran yn eich helpu i benderfynu a yw'r adran

yn cynnwys yr wybodaeth y mae ei hangen arnoch ar hyn o bryd. • cadwch y llyfr mewn man cyfleus. Efallai y bydd yn ddefnyddiol i wirio

gwybodaeth yn nes ymlaen. Efallai bydd pobl eraill yn eich teulu neu'ch ffrindiau am ei ddarllen.

• byddwch yn siŵr o fod am siarad â rhywun am yr wybodaeth yr ydych wedi ei darllen yn y llyfr hwn. Os yw eich plentyn yn yr ysgol, bydd ei athro yn hapus i siarad â chi. Efallai bydd yn well gennych siarad â rhywun o grŵp gwirfoddol megis SNAP, Cymru (Prosiect Ymgynghorol Anghenion Arbennig), sy'n gallu cynnig cyngor a chefnogaeth annibynnol. Mae gan yr AALl Swyddog Anghenion Addysgol Arbennig penodol. Y swyddog hwn yw Mr Chris Seacombe, sydd yn y Ganolfan Ddinesig, Abertawe a gellir ei ffonio ar 01792 636162. Neu byddai aelod o'r Tîm Cronfa Ddata Asesu Statudol (01792 636162) yn hapus i siarad â chi neu eich cyfeirio at berson annibynnol sy'n gallu rhoi gwybodaeth a chefnogaeth i chi. Neu gallwch gysylltu ag un o'r gwasanaethau cefnogi a restrir yn y llyfr.

• peidiwch â phoeni os yw rhai o'r geiriau yn y llyfr yn anghyfarwydd. Mae adran yn y llyfr sy'n esbonio rhai o'r termau efallai y byddwch yn eu clywed am y tro cyntaf. Weithiau, mae pobl sy'n gweithio ym myd

Page 5: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

addysg yn defnyddio 'jargon' sy'n gallu bod yn ddryslyd. Rhaid gofyn i bobl esbonio os nad ydych wedi deall popeth y maent wedi’i ddweud.

• mae dwy daflen ar wahân yn y pecyn i'ch helpu i gadw cofnod o asesiad eich plentyn. Mae gan y daflen gyntaf le ar gyfer enwau, cyfeiriadau a rhifau ffôn y bobl a fydd yn gweithio gyda'ch plentyn. Mae'r ail daflen yn eich helpu i gofnodi cynnydd yr asesiad.

• o bryd i'w gilydd, bydd yr adrannau yn y llyfr hwn yn cael eu hail-ysgrifennu er mwyn diweddaru’r wybodaeth.

• Cred Cyfarwyddiaeth Addysg Dinas a Sir Abertawe ei bod hi’n bwysig rhoi gwybodaeth a chefnogaeth gynnar i rieni. Mae'r pecyn hwn wedi'i gynhyrchu gyda SNAP, Cymru fel rhan o'r ymrwymiad hwnnw.

Page 6: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

2.

ANGHENION ADDYSGOL ARBENNIG

YN NINAS A SIR ABERTAWE

POLISI ANGHENION ADDYSGOL ARBENNIG DINAS A SIR ABERTAWE

Mae'r adran hon yn dweud wrthych am: • Bolisi Anghenion Addysgol Arbennig Dinas a Sir Abertawe. • Yr hyn y mae'n ei olygu i chi a'ch plentyn. Polisi Anghenion Addysgol Arbennig Dinas a Sir Abertawe. Mae Deddf Addysg 1996 yn dweud bod gan blentyn anghenion addysgol arbennig os: ydyw'n cael mwy o anhawster dysgu na'r rhan fwyaf o blant;

neu mae ganddo anabledd sy'n ei gwneud hi'n anodd iddo gael addysg gyffredin yn yr ardal leol; neu mae bwlch rhwng lefel ymddygiad neu gyrhaeddiad plentyn a'r hyn sy’n ddisgwyledig gan yr ysgol.

Mae'r Polisi Anghenion Addysgol Arbennig yn disgrifio'r ddarpariaeth addysgol arbennig yn Ninas a Sir Abertawe. Pan fydd Awdurdod Addysg Lleol (AALl) yn mabwysiadu polisi, mae'n rhaid i holl gynllunio'r dyfodol gyfeirio at y polisi hwnnw. Mae polisi Dinas a Sir Abertawe yn seiliedig ar brif bwyntiau Deddfau Addysg 1981, 1993 a 1996. Nodir y rhain: • fod gan ddisgyblion a myfyrwyr yr hawl i dderbyn addysg yn lleol lle

bynnag y bo'n bosib.

Page 7: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

• bod gan ddisgyblion yr hawl i gael eu hanghenion addysgol arbennig wedi'u nodi a'u hasesu’n llawn o 2 oed hyd at 19 oed.

• gall rhieni ofyn i weld yr hyn sydd wedi'i ysgrifennu am eu plentyn ac

ymwneud â thrafodaethau am eu plentyn. • bod rhaid i rieni gael gwybod eu hawliau dewis ar bob cam o addysg

eu plant. Mae hyn yn cynnwys yr hawl i anghytuno â phenderfyniad gan yr AALl.

• bod gan lywodraethwyr a’r AALl gyfrifoldebau tuag at ddisgyblion a

myfyrwyr i sicrhau y nodir eu hanghenion a rhoddir darpariaeth berthnasol hyd at 19 oed os yw hynny'n angenrheidiol.

• lle bo'n bosib, dylai disgyblion a myfyrwyr ymwneud yn llawn â phob

agwedd ar yr ysgol ar y cyd â'u cyfoedion yn y dosbarth am ran o'r amser neu drwy’r amser.

Ar yr un pryd, mae'r Ddeddf Addysg yn gosod cyfrifoldebau penodol ar yr AALl. Mae’n rhaid i’r AALl ystyried: • defnyddio'i adnoddau'n effeithlon; • oed, gallu ac anghenion addysgol arbennig eich plentyn; • addysgu plant eraill yn effeithlon yn yr ysgol. Beth mae'r Polisi Anghenion Addysgol Arbennig yn ei olygu i chi a'ch plentyn? Nid yw'ch plentyn ar ei ben ei hun o ran anhawster dysgu - mae gan sawl plentyn anawsterau dysgu o ryw fath neu gilydd ar gyfnodau gwahanol yn eu haddysg. • lle bo'n bosib, dylai anghenion unigol plant gael eu hasesu yn eu

hysgol eu hunain. Gellir asesu plant cyn oed ysgol gartref. • lle bo'n bosib, dylai eich plentyn fynychu ysgol leol a chymryd rhan yn

holl weithgareddau'r ysgol. • mae gan bob plentyn yr hawl i gael cwricwlwm eang a chytbwys, gan

gynnwys y Cwricwlwm Cenedlaethol. • gall athrawon yn eich ysgol leol wella eu dealltwriaeth o anawsterau

dysgu drwy weithio gydag athrawon eraill, weithiau y tu allan i'w

Page 8: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

hysgolion eu hunain. Gellir cyflwyno cyfarpar a ffyrdd gwahanol o helpu plant yn eich ysgol leol yn y modd hwn.

• bydd gan eich ysgol gydlynydd anghenion addysgol arbennig

(SENCO), a bydd polisi ar gyfer diwallu anghenion addysgol arbennig yn yr ysgol, a fydd hefyd ar gael i chi.

• bydd un person ar y corff llywodraethu sy'n cymryd diddordeb penodol

mewn anghenion addysgol arbennig. • Mae Dinas a Sir Abertawe yn darparu arian ychwanegol i'w ysgolion ar

gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig. Caiff yr arian ei nodi'n hawdd yng nghyllideb yr ysgol. Disgwylir i ysgol eich plentyn wario'r arian hwn ar ddarparu cyfarpar a staff ar gyfer y plant hyn.

• yn ogystal, gall ysgol eich plentyn ofyn am fathau penodol o help.

Gallwch ddarllen mwy am hyn yn yr adran 'Darparu ar gyfer anghenion addysgol arbennig yn Ninas a Sir Abertawe'. (Gweler adran 4).

• gwneir pob ymdrech i ddiwallu anghenion eich plentyn yn lleol drwy

ddarparu'r math cywir o help lle mae angen hynny ar eich plentyn. Os oes gan eich plentyn anghenion hir dymor, cymhleth, efallai bydd yr AALl yn meddwl mai cyngor ysgrifenedig ar eu hanghenion sydd orau ar gyfer eich plentyn. O ganlyniad i'r cyngor hwn, efallai ceir Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig.

• bydd y Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig naill ai'n enwi ysgol

brif ffrwd neu ysgol arbennig fel y lle gorau i ddiwallu anghenion addysgol arbennig eich plentyn. Bydd y rhan fwyaf o blant â datganiadau'n mynd i ysgol brif ffrwd.

• nifer bach iawn o blant sy'n mynychu ysgolion y tu allan i Ddinas a Sir

Abertawe os cytunir na ellir diwallu eu hanghenion addysgol arbennig yn y sir.

Page 9: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

3.

ANGHENION ADDYSGOL ARBENNIG

YN NINAS A SIR ABERTAWE

SUT GALLWCH CHI HELPU?

Mae’r adran hon yn dweud wrthych: • Y ffyrdd y gallwch fod yn rhan o addysg eich plentyn. • Yr hawliau sydd gan eich plentyn. • Eich cyfrifoldebau fel rhiant neu ofalwr. Os nad yw eich plentyn wedi dechrau yn yr ysgol eto ac rydych yn credu bod ganddo anghenion addysgol arbennig, gofynnwch i'ch meddyg, eich ymwelydd iechyd, eich gweithiwr cymdeithasol, eich ymgynghorydd cartref portage neu unrhyw un arall sy'n gweithio i helpu eich plentyn i'ch cyfeirio at rywun o'r Awdurdod Addysg Lleol (AALl). Efallai y bydd hefyd yn ddefnyddiol i chi gysylltu ag un o'r grwpiau gwirfoddol a restrir yn y llyfryn hwn. Y cynharaf y gwnewch hyn, yr hawsaf y bydd i gynllunio ar gyfer addysg eich plentyn. Os yw eich plentyn yn yr ysgol eisoes, efallai mai'r athro dosbarth/athrawes ddosbarth oedd y person cyntaf i sylweddoli ei fod e'n cael anawsterau yn yr ysgol. Bydd yr athro/athrawes am siarad gyda chi am ffyrdd o helpu eich plentyn. Am fwy o wybodaeth, ewch i adran 5 ar Ddull Dinas a Sir Abertawe. Cofiwch…

os yw eich plentyn wedi dechrau yn yr ysgol neu beidio, bydd yr AALl am weithio mewn partneriaeth â chi. mae eich barn yn hynod bwysig. Chi sy’n adnabod eich plentyn yn well na neb arall ac mae gennych ran hanfodol. Er enghraifft, rydych yn y sefyllfa orau i siarad am brofiadau cynnar eich plentyn a sut y mae ef yn ymddwyn gartref. mae athrawon yn adnabod eich plentyn mewn ffordd wahanol a bydd ganddynt yr wybodaeth a'r profiad addysgu a byddant am eu rhannu â chi.

Page 10: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

mae plant yn ymateb yn gadarnhaol pan maent yn derbyn canmoliaeth ac yn cael eu hannog. Mae eich anogaeth a'ch cefnogaeth yn bwysig iawn.

Os yw eich plentyn yn mynd i dderbyn asesiad statudol (gweler adran 6)

bydd gennych gyfle i gyfrannu at yr asesiad hwn ac mae eich dealltwriaeth a'ch gwybodaeth am eich plentyn yn rhan hanfodol o'r broses. po fwyaf o wybodaeth sydd gennych, mwyaf y gallwch fod yn rhan o asesiad eich plentyn. gofynnwch i'r athrawon neu'r seicolegydd addysg i argymell unrhyw daflenni neu lyfrau a allai fod o fudd. gofynnwch am gyfieithiadau neu ddehonglydd os oes eu hangen arnoch. gofynnwch i'r AALl am fanylion y cynllun 'Partneriaeth Rieni' neu cysylltwch â grŵp gwirfoddol, megis SNAP. gallwch ddewis 'Gwasanaeth Partneriaeth Rieni' (gweler Adran 10) a fydd yn cynnig cefnogaeth i chi pan fo angen hynny arnoch. Gallant ddod i gyfarfodydd gyda chi, eich helpu i nodi eich barn a rhoi cyngor a gwybodaeth yn ogystal â chefnogaeth bersonol. gwnewch bob ymdrech i gadw pob apwyntiad a wneir ar gyfer eich plentyn. Os ydych yn colli apwyntiad, gallai hynny olygu y bydd yn cymryd mwy o amser i gwblhau asesiad eich plentyn. gwnewch nodyn o unrhyw sgyrsiau dros y ffôn neu unrhyw gyfarfodydd. cadwch gopi o unrhyw beth yr ydych yn ei ysgrifennu neu yn ei anfon at yr AALl ynghylch eich plentyn.

