Top Banner
Digwyddiadau Amgueddfa Lechi Cymru Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Amgueddfa Genedlaethol Cymru Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru Amgueddfa Wlân Cymru Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru Amgueddfa Cymru Arddangosfeydd a digwyddiadau’r Haf a’r Hydref Gorffennaf – Hydref 2011 amgueddfacymru.ac.uk
17

Amgueddfa Cymru - Digwyddiadau Gorffennaf -Hydref 2011

Mar 26, 2016

Download

Documents

Amgueddfa Cymru

Dyma eich canllaw i’r hyn sy’n digwydd yn ein holl amgueddfeydd rhwng Gorffennaf a Hydref 2011. Gobeithio y byddwch yn dod o hyd i rywbeth sy’n eich cyffroi neu’ch ysbrydoli.
Welcome message from author
This document is posted to help you gain knowledge. Please leave a comment to let me know what you think about it! Share it to your friends and learn new things together.
Transcript
Page 1: Amgueddfa Cymru - Digwyddiadau Gorffennaf -Hydref 2011

Digwyddiadau

Amgueddfa Lechi Cymru

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Amgueddfa Wlân Cymru

Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

Amgueddfa Cymru

Arddangosfeydd a digwyddiadau’r Haf a’r HydrefGorffennaf – Hydref 2011amgueddfacymru.ac.uk

Page 2: Amgueddfa Cymru - Digwyddiadau Gorffennaf -Hydref 2011

amgueddfacymru.ac.uk Amgueddfa Cymru 2

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru: dewch i weld ein cyfoeth diwydiannol a morwrol mewn cyfuniad o arddangosfeydd rhyngweithiol ac arloesol, law yn llaw a rhai mwy traddodiadol. Dyma gyfle i ymwelwyr gael profiad ymarferol, heb ei ail.

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd Amser am antur: cewch ddarganfod gwrthrychau o’r oes a fu, deinosoriaid i’ch dychryn, gwyddoniaeth i’ch gwefreiddio, creaduriaid anhygoel, trysorau’r pridd a gweithiau celf rhyngwladol rhyfeddol – oll o dan un to. Gallwch alw acw am awr amser cinio neu dreulio diwrnod cyfan yma – bydd rhywbeth newydd i’ch diddanu bob tro.

Tud 3

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Cyfle i ddianc a chamu nôl i’r gorffennol: blas ar fywyd yng Nghymru drwy’r oesoedd mewn lleoliad godidog ar gyrion Caerdydd. Dewch i weld dros 40 o gartrefi ac adeiladau sydd wedi’u hailgodi yma, sgwrsio â’n crefftwyr traddodiadol a chwrdd â’r anifeiliaid fferm. Neu, dewch am dro bach hamddenol yn yr awyr iach, cael cinio blasus a rhyfeddu at yr olygfa odidog.

Tud 10

Tud 23

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Rhufeiniaid yn y dre: yn y flwyddyn OC 75, fe ymgartrefodd y Rhufeiniaid yng Nghaerllion. Dewch i glywed eu hanes arswydus, a dysgu am eu dylanwad ar Gymru. Cewch gyfle i wisgo fel un ohonynt, a dysgu am fywyd a gwaith gan ein dinasyddion a’n milwyr Rhufeinig.

Tud 15

Tud 17

Croeso i Amgueddfa CymruDewch i ddarganfod casgliadau rhyfeddol mewn saith amgueddfa odidog fydd yn datgelu hanes a diwylliantpobl o Gymru a thu hwnt.

O byllau glo a chwareli i felin wlân weithredol, casgliadcelf trawiadol o safon fyd-eang, peirianneg ac arloesedd, deinosoriad, mamothiaid gwlanog, lleng filwyr Rhufeiniga thrysor wedi’i gladdu – mae digon i’w weld a’r cyfanAM DDIM.

Dyma eich canllaw i’r hyn sy’n digwydd yn ein holl amgueddfeydd rhwng Gorffennaf a Hydref 2011. Gobeithioy byddwch yn dod o hyd i rywbeth sy’n eich cyffroi neu’ch ysbrydoli. Dewch i’n gweld yn fuan!

Ewch i’n gwefanwww.amgueddfacymru.ac.ukam y newyddion diweddaraf.

Amgueddfa Wlân Cymru

O ddafad i ddefnydd: dyma’r lle i glywed hanes diwydiant gwlân llewyrchus Dyffryn Teifi ’slawer dydd. Dewch i grwydro o amgylch hen ffatri wlân Melinau Cambrian a gadewch i’n tywyswyr ddangos sut y cafodd ein siolau, carthenni a dillad eu gwneud i’w gwerthu ym mhedwar ban byd. Ymunwch â ni am bryd bach blasus neu arhoswch i ddarganfod a dysgu mwy.

Tud 19

Amgueddfa Lechi Cymru

Dros drothwy amser: dewch i glywed stori ryfeddol y diwydiant llechi ar lan Llyn Padarn. Ewch am dro o amgylch yr hen weithdai Fictoraidd ar safle’r hen chwarel, a chael clywed gan ein crefftwyr sut y cafodd llechi eu cloddio a’u hallforio i bob cwr o’r byd.

Tud 21

Amgueddfa Lechi Cymru

AmgueddfaWlân Cymru

Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

Amgueddfa LlengRufeinig Cymru

Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Sain Ffagan:AmgueddfaWerin Cymru

AmgueddfaGenedlaetholy Glannau

Am fersiwn print bras o’r llyfryn hwn ffoniwch: (029) 2057 3174.Llun ar y clawr gan Andy Birch

Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

Yng nghrombil y ddaear: bydd ein glowyr yn eich tywys yn ôl i’r gorffennol ac yn rhannu straeon rhyfeddol am weithio mewn pwll glo go iawn. Gallwch dreulio diwrnod yma – mynd ar daith danddaear, ymweld â’r orielau rhyngweithiol, a chael cip ar y baddondai pen pwll.

Page 3: Amgueddfa Cymru - Digwyddiadau Gorffennaf -Hydref 2011

3 Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd 4

Genedlaethol Caerdydd yw’r unig le y gwelwch chi waith gan Gainsborough, Poussin, Turner, Monet a thri enillydd Gwobr Turner o dan un to, ac mae mynediad i’r Amgueddfa’n rhad ac am ddim.

Bydd llawlyfr newydd i gyd-fynd â’r Amgueddfa Gelf Genedlaethol ar gael o fis Gorffennaf, pris £16.99. Gallwch chi archebu eich copi ar-lein yn amgueddfacymru.ac.uk neu ei brynu o siop yr Amgueddfa.

Noddwyd yr Amgueddfa Gelf Genedlaethol trwy garedigrwydd Llywodraeth Cynulliad Cymru, Ymddiriedolaeth Derek Williams, Sefydliad Elusennol Colwinston, Sefydliad Garfield Weston, Sefydliad Wolfson a nifer o ymddiriedolaethau ac unigolion eraill. Rydym ni’n ddiolchgar iawn am eu cymorth.

Tan nawr, dim ond un oriel oedd gan yr Amgueddfa i arddangos ei ystod o gelf fodern a chyfoes, sy’n cael ei ystyried yn un o gasgliadau pwysicaf y DU. Yr orielau cyfoes newydd hyn fydd y gofod mwyaf o’i fath yng Nghymru.

Bydd gwaith gan artistiaid a chanddynt gysylltiadau cryf â Chymru, fel Ceri Richards a Josef Herman, i’w weld yn yr arddangosiadau agoriadol ym mis Gorffennaf 2011 ar y cyd ag artistiaid Prydeinig a rhyngwladol blaenllaw gan gynnwys Lucian Freud, David Hockney a Rachel Whiteread.

Bydd gwaith gan artistiaid cyfoes Cymreig sefydledig, fel Shani Rhys James, Bethan Huws, Ivor Davies a Tim Davies, hefyd yn cael ei ddathlu yn yr orielau newydd gan adrodd hanes celf yng Nghymru hyd heddiw. Amgueddfa

Orielau celf gyfoes newydd sbon i gwblhau Amgueddfa Gelf Genedlaethol i Gymru. Ar 9 Gorffennaf 2011, bydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn agor chwe oriel newydd sbon i arddangos ei chasgliadau celf gyfoes a modern. Dyma fydd cam olaf y project ailddatblygu hirdymor, gwerth £6m, i weddnewid holl orielau’r llawr cyntaf i greu Amgueddfa Gelf Genedlaethol.

Mae casgliad celf yr Amgueddfa’n cwmpasu 500 mlynedd o baentiadau, darluniau, cerflunwaith, gwaith arian a cerameg gwych o Gymru a gweddill y byd, gan gynnwys un o gasgliadau gorau Ewrop o waith Argraffiadol gan Monet, Van Gogh, Renoir, Cézanne a llawer mwy.

Beirdd ac AwduronTan 4 RhagfyrCasgliad o bortreadau o rai o ffigurau llenyddol enwog Cymru. Mae’n cynnwys portread Augustus John o’r bardd Dylan Thomas.

Gwneud eich Marc Tan 2 Hydref

Defnyddir y wyddor Rufeinig hyd heddiw ar gyfer ysgrifennu yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae tystiolaeth o waith ysgrifennu, gan swyddogion a’r werin bobl, yn y Gymru Rufeinig i’w gweld yng nghyd-destun ehangach defnydd cyffredinol ysgrifen yn y byd Rhufeinig. Mae’r arddangosfa dros dro hon yn oriel Gwreiddiau.

Adnabod yr Artist: Graham SutherlandTan 30 Hydref Graham Sutherland yw un o artistiaid Prydeinig pwysicaf yr ugeinfed ganrif. Fel ymwelydd cyson â Chymru, cafodd ei ysbrydoli gan dirlun unigryw Sir Benfro. Mae’r arddangosfa hon yn ddetholiad o weithiau a dogfennau archifol o gasgliadau pwysig a chynhwysfawr yr Amgueddfa.

Arddangosfeydd

Arianfollt Tan 24 Gorffennaf

Theresa Nguen, Canolbwynt: Con Brio (2010) © Yr Artist

Mae Arianfollt yn dathlu cryfder gofannu arian cyfoes yn y DU ac yn adlewyrchu cyfeiriadau newydd sydd wedi dod i’r amlwg trwy ddulliau traddodiadol a dulliau arloesol. Ategir darnau gafodd eu caffael yn ddiweddar o gasgliad parhaol Amgueddfa Cymru a chomisiynau Ymddiriedolaeth P ac O Makower sy’n cael eu cadw yn yr amgueddfa gan ddetholiad cyffrous o waith newydd gofaint cyfarwydd ac enwau newydd.

Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y FlwyddynTan 11 Medi

Dyma un o’r cystadlaethau uchaf ei bri a mwyaf blaengar o’i math. Mae arddangosfa Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn 2010 yn arddangos y gorau o ddelweddau ffotograffig o fyd natur. Gyda delweddau gwych o fywyd gwyllt gan gynnwys anifeiliaid, adar, planhigion, coed, pryfetach a’r dirwedd naturiol, mae’r arddangosfa hon yn gasgliad heb ei hail o’r gwaith a gynhyrchir gan rai o ffotograffwyr gorau’r byd. Trefnwyd gan yr Amgueddfa Hanes Natur a Chylchgrawn Wildlife y BBC.

John Cale, Dyddiau Du / Dark Days9 Gorffennaf-2 HydrefGwaith sain a fideo John Cale gafodd ei gomisiynu’n arbennig i gynrychioli Cymru yn Biennale Celfyddyd Fenis, 2009.

©Thomas P Peschak

amgueddfacymru.ac.uk

Page 4: Amgueddfa Cymru - Digwyddiadau Gorffennaf -Hydref 2011

Joseph Beuys ARTIST ROOMS22 Hydref-8 IonawrArddangosfa o’r casgliad ARTIST ROOMS – casgliad pwysig o gelf gyfoes ryngwladol – sy’n edrych ar waith rhai o artistiaid pwysicaf a mwyaf dylanwadol yr ugeinfed ganrif.

Canolbwyntio ar Unigedd Richard WilsonYn agor 29 Hydref Arddangosiad ynghylch gwaith pwysig, Unigedd, gan Richard Wilson fydd ar fenthyg o gasgliad Dinas a Sir Abertawe: Oriel Gelf Glynn Vivian, yn ystod eu project ailddatblygu 2010-12.