DERBYN I'R YSGOL • Os gallwch chi, ewch i ymweld â sawl ysgol cyn bod eich plentyn yn

cyrraedd oed ysgol. Gofynnwch gwestiynau am yr ysgol (gweler isod). Gofynnwch am gopi o bolisi anghenion addysgol arbennig yr ysgol.

• Oherwydd nad yw'n bosib penderfynu ar leoliad eich plentyn nes

cwblhau’r asesiad, ni all penaethiaid gynnig lle i'ch plentyn yn ystod y cyfnod hwn.

Page 11: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

Sut gallwch chi helpu yn yr ysgol....

unwaith mae eich plentyn wedi dechrau, cadwch mewn cysylltiad ag athro/athrawes eich plentyn. Ewch i ymweld yn rheolaidd i rannu gwybodaeth am sut mae eich plentyn yn datblygu. helpwch neu anogwch eich plentyn i weithio ar raglenni arbennig a roddir gan yr ysgol. os oes angen sbectol neu gymorth clyw ar eich plentyn, sicrhewch ei fod yn eu defnyddio. gadewch i'r ysgol wybod os oes gennych unrhyw bryderon neu os oes unrhyw beth wedi newid yn y cartref. dewch i adnabod llywodraethwr yr ysgol sy’n gyfrifol am anghenion addysgol arbennig. ymunwch â grŵp rhieni er mwyn siarad â rhieni eraill y mae gan eu plant anghenion addysgol arbennig. os oes gennych amser, cynigiwch i helpu yn yr ysgol neu ymunwch â'r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon (CRhA).

Cwestiynau y gallwch eu gofyn yn yr ysgol.... sawl disgybl sydd ag anghenion addysgol arbennig? pa fath o anghenion sydd gyda nhw? sut maent yn derbyn cymorth yn yr ysgol? sut byddaf yn gwybod sut mae fy mhlentyn yn datblygu yn yr ysgol? pwy yw cydlynydd anghenion addysgol arbennig yr ysgol?

pwy yw'r llywodraethwr sy'n gyfrifol am ddisgyblion ag anghenion addysgol arbennig?

Gwybod eich hawliau a hawliau eich plentyn Mae gan eich plentyn yr hawl i: • addysg eang a chytbwys, gan gynnwys y Cwricwlwm Cenedlaethol. • addysg sy'n berthnasol i'w anghenion.

Page 12: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

• ymwneud â'i asesiad ef ei hun i'r graddau y mae hynny’n bosib. • ystyried ei farn ef, i'r graddau y mae hynny’n bosib. • cyfleoedd cyfartal mewn addysg. • y cyfle i dderbyn addysg bellach. • addysg bellach. Mae gennych yr hawl i: • ymwneud ag a chymryd rhan mewn penderfyniadau am addysg eich

plentyn. • cael eich trin â pharch gan yr holl weithwyr proffesiynol sy'n gweithio

gyda'ch plentyn. • gwybodaeth am ddarpariaeth ar gyfer plant ag anghenion addysgol

arbennig, gan gynnwys enwau pob ysgol yn AALl Dinas a Sir Abertawe.

• gweler polisi anghenion addysgol arbennig yr ysgol a derbyn copi o

adroddiad blynyddol yr ysgol. • ewch gyda'ch plentyn i gyfweliad, prawf meddygol neu asesiad. Efallai

y bydd gweithwyr proffesiynol, ar ryw adeg, yn gofyn i weld eich plentyn ar ei ben ei hun, oherwydd mae plant yn ymddwyn yn wahanol pan nad yw eu rhieni gyda nhw.

• cael cefnogaeth gan y 'Gwasanaeth Partneriaeth Rieni'. • gofyn i'r AALl wneud asesiad statudol o anghenion addysgol arbennig

eich plentyn. • gofyn am ailasesiad o anghenion addysgol arbennig eich plentyn, os

aeth 6 mis heibio ers yr asesiad diwethaf. • mynegi hoffter am ysgol benodol. • cael copi o'r holl gyngor proffesiynol a ysgrifennwyd fel rhan o asesiad

eich plentyn. • apelio i'r Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig os:

yw'r AALl yn gwrthod gwneud asesiad statudol o'ch plentyn ar ôl i chi neu'r ysgol ofyn amdano

Page 13: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

yw'r AALl yn gwrthod rhoi Datganiad i'ch plentyn ydych yn anghytuno ag adrannau 2,3 neu 4 o ddatganiad eich plentyn yw'r AALl yn gwrthod ailasesu eich plentyn neu newid enw'r ysgol a enwir yn y datganiad yw'r AALl yn penderfynu peidio â newid y Datganiad ar ôl ailasesu eich plentyn yw'r AALl yn penderfynu peidio â chynnal datganiad eich plentyn.

• ewch i'r Gwasanaeth Datrys Anghydfod os ydych yn penderfynu apelio i'r Tribiwnlys AAA.

Mae gennych ddyletswydd i: • sicrhau bod eich plentyn yn mynychu'r ysgol • cefnogi eich plentyn yn yr ysgol i'r graddau gorau posib • chwarae eich rhan wrth gyfathrebu'n effeithiol â phennaeth a staff yr

ysgol.

Page 14: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

4

ANGHENION ADDYSGOL ARBENNIG

YN NINAS A SIR ABERTAWE

DARPARU AR GYFER ANGHENION ADDYSGOL ARBENNIG YN NINAS A SIR ABERTAWE

Os oes gennych blentyn ag anghenion addysgol arbennig, byddwch am wybod sut y diwellir yr anghenion hynny. Mae'r adran hon yn dweud wrthych: • am drefniadau diwallu anghenion addysgol arbennig yn Ninas a

Sir Abertawe. PLENTYN OED YSGOL Yr hyn sydd ar gael ym mhob ysgol • Mae gan bob ysgol ddisgyblion ag anghenion addysgol arbennig. • Mae Dinas a Sir Abertawe yn darparu gwasanaethau cefnogi er mwyn

rhoi cymorth ychwanegol i ysgolion. • Mae pob ysgol yn Ninas a Sir Abertawe wedi meddwl am y ffordd orau

i helpu plant ag anghenion addysgol arbennig. Nodir hyn fel polisi ysgol.

• Bydd yr ysgol yn gwybod yr hyn i wneud os oes gan eich plentyn

anghenion addysgol arbennig. • Bydd yr ysgol yn eich cynnwys ac yn eich hysbysu. • Mae athro/athrawes ym mhob ysgol o'r enw Cydlynydd Anghenion

Addysgol Arbennig. Efallai bod gan yr athro/athrawes yma brofiad wrth addysgu plant ag anghenion addysgol arbennig. Efallai hefyd bod gan yr athro/athrawes yma gyfrifoldebau dosbarth, neu, mewn rhai achosion, efallai mai'r pennaeth ydyw. Gall y cydlynydd anghenion addysgol arbennig eich helpu chi, eich plentyn ac athro/athrawes eich plentyn.

• Mae pob ysgol yn cael cyngor gan seicolegydd addysg ac athrawon

cefnogi sy'n ymweld.

Page 15: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

• Mae peth arian yng nghyllideb yr ysgolion er mwyn helpu iddynt

ddiwallu anghenion addysgol arbennig y disgyblion sydd wedi'u nodi ag Anghenion Addysgol Arbennig yn yr arolwg AAA blynyddol.

Pa drefniadau eraill sydd ar gael? Plant â Datganiadau Anghenion Addysgol Arbennig yn y Brif Ffrwd Bydd rhai plant ag Anghenion Addysgol Arbennig yn derbyn Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig. Bydd y datganiad yn rhoi manylion y gefnogaeth i'w rhoi i'r plentyn. Gallai hyn gynnwys Cefnogaeth Athrawon Arbenigol neu gefnogaeth Cynorthwy-ydd Addysgu. Athrawon Cefnogi Arbenigol ac Athrawon Ymgynghorol Athrawon sydd â gwybodaeth a phrofiad arbenigol o weithio gyda phlant ag anawsterau dysgu cyffredinol yw’r rhain. Mae yna athrawon arbenigol hefyd sy'n gweithio gyda phlant y mae eu hanawsterau dysgu yn ymwneud â phroblemau eraill. Gallai'r anawsterau hyn fod yn nam ar y clyw, iaith a lleferydd neu anawsterau emosiynol ac ymddygiadol. Gall yr athrawon hyn helpu ysgol eich plentyn i: • gael mwy o fanylion am anghenion addysgol arbennig eich plentyn • cynllunio rhaglenni gwaith unigol • addysgu eich plentyn yn unigol, neu mewn grŵp bach, neu drwy

gefnogi eich plentyn o fewn y dosbarth cyfan • awgrymu deunyddiau a chyfarpar sy'n fwy perthnasol ar gyfer eich

plentyn • rhoi cyngor a hyfforddiant i athrawon eich plentyn. Cynorthwy-wyr Addysgu (CA) Cynorthwy-wyr Addysgu yw'r bobl sy'n helpu'r athro/athrawes i ddiwallu anghenion addysgol arbennig disgyblion. Byddant yn cynorthwyo'r athro/athrawes:

Page 16: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

• drwy helpu'ch plentyn â'i waith • trwy helpu’ch plentyn i gymryd rhan yn y gwaith neu yn y dosbarth • trwy oruchwylio grwpiau bach ar gyfer gweithgareddau a gynlluniwyd

gan yr athro/athrawes • trwy helpu’ch plentyn â sgiliau hunangymorth a sgiliau cymdeithasol • trwy baratoi gwaith neu ddeunyddiau ar gyfer eich plentyn. Ysgolion ag Adnoddau Ychwanegol Mae'r rhain yn ysgolion cyffredin sydd: • yn darparu ar gyfer nifer bach o blant â mathau penodol o anghenion

addysgol arbennig mewn dosbarthiadau bach • efallai â staff ychwanegol gyda gwybodaeth neu hyfforddiant arbenigol • â deunyddiau neu gyfarpar arbenigol • yn derbyn plant ag anghenion difrifol iawn na ellir eu diwallu'n hawdd

yn eu hysgol leol • â chynllun integreiddio sy'n cynnwys eich plentyn. Os yw eich plentyn yn mynychu Ysgol ag Adnoddau Ychwanegol bydd: • ganddo Ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig • yn mynychu ysgol brif ffrwd, ond efallai na fydd un ar gael yn lleol • efallai bydd yn rhaid iddo deithio i'r ysgol ar y bws neu mewn tacsi, a

bydd yr AALl yn talu • yn cael cyfle i dderbyn addysg mewn grŵp bach • yn gallu cymryd rhan weithgar yng ngweithgareddau'r ysgol • yn derbyn therapi lleferydd, ffisiotherapi neu therapi galwedigaethol a

ddarperir yn yr ysgol.

Page 17: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

Mae nifer o Ysgolion ag Adnoddau Ychwanegol yn Ninas a Sir Abertawe. Rhyngddynt, mae ganddynt athrawon â gwybodaeth arbenigol yn y meysydd canlynol: • nam ar y clyw • anawsterau iaith a chyfathrebu • anawsterau corfforol • anawsterau dysgu • anawsterau dysgu dwys a lluosog • awtistiaeth Dyma restr o Ysgolion ag Adnoddau Ychwanegol sydd â sawl lle ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig: Anawsterau Dysgu Cymedrol i Ddifrifol ENW OEDRAN Y DISGYBLION Ysgol Gynradd Cadle 7 – 11 Ysgol Gynradd y Clâs 3 – 11 Ysgol Gynradd Clwyd 3 – 11 Ysgol Gynradd Crwys 3 – 7 Ysgol Gynradd Cwmglas 7 – 11 Ysgol Gynradd Danygraig 3 – 11 Ysgol Gynradd Treforys 3 – 11 Ysgol Gynradd Parkland 7 – 11 Ysgol Gynradd Tre Uchaf 3 – 11 Ysgol Gynradd Townhill 3 – 11 Ysgol Gynradd y Garreg Wen 3 – 11 Ysgol Gyfun Gellifedw 11 – 16 Ysgol Gyfun yr Esgob Gore 11 – 16 Ysgol Gyfun Cefn Hengoed 11 – 16 Ysgol Gymunedol Daniel James 11 – 16 Ysgol Gymunedol Dylan Thomas 11 – 16 Anawsterau Corfforol

Page 18: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

ENW OEDRAN Y DISGYBLION Ysgol Gynradd y Garreg Wen 3 – 11 Ysgol Gymunedol Dylan Thomas 11 – 16 Ysgol Gyfun Pontarddulais 11 – 16 Anhwylderau Sbectrwm Awtistig ENW OEDRAN Y DISGYBLION Ysgol Gynradd y Clâs (Difrifol) 3 – 11 Ysgol Gynradd Clwyd (Cymedrol) 3 – 11 Ysgol Gyfun Dylan Thomas (Cymedrol) 11 – 16 (yn agor fis Ebrill 09) Ysgol Gyfun Tregŵyr 11 – 16 (Awtistiaeth ac Aspergers Gweithredol Uchel) Sylwer nad oes darpariaeth ar wahân ar gyfer Awtistiaeth yn Ysgol Arbennig Maytree. Anawsterau Emosiynol ac Ymddygiadol Mae darpariaeth ar wahân ar gyfer disgyblion ag anawsterau emosiynol ac ymddygiadol difrifol. ENW OEDRAN Y DISGYBLION Y Ganolfan Addysg Gynradd 5 – 11 Canolfan Addysg CA3 Pontarddulais 11 – 15 Canolfan Addysg CA4 15 – 16 Nam ar y Clyw ENW OEDRAN Y DISGYBLION Ysgol Gynradd Grange 3 – 11 Ysgol Gyfun yr Olchfa 11 – 19 Nam Iaith a Lleferydd

Page 19: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

ENW OEDRAN Y DISGYBLION Ysgol Gynradd Llandeilo Ferwallt 3 – 11 Ysgol Gynradd Cwmbwrla 3 – 11 Ysgol Gyfun Pentrehafod 11 – 16 YGG Bryn Tawe (Cyfrwng Cymraeg) 11 - 16 Anawsterau Dysgu Dwys a Lluosog ENW OEDRAN Y DISGYBLION Ysgol Gynradd Penllergaer 3 – 11 Ysgol Gyfun Pontarddulais 11 – 16 Ysgolion Arbennig Dyma ysgolion lle mae: • gan bob disgybl anghenion addysgol arbennig • gan yr holl staff wybodaeth arbenigol ac arbenigedd • dosbarthiadau'n fach • cyfarpar arbenigol ar gael • cynllun integreiddio ar gael sy'n cynnwys eich plentyn. Efallai bod gan ysgolion arbennig gysylltiadau ag ysgol brif ffrwd benodol lle gall rhai disgyblion dreulio rhan o'u dydd. Os yw eich plentyn yn mynychu ysgol arbennig: • bydd ganddo Ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig • Efallai bydd ganddo’r hawl i deithio i'r ysgol ar fws arbennig neu mewn

tacsi a bydd yr AALl yn talu • efallai bod ganddo therapi lleferydd, ffisiotherapi, therapi

galwedigaethol neu help nyrsio yn yr ysgol.

Page 20: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

Mae dwy ysgol arbennig yn Ninas a Sir Abertawe. Maent yn cynnig trefniadau addysgu arbennig ar gyfer yr anghenion canlynol: • anawsterau dysgu cymedrol • anawsterau dysgu difrifol • anawsterau dysgu dwys a lluosog. Mae sawl ysgol arbennig yn dysgu disgyblion â chyfuniad o anghenion. ENW OEDRAN Y DISGYBLION Ysgol Crug Glas 3 – 19 Penybryn 11 – 19 Uned Awtistiaeth Maytree 3 – 19 PLENTYN CYN OED YSGOL Y trefniadau ar gyfer plentyn nad yw yn yr ysgol eto Os nad yw eich plentyn yn mynychu ysgol, efallai eich bod chi eisoes yn gwybod, neu'n poeni, bod ganddo rai anawsterau. Er enghraifft, efallai bod y datblygu'n araf, neu fod nam ar y clyw. Efallai eich bod am i'ch plentyn gael help mor gynnar â phosib. Gellir cael help gan y gwasanaeth portage, athrawon cefnogi arbenigol neu gan seicolegydd addysg. Ymgynghorwyr Cartref Portage Mae'r Gwasanaeth Portage yn gynllun yn y cartref sydd ar hyn o bryd yn cael ei redeg gan y Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae'n dîm o weithwyr sy'n helpu plant cyn oed ysgol ag anawsterau datblygu. Ar hyn o bryd, maent gyda'r Timau Plant a Theuluoedd. Byddant yn: • ymweld â chi a'ch plentyn yn y cartref bob wythnos • dangos i chi'r dulliau gwahanol a fydd yn helpu eich plentyn i ddysgu • benthyg teganau a chyfarpar i chi • eich helpu i gynllunio gweithgareddau y gallwch eu gwneud gyda'ch

plentyn

Page 21: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

• adolygu datblygiad eich plentyn gyda chi yn rheolaidd Gallwch gysylltu ag Ymgynghorydd Cartref Portage drwy: • Baediatregydd Cymunedol • Ymwelydd Iechyd • Gweithiwr Cymdeithasol • Neu gallwch gysylltu'n bersonol. Athrawon Cefnogi Arbenigol Mae gan yr athrawon hyn sy'n gweithio yn y Gwasanaeth Mynediad i Ddysgu - Cefnogaeth Ddysgu, brofiad wrth helpu plant cyn oed ysgol ag anawsterau sy'n ymwneud â phroblemau megis nam ar y clyw a nam gweledol. Bydd yr athrawon hyn yn: • ymweld â chi a'ch plentyn gartref • addysgu eich plentyn • rhoi gwybodaeth i chi am sut gall anawsterau eich plentyn effeithio ar

ddysgu • cadw mewn cysylltiad â phobl eraill sy'n gweithio gyda'ch plentyn • awgrymu ffyrdd y gallwch chi helpu eich plentyn • rhai syniadau i chi am ba deganau, gemau a chyfarpar eraill i'w

defnyddio. Gallwch gysylltu trwy: • Ymwelydd iechyd • Meddyg • Gweithiwr Cymdeithasol

Page 22: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

• Pennaeth eich ysgol leol CWESTIWN Pa ddarpariaeth sydd gan Ddinas a Sir Abertawe i helpu fy mhlentyn ag anghenion addysgol arbennig i gyrraedd yr ysgol? Gellir ddarparu cludiant am ddim pan: • fod gan eich plentyn anabledd corfforol ac y mae angen cludiant ar sail

feddygol i gyrraedd yr ysgol • bod gan eich plentyn Ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig ac

mae'r AALl yn enwi ysgol brif ffrwd neu arbennig y tu allan i'r ardal yr ydych yn byw ynddi, yn seiliedig ar anghenion eich plentyn.

Efallai y darperir cludiant am ddim hefyd mewn sefyllfaoedd penodol eraill. CWESTIWN Pa ddarpariaeth sydd gan Ddinas a Sir Abertawe os nad yw fy mhlentyn yn gallu mynd i'r ysgol? Efallai gall eich plentyn dderbyn addysg gartref dros dro. Gall addysg gartref gael ei drefnu os: • oes gan eich plentyn afiechyd sy'n golygu bod yn rhaid iddo fod yn

absennol o'r ysgol am fwy na thair wythnos • oes gan eich plentyn afiechyd terfynol ac mae'n rhy sâl i fynd i’r ysgol • yw eich plentyn yn aros am leoliad neu wedi'i wahardd o'r ysgol yn

barhaol.

Page 23: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

5

ANGHENION ADDYSGOL ARBENNIG

YN NINAS A SIR ABERTAWE

YMATEB GRADDEDIG DINAS A SIR ABERTAWE I ANGHENION ADDYSGOL ARBENNIG

Mae'r adran hon yn dweud wrthych: • yr hyn mae asesiad yn ei olygu • sut defnyddir asesiad i helpu eich plentyn i ddysgu Efallai y byddwch yn aml yn clywed pobl yn siarad am 'asesiad'. Mae nifer ohonom yn teimlo'n ddryslyd am yr hyn y mae asesiad yn ei olygu, oherwydd ein bod yn ei glywed mewn sawl cyd-destun gwahanol. Pan rydym yn siarad am asesiad anghenion addysgol arbennig yn yr ysgol, mae'n golygu: • dod o hyd i'r hyn y mae plentyn yn gallu ei wneud a'r hyn nad yw'n

gallu ei wneud, a'r hyn y mae ei angen ar blentyn i ddysgu • dod o hyd i sut gall ysgol helpu plentyn i ddysgu. Asesu yw: • rhywbeth y mae athro/athrawes yn ei wneud drwy'r amser ar gyfer

disgyblion • rhywbeth parhaus • rhywbeth y gall athrawon dosbarth, athrawon anghenion addysgol

arbennig, seicolegwyr addysg a rhieni ei wneud • rhywbeth i'w ddefnyddio i gynllunio addysgu pellach • NID rhywbeth sy'n digwydd unwaith yn unig ydyw • NID rhywbeth sy'n ganlyniad yn ei hun ydyw • NID prawf IQ ydyw

Page 24: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

• NID prawf 'pasio' neu 'fethu' ydyw Bydd asesiad anghenion addysgol arbennig yn cynnwys: • gofyn beth gall eich plentyn ei wneud • gofyn barn eich plentyn lle bo'n bosib • gofyn am unrhyw bryderon neu awgrymiadau sydd gennych • nodi sawl manylyn am yr hyn y gall eich plentyn ei wneud yn y

dosbarth a pha anawsterau a geir • gwybod yr hyn y mae'n rhaid i'ch plentyn ei ddysgu a'r hyn a ddisgwylir

ganddo • gwirio pa drefniadau sydd gan yr ysgol am addysgu'r holl ddisgyblion,

gan gynnwys y rhai ag anghenion addysgol arbennig • yr ysgol yn cynllunio sut i addysgu eich plentyn ac yna gwirio'i gynnydd. Gwneir hyn mewn camau gan yr ysgol mewn partneriaeth â rhieni. Cyflwynodd Deddf Addysg 1996 ddull sy'n seiliedig ar gyfeirio er mwyn helpu i asesu anghenion addysgol arbennig eich plentyn. Mae Côd Ymarfer Cymru 2002 wedi diffinio'r camau canlynol fel ymateb graddedig. Gweithredu Ysgol Bydd yr athro dosbarth/athrawes ddosbarth yn cofrestru bod gan eich plentyn anawsterau ac yn ceisio ffyrdd gwahanol o oresgyn y rhain. Os mai casgliad yr athro dosbarth/athrawes ddosbarth yw bod angen cefnogaeth bellach ar eich plentyn, byddwch yn cael eich hysbysu. Byddwch chi, athro/athrawes eich plentyn ac athro/athrawes yn yr ysgol o'r enw cydlynydd anghenion addysgol arbennig (SENCO), ac efallai'r pennaeth, yn cwrdd i drafod eich plentyn. Yn dilyn y trafodaethau hyn, bydd cynllun ysgol eich plentyn yn dangos yn fanwl yr hyn y maent yn mynd i wneud i helpu eich plentyn. Byddant yn penderfynu ar yr hyn mae'n rhaid i'ch plentyn ei ddysgu, sut i addysgu hyn a phwy fydd yn helpu. Gelwir hyn yn Gynllun Addysg Unigol. Gallai'r cynllun hwn gynnwys help neu gyngor addysgu ychwanegol. Gweithredu Ysgol a Mwy Efallai bydd yr ysgol hefyd yn siarad â staff addysg eraill sy'n ymweld â'r ysgol yn rheolaidd, e.e. athrawon cefnogi a seicolegwyr addysg. Cyn i hyn ddigwydd, byddwch yn cael eich hysbysu a'ch cynnwys.