Ffasau Glo a Chopr24 Medi 2011-Ionawr 2012Ac yntau’n feistr copr yn y 1830au, bu William Logan yn llunio mapiau manwl o ffasau glo lleol ac fe’u defnyddiwyd ar gyfer y map Arolwg Daearegol cyntaf yng Nghymru. Mae’r arddangosfa hon yn cymharu’r mapiau hyn â’r map daearegol diweddaraf o Abertawe gan Arolwg Daearegol Prydain.

Llyfr y Mis Bob mis, bydd y Llyfrgell yn arddangos detholiad o eitemau o’i chasgliadau arbennig.

Sgyrsiau, Teithiau, Cyngherddau a mwy Am ddim oni nodir fel arall.

Taith Dywys: Gwreiddiau – Canfod y Gymru Gynnar

Bob dydd Sadwrn a dydd Sul 11.45am am 30 munudTaith o amgylch y casgliadau archaeoleg gyda thywysydd gwirfoddol.

Taith Dywys Ddyddiol: Uchafbwyntiau Celf.12.30pm am 35 munud, dan arweiniad tywysydd gwirfoddol.

GorffennafGwasanaeth Barn ar Gelf 1 Gorffennaf, 2pm-4pm Dewch â llun neu wrthrych celf i gael barn neu gymorth yr Adran Gelf. Ni ellir prisio gwaith.

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd 65 Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sgwrs Celf Amser Cinio1 Gorffennaf, 1.05pmRodin a’r Geisha. Cerflun Rodin, “Pen Madame Hanako” gan Yoko Kawaguchi, darlithydd ac awdur ar ddylanwadau Siapaneaidd ar ddiwylliant y gorllewin.

Sgwrs Archaeoleg Amser Cinio6 Gorffennaf, 1.05pmCloddio trwy’r Oesau. Archaeoleg gryno o Gaerdydd. Dr Peter Webster, Canolfan Dysgu Gydol Oes Prifysgol Caerdydd.

Sgwrs Celf Amser Cinio8 Gorffennaf, 1.05pmArianfollt. Golwg agosach ar ein casgliad o waith arian cyfoes. Andrew Renton, Pennaeth Celfyddyd Gymhwysol a Rachel Conroy, Cynorthwy-ydd Curadurol, Celfyddyd Gymhwysol, Amgueddfa Cymru.

Sgwrs Celf Amser Cinio15 Gorffennaf, 1.05pmGraham Sutherland: Papurau, Pobl a Llefydd. Rachel Flynn, Myfyriwr Dyfarniad Doethuriaeth ar y Cyd Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau a churadur arddangosfa Adnabod yr Artist: Graham Sutherland.

Sgwrs Archaeoleg: Ffeithiau Celfyddydol20, 21 ac 22 Gorffennaf, 1pm a 2pm

Cyfres o sgyrsiau byr â darluniau am gelfyddyd rhai o’n gwrthrychau. Rhan o Wyl Archaeoleg Prydain

Sgwrs Celf Amser Cinio22 Gorffennaf, 1.05pmHanes yr Orielau Celf Fodern a Chyfoes Newydd. Mike Tooby, Cyfarwyddwr Dysgu, Rhaglennu a Datblygu ac Oliver Fairclough, Ceidwad Celf Amgueddfa Cymru.

Cynhadledd Undydd: Cymru Anhysbys 23 Gorffennaf, 10.15am-4pmDathliad o fywyd gwyllt ‘newydd’ Cymru. Bydd y gynhadledd undydd hon yn dathlu pynciau bywyd gwyllt amrywiol o Bâl Manaw a DNA planhigion i wlithod a malwod, a monitro bywyd gwyllt yn yr ardd. Bydd Iolo Williams, y cyflwynydd teledu poblogaidd, yn agor y gynhadledd. Bydd y gynhadledd yn rhad ac am ddim, ewch i amgueddfacymru.ac.uk neu ffoniwch: (029) 2057 3148 am ragor o wybodaeth a threfniadau archebu. Ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru.

Datganiad ar yr Organ29 Gorffennaf, 1pmUnawdwyr gwadd yn rhoi datganiad ar organ Williams-Wynn o’r ddeunawfed ganrif. Noddwyd gan Gyfeillion Amgueddfa Cymru.

Awst Gwasanaeth Barn ar Gelf 5 Awst, 2pm-4pm Gweler 1 Gorffennaf am fanylion.

Datganiad ar yr Organ26 Awst, 1pm

Unawdwyr gwadd yn rhoi datganiad ar organ Williams-Wynn o’r ddeunawfed ganrif. Noddwyd gan Gyfeillion Amgueddfa Cymru.

MediSgwrs Celf Amser Cinio2 Medi, 1.05pmCychwyn o’r Newydd, cyflwyniad i’r arddangosiadau celf fodern yn orielau 20 ac 21. Melissa Munro, Curadur Celf Fodern a Chyfoes Derek Williams, Amgueddfa Cymru.

Gwasanaeth Barn ar Gelf 2 Medi, 2pm-4pm Gweler 1 Gorffennaf am fanylion.

Teithiau Tu Ôl i’r Llenni6 Medi, 1.05pm Dewch i ymweld â’r Adran Fioamrywiaeth i ddysgu mwy am ein gwaith ymchwil, a gweld sut mae gwyddonwyr yr Amgueddfa yn gofalu am y miloedd o bryfetach, molysgiaid, planhigion sy’n blodeuo, mwsoglau, anifeiliaid ag asgwrn cefn a bywyd morol a chadw cofnod ohonynt. Bydd cynnwys y teithiau’n amrywio bob mis, felly dewch yn ôl i ddysgu mwy. Mae’n bosibl y bydd rhai teithiau’n anaddas i ymwelwyr sydd â symudedd cyfyngedig, gofynnwch wrth gyrraedd. Rhaid cadw lle wrth y Dderbynfa.

Sgwrs Archaeoleg Amser Cinio7 Medi, 1.05pmPowys: Tir y Cestyll? Y Llyfrgellydd Dr John Kenyon, Amgueddfa Cymru.

Sgwrs Celf Amser Cinio9 Medi, 1.05pmO Syniad i Gelfyddyd. Cyflwyniad i’r arddangosiadau celf fodern yn orielau 22 a 24. Gyda Nicholas Thornton, Pennaeth Celf Fodern a Chyfoes, Amgueddfa Cymru.

amgueddfacymru.ac.uk

Page 5: Amgueddfa Cymru - Digwyddiadau Gorffennaf -Hydref 2011

Teithiau Tu Ôl i’r Llenni13 Medi, 1.05pm Dewch i ymweld â’r Adran Ddaeareg i ddysgu mwy am ein gwaith ymchwil, a gweld sut mae gwyddonwyr yr Amgueddfa yn gofalu am y miloedd o greigiau, ffosiliau a mwynau ac yn cadw cofnod ohonynt. Bydd cynnwys y teithiau’n amrywio bob mis, felly dewch yn ôl i ddysgu mwy! Mae’n bosibl y bydd rhai teithiau’n anaddas i ymwelwyr sydd â symudedd cyfyngedig, gofynnwch wrth y Dderbynfa wrth gyrraedd.

Sgwrs Celf Amser Cinio 16 Medi, 1.05pm

Themâu, Storïau a Lluniau. Taith o amgylch yr orielau celf fodern a chyfoes newydd. Gyda Mike Tooby, Cyfarwyddwr Dysgu, Rhaglennu a Datblygu Amgueddfa Cymru.

Sgwrs Archaeoleg Amser Cinio21 Medi, 1.05pmYr Hen Geltiaid yn Ewrop yr Iwerydd. Yr Athro John Koch, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru.

Sgwrs Celf Amser Cinio23 Medi, 1.05pmYm Mhobman. Taith a thrafodaeth am y gelf gyfoes yn yr orielau modern a chyfoes newydd. Gordon Dalton, Artist a Churadur.

Sgwrs Amser Cinio y Gwyddorau Naturiol28 Medi, 1.05pmLliwiau Cudd. Darganfod golau polar a’i ddefnyddio i adnabod mwynau. Helen Kerbey, Adran Ddaeareg, Amgueddfa Cymru.

Datganiad ar yr Organ30 Medi, 1pmUnawdwyr gwadd yn rhoi datganiad ar organ Williams-Wynn o’r ddeunawfed ganrif. Noddwyd gan Gyfeillion Amgueddfa Cymru.

HydrefTeithiau Tu Ôl i’r Llenni4 Hydref, 1.05pm Dewch i ymweld â’r Adran Fioamrywiaeth – gweler digwyddiad 6 Medi am fanylion.

Sgwrs Archaeoleg Amser Cinio5 Hydref, 1.05pmPrif fwydydd. Dadansoddiad gwyddonol o ganfyddiadau gwlân defaid canoloesol. Isabella Von Holstein, myfyriwr Ôl-radd, Adran Archaeoleg, Prifysgol Efrog.

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd 87 Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sgwrs Celf Amser Cinio7 Hydref, 1.05pmKeith Arnatt ‘Ffotograffydd Go Iawn’. David Hurn, Ffotograffydd ac aelod o Magnum Photos.

Gwasanaeth Barn ar Gelf 7 Hydref, 2pm-4pm Gweler 1 Gorffennaf am fanylion.

Cyngerdd Amser Cinio9 Hydref, 1pmPerfformiad gan fyfyrwyr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Teithiau Tu Ôl i’r Llenni11 Hydref, 1.05pm Dewch i ymweld â’r Adran Ddaeareg – gweler digwyddiad 13 Medi am fanylion.

Sgwrs Celf Amser Cinio14 Hydref, 1.05pmO Warsaw i Gymru a Thu hwnt: Bywyd a Chelfyddyd Josef Herman. Monica Bohm-Duchen, awdur llawrydd, darlithydd a threfnydd arddangosfa. Mae’r ddarlith hon yn nodi can mlynedd ers geni Josef Herman.

Cyngerdd Coffi Caerdydd16 Hydref, 11.30amTocynnau ymlaen llaw £8 Oedolion, £6 Gostyngiadau. Mae nifer fach o docynnau ar gael ar y drws ar ddiwrnod y cyngerdd £10. Tocynnau ar werth o’r Theatr Newydd o 1 Medi ymlaen. Ffoniwch: (029) 2087 8889. Ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk am ragor o wybodaeth.

Sgwrs Archaeoleg Amser Cinio19 Hydref, 1.05pmDeall Isca. Gwaith diweddar yn y lleng-gaer yng Nghaerllion gyda Dr Peter Guest, Uwch-ddarlithydd mewn Archaeoleg Rufeinig, Prifysgol Caerdydd.

Sgwrs Celf Amser Cinio21 Hydref, 1.05pmCommon Culture. Grwp o artistiaid yw Common Culture sy’n cynnwys Mark Durden, David Campbell ac Ian Brown. Dyma Mark Durden, Athro Ffotograffiaeth yng Nghasnewydd yn trafod eu gwaith gan gyfeirio’n benodol at eu gwaith newydd yn yr Amgueddfa.

Sgwrs Amser Cinio y Gwyddorau Naturiol26 Hydref, 1.05pmProject rhyngwladol yw’r Global Plants Initiative i sganio sbesimenau teip o gasgliadau ledled y byd. Dewch i ddysgu arwyddocâd y sbesimenau hyn i wyddoniaeth, a chlywed am y sbesimenau o Lysieufa Genedlaethol Cymru fydd ar gael ar y we drwy’r project hwn. Gyda Tim Rich, Adran Fioamrywiaeth Amgueddfa Cymru.

Datganiad ar yr Organ28 Hydref, 1pmUnawdwyr gwadd yn rhoi datganiad ar organ Williams-Wynn o’r ddeunawfed ganrif. Noddwyd gan Gyfeillion Amgueddfa Cymru.

Gweithgareddau i’r Teulu

Canolfan Ddarganfod Clore

Cewch drin a thrafod eitemau go iawn o’n droriau darganfod neu ddilyn taith am ddim drwy’r orielau. Gallwch ddod â’ch gwrthrych eich hun yma hyd yn oed ac fe allwn ni helpu i ateb eich cwestiynau.