Page 25: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

Bydd angen amser ar ysgolion i weld sut mae'r cynllun yn gweithio ac yna'i adolygu. Byddwch yn cael eich hysbysu a'ch cynnwys yn yr adolygiadau rheolaidd hyn o gynnydd eich plentyn a'r Cynllun Addysg Unigol. Weithiau, bydd angen i rai plant symud yn gyflymach trwy'r ymateb graddedig, er enghraifft, os yw plentyn wedi dioddef anaf difrifol. Cyfeirio ar gyfer Asesiad Statudol Weithiau, efallai rydych chi, yr ysgol neu'r AALl yn teimlo nad yw anghenion addysgol arbennig eich plentyn yn cael eu diwallu, a bod angen asesiadau ysgrifenedig manylach. Gelwir hyn yn asesiad statudol. Efallai yr awgrymir i chi y dylid cynnal asesiad statudol o dan Ddeddf Addysg 1996. Weithiau, cyfeirir ar hyn yn anghywir fel 'Proses Ddatganiadau'. Mae'r asesiad yn ymwneud â chasglu gwybodaeth ysgrifenedig gan yr holl bobl sy'n gweithio gyda'ch plentyn, gan gynnwys chi. Nid Datganiad Anghenion Addysgol Arbennig ar gyfer eich plentyn yw'r canlyniad bob tro. Dyma pam y gall fod yn gamarweiniol i alw'r asesiad hwn yn 'Broses Ddatganiadau'. Cynhelir yr asesiad statudol a’r datganiadau mewn modd amserol er lles pawb sy'n rhan ohonynt. Gosodir cyfyngiadau amser ar gyfer pob rhan o'r broses, ond bydd amgylchiadau lle nad yw'n rhesymol i ddisgwyl bod y bobl dan sylw yn bodloni'r cyfyngiadau hyn. Plant cyn oed ysgol Nid yw'n angenrheidiol aros tan fod plentyn yn yr ysgol i gynnal asesiad statudol. Yn aml, mae'n ymddangos o oedran cynnar os yw plentyn yn debygol o gael anghenion addysgol arbennig hir dymor a chymhleth. Gellir cynnal asesiad o'r fath o 2 oed, os yw hyn yn addas. Gallwch gael mwy o fanylion am y math hwn o asesiad yn Adran 6 'Asesu o dan Ddeddf Addysg 1996'.

Page 26: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

6

ANGHENION ADDYSGOL ARBENNIG

YN NINAS A SIR ABERTAWE

ASESIAD STATUDOL O DAN DDEDDF ADDYSG 1996

Mae'r adran hon yn dweud wrthych: • Yr hyn i'w wneud os cynhelir asesiad statudol o dan Ddeddf

Addysg 1996. • Sut cynhelir asesiad statudol yn Ninas a Sir Abertawe. Asesiad Statudol o dan Adran 323 Deddf Addysg 1996 Astudiaeth fanwl iawn yw asesiad statudol a fydd yn dod o hyd i: • beth yw anghenion addysgol arbennig eich plentyn • sut y gellir diwallu'r anghenion addysgol arbennig hyn • a fydd yr AALl yn ysgrifennu Datganiad o Anghenion Addysgol

Arbennig ai peidio Sut bydda i'n gwybod a oes angen Asesiad Statudol ar fy mhlentyn Os yw eich plentyn yn yr ysgol eisoes, bydd yr ysgol eisoes wedi creu darlun o'r hyn y mae ef yn gallu ei wneud yn ystod y dull asesiad statudol (gweler adran 5). Bydd athro/athrawes ysgol neu arbenigol eich plentyn wedi bod yn gweithio gyda chi er mwyn helpu eich plentyn i ddysgu. Bydd cynllun addysg unigol eisoes wedi'i lunio a byddwch chi a'ch plentyn wedi derbyn gwahoddiad i drafod y cynllun hwn mewn cyfarfodydd adolygu yn yr ysgol. Bydd asesiad statudol ond yn dechrau os yw eich plentyn yn cael anawsterau o hyd a bod yr AALl yn credu bod angen help ychwanegol ar eich plentyn. Os nad yw eich plentyn wedi dechrau yn yr ysgol ac rydych yn meddwl bod ganddo anghenion addysgol arbennig, gofynnwch i'ch ymwelydd iechyd, eich ymgynghorydd cartref portage neu athro/athrawes cefnogi eich plentyn am drefnu apwyntiad gyda seicolegydd addysg. Ni chynhelir asesiad statudol heb eich hysbysu.

Page 27: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

Pan fo'r AALl yn dechrau meddwl am gynnal asesiad, mae'n rhaid iddynt ysgrifennu atoch i ddweud pam eu bod yn meddwl bod asesiad yn angenrheidiol a'r hyn maent yn bwriadu ei wneud. CWESTIWN Galla i ofyn am Asesiad Statudol o dan Ddeddf Addysg 1996? Gallwch, mae gennych yr hawl i ofyn i'r AALl gynnal asesiad statudol o anghenion addysgol arbennig eich plentyn. Gallwch gyfeirio eich cais i'r Gwasanaeth Mynediad i Ddysgu yng Nghanolfan Ddinesig, Abertawe. Gall yr AALl ond gwrthod os, ar ôl edrych ar yr holl dystiolaeth, ei fod yn penderfynu nad yw asesiad statudol yn angenrheidiol. Mae gennych yr hawl i apelio yn erbyn penderfyniad o'r fath i’r Tribiwnlys AAA. Pwyntiau pwysig am Asesiad Statudol o dan Ddeddf Addysg 1996. • dim ond ychydig o blant ag anghenion addysgol arbennig sydd angen

asesiad o'r fath • nid yw'n angenrheidiol aros tan fod plentyn yn yr ysgol • gofynnir i nifer o bobl ysgrifennu adroddiad ar eich plentyn (gweler

adran 7) • byddwch yn derbyn copïau o'r holl adroddiadau hyn pan gwblheir yr

asesiad. • mae eich cyfraniad yn bwysig iawn. Bydd yr AALl am weithio mewn

partneriaeth â chi • ni ddylai'r asesiad gymryd hwy na 6 mis i'w gwblhau • ar ddiwedd yr asesiad, mae'r AALl yn penderfynu a yw'n angenrheidiol

ysgrifennu Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig ar gyfer eich plentyn ai peidio (gweler isod)

• bydd gennych fynediad i Wasanaeth Partneriaeth Rieni o'ch dewis sy'n

gallu darparu cefnogaeth a gwybodaeth.

Page 28: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

Beth sy'n digwydd pan gynhelir Asesiad Statudol o dan Ddeddf Addysg 1996? Cam 1 Bydd yr AALl yn ysgrifennu i roi gwybod i chi ei fod yn bwriadu dechrau asesiad statudol. Bydd gennych 29 diwrnod i ddweud a ydych yn cytuno i'r asesiad ai peidio. Dylech ddefnyddio'r amser hwn i baratoi ac anfon eich barn (gweler adran 8). Bydd Swyddog Cyswllt Cartref y Gwasanaeth Mynediad i Ddysgu yn cysylltu â chi er mwyn trefnu ymweliad i esbonio'r broses Asesiad Statudol i chi. Gall yr Ymwelydd Cartref hefyd eich helpu i gwblhau eich cyngor a'ch barn ar eich plentyn. Mae'n rhaid i'r AALl ysgrifennu i'r Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Awdurdod Iechyd i adael iddynt wybod efallai y bydd asesiad statudol yn cael ei gynnal. CWESTIWN A fydd materion teulu preifat yn cael eu hadrodd amdanynt? Na, oni bai ei fod yn rhywbeth sy'n effeithio ar addysg eich plentyn. Bydd y person sy'n ysgrifennu'r adroddiad yn trafod yr wybodaeth maent yn ei rhoi gyda chi. Cam 2 Mae'r AALl yn penderfynu a ddylid parhau â'r asesiad. Gwneir y penderfyniad fel arfer o fewn 6 wythnos o ddyddiad eich llythyr cyntaf. Os yw'r AALl yn penderfynu peidio â dechrau'r asesiad: • byddwch yn derbyn llythyr sy'n esbonio'r rhesymau dros y penderfyniad

hwn • os ydych yn anghytuno, mae gennych yr hawl i apelio i’r Tribiwnlys

AAA. Os yw'r AALl yn penderfynu dechrau'r asesiad: • byddwch yn derbyn llythyr yn esbonio'n fwy manwl beth fydd yn

debygol o ddigwydd yn ystod yr asesiad • bydd yr AALl yn gofyn i nifer o bobl am gyngor. Bydd y rhain yn

cynnwys pennaeth eich plentyn, seicolegydd addysg a meddyg sy’n gweithio ym maes iechyd plant. Bydd yr AALl hefyd am gael cyngor oddi wrthych chi a'ch plentyn o bosib.

• gallwch awgrymu pobl eraill yr hoffech fod yn rhan ohono

Page 29: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

• mae gan yr AALl 6 wythnos i gasglu'r cyngor. Cam 3 Mae'r AALl yn penderfynu p’un ai i roi Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig ai peidio ar gyfer eich plentyn Os yw'r AALl yn penderfynu peidio ag ysgrifennu Datganiad: • dylech dderbyn 'Nodyn yn Lle' Datganiad a fydd yn esbonio pan fod yr

AALl wedi dod i'w benderfyniad • byddwch yn cael gwybod eich hawl i apelio, gan gynnwys Tribiwnlys

AAA Cymru os ydych yn anhapus â'r penderfyniad. Os yw'r AALl yn penderfynu ysgrifennu Datganiad: • byddwch yn derbyn copi o'r Datganiad y mae’n bwriadu ei lunio • byddwch yn derbyn copïau o'r holl gyngor mae'r AALl wedi ei dderbyn • bydd gofyn i chi enwi'r ysgol yr hoffech i'ch plentyn ei mynychu. Gall

hon fod yn un y mae ef yn mynychu eisoes. Bydd yr AALl yn anfon rhestrau o ysgolion i chi er mwyn eich helpu chi i ddewis.

• yn y cyfnod hwn, bydd y Datganiad ar ffurf ddrafft yn unig a gellir ei

newid os nad ydych yn hapus â rhannau ohono • byddwch yn gallu trafod unrhyw ran o'r datganiad arfaethedig gyda

'swyddog a enwir' yr AALl • bydd y datganiad, ynghyd ag unrhyw newidiadau y cytunwyd arnynt yn

cael ei lofnodi a'i ddyddio a'i gyflwyno fel Datganiad Terfynol o fewn 8 wythnos.

Datganiad Anghenion Addysgol Arbennig CWESTIWN Beth mae'r datganiad yn ei gynnwys? Bydd Datganiad yn rhoi manylion i chi am holl anawsterau dysgu eich plentyn a nodir gan yr AALl yn ystod yr asesiad.

Page 30: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

Bydd hefyd yn: • disgrifio'r holl help arbennig y mae'r AALl yn meddwl y dylai eich

plentyn ei gael i ddiwallu ei anghenion • cynnwys amcanion targedau byr dymor a thargedau hir dymor ar gyfer

eich plentyn • gosod trefniadau i adolygu cynnydd eich plentyn. Cofiwch… mae gennych yr hawl i anghytuno â'r hyn y mae'r Datganiad yn ei ddweud

mae'r Datganiad yn ddogfen gyfreithiol ac mae gorfodaeth gyfreithiol arnoch i anfon eich plentyn i'r ysgol y cytunwyd arni yn y Datganiad mae'n rhaid adolygu'r Datganiad o leiaf unwaith y flwyddyn. Cyfrifoldeb y pennaeth yw trefnu'r adolygiad hwn. Byddwch yn derbyn gwahoddiad i ddod bob tro yn yr Adolygiad Blynyddol cyntaf ar ôl pen-blwydd eich plentyn yn 14 oed, cytunir ar Gynllun Pontio. Bydd hwn yn casglu gwybodaeth ynghyd i helpu cynllunio ar gyfer pontio bywyd ifanc y person i fywyd oedolyn. Cewch fwy o wybodaeth am y Cynlluniau Pontio bryd hynny os yw amgylchiadau'n newid, yna gall eich AALl ofyn i ailasesu anghenion eich plentyn os yw'r AALl yn penderfynu gwneud newidiadau i’r Datganiad neu mae'n dweud nad oes angen Datganiad ar eich plentyn mwyach, rhaid iddo eich hysbysu'n ysgrifenedig. Mae gennych yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys AAA.

CWESTIWN Pa mor hir mae Datganiad yn para? Efallai bydd gan eich plentyn ddatganiad ar gyfer ei holl yrfa ysgol neu am ran ohoni. Wrth adolygu datganiad eich plentyn yn flynyddol, efallai bydd yr AALl yn penderfynu bod eich plentyn yn datblygu'n dda ac yn gallu parhau gyda'r help ychwanegol y gall ysgol gyffredin ei ddarparu o'i hadnoddau ei hun. Yna, gallai'r AALl ysgrifennu atoch i ddweud eu bod am atal cynnal datganiad eich plentyn ond gallwch apelio i'r Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig. Mae'r AALl yn atal cynnal datganiad eich plentyn pan fydd ef yn gadael yr ysgol.

Page 31: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

CWESTIWN Beth yw Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (TAAAC)? Mae aelodau Tribiwnlys AAA yn clywed apeliadau rhieni yn erbyn penderfyniadau'r AALl ar asesiadau a datganiadau statudol. Mae tribiwnlysoedd yn cynnwys 3 pherson annibynnol. Mae un o'r rhain yn gyfreithiwr. Mae gan y ddau arall brofiad anghenion addysgol arbennig a llywodraeth leol. Gall yr AALl roi manylion i chi am sut i gysylltu â Thribiwnlys AAA Cymru. CWESTIWN Oes unrhyw help ar gael i mi cyn i mi fynd i'r Tribiwnlys AAA? Gallwch gael cyngor a help gan y Gwasanaeth Datrys Anghydfod. Mae hwn yn wasanaeth rhwng Awdurdodau Addysg Lleol (AALl) ledled Cymru a gwasanaethau annibynnol. Mae'n rhoi'r cyfle i rieni a’r AALl gael cyngor a chefnogaeth annibynnol os ydynt yn anghytuno â'r AALl o ran Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig eu plentyn. Bydd y gwasanaeth yn darparu canolwyr annibynnol, cymwys a fydd yn siarad â phawb dan sylw am y sefyllfa. Bydd y canolwr yn eich helpu chi a'r awdurdod addysg i ddod o hyd i ffyrdd newydd o edrych ar y broblem er mwyn dod i gytundeb sy'n iawn i’ch plentyn, a gall yr AALl neu rieni ofyn amdano. Mae defnyddio'r gwasanaeth hwn yn wirfoddol ac nid yw'n effeithio ar hawl rhieni i apelio i'r Tribiwnlys AAA mewn unrhyw ffordd. Ar hyn o bryd, mae'r gwasanaeth yn Abertawe yn cael ei gefnogi gan y Prosiect Ymgynghori ar Anghenion Arbennig (SNAP). Mae pamffled sy'n disgrifio'r gwasanaeth a sut i gael mynediad iddo yn y pecyn hwn. CWESTIWN Pwy gallaf siarad â nhw am fwy o gyngor a chefnogaeth nawr? Mae SNAP, Cymru yn sefydliad annibynnol sydd â changen yn Ninas a Sir Abertawe, ac mae'n cynnig Gwasanaeth Partneriaeth Rieni lleol. Gall y Swyddog Datblygu gynnig cyngor, cefnogaeth a gwybodaeth i chi. Gallwch gysylltu â SNAP ar 01792 457305. Rhestrir sefydliadau gwirfoddol eraill a allai fod o help yn adran 9.

Page 32: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

CWESTIWN Sut caiff cynnydd fy mhlentyn ei fonitro? Os oes gan eich plentyn Ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig bydd rhaid adolygu ei gynnydd yn flynyddol mewn Cyfarfod Adolygu Blynyddol. Byddwch yn derbyn gwahoddiad i ddod a mynegi eich barn a chaiff yr adroddiadau sy’n dilyn yr adolygiad eu hanfon atoch chi, yr holl bobl sy'n gweithio gyda'ch plentyn a'r AALl. CWESTIWN Beth am y Cwricwlwm Cenedlaethol? Mae Deddf Diwygio Addysg 1988 yn dweud y dylid dysgu'r un pynciau i'r holl blant. Cwricwlwm Cenedlaethol: • bydd eich plentyn yn derbyn addysg ar bob pwnc yn y Cwricwlwm

Cenedlaethol • asesir cynnydd eich plentyn ar 'gyfnodau allweddol' penodol gan yr

athro/athrawes • bydd yr ysgol yn cadw cofnod o gynnydd eich plentyn ym mhob pwnc y

Cwricwlwm Cenedlaethol. Mewn rhai amgylchiadau arbennig, gall plant â datganiadau gael eu 'hesgusodi' neu eu 'datgymhwyso' o ran o'r Cwricwlwm Cenedlaethol neu o'r Cwricwlwm Cenedlaethol cyfan. Rhaid i chi gael gwybod am unrhyw newidiadau arfaethedig sy'n effeithio ar eich plentyn. CWESTIWN Beth sy'n digwydd os oes gan fy mhlentyn Ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig ac rwy'n symud o Ddinas a Sir Abertawe i Awdurdod Addysg Lleol arall? Dylech roi gwybod i AALl Dinas a Sir Abertawe pan fo'ch trefniadau'n derfynol. Mae'n rhaid i AALl Dinas a Sir Abertawe drosglwyddo Datganiad eich plentyn i'r AALl newydd. Rhaid i'r AALl newydd:

Page 33: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

• sicrhau bod eich plentyn yn derbyn yr holl help addysgol arbennig sydd yn y datganiad

• dweud wrthych o fewn 6 wythnos o dderbyn y datganiad pryd byddant

yn adolygu'r datganiad ac a ydynt am ailasesu anghenion addysgol arbennig eich plentyn.

Page 34: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

7

ANGHENION ADDYSGOL ARBENNIG

YN NINAS A SIR ABERTAWE

PWY FYDD YN YSGRIFENNU ADRODDIADAU AM EICH PLENTYN AR GYFER ASESIAD?

Mae'r adran hon yn dweud wrthych: • pa bobl fydd yn ysgrifennu adroddiadau ar eich plentyn ar gyfer

asesiad statudol o dan Ddeddf Addysg 1996 • beth y gallwch ei ddisgwyl ganddynt • pwy yw'r bobl yn y Gyfarwyddiaeth Addysg, Canolfan Ddinesig Pan fo gennych blentyn ag anghenion addysgol arbennig, efallai eich bod yn ymwneud â sawl person gwahanol o'r AALl, ac o adrannau eraill megis y Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol. Efallai y byddwch am wybod pwy fydd yn ysgrifennu'r adroddiadau a sut y byddant yn rhan o'r broses. Athrawon Dylai athrawon ddweud wrthych: • yr hyn mae eich plentyn yn gallu ei wneud • beth mae athro/athrawes eich plentyn am i'ch plentyn ddysgu nesaf • pa weithgareddau ysgol mae eich plentyn yn eu mwynhau • sut mae eich plentyn yn rhan o amserlen yr ysgol • a yw'ch plentyn yn datblygu • yr hyn sydd wedi helpu eich plentyn i ddatblygu • yr hyn sydd wedi'i geisio yn yr ysgol i helpu eich plentyn.

Page 35: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

Athrawon Arbenigol ar gyfer plant â nam ar y clyw neu nam gweledol. Os oes gan blentyn nam ar y clyw neu nam gweledol sy'n achosi anhawster dysgu, rhaid cael barn athro/athrawes sy'n gymwys o ran nam ar y clyw neu nam gweledol. Gallant roi cyngor ar oblygiadau dysgu oherwydd nam ar y clyw neu nam gweledol ac awgrymu ffyrdd i helpu. Athrawon Arbenigol ar gyfer plant ag anawsterau dysgu, anawsterau iaith a lleferydd, anawsterau emosiynol ac/neu emosiynau ymddygiadol neu anhawster corfforol. Os oes gan eich plentyn anhawster dysgu neu iaith a lleferydd, neu anhawster corfforol, gallai'r AALl ofyn am gyngor ysgrifenedig gan athro/athrawes arbenigol. Seicolegwyr Addysg. Mae Seicolegwyr Addysg wedi'u hyfforddi'n arbennig i roi cyngor ar anghenion ac anawsterau plant, a ffyrdd i'w helpu. Mae Seicolegwyr Addysg hefyd wedi hyfforddi a gweithio fel athrawon. Mae’r ffordd maent yn asesu eich plentyn yn dibynnu ar oedran eich plentyn a natur anawsterau eich plentyn, ond bydd y rhan fwyaf am roi rhai pethau i'ch plentyn eu gwneud yn unigol. Efallai eu bod hefyd am arsylwi ar eich plentyn yn yr ystafell ddosbarth neu yn y feithrinfa, siarad â chi a chyda'r athro/athrawes neu ag unrhyw un arall sy'n adnabod eich plentyn yn dda. Efallai y byddant yn cynnal eu hasesiad dros gyfnod o amser. Dylai Seicolegwyr Addysg ddweud wrthych: • pam eu bod angen asesu eich plentyn • eu barn ar gryfderau a gwendidau eich plentyn • yr hyn y mae eich plentyn yn gallu ei wneud a'r hyn sydd i ddysgu • yr effaith gallai unrhyw anableddau ei gael ar ddysgu eich plentyn • sut gall eich plentyn gael help i ddysgu. Gweithwyr Cymdeithasol Nid oes gan lawer o deuluoedd weithiwr cymdeithasol. Os mai dyma yw'r achos, nid oes angen ymweliad gan weithiwr cymdeithasol arnoch. Bydd adroddiad y Gwasanaethau Cymdeithasol yn dweud nad ydynt yn adnabod

Page 36: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

eich plentyn. Os yw gweithiwr cymdeithasol yn adnabod eich plentyn, bydd yr adroddiad yn sôn am: • unrhyw drefniadau gofal teulu arbennig sy'n bodoli • unrhyw broblemau y mae'n rhaid i chi a'ch plentyn ymdopi â hwy a allai

effeithio ar ddysgu yn yr ysgol Paediatregwyr Cymunedol Mae Paediatregwyr Cymunedol yn feddygon arbenigol a fydd yn siarad â chi am iechyd ac anghenion meddygol eich plentyn. Dylen nhw ddweud wrthych am: • y goblygiadau o ran addysg eich plentyn, unrhyw ffactorau meddygol

megis iechyd cyffredinol, golwg a chlyw • unrhyw wiriadau a gedwir am gyflwr meddygol eich plentyn • unrhyw gyfarpar arbennig y mae ei angen ar eich plentyn. Gallant hefyd gasglu gwybodaeth gan staff meddygol eraill yr Awdurdod Iechyd. Ymwelwyr Iechyd Efallai caiff adroddiad ar eich plentyn ei ysgrifennu gan yr ymwelydd iechyd, sy'n nyrs gymwys â hyfforddiant pellach. Nid oes rhaid iddynt ysgrifennu adroddiad, ond gallant wneud hynny os ydynt yn adnabod eich plentyn. Dylen nhw ddweud wrthych: • am bwysau, taldra, clyw a golwg eich plentyn • yr hyn maent yn ei wybod am unrhyw broblemau iechyd sydd gan eich

plentyn, ac awgrymu ffyrdd o oresgyn neu ymdopi â'r problemau. Therapyddion Lleferydd Mae gan Therapyddion Lleferydd hyfforddiant arbennig wrth ddatblygu iaith a lleferydd plant, ac wrth helpu plant ag anawsterau cyfathrebu. Dylen nhw ddweud wrthych: • am leferydd a defnydd iaith eich plentyn

Page 37: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

• os oes gan eich plentyn anhawster gyda symudiadau'r wefus a'r tafod sy'n angenrheidiol o ran lleferydd

• os oes angen unrhyw ddulliau arbennig ar eich plentyn i helpu

cyfathrebu, megis iaith arwyddion • os oes angen therapi lleferydd ar eich plentyn. Efallai bydd therapydd lleferydd yn gweithio gyda'ch plentyn yn unigol neu mewn grŵp bach. Efallai y bydd hyn yn y feithrinfa neu yn yr ysgol, neu yn y clinig, neu yn y cartref o bryd i'w gilydd. Ffisiotherapyddion Mae ffisiotherapyddion wedi'u hyfforddi i asesu symudiadau a datblygiad corfforol, megis cydlynu, y gallu i eistedd, sefyll a cherdded. Maent yn cynghori ar sut orau i helpu eich plentyn i ddatblygu symudiadau pellach, neu i gadw cymaint o symudiad â phosib. Maent hefyd yn cynghori ar gymhorthion megis eisteddleoedd arbennig. Bydd y ffisiotherapydd yn trefnu rhaglen yn ystod triniaeth eich plentyn ac yn parhau i ailasesu anghenion eich plentyn dros gyfnod o amser. Dylai ffisiotherapyddion ddweud wrthych: • os oes unrhyw anhawster corfforol megis osgo, amrywiaeth y

symudiadau, ffurfiant neu gydlyniant y cyhyrau • os yw eich plentyn angen triniaeth reolaidd gan ffisiotherapydd a'r hyn

y dylai'r rhaglen fod • os yw eich plentyn angen eisteddle, esgidiau neu gymhorthion cerdded

arbennig. Therapyddion Galwedigaethol Mae Therapyddion Galwedigaethol wedi'u hyfforddi i ddatblygu lefel gweithredu annibynnol eich plentyn. Dylai Therapyddion Galwedigaethol ddweud wrthych: • lefel annibyniaeth bersonol eich plentyn a sgiliau cymdeithasol • os yw eich plentyn angen cyfarpar arbenigol • os oes angen addasu/newid eich cartref a pha help sydd ar gael i

ariannu gwaith o'r fath.