Gweithdai Patrymau’r Gorffennol23-24 a 26-29 Gorffennaf, 11am, 1pm a 3pm Dilynwch y daith hynafol o gwmpas Oriel Gwreiddiau, yna trowch eich hoff batrwm yn faner drwy ddefnyddio sgiliau o’r gorffennol. Nifer gyfyngedig o leoedd, archebwch wrth gyrraedd.Rhan o Wyl Archaeoleg Prydain.

Sgwrs Amser Cinio y Gwyddorau Naturiol27 Gorffennaf, 1.05pmEsblygiad fesul cam. Ydych chi erioed wedi trio cerdded ar fodiau’ch traed? Dyna sut mae ceffylau’n cerdded. Ond pam tybed? Pam nad oes gan nadroedd goesau o gwbl? Archwiliwch egwyddorion esblygiad yn y drafodaeth addas i’r teulu hon. Gyda Christian Baars, Adran Ddaeareg, Amgueddfa Cymru.

Sgyrsiau Celf i DeuluoeddDyddiau Mawrth 26 Gorffennaf, 2,9,16 a 23 Awst, 10.30am-11am, 11.30am-12pmDewch ar daith trwy fyd celf i ddod â chelf yn fyw! Nifer gyfyngedig o leoedd, archebwch wrth gyrraedd.

Hwyl wrth GreuDyddiau Mawrth 26 Gorffennaf, 2,9,16 a 23 Awst, 2pm-4pmDewch draw i’r cert celf i danio’ch creadigrwydd gyda dewis o weithgareddau papur yn un o’r orielau. Nifer gyfyngedig o leoedd, archebwch wrth gyrraedd.

Ysbrydoliaeth…Dyddiau Mercher, 27 Gorffennaf, 3,10,17 a 24 Awst, 11am-12pm, 1pm-2pm a 3pm-4pm y cyngerdd £10Tocynnau ar werth o’r Theatr Newydd o 1 Medi ymlaen. Ffoniwch: (029) 2087 8889. Ewch amgueddfacymru.ac.uk am ragor o wybodaeth.

amgueddfacymru.ac.uk

Page 6: Amgueddfa Cymru - Digwyddiadau Gorffennaf -Hydref 2011

Sgwennu mewn Stylus! Gweithdai i’r Teulu30 a 31 Gorffennaf 11am, 1pm a 3pmRhowch dro ar ysgrifennu fel Rhufeiniwr drwy ddefnyddio offer y cyfnod, a hyd yn oed ysgrifennu ar ddarn o bapyrus. £1 y pen. Nifer gyfyngedig o leoedd, archebwch wrth gyrraedd. Rhan o Wyl Archaeoleg Prydain.

Saffari Môr TeuluolDyddiau Iau a Gwener 28 a 29 Gorffennaf, 4,5,11,12,18,19, 25 a 26 Awst, 11am, 1pm a 3pmYmunwch â ni wrth i ni archwilio creaduriaid y môr rydych chi’n debygol o’u gweld o gwmpas Cymru. Bob wythnos gallwch chi greu creadur o’r môr i fynd adref gyda chi. Nifer gyfyngedig o leoedd, archebwch wrth gyrraedd.

Sgwrs Amser Cinio y Gwyddorau Naturiol31 Awst, 1.05pmBywyd Gwely’r Môr ar ein Rhiniog. Sgwrs i’r teulu cyfan am y gwahanol anifeiliaid sy’n byw ar wely’r môr ac ynddi y mae gwyddonwyr yr Amgueddfa wedi’u hastudio. Katie Mortimer-Jones, yr Adran Fioamrywiaeth, Amgueddfa Cymru.

Noddir Oriel 1 yn hael gan Gymdeithas Adeiladu’r Principality

Trip Maes Troedio’r Traeth17 Medi, 10.30am-12.30pmYmunwch â ni ar draeth Aberogwr i chwilota’r pyllau glan môr, ffosiliau a darganfod beth sy’n byw ar y traeth. Bydd sesiwn lanhau traethau cenedlaethol i ddilyn am 1pm. Yn dibynnu ar y tywydd. Rhaid gwisgo dillad addas. Rhaid archebu lle: (029) 2057 3148.

Clwb Ffilmiau i’r TeuluBob dydd Sul yn ystod gwyliau’r haf, 24 a 31 Gorffennaf, 7, 14, 21, 28 Awst, 2pmYmlaciwch a mwynhewch un o’n ffilmiau haf i’r teulu. Am fanylion pellach ewch i’r wefan.

Daearwyl22 a 23 Hydref 11am-4pm

Ymunwch â Grwp Cymdeithas Daearegwyr De Cymru am hwyl a sbri daearegol i’r teulu! Bydd digwyddiadau’r penwythnos yn cynnwys gweithgareddau Rockwatch i blant, gweithdai daearegol, arddangosiadau, stondinau, sgyrsiau a theithiau tu ôl i’r llenni yn Adran Ddaeareg yr Amgueddfa.

The Big Draw25-28 Hydref, 11am,12pm, 2pm a 3pmGweithiwch gydag artistiaid i archwilio gwahanol dechnegau darlunio a chyfrannu at ddarn mawr o waith. Nifer gyfyngedig o leoedd, archebwch wrth gyrraedd.

Diwali Mela29 Hydref, 11am-4pm

‘Gwyl y golau’ yw ystyr Diwali, yr wyl a ddethlir gan y nifer fwyaf o bobl yn India. Ymunwch â ni am ddiwrnod llawn hwyl o gerddoriaeth a dawnsio Bollywood a Bhangra, gweithdai rangoli, sioeau ffasiwn, celf a chrefft, digwyddiadau i’r teulu a llawer mwy. Ar y cyd â Chymdeithas Hindw Cymru a Canolfan India Caerdydd.

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

amgueddfacymru.ac.uk Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd 10

Gweithgareddau Dyddiol

Gof, Melinydd, Gwehydd, Cyfrwywr a Crydd Clocsiau 10am-5pmDewch i weld y crefftwyr a dysgu am fywyd y dyddiau a fu! Cofiwch ofyn wrth gyrraedd pa grefftwyr sydd wrth eu gwaith ar y diwrnod.

Ffermio Traddodiadol10am-5pm Cadwch lygad am dasgau tymhorol yn yr Amgueddfa fel godro, bwydo, lladd gwair neu gynaeafu.

Bara Ffres ar werth10am-4pm (Ar gau 8-14 Hydref)Blaswch a phrynwch y bara enwog a bobir yn y poptai coed ym Mhopty Derwen.

9 Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Troelli Llestr! Yn ystod gwyliau ysgol a phenwythnosau tan ddiwedd mis Medi.

Gwnewch eich llestr eich hun yng nghrochendy Sain Ffagan. Prisiau i’w cael wrth gyrraedd.

Stiwdio Bortreadau Fictoraidd11am-4.30pmCewch dynnu’ch llun wedi gwisgo mewn dillad Fictoraidd yn Stiwdio Ffotograffiaeth Moss-Vernon. Prisiau i’w cael wrth gyrraedd.

Page 7: Amgueddfa Cymru - Digwyddiadau Gorffennaf -Hydref 2011

Arddangosfeydd

Creu Hanes 1500-1700Tan Mawrth 2012, 10am-5pm Arddangosfa gyffrous am Gymru 1500-1700: cyfnod y Tuduriaid a’r Stiwartiaid, y Ddeddf Uno, y Beibl Cymraeg cyntaf a Rhyfeloedd Cartref Prydain.

Gweithgareddau i’r Teulu

Cyfarfod y Cerfwyr Coed2 Gorffennaf, 10am-5pmCyfle i weld y cerfwyr coed wrth eu gwaith.

Gwaith Gwyrdd yn yr Ardd 2 Gorffennaf, 11am-1pm a 2pm-4pm Rhowch gynnig ar rai gweithgareddau syml a dysgu sut i drawsnewid eich gardd yn hafan i fywyd gwyllt. Paratowch am fywyd mwy cynaliadwy drwy dyfu eich perlysiau eich hun. Sesiwn galw i mewn.

Clwb Cwiltio 2 Gorffennaf,11am-12.30pmSesiwn anffurfiol, gysurus i bobl ddod at ei gilydd a chwiltio. Addas i bobl dros 16. Rhaid archebu lle: (029) 2057 3424.

Theatr Everyman6-31 Gorffennaf Bydd y perfformiadau’n cynnwys Pirates of Penzance, Comedy of Errors a Old King Cole yn yr wyl haf wych hon. Ewch i www.everymanfestival.co.uk ar gyfer amseroedd a thocynnau.

Drama Gyfnod: Ffasiwn Tuduraidd9-10 Gorffennaf, 11.30am-12.45pm a 2pm-3.15pm O’r melfed, i’r siyrcyns i’r gemau, mae’r wardrob Tuduraidd yn profi nad oes dim byd yn newydd ym myd ffasiwn. Sesiwn galw i mewn.

Cert Celf: Ffasiwn Tuduraidd9-10 Gorffennaf, 11am-1pm a 2pm-4pmGalwch mewn i Oriel 1 ar gyfer hwyl celf a chrefft i’r teulu!

Gwyl Archaeoleg Prydain 16-31 Gorffennaf, 11am-4pmBydd y sioe flynyddol hon o ddigwyddiadau treftadaeth yn dangos goreuon y gweithgareddau archaeolegol sydd ar y safle.

Casglu cynnyrch a’i goginio!17 Gorffennaf, 13 Awst a 3 Medi, 11am a 2pmDewch am daith gerdded drwy ardd y bwthyn lle byddwn yn cynaeafu cynnyrch ffres, tymhorol, cyn

amgueddfacymru.ac.uk Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd 1211 Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd

dychwelyd i gegin Ty Gwyrdd i goginio danteithion blasus. Sesiwn 2 awr. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn. Addas i oedrannau 8+. Rhaid archebu lle: (029) 2057 3424.

Byw’n Wyrdd yn Ty Gwyrdd 23 Gorffennaf-4 Medi, 11am-1pm a 2pm-4pm Dysgwch am nodweddion arbed ynni Ty Gwyrdd a chael cyngor ar sut i fyw bywyd mwy ecogyfeillgar. Rhowch gynnig ar gwis Ty Gwyrdd a dilyn y daith cynaladwyedd. Cadwch lygad am ein dyddiadau gweithgareddau arbennig isod.

Diwrnod Gweithgareddau Gwaith Gwyrdd yn yr Ardd26-29 Gorffennaf, 9-12 a 30-31 Awst, 11am-1pm a 2pm-4pm Gweler 2 Gorffennaf am fanylion.

Diwrnodau Gweithgareddau Archwilio Natur yn Sain Ffagan26 a 27 Gorffennaf, 2, 3, 6, 9,10, 15, 16, 17, 30 a 31 Awst, 11am-1pmDewch draw i’r guddfan adar i wylio adar y goedwig a dysgu sut i’w hadnabod.

2pm-4pm Gwyliwch yr ystlumod yn clwydo ar ein camera ystlumod byw a dysgwch fwy amdanyn nhw.

Dysgwch fwy am natur yn Sain Ffagan. Ewch i’r ffau

Noddir Oriel 1 yn garedig gan Gymdeithas Adeiladu’r Principality.

Dathlu Canmlwyddiant Pentref Model Oakdale25-28 Awst, 10am-5pm Penwythnos cyffrous yn llawn arddangosiadau treftadaeth, celf a chrefft a cherddoriaeth gan Fand Arian Oakdale, Côr Meibion Mynyddislwyn a’r Baroque Singers.

Hwyl Gwyl y Banc! 27-29 Awst, 10am-5pm Penwythnos llawn hwyl a gweithgareddau di-ben-draw ar gyfer y teulu gan gynnwys arddangosiad yr enwog Quack Pack!