Page 38: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

Addysgwyr Iechyd y Geg Maent yn gymwys yn y proffesiwn ac nid ydynt fel arfer yn ysgrifennu adroddiadau ond byddant yn fwy na bodlon eich cynghori chi a'ch plentyn ar bwysigrwydd gofal y geg/y dannedd. CWESTIYNAU Y GALLWCH OFYN I'R GWEITHWYR PROFFESIYNOL Pwy ydych chi? Beth yw eich swydd? Ble rydych chi'n gweithio? Sut gallwn gysylltu â chi? Pa mor aml y byddaf yn eich gweld? A fyddwch yn cadw ffeil am fy mhlentyn? A alla i weld y ffeil? A allaf gael cyfieithydd pan fyddaf yn cwrdd â chi? Sut y byddwch yn cynnal eich asesiad? A gaf i wybod eich barn? Cofiwch…

ofyn i bobl yr hyn y maent yn ei olygu os ydynt yn defnyddio geiriau nad ydych yn eu deall. Eu swydd nhw yw esbonio pethau wrthych chi peidiwch ag ofni gofyn iddynt esbonio pethau’n fwy nag unwaith os nad ydych chi'n eu deall. Yn yr un modd, peidiwch â phoeni os ydynt yn gofyn cwestiynau sy'n ymddangos yn amherthnasol! gall ffrind neu berthynas fod yn bresennol pan fo cyfarfod. Gallwch hefyd ofyn i gynrychiolydd o'r Gwasanaeth Partneriaeth Rieni ei fod yn syniad da nodi cwestiynau i'w gofyn cyn i chi ymweld â hwy. Ni fydd ots gyda neb os ydych yn dod â rhestr fel eich bod yn cofio popeth cofiwch, eich plentyn chi ydyw. Dylai pawb sy'n ymwneud â'r sefyllfa fod yn hapus i ateb eich cwestiynau.

Page 39: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

CWESTIWN Pa gyswllt bydd ganddynt â'm plentyn? Bydd y meddyg siŵr o fod am eich gweld chi a'ch plentyn gyda'ch gilydd. Os yw eich plentyn yn yr ysgol: • efallai bydd y seicolegydd am weld eich plentyn yn gweithio yn yr

ystafell ddosbarth, a threulio amser gyda'ch plentyn yn unigol. Mae gennych yr hawl i fod yno, ond yn aml mae rhieni'n dewis peidio â bod yno oherwydd mae'n denu sylw'r plentyn. Pan welwch eich seicolegydd, gallwch benderfynu ar hyn gyda'ch gilydd.

Os yw eich plentyn yn ifanc iawn, neu nad ydynt yn mynychu'r ysgol neu'r feithrinfa eto: • bydd y seicolegydd yn eich gweld chi a'ch plentyn gyda'ch gilydd,

weithiau yn y cartref. CWESTIWN Pwy yw'r bobl yn y Ganolfan Ddinesig sy'n ymwneud â'r asesiad o dan Ddeddf Addysg 1996? Panel Anghenion Addysgol Arbennig Mae'r panel yn cynnwys grŵp o bobl a fydd yn ystyried yr adroddiadau a ysgrifennwyd am eich plentyn. Mae'r Panel yn gwneud argymelliadau i'r Cyfarwyddwr Addysg i: • lunio Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig ai peidio • sut gellir diwallu anghenion addysgol arbennig eich plentyn orau. Mae'r Panel Anghenion Addysgol Arbennig yn cynnwys: • Pennaeth y Gwasanaeth Mynediad i Ddysgu neu • Brif neu Uwch Seicolegydd Addysg • cefnogaeth AAA a Rheolwr Asesiadau Statudol neu Brif Swyddog AAA • cynrychiolwyr penaethiaid

Page 40: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

• Athro/Athrawes Cefnogi Arbenigol • Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol • enwebai o sefydliadau gwirfoddol Gwneir argymelliadau am blant ar sail anghenion y plentyn ac ymdrinnir â'r holl wybodaeth yn gwbl gyfrinachol. CWESTIWN A yw'n angenrheidiol i mi fynd i Banel Anghenion Addysgol Arbennig? Na, oherwydd y byddwch wedi cael cyfle i fynegi eich barn drwy gydol yr asesiad, ac mae eich cynrychiolaethau'n rhan hanfodol o ystyriaeth y Panel. CWESTIWN Sut bydda i'n gwybod yr hyn mae'r Panel Anghenion Addysgol Arbennig wedi'i awgrymu? Bydd eich Seicolegydd Addysg yn cysylltu â chi unwaith y bydd Pennaeth y Gwasanaeth â chyfrifoldeb dros Anghenion Addysgol Arbennig wedi cymeradwyo'r argymelliadau. CWESTIWN Beth os nad wyf yn hapus â'r argymelliadau? Bydd gennych gyfle i drafod hyn â 'swyddog a enwir' yr AALl. Os ydych chi dal yn anhapus, mae gennych hawl i apelio i'r Gwasanaeth Datrys Anghydfod neu i'r Tribiwnlys AAA. Yn yr achosion hyn, bydd yr AALl yn eich cynghori am eich hawliau ac yn rhoi manylion Tribiwnlys AAA Cymru i chi.

Page 41: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

8

ANGHENION ADDYSGOL ARBENNIG

YN NINAS A SIR ABERTAWE

SUT I FYNEGI'CH BARN

Mae'r adran hon yn dweud wrthych • Sut i fynegi'ch barn ar anghenion addysgol arbennig eich plentyn. Mae eich cyfraniad yn un pwysig. Yr ydych chi yn y sefyllfa orau i gyflwyno gwybodaeth am flynyddoedd cynnar eich plentyn a'i fywyd ef yn y cartref. Fel arfer, bydd Swyddog Cyswllt Cartref, neu aelod o'r Tîm Asesiad Statudol yn ymweld â chi ac yn dod â phecyn gwybodaeth i chi. Bydd gennych ddau gyfle i fynegi'ch barn. Mae un ar y ffurflen o dan y pennawd 'Cynrychiolaethau Rhieni'. Dyma'r ffurflen y bydd gofyn i chi ei llofnodi gan roi eich caniatâd i'r Asesiad Statudol. Mae lle hefyd ar y ffurflen i fynegi eich barn wrth eich AALl am yr asesiad. Os oes angen mwy o le arnoch nag sydd yno, ychwanegwch ddalen ychwanegol. Gall y Swyddog Cyswllt Cartref eich helpu i gwblhau'r ffurflen hon ac yn gallu ei dychwelyd i'r Ganolfan Ddinesig ar eich rhan. Yn ail, bydd gofyn i chi ysgrifennu eich barn ar bapur â'r pennawd 'Cyngor Rhieni'. Bydd gennych hefyd ffurflen o'r enw 'Cyngor Rhieni'. Gallwch ddewis defnyddio naill ai'r papur, y ffurflen nau'r ddau. Dyma'ch cyfle i ddweud wrth yr AALl bopeth yr ydych am i ni ei wybod am eich plentyn. Rhai awgrymiadau cyn i chi ddechrau: • rhaid treulio amser yn siarad am ein barn gyda'ch partner neu aelodau

eraill o'r teulu cyn eu nodi. Weithiau, bydd gan rieni farn wahanol am anghenion eu plentyn a sut i ddiwallu'r anghenion hynny. Nid yw hyn yn anghyffredin. Efallai y byddwch yn penderfynu nodi dwy farn ar wahân neu esbonio bod gennych farn wahanol

• efallai yr hoffech siarad â'r Gwasanaeth Partneriaeth Rieni bryd hynny.

Gall ef/hi drafod eich barn gyda chi a'ch helpu i'w nodi'n glir • bydd y swyddog ymweld yn hapus i drafod eich barn ac ateb unrhyw

ymholiadau neu bryderon sydd gennych

Page 42: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

• mae eich teimladau am eich plentyn yn llawer fwy pwysig na gramadeg a sillafu perffaith

• mae'n helpu os ydych yn ysgrifennu mor glir â phosib gyda phen du.

Bydd hyn yn ei gwneud hi'n haws i bobl eraill ei darllen • rhaid cadw copi o unrhyw beth yr ydych yn ei ysgrifennu • gallwch nodi eich barn yn Gymraeg os ydych yn dymuno gwneud

hynny • os oes gennych farn gref am eich plentyn, dylech nodi hyn. Weithiau,

mae rhieni'n poeni efallai na fydd eraill yn hoffi'r hyn maent yn ei ddweud. Nid yw hyn o bwys, dylech ddweud yr hyn yr ydych yn meddwl am anghenion eich plentyn a sut yw’r ffordd orau i'w diwallu

• gall eich cyfraniad ysgrifenedig fod mor hir neu mor fyr ag y dymunwch. Dyma rai canllawiau i'ch helpu: Y Blynyddoedd Cynnar beth ydych yn ei gofio am y blynyddoedd cynnar efallai fydd o help? beth oedd eich plentyn fel yn faban ifanc? a oeddech yn hapus â'r cynnydd ar y pryd? pryd oeddech yn teimlo nad oedd pethau'n iawn am y tro cyntaf? beth ddigwyddodd? Pa gyngor neu help oeddech wedi ei dderbyn - gan bwy? Beth mae eich plentyn fel nawr? (efallai nad yw rhai o'r pwyntiau hyn yn berthnasol i'ch plentyn)

Iechyd Cyffredinol - Arferion bwyta a chysgu; ffitrwydd cyffredinol, absenoldebau o'r ysgol, mân afiechydon - peswch ac annwyd. Afiechydon difrifol/damweiniau - cyfnodau yn yr ysbyty. Unrhyw feddyginiaethau neu ddeiet arbennig? Effrogarwch cyffredinol - blinder, arwyddion defnyddio cyffuriau, smygu, yfed, arogli glud. Sgiliau Corfforol - Cerdded, rhedeg, dringo, reidio beic, pêl-droed a gemau eraill, tynnu lluniau, ysgrifennu, gwneud jig-sos; defnyddio citiau adeiladu, dyfeisiau'r cartref, offer, gwnïo.

Page 43: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

Hunan-gymorth - Lefel annibyniaeth - gwisgo etc; gwneud y gwely, golchi dillad, cadw'u hystafell yn daclus, ymdopi ag amserlen bob dydd; clustnodi arian poced, annibyniaeth gyffredinol - mynd allan. Cyfathrebu – Lefel lleferydd, esbonio, disgrifio digwyddiadau, pobl, cyflwyno gwybodaeth (e.e. negeseuon o'r ysgol ac i'r ysgol), ymuno mewn sgyrsiau, defnyddio'r ffôn. Chwarae a Dysgu yn y Cartref - Sut mae eich plentyn yn treulio amser, gwylio'r teledu, darllen er pleser a gwybodaeth, diddordebau, canolbwyntio, rhannu. Gweithgareddau Awyr Agored - Perthyn i glybiau, gweithgareddau chwaraeon, hapus i fynd ar ei ben ei hun. Perthnasoedd – Gyda rhieni, brodyr a chwiorydd; gyda ffrindiau; gydag oedolion eraill (ffrindiau a pherthnasau) yn y cartref yn gyffredinol, 'y tu allan' yn gyffredinol. A yw eich plentyn yn gwneud ffrindiau'n hawdd? Ymddygiad yn y Cartref - Cydweithredu, rhannu, gwrando a chyflawni ceisiadau, helpu yn y tŷ, cynnig helpu, gweddu arferion a 'rheolau'r' teulu. Tymer da a drwg, pwdu - pyliau o dymer; emosiynol, caredig.