Taith Gerdded a Chwis Ystlumod i’r Teulu 2 Medi, 7.30pm-9.30pmCymrwch ran mewn cwis ystlumod ac ymuno â thaith gyffrous o gwmpas yr Amgueddfa wedi iddi nosi i ganfod ystlumod. Oedolion £1.50 a phlant £1. Parcio am ddim. Rhaid archebu lle ymlaen llaw: (029) 2057 3466. Cwrdd wrth y Brif Fynedfa. Gwisgwch esgidiau addas a dewch â thortsh gyda chi

Clwb Cwiltio 3 Medi, 11am-12.30pmGweler 2 Gorffennaf am fanylion. Addas i oedran 16+. Rhaid archebu lle: (029) 2057 3424.

natur yn Oriel 1 i gasglu teithiau a phosau. Cefnogir gan Biffaward a Legal & General.

Crefft y Taner 29 Gorffennaf a 11 Awst, 11am-1pm a 2pm-4pm Y Taner Keith Francis yn disgrifio ac yn dangos sut oedd Tanerdy Rhaeadr yn troi crwyn anifeiliaid yn lledr, a sut mae’n gwneud esgidiau a gwahanol nwyddau lledr eraill.

Pysgota!30-31 Gorffennaf, 11am-1pm a 2pm-4pm O bysgota â phlu i bysgota rhwydi lâf, i drochu rhwydi a choginio pysgod – mae gwledd ar eich cyfer yn yr Amgueddfa dros y penwythnos bysgota gan gynnwys pencampwr castio’r byd Hywel Morgan!

Cert Celf: 1500-17001-31 Awst, 11am-1pm a 2pm-4pm Celf a chrefft i’r teulu yn ymateb i’r arddangosfa Creu Hanes cyffrous.

Siopa i’r Ddaear 2, 15, 16 a 17 Awst, 11am-1pm a 2pm-4pmDysgwch sut y gall newidiadau bychan i’ch siopa wythnosol wneud gwahaniaeth mawr i’r blaned. Faint o garbon yn union mae’n cymryd i fanana gyrraedd eich powlen ffrwythau? Sesiwn galw i mewn.

Arddangosfa Cerfwyr Coed Prydeinig 6-12 Awst, 10am-5pm Dewch i weld gwledd o waith coed a sgiliau yng nghyfarfod blynyddol y cerfwyr coed.

Creu Hanes Mewn Steil!10 a 17 Awst, 2pm-3pm

Taith dywys o gwmpas Castell Sain Ffagan gan ganolbwyntio ar arddull cyfnod 1500-1700. Cyfle i weld rhai o eitemau gorau’r Amgueddfa yng nghwmni’r curadur.

Pobl y Pentref – Noswyl y Frwydr13 a 14 Awst, 10am-5pm Ar noswyl brwydr Sain Ffagan, mae naws rhyfel yn yr aer. Dewch i wylio’r milwyr yn gosod eu gwersyll, siarad â’r pentrefwyr a’r crefftwyr i glywed eu safbwyntiau nhw, a byddwch yn barod am y digwyddiadau annisgwyl ym mhob cwr o’r safle.

Page 8: Amgueddfa Cymru - Digwyddiadau Gorffennaf -Hydref 2011

Brawdoliaeth y Seiri 3 Medi, 10am-5pm Bydd aelodau’r gymdeithas yn arddangos technegau gwaith coed traddodiadol megis naddu a fframio derwydd gwyrdd. Bydd cystadleuaeth taflu bwyell hefyd!

Tu Ôl i’r Llenni 3 Medi, 11am-12pm a 2pm-3pm Cyfle unigryw i gael taith o amgylch casgliadau tecstilau’r Amgueddfa gyda’r Curadur Elen Phillips. Nifer gyfyngedig o leoedd, rhaid cadw lle: (029) 2057 3424. Rhan o Agor Drysau: Diwrnodau Treftadaeth Ewropeaidd.

Gwyl Fwyd Sain Ffagan10-11 Medi, 10am-5pm O fwyd Cymreig traddodiadol i flaen y gad ym myd dulliau coginio, o seidr i samosas, ac o gwrw i gacennau cri – bydd rhywbeth yma at ddant pawb.

Blas y Gorffennol: Coginio yn Oes Harri’r VIII17 Medi, 11am-1pm a 2pm-4pmDewch i ymweld â thy hir Hendre’r Ywydd i weld ac arogli gardd lysiau Duduraidd tra bo swper ar y tân. Galwch mewn i fwynhau gwledd fydd yn swyno’ch synhwyrau.

Tu Ôl i’r Llenni24 Medi, 2pm-3pmCyfle prin i weld casgliad yr Amgueddfa o gadeiriau Eisteddfodau gyda’r Curadur Sioned Williams.

Nifer gyfyngedig o leoedd, rhaid cadw lle: (029) 2057 3424. Rhan o Agor Drysau: Diwrnodau Treftadaeth Ewropeaidd.

Gwasanaeth Diolchgarwch 25 Medi, 2pm-3pm Gwasanaeth Diolchgarwch Cymraeg yng Nghapel Pen-rhiw am 2pm gyda’r Parch. Ddr. R Alun Evans.

Fforio am Fwyd 1 Hydref, 11am-1pm a 2pm-4pm Mae’r hydref yn amser gwych i edrych am hadau ac eirin blasus. Galwch draw i ddysgu sut i’w hadnabod ac i roi cynnig ar rai ryseitiau.

The Big Draw 1 a 8 Hydref, 11am-1pm a 2pm-4pmCymrwch ran yn y digwyddiad cenedlaethol hwn drwy alw mewn i sesiwn llawn hwyl yn Oriel 1.

Fforio am Fwyd yn Sain Ffagan 2 Hydref, 10.30am-3.30pmCasglwch fwyd gwyllt tymhorol gyda’n harbenigwr, Michele Fitzsimmons. Mwynhewch daith gerdded hamddenol drwy dir yr Amgueddfa cyn dychwelyd i

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd 1413 Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd

Ty Gwyrdd i goginio a blasu helfa’r dydd. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn. Addas i oedrannau 12+. Rhaid archebu lle: (029) 2057 3424

Penwythnos Afalau 22-23 Hydref, 10am-4pm Dewch i’n sioe Afalau anhygoel yn yr Amgueddfa. Bydd cannoedd o wahanol fathau o afalau, gwneud sudd a seidr, blasu’r cynnyrch, afalau taffi a chaws!

Cert Celf: Calan Gaeaf 22-30 Hydref, 11am-1pm a 2pm-4pm Galwch mewn i’r sesiwn celf a chrefft ddychrynllyd yma.

Gwledd yr Hydref 27-30 Hydref, 11am-1pm a 2pm-4pm Dewch i weld y wledd o fwyd sydd ar gael yn ystod tymor yr hydref a chewch ryseitiau traddodiadol i fynd adre gyda chi hefyd. Sesiwn galw i mewn yn Ty Gwyrdd.

Teithiau Arswyd 28-30 Hydref Ymunwch â ni am awr o daith o amgylch yr amgueddfa ar adeg fwyaf brawychus y flwyddyn, cewch glywed hanesion iasol am Gymru.Bydd rhagor o wybodaeth, amseroedd a manylion archebu lle ar gael ar www.amgueddfacymru.ac.uk ddechrau mis Awst.

Sgwrs: Y Rhyfeloedd Cartref yng Nghymru30 Gorffennaf, 2pm-3pm Bydd Dr Charles Kightly yn trafod cefndir Brwydr Sain Ffagan, 1648.

Sgwrs: Trwydded i Greu Hanes 27 Awst, 2pm-3pm Sut ydyn ni’n adrodd straeon ac yn dewis pa eitemau i’w cynnwys yn arddangosfeydd yr Amgueddfa?

Sgwrs: Gwarchae a Dinistr: Castell Rhaglan yn y Rhyfel Cartref24 Medi, 2pm-3pm John Kenyon, yn trafod cefndir canoloesol diweddar/Tuduraidd/Jacobeaidd Castell Rhaglan, ac yn adrodd hanes y gwarchae a’r dinistr wedi hynny.

Sgwrs: Catrin o Ferain 29 Hydref, 1pm-2pm (Cymraeg); 2pm-3pm (Saesneg)Bydd Ken Brassil yn trafod bywyd a chariadon Catrin o Ferain.

Gofynnwch i’r Garddwr

Tocio coed eirin yn yr haf 14 Gorffennaf, 2pm-3pm Yn yr haf y dylech chi docio coed eirin. Galwch draw i ardd Llwyn-yr-Eos i ddysgu sut.

Llosgi’r Gwr Gwiail30 Hydref, 4pm

Byddai Prydeinwyr cynnar wedi llosgi cerflun anferth llawn pobl byw fel aberth i’w duwiau. Dewch i weld ein fersiwn ni fydd yn llawn papur newydd yn cael ei losgi ar Galan Gaeaf.

Cosb! 30 Hydref, 11am-1pm a 2pm-4pm Rydyn ni i gyd wedi clywed am y Tuduriaid trafferthus. Dewch i glywed y gwir a’r gau a gweld pa mor erchyll oedden nhw mewn gwirionedd. RHYBUDD: ddim yn addas i’r gwangalon!

Teithiau, Sgyrsiau a Chyngherddau

Sgwrs: Cwrlid Teiliwr Wrecsam 23 Gorffennaf, 2pm-3pm I ddathlu ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â Wrecsam, dewch i glywed am gwilt clytwaith gwych gan deiliwr o’r dref.

Gwaith tymhorol ar y gwinwydd17 Gorffennaf a 11 Medi, 2pm-3pm Dysgwch beth ddylech chi fod yn ei wneud i’r gwinwydd yn ystod misoedd yr haf mewn sesiwn alw draw yn ein gwinllan Edwardaidd.

Cynaeafu Tatws Treftadaeth14 Medi, 2pm-3pm Rydyn ni’n tyfu sawl hen fath o datws yn Sain Ffagan sydd ddim ar gael i’r cyhoedd bellach. Galwch draw i ardd Kennixton i weld rhai o’r tatws treftadaeth yn cael eu cynaeafu.

Cynaeafu Tatws Treftadaeth15 Medi, 2pm-3pmGalwch mewn i ardd y Prefab i weld cnwd eleni’n cael ei gynaeafu.

Addurno’r Capel 23 Medi, 11am-1pmGalwch draw i weld tîm y Gerddi yn addurno’r capel â blodau, ffrwythau a llysiau o erddi’r Amgueddfa, yn barod ar gyfer gwasanaeth diolchgarwch y Sul hwn.

Torri cloddiau12 Hydref, 2pm-3pm Dewch i Nant Wallter i weld cloddiau yn cael eu torri mewn dull traddodiadol.

amgueddfacymru.ac.uk

Page 9: Amgueddfa Cymru - Digwyddiadau Gorffennaf -Hydref 2011

Rhufeiniaid yn y Dre8-21 Awst, dydd Sadwrn 11am-4pm a dydd Sul 2pm-4pmDoes dim dal pa gymeriadau y dewch chi ar eu traws yn yr Amgueddfa… masnachwyr, doctoriaid neu filwyr hyd yn oed! Sgwrsiwch â nhw am eu bywydau a rhowch dro ar weithgareddau Rhufeinig.

Cyfrinachau’r Ardd Rufeinig22-29 Awst, dydd Sadwrn 11am-4pm a dydd Sul 2pm-4pmDewch i ymweld â’n gardd Rufeinig a throi eich llaw at lifo gwlân gan ddefnyddio llifyn naturiol a dysgu am berlysiau – sut maen nhw’n blasu? Ac ar gyfer beth oedden nhw’n cael eu defnyddio? £2 y plentyn.

Antur trwy’r Orielau30 Awst-4 Medi, dydd Llun-ddydd Sadwrn 10am-5pm a dydd Sul 2pm-5pm Dewch i fwynhau antur o gwmpas Oriel yr Amgueddfa – y diwedd perffaith i wyliau’r haf.

Gwallgof, Gwirion a Pheryglus iawn…24-28 Hydref, 11am-4pmCaesar, Nero… mae’r Ymerawdwyr Rhufeinig yn enwog, ond ddim bob amser am reswm da! Dysgwch ragor amdanynt yn ein gweithdy i’r teulu. £2 y plentyn.

Samhain31 Hydref, 6pm-8pmGemau, straeon a chystadleuaeth gwisg ffansi ar noson fwyaf arswydus y flwyddyn! Oedolion £2 a phlant £3. Rhaid archebu lle ymlaen llaw: (01633) 423134.