Yn yr Ysgol – Perthnasoedd â phlant eraill ac athrawon; datblygu sgiliau darllen, ysgrifennu, rhifedd, pynciau eraill a gweithgareddau yn yr ysgol. Sut mae'r ysgol wedi helpu/heb helpu eich plentyn. Ydych chi'n teimlo’n rhan o addysg eich plentyn? A yw'ch plentyn yn mwynhau'r ysgol. Beth mae ef yn cael anhawster ag ef yn benodol.

Eich Barn Gyffredinol Beth, yn eich tyb chi, yw anghenion addysgol eich plentyn? Sut ydych chi'n meddwl y gellir darparu orau ar gyfer y rhain? Beth mae eich plentyn yn dda yn ei wneud neu beth mae ef yn mwynhau gwneud? Am beth mae eich plentyn yn poeni - a yw ef yn ymwybodol o'i anawsterau? Beth yw eich gofidiau, pryderon? A hoffech roi unrhyw wybodaeth arall:

am y teulu - digwyddiadau mawr a allai fod wedi effeithio ar eich plentyn?

Page 44: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

adroddiadau gan bobl eraill? Â phwy yr hoffech fwy o gyswllt?

Sut ydych chi'n meddwl bod anghenion eich plentyn yn effeithio ar anghenion y teulu cyfan?

Barn Eich Plentyn

'Mae gan blant sydd â'r gallu i fynegi barn, yr hawl i dderbyn a chyflwyno gwybodaeth, i fynegi barn, ac i'r farn honno gael ei hystyried o ran unrhyw faterion sy'n effeithio arnynt. Dylai barn plentyn gael ei hystyried yn ôl oedran, aeddfedrwydd a gallu'r plentyn'. (Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plant). Byddwn yn gofyn i lawer o bobl am wybodaeth am eich plentyn. Mae barn eich plentyn yn bwysig iawn, felly bydd gan eich plentyn gyfle i fynegi barn. Rhoddir help i'ch plentyn wneud hyn, i'r graddau mae hynny’n bosib mewn ffyrdd sy'n addas i'w anghenion, i’w hoedran a’i dealltwriaeth. Pam fod yn rhaid i ni wneud hynny? Mae gan blant yr hawl i fynegi eu barn ar faterion sy'n ymwneud â hwy. Yn aml, mae gan blant a phobl ifanc ag Anghenion Addysgol Arbennig wybodaeth unigryw am eu hanghenion a'u hamgylchiadau eu hunain, ac mae ganddynt eu barn eu hunain am ba fath o gefnogaeth yr hoffent i fanteisio ar eu haddysg. Hoffem helpu eich plentyn i fynegi'r farn hon fel y gall gael ei hystyried gan y Panel AAA. Wrth helpu eich plentyn i fynegi barn, byddwn yn ceisio sicrhau bod eich plentyn yn hyderus y caiff y farn sylw a'i fod yn cael ei gwerthfawrogi. Pwy fydd yn ymwneud â hyn? Yn aml, bydd plant angen help ychwanegol neu amser i fynegi a chyflwyno eu barn, naill ai gennych chi neu gan unrhyw weithwyr proffesiynol sy'n ymwneud â'ch plentyn. Gallai hyn gynnwys athrawon a staff cefnogi mewn ysgolion, seicolegwyr addysg, therapyddion, gweithwyr cymdeithasol neu weithwyr proffesiynol eraill. Gall y plentyn ddewis yr oedolyn maent yn dymuno'i helpu i fynegi a chyflwyno ei farn a'i syniadau. Bydd yr oedolyn dan sylw yn gwrando ar farn eich plentyn a'i chofnodi mewn unrhyw adroddiadau. Sut gwneir hyn?

Page 45: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

Bydd yr Awdurdod Addysg Lleol, wrth weithio gyda phawb dan sylw, yn ceisio defnyddio dulliau hawdd eu defnyddio er mwyn cael barn disgyblion. Efallai bydd angen cefnogaeth oedolyn neu adnoddau eraill i helpu plant ag anghenion penodol i gyfathrebu. Er enghraifft, efallai bydd hyn drwy: • wybodaeth sy'n cael ei hargraffu • fideo

• iaith arwyddion • braille

• gwybodaeth sy'n cael ei theipio • cyfathrebu/dehonglydd • cymorth lluniau/lluniau

Bydd y Swyddog Cyswllt Cartref yn hapus i drafod yr opsiynau sydd ar gael fel y bo'n briodol.

Page 46: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

9

ANGHENION ADDYSGOL ARBENNIG

YN NINAS A SIR ABERTAWE

CYFEIRIADAU DEFNYDDIOL

CYFEIRIADAU YNG NGHYMRU Gwasanaeth Mynediad i Ddysgu Gwasanaeth Mynediad i Ddysgu Tîm Ymddygiad a Dysgu Gwasanaeth Seicoleg Addysg Canolfan Addysg Dan-y-coed ac Asesiadau Statudol Clôs Huntingdon Cyfarwyddiaeth Addysg West Cross Canolfan Ddinesig Abertawe SA3 5AL Abertawe SA1 3SN 01792 405689 01792 636162 Gwasanaeth Mynediad i Ddysgu Barnados Education Otherwise Llys Trident Canolfan Addysg Dan-y-coed Heol East Moors Clôs Huntingdon Caerdydd CF24 5TD West Cross 02920 493387 Abertawe SA3 5AL 01792 405689 Bobath Cymru Tîm Gwasanaethau Plant a Theuluoedd 19 Heol y Parc Unedau B1 a B2 Yr Eglwys Newydd Ger-y-Llyn Caerdydd CF14 7BP Ffordd Ffenics 02920 522600 Llansamlet Abertawe SA7 9FL 01792 515050 Anabledd Cymru Fforwm Bridge House 22 Stryd Craddock Parc Busnes Caerffili Abertawe SA1 5HE Heol Van 01792 646573 Caerffili CF83 3GW 02920 887325

Page 47: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

Cyfeillion Pobl Ifanc, Anabl Mencap (Cymru) 300 Heol Caerfyrddin 31 Cilgant Lambourne Cwmbwrla Parc Busnes Caerdydd Abertawe SA5 8NJ Caerdydd CF14 5GF 01792 458520 02920 747588 Mudiad Ysgolion Meithrin MIND Cymru Ty Cymru 3ydd Llawr Clôs Greenwood Tŷ Quebec Parc Busnes Porth Caerdydd Castle Bridge Pontprennau 5-19 Heol y Bontfaen Dwyrain Caerdydd CF23 8RD Caerdydd CF11 9AB 02920 739200 02920 395123 NCH Cam wrth Gam Gwasanaeth Gwirfoddol Tŷ George Thomas Castell-nedd Port Talbot 361 – 363 Heol Gŵyr 17-19 Stryd Alfred Cilâ Castell-nedd SA11 1EF Abertawe SA2 7AH 01639 631246 01792 299330 Cymdeithas Cyn Ysgol Sefydliad Cenedlaethol Prif Swyddfa Brenhinol Pobl Ddall (RNIB)

Cymru 2a Stryd Caer Canolfan Addysg Wrecsam Coleg Trident Clwyd LL13 8BD Heol Eastmores 01978 358903 Caerdydd CF24 5TD 02920 450440 SCOPE – Cymdeithas Sbastigion (Cymru) Tîm Anableddau Dysgu Swyddfa Ranbarthol Cymru 5 Siambr y Dociau Y Ceiau Stryd Bute Ffordd Schooner Caerdydd CF10 5AG Caerdydd CF10 4EU 02920 492443 02920 461703 SENSE (Cymru) Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe Ysgol yr Hendre 7 Heol Walter Castell-nedd SA10 7TY Abertawe SA1 5NF 01639 639048 01792 544000

Page 48: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

SNAP Cyngor Pobl Ddall Cymru 250 Heol Caerfyrddin 3ydd Llawr Abertawe SA1 1HG Tŷ Shand 01792 457305 20 Ffordd Casnewydd Caerdydd CF24 0DB 02920 473954 Cyngor Pobl Fyddar Cymru Cymdeithas Dyslecsia Tŷ Glenview Gorllewin Cymru Stryd y Llys c/o Mrs M Millinghen Pontypridd CF37 1JY 586 Heol Pentregethin 01443 485687 Ravenhill 01443 485686 (minicom) Abertawe SA5 5ET

07702 665799 Cynnal Teulu Hyrwyddwr Addysg d/o Ysgol Crug Glas ac Anabledd Stryd Croft Bwthyn Beili Galas Swansea SA1 1QA Llanellen 01792 644303 Y Fenni Sir Fynwy NP7 9HS 01873 737763 Cymdeithas Dyslecsia Cymru Canol Caerdydd 14-19 Ffordd y Ddinas Caerdydd CF24 3DL 02920 481122

Page 49: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

CYFEIRIADAU ERAILL Canolfan Ymgynghorol Addysg AFASIC (Goresgyn Nam (ACE) Lleferydd) 1b Aberdeen Studios 2nd Floor 22 Highbury Grove 50 – 52 Great Sotton Street London N5 2EA London EC1V 0DJ 02073 548321 02074 909410 Cymdeithas i Blant Cymdeithas Spina Bifida sy’n Ymddiried a Hydroceffalws (ASBAH) 3 St Pauls Road Asbah House Fofelhill 42 Park Road Coventry Peterborough 02476 665450 Cambs PE1 2UQ 01733 555988 Cymdeithas Atal Dweud Atacsia DU 15 Old Ford Road 9 Winchester House London E2 9PJ Kennington Park 0181 983 1003 Cranmer Road London SW9 6EJ 02078 203900 Cymdeithas Dyslecsia Prydain Cymdeithas Epilepsi Prydain 98 London Road New Anstey House Reading RG1 5AU The Gateway Drive 0118 966 8271 Yeaden Leeds LS19 7XY 0808 800 5050 Cymdeithas Esgyrn Brith Cymdeithas y Plant 30 Guthrie Street Edward Rudolph House Dundee DD1 5BS 69 – 85 Margery Street London WC1X 0JL 0207 841 4400 Cysylltu â Theulu Cyngor Plant Anabl 209-211 City Road c/o National Children’s Bureau

Page 50: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

London EC1V 1JN 8 Wakley Street 02076 088700 London EC1V 7QE 0207 843 6000 Ymddiriedolaeth Ffibrosis Cystig Hawliau Nawdd Cymdeithasol 11 London Road Cynghrair Anabledd Bromley Advice Line Kent BR1 1BY 1st Floor East 02084 647211 Universal House 88 – 94 Wentworth Street London E1 7SA 0207 247 8776 Sefydliad Byw i’r Anabl Cymdeithas Syndrom Downs 380 – 384 Harrow Road The Langdon Down Centre London W9 2HU 2a Langdon Park 0207 2989 6111 Teddington Middlesex TW11 9PS 08452 300372 Sefydliad Dyslecsia Ymddiriedolaeth Dyspracsia (Gweler y cyfeiriadau yng Nghymru) PO Box 30 Hitchin Herts SG5 1UU 01462 454986 Cymdeithas Haemoffilia HEADWAY (Cymdeithas Dolur Petersham House i’r Pen Cenedlaethol Cyf) Hattan Garden 4 King Edward Court London EC1N 8JG King Edward Street 020 7831 1020 Nottingham NG1 1EW 01159 240800 Cymdeithas Clefyd Huntington IN TOUCH (Gwasanaeth Downstream Building Cyswllt a Gwybodaeth) 1 London Bridge 10 Norman Road London SE1 9BG Sale 020 7022 1950 Cheshire M33 3DF 0161 905 2440 IPSEA (Panel Annibynnol Cymdeithas Gofal Lewcemia dros Addysg Arbennig) 25 Shrubbery Avenue 6 Carlow Mews Worcester Woodridge Worcestshire WR1 1QH

Page 51: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

Suffolk IP12 1EA 01905 755977 01394 384711 LOOK Grŵp Dystroffi’r Cyhyrau c/o Queen Alexandra College 7 – 11 Prescott Place 49 Court Oak Road London Sw4 6BS Harborne 0207 720 8055 Birmingham B17 9TG 01214 285038 Ymgyrch Asthma Genedlaethol Cymdeithas Awtistiaeth Summit House Genedlaethol gan gynnwys 70 Wilson Street) Cefnogaeth Syndrom Asperger London EC2A 2DB 393 City Road 0207 226 2260 London EC1B 1NG 0208 451 1114 Cymdeithas Genedlaethol Plant Byddar Cymdeithas Genedlaethol Ecsema 15 Dufferin Street Hill House London EC1Y 8UR Highgate Hill 0808 800 8880 London N19 5NA 0870 241 3604 YmddiriedolaethGenedlaethol Parents for Inclusion Llid yr Ymennydd Fern House Winchester House Bath Road Kennington Park Business Estate Stroud Cranmer Road Gloucestershire GL5 3TJ London SW9 6EJ 01453 768000 020 7582 5008 Cymdeithas Perthes Cymdeithas Prader-Willi PO Box 773 Syndrom Guildford PWSA (UK) Surrey GU1 1XN 125a London Road 01483 306637 Derby DE1 2QQ Cymdeithas Frenhinol Anabledd Sefydliad Cenedlaethol ac Adfer (RADAR) Brenhinol Pobl Ddall (RNIB) 12 City Forum 105 Judd Street 250 City Road London WC1H 9NE