Arddangosfeydd

Castell? Pa gastell?Mai 2011-Ionawr 2012 Dydd Llun-dydd Sadwrn, 10am-5pm a dydd Sul 2pm-5pmAr un adeg, roedd Caerllion yn drefn Ganoloesol brysur – roedd ganddi gastell hefyd! Dewch i ddysgu mwy am y castell a’r bobl oedd yn byw ynddo.

Teithiau, Sgyrsiau a Chyngherddau

Rhyfeddodau’r Rhufeiniaid20 Gorffennaf, 6pm-8pmDrysau’n agor am 6pmDyma noson ysgafn o ddarganfod y gwir am bopeth Rhufeinig! Beth oedd gwir ddefnydd ‘vomitorium’? A beth yn y byd fyddech chi’n ei wneud â ‘garum’? Fe gewch chi’r atebion i’r cwestiynau hyn a llawer

Gweithgareddau i’r Teulu

Gladiator!2 a 3 Gorffennaf, 10am-5pmYmunwch â ni yng ngardd yr Amgueddfa wrth i’r gladiatoriaid gorau yng Nghaerllion baratoi i ymladd – dewiswch eich enillydd! Dysgwch sut oedd brwydrau rhwng gladiatoriaid yn dechrau, pa draddodiadau oedd ganddyn nhw, a chymryd rhan yn ein hysgol gladiatoriaid. Cewch siopa yn ein marchnad Rufeinig, gwylio crefftwyr wrth eu gwaith a bwyta yn nhafarn y Baedd Bodlon. Oedolion £3, plant £2 a phlant dan 5 am ddim. Bydd cost fechan ychwanegol am fwyd.

Gwyl Archaeoleg Prydain – Credoau16 ac 17 Gorffennaf Peintiadau Ogof23 a 24 Gorffennaf Ffresgos Rhufeinig30 ac 31 Gorffennaf Murluniau Canoloesol Dydd Sadwrn 11am-4pm a dydd Sul 2pm-4pmSut oedd pobl yn datgan eu credoau trwy luniau yn y gorffennol? Ymunwch â ni i ddysgu sut oedd pobl Cyn-hanesyddol, Rhufeinig a Chanoloesol yn gwneud hyn a rhowch dro ar greu eich celf eich hun.

Antur trwy’r Orielau23-31 Gorffennaf, dydd Llun-ddydd Sadwrn 10am-5pm a dydd Sul 2pm-5pm Dewch i fwynhau antur o gwmpas Oriel yr Amgueddfa – dechrau da i wyliau’r haf!

Llofruddiaeth Llwfr!1-6 Awst, gweithdai am 10.30am, 11.30am, 1.30pm a 2.30pm Ymunwch â heddlu SPQR i ddatgelu’r gwir – pwy yw’r llofrudd, a pham lladd y milwr? £2 y plentyn. Awgrymir archebu lle yn y gweithdai.

mwy, a dysgu digon o ffeithiau i syfrdanu’ch ffrindiau! Tocynnau £3.50. Addas i oedolion yn unig. Rhaid archebu lle ymlaen llaw: (01633) 423134.

Y Ddarlith Flynyddol23 Medi, 7pm-9pmByddai dinasyddion Rhufeinig wedi gorfod defnyddio modrwyau sêl i selio dogfennau swyddogol. Mae’r rhan fwyaf o’r gemau a ganfuwyd yng Nghaerllion wedi cwympo allan o fodrwyau lleng-filwyr wrth iddynt ymolchi yn y baddondai. Dengys y delweddau ar y modrwyau hyn lawer i ni am gredoau crefyddol bywyd milwrol a diddordebau personol y dynion. Casgliad Caerllion yw un o’r mwyaf o unrhyw safle ym Mhrydain ac mae o bwys rhyngwladol.

Y Parch. Dr Martin Henig, Athro Gwadd Anrhydeddus Sefydliad Archaeoleg, Coleg Prifysgol Llundain, yw awdur y gwaith safonol, A Corpus of Roman Engraved Gemstones from British Sites (1974. 3ydd argraffiad 2008) yn ogystal â chatalogau o’r gemau yng nghasgliadau Rhydychen a Chaergrawnt. Tocynnau £3.50. Addas i oedolion yn unig. Rhaid archebu lle ymlaen llaw: (01633) 423134.

15 Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion 16amgueddfacymru.ac.uk

Page 10: Amgueddfa Cymru - Digwyddiadau Gorffennaf -Hydref 2011

Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

17 Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon

CyngherddauCerddoriaeth ar y PatioRhai dyddiau Sul yn ystod Mehefin, Gorffennaf ac Awst, 2.30pmMwynhewch wledd o gerddoriaeth ar bnawn o haf tu allan i’r Baddondai Pen Pwll, gyda chefndir Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon, Safle Treftadaeth y Byd yn gefndir syfrdanol i’r sioe.

Cwmbran Brass12 Mehefin

CJ Singers26 Mehefin

Band Tref Blaenafon10 Gorffennaf

Band Arian Oakdale24 Gorffennaf

Band Llwydcoed21 Awst

Gweithgareddau i’r Teulu

Pythefnos y Glowyr – Halen y môr, tywod a llwch glo25 Gorffennaf-5 AwstGwyliau teuluol i Borthcawl a’r Barri oedd uchafbwyntiau’r haf i gymunedau’r meysydd glo. Dewch i rannu’ch atgofion o’r digwyddiadau hyn a helpwch ni i adrodd y straeon am y dyddiau a’r gwyliau hyn yn oes aur y pyllau glo. Mae gweithgareddau’n cynnwys sioe Punch a Judy, gweithgareddau celf ac adrodd storiau.

Taith Gerdded Natur Fin Nos29 Gorffennaf, 8.15pm-9.30pmEich cyfle chi i archwilio Tomen Coety a safleoedd Big Pit ar ôl i’r ymwelwyr fynd am adre. Ymunwch â’r arbenigwr ecolegol Steve Williams ar drywydd ystlumod, gwyfynnod a chreaduriaid eraill y nos.

Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon 18amgueddfacymru.ac.uk

Ditectifs y Tirlun3 ac 11 Awst, 10.30am-12.30pmEdrychwch ar y tirlun o gwmpas Big Pit a Thomen y Coety i ddod o hyd i gliwiau sy’n datgelu cyfrinachau am fyd natur ac ôl llaw dyn ar yr amgylchedd o’n cwmpas. Bydd y gweithgaredd yn cynnwys cipolwg ar fywyd y pwll dwr a ditectifs natur.

Mewn partneriaeth â Phartneriaeth Tirweddau Anghofiedig.

Cwrs Adnabod Planhigion y Rhostir 6 August, 10am-12pmDysgwch sut i adnabod planhigion cyffredin ac anghyffredin y rhostir gyda’r ecolegydd profiadol, Chris Hatch. Mae’r cwrs yn addas ar gyfer pawb o bob gallu a bydd yn cynnwys cymysgedd o arsylwi yn y maes ac adnabod gan ddefnyddio allweddi botanegol. Addas i oedran 7+. Rhaid archebu lle ymlaen llaw: (01495) 742 333. Mewn partneriaeth â PhartneriaethTirweddau Anghofiedig.

Lansio Llinell Gangen Rheilffordd Pontypwl a Blaenafon i Big Pit17 a 18 MediYmunwch â ni i ddathlu lansiad y llinell gangen i Big Pit. Bydd ffotograffau o gasgliad Amgueddfa Cymru i’w gweld, a bydd cyfle prin i ddod i adnabod ein locomotif, Nora, a fu’n perthyn i’r Blaenavon Company ar un adeg.

Rhan o Agor Drysau: Diwrnodau Treftadaeth Ewropeaidd.

Cadwraeth Pwll Dwr26 Hydref, 10am-1pmDewch i ddysgu mwy am y gwahanol greaduriaid a phlanhigion sy’n byw ym mhwll dwr Tomen y Coety. Ymunwch â gwirfoddolwyr ar gyfer gweithgaredd cadwraeth ymarferol fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r amgylchedd a’r dirwedd. Addas i oedran 11+.Mewn partneriaeth â PhartneriaethTirweddau Anghofiedig.

Sgyrsiau a Ffilmiau

Cyfres Ddarlithoedd yr Hydref: Rheilffyrdd Pyllau Glo De Cymru yn y 1960au17 Medi, 2.30pmGan Brian Davies, Amgueddfa Pontypridd.

Caethwas Ffoedig yng Nghaerdydd: Hanes William A. Hall a Gwrthgaethwasiaeth Gymreig 1861-6515 Hydref, 2.30pmDr David Wyatt, Prifysgol Caerdydd yn trafod ei waith ymchwil.

It’s Still Ruck and Coal to Me!12 Tachwedd, 2.30pmGarin Jenkins, darlledydd a chyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol yn siarad am ei fywyd fel y glowr olaf i chwarae rygbi i Gymru.

Clwb Ffilmiau Big Pit21 Medi, 1.30pmCyfle i weld clasur Cymreig o’r archif, a chyfle wedi’r ffilm i drafod y themâu a’r materion a godir. £1.50 y pen – gan gynnwys lluniaeth. I gael manylion y ffilm, ewch i’r wefan neu ffoniwch (01495) 790311.

ArddangosfaTraed Mewn Cyffion19 Medi-25 TachweddMae’r arddangosfa hon yn edrych ar Gymru a Chaethwasiaeth, ddoe a heddiw. Gan ganolbwyntio ar gefnogwyr a gwrthwynebwyr Cymreig caethwasiaeth trawsatlantig, mae hefyd yn tynnu sylw at faterion eraill gan gynnwys hawliau dynol a masnach deg, ac yn esbonio ôl caethwasiaeth ar gerddoriaeth a diwylliant heddiw.

Page 11: Amgueddfa Cymru - Digwyddiadau Gorffennaf -Hydref 2011

Amgueddfa Wlân Cymru

19 Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre 20amgueddfacymru.ac.uk

Gweithgareddau i’r Teulu

Gweithdai ffeltio26 Gorffennaf, 9 ac 16 Awst, 10.30am-11.30am a 2.30pm-3.30pmYdych chi erioed wedi bod eisiau trio ffeltio? Wel, dyma’ch cyfle! Addas i blant ac oedolion. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn. £3 y pen.

Gweithgareddau Cert Celf yr HafDrwy gydol y gwyliau ysgol, 10am-4pmCrefftau creadigol yn ein cert celf ar gyfer y gwyliau.

Yn Troelli17 Medi, 10am-3pmDiwrnod yng nghwmni Les Bryan a throellwyr, gwehyddwyr a lliwyddion lleol a chyfle i drio a phrynu eitemau o wlân wedi’u gwneud gan fasnachwyr a chrefftwyr lleol.

Gwyl Fwyd1 Hydref, 10am-3pmGwyl Fwyd i ddathlu cynnyrch lleol a’r cynhaeaf gyda chogydd enwog S4C, Gareth Richards. Bydd cystadlaethau i ysgolion lleol.

Arddangosfeydd

Arddangosfa o waith yr artist Julia Griffiths Jones10am-5pm

Troellau Nyddu Les Bryan, Picus Crafts 3-24 Medi Arddangosfa o gasgliad o droellau nyddu o eiddo gan Les Bryan, crefftwr lleol.

Teithiau, Sgyrsiau a Chyngherddau

Teithiau Tywys drwy’r Pentref22 Gorffennaf, 5 Awst a 12 Awst, 10.30am Taith gerdded o amgylch Dre-fach Felindre basio hen felinau gwlân a thirnodau hanesyddol eraill y diwydiant gwlân. Dewch â chinio gyda chi, a dillad ac esgidiau addas. Dim cwn. Awgrymir archebu lle ymlaen llaw. Tua 5 milltir yw hyd y daith a bydd yn cymryd tua 5 awr.

Clwb Gweu Dydd Mawrth cyntaf a thrydydd bob mis, 2pmDewch i weu gyda grwp yr Amgueddfa.

Troellwyr Caerfyrddin a Throellwyr Ceredigion, Gwehyddion a Lliwyddion Bob yn ail ddydd Mercher bob mis, 10.30am-3pmCyfle i weld y grwp yn arddangos eu sgiliau.

Grwp Carpedu Clytiau Dydd Sadwrn cyntaf a thrydydd bob mis, 2pmCyfle i weld y grwp yn arddangos eu sgiliau.

GweithgareddauDyddiol

Llwybr y Pentref10am-4.30pmDilynwch y llwybr a datgloi cyfrinachau gwlân Dre-fach.

Y Stori Wlanog10am-4pmTaith hwyliog ac addysgiadol i deuluoedd fydd yn gymorth i ddeall y broses o Ddafad i Ddefnydd.

Teithiau Tywys10am-4.30pmCysylltwch â’r Amgueddfa am fanylion: (01559) 370929.

Page 12: Amgueddfa Cymru - Digwyddiadau Gorffennaf -Hydref 2011

Amgueddfa Lechi Cymru

21 Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis

Gweithgareddau

Dewch i fwynhau un o’n teithiau cerdded, sgyrsiau neu arddangosiadau! Cewch weld llechen yn cael ei hollti, dysgu pam oedd coed yn bwysig yn hanes llechi a chwrdd ag injan y chwarel, UNA!

Am ragor o wybodaeth am sgyrsiau ac arddangosiadau eraill, ewch i wefan yr Amgueddfa.

Patrymau Perffaith30 Mehefin, 28 Gorffennaf, 25 Awst, 29 Medi a 27 Hydref, 1pm-3pmGallai’r gwneuthurwyr patrymau gynhyrchu patrwm pren ar gyfer unrhyw wrthrych metel oedd ei angen ar y gweithdai neu’r chwarel – o olwynion wagenni i rannau injan stêm! Mae miloedd yn ein casgliad!

Dewch i ddarganfod y byd tu ôl i’r llenni gyda’n Curadur yn y storfa patrymau pren newydd!

Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis 22amgueddfacymru.ac.uk

De Winton of Caernarfon25 Mehefin, 1pm-4pmYmunwch â ni i ddathlu lansiad llyfr newydd De Winton of Caernarfon – Engineers of Excellence, y cofnod trwyadl cyntaf o hanes cwmni De Winton, un o ffowndrïau mawr a pheirianwyr gorau Gogledd Cymru! Hefyd, peidiwch â cholli’r cyfle i weld un o’u peiriannau enwocaf sydd wedi goroesi – y locomotif eiconig ‘Chaloner’ ochr yn ochr â’n locomotif arbennig ni, ‘Una’. Gweithiodd y ddau drên y rhan fwyaf o’u gyrfaoedd yn Chwarel Pen-yr-Orsedd.

Pen-blwydd Hapus yn 40 oed17 Awst, 1pm-3pmYn 2012, bydd Amgueddfa Lechi Cymru yn dathlu ei phen-blwydd yn 40! Dewch i ddathlu gyda ni yn ein diwrnod agored – hoffem ni glywed eich straeon, neu weld unrhyw gofroddion rydych chi wedi’u casglu, ers ei hagor ym 1972!

Arddangosfeydd

Streic a Therfysg!Tan 30 Medi, 10am-4pmBeth sy’n achosi i ddynion wrthod gweithio a phenderfynu streicio? Pam fod rhai pobl yn troi at drais er mwyn cyrraedd y nod? Gwrthdaro, drama, safbwyntiau cryf a dadleuon grymus! O Ferched Beca i Borth y Lofa, dewch i gael golwg manylach ar gyfnodau cythryblus yn hanes diwydiannol Cymru yn yr arddangosfa newydd hon!

Helfa Gelf3, 4, 10 ac 11 MediDewch i weld gwaith yr artist lleol Vivienne Rickman Poole yn yr Amgueddfa fel rhan o Helfa Gelf Gogledd Cymru.

Digwyddiadau

Haf o Lechen 25 Gorffennaf-29 Awst, 12pm-4pm

Yr haf hwn, beth am alw draw i’n gweithdai gwych o fyd y llechi? Cewch addurno llechen, lliwio’ch llinell amser ddaearegol eich hun, tanio’ch creadigrwydd gyda’r Cert Celf, rhoi tro ar wneud patrymau perffaith ym mhwll tywod y ffowndri neu wisgo ffasiynau’r oes a fu yn nhai’r chwarelwyr. Bydd rhywbeth at ddant pawb!

Crefftau plant £1 y pen.

Straeon Arswydus! 26 Hydref, 7pm-9pmDewch i glywed straeon ysbryd lleol yr ardal, ac un neu ddau am yr Amgueddfa hefyd! Addas i oedolion yn unig. Rhaid archebu lle ymlaen llaw: (01286) 873707 £5 y pen (gan gynnwys lluniaeth).

Taith Calan Gaeaf 27-31 Hydref, 10am-4pmYdych chi’n ddigon dewr i ddilyn llwybr Calan Gaeaf o amgylch yr Amgueddfa? Faint o ystlumod allwch chi weld yno?

Graffiti Gwych! 27 ac 28 Hydref, 11am-1pm a 2pm-4pmRoedd graffiti’n boblogaidd yn niwydiant y chwareli. Byddai’r chwarelwyr yn gadael eu hôl ar y llechi a’r waliau o’u cwmpas. Dewch i weld Andy DIME ONE Birch – artist graffiti heb ei ail – wrth iddo greu wal graffiti yn yr Amgueddfa ac ysgrifennu’ch enw mewn arddull graffiti ar lechen i fynd adre gyda chi.

Bydd cost fechan am y llechi.

Page 13: Amgueddfa Cymru - Digwyddiadau Gorffennaf -Hydref 2011

Addurno’ch Esgidiau Glaw!30 ac 31 Gorffennaf, 12pm a 2.30pmWedi cael digon ar hen welis di-liw? Wel, dilynwch esiampl y Fonesig Shirley Bassey a’u haddurno! Dewch â’ch esgidiau glaw gyda chi a byddwn ni’n darparu gemau, paent ac ategolion i’w gweddnewid. Awgrymir archebu lle: (01792) 638950.

Penwythnos y Môr-ladron6 a 7 Awst, 11am-4pmHwyliwch draw i fwynhau antur gyda’r môr-ladron! Bydd digonedd i’w wneud gan gynnwys helfeydd trysor hynod, cartwnau cythryblus, adrodd straeon anturus, paentio wynebau a chlymau morol.

Addas i bawb

Locomotif Stêm Penydarren3 Gorffennaf a 4 Medi, 12pm-3.30pmDewch i weld copi o locomotif stêm cyntaf y byd wrth i ni danio ei hinjan a’i gyrru lawr y cledrau. Yn dibynnu ar y tywydd.

Y Glec Fawr – Cymru12 Gorffennaf, 10am-12.30pmI greu brwdfrydedd, addysgu ac ysbrydoli pobl ifanc i astudio gwyddoniaeth, mathemateg, technoleg a pheirianneg, mae’r Glec Fawr yn arddangos projectau blaengar o bob cwr o Gymru. Dewch i fwynhau’r ffrwydriad!

Dyddiau Dawnsio16 ac 17 Gorffennaf, 11am-4pmDaw arddulliau cyfoes a rhythmau’r gorffennol at ei gilydd eleni wrth i’r wyl gynnwys ystod ehangach nag erioed o ddawnsfeydd.

Trefnwyd gan Ganolfan y Celfyddydau Taliesin

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

23 Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe 24amgueddfacymru.ac.uk

Hawlfraint Jason Bryant (2007)

taliesinartscentre.co.uk/dancedays. Rhan o rwydwaith byd-eang o wyliau dawns mewn mannau trefol.

Gwneud rhaff6-14 Awst, 12pm-3.30pmRhowch dro ar gopi o beiriant o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg sy’n troelli edafedd hir yn llinyn perffaith!

Smeltio copr20 ac 21 Awst, 11am-4pmArchaeoleg arbrofol ar ei orau! Cewch weld copr yn cael ei smeltio o flaen eich llygaid gan ddefnyddio ail-greadau o ffwrneisi hynafol dechrau’r cyfnod metel yng Nghymru. Gallwch chi hefyd ddod â’ch trysorau gyda chi i gael eu hadnabod. Peidiwch â cholli’r penwythnos cyffrous hwn gan gwmni Ancient Arts.

Trydanu copr! 20 Awst, 12pm, 1pm a 2pmArddangosiad diddorol addas i’r teulu cyfan sy’n dangos egwyddorion electroplatio copr a Chelloedd Daniel. Gydag Ian Mabbett, Ymchwil Defnyddiau, Prifysgol Abertawe.

Diwrnod Parti’r Byd 27 Awst, 1pm-6pm

Diwrnod o gerddoriaeth y byd gydag adloniant prif lwyfan gwych ac atyniadau ar thema’r byd. Trefnir gan Dinas a Sir Abertawe: gwylbaeabertawe.com

Diwrnod Rheilffyrdd Model a Stêm 4 Medi, 10.30am-4pmPrynhawn llawn hwyl a stêm y trenau. Gan gynnwys rheilffyrdd model, gweithgareddau ymarferol i blant, hwyl cartwn Ivor the Engine, gwybodaeth am gadwraeth rheilffyrdd Cymru a chyfle i weld copi o Locomotif Stêm Penydarren ar ei hynt.

Cyfnewidfa Lyfrau a Cherddoriaeth 1 ac 2 Hydref, 11am-4pmGwrandewch ar gerddoriaeth, dysgwch gân newydd neu swopiwch eich llyfrau a’ch cerddoriaeth! Mwynhewch benwythnos o berfformiadau cerddorol a’r cyfle i gyfnewid eich llyfrau a’ch cerddoriaeth ddiangen am gasgliad gwahanol. Mae’r

eitemau y gellir eu cyfnewid yn cynnwys llyfrau (mewn cyflwr da, darllenadwy) crynoddisgiau, recordiau a cherddoriaeth ddalen. Bydd system docynnau eitem am eitem yn ei lle. Trefnir ar y cyd ag Oxfam ac Abertawe: Dinas Noddfa.

Dawnsio Dandiya 14 Hydref, 7pmMae’r wyl Dussehra Hindwaidd hon yn dynodi buddugoliaeth y da dros y drwg, a ddethlir gyda dawns brennau gylchog. Ymunwch â’r dathliadau gyda’r ddawnswraig Kathac Indiaidd proffesiynol, Sarita Sood. Oedolion £2, plant £1.

Diwrnod Dathlu Hanes Pobl Dduon 15 Hydref, 11am-4pmDiwrnod llawn hwyl i’r teulu gyda chelf, crefftau a pherfformiadau o bedwar ban. Trefnwyd ar y cyd â Grwp Partneriaeth Affrica.

Hwyl i’r Teulu!Parti Awyrennau Papur!9 a 10 Gorffennaf, 11.30am-3pmGan fod Sioe Awyr Genedlaethol Cymru’r penwythnos hon, rydyn ni’n barod i blygu’n hawyrennau papur! Gan ddechrau gyda model syml, cewch ddarganfod sut i wneud awyren bapur gyflymach a mwy lliwgar.

Sut i greu cwmwl mewn pot jam13 a 14 Awst, 12pm a 2.30pmYmunwch â’r gweithdy tywydd i ddysgu pethau gwych am dywydd newidiol Cymru. Delfrydol i blant 7-11. Awgrymir archebu lle: (01792) 638950.

Gweithdai Gwyddoniaeth Copr Creadigol18-20 a 25-27 Awst, 11.30am a 1.30pmCymrwch ran mewn arbrofion ymarferol i archwilio crisialau, dargludedd a chylchedau a dysgu am nodweddion diddorol copr. Delfrydol i blant 7-11. Awgrymir archebu lle: (01792) 638950.

Crefft Crynoddisgiau1 ac 2 Hydref, 12.30pm-3.30pmDewch i ddarganfod ffyrdd creadigol o ddefnyddio hen grynoddisgiau.

Crefftau Ailgylchu Affricanaidd8 a 9 Hydref, 12.30pm-3.30pmI ddathlu Mis Hanes Pobl Dduon, dewch i greu crefftau wedi’u hysbrydoli gan Affrica o ddeunyddiau bob dydd fyddai fel arfer yn cael mynd gyda’r sbwriel.

Page 14: Amgueddfa Cymru - Digwyddiadau Gorffennaf -Hydref 2011

Garlantau Diwali22 a 23 Hydref, 12pm-4pmDewch i greu garlant blodau prydferth i ddathlu Diwali, gwyl Hindwaidd y golau.