Page 52: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

London EC1V 8AF 0207 388 1266 0207 250 3222 Sefydliad Brenhinol Cenedlaethol SENSE Pobl Fyddar 11 – 13 Clifton Terrace 19 – 23 Featherstone Street Finsbury Park London EC1Y 8SL London N4 3SR 0207 296 8000 0207 272 7774 Cymdeithas Cryman-Gell Consortiwm Addysg Arbennig 54 Station Road c/o Council for Disabled Children London NW10 4UA 8 Wakley Street 0208 961 7795 London EC1V 7QE 0207 843 6000 Cymdeithas Dolur y Cefn Cymdeithas Strôc SIA House 240 City Road 2 Trueman Place London EC1V 2PR Oldbrook 0845 3033 100 Milton Keynes MK6 2HH 08456 786633 Cymdeithas Syndrom Tourette Cymdeithas Sglerosis (DU) Clorog Prydain Southbank House PO Box 12979 Black Prince Road Barnt Green London SW1 7SJ Birmingham B45 5AN 0845 4581252 01214 4456970 Cymdeithas Syndrom Prydain Cronfa’r Teulu 113 Friern Barnett Road Unit 4 London N11 3EU Alpha Court 0870 770 3622 Monks Cross Drive Huntingdon York YO32 9WN 01904 658085

Page 53: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

10

ANGHENION ADDYSGOL ARBENNIG

YN NINAS A SIR ABERTAWE

RHESTR TERMAU

Deddf Addysg 1996 Daeth y Ddeddf hon i rym ar 24 Gorffennaf 1996. Mae'n disodli Deddfau Addysg 1981 a 1993. Adolygiad Blynyddol Bydd y cyfarfod, a gynhelir yn ysgol eich plentyn fel arfer, o leiaf unwaith y flwyddyn yn ystyried a oes angen unrhyw newidiadau i Ddatganiad eich plentyn. Asesiad Statudol Archwiliad manwl o anghenion addysgol arbennig eich plentyn. Efallai y bydd yn arwain at Ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig. Ysgol a Gynhelir gan Grant Ysgol y wladwriaeth sydd wedi eithrio o reolaeth yr AALl. Cynllun Addysg Unigol Caiff hwn ei lunio gan yr athro/athrawes sy'n gyfrifol am anghenion addysgol arbennig. Bydd y cynllun yn gosod targedau i'ch plentyn eu cyflawni ac yn pennu dyddiad ar gyfer arolwg i weld pa gynnydd y mae ef wedi'i wneud. Awdurdod Addysg Lleol (AALl) Y corff llywodraethu lleol sy'n gyfrifol am ddarparu addysg ac am wneud asesiadau statudol a chynnal datganiadau.

Page 54: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

Swyddog a Enwir Y person o'r AALl sy'n gallu siarad â chi am asesiad statudol a datganiad eich plentyn. Gwasanaeth Partneriaeth Rieni Sefydliad sy'n rhoi gwybodaeth a chyngor i chi am anghenion addysgol arbennig eich plentyn. Ar hyn o bryd, prif sefydliad Dinas a Sir Abertawe yw SNAP, Cymru (Prosiect Ymgynghorol Anghenion Arbennig). Fodd bynnag, mae'r hawl gennych ddewis un arall. Cwricwlwm Cenedlaethol Yr hyn a addysgir i blentyn yn yr ysgol yw'r cwricwlwm. Awgrymir y dylai ysgolion ddarparu cwricwlwm eang a chytbwys i'r plentyn. Tribiwnlys AAA Lluniwyd y Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig gan Ddeddf Addysg 1993. Mae'n ystyried apeliadau rhieni yn erbyn penderfyniad yr Awdurdodau Addysg Lleol (AALl) am anghenion addysgol arbennig plentyn, lle na all y rhiant gytuno â'r AALl. Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) Mae gan blentyn anghenion addysgol arbennig os oed ganddo anawsterau dysgu y mae angen trefniadau addysgu arbennig arno. Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig (SENCO) Dyma’r aelod o staff yn yr ysgol sydd â chyfrifoldeb dros gydlynu darpariaeth AAA yr ysgol. Mewn ysgol fach, gall y Pennaeth neu'r Dirprwy fod yn SENCO. Mewn ysgolion mwy efallai bydd tîm Cydlynu AAA. Ymateb Graddedig Mae'r Côd Ymarfer yn awgrymu y dylai ysgolion fynd i'r afael ag anghenion plant fesul cam, gan weddu lefel yr help i anghenion penodol y plentyn.

Page 55: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig Dogfen gyfreithiol sy'n nodi holl anghenion addysgol arbennig eich plentyn a'r help ychwanegol y dylai ef ei dderbyn. Cynllun Pontio Cynllun a ddylai ffurfio rhan o bob adolygiad blynyddol a gynhelir ar ôl pen-blwydd eich plentyn yn 14 oed. Diben y cynllun yw casglu gwybodaeth ynghyd gan amrywiaeth o bobl yn yr ysgol a thu allan i'r ysgol er mwyn cynllunio ar gyfer pontio bywyd person ifanc i fywyd oedolyn. Grwpiau Gwirfoddol Dyma grwpiau o bobl sy'n rhannu diddordeb cyffredin. Mae'r rhan fwyaf o grwpiau yn elusennau cofrestredig. Maent yn cwrdd i rannu gwybodaeth, cefnogi'i gilydd ac yn aml, codi arian er mwyn helpu'r grŵp.

Page 56: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

Pobl sy'n ymwneud ag asesiad fy mhlentyn o dan Ddeddf Addysg 1996

(Efallai nad yw'r rhain yn berthnasol i chi)

PERSON ENW RHIF FFÔN Seicolegydd Addysg

Gweithiwr Cyn Ysgol (e.e. Ymgynghorydd Cartref Portage, Athro/Athrawes Gefnogi)

Person cyswllt yn yr ysgol

Person cyswllt yn yr Adran Mynediad i Ddysgu, Canolfan Ddinesig (swyddog dynodedig)

Pediatrydd Cymunedol

Therapydd Lleferydd

Ffisiotherapydd

Therapydd Galwedigaethol

Gweithiwr Cymdeithasol

Gwasanaeth Partneriaeth Rieni

Arall

Page 57: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe
Page 58: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

Eich cofnod o gamau a dyddiadau Asesiad eich plentyn o dan Ddeddf Addysg 1996

Dyddiad CAM 1 * Derbyn llythyr gan yr AALl i ystyried a ddylid dechrau'r Asesiad. * Cysylltu â'r 'Gwasanaeth Partneriaeth Rieni'.

CAM 2 * Mynegi fy marn i'r AALl am yr angen am yr Asesiad. * Dychwelyd y ffurflen ganiatâd a gadael i'r AALl wybod pwy a ddewiswyd fel fy 'Ngwasanaeth Partneriaeth Rieni'. * Darllen Adran 8 am 'Ysgrifennu Adroddiad ar gyfer Asesiad'.

CAM 3 * Derbyn llythyr gan yr AALl i ddweud a gynhelir Asesiad ai peidio. Os cynhelir Asesiad: * apwyntiad gyda'r Seicolegydd Addysg. * apwyntiad meddygol arbennig. * unrhyw apwyntiadau eraill ar gyfer yr Asesiad.

CAM 4 * Yr AALl yn cysylltu â chi:

a) Derbyn y Datganiad a'r cyngor arfaethedig Neu b) Ni ddylid rhoi Datganiad.

* Anfon fy ymateb i'r AALl:

a) Cytuno â'r Datganiad Arfaethedig ac enwi ysgol o'ch dewis.

Neu b) Anghytuno â Datganiad Arfaethedig. Neu c) Anghytuno â'r penderfyniad na roddir Datganiad.

CAM 5 * Yr AALl yn cysylltu i drefnu anghytundebau am y Datganiad Arfaethedig, y cyngor neu’r dewis o ysgol, neu'r penderfyniad i beidio â rhoi Datganiad.

CAM 6 * Derbyn llythyr gan yr AALl sy'n cynnwys:

a) Datganiad Terfynol â llofnod a dyddiad. b) Gwybodaeth am y Tribiwnlys AAA.

Bydd hefyd rhaid i chi gadw'r holl lythyron a dderbyniwyd gennych am asesiad eich plentyn a chopïau o unrhyw lythyron yr ydych yn eu hysgrifennu. (Gweler taflen 3, ‘Sut Gallwch Chi Helpu’).

Page 59: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

cs/misc/07/27.11.07/cw

Barn y Disgybl

Mae gan blant sy’n gallu llunio barn yr hawl i dderbyn a chyflwyno gwybodaeth, mynegi barn, a bod y farn honno’n cael ei hystyried mewn unrhyw fater sy’n ymwneud â hwy. Dylid rhoi ystyriaeth ddyledus i safbwyntiau’r plentyn yn ôl ei oed, ei aeddfedrwydd a’i allu. (Cytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn). Byddwn yn gofyn i lawer o bobl am wybodaeth am eich plentyn. Mae barn eich plentyn yn bwysig iawn felly bydd eich plentyn hefyd yn cael cyfle i fynegi ei safbwynt. Bydd eich plentyn yn cael help i wneud hyn, cyn belled â phosib mewn ffyrdd sy’n briodol i’w anghenion, ei oed a’i ddealltwriaeth. Pam mae’n rhaid i ni wneud hyn? Mae gan blant yr hawl i fynegi eu safbwynt ar faterion sy’n ymwneud â hwy. Yn aml bydd gan blant a phobl ifanc ag Anghenion Addysgol Arbennig wybodaeth unigryw am eu hangenion a’u hamgylchiadau eu hunain, a bydd ganddynt eu barn eu hunain o ran y math o gefnogaeth y byddent yn ei dymuno er mwyn elwa i’r eithaf ar eu haddysg. Hoffem helpu eich plentyn i fynegi’r ei farn, byddwn yn cession sicrhau ei fod yn hyderus y bydd ei farn yn cael gwrandawiad teg a bodgwerth i’w safbwynt.

Page 60: Anghenion Addysgol Arbennig yn Ninas a Sir Abertawe

cs/misc/07/27.11.07/cw

Pwy fydd yn rhan o’r broses? Yn aml bydd angen help neu amser ychwanegol ar blant er mwyn iddynt fynegi eu barn a’u dymuniadau, naill ai gennych chi neu un o’r gweithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â’ch plentyn. Gallai hynny gynnwys athrowon neu staff cefnogi yn yr ysgol, seicolegwyr addysg, therapyddion, gweithwyr cymdeithasol neu weithwyr iechyd proffesiynol eraill. Bydd eich plentyn yn cael dewis pwy fydd yn ei helpu i fynegi ei farn a’i ddymuniadau. Bydd yr oedolyn a ddewisir yn ymroi i wrando ar farn eich plentyn a’i chofnodi mewn adroddiadau. Sut bydd hyn yn cael ei gyflawni? Bydd yr Awdurdod Addysg Lleol, drwy weithio gyda phawb sy’n rhan o’r broses, yn ceisio defnyddio dulliau sy’n gartrefol i’r plentyn er mwyn ceisio barn disgyblion. Mae’n bosib y bydd angen cefnogaeth oedolyn neu adnoddau eraill ar blant ag anghenion penodol er mwyn eu helpu i fynegi eu hunain. Er enghraifft, gallai gynnwys: • Gwybodaeth argraffedig; • Fideo; • Arwyddo; • Braille; • Gwybodaeth wedi’i theipio; • Cyfathrebu/dehonglydd; • Cymhorthion darluniol/ffotograffau. Bydd y Swyddog Cyswllt Cartref yn barod iawn i drafod yr opsiynau sydd ar gael yn ôl y gofyn.