Mynd â Mynydd Adre Gyda Chi!22-28 Hydref, 12pm a 2.30pmGan gymryd ysbrydoliaeth o’r model dalgylch afon enfawr yn y brif neuadd, dysgwch am nodweddion map a thirwedd a gwnewch fodel o fynydd i fynd adre gyda chi. Delfrydol i blant 7-11. Awgrymir archebu lle: (01792) 638950.

Darluniau Mawr o Fwystfilod Bach 29 a 30 Hydref, 12pm-4pmYn barod ar gyfer Calan Gaeaf, byddwn yn arddangos rhai o sbesimenau chwilod mwyaf arswydus a llithrig yr Amgueddfa! Ymunwch â’n hartist i ddefnyddio chwyddwydrau a microsgopau i ddarlunio’r creaduriaid diddorol hyn ar raddfa fawr. I ddathlu’r Ymgyrch Genedlaethol dros Ddarlunio.

Digwyddiadau Rheolaidd

Plantos y Glannau10.30am-12.30pm a 1.30pm-3.30pmSesiynau chwarae a dysgu thematig ar gyfer plant rhwng 18 mis a 5 mlwydd oed mewn oriel ysbrydoledig. Sesiynau galw i mewn a ddarperir gan Holibods.

Y Tywydd29 Gorffennaf

Môr-ladron26 Awst

Copr30 Medi

Nentydd ac Afonydd28 Hydref

Gwneud a Thrwsio 1.30pmGweithdai ailgylchu misol i oedolion. Twriwch trwy fasgedi o hen betheuach a’u troi’n rhywbeth newydd a gwahanol. Croeso i ymwelwyr o bob gallu. Delfrydol i oedolion (oed 16+), £3 y pen. Awgrymir archebu lle: (01792) 638950.

Byw yn yr Awyr Agored 2 GorffennafMwynhewch sesiwn ar thema’r awyr agored – cewch ddysgu sut i weddnewid eich gardd gydag amrywiaeth o grefftau eco gan gynnwys gwneud baneri bach o hen ddefnyddiau, llusernau canhwyllau bach o duniau tyllog, cerrig wedi’u paentio ar gyfer eich gwelyâu blodau neu’r patio, neu fwydydd adar o hen gwpan a soser.

Weiar 6 AwstGan gymryd ysbrydoliaeth o’r arddangosfa ar gopr, cyfle i ddefnyddio gwahanol fathau o weiar i greu darnau hardd ar gyfer y cartref. Mae syniadau’n cynnwys cewyll adar addurnol, gemwaith weiar a basgedi wyau weiar ar gyfer y gegin wedi’u gwneud o hen gambrenni cotiau.

Y Traeth 3 MediGweddnewidiwch ystod o froc môr yn wrthrychau er enghraifft clipiau gwallt o gregyn, torch o gregyn, arwyddion broc môr wedi’u paentio â llaw neu fan cadw allweddi. Dewch â’ch broc môr eich hun gan gynnwys pren, cregyn ac ati.

Mosäig 1 Hydref Twriwch trwy ein detholiad o hen emwaith a llestri i greu campweithiau mosäig y byddai’r Hen Rufeiniaid wedi bod yn falch ohonynt. Byddwn ni hefyd yn gosod darnau o lestri sydd wedi torri/gwrthrychau bach mewn plastr Paris i greu set o fatiau diod.

Taith Iaith 9 Gorffennaf, 13 Awst, 10 Medi ac 8 Hydref, 10.30amYdych chi’n dysgu Cymraeg? Dewch i ymarfer eich sgiliau gyda thaith Cymraeg o gwmpas yr orielau a phaned o de am ddim ar y diwedd.

Ffair Grefftau Bae Abertawe 2 a 3 Gorffennaf a 3 a 4 Medi, 10am-4pmCymysgedd o grefftau lleol, modern a thraddodiadol. Y lle delfrydol i brynu anrheg i chi neu i rywun arall.

Dangos Ffilmiau yn yr Oriel

Muppet Treasure Island (U, 1996)7 Awst, 2.30pmHwyl a sbri ar y lli gyda Kermit, Miss Piggy a gweddill y criw hoff yn yr antur hon a ysbrydolwyd gan glasur morwrol Robert Louis Stevenson.

Life is Beautiful (PG, 1999)9 Hydref, 2.30pmYn yr Eidal yn y 1930au, mae Guido, Iddew o berchennog siop lyfrau, yn cychwyn bywyd delfrydol drwy briodi menyw hyfryd o ddinas gyfagos. Mae’r pâr a’u mab yn byw’n hapus gyda’i gilydd tan i fyddin yr Almaen feddiannu’r Eidal. Yn ei ymdrech i geisio cadw’i deulu gyda’i gilydd a helpu ei fab i oresgyn erchyllterau gwersyll crynhoi Iddewig, dychmyga Guido mai gêm yw’r Holocost ac mai tanc yw’r wobr fawr am ennill.

Delfrydol i oedolion

Diwrnod astudio Celf Weledol a’r Diwydiant Copr23 a 24 Gorffennaf, 11am-4pmArchwiliwch arddangosfa’r Golden Venture gyda Jill Randall. Yr arddangosfa yw ffrwyth ei chyfnod preswyl tair blynedd yng ngwaith copr Mynydd Parys, Sir Fôn. Rhennir y diwrnod yn ddwy ran: yn y bore, bydd taith o gwmpas yr arddangosfa yng nghwmni’r artist a darlith â lluniau, ac yn y prynhawn bydd cyfle i greu eich gwaith celf eich hun mewn gweithdy ymarferol gan ddefnyddio copr fel deunydd cerflunio. Darperir yr holl ddeunyddiau. Does dim angen profiad celfyddydol. Awgrymir cadw lle: (01792) 638950.

Cwrs blas ar ffotograffiaeth SLR ddigidol3, 10 ac 17 Medi, 10.30am-1pmCwrs tair-wythnos ar gyfer y rheini sydd wedi cymryd cam mwy difrifol i fyd ffotograffiaeth drwy brynu camera SLR digidol. Bydd y cwrs yn trafod hanfodion ffotograffiaeth yn ogystal â’r rheolyddion a gosodiadau creadigol ar gamera SLR digidol. Dewch â’ch camera SLR digidol gyda chi, ac mae’r rheini sy’n cofrestru’n

25 Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe 26amgueddfacymru.ac.uk

Page 15: Amgueddfa Cymru - Digwyddiadau Gorffennaf -Hydref 2011

ymrwymo i fynychu’r tair sesiwn. Delfrydol i oedolion, £30 y pen. Rhaid archebu lle: (01792) 638950.

Noson ‘Pwy yw’r Llofrudd?’23 Medi, 7pmEisteddwch yn gyffyrddus i fwynhau noson o ddirgelwch, tyndra a llofruddiaeth – sioe ddirgel llawn hwyl a chabare sy’n siwr o’ch diddanu. Dan ofal Murder on the Menu – darparwyr nosweithiau dirgel ar yr Orient Express uchel eu bri mewn partneriaeth â Digby Trout Restaurants. £35 y pen (y pris i gynnwys swper tri chwrs a diod wrth gyrraedd). Rhaid archebu lle: (01792) 638950.

Sgyrsiau a Theithiau

Hanes Lleol yn Fyw3 Gorffennaf, 11am-4pmDiwrnod llawn sgyrsiau a chyflwyniadau i’ch helpu chi i ddysgu mwy am hanes lleol. Trefnwyd gan Gymdeithas Hanesyddol Abertawe.

Tylciau Moch a Pharadwys29 Gorffennaf, 4pmSgwrs gan Liz Pitman o Gymdeithas Hanesyddol Abertawe am y Dyddiadurwyr Benywaidd a’r Daith o Amgylch Cymru, 1795-1860.

Taith Gopr – Yr Ochr Ddwyreiniol6 Awst, 11amTaith o weddillion diddorol gwaith copr y White Rock ar lannau gorllewinol yr Afon Tawe gyda’r hanesydd lleol, Gerald Gabb. Man cyfarfod: mynedfa Parcio a Theithio Glandwr. Nodyn pwysig: dewch yn barod ar gyfer yr awyr agored. Gwisgwch esgidiau cadarn a chofiwch y gall fod yn wlyb, yn llithrig dan draed ac y gall y ddaear fod yn anwastad mewn nifer o lefydd. O gymryd rhan yn y daith, rydych chi’n gwneud hynny ar eich risg eich hun. Y gobaith yw parhau â’r daith hyd yn oes os na fydd y tywydd yn ffafriol, ond os nad ydych yn siwr, cysylltwch â’r Amgueddfa. Awgrymir archebu lle: (01792) 638950.

Taith Gopr – Yr Ochr Orllewinol20 Awst, 11amTaith o amgylch gweithiau copr yr Hafod a’r Morfa ar lannau gorllewinol yr Afon Tawe gyda Dr Edith Evans, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent. Gweler Awst 6 am fanylion. Awgrymir archebu lle: (01792) 638950.

Y Vivians: Sylfaenwyr yr Abertawe Fodern10 Medi, 11amDewch i ddarganfod dyled y ddinas i’r Vivians – gwneuthurwyr copr roddodd help llaw i’r Abertawe fodern. Gyda’r Athro Ralph Griffiths, Prifysgol Abertawe.

I Chile ac yn ôl: casglu Mwyn Copr17 Medi, 11amTaith Syr William Reardon Smith ar long mwyn copr ym 1872. Gyda Dr David Jenkins, Uwch Guradur Morwrol, Amgueddfa Cymru.

Agor Drysau17 Medi, 12.30pm a 2.30pmYmunwch â’r daith fer hon i gael golwg fanylach ar ddyluniad adeilad uchel ei bri’r Amgueddfa a ddyluniwyd gan y penseiri Willinson Eyre. Dan arweiniad Steph Mastoris, Pennaeth yr Amgueddfa.

Rhan o Agor Drysau: Diwrnodau Treftadaeth Ewropeaidd.

Dan Ddaear: Archwilio Mwynfeydd Copr Cymru24 Medi, 11amFfotograffau tanddaearol aruthrol o’r cyfoeth o weddillion archaeolegol diwydiannol sydd i’w cael ym mwynfeydd copr, plwm a sinc Cymru. Gyda Robert Protheroe-Jones, Curadur, Amgueddfa Cymru.

Ceiniogau o’r Copr1 Hydref, 11amHanes cryno copr fel y trydydd metel ar gyfer ceiniogau, o’r Hen Roegiaid i’r Rhufeiniaid hyd heddiw. Gydag Edward Besly, Ceidwad Niwmismateg, Amgueddfa Cymru.

Pwdin Stêm, Hufen Iâ a Gwydr Mân2 Hydref, 2.30pmStori chwerw-felys, o ddiwylliant caffi cynnar De Cymru, i gaethiwed yr Ail Ryfel Byd i drasiedi’r Arandora Star. Sgwrs â lluniau gan David Evans o Gronfa Goffa’r Arandora Star yng Nghymru www.arandorastarwales.us

Daeareg a Mwynoleg Mwynfeydd Copr Hanesyddol Cymru8 Hydref, 11amGolwg ar ddaeareg a mwynoleg y prif ddyddodion copr sydd wedi’i mwyngloddio yng Nghymru a chymhariaeth â dulliau mwyngloddio modern. Gyda Tom Cotterell, Curadur, Amgueddfa Cymru.

Copr Abertawe a Chaethwasiaeth yr Iwerydd15 Hydref, 11amRoedd twf diwydiant copr Abertawe ddechrau’r ddeunawfed ganrif yn cyd-fynd â rheolaeth gynyddol y marsiandwyr Prydeinig o ddiwydiant gaethwasiaeth yr Iwerydd. Oedd y ddau beth yn mynd law yn llaw? Bydd Chris Evans, Prifysgol Morgannwg yn trafod y cwestiwn mewn darlith sy’n cwmpasu allforio gwrthrychau copr Cymreig i Orllewin Affrica yn y 1720au, i’r defnydd o gaethweision yn Cuba i gloddio am fwyn copr ar gyfer smeltwyr Abertawe yn y 1830au.

Etifeddiaeth Patti17 Hydref, 7.30pmSimon Rees, Dramodydd, Opera Cenedlaethol Cymru, yn archwilio gyrfa a recordiadau’r gantores Fictoraidd enwog a’i chysylltiadau ag ardal Abertawe. Bydd hefyd yn datgelu cysylltiadau diddorol â’n harddangosfa Wales Breaks Its Silence…From Memories To Memorial am hanes trasig yr SS Arandora Star. Mae’r digwyddiad yn rhan o Wyl Gerdd a Chelfyddydol Abertawe.

Yr Eidal trwy lygaid Terry Clarke23 Hydref, 2.30pmBydd y canwr-gyfansoddwr talentog Terry Clarke yn rhannu ei hoff bethau cerddorol gan dynnu sylw at ddylanwad yr Eidal. Dan ddylanwad enwogion fel Frankie Valli, Bobby Darin a Sinatra, bydd yn noson bersonol fydd yn cynnwys ei gyfansoddiadau ei hun.

Arddangosfeydd

Ffasau Glo a ChoprTan 29 Awst, 10am-5pmAc yntau’n feistr copr yn y 1830au, bu William Logan yn llunio mapiau manwl o ffasau glo lleol ac fe’u defnyddiwyd ar gyfer y map Arolwg Daearegol cyntaf yng Nghymru. Mae’r arddangosfa hon yn cymharu’r mapiau hyn â’r map daearegol diweddaraf o Abertawe gan Arolwg Daearegol Prydain.

Byd Copr Cymru2 Gorffennaf-16 Hydref, 10am-5pmDewch i ddarganfod mwy am y cysylltiadau byd-eang a ffurfiwyd pan oedd copr Cymru’n deyrn – o Sir Fôn i Gernyw, ac o Chile i bedwar ban byd. Bydd yr arddangosfa’n edrych ar y diwydiant, y metel, y bobl a’r etifeddiaeth.

27 Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe 28amgueddfacymru.ac.uk

Page 16: Amgueddfa Cymru - Digwyddiadau Gorffennaf -Hydref 2011

Gweithio gydag Eraill‘Golden Venture’ Cyfnod Preswyl Artist yng Ngwaith Copr Mynydd Parys2 Gorffennaf-18 Medi, 10am-5pmMae’r artist Jill Randall wedi bod yn gweithio am sawl blwyddyn yn hen weithiau copr Mynydd Parys yn Sir Fôn. Mae hi wedi defnyddio’r mwynau a’r dwr dan ddaear i staenio darnau enfawr o bapur, gan greu delweddau haniaethol i fapio’r gweithiau tanddaearol mewn lliwiau cyfoethog. Gyda chymorth Prifysgol Salford.

Wales Breaks Its Silence… From Memories To Memorial 24 Medi-30 Hydref, 10am-5pmHanes trasig yr SS Arandora Star, gafodd ei suddo yn ystod yr Ail Ryfel Byd wrth gario carcharorion tramor i Ganada. Roedd llawer o’r rheini a gollwyd o deuluoedd Eidalaidd Cymreig. Cafodd yr arddangosfa hon ei chreu gan Gronfa Goffa’r Arandora Star yng Nghymru sy’n gweithio i goffau’r stori anghofiedig hon a’r 805 o fywydau a gollwyd.

Oriel Tirluniau, Oriel y Parc – Hanesion yr Heli: Uwchben, Islaw a Thu Hwnt i’r Llanw Yn agor 16 Ebrill 2011Arddangosfa sy’n cynnwys gweithiau celf pwysig o’r hanesyddol i’r cyfoes gan gynnwys casgliad anhygoel Amgueddfa Cymru o greaduriaid môr gwydr Blaschka. Mae Oriel y Parc hefyd yn gartref parhaol i waith celf Graham Sutherland, yr artist o’r ugeinfed ganrif gafodd ei ysbrydoli cymaint gan dirwedd a diwylliant Sir Benfro. Mynediad am ddim, ac mae’r adeilad yn gwbl hygyrch. Am wybodaeth am ddigwyddiadau, ewch i wefan Oriel y Parc: www.pembrokeshirecoast.org.uk. Ar agor 9.30am hyd at 5.30pm bob dydd (rhwng 1 Mawrth a 1 Hydref) a 10am hyd at 4.30pm (rhwng Tachwedd a Chwefror).

Mae Amgueddfa Cymru yn falch o’i hymrwymiad i sicrhau mynediad mor eang â phosib i’r casgliadau cenedlaethol.

Felly rydym ni wedi datblygu dau gynllun partneriaeth yn arbennig ar gyfer amgueddfeydd ac orielau lleol Cymru: Cyfoeth Cymru Gyfan a Celf Cymru Gyfan.

Yn ogystal â chynlluniau Cyfoeth Cymru Gyfan a Chelf Cymru Gyfan, rydym ni’n cydweithio’n agos mewn ffyrdd eraill gyda phartneriaid rhanbarthol allweddol trwy Gymru gan gynnwys Oriel y Parc, oriel Awdurdod Parc Arfordirol Cenedlaethol Sir Benfro; Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Stori Caerdydd.

Rydym ni’n parhau i feithrin perthnasau gyda lleoliadau a sefydliadau yng Nghymru a thu hwnt, sy’n adeiladu ar y polisi hirdymor o roi benthyg i sefydliadau eraill ac ar y profiad o weithio mewn partneriaeth. Er enghraifft, mae projectau partneriaeth a chyfnewid gydag amgueddfeydd cenedlaethol tu hwnt i Gymru wedi arwain at rannu strategaethau curadurol yn ogystal ag ehangu mynediadat wrthrychau.

Amgueddfa Bwrdeistref Sirol WrecsamMae Amgueddfa Cymru mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynllunio arddangosfa mewn gofod pwrpasol newydd yn yr Amgueddfa yn yr haf. Bydd yr arddangosfa’n adrodd hanes diwylliannol Cymru drwy ein casgliadau cenedlaethol. Y bwriad yw dathlu dyfodiad yr Eisteddfod Genedlaethol i Wrecsam yn ogystal â dathlu 150 mlynedd o’r digwyddiad mwyaf yng nghalendr cymdeithasol Cymru. Am ragor o fanylion, ewch i www.wrecsam.gov.uk. Ar agor ddydd Llun-Gwener 10am-5pm a dydd Sadwrn 10.30am-3pm. Ar gau ar wyliau’r banc a phob dydd Llun.

Stori CaerdyddAr agor i’r cyhoedd 1 Ebrill 2011 Wedi’i lleoli yn adeilad eiconig yr Hen Lyfrgell, sy’n adeilad rhestredig Gradd II o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae’r amgueddfa newydd hon yn gyflwyniad cyffrous a soffistigedig i hanes a threftadaeth gyfoethog y ddinas. Bydd yn adnodd cymunedol ac yn lleoliad ar gyfer dysgu gydol oes ar gyfer pobl o bob oedran ac o bob cefndir. Mae mynediad i’r Amgueddfa yn rhad ac am ddim. Ar agor Llun-Sadwrn 10am-5pm a dydd Sul 11am-4pm.

Dyfroedd glanach i Gymru22 Hydref-26 Tachwedd, 10am-5pmModel arbennig o fanwl gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru sydd wedi ennill gwobrau. Mae’n dangos sut mae’n hafonydd yn cael eu ffurfio a sut mae’r dwr ynddynt yn cael ei ddefnyddio. O’r mynyddoedd i’r môr, dilynwch daith gyfan afon a’r bobl, yr anifeiliaid a’r pysgod mae’n eu cynnal.

29 Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe Gweithio gydag Eraill 30amgueddfacymru.ac.uk

Page 17: Amgueddfa Cymru - Digwyddiadau Gorffennaf -Hydref 2011

31 Amgueddfa Cymru

Anrhegion Arbennig yn Amgueddfa CymruMae Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yn gartref i dros 200 o esiamplau o gwiltio a chlytwaith Cymreig. Mae’r casgliad eang ac amrywiol hwn yn cynrychioli bron i 300 mlynedd o greadigrwydd yn y cartref. O glytweithiau gorfoleddus i frethynnau cyfan wedi’u pwytho, mae gan bob cwilt ei hanes unigryw. I ddathlu’r casgliad hwn, rydym ni wedi creu ystod o fygiau, matiau diod a deunydd ysgrifennu sydd ar gael yn siopau’n Hamgueddfeydd neu ar-lein. Mae’r prisiau’n dechrau o £2.50.

Ewch i’r siop ar-lein i weld ein hystod lawn o anrhegion arbennig a ysbrydolwyd gan ein casgliadau. Mae mwy fyth o ddelweddau ar gael i’w hargraffu ar bapur neu gynfas ac mae’r dewis nawr yn cynnwys y delweddau diwydiannol a gwledig mwyaf poblogaidd o’n harchifau, hen fapiau o Gymru a’r dewis llawn o ddelweddau celf gain o Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae’r prisiau’n dechrau o £10.

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NP Ffôn: (029) 2039 7951 Ar Agor: Dydd Mawrth-Dydd Sul a’r mwyafrif o Wyliau Banc 10am-5pm.

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru Caerdydd, CF5 6XB Ffôn: (029) 2057 3500 Ar Agor: 10am-5pm bob dydd.

Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru Blaenafon, Torfaen, NP4 9XP Ffôn: (01495) 790311 Ar Agor: bob dydd 9.30am-5pm. Teithiau cyson danddaear 10am-3.30pm.

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru Stryd Fawr, Caerllion, Casnewydd, NP18 1AE Ffôn: (01633) 423134 Ar Agor: Llun-Sadwrn 10am-5pm; Sul 2pm-5pm.

Amgueddfa Lechi Cymru Gilfach Ddu, Parc Gwledig Padarn, Llanberis, Gwynedd, LL55 4TY Ffôn: (01286) 870630 Ar Agor: Pasg-diwedd Hydref 10am-5pm bob dydd. Dechrau Tachwedd-Pasg 10am-4pm Sul-Gwener

Amgueddfa Wlân Cymru Dre-fach Felindre, ger Castellnewydd Emlyn, Llandysul, Sir Gâr, SA44 5UP Ffôn: (01559) 370929 Ar Agor: Ebrill-Medi 10am-5pm, bob dydd. Hydref-Mawrth 10am-5pm, Mawrth–Sadwrn.

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Ffordd Ystumllwynarth, Ardal Forwrol, Abertawe, SA1 3RD Ffôn: (01792) 638950 Ar Agor: 10am-5pm bob dydd.

Cydnabyddiaeth

Mae Amgueddfa Cymru yn ddiolchgaram gefnogaeth y busnesau a’r sefydliadau isod:

— Abertawe: Dinas Noddfa— Amgueddfa Hanes Natur— Ancient Arts— Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru— Athrofa Confucius Caerdydd— Biffaward— Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru— Cronfa Dreftadaeth y Loteri— CwpanAur— Cyfeillion Amgueddfa Cymru— Cymdeithas Adeiladu’r Principality— Cymdeithas Gwestywyr Caerdydd— Cymdeithas Hanesyddol Abertawe— Cymdeithas Seryddol Caerdydd— Cyngor Celfyddydau Cymru— Dinas a Sir Abertawe— Dowle Horrigan— First Great Western— Grwp Partneriaeth Affrica— Holibods— IKEA— Legal & General— Llywodraeth Cynulliad Cymru— Menter Iaith— Noddwyr Amgueddfa Cymru— Oxfam— Partneriaeth Tirweddau Anghofiedig— Prifysgol Caerdydd— RSPB— Sefydliad Clore Duffield— Sefydliad Garfield Weston— Sefydliad Henry Moore— Sefydliad Wolfson— Setliad Elusennol G C Gibson— Twf— XL Cymru— Y Gronfa Gelf— Y Gymdeithas Frenhinol— Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth Siambr

Cavatina— Ymddiriedolaeth Derek Williams— Ymddiriedolaeth Elusennol Tregolwyn— Yr Amgueddfa Brydeinig

Mae’r manylion yn gywir wrth i’r llyfryn fynd i’r wasg. Edrychwch ar y wefan www.amgueddfacymru.ac.uk cyn gwneud trefniadau arbennig.